Upload
jodie
View
67
Download
0
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Nodyn i’r athro / athrawes : Argraffwch y cardiau canlynol gefn-wrth-gefn . Rhowch un cerdyn i bob disgybl . Bydd disgybl A yn darllen y frawddeg . Yna bydd disgybl B yn nodi’r camgymeriad , y cywiriad a’r rheswm gyda disgybl A yn ei wirio . - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Nodyn i’r athro/athrawes:
Argraffwch y cardiau canlynol gefn-wrth-gefn.
Rhowch un cerdyn i bob disgybl.
Bydd disgybl A yn darllen y frawddeg. Yna bydd disgybl B yn nodi’r camgymeriad, y cywiriad a’r rheswm gyda disgybl A yn ei wirio.
Bydd y dasg yn cael ei hail-adrodd gyda disgybl B yn holi y tro hwn.
Cyfnewid cardiau a mynd at bartner gwahanol.
Mae’r cath yn eistedd ar y gadair.
y cath > y gath
Mae’r enw benywaidd unigol ‘cath’ yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod.
Mae y geffyl yn carlamu yn gyflym.
Camdreiglad. Dydi enw gwrywaidd ddim yn treiglo ar ôl y fannod.
y geffyl > y ceffyl
Hwn yw’r ddosbarth gorau i mi ei ddysgu erioed.
Camdreiglad. Nid yw enw gwrywaidd unigol yn treiglo ar ôl y fannod.
yw’r ddosbarth > yw’r dosbarth
Af i’r wely’n gynnar bob nos.
Camdreiglad. Nid yw enw gwrywaidd yn treiglo ar ôl y fannod.
i’r wely > i’r gwely
Mae gen i un raw yn y sied.
Un raw > un rhaw
Camdreiglad. Er bod enw benywaidd unigol yn treiglo’n feddal ar ôl y rhifolyn un, os yw’r enw yn dechrau â’r gytsain ‘rh’ ni cheir treiglad gan ei fod yn eithriad i’r rheol.
Mae’r blant yn hoffi gwylio snwcer.
Mae’r blant > mae’r plant
Camdreiglad. Nid yw enw lluosog yn treiglo ar ôl y fannod.