11
C a Unrhyw gwestiynau? Charlotte Britton yn Gadeirydd deiryddr Hi! Fy enw yw Charlotte Britton ac rwy’n sefyll i fod yn Gadeirydd Plaid Cymru Ifanc. Ymunais â Phlaid Cymru yn 2010 ar ôl symud i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Ers hynny rwyf wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Plaid Ifanc ac Is- gadeirydd Adran y Menywod. Rwyf hefyd yn fy ail flwyddyn fel Swyddog Lles llawn amser yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ac rwyf hefyd yn aelod gweithredol UCM Cymru. Rwyf eisiau defnyddio fy mhrofiad i gefnogi ein haelodau ar draws y wlad a helpu i ddod â phobl ifanc fewn i’r Blaid. Plaid Ifanc Gefnogol Rwyf eisiau sicrhau bod grwpiau Plaid Cymru Ifanc yn y prifysgolion ac aelodau ifanc ar draws Cymru yn derbyn cefnogaeth. Dyna pam byddaf yn: Darparu pob grŵp â phecyn cefnogaeth a fydd yn cynnwys adnoddau fel taflenni, posteri a chanllawiau i adeiladu ymgyrchoedd effeithiol a chynnal digwyddiadau cymdeithasol llwyddiannus. Sicrhau fy mod i ac aelodau eraill o’r Pwyllgor Gwaith allan yn ymgyrchu gyda chi, yn eich prifysgolion ac yn eich ardaloedd lleol. Byddaf ond galwad ffôn i ffwrdd a hefyd yn cynnal cyfarfodydd Skype rheolaidd gyda grwpiau er mwyn eich helpu i ddatblygu drwy gydol y flwyddyn Sicrhau bod etholiadau’r Pwyllgor flwyddyn nesaf yn cael eu cynnal ar-lein er mwyn rhoi’r cyfle i bob aelod bleidleisio a gosod cyfeiriad i’n mudiad cenedlaethol ifanc. Plaid Ifanc sy’n Ymgyrchu Wrth i’r 3 Blaid Brydeinig barhau i adael pobl ifanc i lawr, mae’n pwysicach fyth ein bod ni’n cyfathrebu ein neges bositif amgen. Dyna pam byddaf yn: Codi digon o arian drwy ein hymgyrch ‘Peint i’r Blaid’ i gyflogi aelod o staff i’r mudiad ifanc yn unig erbyn diwedd y tymor Paratoi adnoddau megis taflenni, posteri, deisebau ac enghreifftiau o gynigion er mwyn sicrhau eich bod yn barod i fynd allan a lledaenu ein neges ymysg pobl ifanc Plaid Ifanc sy’n ennill Y cynifer o aelodau dylanwadol sydd gennym, y mwyaf o ymwybyddiaeth y gallwn ei gael i’n Plaid a’r gwaith gwych rydym yn ei wneud. Dyna pam byddaf yn: Darparu hyfforddiant ar ennill etholiadau mewn unrhyw sefydliad- Mewn Undeb Myfyrwyr, UCM, grŵp ymgyrchu neu gyngor lleol. Darparu cefnogaeth uniongyrchol i aelodau sy’n sefyll mewn etholiadau drwy helpu gyda chynlluniau ymgyrchu, cynllunio adnoddau a churo drysau hyd yn oed. Darparu briffings cyson ar y materion mawr sy’n effeithio pobl ifanc a myfyrwyr yng Nghymru er mwyn sicrhau bod aelodau Plaid Ifanc un cam ar y blaen bob tro. Gofynnwch i mi ar Twitter @charlottehb89 neu ebostio [email protected] Hyrwyddo a darparu ymgyrchoedd gyda thystiolaeth a fydd yn sicrhau bod ein llais yn cael ei gymryd o ddifrif gan y bobl sy’n cyfrif.

Maniffestos / Manifestos

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Ar gyfer CCB Plaid Cymru Ifanc 2013 / For Plaid Cymru Youth's 2013 AGM.

Citation preview

Page 1: Maniffestos / Manifestos

C

a

Unrhyw gwestiynau?

Charlotte Britton yn Gadeirydd

deiryddr Hi! Fy enw yw Charlotte Britton ac rwy’n sefyll i fod yn Gadeirydd Plaid Cymru Ifanc. Ymunais â Phlaid Cymru yn 2010 ar ôl symud i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Ers hynny rwyf wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Plaid Ifanc ac Is-gadeirydd Adran y Menywod. Rwyf hefyd yn fy ail flwyddyn fel Swyddog Lles llawn amser yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ac rwyf hefyd yn aelod gweithredol UCM Cymru. Rwyf eisiau defnyddio fy mhrofiad i gefnogi ein haelodau ar draws y wlad a helpu i ddod â phobl ifanc fewn i’r Blaid.

Plaid Ifanc Gefnogol

Rwyf eisiau sicrhau bod grwpiau Plaid Cymru Ifanc yn y prifysgolion ac aelodau ifanc ar draws Cymru yn derbyn cefnogaeth. Dyna pam byddaf yn:

Darparu pob grŵp â phecyn cefnogaeth a fydd yn cynnwys adnoddau fel taflenni, posteri a chanllawiau i adeiladu ymgyrchoedd effeithiol a chynnal digwyddiadau cymdeithasol llwyddiannus.

Sicrhau fy mod i ac aelodau eraill o’r Pwyllgor Gwaith allan yn ymgyrchu gyda chi, yn eich prifysgolion ac yn eich ardaloedd lleol.

Byddaf ond galwad ffôn i ffwrdd a hefyd yn cynnal cyfarfodydd Skype rheolaidd gyda grwpiau er mwyn eich helpu i ddatblygu drwy gydol y flwyddyn

Sicrhau bod etholiadau’r Pwyllgor flwyddyn nesaf yn cael eu cynnal ar-lein er mwyn rhoi’r cyfle i bob aelod bleidleisio a gosod cyfeiriad i’n mudiad cenedlaethol ifanc.

Plaid Ifanc sy’n Ymgyrchu

Wrth i’r 3 Blaid Brydeinig barhau i adael pobl ifanc i lawr, mae’n pwysicach fyth ein bod ni’n cyfathrebu ein neges bositif amgen. Dyna pam byddaf yn:

Codi digon o arian drwy ein hymgyrch ‘Peint i’r Blaid’ i gyflogi aelod o staff i’r mudiad ifanc yn unig erbyn diwedd y tymor

Paratoi adnoddau megis taflenni, posteri, deisebau ac enghreifftiau o gynigion er mwyn sicrhau eich bod yn barod i fynd allan a lledaenu ein neges ymysg pobl ifanc

Plaid Ifanc sy’n ennill

Y cynifer o aelodau dylanwadol sydd gennym, y mwyaf o ymwybyddiaeth y gallwn ei gael i’n Plaid a’r gwaith gwych rydym yn ei wneud. Dyna pam byddaf yn:

Darparu hyfforddiant ar ennill etholiadau mewn unrhyw sefydliad- Mewn Undeb Myfyrwyr, UCM, grŵp ymgyrchu neu gyngor lleol.

Darparu cefnogaeth uniongyrchol i aelodau sy’n sefyll mewn etholiadau drwy helpu gyda chynlluniau ymgyrchu, cynllunio adnoddau a churo drysau hyd yn oed.

Darparu briffings cyson ar y materion mawr sy’n effeithio pobl ifanc a myfyrwyr yng Nghymru er mwyn sicrhau bod aelodau Plaid Ifanc un cam ar y blaen bob tro.

Gofynnwch i mi ar Twitter @charlottehb89

neu ebostio [email protected]

Hyrwyddo a darparu ymgyrchoedd gyda thystiolaeth a fydd yn sicrhau bod ein llais yn cael ei gymryd o ddifrif gan y bobl sy’n cyfrif.

Page 2: Maniffestos / Manifestos

C

a

Ask me on Twitter @charlottehb89

or email me at [email protected]

Got a question?

Charlotte Britton for Chair

Hi! I’m Charlotte Britton and I’m running to be Chair of Plaid Cymru Youth. I joined Plaid in 2010 after moving to Wales to study at Swansea Uni. Since then I’ve served as Secretary of Plaid Youth and Vice-Chair of the women’s section. I’m also in my second year as full-time Welfare Office of Swansea Uni SU and I’m also an executive member of NUS Wales. I want to use my experience to support our members around the country and help bring new young people into the party.

A supportive Plaid Youth

I want to ensure that Plaid Cymru Youth groups on campuses and young members across Wales are supported. That’s why I will:

Provide each group with a support pack which will include resources likes leaflets, posters and guides to building effective campaigns and holding popular social events.

Ensure I and other executive members are out campaigning with you, on your campuses and in your local areas.

I will only be a phone call away and will also hold regular Skype meetings with groups to help you progress throughout the year.

Ensure that next year’s executive elections are held online so that all our members can vote and set the direction of our national youth movement.

A campaigning Plaid Youth

As the 3 British parties continue to let young people down, it’s more important that we are communicating our positive alternative. That’s why I will:

Raise enough money through our ‘Pint For Plaid’ campaign to employ a staff member just for the youth section by the end of the term

Prepare resources like leaflets, posters, petitions and example motions to ensure you are ready to go out and take our message to young people

A winning Plaid Youth

The more influential members we have, the more awareness we raise of our party and the great work we do. That’s why I will:

Deliver training on winning elections in any organisation you’re part of - Whether that’s an SU, NUS, a campaign group or a local council.

Deliver direct support for to members standing in elections by helping with campaign plans, designing material and even knocking doors.

Deliver regular briefings on the big issues effecting young people and students in Wales so Plaid Youth members are always one step ahead.

Ask me on Twitter @charlottehb89

or email me at [email protected]

Promote and deliver evidence-based

campaigning that will ensure our voices are taken

seriously by the people that matter

Page 3: Maniffestos / Manifestos

William Thomas

My Manifesto for the role of Secretary:

Publication of minutes and agenda promptly in advance of the next meeting.

I will organise workshops and social events for all Plaid Youth Members.

Put together a separate database of Plaid Cymru Youth members.

I will start sending out regular Newsletters via email in corporation with the rest of the

Committee.

William Thomas

Fy manifesto ar gyfer rôl yr ysgrifennydd:

Cyhoeddiadau cyflym o nodiadau cyn y cyfarfod nesaf.

Trefnaf weithdâi a digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer pob Aelod Plaid Ifanc.

Rhoi cronfa-ddata wahanol ar gyfer Aelodydd Plaid Cymru Ifanc.

Byddaf yn anfon cylchlythrennau trwy e-bost ynglŷn â gweddill y pwyllgor.

Page 4: Maniffestos / Manifestos

Trysorydd Cenedlaethol / National Treasurer

Gwenno Jones

Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro nad wyf yn bresenol yn y CCB. Hoffwn longyfarch y Pwyllgor Gwaith cyfredol am eu gwaith gwych yn trefnu'r digwyddiad. Rwyf yn rhoi fy enw gerbron eto eleni fel Trysorydd Plaid Ifanc. Rwyf wedi mwynhau fy mlwyddyn gyntaf fel Trysorydd a teimlaf ein bod wedi cymryd camau ymlaen yn ariannol yn 2012 gyda ymgyrch 'Peint i'r Blaid', ein sticeri yn erbyn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac ein cyfraniad gyda EFAy. Mae yna le i ddatbylgu ym mhob un o'r meysydd yma yn 2013 a gobeithiaf y gallaf fod yn rhan o'r broses. Tu hwnt i'r ffaith fy mod wedi cael profiad fel Trysorydd Plaid Ifanc yn 2012, roeddwn yn drysorydd y Gym Gym ym mhrifysgol Caerdydd tra yn fy ail flwyddyn yn astudio Mathemateg a Cherddoriaeth, ac rwyf bellach yn gweithio fel Swyddog Cyllid a Chodi Arian yn Nhy Gwynfor, Pencadlys Plaid Cymru. Credaf bod fy swydd o fewn y Blaid yn ychwanegu rhywbeth ychwanegol i'r Pwyllgor Gwaith ac yn help wrth gysylttu gyda aelodau ifanc newydd. Yn 2013 hoffwn barhau a gweithio'n galetach fyth gyda'r hyn rydym wedi ei ddechrau drwy ddatblygu ein ymgyrch 'Peint i'r Blaid', gwario arian er mwyn datblygu ein gwefan a chefnogi ymgyrch 'Ie' yr SNP. Gobeithio y gwnewch chi gyd fwynhau gweddill y CCB a'r rygbi pnawn 'ma. Ymlaen! Firstly, I would like to apologise that I'm not present in the AGM today. I would like to congratulate the present NEC for their hard work organising the event. I'm putting my name forward once again this year as Plaid Youth Treasurer. I've enjoyed my first year as Treasurer and I feel that we've taken significant steps forwards financially in 2012 with the 'Pint for Plaid' campaign, our stickers against the Police Commissioners and our contribution with EFAy. There is place to develop in each of these fields in 2013 and I hope I can be a part of the process. Beyond the fact that I have been Plaid Youth Treasurer in 2012, i was the treasurer of the Gym Gym (Welsh society) in Cardiff University whilst I was in my second year studying Mathematics and Music, and I'm now working as Finance and Fundraising Officer in Ty Gwynfor, Plaid Cymru HQ. I believe that my role within HQ adds something extra to the Youth NEC and of help whilst contacting new, young members. In 2013 I would like to continue and work harder with what we've started by developing our 'Pint for Plaid' campaign, invest money to develop our website and support the SNP 'Yes' campaign. I hope you all enjoy the rest of the AGM and the rugby this evening. Ymlaen!

Page 5: Maniffestos / Manifestos

Cyfarwyddwr y Wasg a Chyfathrebiadau /

Director of Press and Communications

Cerith Jones

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fi sydd wedi arwain Plaid Cymru Ifanc fel Cadeirydd Cenedlaethol. Mae gen i brofiad gwerth dwy flynedd o fod yn Swyddog Di-bortffolio ar ein Pwyllgor Gwaith hefyd, yn ogystal at newydd gael fy apwyntio i gynrychioli Plaid Cymru Ifanc am dair blynedd ar gomisiwn polisi annibyniaeth y Blaid, Comisiwn Gall Cymru. Rwyf am adeiladu ar y gwaith a’r profiad hyn fel Cyfarwyddwr y Wasg a Chyfathrebiadau. Fy mhrif flaenoriaeth fydd sicrhau bod Plaid Cymru Ifanc yn weladwy yn y wasg Gymreig; ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn weladwy iawn, a rhaid newid hynny os ydym am lwyddo. Rwyf hefyd am ddefnyddio’r flwyddyn fel cyfle i wella’r wefan, gan gynnwys gweithio gyda Phlaid Cymru i sicrhau bod ar y wefan yr holl wybodaeth ddiweddaraf a pherthnasol am ein gwaith, a blog y cyfrennir ato’n gyson gan ein haelodau. Byddaf hefyd yn creu ac yn gweithredu Polisi Iaith swyddogol fel ein bod ni fel mudiad yn gweithredu’n gwbl ddwyieithog ac yn glynu at egwyddorion dwyieithrwydd heb unrhyw eithriad. During this past year I have been the National Chair of Plaid Cymru Youth. I also have two years’ experience of being a Non-portfolio Officer on our NEC and have just been appointed as our representative on the Party of Wales’s independence policy commission, the Wales Can Commission. I want to build on that work and experience as Director of Press and Communications. My first priority will be to ensure that we are visible in the Welsh press; at the moment, we are not very visible, and if we are to succeed, then that must change. I also want to use the year to improve our website, including working with the Party of Wales to ensure that we have on our website the most recent and relevant information about our work, and a blog to which our members regularly contribute. I will also create and implement an official Language Policy so that we’re completely bilingual and stick to the principles of bilingualism without any exceptions.

Page 6: Maniffestos / Manifestos

Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd a Pholisi / Director of Campaigns and Policy

Glenn Page

Dylai’r swydd ‘Cyfarwyddwr Polisi ac Ymgyrchu’ fod yn ganolog i ni fel sefydliad ifanc. Os wnewch chi fy ethol i; mi fydd o. Rydym wedi bod yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar Brifysgolion yn unig am rhy hir. Os wnewch chi fy ethol, byddaf yn lansio ymgyrch er mwyn estyn allan i bob person ifanc yn ein Cenedl a cheisio croesi’r rhwyg, sydd wir angen ei wneud. Wedi dweud hynny, dylem hefyd fod yn manteisio ar ein mannau cryfaf. Mewn prifysgolion ledled Cymru mae ein presenoldeb yn ddiamheuol ac yn gwella o hyd. Er hyn, mae ein presenoldeb yn UCMC yn gwbl anghymesur; mae rhaid i hyn newid. Rydym angen polisi/ymgyrch cydgysylltiedig, cenedlaethol a chynaliadwy pan ddaw i UCMC. Dylai PCI drwy gynrychiolwyr ar UCMC fod yn lleisio'r dewis amgen i’r ‘labour-Tory tag-team’ pan ddaw at addysg. Mae gan UCMC enw da am greu gwleidyddion ifanc, Mae’n rhaid i PCI ecsbloetio hyn ac, os caf fy ethol, rwy’n bwriadu creu ymgyrch a fydd yn gwneud hyn yn realiti. Ymhellach, dylem fod yn creu ymgyrchoedd sy’n canolbwyntio ar- ddiweithdra ymysg pobl ifanc, prynwriaeth-ethnig a mwy; dylai’r ymgyrchoedd yma nid yn unig cael eu defnyddio fel ffurf o wasanaethu newid ond hefyd i ddenu pobl i’n sefydliad. Os caf fy ethol, rwy’n bwriadu edrych fewn i greu ymgyrch eang ac agored wedi’i arwain gan PCI; credaf byddai ymgyrch o’r fath yn gallu ehangu ein haelodaeth a chefnogaeth, o fewn prifysgolion a thu hwnt. Mae ymgyrchoedd cenedlaethol yn allweddol i’n grym a datblygiad. Er hyn, dylai ymgyrchoedd lleol chwarae rôl allweddol hefyd. Os yw’n lobio'r cyngor lleol neu Undeb Myfyrwyr penodol. Os caf fy ethol, byddaf yn gwneud yn siŵr bod ein canghennau lleol yn cael y gefnogaeth briodol gan y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol i greu ac arwain ymgyrchoedd llwyddiannus. The role of ‘Policy & Campaigns Director’ should be central to the direction of our youth movement. If you elect me; it will be. For too long we have been an organisation that is University-centric. Which is why, if elected, I will launch a campaign to branch out to all young people in our Nation and attempt to cross the divide; that we so desperately need to. That said, we should also be capitalizing on where we are at our strongest. In universities throughout Wales our presence is undeniable and ever-improving. However, our presence in the NUSW is wholly disproportionate; this needs to change. We need a co-ordinated, national and sustained policy/campaign with regards to the NUSW. PCY, through representation on the NUSW, should be articulating the alternative to the labour-Tory tag-team with regards to education. The NUSW has a reputation of creating young politicians. PCY must exploit this and, if elected, I intend to create a campaign that will make this a reality. Furthermore, we should be creating campaigns around- youth unemployment, ethical-consumerism & more; these campaigns should be used not only as a vessel to deliver change but as a means of attracting people to our organisation. If elected, I intend to look into creating a national broad-based & open campaign led by PCY; such a campaign, I believe, could expand our membership & support, both on and off university campuses. National campaigns are key to the momentum and progress of our movement. However, local campaigns should also play a key roll. Whether it is lobbying the local council or a given SU; If elected, I will make sure that our local branches have adequate support from the NEC to create & conduct successful campaigns.

Page 7: Maniffestos / Manifestos

Swyddog Di-bortffolio / Non-portfolio Officer

Branwen Alaw Evans

Hoffwn roi fy enw gerbron ar gyfer y swydd di-broffil am yr ail flwyddyn. Fy nod yw cael mwy o bobl i gymryd rhan gyda Plaid Ifanc a chael ein gweld yn gynhwysol i bawb ac nid yn unig i’r Pwyllgor i gael cyfarfodydd. Os byddai mwy o bobl yn cael eu gwahodd yn bersonol i ddigwyddiadau a phrotestiadau efallai byddent yn teimlo fwy cysylltiedig â Phlaid Ifanc. Hoffwn weld mwy o bobl yn cymryd rhan yn y broses a chael dweud eu dweud am bolisi a pethau eraill. I bobl ifanc sy’n ceisio cael eu troed fewn i wleidyddiaeth mae’n anodd cael eich llais drosodd, hoffwn weld Plaid Cymru Ifanc yn le i leisio barn a gweledigaeth ar ffurf fforwm neu arolwg. Gwefan gyda adran i yrru syniadau polisi newydd a chyngor ar sut i adeiladu Cymru well. Mae pwyllgor llynedd wedi cychwyn ad-newyddu ein presenoldeb ar-lein ac hoffwn weld hyn yn mynd ymhellach gyda chyfrif youtube er mwyn bod pobl yn gallu gweld beth rydym yn ei wnued. Siaradom tro diwethaf am gael nwyddau, credaf byddai hyn yn syniad da er mwyn bod pobl yn adnabod presenoldeb Plaid Ifanc yn fwy mewn raliau a phrotesiadau. Os yw’r blog am barhau hoffwn ei weld ar ein prif wefan ynghyd ag erthyglau yn nodi’r hyn rydym ei wneud a digwyddiadau i ddod. Yn fy myd delfrydol byddai aelodau o bob cwr o Gymru yn cyfrannu at y blog a mwy o drfaodaeth mewn steil fforwm. Awgrymodd aelod o’r pwyllgor llynedd eu bod yn awyddus i gopio cynnig Plaid Cymru i baentio stensil dros y llawr gyda logo Plaid Cymru, credaf byddai hyn yn syniad da er mwyn cael ein henw a logo newydd allan yna i’w weld gan aelodau newydd gobeithio. Ar y cyfan hoffwen weld mudiad ieuenctid fwy gweithgar a chynhwysol a dyna beth fyddaf yn gweithio tuag ato.

I'd like to put myself forward for the non-portfolio position for the second year.

My longtime aim would be to get more young people involved with Plaid Ifanc and to be seen as

inclusive to everyone and not just for the committee to have meetings. If more people where

personally invited to events and protests maybe they'd feel more involved.

I'd like to see more people involved in the process and say with policy and what goes on. For young

people getting into politics it canbe hard to get your voice heard, i'd like to see Plaid Cymru Ifanc be

a place to express views and opinions in a form of a forum or server. A website with a section to send

new policy ideas and advice on how to make Wales a better place.

Last year's committee has started to re-new the presence online and I'd like to see that go further with

a youtube account so people will get to see what we're doing. We spoke last time about getting

merchandise I think that would be a good idea so that people will notice Plaid Ifanc's presence more

at protests and rallies.

If the blog is going to continue I'd like to see it on our main website along with articles of what we've

been up to and upcoming events. In my ideal world there would be members from all corners of

Wales contributing to the blog and more of a discussion in a forum style set up.

A committee member suggested last year that they was keen to copy Plaid Cymru's attempt to stencil

wash the floor with a Plaid Cymru logo, I feel that would be a good idea to get our new name and logo

out there to be seen by potentially new members.

Overall I'd like to see a more active and inclusive youth wing and that's what I'll be working towards.

Page 8: Maniffestos / Manifestos

Swyddog Di-bortffolio / Non-portfolio Officer

Aled Morgan Hughes

Fy enw yw Aled Morgan Hughes, ac rwyf yn fyfyriwr yn astudio Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol

ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn wreiddiol o Sir Drefaldwyn- ardal lle mae’r Blaid yn profi anhawster yn

ddiweddar, un o fy mrîf gymelliadau yw ehangu apêl y Blaid tu allan i’w cadarnleoedd traddodiadol (y

Fro Gymraeg) gan geisio herio'r pleidiau eraill mewn etholaethau llai cefnogol. Heb os, credaf mai un

o’r prif ffyrdd o wneud hyn yw drwy lwyddo ennill cefnogaeth y genhedlaeth ifanc- a hyn drwy bolisïau

cyffrous a pherthnasol iddynt. Dyma rhai materion y buaswn yn hoffi cyfeirio atynt-

Addysg- Fel myfyriwr presennol, a rhywun o deulu cyffredin, mae addysg, ac yn enwedig pris

addysg yn rhywbeth sydd yn fy mhryderu yn fawr. Gyda ffioedd dysgu bellach wedi codi i

£9,000 y flwyddyn i fyfyrwyr o Loegr, ofnaf mai dim ond mater o amser fydd hi tan i fyfyrwyr o

Gymru wynebu'r un ffawd, ac felly mae angen lobio am gamau sylweddol er mwyn ein

diogelu.

Yr Iaith Gymraeg- Fel rhywun o deulu Cymraeg, ac yn siarad Cymraeg fel fy iaith gyntaf,

cefais fy mrawychu a fy nghynddeiriogi gan ganlyniadau diweddar y cyfrifiad ynglŷn â statws

yr Iaith Gymraeg- ac fel profai nifer o Ralïau diweddar Gymdeithas yr iaith, roedd nifer helaeth

o bobl eraill yn profi'r un emosiwn. Credaf felly fod angen lobio dwys ar y Llywodraeth i wneud

camau pendant a blaengar i ddiogelu’r iaith- fel nodai Saunders Lewis- ‘drwy ddulliau

chwyldro yn unig’ y mae llwyddo.

Yr Amgylched- Does dim dwywaith fod gan Gymru'r potensial i fod yn arweinydd Byd ar sail

egni gwyrdd- mae angen buddsoddiad ac ymchwil i gyflawni hyn.

Gobeithiaf felly fod y rhagflas uchod o rai o fy mhrîf gredoau a pholisiau ddigon i’ch perswadio i daro

pleidlais amdanaf i.

My name is Aled Morgan Hughes, and I’m a student at Aberystwyth University studying History and

International Politics. Originally from Montgomeryshire- an area where Plaid has struggled lately, my

main motivation is to try and help expand Plaid’s appeal outside it’s strongholds (West Wales), and be

a serious challenge to other parties in constituencies across Wales. I strongly believe that the main

way to the this is through winning the support of the young generation- and this through exciting and

relevant policies. These are some maters I’d like to address-

Education- As a current student, and from a working class family, education, and especially

its price is something that concerns me greatly. With tuition fees £9,000 a year for English

students, I’m afraid its only a mater of time before we students in Wales face the same fate,

and we need strong lobbying to defend us.

Welsh Language- As someone from a Welsh Family, speaking Welsh as a first language, I

was alarmed and enraged by the recent Census figures about the Welsh language- and as

proven by the large number of recent rallies a number of others felt the same. I strongly

believe that we need strong lobbying of the Government to take clear and progressive action

to defend the language.

The Environment- Without doubt, Wales has the potential to become a World leader on terms

of Green energy- we need to support funding and research to achieve this.

I therefore hope that the above has been a useful foretaste to some of my policies and ideals, and I

hope its enough to persuade you to strike a vote for me.

Page 9: Maniffestos / Manifestos

Swyddog Di-bortffolio / Non-portfolio Officer

Daniel Roberts

Page 10: Maniffestos / Manifestos

Hoffwn gael fy ethol i fod yn Swyddog di-bortffolio ar y Pwyllgor

Gwaith am fy mod yn meddwl ei fod yn bwysig cael cynrychiolaeth gryf o’r Gogledd ar y Pwyllgor Gwaith ac fel

Cynghorydd dros Blaid Cymru yng Ngwynedd credaf fod gen i’r gallu a’r brwdfrydedd i wneud hyn. Fel swyddog di-bortffolio

byddwn yn barod i gefnogi swyddogion y Pwyllgor gydag unrhyw waith ac ymgyrchoedd. Rwy’n awyddus iawn i gynorthwyo gyda’r ymgyrch Gwaith i Gymru a ceisio creu ychydig o fomentwm dros

yr ymgyrch yn y Gogledd. Mae’n gyfnod argyfyngus o ran diweithdra ymysg pobl ifanc yng Nghymru mae angen sicrhau

dyfodol llewyrchus i bobl ifanc Cymru a dydw i ddim yn mynd i sefyll yn ôl a gweld y genhedlaeth hon o bobl ifanc yn troi’n

genhedlaeth goll.

Credaf fod angen i Blaid Cymru Ifanc ganolbwyntio ar geisio denu mwy o bobl ifanc i fod yn aelodau o’r Blaid. Un ffordd o wneud hyn ydy edrych ar sut i ennill Undebau

Myfyrwyr. Rwyf wedi ennill dau etholiad fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, un fel Swyddog Iaith Gymraeg Undeb Cenedlaethol Cymru ac un fel

Cynghorydd Sir Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd. Felly credaf fod gen i lawer o brofiadau da o gynnal ymgyrchoedd ac ennill etholiadau a hoffwn ddefnyddio’r

profiad yma i gynorthwyo i drefnu ymgyrchoedd llwyddiannus a helpu i ennill etholiadau fel aelod o’r Pwyllgor Gwaith.

Credaf ei fod yn bwysig ein bod yn rhoi’r pwnc newid hinsawdd a chynaladwyedd

wrth galon ein hymgyrchoedd. Mae’n bwysig ein bod hefyd yn canolbwyntio ar sut gall y pwyllgor ac aelodau o Blaid Cymru Ifanc gynorthwyo’r Blaid a pobl Cymru i

greu cynaliadwyedd cymdeithasol-economaidd i Gymru gan gynnal ein cymunedau ac arwain yn y pen draw at annibyniaeth i Gymru.

Swyddog Di-bortffolio

ROWLANDS, Mair

Page 11: Maniffestos / Manifestos

I would like to be elected to be a non-portfolio Officer on the

Executive Committee because I think it's important to have strong

representation on the Executive Committee from the North and as

Councillor for Plaid Cymru in Gwynedd I think I am capable and I

have the enthusiasm to do this. As a non-portfolio officer I would

be prepared to support the officers of Committee with work and

campaigns. I really want to help with the campaign Work for

Wales and I want to try and create some momentum on the

campaign in North Wales. It is a critical period for youth

unemployment in Wales there is a need to ensure a bright future

for young people in Wales and I'm not going to stand back and

see this generation of young people become a lost generation.

I think Plaid Youth need to focus on trying to attract more young people to become

members of the Party. One way to do this is to look at how to win Student Unions. I've won two elections as Welsh Students' Union President, one as Welsh Language

Officer for NUS Wales and one as a County Councillor for Plaid Cymru in Gwynedd Council. So I think that I have a lot of good experiences of organizing campaigns and winning elections and I will use this experience to assist and help to organize

successful campaigns and to win elections as member of the Executive Committee.

I think it is important that we put the topic of climate change and sustainability at

the heart of our campaigns. It is also important that we focus on how the committee and members of Plaid Youth can assist the Party and the people of Wales to create

socio-economic sustainability for Wales by sustaining our communities that will lead to the eventual independence of Wales.

Non-portfolio Officer

ROWLANDS, Mair