Upload
damisi
View
103
Download
1
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Modiwl 5: Rheoli eich arian – cyllidebu. Amcanion y modiwl Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae cyllidebu yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Modiwl 5: Rheoli eich arian – cyllidebu
Amcanion y modiwl
• Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae cyllidebu yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru.
• Tynnu sylw at yr adnoddau a’r gweithgareddau y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun rheoli eu harian drwy gyllidebu.
Nodau’r dysgwyrMae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r broses o gyllidebu. Mae’n gweithio ar draws cyfnodau allweddol a bydd rhai dysgwyr yn:• gwerthfawrogi’r penderfyniadau y mae angen eu gwneud mewn perthynas ag ‘eitemau hanfodol a ddim yn hanfodol i'w prynu’• adnabod y gwahaniaeth rhwng angen (rhywbeth na allwch fyw hebddo) ac eisiau (rhywbeth y gallwch fyw hebddo)• adnabod sut mae arian yn dod i mewn ac yn gadael eu bywydau• deall y gwahaniaeth rhwng incwm a gwariant• gallu esbonio pam mae angen mantoli’r gweddill ar gyfer cyllideb.
Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh)
Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) yn canolbwyntio ar bedwar llinyn rhifedd:
• Llinyn 1: Datblygu ymresymu rhifyddol• Llinyn 2: Defnyddio sgiliau rhif• Llinyn 3: Defnyddio sgiliau mesur• Llinyn 4: Defnyddio sgiliau data.
Cydran rhifedd y FfLlRhLlinyn: Defnyddio sgiliau rhif
Elfennau:• Defnyddio ffeithiau rhif a’r berthynas rhwng rhifau• Ffracsiynau, degolion, canrannau a chymhareb• Cyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddwl ac ysgrifenedig• Amcangyfrif a gwirio• Rheoli arian
Deilliannau dysgu’r FfLlRh
Mae’r tablau canlynol yn dangos y deilliannau dysgu fel y’u nodir yng nghydran rhifedd y FfLlRh.
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyllidebu a thynnir sylw ato mewn teip trwm yn y tablau.
Rheoli arian Mae dysgwyr yn gallu:
Blwyddyn 3 • defnyddio gwahanol gyfuniadau o arian i dalu am eitemau hyd at £2 a chyfrifo’r newid
• trefnu a chymharu eitemau hyd at £10• cofnodi arian a wariwyd a chynilion.
Blwyddyn 4 • defnyddio arian i dalu am eitemau hyd at £10 a chyfrifo’r newid• rhoi eitemau yn eu trefn a’u cymharu hyd at £100• adio a thynnu cyfansymiau llai na £10 gan ddefnyddio’r nodiant
cywir, e.e. £6.85 – £2.76• rheoli arian, cymharu costau rhwng adwerthwyr gwahanol a
phenderfynu beth y gellir ei brynu o fewn cyllideb benodedig.
Blwyddyn 5 • cymharu a rhoi eitemau mewn trefn o ran cost, hyd at £1 000• adio a thynnu cyfansymiau llai na £100 gan ddefnyddio’r nodiant
cywir, e.e. £28.18 + £33.45• cynllunio ac olrhain arian a chynilion drwy gadw cofnodion cywir• deall bod cyllidebu yn bwysig.
Blwyddyn 6 • defnyddio’r termau elw a cholled mewn gweithgareddau prynu a gwerthu a gwneud cyfrifiadau syml ar gyfer hyn
• deall y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â defnyddio cyfrifon banc
• cymharu prisiau a deall beth sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.
Rheoli arian Mae dysgwyr yn gallu:
Blwyddyn 7 • defnyddio elw a cholled mewn cyfrifiadau prynu a gwerthu• deall y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â chyfrifon
banc, gan gynnwys cardiau banc• gwneud penderfyniadau gwybodus yn ymwneud â
gostyngiadau a chynigion arbennig.
Blwyddyn 8 • gwneud cyfrifiadau’n mewn perthynas â TAW, cynilo a benthyca
• gwerthfawrogi egwyddorion sylfaenol cyllidebu, cynilo (gan gynnwys deall adlog) a benthyca.
Blwyddyn 9 • cyfrifo gan ddefnyddio arian tramor a graddfeydd cyfnewid• deall y risgiau sy’n gysylltiedig â gwahanol ffyrdd o gynilo a
buddsoddi• disgrifio pam bod yswiriant yn bwysig a deall effaith peidio â
threfnu yswiriant.
Ymestyn • defnyddio a deall dulliau effeithlon o gyfrifo adlog• deall a dangos y broses o gyfnewid arian tramor• deall a chyfrifo treth incwm.
Mae’r Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed
yng Nghymru hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu
gwybodaeth o gyllidebu.
Tynnir sylw at y rhain mewn teip trwm
ar y sleid nesaf.
Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru
Deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 2Ystod: Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
Dylid rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ddeall:• bod arian yn cael ei ennill trwy weithio ac y gall arian brynu nwyddau a gwasanaethau• pwysigrwydd gofalu am eu harian a’r manteision sy’n gysylltiedig â chynilo arian yn
rheolaidd.
Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru
Deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 3Ystod: Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
Dylid rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ddeall:• canlyniadau economaidd a moesegol y penderfyniadau ariannol personol y maent yn eu
gwneud fel defnyddwyr, e.e. Masnach Deg• sut i reoli’u materion ariannol personol yn fedrus a sylweddoli bod cynilo arian yn arwain at
annibyniaeth ariannol.
Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru
Deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 4Ystod: Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
Dylid rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ddeall:• eu hawliau fel defnyddwyr a’u cyfrifoldebau o safbwynt rheoli cyllideb• pwysigrwydd cynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol, a sut i gael gafael ar gyngor ariannol.
Gweithgaredd cychwynnol:
Allwn ni ei fforddio?
Sut ydym ni’n gwybod a allwn ni fforddio rhywbeth?
Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Angen ac eisiau (gweithgaredd Cyfnod Allweddol 2/3).
Gan ddefnyddio delweddau a geiriau, gall dysgwyr benderfynu pa eitemau na allan nhw fyw hebddyn nhw (angen) a’r eitemau hynny y maen nhw eisiau eu cael.
Beth yw ystyr y termau hyn?
angen eisiau
Angen yn erbyn eisiau
Gwnewch y gweithgaredd ar-lein yn https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/needs_v_wants.swf
Eitemau hanfodol a ddim yn hanfodol
Rydych chi wedi dechrau gweithio, mae gennych chi eich fflat eich hun ac rydych chi newydd gael benthyciad i brynu car newydd.
Senario:
Argraffwch Adnodd 1: Eitemau hanfodol a ddim yn hanfodol, sy’n weithgaredd Cyfnod Allweddol 3/4. Mae’r gweithgaredd hwn yn gofyn i ddysgwyr drefnu’r cardiau yn ddau grŵp – taliadau/pryniadau misol ‘hanfodol’ a ‘ddim yn hanfodol’. Dangosir enghreifftiau ar y sleid nesaf.
Eitemau hanfodol a ddim yn hanfodol
Lawrlwytho cerddoriaeth
Tocynnau bws
Ad-daliad benthyciad
car
Bwyd/ nwyddau ymolchi
Pryd o fwyd gyda
ffrindiau
Trwydded deledu
TrydanTocyn
cyngerdd
Dillad gwaith
Bil ffôn symudol
Pitsa i fynd Petrol
Yswiriant tŷTrenyrs newydd
Yswiriant car
Dŵr
Morgais/ rhent
NwyY dreth gyngor
£10 o gynilion
Sut mae arian yn dod i mewn ac allan o’ch bywyd bob dydd, bob wythnos neu bob mis?
Gweithgaredd trafod:
Byrbrydau
Nwyddau ymolchi
Ffôn symudol
Sinema/ cyngherddau
Tocynnau bws
Prynu cerddoriaeth Prynu dillad
Arian poced Gwaith rhan-amser
Rhoddion
Lwfans Cynhaliaeth
Addysg
Talu am waith tŷ
Incwm a gwariantGweithgareddau Cyfnod Allweddol 2:
Gweithgaredd 1: Allwn ni ei fforddio? (gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Allwn ni ei fforddio?)Gweithgaredd 2: Yn gall gydag arian: gêm cerdyn cyllidebu misol (gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Yn gall gydag arian – gêm cerdyn cyllidebu misol) Gweithgaredd 3: Cyllidebu faint o drydan i’w defnyddio – ‘Mae’n bryd inni wario llai’. Ewch ar-lein i weld y gweithgaredd yn www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/lets-cut-back/index.html
Mae gweithgareddau wedi cael eu gwahaniaethu yn gyfnodau allweddol yn seiliedig ar y cyd-destun. Mae’r cyfnodau allweddol yn rhoi arweiniad yn unig a dylai athrawon ddewis gweithgareddau sy’n cyfateb â gallu’r dysgwyr. Dolenni/esboniadau ar gyfer gweithgareddau ar y sleidiau canlynol.
Incwm a gwariant
Gweithgaredd 1: Allwn ni ei fforddio?
Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Allwn ni ei fforddio?
Mae’r dysgwyr yn cael bwrdd stori i’w gwblhau. Mae’r bwrdd stori yn adrodd hanes teulu wrth iddyn nhw geisio penderfynu a allan nhw fforddio prynu beic fel anrheg pen-blwydd. Mae’r bwrdd stori yn codi pwyntiau trafod.
Incwm a gwariantGweithgaredd 2: Yn gall gydag arian – gêm cerdyn cyllidebu misol
Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Yn gall gydag arian – gem cerdyn cyllidebu misol. Mae’r dysgwyr yn torri allan y cardiau sy’n dangos sut y maen nhw wedi ennill a gwario arian, ac yn eu troi nhw wyneb i waered. Maen nhw’n troi un cerdyn drosodd ar y tro, ac yn penderfynu ble i’w roi yn eu tabl cyllideb fisol. Eu her yw sicrhau eu bod nhw:• heb fynd i ddyled mewn unrhyw fis• wedi talu’u costau ar ddiwedd y tri mis.
Mae hyn yn golygu efallai y bydd rhaid iddyn nhw symud eu cardiau i sicrhau nad yw eu gwariant yn fwy na’u henillion! Pan fyddan nhw’n hapus gyda’u cyllidebu, gall y dysgwyr gofnodi eu syniadau drwy lynu eu cardiau yn eu lle.
Gweithgaredd Cyfnod Allweddol 2: Cyllidebu faint o drydan i’w defnyddioEwch ar-lein i weld y gweithgaredd hwn ar Hwb ynwww.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/lets-cut-back/index.html
Gweithgaredd 3: Cyllidebu faint o drydan i’w defnyddio
Incwm a gwariantGweithgareddau Cyfnod Allweddol 3/4:
Gweithgaredd 1: Allwch chi helpu Carrie a Mo i gyllidebu? (Adnodd: Rheoli Arian)Gweithgaredd 2: Senarios ‘Rheoli arian’ (Adnodd: Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru)Gweithgaredd 3: Cadw gweddill cyfredol ar gyfer y cartref (gweler Adnodd 2 o’r modiwl hwn)
Mae gweithgareddau wedi cael eu gwahaniaethu yn gyfnodau allweddol yn seiliedig ar y cyd-destun. Mae’r cyfnodau allweddol i roi arweiniad yn unig a dylai athrawon ddewis gweithgareddau sy’n cyfateb â gallu’r dysgwyr. Dolenni/esboniadau ar gyfer gweithgareddau ar y sleidiau canlynol.
Gweithgaredd 1
Adnodd:Rheoli Arian, Gweithgaredd 5 – Carrie a Mo (tudalennau 39–47)
Lawrlwytho’r adnodd yn https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=44957&lang=cy
Allwch chi helpu Carrie a Mo i reoli eu cyllideb?
Incwm a gwariantGweithgaredd 1 Cyfnod Allweddol 3/4: Allwch chi helpu Carrie a Mo i gyllidebu?
Mae’r gweithgaredd hwn yn codi’r broblem o orwario ar gyllideb dynn. Disgrifir ffyrdd o fyw dau berson ifanc, Carrie a Mo. Mae cyllideb gan bob un ohonyn nhw yn dangos incwm a gwariant misol arferol. Y dasg i’r dysgwyr yw trafod eu ffyrdd o fyw a’u harferion gwario i weld ble y gallen nhw dorri i lawr er mwyn mantoli eu cyllideb.
Mae’r sleidiau canlynol yn dangos brasluniau o’r gweithgaredd hwn.
Gweithgaredd 2
Adnodd:Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru
Gweler Testun 3 ‘Rheoli eich arian’ (tudalennau 29–33) ynghyd â’r taflenni adnoddau ategol o fewn Testun 3 o’r enw ‘Rheoli fy arian’ (tudalennau 31–34).
Lawrlwytho’r adnodd ynhttp://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/resources/?skip=1&lang=cy
Mae’r gweithgaredd (a ddisgrifir ar dudalen 32) yn cynnig pedwar senario sy’n disgrifio sefyllfaoedd ariannol pobl ifanc. Mae’r dysgwyr yn awgrymu sut y gallen nhw reoli eu harian yn fwy llwyddiannus. Rhoddir enghreifftiau o’r senarios ar y sleidiau nesaf.
Senarios rheoli eich arian
Gweithgaredd 3
Adnodd: Cadw gweddill cyfredol (gweler Adnodd 2 o’r modiwl hwn)
Mae’r gweithgaredd hwn ar ddull dyddiadur yn dangos y trafodion sy’n digwydd o fewn mis o safbwynt oedolyn sy’n gweithio gyda thri o blant. Mae’n rhaid i’r dysgwyr ddarllen yr wybodaeth a chadw gweddill cyfredol ar ffurf tabl drwy gyfrifo’r arian sy’n cael ei dalu i mewn ac sy’n cael ei dalu allan o gyfrif banc.
Cadw gweddill cyfredol ar gyfer y cartref
Cadw gweddill cyfredolMae Mrs Jones yn rhiant prysur iawn ac mae’r wybodaeth a roddir yn adlewyrchu un mis o’i bywyd (argraffwch Adnodd 2 ‘Cadw gweddill cyfredol’).
Mae’r wybodaeth yn dangos faint sy’n cael ei dalu i mewn (incwm) a’i dalu allan (gwariant) o’i chyfrif banc.
Edrychwch yn ofalus ar bob un o’r diwrnodau a roddir a meddyliwch am y trafodion sy’n digwydd.
Gan ddefnyddio’r tabl, paratowch weddill cyfredol i’w helpu i gadw golwg ar ei harian.
Rhoddir enghreifftiau o’r wythnos gyntaf ar y sleid nesaf.
Dyddiad Talwyd i mewn Talwyd allan Gweddill
1 AwstMae’r ddau ohonoch chi wedi cael eich talu.£3012
Siopa bwyd.£112Talu gyda cherdyn debyd.
3 AwstAngen talu’r dreth gyngor.£142Talu drwy ddebyd uniongyrchol.
4 AwstTaliadau morgais yn mynd allan.£1215
5 AwstDiwrnod talu am wasanaethau!Nwy: £72Trydan: £59Dŵr: £45.10
Pob un yn cael ei dalu’n fisol drwy ddebyd uniongyrchol.
7 AwstBudd-dal plant.
Mae tri o blant gennych chi.£20.30 am y plentyn cyntaf yr wythnos.£13.40 am y plant eraill.
Sylwch: mae budd-dal plant yn cael ei dalu bob 4 wythnos.
Adding up to a lifetimeAdnodd ar-lein rhad ac am ddim yw hwn sy’n dilyn pedwar cymeriad a sut maen nhw’n delio â sefyllfaoedd ariannol. Mae’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 i 5. Mae’r pecyn yn cynnwys tua 25 awr o weithgareddau dysgu y gall dysgwyr eu cwblhau ar-lein. Caiff ei gyflwyno fel pum modiwl:• Bywyd fel myfyriwr (14 oed a hŷn)• Bywyd gwaith• Perthnasoedd• Bywyd newydd• Ymddeoliad egnïol.
Mae’r modiwlau yn cynnig amrywiaeth o bynciau rheoli arian, gan gynnwys cyllidebu. Ewch i
www.addinguptoalifetime.org.uk
Mae tiwtorial sain gyda phob
modiwl y gallwch wrando
arno yn Gymraeg neu yn
Saesneg.
Gwefannau ac adnoddau• www.pfeg.org
Mae pfeg (Grŵp Addysg Ariannol Bersonol) yn elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o adnoddau i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion.
• www.barclaysmoneyskills.com/en/Information/resource-centre.aspx
Pecynnau Adnoddau Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 Sgiliau Arian Barclays (lawrlwytho) – gweithgareddau angen/eisiau a hanfodol/ddim yn hanfodol ar gael o fewn y pecynnau hyn.
• www.nationwideeducation.co.uk
Sgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau* a thaflenni gwaith* i ddysgwyr 4 i 18 ac yn fwy (adnoddau argraffadwy a gemau ar-lein). Ar gyfer gweithgareddau cyllidebu gweler Money Maths – Balancing Budgets (12–14) a Family Budget Factsheet (7–11).
* Fersiynau Cymraeg ar gael.• www.Addinguptoalifetime.org.uk
Mae’r modiwlau yn cynnig yr ystod gyfan o bynciau rheoli arian gan gynnwys cyllidebu.• www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial
-literacy//lets-cut-back/index.html Gweithgaredd Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 2: Edrych ar gyllidebu drwy’r defnydd o drydan yn y cartref.
• www.moneyadviceservice.org.uk/en/categories/young-people-and-moneyGwybodaeth am reoli eich arian fel myfyriwr.
• http://rbsmoneysense.co.uk/schools/resources/ Rhaglen ar-lein ryngweithiol yn darparu adnoddau i helpu dysgwyr i reoli eu harian.