7
Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College Hydref 2017 YN Y RHIFYN HWN GWOBRAU, YSGOLORIAETHAU & DATHLIADAU, YSGOLORIAETHAU PÊL-FASGED, MODEL C.U., TEITHIAU COLEG, DIWEDDARIAD MENTER & LLAWER MWY! CANLYNIADAU SAFON UWCH YN CODI UNWAITH ETO! CANLYNIADAU SAFON UWCH YN CODI UNWAITH ETO!

New Coleg Catholig Dewi Sant - CANLYNIADAU SAFON UWCH YN … · 2017. 11. 9. · Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College Hydref 2017 YN

  • Upload
    others

  • View
    6

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: New Coleg Catholig Dewi Sant - CANLYNIADAU SAFON UWCH YN … · 2017. 11. 9. · Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College Hydref 2017 YN

Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College

Hydref 2017

YN Y RHIFYN HWN

GWOBRAU, YSGOLORIAETHAU & DATHLIADAU, YSGOLORIAETHAU PÊL-FASGED, MODEL C.U., TEITHIAU COLEG, DIWEDDARIAD MENTER & LLAWER MWY!

CANLYNIADAU SAFON UWCH

YN CODI UNWAITH

ETO!

CANLYNIADAU SAFON UWCH

YN CODI UNWAITH

ETO!

Page 2: New Coleg Catholig Dewi Sant - CANLYNIADAU SAFON UWCH YN … · 2017. 11. 9. · Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College Hydref 2017 YN

Ar ddydd Iau Medi 7fed, wnaeth tua 300 o fyfyrwyr, staff ac aelodau’r teulu llenwi Eglwys Gadeiriol Fetropolitan Dewi Sant ar gyfer pedwaredd Seremoni Gadael flynyddol Coleg Catholig Dewi Sant.

Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol ac yn tynnu sylw at lwyddiannau 600 o ymadawyr y Coleg yn ystod y flwyddyn academaidd 2016-17. Mae Coleg Dewi Sant yn cymryd balchder mawr yn y rôl y mae’n ei chwarae wrth ddatblygu a chefnogi myfyrwyr. Gafodd y teimlad cymunedol cryf sydd yn y Coleg ei grynhoi gan gyfeiriad ymadawol Emily Farley yn y Seremoni Gadael.

“Roeddwn i’n gwybod o’m hymweliad cyntaf i’r Coleg, ar ddiwrnod blasu yn ystod gwyliau’r haf yn 2015, mai dyma le yr oeddwn i yn bwriadu astudio. Cefais fy ysbrydoli gan frwdfrydedd amlwg bob athro tuag at eu gwersi, yn benodol athrawon Seicoleg, Daearyddiaeth a Drama, wrth ddangos angerdd clir am eu harbenigedd, a oedd

yn glir ar unwaith, gan ganiatáu i mi deimlo’n gartrefol a chroesawu.

Wrth i ni symud ymlaen ymhellach yn ein bywydau, boed i’r brifysgol, gwaith, prentisiaethau, neu flynyddoedd bwlch, byddwn yn cofio sut yr ydym ni wedi cyrraedd yno. Ar ran pob un ohonom, diolch i Goleg Dewi Sant am fod yn gefnogol trwy heriau cymdeithasol ac addysgol, a’n helpu ni i dyfu yn oedolion ifanc sy’n aeddfed, annibynnol, ac yn barod i wynebu’r heriau heddiw, yfory, a’r dyfodol i ddod..“ (Gallwch ddarllen araith lawn Emily ar ein gwefan.)

Roedd y Seremoni Gadael yn noson o lawenydd mawr wrth i’r myfyrwyr dathlu eu hamser yn y Coleg, ond roedd hefyd yn gyfle i fyfyrio a meddwl am y rhai nad oedd gyda ni bellach. Goffáu’r Coleg bywyd Alesha O’Connor, bu farw yn 2015, trwy gyflwyno ysgoloriaeth i’w coffau.

Mae’r Coleg yn rhoi ysgoloriaethau bob blwyddyn i nifer o fyfyrwyr newydd yn seiliedig ar eu cyflawniad academaidd neu eu cyfraniad i’w cymuned. Mae’r myfyrwyr yma yn cael eu gwahodd i’r Seremoni Gadael lle cawsant eu gwobrwyo gyda’u hysgoloriaethau. Rhoddwyd gwobrau hefyd i’r rhai sy’n gadael a ddangosodd efrydiaeth arbennig o ragorol mewn pynciau unigol ac i’r rhai sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fywyd y Coleg yn ystod y flwyddyn academaidd 2016-17.

ST DAVID’S CATHOLIC COLLEGE SPRING 2017 NEWSLETTER22 CYLCHLYTHYR HYDREF 2017 COLEG CATHOLIG DEWI SANT 3

Wrth adeiladu ar lwyddiant y llynedd, mae Coleg Catholig Dewi Sant wedi gweld cynnydd unwaith eto yng nghanlyniadau Safon Uwch ein myfyrwyr.

Roedd cynnydd o 4% mewn graddau A* i A, cynnydd o 4% mewn graddau A* i B a chynnydd o 7% mewn graddau o A* i C.

Llongyfarchiadau mawr i dri o fyfyrwyr am gyrraedd eu cynigion Oxbridge: Bethan James, Christy Nganjim, ac Anna Wright.

Ar Raglen Anrhydedd y Coleg at gyfer myfyrwyr dawnus a thalentog, llwyddodd 66% o fyfyrwyr i ennill gradd A* i A, a llwyddodd 89% i ennill A* i B.

Gair gan y Pennaeth

“Rydym yn eithriadol o falch dros gyraeddiadau ein myfyrwyr. Rydym yn

hyderus bydd ein myfyrwyr, gyda’r canlyniadau yma â’r sgiliau maent wedi datblygu yn ystod eu hamser yng Ngholeg Dewi Sant, yn barod i wynebu bob her a chyfle bydd yn eu dyfodol.

Mae llwyddiant eleni yn wobr am yr holl waith caled a chysegriad y myfyrwyr, staff addysgu a’r tîm cefnogi yn y Coleg.

Fel Coleg sydd wedi gordanysgrifio, rydym yn edrych ymlaen at groesawi ein carfan newydd o fyfyrwyr ym mis Medi. Rydym yn parhau i weithio’n galed i gynnal y lefel uchel o lwyddiant mae ein myfyrwyr yn mwynhau.”

Mark LeighfieldPennaeth

MYFYRWYR YN DATHLU CANLYNIADAU LEFEL A YN CODI UNWAITH ETO

GWOBRAU, YSGOLORIAETHAU & DATHLIADAU

GWOBRAU COLEG

Wiki Kowalska - Gwobr Dom BryonPatrick Uriot - Gwobr Dewi SantClaudia Perry - Gwobr Stratford CaldecottTiana Sivasuthan - Gwobr Georges LemaîtreAnna Wright - Gwobr Dante Alighieri John Harrington - Gwobr St Thomas MoreCarys Allen - Gwobr St John Paul II

GWOBRAU LEFEL 3 Amy Fogg - FfisegBethany Crothers - SbaenegCaitlin Overton - AthroniaethCarys Allen - Addysg GorfforolCerian Millin – Celf a DylunioChristy Nganjimi – Mathemateg BellachDencila Thomas – Astudiaethau CrefyddolEleanor Witcombe – Hanes ModernEmmanuel Ricalde - BTEC FfisegEmily Farley - DramaEmily Knowles – Hanes Modern CynnarEvan Moss – CerddoriaethEve Nentwig – Astudiaethau Ffilm

George Milburn - CymraegIgbunu Oneyibo - MathemategJoanne Hares - BiolegJohn Harrington -GwleidyddiaethKojo Asamoah-Kensa – Ffrangeg & MathemategLauryn Dee – Y GyfraithLavinia Thomas – Iechyd a Gofal CymdeithasolLucy Ball - LlenyddiaethMegan Clyde - DaearyddiaethMelita Jones – Y CyfryngauNathan Eedy - CemegNiall Sheehan – Hanes ModernOli Murison – Technoleg CerddoriaethRoss Winter – Iaith & LlenyddiaethRhian Casey - Gwyddoniaeth GymhwysolSean Eedy - EconomegSion Jones - CymraegSlawek Jankowski – Pwyleg & SbaenegTejan Sesay – Y GyfraithTham Nyathi - ChwaraeonThomas Morley - Gwyddoniaeth GymhwysolTom Coughlan – Hanes Modern CynnarTom Kerslake - Bioleg

GWOBRAU TGAU

Alex Dixon – Iechyd & Gofal CymdeithasolAmaral Carolino - TGAnna Britton - MathemategEduarda Medelli-Cualhete - MathemategJenny Kaur - BusnesMarta Parreira – Y CyfryngauMichelle Wong - SaesnegMichelle Wong - GwyddoniaethOmaari Gibendi Ondondo - Mathemateg

ENILLWYR YSGOLORIAETH

CYRHAEDDIAD ACADEMAIDDMatthew Cusack Thomas Delve Amy Tilley Annabel Foster Isabel Buckley Christopher Lee Monika Behrendt CYFRANIAD I’R GYMUNEDGinny Darke Daryl Johns Bruna Garcia

Page 3: New Coleg Catholig Dewi Sant - CANLYNIADAU SAFON UWCH YN … · 2017. 11. 9. · Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College Hydref 2017 YN

CYLCHLYTHYR HYDREF 2017 COLEG CATHOLIG DEWI SANT4 CYLCHLYTHYR HYDREF 2017 COLEG CATHOLIG DEWI SANT 5

Ar 28ain Mehefin 2017, gwahoddwyd Coleg Catholig Dewi Sant ei disgyblion ysgol bartner, ei ymgeiswyr, a myfyrwyr presennol i fynychu digwyddiad ‘Ieithoedd a’ch Gyrfa’. Ffocws y noson oedd y syniad fod dwyieithrwydd yn gwella rhagolygon gyrfa ac yn agor drysau, mewn unrhyw ddiwydiant neu broffesiwn.

Gwahoddwyd cynrychiolwyr o ARUP, y RAF, Capital Law, yr Academi Saesneg Celtaidd, Prifysgol Caerdydd, GE Aviation, Colegau Cymru a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gynnal stondinau a darparu sgyrsiau ar sut mae siarad ieithoedd ychwanegol wedi helpu eu gyrfaoedd, a pha gyfleoedd sydd ar gyfer ymgeiswyr am swyddi sydd â’r sgiliau ychwanegol hyn.

Bu cyflwyniadau gan Marlies Hoecherl o Capital Law, Emelyne Burkhard o’r Academi Saesneg Celtaidd, Emma Williams o GE Aviation, a Claire Roberts o Golegau Cymru. Roedd pob un yn hynod ysgogol ac ysbrydoledig ac roedd yn ddiddorol clywed sut roedd ieithoedd megis Ffrangeg, Siapaneaidd a Chymraeg yn arwain at yrfaoedd amrywiol a chyffrous.

Ar ôl y cyflwyniadau, roedd gan fyfyrwyr a’u rhieni’r cyfle i siarad â’r arddangoswyr eto am eu profiadau, y tro hwn gyda chacennau blasus o bopty Portiwgaleg leol yn llaw!

Hoffem ddiolch i’r holl sefydliadau a fynychodd y digwyddiad am wirfoddoli eu hamser ac am wneud y digwyddiad yn llwyddiant. Llawer o ddiolch hefyd i Nata & Co am ddarparu’r danteithion melys. Rydym yn gobeithio bod y digwyddiad wedi helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu TGAU, Safon Uwch, gradd a dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.

IEITHOEDD A’CH GYRFA 2017

MYFYRWYR YN CODI £200 DROS LEUKAEMIA CARE

Fel rhan o fis ymwybyddiaeth cancr gwaed, wnaeth Michelle Wong a thîm o fyfyrwyr dod at ei gilydd i godi arian dros Leukaemia Care. Rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod y myfyrwyr wedi llwyddo i godi £200. Dyma gofnod Michelle o’r digwyddiadau:

Penderfynais wirfoddoli i godi arian dros Leukaemia Care oherwydd roeddwn i eisiau rhoi ychydig o fy

amser i achos werth chweil a helpu i wneud gwahaniaeth. Y prif reswm fy mod i’n hedrych ar Leukaemia Care fel elusen mor dda yw oherwydd mae’n cefnogi cleifion, a’u theuluoedd a goruchwylwyr, gyda bywydau sydd wedi’u heffeithio gymaint gan Leukaemia, lymphoma a chleifion gwaed. Mae gwirfoddoli gyda Leukaemia Care wedi bod yn hwylus, maent yn croesawu unrhyw un sy’n dango agwedd cadarnhaol tuag at wirfoddoli, ac maent yn hyblyg iawn o ran y posibiliadau ar gyfer codi arian sy’n gallu cael ei defnyddio.

Gan fod mis Medi yn fis Ymwybyddiaeth Cancr Gwaed, roeddwn i eisiau codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer leukaemia, ac felly, wnes i drefnu Wythnos Ymwybyddiaeth Leukaemia yn y Coleg. Yn amlwg, ni fyddaf wedi gallu trefnu’r wythnos heb y gwirfoddolwyr wnaeth helpu yn y digwyddiadau. Felly, diolch yn fawr iawn i Tyler, Sabina, Mollie, Otilia, Nitzan, Amal, Samah, Coco, Elodie, Humayra, Shahedah, Valeria, Nelusha, Alisha, Taylor, a Dina am eich cyfraniad! Hoffwn i hefyd diolch i bob myfyriwr wnaeth rhoi arian tuag at yr elusen.

Dyma fy nigwyddiad codi arian gyntaf, ac felly does dim syniad gen i beth i ddisgwyl. Gydag awgrymiadau swyddog codi arian yn y gymuned, Sara Johnson, a Mrs Kowalska, wnes i ddod lan ag amrywiaeth o syniadau, a dyna’r wythnos Ymwybyddiaeth Leukaemia yn cael ei chreu. Roedd y digwyddiadau yn cynnwys; gwerthu cacennau, dyfalu nifer y losins mewn jar, dyfalu enw’r tedi, a gwerthu hen lyfrau. Rhaid i mi gyfaddef fod yr holl beth wedi’i drefnu yn gyflym iawn a doedd dim digon o amser i mi hyrwyddo’r digwyddiadau, felly rwy’n falch iawn o’r ffaith ein bod ni wedi llwyddo i godi £198.85 mewn amser mor fyr.

Michelle Wong

Mae meddwl am brifysgol yn 14 mlwydd oed yn swnio’n ychydig cynamserol, ond wrth i ni ddysgu oddi wrth Dr Padley, gall y dewisiadau y mae myfyrwyr eu gwneud ym mlwyddyn 10 ac 11 effeithio ar eu dewisiadau yn ddiweddarach yn eu bywydau.

Ymwelodd Dr. Padley â Choleg Dewi Sant o Goleg Churchill yng Nghaergrawnt er mwyn siarad â’n myfyrwyr ysgol bartner am wneud cais i Brifysgolion Grŵp Russell. Siaradodd am fywyd prifysgol, rhoddodd gyngor ar sut i ddewis eich cyrsiau, a thynnodd sylw at bwysigrwydd ennill graddau cryf mewn TGAU. Rhai pethau a ddysgom am Gaergrawnt • Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â phobl sydd ar

flaen y gad o ran ymchwil a datblygu, a all fod yn gyffrous iawn.

• Bydd gennych fynediad i dros 100 o lyfrgelloedd!• Efallai y bydd gwaith maes yn yr ysgol yn cynnwys taith

dydd i le o ddiddordeb lleol, fodd bynnag, os yw eich maes o ddiddordeb yn fwsogl yn yr Arctig (ac mae’n debyg, mae ar gyfer rhai) yna fe’ch anogir i dreulio ychydig wythnosau ar leoliad, gan ganolbwyntio ar eich maes o ddiddordeb.

Pethau i edrych ymlaen atynt yn y brifysgol • Cwrdd â phobl newydd• Byw rhywle newydd• Cwrdd â phobl sydd â’r un diddordebau â chi• Ymuno â chlybiau a chymryd rhan mewn

gweithgareddau (mae ganddynt Gymdeithas Te, ie, wir!)

Sut ydw i’n ddewis cwrs? • Ystyriwch beth rydych chi’n ei hoffi a beth rydych chi’n

ei wneud yn dda.• Ystyriwch y goblygiadau ariannol ond peidiwch

â phoeni’n ormodol, mae gan Gaergrawnt (a phrifysgolion eraill Grŵp Russell) bwrsariaethau mawr ar gael.

• Ystyriwch eich dewisiadau ôl-TGAU yn ofalus (dyma le mae Coleg Dewi Sant yn dod i mewn - ar ôl i chi wneud cais, bydd cyfle i chi eistedd gyda’n staff a thrafod y dewisiadau cwrs gorau ar gyfer eich nodau gyrfa).

Beth mae prifysgolion ei eisiau? Yn gyntaf, maent am weld bod gennych ddiddordeb mawr yn y pwnc rydych chi wedi’i ddewis. Gellir dangos hyn trwy’ch dewis o Lefelau A, eich datganiad personol, a’ch geirda gan athrawon.

Nesaf, byddant yn edrych ar eich graddau. Mae proffil graddau cryf yn dweud wrth brifysgol eich bod chi’n gweithio’n galed, yn ymroddedig ac yn benderfynol o lwyddo.

Diolch yn fawr iawn i Dr. Padley, ac i’n myfyrwyr Corpus Christi a Mary Immaculate am fore mor ddiddorol.

MAE GAN GAERGRAWNT 100 O LYFRGELLOEDD

A MWY O BETH DYSGOM NI’I YN YSTOD DARLITH DR. PADLEY

GWOBRAU CWIS MATHEMATEG FLYNYDDOL PRIFYSGOL DE CYMRU

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod tîm Dewi Sant wedi dod yn drydydd yn y Cwis Mathemateg flynyddol, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol De Cymru. Roedd yn rhaid i fyfyrwyr fynd i’r afael ag amrywiaeth o bosau mathemategol, gan gystadlu am gwpanau a ddyfarnwyd i’r tri thîm uchaf. Daeth tîm Dewi Sant, Aishwaria Benny, Christian Evangelista, Ieuan Reed, Gordon Tsang ac Emi Ortiz Mayen yn drydydd, gan golli allan ar le cyntaf gan un cwestiwn olaf.

SKILLS CYMRU 2017Ym mis Hydref, wnaeth Coleg Dewi Sant arddangos yn Skills Cymru Caerdydd am y tro cyntaf. Skills Cymru yw digwyddiadau gyrfaoedd, swyddi, sgiliau a phrentisiaethau mwyaf Cymru. Mae’r digwyddiadau wedi’u hanelu at fyfyrwyr ym mlynyddoedd 10-13 a’u rhieni. Fe wnaethom arddangos ochr yn ochr â dwsinau o gwmnïau a sefydliadau addysgol eraill, a siaradom â channoedd o fyfyrwyr am eu dewisiadau chweched dosbarth.

Mynychodd rhai o’n myfyrwyr ni hefyd y digwyddiad, gan gymryd y cyfle i siarad â phrifysgolion a chyflogwyr am yr opsiynau sydd ar gael iddynt ar ôl Dewi Sant.

Page 4: New Coleg Catholig Dewi Sant - CANLYNIADAU SAFON UWCH YN … · 2017. 11. 9. · Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College Hydref 2017 YN

ST DAVID’S CATHOLIC COLLEGE SPRING 2017 NEWSLETTER6 7

Mae myfyriwr Chweched Uchaf Coleg Dewi Sant, Emily Stradling, yn dathlu derbyn ysgoloriaeth lawn i brifysgol Mercer yn Georgia.Ar ôl haf llwyddiannus yn chwarae i dîm dan-18 Prydain, wnaeth Emily dderbyn gwahoddiad i ymweld â Phrifysgol Mercer ble wnaeth hi dderbyn ysgoloriaeth lawn i chwarae pêl-fasged adran 1 yn 2018.

Mae Emily nawr yn barod i symud i America blwyddyn nesaf ar ôl cwblhau ei lefelau A yma yng Ngholeg Dewi Sant.

“Mae’r cynnig o ysgoloriaeth yn deimlad anhygoel ac un rwyf yn falch iawn i dderbyn” meddai Emily.

“Mae pêl-fasged wedi bod yn gamp sy’n agos i fy nghalon ond mae fy rhieni bob amser wedi pwysleisio pwysigrwydd addysg wych hefyd. Mae chwarae pêl-fasged wedi bod o fudd pendant i mi ar yr adeg yma pan mae pobl fy oedran i yn ymgeisio i’r brifysgol oherwydd mae’n ychwanegiad i fy sgiliau.

“Mae ysgoloriaeth lawn i unrhyw le yn wych, ond i allu parhau i dyfu fel chwaraewr yn y gamp rwy’n ei charu yn rhywbeth arall yn gyfan gwbl. Dydw i ddim yn hollol sicr am fy llwybr yn y dyfodol, ond rwyf yn bwriadu manteisio’n llawn ar y cyfle i ragori ym mhêl-fasged ac i weld pa mor bell allaf fynd.”

Mae gan Emily proffil academaidd cryf yn ogystal ac mae hi’n aelod o’r Rhaglen Anrhydedd yng Ngholeg Dewi Sant sy’n cynnwys y 10% uchaf o fyfyrwyr sy’n llwyddo’r gorau yn academaidd. Mae Emily yn astudio tair gwrs Lefel A ar hyn o bryd a Bagloriaeth Cymru wrth ochr ymarfer chwe diwrnod yr wythnos.

Dywed Emily: “Heblaw am bêl fasged, rwy’n gobeithio astudio peirianneg fiofeddygol. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf rwyf wedi astudio Mathemateg, Dylunio Cynnyrch a Bioleg a theimlaf fod y cwrs yna yn plethu’r pynciau yma’n berffaith.

“Hoffwn gael effaith cadarnhaol ar fywydau pobl sydd mewn angen a fy mwriad yw creu rhywbeth bydd yn newid bywyd pobl anabl.”

Dywed ein Pennaeth, Mark Leighfield:

“Rydym yn falch iawn dros Emily a phopeth mae hi wedi cyflawni, yn academaidd a thrwy bêl-fasged. Mae hi’n fyfyriwr arbennig ac mae hi’n haeddi’r ysgoloriaeth yma a bydd yn sicr yn gam cyffroes iawn iddi wrth adael y Coleg blwyddyn nesaf.

“Fel Coleg, rydym yn falch iawn i ddarparu gymaint o gefnogaeth ag sy’n bosib i’n myfyrwyr, gan helpu i annog talentau unigolion a’i helpu i gyrraedd y gorau gallant ar gyfer eu dyfodol.

“Mae gweld y canlyniadau yma yn dod yn realiti i Emily yn wobr go iawn.”

CYLCHLYTHYR HYDREF 2017 COLEG CATHOLIG DEWI SANT

MYFYRIWR COLEG DEWI SANT YN ENNILL YSGOLORIAETH I BRIFYSGOL ENWOG AMERICANAIDD

AS LLAFUR CYMRU & MYFYRWYR ANRHYDEDD YN ATEB AR DDIFFYGIAD GWYBODAETH WLEIDYDDOL CYMRU

Ar 23ain Hydref, gwahoddwyd yr Aelod Seneddol Llafur lleol, Jenny Rathbone, i mewn i’r Coleg gan grŵp o’n myfyrwyr Anrhydedd fel rhan o’u canolfan newydd Cyfryngau Gwleidyddol Annibynnol newydd o’r enw ‘The Beacon’.

Nod y ddadl, a rhan o nod eu hallbwn cyfryngau newydd, oedd mynd i’r afael â diffyg gwybodaeth wleidyddol Cymru.

Cadwch lygad ar sut mae eu prosiect yn datblygu trwy eu dilyn ar Trydar: @thebeaconwales

MYFYRWYR YN GWIRFODDOLI YN ‘RAINBOW RUN’ BLYNYDDOL TŶ HAFAN

Fel rhan o’u rhwymedigaethau i’r Rhaglen Crefydd a Bywyd yma yng Ngholeg Dewi Sant, anogir ein holl fyfyrwyr i gymryd rhan mewn o leiaf 22 awr o wirfoddoli bob blwyddyn. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr fod yn aelodau gweithredol o’u cymuned, trwy ymgysylltu â digwyddiadau a gweithgareddau lleol.

Gwnaeth grŵp o’n myfyrwyr wirfoddoli i fod yn stiwardiaid yn Rainbow Run Tŷ Hafan ar draeth Coney ym Mhorthcawl. Dangoswyd y rhedegwyr gyda phaent aml-liw bywiog ym mhob man gwirio cilomedr, wrth iddynt wneud eu ffordd o amgylch y cwrs 5km.

Cynhaliwyd y digwyddiad, yn agored i unrhyw un pump oed a hŷn, i godi arian ar gyfer Tŷ Hafan, hosbis plant sy’n cefnogi plant ag amodau cyfyngu ar fywyd, a’u teuluoedd, ledled Cymru. Cymerodd dros 1,300 o bobl ran a chodi tua £50,000.

CYLCHLYTHYR HYDREF 2017 COLEG CATHOLIG DEWI SANT

Page 5: New Coleg Catholig Dewi Sant - CANLYNIADAU SAFON UWCH YN … · 2017. 11. 9. · Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College Hydref 2017 YN

8 CYLCHLYTHYR HYDREF 2017 COLEG CATHOLIG DEWI SANT

Gweithdai Marchnata Millennial - Modelau rôl Syniadau Mawr GymruWrth baratoi ar gyfer Her Marchnata’r Mileniwm, wnaeth dau ddosbarth ar wahân cael gweithdai gan ddau fodel rôl, Sharon Williams ac Oliver Page. Roedd y gweithdai hyn yn cynnwys pynciau megis deall y cymysgedd marchnata, trosolwg o lwyfannau digidol a defnyddio’r llwyfannau digidol ar gyfer marchnata.

Cofrestriadau Syniadau Mawr GymruRydym yn falch iawn o gyhoeddi bod y myfyrwyr canlynol wedi ymuno â syniadau mawr Gymru’r mis hwn: Mosab Bechit, Sabina Islam, Omar Khan ac Azizul Islam. Edrychwn ymlaen at glywed popeth am eu syniadau busnes a gweld lle mae’r syniadau hyn yn eu cymryd!

Cyfarfod Brecwast BusnesMis yma, mae ein hyrwyddwr Menter wedi cael y cyfle i fynychu cyfarfodydd Brecwast Busnes. Dywed Mrs Wigley: “Rwy’n ffodus iawn i allu mynychu’r cyfarfodydd yma er mwyn fy helpu i ddatblygu perthynas rhwng y Coleg a busnesau. Mae adeiladu perthnasau wyneb yn wyneb yn llawer mwy cynhyrchiol na dros y ffôn gan ei bod yn rhoi’r cyfle i drafod yr holl waith sy’n digwydd o fewn menter yng Ngholeg Dewi Sant ac yn torri’r rhwystrau rhwng addysg a’r byd go iawn.“

CYLCHLYTHYR HYDREF 2017 COLEG CATHOLIG DEWI SANT 9

Ffair y GlasUnwaith eto, roedd ffair y glas yn llwyddiant mawr. Cafodd Coleg Dewi Sant gefnogaeth y modelau rôl wych Justin Maunder ac Annette Gee i helpu i hyrwyddo Menter yn y Coleg yn ogystal â’r chweched uchaf sydd wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau a wnaed trwy gydol y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Siaradwyd â chyfanswm o 191 o fyfyrwyr am fenter.

Roedd Myfyriwr Lefel A, Nitzan Baybus, yn gwirfoddoli ar y stondin a rhoddodd ei chyfrif i ni o’r digwyddiad:

Ar Fedi 6ed, yn Ffair y Glas Coleg Dewi Sant, cefais y cyfle i ddweud wrth fyfyrwyr

newydd am y gweithgareddau menter sydd ar gael iddynt. Roeddwn i’n gallu trafod hyn o’m profiad personol fy hun; fel rhywun a gymerodd ran mewn rhai o’r gweithgareddau’r llynedd.

Un o’r pethau mwyaf cofiadwy wnes i gymryd rhan ynddo oedd Trading Places, cwrs tri diwrnod wedi’i anelu at ddysgu sut i greu busnes eich hun. Wnaethom dreulio’r ddau ddiwrnod cyntaf yn mynd dros yr hyn sydd angen ei wneud cyn agor busnes; yna fe wnaethom roi ein syniadau i’r panel, cynnal cyfarfodydd busnes a gweithio ar sicrhau y bydd ein busnes yn ennill arian. Ar y trydydd diwrnod wnaethom ni rheoli ein busnes, sef siop, ac roedd yn gystadleuaeth rhwng y timoedd i weld pwy fyddai’n gwneud y mwyaf o elw.

Rwy’n credu bod y gweithgareddau menter yn gyfle gwych i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn rheoli eu hunain oherwydd eu bod yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi, yn gymdeithasol ac yn ariannol ac meant yn rhoi trosolwg gwych i chi o’r hyn i’w wneud i gyrraedd yno gyda gwthiad tuag at eich nod.

Datblygu siop y myfyrwyrMae hon yn fenter newydd gyda’r myfyrwyr yn datblygu a rhedeg siop fyfyrwyr eu hunain. Mae gan y myfyrwyr eu Prif Swyddog Gweithredol eu hunain ac maent wrthi’n datblygu tîm a fydd yn rhedeg y siop, gyda nwyddau y maent wedi’u harchebu, wrth wneud elw. Ar hyn o bryd mae’r siop yn y dyddiau cynnar ac rydym yn gobeithio lansio’r siop ym mis Hydref ar ôl rhannu’r rolau a’r cyfrifoldebau rhwng y myfyrwyr sydd wedi gwirfoddoli i redeg y siop.

MEN

TER – UCH

AFBW

YNTIA

U M

EDI

Cynhadledd IEECEleni, oherwydd cefnogaeth ariannol gan Hyrwyddwr Menter Llywodraeth Cymru, roedd Mrs Wigley yn gallu mynychu Cynhadledd Addysgwyr Menter Ryngwladol.

“Thema cynhadledd eleni oedd: ‘Galluogi Menter i Bawb’ gyda’r brif thema i helpu i ddatblygu sgiliau menter a mentergarwch i bawb, gan alluogi mwy o amrywiaeth ymhlith y rhai sy’n ymgysylltu â menter.”

Digwyddiadau MyfyrwyrDros y tymor diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi bod yn rhan o nifer fawr o weithgareddau menter, gyda digon i ddod cyn ac ar ôl y Nadolig!

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys: Gweithdy Chwaraeon, Darlithoedd Syniadau Mawr Gymru, Gweithdy RASMA Model Rôl, Defnyddio Pŵer Technoleg Ddigidol mewn Busnes, a llawer mwy. Diolch yn fawr iawn i Lywodraeth Cymru sy’n gwneud ein holl weithgareddau menter yn bosib.

Wnaeth un o’n cyn-fyfyrwyr hefyd cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Honda ‘Champion for Change’; llongyfarchiadau mawr i Rhys Payne.

Page 6: New Coleg Catholig Dewi Sant - CANLYNIADAU SAFON UWCH YN … · 2017. 11. 9. · Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College Hydref 2017 YN

10 CYLCHLYTHYR HYDREF 2017 COLEG CATHOLIG DEWI SANT 11

MEN

TER – UCH

AFBW

YNTIA

U M

EDI

YSGOLION A CHOLEGAU LLEOL YN UNO I DDATBLYGU ‘MODEL CENHEDLOEDD UNEDIG’ CYNTAF COLEG DEWI SANT

Ym mis Mehefin 2017, cynhaliodd Coleg Dewi Sant ei Model Cenhedloedd Unedig cyntaf erioed! Mae Model Cenhedloedd Unedig (MCU) yn efelychiad academaidd o’r Cenhedloedd Unedig (CU) go iawn. Roedd 53 o fyfyrwyr o Goleg Dewi Sant, Coleg Sant Ioan, Ysgol Dyffryn Taf, ac Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Illtyd cynrychioli 25 o wledydd y Cenhedloedd Unedig, a 10 o fyfyrwyr yn gadeiryddion. Ymdriniodd y cynghorau â materion cyfoes, gan roi syniad i’r cynadleddwyr am y cymhlethdod sy’n ymwneud â materion megis anfasnach niwclear a thlodi mewn gwledydd sy’n datblygu. Nod pob cyngor oedd creu datrysiad, neu ddatrysiadau i’r broblem ac yna ysgrifennu’r penderfyniad yn debyg i ddogfen go iawn y Cenhedloedd Unedig. Pleidleisiwyd ar y penderfyniadau hyn gan y cyngor cyfan, gyda mwyafrif pleidleisio o 51% yn ofynnol er mwyn i’r penderfyniad gael ei basio. Dim ond un penderfyniad y gallai’r cynghorau ei basio, sy’n golygu bod yn rhaid i’r cynadleddwyr gyfaddawdu i gyfuno syniadau.

Yn ystod y Seremoni Cau, cyflwynodd cadeiryddion y cynghorau grynodeb o benderfyniad eu cyngor i fwrdd cyfan yr MCU. Roedd yn ddiddorol gweld sut roedd y cynrychiolwyr wedi ymdrin â’u problem, a sut yr oedd barn wleidyddol y gwahanol wledydd wedi’u dehongli. Roedd yr atebion a ddyfeisiwyd, megis addasu lleoliad dosbarthiad cymorth i ffoaduriaid, yn feirniadol ac yn soffistigedig.

Roedd y Model Cenhedloedd Unedig yn gyfle

gwych i ddadlau, ac i ymgysylltu â gwleidyddiaeth o safbwynt cynrychiolydd cenedl. Roedd yna hefyd ddarlithoedd, a gweithdy rhyngweithiol yn trafod polisïau go iawn yr Arlywydd Trump. Ni all y digwyddiad hwn fod yn llwyddiant heb gefnogaeth ein tîm gwych o wirfoddolwyr (a wnaeth sicrhau bod i ystafelloedd y cyngor edrych yn wych!), ein hathrawon gwych, ein darlithwyr gwych, a’r cynrychiolwyr a’r cadeiryddion a wnaeth y dadleuon mor ddiddorol. Diolch!

Enwau a theitlau’r trefnwyr:

Jazli Johari, Ysgrifennydd CyffredinolMadeleine Orla Davis, Cyfarwyddwr Gweithredol

Cynghorau a’u pynciau cyfatebol:

Cynulliad Cyffredinol 1: Dosbarthiad cymorth i helpu ffoaduriaid o Syria

Cyngor Diogelwch: Cyfyngu a diweithdodi arfau niwclear

Cyngor Amgylcheddol: Ynni cynaliadwy i ymdrin ag allyriadau carbon

Y Cyngor Cyllid: Defnyddio microfinansiad i fynd i’r afael â thlodi eithafol

Cyngor Hawliau Dynol: Diddymu llafur plant mewn cydweithrediadau rhyngwladol

PROFIAD CYNRYCHIOLYDDWnes i lawer o ymchwil cefndirol i’m gwlad ddyranedig sef Japan cyn imi fynd i Fodel y Cenhedloedd Unedig, gan roi darlun newydd i mi i’r wlad.

Pan wnes i gymryd rhan yn y Model Cenhedloedd Unedig, dysgais lawer o bethau newydd, megis sut mae’r dadleuon yn y Cenhedloedd Unedig yn cael eu trefnu, a pha mor galed yw bodloni pawb. Fe wnes i fynychu’r digwyddiad gyda syniad o sut i ddatrys fy mhroblem (a neilltuwyd), sef Anfasnachu Niwclear. Pan gyrhaeddom y ddadl, sylweddolais nad oedd un syniad yn bodloni’r holl wledydd oherwydd nad oedd pawb yn dod o’r un safbwynt. Daeth pawb a syniadau i’r amlwg nad oeddent yn berthnasol i’m gwlad, ond roeddent yn gwneud synnwyr perffaith yn y tymor hir.

Fel rhan o’r Model Cenhedloedd Unedig, wnes i wisgo hefyd fel cynrychiolydd fy ngwlad mewn kimono. Wnes i hyn oherwydd ei fod yn gwneud i mi deimlo bod y profiad cyfan yn fwy realistig.

Trwy’r darlithoedd a’r dadleuon a gynhaliwyd trwy gydol y dydd, teimlais fy mod wedi dysgu llawer iawn am y Model Cenhedloedd Unedig a’r modd y caiff ei drefnu a’i redeg. Roedd hefyd yn ddiddorol iawn gweld y ddeinamig rhwng y cynghorau eraill, yn ystod eu cyfarfodydd, a phan siaradom ni i gyd am yr hyn a wnaethom trwy’r cyflwyniadau PowerPoint terfynol.

Yn gyffredinol, roedd hwn yn brofiad gwych a byddwn yn annog unrhyw un sy’n cael cyfle i gymryd rhan yn y dyfodol, i wneud hynny.

Bethan LinbournCynrychiolydd ar gyfer Japan ar y Cyngor Diogelwch

DAEARYDDWYR A2 YN DYSGU Y TU ALLAN I’R DOSBARTH

Ar ddiwrnod heulog hwyliog ym mis Medi, aeth ein Daearyddwyr A2 i Ferthyr Mawr i ymgymryd â gwaith maes fel rhan o’u hastudiaethau Safon Uwch. Dyluniwyd y daith i helpu’r myfyrwyr i ddatblygu medrau a chymwyseddau allweddol yn barod ar gyfer eu harholiadau Safon Uwch. Mae Coleg Dewi Sant yn cynnig llawer o deithiau cwrs trwy gydol y flwyddyn. Cyfeiriwch at ein prosbectws neu siaradwch ag aelod o staff i gael gwybod mwy am yr hyn sydd ar gael yn y pynciau rydych chi’n gobeithio eu hastudio.

CYLCHLYTHYR HYDREF 2017 COLEG CATHOLIG DEWI SANT

Page 7: New Coleg Catholig Dewi Sant - CANLYNIADAU SAFON UWCH YN … · 2017. 11. 9. · Coleg Catholig Chweched Dosbarth Dewi Sant St David’s Catholic Sixth Form College Hydref 2017 YN

12 CYLCHLYTHYR HYDREF 2017 COLEG CATHOLIG DEWI SANT

DYDD YM MYWYD MYFYRWYR COLEG DEWI SANT

bore Mae fy ngwers gyntaf am 9:15. Seicoleg sydd bore ‘ma ac mae wedi’i leoli yn y Rhandy, sef cartref pynciau gwyddoniaeth gymdeithasol a Hanes yng Ngholeg Dewi Sant. Rwy’n cyrraedd y coleg yn gynnar felly rwy’n penderfynu trin fy hun i frecwast o’r ffreutur. Rwy’n caru’r coffi a’r croissants yma!

Mae fy ngwers Seicoleg yn cynnwys ymchwiliadau ac arbrofion seicolegol o gwmpas y coleg, a chwarae gemau diddiwedd o Kahoot. Mae’r oriau’n hedfan ac mae’n amser egwyl yn barod! Rwy’n penderfynu cwrdd â’m ffrindiau yn y LRC (Canolfan Adnoddau Dysgu) er mwyn siarad, chwarae gemau bwrdd a dal i fyny ar waith cyn fy ngwers nesaf, Saesneg.

prynhawn

G y d a g ystafell ddosbarth gyda golygfa mor wych, ni allaf erioed diflasu ar Saesneg! Rwy’n treulio dwy awr o fy ngwers yn dadansoddi drama ddiddorol am y rhyfel a dysgu technegau ysgrifennu newydd.

Mae fi a’m ffrindiau yn penderfynu cerdded i Heol Wellfield yn ystod cinio. Mae’r stryd yn llawn llefydd rhad a blasus i’w fwyta a dim ond 10 munud o gerdded o’r Coleg.

Ar ôl ein nwdls blasus, penderfynwn eistedd ar y tir hamdden ger Heol Wellfield. Mae’n ddiwrnod cynnes braf i eistedd ar y cae a siarad am yr hyn sydd wedi digwydd yn ein dydd hyd yn hyn.

Fy ngwers olaf yw Bagloriaeth Cymru. Ar ôl wythnosau o ymchwil, rwyf wedi dod o hyd i ddatrysiad i fater byd-eang ac rwyf yn ei gyflwyno fel araith i’m dosbarth. Rwy’n gadael yn gynnar oherwydd cwblhau fy ngwaith yn dda. Rwy’n penderfynu mynd i siopa gyda fy ffrindiau i ddathlu gorffen y diwrnod ysgol - Mae’r coleg wedi ei leoli ym Mhen-y-lan ac mae ganddi gysylltiadau bysiau dibynadwy ac aml am daith gyflym i’r dref! Gobeithio y gallaf ddod o hyd i rai bargeinion wrth ddefnyddio fy ngherdyn adnabod myfyriwr - clywais fod gan Topshop gostyngiadau da i fyfyrwyr!I weld mwy o’r fath, ewch i’n blog myfyrwyr newydd!

https://stdavidscollege.wixsite.com/studentblog

Zara Pereira