10
HCC – Gwneud y Gwahaniaeth PGI: Ein Nod Nodedig HCC – Gwneud y Gwahaniaeth DIWEDDARIAD CYNHADLEDD I FUDD-DDEILIAID HCC Hydref 2004 AUR I Gigyddion t.8 SAM TÂN – Fe Yw’n Dyn Ni! t.3 GWAITH CWRS t.5 CORNEL YR AREITHWYR Adroddiad am Gynhad- ledd y Gwanwyn t.7

Meat Promotion Wales

Embed Size (px)

DESCRIPTION

The Newsletter of the Welsh Assembly's Meat Promotion initiative. Printed "work and turn" English and Welsh

Citation preview

Page 1: Meat Promotion Wales

HCC – Gwneudy Gwahaniaeth

PGI: Ein NodNodedig

HCC – Gwneudy Gwahaniaeth

DIWEDDARIAD CYNHADLEDD I FUDD-DDEILIAID HCC Hydref 2004

AUR IGigyddion t.8

SAM TÂN –Fe Yw’n Dyn Ni!t.3

GWAITH CWRS t.5

CORNEL YRAREITHWYR Adroddiad am Gynhad-ledd y Gwanwyn t.7

hcc_bulletin_cym_04 12/11/04 1:34 PM Page 1

Page 2: Meat Promotion Wales

� Bwletin HCC �2

Dyma’rTîm:

PGI ynRhoi Mantais

i Gymrugan Rees Roberts, Cadeirydd HCC

SIAL ynCymeradwyoCig PGI Cymru

Croeso i Fwletin Hydref HCC,sy’n anelu at roi’r diweddaraf ichi a’n budd-ddeiliaid eraill amweithgareddau HCC ar eich rhangartref a thramor.

Mae ein diwydiant wedi ennillmantais farchnata bwysig trwygael statws DynodiadDaearyddol Gwarchodedig (PGI)i Gig Oen Cymru a Chig EidionCymru – ac mae HCC wedi bodyn hyrwyddo hyn yn gryf ynystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae statws PGI yn atalffugio, yn symbyliad igynhyrchwyr, yn hwbychwanegol i allforwyr ac ynrhoi sicrwydd i brynwyr – acmae hyn i gyd yn helpu i roimantais gystadleuol i gig cochyng Nghymru.

Mae gwaith HCC gyda PGI,ynghyd â’n hamrediad eang oweithgareddau eraill i gefnogicadwyn gyflenwi cig cochCymru yn cael sylw yn ytudalennau a ganlyn. Gobeithiafy bydd hyn o ddiddordeb i chi.

Mae Cig Oen Cymru a PGI yn cyd-fyndyn berffaith! Mae’r statws PGI newyddi gig coch Cymru wedi ennill llu offrindiau ledled y cyfandir eleni – gangynnwys un o brif cadwyniarchfarchnad yr Eidal.

Llofnodwyd y cytundeb sy’n ymwneudâ deugain o siopau archfarchnad yn ystodsioe fasnach SIAL a gynhaliwyd dros bumniwrnod ym Mharis pan ddaeth prifallforwyr Cymru a phrynwyr Ewrop at eigilydd. Yno, cafodd HCC gymorth gan uno Weinidogion Llywodraeth CynulliadCymru, Carwyn Jones (a welir yn y llunuchod gyda Stewart Pope, RheolwrMarchnata HCC).

Bu Cadeirydd HCC, Rees Roberts, yn

sôn wrth brynwyr am lwyddiant PGI.“Erbyn hyn mae gan gynhyrchion Cig OenCymru a Chig Eidion Cymru sydd â brandPGI sicrwydd yr UE o ran tarddiad,ansawdd ac olrheinedd,” meddai.

“Gallwch fod yn gwbl hyderus ybyddwch, wrth brynu cynhyrchion Cig OenCymru neu Gig Eidion Cymru â statwsPGI, yn cael sicrwydd ynghylch eutarddiad, ansawdd ac olrheinedd.

“Ac, wrth gwrs, ynghylch blas o’r raddflaenaf.”

Cyhoeddwyd gan:Hybu Cig Cymru/Meat Promotion WalesBlwch SP 176, Aberystwyth. SY23 2YAe-bost: [email protected] gwefan:www.hccmpw.org.ukFfôn: 01970 625050

GWYNHOWELLS,PrifWeithredwrHCC

PRYSMORGAN,Datblygu’rDiwydiant,HCC

STEWARTPOPE,MarchnataHCC

BRYANREGAN,Cyllid aGwein-yddiaethHCC

hcc_bulletin_cym_04 12/11/04 1:34 PM Page 2

Page 3: Meat Promotion Wales

� Bwletin HCC �3

Bu ffermwyr o Gymru ardaith ymchwil dridiau iFfrainc, gan ymweld â ffermac archfarchnad.

Nod y deugain ffermwroedd deall cystadleuwyr ynEwrop ac anghenion yfarchnad yno yn well. Ynogystal, buont yn cynrychiolicynhyrchwyr HCC amddiwrnod ar stondin yn sioeSIAL ym Mharis.

“Roedd HCC yn falch o alludarparu ariannu cyfatebol argyfer y daith ymchwil hon.Llwyddodd y grwp i ddysgumwy am ofynion Ewrop ynystod eu hymweliad,” meddaiPrys Morgan, Rheolwr HCC argyfer Datblygu’r Diwydiant.

Sali a Sam ynDifyrru’r PlantSali a Sam ynDifyrru’r Plant

GWERSIFFRENGIG

Bu’r ffefrynnau teledu Sali Mali a Sam Tân yn ymweld âdigwyddiadau Diwrnod Plant cyntaf HCC yn Sioe AmaethyddolCymru wrth i’r sioe ddathlu ei chanmlwyddiant.

Bu’r cymeriadu, sy’n ymddangos ar raglenni S4C, yn dosbarthuanrhegion am ddim i’r plant a fu’n ymweld â’r stondin, er mwyniddynt ddysgu am fanteision bwyta’n iach.

Am y tro cyntaf mewn unrhyw sioe, roedd HCC wedi trefnu gemaurhyngweithiol dwyieithog er mwyn rhoi cyfle i blant ddarganfodffeithiau am fwyd a chael awgrymiadau ynglyn â’u hiechyd.

hcc_bulletin_cym_04 12/11/04 1:34 PM Page 3

Page 4: Meat Promotion Wales

Mae pawb wrth ei fodd ynSioe Amaethyddol FrenhinolCymru ac roedd gan HCCran flaenllaw yn y particanmlwyddiant.

Y Sioe yw uchafbwynt yflwyddyn amaethyddol, agolygodd broffil uchel acwythnos brysur i staff a budd-ddeiliaid HCC.

Carwyn Jones, y Gweinidogdros yr Amgylchedd, Cynllunioa Chefn Gwlad oedd y siaradwrgwadd yn y brecwast arstondin HCC.

Roedd modd i’r ymwelwyrgael gwybod am yr ystod eango waith i gefnogi’r diwydiant awnaed ar eu rhan dros yflwyddyn ddiwethaf. Roeddcyfle hefyd i gwmnïau oGymru gyfarfod â phrynwyr.

Ymhlith yr atyniadauroedd arddangosiadaucoginio gan brif-gogyddion blaenllaw (ar ydde eithaf). RoeddCadeirydd HCC ReesRoberts (a welir ar ydde) yn un o’r llu obobl a gafodd flas ar ybwyd danteithiol.

Ymwelwyr â’r Sioe yn heidio i stondin HCC ac yn

gwrando ar y Gweinidog Carwyn Jones (ar y dde)

� Bwletin HCC �4

Yn Y SIOE FAWRHwyl

Y Ffordd Ymlaen!Gall y bydd prosiect diweddaraf HCC, sef defnyddiotechnegau bysbrintio genetig DNA, roi mantaishollbwysig i ffermwyr Cymru.

Cafodd arbrawf newydd gan HCC ynghylch olrheineddteuluol ei lansio ar dair fferm ym mis Tachwedd i weld a ellirdefnyddio’r cynllun sy’n seiliedig ar brofion gwaed i gefnogistatws PGI cynhyrchion cig coch Cymru.

Mae Cyril Lewis (yn y canol ar y dde), o CAMDA yn helpui arbrofi cynllun Catapult Shepherd Seland Newydd.

Bydd yr arbrofion yn para tan fis Ebrill 2005, pan wneirasesiad llawn o ymarferoldeb y cynllun.

Sioe FrenhinolCymru ywFfefryn Pawbo Hyd

hcc_bulletin_cym_04 12/11/04 1:34 PM Page 4

Page 5: Meat Promotion Wales

Ymunodd Alan

Gardner, Is-lywydd Undeb Amaethwyr

Cymru; Peredur Hughes, Llywydd NFU Cymru;

Louise Owen, Cynrychiolydd Ffermwyr Ifanc Cymru;

Graham Shortland, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamer

International; a Gerwyn Davies, Hwylusydd Cyswllt

Ffermio, ag eraill yng nghwrs HCC, “Dewis ar gyfer

Lladd” yn lladd-dy Hamer International yn Llanidloes.

� Bwletin HCC �5

Ar Y Bocs

Ymarfer gwerth chweil a all arbed arian ac sy’ngolygu ychydig oriau’n unig o amser y ffermwr –dyna oedd barn tîm o arweinwyr y diwydiant amgyrsiau Hybu Cig Cymru ar sut i ddewis wyn wedipesgi.

“Mae’n naturiol i bob ffermwr feddwl taw fe yw’r beirniad gorauo’i anifeiliaid ei hun,” meddai Llywydd NFU Cymru, PeredurHughes, “ond rwy wedi bod yn barnu wyn trwy gydol f’oes ac ynsicr rwy wedi dysgu pethau newydd yma heddiw.”

Roedd Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Alan Gardner, yncytuno. “Dyna pam mae mor bwysig i ddenu ffermwyr i’rdiwrnodau arbennig hyn – fel y gallan nhw weld pa mor dda ydynnhw mewn gwirionedd wrth farnu eu hanifeiliaid.

“Rhaid i ffermwyr fireinio’u sgiliau. Ar ôl diwygio’r PAC byddennill punnoedd ychwanegol o bob carcas yn hollbwysig.”

Mae 30 o gyrsiau teirawr mewn lladd-dai ledled Cymru ynymwneud âr pynciau a ganlyn:

� Grid EUROP

� Canran y Pwysau ar ôl Lladd

� Nodweddion y bridiau

� Galw’r defnyddiwr ar hyn o bryd

� Anghenion y lladd-dy

� Gofynion Hylendid – fferm a lladd-dy

“Mae’r cyrsiau Cyswllt Ffermio hyn ynceisio codi ymwybyddiaeth o ofynion ydefnyddiwr a’r farchnad trwy gynnigprofiad ymarferol o ddewis wyn byw,”meddai Swyddog Trosglwyddo Technoleg

Er mwyn archebu cwrs mewn lladd-dylleol, ffoniwch Dewi Hughes, HCC, ar01970 625050.

Mae HCC yn dweud wrth filiynau o wylwyrteledu ledled Cymru a Lloegr fod Cig OenCymru’n “Berffeithrwydd ar Blât”.

Ymddangosodd hysbyseb newydd HCC argyfer Cig Oen Cymru ar y teledu yn ystod misTachwedd.

Mae slogan yr hysbyseb – “Perffeithrwyddar Blât” – i’w gweld ar ôl lluniau o ddarn o gigoen Cymru’n cael ei goginio’n ofalus a’i weinii gyfeiliant llais yr actor Philip Madoc.

“Rydym wedi creu hysbyseb sy’n apelio atbobl sy’n mwynhau eu bwyd – ganatgynhyrchu nodweddion unigryw cig oen,”meddai Rheolwr Marchnata HCC, StewartPope.

“Dangosodd ein hymchwil ymhlithdefnyddwyr fod cyfle i ddatblygu cynulleidfadylanwadol ABC 1 yng Nghymru a Lloegr.”

Ar Lwybr DetholAr Lwybr DetholAr Lwybr Dethol

hcc_bulletin_cym_04 12/11/04 1:34 PM Page 5

Page 6: Meat Promotion Wales

Ychwanegwch sgiliau newydd atarferion gorau er mwyn bod ar yblaen – dyna’r neges y tu ôl iRaglen Ffermydd ArddangosCyswllt Ffermio HCC.

Mae wyth o ffermydd gweithredol,sy’n eiddo i ffermwyr masnachol acsy’n cael eu rheoli ganddynt, yn caelcefnogaeth technegol ac arbenigol gan HCC.

Mae diwrnodau agored rheolaidd a chyfarfodydd datblygubusnesau sy’n cael eu rhedeg gan ffermwyr yn golygu bodamrediad eang o gynhyrchwyr brwdfrydig yn dysgu sut i gyfunotechnegau traddodiadol â’r dechnoleg ddiweddaraf.

Mae ffermydd arddangos yn dangos ffyrdd o wella perfformiadmasnachol ar y fferm. Mae tîm o ymgynghorwyr arbenigol yngweithio’n agos â phob un o’r ffermydd arddangos er mwyncynghori a monitro perfformiad a chyflwyno’r canlyniadau mewncylchlythyrau ar wefan HCC – www.hccmpw.org.uk

� Bwletin HCC �6

Llwyddiant CAMDAFe gododd prisiau hyrddod i’n agos ibedair gwaith yr hyn oeddent yn 2003 ynArwerthiant Hyrddod CAMDA ym misHydref, gan gyfnerthu’r cysylltiad rhwngrhaglenni bridio wedi’u cefnogi gan HCCa phrisiau uwch. Roedd y pris cyfartalogar gyfer yr hyrddod yn £1257, mewncymhariaeth â £317 y llynedd.

Gwneud Sioe o Gynhyrchion

Brian Bown, uchod, o Fferm Tre Wyn, Ynys Môn, un o

ffermydd arddangos HCC.

Julie Jones, chwith, yn rhoi’r newyddion diweddaraf am

waith HCC i’r ffermwyr.

Bydd HCC yn arddangoscynhyrchion gorau Cig Oen Cymrua Chig Eidion Cymru â balchderwrth ymweld â gwahanolddigwyddiadau yn y DG ac Ewrop.

“Rydym wrth ein bodd yndangos y goreuon o blithcynhyrchion ein diwydiant llebynnag y byddwn yn mynd – unai Llanfair-ym-Muallt neuBarcelona,” meddai PrifWeithredwr HCC, Gwyn Howells.

“Mae cwpwrdd arddangos ynllawn o olwython, toriadau aphecynnau amrywiol gyda’n brandneilltuol, yn chwifio baner Cymruo ddifrif – ac mae wastad yn denullawer iawn o sylw,” meddai.

Manteision yManteision yDiwrnodauDiwrnodauArddangosArddangos

Manteision yDiwrnodauArddangos

hcc_bulletin_cym_04 12/11/04 1:35 PM Page 6

Page 7: Meat Promotion Wales

� Bwletin HCC �7

Arweiniodd Lars Hoelgaard, Cyfarwyddwr Cynhyrchion Da Byw,Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Amaethyddiaeth yn y ComisiwnEwropeaidd, dîm o siaradwyr blaenllaw yng Nghyfarfod BriffioGwanwyn 2004 HCC yn Aberystwyth.

Roedd ei anerchiad yn canolbwyntio ar nifer o bynciau – diwygio’rPAC, polisi amaethyddol yr UE, helaethiad Ewropeaidd, masnachryngwladol, a thrafodaethau Corff Masnachu’r Byd a’u heffaith ar ysector da byw.

Yn ogystal, bu Rory O’Sullivan, Pennaeth Is-adran PolisiAmaethyddiaeth a Physgodfeydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymruyn arwain sesiwn ar “Gweithredu Manylion Technegol Diwygio’r PACyng Nghymru.” Bu Ysgolor HCC, Richard Tudor (yn y llun ar y chwithgwaelod) yn siarad am Ffermioyn Ne America.

Bu tîm diwydiant HCC ei hunyn siarad am farchnata,hyrwyddo a datblygu'r diwydiantac yn sôn am y gwaith a wnaedgan HCC yn ystod y deng misblaenorol oddi ar y lansio ym misEbrill 2003.

“Daeth y gynhadledd â budd-ddeiliaid o bob cwr o Gymru at eigilydd i drafod argoelion yfarchnad, cynnydd y diwydiant amaterion gwleidyddol oberthnasedd uniongyrchol igadwyn gyflenwi cig coch yma,”meddai Prif Weithredwr HCC,Gwyn Howells.

Achub y Blaen

Ar y Ffordd gydag Elwen…Bu HCC yn ymweld ag ysgolion a cholegau ledled Cymru iddangos taw cig coch Cymru yw’r gorau yn ei ddosbarth.

Trefnodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer yDefnyddwyr, ddwy sioe deithiol ar draws Cymru, a chyfarfu âgweithwyr proffesiynol ym myd addysg igyflwyno pecyn HCC o ddeunyddiau addysgu.

Cafodd sioe deithiol i ysgolion yn y gwan-wyn ei lansio gan y Gweinidog Carwyn Jonesyn Ysgol Uwchradd Caerdydd, ac aeth y sioehonno ar daith ledled Cymru, gan annog plant iddysgu am ddiet cytbwys a maethlon.

Bu Elwen ar daith unwaith eto yn yr hydrefgyda Sioe Deithiol HCC i Golegau. Roedd y daithhon yn helpu myfyrwyr – trwy hyfforddiant amddim – i ddeall y manteision o ychwanegu cigcoch Cymru at y fwydlen.

Siaradwyr yng Nghynhadledd y

Gwanwyn yn edrych tua’r Dyfodol

Lars Hoelgaard (trydydd o’r chwith ac uchod, yn annerch) a Rory

O’Sullivan (pedwerydd o’r chwith) ynghyd â Phrif Weithredwr

HCC Gwyn Howells (chwith) a’r Cadeirydd Rees Roberts (ail o’r

chwith) yng Nghynhadledd Wanwyn HCC.

“Bu’r gynhadledd yn fodd

i ddod â budd-ddeiliaid o

bob cwr o Gymru at ei

gilydd i drafod argoelion

y farchnad, cynnydd y

diwydiant a materion

gwleidyddol”

hcc_bulletin_cym_04 12/11/04 1:35 PM Page 7

Page 8: Meat Promotion Wales

Enillodd un ar ddeg ogigyddion o ledled Cymru yprif wobrau a thlysau aur ynrownd derfynol y GwobrauCig Cymru Gyfan cyntaferioed, a gynhaliwyd yn YDrenewydd ym misGorffennaf.

Cyn cyrraedd y rowndderfynol, roedd y cigyddionwedi curo cystadleuwyr eraillmewn rowndiau rhagbrofol argyfer gogledd a de Cymru ynLlandudno ac Abertawe.Cafodd dros 500 ogynhyrchion eu paratoi ynystod y rowndiau hyn.

Roedd y beirniaid yncynnwys pobl flaenllaw o blithy diwydiant a’r defnyddwyr.

Bryn Hughes, (yn y llun ar y dde) a Nigel Scollan oeddenillwyr Ysgoloriaeth Rhaglen Datblygu Defaid ac EidionCyswllt Ffermio eleni.

Bu Bryn, rheolwr fferm Coleg Gwent ym Mrynbuga, ynastudio’r diwydiant cig eidion o ansawdd yn Illinois, cyn teithiotua’r gorllewin trwy Iowa, Wisconsin, Wyoming a Montana.

Bydd Nigel Scollan, prif wyddonydd ymchwil yn y SefydliadYmchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER), yn Aberystwyth ynastudio cyflwr presennol ac argoelion y diwydiant cig eidion ynAwstralia ym mis Chwefror 2005.

Ar ôl dychwelyd, bydd y ddau’n cyflwyno manylion am euteithiau i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

� Bwletin HCC �8

Aur i Gigyddion

Llwyddiant Ysgolor

Eich cadw mewn cysylltiad â’r farchnad fyd-eang – dynamae gwefan newydd HCC – www.hccmpw.org.uk – yn ei

wneud trwy gyfrwng dros 1500 o dudalennau bywiog.Bob mis, ceir degau o filoedd o ymweliadau ag adran

prisiau’r farchnad a’r adrannau eraill i gael newyddion amrychwant eang o weithgareddau HCC.

Ar-lein, gall ffermwyr drefnu cael prisiau’r farchnad ar gyferCig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ar eu ffonau symudol bobwythnos am ddim.

Mae’r wefan yn cynnwys Bwletin Misol y gellir ei drawslwythosy’n rhoi’r manylion diweddaraf am fridio, meincnodi, ffermyddarddangos a chynlluniau iechyd anifeiliaid. Yn ogystal, mae ynaawgrymiadau i ddefnyddwyr, ryseitiau a manylion amddigwyddiadau coginio.

HCC – Gwneudy Gwahaniaeth

PGI: Ein NodNodedig

HCC – Gwneudy Gwahaniaeth

DIWEDDARIAD CYNHADLEDD I FUDD-DDEILIAID HCC

Hydref 2004

AUR IGigyddion t.8

SAM TÂN –Fe Yw’n Dyn Ni!t.3

GWAITH CWRS t.5CORNEL YRAREITHWYR Adroddiad am Gynhad-ledd y Gwanwyn t.7

Cadw mewn Cysylltiad

hcc_bulletin_cym_04 12/11/04 1:35 PM Page 8

Page 9: Meat Promotion Wales

� Bwletin HCC �9

Gall defnyddio CynllunIechyd Buchesi olygu hydat 20 y cant yn fwy o elwgros y flwyddyn – sy’nwerth oddeutu £75 yfuwch.

Mae modd i ffermwyr eidionyng Nghymru wneud profion igynnal iechyd eu buchesi gydachymorth Cyswllt Ffermio HCC.

Mae ffigurau gan HCC yndangos fod maintioli’r elw gros(cyn costau porthiant) wedicynyddu £4,875 o £24,470 i£29,345, sy’n gyfwerth âgwerthu naw llo ychwanegolbob blwyddyn.

Bu modd gwerthu mwy o loi trwy gynyddu’r cyfraddaucyfebru o 79% i 93%, a thrwy leihau canran y lloi marw o12% i 8%.

“Trwy ddelio â phroblemau afiechyd, bydd modd gwerthuanifeiliaid nad oes eu hangen ar y fferm am y pris gorau yn ydyfodol,” meddai Rheolwr HCC ar gyfer Datblygu’rDiwydiant, Prys Morgan. Un ffermwr a lwyddodd yn ei gais iddefnyddio’r cynllun yw Alun Edwards (yn y llun uchod), oGae Coch, Dolgellau.

EID:Adnabod yw’r Nod Mae yna chwilio ar hyn o bryd am system syml a rhad oadnabod anifeiliaid trwy ddulliau electronig er mwyn hybuolrheinedd cig coch a’i gwneud yn haws i reoli ffermydd Cymru.

Mae’r Prosiect Gwerthuso Dyfeisiau Adnabod Electronig (EID)yng Nghymru, ar y cyd â’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’rAmgylchedd (IGER) ac wedi’i noddi gan Gyswllt Ffermio, ynbrosiect dwy-flynedd gan HCC sy’n edrych ar bedair systemelectronig wahanol. Mae 32 o fentrau yng Nghymru (17 defaid a15 gwartheg) wedi ymuno â’r arbrofion cenedlaethol sydd i fod igael eu cwblhau ganol 2005.

“Rydym yn chwilio am system sy’n bodloni deddfwriaeth yr UE,sy’n ymarferol i’r ffermwr a heb fod yn rhy ddrud,” meddai PrysMorgan, Rheolwr HCC ar gyfer Datblygu’r Diwydiant.

HELP TECHNEGOLMae amrediad o lyfrynnautechnegol wedi’u cynhyrchugan Dîm HCC ar gyferDatblygu’r Diwydiant ac sy’ncynnwys cyngor a gwy-bodaeth ymarferol i’r fferm-wr ar gael i’w trawslwytho owww.hccmpw.org.uk

CNEIFIO’N LÂNBu cyrsiau cneifio am ddimyn boblogaidd iawn gydabron i 500 o ffermwyrledled Cymru. Trwy weithioar y cyd â BwrddMarchnata Gwlân Prydain,trefnodd HCC 90 diwrnod ohyfforddiant am ddim eleni.

TAMEIDIAU • TAMEIDIAU • TAMEIDIAU • TAMEIDIAU

© B

ritis

h W

ool M

arke

ting

Boar

d

Greg Evans, un sy’n mentro gyda EID

Mae Anifeiliaid Iach ynMae Anifeiliaid Iach ynGolygu Mwy o Elw!Golygu Mwy o Elw!Mae Anifeiliaid Iach ynGolygu Mwy o Elw!

hcc_bulletin_cym_04 12/11/04 1:35 PM Page 9

Page 10: Meat Promotion Wales

NEGES O’R SILFF

� Bwletin HCC �10

Yma fe welwch ychydig o’r amrediad

o ddeunyddiau hyrwyddo a

gynhyrchwyd eleni.

Hyrwyddo PGI – dyna bwrpas silff-negesnewydd sy’n pwysleisio i siopwyr rinweddauCig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru â statwsPGI.

“Mae’r siopwyr hynny sy’n ymweld agarchfarchnadoedd ac yn gweld ein clip ar ysilffoedd yn sylweddoli ar unwaith fod ynagyfle i gael pryd blasus,” meddai StewartPope, Rheolwr Marchnata HCC.

Cafodd rhinweddau unigryw cig coch o Gymru euhamlygu’n eang mewn ymgyrchoedd hyrwyddo mewn siopau cigyddion annibynnol acarchfarchnadoedd yn y DG.

Rhoddodd HCC gyflenwad o becynnau pwynt talu i gigyddionmanwerth annibynnol er mwyn eu helpu i hyrwyddo Cig Oen Cymru aChig Eidion Cymru.

Defnyddiwyd deunydd pwynt talu, ffrîs ffenestr a phosteri ar gyfersiopau manwerth a chigyddion manwerth annibynnol yng Nghymrufel rhan o hyrwyddiad Dydd Gwyl Dewi. Yna, ym mis Mai, cafwydpecyn i ddynodi dechrau Wythnos Farbeciw Genedlaethol, a oedd yncynnwys posteri, llumanau ffenestr a ryseitiau i’r defnyddiwr.

Ryseitiau i gynhesu’r galon – “Cysuron yr Hydref” – oeddcanolbwynt pecyn pwynt talu yn yr hydref. Roedd y Ryseitiau hynyn rhoi manylion tri phrydnewydd sbon o Gig Oen Cymrua Chig Eidion Cymru, ynghyd ânifer o brydau blasus eraill.

Bydd pecyn arbennig argael hefyd ar gyfer y Nadolig.Bydd hwnnw’n amlygu’r dueddgynyddol o fwyta darnau o gigeidion a chig oen dros yr wyl.

Cynhyrchwyd llu ohysbysebion yn ystod yflwyddyn i’w rhoi ar silffoedd aphwyntiau talu mewnarchfarchnadoedd er mwyntynnu sylw at gynhyrchion CigOen Cymru a Chig EidionCymru, a chafwyd amryw o gystadlaethau i bwysleisio’r statws PGI.

Yn ogystal, rhoddwyd hysbysebion amryfal mewn cylchgronau masnach achylchgronau defnyddwyr er mwyn trosglwyddo gwybodaeth i gwsmeriaid amanwerthwyr.

“Trwy gydol y flwyddyn mae ein logos newydd ar gyfer Cig Oen Cymru aChig Eidion Cymru wedi bod o flaen llygaid cwsmeriaid ledled Cymru a Lloegryn gyson,” meddai Stewart Pope, Rheolwr Marchnata HCC.

“Mae siopwyr yn gweld cynhyrchion o Gymru ar y teledu, yn y wasg,mewn siopau ac ar y silffoedd – ac maen nhw’n sylweddoli pa mor rhagorola gwahanol yw’r hyn rydym yn ei gynnig iddyn nhw.”

Hybu TrHybu TrwywyFFarchnataarchnataHybu TrwyFarchnata

hcc_bulletin_cym_04 12/11/04 1:35 PM Page 10