29
PECYN GWAITH Yr Adran Ddrama Uned : Cantre’r Gwaelod

LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 2: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

Cantre’r Gwaelod

Os ewch chi ryw fin nos o haf ar hyd y ffordd sy’n arwain allan o bentref Aberarth i gyfeiriad Llanon, cofiwch aros ar ben y rhiw i edrych i lawr ar Fae Aberteifi. Mae’n werth ei weld, yn enwedig pan fo’r haul yn machlud yn goch yn y Gorllewin. Fe welwch ddarn mawr o fôr gwastad, a thir Cymru a’i ddwy fraich amdano. Ac yn y pellter fel cefn llwyd rhyw hen gawr mawr yn codi o’r môr, fe welwch Ynys Enlli.

Ganrifoedd maith yn ôl, nid môr oedd rhwng Aberarth ac Enlli, ond tir glas a dolydd ffrwythlon. Tai a gerddi hefyd, a phentrefi tawel a gwartheg a defaid yn pori, gwyr a gwragedd wrth eu gwaith a phlant yn chwarae.

Cantre’r Gwaelod oedd enw’r wlad hyfryd honno sy’ bellach o dan y môr. Beth a ddigwyddodd iddi? Wel, fel hyn y bu hi.

Er bod Cantre’r Gwaelod yn lle braf iawn i fyw ynddo, roedd yna un bai mawr yn perthyn i’r wlad. Roedd y tir yn is na’r môr. Ac felly fe fu’n rhaid adeiladu muriau cryfion i rwystro’r môr rhag llifo i mewn dros y tir. Ar ben y muriau hyn, pan fyddai’r llanw’n dod i mewn, cerddai gwylwyr i ofalu nad oedd y môr yn tyllu trwy’r muriau. Ac os llwydda’r môr i dorri trwy’r mur ar ambell noson stormus, roedd yna gloch fawr mewn tŵr uchel yn cael ei chanu fel rhybudd i’r bobl ddod ar frys i gau’r twll yn y mur cyn i’r môr foddi’r wlad.

O do, fe lwyddodd y môr i dorri twll droeon, yn enwedig pan fyddai llanw uchel, a gwynt mawr yn chwythu o’r Gorllewin. Ond bob tro y digwyddai hyn roedd y gwylwyr

Page 3: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

yn ddigon effro, a’r bobl yn ddigon cyflym yn rhedeg i gau’r twll â cherrig trymion fel na ddaeth dim niwed i’r wlad a’r tai a’r pentrefi.

Gan fod gofalu am y muriau mawr yn waith mor bwysig, roedd yn rhaid cael un o ddynion pwysica’r wlad i fod yn gyfrifol am y gwaith. Dewisodd brenin y wlad, sef Gwyddno Garan Hir, y tywysog Seithennyn fel meistr y muriau.

Aeth blynyddoedd heibio ac ni wnaeth y môr unrhyw niwed i’r muriau. Gweithiau pobl yn ddiwyd ar y tir, ac roedd pawb yn hapus yng Nghantre’r Gwaelod.

Ond, un noson dywyll yn y gaeaf, roedd gwledd bwysig iawn ym mhlas y brenin Gwyddno. Roedd merch y brenin yn cael ei phen-blwydd y diwrnod hwnnw, ac roedd Gwyddno wedi gwahodd gŵyr a gwragedd bonheddig Cantre’r Gwaelod i gyd i’r wledd. Dechreuodd y gwledda yn gynnar yn y prynhawn ac aeth ymlaen tan yn hwyr y nos. Roedd y tywysog Seithennyn, wrth gwrs, yn y wledd, ac erbyn iddi dywyllu'r noson honno roedd e wedi yfed llawer gormod o win, ac wedi meddwi.

Y noson yna cododd y gwynt yn gynnar, gan chwythu’n gryf iawn o’r Gorllewin. Y noson honno hefyd, cerddai dau o ŵyr ifanc ar ben y mur mawr gan edrych allan i’r môr. Fe fuon nhw yno am amser hir yn disgwyl gwylwyr eraill i gymryd eu lle, ond ddaeth neb. Roedd y gwylwyr eraill, fel eu meistr, y Tywysog Seithennyn, yn y wledd yn y plas, ac wedi meddwi.Ond roedd y gwynt yn codi’n storm, a’r llanw’n uchel, ac fe ddylai fod mwy o wylwyr nag arfer ar y mur ar noson mor ofnadwy. Cerddodd y ddau’n ôl tuag at y twr uchel oedd ar ganol y mur. Yno y crogai’r gloch fawr a fyddai’n cael ei chanu pan lwyddai’r môr i dyllu’r mur. Doedd dim angen canu honno eto, ond sut byddai hi pan ddeuai’r penllanw?Cytunodd y ddau fod un ohonyn nhw i fynd ar unwaith i’r plas i geisio cael rhagor o wylwyr i ddod i’w helpu. O dan y tŵr roedd stablau ceffylau’r gwylwyr, a chyn bo hir roedd

Page 4: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

un o’r ddau wyliwr unig yn carlamu drwy’r tywyllwch i gyfeiriad y plas.Arhosodd y llall, bachgen o’r enw Gwyn ap Llywarch yn y twr. Roedd yn nosi’n gyflym. Erbyn hyn roedd y môr yn berwi wrth waelod y mur a’r ewyn gwyn yn llenwi’r awyr. Gallai’r bachgen glywed y tonnau’n curo’n drwm ar y mur ac fe godai eu sŵn ofn yn ei galon. Ond meddyliodd wedyn am y wledd fawr yn y plas, ac am ferch hardd y brenin. Byddai hi’n siŵr o fod yn edrych yn harddach nag erioed y noson honno, meddyliodd. Er nad oedd ef yn ddim ond mab i fonheddwr digon tlawd yng Nghantre’r Gwaelod, roedd e’n caru Mererid, merch y brenin, yn fawr iawn.Ac O! Fe hoffai fod yn y plas y funud honno, yn dawnsio gyda hi!

Yna fe ddaeth y penllanw. Roedd y tonnau’n awr yn gynddeiriog. Fflachiodd mellten ar draws yr awyr gan oleuo’r nos. Roedd y dynion yn hir yn dod, meddyliodd.Aeth i lawr o’r twr ac i’r stablau i weld a oedd ceffylau wedi gwylltio. Pan gyrhaeddodd waelod y mur fflachiodd mellten arall, ac yn ei golau gwelodd rywbeth a gododd arswyd arno. Roedd y môr wedi tyllu’r mur, ac yn awr llifai dwr gwyn yn ffrwd fain rhwng y cerrig. Tra safai yno clywodd sŵn, sŵn cerrig mur yn cael eu symud gan nerth y tonnau. Yna clywodd sŵn y dŵr yn rhuthro’n gynt. Roedd y mur wedi torri! Rhedodd yn ôl i ben y mur ac i mewn i’r twr. Tynnodd raff y gloch fawr, ac aeth ei ‘Ding! Dong! Ding! Dong!’ dros y lle i gyd.

Ond y noson honno ni ddaeth neb i achub y mur. Rhedodd Gwyn ap Llywarch wedyn i lawr i’r stablau. Neidiodd ar gefn un o’r ceffylau a charlamu trwy’r tywyllwch i gyfeiriad y plas. Fe gyrhaeddodd lys y brenin yn ddiogel. Clywodd sŵn chwerthin a chanu wrth nesáu at y porth. Aeth i mewn. Gwelodd olygfa ryfedd. Roedd y brenin, y gwŷr bonheddig a’r milwyr i gyd yn feddw, at Tywysog Seithennyn,

Page 5: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

ceidwad y mur, yn fwy meddw na neb. Roedd llawer o’r dynion mor feddw nes eu bod wedi syrthio i gysgu.Gwaeddodd nerth ei geg, ‘Mae’r môr wedi torri’r mur!’ Edrychodd rhai’n syn arno, chwarddodd y lleill am ei ben. Ble roedd y Dywysoges Mererid? Aeth i gyfeiriad ystafelloedd y merched, a gwelodd hi! Roedd hi yn ei gwisg fwyaf hardd ac fe edrychai’n hapus dros ben. Rhedodd ati. ‘Rhaid i chi ddod gyda fi,’ meddai. ‘Mae’r môr wedi torri’r mur ac mae e’n llifo dros y tir. Rhaid i ni gilio ar unwaith i’r bryniau, i’r tir uchel!’‘Ond...’ Roedd y wen ar wyneb y dywysoges wedi diflannu. Edrychai’n ddryslyd ar Gwyn ap Llywarch. Cododd hwnnw hi yw freichiau a mynd trwy’r neuadd fawr tua phorth y llys. Wrth fynd, gwaeddai nerth ei geg.

“Ffowch i’r bryniau! Mae’r môr yn llifo dros y tir! Mae’r tir wedi torri!”

Yna roedd e allan o’r llys ac yn y cyntedd, lle safai ei geffyl. Cyn bo hir roedd ef a’r dywysoges ar gefn y ceffyl yn carlamu trwy’r glaw ar gwynt a'r tywyllwch. Erbyn hynny, hefyd, roedd rhai o leiaf o wŷr a gwragedd y llys wedi deall beth oedd wedi digwydd ac roedd y rhieni hefyd yn ceisio ffoi o afael y môr, a oedd yn prysur lifo dros y tir.

Pan ddaeth y bore safai Gwyn ap Llywarch a’r dywysoges ar ben craig uchel uwchlaw Aberarth yng Ngheredigion, yn edrych allan tua’r gorllewin. Yn eu hymyl porai’r ceffyl blinedig a oedd wedi ei gludo i’r fan honno. Gwelodd y ddwy olygfa drist iawn o ben y graig. Doedd dim sôn am y mur mawr, na hyd yn oed y tŵr uchel a oedd yn ei ganol. Doedd dim sôn chwaith am lys y brenin nac am bentrefi na thai, na choed na thir gwyrddlas. Llifai tonnau llwyd y môr dros y cyfan i gyd!

Fe fuon nhw’n yno’n hir ar ddagrau’n llifo dros eu gruddiau. Ac meddai Gwyn ap Llywarch o’r diwedd,

Page 6: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

“Dywysoges, mae pawb a phopeth a oedd yn annwyl i mi wedi mynd. Mae’r môr creulon wedi dwyn y cyfan. Wn i ddim a fu tristwch mwy yn y byd erioed. Ond… gawn ni fynd gyda’n gilydd i geisio cartref newydd yn y bryniau hyn?”

“Fe wnawn ni hynny, Gwyn,” meddai hi.

Cydiodd y bachgen yn ei llaw a throdd y ddau eu cefnau am byth ar Gantre’r Gwaelod.

EDRYCHWCH AR FAP O GYMRU

Page 7: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

DYDDIADUR GWERSI

Dyddiad Cynnwys y wers Pa sgiliau a ddatblygais /Beth ddysgais heddiw ?

Wythnos 1

Wythnos 2

Wythnos 3

Wythnos 4

Wythnos 5

Wythnos 6

Dyddiad Cynnwys y wers Pa sgiliau a ddatblygais /Beth ddysgais heddiw ?

Page 8: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

Wythnos 8

Wythnos 9

Wythnos 10

Wythnos 11

Wythnos 12

Wythnos 13

Wythnos 14

CANTRE’R GWAELOD

Page 9: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

Ar ôl darllen “Cantre’r Gwaelod” ewch ati i greu bwrdd stori sy’n esbonio’r chwedl. Tynnwch lun yn y blwch, ac ysgrifennwch frawddegau o dan y llun i esbonio beth sy’n digwydd.

_____________________________ _____________________________ _____________________________ _____________________________

____________________________ _____________________________ _____________________________ _____________________________

Page 10: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

______________________________ _______________________________

_______________________________ ______________________________________________________________ ______________________________

_______________________________ _____________________________________________________________ _____________________________________________________________ ______________________________

____________________________________________________________________________________________

Page 11: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

CREU CYMERIAD

Llenwch y sgerbwd isod gyda gwybodaeth am y cymeriad. Defnyddiwch eich dychymyg yn ogystal â gwybodaeth o’r

chwedl.

Gwybodaeth i’w ychwanegu :

Disgrifiad corfforolOed TeuluSwydd PersonoliaethCefndir Diddordebau

Page 12: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

TAFLEN CYNLLUNIO GWISG

Cynlluniwch wisg ar gyfer y cymeriad rydych yn actio yn eich cyflwyniad chi o Gantre’r Gwaelod. Cewch dynnu llun o’r

cymeriad neu dorri lluniau allan o gatalogau.

Cofiwch labelu eich gwisg yn fanwl gan egluro pam rydych wedi’i dewis.

CYMERIAD: _____________

Page 13: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

Ar gyfer pob parti rhaid cael gwahoddiad. Dychmygwch eich bod chi’n gyfrifol i greu’r gwahoddiadau i barti Mererid yn y plas.

Rhaid cynnwys manylion pwysig ar y gwahoddiad fel - Pwy sy’n cael y parti Ble mae’n cael ei gynnal Dyddiad ac amser Unrhyw wybodaeth arall fel gwisg ac anrhegion.

Gallwch ddefnyddio eich sgiliau celf neu TGCH.

Page 14: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

Y GADAIR GOCH

Dyma ffordd wych o ddod i adnabod cymeriad, wrth ateb cwestiynau diri wrth weddill y dosbarth.Rhaid ateb yn hollol fyrfyfyr gan aros yn eich rôl drwy gydol yr ymarfer. Cewch gyfle yma i roi cefndir i’r cymeriad a gwybodaeth ychwanegol, e.e beth yw ei hoff fwyd, diddordebau, a gwybodaeth am y teulu.

Dewiswch gymeriad o’r chwedl ac yna meddyliwch am gwestiynau yr hoffech ofyn iddo, er mwyn darganfod pa

fath o gymeriad ydyw go iawn.

Enw’r cymeriad: ____________________

1. _____________________________________________

2. _____________________________________________

3. _____________________________________________

4. _____________________________________________

5. _____________________________________________

6. _____________________________________________

Page 15: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

Dyma ran o’r gerdd ‘Clychau’r Cantre’r Gwaelod’ gan J. J Williams (1869 – 1954)

O dan y môr â’i donnauMae llawer dinas dlos,

Fu’n gwrando ar y clychauYn canu gyda’r nos;

Trwy ofer esgeulustodY gwyliwr ar y tŵr,

Aeth clychau Cantre’r Gwaelod O’r golwg dan y dŵr.

Page 16: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

Wrth fynd ati i wneud gwaith byr- fyfyr cofiwch y pwyntiau canlynol.

Rhaid cael cynllun bras o’r stori- rhaid cael dechrau/ canol/ diwedd.

Rhaid i bawb wybod pwy ydynt a sut berson yw eu cymeriad.

Gwnewch yn siwr bod pawb yn cael cyfle i siarad.

Cofiwch i beidio ateb cwestiwn gydag un gair fel ‘na’ ‘ie’. Mae angen sgwrs ddiddorol!

Ceisiwch gael digwyddiad dramatig – ychydig o wrthdaro.

Ail wnewch yr olygfa sawl gwaith a’i gwella bob tro.

Page 17: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

Wrth fynd ati i ysgrifennu sgript cofiwch y pwyntiau canlynol.

Rhowch deitl i’r gwaith.

Rhestrwch y cymeriadau.

Rhaid rhoi disgrifiad o’r lle, a phryd mae’r olygfa’n digwydd.

Rhowch enw’r cymeriad a’r yr ochr chwith a gosod colon i ddweud pwy sy’n siarad

e.e. Siân :

Defnyddiwch linell newydd bob tro mae rhywun yn siarad.

Peidiwch ddefnyddio tagiau siarad - fel y ceir mewn stori e.e. meddai, dywedodd.

Defnyddiwch cyfarwyddiadau llwyfan effeithiol e.e. -Sut y dylid llefaru rhai geiriau / llinellau, defnydd o seibiau, teimladau’r cymeriad, cyfarwyddiadau symud.Dylid nodi’r cyfarwyddiadau hyn mewn priflythrennau a chromfachau e.e – ( YN ARAF ) ( SAIB ) ( YN CODI LLAIS ).

Ceisiwch feddwl am ddigwyddiad diddorol a all greu tensiwn a gwrthdaro rhwng y cymeriadau. Rhaid gwneud y sgript yn ddiddorol.

______________________________________________________________________________________________________________________

Page 18: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

_______________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________

Page 19: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

_________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________

Page 20: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

Ewch ati i greu bwletin newyddion am ddigwyddiad “Cantre’r Gwaelod”.Gallwch ddychmygu fod gohebydd yno ar y pryd yn adrodd o’r pentref ac yn cyfweld â rhai tregolion, neu fe all fod yn fwletin newyddion ar ôl y trychineb.

Cofiwch orffen yr eitem gyda’r frawddeg :-

“Ac yn awr yn ôl i’r stiwdio”.

TREFN:

Page 21: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

Gan ddefnyddio’r wê a llyfrau ewch ati i ddarganfod mwy o wybodaeth am y trychineb yma. Gallwch ddefnyddio lluniau, paragraffau o erthyglau yn ogystal â brawddegau eich hun i lenwi’r dudalen.

Yn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i ddinas Lerpwl. Boddwyd 800 erw o dir, ysgol, y capel a’r fynwent, 12 fferm a’r llythyrdy er mwyn

creu cronfa ddwr Llyn Celyn.

Page 22: LLAWLYFR - Welsh Governmentresources.hwb.wales.gov.uk/VTC/2009-10/drama/irf09-17/... · Web viewYn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, er mwyn cyflenwi dwr i

1. Beth oedd enw Brenin Cantre’r Gwaelod ? _______________________________________

2. Beth oedd y bai mawr a oedd yn perthyn i’r wlad?________________________________________

3. I atal hyn beth wnaethpwyd yng Nghantre’r Gwaelod?________________________________________

4. I rybuddio pobl i ddod i gau’r twll yn y mur fyddai’r gwylwyr yn _____________________________

5. Pwy oedd meistr y muriau?_______________________________________

5. Pwy oedd yn caru Mererid- merch y Brenin?_______________________________________

6. Lle'r oedd pawb ond am Gwyn a milwr arall ar y noson stormus ?

_________________________________________

7. Beth welodd Gwyn pan gyrhaeddodd Plas y Brenin?_________________________________________

8. Pwy mae Gwyn yn achub ar ddiwedd y chwedl?_________________________________________

9.Beth ddigwyddodd i’r wlad Cantre’r Gwaelo a’u phobl?_________________________________________