8
PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL Mehefin 2013 Yn y rhifyn hwn Cyflwyniad Croeso i’n newyddlen ar gyfer Mehefin. Gwerthusiad: y stori hyd yn hyn Andrea Meek a Stephen Beyer o Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru yn rhoi trosolwg o werthusiad y prosiect. Technoleg Seiliedig ar Ystum Cydlynydd TGCh Trinity Fields Anthony Rhys yn egluro sut mae technoleg yn gwella profiadau ysgol i ddisgyblion â PMLD ac SLD. O Gyfranogwr i Fentor Cymheiriaid Yn raddol, mae mwy o bobl ifanc Cyfleoedd Gwirioneddol yn datblygu’r hyder i fod yn fentoriaid cymheiriaid. Dyma stori Fazer Richards. Effaith Cyfleoedd Gwirioneddol o fewn Awdurdodau Lleol Sue Painter a Claire Bullock o Sir Benfro yn rhoi eu barn ar effaith y prosiect yn eu Hawdurdod Lleol. Croeso i rifyn Mehefin newyddlen prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Y mis hwn rydym yn cynnal ein cynhadledd dosbarthu gwybodaeth ‘Cyfleoedd Gwirioneddol, Canlyniadau Gwirioneddol’ yng Ngwesty’r Marriott, Abertawe. Mae’r gynhadledd yn cael ei chadeirio gan bobl ifanc o’r prosiect; byddwn hefyd yn cael pobl ifanc i helpu gyda dyletswyddau gweinyddol, fel hwyluswyr byrddau yn cychwyn trafodaethau, cynorthwyo gyda chyflwyno gweithdai a rhoi cyflwyniadau, felly dylai fod yn ddiwrnod rhyngweithiol a llawn gwybodaeth. Bydd cynadleddwyr hefyd yn clywed gan Dr Steve Beyer o Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru, fydd yn trafod rhai o ganlyniadau’r prosiect ac Andrea Wayman, Trysorydd Cymdeithas Asiantaethau Cyflogaeth â Chyflogaeth, Emma Williams, Pennaeth Adran Cefnogi Dysgwyr Llywodraeth Cymru a Sandra Aspinall, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Caerffili. Bydd gwybodaeth a chyflwyniadau o’r diwrnod yn cael eu llwytho i’n gwefan www. realopportunities.org.uk Rydym hefyd wedi cael ychydig o newyddion da gan WEFO yn ddiweddar, sydd wedi cytuno i gynnig estyniad i gyllid y prosiect i mewn i’r flwyddyn nesaf. Mae tîm canolog Cyfleoedd Gwirioneddol, ynghyd â WEFO yn gweithio ar yr estyniad hwn ar hyn o bryd a bydd mwy o wybodaeth gyda ni cyn hir, felly gwyliwch y gofod hwn! Mae ein hystadegau mwyaf diweddar yn dangos bod 790 o bobl ifanc ar draws y prosiect wedi profi lleoliad profiad gwaith â chefnogaeth gyda Chyfleoedd Gwirioneddol ac o ganlyniad, mae 31 mewn cyflogaeth â thâl, gyda llawer mwy yn ennill cymwysterau lluosog mewn ystod o bynciau. Gyda’r cyllid yn parhau y gobaith yw y bydd Cyfleoedd Gwirioneddol yn gallu parhau i adeiladu ar y ffigurau hyn a chefnogi mwy o bobl ifanc trwy’r trawsnewid i ddyfodol annibynnol. Laura Griffiths Swyddog Gwybodaeth y Prosiect

June newsletter welsh 2013

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Yn y rhifyn hwn: Gwerthusiad: y stori hyd yn hyn, Technoleg Seiliedig ar Ystum, O Gyfranogwr i Fentor Cymheiriaid, Effaith Cyfleoedd Gwirioneddol o fewn Awdurdodau Lleol

Citation preview

Page 1: June newsletter welsh 2013

PROSIECT TRAWSNEWID I GYFLOGAETH AAA RHANBARTHOL

Mehefin 2013Yn y rhifyn hwnCyflwyniadCroeso i’n newyddlen ar gyfer Mehefin.

Gwerthusiad: y stori hyd yn hynAndrea Meek a Stephen Beyer o Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru yn rhoi trosolwg o werthusiad y prosiect.

Technoleg Seiliedig ar YstumCydlynydd TGCh Trinity Fields Anthony Rhys yn egluro sut mae technoleg yn gwella profiadau ysgol i ddisgyblion â PMLD ac SLD.

O Gyfranogwr i Fentor CymheiriaidYn raddol, mae mwy o bobl ifanc Cyfleoedd Gwirioneddol yn datblygu’r hyder i fod yn fentoriaid cymheiriaid. Dyma stori Fazer Richards.

Effaith Cyfleoedd Gwirioneddol o fewn Awdurdodau LleolSue Painter a Claire Bullock o Sir Benfro yn rhoi eu barn ar effaith y prosiect yn eu Hawdurdod Lleol.

Croeso i rifyn Mehefin newyddlen prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Y mis hwn rydym yn cynnal ein cynhadledd dosbarthu gwybodaeth ‘Cyfleoedd Gwirioneddol, Canlyniadau Gwirioneddol’ yng Ngwesty’r Marriott, Abertawe. Mae’r gynhadledd yn cael ei chadeirio gan bobl ifanc o’r prosiect; byddwn hefyd yn cael pobl ifanc i helpu gyda dyletswyddau gweinyddol, fel hwyluswyr byrddau yn cychwyn trafodaethau, cynorthwyo gyda chyflwyno gweithdai a rhoi cyflwyniadau, felly dylai fod yn ddiwrnod rhyngweithiol a llawn gwybodaeth.Bydd cynadleddwyr hefyd yn clywed gan Dr Steve Beyer o Ganolfan Anableddau Dysgu Cymru, fydd yn trafod rhai o ganlyniadau’r prosiect ac Andrea Wayman, Trysorydd Cymdeithas Asiantaethau Cyflogaeth â Chyflogaeth, Emma Williams, Pennaeth Adran Cefnogi Dysgwyr Llywodraeth Cymru a Sandra Aspinall, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Caerffili. Bydd gwybodaeth a chyflwyniadau o’r diwrnod yn cael eu llwytho i’n gwefan www.realopportunities.org.uk Rydym hefyd wedi cael ychydig o newyddion da gan WEFO yn ddiweddar, sydd wedi cytuno i gynnig estyniad i gyllid y prosiect i mewn i’r flwyddyn nesaf. Mae tîm canolog Cyfleoedd Gwirioneddol, ynghyd â WEFO yn gweithio ar yr estyniad hwn ar hyn o bryd a bydd mwy o wybodaeth gyda ni cyn hir, felly gwyliwch y gofod hwn! Mae ein hystadegau mwyaf diweddar yn dangos bod 790 o bobl ifanc ar draws y prosiect wedi profi lleoliad profiad gwaith â chefnogaeth gyda Chyfleoedd Gwirioneddol ac o ganlyniad, mae 31 mewn cyflogaeth â thâl, gyda llawer mwy yn ennill cymwysterau lluosog mewn ystod o bynciau. Gyda’r cyllid yn parhau y gobaith yw y bydd Cyfleoedd Gwirioneddol yn gallu parhau i adeiladu ar y ffigurau hyn a chefnogi mwy o bobl ifanc trwy’r trawsnewid i ddyfodol annibynnol.

Laura GriffithsSwyddog Gwybodaeth y Prosiect

Page 2: June newsletter welsh 2013

Yma yng Nghanolfan Anableddau Dysgu Cymru, Prifysgol Caerdydd, rydym wedi bod yn gyfrifol am ymchwilio canlyniadau’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Mae nifer o astudiaethau ac adroddiadau blaenorol wedi cadarnhau nad yw’r system drawsnewid yn cynnig cefnogaeth ddigonol i bobl ag anghenion arbennig a hyd yn hyn ni chafwyd unrhyw astudiaethau ar ymagwedd mor hollgynhwysol i gyflwyno trawsnewid yn y DU.

2

Trwy ein hymchwil rydym yn gobeithio darganfod yr hyn y gellir ei gyflawni trwy ymagwedd gynhwysfawr, a chanddi ddigonedd o staff, tuag at gefnogi trawsnewid. Yn ystod y prosiect rydym wedi bod yn casglu data ar bobl ifanc, teuluoedd a staff sy’n ymwneud â Chyfleoedd Gwirioneddol. Rydym wedi bod yn ymgymryd â chyfres o astudiaethau yn ymchwilio i a yw elfennau allweddol y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn cyflwyno’r canlyniadau disgwyliedig.

Yr Astudiaeth Cyflogaeth â Chefnogaeth Effeithiau disgwyliedig Cyflogaeth â Chefnogaeth oedd y byddai’r prosiect yn canfod ac yn cefnogi pobl mewn lleoliadau profiad gwaith ac y byddai gwybodaeth o’r rhain yn helpu teuluoedd i weld cyflogaeth fel opsiwn realistig. Roedd cymorth hefyd gyda chynllunio ar gyfer opsiynau yn dilyn yr ysgol, ynghyd â chyfleoedd am swyddi, rhai ohonynt gyda Chefnogaeth Cymheiriaid. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda 24 o bobl ifanc a 25 o deuluoedd am brofiad gwaith a chanlyniadau, yn ogystal â chynnal grwpiau ffocws gyda staff cyflogaeth a chasglu data gan gyflogwyr.

Roedd yr ymateb gan y bobl ifanc yn bositif iawn yn gyffredinol. Roedd 23 o’r 24 person ifanc wedi mynychu un lleoliad profiad gwaith o leiaf gydag ystod eang o swyddi wedi’u cwmpasu:

Roedd adborth gan y bobl ifanc yn cynnwys: “Fe wnes i fwynhau, dangosodd i mi pa fath o swydd y byddwn yn ei hoffi, fel gwneud pethau gyda fy nwylo”“Teimlo fy mod yn cael fy nhrin fel oedolyn. Roedd yn

amgylchedd gwahanol iawn i’r ysgol, yn gyfle i wneud rhywbeth yr oeddwn wedi bod am yn ei wneud ers tipyn, gweld beth mae pobl yn ei wneud o ran gwaith, bod o gwmpas oedolion.”“Roedd yn dda siarad â’r oedolion, am sut yr oeddwn yn hoffi profiad gwaith, a chael y cymwysterau cywir ar gyfer gwaith.”

Dywedodd 19 o’r 24 person ifanc gafodd gyfweliad eu bod am i’w cam nesaf fod yn mynd i’r coleg neu gael gwaith â thâl. Pan ofynnwyd iddynt am y dyfodol, dywedodd 23 o ymatebwyr eu bod yn teimlo bod swydd â thâl bellach yn opsiwn iddynt.

Roedd staff oedd yn cymryd rhan yn y grwpiau ffocws yn glir am y manteision i bobl ifanc o safbwynt cynnydd mewn hyder, annibyniaeth, sgiliau teithio a newidiadau mewn ymddygiad. Dechreuodd y canlyniadau gyda chyrsiau paratoi ar gyfer gwaith a gynigir gan yr asiantaethau cefnogi cyflogaeth:“Rydych yn gweld hyd yn oed yn ystod pythefnos y cwrs ymwybyddiaeth gwaith bod eu hyder yn tyfu. Felly hyd yn oed cyn iddynt fynd allan ar brofiad gwaith, mae’n rhan werthfawr iawn o’r broses.” “Yn aml nid yw’r cyfranogwyr yn meddwl am waith cyn i ni ddechrau gweithio gyda hwy - maent yn meddwl am eu hopsiynau ar ôl hynny ac erbyn diwedd y lleoliad rydych yn cael eithaf tipyn o sgwrsio parod - rydw i am wneud hyn, rydw i am wneud y llall ac mae’n dod yn ddisgwyliad realistig hefyd.”“Rydym wedi gweld rhai gwahaniaethau mawr yr wythnos hon ac mae hynny’n berthnasol i amgylchedd y cartref hefyd, rydym yn cael llawer o adborth gan rieni sy’n dweud bod sgiliau a brwdfrydedd yn mynd i mewn i dasgau fel golchi llestri a helpu o gwmpas y tŷ, felly nid yw wedi’i gyfyngu i’r agwedd waith yn unig.”Dysgwyd gennym hefyd bod teuluoedd yn gweld bod eu barn hwy ar gyflogaeth yn newid. O’r teuluoedd gafodd gyfweliad adroddodd 22 o’r 25 bod lleoliadau profiad gwaith wedi helpu eu mab neu’u merch ddysgu am waith ac roedd mwy na hanner yr ymatebwyr yn teimlo hefyd bod Cyfleoedd Gwirioneddol wedi gwella’r cyfleoedd i gael gwaith yn y dyfodol. Adroddodd teuluoedd fanteision o ran gwell ymddygiad gan bobl ifanc o ganlyniad i leoliadau gwaith neu swyddi:“Erbyn diwedd y chwe wythnos roedd yn gwneud

Gwerthusiad: AndreA Meek A Stephen Beyer

Cynorthwyydd YsgolFferm

Lloches anifeiliaid anwesSwyddfa

Siop elusenFfatri

Siop trin gwalltAddurno

Glanhau ceirAnifeiliaid anwes

GwestyTafarn

Siop/ArchfarchnadMeithrinfa

CaffiDosbarthu

Cwmni teiars

Y stori hYd Yn hYn

Page 3: June newsletter welsh 2013

3

yn arbennig o dda; roedd yn cyfathrebu gyda’r staff; roedd yn cyfathrebu gyda’r cwsmeriaid; roedd yn ymddwyn yn dda. Gartref roedd ei ymddygiad wedi gwella ac roedd wedi dechrau siarad gyda’i dad, dim ond ychydig, ond roedd wedi dechrau cyfathrebu gyda’i dad.”

Barn y StaffGofynnom i’r staff ddweud wrthym beth sydd wedi helpu hyd yn hyn o fewn y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol. Roedd ymatebion cyffredin yn cynnwys:

Hyfforddiant OCN i deuluoedd• Tîm llawn cymhelliant • Addysg gan fabwysiadu Cynllunio Seiliedig ar y • PersonCefnogaeth i deuluoedd gartref i bontio’r • trawsnewid i opsiynau ôl-16 Mae’r ffaith fod asiantaethau yn cydweithio er • mwyn cael ymagwedd fwy holistaidd yn helpu i sicrhau bod anghenion yn cael eu cwrddCynnydd yn nifer y cyflogwyr cefnogol• Mae cefnogaeth gan gyflogaeth â chefnogaeth yn • chwalu rhwystrau wrth gynnig cefnogaeth 1 i 1. Codi hyder wrth roi cynnig ar brofiadau/lleoliadau newydd.

Nodwyd hyfforddiant Cynllunio Seiliedig ar y Person (PCP) cyson ar draws grwpiau staff hefyd yn factor o ran ymyrraeth lwyddiannus, gyda PCP yn cael ei weld fel conglfaen y trawsnewid ymatebol. Gofynnom i staff a yw PCPau Cyfleoedd Gwirioneddol yn arwain at wahanol nodau yn cael eu gosod nag y gwelir yn y prosesau cynllunio trawsnewid statudol. Yn gyffredinol, dywedasant fod hynny’n wir.

Yn gyffredinol, mae 77% o’r Nodau a osodir mewn cyfarfodydd PCP yn cael eu cyflawni gan y Tîm Cyfleoedd Gwirioneddol.“Rhoddir llais i bobl ifanc o ran eu dyfodol a’r hyn sy’n bwysig iddynt hwy yn hytrach na bod gweithwyr proffesiynol yn gwneud penderfyniadau am yr hyn sy’n bwysig iddynt hwy yn unig”“Rydym yn gallu edrych ary bobl ifanc fel unigolion a gweithio gyda hwy mewn ffordd gliriach, sy’n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau”“Cael yr opsiynau i edrych ar lwybrau amgen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol a chynhwysiad cymdeithasol”

Gweithio Allweddol TrawsnewidMae ymchwil yn awgrymu bod rhoi gwybodaeth i deuluoedd a phobl ifanc a’u cefnogi yn ganolog i

drawsnewid llwyddiannus. Gwnaethon gyfweld ag 17 o bobl ifanc a 18 o aelodau teuluoedd a chael bod eu hymatebion yn adlewyrchu hyn yn gryf. Yn ein hastudiaeth, adroddodd y rhan fwyaf o bobl bod eu gweithiwr allweddol trawsnewid wedi helpu i gynnwys yr asiantaethau cywir, wedi gwella cyfathrebu rhwng asiantaethau a gwella cynllunio lleoliadau ac adnoddau ar gyfer pan fydd y person ifanc yn gadael. Mae gweithiwyr allweddol trawsnewid hefyd wedi:

Adborth am weithwyr allweddol trawsnewid:“Mae’n wych, mae’n ein helpu gydag unrhyw beth. Mae wedi ein cefnogi’n llwyr. Mae’n ffonio’n rheolaidd i weld a oes angen unrhyw beth arnom. Yn ddiweddar mae wedi cael gweithiwr cymdeithasol i ni, a oedd yn rhyddhad mawr i ni - roedd yn parhau i ddadlau ein hachos drosom.”“Nhw oedd y person cyntaf i mi gwrdd â hwy, roedd yn ei wneud yn haws, cael llawer o waith gan y tîm trawsnewid, cyrsiau bwlio a chyfeillgarwch yn cael eu rhedeg yn yr ysgol.”“Roedd yn beth da i’w gael yno, eglurodd i fy mam a thad beth fyddai’n digwydd yn y dyfodol.”

CrynodebErs dechrau’r prosiect rydym wedi siarad â dros 350 o bobl ifanc, teuluoedd ac aelodau staff ac rydym wedi casglu 250 darn o ddata ychwanegol gan y Timau Both a’r Asiantaethau Cefnogi Cyflogaeth sy’n rhan o’r prosiect. Rydym ar hyn o bryd yn cynnal adolygiadau gyda’r bobl ifanc a’r teuluoedd a adawodd yr ysgol y flwyddyn diwethaf yn ogystal â siarad â phobl ifanc sydd wedi’u hyfforddi fel mentoriaid cymheiriaid fel rhan o’r prosiect, ac rydym hefyd yn parhau i ddadansoddi’r data yr ydym wedi’i dderbyn gan yr Asiantaethau Cefnogi Cyflogaeth. Yn gyffredinol mae’r ymateb wedi bod yna ardderchog ac rydym wedi ennill gwell dealltwriaeth o sut y gallai ffordd Cyfleoedd Gwirioneddol o weithio gyfrannu at wella canlyniadau i bobl ifanc fydd yn mynd trwy’r broses drawsnewid yn y dyfodol.

Hoffem ddiolch i’r holl bobl sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil ac sydd wedi rhoi’r wybodaeth a’r data i ni yn ystod y prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol, rydym yn ddiolchgar iawn i chi i gyd

“Mae’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol wedi rhoi rhagolygon gwell ar gyfer y dyfodol i bobl ifanc ag anghenion arbennig gan roi gobaith a chyfleoedd iddynt.” – Person Ifanc 2013

Cytuno’n gryf

Cytuno

Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

DK

Helpu pobl ifanc i osod nodau clir -

Lleihau straen meddyliol neu gorfforol -

Helpu lleihau ansicrwydd am eu dyfodol -

Pobl Ifanc yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael -

Pobl Ifanc yn gliriach am eu hopsiynau -

Page 4: June newsletter welsh 2013

4

Pam Technoleg Seiliedig ar Ystum?Gesture based technology has been used in schools Mae technoleg seiliedig ar ystum wedi cael ei defnyddio mewn ysgolion ers peth amser, trwy sgriniau cyffwrdd a Soundbeam er enghraifft, ac mae’n dod yn rhan gynyddol o’n bywyd bob dydd yn y cartref trwy’r defnydd o ffonau clyfar, tabledi a dyfeisiadau gemau fel y Wii a Kinect. Yr egwyddor sylfaenol y tu ôl iddi yw ei bod yn defnyddio ystum fel y prif ddull mewnbwn, yn hytrach na llygoden na bysellfwrdd. Gall yr ystum hwn fod yn gyffyrddiad (llusgo, pinsio, gwasgu sgrin) ystum corfforol (symud dwylo, breichiau, bysedd, pen neu lygaid hyd yn oed) neu iaith lafar a sain. Caiff ei galw hefyd yn Rhyngwynebau Defnyddiwr Naturiol a’r theori y tu ôl iddi yw gwneud y rhyngweithio gyda chyfrifiadur neu ddyfais yn fwy greddfol i’r defnyddiwr. Ychydig neu ddim cyffwrdd sydd ei angen ac mae’r mynediad yn rhyngweithio uniongyrchol rhwng yr hunan a’r ddyfais, heb unrhyw beth arall rhyngddynt.

Dylai atyniad hyn fod yn amlwg i’r rhai sy’n gweithio gyda disgyblion ag anghenion arbennig gan mai symud, cyffwrdd neu wneud sŵn yw’r unig beth sydd ei angen er mwyn cael effaith uniongyrchol ar eu hamgylchedd. Trwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar gall y mewnbwn ystumiol hwn fod yn unrhyw beth o symud bys i waedd neu gicio coesau. Rydym i gyd yn ymwybodol fod yr holl ddisgyblion yr ydym yn eu haddysgu yn wahanol; mae ganddynt eu galluoedd corfforol unigol eu hunain, eu diddordebau eu hunain a’u galluoedd gwybyddol eu hunain. Trwy ddefnyddio technolegau seiliedig ar ystum gallwn harneisio’r galluoedd hyn i roi i ddisgybl yr hyn yr ydym oll am iddynt ei gael - annibyniaeth a chymaint â phosib o reolaeth dros eu hamgylchedd a’u bywydau â phosib.

Yn dilyn ein harolygiad ym mis Tachwedd 2012 rhoddwyd Arfer sy’n Arwain y Sector gan Estyn i Ysgol Trinity Fields am ein defnydd o dechnoleg seiliedig ar ystum yn yr ysgol i gefnogi dysgu disgyblion â SLD a PMLD. Mae’r arfer hwn wedi cynnwys amrywiaeth o ddefnyddio technolegau presennol y gellir eu prynu oddi ar y silff a pheth dyfeisgarwch creadigol, gyda’r

cyfan yn canolbwyntio ar y disgyblion unigol a’u hanghenion. Ar yr un pryd â’n harolygiad cynhaliwyd ein cyfarfod Cymuned Ddysgu Broffesiynol (PLC) ar dechnoleg seiliedig ar ystum. Grwpiau a arweinir gan athrawon yw PLCau sy’n cwrdd ac yn ymchwilio pwnc penodol. Mae’r PLC yn gyfuniad o 11 ysgol arbennig yn y DU ac Iwerddon, ymgynghorwyr AAA annibynnol fel Richard Hirstwood a Flo Longhorn a’r dylunydd rhyngweithiol Dr Wendy Keay-Bright. Ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i sut gall y Kinect gael ei ddefnyddio i ymgysylltu disgyblion ag SLD.

Ein bwriad yn Trinity Fields yw gwneud defnyddio eang ar draws yr ysgol o’r technolegau ystumiol newydd hyn. Dechreuasom gyda’n gwybodaeth am y disgyblion ac yna edrych ar sut gallai pob technoleg gwrdd â’u hanghenion a gwella eu bywydau. Nid yw’r technolegau yn cael eu hystyried yn ddatrysiad gwyrthiol ac nid ydynt yn cael eu defnyddio er mwyn eu defnyddio yn unig. Maent yn oll yn gwella’r ymagweddau technolegol a’r rhai nad ydynt yn dechnolegol sydd gennym er mwyn ymgysylltu disgyblion a chynyddu eu hannibyniaeth. Mae pob technoleg yn cyflawni angen a nodwyd penodol i bob disgybl.

iPadsPrynasom 5 iPad cyn haf 2011 a dechrau PLC gyda’r ysgolion arbennig eraill yn ne Cymru. Trafodwyd sut gellir defnyddio iPads yn ein lleoliadau a pha appiau oedd yn briodol. Nodwyd disgyblion unigol yn yr ysgol a allai elwa o’u defnyddio a lluniwyd 14 astudiaeth achos gan athrawon, yr arbenigwr cerdd a’r timau cefnogi cyfathrebu a synhwyraidd. Roedd yr astudiaethau achos yn bennaf yn ymwneud â disgyblion ‘anodd eu cyrraedd’ oedd â phroblemau ymddygiad neu gorfforol ag ymgysylltu. Roedd cyfnod dwys hefyd o dreialu’r appiau a defnyddio’r iPads mewn sawl ffordd greadigol, yn arwain at restr appiau wedi’i rhannu yn feysydd oedd yn berthnasol i ddisgyblion â SLD a PMLD.

Ers hynny rydym wedi prynu 20 iPad arall ac felly mae gan bob dosbarth ac arbenigwr un ohonynt bellach. Os cânt eu defnyddio’n greadigol ac yn bwrpasol gallant fod yn offeryn pwerus iawn. Mae

technoleG seiliediG ar Ystum

gAn Anthony rhyS, Cydlynydd tgCh ySgol A ChAnolfAn AdnoddAu trinity fieldS

Lleolir Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields yn Ystrad Mynach, y tu allan i Gaerffili yn Ne Cymru. Mae gennym 126 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 3-19 oed ac rydym yn gwasanaethu Bwrdeistref Sirol

Caerffili. Yn bennaf mae gan ein disgyblion anawsterau dysgu difrifol (SLD) ac anawsterau dysgu parhaol a lluosog (PMLD). Fi yw cydlynydd TGCh yr ysgol ac yn ystod hydref 2011 cynhaliais adolygiad o’r ddarpari-aeth TGCh a’r mynediad iddo, ar draws poblogaeth yr ysgol. Y mater cyntaf i ymddangos oedd y mynediad cyfyngedig i’r cwricwlwm i’n disgyblion PMLD a SLD mwy difrifol. Dechreuais adolygu’r technolegau newydd oedd ar gael a gweld pa rai allai gwrdd â’n hanghenion. Daeth hyn â mi at dechnoleg seiliedig ar ystum

Page 5: June newsletter welsh 2013

5

manteision yr iPad yn cynnwys pa mor hawdd ydyw i’w symud gan y gellir mynd ag ef a’i ddefnyddio i unrhyw safle neu le yn ôl anghenion y disgybl. Ynghyd â hyn mae ei sgrin cyffwrdd ymatebol, ei ryngwyneb hawdd ei ddefnyddio a’i gamera lluniau a fideo. Gellir gogwyddo’r iPad hefyd i greu effeithiau, gall ddefnyddio iaith lafar neu synnau i ryngweithio a gall hefyd newid cyffyrddiad neu sain yn ymateb gweledol neu sain.

Astudiaeth AchosRoedd un o’r astudiaethau achos o berson ifanc 15 oed â syndrom Angelman yn gweithio ar lefel P4. Roedd ei ddiddordebau yn gyfyngedig er ei fod yn hoffi gwylio pobl, edrych i mewn i ddrychau a rhai teganau swnllyd. Defnyddion ni ddrych fel ffordd i mewn a chyflwyno’r iPad i ddechrau fel rhywbeth yn lle’r drych – gyda’r camera wedi’i droi ymlaen ac yn wynebu’r disgybl. Byddai’r disgybl yn rhoi’r ‘drych’ i fyny at ochr ei wyneb i edrych arno a chyn hir gosodon ni appiau swnllyd a gweledol ar y sgrin fel tân gwyllt a Gravitarium er mwyn i’r disgybl ddechrau sylweddol ei fod yn creu effeithiau wrth iddo gyffwrdd â’i wyneb.

Yn raddol cyflwynon ni amrywiaeth ehangach o appiau achos ac effaith cyffwrdd a hefyd ap seiliedig ar ystum o’r enw Airvox sy’n defnyddio camera’r iPad’ i dracio’r pellter rhwng y defnyddiwr a’r iPad - felly mae unrhyw symudiad yn newid traw a thôn nodyn (ychydig fel Soundbeam bach). Gyda hyn dechreuodd y disgybl symud yr iPad ymhellach i ffwrdd oddi wrth ei ben i newid y nodau, a dechreuodd ddefnyddio’r iPad ar ei gôl gan ei ddal ag un llaw a rhyngweithio â’r sgrin cyffwrdd gyda’r llall. Digwyddodd y datblygiad hwn dros gyfnod o wyth mis ac ychwanegodd ddiddordeb arall i’r disgybl, a ffordd wahanol iddo ryngweithio â gwrthrychau.

Taflunydd Llawr RhyngweithiolCyflwynwyd y dechnoleg hon at ddau ddiben penodol iawn. Mae’n caniatáu i’n disgyblion â symudedd corfforol isel iawn ryngweithio’n ystyrlon ac yn annibynnol gyda’u hamgylchedd uniongyrchol ac mae hefyd yn rhoi cymhelliant i’r disgyblion sy’n ‘symud yn araf’ i fod yn fwy actif. Prif ddefnyddwyr hwn yw’r rheiny ag anableddau corfforol difrifol fel parlys yr ymennydd. Mae’r system yn defnyddio camerâu symud isgoch a thaflunydd i greu ardal ryngweithiol ar y llawr.

Astudiaeth AchosUn o’n defnyddwyr taflunydd llawr mwyaf ymatebol yw disgybl 6 oed sy’n gweithio ar lefel P3i â pharlys yr ymennydd difrifol. Mae ganddo symudedd cyfyngedig yn ei freichiau a’i goesau ac ni all sefyll neu eistedd heb gymorth ond pan mae allan o’i gadair gall rolio o gwmpas ar y llawr. Mae wrth ei fodd â’r taflunydd llawr ac mae’n ei gymell i symud

ei freichiau, ei goesau a’i ben oherwydd pan fydd yn gwneud hynny mae sêr, goleuadau a blodau yn ymddangos ar ôl pob symudiad. Yn y modd hwn gall fyrstio balŵns, gwasgu pryfed, taflu hufen ia a symud graffeg. Pan mae ar y taflunydd llawr mae ei lefelau gweithgarwch yn cynyddu’n sylweddol gan fod ganddo reswm cymhellgar dros symud - pan mae’n gwneud, mae pethau gwych yn digwydd o’i gwmpas. Y peth pwysicaf hefyd yw ei fod yn gwneud hyn ar ei

ben ei hun heb unrhyw ymyrraeth na help gan staff. Mae hefyd yn defnyddio’r system eyegaze ac mae wrth ei fodd â’r iPads hefyd!

KinectMae synhwyrydd Kinect, oedd yn wreiddiol ar gyfer consol gemau Xbox, yn defnyddio camera arferol a chamera isgoch sy’n synhwyro dyfnder i dracio ardal tri dimensiwn fawr o’i flaen. Gall adnabod pobl a symud yn yr ardal hon ac mae’n bwydo’r wybodaeth yn ôl i’r consol. Profodd ein hysgol Somantics, rhaglen Kinect am ddim a ddatblygwyd gan Dr Wendy Keay-Bright ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’ n defnyddio synhwyrydd symud Kinect, cyfrifiadur a sgrin a daflunir i alluogi disgyblion i ryngweithio drwy symud yn unig. Mae’r gweithgareddau, a ddyluniwyd gyda disgyblion awtistig mewn cof, yn benagored ac fe’u hanelir at annog rhyngweithio annibynnol. Mae deng rhan wahanol i’r rhaglen felly gall chwifio braich er enghraifft gynhyrchu pefr neu newidiadau lliw ar y sgrin.

Defnyddir y Kinect yn bennaf gan ein disgyblion ag awtistiaeth ddifrifol. Mae’r disgyblion yma fel arfer yn anodd ymgysylltu â hwy, mae ganddynt faterion prosesu synhwyraidd lluosog ac ymwybyddiaeth isel o’u hunain a sut y gallant ddylanwadu ar y byd y tu allan. Gyda’r Kinect mae’r agwedd effaith ac achos yn digwydd ar unwaith gan y bydd unrhyw symudiad yn achosi adwaith ar y sgrin ac mae’r adweithiau hyn yn gwahodd archwilio pellach. Mae’r holl raglenni Kinect yr ydym yn eu defnyddio yn rhai nad ydynt

Disgybl yn Trinity Fields gyda’r Taflunydd Llawr Rhyngweithiol

Page 6: June newsletter welsh 2013

6

wedi’u harwain gan dasgau ac nid ydynt yn cynnwys methiant ac mae hyn yn bwysig iawn gan nad ydym yn dysgu sgiliau penodol ond yn annog chwarae, creadigrwydd a rhyngweithio, diffygion sydd wrth wraidd awtistiaeth. Maent yn gweithio’n dda gyda’r holl ddisgyblion sy’n gallu symud a chanddynt olwg da.

Un o elfennau pwysicaf ein gwaith gyda’r Kinect fu meddwl mewn ffordd wahanol. Dim ond dwy o’r rhaglenni Kinect yr ydym yn eu defnyddio sydd wedi’u bwriadu ar gyfer disgyblion anghenion arbennig. Mae’r rhaglenni eraill wedi dod o raglenwyr a chodwyr cyfrifiaduron creadigol sydd wedi’u defnyddio’n bennaf fel gosodiadau celf rhyngweithiol neu fel enghreifftiau o botensial Kinect. Roedd y dechneg yn syml - anfonwyd e-bost at y rhai luniodd y rhaglenni hyn, dweud wrthynt am yr hyn yr oeddem am ei wneud a gofyn i gael defnyddio eu rhaglenni. Roedd y mwyafrif helaeth yn gefnogol iawn ac roedd diddordeb ganddynt mewn gweld eu gwaith yn cael ei ddefnyddio gyda disgyblion anghenion arbennig a nawr rydym yn defnyddio tua 8 rhaglen Kinect wahanol o ar draws y byd gyda’n disgyblion.

EyegazeMae’r dechnoleg hon yn dod yn fwy a mwy amlwg mewn ysgolion. Mae wedi’i defnyddio fel dyfais AAC ers nifer o flynyddoedd ond yn ein hysgol rydym yn ei defnyddio fel offeryn ymgysylltu penagored. Mae’r ddyfais eyegaze yn eistedd o dan sgrin y cyfrifiadur ac yn tracio’r disgyblion ac yn galluogi’r defnyddiwr i reoli’r llygoden wrth symud eu llygaid. Trwy ei defnyddio gall disgyblion greu effeithiau synhwyraidd hyfryd, neu ddewis o blith opsiynau trwy edrych ar sgrin. Mae’n dod yn ffenest ar feddyliau llawer o’n disgyblion a gan mai’r unig symudiad corfforol sydd ei angen yw’r llygaid rydym yn ei dreialu gyda charfan fawr o’n disgyblion PMLD. .

Astudiaeth AchosUn o’n defnyddwyr eyegaze diweddar yw disgybl 7 oed sy’n gweithio ar lefel P2 gyda Lissencephaly sy’n cael ei fwydo trwy bibell a chanddo symudiad dan reolaeth o un bawd yn unig. Pan yn defnyddio’r eyegaze mae’n canolbwyntio ar y sgrin ac yn mwynhau’r rhaglenni rhyngweithio synhwyraidd sy’n creu sain a graffeg wrth iddo edrych o gwmpas y sgrin. Symudodd ymlaen yn gyflym iawn trwy’r gwahanol gamau asesu. Gall dracio targedau penodol ar draws y sgrin yn dda iawn a gall ddefnyddio’r swyddogaeth ‘dwell’, pan fydd y defnyddiwr yn edrych ar un lle am amser byr i ddynwared clic llygoden. Ar ôl rhai sesiynau byr roedd yn defnyddio cynnwys rhyngweithiol fel y rhaglenni newid a golygfeydd anifeiliaid. Y cam nesaf gydag ef yw cyflwyno gweithgareddau dewis cynnar yn defnyddio eiconau. Digwyddodd yr holl ddatblygiadau hyn o fewn tair sesiwn 20 munud ac mae’n dangos cynnydd arbennig mewn cyfnod byr o

amser. Mae’n amlwg tan i ni roi cynnig ar dechnoleg fel hon nid ydym bob amser yn gwerthfawrogi galluoedd gwybyddol ein disgyblion ag anableddau corfforol difrifol.

CasgliadMae ein defnydd o dechnoleg seiliedig ar ystum yn datblygu o hyd. Y mwyaf yr ydym yn ei defnyddio y mwyaf yr ydym yn ei ddysgu am sut mae’r disgyblion yn rhyngweithio â hi a sut y gallant ei defnyddio. Mewn llawer o ffyrdd does dim cynsail ar gyfer technoleg seiliedig ar ystum, nid oes gwerslyfr ar gyfer ei defnyddio felly mae angen rhoi cynnig arni, gweld beth sy’n digwydd ac adeiladu ar y pethau positif. Y thema gyffredin gyda’r holl dechnoleg hon yw ei bod yn galluogi disgyblion i wneud pethau na fyddent wedi gallu’u gwneud hebddi. Yr elfen hollbwysig yw eu bod yn gwneud y pethau hyn drostyn nhw’u hunain.

Yr hyn yr ydym yn gobeithio ei gyflawni fel ysgol ac fel rhan o’r PLC yw i ymchwilio’r defnydd o’r dechnoleg hon yn ein lleoliad er mwyn bwydo gwybodaeth i ddatblygu pellach. Rydym yn llawn cyffro am ddefnyddio’r ddyfais Leap Motion (math o Kinect tracio llaw bach) fel dyfais mewnbwn i rai o’n disgyblion ac rydym hefyd yn edrych ymlaen at weld mwy o raglenni Kinect yn cael eu rhyddhau cyn hir. Er mwyn rhannu ein holl brofiad a gwybodaeth gyfunol mae’r PLC Technoleg Seiliedig ar Ystum yn rhedeg tair gwefan ar ddefnyddio Kinect, iPads a Eyegaze gyda disgyblion SLD a PMLD, mae’r dolenni isod:http://kinectsen.wikispaces.com/http://ipad-sen-plcsouthwales.wikispaces.com/http://eyegazesen.wikispaces.com/

Gellir lawrlwytho’r rhaglen Somantics am ddim yn www.somantics.org

Disgybl yn Trinity Fields gydag Eyegaze

Page 7: June newsletter welsh 2013

7

O fis Chwefror eleni mae ystadegau swyddogol y prosiect yn dangos bod timau both Cyfleoedd Gwirioneddol wedi hyfforddi 29 o gyfranogwyr fel mentoriaid cymheiriaid, gyda mwy ers hynny wedi mynd trwy’r OCN mewn sgiliau mentora i fod yn fentoriaid cymheiriaid a dechrau cefnogi eu cymheiriaid mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Mae hwn yn ganlyniad i’r gwaith gwerthfawr mae ein timau both yn ei wneud gyda phobl ifanc a’u teuluoedd i gynyddu hyder, hunanbarch, datblygu annibyniaeth, sgiliau cyflogadwyedd a chodi uchelgeisiau.

Yn raddol mae mwy a mwy o bobl ifanc yn dod trwy’r prosiect ac yn gwneud y penderfyniad i ddechrau helpu eu cymheiriaid trwy heriau trawsnewid. Dyma Danielle Williams, gweithiwr Cefnogi Cymheiriaid o Dîm Both Castell-nedd i ddweud wrthym am drawsnewid Fazer Richards o gyfranogwr i fentor cymheiriaid.Cyfeiriwyd Fazer Richards at dîm both Cyfleoedd Gwirioneddol Castell-nedd Port Talbot ym mis Mai 2012. Cafodd ei gyfeirio at y gweithiwr sgiliau byw’n annibynnol am gefnogaeth gyda sgiliau fel hyfforddiant teithio a hylendid personol. Gweithiodd y tîm hefyd gyda Fazer ar ei emosiynau a’i helpu i ddatblygu strategaethau ymdopi i ymdrin â’i emosiynau cryf, yr oedd wedi cael anhawster delio â hwy yn y gorffennol.Roedd trawsnewid Fazer i fywyd fel oedolyn yn datblygu’n dda iawn o ganlyniad i gefnogaeth gan y tîm both a’i waith caled. Roedd yn gwella’i sgiliau byw’n annibynnol yn fawr, roedd wedi ei hyfforddi’n dda o ran teithio ac roedd wedi dod yn gynyddol annibynnol. Roedd ei agwedd yn aeddfed iawn a daeth yn glir i’r staff fod ganddo lawer o botensial. Gyda chyflawniadau Fazer mewn golwg, gofynnwyd iddo ymgymryd â’r cymhwyster OCN ‘Sgiliau Mentora’ ym mis Ebrill 2013, er mwyn gallu dod yn fentor cymheiriaid a chefnogi ei gymheiriaid oedd yn mynd trwy’r un profiadau ag ef, ac yr oedd ef yn dal i’w profi.Dilynodd Fazer yr hyfforddiant ynghyd â 7 mentor cymheiriaid arall a gweithiodd yn dda iawn fel aelod o dîm a chymryd rhan weithgar mewn trafodaethau. Dilynodd Fazer hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd hefyd, gan ddefnyddio mwgwd i godi ymwybyddiaeth o namau ar y golwg a namau synhwyraidd, gan ddefnyddio deunyddiau a bwydydd gwahanol wrth wisgo mwgwd. Enillodd Fazer ymwybyddiaeth ardderchog o’r namau hyn wrth weithio gyda chyfranogwyr a allai fod ganddynt anghenion ychwanegol.Ers ymgymryd â’r hyfforddiant mentoriaid cymheiriaid, mae Fazer wedi cefnogi cyfranogwyr Cyfleoedd Gwirioneddol eraill i gyrchu cludiant, ymgymryd â hyfforddiant teithio a mynychu a chymryd rhan

mewn gweithgaredd bowlio a drefnwyd gan y tîm. Aeth Fazer hefyd ar y cwrs preswyl i bobl ifanc a mentoriaid cymheiriaid ym mis Mai eleni a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Urdd yn Llangrannog, pan fu Fazer yn cefnogi llawer o bobl ifanc o dimau both Cyfleoedd Gwirioneddol ar draws De Cymru. Helpodd Fazer sicrhau bod yr holl gyfranogwyr yn teimlo’n rhan o’r digwyddiad a’u bod yn gyfforddus yn ystod y gweithgareddau niferus a daeth yn ffrindiau gyda mentoriaid cymheiriaid o ardaloedd eraill. Mae Fazer yn gwneud yn dda iawn yn ei rôl fel mentor cymheiriaid. Mae wedi datblygu ei sgiliau annibynnol ei hun gyda thîm both Castell-nedd ac mae nawr yn gallu defnyddio’r sgiliau hyn i gefnogi pobl ifanc eraill. Yn ddiweddar bu’n siarad â chyfranogwyr mewn ysgol am fywyd coleg, ac roedd yn gallu defnyddio’i brofiadau ei hun i egluro’r gwahaniaethau rhwng coleg ac ysgol i bobl ifanc eraill fydd yn symud ymlaen i’r coleg cyn hir. Mae Fazer yn edrych ymlaen at barhau â’i rôl fel mentor cymheiriaid yn y coleg, i helpu i ymgartrefu pobl ifanc eraill fydd yn trawsnewid i leoliad newydd yn y tymor newydd.Ar y cyfan mae Fazer yn cael ei weld nid yn unig fel model rôl i’r cyfranogwyr, ond hefyd i’r mentoriaid cymheiriaid gan eu bod yn gwerthfawrogi ei brofiad a’i arweiniad.

o GYfranoGwr i fentor cYmheiriaid

Fazer yn cefnogi cyfranogwyr yn ystod y cwrs antur lleidiog, Llangrannog Mai 2013

Page 8: June newsletter welsh 2013

8

I weld eich stori yn y newyddlen neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Laura Griffiths ar 01639 635650 neu yn [email protected]. Gellir golygu darnau a gyflwynir. Nid yw’r farn a fynegir yn newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol o reidrwydd yn cael eu cefnogi gan y prosiect. Wedi’i argraffu gan 4 Colour Digital Print.

Sue PainterMae’r prosiect wedi cael effaith sylweddol ar broses trawsnewid/adolygiad blynyddol yr ysgol. Mae cyfranogwyr, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n rhan o’u bywydau yn cymeradwyo’n barhaus pa mor ddefnyddiol yw’r broses PCP a gynigir, yn gwerthfawrogi cymorth staff trawsnewid wrth adnabod anghenion penodol person ifanc ac yn bwysicach yn darparu opsiynau i gwrdd â’r anghenion hynny. Mae gallu dod o hyd i ddatrysiadau i faterion, yn aml o wasanaethau eraill a gynigir o fewn y tîm yn parhau i ddarparu elfen ganolog o ddatblygiad y person ifanc yn y dyfodol.Mae gan y prosiect y m a g w e d d ragweithiol iawn at ddatblygu gweithgareddau a chyfleoedd positif i gyfranogwyr ifanc ragori a datblygu eu hannibyniaeth. Trwy ystod o gyrsiau achrededig anogir ein holl gyfranogwyr i ddatblygu amrediad o sgiliau emosiynol, cymdeithasol, gwybyddol a chreadigol sy’n drosglwyddadwy i leoliadau cymdeithasol, addysgol a gwaith eraill. Mae’r cyfleoedd profiad gwaith wedi bod yn hynod werthfawr ac yn llwyddiannus tu hwnt.Mae llawer o unigolion wedi gwerthfawrogi’r cyfleoedd a gynigir gan y clwb ieuenctid a chynhwysiad ieuenctid i gwrdd â’u cymheiriaid a chymdeithasu gyda hwy, ac fel cyfrwng i wella eu hunanhyder, sgiliau cyfathrebu a datblygu strategaethau ymdopi yn ogystal â sgiliau bywyd sy’n drosglwyddadwy mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Mae rhaglen wobrwyo Dug Caeredin wedi cael effaith bositif iawn ar hunan-barch a stamina disgyblion ac mae’r disgyblion yn falch iawn o’u cyflawniadau.Mae rhieni wedi gwerthfawrogi’r cwrs rhyw a

pherthnasoedd a gynigir gan y prosiect sydd wedi’u cefnogi wrth ymdrin â materion sensitif gyda’u plant. Claire BullockMae’r prosiect trawsnewid wedi bod yn fuddiol tu hwnt i’n disgyblion, eu teuluoedd a’r ysgol ei hun. Mae’r disgyblion wedi mwynhau gweithio gyda thîm y prosiect yn fawr iawn ar Dug Caeredin a chyrsiau achrededig. Mae’r rhain yn gyfleoedd efallai na

fyddent wedi’u cael fel arall. At hynny, mae wedi bod yn fuddiol iawn cael cefnogaeth y Seicolegydd Cynorthwyol sydd wedi dod i mewn i’r ysgol i weithio ar sail 1 : 1 gyda disgyblion ar faterion pryder a rheoli dicter. Rwy’n gwybod bod teuluoedd wedi’i gael yn ddefnyddiol iawn cael rhywun yn asesu’u hanghenion yn holistig ac yna rhoi’r gefnogaeth angenrheidiol yn ei lle. P’un ai’n ymwneud â sicrhau bod pobl ifanc

yn cael cyfleoedd i ryngweithio’n gymdeithasol trwy glybiau ieuenctid, helpu rhieni i gyrchu cefnogaeth neu sicrhau bod gwasanaethau angenrheidiol yn cael eu cynnwys gyda’r teulu, sicrhaodd staff y prosiect fod anghenion y teulu cyfan yn cael eu cwrdd.Yn bersonol, rwy’ wedi gweld bod cynnwys y tîm trawsnewid yn y broses adolygiad blynyddol yn ddefnyddiol gan y gallant gefnogi’r rhieni tra’n cynnig dolen ddefnyddiol i’r holl wasanaethau ac asiantaethau. Ar y cyfan rwy’n teimlo bod y prosiect wedi bod yn llwyddiant ysgubol, oherwydd mae wedi canolbwyntio ar y plentyn a’i deulu a cheisio adeiladu fframwaith o gefnogaeth o’u cwmpas. Rwy’ wir yn gobeithio y gall y prosiect barhau gan y byddai’n drueni mawr rhoi’r holl gefnogaeth unigolyddol hyn o blant, rhieni ac ysgolion yn ei lle ac yna’i gweld yn dod i ben yn gyfan gwbl.

effaith Y prosiect cYfleoedd Gwirioneddol

o fewn awdurdodau lleolSue Painter Pennaeth Ysgol Portfield a Claire Bullock Pennaeth y Ganolfan Awtistiaeth yn Ysgol Penfro yn Sir Benfro yn egluro sut mae’r prosiect wedi cael effaith yn eu hawdurdon lleol.

Pobl ifanc o Sir Benfro ar sesiwn flasu corff-fyrddio gyda thîm both Cyfleoedd Gwirioneddol Sir Benfro