16
Rhifyn 51 Gaeaf 2005 Am ddim/Free CYD Cyhoeddir 15,000 o Cadwyn Cyd ddwywaith y flwyddyn. Cyfle gwych i hysbysebu. T he ma g a z i n e fo r We l s h s pea ke r s a nd l e a r n er s Y cy l c h g rawn i s i a r a dwy r a dys g wy r y Gy mr a e g www.cyd.org.uk 3 dosbarth: agored dysgwyr timau o ddau (siaradwr rhugl + dysgwr) Rowndiau lleol yn dechrau 2 Mawrth 2006 Rowndiau terfynol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a’r Cylch Am fwy o fanylion ac i gofrestru i gymryd rhan cysylltwch â: [email protected] 01970 622143 Trefnir gan Cyd mewn cydweithrediad a’n partneriaid Cystadleuaeth Scrabble Cymraeg 2006 Dewch i Gystadlu meddai Dilwyn Iwan a Nia Gwobr 1af £200 Diolch i Mattel Inc. a Leisure Trends am eu caniatâd i gynnal y gystadleuaeth Dysgwyr ar S4C www.learnons4c.co.uk Fideo, sain, cefndir, hanes, mynegi barn, rhaglenni ar S4C. Pob lefel 24/7. Cadwyn_51 25/11/05 11:07 am Page 1

Rhifyn 51 Gaeaf 2005 Am ddim/Free - Cydcyd.org.uk/uploads/cadwyn51.pdfgweithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar werthusiad o waith Cyd: y gobaith yw y bydd argymhellion yn dod ... the

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • R h i f y n 5 1 G a e a f 2 0 0 5 A m d d i m / F r e e

    C Y D

    Cyhoeddir 15,000 o CadwynCyd ddwywaith y flwyddyn.

    Cyfle gwych i hysbysebu.

    The magazin

    e for Welsh spe

    akers andlearners

    Y cylchgraw

    n i siaradwyr a

    dysgwyry Gymraeg

    w w w . c y d . o r g . u k

    3 dosbarth:

    agoreddysgwyr timau o ddau (siaradwr rhugl + dysgwr)

    Rowndiau lleol yn dechrau 2 Mawrth 2006

    Rowndiau terfynol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a’r Cylch

    Am fwy o fanylion ac i gofrestru i gymryd rhan cysylltwch â:

    [email protected] 01970 622143Trefnir gan Cyd mewn cydweithrediad a’n partneriaid

    Cystadleuaeth Scrabble Cymraeg 2006

    D e w c h i G y s t a d l u m e d d a i D i l w y n I w a n a N i a

    Gwobr 1af

    £200

    Diolch i Mattel Inc. a Leisure Trends am eu caniatâd i gynnal y gystadleuaeth

    Dysgwyr ar S4Cwww.learnons4c.co.ukFideo, sain, cefndir,hanes, mynegi barn,rhaglenni ar S4C.Pob lefel 24/7.

    Cadwyn_51 25/11/05 11:07 am Page 1

  • Dyma gyfnod pwysig i Cyd. Mae'r mudiad wedi bod yngweithio i helpu dysgwyr groesi'r bont ers dros chwartercanrif erbyn hyn. Mae gennym dros 80 cangen ledledCymru ond mae miloedd o ddysgwyr a siaradwyr rhugldal heb glywed am y gwaith mae aelodau aswyddogion Cyd yn ei wneud. Ar hyn o bryd rydym yngweithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar werthusiad owaith Cyd: y gobaith yw y bydd argymhellion yn dodallan o'r gwaith i helpu Cyd symud ymlaen ac ehangu'ngwaith drwy Gymru a thu hwnt. Ond i wneud hyn rhaidi ni gael cefnogaeth gan fwy o ddysgwyr a siaradwyrrhugl. Dosberthir 15,000 copi o Cadwyn am ddim, ond

    mae’r rhan fwyaf yn mynd at bobl nad yw'n aelodau unigol- ydych CHI'n gefnogwr cenedlaethol eisoes? Os na, betham ymuno nawr? Fe fydd eich tâl aelodaeth yn gyfraniadpwysig at weithgareddau Cyd ond, pwysicach fyth, mae'ndangos cymaint o bobl sy’n rhan o ymgyrch Cyd i hybudyfodol ein hiaith yn ein cymunedau trwy droi dysgwyr ynddefnyddwyr y Gymraeg.

    This is an important period for Cyd. The organisation has beenworking to help learners cross the bridge for over a quarter ofa century. We have over 80 branches throughout Wales butthousands of learners and fluent speakers are still unaware ofthe work that the members and staff do. At the moment weare working with the Welsh Language Board on an evaluationof Cyd’s work: the hope is that recommendations will comeout of the work that will help Cyd move forward and extendthe work we do throughout Wales and beyond. But to do thiswe need the support of more learners and fluent speakers.15,000 copies of Cadwyn are distributed free, but the majoritygo to people who are not individual members - are YOU anational supporter already? If not, how about joining now?Your membership fee will be an important contribution toCyd's activities, but even more important, it shows how manypeople are part of Cyd's campaign to promote the future ofour language in our communities through turning learners intousers of the language.

    Nigel A Callaghan

    Llywydd AnrhydeddusYr Athro Bobi Jones

    CadeiryddNigel CallaghanIs-GadeiryddFelicity RobertsYsgrifennydd CofnodionDewi Huw OwenTrysoryddLisa HillCadeirydd yr Is-Bwyllgor Marchnata a ChyhoeddiMeleri Wyn JamesGohebydd Cronfa Dan Lynn JamesEmyr-Wyn Francis

    Rheolwr y GogleddDororthy Williams 01766 771684 [email protected] Canolog/MaesJaci Taylor 01970 622143 e-bost: [email protected] y DeMartin Davies 01554 776587 e-bost: [email protected]

    Swyddogion Datblygu CydGwynedd a Môn Elfyn Morris Williams 01286 831715Gogledd-ddwyrainRheolwr y Gogledd 01766 771684 [email protected], Powys, MeirionnyddRheolwr Canolog/Maes 01970 622143 [email protected] Gaerfyrddin a Chwm TaweDafydd Gwylon 01834 813249 [email protected] BenfroRheolwr y De 01554 776587 e-bost: [email protected] James 01685 871002 [email protected] CymruPadi Phillips 02920 312293 [email protected]

    Swyddfa Cyd Office10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2 AUFfôn/Ffacs: 01970 622143e-bost: [email protected] y we: www.cyd.org.uk

    Mae Cadwyn Cyd yn ymddangos dwy waith y flwyddynDyddiadau cyhoeddi 2006: Mehefin, Tachwedd

    Mae Cyd yn elusen gofrestredig rhif 518371Cefnogir gwaith Cyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg

    Cyhoeddwyd gan/Published by: Cyd, 10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2AU

    Argraffwyd a dyluniwyd gan/Printed and designed by: Cambrian Printers

    2

    Cadwyn_51 25/11/05 11:07 am Page 2

  • Mae Cyd yn falch o longyfarch Sue Massey arennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleniyn Eisteddfod Gendlaethol Cymru Eryri a’rCyffiniau.

    Dyma Jane Davidson Gweinidog dros Addysga Dysgu Gydol Oes yn cyflwyno’r dlws i SueNoson Dysgwr y Flwyddyn

    Llongyfarchiadau hefyd i Gwanwyn Bartlett,Robert Hughes, a Baudewijn Morgan amgyrraedd y rownd derfynol.

    Mae’r 4 yn aelodau Cyd nawr.

    Llinos: Mam, wyt ti eisiau chwarae ‘Dewis Anifail’?

    Mam: Ydw, dw i wedi dewis anifail.Llinos: Ydy e’n byw ar y fferm?Mam: Nac ydy.Llinos: Ydy e’n byw yn y s˘?Mam: Ydy.Llinos: Ydy e’n fwy na sebra?Mam: Ydy.Llinos: Ydy e’n llwyd?Mam: Ydy.Llinos: Dw i’n gwybod – eliffant yw e!Mam: Ie, da iawn Llinos.Llinos: Mam.....wyt ti eisiau chwarae

    eto?Mam: Aaaaaaaa!

    3

    Sue Massey, Meleri Williams- Swyddog Dysgwyr 2005,Baudewijn Morgan, Elwyn Hughes – CadeiryddPwyllgor Dysgwyr 2005, Robert Hughes

    Hazel a L l inos yn chwarae gêm

    Cadwyn_51 25/11/05 11:08 am Page 3

  • Ysgol Undydd Derby Medi 2005

    Roedd dros 40 o bobl wedi cymryd rhan (taken part) ynYsgol Undydd Derby eleni. Dyma ni yn yr haul amsercinio a Jaci wedi dod yr holl ffordd (all the way) oAberystwyth i dynnu ein llun. Roedd pobl o bobman -dysgwyr a Chymry Cymraeg o Derby, Chesterfield,Nottingham, Belper, Sheffield, a Burton-on-Trent

    Diolch i Jonathan Simcock, Tony Rees, Ellen Hutchings,Delyth Neil, Susan Jones o Gangen Cyd Matlock a’rCylch, ynghyd â Chylch Siarad Cymraeg Derby, a GwynDavies a Viv Harris o Gymdeithas Cymry Nottingham aChymdeithas Addysg y Gweithwyr Derby (WEA) amdrefnu Ysgol Undydd mor llwyddiannus.

    wnewch chi roi’r wybodaeth i ni! Cysylltwch â JonathanSimcock, Golygydd Llais Y Derwent: 01773 827513

    Welsh Learners who live in Derby have published a localnewspaper in Welsh for learners who live in England. Llais yDerwent gives learners a chance to practise their writing skillsand enables them to contact other learners. If you know of anyWelsh classes or individuals who are learning Welsh inEngland please pass information on to Jonathan Simcock (withindividuals’ consent of course) .

    D e r b y

    1. Dyma Marilyn Simcock o Derby, a Helen o Sheffield yn cael hwyl (having fun) wrth olchi’r llestri! 2. Mam a mab yn dysgu siarad Cymraeg gyda’i gilydd

    4

    L la is Y DerwentYn ôl ym mis Ionawr eleni gwnaeth gr˘p o bobl sy wedi dysguCymraeg yn Derby, benderfynu dechrau cyhoeddi Papur Brouniaith Gymraeg ar gyfer Dysgwyr Cymraeg yngNghanolbarth Lloegr. Ar hyn o bryd dan ni'n casglu'r erthyglauam y 4ydd rhifyn, sef Gaeaf 2005. Dan ni’n bwriadu cyhoeddiLlais Y Derwent bedair gwaith y flwyddyn. Hyd yn hyn mae’na bobl o Derby, Matlock, Nottingham, Bradford, Belper aChymru sy wedi ysgrifennu erthyglau i’r "Llais". Ymhlith ybobl sy wedi cyfrannu mae ’na nifer o ddysgwyr a ChymryCymraeg.Hefyd, dan ni wedi derbyn cymorth ymarferol sylweddol oddiwrth Delyth Neil, sef athrawes dosbarth Cymraeg yn Derby.Diben Llais Y Derwent ydy rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer eusgiliau ysgrifennu, ac i gysylltu â dysgwyr eraill. Hefyd danni’n gobeithio tynnu dysgwyr yr iaith Gymraeg a ChymryCymraeg sy’n byw yr ochr yma i glawdd Offa at ei gilydd ermwyn siarad yr iaith.Dydyn ni ddim yn cynhyrchu nifer fawr o gopïau hyd yn hyn,dim ond cant, ond dan ni’n edrych ymlaen at ddosbarthucopïau i bob dosbarth yr iaith Gymraeg yn Lloegr. Felly os oesgwybodaeth gyda chi ynglfln â dosbarthiadau Cymraeg neuunigolion sy’n dysgu Cymraeg yn unrhyw rhanbarth yn Lloegr

    1 2

    Tony Rees a Jonathan Simcock

    Cadwyn_51 25/11/05 11:08 am Page 4

  • 5

    Helo, shwmae! Nia Parry dw i. Dych chi’n meddwl,pwy ydy Nia Parry?! Arhoswch funud! Dyma dipyn o fyhanes i!Dwi’n cyflwyno rhaglenni Cymraeg ar S4C. Dych chiwedi fy ngweld i ar raglenni i ddysgwyr ‘Cariad@iaith’a ‘Welsh in a Week’, efallai. Ro’n i’n dysgu Cymraeg iJanet Street Porter ar Cariad@iaith. Mae rhai pobl yndweud, “Mae Janet yn arswydus!” Doedd hi ddim yncodi ofn arna i!Roedd gen i fywyd difyr cyn hynny hefyd. Bues i’ndysgu Saesneg yn Istanbwl am naw mis. Mwynheais i’rprofiad yn fawr iawn. Penderfynais i ddysgu Cymraegyn ôl yng Nghymru.Yna, dechreuais astudio MPhil a gweithio fel tiwtorCymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.Roedd pobl yn dysgu Saesneg am resymau ariannolyn Nhwrci. Mae pobl yn dysgu Cymraeg am resymauemosiynol yng Nghymru.Dw i wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar. Dw i wedibod ar daith o gwmpas Cymru yn dysgu Cymraeg. Es i i Gaerdydd, Llansamlet, Llandeilo, Doc Penfro,Amlwch a Wrecsam. Ro’n i’n rhoi blas ar ddysgu’r iaithi bobl. Roedd pobl yn dweud ar y diwedd, “Dyn niwedi enjoio!”Mae dysgwyr yn bwysig! Dw i’n gweithio i Fwrdd yrIaith Gymraeg. Yn ôl cynllun Iaith Pawb y Cynulliadmaen nhw eisiau 5% yn fwy o bobl i siarad Cymraegerbyn 2011. Mae dysgwyr Cymraeg yn rhan bwysigiawn o hynny!Byddwch yn amyneddgar. Meddyliwch am blant yndysgu iaith. Maen nhw’n deall yn gyntaf. Yna, maennhw’n siarad.Peidiwch â meddwl. “Dwi ddim yn siarad Cymraeg! Dwi’nfethiant!” Siaradwch Gymraeg pan dych chi’n barod.

    Mae gan S4C Safwe newydd i’ch helpu chi i ddysgu Cymraeg.Gallwch chi wylio rhaglenni S4C trwy wasgu’r botwm coch i’chhelpu chi. Ewch i www.s4c.co.uk neu www.acen.co.uk i weld.Tan tro nesa’ ... hwyl fawr!

    Beth yw dy enw di? Nia Parry.O ble wyt ti’n dod yn wreiddiol? Ces i fy ngeni yn Ynys Môn ond ces i fy magu yn Llandrillo ynRhos, ger Bae Colwyn.Beth yw dy waith di? Dwi’n diwtor Cymraeg a dwi’n cyflwyno rhaglenni teledu arS4C.Ydy dysgwyr yn bwysig? Ydyn! Maen nhw’n bwysig iawn i ddyfodol y Gymraeg!Beth wyt ti’n ei wneud yn Cadwyn? Dwi’n dweud tipyn bach o fy hanes i!

    Bydd mwy o hanes Nia yn y rhifyn nesaf o Cadwyn

    D y m a N i a !C o l o f n N i a P a r r y

    YYssggoolloorriiaaeetthhDDaann LLyynnnn JJaammeess

    SScchhoollaarrsshhiipp 22000066

    £250 Dyddiad cauClosing Date

    I Ebrill/April 2006

    Manylion a ffurflen gais:Details and application form:10 Maes Lowri, Aberystwyth

    Ceredigion SY23 2AUwww.cyd.org.uk

    Cadwyn_51 25/11/05 11:09 am Page 5

  • 6

    Y N Y S I O P

    Judith: Helo, shwmae?Lowri: Helo, shwt y’ch chi?Judith: Iawn, diolch. A chithau?Lowri: Iawn.Judith: Dych chi’n brysur yn y siop?Lowri: Ydyn. Prysur iawn. Sut allai helpu chi?Judith: Dwi eisiau prynu anrheg. Ond dwi ddim yn

    gwybod beth i’w gael.Lowri: Dwi’n gweld. Wel, mae digon o ddewis yma.Judith: Oes. Mae popeth yn edrych yn hyfryd!Lowri: Diolch yn fawr. I bwy mae’r anrheg?Judith: I Marged.Lowri: Wel, beth am ffrâm? Gallwch chi roi llun

    ohonoch chi yn y ffrâm.Judith: Dwi ddim yn meddwl! Dydy hi ddim eisiau

    edrych ar fy llun i trwy’r amser!Lowri: Beth am lyfr pen-blwydd?Judith: Pert iawn! Ond na, dwi ddim yn meddwl. Dwi

    ddim eisiau dweud, “Cofiwch fy mhen-blwyddi Marged.”

    Lowri: Beth am sebon persawrus? Mae e’n ogleuo’ndda.

    Judith: Mmm, ydy! Mae e’n hyfryd! Ond dwi ddim ynmeddwl. Dwi ddim eisiau dweud, “Dyma sebon. Achos rwyt ti’n drewi, Marged!”

    Lowri: Pwy yw’r Marged yma? Ai ffrind yw hi?Judith: Na. Marged yw’r fam yng nghyfraith!

    Diolch i Lowri o siop Dots yn Aberystwyth am ei helpgyda’r ddeialog yma.

    Noson gyda Tecwyn Ifan yn‘Café Loco’

    Braf oedd gweld un o gantorion mwyafgweithgar (most industrious) Cymru yn dodi’r Drenewydd i berfformio yn noson ola’cyfres o nosweithiau Cymraeg sydd wedi eucynnal (which have been held) yngNghaffe Loco am eleni.

    Braf oedd gweld ‘Tecs’ yn esbonio i’rgynulleidfa hanes a chefndir pob cân yn eiberfformiad. Roedd ei berfformiad yn llawno glasuron o’r gorffennol fel ‘Y Dref Wen’ a‘Nwy yn y Nen’ yn ogystal â (as well as)chaneuon o’i gryno ddisg newydd ‘WybrenLas’.

    Mae cynlluniau ar y gweill gan FenterMaldwyn a Café Loco i drefnu rhagor onosweithiau Cymraeg. Os oes gennychunrhyw syniadau am bwy yr hoffech ei weld(you would like to see) yn perfformiocysylltwch ag Euros 01686 622908 neu e-bostio [email protected] [email protected]

    Cadwyn_51 25/11/05 11:09 am Page 6

  • 7

    bbc.co.uk/welshathome

    TYNNWCH EICH ‘SGIDIAU A GWNEWCH EICH HUNAIN YN GARTREFOL! GALLWCH DDYSGU’R IAITH WRTH DEITHIO O AMGYLCH EIN TY ̂3D. DYMAWEFAN AR GYFER RHIENI SYDD AM FYND I’R AFAEL Â’R IAITH A CHEFNOGI ADDYSG GYMRAEG EU PLANT.

    • Dysgwch hanfodion yr iaith • Sgyrsiwch â dysgwyr eraill • Ymarferwch eich Cymraeg yn y cartref

    KICK OFF YOUR SHOES AND MAKE YOURSELF AT HOME! TAKE A TOUR AROUND OUR NEW 3D HOUSE AND LEARN EVERYDAY WELSH. DESIGNED FORPARENTS WHO WANT TO GET A HANDLE ON THE LANGUAGE AND SUPPORT THEIR CHILD’S WELSH EDUCATION.

    • Get to know the essentials • Take part in a conversation • Practise your Welsh at Home

    wah_advert 25/10/05 2:57 pm Page 1

    Enillodd David Greaneyradd BA gydag anrhydeddDosbarth Cyntaf yn yGymraeg eleni ar ôl treuliodeng mlynedd fel myfyriwrallanol yn Adran yGymraeg, Prifysgol CymruAberystwyth. Nid oeddastudio ar gyfer y radd ynhawdd iddo – mae’ngweithio’n llawn amser acyn byw bywyd prysur.“Mae ‘ymroddiad adyfalbarhad’ - arwyddair yrAdran! - yn gwbl hanfodol,” meddai David, “ac, wrth gwrs, mae’n bwysigrheoli amser yn effeithiol a bod yn drefnus. Roedd y daith yn hir ond ynwerth yr holl ymdrech. Braint fawr oedd dysgu wrth draed ysgolheigion yrAdran y Gymraeg. Pob clod a diolch iddynt.”

    Mae David yn aelod o Cyd Aberystwyth

    Cadwyn_51 25/11/05 11:10 am Page 7

  • 8

    O’r chwith: Meri Huws Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Nigel Callaghan Cyfarwyddwr Cwmni Technoleg Taliesin a Chadeirydd Cyd, FflurLauton Uwch Swyddog Gwybodaeth a Gweithgareddau Arian i Bawb Cymru

    w w w . c y d . o r g . u k

    Canghennau ac aelodau Cyd sy’n berchen ar y wefan uchod, a nhw fydd yn gyfrifol am reoli a golygu’r rhan fwyaf o’r wybodaetharni hi. Bydd staff Cyd yn gyfrifol am rhoi gwybodaeth am weithgareddau cenedlaethol Cyd arni hi ynghyd â dogfennau mewnol.Bydd Cyd yn monitro cynnwys y wefan yn rheolaidd. Fel bydd mwy a mwy o bobl yn cofrestru i gael cyfrinair a chreu tudalen eu hunainbydd y wefan yn tyfu. Os oes gennych ddiddordeb i fod yn gyfrifol am dudalen gwe cangen Cyd, neu eich bod am gael tudalen argyfer eich dosbarth cysylltwch â ni [email protected]. Os ydych am wybod am weithgareddau lleol neu yn genedlaethol ewch atwefan Cyd. Gallwch gofrestru yno i fod ar rhestr e-bost Cyd er mwyn derbyn gwybodaeth am weithgareddau newydd Cyd.

    If you are interested in being responsible for a Cyd branch web page, or if you would like to have a web page for your class contactus [email protected]. If you wish to know about local or national activities go to Cyd’s website. You can register there to be on Cyd’se.mail list in order to receive information about new Cyd activitities.

    Lansiwyd gwefan newydd Cyd (Cyd’s new website was launched) gan Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn EisteddfodGenedlaethol Cymru Eryri a’r Cyffiniau 2005. Roedd Fflur Lauton Uwch Swyddog Gwybodaeth a Gweithgareddau, Arian i Bawb Cymruyno i ddweud gair ar ddechrau’r lansiad. Cafwyd (was received) grant gan Arian i Bawb Cymru i greu’r wefan, ac fe’i dyluniwyd (wasdesigned) gan ‘Technoleg Taliesin Cyf ’.

    Penwythnos Cyd Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn Y Bala

    10 - 12 Mawrth 2006

    can˘io, adeiladu rafft, hwylio, bowlio deg, datrysproblemau, cerdded, wal dringo

    I archebu lle cysylltwch â Swyddfa Cyd01970 622143 [email protected] www.cyd.org.uk

    Pris:

    £95

    Cadwyn_51 25/11/05 11:10 am Page 8

  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a’r Cyffiniau 2005Diolch i Gangen Cyd Aberystwyth am noddi pabell Cyd ar faes yr Eisteddfod

    ROWND DERFYNOL CWIS CENEDLAETHOL CYD

    Tîm Prifysgol Cymru Bangor 1af

    Sesiwn Gêmau iaith gyda Cyd

    Diolch i Rhiain Bebb a Gwilym am arwain sesiwncanu gwerin i Cyd ym Maes D.

    Tîm Aberystwyth 2il

    Tîm Sir Gâr 3ydd

    9

    Cadwyn_51 25/11/05 11:11 am Page 9

  • 10

    SCRABBLE YN GYMRAEG

    Gair yn ei le Alun Pugh (de), y Gweinidogdros Ddiwylliant, yr IaithGymraeg a Chwaraeon ynchwarae gêm yng nghwmniGwerfyl Pierce Jones a DewiMorris Jones o’r Cyngor Llyfrau.

    bod y Cyngor wedi gallu cynnig cymorthariannol ac ymarferol i gefnogi’r cynllun.Ychwanegodd: ‘Mae gan y gêm Scrabbleapêl addysgol yn ogystal ag apêlehangach fel gêm, ac fe fydd yn cael eichroesawu’n fawr gan siaradwyrCymraeg, gan gynnwys y nifer cynyddol oblant ac oedolion sy’n dysgu’r iaith.’

    FFEITHIAU AM Y GÊM SCRABBLE• Daeth Scrabble i Loegr yn 1954.• Mae dros 100 miliwn o’r gêmau wedi eu

    gwerthu mewn 121 o wledydd ar drawsy byd.

    FFEITHIAU AM YR IAITH GYMRAEG• Mae oddeutu hanner miliwn o siaradwyr

    Cymraeg.• Mae’r wyddor Gymraeg yn cynnwys 28

    llythyren.

    Am y tro cyntaf erioed, mae fersiwnCymraeg o’r gêm fwrdd enwog Scrabblear gael. Dydy’r llythrennau Q a Z ddim yny fersiwn Cymraeg wrth gwrs, ond maellythrennau LL, NG a RH yn y gêm. Un o’rgeiriau gyda’r sgôr uchaf ywANGENRHEIDIAETH fydd werth 164 obwyntiau.

    Dywedodd Alun Pugh, y Gweinidog drosDdiwylliant, yr Iaith Gymraeg aChwaraeon: ‘Mae’r gêm Scrabble yn caelei chwarae gan filoedd o bobl ar draws ybyd, ac mae’n newyddion da bod fersiwnGymraeg ar gael bellach.’

    Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones,Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau bod yCyngor wedi credu ers tro y dylai’r gêm fodar gael yn Gymraeg ac roedd yn falch

    Cadwyn_51 25/11/05 11:11 am Page 10

  • 11

    B e t h ydy RaW?

    Wyt ti’n teimlo dy fod angen help i allu darllen a ‘sgwennu’n well ynGymraeg? Wyt ti’n cael trafferth i lenwi ffurflenni? Helpu’r plant gyda’igwaith cartref yn amhosib? Eisiau darllen adroddiadau am bêl-droedac yn methu gwneud hynny? Mae yna gynllun gwych gan y BBC argael i dy helpu di. Cynllun fydd hwn i dy helpu i ddarllen a ‘sgwennu’nwell trwy ganolbwyntio ar dy ddiddordebau. Mae’n llawn hwyl a sbri acyma i dy helpu DI! Fe fydd yr ymgyrch yn para am dair blynedd. Maegwefan Gymraeg ar gael ar hyn o bryd i ti ei defnyddiobbc.co.uk/cymru/raw. Bydd hysbysebion i’w gweld ar BBC1, rhifynarbennig o Eastenders ar DVD a chylchgrawn rhad ac am ddim RaW –i gyd ar gael i dy helpu di. Yn ogystal a hyn fe fydd llinell hyfforddipersonol yn arbennig ar dy gyfer di. Wyt ti eisiau gwybod mwy? Ffonia’rrhif yma - 0800 150950. Bydd rhywun arall ar ben arall y ffôn fydd ynbarod i dy helpu di!

    Raw is a three year BBC initiative to help improve literacy skills acoss theUK. They are working with a wide range of partner organisations,programme makers, presenters and celebrities to help people discoverthe unexpected about reading and writing and fill their Raw potential.

    Ta i t h G e r d d e d C y d M e d i 2 0 0 5

    Cychwynnodd deg ohonon ni o Hen Orsaf Erwyd ar fore braf. Ar ôl dringfa eitha serth, cyrhaeddon ni’rrhostir efo golygfeydd bendigedig o Fannau Brycheiniog a’r Mynydd Du. Cyn i ni gyrraedd Aberedw,gwelon ni Ogof Llywelyn, wedyn mwynhaodd pawb ginio ardderchog yn y Seven Stars, Aberedw.Dychwelon ni i Erwyd heibio Creigiau Aberedw (anhygoel!) ac ar lan Afon Gwy. Ar ôl taith odidog roeddpawb yn barod am baned yng Nghaffi’r Hen Orsaf. Diolch i Gareth Jenkins am arwain y daith achynhyrchu gwybodaeth ddiddorol iawn am hanes yr ardal. Dan ni’n ddiolchgar am gefnogaethCyngor Sir Powys tuag at y daith hon. Keith a Margaret Teare

    Ar y chwith: y gr˘p o flaen enghraifft o Greigiau Aberedw Uchod: yn mwynhau paned yng Nghaffi’r Hen Orsaf ar ôl y daith.

    Cadwyn_51 25/11/05 11:11 am Page 11

  • Dyma syniad da ar gyfer anrheg Nadolig!

    Dyma’r gyflwynwraig (presenter) Siân Lloyd yn cyflwyno cyfres ofygiau, sef Geiriau o’r Gymraeg, ar stondin Nant Gwrtheyrn yn yrEisteddfod Genedlaethol. Y cartwnydd Mumph o Gaernarfon sywedi cynllunio’r mygiau (designed the mugs) a Glads, cwmni eiwraig sy wedi eu cynhyrchu (produced them). Dwedodd GladwenHumphreys, perchennog (owner) cwmni Glads mai “holl bwrpas ymygiau yw hybu’r iaith (promote the language). Bydd y mygiau ynrhoi cyfle i’r iaith gael ei gweld a’i thrafod dros baned ledled y byd(all over the world).”

    T LW S CO F FA E LV E T A M A I R E LV E T T H O M A S 2 0 0 5

    Llongyfarchiadau i Elwyn Hughes, Uwch Gydlynydd Cymraeg i Oedolion,Prifysgol Cymru Bangor ar ennill y Dlws eleni.

    Derbyniodd Elwyn y wobr oherwydd ei gyfraniad i faes Cymraeg i Oedolion, eiallu arbennig fel Tiwtor ac am iddo ysbrydoli dysgwyr. Mae yn gweithio yn ymaes ers bron i 30 mlynedd a fo sy’n gyfrifol am gyrsiau Wlpan a chyrsiau iddysgwyr mwy profiadol ar hyd a lled y Gogledd.

    Llawer o ddiolch i Havard aRhiannon Gregory amgyflwyno’r Dlws ynflynyddol. Dyfernir y wobrgan Gymdeithas TiwtoriaidCymraeg i Oedolion agadeiriwyd gan HelenProsser.

    12

    Helen Prosser, Elwyn Hughes, Havard Gregory,Rhiannon Gregory

    Cadwyn_51 25/11/05 11:12 am Page 12

  • 13

    O f f e r i a i t h a r y weI ddathlu lansiad gwefan newydd Cyd (http://www.cyd.org.uk/) dymaerthygl sy’n disgrifio’r offer iaith sy’n ar gael yn rhad ac am ddim ar ywe byd eang.

    Dychmygwch – rydych chi’n trio ysgrifennu erthygl i Cadwyn a dydychchi ddim yn gallu meddwl am y gair Cymraeg. Neu efallai, dydych chiddim yn si˘r sut i’w sillafu. Mae hyn wedi digwydd i mi sawl gwaith wrthysgrifennu’r erthygl ‘ma!

    Cafodd Tim Berners-Lee y syniad o greu’r we byd eang ym 1989 acroedd y porwr gwe cyntaf ar gael ym 1993. I ddechrau doedd dimllawer o dudalennau ar gael ac yn bendant doedd dim byd yn yGymraeg! Yn ddiweddar mae’r we wedi mynd o nerth i nerth ac erbynhyn mae llawer o dudalennau Cymraeg ar y we. Dw i wedidefnyddio’r Injan Chwilio Google yn y Gymraeg(http://www.google.com/intl/cy/) i chwilio am y gair “Cymraeg” a dwi wedi cael dros 33 miliwn o ddolennau! Ond yn yr erthygl hon dw i’nbwriadu canolbwyntio ar wefannau sy’n eich helpu chi ysgrifennuCymraeg.

    Mae sawl geiriadur ar gael er enghraifft - http://www.geiriadur.net/ ymMhrifysgol Llambed. Mae’n bosib cyfieithu geiriau unigol o’r Gymraegi Saesneg neu o Saesneg i’r Gymraeg ond yn anffodus os ydych chi’ncamsillafu’r gair fydd y meddalwedd ddim yn eich helpu chi. Mae’rgeiriadur gan Mark Nodine sydd ar gael ar dudalenhttp://www.cs.cf.ac.uk/fun/welsh/LexiconForms.html yn un clyfar iawn!Er enghraifft os ydych chi’n rhoi “gestyll” i mewn mae’n newid y gair i“castell” yn awtomatig cyn ei gyfieithu i “castle”.

    Mae gan y BBC gasgliad o offer iaith i helpu dysgwyr a siaradwyr rhugl.Ewch i dudalen http://www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/. Ar y chwithmae ‘na bethau fel Catchphrase a gemau Cymraeg ond ar y ddebyddwch chi’n gweld yr offer iaith. Mae geiriadur ar gael ond hefydgwirydd sillafu a gwirydd treigladau. Mae’n bosib gludo paragraff oeiriau i mewn i’r ffurflen gwirydd sillafu ac mewn chwinciad byddwchchi’n gael neges i ddweud os oedd camgymeriadau neu beidio. Osoes camgymeriadau bydd y meddalwedd yn awgrymu cywiriadau ichi a rydych chi’n gallu dewis y gair cywir o’r rhestr o eiriau. Iddefnyddio’r gwirydd treigladau mae’n rhaid i chi deipio dau air imewn er enghraifft “cath” a “du” ac mae’r meddalwedd yn dangosyr ateb cywir sef “cath ddu” ac hefyd yn esbonio y gramadeg i chi.Nawr beth am i chi roi cynnig ar erthygl am eich profiadau oddefnyddio neu ddysgu’r Gymraeg.

    Hazel Davey

    Cadwyn_51 25/11/05 11:12 am Page 13

  • Welsh Rules Heini Gruffudd(Y Lolfa £14.95) Adolygiad Keith a Margaret Teare)

    Roedd gynnon ni “Welcome toWelsh” gan Heini Gruffudd arein silff lyfrau yn barod. Roeddo’n ddefnyddiol iawn panddechreuon ni ddysgu’r Iaith. Yrunig anhawster oedd diffygmynegai (lack of an index), o’rsafbwynt hwn mae “WelshRules” yn llawer gwell (a lotbetter). Mae mynegai i eiriau yn ddefnyddiol iawn, mae’nrhywbeth hollol wahanol (completely different) a syniad da iawn.Hefyd, mae ’na fynegai i ramadeg.

    Dan ni’n hoffi trefn y llyfr sy’n hawdd ei ddilyn (easy to follow) ,mae esboniadau yn Saesneg trwy’r llyfr – Saesneg sy ddim yn rhydechnegol, felly dan ni’n gallu ei deall (can understand it)! Hefyddan ni’n hoffi’r cyfeiriadau (references) at yr iaith ffurfiol athafodieithoedd Gogledd a De. Mae rhan 4 (arddodiaid) ynarbennig o dda, a dan ni’n meddwl y dylai fod yn orfodol (itshould be compulsory) i bob dysgwr i’w ddarllen e.

    Dan ni’n gyfarwydd â synnwyr digrifwch(sense of humour) Heini Gruffudd – danni’n cytuno y dylech chi gael hwyl panydych chi’n dysgu’r iaith. Mae’n llyfrgramadeg cynhwysfawr – ardderchog!

    Bywyd Blodwen Jones(2 CD a recordiwyd gan Tympan gyda chyd-weithrediad GwasgGomer £13.99)Adolygiad gan Lorena Lord

    Dyma recordiad o’r nofel gyntafmewn cyfres boblogaidd amfywyd Blodwen Jones.Ysgrifennwyd y nofelau hyn argyfer dysgwyr. Merch sengl 38oed yw Blodwen, llyfrgellyddsy’n byw yng ngogledd Cymruac yn dysgu siarad Cymraeg.Bethan Gwanas yw awdures ynofel, a Siw Hughes yw’r darllenydd.

    Mae’r recordiad yn dilyn fformat dyddiadur y nofel yn ffyddlonac mae cyflymdra a bywiogrwydd y darllenydd yn gwneud yrecordiad yn hawdd i’w ddeall, ac yn cadw diddordeb ygwrandäwr.

    Er hynny, byddai wedi bod yn ddefnyddiol i drefnu’r CDs mewnpenodau. Mae pob un yn chwarae am dros 45 munud – sef yr holl

    CD (hanner llyfr) ar y tro. Does dim ffordd i ddod o hyd iadrannau bychain (wythnosau, misoedd, ac ati). Mae dalen yn ybocs yn cynnwys geirfa fer o tua 50 gair all fod o ddefnydd – pitinad oedd lle i ragor o eiriau.

    I bobl sy ddim wedi ddarllen y nofelau o’r blaen, mae’r CDs yngyflwyniad da i’r llyfrau, gan eu bod yn hawdd i’w deall ac maennhw’n hwyl. I’r rhai sydd wedi ddarllen y nofel hon, mae’r CDsyn arf ddefnyddiol er mewn adolygu, gan eich bod chi’n galludarllen a gwrando yr un pryd a chysylltu’r iaith lafar a’r iaithysgrifenedig.

    Os Dianc Rhai Martin Davis(Y Lolfa, £9.95)Adolygiad gan Mary Burdett-Jones

    Ysgrifennaf yr adolygiad hwn ar y diwrnod rydym yn coffáu’rrhai a fu farw yn ystod yr Holocawst, y rhai na ddihangodd.Mae’n briodol sgrifennu heddiw gan fod y nofel hon yn trafod ycyfnod hwnnw.

    Hugh Eldon-Jones yw enw’r prif gymeriad, bachgen a fagwydmewn plasty yn Llfln. Ni chafodd ei fagu i siarad Cymraeg ondmynnodd ddysgu’r iaith a daeth i gydymdeimlo âchenedlaetholdeb Cymreig. Dyma adeg y Tân yn Llfln prydllosgwyd yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth fel protest yn erbyn yllywodraeth Brydeinig. Roedd yn gam pwysig yn natblygiad yrymwybyddiaeth genedlaethol Gymraeg gan fod yr ysgol fomio ynbygwth iaith y gymuned fach honno.

    Ond yn fyfyriwr yn Rhydychen mae Hugh yn cwrdd ag Iddewesifanc, Ilse, sydd wedi dianc rhag y Nazis. Dechreua weld pethau osafbwynt gwahanol.

    Yn ôl yn Llfln mae Cymraes, Ceinwen, sy’n helpu Hugh gyda’iGymraeg ac yn meddwl amdano mewn ffordd ramantaidd.

    Er i Martin Davis gael eieni yng Nghymru fegafodd ei fagu yn Lloegrac mae wedi dysgu’rGymraeg. Yma maewedi sgrifennu nofelsy’n peri i ddyn droi’rtudalennau er mwyngwybod beth sy’ndigwydd nesaf. Maeganddo ddawn dweudstori. Chwarae teg iddoam daclo pwnc sensitif.Edrychaf ymlaen at einofel nesaf.

    14

    G E I R F AOs Dianc Rhai

    coffáu

    commemorate

    dihangodd

    escaped

    priodol

    appropriate

    trafod

    discuss

    cymeriad

    character

    plasty

    country house

    mynnodd

    insisted on

    cydymdeimlo

    sympathise

    cenedlaetholdeb

    nationalism

    llywodraeth

    government

    datblygiad

    development

    ymwybyddiaeth

    consciousness

    Iddewes

    Jewish woman/girl

    safbwynt

    viewpoint

    dawn

    gift

    Keith a Margaret Teare

    Cadwyn_51 25/11/05 11:12 am Page 14

  • 15

    Dehongli CymruDydd Mercher 5 Ebrill • Dydd Gwener 7 Ebrill

    • Gwyddoniaeth • Y Cyfryngau• Chwaraeon• Gwleidyddiaeth• Hanes• Diwylliant

    ˚ Gweithdai ˚ Trafodaethau ˚ Siaradwyr ˚ Ymweliadau

    Rhowch gynnig ar rywbeth newydd yn y GymraegRhowch gynnig ar rywbeth newydd yn y Gymraeg

    www.aber.ac.uk/wpsi

    Canolfan Ehangu CyfranogaidYr Hen GolegStryd y BreninAberystwyth SY23 2AX

    01970 [email protected]

    7192 Dehongli advert.indd 1 24/10/05 4:58:15 pm

    Cardiau a thocynnau

    ar gael yn eich

    siop lyfrau leol.

    Hefyd ar gael ar

    www.gwales.com

    Gormod o ddewis?Y dewis sy’n siŵr o blesio:

    TOCYN LLYFR

    Castell Brychan, Aberystwyth, SY23 2JB

    RRhhoodddd GGyymmoorrtthh//GGiifftt AAiidd ££

    AA wwnneewwcchh cchhii ddddaarrlllleenn yy ccaannllyynnooll yynn ooffaalluuss?? // PPlleeaassee rreeaadd tthhee ffoolllloowwiinngg ccaarreeffuullllyyRwy’n datgan fy mod yn talu rhagor o dreth incwm a/neu dreth enillion cyfalaf na’r dreth y bydd Cyd yn adennill ar fyrhodd/nghyfraniad/tâl cefnogi, sef 28c ym mhob £1 a roddir ar hyn bryd, a fy mod yn fodlon i Cyd drin y rhodd uchod a phobrhodd yn y dyfodol fel rhodd gymorth.

    I declare that I pay income tax and/or capital gains tax at least equal to the tax that Cyd claims on my donations/supporter’sfee in the tax year (currently 28p for each £1 you give), and I am willing for Cyd to treat the above donation and all donations inthe future as gift aid.

    LLllooffnnoodd//SSiiggnnaattuurree

    Cadwyn_51 25/11/05 11:13 am Page 15

  • Y WDA a’r Iaith GymraegMae cydraddoldeb iaith Cymru, ei diwylliant a’i hetifeddiaeth yn un o werthoedd allweddol yr Awdurdod. Mae’r WDA yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg i holl bobl Cymru a bwriedir hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r iaith Gymraeg ar bob cyfl e.

    Trwy ei waith datblygu economaidd a chymunedol mae’r Awdurdod yn ceisio cyfrannu at ffyniant yr iaith Gymraeg i’r dyfodol a bydd darparu ein gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg yn unol â dewis ein cwsmeriaid a’n clientiaid yn rhan bwysig o’r nod hwnnw.

    Ffôn: 08457 775566

    The WDA and theWelsh LanguageThe equality of the language of Wales, its culture and heritage is one of the Agency’s key values. The WDA recognises the importance of the Welsh Language to the culture and heritage of all the people of Wales and will seek to promote and facilitate the use of the Welsh language at every opportunity.

    Through its work in economic and community development the Agency seeks to contribute towards the future prosperity of the Welsh Language and providing our services in both Englishand Welsh according to customer and client choice will be an important partof that goal.

    Tel: 08457 775577

    www.wda.co.uk

    ST1 Advert 276 x 190 mm.indd 1 21/10/05 9:50:06 am

    Cadwyn_51 25/11/05 11:13 am Page 16