Upload
samantha-evans
View
230
Download
3
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Gwybodaeth ar gyfer rhieni a’r rhai sy’n cymryd rhan a chyfleoedd anturio ar gyfer ysgolion Allteithiau sy’n newid bywydau
Citation preview
Allteithiau sy’n newid bywydau
Llyfryn Allteithiau Gwybodaeth ar gyfer rhieni a’r rhai sy’n cymryd rhan
a chyfleoedd anturio ar gyfer ysgolion
>> WWW.OUTLOOKEXPEDITIONS.COM
2
3 Ysbrydoliaeth 100% Anturiau mewn diffiniad uchel! 4-5 Cyflwyno Camre Cymru Stori Camre Cymru
6-7 Egluro’r Allteithiau Beth yw alltaith?
8 Pwy gaiff gymryd rhan? Chi!
9 Sut fydd bywyd ar alltaith? Bywyd crwban!
10-13 Rhaglenni ein Hallteithiau Rhaglenni ein hallteithiau hir a byr 14-15 CODIarian Rhan o’r hwyl!
16 Addysg ar gyfer byd sy’n newid Ein rhaglenni hyfforddiant teithio cyfrifol unigryw
17 Ymwybodol o Gamre Camre! Camre a’r Amgylchedd
18-19 Cwmpas ar gyfer bywyd Manteision mynd ar alltaith
Beth sydd tu mewn? 20 Dyfodol Disglair Cyfweliad gyda cyn-gyfranogydd, Ceri Jones
21 Arwain yr Alltaith a Thîm Cefnogol Camre Cymru
Rôl Arweinydd yr Alltaith a’r Athro Cyswllt
22-23 Yn Gwbl Ddiogel Ein Rhwydwaith Diogelwch a Chefnogaeth Heb ei Ail 24 Safonau Proffesiynol Ein Sicrhad o ddarpariaeth o ansawdd 25 Diwedd y Gân… Beth sydd wedi a heb ei gynnwys ym mhris yr alltaith 26 Pam mynd ar alltaith a beth nesaf?
Cymryd y cam nesaf
27-28 Ffurflen Gais Dyma ddechrau eich taith!
29-31 Telerau ac Amodau Archebu Sut i lansio eich antur fawr nesaf
32 Cysylltu â ni am ragor o wybodaeth
“O ddysgu gydol f ’ oes, mi wn nad yw’r addysg a gynigir mewn ysgolion wedi ei gyfyngu i’r ystafell ddosbarth yn unig. Wrth gyfarfod rhieni, byddaf yn eu hannog i beidio canolbwyntio’n unig ar y dasg nesaf sy’n wynebu’r plant megis TGAU, Lefel A ac yn y blaen, ond i feddwl yn hytrach am y person y gobeithiant i’w mab neu ferch fod wrth adael gatiau’r ysgol am y tro diwethaf.
Felly sut fath o bobl yw’r rheiny? Yn syml, fy ngobaith i ar gyfer unrhyw fachgen neu ferch yw eu bod yn gadael yr ysgol gyda syniadau a breuddwydion, gweledigaeth o’r hyn y maent eisiau ei gyflawni, ymdeimlad cryf o falio a thosturio at rai mewn angen, ond yn bennaf oll, cariad at fywyd a bod yn angerddol am fyw bywyd i’r eithaf.
Mae cymryd rhan mewn alltaith yn rhoi cyfle i’r disgyblion wneud yr union beth hwnnw. Drwy gael profiad eang iawn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth maent yn dysgu sgiliau newydd , yn dod i ddeall gwaith tîm, cyfathrebu ac arwain wrth archwilio gwahanol ddiwylliannau ac amgylcheddau a fydd yn tanio eu dychymyg. O feithrin y sgiliau hyn, pwy a wyr beth allant fynd rhagddynt i’w gyflawni .”
Nick Haddock MBE MA
PENNAETH – YSGOL ST JOHN’S, LEATHERHEAD
Syniadau a Breuddwydion^ ^
3
Profiadau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth Croeso i fyd Camre Cymru! Ni yw’r darparwr allteithiau ieuenctid mwyaf yn y DG. Y rheswm
dros ein bodolaeth yw darparu allteithiau diarffordd, sy’n newid bywydau i bobl ifanc rhwng
11 a 21 oed.
Ar alltaith, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gorfod mynd ar drywydd sawl taith, gwneud
penderfyniadau allweddol ac ymddwyn fel uned gref sy’n cydweithio er mwyn cyflawni’r
nod terfynol. Nid trip ysgol arferol mo alltaith o gwbl. Nid yw’n wyliau pecyn ac nid yw’n
ymweliad maes. Cyfle euraidd na chewch ond unwaith i gymryd rhan mewn antur sgrîn
lydan yw hwn.
Flwyddyn nesaf, fe allech fod yn dringo mynyddoedd, yn cysgu dan y sêr, yn gwylio morfilod
neu’n archwilio adfeilion cyntefig. Gallai’r dudalen hon fod yn ddechrau siwrnai i le na
fyddech fyth bythoedd wedi dychmygu y byddech yn mynd iddo. Ar ôl darllen y dudalen
hon, gallwch gau’r llyfryn a pheidio’i agor eto; ond a fydd dal ar eich meddwl ymhen
blwyddyn?
Mae’r llyfryn yma yn dweud popeth rydych angen ei wybod amdanom ni a’r grefft o allteithio
yn null Camre Cymru.
Felly, os ydych yn llawn cyffro, wedi’ch hysbrydoli ac yn medru dychmygu eich hun ar alltaith,
yna darllenwch y llyfryn yma a llenwi’r ffurflen gais yn y cefn. Unwaith y byddwch wedi
gwneud hyn ac wedi ei anfon at Camre, byddwch un cam yn nes at eich antur!
Neidiwch o’ch byd cyfrifiadurol llawn ffrindiau rhithwir a diweddaru statws i fyd o antur mewn diffiniad uchel. Peidiwch byw’ch bywyd drwy sgrîn…cymerwch ran ynddo!
Ysbrydoliaeth100%
3
Syniadau a Breuddwydion6 pheth pwysig i’w dweud amdanom ni
1/ Rydym yn gweithredu system ddiogelwch a chefnogaeth ddigyffelyb.
2/ Rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi digyffelyb i’r rhai sy’n cymryd rhan a bydd hyn yn gwneud i’ch CV a cheisiadau UCAS ddisgleirio ymhlith y gweddill.
3/ Rydym wedi ymrwymo i addysgu dulliau teithio cyfrifol ac ymwybyddiaeth amgylcheddol, gan gadw’r effaith a gaiff ein busnes ein hun ar yr amgylchedd mor isel â phosib a dod o hyd i brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
4/ Rydym yn meddwl y byd o’n cwsmeriaid ac yn angerddol am ein gwaith.
5/ Mae bob alltaith yn unigryw ac wedi ei gwneud yn benodol i gyd-fynd ag anghenion y grŵp.
6/ Nid ydym eirioed wedi codi tâl ychwanegol ac nid ydym yn bwriadu gwneud hynny ychwaith! Gallwn eich sicrhau na fyddwn yn codi unrhyw dâl ychwanegol ar gyfer allteithiau 2011.
Beth mae Camre Cymru yn ei gynnig?
Lle ydym ni?
Canolfan Ddatblygu Camre Cymru Mae Canolfan Ddatblygu Camre Cymru yn Eryri wrthi’n cael ei haddasu, a gobeithir y bydd y gwaith i’w gwneud yn
ganolfan hyfforddiant newydd a smart gydag ystafelloedd darlithio a chyflwyno gwell a chyfleusterau preswyl yn dod
i ben ym mis Ionawr 2009. Mae’r ganolfan yn un gyfforddus sydd wedi ei lleoli’n dda ar gyfer rhaglenni preswyl – yn
cynnwys llety byncws arlwy llawn yn ogystal â chyfleusterau gwersylla yn y caeau cyfagos. Wedi’r cyfan, mae gennym
fynyddoedd, afonydd, moroedd, clogwyni a chefn gwlad gwyllt godidog ar ein stepen drws.
SwyddfeyddMae ein pencadlys, sy’n gartref i’r mwyafrif o dîm Camre, wedi ei leoli’n
braf rhwng y Fenai a mynyddoedd Eryri. All ein tîm yn yr Alban ddim
cwyno ychwaith. Yn ein swyddfa yn Crieff, maent yn gweithio yng
nghanol golygfeydd godidog Perthshire – lle da ar gyfer edrych ar ôl ein
cleientau Albannaidd a’r rhai hynny o ogledd Lloegr. Mae gennym hefyd
gynrychiolwyr a hwyluswyr rhanbarthol sy’n gweithredu ledled y DG.
Camre Byd-eang 48 o wahanol wledydd Mae Camre ar hyn o bryd yn gweithredu mewn 48 o wahanol wledydd ac mae gennym rwydwaith o gysylltiadau a
darparwyr sy’n cefnogi proses gynllunio a gweithredu ein hallteithiau yn y gwledydd hynny.
Canolfan Camre yn Bafaria – Gweithio mewn partneriaeth gyda My Peak Potential Mae My Peak Potential wedi’i leoli yn Alpau Bafaria ac yn cynnig amrediad o gyrsiau Hyfforddi
Arweinyddion a Datblygu Tîm. Roedd y pedwar sylfaenydd yn rhan o dîm arwain alltaith enwog
y Fyddin i Grib Orllewinol Everest yn 2006. Mae Camre yn defnyddio My Peak Potential fel
ymgynghorwyr alltaith. Rydym hefyd yn defnyddio eu siale cyfforddus yn Bafaria fel canolfan ar gyfer rhai o’n cyrsiau
hyfforddi ac allteithiau sgïo technegol.
Darpariaeth Iaith Mae Camre yn credu’n gryf mewn cydraddoldeb ieithyddol ac yn annog y rhai sy’n cymryd rhan i geisio defnyddio o
leiaf fymryn o eiriau neu idiomau yn iaith y wlad y byddant yn ymweld â hi. Gan ein bod yn darparu ar gyfer farchnad
y DG, mae Camre’n gweithredu’n bennaf yn Saesneg. Serch hynny, ni yw’r unig ddarparwr allteithiau ieuenctid
sy’n cynnig rhai gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Yng Nghymru, mae Camre yn gweithredu o dan yr enw
dwyieithog Camre Cymru/Outlook Expeditions. Ceir manylion ein polisi iaith a’n gwasanaethau ar ein gwefan.
4
Ein Nod Rydym yn falch o gael ein hadnabod fel y darparwr annibynnol mwyaf yn y DG sy’n cynnig allteithiau ieuenctid
proffesiynol, o ansawdd uchel, sy’n newid bywydau i ysgolion a grwpiau ieuenctid. Rydym yn gwneud y pethau
bychain er budd y darlun mwy.
Ein Gweledigaeth Ein nod yw bod yn ddarparwr o ddewis yng nghyswllt allteithiau ieuenctid sy’n newid bywydau o ansawdd
uchel a phroffesiynol. O’r cychwyn, rydym wedi canolbwyntio ar allteithiau o ansawdd sydd wedi eu teilwra’n
benodol. Nid ydym erioed wedi cynnig allteithiau parod, bwced a rhaw. Golyga hyn ein bod yn rheoli ein ffawd
ein hun ac yn gwneud ein penderfyniadau ein hun. O ganlyniad, rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn medru
addasu’n rhwydd i ofynion cwsmer er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni’n cwsmeriaid i’r eithaf.
Stori Camre Dechreuodd stori Camre yn 2001, pan gafodd ei
sefydlu gan Matt Wells a Rhys Davies, mewn sied foch
wedi’i haddasu gyda dim ond un cyfrifiadur coeliwch
neu beidio! Rydym wedi symud ymlaen cryn dipyn ers
hynny coeliwch ni! Mae Camre Cymru wedi mynd o
nerth i nerth, rydym yn cyflawni camp ar ôl camp ac
rydym yn codi safonau’r diwydiant allteithio. Prif amcan
Camre yw darparu allteithiau a chyfleoedd anturio sy’n
newid bywydau i ysgolion a grwpiau ieuenctid.
Cyflwyno Camre Cymru
AllteithiauMae Camre yn cynnig cyfleoedd allteithio sy’n
newid bywydau yn y DG a thramor.
Anturiau yn y DG Yn y DG, mae Camre yn cynnig gwersylloedd haf,
cyrsiau gweithgareddau preswyl, hyfforddiant
sgiliau, hyfforddiant allteithio a chyrsiau asesu
Gwobr Dug Caeredin.
Hyfforddiant Yn ogystal â darparu cymwysterau corff
llywodraethol y diwydiant awyr agored, rydym
hefyd yn darparu cyrsiau sydd wedi cael eu
datblygu gan ein harbenigwyr anturio sy’n ateb
gofynion y diwydiant.
Mae Camre yn aelod o Wasanaeth Ardystio CPD
sy’n golygu bod ein cyrsiau hyfforddi wedi cael
eu seilio ar eu safonau hwy yng
nghyswllt ansawdd cynnwys y
cwrs a’r ffordd y caiff ei gyflwyno.
RecriwtioRydym wedi canfod ein bod yn dda yn rhoi y
bobl iawn yn y lle iawn, felly’n ogystal â dod
o hyd i staff ar gyfer ein rhaglenni ein hunain,
rydym hefyd wedi dechrau dod o hyd i staff ar
gyfer sefydliadau eraill sy’n gwerthfawrogi ac yn
ymddiried yn ein gweithdrefnau recriwtio.
NEW!
NEW!
for 2009NEWYDD!
NEW!
for 2009
NEW!
NEW!
for 2009NEWYDD!
NEW!
for 2009
NEW!
NEW!
for 2009NEWYDD!
NEW!
for 2009
5
“Wrth ddringo Kilimanjaro ro’n i’n meddwl na fyddwn i fyth yn cyrraedd y copa. Ond pan wnaethon ni, roedd y teimlad yn hollol wefreiddiol! Fyddwn i ‘rioed wedi breuddwydio ddwy flynedd ynghynt y byddwn i’n sefyll 5,895m uwchlaw’r môr yn gwylio’r wawr yn codi. Yn ogystal â sgiliau newydd sydd wedi gwneud i mi deimlo fel y gallaf edrych ar ôl fy hun, rydw i wedi dysgu gymaint amdanaf fy hun a’r hyn rwy’n gallu ei gyflawni.”
Kate Price CYFRANOGYDD - ALLTAITH I
TANZANIA, 2008
Camre Cymunedol Mae Camre Cymunedol yn sefydliad nid er elw a sefydlwyd i ganolbwyntio’n
benodol ar ddatblygu cymunedol. Fel cwmni sy’n hollol ymwybodol o’i ymrwymiad
corfforaethol i gyfrifoldeb cymdeithasol, mae Camre’n hynod falch o gael hwyluso
prosiectau sy’n gweithio tuag at y nod hwn.
Gallwch ymweld â www.outlookcommunity.co.uk am ragor o wybodaeth.
Camre Corfforaethol Cyf Mae Camre Corfforaethol yn hwyluso rhaglenni datblygu a diwrnodau gweithgareddau
ar gyfer busnesau a sefydliadau eraill. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni i gael
copi o Becyn Gwybodaeth Camre Corfforaethol.
5
Hefyd yn rhan o deulu Camre
Llywio ein Gweledigaeth
Matt sy’n gyfrifol am arweinyddiaeth Camre drwyddi draw, ei strwythur mewnol, strategaeth a’i ddatblygiad. Mae wedi teithio’n eang i dros 46 o wahanol wledydd dros chwe chyfandir ac mae ganddo dros 18 mlynedd o brofiad allteithio. Mae’r profiad hwn yn cynnwys dringfeydd cyntaf, arwain a bod yn rhan o allteithiau oedolion a ieuenctid yn yr Himalayas, Alasga, Cenia, Uganda, Canada, Mexico, Seland Newydd, Bolifia a’r Alpau Ewropeaidd. Mae gan Matt radd BA (Anrhydedd) ac mae’n aelod Trwyddedog o’r Chartered Institute of Personnel & Development (CIPD) ac mae’n Arweinydd Mynydda Gaeafol cymwysedig. Yn gyn-awyr-filwr Fyddin Brydeinig ac yn gyfarwyddwr hyfforddi anturiau, mae Matt wedi cael swyddi gweithredol gyda’r Institute for Outdoor Learning (IOL), ac mae bellach yn Drysorydd i’r Expedition Providers’ Association (EPA) ac yn aml yn gwneud cyflwyniadau yng Nghanolfan Fynydda Genedlaethol Plas y Brenin. Mae Matt yn mwynhau beicio mynydd a mynydda sgïau ac yn byw yng Ngogledd Cymru gyda’i wraig Helen, mab Jack a’i ferch Elsie.
Matt Wells BA(Hons) LCIPD FRGS Prif Swyddog Gweithredol
Croesawyd David i gwmni Camre fel Cadeirydd Anweithredol Bwrdd Cyfarwyddwyr Camre Cymru ym mis Ionawr 2009. Mae wedi cael y gwaith o ddatblygu’r strategaeth fusnes orau er mwyn sicrhau nad yn unig mai ni yw’r gorau ond ein bod hefyd yn gwella ac yn gwella. Mae Camre yn elwa o brofiad busnes eang David. Ar ôl ymddeol o’r Fyddin Brydeinig yn 2001, daeth yn entrepreneur llwyddiannus, sydd wedi sefydlu, arwain ac adeiladu cwmnïau ledled y byd. Mae ei waith presennol a’i brofiad milwrol blaenorol fel Swyddog yn y Gwasanaeth Awyr Arbennig (SAS) wedi mynd ag ef i bedwar ban y byd. Mae David yn byw yn Wiltshire ac mae ganddo dri mab sydd yn yr ysgol.
David Wood MBE MC
Cadeirydd
Mae Rhys yn arloesi’r ffordd yng nghyswllt sicrhau bod Camre yn gwneud mwy na’r hyn sy’n ofynnol gan y cleientau a’r diwydiant. Mae’n dod o gefndir cydlynu prosiectau amgylcheddol a datblygu cymunedol ledled y byd ac mae ganddo MSc mewn Rheoli Adnoddau Gwledig a HND mewn Rheoli Pysgodfeydd. Yn 1996/7, cydlynodd brosiect plannu 3.5 miliwn o goed a gosod 60,000km o derasiad cerrig yn Ethiopia, er mwyn sefydlu’r pridd ar gyfer amaethyddiaeth. Mae bellach yn un yr ymgynghorir ag ef ynghylch rheoli adnoddau naturiol Parc Cenedlaethol Bale, Ethiopia, ar gyfer prosiect sy’n ceisio denu twristiaid i’r ardal i gynhyrchu incwm cynaliadwy i’r cymunedau lleol. Mae Rhys wedi gweithio fel Cydlynydd Bioamrywiaeth i Barc Cenedlaethol Eryri ac yn aelod o fwrdd Mountain Leader Training Wales (MLTW). Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl a chafodd ei eni a’i fagu yng nghanolbarth Cymru. Mae Rhys yn syrffiwr brwd, yn deifio ac yn pysgota plu ac mae’n byw yng Ngogledd Cymru gyda’i bartner Leisa a’i blant Sion, Mabon a Martha.
Rhys Davies MSc
Rheolwr GyfarwyddwrDatblygu Busnes
Rydym yn byw a bod yn yr Awyr Agored Mae holl staff Camre yn unigolion gyda diddordebau amrywiol iawn, ond mae gennym un peth yn gyffredin:
ymrwymiad a chred yng ngwerth addysg awyr agored, archwilio ac anturio. Mae rhai ohonom yn mynd a’r gred hon
i’r eithaf, gan dreulio bob munud sbâr yn dringo, beicio mynydd am filltiroedd neu’n syrffio’r don berffaith honno. Ar
ben arall y sbectrwm mae’r rhai hynny ohonom sy’n well gennym deithiau cerdded hir yn y bryniau yn chwilio am le
i’r enaid gael llonydd.O’r chwith i’r dde Matt Wells, Rhys Davies, David Staziker (Cyllid Cymru) a David Wood.
66
Beth yw Alltaith? Alltaith yw tîm o bobl sy’n mynd ar antur. Hwyrach eu bod
am deithio drwy amgylchoedd newydd, gweld bywyd gwyllt
gogoneddus, profi gwahanol ddiwylliannau neu hyd yn oed
ddarganfod sut y mae pobl yn gwneud te ar ochr arall y byd! Y
dyddiau yma, mae gennym syniad eithaf da o sut y mae map y
byd yn edrych, ac nid oes rhagor o allteithiau o fath Christopher
Columbus sy’n debygol o ddarganfod cyfandir newydd yn digwydd
mwyach. Mae cysyniad alltaith bellach wedi newid. Bellach, mae
allteithiau yn golygu canfod yr hunan yn ogystal ag ymweld â
mannau diarffordd. Pwrpas ein hallteithiau ni yw cyflwyno agwedd
newydd i’r rhai sy’n cymryd rhan. Gwir yw’r dywediad ‘mae’n fyd
bach’ ond y mwyaf y byddwch yn ei archwilio y mwyaf oll ydyw.
Lle fedrwch chi fynd? Mae Camre Cymru wedi rhoi’r idiom Saesneg ‘the world’s your
oyster’ ar waith fel petai. Mae ein hallteithiau yn croesi 6 chyfandir
ac yn cynnwys bob math o amgylchedd y gallwch ei ddychmygu.
Rydym yn archwilio’r anialwch a’r jyngl, yn dringo mynyddoedd a
rhewlifau ac yn deifio’n y moroedd. Mae gennym lawer o brofiad
teithio o dan yr unto; byddwn yn mynd a chi i’r mannau gorau a
hwyrach y byddwch yn canfod eich hun mewn mannau na fyddech
chi fyth wedi mentro iddynt ar eich pen eich hun. Dylech gyfeirio
at Frîff Alltaith eich grŵp (a gaiff ei roi i chi wrth lansio’r alltaith)
am wybodaeth benodol ynghylch lle rydych yn mynd a lle allwch
ymweld ag ef.
Amcanion yr Alltaith Bydd bob grŵp yn pennu ei amcanion penodol ei hun er mwyn
sicrhau bod yr alltaith yn her sy’n rhoi cyfle i ddysgu a datblygiad
personol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Ar ddiwedd yr alltaith,
annogir y rhai oedd arni i ystyried eu profiadau a phwyso a mesur
a gyflawnwyd yr amcanion hynny a bennwyd ar ddechrau’r daith
ai peidio.
Pwy sy’n dewis beth? Bydd yr Athro Cyswllt yn dewis prif amcan yr alltaith mewn
ymgynghoriad â’r ysgol ei hun. Yn seiliedig ar hyn, bydd tair
taith bosib’ yn cael eu cyflwyno i’r rhai sy’n cymryd rhan fel rhan
o’u rhaglen hyfforddi. Byddwn hefyd yn eu hannog i nodi eu
hamcanion personol eu hunain ac amcanion y grŵp yng nghyswllt
yr hyn yr hoffent ei ddwyn o’r profiad.
Egluro’r allteithiau
NEW!
NEW!
for 2009NEWYDD!
NEW!
for 2009
7
Beth fyddwch chi’n ei wneud? Mae manylion eich cyfle allteithio unigryw chi i’w cael ym Mrîff yr Alltaith. Er mwyn rhoi blas o Gamre Cymru i chi, wele damaid i aros pryd o’r amrediad eang o weithgareddau y bydd rhai fel chi yn cael cyfle i’w gwneud.
HirdeithioMae’r rhan fwyaf o’r grwpiau yn cwblhau rhyw fath o hirdaith fel rhan o’u halltaith.
Mae’r hirdaith ei hun yn siwrnai mewn mwy nag un ffordd ac yn rhoi cyfle i ddatblygu
sgiliau arwain unigol, gwaith tîm, hyder a hunanddigonedd. Mae cyfleoedd hirdeithio
yn cynnwys: copa mynyddoedd (6000 m+), hirdaith ar fynydd neu rewlif, hirdaith drwy’r
jyngl, hirdaith ar gamel, hirdaith ar geffyl neu hyd yn oed daith fer ar gefn eliffant!
Sut fath o brosiect a fyddaf yn cymryd rhan ynddo? Gall allteithiau gynnwys gwaith prosiect amgylcheddol neu gymunedol. Gall hyn
amrywio o olrhain bywyd gwyllt i ddysgu Saesneg mewn ysgol leol. Mae gwaith
prosiect yn brofiad addysgol amhrisiadwy fydd yn rhoi ymdeimlad i’r rhai sy’n cymryd
rhan o sut y mae’r gymuned y maent yn ymweld â hi’n byw, gan roi cyfle iddynt
gyfarfod a gweithio â phobl leol. Mae’n gyfle i’r grŵp roi rhywbeth yn ôl i’r lleoedd a’r
cymunedau y maent yn teithio drwyddynt. Canlyniad hyn o beth yw i’r grŵp deimlo ei
fod wedi cyflawni rhywbeth da ac mae hefyd yn gyfle i’ch ysgol wneud cysylltiadau cryf
gyda chymunedau mewn rhannau eraill o’r byd. Mae llawer o’n hallteithiau yn ymweld
â gwledydd datblygol y byd, sy’n cyflwyno heriau i’r rhai sy’n cymryd rhan yn ogystal â
rhoi cyfle iddynt weld y gwahaniaeth yn y ffordd mae eraill yn byw o’i gymharu ag yn y
DG.
Gweithgareddau Anturio Mae ein hallteithiau yn cynnwys rafftio dŵr gwyn, canŵio agored, sgïo, mynd mewn
caiac, mynd mewn caiac ar y môr, gwersylloedd goroesi, gwylio anifeiliaid mawr, saffari
4x4, teithiau diwylliannol, gwylio morfilod, hirdeithio rhewlifoedd, marchogaeth,
snorcelio, deifio scwba, beicio mynydd, cerdded ceunentydd a hafnau neu ddringo
creigiau i enwi ond ychydig!
Gorffwys ac Ymlacio Dyma’r rhan lle bydd aelodau’r grŵp yn cael cyfle i dynnu eu hesgidiau ac ymlacio ar
ddiwedd yr alltaith, i ddathlu a meddwl am eu llwyddiant ac i amsugno bob eiliad olaf
o hwyl cyn ei throi hi am adref. Mae Camre yn cynnwys cost yr holl weithgareddau
Gorffwys ac Ymlacio (fel nodir ym Mrîff yr Alltaith) yn nghyfanswm cost yr alltaith. Nid
oes unrhyw gostau cudd.
Pryd gewch chi fynd? Gall Camre drefnu alltaith unrhyw adeg o’r flwyddyn, fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r
grwpiau yn tueddu i fynd yn ystod gwyliau’r ysgol, gyda’r allteithiau hir yn digwydd yn ystod
gwyliau’r haf. Fel arfer, bydd o leiaf 6 i 20 mis yn mynd heibio cyn dechrau’r alltaith er mwyn
cael amser i’r grwpiau godi arian i fynd. Dylid cyfeirio at Frîff yr Alltaith i weld pryd fydd eich
halltaith chi yn cychwyn.
Timau Allteithio Mae bob tîm allteithio yn cynnwys grŵp o rai sy’n
cymryd rhan o dan oruchwyliaeth un o Arweinyddion
profiadol Camre Cymru (a Chymhorthydd Alltaith
ychwanegol ar gyfer timau mwy). Mae un neu ragor
o Athrawon Cyswllt yn mynd gyda’r grŵp. Mae
eglurhad cyflawn o rôl y Tîm Arwain i’w gael ar dudalen 21. Swyddogaeth yr Athro
Cyswllt yw bod yn brif bwynt cyswllt rhwng Camre a’r ysgol yn ystod y cyfnod cyn yr
alltaith a bydd hefyd yn cynorthwyo i ysgogi’r grŵp; bydd hefyd yn mynd ar yr alltaith
gyda’r tîm. Mae prisiau ein hallteithiau wedi eu seilio ar fod o leiaf naw yn cymryd rhan
ymhob tîm. Bydd maint grŵp yr alltaith yn amrywio o ysgol i ysgol.
Gwneud penderfyniadau ar yr alltaith O dan arweiniad y Tîm Arwain, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gweithio fel grŵp
i wneud eu penderfyniadau eu hunain ar yr alltaith er mwyn dod o hyd i’w ffordd
ar hyd y daith. Nid taith fws yw alltaith ac ni fydd y rhan fwyaf o’r mannau aros na’r
drafnidiaeth wedi eu trefnu ymlaen llaw. Bydd yn rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan
ddefnyddio eu hyfforddiant i wneud y penderfyniadau gorau ar gyfer eu grŵp ac i
reoli cyllideb y grŵp yn effeithiol. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael cyfle am yn
ail i chwarae rôl Arweinydd y Dydd, Swyddog Amgylcheddol a Chyfrifydd y Grŵp er
mwyn sicrhau fod yr alltaith yn rhedeg yn esmwyth.
Tîm Cefnogi Alltaith Camre Mae’r Cydlynydd Rhaglen Alltaith yn cefnogi bob alltaith benodol a bydd y
cydlynydd yma yn gallu ateb unrhyw gwestiynau a sydd gan y rhai sy’n cymryd
rhan cyn dechrau’r daith a bydd hefyd yn cydlynu eu hyfforddiant. Bydd Cydlynydd
Alltaith yn cydweithio gyda’r rhai sy’n cymryd rhan i’w cynorthwyo i gynllunio eu
teithiau. Yn ystod yr alltaith, mae gan y tîm gefnogaeth rhwydwaith diogelwch a
chynlluniau wrth gefn cynhwysfawr – sy’n cynnwys cysylltiadau yn y gwledydd y
maent yn ymweld â hwy, ystafell reoli 24/7 sy’n cael ei staffio gan dîm Camre yn y
DG a thîm rheoli digwyddiad arbenigol byd-enwog sydd ar gael 24/7. Mae rhagor
o wybodaeth am ein rhwydwaith diogelwch a chefnogaeth ar gael ar dudalen
22-23.
“Trip unwaith mewn bywyd a ddysgodd sgiliau cyfathrebu ac arwain i Rachel a’i dysgu i fod yn fwy trefnus”
Rhieni Rachel WiezniakCYFRANOGYDD – ALLTAITH I HONDURAS, 2007
8
Ar gyfer pwy mae ein hallteithiau wedi eu llunio? Mae ein hallteithiau wedi eu llunio ar gyfer rhai 11 i 21 mlwydd oed. Bydd Tîm Arwain
o oedolion yn mynd gyda bob grŵp, a bydd y tîm hwnnw yn goruchwylio’r alltaith ac
yn chwarae rôl fugeiliol ac arweinyddol gydol yr alltaith.
Pwy gaiff gymryd rhan?
Ffitrwydd Does dim rhaid i chi fod mor ffit a mabolgampwyr yr Olympau i fynd ar alltaith. Fodd bynnag, mae
alltaith yn ysgogiad arbennig er mwyn i’r tîm wella ei ffitrwydd yn ystod y rhaglen baratoadol. Nid oes
angen bod yn ofnadwy o ffit ar gyfer yr allteithiau, serch hynny, byddai’n fuddiol i’r rhai sy’n cymryd rhan
fod yn gymharol ffit tra’n cymryd rhan mewn rhai o’n teithiau. Fel tîm, byddwch yn hunanddigonol;
bydd disgwyl i chi gario eich offer i gyd yn eich bagiau eich hun y rhan fwyaf o’r amser (felly paciwch yn
ysgafn!). Mae’r teithiau’n cael eu llunio gyda gallu’r tîm mewn cof a byddwn yn darparu pecyn ffitrwydd
fel rhan cynllun hyfforddi cyn mynd ar yr alltaith.
Cyfeiriwch at y raddfa anhawster corfforol ym Mrîff yr Alltaith ac os oes gennych unrhyw amheuaeth
ynghylch eich ffitrwydd, dylech siarad gyda’r Athro Cyswllt a’ch meddyg cyn ymgeisio. Mae camre hefyd
yn fodlon rhoi cyngor sylfaenol ar hyn.
Iechyd Os oes gennych unrhyw gyflwr meddygol, dylid ei gynnwys ar eich ffurflen gais a rhoi gwybod i ni am
unrhyw newidiadau. Os oes gennych unrhyw gyflwr meddygol sydd eisoes yn bodoli yna dylid cysylltu
â’ch meddyg i drafod p’un ai yw rhaglen yr alltaith yn addas ar eich cyfer ai peidio. Unwaith y byddwch
wedi gwneud hyn, cysylltwch â’r Cydlynydd Rhaglen Alltaith ar 0044 (0)8459002989 am gyngor
ynghylch beth i’w wneud nesaf.
9
Eich lleoliad Bydd eich bywyd ar alltaith yn dibynnu’n union ar lle fyddwch yn mynd.
Bydd alltaith i Norwy dyweder yn teimlo’n wahanol iawn i alltaith i
Madagasgar! Fodd bynnag, mae gan ein holl allteithiau yr ymdeimlad o
ddychwelyd yn ôl at hanfodion bywyd. Yng ngwledydd datblygol y byd,
gall safonau byw fod yn wahanol iawn ir rhai yn y DG. Bydd y rhaglen
hyfforddi benodol ar gyfer eich lleoliad yn eich cynorthwyo i baratoi ar
gyfer yr hyn y dylid ei ddisgwyl. Mae rhagor o wybodaeth am y lleoliadau
penodol i’w chael ym Mrîff Alltaith eich ysgol.
Lle fyddwch yn aros? Alltaith yw hon, felly peidiwch a disgwyl llety cartrefol neu westy 5
seren! Bydd y mannau aros yn sylfaenol tu hwnt ac yn amrywio o hostel,
i babell neu hamoc i gwt pren yn y jyngl neu ambell i westy elfennol.
Byddwch yn rhannu pebyll ac ystafelloedd gydag aelodau eraill eich tîm –
hwyrach y byddwch yn penderfynu cysgu dan y sêr ar y traeth un noson!
Peidiwch a disgwyl cael cawod bob diwrnod a phan fyddwch yn cael un,
hwyrach mai o dan rhaeadr y bydd!
Beth fyddwch yn ei fwyta a’i yfed?Hwyrach y byddwch yn coginio ar dân agored, stôf wersylla, neu’n
defnyddio cyfleusterau hostel yn ogystal â weithiau’n blasu’r bwyd lleol
mewn caffis a bwytai. Hwyrach y cewch hefyd eich tretio i fwyd cartref
traddodiadol fel gwestai yng nghartref rhywun. Byddwch yn rheoli eich
cyllideb i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gwerth gorau am arian ac yn
cynllunio ymlaen llaw ar gyfer pan fyddwch eisiau gwario fymryn rhagor!
Trafnidiaeth Byddwch yn teithio ar awyrennau, trenau, bysus preifat a chyhoeddus.
Dylech baratoi eich hun at orfod disgwyl am drafnidiaeth a lleoedd eithaf
cyfyng! Mae’n bosib’ na wnaiff y bws ymddangos o gwbl!
Iechyd, hylendid a brechiadau Wrth allteithio, mae’n bwysig bod aelodau’r tîm yn siarad gyda’i gilydd
ynghylch sut y maent yn teimlo. Caiff y rhai sy’n cymryd rhan eu dysgu
sut i gynnal safonau iechyd a hylendid ar alltaith, megis puro dŵr, sut
i’w hamddiffyn eu hunain rhag yr haul a pha mor aml y dylent olchi eu
sanau! Argymhellir brechiadau arbennig ar gyfer rhan fwyaf o’r lleoedd
yr awn ar alltaith iddynt nad ydym mo’u hangen i fyw yn y DG. Dylech
siarad â’ch meddyg am gyngor cynhwysfawr ynghylch brechiadau ac atal
clefydau.
Offer Mae Camre yn darparu offer tîm ar gyfer bob grŵp, megis pebyll, offer
coginio, ffôn lloeren, System GPS, offer diogelwch arbenigol ac offer
meddygol. Mae llawer o’r rhai sy’n cymryd rhan yn hoffi prynu eu hoffer
personol eu hunain, fodd bynnag, wrth ofyn, mae Camre yn fodlon hurio
sicedi a throwsusau dal dŵr, bagiau cefn, bagiau cysgu, matiau cysgu a
leininau am ffi hurio bychan. Mae Camre wedi partneru gyda Cotswold
Outdoor Ltd, arwerthwr mwyaf uchel ei barch y DG sy’n gwerthu dillad
ac offer awyr agored arbenigol, sy’n cynnig 15% o ostyngiad i’r rhai sy’n
allteithio gyda Camre.
Goruchwyliaeth Caiff bob un o grwpiau allteithio Camre ei oruchwylio gan Dîm Arwain
gydag un oedolyn ar gyfer bob chwech sy’n cymryd rhan. Mae eglurhad
o rôl y Tîm Arwain i’w gael ar dudalen 21.
Bywyd crwban!
Brîff yr Alltaith Mae llawer o lafur cariad yn ein hallteithiau. Mae pob un o allteithiau Camre yn unigryw a’r byd ei hun yw’r unig beth sy’n cyfyngu arnom.
Mae Brîff yr Alltaith a roir i chi cyn cychwyn y daith yn cynnwys manylion eich alltaith benodol chi. Mae yn cynnwys:
• Gwybodaethameichprifamcanallefyddwchynmynd• Prishollgynhwysol• AlltaithSiwrnaiHirneuSiwrnaiFer(gwelerymanylionardudalen10-13)• Taithenghreifftiol–bydd3thaithbosib’yncaeleucyflwynoichiynystodsesiwnhyfforddicyntafygrŵp
Sut fydd bywyd ar alltaith?
10
Rhaglenni ein Hallteithiau Mae bob un o’n rhaglenni allteithio yn cael eu cyflawni gan hwyluswyr profiadol. Mae Camre yn cynnig dwy raglen allteithio – Siwrnai Hir a Siwrnai Fer. Dylid cyfeirio at Frîff yr Alltaith i weld pa raglen allteithio y byddwch chi yn cymryd rhan ynddi a ph’un ai yw’n cynnwys unrhyw sesiynau hyfforddi bollten ychwanegol ai peidio.
Siwrnai Hir – allteithiau hirach na 19 diwrnod Oherwydd bod siwrnai o’r fath yn golygu bod i ffwrdd oddi cartref am gyfnod hirach a natur mwy heriol y teithiau, dim ond ar gyfer rhai 16 – 21
mlwydd oed adeg yr alltaith y mae’r Siwrnai Hir ar gael. Bydd ceisiadau gan rai sydd o dan 16 mlwydd oed adeg yr alltaith yn cael eu hystyried
ar gais y rhieni neu’r gwarcheidwaid. Mae grwpiau fel arfer yn dewis gwneud Siwrnai Hir yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Gan fod alltaith o’r fath
yn hirach, mae mwy o waith cynllunio a pharatoi ar ei chyfer felly ceir pecyn hyfforddi hirach ar gyfer Siwrnai Hir. Fel arfer, mae’r rhaglen yn
ei chrynswth yn parhau rhwng 12 ac 20 mis – ac yn cynnwys cyflwyniad i’r rhieni, 3 Diwrnod Datblygu Grŵp, Hyfforddiant Allteithio, Diwrnod
Paratoi Terfynol, YR ALLTAITH, ôl-friffio ar ôl dychwelyd a Diwrnod Gloywi Sgiliau. Dylid cyfeirio at eich Brîff Alltaith penodol i weld pa hyfforddiant yn union y
byddwch yn cymryd rhan ynddo.
Amserlen Siwrnai Hir
Diwrnod Datblygu Grwp 1
Gosod sylfaeni’r alltaith a chodi arian.
6 awr
I’w gynnal yn eich ysgol neu fan cyfarfod
Sesiwn cwestiwn ac ateb dewisol ar gyfer rhieni
• TasgauTîmathorri’rias• Dewisydaith• Ystyriedychwanegiadau
bollten • Rheolicyfarfodyddgrŵpa
dyrannu rôl a chyfrifoldebau • Gweithdaicodiarian• Cyflwyniadideithiocyfrifol,
Llawlyfr Pum Gwyrdd Mawr a Llawlyfr y Teithiwr Camre Cymru
Diwrnod Datblygu Grwp 2
Gweithdai lleoedd, gwaith gwahanol amgylchiadau, cynllunio camau i’w cymryd a theithio cyfrifol.
5 awr
I’w gynnal yn eich ysgol neu fan cyfarfod
Sesiwn cwestiwn ac ateb dewisol ar gyfer rhieni
• Gwahanolamgylchiadaubywyd ar alltaith, rôl a dynameg tîm
• Ail-drafodsyniadaucodiarianac adroddiadau cynnydd
• Cynlluniaugweithreduargyferrhan nesaf y gwaith paratoadol yn y DG
• CyflwyniadioffsetiocarbonaChyfrifiannell Carbon Camre
Diwrnod Datblygu Grwp 3
Cyflwyniad terfynol y daith a chyfarfod eich Harweinydd Alltaith ymrwymedig.
5 awr
Sesiwn gyda’r nos
Mae’n RHAID i’r rhieni ddod i’r sesiwn yma
• Rhieni,AthrawonCyswllta’r rhai sy’n cymryd rhan yn cyfarfod eu Harweinydd Alltaith
• Egluro’rdaithderfynol• ArddangosofferyrAlltaith• ParatoituagatHyfforddiant
Allteithio • Cyflwyno’rcyfrifiadallyrru
carbon terfynol a dewis p’un ai dylid offsetio carbon yr alltaith ai peidio
Hyfforddiant Allteithio
Lleoedd a theithiau bychain penodol yr alltaith.
2½ diwrnod
I’w gynnal yng Ngogledd Cymru neu yng nghanolbarth Perthshire
Mae’rgrŵpyntrafodamrediadeango bynciau gyda’u Harweinydd Alltaith, sy’n cynnwys
• Hollfateriondiogelwch• IechydaHylendid• TrafnidiaethDramor• Cymorthcyntafacargyfyngau
meddygol • Ymdopigydahiraethamadref• Addasuiddiwylliantnewydd• CrefftGwersylla• ParatoiBwyd• Ymarferdodohydi’rffordd• RhoiCôdyTeithiwrCamre
Cymru ar waith, monitro’r effaith amgylcheddol a rôl y Swyddog Amgylcheddol
Yn ogystal â’r profiad ymarferol gwerthfawr sy’n cael ei gynnig yn ystod y rhan yma, bydd y grŵp yn dod i adnabod ac ymddiried yn y Tîm Arwain a’i gilydd. Mae’r hyfforddiant hefyd yn cynnwys abseiliad i godi arian.
^ ^ ^
11
Diwrnod Paratoi Terfynol
Briffio diogelwch a gwirio offer terfynol.
5 awr
Bydd y grŵp yn mynd ar ei liwt ei hun i’r lle y cynhelir y Diwrnod Paratoi Terfynol.
• Briffiodiogelwchcynhwysfawr• Derbynagwirioofferygrŵpac
unrhyw offer personol wedi ei hurio
• Trafodunwaithetoyrhynydylid ei ddisgwyl yng nghyswllt gwahaniaethau diwylliannol
• Eglurorheolau’ralltaith
Dechrau'r Alltaith!!
Yr Alltaith
Profiad sy’n newid bywyd!
• NodirymanylionymMrîffAlltaith yr ysgol
• Anterthgwaithcaled,cynllunioa pharatoadau’r Tîm Allteithio
• YTîmyncofnodicynnyddeu halltaith yn eu Dyddiadur Allteithio
Teg edrych tuag adref
Ôl-friffioynymaesawyr
Dychwelyd offer Camre a dychwelyd adref ar eich liwt eich hun.
Diwrnod Gloywi Sgiliau
Adolygu’r profiadau a gawsoch ar alltaith.
1 diwrnod gydag Arweinydd yr Alltaith
I’w gynnal yn eich ysgol neu fan cyfarfod
• Diwrnodadolyguiwerthusoprofiadau a’u gwneud yn berthnasol i’r dyfodol
• TrafodCV,ceisiadauPrifysgolathechneg cyfweliad
• AdolyguDyddiaduryrAlltaith• Rhoitystysgrifi’rallteithwyr
yn ogystal ag adroddiad ar eu cynnydd a’u datblygiad
12
Rhaglenni Ein Hallteithiau
Amserlen Siwrnai Fer
12
Siwrnai Fer – allteithiau 18 diwrnod neu lai Mae Siwrnai Fer yn ddelfrydol ar gyfer rhai nad ydynt eisiau bod i ffwrdd o adref am gyfnod maith. Mae siwrnai fer hefyd yn
ddelfrydol ar gyfer rhai ifancach sy’n dymuno cymryd rhan a’r rhai hynny nad ydynt yn dymuno codi llawer o arian i fynd. Maent ar
gael i bobl ifanc rhwng 11 a 21 oed adeg mynd ar yr alltaith. Gall Siwrnai Fer ddigwydd yn ystod gwyliau’r Pasg a’r haf yn ogystal
ag yn ystod gwyliau hanner tymor neu hyd yn oed wyliau’r Nadolig. Bydd cyfod o 6 i 14 mis yn rhagflaenu siwrnai fer – er y gellid eu
trefnu o fewn isafswm o 4 mis o rybudd – sy’n caniatau amser i sicrhau bod y grŵp wedi trefnu’n ddigonol. Mae’r rhaglen yn cynnwys
cyflwyniad i’r rhieni, 2 Ddiwrnod Hyfforddi Grŵp, Diwrnod Paratoi Terfynol, YR ALLTAITH a dychwelyd adref. Dylech gyfeirio at Frîff yr Alltaith i weld
pa raglen alltaith y byddwch chi yn cymryd rhan ynddi a ph’un ai yw’n cynnwys unrhyw sesiynau hyfforddi bollten ychwanegol.
Diwrnod Hyfforddi Grwp 1
Gosod sylfaeni’r alltaith a chodi arian.
6 awr
I’w gynnal yn eich ysgol neu fan cyfarfod
Sesiwn cwestiwn ac ateb dewisol ar gyferrhieni
• Dewiseichtaith• Ystyriedysesiynaubollten
ychwanegol • Gweithdaicodiarian• Datblygusgiliaubyw–gwaith
tîm, arwain, cynllunio a datrys problemau
• Cyflwyniadideithiocyfrifol,Llawlyfr Pum Gwyrdd Mawr a Llawlyfr y Teithiwr Camre Cymru
Diwrnod Hyfforddi Grwp 2
Cyfarfod eich Harweinydd Alltaith ymrwymedig, gweithdai allteithio a theithio cyfrifol a chyflwyno’r daith derfynol.
7 awr
I’w gynnal yn eich ysgol neu fan cyfarfod
Mae’n RHAID i’r rhieni ddod i’r sesiwn yma
• Sgiliaucrefftgwersylla• IechydaHylendid• Ymgyfarwyddoâgwahanol
ddiwylliannau • Diogelwch• Cyflwyniadioffsetiocarbon,
Cyfrifiannell Carbon Camre, Y Pum Gwyrdd Mawr, cyflwyno cyfrifiad allyriad carbon terfynol yr alltaith, dewis p’un ai i offsetio yr alltaith ai peidio
Diwrnod Paratoi Terfynol
Briffio diogelwch a gwirio offer terfynol.
5 awr
Bydd y grŵp yn mynd ar ei liwt ei hun i’r lle y cynhelir y Diwrnod Paratoi Terfynol.
• Briffiodiogelwchcynhwysfawr• Derbynagwirioofferygrŵpac
unrhyw offer personol wedi ei hurio • Trafodunwaithetoyrhyny
dylid ei ddisgwyl yng nghyswllt gwahaniaethau diwylliannol
• Eglurorheolau’ralltaith
Dechrau'r Alltaith!!
^ ^
1313
Yr Alltaith
Profiad sy’n newid bywyd!
• NodirymanylionymMrîffAlltaithyr ysgol
• Anterthgwaithcaled,cynllunioapharatoadau’r Tîm Allteithio
• YTîmyncofnodicynnyddeuhalltaith
yn eu Dyddiadur Allteithio
Teg edrych tuag adref Ôl-friffioynymaesawyr
Dychwelyd offer Camre a dychwelyd adref ar
eich liwt eich hun.
Y Broses Adolygu
Bydd Arweinydd yr Alltaith yn rhoi geirda
ysgrifenedig i’r allteithwyr yn seiliedig ar yr
hyn a gyflawnwyd ganddynt yn ystod yr
alltaith fel y gallant ei ddefnyddio mewn
ceisiadau swydd neu geisiadau addysg uwch
yn y dyfodol. Bydd tystysgrif yn cael ei rhoi i
bawb maes o law.
Fel rhan o’u halltaith, bydd y rhai sy’n cymryd
rhan yn cynllunio, yn gwneud ac yn adolygu
bob tasg. Annogir y grŵp i gyfarfod â’r
Athro Cyswllt wedi’r alltaith ar ôl cael amser
i dreulio’r holl brofiad – er mwyn adolygu
sut wnaeth yr alltaith gyd-fynd â’u nodau ac
amcanion a’r hyn y maent wedi ei ddysgu
o’r profiad.
14
Codiarian- Rhan o 'r Hwyl Y Manteision Mae codi arian yn un o’r gwersi bywyd ( o ran rheoli
arian, cadw cofnodion, hunan-ysgogiad a chyflawni
targedau) y gall y rhai sy’n cymryd rhan ei fancio ar
gyfer y dyfodol. Mae Prifysgolion a chyflogwyr yn
parchu’r ymrwymiad a’r dyfeisgarwch a ddangosir gan
ymgeiswyr yn ystod y rhan yma. Mae llawer o hwyl i’w
gael wrth godi arian ac mae’n sicr yn rhan o’r hwyl o
fynd ar alltaith; mae hefyd yn helpu i’r grŵp uno fel tîm.
A fyddaf i’n medru codi’r arian? Dyma’r prif gwestiwn a fydd yn cael ei ofyn fel arfer gan
y rhai sy’n meddwl cymryd rhan cyn iddynt benderfynu
ymgeisio i fynd ar alltaith. Yr ateb yw, a dweud y gwir,
ei bod hi’n dibynnu’n llwyr arnoch chi! Mae codi
arian i fynd ar alltaith yn ymrwymiad ond mae hefyd
yn hollol bosib’. O’n profiad ni, gall unrhyw berson
ifanc gyrraedd ei darged o roi eu meddwl ar wneud
hynny – felly nid oes unrhyw reswm pam na fedrwch
chi wneud hynny hefyd. Mae Camre wedi hebrwng
grwpiau o ledled y DG ar alltaith ac mae’r rhai sy’n
cymryd rhan yn dod o lawer o gefndiroedd gwahanol
gyda diddordebau a chryfderau personol o bob math.
Newidiwch eiriad y cwestiwn yma a gofyn yn hytrach…
Faint ydych chi eisiau mynd ar alltaith? Os mai’r ateb yw eich bod wir eisiau mynd yna fe
fyddwch yn sicr o godi’r arian. Mae codi’r arian yn
ymrwymiad ond mae hefyd yn rhan annatod o’r hwyl
a’r ymdeimlad o gyflawni rhywbeth. Mae’n dangos
eich creadigrwydd, eich sgiliau entrepreneuraidd a’ch
hymrwymiad i gyflogwyr a sefydliadau addysgol yn y
dyfodol yn ogystal â rhoi pleser personol mawr i chi.
Byddwch yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn y tro nesaf Mae codi’r arian i fynd ar alltaith yn dysgu sgiliau rheoli a chyllidebu arian
gwerthfawr y byddwch yn medru eu defnyddio yn y dyfdol i chi. Mae’n eich
dysgu i wneud penderfyniadau er mwyn cyflawni eich nod, yn eich dysgu sut
i agor cyfrifon banc, sut i lunio cynllun cynilo y gellir ei gyflawni ac mae hefyd
yn eich dysgu sut i gyllidebu (sy’n ddefnyddiol os ydych ar fin gadael cartref
i fynd i brifysgol). Hwyrach y bydd codi’r arian i fynd ar alltaith hefyd eich
harwain at gael eich swydd gyntaf a’r pleser o gael eich cyflog cyntaf. Hwyrach
y canfyddwch fod gennych ddawn arbennig o ran trefnu digwyddiadau neu
farchnata eich hymdrechion entrepreneuraidd a allai ddylanwadu ar eich gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn dysgu sut i
redeg eich hun fel busnes bychan. O gymryd rhan yn y dasg codi arian tuag at eich halltaith, byddwch yn deall gwerth
arian, ac y tro nesaf y byddwch yn gofyn y cwestiwn a fedrwch chi godi arian at rywbeth (car neu dŷ o bosib, neu hyd yn
oed ynys!) byddwch yn gwybod yn union sut i fynd ati i wneud hynny.
Pa gefnogaeth sydd ar gael i chi? Yn gyntaf, gadewch i ni egluro un peth. Nid oes neb arall yn mynd i godi’r arian ar eich rhan. Nid cyfrifoldeb
eich rhieni, eich Athro Cyswllt, Camre na gweddill eich grŵp yw codi’r arian i chi. Eich cyfrifoldeb chi yw codi’r
arian. Fodd bynnag, bydd digon o bobl ar gael i gynnig cyngor i chi ar hyd y ffordd er mwyn sicrhau eich bod yn
cyrraedd eich nod.
Cefnogaeth a chyngor codi arian arbenigol Camre • Mae’rrhaglenhyfforddiyncynnwysgweithdaicodiarian
• Maecyfanswmcostyralltaithyncaeleirannu’nrandaliadaullai
• MaePecynRheoliArianCamreargaeli’rrhaisy’ncymrydrhansy’nrhoimanyliontrefnu
digwyddiadau, nawdd a chyflogaeth
• MaebobCydlynyddRhaglenAlltaithwedieihyfforddiigynnigcyngorcodiarianarbenigoli
chi yn ogystal â darparu annogaeth i chi gydol y rhaglen
• MaeCamreyncynnigydewisichihurioofferpersonol–sy’nrhatachna
phrynu’ch offer eich hun
•Mae’rrhaisy’ncymrydrhanyncaelgostyngiado15%arofferabryniro
Cotswold Outdoor Ltd
Codiarian- Rhan o 'r Hwyl Sut all eich Athro Cyswllt eich cefnogi chi…• Eichhelpuigaelcefnogaetheichysgolargyferdigwyddiadaucodiarian
• Bodwrthlawigynnigcyngorichi
• Eichhelpuidrefnucyfarfodyddrheolaiddidrafodeichcynnydd
Sut all eich rhieni/gwarcheidwaid eich cefnogi chi…• CyfraniadaupenblwyddneuNadolig
• Wrthymunoynyrhwylmewndigwyddiadaucodiarian
• OndPEIDIWCHadisgwyliddyntarwyddosiecidaluameichhalltaithigyd!
Cefnogaeth eich tîm • Peidiwchaganghofioybyddwchyngwneudrhywfainto’rgwaithcodiarianfeltîm
• Gallwchrannusyniadaucodiarianarleingydagrwpiauallteithioeraill
• Gallcodi’rarianfodyngymaintohwylagydymunwchiddofod!
Deuparth gwaith…Gall meddwl am godi’r arian ar gyfer eich taith fod yn
frawychus, ond y ffordd orau i fynd i’r afael â’r dasg yw
drwy ei thorri’n rhannau llai y gellir eu rheoli’n haws.
Hwyrach ei bod yn haws mynd i’r afael â’r dasg fel hyn:
Rhan Gyntaf – Arian y byddwch yn ei godi fel unigolyn e.e. drwy
gyflogaeth, golchi ceir, cerdded cŵn, gwerthu eitemau
ar e-Bay, bod yn gynrychiolydd Avon neu warchod
plant.
Ail Ran – Arian y byddwch yn ei godi fel grŵp e.e. nosweithiau
cwis, nosweithiau rasio, gwahanol ddigwyddiadau
fel parti/disgo/bandiau, dyddiau dillad eich hun yn
yr ysgol, sioeau ffasiwn, arwerthiant addewidion,
cystadlaethau talent, grwpiau golchi ceir, pacio bagiau
mewn archfarchnadoedd a nawdd gan fusnesau.
Enghraifft o Rannu’r Dasg Ariannol: BETH ALLWCH EI WNEUD COST
Swyddran-amsermewnsiopflodau-£4.50 / €5.10* yr awr am 5 awr yr wythnos
£1,170€1,326*
AnrhegionPenblwyddaNadolig- gan deulu a ffrindiau £160€182*
Rhannucronfa’rtîm-digwyddiadau a gynhelir gydol y flwyddyn fel dyddiau heb ddillad ysgol, pacio bagiau a nosweithiau cwis
£600€682*
GolchiCeir-£5 / €5.50* y car gyda chyfartaledd o 2 gar bob penwythnos
£520€572*
DigwyddiadauNoddedig- e.e. abseiliad noddedig gyda 118 o noddwyr yn talu £3 yr un
£354€402*
E-bay-casglu a gwerthu pethau nad yw pobl eu heisiau £100€110*
Cyfraniad Rhieni £650€742*
Cyfanswm-dros gyfnod o flwyddyn £3,554€4,016*
Digwyddiadau Bollten Noddedig Mae’r digwyddiadau hyn yn golygu cost ychwangeol i’n rhaglenni safonol (rydym yn eu
galw’n ddigwyddiadau bollten ychwanegol); serch hynny, mae Camre yn ceisio cadw
costau’r digwyddiadau hyn mor isel â phosib er mwyn cefnogi’r rhai sy’n cymryd rhan.
Abseiliad Noddedig Mae Camre yn cynnig abseiliad noddedig dewisol oddi ar Dŵr Marcwis, Ynys Môn (Cymru),
Tŵr Rhew Castell y Penrhyn (Cymru) neu oddi ar graig naturiol yng nghanolbarth Perthshire
(Yr Alban). Mae’n rhad ac am ddim ar i’r rhai rhai sy’n cymryd rhan mewn Siwrnai Hir, sydd â’r
dewis i’w wneud ar ddiwedd eu Penwythnos Hyfforddiant Allteithio. Mae’r follten ddewisol
yma yn ychwanegol i bris alltaith y rhai sy’n gwneud Siwrnai Fer unrhyw bryd yn ystod y
flwyddyn. Hwyrach y bydd y tîm yn dewis talu rhywfaint yn rhagor er mwyn gwneud yr
abseiliad yn agosach i adref. Felly, os fedrwch ddod o hyd i le addas, fe wnawn ni wireddu
hynny.
Taith Gerdded Ddewisol i ben Yr Wyddfa, Ben Nevis neu Scarfell Pike (neu’r 3 chopa!)Gall yr ysgol neu’r rhai sy’n cymryd rhan ddewis gwneud taith gerdded noddedig fel
rhan o’u rhaglen baratoadol. Yn ddibynnol ar amser, gall Camre ystyried contractio eich
Harweinydd Alltaith i ddod gyda chi.
15
NEW!
NEW!
for 2009NEWYDD!
NEW!
for 2009
* Cyfradd gyfnewid 1GBP = 1.1375EUR cywir ym mis Awst 2009.
16
Mae pawb yn Camre wedi rhyfeddu at wahanol leoedd yn y byd, ac mae gan bawb ei ffefryn. Rydym eisiau rhannu rhai o’r profiadau yma a helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ddod o hyd i’w llecynnau gorau eu hunain. Serch hynny, rydym wedi ymrwymo’n gyfan gwbl i warchod y mannau yma – dyma pam rydym wedi datblygu Rhaglen Hyfforddiant Teithio Cyfrifol unigryw sy’n rhan o baratoadau bob alltaith.
Mae mynd ar alltaith yn rhoi cip ar fywyd byd-eang i chi. Yng Nghamre, rydym o’r farn bod teithio yn hyrwyddo
ymwybyddiaeth a bod ymwybyddiaeth yn ei dro yn hyrwyddo gweithredu. Wrth allteithio, mae’r rhai sy’n cymryd
rhan yn dysgu gwerthfawrogi eu hamgylchedd eu hunain ac yn dod yn fwy ymwybodol o rai o’r heriau sy’n ei wynebu.
Byddwch yn medru llunio EICH BARN EICH HUN ar faterion byd-eang, sylweddoli’r effaith y caiff eich gweithredoedd chi
ar yr amgylchedd a dysgu gwneud penderfyniadau mwy cytbwys mewn byd sy’n newid. Lluniwyd y rhaglen yma gan
arbenigwyr teithio cyfrifol ac amgylcheddol ac mae wedi cael ei meincnodi yn erbyn canllawiau cydnabyddedig megis
canllawiau Leave No Trace, Young Explorers’ Trust a’r British Biological Society ar Gyfrifoldeb Amgylcheddol wrth Allteithio.
Mae ein Rhaglen Hyfforddiant Teithio Cyfrifol ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan yn gweithio fel a ganlyn.
Cyn yr Alltaith
Cyn mynd ar alltaith ac yn ystod y sesiynau hyfforddi,
cyflwynir y rhai sy’n cymryd rhan i:
• Ffeithiauamgylcheddoldiddorol
• Sutigadw’ramgylcheddmewncofwrthdrefnu
digwyddiadau codi arian, prynu offer a chynllunio
alltaith
• CôdyTeithiwrCamre–canllawiauamgylcheddol,
cymdeithasol a diwylliannol ar gyfer allteithio
• Ymchwilio’rgwahaniaethaudiwylliannolcynmynder
mwyn sicrhau parch a gofal tuag atynt
• YstyriaethauCamrewrthddewiseibrosiectaua’i
ddarparwyr
• SutmaeCamreyngwneudeiweithrediadauynfwy
cyfeillgar i’r amgylchedd
• PenderfyniadCamreifodydarparwr
allteithiau CarbonNiwtral® cyntaf –
cyflwyniad i offsetio carbon ac egluro
maint allyriad carbon yr alltaith
• Byddyrhaisy’ncymrydrhanyndewis
ddylid offsetio allyriad carbon yr alltaith ai peidio ac yn
dysgu sut i wneud hynny gyda chyfrifiannell carbon
arlein Camre Cymru
Bydd y rhai hynny sy’n cwblhau’r hyfforddiant alltaith yn
cael cyfle i ymarfer yr hyn maent wedi ei ddysgu, cadw
dyddiadur o’r effaith y maent yn ei gael ar yr amgylchedd a
dysgu arferion da yng nghyswllt crefft gwersylla.
Yn ystod ac ar ôl yr alltaith
Dyddiadur yr Alltaith: Yn ystod y sesiynau briffio
dyddiol, bydd y grŵp yn trafod yr hyn a ddysgwyd yn
ystod taith y dydd a pha mor llwyddiannus oeddynt yng
nghyswllt lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd yn ogystal ag
ystyried yr hyn y dylid ei gadw mewn cof ar gyfer rhan nesaf
y daith. Caiff hwn ei gofnodi yn NyddiaduryrAlltaith fel y
gallant fonitro eu cynnydd.
Swyddog Amgylcheddol: Bydd bob tîm
alltaith yn enwebu Swyddog Amgylcheddol sy’n
monitro’r effaith a gaiff yr alltaith ar yr amgylchedd ac yn
sicrhau bod penderfyniadau’r grŵp yn seiliedig ar Côd y
Teithiwr Camre.
Prosiectau: Bydd Camre yn annog timau i gwblhau
prosiect cymunedol neu amgylcheddol fel rhan o’u taith
fel y gallant roi rhywbeth yn ôl i’r lleoedd y byddant
yn teithio iddynt. Bydd y grŵp yn dysgu o ddifrif am y
gwahanol ddiwylliannau a bydd y gwaith prosiect yn
helpu i oresgyn rhai o’r rhwystrau diwylliannol.
Ar ôl yr alltaith: Gofynnir i’r rhai sy’n cymryd rhan
i adolygu Dyddiadur yr Alltaith ac asesu eu llwyddiant
a’r hyn a ddysgwyd ganddynt. Gofynnir iddynt roi
adborth yn ôl i Camre a sylwadau fydd yn ein helpu i
wella ein rhaglenni allteithio.
Ein rhaglen hyfforddiant teithio cyfrifol unigryw – arloesi addysg amgylcheddol
Addysg ar gyfer byd sy’n newid
16
17
CarbonNiwtral®
Yn 2008, roeddem yn falch o gael ein dynodi yn
ddarparwr allteithiau ieuenctid CarbonNiwtral® (a ni
yw’r unig un hyd heddiw). Drwy archwilio ein allyriad
carbon, cawsom gyngor arbenigol ynghylch sut i’w
leihau – ac rydym wrthi’n rhoi’r cyngor hwn ar waith
mor fuan a chynaliadwy a phosib. Rydym wedi penderfynu ei bod
yn gyfrifoldeb arnom ni i offsetio’r carbon na fedrwn ei leihau.
Rydym yn talu am bob tunnell o garbon a gynhyrchir gan ein cwmni
a bydd hwn yn cael ei offsetio gan brosiectau sy’n gyfeillgar i’r
amgylchedd a ddewisir yn ofalus gan The Carbon Neutral Company.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y prosiectau rydym yn eu
cefnogi ar ein gwefan.
Beth fyddwn yn ei offsetio? Rydym yn offsetio ein holl weithgareddau megis ein defnydd
o ynni, gwastraff, teithiau awyr ein staff, trafnidiaeth, llety a
theithiau i’r gwaith. Rydym hefyd yn offsetio teithiau awyren,
teithiau mewndirol a llety ein Hathrawon Cyswllt ac Arweinyddion
Alltaith. Ni fyddwn yn offsetio gweithgareddau ein cyflenwyr na
chyfranogwyr; gall y cyfranogwyr offsetio eu hallyriant carbon eu
hunain gyda cyfrifiannell carbon arlein Camre.
Pam offsetio carbon? Rydym yn cydnabod nad yw offsetio carbon yn ateb cyflawn ac nad
yw’n debygol o atal cynhesu byd-eang ar ei ben ei hun. Ond mae
yn helpu drwy ostwng lefel y carbon gaiff ei ollwng i’r amgylchedd
neu hyrwyddo ein dewis ni fel pobl i ddefnyddio technoleg
sy’n rhyddhau llai o garbon i’r amgylchedd. Nid yn unig y mae’n
ddyletswydd foesol arnom i leihau ein allyriant carbon, ond mae
hefyd yn gwneud synnwyr busnes da. Mae gostwng ein allyriant
carbon yn golygu ein bod yn gostwng maint yr ynni, deunyddiau
ac adnoddau naturiol gwerthfawr yr ydym yn eu defnyddio ac
felly’n gostwng ein costau drwyddi draw. Nid yn unig hyn, ond
rydym hefyd o’r farn bod ein hymrwymiad i’r amgychedd yn ein
gwneud yn wahanol i’n cystadleuwyr. Rydym ni a’r amgylchedd ar
ein hennill.
Gallwch ymweld â www.carbonneutral.com am ragor o
wybodaeth am The Carbon Neutral Company.
Polisïau
Polisïau Amgylcheddol a Theithio Cyfrifol Camre Rydym wedi ymrwymo i egwyddorion teithio cyfrifol ac yn ceisio
lleihau’r effaith negyddol y mae ein rhaglenni yn ei gael ar y bobl a’r
lleoedd y byddwn yn ymweld â nhw. Rydym eisiau cyfrannu yn hytrach
na dinistrio. Rydym yn dod o hyd i brosiectau cynaliadwy a gwerth
chweil sy’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r byd. Rydym hefyd wedi seilio ein
swyddfeydd a’n holl weithrediadau ar egwyddorion amgylcheddol
da. Ymysg ein partneriaid mae: Friends of Conservation, International
Porters’ Protection Group, Secure IT Recycling (SITR) a International
Mountain Explorers Connection.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch ein polisïau llawn ar ein gwefan
sy’n cael ei gwella’n barhaol.
Grwp Llywio AmgylcheddolGrŵp yw hwn o staff Camre sy’n cyfarfod yn rheolaidd i ddatblygu
rhaglen amgylcheddol a theithio cyfrifol Camre; foed drwy sicrhau y
caiff yr ailgylchu a’r compostio ei wneud neu drwy ddod o hyd i ffyrdd
dyfeisgar i leihau ein allyriant carbon ac adolygu adborth gan y rhai
sy’n cymryd rhan yn ein Rhaglen Hyfforddiant Teithio Cyfrifol.
Gostwng. Ailddefnyddio. AilgylchuNid yn unig yn ein swyddfeydd y mae’r ymadrodd yma yn cael ei roi
ar waith, ond hefyd yng nghyswllt ansawdd uchel ein hoffer allteithio.
Rydym yn prynu offer technegol y gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro, ac
yn ei gynnal a’i gadw mewn cyflwr da fel y gellir parhau i’w ddefnyddio
yn y dyfodol. Nid ydym yn prynu pethau ffwrdd-a-hi yr oes sydd ohoni
ac fe fyddwn wastad yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu offer pan fo
hynny’n bosib yn annhebyg i ddarparwyr eraill.
Rhoi rhywbeth yn ôl
Ein hymrwymiad i fuddsoddi – cefnogi prosiectau byd-eang a gwella ein gweithrediadau Rydym wedi cefnogi ymgyrch 1% for the Planet ers dwy
flynedd. Fodd bynnag, eleni, oherwydd newid swyddfa
a mwyfwy o brosiectau tramor, penderfynwyd y dylid dyrannu’r gyllideb
a fuddsoddir fel arfer yn yr ymgyrch yma i brosiect arall. Yn unol â
chyngor ac adborth ein Hymgynghorwyr Amgylcheddol, y Grŵp Llywio
Amgylcheddol, ein harweinwyr a’n cleientau, byddwn yn defnyddio’r
gyllideb i wneud ein gweithrediadau ein hunain yn fwy cyfeillgar i’r
amgylchedd ac i ymestyn ein cefnogaeth i brosiectau tramor eraill.
Ymwybodol o Gamre Camre!
17
Nid da lle gellir gwell… Rydym yn adolygu ein Polisïau Amgylcheddol a Theithio Cyfrifol yn gyson er mwyn sicrhau
ein bod yn lleihau’r effaith rydym ni fel sefydliad yn ei gael ar yr amgylchedd ac rydym yn yn
ceisio cael effaith gadarnhaol pan fo hynny’n bosib. Nid ydym yn berffaith o bell ffordd ac nid
ydym yn honni bod yr holl atebion gennym – nid da lle gellir gwell! Mae’n hanfodol ein bod
yn gweithredu ein polisïau ein hunain.
^
1818
Does dim arholiadau, does dim methiant; mae cymryd rhan a rhoi cynnig arni yn golygu llwyddiant.
Gwersi Bywyd Mae rhaglenni Camre yn arfogi’r rhai sy’n cymryd rhan gyda’r sgiliau bywyd sy’n hanfodol ar gyfer byw yn y byd cystadleuol yma. Mae ein rhaglenni allteithio yn ddatblygiad ar addysg academaidd a phersonol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac yn ateb ac ymhelaethu ar ofynion amcanion penodedig y pynciau a ddysgir yn yr ysgol. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu amdanynt eu hunain ac yn ymestyn eu ffiniau eu hunain. Ein nod yw cynnig profiadau sydd o fwynhad ac o werth hir-dymor i’r rhai sy’n cymryd rhan. Ymysg y manteision mae:
Datblygiad personol • RheoliRisg• Sgiliauarwain,gwaithtîm,cyfathrebu,dirprwyogwaith,negodi,cynllunioathrefnu• Hyder,gwyleidd-dra,hunanddigoneddadibynadwyedd• Iechydalles• Archwilioeuffiniaueuhunain• Cymhelliantargyferdysgumwy• GwneudpenderfyniadaugydachefnogaethyTîmArwain
Manteision Addysgol • Cyfleiennill70pwyntUCAS
• Cyswlltâphynciau’rcwricwlwm–rhoibywydi’rgwersiaddysgwydynyrysgol
Meithrin Ymwybyddiaeth Fyd-Eang • Dealltwriaethowahanolddiwylliannauacamgylchoedd
• Dealltwriaethfoesolacysbrydol
• Ymestyngorwelionbyd-eang
• Dinasyddioncyfrifol
Manteision ar gyfer y dyfodol • GwneudiCVacheisiadauUCASddisgleirioymhlithylleill
• Paratoaddaargyfergadaelcartrefneufywydprifysgol
Dysgu sut i deithio’n ddiogel • Gwneudasesiadaurisg
• Ymarferoldebteithio,cynllunioagweithredu
• Ymarferiaithdramor
• Cyflwyniadperffaithideithioannibynnol,teithioblwyddynfwlchneuwaithdramor
yn y dyfodol
Ymwybyddiaeth amgylcheddol a Theithio Cyfrifol • Ymwybyddiaetho’ramgylcheddagwerthfawrogimaterionamgylcheddol
• Empathiwrthdeithiogwledyddtramor
• Sgiliauileihau’reffaitharyramgylchedd
Rheoli Cyllideb • Rheolicyllidebachynilo
• SgiliauEntrepreneuraidd
• Cyllidebu
• Gostyngiado15%ganCotswoldOutdoorLtd
i bawb sy’n cymryd rhan (a’r athrawon)
Disgleirio ymhlith y Dyrfa – ychwanegol Ar ôl profi alltaith, mae’r rhai a gymerodd ran yn fwy hyderus a hunan-ymwybodol, yn
canolbwyntio’n well ac yn meddwl o ddifrif am eu dyfodol. Mae cymryd rhan mewn
alltaithyngwneudi’chCVacheisiadauUCASddisgleirioymhlithydyrfaagallwellaeich
cyfle o gael lle mewn prifysgol neu gael y swydd rydych ei heisiau. Os ydych yn disgwyl
cael swydd neu le mewn prifysgol, gallasai fod 200 o bobl eraill i gyd gyda rhes o A*
yn ymgeisio yn eich herbyn. Mae’r ffaith eich bod wedi bod ar alltaith yn gwneud i’ch
datganiadpersonolareichceisiadauUCASneuCVddisgleirioymhlithygweddill.
Geirda Personol Ar ddiwedd yr alltaith, bydd Arweinydd yr Alltaith yn ysgrifennu geirda personol ar gyfer
bob un o’r allteithwyr, gan nodi’r hyn y maent wedi ei gyflawni dros gyfnod yr alltaith.
Ennill 70 o bwyntiau UCAS Gall unigolion ddewis defnyddio eu profiad allteithio i ennill 70 o
bwyntiau UCAS ychwanegol drwy gwblhau Tystysgrif Effeithiolrwydd
Personol ASDAN (CoPE Lefel 3) am gost ychwanegol bychan. Serch
hynny, mae gwaith ychwanegol i’w ystyried. Mae hwn yn hafal i Lefel AS
Gradd A neu Dystysgrif Addysg Uwch. Rydym yn ganolfan ASDAN gofrestredig ac wedi
cydweithio â nhw ers 3 blynedd drwy Gamre Cymunedol. Bydd Camre yn eich cefnogi
chi gydol y broses ac yn cymedroli eich prosiect cyn ei anfon i ASDAN i’w gymedroli.
Gwobr Prifysgolion ASDAN Mae pawb sy’n cymryd rhan wedi cymhwyso i gael Gwobr Prifysgolion ASDAN. Caiff y
wobr hon ei chydnabod yn ystod proses ymgeisio UCAS.
manteision allteithio
Cwmpas ar gyfer bywyd:
NEW!
NEW!
for 2009NEWYDD!
NEW!
for 2009
19
Eich alltaith chi yw hi Bydd bob aelod o’r tîm yn cael cyfle i
chwarae rôl arweiniol allweddol wrth
allteithio ac yn gyfrifol am benderfyniadau pwysig. Byddant yn gyfrifol am gyllideb eu
halltaith a sut y bydd yn cael ei gwario, archebu’r drafnidiaeth angenrheidiol a threfnu llety
ar gyfer y grŵp.
Codi Arian Un o brif fanteision cymryd rhan mewn rhaglen allteithio yw bod y rhai sy’n cymryd rhan
yn cael datblygu a defnyddio eu sgiliau entrepreneuraidd i godi arian er mwyn cyllido’r
alltaith. Mae’r ymdeimlad o gyflawni camp y byddwch yn ei gael o gyrraedd eich targed yn
wefreiddiol. Mae rhagor o wybodaeth ar yr holl faterion ariannol yn yr adran Codi Arian ar
dudalen 14-15.
Beth mae teithio yn ei ddysgu i chi Nid yw’n bosib teithio i bellafoedd byd ar alltaith heb i hynny effeithio i ryw raddau ar yr
amgylchedd. Yma yng Nghamre, rydym wedi myfyrio’n ddwys ynghylch hyn ac wedi dod i’r
casgliad cryf fod manteision ein hallteithiau yn gwneud iawn am y gost amgylcheddol, gan fod
y math hwn o deithio yn newid pobl er gwell. Mae’n eu gwneud yn fwy ymwybodol o’u lleoliad
yn y byd, yn fwy goddefgar o ddiwylliannau a chrefyddau eraill ac yn meithrin ymwybyddiaeth
amgylcheddol mwy eang ynddynt. Wrth fynd ar alltaith, mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn dod i
werthfawrogi eu hamgylchedd eu hunain fwyfwy a rhai o’r heriau sy’n ei wynebu. Rydym o’r
farn bod teithio yn hyrwyddo ymwybyddiaeth a bod ymwybyddiaeth yn ei dro yn hyrwyddo
gweithredu!
Gwobr Dug Caeredin Mae Camre yn Ddarparwr Gweithgareddau Ardystedig
Gwobr Dug Caeredin. Rydym wedi llunio teithiau i
leoedd penodol y gellir eu defnyddio i gwblhau adran
alltaith y Wobr Aur sy’n ateb anghenion ‘20 amod’ GDC. Dylid cyfeirio
at Frîff yr Alltaith i weld a yw’r dewis hwn ar gael.
Mae’n Hwyl!Mae hwn yn brofiad unwaith mewn bywyd ac mae’n goblyn o hwyl! Gyda llaw - un o brif
fanteision bod allan yn yr awyr agored yw y gallwch wisgo sbectol haul ac edrych yn cŵl.
Addysg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth Mae mynd ar alltaith yn dod â gwersi’r gwerslyfrau yn fyw. Gall y rhai
sy’n cymryd rhan brofi amgylchedd newydd, yn amrywio o’r jyngl i’r
anialwch, a meithrin dealltwriaeth well o ddiwylliannau gwahanol wrth
gymryd rhan rhagweithiol ynddynt.
Addysgu Arbrofol Daeth ysgolhaig o’r enw Kolb o hyd i theori wych a elwir yn Addysgu
Arbrofol. Yng Nghamre, rydym yn hoff iawn o’i syniadaeth oherwydd
holl fwriad allteithio yw cael profiad llaw gyntaf o rywbeth, gan
adlewyrchu ar y profiad hwnnw a dysgu ohono. Rydym yn annog y
rhai sy’n cymryd rhan i osod eu hamcanion eu hunain y byddant yn
eu hadolygu ar ddiwedd yr alltaith er mwyn gwneud yn fawr o’r hyn y
maent wedi ei brofi a’i gyflawni gydol y daith. Bydd y gwersi a ddysgwyd
ar yr alltaith yn aros gyda’r rhai sy’n cymryd rhan am byth.
Teithwyr Strydgall Bydd y myfyrwyr yn profi rhyddid gwneud penderfyniadau gyda
chefnogaeth Arweinydd yr Alltaith a bydd yr Athro Cyswllt yno i’w
harwain a’u cefnogi. Mae cymryd rhan yn yr alltaith yn gyflwyniad
perffaith i deithio blwyddyn fwlch neu weithio dramor yn y dyfodol.
Rheoli Risg Mae rheoli risg a gwneud penderfyniadau yn sgiliau nad ydynt yn
cael eu meithrin yn llawn mewn pobl ifanc sy’n cael eu magu yn y
gymdeithas fodern. Mae rheoli risg a theithio diogel yn elfennau
hanfodol o raglenni Camre. Caiff y rhai sy’n cymryd rhan eu dysgu bod
eu gweithredoedd yn cael effaith arnynt eu hunain ac ar y tîm. Fe’u
hannogir i fod yn fwy ymwybodol o risg ac i ddatblygu dealltwriaeth
well o’r ffordd y gellir trin a thrafod a datrys problemau. Caiff y rhai sy’n
cymryd rhan eu dysgu sut i asesu risg yn ddynamig ac yn barhaol, wrth
deithio neu wrth ddewis pa hostel i aros ynddi.
“Rwy’n credu’n gryf bod yr alltaith wedi fy helpu gyda mynd i’r brifysgol. Roedd yn sefyll allan yn fy natganiad personol ac rwy’n credu ei fod wedi arwain i’r cynnig ychwanegol i gael astudio dramor yn ystod fy ail flwyddyn. Fe wnaeth yr alltaith newid fy agwedd at fywyd o ran nad yw cyflawni dim ond un nod yn golygu popeth – y siwrnai a’r bobl rydych yn eu cyfarfod ar hyd y daith sy’n rhoi ystyr i’r holl beth”.
Jessica Louise AdamsCYFRANOGYDD – ALLTAITH I COSTA RICA, 2008
19
20
Pa atgofion sy’n ‘fyw yn y cof’ ar ôl dy alltaith?“Yr wythnos wnaethon ni dreulio yn ysgol Itala lle wnaethon ni helpu i osod seiliau’r ysgol a dysgu gwersi. Fe wnaeth un o’r adeiladwyr lleol geisio fy nysgu i blastro, ond ro’n i’n warthus! Wnai fyth anghofio’r bobl wnes i gyfarfod yno, yn enwedig pennaeth yr ysgol, Albert Mwansa – roedd o’’n ddyn ysbrydoledig.”
Sut effaith gafodd yr alltaith ar dy fywyd? “Mi es i ar alltaith er mwyn cael antur a dyna’n union y ce’s i! Mi ddois yn ôI eisiau mynd i deithio eto, ond mae’r alltaith wedi effeithio ar fy mywyd mewn nifer o ffyrdd gwahanol eraill hefyd. Cyn mynd ar alltaith, mi roeddwn yn bwriadu astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn y brifysgol. Ond tra’n gweithio yn ysgol Itala, mi wnes ganfod fy mod yn hoffi’r elfen ddysgu. Mi wnaeth mynd ar alltaith roi blas i mi ar ddysgu a phlannu’r syniad yn fy mhen fy mod eisiau bod yn athro ysgol cynradd. Pan ddes i adre’ roeddwn i’n unllygeidiog a llawn ysgogiad, ac mi wnes i newid fy nghwrs prifysgol, a 4 blynedd yn ddiweddarach rwy’n athro cymwys sydd ar fin dechrau fy ail flwyddyn o ddysgu! ”
Pa sgiliau a gafodd eu meithrin drwy fynd ar alltaith ac wyt ti’n meddwl fod hyn wedi dy helpu di o gwbl yn ystod dy yrfa? “Mae mynd ar alltaith yn sicr wedi rhoi mwy o ffydd a hunan-hyder i mi; rwy’n fwy parod i sefyll fyny a dweud fy marn oherwydd hyn. Mi ge’s i brofiad o weithio gyda phlant ac fe wnaeth wella fy sgiliau cyfathrebu. Mi fyddwn i’n dweud ei fod hefyd yn gwella sgiliau gwaith tîm a sgiliau arwain. Rwyf wedi canfod fod fy mhrofiad wastad yn bwnc llosg mewn cyfweliadau ac mae i lawr ar fy CV. Ar ôl mynd ar alltaith rwy’n teimlo fel y gallwn wneud rhywbeth a mynd i unrhywle: does gen i ddim ofn gwneud unrhywbeth mwyach.”
Sut wnes di godi’r arian i fynd ar alltaith? “Un o gynlluniau codi arian ein grwp ni oedd gwerthu toesenni i ddisgyblion eraill yr ysgol. Bob bore, byddem yn prynu lot o doesenni ac yn eu gwerthu amser cinio am elw. Mi fyddech yn synnu pa mor dda mae toesenni yn gwerthu! Mi wnaethon ni hefyd dreulio llawer o benwythnosau yn pacio bagiau mewn archfarchnad leol. Roedd gen i hefyd waith rhan-amser yn y ganolfan hamddn leol a oedd o fudd mawr i ariannu’r alltaith.”
Unrhyw argymhellion ar gyfer rhai sy’n barod i ddilyn ôl dy droed? “Ewch a chamera da, digon o blasteri (ar gyfer swigod!) a hufen golchi dwylo efo chi!.”
Cyfweliad gyda Ceri Jones
CYFRANOGYDD – ALLTAITH I ZAMBIA A BOTSWANA, 2005
Dyfodol disglair
20
^
2121
Yr Athro Cyswllt Fel arfer, athro ysgol neu arweinydd sefydliad ieuenctid yw’r Athro Cyswllt.
Rôl yr Athro Cyswllt Rôl yr Athro Cyswllt yw:
• BodynbwyntcyswlltrhwngCamrea’rysgol
• Hyrwyddoachymhellu’rtîmgydolyrhaglencodiarianachyfnodparatoi
• Myndgyda’rgrŵparalltaithachwaraerôlfugeiliol
Mae nifer yr Athrawon Cyswllt sy’n mynd gyda’r grŵp yn amrywio ac yn ddibynnol
ar faint y tîm a gofynion yr Awdurdod Lleol. Bydd o leiaf un Athro Cyswllt ymhob un
o’r timau alltaith..
Fel rhywun sy’n cymryd rhan mewn alltaith, byddwch yn cael eich hyfforddi
i wneud yn siŵr eich bod yn hollol barod ar gyfer yr alltaith. Mae angen
hyfforddi’r athro cyswllt hefyd i wneud yn siŵr y gallant eich cefnogi chi’n iawn.
Mae pob Athro Cyswllt yn:
• CwblhauHyfforddiantAthroCyswllt–llebyddyndysgusuti’chcefnogi
gydol y rhaglen baratoadol
• MynychuCynhadleddCamre–llebyddyndysgusuti’chcefnogiaryralltaith
• Cwblhaucwrscymorthcyntafargyferallteithio
• Mynychubobuno’chsesiynauhyfforddiacynhyfforddigydachi
Rôl Camre Bydd Tîm Camre yn gwneud yn hollol siŵr bod y gefnogaeth sydd ei
hangen arnoch ar gael i chi. Byddwch chi a’ch grŵp alltaith yn cael eich
Cydlynydd Rhaglen Allteithio eich hun i’ch harwain drwy’r broses allteithio
o’r dechrau i’r diwedd. Bydd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd
gennych chi neu’ch rhieni. Byddwch yn dod i adnabod eich Cydlynydd a
gall wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen
arnoch. Yn NEWYDD ar gyfer 2009, rydym wedi dyblu maint ein Hadran
Allteithio er mwyn sicrhau bod pob Cydlynydd Rhaglen Allteithio yn
gweithio gyda llai o grwpiau alltaith. Mae gennym hefyd le arbennig ar
gyfer aelodau ar ein gwefan sydd ar gael 24/7 sy’n eich darparu gyda’r
wybodaeth ddiweddaraf am eich grŵp penodol chi. Mae rhagor o fanylion
am ein rhwydwaith diogelwch a chefnogaeth a’r trefniadau wrth gefn wrth
allteithio i’w gael ar dudalen 22-23.
Y Tîm Arwain Mae Tîm Arwain yn hebrwng bob un o grwpiau allteithio Camre a
mae’r tîm hwnnw wedi ei wneud o isafswm o Arweinydd Alltaith
Camre ac Athro Cyswllt. Mae strwythur y Tîm Arwain yn dibynnu ar
faint sydd yn y grŵp. Bydd y Tîm Arwain yn cael ei ymestyn yn achos
grwpiau mwy ac yn cynnwys Cymhorthwyr Alltaith er mwyn sicrhau
bod nifer yr oedolion ar gyfer bob cyfranogydd yn gywir. Mae’r Tîm
Arwain yn cynnwys yr un faint o ddynion a merched ac mae wastad 1
oedolyn ar gyfer 6 chyfranogydd.
Arweinydd yr Alltaith Mewn Dwylo Diogel Mae ansawdd ein harweinyddion yn hollbwysig i ni. Mae gennym
broses recriwtio lem sy’n gwneud yn siŵr bod cymwysterau a
phrofiad ein harweinyddion yn cyd-fynd yn union ag anghenion bob
taith benodol a byddwn wedi eu dewis o leiaf 4 mis cyn dechrau’r
alltaith. Mewn gwirionedd, bydd Camre yn gwella ar hyn fel rheol
drwy fod wedi dewis yr arweinyddion hyd at 6 mis cyn dechrau’r
alltaith. Mae’n rhaid i bob un o’r arweinyddion fod wedi cymhwyso’n
Arweinydd Mynydda Haf o leiaf ac maent oll yn cael eu cydgordio’n
unigol gyda grwpiau alltaith penodol. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan
a’u rhieni yn cyfarfod eu harweinydd a bydd y grŵp yn gweithio
gyda’r arweinyddion am gyfnod o’u rhaglen hyfforddi cyn gadael.
Yn nghyswllt rhaglen hyfforddi’r Siwrnai Fer, bydd y grŵp yn cyfarfod
eu harweinydd yn ystod Diwrnod Hyfforddi Grŵp 2. Yng nghyswllt
rhaglen hyfforddi’r Siwrnai Hir, byddant yn cyfarfod eu harweinydd yn
ystod Diwrnod Datblygu Grŵp 3 a bydd eu harweinydd yn hwyluso
eu Hyfforddiant Allteithio. Rydym or farn ei bod yn hanfodol i’r grŵp
gyfarfod eu harweinydd cyn iddo adael ar alltaith. Golyga hyn bod y
rhai sy’n cymryd rhan, eu rhieni, yr Athrawon Cyswllt a’r ysgolion yn
dod i adnabod eu harweinydd cyn dechrau’r alltaith ac yn cael cyfle i
ddechrau sefydlu deinameg y tîm.
Cymwysterau a’r Broses Ddewis Mae’n RHAID i bob un o Arweinyddion Tîm Camre gael cymhwyster
Arweinydd Mynydd ac unrhyw gymwysterau eraill angenrheidiol ar
gyfer anghenion y daith, ynghŷd â chymhwyster Cymorth Cyntaf.
Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr basio proses ddewis 5 cam sy’n cynnwys
cwrs dewis 2 ddiwrnod a Chynhadledd Camre sy’n canolbwyntio ar
ddiogelwch dŵr, allteithio, dulliau cyfathrebu a llawer mwy! Unwaith
y byddwn wedi dewis yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwn yn
dynodi unrhyw anghenion hyfforddi y teimlwn eu bod eu hangen
er mwyn gwella eu rôl fel Arweinydd Alltaith a chynhyrchir rhaglen
hyfforddi bersonol y byddant yn ei chwblhau cyn dechrau eu
halltaith ar eu cyfer. Mae’n rhaid i bob Arweinydd fod yn ddeiliad
tystysgrif datguddiad uwch wedi ei chlirio gan y Criminal Records
Bureau (CRB) neu’r Scottish Criminal Records Office (SCRO). Byddwn
yn rhoi ystyriaeth i gymwysterau, sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad
blaenorol Arweinyddion Alltaith o deithio yn y byd datblygol er
mwyn gwneud yn siŵr bod yr arweinydd yn cyd-fynd ag anghenion
y grŵp a’r daith.
Arwain yr Alltaith a Thîm Cefnogol Camre Cymru
NEW!
NEW!
for 2009NEWYDD!
NEW!
for 2009
22
Rhwydwaith Diogelwcha Chefnogaeth Heb ei Ail Mae’n hollbwysig cynllunio ar gyfer y pethau annisgwyliedig. Mae gan Camre rwydwaith diogelwch
a chefnogaeth heb ei ail yn gefn i’w allteithiau ac ers dechrau’r cwmni yn 2001 rydym wedi ymdopi’n
llwyddiannus gydag amrediad eang o ddigwyddiadau o fân salwch ac anafiadau i ymadawiadau mewn
hofrennydd! Serch y profiad sydd gennym yng Nghamre, rydym o’r farn ei bod yn hanfodol i ni gydweithio
gyda chwmni rheoli argyfwng arbenigol – Docleaf – ac mae ei holl adnoddau wrth law rhag ofn i rywbeth
mawr fynd o’i le pan dramor. Ni yw’r unig ddarparwr allteithiau yn y DG sydd â’r lefel yma o gefnogaeth. Mae
ein rhwydwaith diogelwch a chefnogaeth ynghŷd â‘n ystafell reoli a’r Tîm Arwain yn gefnogaeth enfawr i’n
grwpiau allteithio.
Cyn yr Alltaith Taith Archwilio Mae aelod profiadol o’r tîm yn mynd i archwilio ein lleoliadau cyn mynd ar
alltaith yno. Mae’r daith archwilio yn rhan hollbwysig o reoli risg yr alltaith.
Dewis Arweinydd Mae gan Camre bolisi dewis llym sy’n dilyn safon y diwydiant o ran dewis
Arweinydd yr Alltaith o leiaf 4 mis cyn gadael. Gweler y manylion llawn ar
dudalen 21.
Y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad Llysgenadaethau a’r Comisiynau Uwch Mae Camre yn cydweithio’n agos gyda’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad i
fonitro diogelwch a sefydlogrwydd ein teithiau. Byddwn yn asesu ein lleoliadau
yn rheolaidd ac yn ailgyfeirio taith os yw’r Swyddfa Dramor yn cynghori na
ddylid teithio am unrhyw reswm. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos gyda’r
Llysgenadaethau a’r Comisiynau Uwch ac yn aelod o ymgyrch
“Know Before You Go” y Swyddfa Dramor. Rhoir copïau o
basportau a theithiau y tîm i’r Llysgenadaethau i sicrhau y
gallant ein cefnogi os bydd angen.
Yswiriant Mae Camre yn darparu yswiriant teithio o’r ansawdd uchaf, wedi’i deilwra’n
benodol ar gyfer lleoliad a gofynion y daith. Mae’r yswiriant yn cynnwys:
• Gorchuddrhagi’runigolynorfodcanslo’ralltaithoherwyddunrhywgyflwr
meddygol nad yw eisoes yn bodoli neu faterion teuluol megis marwolaeth yn y
teulu.
• Wrthallteithio,mae’ngorchuddiohollgostaumeddygol,atebolrwyddpersonol
a chostau dychwelyd adref nes cyrraedd cyfleusterau’r Gwasanaeth Iechyd
Genedlaethol.
• Mae’nRHAIDihollaelodau’rtîmallteithioddatganunrhywgyflwrmeddygol
i gwmni Camre a’r cwmni yswiriant er mwyn sicrhau bod yr yswiriant yn eu
gorchuddio (mae rhagor o fanylion ar dudalen 8). Hwyrach y bydd yn rhaid i’r
rhai sy’n cymryd rhan drefnu yswiriant ychwanegol ar gyfer unrhyw gyflwr y
maent eisoes yn dioddef ohono. Mae copi o bolisi cyflawn Camre ar gael ddim
ond i chi ofyn.
Offer O leiaf 6 mis cyn gadael, mae Camre’n asesu pa offer sydd ei angen ar gyfer
yr alltaith. Mae offer diogelwch safonol y diwydiant yn cael ei roi i bob grŵp
allteithio, gan gynnwys ffôn lloeren, System GPS, offer meddygol a chymorth
cyntaf a rhaffau diogelwch. Mae’r holl offer yn cael ei archwilio a’i gadw mewn
cyflwr rhagorol.
Hyfforddiant Rydym yn cynnig hyfforddiant heb ei ail i’r rhai sy’n cymryd rhan, Arweinyddion,
Athrawon Cyswllt a staff er mwyn sicrhau ein bod yn cadw’r safonau diogelwch
uchaf er mwyn hwyluso’r allteithiau sy’n newid bywyd.
Asesu Risg Mae ein hallteithiau yn cael eu hasesu’n drylwyr tu hwnt yng nghyswllt risg. Mae
asesiadau risg cyffredinol a phenodol o leoliadau ein hallteithiau yn cael eu gwneud cyn
dechrau’r alltaith. Mae copi o’r asesiadau risg trylwyr ar gael ddim ond i chi ofyn. Mae
ein Harweinyddion Alltaith, Athrawon Cyswllt a’r rhai sy’n cymryd rhan hefyd yn cael eu
hyfforddi i wneud asesiadau risg dynamig yn barhaol gydol yr alltaith.
Cynllunio ar gyfer yr annisgwyliedig Gallwn arallgyfeirio’r alltaith i leoliadau gwahanol hyd at yr eiliad ddiwethaf ac
mae gennym hefyd Arweinyddion Alltaith wrth gefn rhag ofn i’r annisgwyliedig
ddigwydd – gallwn ddarparu enghreifftiau o sut yr ydym wedi ymdopi ag
achosion o’r fath yn y gorffennol.
Yn Ystod yr Alltaith Y Tîm Arwain Mae’r Tîm Arwain wedi cael ei hyfforddi a’i alluogi i ymdopi ag unrhyw
amgylchiadau cymorth cyntaf ac asesu risg fyddai’n medru digwydd. Mae’n rhaid
i Arweinyddion Alltaith gael cymhwyster Lefel 2 Meddyginiaeth Allteithio/Gofal
Cymorth Cyntaf Diarffordd. Mae’n rhaid i’r Athrawon Cyswllt a’r Cymhorthwyr
Allteithio hefyd gwblhau’r cyrsiau cymorth cyntaf allteithio fel rhan o’r rhaglen
baratoadol yn y DG. Mae Camre yn darparu’r timau allteithio gydag offer cymorth
cyntaf allteithio cynhwysfawr a llawlyfr meddygol sy’n berthnasol i amgylchedd
allteithio’r tîm e.e. yr uchelderau. Mae 1 oedolyn ar gyfer 6 myfyriwr ar bob taith.
Cefnogaeth Feddygol Ddiarffordd Mae Cefnogaeth Feddygol Ddiarffordd yn
arbenigo mewn darparu cyngor meddygol i
grwpiau mewn lleoliadau anghysbell dros y ffôn
a’r rhyngrwyd. Mae’n darparu llinell gymroth 24
awr ar gyfer Camre ac mae tîm o arbenigwyr meddygol sydd wedi cael eu dewis
yn ofalus yn barod i gynghori’r Ystafell Reoli neu’r Tîm Allteithio gydol yr alltaith.
Mae’r gefnogaeth yma yn cynnwys:
•Cefnogaethfeddygoldrosyffônacarlein
• CyfeirioatarbenigwyrmeddygolpreifatynyDG
• Cynghoridrosyffônacarlein
• CynghoriachwnselawynebynwynebynyDG
Yn gwbl ddiogel
22
23
Rôl y rhai sy’n cymryd rhan Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn arwyddo Côd Ymddygiad Camre –
fframwaith sy’n amlinellu sut y bydd disgwyl i unigolion a thimau
ymddwyn wrth allteithio. Mae hwn yn cynnwys côd ymddygiad
eu hysgolion eu hunain. Fodd bynnag, nid ydym yn credu ei
bod yn dêg dweud wrthych beth i’w wneud; byddwn felly’n gofyn ichi drafod y côd fel tîm cyn
cychwyn y daith a datblygu eich pwyntiau ychwanegol eich hunain yr ydych yn fodlon cydsynio a
chydymffurfio â hwy.
Docleaf Cwmni cynllunio rhag argyfwng a rheoli argyfyngau
arbenigol yw Docleaf; mae ei gefnogaeth yn galluogi
sefydliadau i reoli digwyddiadau annisgwyliedig yn gywir,
trylwyr ac effeithiol. Mae wrth law i gynnig cymoth petai unrhyw ddigwyddiad mawr yn digwydd
yn ystod un o allteithiau Camre. Datblygwyd systemau ymateb i ddigwyddiadau cynhwysfawr
Camre mewn ymgynghoriad â Docleaf. Bydd Docleaf yn cydweithio gyda Camre o ddechrau
unrhyw ddigwyddiad hyd at yr ymgynghoriad ar ôl y digwyddiad, ac mae’n gyfrifol am y ffordd y
caiff popeth ei reoli, o’r paratoadau i reoli ymholiadau’r wasg yn broffesiynol.
Ystafell Reoli Yn ystod yr alltaith mae Camre yn gweithredu Ystafell Reoli 24 awr yn y DG. Mae’r Ystafell Reoli yn
ganolbwynt gwybodaeth i’r grwpiau allteithio, rhieni ac ysgolion ac mae yma i roi cyngor, monitro
cynnydd y grwpiau allteithio a sicrhau bod camau sydyn a phriodol yn cael eu cymryd mewn
argyfwng. Mae Rheolwr amser llawn yn goruchwylio’r Ystafell Reoli ac mae staff arbenigol Camre
yn gweithio yno gyda chefnogaeth Docleaf (gweler yr uchod). Mae holl staff yr Ystafell Reoli wedi
cael hyfforddiant rheoli digwyddiadau cynhwysfawr. Mae’r holl weithdrefnau yn cydymffurfio ag
ymarfer safonol y diwydiant neu fwy.
Ffonau Lloeren Yn wahanol i rai darparwyr alltaith, mae BOB un o’n grwpiau allteithio yn cael ffôn lloeren. Yn
ddibynnol ar fodolaeth gwasanaeth lloeren, gall y grwpiau allteithio ffonio’r Ystafell Reoli neu
wasanaethau brys y wlad honno unrhyw adeg. Mae’r ffonau lloeren yn galluogi’r Ystafell Reoli a’r
grwpiau allteithio i gadw mewn cysylltiad.
Systemau GPS Mae ein holl grwpiau allteithio yn cael dyfais GPS symudol. Mae’r system yn darparu’r defnyddiwr
gyda chyfeirif lledred a hydred a adwaenir gan bob gwasanaeth brys ledled y byd. Gyda’r cyfeirif
cywir yma o leoliad y grŵp, gall Camre ddelio gydag unrhyw ddigwyddiad neu fater lle bynnag ei
fo yn y byd.
Mynediad Rhwydd at Arian Tramor Gellir cael mynediad at arian 24/7. Mae trosglwyddiadau’r Western Union bellach yn hen ffasiwn,
ac er ein bod yn dal i’w cynnig, rydym ar y blaen yn y cyswllt hwn hefyd. Yn wahanol i lawer o
ddarparwyr, mae bob un o’r Timau Arwain yn cario cardiau Travelex, felly os yw’r tîm angen rhagor
o arian gallwn lenwi’r cardyn gydag arian a dod o hyd i’r peiriant codi arian agosaf y gellir ei
ddefnyddio ar fyrder. Mae hyn o fantais fawr pan fo cyflymder yn hollbwysig.
Ar ôl yr Alltaith Mae gwerthuso ar ôl yr alltaith yn un o brosesau pwysicaf system iechyd a
diogelwch Camre. Mae’n sicrhau bod damweiniau, digwyddiadau ac anffawd
o unrhyw fath yn cael eu hadrodd yn y ffordd gywir a bod gwersi yn cael
eu dysgu ar gyfer allteithiau’r dyfodol. Ar ôl dychwelyd i’r DG, mae gofyn i
Arweinyddion yr Alltaith gyflwyno adroddiad ôl-alltaith, sy’n gwerthuso’r daith
ei hun, prosiectau, asesiadau risg, offer, cyllideb a datblygiad y grŵp. Mae’r
adroddiadau hyn yn cael eu hadolygu gan Dîm yr Alltaith a’r Pwyllgor Iechyd
a Diogelwch sy’n dod i ganlyniad ac yn gwneud argymhellion sydd wedyn
yn cael eu rhoi ar waith. Mae ein rhaglenni allteithio’n gwella’n barhaol o
ganlyniad i’r broses hon.
“Wythnos cyn hedfan, roedd yn rhaid i Camre ddweud wrthon ni fod gwrthryfel milwrol annisgwyl wedi digwydd yn Honduras. Yn anhygoel, o fewn 24 awr, roeddent wedi llwyddo i drefnu taith arall, lleoliadau eraill, rhagor o frechiadau a rhagor o gyfarfodydd gyda’r myfyrwyr a’r rhieni. Maent yn poeni o ddifrif am y profiadau y maent yn medru eu cynnig i bobl ifanc a byddant yn gweithio’n ddibaid i sicrhau eu bod yn cyflawni eu haddewid iddynt.”
“Mi wnaeth trefniadau rheoli digwyddiad Camre fwy nag ateb fy nisgwyliadau ac rwy’n teimlo iddynt gynnig cymorth personol a phroffesiynol i mi ymhob agwedd o hyn. Ar ôl y digwyddiad, cefais gynnig rhagor o gymorth a syniadau ynghylch sut i ymdopi â’r sgil-effeithiau a delio gydag unrhyw faterion posib’ a ddaethai o hynny. Roedd hyn yn werthfawr tu hwnt gan fod cael cadarnhad o’r camau a gymerwyd ganddoch chi eich hun yn hanfodol mewn unrhyw argyfwng.”
Liz Maher ATHRAWES GYSWLLT – ALLTAITH I
ECUADOR, 2009
Tom Shooter ARWEINYDD ALLTAITH – ALLTAITH I
PERIW, 2009
23
24
Trwyddedu Trefnwyr Teithio Awyr(Air Travel Organisers’ Licensing - ATOL) Rydym wedi ein gwarchod yn llawn gan ATOL sy’n golygu, yn yr achos
annhebygol y bydd cwmni Camre yn datgan ei hun yn fethdalwr, y
byddai’r Awdurdod Awyrennu Gwladol yn gwarchod buddsoddiad ein
cleient ac yn gwneud yn siŵr bod y grwpiau allteithio yn medru dod
adref. Wedi’i reoli gan yr Awdurdod Awyrennu Gwladol a’i gefnogi gan
y Llywodraeth, mae ATOL yn cynnig sicrhad ariannol yng nghyswllt
yr holl deithiau a phecynnau awyr a werthir gan arwerthwyr teithiau
yn y DG, gan orchuddio dros 29 miliwn o deithwyr bob blwyddyn.
O’r eiliad y byddwch yn talu, mae ATOL yn gwarchod eich harian yn
erbyn ansolfedd unrhyw arwerthwr teithiau trwyddedig. Pan fydd un
o arwerthwyr teithiau ATOL yn stopio masnachu, bydd yn ad-dalu’r
arian i’r cwsmer. Os ydych ar wyliau, bydd yn trefnu i chi a’r grŵp ddod
adref fel y bwriadwyd. Dim gofid, dim cost. I wneud yn siŵr eich bod
wedi eich gwarchod gan ATOL, dylid edrych am logo ATOL ar lyfrynnau
a gwefannau. Os nad yw arwerthwr teithiau sy’n cynnig pecynnau
hedfan yn cynnig y gwasanaeth yma, peidiwch ag archebu.
Cydymffurfio’n llawn gyda Safon Brydeinig 8848: Manylebau ar gyfer Gweithgareddau Anturus, Allteithiau, Ymweliadau a Gwaith Maes y tu hwnt i’r DG Mae Camre Cymru yn cydymffurfio’n llawn gyda Safon Brydeinig 8848.
Camre felly yw’r ‘trefnydd alltaith’ a bydd yn gyfrifol am bob agwedd o’r
daith gan gynnwys diogelwch. Cydymffurfiaeth Camre gyda SB 8848
yw’ch gwarant bod y SB yn dal yn berthnasol pan fyddwn yn defnyddio
cyflenwyr allanol ar gyfer unrhyw agwedd o’n hallteithiau – megis
trafnidiaeth, llety neu weithgaredd penodol.
Cymdeithas Darparwyr Allteithiau Sefydlwyd y Gymdeithas Darparwyr Allteithiau gan gwmnïau o
fewn i’r diwydiant allteithio ieuenctid i ddatblygu arferion da a
rhannu gwybodaeth. Fel un o sylfaenwyr y gymdeithas, mae Camre
yn gosod y safonau ar gyfer y diwydiant. Mae Camre wedi cymryd
rhan flaenllaw yn y broses o gynhyrchu ‘Safon Darparu Allteithiau
Tramor’ y gymdeithas sy’n dynodi’r gofynion diogelwch, ansawdd
ac ariannol sylfaenol y mae’n rhaid i sefydliadau gydymffurfio â hwy
wrth ddarparu allteithiau tramor i bobl ifanc. Mae gofyn i gwmnïau
sy’n ethol i fabwysiadu’r safon ateb meini prawf penodol. Mae hyn yn
cynnig sicrhad i rieni a’r sawl sy’n cymryd rhan mewn allteithiau fel ei
gilydd. Mae’r safon hefyd yn hysbysu cleientau posib o’r hyn y dylid ei
ddisgwyl gan ddarparwyr.
Hyfforddiant Arweinydd Mynydd Cymru Mae Camre yn Ddarparwr Arweinydd Mynydd ar gyfer Hyfforddiant
Arweinydd Mynydd Cymru. Mae’n rhaid i’n holl Arweinyddion Alltaith
fod wedi cymhwyso gyda chymhwyster Arweinydd Mynydd sy’n
addas ar gyfer gofynion y daith. Mae Camre yn cynrychioli’r diwydiant
allteithio ieuenctid fel aelod o fwrdd Hyfforddiant Arweinydd Mynydd
Cymru.
Gwasanaeth Trwyddedu Gweithgareddau Anturio Mae Camre wedi cael ei drwyddedu gan y Gwasanaeth Trwyddedu
Gweithgareddau Anturio i ddarparu gweithgareddau anturio awyr agored i bobl
ifanc o dan 18 mlwydd oed. Rhif ein trwydded yw L5077/R1173.
Rheolaethau Teithiau Pecyn 1992 Mae Camre yn cydymffurfio ag anghenion deddfwriaethol Rheolaethau Teithiau
Pecyn 1992.
Canllaw’r Adran Addysg a Sgiliau ar gyfer Iechyd a Diogelwch Disgyblion ar Ymweliadau Addysgiadol Mae Camre yn cydymffurfio’n llawn gyda Chanllaw AAS ar gyfer Iechyd a
Diogelwch Disgyblion ar Ymweliadau Addysgiadol.
Bathodyn Dysgu tu hwnt i’r Dosbarth Mae Camre ar hyn o bryd yn gweithio tuag at gael Bathodyn Ansawdd newydd
Dysgu Tu Hwnt i’r Dosbarth. Caiff y bathodyn ei ddyfarnu i’r darparwyr hynny
sydd wedi ardystio i fod yn rhan o broses barhaus i gynnal safonau addysgu
o ansawdd uchel y tu hwnt i’r dosbarth gan ateb dangosyddion ansawdd
penodedig. Ceir rhagor o wybodaeth ar www.lotc.org.uk. Ni yw’r darparwr cyntaf
i gael ei asesu a bydd canlyniad yr asesiad hwn yn cael ei gyhoeddi ym mis
Rhagfyr 2009.
ASDAN Rydym wedi cofrestru yn ganolfan ASDAN ac wedi cydweithio â hwy drwy
Gymuned Camre ers tair blynedd. Gallwn gynnig cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan
i gwblhau Tystysgrif Effeithiolrwydd Personol ASDAN Lefel 3 sy’n eu galluogi i
ennill hyd at 70 o bwyntiau UCAS ychwanegol. Rydym hefyd yn cynnig Gwobr
Prifysgolion ASDAN.
Prifysgol Cymru, Bangor Mae Camre yn cydweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Cymru, Bangor i
ddarparu Cwrs Gradd BSc Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored).
Mae Camre hefyd yn cyd-weithio’n agos gyda Chanolfan Reoli Bangor i ddarparu
sesiynau dysgu awyr agored ar gyfer eu cyrsiau.
Gwobr Dug Caeredin – Darparwr Gweithgareddau Cydnabyddedig Mae Camre yn Ddarparwr Gweithgareddau Cydnabyddedig ar gyfer Gwobr Dug
Caeredin. Gallwn gynnig allteithiau yn y DG a thramor gan ateb yr ‘20 amod’ a
amlinellir gan GDC.
Buddsoddwyr Mewn Pobl Mae Camre’n falch o gael bod yr unig ddarparwr allteithiau ieuenctid sydd
wedi derbyn dyfarniad Gwobr Buddsoddwyr Mewn Pobl sy’n cydnabod
ein hymrwymiad llawn i ddatblygiad personol ein staff. Rydym yn meithrin
awyrgylch o ddysgu ac mae’r safon hwn yn cydnabod bod yr addysg hwn yn
greiddiol i’n gweithrediadau.
24
Safonau Proffesiynol:sicrhau darpariaeth o ansawdd
2525
Pris yr Alltaith
Isod ceir rhestr o’r hyn a fyddwn ac na fyddwn fel arfer yn ei gynnwys ym
mhris ein hallteithiau. Fodd bynnag, rydym yn cynnig gwasanaeth hyblyg ac,
ar ofyn yr ysgol, Athro Cyswllt neu grŵp allteithio, rydym yn fodlon diwygio
ein gwasanaethau i ateb eu anghenion. Dylech gyfeirio at Frîff yr Alltaith i
weld beth sydd ac nad yw’n cael ei gynnwys ym mhris eich alltaith chi.
Beth sydd wedi ei gynnwys? Sut felly y byddwn yn pennu pris ein hallteithiau? Gallwch weld o’r rhestr
isod bod llawer i’w ystyried wrth drefnu alltaith ieuenctid ac mae llawer o
waith cynllunio a pharatoi yn digwydd y tu ôl i’r llen!
• Hedfanrhyngwladolatheithioynygwledydd(manylionydaith).Mae
Camre yn prynu tocynnau hedfan grŵp sy’n hyblyg ofnadwy ond sy’n
medru bod yn ddrytach na phrynu tocynnau hedfan unigol
• Trethimaesawyr
• Yrhollweithgareddaugrŵparestrirymmanylionydaithgangynnwys
ffioedd mynychu parciau a ffioedd prosiectau
• Yrhollfwydalletyynygwledydd
• ArweinyddAlltaithhollolgymwysalleoeddioedolioneraillarydaith
(Arweinydd Tîm) gydag 1 oedolyn ar gyfer 6 myfyriwr
• Offergwersyllaachoginioargyferygrŵp
• ArchwiliadCamreoleoliadyralltaith
• Achubrhaiwediclwyfoneuymadawiadyrholldîm
• YstafellReoli24awrachefnogaethargyfyngauDOCLEAF
• Holldriniaethauargyfercyflyraumeddygolnewyddnesdychwelydi’rDG
• Yswiriantcynhwysfawragorchuddmeddygol
• Offerdiogelwchachymorthcyntafarbenigol
• FfonaulloerenacofferGPS
• CyngorarbenigolynghylchcodiarianachefnogaetheinCydlynwyr
Rhaglenni Allteithio ymrwymedig
• Yrhaglenbaratoadol(byddmanylionllawnyrhaglenbaratoadolymMrîff
Alltaith penodol eich ysgol chi)
• Llawlyfrauallteithioacadnoddauarlein
• HyfforddiantTîmArwain
• Cyfarfodydd,ymgynnull,achyflwyniadaunosweithiaurhienifelrhano
lansio’r allteithiau
• Costaurhedegycwmni(tanwydd/cynnalachadweiddo/trwyddedATOL/
cyflogau staff ayyb)
Beth sydd heb ei gynnwys? Mae’r costau nad ydym yn eu cynnwys yn amrywio o unigolyn i unigolyn.
• Gwarioarianaranrhegionbychainwrthallteithio
• Brechiadau,atalclefydauameddyginiaethbersonol
• Visasaphasbortiau–maeBrîff yr Alltaith yn nodi pa visa sydd ei angen
arnoch
• Yswirianteiddopersonol(hwyrachbodeichyswirianttŷ/cynnwysyn
gorchuddio hyn)
• Unrhywrandaliadauyswiriantychwanegolsyddeuhangenoganlyniadi
unrhyw gyflwr meddygol sy’n bodoli eisoes
• OfferPersonol(e.e.bagcefn,bagcysgu,dilladdaldŵr).GallCamre
ddarparu’r rhain am gost hurio ychwanegol o £75. Os ydych yn dymuno
prynu eich offer eich hun, cofiwch fod pawb sy’n cymryd rhan yn
allteithiau Camre yn cael gostyngiad o 15% gan gwmni Cotswold Outdoor
•Trafnidiaethiacogyrsiauhyfforddi’rDG,ileoliadyDiwrnodParatoi
Terfynol ac o’r maes awyr
• BwydalletyynyDG,oninodirynwahanol
• Costoffsetiocarbonyrallteithiau
diwedd y Gân...
2626
Beth Nesaf?Amlinellir sut i ymgeisio i fynd ar alltaith yn y camau isod.
Pam mynd ar alltaith?
Felly pam mynd ar alltaith? Wel, hwyrach bod yr alltaith yn digwydd yn y byd yma,
ond mae bob dim arall yn ei chylch yn HOLLOL ARALLFYDOL! Mae’n brofiad hollol
unigryw na fedrwch ei gael yn unrhyw le arall ac mae’n rhaid i chi fynd allan a’i wneud
o! Yn syml, dyma’r profiad teithio gorau a gewch chi fyth. Mi gewch chi gymaint o
hwyl. Pryd arall yn ystod eich bywyd gewch chi’r cyfle i deithio gyda grŵp o bobl yr un
oed â chi a gweld a gwneud y pethau sydd yn eich Brîff Allteithio?
Felly, mae eich Brîff Allteithio yn un llaw a’r Llyfryn Allteithio yn y llall. Rydych yn
edrych ar y beiro yr ochr arall i’r ystafell y medrwch ei ddefnyddio i lenwi eich furflen
gais.
Dyma bum rheswm dros godi’r beiro, llenwi’r ffuflen a mynd ar alltaith:
1. Pryd arall gewch chi gefnogaeth codi arian, cynllunio, rhwydwaith diogelwch a
chynlluniau wrth gefn arbenigol cwmni darparu allteithiau ieuenctid mwyaf y
DG i’ch dysgu sut i deithio’n ddiogel a chyfrifol?
2. Dychmygwch eich bod yn ymgeisio am swydd neu le Prifysgol eich
breuddwydion. Mae’r rhai sy’n cyfweld yn darllen y cannoedd ar filoedd o
geisiadau. Maent yn gweld eich un chi ac mae’r alltaith yn disgleirio yng nghanol
eich datganiad personol. Mae’n agor cil y drws i chi’n syth. Nid yn unig hyn, ond
mae eich profiadau ar allteithio yn helpu i roi hyder i chi gerdded drwy’r drws,
gwneud argraff ddofn ar y panel a gwneud iddynt eich dewis chi.
3. Er mwyn profi i’ch hun y gallwch ei wneud. Ar alltaith, cewch eich synnu o ran
y pethau y medrwch eu cyflawni. Mi allwch CHI wneud hyn. Ac unwaith y
byddwch wedi ei wneud, bydd yn aros gyda chi a byddwch wastad yn gwybod
eich bod yn medru penderfynu gwneud rhywbeth a gwneud iddo ddigwydd.
4. Mae’n antur fawr – gweld lleoedd, pobl, parotiaid (ymwrthodiad: mewn
gwledydd lle nad oes parotiaid gallwn addo bywyd gwyllt o bob math arall ) a
myrdd o bethau nad ydych yn debygol o’u gweld eto.
5. Stopiwch a meddwl. Os nad ydych am fynd ar alltaith, beth arall ydych chi am ei
wneud?
Cam 1Eich gwaith cartref yw…mae’n rhaid i’ch rhieni a chithau
ddarllen:
1. Y Llyfryn Allteithio yma
2. Y Cyfarwyddiadau Ymuno
3. Brîff Alltaith eich ysgol chi
4. Telerau ac Amodau Archebu Camre
(ar dudalen 29-31 y llyfryn yma)
Gallwch hefyd ymweld â’n gwefan
www.outlookexpeditions.com sy’n cynnwys llond lle o
wybodaeth ynghylch allteithio hefyd.
Cam 2 Llenwi’r ffurflen gais (ar y dudalen gyferbyn). Dylid sicrhau
eich bod chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid yn arwyddo a
dyddio’r ffuflen.
Cam 3 Llenwi siec ar gyfer y blaendal a’i glynu wrth y ffurflen gais.
Anfon y ffurflen i ni. Gweler y Cyfarwyddiadau Ymuno am
fanylion i bwy y dylid gwneud y siec yn daladwy iddo a lle
i’w hanfon.
Cam 4 Ydych chi angen siarad gyda rhywyn ynghylch yr alltaith? Mae
croeso i chi ein e-bostio neu ffonio ar 0044 (0)8459002989 a
gofyn am eich Cydlynydd Rhaglen Allteithio penodol chi. Mae
eu manylion cyswllt yn eich Cyfarwyddiadau Ymuno. Maent
yn gwybod hynny sydd i’w wybod am allteithio! Maent yn
gyfeillgar tu hwnt ac wedi clywed yr un cwestiynau o’r blaen
felly’n gwybod yr holl atebion a byddant yn fwy na pharod
i sgwrsio â chi am unrhyw ofidiau neu ymholiadau sydd
gennych.
Ffurflen Gais Allteithio (Defnydd mewnol yn unig) Cyfeirif
Croeso i’r Ffurflen Gais! Dylid llenwi’r ffurflen hon mewn llythrennau bras a chlir a defnyddio’r
blychau ticio priodol. Os ydych angen rhagor o le, dylech barhau ar dudalen arall a’i glynu wrth y
ffurflen yma. Os oes unrhyw newid i’r wybodaeth a roir ar y ffurflen yma yn ystod rhaglen eich alltaith,
dylid cysylltu â Chamre i ddiweddaru eich manylion.
Mae angen anfon siec y blaendal gyda’r ffurflen yma.
Dylech ddarllen eich Cyfarwyddiadau Ymuno am fanylion
swm y blaendal, pwy i wneud y siec yn daladwy iddo a lle i
anfon y ffurflen yma a’r blaendal.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch unrhyw ran o’r ffurflen yma, cysylltwch â’r Tîm Rhaglen Alltaith ar 0044 (0)845 9002989 a fydd yn falch o’ch helpu.
✃
Prif Gyswllt
Perthynas â’r cyfranogydd:
Teitl: h.y. Mr / Mrs / Miss
Enw/au Cyntaf:
Cyfenw:
Prif gyfeiriad cyswllt:
Côd Post:
Rhif ffôn dydd:
Rhif ffôn cartref:
Rhif ffôn symudol:
Cyfeiriade-bost (gorfodol /llythrennau bychain – bydd y rhan fwyaf o’r ohebiaeth yn cael ei hafon drwy
e-bost):
1. Manylion yr Alltaith
Lleoliad:
Blwyddyn mynd ar alltaith:
Enw’r Ysgol/Sefydliad:
Ticiwch y math perthnasol o alltaith: Alltaith Siwrnai Hir Alltaith Siwrnai Fer
2. Manylion y Cyfranogydd
Enw/au Cyntaf: Cyfenw:
Prif gyfeiriad cyswllt:
Côd Post:
Ffôn Tŷ: Ffôn Symudol:
Ydych chi yn byw yn y cyfeiriad uchod yn ystod tymor yr ysgol? Ticiwch: Ydw Nac Ydw
Os nad ydych, beth yw eich cyfeiriad a’ch côd post yn ystod tymor yr ysgol?
Côd Post:
Cyfeiriade-bostycyfranogydd(gorfodol/llythrennau bychain - bydd y rhan fwyaf o’r ohebiaeth yn cael ei hanfon drwy e-bost):
Dyddiad Geni: Gwryw Benyw Cenedligrwydd:
MaintCrys-T: S M L XL
Disgrifiwcheichgallunofio- Ticiwch:
Ddim yn nofio Nerfus Hyderus Hyderus Iawn
3. Manylion Cyswllt Rhiant/Gwarcheidwad/Perthynas Agosaf
Nodwchfanylioncyswllteichrhiant/gwarcheidwad/perthynasagosafBydd copïau o’r holl ohebiaeth a anfonnir at y cyfranogydd yn cael ei anfon i’r sawl a enwir yma.
4. . Gwybodaeth Feddygol
5. Caniatâd
Mae arwyddo’r ffurflen hon yn golygu eich bod wedi darllen a chaniatau’r holl ddatganiadau isod:
Os yw’r ymgeisydd o dan 18 mlwydd oed ar hyn o bryd, yna mae’n rhaid i riant/warcheidwad yr ymgeisydd arwyddo’r ffurflen hefyd.
Enw’r rhiant/gwarcheidwad
Llofnod: Dyddiad:
Enw’r Ymgeisydd
Llofnod: Dyddiad:
➤ Rwyf wedi darllen y manylion a nodir yn Y Llyfryn Allteithio,
Brîff yr Alltaith, y Cyfarwyddiadau Ymuno a’r telerau ac amodau
archebu. Rwyf yn deall natur yr alltaith gan gynnwys y risg sy’n
gysylltiedig â theithio antur (wedi ei reoli gan brosesau asesu risg
llym Camre Cymru) na cheir fel rheol wrth fyw yn y DG. Rwyf yn
caniatau i fy mab/merch gymryd rhan yn yr alltaith arfaethedig.
➤ Rwyf yn rhoi caniatad llawn i aelod o staff Camre roi triniaeth,
meddyginiaeth a chymorth cyntaf i fy mab/merch mewn
achos o argyfwng ac os oes unrhyw anafiad, damwain neu
ddigwyddiad yn digwydd wrth gymryd rhan yn unrhyw ran o
raglen yr alltaith.
➤ Rwy’n deall bod arwyddo’r ffurflen hon yn cadarnhau bod y
cyfranogydd mewn iechyd seicolegol a chorfforol da. Mae’n
cadarnhau nad wyf yn ymwybodol o unrhyw reswm pam nad
yw’r cyfranogydd yn addas ar gyfer cymryd rhan yn yr alltaith
ac na wn i am unrhyw debygolrwydd i hen salwch neu anafiad
ddychwelyd a’u gwneud yn anaddas ar gyfer y daith. Os nad
ydych yn datgan unrhyw gyflwr meddygol ar eich ffuflen gais, ni
fydd eich yswiriant yn ddilys o dan amodau ein polisi teithio.
➤ Mae tynnu lluniau, cynhyrchu deunyddiau fideo a deunyddiau
ysgrifennu yn ffordd dda o gofio profiad yr alltaith a’r
hyfforddiant a gafwyd. Gall y bydd Camre yn tynnu lluniau a
gwneud fideo o’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr alltaith ac mae’n
ddiolchgar o dderbyn unrhyw ddeunyddiau o’r fath. Ceidw
Camre’r hawl i ddefnyddio deunyddiau o‘r fath mewn prosiectau
marchnata neu i’w defnyddio mewn cysylltiad â’r wasg. Hwyrach
y bydd Camre hefyd yn trefnu sylw’r wasg ar gyfer unrhyw
agwedd o’r rhaglen allteithio. Mae copïau o’r holl ddeunyddiau
hyn ar gael i’r holl gyfranogwyr ddim ond i chi ofyn.
➤ Rwyf wedi darllen ac yn cytuno gyda thelerau ac amodau
archebu Camre Cymru – sydd yn rhan o’r pecyn ymgeisio hwn.
➤ Mae’r wybodaeth rwyf wedi ei darparu ar y ffurflen hon yn hollol
gywir hyd y gwyddaf i.
Bydd yr holl wybodaeth ar y ffuflen hon yn cael ei chadw’n hollol gyfrinachol. Bydd yr holl wybodaeth
yn cael ei chadw a’i defnyddio gan y cyfarwyddwyr, arweinyddion, staff Camre, meddygon a’r rhai
sy’n yswirio eich taith mewn achos o argyfwng meddygol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch
ynghylch yr adran yma o’r ffurflen gais, cysylltwch â ni. Noder: os nad ydych yn datgan unrhyw gyflwr
meddygol ar eich ffuflen gais, ni fydd eich yswiriant yn ddilys o dan amodau ein polisi teithio.
Atebwch y cwestiynau isod. Os mai NA yw’r ateb i unrhyw gwestiwn, ysgrifennwch NA yn y man a
ddarparwyd ar gyfer manylion.
Ydych chi’n dioddef o unrhyw gyflwr meddygol ar hyn o bryd? Er enghraifft clefyd siwgr, y fogfa, cyflwr
y galon, problemau cefn neu gymalau neu epilepsy ayyb? Manylion:
Ydych chi’n dioddef o unrhyw gyflwr neu symptomau meddygol sydd yn aros i gael eu harchwilio
neu’n cael eu harchwilio ar hyn o bryd, yn aros i gael triniaeth, profion, adolygiad, canlyniad neu’n aros
i’ch cyfeirio at arbenigwr? Manylion:
Ydych chi wedi cael unrhyw driniaeth ysbyty/clinig, llawdriniaeth neu lawfeddygaeth neu
broblemau dannedd yn ystod y 3 blynedd diwethaf? (Dylech gynnwys llawdriniaethau) Manylion:
Oes gennych unrhyw anghenion deietegol? Manylion:
Ydych chi’n dioddef o unrhyw alergeddau y gwyddoch amdanynt (e.e. cnau, pysgod cregyn,
penisilin)? Manylion:
Ydych chi, neu ydych chi erioed wedi dioddef o unrhyw ffobia, straen, pryder, iselder neu unrhyw
ddiffygseicolegolneunerfusarall(e.e.hunan-niweidio,cerddedyneichcwsgneusalwchbwyta)?
Manylion:
Ydychchi’ndioddefounrhyw*ddiffygthiroidarhynobryd?(*mae’rhollddŵraddefnyddirar
alltaith yn cael ei buro gyda hydoddiant iodin) Manylion:
Ydych chi’n cymryd unrhyw feddyginiaeth neu gyffuriau ar gyngor eich meddyg? Manylion:
A oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad i unrhyw fath o driniaeth (e.e. imiwneiddio neu
drallwysiad gwaed? Manylion:
Ticiwch yma i ddweud eich bod wedi cynnwys eich siec blaendal gyda’r ffurflen yma:
6. Beth allwn ei wneud yn well?Yma yng Nghamre, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid ac rydym wastad yn chwilio am ffyrdd i wella’r gwasanaeth yma. Oes
gennych chi unrhyw awgrymiadau neu sylwadau a fyddai’n ein helpu i wella ein proses recriwtio ymgeiswyr?
Diolch am eich amser. Llongyfarchiadau ar gymryd cam cyntaf eich antur!
Perthynas â’r ymgeisydd
29
1. DEHONGLIAD
1.1 1.1 Defnyddir y termau a’r dywediadau canlynol yn y ddogfen yma: “TTTA” yn golygu Trwyddedu Trefnwyr Teithio Awyr (ATOL yn Saesneg)•“Cleient” yn golygu yr ysgol, coleg neu sefydliad sy’n gyfrifol am gychwyn yr •“Côd Ymddygiad” yn golygu cyfres o reoliadau a chanllawiau y mae’r Tîm yn cydymffurfio â hwy wrth allteithio •“Cytundeb” yn golygu’r cytundeb a wneir rhwng y Cleient, Cyfranogwyr a Chamre yng nghyswllt Alltaith sy’n cynnwys y •telerau a’r amodau yma “Blaendal” yn golygu blaendal na fydd yn cael ei ad-dalu wrth archebu’r Alltaith •“Alltaith” yn golygu’r alltaith a ddisgrifir ym Mrîff yr Alltaith •“Ffurflen Gais yr Alltaith” yn golygu’r ffurflen gais y mae’n rhaid i Gamre ei chael gan Gyfranogydd neu Arewinydd ar Raglen •Allteithio sy’n cynnwys manylion cyswllt a phersonol ac yn cynnwys datganiad wedi ei arwyddo o’r cytundeb i dderbyn y telerau a’r amodau yma “Brîff yr Alltaith” yn golygu’r ddogfen sy’n amlinellu cynnwys y Rhaglen Allteithio •“Arweinydd yr Alltaith” yn golygu’r person a gyflogir gan Camre sy’n gyfrifol am arwain y daith a gwneud penderfyniadau •terfynol y Tîm Arwain “Rhaglen Allteithio” yn golygu y rhaglen gynllunio, paratoi, hyfforddi a digwyddiadau eraill sy’n digwydd cyn, yn ystod ac •ar ôl yr Alltaith “Force Majeure” yn golygu unrhyw amgylchiad neu ddigwyddiad sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni yn Camre gan gynnwys •(ondhebeigyfyngui)•gweithredganDduw,rhyfelneuberygloryfel,terfysg,anghydfodsifil,dadlddiwydiannol,gweithgareddau terfysgol a’u canlyniad, trychineb naturiol neu niwclear, tân, dechrau clwy neu osod cwarantin, epidemig neu risg i iechyd, meysydd awyr, porthladdoedd neu orsafoedd trên wedi cau neu’n orlawn, newidiadau o ganlyniad i’r darparwr yn newid amser neu ganslo trafnidiaeth e.e. awyren neu brif siarter, addasu trafnidiaeth, amserlen trafnidiaeth neu fath trafnidiaeth, amodau tywydd anffafriol (ar y pryd neu berygl o), eirlithriad a methiant technegol yng nghyswllt trafnidiaeth neu pan fydd Camre o’r farn na ellir sicrhau diogelwch y grŵp“Diwrnodau Datblygu/Hyfforddi Grŵp” yn golygu cyrsiau hyfforddiant a ddarparir gan Camre mewn ysgol neu leoliad arall •ar gyfer y rhai sy’n cymrd rhan “Prif Swyddfa” yn golygu Canolfan Ddatblygu Camre, Llanberis, Gwynedd, LL55 3NF neu leoedd eraill o’r fath fel y’ch •hysbysir yn ysgrifenedig gan Camre o bryd i’w gilydd “Tîm Arwain” yn golygu Arweinydd yr Alltaith, Athro Cyswllt ac unrhyw Gymhorthwyr Allteithio •“Athro Cyswllt” yn golygu’r sawl a gyflogir gan yr Awdurdod Lleol neu’r ysgol annibynnol sy’n’ gyfrifol am fod yn awdurdod •ar yr alltaith yn yr ysgol a/neu’r Awdurdod Lleol a/neu Fwrdd y Llywodraethwyr ac fydd yn rhan o’r Tîm Arwain “Siwrnai Hir” yn golygu Allteithiau hirach na 19 diwrnod •“Newid Mawr” yn golygu newidiadau materol i delerau allweddol y cytundeb, yn cynnwys pris, dyddiad ymadael wedi ei •gadarnhau, dyddiadau, hyd a lleoliad yr alltaith“Newid Bach” yn golygu unrhyw newid nad yw’n Newid Mawr, yn cynnwys newidiadau i deithiau unigol neu agweddau •ohonynt, neu newidiadau i amseroedd hedfan wedi eu cadarnhau o fewn 24 awr neu lai“Camre” yn golygu Camre Cymru/Outlook Expeditions Limited, cwmni sydd wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr •(Cwmni rhif 4271147) sydd a’i swyddfa gofrestredig yn Banks House, Ty Isa Road, Llandudno, Conway LL30 2PL “Rhiant” yn golygu rhiant neu warcheidwad cyfreithiol y cyfranogydd •“Cyfranogydd” yn golygu’r sawl sy’n cymryd rhan yn yr Alltaith neu, os yw o dan 18 mlwydd oed adeg archebu, eu Rhiant/•Rhieni “Cynllun Talu” yn golygu’r Cynllun Talu y cyfeirir ato ym mharagraff 5.3 sy’n amlinellu telerau’r taliad terfynol ac/neu •randaliadau o gyfanswm pris yr Alltaith “Oedolyn Cyfrifol” yn golygu unrhyw oedolyn sy’n cymryd rhan yn yr Alltaith ac nad yw’n Arweinydd Alltaith, Athro Cyswllt •na Chyfranogydd ac sydd wedi cael lle rhatach neu am ddim yn y Tîm “Siwrnai Fer” yn golygu Alltaith llai na 18 diwrnod o hyd •“Tîm” yn golygu’r grŵp sy’n gadael ar Alltaith gan gynnwys y Tîm Arwain •“Aelod Tîm” yn golygu aelod o’r Tîm • “Cwmni Yswiriant Teithio” yn golygu Campbell Irvine Ltd neu unrhyw gwmni yswiriant arall o’r fath fel y’ch hysbysir yn •ysgrifenedig gan Camre o bryd i’w gilydd
1.2 Pan fo’r dywediad “Cyfranogydd” yn cyfeirio at fwy na dau o bobl, mae’r goblygiadau a fynegir neu a awgrymir yn ymwneud yn uniongyrchol â phob Cyfranogydd unigol.
1.3 Mae unrhyw gyfeiriad a wneir tuag at ddeddf yn cynnwys unrhyw estyniad, addasiad neu ailddeddfu a wneir yng nghyswllt y ddeddf honno ac unrhyw gynllun offeryn, rheoleiddiad, caniatâd neu gyfarwyddyd arall a wneir neu a roir yn o dan yr awdurdod hwnnw neu sy’n ddilys i’r diben hwn.
1.4 Mae geiriad sy’n defnyddio’r ffurf unigol yn unig hefyd yn golygu’r ffurf luosog ac fel arall. Mae holl eiriad yr amodau archebu yn cyfeirio’n gyffredinol at y Cyfranogydd, ac yn cyfeirio at y gwrywaidd, y benywaidd a’r diryw.
1.5 Er cyfleuster yn unig y mae’r penawdau, y cymalau a’r paragraffau ac ni fyddant yn effeithio ar ddehongliad y ddogfen hon.
1.6 Mae’r ymadroddion a ddefnyddir yn Ffurflen Gais yr Alltaith ac unrhyw ddogfennau eraill a ddarparir gan Camre i’r Cleient ac/neu’r Cyfranogydd yn golygu’r un peth ag y maent yn y telerau a’r amodau yma.
1.7 Nid oes gan unrhywun nad yw’n barti i’r Cytundeb neu’r telerau ac amodau yma yr hawl o dan Ddeddf Cytundebau (Hawliau a Thrydydd Partïon) 1999 i orfodi unrhyw un o delerau’r Cytundeb na’r telerau ac amodau yma ond nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw hawl na unioni trydydd parti sy’n bodoli neu sydd ar gael ar wahân i’r Ddeddf yma.
Telerau ac Amodau Archebu
09/10Mae’r telerau ac amodau archebu yma yn berthnasol i Ffurflenni Cais Allteithio a arwyddir rhwng 1 Medi 2009 a 31 Awst 2010.
2. DERBYN
2.1 Bydd y Cytundeb yn cael ei gwblhau pan fydd Camre yn rhoi derbynneb cadarnhau archeb i’r Cyfranogydd. Mae’r Cytundeb yn ddarostyngedig i’r telerau ac amodau archebu yma.
2.2 Wrth arwyddo Ffurflen Gais yr Alltaith mae bob Cyfranogydd yn cadarnhau eu bod wedi darllen a deall y telerau a’r amodau yma yn llawn.
2.3 Er bod Camre yn cymryd bob cam rhesymol ac ymarferol i sicrhau iechyd, diogelwch a lles y Cyfranogwyr ar Alltaith Dramor, dylai’r Cyfranogwyr a’r Cleientau dderbyn na all Camre sicrhau fod gwasanaethau megis bwyd, llety a thrafnidiaeth yn cyrraedd safonau iechyd a diogelwch y DG. Mae Camre yn darparu canllawiau manwl i’r Timau Arwain yng nghyswllt rheoli safonau o’r fath wrth allteithio.
2.4 Ni ddylai’r Cyfranogydd ddibynnu ar unrhyw gynrychiolaethau llafar a wneir gan Camre.
3. ARCHEBU A CHANIATÂD YN SEILIEDIG AR WYBODAETH
3.1 Mae’n rhaid i bob Cyfranogydd gwblhau a dychwelyd y Ffurflen Gais Allteithio i Camre.3.2 Mae’n rhaid i’r Cyfranogydd hysbysu Camre o unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a roir ar y Ffurflen Gais
Allteithio yn ysgrifenedig mor fuan ag sy’n rhesymol bosib’.3.3 Os yw’r Cyfranogydd o dan 18 mlwydd oed, mae’n rhaid i Riant neu Warcheidwad arwyddo’r Ffurflen Gais
Allteithio gan nodi eu perthynas â’r Cyfranogydd.3.4 Mae’n rhaid i’r Rhiant arwyddo “Dogfen Caniatâd Rhiant” cyn cychwyn yr alltaith sy’n sicrhau bod y
Cyfranogydd yn cydsynio â Pholisïau Camre, yn derbyn y risg ac yn dirprwyo’r cyfrifoldeb i’r Tîm Arwain.3.5 Ceidw Camre yr hawl i wrthod derbyn unrhyw Ffurflen Gais Allteithio yn ôl ei ddisgresiwn ei hun.3.6 Mae’r Cleient a’r Cyfranogydd yn derbyn ac yn llawn ddeall natur anturiol yr Alltaith a’r ffaith y byddant
hwyrach wynebu peryglon wrth allteithio na fyddai’r Cyfranogydd fel arfer yn wynebu yn y DG. Yn fwy na hyn, mae’r Cyfranogydd yn derbyn eu bod yn gwirfoddoli i wneud yr Alltaith ar eu risg eu hunain. Gellir cael copi o unrhyw asesiadau risg cyn dechrau Allteithio ddim ond i chi ofyn.
4. PRIS
4.1 Mae pris yr Alltaith a nodir yn y Brîff Allteithio yn gywir adeg yr archebu ac yn cynnwys:4.1.1 cost cynllunio, gweinyddu, trefnu a darparu’r alltaith a’r holl gyrsiau hyfforddi cysylltiedig4.1.2 cost yr holl offer a darparu offer arbenigol ar gyfer y grŵp 4.1.3 yswiriant (gan gynnwys damweiniau personol, ymadawiad claf ac anghenion meddygol mewn
argyfwng, gorchudd cyfreithiol ac atebolrwydd personol) 4.1.4 bwyd, llety a thrafnidiaeth wrth allteithio a chyrsiau hyfforddi cysylltiedig, yn cynnwys teithiau awyr
rhyngwladol o faes awyr yn y DG a ddewisir gan gwmni Camre 4.1.5 trafnidiaeth o leoliad canolog y diwrnod paratoi terfynol (DPT) i’r maes awyr ymadael 4.1.6 yr ychwanegiadau dewisol canlynol DDIM OND os ydynt wedi eu cynnwys ym Mrîff yr Alltaith:4.1.6.1 teithio o’r ysgol i leoliad canolog y DPT 4.1.6.2 teithiau awyr rhanbarthol (os yw’r ychwanegiad dewisol hwn yn cael ei brynu yna bydd y DPT yn cael
ei gynnal yn yr ysgol neu unrhyw leoliad arall a ddarparir gan yr ysgol ac ni fydd Camre yn darparu trafnidiaeth i’r maes awyr ymadael)
4.1.6.3 teithio o’r ysgol i’r maes awyr ymadael pan fo’r DPT yn cael ei gynnal yn yr ysgol 4.2 Er mwyn atal unrhyw amheuaeth, NID yw’r pris a ddyfynnir ar gyfer yr Alltaith yn cynnwys (a chyfrifoldeb y Cleient neu’r Cyfranogydd yw trefnu):4.2.1 trafnidiaeth i ac o’r holl gyrsiau hyfforddi cysylltiedig 4.2.2 yswiriant ar gyfer unrhyw agwedd o’r Rhaglen Allteithio nad ydynt yn cael eu cynnwys ym mholisïau
yswiriant Camre (gellir cael copïau o’r rhain ddim ond i chi ofyn) megis eiddo personol, arian, offer wedi ei hurio neu gyflwr meddygol sy’n bodoli eisoes
4.2.3 ffioedd pasportau a visa mynediad unigol ar gyfer lleoliadau dewisol y Cyfranogydd 4.2.4 ffioedd brechu ac atal clefydau ac anghenion meddygol personol sydd eisoes yn bodoli cyn ymadael4.2.5 teithio i leoliad y DPT (yn ardal Llundain fel arfer ar gyfer grwpiau o Gymru a Lloegr, neu rwng Glasgow
a Chaeredin ar gyfer grwpiau o’r Alban) oni bai y cytunir ar hyn fel ychwanegiad dewisol a’i fod wedi ei gynnwys yn y Brîff Allteithio
4.2.6 trafnidiaeth o faes awyr dychwelyd i’r DG 4.2.7 hurio unrhyw offer personol a dillad o becyn hurio offer Camre 4.2.8 unrhyw gostau i Camre o ganlyniad i golli offer neu ddogfennau personol ar ran y Cyfranogydd 4.3 Heb ymrwymiad i gyffredinoledd paragraff 7, ceidw Camre yr hawl i godi pris yr Alltaith unrhyw bryd
hyd at 30 diwrnod cyn ymadael. Gall newid o’r fath ddigwydd o ganlyniad i weithredoedd y llywodraeth, newid yn y cyfraddau cyfnewid, costau trafnidiaeth yn codi (e.e. costau teithio wedi eu cyhoeddi a chost tanwydd) a newid i drethi a thollau neu ffioedd yn daladwy am wasanaeth (gan gynnwys TAW, trethi glanio neu cyrraedd a gadael porthladdoedd) sy’n effeithio’n uniongyrchol ar gostau Camre ar ran y Cyfranogwyr. Bydd Camre yn talu dau y cant (2%) cyntaf unrhyw gynnydd i ddyfynbris gwreiddiol yr Alltaith. Bydd y Cyfranogydd yn talu unrhyw gynnydd sy’n fwy na dau y cant (2%).
30
4.4 Bydd Camre yn hurio offer personol i’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr Alltaith am ffi hurio nad yw’n cael ei ad-dalu. Mae’r ffi yma yn caniatau i’r Cyfranogydd ddefnyddio’r offer gydol yr holl gyfnod hyfforddi a hefyd gydol cyfnod yr Alltaith dramor. Mae’r Cyfranogwyr yn gyfrifol am ddiogelwch yr holl offer sydd wedi ei hurio ganddynt a cheidw Camre yr hawl i godi ffi ar y Cyfranogydd am bris marchnad unrhyw offer gaiff ei golli neu ei ddifrodi.
5. TALU
5.1 Os yw unigolyn yn 18 mlwydd oed neu fwy ac wedi arwyddo’r Ffurflen Gais Allteithio, bydd yr unigolyn hwnnw yn gyfrifol am dalu cyfanswm pris yr Alltaith. Os yw unigolyn o dan 18, yna mae’r person sydd wedi arwyddo’r Ffurflen Gais Allteithio megis y Rhiant yn gyfrifol am dalu cyfanswm pris yr Alltaith.
5.2 Bydd y Cleient neu’r Cyfranogydd yn talu pris yr Alltaith i gwmni Camre yn unol â’r Cynllun Talu.5.3 Mae’n rhaid talu’r blaendal i Camre o fewn 30 diwrnod o dderbyn y Ffurflen Gais Alllteithio. Ni fydd y Ffurflen Gais
Allteithio yn cael ei phrosesu nag unrhyw archeb yn cael ei chadarnhau hyd y telir y Blaendal. Ar ôl derbyn y Blaendal, bydd anfoneb yn cael ei anfon i’r Cyfranogydd ynghŷd â Chynllun Talu ar gyfer y taliad terfynol neu ran-daliadau eraill.
5.4 Bydd Camre yn rhoi anfoneb ar gyfer bob rhan-daliad neu daliad terfynol cyn y dyddiad y mae’r taliad yn ddyledus. Mae’n rhaid i Camre fod wedi derbyn unrhyw randaliadau neu daliadau terfynol erbyn y dyddiad y mae’n ddyledus. Os nad yw Camre yn derbyn y taliadau erbyn y dyddiad dyledus, ceidw’r hawl i atal y Cyfranogydd rhag cymryd rhan yn y Rhaglen Allteithio a chodi ffioedd canslo fel y’u hamlinellir ym mharagraff 6.
5.5 Pan fo unrhyw daliad o dan y telerau a’r amodau hyn yn orddyledus, ceidw Camre yr hawl i godi llog (cyn ac ar ôl unrhyw ddyfarniad) ar y swm nas talwyd. Bydd hwn ar raddfa o ddau y cant (2%) y flwyddyn uwchben cyfradd llog sylfaenol Banc Lloegr hyd y telir y taliad yn llawn (bydd rhan o fis yn cael ei drîn fel mis llawn ar gyfer cyfrifo llog). Ceidw Camre yr hawl i godi llog o dan Ddeddf Taliadau Hwyr Dyledion Masnachol (Llog) 1998.
6. TYNNU’N ÔL A CHANSLO
6.1 Ceidw Camre’r hawl yn ôl ei ddisgresiwn penodol ei hun i dynnu Cyfranogydd allan o’r Rhglen Allteithio ar unrhyw adeg (gan gynnwys yn ystod yr Alltaith) os yw Camre o’r farn bod y Cyfranogydd yn debygol o amharu ar drefn dda, disgyblaeth neu ddiogelwch yr Alltaith, nad yw’n addas i gymryd rhan yn y Rhaglen Allteithio neu’n methu cadw at y Côd Ymddygiad. Os yw Cyfranogydd yn cael ei dynnu allan o Raglen yr Alltaith gan Camre, bydd lle y Cyfranogydd yn yr Alltaith yn cael ei ganslo gan Camre.
6.2 Os yw Camre yn gweithredu ei hawl i dynnu Cyfranogydd allan o’r Rhaglen Allteithio yn unol â pharagraff 6.1, bydd y Cyfranogydd yn ad-dalu unrhyw gostau rhesymol i Camre, neu’n digolledu Camre am unrhyw golledion neu gostau a gaiff Camre o ganlyniad i’r dynnu’r Cyfranogydd allan o’r Alltaith gan gynnwys yr holl gostau sy’n gysylltiedig â dychwelyd y Cyfranogydd yn ôl i’r DG.
6.3 Os yw Cyfranogydd yn dewis o’i wirfodd i ganslo ei le yn yr Alltaith, mae’n rhaid i’r Cyfranogydd hysbysu Camre yn ysgrifenedig o’i fwriad i ganslo.
6.4 Os yw lle y Cyfranogydd yn yr Alltaith yn cael ei ganslo gan unai’r Cyfranogydd yn unol â pharagraff 6.3 neu o ganlyniad i Camre yn tynnu’r Cyfranogydd allan o’r Alltaith, ni fydd y blaendal yn cael ei ad-dalu a bydd y Cyfranogydd yn talu’r costau a amlinellir yn y tabl isod ac ym mharagraffau 6.5 a 6.6 yn ôl i gwmni Camre.
Amser cyn dyddiad ymadael y bydd y Cyfranogydd yn tynnu’n ôl neu’n canslo
Canran Pris yr Alltaith (heb gynnwys blaendal) a dalwyd ac/neu anfonebwyd Siwrnai Hir Siwrnai Fer
Llai na 30 diwrnod 100% 100%
Rhwng 31 a 59 diwrnod 90% 90%
Rhwng 60 a 90 diwrnod 80% 80%
Llai na 4 mis 70% 70%
Llai na 5 mis 65% 65%
Llai na 6 mis 60% 60%
Llai na 7 mis 55% 55%
Llai na 8 mis 50% 50%
Llai na 9 mis 45% 45%
Llai na 10 mis 40% 40%
Llai na 11 mis 35% 35%
Llai na 12 mis 30% 30%
Llai na 13 mis 25% 25%
Llai na 14 mis 20% 20%
Llai na 15 mis 15%
Llai na 16 mis 15%
Llai na 17 mis 15%
6.5 Bydd Camre yn archebu teithiau awyr hyd at 11 mis cyn ymadael ac hwyrach yn gorfod talu costau ychwanegol nad ydynt wedi eu cynnwys yn y costau uchod i’r cwmni hedfan oherwydd canslo. Bydd y Cyfranogydd yn gyfrifol am dalu’r costau ychwanegol yma yn ogystal â’r costau yn y tabl uchod.
6.6 Bydd Camre yn trefnu taith awyren heb gwmni oedolyn i’r DG ar gyfer Cyfranogydd sy’n canslo ei le yn yr Alltaith o’i wirfodd wrth Allteithio. Hwyrach y bydd Cyfranogydd sydd o dan 16 oed angen rhywun i’w hebrwng adref neu i Riant hedfan i leoliad yr Alltaith i hebrwng y Cyfranogydd yn ôl i’r DG. Ceidw Camre yr hawl i ddechrau eu dychweliad i’r DG am ddim cost ychwanegol i Camre a bydd yn gofyn am ganiatâd ysgrifenedig gan y Rhiant os bydd Cyfranogydd o dan 16 yn gorfod hedfan yn ol i’r DG heb gwmni oedolyn.
6.7 Heb ymrwmiad i’r uchod, hwyrach y bydd Camre yn ôl ei ddisgresiwn penodol ei hun yn ad-dalu rhywfaint neu’r cyfan o bris yr Alltaith. Fodd bynnag, os yw Cyfranogydd yn canslo ei le ar Alltaith o’i wirfodd a’i fod yn amgylchiad lle mae Camre wedi ei yswirio yng nghyswllt y costau cysylltiedig (fel y cadarnheir yn ysgrifenedig gan y Cwmni Yswiriant Teithio) bydd Camre yn ad-dalu’r Cyfranogydd gyda swm nid uwch na’r swm y’i ad-dalir i Camre gan y cwmni yswiriant (ar ôl tynnu unrhyw gostau gweinyddol ac ar ôl tynnu gor-dâl perthnasol y cwmni).
7. AMRYWIADAU
7.1 Mae Camre yn gwneud bob ymdrech i sicrhau bod llenyddiaeth y cwmni yn fanwl gywir. Fodd bynnag, gall newidiadau ddigwydd serch ein hymgais orau a cheidw Camre yr hawl i newid unrhyw bris Alltaith neu fanylion Allteithio eraill o bryd i’w gilydd.
7.2 Os ydym yn bwriadu gwneud newid bach i’r Rhaglen Allteithio, nid oes yn rhaid i Camre hysbysu’r Cleient ymlaen llaw o wneud y newid hwnnw (ond byddwn yn gwneud pan fo hynny’n ymarferol).
7.3 Os ydym yn bwriadu gwneud newid mawr i’r Rhaglen Allteithio, bydd Camre yn hysbysu’r Cyfranogydd mor fuan â phosib’ ac yn rhoi’r dewis i’r Cyfranogydd unai:
7.3.1 gytuno i’r newid (a allasai neu beidio olygu mynd ar alltaith debyg arall, ddrytach neu ratach, yn ddibynnol ar argaeledd); neu
7.3.2 ganslo lle y Cyfranogydd yn yr Alltaith sydd felly’n golygu bod darpariaethau paragraff 6 yn berthnasol i’r canslo yma. 7.4 Bydd y Cyfranogydd yn hysbysu Camre yn ysgrifenedig o’i ddewis mor fuan a phosib’ ac mewn unrhyw amgylchiad
o fewn 14 diwrnod i’w hysbysu o’r Newid Mawr arfaethedig. Os na fyddwn yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig y Cyfranogydd o fewn 14 diwrnod, byddwn yn cymryd yn ganiataol bod y Cyfranogydd wedi derbyn y Newid Mawr.
7.5 Ni all Camre sicrhau amseroedd ymadael a chyrraedd yr awyrennau ac mae unrhyw drefniadau os oes oedi’n digwydd wrth ddrisgresiwn y cwmniau teithio hynny. Bydd Camre yn ceisio hysbysu’r Cyfranogwyr o’r newidiadau i fanylion yr awyrennau mor fuan a phosib ac, ymhob achos yn y giatiau cofrestru neu fyrddio. Ni fydd Camre yn gyfrifol am unrhyw gostau a gaiff y Cyfranogwyr neu’r Cleient o ganlyniad i newid amseroedd hedfan yr awyrennau.
7.6 Er bod Camre yn gwneud bob ymdrech i gadw at y daith a gynlluniwyd, dylai’r Cyfranogwyr gydnabod, oherwydd natur Allteithiau tramor yng ngwledydd datblygol y byd, na all Camre dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw newidiadau i’r daith.
7.7 Ceidw Camre yr hawl i uno unrhyw grŵp sydd â llai na 9 Cyfranogydd yn rhan ohono gyda grŵp arall. Os yw hyn yn Newid Mawr i’r Alltaith,mae darpariaeth paragraff 7.3 yn berthnasol.
7.8 Ceidw Camre yr hawl i rannu grwpiau o 18 neu ragor o Gyfranogwyr i fewn i grwpiau llai er mwyn sicrhau diogelwch y Tîm wrth allteithio.
8. DIOGELWCH ARIANNOL
8.1 Mae Rheolaethau Teithio Pecyn, Gwyliau Pecyn a Theithiau Pecyn 1992 yn ei gwneud yn ofynnol i Camre ddarparu diogelwch ar gyfer yr arian y mae’r Cyfranogwyr yn ei dalu am unrhyw wyliau pecyn sy’n cal ei archebu gyda Camre a dychwelyd bob Cyfranogydd petai Camre yn datgan ei hun an fethdalwr. Rhif ATOL Camre yw ATOL 6697.
8.2 Pan fydd Cyfranogydd yn prynu pecyn gwyliau wedi ei ddiogelu gan ATOL neu daith awyr wedi ei diogelu gan ATOL gan Camre ac ar ôl derbyn y Ffurflen Gais Allteithio a’r Blaendal gan y Cyfranogydd, Bydd Camre yn rhoi derbynneb i’r Cyfranogydd yn cadarnhau bod y Cyfranogydd wedi ei ddiogelu o dan Drwydded Trefnwyr Teithiau Awyr (ATOL) Camre rhif 6697.
8.3 Yn dilyn yr amgylchiad annhebygol fod Camre yn datgan ei hun yn fethdalwr, bydd y CAA yn gwneud y trefniadau angenrheidiol i sicrhau fod y Cyfranogwyr yn cael eu hanfon adref os ydynt dramor ac yn trefnu i ad-dalu unrhyw arian y mae’r Cyfranogwyr wedi ei dalu i Camre am unrhyw archeb ymlaen llaw. Am ragor o wybdaeth ewch i wefan ATOL www.atol.org.uk
8.4 Mae pris pecynnau awyr a theithiau Camre sydd wedi eu diogelu gan ATOL yn cynnwys y swm o £1 ar gyfer bob person fel rhan o Gyfraniad Diogelwch ATOL y mae Camre yn ei dalu i’r CAA.
9. PASPORTAU, VISA A BRECHIADAU
9.1 Mae’n rhaid i’r Cyfranogwyr gael pasport dilys a darparu copi o’r tudalennau allweddol i Camre 6 mis cyn ymadael. Mae’n rhaid i bob pasport fod yn ddilys am o leiaf 6 mis ar ôl dyddiad dychwelyd yr Alltaith.
9.2 Mae’r Cyfranogwyr yn gyfrifol am drefnu’r visas perthnasol ar gyfer y gwledydd yr ymwelir â hwy yn ystod yr alltaith (gan gynnwys unrhyw visa symudol). Os nad yw Cyfranogydd yn medru cael visa, bydd lle’r Cyfranogydd ar yr Alltaith yn cael ei ganslo a bydd darpariaethau paragraff 6.4 yn berthnasol.
9.3 Mae’n rhaid i’r Cyfranogwyr sicrhau eu bod wedi cael y brechiadau cywir fel y’u hargymhellir gan eu Meddyg, mewn perthynas â lleoliadau’r alltaith. Mae’n rhaid i’r Cyfranogwyr sicrhau bod ganddynt y tystysgrifau brechu sy’n angenrheidiol ar gyfer mynychu’r gwledydd y mae’r alltaith yn ymweld â hwy neu’n teithio drwyddynt.
9.4 Os fydd unrhyw wlad yn gwrthod gadael Cyfranogydd i mewn am unrhyw reswm, bydd yn rhaid i’r Cyfranogydd hwnnw dalu am ei ffordd ei hun i’r man ymadael ac ad-dalu’r gost i Camre ac/neu unrhyw gerbyd arall. Bydd Camre yn ceisio ad-hawlio’r costau hyn o fewn 30 diwrnod i ddyddiad dychwelyd yr alltaith.
9.5 Ni fydd Camre yn ysgwyddo costau Cyfranogwyr sy’n colli pasport, visa neu dystysgrif frechiadau. Mewn achos o’r fath, y Cyfranogydd fydd yn gyfrifol am gostau colled o’r fath.
10. DERBYN AWDURDOD A DISGYBLAETH
10.1 Mae gan holl aelodau’r Tîm ddyletswydd gofal i weddill y tîm ac mae’n rhaid iddynt ymddwyn felly ac yn unol â’r gyfraith leol a chyfraith y DG, polisïau’r cleient, polisïau’r Awdurdod Lleol a’r Côd Ymddygiad. Mae’n rhaid i aelodau’r tîm ymddwyn mewn modd nad yw’n amharu ar drefn dda, disgyblaeth na diogelwch yr Alltaith ac atal rhag unrhyw ymddygiad a allasai dramgwyddo, difrodi neu niweidio unrhyw eiddo neu berson neu amharu ar fwynhad y Tîm.
10.2 Dryw arwyddo’r Ffurflen Gais Allteithio, rydych yn dynodi eich bod yn derbyn awdurdod y Tîm Arwain i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y Tîm yn ei gyfanrwydd neu ar unigolion sy’n aelod o’r Tîm. Pan fydd anghydfod rhwng aelodau o’r Tîm Arwain, bydd Camre yn penderfynu ac yn dod i ganlyniad ynghylch y mater a phenderfyniad Camre fydd yn derfynol ar ôl ymgynghori gyda’r ysgol neu’r Awdurdod Lleol os yw hynny’n ymarferol.
31
11. IECHYD
11.1 Mae alltaith yn her gorfforol a meddyliol. Cyfrifoldeb bob aelod unigol o’r Tîm yw sicrhau eu bod mewn iechyd meddyliol a chorfforol digon da i fynd i’r afael â gofynion yr alltaith.
11.2 Mae’n rhaid i aelodau’r tîm hysbysu Camre a’r Cwmni Yswiriant Teithio o’r holl gyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli arnynt (ac unrhyw gyflyrau meddygol y maent wedi dioddef ohonynt yn y gorffennol a allai ddigwydd eto yn ystod rhaglen yr alltaith) adeg archebu ac unrhyw gyflwr meddygol sy’n digwydd rhwng archebu ac ymadael ar alltaith, waeth pa mor fychan yr ystyrir hwy i fod.
11.3 Ni fydd Cyfranogydd o’r fath yn medru hawlio unrhyw ad-daliad o unrhyw daliad a wnaed o dan y Cytundeb ac mae’r Cyfranogydd yn diogelu Camre yn erbyn unrhyw gostau, atebolrwydd a cholledion mewn cysylltiad â’r uchod, gan gynnwys cost dychwelyd adref (gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i gostau hedfan) a chostau cyfreithiol.
11.4 Er mwyn asesu’r risg i’r unigolion a’r Tîm o ganlyniad i gyflwr meddygol, ceidw Camre yr hawl i ofyn cyngor gan feddyg teulu y Cyfranogydd a chyngor meddygol annibynnol ynghylch y cyflwr. Pan fo meddyg teulu y Cyfranogydd yn codi tâl am wybdaeth, y Cyfranogydd fydd yn gyfrifol am dalu’r tâl yma.
11.5 Pan na ellir yswirio risg cyflwr meddygol aelod o’r Tîm neu fod y risg yn annerbyniol i Camre ar sail asesu risg, ceidw Camre yr hawl i dynnu’r unigolyn allan o’r alltaith a bydd y cais/hawliad yn cael ei gyfeirio at y Cwmni Yswiriant Teithio a bydd darpariaethau paragraff 6.8 yn berthnasol.
11.6 Pan fo digwyddiad meddygol yn golygu tynnu Cyfranogydd allan o’r Alltaith ac/neu ei yrru adref, bydd aelod o’r Tîm Arwain yn hebrwng y Cyfranogydd am gyfnod mor hir ag sy’n rhesymol ymarferol tra fo gweddill y Tîm yn parhau gyda Rhaglen yr Alltaith. Yn ystod y cyfnod yma, bydd Camre yn talu’r holl gostau ac yn eu hawlio’n ôl gan y Cwmni Yswiriant Teithio.
11.7 Os oes hawliad yswiriant yn cael ei wneud, bydd unrhyw gostau am wybodaeth sydd ei hangen ar y Cwmni Yswiriant Teithio, megis tystysgrifau meddygol, yn cael eu talu gan y Cyfranogydd.
12. PWYNTIAU CYFFREDINOL
12.1 Mae’r Cytundeb yn bersonol i’r Cyfranogydd ac nid yw’n bosib ei drosglwyddo na’i aseinio heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan gwmni Camre.
12.2 Er fod Camre yn bwriadu gweithredu gofynion y Cytundeb yma ei hun, hwyrach y bydd Camre yn dewis is-gontractio agweddau ohono. Bydd Camre yn sicrhau bod unrhyw waith a gaiff ei is-gontractio yn cael ei wneud gan staff sydd wedi cymhwyso’n berthnasol ac/neu sydd â phrofiad perthasnol.
13. ATEBOLRWYDD CAMRE CYMRU
13.1 Yn atebol i ddarpariaethau eraill paragraff 13, mae Camre yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod sy’n digwydd o ganlyniad uniongyrchol i weithredoedd esgeulus y cyflogai, asiantaethau, cyflenwyr, darparwyr trafnidiaeth neu gontractwyr neu fel canlyniad uniongyrchol i dorri telerau’r Cytundeb gan Camre yn ddibynnol ar na fydd Camre yn gyfrifol am unrhyw anafiad, colled neu ddifrod pan fo anafiad, colled neu ddifrod o’r fath yn digwydd o ganlyniad i:
13.1.1 weithredoedd neu esgeulustod y Cyfranogydd ac/neu’r Cleient 13.1.2 trydydd parti nad yw’n gysylltiedig â darpariaethau’r trefniadau teithio yn y rhaglen Allteithio 13.1.3 amgylchiadau na ellir eu rhagweld na’u hosgoi neu amgylchiadau anghyffredin y tu hwnt i reolaeth Camre neu ei
gyflogai, asiantaethau, cyflenwyr, darparwyr trafnidiaeth neu gontractwyr (fel y bo’r achos) na ellir osgoi canlyniad amgylchiad o’r fath
13.1.4 digwyddiad Force Majeure neu ddigwyddiad na fyddai’n bosib i Camre neu ei gyflogai, asiantaethau, cyflenwyr, darparwyr trafnidiaeth neu gontractwyr (fel y bo’r achos) ei ragweld na’i atal.
13.2 Yn ddarostyngedig i baragraff 13.6 ac nad yw’r cyfyngiadau a amlinellir ym mharagraffau 13.1.1 i 13.1.4 yn gymwys, ni fydd unrhyw atebolrwydd ar ran Camre yn unol â pharagraff 13.1 neu o ran unrhyw hawliad arall sy’n codi o’r Cytundeb neu sy’n gysylltiedig ag ef yn fwy, yn achos bob Cyfranogydd, na swm sy’n hafal i bris yr Alltaith a dalwyd gan y Cyfranogydd.
13.3 Bydd atebolrwydd Camre wedi ei gyfyngu i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith yn unol â: 13.3.1 telerau cytundebol y cyflenwyr, asiantaethau neu gontractwyr sy’n darparu trafnidiaeth yng nghyswllt y Rhaglen
Allteithio y mae eu telerau wedi eu cynnwys yn y Cytundeb; ac13.3.2 unrhyw gytundeb rhyngwladol perthnasol, gan gynnwys Cytundeb Montreal yng nghyswllt hedfan, Cytundeb
Athens yng nghyswllt morio, Cytundeb Berne yng nghyswllt teithio rheilffordd a Chytundeb Paris yng nghyswllt darparu llety a bydd Camre yn manteisio ar unrhyw gyfyngiad ar atebolrwydd ac/neu iawndal a gynhwysir yn y cytundebau yma neu unrhyw gytundebau i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith.
13.4 Gellir cael copi o delerau cytundebol cyflenwyr, darparwyr trafnidiaeth neu gontractwyr neu’r cytundebau rhyngwladol y cyfeirir atynt uchod o’r Brif Swyddfa ddim ond i chi ofyn.
13.5 O dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd (Rheolaeth 261/2004) mae gan y Cyfranogydd yr hawl mewn rhai achosion i ad-daliad ac/neu iawndal gan y cwmni awyrennau perthnasol os fydd yn gwrthod gadael Cyfranogydd ar yr awyren, canslo neu’n oedi awyren. Mae manylion llawn yr hawliau yma wedi eu cyhoeddi ac ar gael ym meysydd awyr yr UE ac ar gael gan gwmnïau awyrennau. Fodd bynnag, ni fydd ad-daliad mewn achosion o’r fath yn golygu fod gan y Cyfranogydd yr hawl i gael ad-daliad am bris yr Alltaith gan Camre. Pan fydd ar Camre unrhyw daliad i’r Cyfranogydd, bydd unrhyw daliad a wneir i’r Cyfranogydd gan y cwmni awyr perthnasol yn cael ei dynnu o’r swm yma. Os nad yw cwmni awyr y Cyfranogydd yn cydymffurfio â’r rheolau hyn, dylai’r Cyfranogydd anfon cwyn i Gyngor Defnyddwyr Trafnidiaeth Awyr (Air Transport Users’ Council) ar 020 7240 6061 neu drwy eu gwefan: www.auc.org.uk
13.6 nid oes dim yn y telerau ac amodau hyn yn cyfyngu ar neu’n eithrio atebolrwydd Camre:13.6.1 yng nghyswllt marwolaeth neu niwed personol o ganlyniad i esgeulustod Camre; neu 13.6.2 dwyll neu gynrychiolaeth dwyllodrus gan gwmni Camre. 13.7 Mae’r holl warantau, telerau ac amodau eraill a bennir gan ddeddf neu gyfraith gwlad, i’r graddau eithaf a ganiateir
gan y gyfraith, wedi eu heithrio o’r Cytundeb.
14. GWIBDEITHIAU
14.1 Nid yw’r gwibdeithiau na’r teithiau eraill y mae’r Cyfranogydd ac/neu’r Cleient yn eu harchebu neu’n talu amdanynt tra fod y Cyfranogydd ar alltaith yn rhan o’r trefniadau Allteithio a ddarparir gan Camre. Yng nghyswllt unrhyw wibdaith neu daith arall y bydd y Cyfranogydd yn ei archebu, bydd ei gontract ef/hi gyda gweithredwr yr wibdaith neu’r daith honno ac nid gyda Camre. Ni fydd Camre yn gyfrifol am ddarparu’r wibdaith neu’r daith nag am unrhywbeth sy’n digwydd yn ystod cyfnod darpariaeth y daith honno gan y darparwr.
15. CYFLE CYFARTAL/DATGANIAD ANABLEDD
15.1 Mae’n bolisi gan Camre i sicrhau cyfle cyfartal i unigolion heb wahaniaethu ar sail hil, lliw, crefydd, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, hynafiad, rhyw, tueddiadau rhywiol, anabledd neu statws rhiant. Gweler polisi Camre ynghylch gallu Cyfranogydd i gwblhau Alltaith (neu ran ohono) yn Adran 12 y ddogfen hon.
16.CWYNION
16.1 Os oes cwyn neu broblem yn ystod rhaglen yr alltaith, mae’n rhaid i’r Cyfranogwyr hysbysu’r Tîm Arwain neu unrhyw aelod hŷn arall o Camre yn syth er mwyn galluogi ymdrechion sydyn ac effeithiol i’w datrys. Mewn amgylchiad annhebygol na ellir datrys y broblem ar y pryd, a bod y Cyfranogydd eisiau gwneud cwyn, mae’n rhaid i Camre gael manylion ysgrifenedig llawn y gwyn o fewn 28 diwrnod i ddyddiad dychwelyd yr Alltaith i’r DG. Dylid cynnwys y cyfeirnod archebu, a’r rhifau ffôn yn ystod y dydd a gyda’r nos. Gall methu a cymryd y camau hyn effeithio ar allu Camre i ddatrys unrhyw broblem ac/neu i’w hymchwilio’n drylwyr a bydd unrhyw hawl i iawndal yn cael ei ostwng neu ei golli.
17. Y GYFRAITH AC AWDURDOD
17.1 Mae’r Cytundeb ac unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio ohono neu sy’n gysylltiedig ag ef neu ei destun neu ffurfiad (gan gynnwys unrhyw anghydfod neu hawliad sydd heb eu contractio) yn cael eu llywodraethu gan ac yn cael eu dadansoddi yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
17.2 Mae’r Cleient a’r Cyfranogydd yn cytuno’n ddiwrthdro bod gan llysoedd Cymru a Lloegr yr awdurdod neilltiedig i unioni unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio o neu sy’n gysylltiedig â’r Cytundeb neu ei destun neu ffurfiad (gan gynnwys unrhyw anghydfod neu hawliad sydd heb eu contractio).
18. DIOGELU DATA
18.1 Mae Camre yn cymryd cyfrifoldeb llawn am sicrhau bod mesurau diogelwch addas mewn grym i warchod gwybodaeth y Cyfranogydd. Wrth i’r Cyfranogydd ymgeisio, mae ef/hi yn cydsynio i’r holl wybodaeth a ddarparwyd ganddynt gael ei drosglwyddo i gyflenwyr Camre, ble bynnag y maent yn y byd. Mae’r Cleient a’r Cyfranogydd yn cydsynio i Gamre brosesu data sy’n gysylltiedig â hwy at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol a rheolaethol ac yn benodol, prosesu unrhyw ‘ddata personol’ (fel y caiff ei ddiffinio yn Neddfa Diogelu Data 1998) sy’n berthnasol i’r Cyfranogydd gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i:
18.1.1 gwybodaeth sy’n ymwneud â iechyd corfforol neu les y Cyfranogydd fel y gellir asesu a monitro gallu’r Cyfranogydd i gymryd rhan mewn Alltaith, a
18.1.2 gwybodaeth sy’n ymwneud ag anghenion deietegol a gallu nofio y Cyfranogydd 18.2 Ceidw Camre’r hawl i wneud yr wybodaeth hon ar gael i drydydd partïon sy’n darparu gwasanaethau i Camre,
awdurdodau rheolaethol a chyrff llywodraethol neu lled-lywodraethol (y tu mewn neu’r tu all i’r Ardal Economiadd Ewropeaidd).
19. DEUNYDDIAU HYRWYDDO
19.1 Wrth gytuno i’r telerau a’r amodau yma, mae’r Cyfranogydd yn cydsynio (oni bai y nodir yn wahanol ar y ffurflen gais) i staff Camre dynnu lluniau ac/neu wneud fideo o’r Cyfranogwyr yn ystod y rhaglen ac yn cydsynio i’r ffaith y bydd y lluniau yma’n cael eu defnyddio gan Camre at ddibenion hysbysrwydd a hyfforddi sy’n cynnwys, ond heb ei gyfyng i, lyfrynnau, gwefannau, deunyddiau marchnata ac yn y wasg.
20. ASEINIO
20.1 Ceidw Camre’r hawl i newyddu neu aseinio y Cytundeb neu unrhyw ran ohono i drydydd parti. Nid oes gan y Cleient na’r Cyfranogydd yr hawl i aseinio y Cytundeb nac unrhyw ran ohono.
20.2 Os yw unrhyw Lys neu awdurdod cymwys arall yn dyfarnu bod rhai o’r telerau a’r amodau yma’n annheg yn eu cyfanrwydd neu yn rhannol neu na ellir eu gorfodi ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd gweddill y telerau a’r amodau yma a bydd gweddill y telerau a’r amodau dan sylw nad effeithiwyd arnynt yn parhau’n ddilys ac yn orfodadwy i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith.
Camre Cymru, 8-9 Chestnut Court, Ffordd y Parc, Parc Menai, Bangor, LL57 4FH © Outlook Expeditions Ltd. 200811.3
Cofrestredig gyda J. V. Banks Accountants. Rhif Cofrestredig 4271147. Swyddfa Gofrestredig: Banks House, Ty Isa Road, Llandudno, Conwy, LL30 2PL. © Outlook Expeditions Ltd. 2009
32Mae’rllyfrynhwnwedi’iargraffuarbapurgwastraffôl-ddefnyddiwrhebincReviveRecycled100%.
0044 (0)845 900 2989
Swyddfa’r Alban:
Camre Cymru
Atbara
Ewanfield
Crieff
Perthshire
PH7 3DA
Canolfan Ddatblygu Camre Cymru:
Camre Cymru
Canolfan Ddatblygu Camre Cymru
Deiniolen
Llanberis
Gwynedd
LL55 3NF
Prif Swyddfa:
Camre Cymru
Prif Swyddfa
8-9 Chestnut Court
Ffordd y Parc
Parc Menai
Bangor
LL57 4FH