Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Cymdeithas Edward Llwyd: Rhif Elusen Gofrestredig : 1126027 Ychwanegwch ddeunydd i [email protected] Golygydd: Duncan Brown, Cysodi: Ifor Williams.
Bwletin Llên Natur Golwg newydd ar y byd o’n cwmpas
Rhifyn
39Mai 2011
Gwyfynod llychlydBu Don Perkins yn ecolegydd gyda’r Sefydliad Ecoleg Tir ym Mangor ac mae’n cadw gwefan tywydd manwl iawn
(cyfeiriad y wefan yw www.llansadwrn.wx.co.uk) Mae Don yn ymddiddori yn y manion llwch sydd yn cael eu cario i
Lansadwrn, Môn, ar y gwynt, ac ar y 4 Ebrill nododd lwch ar y gwynt deheuol. Wythnos yn ddiweddarach cofnodais dri
math o wyfyn wrth drapio ym Mwlchtocyn a oedd yn gysylltedig á’r digwyddiad (blwch isod). Mae Don yn gefnogwr selog i Llên Natur ac yn mewnbynnu cofnodion i’r Dyddiadur yn rheolaidd.
Dyma’r tri gwyfyn a ddaliwyd ym Mwlchtocyn fore’r 11 Ebrill2011. Mae’r dart tywyll (chwith) yn fewnfudwr wrth reddf acmae’r dyfrlliw brwyn (canol) yn mewnfudo’n amlach nag ymae’n cenhedlu yma. Mae’r isadain felen fwyaf (de) yngyffredin iawn yma ond o fis Mehefin ymlaen yn unig. Wrthymddangos yn y cwmni hwn yn gynnar iawn a than yramgylchiadau arbennig gallwn fod yn eithaf hyderus maimewnfudwr oedd hwn hefyd.Yn 70au’r ganrif ddiwethaf olrheinwyd sbesimen o’r gwyfyn canol yn ôl o Brydain i’rSahara diolch i’r llychieyn o eisotop arbennig arno a hannai o un o brofion niwclierFfrainc ar y pryd. Roedd y llychieyn ymbelydrol cystal ag unrhyw fodrwy aderyn i’rdiben.
Tynnwyd y ddau ar y chwith yn y fan a’r lle ym Mwlchtocyn. Spesimen a dynnodd Aled
Jones ym Mhenryndeudraeth yn Awst 2009 yw’r isadain felen (de).
Llwybr y gwyntoedd a
gludodd y gwyfynod o dde
Ewrop i Fwlchtocyn rhwng y
4ydd a’r 11eg o Ebrill 2011.
(Gweler bwletin rhif 3 hefyd)
Llun Ffwl Ebrill hwyr...!...meddai’r ffotograffydd Dewi Edwards
If it be at dusk, when
Like an eyelid’s soundless blink
The dewfall hawk comes crossing the shades
To alight upon a windwarped upland thorn
Thomas Hardy
Cudyll o flaenyr haul
Ymladd ceiliogodDyma lun o bapur
newydd yn
Indonesia - Ebrill
2011. Er bod
gorfodi ceiliogod i
gwffio yn
anghy f re i th lon
mae o'n dal yn
weddol gyffredin
yn y wlad.Llun: Gwyn Williams
Ewch i Fwletin 2 ar y
wefan i weld hanes ymladd ceiliogod yng Nghymru
Llyfr olaf Ted Breeze Jones cyn ei farw oedd llyfr Llafar Gwlad ar y pwnc
difyr hwn. Ewch i Amgueddfa Werin Sain Ffagan i weld talwrn ymladd
ceiliogod o Ddinbych yn ei sblander
l l e u a d l l a w n 1 7 M a i
TryferaThomas ac Evan
Jones – tad a mab.
Roedd Evan Jones yn
hynod am ddal lledod
ar y traeth. Nofiai
gydag un fraich a
thryfar yn y llall ac fel y
gwelwch nid peth
anarferol oedd cael
helfa dda. Pryd
tynnwyd y llun? Dim
gwybodaeth, ond
dyma ddyddiadau’r
ddau – Thomas Jones
1814 – 1900 ac Evan
Jones 1859 – 1928.Celt Roberts, Talsarnau
Mae pysgota gyda thryfar
(trident) yn gyfarwydd i bobl
o gwmpas y Traeth Bach
rhwng Harlech a Phenryndudraeth. Dull pysgota pa ardaloedd eraill yw
hwn?
Dyma Celt yn ymhelaethu fel hyn: “Hen daid i Derwyn
Evans oedd Evan Jones. Derwyn yw’r gŵr fu’n gweithio am
rai blynyddoedd ar draeth Talsarnau yn y 50au yn torri
tywyrch i’w gyrru ar hyd ac ar led i wneud lawntiau bowlio a
thenis, ac i fannau megis planhigfa ar gyfer Wembley. Mae
wedi trosglwyddo’r offer oedd yn eu defnyddio i ni i’w
harddangos yn Neuadd Gymuned Talsarnau”.
Unig turloch yng Nghymru
Turloch Carmel ger Llandybie, 1 Rhagfyr 2009: llyn ar y
garreg galch sydd yn llawn dŵr yn y gaeaf ond yn sychu'n
llwyr yn yr haf. Dyma'r unig un sydd i'w gael yng NghymruLlun a hanes gan Ieuan Roberts
Cwlwm etoMae yna gyfeiriad at cwlwm ym Mwletin 37 ac efallai peth
ansicrwydd o’i ystyr. Yn ei lyfr “Pembrokeshire” mae Brian
John yn ysgrifennu: “One of the earliest areas which
shipped out coal and culm was the Landshipping area”. Glo
mân felly yw cwlwm. Cefais air â chyfaill sydd dros ei
bedwar ugain oed ac a fagwyd ar fferm yn ardal Arberth ac
roedd yn hen gyfarwydd a’r gair a chofiai’n dda amdano fel
tanwydd pwysig. Y drefn oedd cymryd tunnell neu ddwy ar
y tro o gwlwm, clai a dŵr a cherdded ceffyl drwyddo yn ôl
ac ymlaen i sicrhau cymysgu llwyr. Defnyddid hwn i gadw’r
tân yn fyw dros nos. Ni fyddai’r tân byth yn diffodd a
byddai’r gegin yn gynnes peth cyntaf yn y bore. Ni fyddai’r
tanwydd yma yn creu digon o wres at goginio a rhaid fyddai
defnyddio glo o ansawdd da yn ystod y dydd. Roedd cyfaill
arall, eto yn oedranus, ac o ardal glofaol Castellnedd yn
cofio yr un drefn, ond ar llai o raddfa. Arferai ei gymysgu a
llaw ac yn gwneud peli i’w roi ar y tân i’w gadw’n fyw dros
nos. Cofiai ei fod yn waith anifyr a brwnt iawn.
John Lloyd Jones, Pelcombe
Dolen ddifyrHanes gwyddonwr Cymreig yn “bar-codio” planhigion
Cymru Ifor Williams
“We aim to be one of the first nations to DNA barcode all of their native
flowering plants (all 1143 species) and to use our barcodes for biodiversity
conservation and to improve peoples’ lives.”...mwy yn:
http://www.theregister.co.uk/2011/04/07/dna_barcode/
14 Ebrill 1931: Un diwrnod, 4 cofnodRhiw: Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw.com
Hanner eto yn prigio cae parciau, yr hogiau yn cario llwch.
Colchester: Dyddiadur Gwladys Higson
Wood full of anemones at Fordham. Leaves on elms just
beginning
Llansilin: Dyddiadur Hugh Jones, Cwm Canol
Ffidio myllt, trin pethe. Tocio moge Erw ddol a Llechweddi.
a tocio cynffonau wŷn Fron. Chwalu tail yn weirglodd fâch
ar weirglodd. 9doz wyau @ 7a dime =7/1.
Bwlchtocyn: Dyddiadur John Owen Hughes, Crowrach
Efo Min yn gosod tatws, 14. Braf ac oer.
Tywydd amserolDyma sylw gan Steve Roddick: “Here are a couple of old
sayings I remember Dai Davies the old blacksmith from
Holyhead saying years ago.
A dry Lent means a fertile year.
a’r cwpled:
Easter in snow, Christmas in mud.
Christmas in snow, Easter in mud.
We can watch now and see if they prove right this year! It's
been very dry this Lent, and we had snow on the ground
last Christmas”.
[Byddwn yn siwr o adrodd yn ôl Steve, Gol.]
Dyma ymateb Twm Elias: Dydi rhain ddim yn gyfieithiadau uniongyrchol.
Ond ceir nifer o ddywediadadau cyfatebol yn y Gymraeg, e.e.:
'Mae pegiad o lwch Mawrth yn werth ei bwysau mewn aur'
'Nadolig gwyrdd, Pasg gwyn'
Dolffiniaid RissoWyth o ddolffiniaid Risso yn
Uyea Sound, Shetland.
Cefais y fraint o edrych
arnynt yn chwarae, tua 50
metr o'r lan am gyfnod o awr,
Gorffennaf 2010. Dolffin gweddol fawr ac anghyffredin ar y
cyfan yw hwn. Roedd un ohonynt bron yn wyn. Nid ydynt yn
arfer dod mor agos i'r traeth. Llun a stori: Alun Williams
Toi â moresg
Mae'r adfael yn Baile Mhuilinn, a'r bwthyn gyda to moresgnewydd yn Baile Pheatrish ar Ynys Tiree, YnysoeddHeledd. Lluniau o Fehefin 2010. Sypiau moresg i’w gweldar y gwair tu cefn i'r bwthyn. Graham Williams
Bu Graham, brodor o Lanrug, Arfon, yn byw a chrwydro’n helaeth yn yr
Alban.
a m s e r c o d i ’ r l l e u a d l l a w n 2 0 : 4 6
Y Cymro a newidiodd y byd...bronCofeb AlfredRussell Wallace1823 - 1925 aannwyd ynK e n s i n g t o nC o t t a g e ,L l a n b a d o g ,Brynbuga.
llun: Ieuan Roberts
Tynnu eithin12 Mai 1999: Bum yn tynnu eithin ar Frest bach, Pantmawr
- ugain i ddeg ar hugain o gropiau, a rheiny'n llawn blodau
- cofio geiriau Dewi Emrys:
Hala'r hen gropyn eithin
I arllwys sofrins lawr dros y dibyn Dyddiadur David Lewis Jones (Defi Lango)
Pryd oedd yr eithin yn ei anterth yn eich ardal chi eleni?
Pôs y mis
Tocyn llyfr £10
am ddyfalu
enw Cymraeg
neu Saesneg y
creadur hwn.Anodd? Wel,
ewch i ORIEL
Llên Natur a
mewnbynnwch y
gair gwyfyn yn y
blwch ‘Yn ol
allweddair’ ac mi gewch CHI benderfynnu ba mor
anodd ydi’o. Fel arfer, y sawl sy’n anfon yr ateb cywir
cyntaf i’n gyrraedd trwy’r ddolen Cysylltwch ar y wefan fydd
yn derbyn y wobr! Ateb cywir pôs mis diwethaf oedd llin ac
Arfona Jones oedd yn fuddugol.
“Cerrig” pwyso
Uchod mae bar pwyso giat ym
maes parcio Porthceiriad,
Bwlchtocyn. Mae’n debyg mai
offeryn pwyso nwyddau o rhyw
fath oedd hwn yn wreiddiol. Ai 8
pwys a chwarter oedd hwn? Ar y
chwith mae cerrig pwysau a
ddefnyddid gan forwynion fferm i
fesur ymenyn yn swydd
Rhydychen yn yr 18ed Ganrif. Ffosiliau Clypeus ploti o’r oes
Jurassig oeddynt. Dewch a’ch ‘cerrig’ pwyso chithau....Llun gwaelod trwy ganiatad www.fossilsdirect.co.uk
Dywed y gofeb iddo fyw ymMrynbuga tan yn bum mlwyddoed. Claddwd dwy o’i chwioryddym mynwent eglwys Llanbadog.Naturiaethwr, bioddaearyddwr,awdur a dyngarwr, fearchwiliodd ddyffryn yr Amasonac ynysoedd Malai. Cyd-ddargafyddodd gyda CharlesDarwin y broses o esblygiadtrwy Ddetholiad Naturiol. Bu’nGymrawd y GymdeithasFrenhinol yn 1893 a chafodd yrOrder of Merit yn 1910. F’icladdwyd yn Broadstone,Dorset.
...ac eira 12 Mai 1951Mae’r camera weithiau llawn
cystal â dyddiadur i gofnodi.
Roedd hi'n braf yng
Nghaernarfon y diwrnod hwn
meddai log Gwaith Brics
Brynseiont.Lluniau gan Les Larsen
a m s e r m a c h l u d y l l e u a d l l a w n 0 3 : 4 3
Hutan y Mynydd
Dod adref o Sir Fôn, wedi bod yn gweld y crëyr porffor
gydag Eifion a Colin, a chlywed bod hutan y mynydd ar y
Gogarth, Llandudno. Yn lwcus i ni roedd yn dal yno, dwi’n
siwr y cawn lun gan Eifion hefyd [gweler yr Oriel]. Dwi wedi
gweld yr aderyn yma sawl gwaith ar y Gogarth, un ai yn y
gwanwyn neu rhai ifanc. Llun: Alun Williams
DrecWedi clywed y gair drecgan gymydog i mi ynLlanfaglan, fyddai yncael ei roi ar gefn ceffyler mwyn rhoi’r jaen ynsownd ar gyfer aredig acati. Yn ôl y disgrifiadcredaf mai math o strap
ydyw. (gwelwch y saeth) Yn GPC, mae drec yn cyfeirio ni itrec, sef treck o'r saesneg ym mhob golwg. Ydi hwn yngyffredin? Ifor Dylan Williams
Mwy am “drec” fis nesaf [Gol]
Mae cerbydau
SCARAB i’w gweld
yn gyffredin.
Benthycwyd yr enw
o deulu o chwilod,
y Scarabidae. Fel y
chwilod, mae’r
cerbydau yn styciau
bach sgwar a chryf.
Dyma lun chwilen
o’r teulu hwn, a
gafwyd wrth fynd
am dro trwy Coed
Trefan ar lan afon
Dwyfor.Owen Pennant Thomas
12 oed
YsgwyfFe barodd y gair hwn gryn benbleth i rai ohonom wrth i ni
fewnbynnu dyddiaduron rhyfeddol Edward Evans, Parsele,
St Edrens, Sir Benfro i ddyddiadur Llên Natur. Dyma rai o
gofnodion EE yn cynnwys y gair:
5 Mawrth 1851 ....Bwrodd amryw scwyfur o geseirlaw –
ond dim harm
26 Chwefror 1865 ...Shifftod y gwynt ir West, a daliod yn
llid da, odieithr rhai scwyffs o wlaw mân - gwynt Nor. West
Hwyr.”
Mae Geiradur Prifysgol Cymru yn cyfeirio at y gair fel a
ganlyn: sgwyf, ysgwyf (Saesneg eto mae'n debyg) sgum,
ewyn, trochion. Felly pa fath o fwrw glaw oedd "Bwrw
scwyffs nawr ac eilwaith" (enghraifft arall). Dyma ddywed
Geraint Wyn Jones, Hwlffordd: scwyffs = sciffen yn cael ei
ddefnyddio yn yr ardal yma am gawod ysbeidiol neu squall.
Dyma ddywed Andrew Hawke, golygydd GPC am scwyffs:
“Yn hytrach na sgwyf, ysgwyf, mae'n debycach o fod yn ffurf
luosog ar: sgwiffen, [h.y. dim tarddiad] eb. ysgeintiad (o
rywbeth): a sprinkling (of something). Ar lafar, `towlu
sgwiffan o ddwst dros yr 'ata' (Myn.). Methu gweld dim byd
tebyg yn yr OED na'r EDD (English Dialect Dictionary,
Wright) yn yr un ystyr - ond mae bron yn sicr yn air benthyg
o ryw iaith.
Os am ymuno a’n grwp mewnbynnu cofnodion, a chyfrannu i drafodaeth
o eiriau difyr drwy ebost rhowch floedd.
Dyma enghraifft o ddwyn enw o fyd natur i greu brand. Esiampl arall yw
Ribena - diod cyrens duon wedi ei enwi ar ôl y Lladin Ribes. Petai pob
stwcyn o gerbyd glanhau ffyrdd yn cael ei alw yn scarab gan bawb,
byddai hynny yn enghraifft o Genericised Brand Name. Mae Hoover (neu
well fyth, hwfer) yn enghraifft. Ewch i Fwletin 3 a 7 i weld mwy am hyn.
Agor lein yr Wyddfa 12 Mai 1951
Crib Goch 12 Mai 1951Llyn Cwm Glas 12 Mai 1951
Eira Mai 1945...Slough: 3 Mai 1945: About 8pm the rain turned to snow. I
ate my supper and watched the enormous snowflakes fall,
wondering if any other country in the world could present
such a scene - snow on tulips and broken lilac blossom,
snow falling through bursting beeches and the sky ash -
snow on shivering pansies and wan forget-me-nots. ..A
fantastic spring. Three weeks ago the temperature was
seventy in the shade.Dyddiadur Maggie Joy Blunt (Our Hidden Lives: Ebury Press 2005)
...ond nid ymhobmanGlandwr, Bodorgan: 8 Mai 1945v. day..cyfarfod pregethu
Dyddiadur Jane Williams (gda diolch i’w mab Wil)
Llundain: 8 Mai1945A wonderful day from every point of view. Wentwandering through the crowds in hot sunshine - VictoryEurope Day Dyddiadur Noel Coward (Faber Book of Diaries)