Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
ad
oly
gia
d b
lyn
yd
do
l
2012-1
3
Rydym yn
hafaldros adferiad
meddwl difrifol
for recovery
from serious
mental illness
o afiechyd
Penblwydd Hapus Hafal!
Ar Ebrill 1af, 2013, roedd Hafal wedi dathlu ei ben-blwydd yn swyddogol
yn ddeng mlwydd oed. Ac am ddegawd! Mae’r elusen nid yn unig wedi tyfu
ac ehangu ei gwasanaethau yn sylweddol, (gweler y tudalennau nesaf)
ond mae ein hymgyrchoedd wedi sicrhau fod y bobl hynny yng Nghymru
sydd yn derbyn gwasanaethau arbenigol ar gyfer afiechyd meddwl – tua
40,000 ohonynt, yn ogystal â’r 1,200 a mwy o gleientiaid a gofalwyr yr
ydym yn eu cefnogi’n ddyddiol – nawr â’r hawl gyfreithiol i dderbyn Cynllun
Gofal a Thriniaeth holistaidd. Pwy fyddai wedi rhagweld hyn ddeng
mlynedd yn ôl?
Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, sefydlon ni ein gwasanaethau arloesol,
seiliedig ar adferiad, sydd yn grymuso cleifion a gofalwyr i gymryd
rheolaeth o’u bywydau. Dangoson ni hefyd sut y gall elusen sydd yn cael
ei harwain gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr fod yn fudiad
deinamig ac effeithiol heb ei ail.
Er yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni, nid yw 2012-13 wedi bod
yn llai arloesol na’r blynyddoedd cynt: agorodd ein canolfan adferiad
newydd, Tŷ Adferiad, yng Ngogledd Cymru; derbynion ni gyllid i ddatblygu
uned newydd, blaengar ar gyfer cleifion mewnol ac mae’n canllaw newydd
ar gyfer Cynllunio Gofal a Thriniaeth wedi cyrraedd cynulleidfa o 33,000!
Dyma ddisgwyl ymlaen at y ddegawd nesaf – gadewch i ni weithio gyda’n
gilydd er sicrhau ei bod yn ysbrydoli fel y gwnaeth y ddegawd gyntaf.
Elin Jones, Cadeirydd
Ael
odae
th
ServicesRydym wedi tyfu!
Yn y ddeng mlynedd ddiwethaf, rydym wedi ehangu ein
gwasanaethau ar draws Cymru ac wedi tyfu’n gryfach gydag
Aelodaeth gynyddol.
Incw
m
Staff
2003:
81
2003-4:
£2.9
miliwn
2012-13:
£5.2
miliwn2013:
11102003:
535
2013:
200
UCHAFBWYNT O 2012-13: Yn Ionawr 2012, dyfarnwyd cyllid i Hafal i ddatblygu Canolfan Adferiad flaengar newydd sydd yn cynnig cymorth a thriniaeth i
gleifion mewnol sydd ag afiechyd meddwl difrifol. Bydd y ganoflan newydd, sydd i’w
harwain gan gleifion, yn darparu gwasanaeth i gleientiaid sydd yn uchelgieisol ac yn
gosod safonau newydd o ran mabwysiadu arferion gorau yng Nghymru. Gwyliwch y
gofod hwn!
Ym 2013, rydym yn cynnal 75 o wasanaethau ar draws y 22 sir
yng Nghymru.
Yn y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae ein gwasanaeth cyffredinol i gleientiaid ar draws Cymru
wedi tyfu’n sylweddol fel ein bod yn cefnogi 1,650 o bobl ag afiechyd meddwl difrifol a
1,600 o ofalwyr erbyn hyn. Yn ystod 2003-2013, rydym wedi datblygu nifer o wasanaethau
lleol a chenedlaethol blaengar sydd yn hyrwyddo adferiad. Mae’r rhain yn cynnwys:
■ gwasanaethau sydd yn ffocysu ar adferiad ym mhob sir yng Nghymru sydd yn ymgysylltu
cleientiaid gyda’n Rhaglen Adferiad unigryw ac yn grymuso hwy i ysgrifennu eu cynlluniau
gofal holistaidd eu hunain
■ gwasanaethau tai sydd yn ffocysu ar adferiad ac yn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i
symud ymlaen ac ail-integreiddio i mewn i’w cymunedau
■ gwasanaethau i ofalwyr ym mhob un sir
■ nifer o brosiectau cyflogaeth – gan gynnwys y fenter genedlaethol Camau Byr a ariennir
gan y Loteri Fawr – sydd yn cefnogi cannoedd o gleientiaid i ddychwelyd i’r gwaith a mynd i
fyd addysg
■ gwasanaethau cyfiawnder troseddol sydd yn torri tir newydd drwy ddarparu gwasanaethau
amserol ac sy’n ffocysu ar adferiad i bobl sy’n agored i niwed
■ canolfan adferiad newydd unigryw, Tŷ Adferiad, sydd yn rhoi’r cyfle i gleientiaid i edrych yn
wrthrychol ar eu cynlluniau gofal a chymryd rhan mewn gweithgareddau sydd yn ysgogi
megis caiacio, canŵio a threcio.
Am fwy o wybodaeth ar ein gwasanaethau arloesol yn y 22 sir, ewch i: www.hafal.org
UCHAFBWYNTO 2012-13:Ym 2012, dyfarnwyd
cytundeb gwerth
£640,000 i ni
ddarparu
gwasanaeth tai yn
Sir Ddinbych mewn
partneriaeth â
Chymdeithas Tai
Clwyd Alyn dros
gyfnod o bum
mlynedd. Bydd y
prosiect arloesol
hwn yn cefnogi pobl
ddigartref hirdymor
sydd ag afiechyd
meddwl.
Ymgyrchu Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae Aelodau Hafal wedi profi i fod yn dipyn o rym
ymgyrchu. Dyma sut yr aeth y cynllunio gofal “person cyfan” o fod yn ddull arloesol a luniwyd
gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr Hafal i fod yn rhywbeth sydd nawr yn rhan o
ddeddfwriaeth a pholisi...
1
3
4
5
6
7
2
2004: Hafal yn lansio ei Rhaglen Adferiad unigryw a blaengar yn seiliedig ar brofiad cannoedd o ddefnyddwyr
gwasanaeth a gofalwyr; cafodd ei selio ar gynllun adferiad a oedd yn hyrwyddo’r dull “person cyfan” ac yn cynnwys yr
wyth agwedd allweddol o fywyd.
2006: Cyhoeddwyd “CPA: Arweiniad i Ddefnyddwyr” Hafal. Roedd y canllaw yn amlinellu’r Dull Rhaglen Ofal ac yn rhoi
cyngor allweddol i ddefnyddwyr gwasanaeth ar sut i sicrhau cynllun gofal cynhwysfawr a oedd yn cynnwys yr wyth
agwedd o fywyd. Roedd y canllaw wedi cyrraedd 40,000 o bobl ac yn gyhoeddiad mwyaf poblogaidd Hafal!
2007: Roedd Hafal wedi uno gyda mudiadau eraill er mwyn atal Mesur Iechyd Meddwl nad oedd i’w groesawu ac yna –
wedi diwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl – aeth ati i ymgyrchu’n llwyddiannus o blaid Cod Ymarfer i Gymru a oedd yn
hyrwyddo cynlluniau gofal holistaidd a oedd yn cynnwys yr wyth agwedd o fywyd.
2010: Cymru’n meddu ar gyfraith iechyd meddwl ei hun, “Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)”! Dywedodd Jonathan Morgan
AC a gyflwynodd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol a arweiniodd at y gyfraith fod y dystiolaeth fwyaf pwerus o
blaid diwygio’r drefn wedi dod o ddefnyddiwr gwasanaeth Hafal, Lee McCabe. Yn ogystal ag ymgyrchu’n weithgar o blaid
y gyfraith newydd, roedd Aelodau Hafal wedi rhoi tystiolaeth allweddol yn ystod pob cam o ddatblygu’r gyfraith.
2011: Defnyddwyr gwasanaeth yn ymgyrchu’n llwyddiannus o blaid Cod Ymarfer ar gyfer y Mesur Iechyd Meddwl er
mwyn rhagnodi Cynlluniau Gofal a Thriniaeth sydd yn cynnwys yr wyth agwedd o fywyd. Mae pob defnyddiwr
gwasanaeth eilaidd yng Nghymru nawr yn meddu ar hawl gyfreithiol i dderbyn cynllun gofal safonol, holistaidd!
2012: Hafal yn cyhoeddi canllaw newydd ar gyfer y Cynllun Gofal a Thriniaeth newydd sydd yn cynnwys adrannau
ar bob un o’r wyth agwedd o fywyd ac mae’n cyrraedd 33,000 o ddarllenwyr yn y flwyddyn gyntaf (ac mae’r rhif yn
cynyddu)...
2012: Defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn ymgyrchu o blaid Strategaeth iechyd meddwl bositif (“Law yn Llaw at
Iechyd Meddwl”) sydd yn cefnogi’r Mesur drwy hyrwyddo grymuso’r defnyddiwr a mabwysiadu’r dull “person cyfan”
tuag at gynllunio gofal.
Uchafbwynt o 2012-13: Roedd ein hymgyrch “Symud I
Fyny”, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â’r Sefydliad Iechyd
Meddwl a Bipolar UK, wedi arwain at ein cefnogwyr yn
dringo’r Wyddfa a Phen y Fan er mwyn hyrwyddo
grymuso defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.
Uchafbwynt o 2012-13:
Roedd Seminar arloesol a oedd
yn dwyn y teitl, ‘Dialogue of
Equals’, wedi arwain at bobl sydd
yn defnyddio gwasanaethau yn
gweithio gyda gweithwyr iechyd
meddwl proffesiynol a
chynrychiolwyr y Llywodraeth i
drafod sut i wella gwasanaethau
ac ystyried y cyfleoedd am
adferiad sydd yn cael eu
darparu gan y Strategaeth
Iechyd Meddwl a’r
Mesur Iechyd
Meddwl (Cymru)
newydd.
Mae Hafal yn ddiolchgar i’r cyllidwyr canlynol a wnaeth ein
cefnogi ni yn ystod 2012/13:-
■ Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
■ Bwrdd Iechyd Hywel Dda
■ Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
■ Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg
■ Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
■ Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
■ C3SC
■ Chwaraeon Cymru
■ COASTAL – Sir Benfro
■ Comic Relief
■ Cronfa’r Loteri Fawr
■ Cyngor a Dinas Abertawe
■ Cyngor Bro Morgannwg
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar
Ogwr
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
■ Cyngor Caerdydd
■ Cyngor Dinas Casnewydd
■ Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
■ Cyngor Sir Benfro
■ Cyngor Sir Bwrdeistrefol Rhondda Cynon
Taf
■ Cyngor Sir Ceredigion
■ Cyngor Sir Ddinbych –
Cysylltiadau
Gwaith Newydd
■ Cyngor Sir Gaerfyrddin
■ Cyngor Sir Gwynedd
■ Cyngor Sir Fynwy
■ Cyngor Sir Fflint
■ Cyngor Sir Powys
■ Cyngor Sir Ynys Môn
■ Heddlu De Cymru
■ Ludlow Street Healthcare
■ Llywodraeth Cymru
■ Partnerships in Care
■ Rekindle Home
■ Y Ganolfan Byd Gwaith
■ Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y
Mileniwm
■ Ymddiriedolaeth Gymunedol Zurich
■ Ymddiriedolaeth Lloyds TSB i Loegr a
Chymru
■ Ysbyty Anibynnol Rushcliffe
...ac i’r holl rai hynny a wnaeth
gyfraniadau neu rhoi eu hamser,
diolch i chi!
HafalYstafell C2, Tþ William Knox
Ffordd Britannic
Llandarsi
Castell-nedd SA10 6EL
Ffôn: 01792 816600 Ffacs: 01792
813056 Ebost: [email protected]
Gwe: www.hafal.org
...a chofiwch ein dilyn ni ar
Facebook a Twitter!
Mae Hafal yn elusen gofrestredig,
rhif 1093747, ac yn gwmni cofrestredig,
rhif 4504443.
www.hafal.org