13
orieldavies orieldavies.org Gaeaf—Gwanwyn Winter—Spring 2016

Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

Embed Size (px)

DESCRIPTION

What's On at Oriel Davies, Spring 2016. Featuring a group show X-10: Power In The Land exploring the tensions between nuclear energy and the land developed around the decomissioning of Wylfa, the last active nuclear power station in Wales.

Citation preview

Page 1: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

orieldavies

orie

ldav

ies.

org

Gae

af—

Gw

anw

yn

Win

ter—

Spri

ng 2

016

Page 2: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

Gaeaf — Gwanwyn Winter — Spring 2016

Rydym yn croesawu dechrau 2016, gydag arddangosfa feddylgar gan X-10, sef gr �wp o ddeg o artistiaid o Gymru a Lloegr sydd wedi creu Pwer yn y Tir / Power yn y Tir mewn ymateb i’r broses o ddadgomisiynu’r atomfa Wylfa ar Ynys Môn, Gogledd Cymru. Mae'r arddangosfa’n berthnasol i'r drafodaeth ynghylch newid yn yr hinsawdd ac anghenion p�wer y genedl. Mae'r ffocws ar dechnoleg yn parhau yn Datacide gan Chris Oakley yn y gofod TestBed, sy’n rhan o’r gr �wp X-10, gyda chynrychiolaeth gerfluniol o'r deunydd ac ystyr cysyniadol data yn ein diwylliant. Peidiwch â cholli'r newyddion diweddaraf am ein harddangosfeydd teithiol a’n rhaglenni dysgu, sy’n cynnwys Ein Lle Ni / Our Space, a chyrsiau a gweithdai ar gyfer pob oedran.

We welcome the early part of 2016 with a pertinent exhibition from X-10, a group of ten artists from Wales and England who have created Power in the Land / Pwer yn y Tir in response to the decommissioning of Wylfa, the nuclear power station on Anglesey, North Wales. The show is relevant to the debate around climate change and the nation’s power needs. Chris Oakley, part of the X-10 group, also presents work in the TestBed show, Datacide. Don’t miss the latest news on our touring exhibitions, artist residencies and learning programmes, including the Ein Lle Ni / Our Space programme, and courses and workshops for all ages.

Croeso Welcome

orieldavies.org

Page 3: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

Mae ynni niwclear o’r gorffennol a'r dyfodol wedi cael llawer o sylw yn y newyddion yn ddiweddar. Mae'r gr �wp o artistiaid X-10 yn cyflwyno canlyniadau dwy flynedd o weithio gyda'i gilydd yn ystod cau a dadgomisiynu’r Wylfa, yr atomfa niwclear olaf yng Nghymru a'r olaf, a'r mwyaf o orsafoedd Magnox, sy’n cau ym mis Rhagfyr 2015.

Mae’r artistiaid yn gweithio trwy gyfrwng fideo, ffotograffiaeth, sain, cerflunwaith, gosodiadau a phrosesau ffotograffig amgen, ac wedi ceisio dod i delerau â chymhlethdodau ynni niwclear a dyfodol ein hynni o fewn yr amgylchedd. Mae pob artist wedi ymateb yn eu ffordd eu hunain a drwy drafod â'i gilydd, i bresenoldeb corfforol ac egnïol yr orsaf b �wer, etifeddiaeth y dyfodol ar gyfer y safle ym Môn ac i gysylltiadau cymhleth ynni niwclear.

Ant Dickinson / Annie Grove-White Helen Grove-White / Bridget Kennedy / Jessica Lloyd-Jones Chris Oakley / Teresa Paiva Robin Tarbet / Tim Skinner Alana Tyson

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Nuclear power, past and future, has been very much in the news recently. The artist group X-10 bring together the fruits of 2 years working together around the closure and decommissioning of Wylfa, the last nuclear power station in Wales and the last and largest of the Magnox stations, closing in December 2015.

Working in video, photography, sound, sculpture, installation and alternative photographic processes, the artists have tried to come to terms with the conundrums of nuclear power and our energy futures within the environment. Each artist has responded in their own way and in dialogue with each other, to the physical and energetic presence of the power station, the future legacy for the Anglesey site and to the complex associations of nuclear power.

Ant Dickinson / Annie Grove-White Helen Grove-White / Bridget Kennedy / Jessica Lloyd-Jones Chris Oakley / Teresa Paiva Robin Tarbet / Tim Skinner Alana Tyson

Supported by Arts Council of Wales.

06 Chwefror / February— 06 Ebrill / April 2016

Arddangosfeydd Exhibitions

P�wer yn y Tir Power in the Land

Annie Grove-White

Page 4: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

Mae Datacide yn myfyrio ynghylch dyfodol data a diwylliant digidol. Mae gosodiad cerfluniol, a grëwyd o weddillion gyriannau disgiau caled wedi’u dinistrio, yn myfyrio ar ystyr data mewn diwylliant wedi’i ddigido ac yn ystyried senario posibl lle mae technoleg wedi dod yn amherthnasol ac yn cael ei leihau i’w nodweddion materol yn unig. Mae hefyd wedi'i fwriadu fel adlewyrchiad ar y cylch defnydd sydd yn dawel gynhenid mewn diwylliant digidol, ac ar daflu gwastraff electronig i lawr yr afon yn y byd sy'n datblygu.

Datacide speculates on the future of data and digital culture. A sculptural installation, created from the remains of destroyed hard disk drives, both reflects upon the meaning of data in a digitised culture and considers a possible scenario where technology has become irrelevant and is reduced to its material qualities alone.

It is also intended as a reflection on the consumption cycle quietly inherent in digital culture, and the downstream disposal of electronic waste in the developing world.

06 Chwefror / February —06 Ebrill / April 2016

DATACIDE Chris Oakley

Chris Oakley, from Datacide, 2015

TestBed supports new and experimental work by artists based in Wales and the Borders.

Mae TestBed yn cefnogi gwaith newydd ac arbrofol gan artistiaid sydd wedi'u lleoli yng Nghymru a'r Gororau.

TestBed

Page 5: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

Mae flora yn parhau i deithio ar draws Cymru. Mae'r arddangosfa yn archwilio arwyddocâd celfyddyd gyfoes trwy flodau ac yn cynnwys yr artistiaid canlynol; Emma Bennett Michael Boffey / Anya Gallaccio Ori Gersht / Owen Griffiths Anne-Mie Melis /Jacques Nimki Yoshihiro Suda / Clare Twomey

Yna:12 Gorffennaf — 17 Medi 2016Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth www.aberystwythartscentre.co.uk01970 623232

Mae'r arddangosfa yn cael ei harddangos mewn gwahanol ffurfiau yn ystod ei thaith, ac yn cynnwys digwyddiadau cysylltiedig. Cynghorir ymwelwyr i gysylltu â'r lleoliadau yn uniongyrchol am fanylion.

flora continues its tour across Wales. The exhibition is an exploration the significance of contemporary art through flowers and includes artists; Emma Bennett / Michael Boffey Anya Gallaccio / Ori Gersht Owen Griffiths / Anne-Mie Melis Jacques Nimki / Yoshihiro Suda Clare Twomey

Then:12 July—17 September 2016Aberystwyth Arts Centrewww.aberystwythartscentre.co.uk01970 623232

The exhibition shows in different guises during its tour and includes associated events. Visitors are advised to contact the venues directly for details.

20 Mawrth / March— 15 Mai / May 2016Oriel Plas Glyn y Weddw, Pwllheli www.oriel.org.uk 01758 740763

Yoshihiro Suda, Morning Glory, 2011. Copyright Yoshihiro Suda, Photograph courtesy of Faggionato Ltd, London

Preswyliadau flora flora residencies

floraMagali NougaredeBydd yr artist Magali Nougarede yn treulio cyfnod preswyl yn lleoliad unigryw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae hi’n ymateb i waith ac adnoddau naturiol yr Ardd, ac i brosiect arddangosfa flora.

Preswyliad flora: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru www.gardenofwales.org.uk Tan fis Mawrth 2016

Caroline DearBydd Caroline Dear yn treulio cyfnod fel artist preswyl yng Nghanolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange tan ganol mis Chwefror. Mae hi’n gweithio gyda'r amgylchedd naturiol i ystyried cyd-destun, hanes, iaith a'n hymgysylltiad â chynefin. Bydd arddangosfa o waith o ganlyniad i'r cyfnod preswyl hwn yn cael ei chynnal rhwng canol mis Chwefror a 12 Mawrth.

Preswyliad flora: Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange www.lgac.org.uk 16 Ionawr – 12 Mawrth

Cysylltwch â’r lleoliadau am y newyddion diweddaraf neu ewch i flora.orieldavies.org/residencies

Magali NougaredeArtist, Magali Nougarede, is in residence at the unique setting of the National Botanic Garden of Wales. She is responding to the work and natural resources of the Garden as well as the flora exhibition project.

National Botanic Garden of Wales flora residency www.gardenofwales.org.uk Until March 2016

Caroline DearCaroline Dear is artist in residence at Llantarnam Grange Arts Centre until mid February. She is working with the natural surroundings to consider context, history, language and our engagement with habitat. A presentation of work as a result of this residency will take place between mid February and 12 March.

Llantarnam Grange Arts Centre flora residency www.lgac.org.uk 16 January—12 March

Please contact venues for up to date details or see flora.orieldavies.org/residencies

Mae flora yn Arddangosfa Deithiol Genedlaethol sy’n cael ei churadu gan Oriel Davies a’i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Cefnogir rhaglen Allgymorth Deithiol flora gan Ymddiriedolaeth Ernest Cook.

flora is a National Touring Exhibition curated by Oriel Davies and supported by Arts Council of Wales. The flora Outreach on Tour schools programme is supported by the Ernest Cook Trust.

Caroline Dear, Cupar Coat of Good Luck, 2013

Taith Oriel Davies Oriel Davies touring

Page 6: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

Lansiwyd A Tree A Rock A Cloud yn Oriel Davies ym mis Medi 2014, ac roedd yn cynnwys corff newydd o waith gan yr artist enwog Clare Woods.

Datblygodd yr arddangosfa o ymgysylltiad â thraddodiadau o beintio hanesyddol —portreadau, bywyd llonydd a thirlun — o gasgliadau Amgueddfa Cymru — National Museum Wales.

Mae’r daith hon ar draws Cymru yn cyflwyno gwaith newydd ychwanegol gan Woods mewn ymateb i'r gwaith gan Graham Sutherland a John Piper a gynhaliwyd fel rhan o’r un casgliadau.

Tan 6 Mawrth 2016Oriel y Parc Landscape GalleryTyddewi, Sir Benfro SA62 6NW www.orielyparc.co.uk 01437 720392

Mae'r oriel yn Oriel y Parc yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru — National Museum Wales ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

A Tree A Rock A Cloud launched at Oriel Davies in September 2014 and featured a new body of work by acclaimed artist Clare Woods.

The exhibition evolved out of an engagement with traditions of historic painting — portraiture, still life and landscape — from the collections of Amgueddfa Cymru — National Museum Wales.

This tour across Wales presents additional new work by Woods in response to work by Graham Sutherland and John Piper held in the same collections.

Until 6 March 2016Oriel y Parc Landscape GallerySt Davids, Pembrokeshire SA62 6NW www.orielyparc.co.uk 01437 720392

The gallery at Oriel y Parc is a partnership between Amgueddfa Cymru — National Museum Wales and the Pembrokeshire Coast National Park Authority.

Clare Woods A Tree A Rock A Cloud

Arddangosfa deithiol Oriel Davies mewn partneriaeth â’r Curadur Annibynnol Mandy Fowler, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

An Oriel Davies touring exhibition in partnership with Independent Curator Mandy Fowler, supported by Arts Council of Wales.

Handsome Devil, 2015, Oil on aluminium, 150 x 100cm

Taith Oriel Davies Oriel Davies Touring

Page 7: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

Rydym yn cynnal rhaglen fywiog o weithdai a gweithgareddau i blant a theuluoedd. Mae gweithgareddau celfyddydol i deuluoedd a gynhelir yn ystod gwyliau'r ysgol yn galluogi rhieni a phlant i fod yn greadigol mewn ffordd hwyliog ac anffurfiol. Mae’r gweithdai hyn, sy’n gweithio gydag amrywiaeth o wahanol artistiaid, yn gyfle gwych i arbrofi gydag ystod o dechnegau celf, archwilio creadigrwydd a dysgu sgiliau newydd.

Dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur: Gweithdy yn ystod hanner tymor mis Chwefror 16 Chwef 2016 Gweithdy’r Pasg: Dydd Mawrth 29 Mawrth

We run a lively programme of workshops and activities for children and families. Family arts activities held during the school holidays allow parents and children to get creative in a fun and informal way. Working with a variety of different artists, these workshops are a great opportunity to experiment with a range of art techniques, explore creativity and learn new skills.

Dates for your diary: February Half-term workshop: Tuesday 16 Feb 2016 Easter Workshop: Tuesday 29 March

Digwyddiadau i Blant / Teuluoedd

Children / Family Events

Digwyddiadau Events

Ein Lle Ni/Our Space programme - we work with children and families in and around the Maesyrhandir Estate to deliver monthly art, craft and cooking activities.

Working with a range of artists and makers we deliver quality arts activities aimed at inspiring, engaging and supporting communities to participate in the arts. The activities mainly take place at Maesyrhandir Youth centre but also at the gallery.

Supported by Arts Council of Wales.

Y rhaglen Ein Lle Ni/Our Space - rydym yn gweithio gyda phlant a theuluoedd yn ac o amgylch Stad Maesyrhandir i gyflwyno gweithgareddau celf, crefft a choginio bob mis.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o artistiaid a gwneuthurwyr, ac yn darparu gweithgareddau celfyddydol o safon gyda'r nod o ysbrydoli, ymgysylltu a chefnogi cymunedau i gymryd rhan yn y celfyddydau. Mae'r gweithgareddau yn cael eu cynnal yn bennaf yng nghanolfan Ieuenctid Maesyrhandir, ond hefyd yn yr oriel.

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Gweithgareddau Allgymorth Outreach Activities

Ein Lle Ni

Our Space

Page 8: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

Gweithdai a Chyrsiau Workshops & Courses

Gweithdy Ysgrifennu CreadigolDydd Sadwrn, 23 Ionawr10.30 —1pm, £10Following flora - gweithdy ysgrifennu creadigol sy’n agored i bawb, i edrych ar gyfoeth y gaeaf. Bydd y gweithdy’n cael ei ddilyn gan sesiwn am ddim yn y prynhawn i ganmol enillwyr Cystadleuaeth Ysgrifennu 2015 Oriel Davies. Dan arweiniad Chris Kinsey. Rhaid cadw lle. Sesiwn y prynhawn, 2:30pm-4:00pm. Mae croeso i bawb glywed yr ysgrifau buddugol a dyfarniad y barnwr o gystadleuaeth ysgrifennu rhyddiaith a barddoniaeth 2015 Oriel Davies ar y thema Flora. Digwyddiad am ddim. Rhaid cadw lle.

Dosbarthiadau Bywluniadu ar ddydd SadwrnDydd Sadwrn cyntaf bob mis 10.15 —1.30pm£18 (yn cynnwys deunyddiau)Bywluniadu ydy un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o wella sgiliau arlunio, paentio, cerflunio ac arsylwi. Gall y siapiau a geir yn y ffigwr dynol adleisio siapiau ym mhob maes o natur, a gall dysgu i dynnu o ffurf ddynol fod o fudd ym mhob maes o’ch arfer artistig. Dan arweiniad yr artist, Caroline Ali; mae’r gweithdai hyn yn addas i ddechreuwyr, pobl sydd â sgiliau canolradd a phobl brofiadol. Rhaid cadw lle. Dyddiadau: 09 Ionawr / 06 Chwefror 05 Mawrth / 2 Ebrill

Os hoffech gadw lle ar unrhyw un o'r gweithdai, cysylltwch â [email protected] Ffôn: 01686 625041. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sheela Hughes, Swyddog Dysgu Anffurfiol [email protected]

Creative Writing Workshop Saturday 23 January 10.30am —1pm, £10Following flora - a creative writing workshop open to all to explore winter's riches. Followed by a free afternoon session to commend the winners of the 2015 Oriel Davies Writing Competition. Led by Chris Kinsey. Booking essential. Afternoon session, 2.30pm — 4.00pm. All welcome to hear the winning writings and the judge's adjudication of the 2015 Oriel Davies prose and poetry writing competition on the theme of Flora. Free Event. Booking essential

Saturday Life Drawing Classes First Saturday of each month, 10.15am —1.30pm £18 (includes materials) Life drawing is one of the most effective ways to improve drawing, painting, sculptural and observational skills. The shapes found in the human figure echo shapes in all areas of nature and learning to draw from a human form can benefit all areas of your artistic practice. Led by artist, Caroline Ali, these workshops are suitable for beginners, intermediates and the experienced. Booking essential. Dates: 09 January / 06 February / 05 March / 02 April

To book on any of the workshops, contact [email protected] Tel: 01686 625041. For further information contact Sheela Hughes, Informal Learning Officer - [email protected]

Informal Learning

Dysgu Anffurfiol

Cynhelir cyrsiau yn Oriel Davies ar y cyd ag Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Cymru, Aberystwyth. www.aber.ac.uk

Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle ar gyrsiau, cysylltwch â'r Brifysgol yn uniongyrchol ar 01970 621580 or neu e-bostiwch: [email protected]

Ysgrifennu Storïau Ditectif a Chyffrous gyda Lara Clough Dyddiau Mercher 13 Ion—16 Mawrth 2016 10.15am—12.30pm Mae ffuglen dditectif a chyffrous yn hynod o boblogaidd ac yn meddu ar sgiliau arbennig, o blot cymhleth i ymchwil rhagorol a chymeriadau cadarn. O'i ddechrau, gydag Edgar Allan Poe a Syr Arthur Conan Doyle, bydd y cwrs hwn yn edrych ar y cyd-destun hanesyddol, yr ystod enfawr o fewn y genre hwn, ac yn archwilio'r sgiliau ysgrifennu sydd eu hangen i lwyddo.

Courses take place at Oriel Davies in association with the University of Wales, Aberystwyth, School of Education and Lifelong Learning. www.aber.ac.uk

For further information and course bookings, please contact the University directly on 01970 621580 or email: [email protected]

Detective and Thriller Writing with Lara Clough Wednesdays 13 Jan— 16 March 2016, 10.15am—12.30pm Detective and thriller fiction is enormously popular and draws on special skills from an intricate plot to sound research and enduring characters. From beginnings with Edgar Allan Poe and Sir Arthur Conan Doyle, this course will look at the historical context, the enormous range within the genre and explore the writing skills needed for these rewarding genres.

Lifelong Learning Courses

Cyrsiau Dysgu Gydol Oes

Page 9: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

Gweithdai a Chyrsiau Workshops & Courses

Ysgrifennu gyda Sylwgarwch, Delweddau a Theimlad - gwella bywiogrwydd mewn traethodau personol, barddoniaeth a hunangofiannau gyda Chris Kinsey Bob dydd Mercher, 06 Ion— 16 Mawrth 2016, 1.30pm—3.30pmBydd y cwrs hwn yn ymchwilio i agweddau ar draddodiadau telynegol ac Imagistaidd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd, a bydd yn annog ymarfer a chymhwyso rhai o'r technegau hyn.

Dewis Lliwiau gyda June Forster Bob dydd Mawrth, 1 Mawrth — 15 Mawrth 10.30am tan 3pmCwrs dilynol. Rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau'r modiwl Archwilio Lliw cyntaf yn llwyddiannus. Bydd Dewis Lliwiau yn archwilio priodweddau a ffordd lliw o ryngweithio mewn peintio mewn mwy o ddyfnder, a bydd yn rhoi man cychwyn ysgogol i adeiladu portffolio o waith, gyda sesiynau tiwtora unigol ac arweiniad gan arlunydd sydd â diddordeb penodol mewn defnyddio lliw. Drwy archwilio gwaith celf gan artistiaid cyfoes ac o’r gorffennol, a chelf o wahanol ddiwylliannau, byddwch yn dysgu ymestyn eich defnydd o liw yn eich gwaith.

Writing with Attentiveness, Images and Feeling - enhancing vividness in personal essays, poetry and memoirs with Chris Kinsey Wednesdays, 06 Jan— 16 March 2016, 1.30pm—3.30pmThis course will investigate aspects of the lyrical and Imagist traditions in English and American Literature and will encourage the practice and application of some of these techniques.

Colour Choices with June Forster Tuesdays, 01 March—15 March 2016 10.30am—3pmA follow on course. Students would need to have successfully completed the Colour Exploration module first. Colour Choices will explore to a greater depth the properties and interaction of colour in painting and will provide a stimulating starting point to build a portfolio of work, with individual tutorials and guidance from a painter with a specific interest in the use of colour. Through examining artwork from past and contemporary artists and art from different cultures you will learn to extend your use of colour in your work.

Lifelong Learning Courses

Cyrsiau Dysgu Gydol Oes

Developing creativity, literacy, thinking and communication skills through the arts.

flora Outreach on Tour: Oriel Davies’ flora learning programme migrates northwest to the Llyn Peninsula, where artist Jacques Nimki works with primary school pupils local to Oriel Plas Glyn y Weddw.

Supported by the Ernest Cook Trust.

Power in the Land: Artists explore issues raised by our need for energy and its complex impact on our environment, through new works made in response to the closure and decommissioning of Wylfa, the last nuclear power station in Wales. For exhibition visits and creative workshops tailored to your group, please contact Helen Kozich, Learning Officer (schools & colleges). 01686 625041 [email protected]

Datblygu sgiliau creadigrwydd, llythrennedd, meddwl a chyfathrebu drwy’r celfyddydau.

Rhaglen Allgymorth Deithiol flora: Mae rhaglen ddysgu arddangosfa flora Oriel Davies yn teithio i'r gogledd- orllewin i Benrhyn Ll yn, lle bydd yr artist Jacques Nimki yn gweithio gyda disgyblion ysgolion cynradd sy’n agos at Oriel Plas Glyn y Weddw.

Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Ernest Cook.

P �wer yn y Tir: Mae artistiaid yn archwilio materion a godwyd gan ein hangen am ynni a'i effaith cymhleth ar ein hamgylchedd, drwy waith newydd a wnaed mewn ymateb i gau a dadgomisiynu Wylfa, yr atomfa olaf yng Nghymru. Os hoffech ymweld â’r arddangosfa a chymryd rhan mewn gweithdai creadigol sydd wedi’u teilwra i'ch gr�wp, cysylltwch â’r Swyddog Addysg, Helen Kozich, (ysgolion a cholegau). 01686 625041 [email protected]

Ysgolion a Cholegau

Schools & Colleges

Environs, Oil on BoardJune Forster

Page 10: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

Mae siop Oriel Davies gallery yn cychwyn y Flwyddyn Newydd gydag arddangosfa o emwaith wedi'u gwneud â llaw, a thecstilau cashmir, sidan a gwlân oen hardd, crefft a llestri gwydr o Gymru, cardiau cyfarch, anrhegion unigryw, llyfrau a theganau plant. Y lle perffaith i brynu rhywbeth arbennig!

Mae talebau rhodd ar gael!

Cynllun Casglu Paham na phrynwch chi ddarn o gelfyddyd gyfoes neu grefft drwy’r Cynllun Casglu? Ddechrau’r haf, bydd Oriel Davies yn cymryd rhan mewn gwasanaeth credyd di-log Cyngor Celfyddydau Cymru i’ch helpu i brynu celfyddyd gyfoes a chrefft yng Nghymru.

Collectorplan Why not buy a piece of contemporary art or craft with Collectorplan? Oriel Davies will participate from early summer in Arts Council of Wales’ interest-free credit service to help you buy contemporary art and craft in Wales.

Oriel Davies gallery shop starts the New Year with a showcase of beautiful handmade jewellery, cashmere, silk and lambswool textiles, Welsh craft and glassware, greeting cards, unique gifts, books and children's toys. The perfect place to buy that something special!

Gift tokens are available!

Siop ShopAnrhegion celf a dylunio, deunydd ysgrifennu, gemwaith a chrefftau.

Art and design gifts, stationery, jewellery and craft.

Caffi‘r Oriel Gallery Café

Pop into our friendly gallery café or some delicious home-cooked and seasonal food. Take a seat in our light, bright café with great views. Relish sources ingredients as seasonal as possible from small and local suppliers, and caters for vegetarian, vegan and gluten-free diets. The café is licensed and serves excellent beers, wines and soft drinks. We also serve takeaway meals so you can take your lunch into the park.

Galwch heibio i’n caffi cyfeillgar yn yr oriel i flasu bwydydd cartref blasus ac iachus. Cymrwch sedd yn ein teras naws Canoldirol drws nesaf i’r parc, neu yn ein caffi golau, llachar gyda golygfeydd gwych. Mae Relish yn defnyddio cynhwysion gan gyflenwyr bach sydd mor lleol a thymhorol â phosibl, ac mae’n cynnig dewis o fwydydd llysieuol, fegan a heb glwten. Mae’r caffi wedi’i thrwyddedu ac yn gwerthu cwrw organig gwych, gwinoedd a diodydd meddal. Rydym hefyd yn gwerthu prydau parod, fel y gallwch fynd â’ch cinio i’r parc.

Ar agor / Open: 10am—4pm I gadw lle / Bookings: 01686 622288

Bara C

artref / Hom

emade breads

Salad lleol / Locally-sourced salad

Caw

l cartref / Hom

emade soup

Cacennau / C

akes / Te / Tea C

offi Barista / B

arista Coffee

Diodydd M

eddal Organig / O

rganic Soft D

rinks Falafel / Falafel / Tapas / Tapas Tatw

s trwy’u crw

yn / Jacket Potatoes

Paninis / P

aninis Prydau parod / Take-aw

ay

Ruth Shelley, Glass Design

Rosie Jones, Rheolwr Caffi Relish Cafe Manager

Page 11: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

BusStation

Aberystwth

Y Drenewydd / Newtown

OrielDaviesPark

ShrewsburyA483A489

A489

A489

TownCentre

LudlowLlandrindod Wells

River Severn

orieldavies.org

Dewch i gael eich ysbrydoli yn yr oriel a rhowch naws creadigol i’ch digwyddiad. Mae’r ystafell addysg awyrog a lliwgar yn Oriel Davies ar gael i’w llogi, ac mae’n berffaith ar gyfer amryw o grwpiau cymunedol, gweithdai, sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd. Mae lle i hyd at 40 o bobl yn yr ystafell, sydd â chyfleusterau glân a modern, gwasanaeth arlwyo gwych, staff cyfeillgar a lleoliad canolog yn y Drenewydd, Powys ac yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth ewch i www.orieldavies.org/room-hire neu ffoniwch 01686 625041

Get inspired at the gallery and give your event a creative feel. Perfect for community groups, workshops, training sessions and meetings, the bright airy education room at Oriel Davies is for hire! Accommodating up to 40 people with clean and modern facilities, excellent catering, friendly staff and a central location in Newtown and Powys.

For more information visit www.orieldavies.org/room-hire or give us a call on 01686 625041

Llogi ystafell Room hire

The gallery is next to the bus station and main car park overlooking the town park. From the A489 turn into the town centre at the traffic lights and after 200 metres turn left opposite Argos. The gallery is a five-minute walk from Newtown train station and situated on cycle route 81.

Opening times: Monday —Saturday 10am–5pm (including bank holidays), closed on Sundays. Free admission Accessibility: Oriel Davies welcomes all and is fully accessible by wheelchair. For a large print version of this programme text please telephone 01686 625041

Sut i ddod o hyd i ni How to find us

Mae Cyfeillion Oriel Davies yn grwp ymroddgar o unigolion, sydd yn cefnogi Oriel Davies drwy greu cyswllt cryf rhwng yr oriel a’i chynulleidfaoedd, a threfnu tripiau a gweithgareddau cymdeithasol sy’n ymwneud â chelf. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf i ymuno â’r grwp. £14 yw’r gost aelodaeth flynyddol, £6 i fyfyrwyr a £22 am aelodaeth ddwbl. Gallwch ddod o hyd i restr o fanteision ar ein gwefan, ac mae croeso i chi ein ffonio neu anfon e-bost atom gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am ymuno ar 01686 625041 / [email protected]

The Friends of Oriel Davies are an active group of individuals, dedicated to supporting Oriel Davies and creating a strong link between the gallery and its audiences. Friends are drawn from the general public and anyone with an interest in art is welcome to join. Annual membership costs £14 or £6 for a student and £22 for a double membership. You can find a list of benefits on our website and please don’t hesitate to give us a call or email with your questions about joining on 01686 625041 / [email protected]

Cyfeillion Friends

Mae’r Oriel drws nesaf i’r orsaf fws a’r prif faes parcio sy’n edrych dros barc y dref. O’r A489, trowch i mewn i ganol y dref wrth y goleuadau traffig ac ar ôl 200 metr, trowch i’r chwith gyferbyn â Argos. Mae’r oriel bum munud ar droed o orsaf drên y Drenewydd ac ar lwybr beicio 81.

Amseroedd agor: Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am–5pm (yn cynnwys gwyliau’r banc), ar gau ar ddydd Sul. Mynediad am ddim

Hygyrchedd: Mae Oriel Davies yn croesawu pawb ac yn hollol hygyrch i gadeiriau olwyn. Os hoffech fersiwn print bras o destun y rhaglen hon, ffoniwch 01686 625041

Page 12: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

Hoffai Oriel Davies ddiolch i’r sefydliadau canlynol am eu cefnogaeth hael: Cyngor Celfyddydau Cymru; Elusen Gwendoline a Margaret Davies; Cyngor Sir Powys; Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston; Llenyddiaeth Cymru; Ernest Cook Trust. Gyda diolch arbennig i Gyfeillion Oriel Davies am eu cefnogaeth gryf o’r oriel a’i rhaglenni.

Oriel Davies warmly thanks the following organisations for their generous support: Arts Council of Wales; the Gwendoline and Margaret Davies Charity; Powys County Council; Colwinston Charitable Trust; Literature Wales; Ernest Cook Trust. With special thanks to the Friends of Oriel Davies for their strong support of the gallery and the Artists’ Talks Series.

Diolch Thanks

Rhif Elusen / Reg. charity no. 1034890

Front cover image: Wylfa power station line diagram Design: heightstudio.com

Page 13: Oriel Davies Gallery What's On Spring 2016

Mynediad am ddim Free admisssion

@orieldavies orieldaviesorieldavies

Oriel Caffi Siop GalleryCafe Shop

Oriel Davies Y Parc / The Park Y Drenewydd / Newtown Powys SY16 2NZ

01686 625041 [email protected] www.orieldavies.org