2

Map o gwrs cyfeiriannu Parc Gwledig Dyffryn Clun

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Map o gwrs cyfeiriannu Parc Gwledig Dyffryn Clun

Citation preview

Page 1: Map o gwrs cyfeiriannu Parc Gwledig Dyffryn Clun
Page 2: Map o gwrs cyfeiriannu Parc Gwledig Dyffryn Clun

Mae cyfeiriannu yma yn Nyffryn Clun wedi’I ddylunio ar gyfer dechreuwyr a chyfeirianwyr profiadol.

Dylai dechreuwyr ddarllen yr ychydig adrannau esboniadol nesaf, wedyn dewis cwrs hawdd i roi cynnig arno. Mae cyfeiriannu’n weithgaredd hamddenol pleserus â phwyslais ar sgiliau darllen mapiau. Hefyd, gellir ei wneud fel camp gystadleuol fel mae’r adran ar heriau’n dangos. AMCAN. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy’n cynnwys cyfres o reolfannau, trwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr a dod o hyd i’r rheolfannau.

Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae’r symbolau a’r lliwiau’n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:7,500 sy’n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 75 metr ar y ddaear, fel a ddangosir gan linell y raddfa.

PELLTEROEDD. Gellir cyfrifo’r pellter o un pwynt i’r llall trwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â brasgam dyn.

CYFEIRIADAU. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu’n ei wynebu, cadwch y map i’r un cyfeiriad â’r ddaear. Mae hyn, yn ei dro, yn eich helpu i wirio pa ffordd i fynd wrth gyffyrdd llwybrau anodd.

Y CWMPAWD. Os oes un gennych, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu’r map. Mae’r nodwydd yn pwyntio at y gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw’r saethau hir ar y map yn pwyntio at y gogledd. Mae’r cwmpawd yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer dod o hyd i gyfeiriadau cywir ar draws ardaloedd heb lwybrau,ac i benderfynu i ba ffordd i fynd wrth gyffyrdd llwybrau, etc.

Sut i ddefnyddio cwmpawd onglydd:

1 Rhowch ymyl y cwmpawd onglydd ar hyd y cyfeiriad rydych chi’n bwriadu ei ddilyn ar y map. 2 Trowch y capsiwl fel bod y llinellau cyfochrog ynddo yn yr unol â llinellau’r gogledd ar y map. 3 Codwch y cwmpawd oddi ar y map a’i ddal o’ch blaen, gan ei bwyntio ymlaen. TROWCH

EICH HUNAN gyda’r cwmpawd nes bod y nodwydd yn unol â’r llinellau yn y capsiwl. 4 Ewch yn eich blaen I’r cyfeiriad mae blaen y cwmpawd nawr yn pwyntio ato.

RHEOLFANNAU a MARCWYR. Dangosir lleoliadu’r rheolfannau ar y map gan gylchoedd wedi’u rhifo mewn coch a rhoddir disgrifiad o bob un ar y dudalen nesaf. Nodir y rheolfannau ar y ddaear gan bostyn y mae plac ar ei ben â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae’n cynnwys rhif sy’n cyd-fynd â’r un ar y map, a llythyren y dylech eu nodi yn y sgwâr perthnasol ar y cerdyn rheoli. HERIAU.

A Dewiswch rai o’r rheolfannau i lunio cwrs a dewch o hyd iddynt yn eu trefn. Ar gyfer cystadleuaeth, gall y cystadleuwyr ddechrau,er enghraifft, 1 funud ar ôl ei gilydd i osgoi dilyn a gallwch

eu hamseru nhw i weld pwy sy’n mynd o gwmpas y cwrs gyflymaf, gan ddod o hyd i’r holl reolfannau!

B Dewch o hyd i’r holl reolfannau, neu rai ohonynt, mewn unrhyw drefn. Ar gyfer cystadleuaeth, gosodwch derfyn amser, gyda chosbau am fod yn hwyr.

C. Rasys cyfnewid i dimau o dri sy’n rhedeg are u pennau eu hunain neu mewn tri phâr: i Dewiswch gwrs gweddol fyr. Dechreuwch redwyr cyntaf pob tîm gyda’i gilydd. Ar ôl

iddynt ddychwelyd, bydd yr ail redwyr yn eu timau’n dechrau ac ar ôl iddynt hwythau ddychwelyd, bydd y trydydd aelodau’n dechrau. Y tîm buddugol fydd yr un y mae ei drydydd aelod yn gorffen gyntaf.

ii Dewiswch dri chwrs, fel bod cwrs gwahanol i bob tîm ei redeg. Gall fod gan y cwrs rai rheolfannau cyffredin. Dechreuwch bawb gyda’i gilydd a’r tîm buddugol fydd yr un lle mae’r tri aelod yn dychwelyd gyntaf, wedi cwblhau eu cyrsiau.

CYRSIAU A AWGRYMIR. Mae hyd ac anhawster y cyrsiau hyn yn amrywio. Fel y nodwyd uchod, gallwch greu’ch cyrsiau’ch hunan, ond sylwer bod graddau gwahanol o anhawster gan y rheolfannau fel y nodir yn yr adran nesaf. Hefyd, cofiwch fod cyfeiriannu’n ymwneud â dewis llwybrau rhwng rheolfannau,felly dewiswch y rhain fel bod anhawster y llwybr yn cydweddu â’ch sgiliau.

Dechrau a gorfen ym maes parcio am dddim Ynys Newydd, a ddangosir ar y map â thriongl coch.

A B C D

2.2Km. Byr Dechrau 7 12 11 16 15 19 10 13 Gorffen 3.3Km. Canolig – Hawdd Dechrau 1 2 3 4 5 6 9 10 13 Gorffen 4.3Km. Canolig - Anoddach Dechrau 1 2 4 8 6 9 10 15 16 12 13 Gorffen 5.2Km. Hir Dechrau 1 2 3 4 5 8 6 9 14 19 15 16 17 18 11 12 7 Gorffen

CONTROL DESCRIPTIONS

1 2 3 4 5 6 7

Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr Terfyn llystyfiant Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr

8 9 10 11 12 13

Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr Chwarel Cyffordd llwybr Terfyn llystyfiant

14 15 16 17 18 19

Cyffordd llwybr Cornel ffens Chwarel Clawdd pridd Chwarel Troad llwybr

Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhol yn Nyffryn Clun gyda chymorth grant gan gynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru.

Gosodwyd y marcwyr gan wirfoddolwyr o Brosiect Cymunedol Dyffryn Clun.

Eich clwb lleol yw Clwb Cyfeiriannu Bae Abertawe a wnaeth lunio’r map a chynllunio’r cwrs. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau parhaoll a digwyddiadau lleol, e-bostiwch

[email protected], neu ewch i wefan y clwb, www.sboc.org.uk

RHAGOR O WEITHGARWCH. Mae gweithgaredd a champ cyfeiriannu’n ffynnu ym mhob rhan o’r wlad, wedi’i drefnu gan glybiau lleol, ac mae nifer o ddigwyddiadau bob wythnos, yn bennaf ar ddydd Sul. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gadw’ch diddordeb a’ch sgiliau, cysylltwch â:

Swyddfa Genedlaethol, BRITISH ORIENTEERING FEDERATION, 8a Stancliffe House,Whitworth Road, Darly Dale, MATLOCK, Derbyshire DE4 2HJ Ffôn: 01629 734042 E-bost: [email protected]

Peter Ribbans, Ysgrifennydd Aelodaeth, CYMDEITHAS CYFEIRIANNU CYMRU, 22 The Willows, RAGLAN, Gwent NP5 2HB

[email protected]

Cyfeiriannu yn Nyffryn Clun