Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Cychwynnwyd y prosiect yn rhan o strategaeth wreiddiol y
cwmni i wella'r Adran Ddylunio'n sylweddol drwy
ddatblygu a rhoi proses ddylunio ar waith, o'r syniad
cychwynnol i'r cynhyrchu. Ond gan fod creu dyluniad
manwl â llaw yn cynnwys dros 70 o gamau, roedd troi'r
dyluniadau'n gynnyrch yn cymryd llawer o amser.
Ymunodd GL Jones Playgrounds â Chanolfan Arloesi
Menai, sy'n rhan o Grŵp Llandrillo Menai, a'r gweithiwr
cyswllt, Joseph Ankers, er mwyn llunio a rhoi proses
ddatblygu newydd ar waith, gan ddefnyddio'r
meddalwedd diweddaraf ym maes Dylunio gyda Chymorth
Cyfrifiadur i sicrhau bod y broses ddylunio mor effeithlon
ac awtoma�g â phosib.
Y Prif Lwyddiannau
Cynnydd o 20% mewn cynhyrchiant
Cynnydd o 7% yn eu cyfran o'r farchnad ar adeg pan oedd y farchnad yn edwino
Sicrhau contractau newydd, proffidiol i allforio'n fyd‐eang
Datblygu a chyflwyno cyfres newydd o gyfarpar Ability ar gyfer parciau chwarae
Cynnydd o £183k mewn elw
Enillydd Partneriaeth KTP Orau Cymru yn 2013
Y Bartneriaeth Orau o blith y Goreuon yn y Deyrnas Unedig ‐ cymeradwyaeth uchel
Gradd 'A' (Eithriadol) am y prosiect
"Llwyddodd y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) gyda Choleg Menai y tu hwnt i'n disgwyliadau. Sicrhau
proses ddi‐dor, o'r dylunio i'r cynhyrchu, fu'r cam pwysicaf yn natblygiad GL Jones Playgrounds hyd yn hyn."
Hefin Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr GL Jones Playgrounds Ltd
Ar lefel bersonol, mae Joseph wedi cael profiad a hyfforddiant amhrisiadwy drwy gydol y prosiect dwy flynedd. Mae ei allu i arwain wedi gwella'n sylweddol ac mae wedi ysgogi newid diwylliant mewn busnes teuluol drwy drosglwyddo'r wybodaeth y gwnaeth ei meithrin a thrwy herio a galluogi uwch reolwyr i weddnewid y busnes. Bu'n allweddol o ran rhoi newid ar waith, gan sicrhau canlyniadau llawer gwell na'r disgwyl. Oherwydd yr aeddfedrwydd cynyddol hwn, cafodd Joseph ei benodi i swydd uwch gyda'r cwmni ac ef fydd yn goruchwylio'r prosiect KTP nesaf.
Cwmni teuluol a sefydlwyd yn 1978, sy'n cyflogi 13 ac sydd â'i ganolfan ym Methesda,
Gwynedd, yw GL Jones Playgrounds. Mae GL Jones ar flaen y gad o ran dylunio a chynhyrchu
offer arloesol o safon uchel ar gyfer parciau chwarae. Mae bellach yn arwain yn y farchnad ac
wedi ennill nifer o wobrau am ragoriaeth ac arloesedd technegol, gan gynnwys gwobr o fri gan
y BHTA am ddylunio cynnyrch newydd, sef yr 'AbilityWhirl'. Mae'r llwyfan hwn sy'n troi a
throi'n rhan o'u cyfarpar cynhwysol ar gyfer parciau chwarae. Galluoga defnyddwyr cadeiriau
olwyn a phlant ag anghenion arbennig i chwarae ochr yn ochr â phlant abl mewn llefydd
agored, heb oruchwyliaeth.
O'r chwith i'r dde: Ken Skates, Linda Wyn, Joseph Ankers, Aaron Jones a Gareth Hughes. Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Orau Cymru 2013
Y Gweithiwr Cyswllt
Astudiaeth Achos ‐ GL Jones Playgrounds
Partneriaeth TrosglwyddoGwybodaeth
Darparodd Canolfan Arloesi Menai, sy'n rhan o Grŵp Llandrillo Menai, wybodaeth arbenigol am y datblygiadau diweddaraf ym maes technoleg dylunio. Yn dilyn llwyddiant y prosiect hwn, llwyddwyd i sicrhau ail brosiect KTP. Golyga hyn y gall staff ehangu eu gwybodaeth a'u profiad o ddefnyddio meddalwedd dylunio gyda chymorth cyfrifiadur. Golyga hefyd y caiff myfyrwyr elwa o lwyddiant y prosiect yn sgil y deunydd cwricwlaidd, sy'n rhoi pwyslais mawr ar ddylunio cynaliadwy ac ar gylchred oes cynnyrch, a grëwyd ym maes dylunio cynnyrch.
"Mae'r Prosiect KTP wedi chwarae rhan allweddol o ran datblygu gallu'r coleg i drosglwyddo gwybodaeth. Yn sgil gweithio gyda GL Jones Playgrounds, cafodd y staff gyfleoedd i roi eu gwybodaeth academaidd ar waith yn llawn." Dafydd Evans, Pennaeth Coleg Menai
Y Prif Lwyddiannau:
Datblygu strategaeth trosglwyddo gwybodaeth o ganlyniad uniongyrchol i'r prosiect KTP
Sefydlodd y coleg isadeiledd i gynyddu ei ddarpariaeth KTP
Sicrhawyd tri phrosiect KTP arall
Deunyddiau addysgu newydd
Cyfleoedd i ddatblygu staff
"Mae'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth wedi bod yn fodd i mi gael profiad amhrisiadwy a chyfleoedd gwych i ddatblygu gyrfa. Yn ogystal â chaniatáu i mi ddatblygu fel Rheolwr, mae rheoli'r prosiect hwn wedi rhoi i mi'r profiad yr oedd arnaf ei angen i ychwanegu gwerth at ddatblygiadau sydd gan gwmnïau yn yr arfaeth”
Joseph Ankers, Gweithiwr Cyswllt KTP
Y Prif Lwyddiannau:
Hyfforddiant a datblygiad personol
Profiad o reoli
Datblygu nwyddau newydd ar gyfer y farchnad
Swydd uwch gyda'r cwmni
Gwell ymwybyddiaeth o faterion masnachol
Y Gweithiwr Cyswllt
Y Partner Academaidd
Y Prif Fanteision
I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, ewch i www.ktp.innovateuk.org neu anfonwch neges e‐bost i [email protected]
Nod Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yw bod o fudd i bawb sy'n gysyll�edig â hwy
Bydd busnesau'n elwa o wybodaeth ac arbenigedd newydd
Caiff gweithwyr cyswllt KTP brofiad mewn busnes a chyfleoedd i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol
Bydd prifysgolion, colegau neu sefydliadau ymchwil yn rhoi o'u profiad er mwyn gwneud eu hymchwil a'u haddysgu'n fwy perthnasol i fusnesau
Partneriaeth TrosglwyddoGwybodaeth