26
BLLDP GWYNEDD a MÔN 2009 Teitl y Protocol Diogelu plant sydd gyda rhiant neu ofalwr sy’n derbyn gwasanaethau oedolion I’w weithredu gan: Gwasanaethau Oedolion a Phlant yn cydweithio gyda BLlDP Gwynedd a Môn, asiantaethau partner a phartneriaethau Gwynedd gyfan Dyddiad y daw i rym: 14/01/2010 Dyddiad Adolygu: Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd - Môn ar Adran Cynnwys Rhif Tudalen 1.0 Canllaw Cyflym - Siart Llif 2 2.0 Canllaw Cyflym – Y Broses 3 3.0 Canllaw Cyflym – Cysylltiadau Defnyddiol 4 4.0 Canllaw Cyflym - Crynodeb o’r Perthnasau gyda Phlant 5 5.0 Cyflwyniad 6 6.0 Materion 6 7.0 Pwrpas y Protocol 6 8.0 Sgôp y Protocol 8 9.0 Egwyddorion y Protocol 9 10.0 Rhannu Gwybodaeth, Caniatâd a Chyfrinachedd 9 11.0 Gofalwyr Ifanc 10 12.0 Rôl y Gwasanaethau Oedolion 10 13.0 Rôl y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd 11 14.0 Y Broses Gydweithio a Gwybodaeth Gyfeirio Hanfodol 11 13 15.0 Plant sy’n Ymweld â Wardiau Seiciatryddol 13 16.0 Diogelwch yn y Gwaith 13 17.0 Goruchwyliaeth 14 18.0 Cyllid 14 19.0 Y Broses Datrys Anghydfod 14 20.0 Anwytho a Datblygu Staff 14 21.0 Adolygu ac Archwilio’r Protocol 14 Atodiad 1 Cyfeiriadau a Llyfryddiaeth Prosiectau Cyfeirio Ymchwil Atodiad 2 Mynegai Termau Tudalen: 1 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010 Dyddiad Adolygu:

Protocol diogelu plant sydd gyda rhiant neu ofalwr sy’n ... · BLLDP GWYNEDD a MÔN 2009 . Teitl y Protocol Diogelu plant sydd gyda rhiant neu ofalwr sy’n derbyn gwasanaethau

Embed Size (px)

Citation preview

BLLDP GWYNEDD a MÔN 2009

Teitl y Protocol

Diogelu plant sydd gyda rhiant neu ofalwr sy’n derbyn gwasanaethau oedolion

I’w weithredu gan:

Gwasanaethau Oedolion a Phlant yn cydweithio gyda BLlDP Gwynedd a Môn, asiantaethau partner a phartneriaethau Gwynedd gyfan

Dyddiad y daw i rym:

14/01/2010 Dyddiad Adolygu:

Cadarnhawyd gan:

BLlDP Gwynedd - Môn ar

Adran Cynnwys Rhif Tudalen

1.0 Canllaw Cyflym - Siart Llif 2 2.0 Canllaw Cyflym – Y Broses 3 3.0 Canllaw Cyflym – Cysylltiadau Defnyddiol 4 4.0 Canllaw Cyflym - Crynodeb o’r Perthnasau gyda Phlant 5 5.0 Cyflwyniad 6 6.0 Materion 6 7.0 Pwrpas y Protocol 6 8.0 Sgôp y Protocol 8 9.0 Egwyddorion y Protocol 9 10.0 Rhannu Gwybodaeth, Caniatâd a Chyfrinachedd 9 11.0 Gofalwyr Ifanc 10 12.0 Rôl y Gwasanaethau Oedolion 10 13.0 Rôl y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd 11 14.0 Y Broses Gydweithio a

Gwybodaeth Gyfeirio Hanfodol 11 13

15.0 Plant sy’n Ymweld â Wardiau Seiciatryddol 13 16.0 Diogelwch yn y Gwaith 13 17.0 Goruchwyliaeth 14 18.0 Cyllid 14 19.0 Y Broses Datrys Anghydfod 14 20.0 Anwytho a Datblygu Staff 14 21.0 Adolygu ac Archwilio’r Protocol 14 Atodiad 1 Cyfeiriadau a Llyfryddiaeth

Prosiectau Cyfeirio Ymchwil

Atodiad 2 Mynegai Termau

Tudalen: 1 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

Siart llif - cyfeiriadau o wasanaethau oedolion i’r gwasanaeth plant

Materion asesiad oedolion

• Oes yno blentyn neu berson ifanc yn y cartref? • Ydi’r rhiant yn analluog i gyflawni eu cyfrifoldebau rhaintu? • Ydi’r plentyn neu berson ifanc yn ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu?

Oes

Oes

Cyfeiriad ‘Diogelwch Plant’ i Gwasanaethau

Cymdeithasol.

Oes yno bryder am niwed arwyddocaol?

Nac Oes

Ydi’n ‘Blentyn mewn angen’?

Ydi Nac Ydi

Oes gennych ganiatâd rhiant i gyfeirio at Gwasanaethau

Cymdeithasol?

Oes Nac Oes

Trafod gyda Rheolwr Tîm

Cyfeiriad ‘plentyn mewn angen’ i’r Gwasanaethau

Cymdeithasol.

Canfod caniatâd y rhiant

Ia Na

*Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at Ganllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan*

Tudalen: 2 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

2.0 Y broses

Mae pob ymarferwr gwasanaeth oedolion, os bydd ganddo reswm dilys i amau fod plentyn neu berson ifanc mewn angen ac yn dioddef niwed sylweddol, neu mewn risg, bob amser yn rhannu eu pryderon yn uniongyrchol â Gwasanaethau Plant, Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’n ymarfer da i ymarferwyr geisio trafod unrhyw bryderon gyda’r teulu, a lle bo’n bosibl, gweithio mewn partneriaeth â rhieni / gofalwyr a chael eu caniatâd i rannu gwybodaeth. Ni ddylid gwneud hyn os bydd trafodaethau o’r fath a derbyn y fath gytundeb yn rhoi’r plentyn mewn mwy o risg o ddioddef niwed sylweddol. Yn ogystal, bydd yr ymarferwyr yn gwirio cofnodion yr AGC er mwyn cadarnhau a yw’r teulu yn adnabyddus iddynt ai peidio ac os yw’r plentyn / person ifanc ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ai peidio.

Dylai’r sawl sy’n cyfeirio, cyn gwneud y cyfeiriad, roi gymaint o wybodaeth â phosibl (gweler 4.0) i gyfeirio. Er hynny, ni ddylai bylchau mewn gwybodaeth hanfodol beri i’r cyfeiriad gael ei oedi.

2.1 Plant mewn Angen Os asesir nad yw'r plentyn yn dioddef niwed sylweddol, mae'n rhaid cael caniatâd y rhieni i rannu gwybodaeth. Dylid trafod hyn gyda’r rhieni gan bwysleisio’r cymorth a’r gefnogaeth a ellir ei gael i’r teulu o ganlyniad i rannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill. Yn ogystal, mae’n rhaid cadarnhau fod y plentyn/plant yn cyfarfod â’r meini prawf cymhwysedd i dderbyn gwasanaeth yr awdurdod lleol.

2.2 Amddiffyn Plant Pan fo gan ymarferwr le rhesymol i amau y gall plentyn neu berson ifanc fod yn dioddef niwed sylweddol neu mewn risg, mae’n rhaid gwneud cyfeiriad i’r Gwasanaethau Plant, AGC. Mewn achosion amddiffyn plant, angen y plentyn am ddiogelwch yw'r pennaf bwys. Dylid hysbysu’r rhieni o flaen llaw fod gwybodaeth am gael ei rhannu os na fydd datgelu hyn i’r rhieni yn debygol o ychwanegu at y risg. Er hynny, nid oes angen caniatâd gan y rheini i rannu gwybodaeth. Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd yn bosibl cael caniatâd neu efallai na ddymunir cael caniatâd, ond bydd diogelwch y plentyn neu’r person ifanc o’r pennaf bwys ac felly mae’n ofynnol rhannu’r wybodaeth.

Dylai ymarferwyr / rheolwyr gwasanaeth oedolion egluro hyn wrth y rhieni fel rhan o’u contract gweithredol , fel bod y rhieni / gofalwyr yn deall yn iawn na ellir cadw’r wybodaeth sy'n ymwneud â diogelwch ac amddiffyn y plentyn yn gyfrinachol. Cynnwys hyn wybodaeth am weithrediad yr oedolion os yw’n cael effaith ar y plentyn neu’r person ifanc.

Rhaid i bob cyfeiriad cychwynnol, naill ai Plant Mewn Angen neu Amddiffyn Plant, gynnwys cyfeiriad at yr holl blant/pobl ifanc sy'n byw yn y cyfeiriad, naill ai’n barhaol neu dros dro. (Noder fod y Teclyn Asesu Unedig yn cynnwys y nodwedd hon). Cadarnheir y bydd y cyfrifoldeb am reoli achos bob plentyn ac/ neu oedolyn yn aros gyda’r gweithiwr allweddol perthnasol.

Yn ogystal, bydd ymarferwyr yn hysbysu eu rheolwr llinell am unrhyw faterion yn ymwneud ag amddiffyn plant ac/ neu os oes ganddynt 'unrhyw amheuaeth’.

Tudalen: 3 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

3.0 Cysylltiadau defnyddiol

Tîm Allan o Oriau Gwynedd ac Ynys Môn

Ffôn: 01286 675502 Llun - Gwener 17:00-09:00 Penwythnosau 17:00 Dydd Gwener - 09:00 Dydd Llun a Gwyliau’r Banc Gwynedd Môn Tîm Cyfeiriadau Plant, Gwasanaethau Cymdeithasol

Ffôn: 01758 704455 Diben y gwasanaeth yw derbyn cyfeiriadau ac ymholiadau ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i’r holl blant / pobl ifanc sy’n byw yng Ngwynedd.

Tîm Asesu Plant Uwch Swyddog ar Ddyletswydd

01248 752733 neu 752722 Diben y gwasanaeth yw derbyn cyfeiriadau ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i’r holl blant / pobl ifanc sy’n byw yn Ynys Môn.

4.0 Gwasanaethau oedolion: crynodeb o’r perthnasau gyda phlant / pobl ifanc Tudalen: 4 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

-------------------------------------------------------------------------------------------------------

(nid yw hon yn daflen gyfeirio ond yn hytrach, templed yw hi er mwyn cyfrifo anghenion yr holl blant)

Staff:………………………………………………Gwasanaeth ……………….. Enw’r Oedolyn ………………………………… Dyddiad Geni ......................

Enw(au)’r Plentyn (Plant) / PI .....................perthynas yr Oedolyn i’r plentyn / pi …………………………………….dg/…/…/……………………….……………. …………………………………….dg/…/…/…………………………………….. …………………………………….dg/…/…/…………………………………….. …………………………………….dg/…/…/……………………………………..

Oes unrhyw Blentyn / PI yn adnabyddus (ydyw/nac ydyw) neu wedi bod yn adnabyddus i’r AGC? (ydyw / nac ydyw) Dyfyniad o’r Grynodeb (o ffeil) Asesiad yr Oedolyn:

RHESTRWCH: (i) effaith yr asesiad oedolyn ar y plentyn/person ifanc (ii) effaith ymddygiad/ anghenion y plentyn/person ifanc ar yr oedolyn a aseswyd

RHESTRWCH y gwasanaethau presennol a roddir i ddiwallu Anghenion a Aseswyd:

Asesiad Cychwynnol (rhowch ar y continwwm) ----angen brys-------angen sylweddol-------------pryder-------------yn ymdopi------- (ymateb: os oes angen brys – gofyn am gyfarfod strategol AP (nid oes yn rhaid cael hawl gan y rhieni) os yw’r angen yn sylweddol neu lai: hawl rhiant: ei geisio: ei gytuno: a’i arwyddo)

Trafodwyd (os yn berthnasol) â’r: 1. Rheolwr Llinell ……..…................................(dyddiad) Swyddog ar Ddyletswydd AGC – Gwasanaethau Plant …………......................................................(dyddiad) 2. Y cyngor a roddwyd yn dilyn y drafodaeth: 3. Beth a wnaed:

Rheolwr Llinell ………………………………........................................(arwyddwyd)……………(dyddiad)

5. Cyflwyniad

Tudalen: 5 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

Mae ystod eang o wasanaethau a phobl broffesiynol yn darparu cefnogaeth i deuluoedd sy’n magu plant ... Ni ellir darparu a chynnal deilliannau gwell i blant oni bai pan fo gweithwyr a chyrff allweddol yn cydweithio...Bydd gan bob asiantaeth wahanol gyfraniad i’w wneud tuag at ddiogelu a hyrwyddo lles plant (1)

Mae’r datganiad hwn yn wir ar gyfer gwasanaethau oedolion a gwasanaethau plant fel ei gilydd. Yn ogystal, cydnabyddir fod camdriniaeth yn y cartref, allgau cymdeithasol, salwch meddwl oedolion, camddefnyddio sylweddau ac anableddau dysgu’r rhieni yn cael effaith sylweddol ar les plant a phobl ifanc.

6. Materion

“…amcangyfrifwyd fod nifer y plant a allai fod yn agored i effaith camddefnyddio cyffuriau yn y DU rhwng 250,000 a 350,000,tra bod bron i ddwy filiwn o blant yn cael eu heffeithio gan ‘yfed niweidiol’ eu rhieni (3)

6.1 Mae bod yn rhiant gydag anableddau neu dan ddylanwad camddefnyddio sylweddau ac / neu afiechyd meddwl yn heriol iawn. Mae’r mwyafrif yn ymwybodol fod camddefnyddio sylweddau, afiechyd meddwl neu gamdriniaeth yn y cartref yn effeithio ar eu plant. Mae pob plentyn, a phobl ifanc, hyd yn oed plant ifanc iawn, yn sensitif i'w hamgylchedd. Mae cyflwr meddwl eu rhieni yn cael effaith arnynt. Yn y cyd-destun hwn, mae pob plentyn a pherson ifanc yn fregus oherwydd dylanwad diffyg diddordeb eu rhieni ac oherwydd ffactorau eilaidd, megis incwm isel, tai gwael, perthnasau bregus a rhagfarn gymdeithasol.

6.2 Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gael asesu eu hanghenion, derbyn y gwasanaethau priodol ac i gael eu clywed, er mwyn lleihau’r ffactorau risg a hyrwyddo’r ffactorau amddiffynnol. Felly, gellir galluogi plant i gyflawni eu potensial a datblygu’n hyderus i fod yn oedolion.

6.3 Dylai teuluoedd sydd angen gwasanaethau gan y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaethau Oedolion gael sicrwydd y byddant yn derbyn cefnogaeth ddi-dor ac integredig.

7 Pwrpas y protocol

7.1 Mae’r protocol hwn yn gosod fframwaith er mwyn diffinio asesiad , cyfeirio a gweithdrefnau cydweithio rhyngasiantaethol sy’n hyrwyddo a diogelu lles plant y gofelir amdanynt gan oedolion sy'n derbyn gwasanaethau oedolion gan gynnwys gwasanaethau anableddau dysgu, anableddau corfforol, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau gan dimau claf-mewnol a/neu dimau cymunedol. Mae’r fframwaith hon yn mynd i’r afael â sialensiau aml asiantaeth ac amlddisgyblaethol. Mae’r protocol hwn yn berthnasol i’r holl staff a rheolwyr, yn ogystal â’r sector gwirfoddol ar bob lefel sy’n darparu gwasanaeth i deuluoedd bregus a sicrhau fod y cyfrifoldeb yn cydymffurfio â deddfwriaeth, canllawiau a Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008 a Gweithdrefnau Amddiffyn Oedolion Bregus Gogledd Cymru.

7.2 Fframwaith Polisi a Deddfwriaeth • Deddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004

Tudalen: 6 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

• Deddf Plant 1989 a 2004 • Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 • Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol • Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008 • Diogelu Plant, LlCC 2006 • Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog, 2003 • Deddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990 • Deddf Galluedd Meddyliol 2005 • Deddf Iechyd Meddwl 2007 • Deddf Hawliau Dynol 1998

7.3 Mae’r protocol hwn yn gweithredu fel protocol trosolwg, er hynny, mae angen darllen y protocolau arbenigol a ganlyn ochr yn ochr â’r protocol hwn:

Iechyd Meddwl a chamddefnyddio sylweddau

• Protocol Aml asiantaeth Gogledd Cymru. Rhieni sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a/neu sy’n camddefnyddio sylweddau: Fframwaith ar gyfer diogelu plant. 2009.

• Gweithdrefn yn ymwneud â phlant yn mynychu Eiddo’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl fel ymwelwyr. (HT20) 31 Ionawr 2007. Cyfarwyddiaeth Gwasanaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu.

• Tŷ Llewellyn North Forensic Psychiatric Service Patients Visitors Policy (FS40)

Anableddau Dysgu Anableddau Corfforol Gofalwyr Ifanc Camdriniaeth yn y Cartref

Protocol for Safeguarding Children and Young People Affected by Domestic Abuse – Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan .

CAMHS: Dogfen Trosglwyddo (Robert Evans) Gwahaniaethau Proffesiynol

Datrys Problemau Proffesiynol. 2002. Fforwm Amddiffyn Plant Gogledd Cymru

7.4 Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol i sicrhau fod anghenion rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc yn cael eu cyfarfod yw’r dull holistig sy’n cynnwys yr holl deulu (gweler 23.2). Gyda’r dull gweithredu hwn, gellir cyflawni’r deilliannau i weithio gyda’r teulu drwy gydweithio rhyngasiantaethol effeithiol a chydweithio hyblyg ar draws gwasanaethau a ffiniau.

7.5 Amcanion y protocol yw sicrhau: 7.5.1 Diogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc (gan gynnwys gofalwyr ifanc) lle mae eu bywydau wedi cael eu heffeithio gan rieni/gofalwyr gydag anableddau, camddefnyddio cyffuriau/alcohol ac / neu anghenion iechyd meddwl. 7.5.2 Darparu fframwaith asesu ar gyfer oedolion sy’n camddefnyddio sylweddau neu sydd gydag anghenion iechyd meddwl ac oedolion gydag anableddau sydd hefyd yn rhieni. Mae’r fframwaith hon yn mynd i’r afael â’u hanghenion hwy a rhai eu plant mewn ffordd sydd yn:

o Ystyried anghenion, goblygiadau, ac effaith ar blant neu bobl ifanc, ac

Tudalen: 7 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

sy’n ymwybodol o arwyddion cam-drin neu esgeuluso ac sy’n monitro unrhyw rhiantu gwan.

o Adnabod anghenion yr oedolion fel defnyddwyr gwasanaeth ac fel rhieni. o Sicrhau fod materion yn ymwneud â diogelu plant ac oedolion bregus yn

cael eu blaenoriaethu a bydd oedolion bregus a all fod mewn risg yn cael eu hamddiffyn.

o Cydnabod a deall effaith camddefnyddio sylweddau, anghenion iechyd meddwl ac anghenion anableddau.

o Cefnogi bywyd teuluol a rhiantu cadarnhaol, hawliau oedolion i gyflawni eu rôl a’u cyfrifoldebau rhiantu.

o Hyrwyddo cydweithio a gweithio amlddisgyblaethol ar draws gwasanaethau, ffiniau a sefydliadau

o Darparu gwasanaeth nad yw’n gwahaniaethu nac yn stigmateiddio ac sy’n annog cynhwysiant cymdeithasol ar gyfer holl ddefnyddwyr.

7.5.3 Gwelliant parhaol mewn ymarferion gweithio rhyngasiantaethol ar draws gwasanaethau oedolion a gwasanaethau plant trwy osod y cyfrifoldebau diogelu, y broses gyfeirio, gweithdrefnau asesu a throthwyon a gwasanaethau cefnogol. 7.5.4 Darparu fframwaith sicrwydd ansawdd drwy amlinellu safonau disgwyliedig y gwasanaeth gan bob asiantaeth ac amlinellu’r gweithdrefnau a ddefnyddir i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau a all godi. 7.5.5 Gwella cyfathrebu rhyngasiantaethol, rhannu gwybodaeth a chydweithio drwy ddefnyddio’r protocol hwn.

8 Sgôp y protocol

8.1 Cyhoeddir y Protocol hwn gan BLlDP Gwynedd a Môn ar ran yr holl asiantaethau sy’n bartneriaid ac fe’i darperir er mwyn ei ddefnyddio gan yr holl wasanaethau oedolion a phlant, byddent hwy yn rai statudol, anstatudol, gwirfoddol, y sector annibynnol a gwasanaethau gofal sylfaenol sy’n gweithio gyda rheini/ gofalwyr gydag iechyd meddwl a/neu sy’n camddefnyddio sylweddau a/neu gamdriniaeth yn y cartref a/neu gydag anghenion anableddau dysgu/ corfforol: • Holl staff gwasanaethau plant • Holl staff Gwasanaeth Iechyd Meddwl Ynys Môn • Holl staff Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gwynedd • Holl staff Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Ymddiriedolaeth GIG Gogledd

Orllewin Cymru • Cydlynwyr POVA, Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) a Chyngor Gwynedd • Holl staff nyrsio cymunedol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru • Holl staff sydd wedi’u lleoli mewn ysbytai • Heddlu Gogledd Cymru a Thimau Gwarchod y Cyhoedd • Holl wasanaethau oedolion CSYM a Chyngor Gwynedd • Holl staff Adran Tai CSYM a Chyngor Gwynedd, staff Cymdeithasau Tai • Holl staff a gwirfoddolwyr Gwasanaethau Prawf Gogledd Cymru, Gorwel,

CAMHS, CAFCASS, CYMRU

8.2 Disgwylir i’r holl ymarferwyr/ rheolwyr uchod ddefnyddio’r protocol hwn pan fônt yn dod i gyswllt â : • Unrhyw rieni neu ofalwyr sy’n fregus sydd â phlant neu bobl ifanc • Rhieni sydd ag anableddau dysgu

Tudalen: 8 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

• Pob oedolyn sydd ag anableddau, ac anghenion camddefnyddio sylweddau neu anghenion iechyd meddwl ac sy’n gofalu am blant neu bobl ifanc, neu sydd â chyswllt sylweddol â hwy,

• Plentyn neu berson ifanc lle bo’i fywyd yn cael ei effeithio gan riant neu ofalwr gydag anableddau, neu sy’n camddefnyddio sylweddau ac /neu alcohol neu gydag anghenion iechyd meddwl,

• Plant ag anableddau, gofalwyr ifanc a phobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BEM). Mae’r protocol hwn yn berthnasol ym mhob achlysur, waeth beth fo tras, rhyw, oed, iaith, cyfeiriadedd rhywiol, dosbarth cymdeithasol, diwylliant a chredoau neu anabledd y rhai sy’n gysylltiedig.

9. Egwyddorion y protocol 1. Mae anghenion a diogelwch y plentyn neu’r person ifanc yn holl bwysig 2. Lle bynnag bo’n bosibl, mae anghenion plant yn cael eu cyfarfod orau o fewn eu

teuluoedd eu hunain 3. Mae gan yr holl staff a’r gwirfoddolwyr cysylltiedig gyfrifoldebau am ddiogelwch a

lles plant a phobl ifanc 4. Mae gan rieni sy’n camddefnyddio sylweddau ac yn dioddef salwch meddwl yr

hawl i dderbyn cefnogaeth ac sy’n galluogi iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau rhiantu.

5. Mae gan blant a phobl ifanc hawl i dderbyn gwasanaethau sy’n hyrwyddo’u lles corfforol a meddyliol a’u datblygiad, fel y gallant gyflawni eu potensial

6. Mae lles plant, pobl ifanc, gofalwyr a’u teuluoedd yn cael ei gyflawni orau gan ddull gweithredu aml asiantaeth wrth i’r gwasanaethau weithio’n effeithiol gyda’i gilydd.

7. Gellir lleihau’r ffactorau risg a hyrwyddo’r ffactorau amddiffynnol pan fo gwybodaeth yn cael ei rhannu’n amserol.

10 Rhannu gwybodaeth, caniatâd a chyfrinachedd

10.1 Elfen hanfodol mewn cydweithio rhyngasiantaethol llwyddiannus yw rhannu gwybodaeth mewn da bryd er mwyn caniatáu i’r bobl broffesiynol gwblhau eu dyletswyddau statudol a gwneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig ar wybodaeth gywir a’r un ddiweddaraf.

10.2 Mae’r egwyddorion sylfaenol sy’n gyffredin i bawb yn cynnwys yr hyn a ganlyn: • Ni rennir gwybodaeth ond pan fo’n seiliedig ar ‘yr angen i gael gwybod’ yn unig,

pan fo hynny er pennaf lLes y defnyddiwr (defnyddwyr) gwasanaeth • Dylid derbyn caniatâd gwybodus, ond os na fydd hynny’n bosibl, a bod oedolion /

plant eraill bregus mewn risg, efallai y bydd yn rhaid diystyru’r gofyniad • Mae hawl dan y ddeddf i ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol sy’n angenrheidiol er

mwyn diogelu plentyn (plant) neu bobl ifanc er budd cyhoeddus, hynny yw, gall y budd cyhoeddus i amddiffyn plant oresgyn y budd cyhoeddus mewn cadw cyfrinachedd. Anaml y bydd y ddeddf yn rhwystr i ddatgelu gwybodaeth. Wrth ddatgelu gwybodaeth bersonol i rai eraill bydd yn rhaid bod yn ymwybodol o gyfraith gyffredin a chyfraith statudol a dylid cael barn gyfreithiol os bydd unrhyw amheuaeth.

10.3 Mae canllaw manwl ar rannu gwybodaeth i’w gael yn: • Diogelu Plant, LlCC, 2006, P14. Rhannu Gwybodaeth tud.295

Tudalen: 9 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

• Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan, 2008. o 1.2.2 Rhannu gwybodaeth gyda theuluoedd o 1.4 Rhannu gwybodaeth ymhlith pobl Broffesiynol

• Noder yn ogystal: o Deddf Diogelu Data 1984 a 1988 o Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, Erthygl 8.

11 Gofalwyr ifanc

Mewn rhai teuluoedd, y plentyn neu’r person ifanc yw’r gofalwr ifanc cydnabyddedig a thybiedig felly yn blentyn mewn angen. Dylent dderbyn yr un hawliau a chefnogaeth ag unrhyw ofalwyr eraill. Mae ganddynt hawl i asesiad o’u hanghenion (cyf. 2.0) Dylent gael eu hysbysu am Brosiectau Gofalwyr Ifanc Môn a Gwynedd, Gweithredu dros Blant.

12 Rôl y gwasanaethau oedolion

12.1 Mae gan Wasanaethau Oedolion sydd â chyfrifoldeb arweiniol i asesu a gweithio gydag oedolion, ddyletswydd i ystyried anghenion unrhyw blant (gan gynnwys plant heb eu geni) sy’n byw yn yr un cartref ac/neu yn eu gofal gan gymryd i ystyriaeth unrhyw gymorth y gallent fod ei angen gyda rhiantu. Mae dyletswydd ar holl staff y gwasanaethau oedolion i hyrwyddo lles plant / pobl ifanc yn ogystal â’u diogelu rhag niwed.

12.2 Mae’r Gwasanaethau Oedolion yn amlddisgyblaethol a byddant yn cwblhau pob asesiadau cychwynnol drwy ddefnyddio’r Teclyn Asesu Unedig neu’r teclyn asesu mwyaf perthnasol. Yng nghamau cyntaf yr asesiad, bydd yr ymarferwr yn nodi anghenion unrhyw blant neu bobl ifanc yn y teulu ac wrth ffurfio unrhyw gynlluniau gofal, byddant yn arfarnu pa mor fregus yw’r oedolyn a’r effaith ar ei allu i fedru gofalu a diogelu ei blant ei hun neu’r rhai sy’n byw yn y cartref.

12.3 Bydd gan holl staff gwasanaethau oedolion sgiliau i asesu ac adnabod anghenion yn ogystal â sgiliau asesu risgiau’r teulu a’r rhwydwaith teuluol ehangach. Bydd yr holl staff yn cynnal eu hymwybyddiaeth barhaus o blant mewn angen a materion yn ymwneud ag amddiffyn plant ac yn cydnabod fod yr hyn a ganlyn ar gael: • teclynnau trothwy a deunyddiau asesu, • llwybrau mynediad cydnabyddedig (gweler y Map Gwasanaeth, tudalen 2) ar gyfer

plant mewn angen a chanllaw amddiffyn plant (gwybodaeth arbenigol neu arbenigedd)

• mynediad at wybodaeth arbenigol gan reolwyr tîm, rheolwr gwasanaethau plant, Cydlynydd Amddiffyn Plant ac /neu Swyddog Adolygu Annibynnol.

13 Rôl y gwasanaethau plant a theuluoedd

13.1 Mae gan holl asiantaethau sy’n gweithio â phlant ddyletswydd i asesu anghenion yr oedolyn (oedolion) sy’n gofalu amdanynt, neu sy’n byw yn yr un cartref, yn enwedig os oes tystiolaeth fod yr oedolyn yn fregus. Bydd staff yn cwblhau asesiad o allu’r oedolion bregus i gyfarfod ag anghenion eu plant (gan gynnwys plant yn y groth), ac i’w diogelu rhag niwed. Bydd yr ymarferwr yn asesu anghenion y plentyn neu’r person ifanc ac yn nodi’r deilliannau dymunol ar gyfer y plentyn ac yn ogystal gallu’r rhiant i ddarparu gofal priodol. Mae dymuniadau a theimladau’r plentyn yn ganolog yn y broses hon. Tudalen: 10 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

13.2 Os yw gweithiwr y plentyn yn bryderus am allu oedolyn i fedru gofalu amdano’i hun neu’r rhai y mae’n gofalu amdanynt, yna mae’n rhaid i’r gweithiwr gysylltu â gwasanaethau eraill all gynnwys, Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau, Anableddau neu Anableddau Dysgu.

14 Y broses gydweithio

Mae pob ymarferwr sy’n gweithio gyda theulu yn rhannu’r cyfrifoldeb i wneud defnydd effeithiol o’u gwybodaeth, a thrwy hynny ddarparu’r safonau gofal gorau ar gyfer y plant a’u teuluoedd. Dylai cydweithio warantu cyd-ddealltwriaeth, asesiad ar gyfer yr holl deulu a chynllunio gofal integredig fydd yn arwain at sicrhau y bydd plant mewn angen neu blant mewn risg yn cael eu hadnabod a’u diogelu (drwy gyfrwng Cynllun Plentyn mewn Angen neu Gynllun Amddiffyn Plant). Bydd asesiadau ar y cyd (drwy ddefnyddio’r Teclyn Trothwy a’r Fframwaith Asesu), cynllunio ar y cyd a chydweithio yn digwydd ym mhob sefyllfa ble bo plant ac oedolion bregus yn y teulu.

O ran Cynlluniau Plant mewn Angen, gall hyn olygu ychydig iawn o gysylltiad neu fewnbwn gan asiantaeth sy’n bartner. Er hynny, mewn Cynllun Amddiffyn Plant, bydd lefel y cysylltiad yn llawer uwch gan yr holl ymarferwyr a chynrychiolwyr yr asiantaethau.

Os bydd pryderon wedi’u nodi am ddiogelwch plentyn neu oedolyn, bydd cyfeiriad yn cael ei gwblhau, fydd yn arwain at drafodaeth strategol ar y dechrau er mwyn rhannu gwybodaeth a gwneud cynlluniau ar frys i asesu a diogelu’r plentyn neu’r oedolyn. Dylai cynrychiolwyr o’r asiantaethau sy’n bartneriaid yn llwyr gynhwysol mewn trafodaethau strategol a chyfarfodydd strategol lle trafodir lles y plentyn neu’r oedolyn.

Os bydd person ifanc yn cael ei baratoi i drosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, bydd Cynllun Trosglwyddo yn ei le ac fe gaiff ei ddiweddaru mewn cyfarfodydd adolygu.

14.1 Y broses (gwelwch baragraff 2 ar dudalen 3).

14.1.1 Unigolion sy’n Gadael Gofal Bydd unigolion o dan 18 mlwydd oed a oedd cynt yn derbyn gofal ac wedi gadael llety neu ofal yn byw mewn amryw o leoliadau llety. Bydd ganddynt Gynllun Llwybr Gofal a byddant yn derbyn cefnogaeth gan y Tîm Ôl –ofal.

Bydd ymarferwyr yn parhau i gael deialog gyson. Bydd cyfrifoldeb am reoli achos pob plentyn ac/neu oedolyn yn cael ei gadarnhau ac yn aros gyda’r gweithiwr (gweithwyr) allweddol perthnasol. Yn ogystal, bydd cadarnhad ysgrifenedig ynglŷn â rolau a chyfrifoldebau gwahanol ymarferwyr amrywiol / rheolwyr/ y sector gwirfoddol; cyfluniad y Cynlluniau Gofal perthnasol, cynllunio ar y cyd a sut y bydd cydlynu effeithiol yn digwydd ac yn cael ei gynnal.

14.2 Dealltwriaeth gyffredinol rhwng y gwasanaethau plant a’r gwasanaethau oedolion Bydd holl weithrediadau’r gwasanaethau oedolion yn tanysgrifennu hawliau’r

Tudalen: 11 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

plentyn/person ifanc, a gall fod yn berthnasol i siarad gyda’r plentyn / berson ifanc.

Bydd staff yr holl Wasanaethau Oedolion bob amser yn gweithio gyda’r rhagdybiaeth eu bod: • yn casglu ac yn cofnodi gwybodaeth sylfaenol ynglŷn â’r plant neu’r bobl

ifanc. • cwblhau cyfrifoldebau’r gwasanaethau oedolion a gwybod pa bryd i wneud

ymholiad diogelu plant a galw am gyngor, canllawiau a chefnogaeth ynglŷn â gofal plant arbenigol

• gwneud defnydd o reolaeth llinell a sesiynau goruchwylio • derbyn cyngor arall cyn cyfeirio ymlaen neu gau, fel bo’r angen • bod yn ymwybodol o’r holl blant /pobl ifanc eraill sy’n byw yn y cyfeiriad a

bod yn ymwybodol o fframwaith asesu holistig, gan gynnwys y rhwydwaith o wasanaethau cyffredinol a ellid fod yn ymwneud â’r plant (e.e. ysgol, ymwelydd iechyd, y nyrs ysgol, y clwb ieuenctid, gofalwyr ifanc)

• cadw materion yn ymwneud ag amddiffyn plant mewn cof yn barhaus a bod yn ymwybodol o’r trothwyon presennol

• mae gan Amddiffyn Plant flaenoriaeth uchel yn y Gwasanaethau Oedolion ac mae’r safbwyntiau, y teclynnau a’r hyfforddiant/ datblygu sgiliau staff yn cychwyn gyda safbwynt y gwasanaeth oedolion sy’n gweithio o fewn gweithdrefnau ac ymarfer Amddiffyn Plant er mwyn mynd i’r afael â’r materion hynny,

• rhaid gwerthfawrogi fod dewis gan yr oedolyn (oedolion) nad ydynt efallai yn rhiant/gofalwr) i beidio datgelu/rhannu gyda staff y gwasanaeth oedolion beth yw ‘cyfansoddiad y teulu’ a pha rôl gofalu sydd ganddynt (neu beidio), ar hyn o bryd neu a fu ganddynt yn y gorffennol

• Mae gweithdrefnau Amddiffyn Plant yn goresgyn ymarfer y gwasanaeth oedolion i ddiogelu cyfrinachedd a hawliau dynol. Pan fo gan y gwasanaethau oedolion ddiddordeb, mae’r penderfyniad ynglŷn â phwy sydd yn hysbysu’r oedolyn am unrhyw fater yn ymwneud ag amddiffyn plant, ac ym mha fodd y’i hysbysir, yn cael ei wneud o ganlyniad i’r Drafodaeth Strategol AP neu’r Cyfarfod Strategol.

14.3 Casglu a rhannu gwybodaeth: Mae dyletswydd statudol ar ymarferwyr i rannu gwybodaeth pan fo pryderon ynglŷn â diogelwch neu les plentyn neu oedolyn bregus. Mae’n hanfodol cael cyfathrebu rhyngasiantaethol effeithiol a chydlynu aml asiantaeth er mwyn rheoli’r gwaith sydd ar y gweill gydag oedolyn bregus, plant a’u teuluoedd. Rhaid i unrhyw wybodaeth newydd neu newid mewn gwybodaeth gael ei rannu o fewn gofynion y canllawiau a’r lefel o risg.

Yn ogystal: • mae cwestiynau sbarduno wedi’u cynnwys o fewn y broses asesu • adnabod a chadarnhau materion allweddol megis: ysgol, gofal/lles, oed • ceisio darganfod os yw’r anghenion yn cael eu cyfarfod neu a oes niwed

potensial • asesiad sylfaenol / cychwynnol er mwyn cadarnhau’r wybodaeth ynglŷn â natur

perthynas y defnyddiwr gwasanaeth oedolion gyda phob plentyn / person ifanc sydd ar hyn o bryd (neu yn y gorffennol):

o yn derbyn gofal Tudalen: 12 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

o yn y cartref yn barhaol neu yn ymweld â’r cartref o yn byw yn agos at yr oedolyn sy’n ddefnyddiwr gwasanaeth

• adnabod gwahanol anghenion y rhai sydd: • Dan 16 mlwydd oed • Rhai sydd gydag • Y rhai sydd rwng 16 a 18 anghenion arbennig

mlwydd oed • Lleiafrifoedd ethnig • Gofalwyr ifanc • Rhieni yn eu harddegau

14.3.1 Oedolion Bregus Gellir a dylid rhannu gwybodaeth am oedolyn bregus mewn risg heb ganiatâd yr oedolyn, os gellir bodloni rhai amodau a bod yr wybodaeth yn cael ei rhannu er mwyn diogelu’r oedolyn neu eraill a all fod mewn risg.

14.4 Tîm Dyletswydd Argyfwng. Rhaid rhybuddio’r tîm argyfwng o unrhyw broblemau posibl neu anawsterau gan ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol.

14.4.1. Gwybodaeth Gyfeirio Hanfodol. Pan mae yno bryder parthed oedolyn bregus dilynwch y broses gyfeirio at y gwasanaeth/au perthnasol. Os gwelwch yn dda cwblhewch y ddogfen berthnasol gyfeirio a gwybodaeth angenrheidiol i wasanaethau plant.

14.5 Gwybodaeth ar gyfer rhieni, pobl ifanc a PHLANT Bydd taflenni hawdd eu defnyddio yn cael eu dosbarthu er mwyn egluro natur y gwasanaeth a natur y cydweithrediad rhwng staff ac asiantaethau er pennaf les y teulu. Bwriedir datblygu a dosbarthu deunyddiau hawdd eu defnyddio.

14.5.1 Gwasanaethau Eirioli Lle bo’n briodol, cynigir gwasanaethau eirioli neu wasanaethau annibynnol ar gael i blant / pobl ifanc, oedolion bregus a theuluoedd.

15 Plant sy’n ymweld â wardiau seiciatryddol

Pan fo plant yn ymweld â rhieni/gofalwyr yn yr ysbyty, rhaid i’r cynllun ystyried os oes goruchwyliaeth ddigonol ar gael a rhaid cwblhau asesiad risg ar ddiwrnod yr ymweliad a dylai’r holl staff fod yn ymwybodol o bolisi’r uned berthnasol. Gweler:

(i) Gweithdrefn yn Ymwneud â Phlant yn Mynychu Eiddo’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl fel Ymwelwyr (HT20) 31 Ionawr 2007. Cyfarwyddiaeth Gwasanaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu,

(ii) Tŷ Llewellyn North Forensic Psychiatric Service Patients Visitors Policy (FS40)

16 Diogelwch yn y gwaith

Bydd staff pob asiantaeth yn ystyried eu diogelwch eu hunain a’u cydweithwyr pan fyddant yn gwneud ymweliad cartref neu yn cwblhau asesiad. Dylai staff gael cyngor gan gydweithwyr a /neu eu Rheolwr Tîm yn ogystal â chadw at bolisïau Iechyd a Diogelwch.

17 Goruchwyliaeth

Tudalen: 13 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

Nodwedd hanfodol o arfer da yw derbyn goruchwyliaeth reolaidd. Dylai staff goruchwylio sy’n gweithio gydag oedolion bob amser ofyn am ofal plant yn y teulu. Dylai’r rhai sy’n goruchwylio achosion gwasanaethau plant bob amser ofyn am gydweithio gydag ymarferwyr oedolion os yw anableddau, camddefnyddio sylweddau, neu faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn cael effaith ar y rhieni. Dylai rheolwyr ystyried trefniadau ar gyfer sesiynau goruchwyliaeth ar y cyd neu mewn grŵp.

18 Cyllid

Rhaid dilyn y gweithdrefnau ariannol priodol ar gyfer pob gwasanaeth. Mewn rhai amgylchiadau, bydd gan un gwasanaeth neu’i gilydd gyfrifoldeb ariannol neu fe ellir cael cytundeb i rannu costau pecyn gofal.

Os oes angen adnoddau ariannol ychwanegol, rhaid ystyried amgylchiadau’r holl deulu a phenderfynu a ddylid gwneud cais am arian Adran 17 (Plant mewn Angen), Deddf Plant 1989.

19 Y broses datrys anghydfod

Os cyfyd anghydfod neu anghytundeb rhwng pobl broffesiynol, cyfeirir y mater at y rheolwyr llinell berthnasol a fydd yn trefnu cyfarfod i gynnwys pawb sy’n gysylltiedig drwy ddefnyddio’r Protocol ar gyfer Datrys Anghydfod Proffesiynol 2002. Fforwm Amddiffyn Plant Gogledd Cymru, er mwyn datrys yr anghydfod yn adeiladol.

20 Anwytho a datblygu staff

Bydd anwytho staff newydd yn cynnwys Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008 a Gweithdrefnau Diogelu Oedolion Bregus Gogledd Cymru.

Cynhwysir hyfforddiant ymwybyddiaeth amddiffyn plant ym mhob sesiwn anwytho staff newydd. Mae’n rhaid i’r holl staff, gan gynnwys y rhai o’r sector gwirfoddol, gwblhau hyfforddiant amddiffyn plant a hyfforddiant POVA a hyfforddiant gloywi fel y cyfarwyddir yn y Cynllun Hyfforddi BLlDP blynyddol ac fel sy’n angenrheidiol gan yr asiantaethau sy’n eu cyflogi. Cynigir hyfforddiant sylfaenol ymwybyddiaeth am anableddau, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau fel y maent yn berthnasol i ddiogelu plant. Mae modd cael mynediad at adnoddau ynghyd ag ystod o hyfforddiant yn ymwneud â diogelu ar gyfer staff gwasanaethau oedolion.

Mae hyfforddiant Amddiffyn Plant wedi’i gynllunio o bersbectif ‘gwasanaethau oedolion’ yn cael ei gydlynu a’i ddarparu ar sail aml asiantaeth, gan gynnwys ymarfer asesiad ar y cyd o’r anghenion. Anogir secondiadau a gwaith prosiect ar y cyd fel arfer da.

21 Adolygu ac archwilio’r protocol

Bydd y protocol yn cael ei adolygu’n flynyddol gan Is-grŵp Gwasanaethau Oedolion, BLlDP drwy ymgynghori â’r holl bartïon sydd â diddordeb, gan gynnwys rhieni a phobl ifanc er mwyn cadarnhau: • beth sydd wedi gweithio a beth sydd heb weithio yn ystod y flwyddyn flaenorol • pa welliannau sydd eu hangen mewn adnoddau a hyfforddiant • cadarnhau’r derminoleg o’r newydd a chytuno ar iaith ‘gyffredin’ er mwyn osgoi

Tudalen: 14 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

diffyg cyfathrebu a chamddealltwriaeth o fewn y gwasanaethau oedolion a rhwng yr holl wasanaethau oedolion a gwasanaethau plant

Cwblheir pob ymchwiliad gyda diweddariad o’r protocol er mwyn ei gyflwyno i’r BLlDP.

Bydd yr Is-grŵp yn datblygu teclynnau datblygu generig y gellir cytuno arnynt gan yr holl wasanaethau oedolion a gwasanaethau plant ac yna gellir eu haddasu yn ôl anghenion penodol y gwasanaeth.

Tudalen: 15 Statws: Terfynnol Dyddiad: 14/01/2010 Protocol Gwasanaethau Oedolion a cyfrifoldebau diogelu Cadarnhawyd gan: BLlDP Gwynedd a Mon

Dyddiad Cadarnhau: 14/01/2010

Dyddiad Adolygu:

ATODIAD 1.

DEUNYDD CEFNOGOL: CYFEIRIADAU A LLYFRYDDIAETH 1. www.anglesey.gov.uk/safeguarding-children-board 2. www.gwynedd.gov.uk/safeguarding-children-board 3. Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004, LlCC

7.39 Gweithio ar draws gwasanaethau oedolion a phlant • Tra’n cydnabod fod diogelwch a lles y plentyn yn brif ystyriaeth, rhoi ystyriaeth

haeddiannol i anghenion pob aelod o’r teulu • Cydnabod rôl gyfatebol gwasanaethau oedolion a phlant mewn iechyd a gofal

cymdeithasol.. Cronni’r arbenigedd er mwyn cryfhau galluoedd rhieni i fedru ymateb i anghenion eu plant os yw hynny er pennaf les y plentyn

• Efallai y bydd pobl broffesiynol sy’n gweithio’n bennaf gyda phlant angen cael hyfforddiant er mwyn cydnabod a nodi problemau’r rhieni a’r effaith y gallent eu cael ar blant. Yn yr un ffordd, dylai hyfforddiant ar gyfer pobl broffesiynol sy’n gweithio gydag oedolion gynnwys effaith y gall problemau’r rhieni eu cael ar blant. Byddai hyfforddiant ar y cyd rhwng staff oedolion a staff plant yn ddefnyddiol.

Gweler yn ogystal adrannau 9.49-9.55, 9.67-9.69, 11

4. Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008 1.3.2 Mae amddiffyn plant unigol rhag niwed sylweddol ynghyd â’r angen ehangach i hyrwyddo lles plant, yn ddibynnol yn y bôn ar rannu gwybodaeth, cydweithio a dealltwriaeth effeithiol rhwng asiantaethau a phobl broffesiynol. 2.1.1 Dylai pob person sydd â chyswllt gyda neu sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd, neu gydag oedolion a allai beri perygl i blant, neu rai sy’n gyfrifol am drefnu gwasanaethau ar gyfer plant ac/neu oedolion, ddarllen...(rhestr o wyth cyfrifoldeb).

5. SCIE Research Briefing 06: Parenting Capacity and Substance Misuse. How

parenting capacity can be affected by parental substance misuse (drugs and / or alcohol) and how this may be managed. Awst 2005 http://www.scie.org.uk/publications/knowledge.asp

6. National Children’s Bureau (2003). Children of Drug-Misusing Parents:

Developing Good Practice in Assessment, Decision-making and Placement. http://www.ncb.org.uk/projects/project_detail.asp?ProjectNo=262

7. Social Care Institute for Excellence (2003) Families that have alcohol and mental health problems: a template for partnership working. SCIE Resource Guides No.1 http://www.scie.org.uk/publications/resourcesguides/rg01.pdf

8. Joint Mental Health and Child Care Protocol: Ymddiriedolaeth Gofal

Cymdeithasol ac Iechyd Meddwl Camden ac Islington ac Adrannau Plant a Theuluoedd Camden ac Islington

9. Gweithdrefnau Diogelu Oedolion Bregus Gogledd Cymru

10. Managing risk and minimising mistakes in services to children and families. Adroddiad 6. Social Care Institute for Excellence. Medi 2005

11. Families that have alcohol and mental health problems: A template for

partnership working, Resource Guide No 1. SCIE. Gorffennaf 2003

12. Alcohol, Drug and Mental Health Problems: working with families. Adroddiad Rhif 2. SCIE, Mehefin 2003

13. Supporting disabled parents and parents with additional support needs. SCIE.

Knowledge Review 11. Tach. 2006

14. Working together to support disabled parents. SCIE Resource Guide 9. Awst 2007

15. Maternal and Paternal Drug Misuse and Outcomes for Children: Identifying Risk

and Protective Factors. www.rip.org.uk DEUNYDD CEFNOGOL : PROSIECTAU CYFEIRIO

• Children’s Society, Nottingham a Birmingham http://www.parentsusingdrugs.org.uk/showPage.php?file=index.htm

• Whole Family Pathway: A Resource for Practitioners Nid teclyn asesu yw hwn, ond yn hytrach map ar gyfer teuluoedd ac asiantaethau er mwyn iddynt ei ddilyn a chael gweld pa ddewisiadau, a pha lwybrau cyfrifoldeb am wasanaethau a allai fod ar gael. www.youngcarer.com/pdfs/Whole%20Family%20Pathway%2010th.pdf DEUNYDDIAU CEFNOGOL: YMCHWIL • SCIE Research Briefing 06: Parenting Capacity and Substance Misuse. How

parenting capacity can be affected by parental substance misuse (drugs and / or alcohol) and how this may be managed. Awst 2005 “It has also been pointed out that factors other than substance misuse may affect the ability of a parent to interact with and support their child, for example, poverty, unemployment and depression, single parenthood, and if the parents themselves experienced poor parenting, abuse or neglect during their own childhood”.

• Child and Family Social Work 11(4) Parental substance misuse and child care social work: findings from the first stage of a study of 100 families. Donald Forrester, Judith Hawin tt. 325-335 “…substance misuse is an extremely common issue within child care social

work……by any measure of vulnerability the children are at high risk: the parents have more difficulties, the families have more social problems and the children are considerably younger than children in other cases…..”

“….the central importance of alcohol misuse…. there was simple more of it…….there was a higher incidence of violence”

• Child and Family Social Work (10) 3. Practice challenges at the intersection of child protection and mental health. Yvonne Darlington, et al, tt. 239-247 “…working at the interface of mental health and child protection services presented

two major sets of challenges:…. those relating to the process of collaboration .…four factors assisted the collaborative process: communication factors, knowledge factors, role clarity and resource factors…those relating to the context of child protection and adult mental health…two types of challenge…….first related to characteristics of mental illness and included the episodic and/or unpredictable nature of mental illness, incorporating information form psychiatric and parenting capacity assessments, and the providing of ongoing support. The second related to difficulties in balancing the conflicting needs of parents and their children.”(tud.246) • Child and Family Social Work (8) 4, Between a rock and a hard place: the role

of relatives in protecting children from the effects of parental drug problems Marina Barnard tt 291-299 “…data indicated a complex and volatile mix of practical and emotional concerns of

relatives over children’s appropriate care and issue of responsibility and obligation to the child. These in turn were overlaid by expressions of anxiety, worry, anger and disappointment over the parent’s drug problem and its profound effect on the family” tud.298 • Child Abuse Review. Tach - Rhag. 2008 The extent and nature of family alcohol

and drug use. Andrew Percy, et al tt. 371-286 “Applying the recommended interpretation of AUDIT (Alcohol Use Disorders

Identification Test) scores, this study estimated that around 15% of teenagers had a parent whose drinking would warrant the provision of advice on the reduction of hazardous drinking…when alcohol and drug use is examined at a family level…..the proportion of families who experience substance use problems is large” • Child Abuse Review. Tach - Rhag 2008. Domestic abuse experienced by

young people living in families with alcohol problems Richard Velleman, et al, tt. 387-409

“Children living in families where one or both parents misuse alcohol face many adversities...in many of these families, children witness significant domestic abuse and interparental violence, and suffer a much greater incidence of physical violence and emotional abuse themselves. ….most young people told us that it was extremely difficult to cope within this environment. This was even more the case for many who felt that they had very little support available to them other than an occasional family member.…..” • Adroddiad Blynyddol AGGCC 2007-08, tud. 42

Mewn ymateb i faterion a nodwyd mewn adolygiadau achosion difrifol diweddar, mae AGGCC ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol a chyrff iechyd adolygu trefniadau ar gyfer diogelu plant mewn gwasanaethau cymdeithasol oedolion. Mae hwn yn berthnasol iawn o ran gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n camddefnyddio alcohol a chyffuriau er mwyn sicrhau fod y trefniadau yn gweithio’n effeithiol.

Astudiaeth Adolygiadau Achos a gyflwynwyd i Lywodraeth Cynulliad Cymru dan Bennod 8, Gweithio gyda’n gilydd er mwyn Diogelu a Hyrwyddo Lles Plant: Canllawiau ar gyfer Gweithio Rhyngasiantaethol a Hyrwyddo Lles Plant

Prifysgol Cymru, Casnewydd. 2007 Yn olaf, yn ei hanfod y themâu mwyaf cyffredin a rannwyd oedd camdriniaeth yn y cartref, materion yn ymwneud ag iechyd meddwl neu iechyd emosiynol y rhiant, troseddolrwydd rhiant, hanes o gam-drin plant neu eu hesgeuluso, cyfathrebu rhyngasiantaethol gwael, methu cadw at y gweithdrefnau, cadw cofnodion annigonol ac asesiad anghenion neu risg gwael. Yn llai cyffredin ond yn themâu sy’n dod i’r amlwg yw problemau cyffuriau ac alcohol y rhieni, hanes o gam-drin neu esgeuluso pan oedd y rhiant yn blentyn, troseddolrwydd plant, ac iechyd meddwl y plentyn. Mae themâu amlwg eraill yn amlygu eu hunain o ran yr asiantaeth neu’r bobl broffesiynol cysylltiedig, yn cynnwys rhoi cyngor gwael neu gyfyngedig, methu casglu’r wybodaeth berthnasol a medru gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol a rhai pobl broffesiynol yn aneglur ynglŷn â’u rôl. Dangosodd y dadansoddiad bod cysylltiadau diddorol rhwng themâu, megis y rhai a amlinellir uchod rhwng iechyd meddwl y rhiant a phroblemau emosiynol yn digwydd mewn llawer o’r achosion lle bu hanes o gam-drin neu esgeuluso.

ATODIAD 2. 26. DEUNYDD CEFNOGOL: MYNEGAI TERMAU

• AWDURDOD DIOGELU ANNIBYNNOL Mae’n angenrheidiol i unigolion sy’n bwriadu gweithio gyda phlant mewn sefyllfaoedd arbennig neu ffyrdd penodol gofrestru gyda’r ADA. Gwnaiff hyn sicrhau nad yw’r person yn cyflwyno elfen o risg i’r plentyn neu wedi ei wahardd rhag gweithio gyda phlant o dan y Cynllun Archwilio a Gwahardd. Mae gan yn awdurdod restr yn nodi pwy sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio a phlant a rhestr arall gydag oedolion bregus.

• CAMDDEFNYDDIO YMDDIRIEDAETH

Sefyllfa lle bo person ifanc dros 18 mlwydd oed â chryn bŵer neu ddylanwad dros berson iau yn y sefydliad ac sy’n cael perthynas rywiol â hwy. Gellir dehongli hyn fel trosedd dan Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygiadau) 2000.

• GWEITHDREFNAU AMDDIFFYN PLANT CYMRU GYFAN Y Gweithdrefnau Amddiffyn (2008) a fabwysiadwyd gan holl Fyrddau Lleol Diogelu Plant

yng Nghymru o 1 Ebrill 2008.

• POBL DDUON A LLEIAFRIFOEDD ETHNIG Pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig • POBL SY’N GADAEL GOFAL

Person ifanc sydd ddim mwyach mewn llety ( ref enghraifft gofal maeth / gofal uned preswyl) neu lle mae’r Gorchymyn Gofal wedi dod i ben.

• GORCHYMYN GOFAL Gwneir Gorchymyn Gofal gan y Llys (dan Adran 31(1)(a) Deddf Plant 1989 ac mae’n rhoi’r plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol, gyda chyfrifoldeb rhiant yn cael ei rannu

rhwng y rhieni a’r awdurdod lleol. Ni ellir gwneud Gorchymyn o’r fath ond os yw’r Llys wedi ei fodloni fod:

• Y plentyn dan sylw yn dioddef, neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol a bod • Y niwed neu debygolrwydd y niwed i’w briodoli naill ai i’r:

o Gofal a roir i’r plentyn, neu sy’n debygol o gael ei roi i’r plentyn pe na fyddai’r gorchymyn yn cael ei roi, ac a fyddai’n rhesymol i’w ddisgwyl i riant ei roi iddo, neu

o Plentyn tu hwnt i reolaeth y rhieni.

• CYNLLUN GOFAL Cynllun sy’n rhoi manylion anghenion yr unigolyn a aseswyd a’r math a lefel y

gwasanaethau angenrheidiol er mwyn cyfarfod â’r anghenion hynny, ynghyd â’r unigolyn sy’n gyfrifol am ddarparu’r hyn a amlinellir yn y cynllun, a’r amcanion a’r deilliannau a ellir eu cyflawni.

• COFNOD ACHOS Y ffeil sy’n cynnwys yr holl gofnodion a deunyddiau ysgrifenedig.

• GORCHYMYN ASESU PLENTYN Gall awdurdod lleol wneud cais i’r Llys am Orchymyn Asesu Plentyn os yw’r rhieni yn gwrthod rhoi mynediad at berson ifanc er mwyn sefydlu’r ffeithiau ynglŷn â chyflwr y person ifanc neu eu plentyn (plant). Nid yw’r Gorchymyn yn diddymu hawliau’r person ifanc ei hun i wrthod cymryd rhan mewn unrhyw asesiad, os ydynt yn ddigon hen ac yn

deall digon. Mae’r Gorchymyn yn para am uchafswm o saith niwrnod a gellir cael cyfarwyddiadau i gael asesiad meddygol.

• PLENTYN / PERSON IFANC

Yng nghyfraith Lloegr a Chymru, ac yn unol â Deddf Plant 1989, diffinnir plentyn neu berson ifanc fel unigolyn dan 18 mlwydd oed, er y gellir cynnwys mewn ysbryd os nad yn gyfreithiol unigolion dros 18 mlwydd oed sy’n fregus oherwydd anabledd dysgu neu anabledd arall. Gellir trefnu llety gwirfoddol A.20 os gwneir cais gan berson ifanc 16 mlwydd oed heb fod angen caniatâd rhiant.

• PLENTYN MEWN ANGEN

Dan A.17 Deddf Plant 1989, ystyrir fod plentyn ‘mewn angen’ os bydd: • Yn annhebygol iddo gyrraedd neu gynnal neu gael y cyfle i gyrraedd neu gynnal

safon iechyd neu ddatblygiad rhesymol, heb fod yr awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau ar ei gyfer.

• Ei iechyd neu’i ddatblygiad yn debygol i gael ei amharu’n sylweddol neu ei amharu ymhellach heb ddarparu'r fath wasanaethau ar ei gyfer

• Mae’r plentyn gydag anabledd

• CYDLYNYDD AMDDIFFYN PLANT Un o staff y Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gyfrifol am y Gofrestr Amddiffyn Plant ac sy’n Cadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant a’r ymarfer o amddiffyn plant ar draws a rhwng pob asiantaeth.

• COFRESTR AMDDIFFYN PLANT (CAP)

Mae Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, ar ran y BLlDP, yn cadw Cofrestr AP, sy’n rhestru’r holl blant a phobl ifanc yn y sir a aseswyd gan y Gynhadledd Achos eu bod yn dioddef, neu’n debygol o ddioddef, niwed sylweddol a’r rhai sydd gyda Chynllun AP, gweithiwr allweddol a Grŵp Craidd ar eu cyfer.

• ASESIAD CRAIDD Rhaid cwblhau’r Asesiad Craidd o fewn 35 niwrnod gwaith o’r amser y cychwynnwyd yr Asesiad Cychwynnol ac mae’n asesiad cynhwysfawr sy’n mynd i’r afael ag agweddau canolog neu fwyaf pwysig o anghenion y person ifanc a galluoedd ei rieni neu ofalwyr i ymateb yn briodol i’r anghenion hynny o fewn cyd-destun y teulu estynedig a’r gymuned. Gweler Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a’u Teuluoedd, LlCC 2001

• GWASANAETH ERLYN Y GORON

• GWIRIADAU CRB Gwiriadau a wneir yng nghyfrifiadur cenedlaethol yr Heddlu a chofnodion a gedwir gan asiantaethau ynglŷn â phobl a ystyrir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant a phobl ifanc.

• AGGCC Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru CAMDRINIAETH YN Y CARTREF

Term a ddefnyddir i gyfeirio at sbectrwm o gam-drin

• TÎM DYLETSWYDD ARGYFWNG Y Gwasanaeth a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod gyda’r nos,

penwythnosau a gwyliau.

• GORCHYMYN DIOGELU BRYS Gall y Llys wneud gorchymyn diogelu brys dan Ddeddf Plant 1989 os yw wedi’i fodloni

fod achos rhesymol i gredu fod plentyn yn debygol o ddioddef niwed sylweddol ac yn rhoi hawl i symud y plentyn neu i rwystro symud y plentyn a diogelir y plentyn gan yr ymgeisydd (fel arfer Adran Gwasanaethau Cymdeithasol) am gyfnod cychwynnol o wyth niwrnod. Gellir ymestyn y gorchymyn unwaith. Rhennir y cyfrifoldeb rhiant a gellir cael cyfarwyddiadau i dderbyn asesiadau meddygol ac asesiadau eraill.

• FFRAMWAITH AR GYFER ASESU

O fewn 35 diwrnod gwaith o ddechrau’r Asesiad Cychwynnol, dylai’r Gwasanaethau Cymdeithasol fod wedi cwblhau asesiad craidd ynglŷn â’r person ifanc sydd wedi ei roi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Hwn yw’r fframwaith strwythurol ar gyfer casglu, rhoi at ei gilydd a dadansoddi'r wybodaeth sydd ar gael am y person ifanc a’r teulu. Gweler Fframwaith ar gyfer Asesu Plant mewn Angen a’u Teuluoedd. LlCC 2001

• NIWED Cam-drin neu amharu ar iechyd neu ddatblygiad, gan gynnwys, er enghraifft, amhariad a

ddioddefwyd drwy weld neu glywed eraill yn cael eu cam-drin. • SYSTEM INTEGREDIG AR GYFER PLANT

• YMWELYDD ANNIBYNNOL

Mae’r Awdurdod Lleol yn medru penodi ymwelydd annibynnol ar gyfer y plentyn, os nad yw’r plentyn neu’r person ifanc hwnnw wedi aros gyda, neu gael ymweliad gan riant neu unigolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant o fewn cyfnod o ddeuddeg mis.

• RHANNU GWYBODAETH Am ganllawiau manwl gweler Pennod 14 ‘Rhannu Gwybodaeth’ Diogelu Plant: gweithio

gyda’n gilydd o dan Ddeddf Plant 2004. LlCC 2006,

• ASESIAD CYCHWYNNOL Mae asesiad cychwynnol yn asesiad cryno o’r person ifanc neu eu plentyn (plant) a gyfeiriwyd at y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn penderfynu ‘os yw’r plentyn mewn angen, natur unrhyw wasanaethau sydd eu hangen ac a ddylid cwblhau Asesiad Craidd mwy manwl’. Dylid cwblhau’r Asesiad ar y mwyaf o fewn saith niwrnod gwaith o ddyddiad derbyn y cyfeiriad.

• IN LOCO PARENTIS Cyfeiria hyn yn benodol at yr unigolyn sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am blentyn yn

absenoldeb rhiant(rhieni)’r plentyn, neu ofalwyr arferol – fel arfer pennaeth yr ysgol yn ystod oriau ysgol neu pan fo trip ysgol.

• GORCHYMYN GOFAL INTERIM

Gwneir Gorchymyn Gofal Interim ac fe’i hadnewyddir yn gyfnodol hyd nes y bydd y Llys yn ystyried cais am Orchymyn Gofal Terfynol. Rhennir y cyfrifoldeb rhiant a bydd y Llys yn rhoi nifer o gyfarwyddiadau er mwyn casglu tystiolaeth ac asesiadau a fydd yn ei gynorthwyo’r i wneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â’r deilliant i’r plentyn/ person ifanc. Fel arfer, gwneir cais am y gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol ond weithiau gall y Llys wneud cais os oes pryderon ynglŷn â sefyllfa gartref y plentyn/person ifanc a ddaw i’w sylw.

• GWEITHIWR CYSWLLT

Bydd pob cartref preswyl â gweithiwr cyswllt dynodedig sy’n gyfrifol am hyrwyddo iechyd a chynnydd addysgol plant sy’n derbyn gofal ac sy’n cysylltu â gweithwyr proffesiynol allweddol.

• BLlDP – BWRDD LLEOL DIOGELU PLANT: GWYNEDD A MÔN Mae’r aelodaeth yn cynnwys asiantaethau statudol a gwirfoddol er mwyn sicrhau

cydweithio effeithiol mewn amddiffyn a diogelu plant drwy gyfrwng Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008, Gweithdrefnau Gogledd Cymru a Phrotocolau Cymru Gyfan. Maent yn cyfarfod yn chwarterol ac mae’r Bwrdd yn sicrhau cydweithio aml asiantaeth a chydlynu holl faterion yn ymwneud â diogelu.

• TREFNIADAU AML ASIANTAETH AR GYFER DIOGELU’R CYHOEDD (MAPPA) Gofynion statudol yr heddlu, gwasanaeth prawf a’r gwasanaeth carchar i :

Sefydlu trefniadau ar gyfer asesu a rheoli’r risg sy’n cael ei beri gan droseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar,

Adolygu a monitro’r trefniadau ac fel rhan o’r trefniadau hynny:- Paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar eu gwaith

• CYNHADLEDD ASESU RISG AML ASIANTAETH (MARAC)

Mae MARAC yn gynhadledd aml asiantaeth ffurfiol a ddefnyddir er mwyn rheoli’r broses asesu risg mewn achosion lle’r adroddwyd bod neu gallai fod risg uchel o gamdriniaeth yn y cartref. Ym mhob cyfarfod rhoddir manylion y cofnodion a’r cynlluniau gweithredu rheoli a gytunwyd ac fe’u dosberthir i’r holl rai sy’n bresennol er mwyn sicrhau fod y rhai sy’n gysylltiedig yn deall y cyfraniad y disgwylir iddynt ei wneud. Yn arferol, cynhelir cyfarfodydd MARAC unwaith y mis.

• DEDDF GALLUEDD MEDDYLIOL 2005 Mae Deddf Gallu Meddyliol 2005 yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gweithredu a

gwneud penderfyniadau ar ran unigolion sydd heb allu meddyliol i wneud rhai penderfyniadau drostynt eu hun. Os yw rhywun yn gweithio gydag oedolyn a allai fod heb allu i wneud penderfyniadau penodol, neu’n gofalu amdano, rhaid iddo gydymffurfio a’r Ddeddf hon wrth wneud penderfyniadau neu weithredu ar ran y person hwnnw, pan fydd y person heb allu i wneud penderfyniad penodol drosto’i hun. Mae’r rheolau’n gymwys pa un a yw’r penderfyniadau’n ymwneud a digwyddiadau tyngedfennol neu faterion pob dydd.

• ESGEULUSO

Esgeuluso plentyn yn barhaus neu’n ddifrifol, neu fethu amddiffyn plentyn rhag bod yn agored i unrhyw fath o berygl, gan gynnwys oerfel, newyn neu fethiant difrifol i gwblhau agweddau pwysig gofal gan beri amhariad sylweddol ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn gan gynnwys diffyg ffyniant anorganig.

• EGWYDDOR YSTYRIAETH BENNAF

Yn deillio o Ddeddf Plant 1989, sy’n datgan mai lles y plentyn neu’r person ifanc yw’r ystyriaeth gyntaf a’r ystyriaeth bennaf ym mhob dim sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc.

• RHIANT A GOFALWYR

Rhieni naturiol a rhieni mabwysiedig ac eraill arwyddocaol sydd â gofal a rheolaeth o blant o ddydd i ddydd, dan orchymyn llys neu drwy gytundeb.

• CYFRIFOLDEB RHIANT

Dyletswydd gadarnhaol i ddarparu gofal ariannol, ymarferol, ac emosiynol sy’n briodol i’r plentyn o ran ei anghenion, ei oed a’i ddatblygiad. Gellir rhannu’r cyfrifoldeb ond ni ellir rhoi gorau i’r hawl unwaith y bydd wedi’i dderbyn heb gael gorchymyn llys.

• CYNLLUN LLWYBR GOFAL Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar drefniadau ar gyfer trosglwyddiad llwyddiannus person

ifanc sy’n gadael gofal i fod yn annibynnol, gan gynnwys rhoi sylw i’r angen am gefnogaeth wrth iddo gymryd cyfrifoldeb.

• CYNLLUN ADDYSG BERSONOL (PEP) Mae’r PEP yn rhan integrol o’r Cynllun Gofal / Cynllun Llwybr Gofal. Mae’n ofynnol i Awdurdodau Lleol dan Ddeddf Gofal 2004, sicrhau fod pob plentyn yn eu

gofal gyda PEP ymhen 20 diwrnod ysgol ar ôl cael eu derbyn i ofal neu ymuno ag ysgol newydd. Rhaid i blant sy’n gadael gofal ac sy’n cael eu cefnogi mewn addysg bellach/ uwch dan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) gael PEP a dylai hwnnw ffurfio rhan o’u Cynllun Llwybr Gofal.

• DEDDF AMDDIFFYN PLANT 1999

Yn rhestru pobl sy’n anaddas i weithio gyda phlant mewn sefydliadau sy’n darparu gofal plant.

• PWERAU AMDDIFFYN PLANT YR HEDDLU (PPP) Dan A46 Deddf Plant 1989, os bydd swyddog yr heddlu gydag achos rhesymol i gredu y

gallai plentyn fod mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol, yna gall yr heddwas symud y plentyn i lety addas neu wneud i’r plentyn / person ifanc aros lle y mae a chael ei amddiffyn gan yr heddlu am ddim mwy na 72 awr.

• POVA Amddiffyn Oedolion Bregus. Gweler Gweithdrefnau POVA Gogledd Cymru

• MAETHU PREIFAT

Mae gofal maethu preifat yn disgrifio’r sefyllfa lle bo plentyn neu berson ifanc hyd at 16 mlwydd oed (neu 18 mlwydd oed os yw’r plentyn gydag anableddau ac yn byw gydag oedolyn nad yw’n rhiant neu’n berthynas), am 28 niwrnod neu ragor drwy drefniadau preifat (h.y. trefniadau heb eu gwneud gan awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol gyda gofalwyr maeth a gymeradwywyd). Rhaid gwneud ymweliad bob chwe mis yn y flwyddyn gyntaf a phob 12 wythnos wedi hynny.

• AMLINELLIAD O’R GYFRAITH GYHOEDDUS (PLO) Mae’r Amlinelliad o’r Gyfraith Gyhoeddus yn disodli’r Protocol ar gyfer Rheoli Achos

Barnwrol o fis Ebrill 2008. Bwriad yr Amlinelliad o’r Gyfraith Gyhoeddus yw lleihau oedi dianghenraid ac fe’i ffurfiwyd er mwyn hyrwyddo gwell cydweithrediad rhwng yr holl bartïon sy’n gysylltiedig ag achosion gofal a goruchwylio.

• GORCHYMYN PRESWYLIO

Gorchymyn sy’n “settling the arrangements to be made as to the person with whom a child is to live”. Mae A.8(1) yn rhoddi hawl rhiant a gall hynny fod ar y cyd rhwng rhieni sydd wedi gwahanu.

• GOFAL YSBAID

Mae’r AA wedi trefnu y bydd y plentyn yn derbyn gofal neu ddarparu llety ar ei gyfer am gyfres o gyfnodau byr yn yr un lle ac mae’r trefniadau yn caniatáu cyfnod heb fod yn hwy na phedair wythnos ac ni fydd cyfanswm yr arhosiad yn fwy na 120 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.

• AWDURDOD CYFRIFOL Yr awdurdod lleol sy’n lleoli’r plentyn neu’r person ifanc. • ASESIAD RISG

Adnabod y gweithgareddau hynny sy’n peri risg posibl i ddefnyddwyr gwasanaeth, staff neu’r cyhoedd a chytuno ar yr hyn sydd i’w wneud er mwyn dileu, gostwng neu leihau eu heffaith.

• ‘RISG I BLANT’ (TROSEDDWR ATODIAD UN - Deddf Troseddwyr Rhyw, 1997) Unigolyn sydd wedi’i euogfarnu o droseddau rhyw neu droseddau treisgar dan nifer o

wahanol ddeddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Troseddwyr Rhyw 1997.

• DIOGELU Yr hyn a wneir gan y sefydliad er mwyn lleihau’r risg i blant a phobl ifanc a chreu amgylcheddau diogel lle bydd pobl ifanc a’u plentyn (plant) yn medru mwynhau profiadau gwerthfawr ac ysgogol.

• TROSEDDWR ATODIAD 1 (Deddf Troseddwyr Rhyw, 1997) Unigolyn sydd wedi’i euogfarnu o gyflawni troseddau rhyw neu droseddau treisgar dan

wahanol ddeddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Troseddwyr Rhyw 1997 • ADRAN 17 Mae Deddf Plant 1989 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu cefnogaeth a

gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc a phlant mewn angen o fewn eu teuluoedd lle bo’n bosibl.

• ADRAN 47 Mae Deddf Plant 1989 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud ymholiadau mewn

achosion lle bo achos rhesymol i amau fod y plentyn yn dioddef, neu’n debygol o ddioddef niwed sylweddol.

• CYFNODAU BYR Gweler Gofal Ysbaid • NIWED SYLWEDDOL Cyflwynodd Adran 31(10) Deddf Plant 1989 y cysyniad o niwed sylweddol fel y trothwy

sy’n cyfiawnhau ymyrraeth mewn bywyd teuluol er pennaf les y person ifanc neu’r plentyn, ac mae’r ddeddf yn datgan, “where the question of whether harm suffered by a child is significant turns on the child’s health or development, his health or development

shall be compared with that which could be reasonably be expected of a similar child”

Mae ’Niwed’ yn golygu cam-drin neu amharu ar iechyd neu ddatblygiad. Golyga ‘Datblygiad’ ddatblygiad corfforol, deallusol, emosiynol neu ymddygiadol. Golyga ‘Iechyd’ iechyd corfforol neu feddyliol. Golyga ‘Cam-drin’ gamdriniaeth rywiol a mathau o gam-drin nad yw’n cam-drin corfforol.

• GORCHYMYN RHWYSTRO TROSEDDAU RHYWIOL (SOPO)

• GORCHYMYN GORUCHWYLIO

Gorchymyn dan A31(1)(b) ac yn cynnwys, heblaw lle gwneir darpariaeth wahanol, Gorchymyn Goruchwylio Interim dan A38. Mae’n rhoi ymrwymiad ar y gofalwr i gydweithredu â’r Awdurdod Lleol sydd heb gyfrifoldeb rhiant am y plentyn. Gall y Gorchymyn barhau am 12 mis i ddechrau ond gellir ei ymestyn.

. • YMDDIRIED

“A relationship of trust is defined as any in which a person has power or influence over and/or is in a position to confer advancement or failure. A sexual relationship is deemed to be intrinsically unequal with such a relationship of trust and is therefore judged as unacceptable, even where the young person or participants is above the legal age of consent.” Brackenridge, CH and Fasting, K. 1999

• ViSOR Cofrestr Troseddwyr Rhyw neu droseddwyr treisgar • OEDOLYN BREGUS

Golyga ‘Oedolyn Bregus’ unrhyw unigolyn 18 mlwydd oed a throsodd sydd, neu a allai fod, angen gwasanaethau gofal cymunedol oherwydd anabledd meddyliol neu anabledd arall, ei oed neu waeledd ac oherwydd hynny, sy’n methu gofalu amdano’i hun nac amddiffyn ei hun yn erbyn niwed sylweddol neu ecsploetiaeth ddifrifol. Yng nghyd-destun ‘oedolyn bregus’, diffinnir ‘niwed’ fel camdriniaeth (gan gynnwys camdriniaeth rywiol a dulliau cam-drin nad yw’n cam-drin corfforol), amharu ar, neu rwystro dirywiad mewn iechyd corfforol neu feddyliol ac amharu ar ddatblygiadau corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol. Gweler Polisïau a Gweithdrefnau Gogledd Cymru ar gyfer Ymateb i Oedolion Bregus yr Honnir eu bod wedi’u Cam-drin neu a Gadarnhawyd eu bod wedi’u Cam-drin.

• LLES Nid oes diffiniad statudol. Cyflwynodd Deddf Plant 1989 restr wirio lles y dylai Llys roi

sylw iddi mewn rhai amgylchiadau. Datgan Deddf Plant 1989 “The Court shall have regard in particular to the following checklist: o the ascertainable wishes and feelings of the child concerned (considered in the light

of his age and understanding) o his physical, emotional and educational needs o the likely effect on him of any change in his circumstances o his age, sex, background and any characteristics of his which the Court consider

relevant o any harm which he has suffered or is at risk of suffering o how capable each of his parents and any other person in relation to whom the Court

considers the question to be relevant, is of meeting his needs o the range of powers available to the Court under this Act in the proceedings in

question”

• RHESTR WIRIO LLES Pan fo Llys yn gwneud penderfyniad, rhaid iddo gymryd i ystyriaeth y materion a

gynhwysir yn y rhestr wirio o ran lles y plentyn neu’r person ifanc. • DYMUNIADAU A THEIMLADAU

Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau o ran plentyn y maent yn gofalu amdano neu’n bwriadu gofalu amdano, bydd awdurdod lleol yn ceisio darganfod beth yw dymuniadau a theimladau’r plentyn. RHAID i’r Awdurdod Lleol ddarganfod beth yw dymuniadau a theimladau unrhyw bobl bwysig eraill ym mywyd y person ifanc, gan gynnwys:

• y rhieni • unrhyw unigolyn, heblaw’r rhieni, sydd â chyfrifoldeb rhiant • unrhyw unigolyn mae’r awdurdod yn ystyried fod ei ddymuniadau a’i deimladau

yn berthnasol

Wrth wneud penderfyniad o’r fath, rhaid i’r awdurdod lleol roi ystyriaeth ddyledus i: • ddymuniadau a theimladau’r plentyn neu’r person ifanc, gan ystyried ei oed a’i

ddealltwriaeth • dymuniadau a theimladau unrhyw unigolyn a grybwyllir uchod a • crefydd, tarddiad ethnig a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.