Upload
others
View
2
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
1
Heneiddio’n Dda yng
Nghymru
Adroddiad ar Gynnydd Cam Dau'r
Cynllun Gweithredu
Mehefin 2017
Sicrhau bod Cymru’n wlad dda i fynd yn
hŷn ynddi i bawb
2
Heneiddio’n Dda yng Nghymru
Adeiladau’r Cambrian // Sgwâr Mount Stuart // Caerdydd // CF10 5FL
029 2044 5030
http://www.ageingwellinwales.com/wl/home
E-bost: mailto:[email protected]
Twitter: @HeneiddioynDda
3
Rhagair
Ers ei lansio’n swyddogol ym mis Hydref 2014, mae
rhaglen pum mlynedd Heneiddio'n Dda yng
Nghymru wedi mynd o nerth i nerth. Dechreuodd
Gam Dau Heneiddio'n Dda ym mis Hydref 2016 ac
mae'r adroddiad hwn ar gynnydd y Cynllun
Gweithredu yn nodi sut yr ydyn ni'n gweithio gyda’n partneriaid strategol
i symud ymlaen â'r gweithredu hwn.
Rwyf yn falch gyda’r cynnydd a wnaed ar bob lefel o Heneiddio’n Dda.
Ar y lefel Ewropeaidd, mae’r statws Safle Cyfeiriol 4* yn sefydlu Cymru
fel un o’r gwledydd enghreifftiol yn Ewrop, drwy’r Bartneriaeth Arloesi
Ewropeaidd, ar Heneiddio’n Iach a Chadw’n Heini (EIP-AHA). Ar y lefel
strategol, mae partneriaeth sy’n tyfu o hyd (gyda dros 60 ar hyn o bryd)
yn cynnwys partneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac
yn gynyddol, o'r sector preifat, yn gweithio ar weithredu ar draws y pum
thema flaenoriaeth.
Ar y lefel Awdurdod Lleol, mae cydweithwyr yn gweithio ar eu cynlluniau
Heneiddio’n Dda lleol ac yn gwneud cynnydd da mewn cydweithrediad â
phartneriaethau / asiantaethau eraill a phobl hŷn eu hunain. Ar y lefel
rhwydweithiau cymunedol, mae dros 1,300 o unigolion, gwirfoddolwyr a
500+ o grwpiau a sefydliadau bellach yn rhan o’r rhaglen Heneiddio'n
Dda ac yn gweithio ar eu hatebion cymunedol eu hunain i helpu i rymuso
a galluogi pobl hŷn i fyw bywydau iach a heini yn eu cymunedau.
Mae Heneiddio’n Dda hefyd yn cyd-fynd ag effaith deddfwriaeth bwysig
fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Fel llwyfan allweddol i
ddod â phartneriaid at ei gilydd i weithio tuag at ganlyniadau ataliol a
chynaliadwy i bobl o bob oed, rwyf hefyd wedi ymgysylltu â’r Byrddau
Gwasanaethau Lleol (PSB) ac wedi fy nghalonogi bod themâu
Heneiddio'n Dda allweddol wedi eu cynnwys yn eu hasesiadau drafft o
lesiant lleol, bod angen gwneud penderfyniadau gyda, ac nid dros, pobl
leol, a phwysigrwydd ystyried anghenion ac amgylchiadau pobl hŷn ar
wahân i rai iechyd a gofal cymdeithasol.
4
Yn ogystal, bydd Strategaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer
Pobl Hŷn 2013-23 yn rhoi impetws ychwanegol i waith Heneiddio’n Dda
gan helpu i osod cyfeiriad strategol a sefydlu cymunedau cyfeillgar i oed
ar draws Cymru. Mae blaenoriaethau Heneiddio’n Dda’n parhau i gael
sylw helaeth yn y wasg leol a chenedlaethol gydag ymgysylltu helaeth
yn parhau â gwleidyddion ar bob lefel.
Mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru’n parhau i fod yn fudiad
cenedlaethol ac rwyf wrth fy modd bod unigolion, grwpiau cymunedol,
mentrau cymdeithasol ac ystod eang ac amrywiol o bartneriaid o bob
sector ar draws Cymru yn ei gymeradwyo. Dangosodd y digwyddiadau
‘Dathlu Cymunedau’ ar ddiwedd 2016 y teimlad cadarnhaol, y
brwdfrydedd a’r ysfa sydd gan gydweithwyr i wneud mwy a symud
ymlaen drwy’r dull partneriaeth gyda phobl hŷn. Mae gan bawb rywbeth
i’w gynnig, a thrwy weithio gyda’n gilydd, tynnu sylw at arferion da a
chanfod atebion arloesol, effeithiol a chost isel, gall pawb wneud
cyfraniad sylweddol i iechyd a lles pobl 50+ oed yng Nghymru.
Wrth edrych i’r dyfodol, edrychaf ymlaen at wneud cynnydd pellach gyda
Cham Dau ac adeiladu ar lwyddiant y dull cydweithredol i sicrhau bod
Cymru’n lle da i bobl fynd yn hŷn ynddo i bawb.
Sarah Rochira Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru // Cadeirydd, Heneiddio’n Dda yng Nghymru
5
Llwyddiannau Cam Dau
Llwyddodd Heneiddio’n Dda i gyflawni’r canlynol yn ystod Cam Dau
(mae’r adran ar adroddiad cynnydd y Cynllun Gweithredu’n rhoi mwy o
fanylion am weithredu’r partneriaid strategol):
Ymgysylltu helaeth drwy ddigwyddiadau rhwydwaith ag unigolion,
grwpiau cymunedol a’r sector gwirfoddol a chyhoeddus ar draws
Cymru – i godi ymwybyddiaeth a chreu partneriaethau i weithio
tuag at amcanion Heneiddio’n Dda.
Cynhaliwyd dau ddigwyddiad ‘Dathlu Cymunedau’ llwyddiannus a
phroffil uchel ym Mangor (Tachwedd 2016) a Chaerdydd (Rhagfyr
2016). Denodd y digwyddiadau fwy na 250 o gyfranogwyr a
chymrodd ystod o bartneriaid Heneiddio’n Dda ran drwy
gyflwyniadau, cyfleoedd rhwydweithio a stondinau arddangos.
Mewnbwn i’r Tasglu Atal Codwm cenedlaethol newydd gan Iechyd
Cyhoeddus Darbodus - sy’n adeiladu ar waith Grŵp Cynghori
Arbenigol ar Atal Codwm y rhaglen Heneiddio’n Dda.
Mewnbwn i’r ymgyrch lwyddiannus ar ddechrau Chwefror i godi
ymwybyddiaeth o gwympo, a hyrwyddo’r ymgyrch ‘Sadiwch...i
gadw’n SAFF’ gyda Fferylliaeth Cymunedol Cymru a’u partneriaid.
Mewnbwn i’r Rhwydwaith Diwylliant Cyfeillgar i Oed, gan arwain at
amgueddfeydd ac orielau cyfeillgar i oed a dementia yng Nghymru.
Mewnbwn i strategaethau, adroddiadau a chynlluniau gweithredu
pwysig ar lefel genedlaethol, e.e. Grŵp Arbenigol Llywodraeth
Cymru ar Dai i Bobl Hŷn yng Nghymru a rhaglen Llywodraeth
Cymru ar Sicrhau Cynhwysiant Digidol: Fframwaith Strategol i
Gymru1 2, a chynnwys themâu Heneiddio’n Dda yn rhai o’r
asesiadau drafft o lesiant lleol a baratowyd gan y Byrddau
Gwasanaethau Cyhoeddus3 4 5.
1 http://gov.wales/docs/desh/publications/170213-expert-group-final-report-cy.pdf
2 http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/comm/160316-digital-inclusion-strategic-framework-cy.pdf
3 https://www.ceredigion.gov.uk/SiteCollectionDocuments/CeredigionForAll/HSCWB/asesiad-llesiant-lleol-
ceredigion.pdf 4 http://www.abertawe.gov.uk/asesiadbgc
5http://www.cwmtafhub.org/KMS/dmart.aspx?strTab=PublicDMartComplete&PageContext=PublicDMart&Pag
eType=item&DMartId=105285&breadcrumb_pc=PublicDMartComplete&breadcrumb_pg=search&breadcrumb_pn=dmart.aspx&filter_Status=2
6
Parhau i ehangu’r rhwydwaith Heneiddio’n Dda o dros 1,300 o
unigolion sy’n cynrychioli dros 500 o sefydliadau.
Parhau i gefnogi rhwydwaith Heneiddio’n Dda Gogledd Cymru gan
ddod â phartneriaid allweddol ar draws y rhanbarth at ei gilydd i
weithio ar flaenoriaethau cyffredin ac i nodi arferion da.
Parhau i gefnogi cynlluniau Heneiddio’n Dda y 21 Awdurdod Lleol
6, gan roi cyngor a chymorth i gydgysylltwyr y Strategaeth Pobl
Hŷn a chydweithwyr mewn llywodraeth leol.
Gwaith pellach ar y wefan Heneiddio’n Dda, datblygu compendiwm
ar-lein o adnoddau defnyddiol ac arferion da7.
Cwblhau pum arweinlyfr i godi ymwybyddiaeth a darparu cymorth,
cefnogaeth a gwybodaeth ddefnyddiol: Cymunedau Cefnogi Pobl â
Dementia 8; Cymunedau Cyfeillgar i Oed9; Ymdopi ag Unigrwydd10;
Busnesau Cyfeillgar i Oed11; a sefydlu Clybiau Dysgu
Cymunedol12. Cynhyrchwyd cardiau post Busnes Cyfeillgar i Oed
hefyd fel bod pobl hŷn yn gallu ymgysylltu’n uniongyrchol â
busnesau lleol.
6 Mae Cynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful wedi cynhyrchu Cynllun Heneiddio’n
Dda Ar y Cyd 7 http://www.ageingwellinwales.com/wl/resource-hub
8 http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Pocket-Guide-to-Being-Dementia-Supportive-
cym.pdf 9 http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Creating-Age-Friendly-Communities-cym.pdf
10 http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Loneliness-pocket-guide-cym.pdf
11 http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Age-Friendly-Business-Guide-cym.pdf
12 http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Learning-Club-Guide-cym.pdf
7
Adroddiad ar Gynnydd Cam Dau'r
Cynllun Gweithredu
Cymunedau Cyfeillgar i Oed
Partner(iaid)
Arweiniol
Gweithredu
Creu Cymuned Gyfeillgar i Oed
Awdurdodau Lleol,
WLGA
Gweithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu’r cynigion ar
gyfer creu cymunedau cyfeillgar i oed yn y cynlluniau
Heneiddio’n Dda lleol, ôl-ddilyn eu hymrwymiadau yn
Natganiad Dulyn.
Cynnydd: Mae datblygiadau wedi bod mewn cymunedau ledled Cymru. Er
enghraifft:
- Gwaith pellach i sefydlu Abergwaun a Wdig (Sir Benfro) fel cymunedau
cyfeillgar i oed yn dilyn peilot WHO 13. Mae’r gwaith hwn wedi datblygu’n dilyn
bid y prosiect 'POINT Across Communities’ sy’n annog gwaith pontio rhwng
cenedlaethau a chyfnewid sgiliau bywyd a chyflogaeth rhwng pobl iau a hŷn.
- Yn Sir y Fflint, mae Coed-llai a Phontblyddyn wedi cychwyn ar broses o
ddatblygu cymunedau cyfeillgar i oed. Dyfarnwyd arian gan y Loteri Fawr i
symud ymlaen gyda’r gwaith gan roi hwb ychwanegol i’r gymuned. Daw'r
cyllid o brosiect ehangach i ddatblygu cymunedau cyfeillgar i oed yng nghefn
gwlad Cymru drwy brosiect Doethineb Gwledig Volunteering Matters Cymru14.
CADR, Strydoedd
Byw, Awdurdodau
Lleol
Cyflawni’r arolwg Walkability cyfeillgar i oed ar draws Cymru
gan ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru i ddeall pa mor
hawdd eu cerdded gan bobl yw eu cymdogaeth. Gwerthuso’r
canfyddiadau a nodi pa weithredu sydd i'w gyflawni gydag
Awdurdodau Lleol a phartneriaid allweddol.
13
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Fishguard-Goodwick-Indicator-Report-cym.pdf 14
https://volunteeringmatters.org.uk/news/big-funding-big-project-shaping-rural-communities-support-older-people/
8
Cynnydd: Mae unigolion a chymunedau ar draws Cymru’n cymryd rhan yn yr
arolwg ac yn cyfrannu adborth defnyddiol ar y prif broblemau yn eu hardaloedd.
Bydd y gwaith o werthuso’r ymatebion wedi’i gwblhau erbyn yr Hydref 2017 ac yn
rhoi syniad o ba mor gyfeillgar i oed yw strydoedd Cymru a pha weithredu sydd ei
angen i’w gwneud yn haws eu cerdded.
Volunteering
Matters, Cynghrair
Henoed Cymru,
Cynghrair Pobl
Hŷn Cymru
(COPA),
Awdurdodau Lleol
Bydd Volunteering Matters, mewn partneriaeth â
Chydgysylltwyr Strategaeth yr Awdurdodau Lleol a Chynghrair
Henoed Cymru, yn datblygu Canllaw Cymru ar Ddatblygu
Cymunedau Cyfeillgar i Oed a Set Dangosyddion Cyfeillgar i
Oed ar gyfer Cymru. Mewn partneriaeth â COPA, cyhoeddi
canllaw byr i Gymunedau Cyfeillgar i Oed, llyfrau canllaw ar y
parthau WO a datblygu modelau arfer da ynghyd â chynllun
cydnabyddiaeth i ymgysylltu â phobl hŷn wrth wneud
penderfyniadau i oleuo cynlluniau gweithredu lleol.
Cynnydd: Cyhoeddwyd ystod o ddeunyddiau ac adnoddau newydd yn y Gwanwyn
2017 gan roi peth cyngor a chymorth i unigolion a chymunedau ar sut i ddatblygu
cymunedau cyfeillgar i oed yn eu hardaloedd15 16. Mae cynllun wedi’i ddatblygu i
gydnabod arferion da ar draws Cymru o ran bod yn gyfeillgar i oed. Hefyd, mae’r
Ganolfan Arloesi ar Heneiddio ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyhoeddi OPERAT
(Offeryn Asesu Preswyl Allanol Pobl Hŷn) i fesur pa mor dda y mae eu cymdogaeth
yn cwrdd ag anghenion pobl hŷn, a byddwn yn hyfforddi pobl hŷn ar sut i
ddefnyddio'r offeryn hwn17.
Datblygu Cymuned Gyfeillgar i Oed drwy drafnidiaeth
RNIB Cymru,
Cynghrair Henoed
Cymru
Mae nifer gynyddol o orsafoedd bws a thrên, a llwybrau teithio
heini ar draws Cymru, yn dod yn fwy cyfeillgar i oed fel bod
pobl hŷn, a rhai gyda nam ar eu synhwyrau, yn cael profiad
gwell fel cerddwyr a theithio ar y bws neu'r trên yn dod yn fwy
hygyrch iddynt.
Cynnydd: Caiff ei gydnabod yn gynyddol bod angen i drafnidiaeth gyfeillgar i oed
fod yn flaenoriaeth ar draws Cymru. Mae’r datblygiadau perthnasol yn cynnwys
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu trafnidiaeth hygyrch a chyfeillgar i oed
15
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Creating-Age-Friendly-Communities-cym.pdf 16
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Age-Friendly-Business-Guide-cym.pdf 17
http://www.swansea.ac.uk/cy/canolfan-y-cyfryngau/ymchwil-diweddaraf/offerynnewyddafyddynhelpupoblhniraddioeucymuned.php
9
yn dilyn y cyhoeddiad gan Ysgrifenydd y Cabinet mewn digwyddiad gan Age Cymru
ym mis Rhagfyr 201618 19, ac mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Panel newydd
ar Drafnidiaeth Hygyrch.
Datblygu Cymuned Gyfeillgar i Oed drwy fannau agored ac adeiladau
Awdurdodau Lleol Mae nifer gynyddol o gymunedau, parciau lleol a mannau
gwyrdd ar draws Cymru’n dod yn fwy cyfeillgar i oed. Er
enghraifft, mae’r mannau hyn yn fwy hygyrch fel y gall pobl hŷn
aros yn gorfforol heini, yn cynnwys arwyddion da, toiledau
cyhoeddus boddhaol a digon o feinciau parc. I gefnogi
Awdurdodau Lleol dylid cyhoeddi mwy o ddeunyddiau cyfeillgar
i oed ar strydoedd, mannau gwyrdd a thrafnidiaeth.
Awdurdodau Lleol,
Llywodraeth
Cymru
Mae adrannau cynllunio a Chanllawiau Cynllunio Llywodraeth
Cymru wedi mabwysiadu dull cyfeillgar i oed fel bod pobl hŷn
yn byw mewn ardal fwy cynhwysol a hygyrch a’r
penderfyniadau a wneir yn ystyried eu hanghenion.
Cynnydd: Caiff ei gydnabod yn gynyddol bod angen i gynllunio cyfeillgar i oed fod
yn flaenoriaeth ar draws Cymru. Mae’r datblygiadau perthnasol yn cynnwys
ymgysylltu â chydweithwyr Awdurdod Lleol yn nigwyddiad y WLGA ym mis Ionawr
2017, a’r argymhellion yn adroddiad y Grŵp Arbenigol ar Dai i Bobl Hŷn Cymru20 i
weithio gydag awdurdodau cynllunio lleol i sefydlu cymdogaethau cyfeillgar i oed.
Yn ogystal, cynhyrchwyd cyhoeddiadau newydd cyfeillgar i oed ar strydoedd,
mannau gwyrdd a thrafnidiaeth, i’w cyhoeddi ddiwedd 2017 / dechrau 2018.
Datblygu Cymunedau Cyfeillgar i Oed a Chefnogol o Ddementia drwy
gyfranogiad cymdeithasol, parch a chynhwysiant cymdeithasol
Amgueddfa
Genedlaethol
Cymru, Croeso
Cymru, Cadw,
Cyngor
Celfyddydau
Cymru,
Mae nifer gynyddol o orielau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac
adeiladau chwaraeon lleol yn dod yn gyfeillgar i oed a
chefnogol o ddementia fel eu bod, ynghyd â digwyddiadau
diwylliannol a safleoedd treftadaeth, yn deall anghenion pobl
hŷn yn well, yn gynhwysol i oed ac yn rhoi cymorth perthnasol.
18
http://gov.wales/newsroom/transport/2016/141214infra/?skip=1&lang=cy 19
http://www.ageuk.org.uk/cymru/latest-news/age-friendly-transport-event/ 20
http://gov.wales/docs/desh/publications/170213-expert-group-final-report-cy.pdf
10
Cymdeithas y Prif
Lyfrgellwyr,
Chwaraeon Cymru
Cynghrair Henoed
Cymru,
Ymddiriedolaeth
Gofalwyr Cymru
Mae nifer gynyddol o fanciau, siopau a fferyllfeydd cymunedol
lleol yn dod yn fwy cyfeillgar i oed ac yn gallu deall ac ymateb
yn well i anghenion pobl hŷn gyda dementia, a’u gofalwyr, a
hefyd pobl sy’n byw gyda nam ar eu synhwyrau, drwy roi
cymorth perthnasol, gwasanaeth cynhwysol a thrwy eu cyfeirio
ymlaen yn briodol at wasanaethau eraill.
COPA Datblygu dull o ymgysylltu fel bod pobl hŷn yn gallu ymgysylltu
a siarad â busnesau lleol am fod yn gyfeillgar i oed.
Cynnydd: Datblygu ac ehangu’r Rhwydwaith Diwylliant Cyfeillgar i Oed, wedi’i
arwain gan Age Cymru, Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, a
lansiwyd yn Ebrill 2017. Cyhoeddwyd canllaw ar sut i fod yn fusnes cyfeillgar i oed
yn y Gwanwyn 2017 gan roi cyngor a chymorth ymarferol i fusnesau ar fod yn fwy
cyfeillgar i oed21. Hefyd yn y Gwanwyn 2017 cyhoeddwyd dull o ymgysylltu22fel bod
pobl hŷn yn gallu cysylltu’n uniongyrchol â busnesau.
21
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Age-Friendly-Business-Guide-cym.pdf 22
http://www.ageingwellinwales.com/wl/business
11
Cymunedau Cefnogol o Ddementia
Partner(iaid)
Arweiniol
Gweithredu
Datblygu Cymuned Gefnogol o Ddementia ar lefel leol
Awdurdodau
Lleol, WLGA
Gweithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu’r cynigion i greu
cymunedau cefnogol o ddementia yn y cynlluniau Heneiddio’n
Dda lleol.
Cynnydd: Mae datblygiadau wedi bod mewn cymunedau ar draws Cymru. Er
enghraifft:
- Mae Cyngor Ynys Môn yn gweithio gyda Croesffyrdd Cymru i ddarparu
gwasanaethau pwrpasol wedi eu teilwrio i bobl sy’n byw gyda dementia.
Mae prosiect peilot yn profi model comisiynu cymunedol lle mae’r Awdurdod
Lleol yn cyflawni rôl hwyluso i helpu Mentrau Cymdeithasol a Chynghreiriau
Cymunedol i gomisiynu gwasanaethau’n uniongyrchol gan ddarparwyr gofal.
- Yn Llanelli mae partneriaid wedi adeiladu ar lwyddiant prosiectau cymunedol
drwy, er enghraifft, sefydlu marchnad gyfeillgar i ddementia gyntaf Cymru sef
‘Bywydau Bodlon’, gwasanaeth comisiynu seiliedig ar ganlyniadau. Mae’r
prosiect yn cynnwys cydgysylltwyr gwydnwch cymunedol sy’n gweithio gyda
darparwyr gofal cartref i gefnogi lleoliadau cyfeillgar i ddementia ar sail
anghenion a buddiannau’r unigolion.
- Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae Grŵp Iechyd a Llesiant staff y Cyngor
wedi noddi sesiynau ymwybyddiaeth o ddementia Alzheimer’s Society
Cymru i bob aelod o staff, gan fod llawer yn ofalwyr, neu'n adnabod rhywun
sy'n byw â dementia efallai, ac fel cyflogwr mawr mae hyn wedi codi
ymwybyddiaeth ymysg y gymuned.
- Mae Gwasanaeth Hamdden Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am redeg y cynllun
DementiaGo arloesol, sydd â'r nod o wneud gwahaniaeth corfforol a
meddyliol i'r rheini sy'n byw â dementia, a'r rheini sy'n gofalu amdanynt.
Mae'r cynllun yn rhedeg mewn pum canolfan ar hyn o bryd, ac mae
cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a
chymdeithasol yn y canolfannau.
- Mae Abertawe’n gweithio tuag at ennill statws fel dinas gyfeillgar i ddementia
ac mae gwaith tebyg yn cael ei wneud i ddatblygu’r Barri fel cymuned
gefnogol o ddementia (Bro Morgannwg).
12
- Yn 'rhanbarth' Gwent, mae'r pum Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus23, drwy
gysylltiadau â'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, yn gweithio gyda'i gilydd i
fabwysiadau achrediad sy'n ystyriol o ddementia drwy Alzheimer’s Society
Cymru. Mae'r achrediad yn cynnwys staff yn cael hyfforddiant
ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia, dynodi prif hyrwyddwr yn y sefydliad, a
hyrwyddo arferion sy'n ystyriol o ddementia. Hyd yma, mae 11,000 o bobl
wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia, ac mae 200 o
bobl wedi hyfforddi fel hyrwyddwyr. Hefyd, Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff
Sant yng Nghasnewydd yw'r gyntaf i gael ei hachredu fel ysgol ystyriol o
ddementia yng Nghymru.
Y Gymdeithas
Alzheimer
Cyflwyno canllaw Heneiddio’n Dda ar gymunedau cefnogol o
ddementia, ymgysylltu ag unigolion, gwirfoddolwyr a grwpiau
cymunedol lleol ar draws Cymru i roi cyngor a chymorth
ymarferol ar sefydlu cymuned gefnogol o ddementia leol.
Cynnydd: Mae unigolion a chymunedau ar draws Cymru wedi dangos cryn
ddiddordeb yn y canllaw24. Cynhaliwyd digwyddiadau rhwydwaith Heneiddio’n Dda
pellach ar gymunedau cefnogol o ddementia, y rhai diweddaraf yn Ninbych a
Phen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2017.
Datblygu Cymuned Gefnogol o Ddementia gyda dull clir, strategol a
chydgysylltiedig ar lefel genedlaethol
Llywodraeth
Cymru
Datblygu Strategaeth Ddementia Genedlaethol newydd gyda
chamau gweithredu mesuradwy clir ar gyfer ystod o bartneriaid
fel bod Cymru’n lle gwell ar gyfer pobl hŷn sy’n byw gyda
dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Cynnydd: Cyhoeddwyd y strategaeth ddrafft a pharhaodd yr ymgynghori arni tan
ddechrau Ebrill 201725. Disgwylir cyhoeddi’r strategaeth derfynol yn yr Hydref. Yn
'rhanbarth' Gwent, mae'r Bwrdd Dementia rhanbarthol wedi llunio strategaeth
dementia ddrafft er mwyn nodi sut bydd argymelliadau'r strategaeth dementia
genedlaethol yn cael eu cyflawni ar gyfer trigolion Gwent. Bydd y strategaeth
ranbarthol, a gefnogir gan Aelodau’r Cynulliad lleol, yn cynnwys cynllun gweithredu
yn nodi'r camau gweithredu i'w cyflawni, a bydd y strategaeth ranbarthol yn cael ei
23
Y pum Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw: Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy. 24
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Pocket-Guide-to-Being-Dementia-Supportive-cym.pdf 25
https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/drafft-strategaeth-ddementia-genedlaethol
13
lansio ar y cyd â'r strategaeth dementia genedlaethol.
Datblygu Cymuned Gefnogol o Ddementia sy’n fwy diogel a mwy ymwybodol
o’r materion cymdeithasol sy’n effeithio ar bobl sy’n byw gyda dementia
Comisiynwyr
Heddlu a
Throseddu
Mae ‘Protocol Herbert’26 Heddlu Gwent wedi’i ddatblygu ar
draws holl heddluoedd Cymru i ddod o hyd yn gynt i bobl hŷn
sy’n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal sy’n mynd ar goll.
Cynnydd: Mae Heddlu Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy, wedi rhedeg cynllun peilot i geisio ‘arbed munudau ac achub
bywydau' pan fydd preswylwyr cartrefi gofal yn mynd ar goll27. Mae Heddluoedd
Dyfed Powys a De Cymru hefyd yn cyflwyno’r cynllun yn eu hardaloedd hwy.
Datblygu Cymuned Gefnogol o Ddementia wrth i nifer gynyddol o unigolion
ddysgu am a chodi ymwybyddiaeth o ddementia er mwyn cefnogi pobl sy'n
byw gyda dementia'n well
Y Gymdeithas
Alzheimer
Mae’r prosiect Ffrindiau a Phencampwyr Dementia’n parhau i
ehangu ar draws Cymru fel bod gan unigolion a sefydliadau
ddealltwriaeth well o ddementia ac yn cael eu hannog i
weithredu’n lleol i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl sy’n
byw gyda dementia, a’u gofalwyr.
Cynnydd: Mae nifer gynyddol o unigolion a sefydliadau’n cael eu cydnabod fel
Ffrindiau Dementia. Er enghraifft, derbyniodd tîm heddlu Prestatyn hyfforddiant ar
Ffrindiau Dementia, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yw’r sefydliad
cyfeillgar i ddementia cyntaf yng ngogledd Cymru a chyrhaeddodd Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru’r rhestr fer yng Ngwobrau Cyfeillgar i Ddementia’r Gymdeithas
Alzheimer28 29 30. Gyda’r ffocws ar ofal person-ganolog, mae Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru hefyd wedi cyflwyno ‘Dyma Fi’, offeryn syml ac ymarferol y gall
pobl sy’n byw gyda dementia, yn enwedig rhai sy’n cael trafferth cyfathrebu, ei
26
https://www.gwent.police.uk/cy/cyngor/cyngor/g-p-graffiti-talu-dirwy/pobl-sydd-ar-goll/protocol-herbet-byw-gyda-dementia/ 27
http://www.northwalessafeguardingboard.wales/missing-adult-scheme-launch-herbert-protocol/ 28
http://prestatynfriendly.co.uk/police/ 29
http://www.nwales-fireservice.org.uk/news/2017/1/12/north-wales-fire-and-rescue-service-becomes-first-dementia-friendly-organisation-in-north-wales/?lang=cy-gb 30
http://www.was-tr.wales.nhs.uk/Default.aspx?gcid=1345&pageId=2&lan=cy
14
ddefnyddio i ddweud wrth staff am eu hanghenion, eu dewisiadau, eu hoff a’u cas
bethau31. Ym Mhowys mae llwyddiant y fenter gymunedol Cymuned Gyfeillgar i
Ddementia Aberhonddu wedi arwain at lansio Dementia Matters in Powys32, fydd
yn cydgysylltu gweithredu gan y grwpiau cymunedol â gweithredu gan yr
Awdurdod Lleol a chyrff statudol ar draws y sir i rannu arferion da ac adeiladu ar
lwyddiant.
Datblygu Cymuned Gefnogol o Ddementia drwy gymorth, dealltwriaeth ac
empathi gwell mewn lleoliadau iechyd
Byrddau Iechyd
Lleol
Mae gofalwyr teuluol am bobl hŷn sy’n byw gyda dementia’n
gallu aros â’u perthynas yn yr ysbyty wrth i’w harbenigedd gael
ei gydnabod fel rhan graidd o'r tîm gofal. O’r herwydd bydd
unigolion sy’n byw gyda dementia’n gallu ymateb yn well i
driniaeth a bydd penderfyniadau gwell yn cael eu gwneud am
anghenion yr unigolyn a'r gofalwyr teuluol.
Cynnydd: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi addo
cefnogi Ymgyrch John, sy’n cydnabod y rôl bwysig y mae gofalwyr yn ei chwarae
ym mywydau pobl sy’n byw gyda dementia (Chwefror 2017)33. Adlewyrchir
pwysigrwydd yr ymgyrch hefyd mewn adroddiad gan y Cyngor Iechyd Cymuned ar
‘Pobl Hŷn mewn Ysbytai Cymunedol: Osgoi Diflastod ac Unigrwydd34.
Datblygu Cymuned Gefnogol o Ddementia drwy fynediad gwell a mwy o
gyfranogi mewn chwaraeon a diwylliant
Y Gymdeithas
Alzheimer,
Sefydliad yr
Atgofion
Chwaraeon
Hyrwyddo ac ehangu’r dull Atgofion Chwaraeon35 ledled Cymru
fel bod gan bobl hŷn sy’n byw gyda dementia gyfleoedd gwell i
gymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol ac
yn cael cymorth a chefnogaeth yn y gymuned drwy chwaraeon.
Cynnydd: Yn dilyn ymgynghori gyda phobl hŷn a darparwyr gwasanaethau lleol,
rhanbarthol a chenedlaethol, mae bidiau am gyllid bellach wedi eu cyflwyno gan
31
http://www.ambulance.wales.nhs.uk/assets/documents/20ee74ef-df2a-4936-9b27-a7c441063fa0635767021683586473.pdf 32
http://www.dementiamatterspowys.org.uk/ 33
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/903/news/43952 34
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/897/Older%20People%20in%20Community%20%20%20Hospitals%20Report%20%28Final%20Welsh%29%20December%202016.pdf 35
http://www.sportingmemoriesnetwork.com/
15
Sefydliad yr Atgofion Chwaraeon am brosiect pum mlynedd. Mae partneriaid
craidd prosiect Atgofion Chwaraeon Cymru’n cynnwys Clwb Criced Morgannwg a’r
Gymdeithas Alzheimer, a dangosodd lawer o glybiau chwaraeon proffesiynol ar
draws Cymru hefyd ddiddordeb yn y prosiect.
16
Atal Codwm
Partner(iaid)
Arweiniol
Gweithredu
Trechu a gwella atal codwm ar lefel leol
Awdurdodau
Lleol, WLGA
Gweithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu’r cynigion i atal
codwm yn y cynlluniau Heneiddio’n Dda lleol.
Cynnydd: Mae nifer o ddatblygiadau’n digwydd ar draws Cymru. Er enghraifft:
- Derbyniodd staff gofal cartref yn Sir y Fflint hyfforddiant ar ddefnyddio’r
Offeryn Asesu Risg o Gael Codwm (FRAT).
- Mae staff Cartrefi Gofal yn Abertawe’n derbyn hyfforddiant atal codwm ac yn
defnyddio’r Canllaw Atal Codwm.
- Mae Cydgysylltwyr Lles Cymunedol ym Mro Morgannwg yn gweithio gyda
Meddygon Teulu i gyfeirio pobl ymlaen at raglenni atal codwm.
- Mae peilot y Tîm Cymorth Cymunedol (CAT) yng Nghonwy a Sir Ddinbych
wedi helpu pobl a gafodd godwm yn y cartref36. O ganlyniad i’r peilot cafwyd
canlyniadau cadarnhaol fel aros llai am gymorth, llai o bwysau ar
gydweithwyr y Gwasanaeth Ambiwlans a llwybr mwy effeithiol at y
gwasanaeth atal codwm i rai sydd angen help arnynt ar ôl cael codwm.
- Mae Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf wedi gweithio â phartneriaid i gynhyrchu
Pecyn Adnoddau a Llawlyfr Ymwybyddiaeth o Gwympo. Yn dilyn peilot
llwyddiannus, mae sesiynau ymwybyddiaeth o gwympo’n cael eu cynnal
mewn partneriaeth â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae’r
cyfranogwyr yn mynd ar gwrs deg wythnos o roi gwybodaeth, addysgu ac i
roi cyngor ymarferol ar ymwybyddiaeth o gwympo.
- Mae digwyddiadau ymgynghori ar atal codwm yn cael eu cynnal ledled
Cymru.
Trechu a gwella atal codwm ar lefel genedlaethol
Llywodraeth
Cymru, Gofal
a Thrwsio,
Iechyd
Symud ymlaen gyda Thasglu Cenedlaethol Atal Codwm Gofal
Iechyd Darbodus Llywodraeth Cymru, dod â’r holl bartneriaid
perthnasol ynghyd i gydgysylltu ymdrechion ar atal codwm a
datblygu amcanion a chanlyniadau cyffredin i sicrhau dull
36
http://www.ambulance.wales.nhs.uk/Default.aspx?gcid=1359&pageId=2&lan=en
17
Cyhoeddus
Cymru, CSP,
Age Cymru,
Byrddau
Iechyd Lleol,
Gwella 1000
o Fywydau
cenedlaethol cyson o atal codwm ar draws Cymru.
Cynnydd: Cyfarfu’r Tasglu ym mis Ionawr 2017 fel rhan o’r digwyddiad Gofal
Iechyd Darbodus: Atal Codwm ar gyfer Pobl Hŷn gan Gwella 1000 o Fywydau37. Y
brif flaenoriaeth yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd i leihau’r risg o gael codwm
ymhlith pobl hŷn a datblygu llwybr rhannu data rhwng cyrff oddi mewn a’r tu allan
i'r GIG.
Gwella atal codwm drwy ddatblygu’r dull ‘Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif’
Gofal a
Thrwsio, Age
Cymru,
Ymddiriedola
eth GIG
Gwasanaeth
Ambiwlans
Cymru,
Gwasanaeth
Tân ac Achub
Mae asiantaethau a gwasanaethau sy’n mynd i mewn i gartrefi
pobl yn rhoi gwybodaeth a chyngor ymarferol ar atal codwm fel
bod pobl hŷn yn fwy ymwybodol o’r risg o gwympo ac yn gwybod
sut i helpu eu hunain.
Cynnydd: Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin
Bevan wedi lansio’r Gwasanaeth Ymateb i Godwm sydd eisoes wedi helpu mwy
na 200 o bobl a gafodd godwm38. Gyda phartneriaid allweddol, mae Gofal a
Thrwsio’n cymryd camau pellach i gyflwyno’r dull Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif
(MECC)39, ac mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub ar draws Cymru hefyd yn
ymrwymedig i MECC ac i gefnogi pobl hŷn drwy eu rôl diogelwch cymunedol40 41 42.
37
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/news/43788 38
http://www.was-tr.wales.nhs.uk/default.aspx?gcid=1375&pageid=2&lan=cy 39
http://www.careandrepair.org.uk/news/2016/10/27/my-pledge-to-help-prevent-falls/?text_size=1 40
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/888/13.%20Emma%20Girvan.pdf 41
http://www.mawwfire.gov.uk/Cymraeg/cysylltiadau/Pages/CorporatePlan1722/Amcan-1.aspx
18
Gwella atal codwm drwy ddosbarthu canllawiau defnyddiol, pecynnau
cymorth a thrwy ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth
Iechyd
Cyhoeddus
Cymru, Age
Cymru,
Cymdeithas
Siartredig y
Ffisiotherapyd
dion
Mae’r ymgyrch ‘Sadiwch...i Gadw'n SAFF'43, y gwasanaeth Gwella
1000 o Fywydau44, y canllaw ar ‘Osgoi cwympo, baglu a llithro’45
a’r canllaw ‘Get Up and Go’46 i gyd yn cael eu hyrwyddo a’u
datblygu ar draws Cymru fel bod pobl hŷn yn fwy ymwybodol o’r
risg o gael codwm ac yn gwybod sut i helpu eu hunain. Datblygu
offeryn atal codwm ac ymyriad byr.
Cynnydd: Cynhaliwyd wythnos atal codwm lwyddiannus yn Chwefror 2017 i
dynnu sylw at yr ymgyrch ‘Sadiwch....i Gadw’n SAFF’47. Roedd yr wythnos yn
cynnwys nifer o bartneriaid a’r ffocws ar y prif negeseuon i leihau'r risg o godwm
ymhlith pobl hŷn: sef aros yn heini a chryf, dweud wrth rywun os byddwch yn
cwympo a bod yn ymwybodol o'r peryglon baglu yn eich cartref. Lansiodd
Fferylliaeth Gymunedol Cymru hefyd ymgyrch codi ymwybyddiaeth drwy gydol mis
Chwefror i dynnu sylw at y risg o gael codwm a sut i osgoi cwympo4849. Bydd y
Tasglu Cenedlaethol hefyd yn rhoi blaenoriaeth i ymyriadau drwy'r ymgyrch
'Sadiwch....i gadw'n SAFF'50.
Gwella atal codwm drwy ymgysylltu ac ymgynghori’n well â phobl hŷn mewn
lleoliadau iechyd
Byrddau
Iechyd Lleol
Mae gan wasanaethau lleol a chanolfannau gofal sylfaenol
ddealltwriaeth well o amgylchiadau pobl hŷn gan roi cymorth a
chefnogaeth fel eu bod yn llai tebygol o gael codwm.
Cynnydd: Mae nifer o ddatblygiadau’n digwydd ar draws Cymru. Er enghraifft mae
staff clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynychu hyfforddiant
42
https://www.wao.gov.uk/sites/default/files/seminar_documents/Frequent_Users_Making_Every_Contact_Count.pdf 43
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/news/43975 44
http://www.1000livesplus.wales.nhs.uk/falls 45
http://www.flvc.org.uk/wp-content/uploads/2013/07/Age-Cymru-Avoiding-slips-trips-and-falls-leaflet-Welsh.pdf 46
http://www.csp.org.uk/publications/get-go-guide-staying-steady 47
http://www.careandrepair.org.uk/cy/newyddion/falls-are-not-inevitable-part-growing-old/ 48
http://www.screeningforlife.wales.nhs.uk/news/43975 49
http://www.cpwales.org.uk/Contractors-Area/Public-Health-Campaign/Falls-Campaign/Contractor-Briefing-Letter.aspx 50
http://www.ageingwellinwales.com/wl/resource-hub/fp-resources
19
atal codwm gorfodol, ac ym mis Rhagfyr 2016 lansiwyd Llwybr Atal Codwm Ysbyty
Gogledd Cymru. Mae atal codwm yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan Fwrdd
Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda mwy o gyfleoedd i bobl hŷn gymryd rhan
yn y Rhaglen Ymarfer Otago51.
Gwella atal codwm drwy annog pobl hŷn i gymryd rhan mewn dosbarthiadau
ymarfer corff a chynlluniau iechyd, lles a chwaraeon
Iechyd
Cyhoeddus
Cymru, Age
Cymru,
WLGA,
Awdurdodau
Lleol
Mae’r Cynllun Atgyfeirio i Wneud Ymarfer Corff (NERS)52 sydd, yn
dilyn atgyfeiriad clinigol, yn helpu pobl hŷn i wella eu cryfder, osgo
a’u cydbwysedd a lleihau eu risg o gael codwm, yn cael ei
ddarparu gan gyfarwyddwyr NERS PSI Lefel 4 Arbenigol
Awdurdod Lleol yn unol â chanllawiau safonol seiliedig ar
dystiolaeth. Mae Age Cymru yn hyrwyddo ac ehangu eu
dosbarthiadau ymarfer corff Hyfforddiant Llai Heriol (LIFT) ar
draws Cymru er mwyn gwella gwydnwch pobl hŷn fel eu bod yn llai
tebygol o gwympo.
Cynnydd: Nid yw’r Llwybr Atal Codwm NERS ar gael ond yn dilyn atgyfeiriad gan
Weithiwr Iechyd GIG proffesiynol cymeradwy. Ar hyn o bryd mae’n cael ei gynnig
ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru heblaw am un, ac mae atgyfeiriadau’n
cynyddu’n raddol.
51
http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/falls-prevention 52
https://wlga.wales/national-exercise-referral-scheme-ners
20
Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth
Partner(iaid)
Arweiniol
Gweithredu
Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth ar lefel leol
Awdurdodau
Lleol, WLGA
Gweithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu’r cynigion i greu
cyfleoedd dysgu a chyflogaeth yn y cynlluniau Heneiddio’n Dda
lleol.
Cynnydd: Mae nifer o ddatblygiadau’n digwydd ar draws Cymru. Er enghraifft:
- Mae’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth ‘Simon yn Dweud’ yng Nghaerffili’n tynnu
sylw at y prif faterion perthnasol i bobl hŷn gan gynnwys datblygu eu sgiliau
ariannol a chael mwy i fanteisio ar eu hawliau ariannol53.
- Mae prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop OPUS Cyngor Ynys Môn yn cynnwys
Mentor Person Hŷn i gysylltu gyda busnesau lleol a gwella rhagolygon
cyflogaeth pobl hŷn yn y gweithleoedd hyn.
- Darparu cyfleoedd i bobl hŷn yn Nhorfaen i ddychwelyd i'r gweithle drwy brosiect
Her Newydd WCVA, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, er enghraifft
cyflwyno lleoliadau gwaith i unigolion â chwmnïau 'lletya', yn ogystal â
chyfleoedd hyfforddi a sgiliau wedi'u targedu drwy'r Cyngor.
- Yng Nghwm Taf, bydd Awdurdodau Lleol yn helpu i hyrwyddo busnesau
cyfeillgar i oed drwy ddeunyddiau a chyhoeddiadau codi ymwybyddiaeth.
Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth drwy hyrwyddo gweithleoedd cyfeillgar i
oed ac amrywiol o ran oed a threchu gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith
Llywodraeth
Cymru, Busnes
yn y Gymuned,
TUC Cymru
Cyflwyno’r canllaw ar fusnesau cyfeillgar i oed gan Heneiddio'n
Dda, ymgysylltu â chyflogwyr ar draws Cymru a rhoi cyngor a
chymorth ymarferol ar sut i fusnes ddod yn fwy cyfeillgar i oed.
Cynnydd: Cyhoeddwyd y canllaw hwn yng Ngwanwyn 2017. Mae wedi cael ei rannu
â chyflogwyr o bob maint ar draws Cymru drwy’r rhwydweithiau Heneiddio’n Dda54.
Llywodraeth Annog cyflogwyr a gwasanaethau ar draws Cymru i ddatblygu
53
http://www.caerphilly.gov.uk/News/News-Bulletin/April-2016/Simon-Says-campaign-is-launched 54
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Age-Friendly-Business-Guide-cym.pdf
21
Cymru gweithleoedd cyfeillgar i oed a threchu gwahaniaethu ar sail oed
drwy’r ymgyrch ‘Oes o Fuddsoddi’55 fel bod gan weithwyr a
cheiswyr gwaith hŷn fynediad gwell at gyfleoedd cyflogaeth.
Cynnydd: Mae Cam Dau yr ymgyrch hon ar y gweill a’r ffocws ar godi ymwybyddiaeth
cyflogwyr bod angen cadw gweithwyr hŷn ac annog cyflogwyr i fuddsoddi yn sgiliau eu
gweithlu. Gwnaed ymchwil i fuddsoddi mewn sgiliau a gweithwyr hŷn yn Chwefror
2017. Bydd yr ymgyrch yn parhau i ganolbwyntio ar greu proffil cadarnhaol yn y
cyfryngau ar gyfer buddsoddi mewn sgiliau a’r cyfraniad sydd gan weithwyr hŷn i’w
wneud. Roedd yr ymgyrch hefyd yn cysylltu â phartneriaid eraill yn ystod yr Wythnos
Sgiliau ar gyfer Gwaith ym mis Mai 201756, a lansiwyd ymgyrch benodol ar bobl hŷn
yn y cyfryngau hefyd yn ystod mis Mai 201757.
Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth drwy ddarparu mwy a gwell mynediad at
gyfleoedd prentisiaeth
Llywodraeth
Cymru
Mae cyfleoedd prentisiaeth i bobl o bob oed yn cael eu datblygu.
Mae gweithredu i ddatblygu sgiliau pobl hŷn wedi’i gynnwys yn y
Rhaglen Cyflogadwyedd pob oed fel bod gan bobl hŷn fynediad
gwell at gyfleoedd cyflogaeth.
Cynnydd: Cafodd cyfleoedd i bobl hŷn fynd ar gyrsiau prentisiaeth sylw yn ystod
Wythnos Brentisiaethau Cymru ym mis Mawrth 201758. Bydd y Rhaglen
Cyflogadwyedd pob oed yn cael ei chyhoeddi yn yr Haf 2017 ac yn helpu i hyrwyddo
gweithluoedd amrywiol o ran oed, ymgysylltu â chyflogwyr i ganfod ffyrdd o gadw a
recriwtio gweithwyr hŷn ac yn adnabod pa sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr hŷn
gan gynnwys sgiliau digidol, ariannol ac addysg gymunedol i oedolion.
Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth drwy ddatblygu sgiliau digidol a chael
mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau digidol
Llywodraeth
Cymru
Mae nifer gynyddol o bobl hŷn yn dod yn ddefnyddwyr digidol drwy
Fframwaith Strategol Cynhwysiant Digidol Cymru59 fel bod
ganddynt y sgiliau a'r hyder i fanteisio ar gyfleoedd dysgu a
55
https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/oes-o-fuddsoddi 56
http://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/ein-gwaith/hyrwyddo-dysgu-a-sgiliau/wythnos-sgiliau-gwaith-14-21-mai-2017/ 57
http://gov.wales/newsroom/educationandskills/2017/170517-no-best-before-date-for-welsh-workers/?skip=1&lang=cy 58
http://gov.wales/topics/educationandskills/skillsandtraining/apprenticeships/?skip=1&lang=cy 59
http://gov.wales/topics/science-and-technology/digital/digital-inclusion/?skip=1&lang=cy
22
chyflogaeth.
Cynnydd: Bydd pobl hŷn yn parhau i elwa o gyfleoedd cynhwysiant digidol drwy
raglen Cymunedau Digidol Cymru60. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys Prosiect
Doctor y Trydydd Sector yn Wrecsam a phrosiect Tai Newydd sy’n rhoi pecyn a
chymorth Technoleg Gwybodaeth i denantiaid tai yn Rhondda Cynon Taf a Bro
Morgannwg61 62.
Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth drwy ddatblygu sgiliau ariannol,
cynllunio ariannol gwell a thrwy wella gwydnwch ariannol
Gwasanaeth
Cynghori
Ariannol,
Llywodraeth
Cymru
Mae nifer gynyddol o bobl hŷn yn gallu gofalu’n well am eu harian
drwy Strategaeth Galluedd Ariannol Cymru63 a Strategaeth
Cynhwysiant Ariannol Cymru64 ac yn gallu cynllunio’n well ar gyfer y
dyfodol, teimlo’n fwy hyderus am gynllunio ariannol ac yn fwy
gwydn o ran eu sefyllfa ariannol wrth fynd yn hŷn.
Cynnydd: Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda fforymau galluedd ariannol ar draws Cymru
yn Chwefror / Mawrth 2017 i drafod y prif faterion sy'n wynebu pobl hŷn. Mae gwaith
yn parhau ar gwrdd ag anghenion ariannol pobl hŷn drwy Gynllun Cyflawni
Cynhwysiant Ariannol Llywodaeth Cymru a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 201665. Mae
ymarfer da ar lefel leol yn cynnwys prosiect ‘Cronfa Beth sy’n Gweithio’ newydd y
Gwasanaeth Cynghori Ariannol mewn partneriaeth ag Age Cymru Bae Abertawe66.
Bydd y prosiect yn cefnogi pobl 65+ oed yn Abertawe i fagu mwy o hyder wrth
gynllunio’n ariannol ac i ddeall sut i ddefnyddio gwasanaethau ariannol ar-lein, sut i
gynllunio ymlaen llaw a rheoli eu harian drwy ddigwyddiadau yn eu bywydau.
Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth drwy ddatblygu sgiliau allweddol wrth
fynd yn hŷn
Sefydliad Dysgu
a Gwaith,
Llywodraeth
Datblygu ‘Canllaw i Heneiddio’n Dda’ fel bod pobl hŷn yn dod yn
fwy gwydn ac wedi eu paratoi’n well wrth fynd yn hŷn drwy ddysgu
sgiliau digidol, ariannol a lles.
60
http://cymunedaudigidol.llyw.cymru/diweddariadau/cyhoeddi-cefnogaeth-gwerth-2miliwn-ar-gyfer-cymunedau-digidol-cymru/ 61
http://cymunedaudigidol.llyw.cymru/ 62
http://cymunedaudigidol.llyw.cymru/ 63
https://prismic-io.s3.amazonaws.com/fincap-two%2F6c45246e-cbf9-4466-8c26-609e34ae7bc1_fincap+wales+full+strategy+welsh.pdf 64
http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/debt/?skip=1&lang=cy 65
http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/comm/161214-delivery-plan-cy.pdf 66
http://www.ageuk.org.uk/cymru/swanseabay/news/mas-funding-won/
23
Cymru
Cynnydd: Mae trafodaethau ar y gweill gyda phartneriaid allweddol ynglŷn â’r gwaith
hwn gan ddisgwyl ei gyhoeddi erbyn diwedd 2017 / dechrau 2018.
Gwella Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth drwy ddatblygu dysgu yn y gymuned a
dysgu i oedolion
Sefydliad Dysgu
a Gwaith,
Gwasanaeth
Gwirfoddol
Brenhinol,
Men’s Sheds, Y
Brifysgol
Agored, U3A
Cyflwyno’r canllaw i Heneiddio’n Dda ar sefydlu clwb dysgu
cymunedol, ymgysylltu â grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr ac
unigolion ar draws Cymru, darparu cefnogaeth a chymorth
ymarferol ar sefydlu grŵp cymunedol lleol drwy ddefnyddio’r sgiliau,
y wybodaeth a’r cyfleusterau sydd eisoes ar gael.
Cynnydd: Cyhoeddwyd y canllaw hwn yng Ngwanwyn 2017. Mae wedi cael ei rannu
ar draws Cymru drwy’r rhwydweithiau Heneiddio’n Dda 67.
Sefydliad Dysgu
a Gwaith, Y
Brifysgol
Agored,
darparwyr
addysg
Mae cymunedau a gwirfoddolwyr wedi eu cefnogi’n well ac yn
gwybod sut i sefydlu grwpiau dysgu cymunedol fel bod gan bobl
hŷn fynediad gwell at gyfleoedd sgiliau a dysgu lleol.
Cynnydd: Trafodwyd cyfleoedd i wella mynediad pobl hŷn at addysg yn y gymuned
yng nghynhadledd Addysg Oedolion y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn Nhachwedd
2016, gyda mwy o godi ymwybyddiaeth yn ystod Wythnos Addysg Oedolion fis
Mehefin 201768.
67
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Learning-Club-Guide-cym.pdf 68
http://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/ein-gwaith/hyrwyddo-dysgu-a-sgiliau/wythnos-addysg-oedolion/
24
Unigrwydd ac Unigedd
Partner(iaid)
Arweiniol
Gweithredu
Trechu unigrwydd ac unigedd ar lefel leol
Awdurdodau
Lleol, WLGA
Gweithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu strategaethau i
drechu unigrwydd ac unigedd yn y cynlluniau Heneiddio’n Dda lleol.
Cynnydd: Mae nifer o ddatblygiadau’n digwydd ar draws Cymru. Er enghraifft:
- Yn Sir y Fflint mae ‘map gwres' wedi'i greu i helpu i adnabod pobl mewn
perygl o fod yn unig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Drwy weithio gyda
phartneriaid i ystyried cyfleoedd ar gyfer lliniaru / lleihau’r risg o unigrwydd,
defnyddir y map newydd ynghyd â gwybodaeth leol i helpu i gyfeirio
adnoddau at y rhai sydd fwyaf tebygol o fod angen cymorth a chefnogaeth
arnynt.
- Yn Sir Gâr, mae rhaglenni gweithgareddau wythnosol wedi eu datblygu i
drechu unigrwydd mewn cartrefi gofal preswyl a thai gofal ychwanegol, ac
mae gweithgareddau a chymorth tebyg wedi eu datblygu i helpu pobl hŷn
mewn tai gwarchod sydd mewn perygl o deimlo’n unig ac ynysig.
- Ers ei lansio yn Ionawr 2017 mae Awdurdodau Lleol yn Ne-Ddwyrain Cymru’n
gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar y prosiect ‘Ffrind i Mi',
sy’n helpu pobl sy’n teimlo'n unig neu'n ynysig drwy weithio mewn
partneriaeth, gwirfoddoli a gwasanaethau cyfeillio69.
Trechu unigrwydd ac unigedd drwy ddosbarthu canllawiau a phecynnau
defnyddiol a thrwy ymgyrchoedd
Ymgyrch
Trechu
Unigrwydd,
Gwasanaeth
Gwirfoddol
Brenhinol, Y
Groes Goch
Brydeinig,
Mae pecynnau, adnoddau a deunyddiau codi ymwybyddiaeth yn
cael eu hyrwyddo a’u datblygu ar draws Cymru fel bod pobl yn deall
anghenion ac amgylchiadau pobl hŷn yn well a phobl hŷn yn llai
tebygol o deimlo’n unig a chymdeithasol ynysig.
69
https://www.ffrindimi.co.uk/copy-of-home
25
Men's Sheds
Cynnydd: Mae’r Ymgyrch Trechu Unigrwydd yn darpru prosiect newydd ar draws y
DU i drechu unigrwydd drwy gydweithrediad cymunedol70. Bydd y prosiect yn
cynnwys cydgysylltydd dynodedig yn goruchwylio cynnydd yng Nghymru, yn ogystal
â chynlluniau peilot yn Sir Gâr a Sir Benfro. Hefyd, mae prosiect ‘Camau Cadarn’ y
Groes Goch Brydeinig / Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn parhau i helpu pobl
hŷn i adennill eu hannibyniaeth a’u gwneud yn llai agored i'r risg o unigrwydd71.
Trechu unigrwydd ac unigedd drwy ddatblygu strategaeth genedlaethol gyda
phartneriaid allweddol
Llywodraeth
Cymru
Mae trechu unigrwydd ac unigedd wedi’i adnabod fel blaenoriaeth
iechyd cyhoeddus drwy Strategaeth Genedlaethol fydd yn cyflwyno
mesurau i sicrhau bod pobl hŷn yn llai tebygol o deimlo’n unig a
chymdeithasol ynysig.
Cynnydd: Mae trafodaethau’n parhau ar ddatblygu Strategaeth Genedlaethol, i’w
cyhoeddi o bosib yn 2018. Cyn hynny, mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon y Cynulliad yn cynnal Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd72.
Trechu unigrwydd ac unigedd drwy ddatblygu cymorth yn y gymuned
Age Cymru Mae ystod eang o bartneriaid yn gweithredu ar hyn drwy
Bartneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau (WASP)73 fel bod pobl hŷn
ac agored i niwed ar draws Cymru’n llai tebygol o ddioddef sgamiau
a throseddu ar stepan y drws.
Cynnydd: Bydd partneriaid WASP yn cynnal trafodaethau pellach ar y posibilrwydd
o gyhoeddi adroddiad effaith yn 2017 yn nodi’r hyn sydd wedi’i gyflawni ers lansio’n
ffurfiol ym mis Mawrth 2016. Gallai cyhoeddiadau pellach gynnwys canllaw ar ‘Sut i
osgoi sgamiau’ a bwriedir cynnal trafodaethau pellach ar wneud darn o waith ar y
cyd â Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Bobl Hŷn a Heneiddio.
CADR, Cyflwyno canllaw Heneiddio'n Dda ar ymdopi ag unigrwydd,
70
https://www.biglotteryfund.org.uk/global-content/press-releases/uk-wide/130117_uk_local_neighbourhoods_inspired_tackle_loneliness 71
http://www.redcross.org.uk/About-us/Media-centre/Press-releases/Regional-press-releases/Wales-and-western-England/British-Red-Cross-and-Royal-Voluntary-Service-improve-the-independence-of-older-people 72
http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=16359
26
Gwasanaeth
Gwirfoddol
Brenhinol, Y
Groes Goch
Brydeinig
ymgysylltu â grwpiau cymunedol, unigolion a gwirfoddolwyr ar
draws Cymru, rhoi cefnogaeth a chymorth ymarferol i sicrhau bod
pobl hŷn yn fwy gwydn a llai tebygol o deimlo’n unig.
Cynnydd: Cyhoeddwyd y canllaw hwn yn y Gwanwyn 2017. Mae wedi’i rannu ar
draws Cymru drwy’r rhwydweithiau Heneiddio’n Dda 74.
Trechu unigrwydd ac unigedd drwy ddatblygu ac ehangu'r gwasanaethau
iechyd meddwl a chyfeillio
Llywodraeth
Cymru,
Byrddau
Iechyd Lleol
Drwy Law yn Llaw at Iechyd Meddwl: Cynllun Cyflawni75, mae gan
wasanaethau, gan gynnwys cynlluniau cyfeillio, ddealltwriaeth well
o effaith unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ar iechyd meddwl fel bod
pobl hŷn yn llai tebygol o deimlo’n unig a chymdeithasol ynysig.
Cynnydd: Parhau i weithio ar y maes blaenoriaeth o ‘wella iechyd a lles pobl yng
Nghymru drwy leihau unigrwydd ac unigedd dieisiau’ gyda phartneriaid allweddol.
Cartrefi
Cymunedol
Cymru,
Arweinyddiaet
h Tai Cymru
Mae cymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol yn deall y risg o
unigrwydd ac unigedd yn well gan roi cefnogaeth a chymorth fel
bod tenantiaid hŷn yn llai tebygol o deimlo’n unig a chymdeithasol
ynysig.
Cynnydd: Gweithredu’r ymrwymiadau i leihau unigrwydd ac unigedd yn adroddiad
Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Dai i Bobl Hŷn Cymru76. Hefyd ,mae
trafodaethau yn parhau gydag ategi ar botensial cyflwyno'r gwasanaeth Homeshare
i Gymru.
74
http://www.ageingwellinwales.com/Libraries/Documents/Pocket-Guide-to-Being-Dementia-Supportive-cym.pdf 75
http://gov.wales/topics/health/nhswales/plans/mental-health/?skip=1&lang=cy 76
http://gov.wales/docs/desh/publications/170213-expert-group-final-report-cy.pdf