64
Gweithgareddau dysgu Gwisgwch ddotiau... codwch lawer Cyfnod Allweddol 2 yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, neu Cynradd 3-7 yn yr Alban. Cyflwyniad i'r cynllun gwers hwn ac RNIB Ynglŷn â'r adnoddau dysgu hyn Bwriedir i'r pecyn hwn gael ei ddefnyddio gan athrawon disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, neu Cynradd 3-7 yn yr Alban. Mae'n fan cychwyn i'r rheini sydd am ymgysylltu ag RNIB, gyda syniadau am weithgareddau wedi'u cysylltu â'r cwricwlwm sydd hefyd yn cyfrannu at nodau ac ethos ehangach yr ysgol. Ceir awgrymiadau am ble i ddod o hyd i ragor o wybodaeth, a chysylltiadau llawn i'r cwricwlwm fel atodiad. Bwriedir iddo gael ei ddefnyddio ochr yn ochr â phecyn codi arian am ddim Gwisgwch ddotiau... codwch lawer. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys cyfleoedd ysgrifennu a darllen allweddol i athrawon ddefnyddio yn eu gwersi. Edrychwch am yr arwyddion: Cyfle ysgrifennu Cyfle darllen Wyddech chi? Bob dydd bydd 100 o bobl yn dechrau colli eu golwg yn y DU. Bydd hyn yn newid eu bywydau yn gyfan gwbl. Mae gormod o bobl yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain i ymdopi â'r RNIB – cefnogi pobl sy'n colli eu golwg Rhifau elusennol RNIB 226227 a SC039316 Gwisgwch ddotiau... codwch lawer

RNIB - See differently - - Gweithgareddau dysgu Gwisgwch ... 2017... · Web viewGyda'r gweithgaredd hwn, mae'n werth atgoffa'r disgyblion nad yw pob unigolyn â nam ar ei olwg yn

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Gweithgareddau dysgu Gwisgwch ddotiau... codwch lawer

Cyfnod Allweddol 2 yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, neu Cynradd 3-7 yn yr Alban.

Cyflwyniad i'r cynllun gwers hwn ac RNIB

Ynglŷn â'r adnoddau dysgu hyn

Bwriedir i'r pecyn hwn gael ei ddefnyddio gan athrawon disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, neu Cynradd 3-7 yn yr Alban. Mae'n fan cychwyn i'r rheini sydd am ymgysylltu ag RNIB, gyda syniadau am weithgareddau wedi'u cysylltu â'r cwricwlwm sydd hefyd yn cyfrannu at nodau ac ethos ehangach yr ysgol.

Ceir awgrymiadau am ble i ddod o hyd i ragor o wybodaeth, a chysylltiadau llawn i'r cwricwlwm fel atodiad. Bwriedir iddo gael ei ddefnyddio ochr yn ochr â phecyn codi arian am ddim Gwisgwch ddotiau... codwch lawer.

Mae'r pecyn hwn yn cynnwys cyfleoedd ysgrifennu a darllen allweddol i athrawon ddefnyddio yn eu gwersi. Edrychwch am yr arwyddion:

Cyfle ysgrifennu

Cyfle darllen

Wyddech chi?

Bob dydd bydd 100 o bobl yn dechrau colli eu golwg yn y DU. Bydd hyn yn newid eu bywydau yn gyfan gwbl.

Mae gormod o bobl yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain i ymdopi â'r newyddion. Mae llawer yn mynd i deimlo'n unig ac yn isel iawn yn gyflym. Ar hyn o bryd, dim ond un o bob tri o bobl y mae angen ein help arnynt fwyaf y gall RNIB eu cyrraedd.

Rydyn ni yma i bawb sydd angen, gyda chymorth ar sut i gadw swyddi, technoleg er mwyn helpu i wneud tasgau bob dydd neu rywun i siarad â nhw am golli golwg. 

Sut y gallwch helpu?

Ym mis Gall, mae RNIB yn gofyn i bawb ddod at ei gilydd - Gwisgwch ddotiau... codwch lawer er mwyn i ni allu bod yno er mwyn helpu i wneud bywyd yn well i bobl ddall a phobl â golwg rhannol.

Wyddech chi?

Roedd JK Rowling am i blant dall ac â golwg rhannol allu darllen Harry Potter ar yr un pryd â phlant sy'n gallu gweld felly anfonodd

ffeiliau Harry Potter atom ni cyn i'r llyfr gael ei ryddhau fel y gallem eu gwneud yn llyfrau braille, print bras a llafar. Cyrhaeddodd y ffeiliau mewn fan amlwg gyda dau swyddog diogelwch!

Pam gwisgo dotiau?

Drwy wisgo dotiau byddwch yn dathlu braille, sef cod o lythrennau sydd wedi'i greu o ddotiau ymgodol y gellir eu darllen drwy eu cyffwrdd. RNIB yw'r cyhoeddwr llyfrau braille mwyaf yn Ewrop. Y llynedd, benthycodd ein gwasanaethau darllen filoedd o lyfrau braille a cherddoriaeth braille. Gall plant ac oedolion dall a'r rhai â golwg rhannol hefyd fenthyg o'n llyfrgelloedd sain a phrint bras.

Dechreuwch godi arian gyda Gwisgwch ddotiau... codwch lawer

Byddwch wedi cael pecyn codi arian gyda'r adnodd hwn. Mae hwn yn cynnig syniadau ar gyfer digwyddiadau gwahanol i godi arian, awgrymiadau ar sut y gallwch ddweud wrth bobl amdanynt a llawer o ddeunyddiau llawn hwyl i helpu eich digwyddiad i fynd yn dda.

Helpwch ni i newid y stori i bawb sydd ein hangen a chymryd rhan yn Gwisgwch ddotiau... codwch lawer.

Canllawiau codi arian

Mae codi arian yn cael mwy o effaith pan fydd disgyblion yn deall yr hyn y maent yn codi arian ar ei gyfer a gallant deimlo empathi gyda chenhadaeth RNIB. Os bydd eich disgyblion am gymryd rhan drwy godi arian i RNIB yna ceisiwch ddilyn y canllawiau hyn er mwyn sicrhau ei fod yn brofiad dysgu:

Anogwch y disgyblion i wneud penderfyniadau, er enghraifft, pa fath o weithgaredd y maent am ei gynllunio a sut y byddant yn rhoi cyhoeddusrwydd i'w digwyddiad?

Gwnewch yn siŵr eu bod yn dysgu am waith RNIB, efallai y gallent gysylltu a gofyn pa weithgareddau rydym yn eu cynnal a sut y caiff yr arian ei wario.

Anogwch y disgyblion i ystyried ffyrdd gwahanol o gyflwyno newid. Dim ond un ffordd o sawl ffordd o wneud gwahaniaeth yw codi arian i elusen, o gamau ymarferol yn ein bywydau bob dydd i ymgyrchu dros newid.

Sicrhewch fod y disgyblion yn codi arian mewn ffordd ddiogel a phriodol. Fel rhan o'u cynllunio, dylai'r disgyblion ystyried p'un a oes angen iddynt gael caniatâd a ph'un a yw unrhyw ddelweddau a ddefnyddir ganddynt ar ddeunydd cyhoeddusrwydd yn gydymdeimladol neu'n ecsbloetiol.

Ceir rhagor o syniadau a manylion ar ein gwefan rnib.org.uk/dotsaz.

Manylion cyswllt

Os oes angen help neu ddeunyddiau ychwanegol arnoch ar gyfer eich gweithgareddau codi arian, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ar 0345 345 0054 neu drwy e-bost [email protected].

Sut i ddefnyddio'r adnoddau hyn yn eich ysgol

Gellir ymgorffori'r adnoddau a'r gweithgareddau hyn yn amserlen eich ystafell ddosbarth neu eu defnyddio fel episodau addysgu penodol ar wahân.

Ategir yr adnoddau dysgu hyn gan gyflwyniad PowerPoint a ffilmiau. Rydym yn eich annog i'w haddasu ac i ddefnyddio'r rhannau sy'n briodol ar gyfer eich disgyblion.

Gallech ddefnyddio'r deunyddiau:

i gefnogi gwasanaeth am bobl nad oes ganddynt lawer o olwg, os o gwbl, pobl ag anableddau neu am gynhwysiant

yn ystod amser yn yr ystafell dosbarth er mwyn egluro pam rydych yn codi arian i RNIB

yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cefnogi gwers neu brosiect ar y pynciau hyn

fel sail i ddiwrnod â thema nad yw'n rhan o'r amserlen

er mwyn cefnogi gwersi llythrennedd, yn enwedig deunyddiau Gwisgwch Ddotiau

er mwyn helpu myfyrwyr i fyfyrio ar rôl elusen

er mwyn deall pam rydych yn codi arian

wrth hyrwyddo cynhwysiant yn eich ysgol.

Y cyflwyniad PowerPoint

Os yw amser yn brin a'ch bod ond am gyflwyno RNIB i ddisgyblion cyn codi arian i ni, mae'r cyflwyniad hwn yn rnib.org.uk/dotslessonplans yn rhoi gwybodaeth sylfaenol ac ychydig o gwestiynau i ddisgyblion ddechrau meddwl am ein gwaith a phobl nad oes ganddynt lawer o olwg, os o gwbl.

Gellid ei ddefnyddio mewn gwasanaeth neu gallai fod yn sail i drafodaeth ystafell ddosbarth neu weithgarwch amser cylch gan feddwl am hunaniaeth a'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng pobl.

Mae canllawiau ategol a syniadau am gwestiynau wedi'u cynnwys yn y nodiadau ar gyfer pob sleid. Mae fersiwn Saesneg ar gael.

Gwybodaeth gefndirol a dolenni

Os hoffech wneud rhywfaint o waith darllen cefndirol ar bobl nad oes ganddynt lawer o olwg, os o gwbl, cyn mynd i'r afael â'r pwnc hwn, mae llawer o wybodaeth yn rnib.org.uk/dotslessonplans.

Dyma ddwy ffaith i'ch rhoi ar ben ffordd:

O'r ddwy filiwn o bobl yn y DU nad oes ganddynt lawer o olwg, os o gwbl, mae tua 360,000 wedi'u cofrestru'n ddall neu â golwg rhannol ond dim ond cyfran fach o'r rhain sydd heb unrhyw olwg o gwbl.

Mae dau o bob 1,000 o blant a phobl ifanc hyd at 25 mlwydd oed yn y DU â nam ar eu golwg yn ôl diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Mae'r ffigwr hwn yn danamcangyfrifiad gan nad yw'n cynnwys plant lle nad yw'r nam ar eu golwg yn cyfateb â diffiniad WHO ond sy'n effeithio arnynt yn addysgol ac yn gymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth am golli golwg

Os hoffech wneud rhywfaint o waith darllen cefndir ar golli golwg, mae llawer o wybodaeth ar wefan RNIB rnib.org.uk/aboutus/aboutsightloss/Pages/aboutsightloss.aspx.

Ceir gwybodaeth ac ystadegau am golli golwg ar ein gwefan rnib.org.uk/aboutus/research/statistics/Pages/statistics.aspx a gellir cael gafael ar y meini prawf i gael eich cofrestru'n ddall neu â golwg rhannol yma

http://www.rnib.org.uk/eye-health-registering-your-sight-loss/criteria-certification

Manylion cyswllt

Os oes angen help neu ddeunyddiau ychwanegol arnoch ar gyfer eich gweithgareddau codi arian, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ar 0345 345 0054 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm) neu drwy e-bost [email protected].

Gweithgareddau cychwynnol syml ar gyfer eich ystafell ddosbarth

Mae empathi yn sgil allweddol y mae angen i ddisgyblion ei dysgu a'i datblygu drwy gydol eu haddysg, gall hefyd helpu i gefnogi ymdrechion codi arian drwy ymgysylltu disgyblion â'r achos.

Er mwyn cyflwyno sut beth yw bod heb lawer o olwg, os o gwbl, i'ch disgyblion ac er mwyn helpu i herio camargraffiadau o'r cychwyn cyntaf, gallech roi cynnig ar un o'r gweithgareddau canlynol sy'n para 10-15 munud ar ei ben ei hun neu fel man cychwyn ar gyfer gwers.

1. Cynnal cwis

Fel y cwis gwir neu anwir y gellir ei lawrlwytho o

rnib.org.uk/dotslessonplans

2. Trafodwch beth y mae nam ar y golwg yn ei olygu

Gofynnwch i ddisgyblion ysgrifennu neu siarad am beth yw nam ar y golwg a dallineb a'r ffyrdd gwahanol y gall colli golwg effeithio ar unigolyn. Er enghraifft, efallai bod pobl sy'n colli gwelediad canolog yn gweld yn wahanol i'r rhai sy'n colli gwelediad ymylol neu'r rhai nad ydynt yn gweld dim.

3. Myfyrio

Er mwyn annog y disgyblion i fyfyrio ynghylch yr effaith y gall bod heb lawer o olwg, os o gwbl, ei gael ar fywyd bob dydd. Gofynnwch iddynt wneud rhestr ar nodiadau 'post-it', neu dynnu llun neu siarad am rai o'r gweithgareddau y byddai'n anodd neu'n amhosibl iddynt eu gwneud yn eu barn nhw pe byddent heb lawer o olwg, os o gwbl, ar ôl codi yn y bore neu yn yr ysgol.

4. Meddwl am yr amgylchedd lleol

Er mwyn annog y disgyblion i feddwl sut mae amgylcheddau wedi cael eu haddasu er mwyn cefnogi pobl sydd â nam ar eu golwg gallech ofyn iddynt feddwl am y mannau lle maent wedi gweld addasiadau, er enghraifft, palmentydd gweadog wrth groesfannau ffyrdd, croesfannau sy'n gwneud sŵn, lifftiau sy'n dweud wrthych pa lawr rydych wedi'i gyrraedd a chyhoeddiadau ar gludiant cyhoeddus. Pam na wnewch chi ddangos lluniau iddynt a gofyn iddynt ystyried sut y mae'r addasiadau yn helpu pobl ddall a phobl â golwg rhannol.

5. Darllen ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i'r disgyblion, gofynnwch iddynt feddwl amdanynt ac yna drafod eu hatebion gyda phartner cyn rhoi adborth i'r dosbarth:

Sut mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn darllen llyfrau yn eich barn chi?

Ydych chi'n meddwl y gallant ddarllen yr un llyfrau â pherson sy'n gallu gweld?

Pe byddai gennych ffrind dall neu â golwg rhannol yn yr ystafell ddosbarth, sut gallech chi helpu i wneud yn siŵr y gallai ddarllen yn haws?

Pam dylai pobl ddall ac â golwg rhannol allu darllen llyfrau ar yr un pryd â phobl sy'n gallu gweld yn eich barn chi? Pam?

6. Tynnu llun yn dilyn cyfarwyddiadauGan weithio gyda phartner, gofynnwch i ddisgyblion eistedd cefn wrth gefn gyda bwrdd gwyn bach/darn o bapur. Rhoddir llun sampl i Ddisgybl A y maent yn ei ddisgrifio i Ddisgybl B. Mae'n rhaid i Ddisgybl B dynnu llun o'r ddelwedd gyda'u llygaid ar gau yn dilyn cyfarwyddiadau Disgybl A yn unig. Yna gall ddisgyblion fyfyrio ar y gweithgaredd gan feddwl am y cwestiynau canlynol:

Pa mor gywir yw'r llun o'i gymharu â'r llun gwreiddiol?

Beth oedd yn anodd/hawdd am y dasg hon?

Sut y gallech wella eich llun os byddai'n rhaid i chi ei wneud eto? Fyddech chi'n egluro'n wahanol/gwrando'n fwy astud ar y cyfarwyddiadau?

Sut mae hyn yn cysylltu â phobl ddall a phobl sydd â golwg rhannol?

Gweithgareddau i ddatblygu'r hyn y mae'r disgyblion yn ei ddysgu am golli golwg

Mae'r gweithgareddau hyn wedi'u cynllunio er mwyn helpu eich disgyblion i feddwl yn fwy dwys am bobl nad oes ganddynt lawer o olwg, os o gwbl, ac yn benodol, yr effaith a gaiff ar ddarllen. Rydym wedi dangos ble maent yn cysylltu â phynciau gwahanol a phryd y gallech eu defnyddio ond rydym yn annog athrawon i fod yn greadigol ac i'w haddasu ar gyfer eich disgyblion a'ch sefyllfa.

Edrychwch am yr eiconau a i ddod o hyd i gyfleoedd ysgrifennu a darllen.

1. Gweithgareddau ffilm RNIB

Mae RNIB wedi cynhyrchu dwy ffilm fer yn cynnwys straeon Freddy a Joseph ac Anna, er mwyn dangos gwerth y deunyddiau darllen rydym yn eu cyhoeddi i blant â nam ar eu golwg yn rnib.org.uk/dotslessonplans. Mae'r ffilmiau hyn yn helpu i gyflwyno rhai o'r anawsterau a wynebir gan bobl sydd â nam ar eu golwg, ond maent hefyd yn dangos sut gall cymorth priodol helpu. Dewiswch un ffilm, neu defnyddiwch fwy os oes gennych amser.

Pryd i ddefnyddio'r gweithgareddau hyn

Gallwch ddefnyddio unrhyw un o'r gweithgareddau ffilm i fynd â'r dysgu ymhellach yn yr ystafell ddosbarth ar ôl un o'r gweithgareddau cychwynnol uchod. Er enghraifft, cychwyn gyda Meddwl am yr Amgylchedd Lleol, gwylio un neu fwy o ffilmiau, a chanolbwyntio ar Gryfderau a Gwendidau lle gall disgyblion fyfyrio ar sut y gallant wella eu hysgol i'w gwneud yn fwy cynhwysol.

Gallech ddefnyddio'r gweithgaredd cryfderau a gwendidau wrth bennu nodau personol gyda'r disgyblion. Efallai y byddwch am bennu rheolau sylfaenol gyda'r dosbarth er mwyn sicrhau y gallant rannu mewn amgylchedd cyfeillgar.

Deilliannau dysgu

Mae'r disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth am bobl â nam ar eu golwg

Gall y disgyblion gymharu eu bywydau â bywydau pobl eraill

Mae'r disgyblion yn datblygu empathi a dealltwriaeth.

1. Nodweddion tebyg a gwahanol

Ar ôl gwylio ffilm gallai'r disgyblion drafod y tebygrwydd rhwng bywydau'r plant a'u bywydau eu hunain - gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin. Gallech ofyn cwestiynau iddynt er mwyn ysgogi trafodaeth, er enghraifft, beth fyddech chi'n hoffi ei ofyn i'r plant yn y ffilm? A oes ganddynt yr un diddordebau â chi? Beth fyddech chi'n ei wneud yr un peth neu'n wahanol os byddech chi'n cael profiad o nam ar eich golwg?

Yna gallai disgyblion fynd ymlaen i drafod, tynnu llun neu ysgrifennu am yr anawsterau yr oedd y plant yn eu cael gyda darllen, er enghraifft, methu â chael digon o ddeunyddiau. A ydynt erioed wedi cael problemau tebyg neu wahanol eu hunain? Er enghraifft, os na allant fynd i lyfrgell yn hawdd.

2. Cryfderau a gwendidau

Gall y ffilmiau hyn helpu i hyrwyddo empathi a chefnogi cynhwysiant drwy roi cyfle i blant fyfyrio ar eu gwendidau eu hunain ar hyn y maent yn ei chael hi'n anodd ei wneud. Ar ôl gwylio, gofynnwch i'r disgyblion beth y mae'r plant yn y ffilm yn mwynhau ei wneud, a beth sy'n creu her iddynt.

Yna gallai'r disgyblion drafod neu ysgrifennu am beth maent yn mwynhau ei wneud, a beth maent yn ei chael hi'n anodd ei wneud, naill ai wrth ddysgu neu mewn rhannau eraill o'u bywydau. Bydd y gweithgaredd hwn yn helpu'r disgyblion i sylweddoli bod gan bawb sgiliau a galluoedd gwahanol. Yna gallent ystyried pa gamau y gallant eu cymryd i wella mewn meysydd lle maent yn ei chael hi'n anodd, gan ddefnyddio'r plant yn y ffilm, sydd wedi canfod ffyrdd o ddarllen er gwaethaf y nam ar eu golwg, fel ysbrydoliaeth.

3. Archwilio'r amgylchedd

Ar ôl gwylio'r ffilm, gofynnwch i ddisgyblion a wnaethant sylwi ar unrhyw wahaniaethau rhwng ysgol neu gartref y plant, a'u hysgol a'u cartref eu hunain. A oes unrhyw beth a allai newid yn eu hysgol i gefnogi plant â nam ar eu golwg neu blant ag anghenion neu anableddau eraill? Gallai'r disgyblion drafod lle yn eu hysgol y gellid gwneud newidiadau a chynnal arolwg o amgylch yr ysgol gan wneud nodiadau am unrhyw beth a allai fod yn beryglus, fel slabiau palmant rhydd, i bobl â nam ar eu golwg.

Gallai'r disgyblion ysgrifennu llythyr darbwyllol at lywodraethwyr yr ysgol neu'r Pennaeth gan gynnwys y gwelliannau a argymhellir ganddynt. Gellir ategu'r gwaith hwn gyda dechrau brawddegau a banciau geiriau er mwyn helpu cydlyniant y gwaith o ysgrifennu cyfansoddiad.

2. Gweithgareddau BraillePryd i ddefnyddio'r gweithgareddau hyn

Gallwch ddefnyddio'r gweithgareddau braille i fynd â'r dysgu ymhellach yn yr ystafell ddosbarth ar ôl un o'r gweithgareddau cychwynnol uchod. Er enghraifft, dechreuwch gyda Darllen ar gyfer pobl ddall a phobl â golwg rhannol i annog y disgyblion i feddwl am sut y gall pobl sy'n colli eu golwg ddarllen, yna cwblhewch y gweithgaredd 'Rhoi Cynnig ar Braille' i roi cyfle gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu empathi a dealltwriaeth am sut y mae pobl sy'n colli eu golwg yn darllen.

Gallech ddefnyddio'r gweithgareddau darllen wrth ystyried diogelwch personol mewn gwersi ABGI.

Gall gweithgareddau Louis Braille ddarparu rhai gwersi hanes diddorol ac ymarfer ysgrifennu darn nad yw'n ffuglen.

Deilliannau dysgu

Gall y disgyblion fyfyrio ar werth darllen

Mae'r disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth am ffigur hanesyddol

Mae'r disgyblion yn datblygu eu sgiliau ysgrifennu darbwyllol.

1. Pwysigrwydd darllen

Er mwyn dangos pwysigrwydd darllen i'r disgyblion, dangoswch ddarn o destun byr neu lun o gynnyrch o'r cartref neu feddyginiaeth iddynt gyda gwybodaeth bwysig arno fel cyfarwyddyd a fydd yn atal rhywun rhag cael niwed.

Bydd disgyblion yn darllen y testun ac amlygu neu ddewis y darn o wybodaeth hanfodol. Gofynnwch iddynt beth allai ddigwydd pe na allent ddarllen y wybodaeth honno, er enghraifft, gallent gael niwed neu fynd yn sâl.

Yna, gallai'r disgyblion weithio mewn grwpiau i nodi adegau eraill lle mae darllen yn bwysig, er enghraifft, cyfarwyddiadau a meddyginiaethau, rhestr cynhwysion ar fwyd, hysbysiadau diogelwch, cyfarwyddiadau ar gyfarpar - i'w helpu i fyfyrio ar bwysigrwydd darllen. Gofynnwch iddynt sut y gall pobl sydd â nam ar eu golwg ddarllen gwybodaeth yn eu barn nhw, a dangoswch wahanol ffyrdd iddynt fel defnyddio print bras, braille neu air llafar. I orffen, gofynnwch i'r disgyblion drafod sefyllfaoedd eraill lle gall darllen fod yn bwysig, er enghraifft darllen llyfr er pleser. Beth y byddent yn ei golli fwyaf pe na fyddent yn gallu darllen?

Gallech annog disgyblion i fyfyrio ar eu hoffter o ddarllen drwy ofyn iddynt ysgrifennu argymhelliad o lyfr y maent o'r farn y dylid ei gynhyrchu yn braille neu brint bras er mwyn i bobl ddall a phobl â golwg rhannol ei fwynhau.

2. Louis Braille

Darllenwch stori Louis Braille i'r disgyblion. Wrth ddarllen, gofynnwch i'r disgyblion wneud nodiadau neu dynnu lluniau am yr heriau a wynebodd a beth a'i helpodd i'w goresgyn. Beth a wnaeth ei ddyfeisio a pham? Fel ffigwr hanesyddol, pa effaith y mae wedi'i chael ar y ffordd rydym yn byw heddiw? Gallwch ofyn i'r disgyblion ddewis datganiadau neu eiriau sydd yn ei ddisgrifio orau yn eu barn nhw, ac ysgrifennu ychydig o baragraffau byr i ailddweud ei stori gan ddefnyddio'r geiriau hynny.

Disgyblion yn ymchwilio i Louis Braille a darganfod ffeithiau allweddol am ei fywyd. Gall disgyblion greu llinell amser o'i fywyd mewn gwers hanes.

Disgyblion yn ysgrifennu bywgraffiad am Louis Braille, gan edrych ar ei brif gyflawniadau.

Disgyblion yn ysgrifennu cofnod mewn dyddiadur fel Louis Braille ifanc.

3. Rhoi cynnig ar braille

Gwyliwch glip ffilm yn rnib.org.uk/dotslessonplans er mwyn cyflwyno braille i'r disgyblion neu eglurwch sut mae'n gweithio gan ddefnyddio'r canllaw byr hwn i athrawon.

Pan fydd y disgyblion yn ymwybodol o'r system gallent ysgrifennu eu henw neu rhai geiriau gan ddefnyddio braille, neu gallent 'gyfieithu' brawddegau a ysgrifennwyd mewn braille a gweithio allan beth maent yn eu dweud. Beth am greu arwyddion braille i'w rhoi o amgylch yr ystafell ddosbarth i gyd-fynd â rhifau pwysig neu eiriau y mae angen i ddisgyblion eu darllen? Gallwch argraffu copïau o daflen wyddor Braille i gefnogi'r gweithgareddau hyn. Gallwch ddefnyddio ein taflenni gweithgareddau parod (Ysgrifennwch y gwrthrychau hyn mewn braille ac Ysgrifennwch y geiriau hyn mewn braille) i ddisgyblion ymarfer pob un. Maent i gyd ar gael yn rnib.org.uk/dotslessonplans. Os yw'r pecyn codi arian Gwisgwch Ddotiau gennych, gallai'r disgyblion ddefnyddio cerdyn gwyddor braille naill ai gyda mwgwd dros eu llygaid neu gyda'u llygaid ar gau i weld a allant adnabod llythrennau gan ddefnyddio eu bysedd.

3. Gweithgareddau Archwilio ein synhwyrauPryd i ddefnyddio'r gweithgareddau hyn

Gallwch ddefnyddio'r gweithgareddau archwilio ein synhwyrau i fynd â'r dysgu ymhellach yn yr ystafell ddosbarth ar ôl un o'r gweithgareddau cychwynnol uchod. Er enghraifft, …

Gallech ddefnyddio'r gweithgareddau gan ddefnyddio mwgwd llygad i ddatblygu gwaith tîm a meithrin sgiliau ymysg y disgyblion.

1. Cael profiad o golli golwg

Gellid rhoi mwgwd ar lygaid y disgyblion ac yna roi cyfres o wrthrychau y byddant yn ceisio eu hadnabod, neu dasg syml y mae angen iddynt ei chwblhau fel adeiladu tŵr allan o Lego. Neu gallent geisio adnabod synau neu arogleuon pan fydd mwgwd dros eu llygaid. Yna gall disgyblion rannu'r hyn a wnaethant gyda phartner, a dweud sut roeddent yn teimlo am wneud y dasg fel paratoad ar gyfer ysgrifennu.

Yna gall y disgyblion ysgrifennu atgof o'u profiad gan ddisgrifio sut deimlad oedd peidio gwybod ble roedd rhywbeth a dibynnu ar synhwyrau eraill heblaw am olwg. Gellid cynorthwyo'r gwaith hwn gyda banc geiriau o emosiynau y gall y disgyblion fod wedi'u profi.

Gyda'r gweithgaredd hwn, mae'n werth atgoffa'r disgyblion nad yw pob unigolyn â nam ar ei olwg yn methu gweld dim. Mae llawer o ffyrdd gwahanol y gellir effeithio ar olwg. Mae gan y mwyafrif o bobl ddall rywfaint o olwg felly mae'n bwysig gwneud y gorau o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r golwg sydd ar ôl ganddynt. Er enghraifft, gall cael arwyddion clir a goleuo da fod yn ddefnyddiol iawn. I gael rhagor o wybodaeth am lefelau golwg gwahanol ymhlith pobl ddall a phobl â golwg rhannol, ewch i rnib.org.uk/knowledge-and-research-hub/key-information-and-statistics

2. Ymddiried mewn eraill

Mae disgyblion yn gweithio â phartner i ddod o hyd i daith o amgylch eu hysgol neu ystafell ddosbarth. Mae angen cyfyngu golwg un partner yn rhannol neu'n gyfan gwbl. Mae'n rhaid i'r ail bartner helpu'r disgybl i ddod o hyd i'w ffordd o amgylch y lle.

Dylai'r disgyblion ystyried y cysyniad o ymddiried mewn rhywun arall i'ch arwain. A yw'n hawdd gwneud hyn? Sut yr oedd hyn yn gwneud i chi deimlo?

Beth arall y gallai pobl ddall a phobl â golwg rhannol orfod ymddiried ynddo? Gallwch drafod y defnydd a wneir o gŵn tywys, neu ffon ar gyfer cynorthwyo pobl ddall a phobl â golwg rhannol i ddod o hyd i'r ffordd o amgylch ardaloedd gyda'r disgyblion.

3. Fy synhwyrau eraill

Ewch â'r disgyblion i ardal gyfarwydd y maent wedi arfer ei gweld, gallai hyn fod yn gae chwarae neu barc lleol. Gofynnwch i'r plant gau eu llygaid a defnyddio eu synhwyrau eraill i ddisgrifio ardal. Beth gallant ei glywed? Beth gallant ei arogleuo? Beth gallant ei gyffwrdd? Disgyblion yn ysgrifennu eu syniadau mewn diagram corryn yn erbyn pob synnwyr.

Mae disgyblion yn ysgrifennu cerdd yn disgrifio'r ardal gan ddefnyddio eu synhwyrau gwrando, arogli a chyffwrdd gan ddefnyddio iaith ffigurol i gyfleu'r olygfa. Gall pob pennill ganolbwyntio ar synnwyr gwahanol.

4. Gwneud Llyfr Llafar

Yn ogystal â darparu llyfrau wedi'u hysgrifennu mewn Braille, mae RNIB hefyd yn darparu gwasanaeth llyfrau llafar i bobl ddall a phobl â golwg rhannol. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, ewch i rnib.org.uk/talking-books-service. Chwaraewch enghraifft o lyfr sain i'r disgyblion, a gofyn iddynt a ydynt yn mwynhau gwrando ar rywun arall yn adrodd stori iddynt.

Plant yn darllen detholiad o lyfr yn uchel (gall hyn fod o'u hoff lyfr neu destun gosod). Disgyblion yn perfformio neu'n recordio'r adran hon mewn grŵp gan ddefnyddio techneg Theatr y Darllenwr. Disgyblion yn perfformio darn gan ddefnyddio eu lleisiau a'u cyrff i greu effeithiau sain. Beth am roi darn ar wahân o lyfr i bob grŵp o blant a'i recordio er mwyn gwneud llyfr llafar i'r dosbarth.

Mynd â'r dysgu ymhellach

1. Empathi a sgiliau gwaith tîm

Er mwyn mynd â'r dysgu ymhellach y tu allan i amgylchedd yr ystafell ddosbarth, gallai'r gweithgaredd hwn helpu disgyblion i ddatblygu empathi gyda phobl nad oes ganddynt lawer o olwg, os o gwbl ac i feithrin sgiliau gwaith tîm ac ymddiried pwysig. Creu "llwybr dall", sef llwybr sy'n defnyddio rhaffau, o amgylch a thros rwystrau amrywiol. Mae grŵp o ddisgyblion yn teithio ar hyd y llwybr mewn un llinell. Bydd gan bob disgybl un llaw ar ysgwydd yr unigolyn o'i flaen a'r llall ar raff sy'n mynd o amgylch y llwybr. Mae'n rhaid i'r unigolyn ar y blaen egluro wrth yr unigolyn y tu ôl pa wrthrychau y mae wedi dod ar eu traws a bydd y negeseuon hyn yn cael eu trosglwyddo'n ôl drwy'r grŵp - gyda phob unigolyn yn helpu'r un y tu ôl iddo. Dylai'r disgyblion gymryd tro i fod ar y blaen. Wedyn, gallent rannu dau neu dri gair sy'n crynhoi'r profiad. Bydd angen cynnal asesiad risg ar gyfer y gweithgaredd hwn.

2. A oes unrhyw un rydych yn ei adnabod a allai fanteisio ar hyn?

Gallai'r disgyblion drafod a ydynt yn adnabod rhywun sydd â phroblemau gyda'u golwg, ac os felly, a ydynt yn cael anhawster wrth ddarllen? Efallai y gallent ddefnyddio Gwasanaeth Darllen RNIB os nad ydynt yn gwneud hynny eisoes. Efallai y byddwch am symud y drafodaeth i faterion ehangach yn ymwneud â chynhwysiant - gan gynnal gweithgaredd amser cylch efallai er mwyn trafod anghenion a galluoedd gwahanol a'r hyn y gellir ei wneud i gynorthwyo pobl.

Dolenni a Chyfleoedd Cwricwlwm

Yma gallwch ddod o hyd i'r dolenni cwricwlwm sy'n berthnasol i'ch cwricwlwm astudio chi. Trefnir y dolenni yn ôl Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban er mwyn galluogi athrawon i edrych ar yr atodiad perthnasol ar gyfer eu cwricwlwm.

Mae'r Gweithgareddau RNIB yn helpu athrawon disgyblion 7-11 oed (yn cynnwys Blwyddyn 3 yng Ngogledd Iwerddon, ac o P5 yn yr Alban) i gyflwyno amrywiaeth o agweddau ar y cwricwlwm. Cymerir Dolenni Cwricwlwm o gwricwlwm astudio bob gwlad, sy'n canolbwyntio ar yr ystod oedran hon.

Mae'r blynyddoedd ffocws hyn yn ôl gwlad fel a ganlyn:

Lloegr – Cyfnod Allweddol 2

Cymru – Cyfnod Allweddol 2

Gogledd Iwerddon – Cyfnod Allweddol 1 a Cyfnod Allweddol 2

Yr Alban– P5 i P7 (gweithio ar lefel dau)

Ar gyfer grwpiau blwyddyn eraill gweler syniadau gwersi Cyfnod Allweddol 1, 3 a 4.

Cymerir dolenni cwricwlwm o'r rhaglenni astudio canlynol ym mhob gwlad:

Lloegr:

Y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2

Fframwaith Cenedlaethol anstatudol ABGI, sy'n cynnwys Dinasyddiaeth yng Nghyfnod Allweddol 2.

· Cymerwyd o PSHE Education Programme of Study, a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas ABGI

· Fframwaith ar gyfer Dinasyddiaeth yng Nghyfnod Allweddol 2, cyhoeddwyd gan yr 'Association for Citizenship Teaching'.

Cymru:

Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru - Cyfnod Allweddol 2

Y Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol ar gyfer plant 7 - 19 mlwydd oed yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cymru.

(Ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, gellir addasu pob gweithgareddau i ganolbwyntio ar y Gymraeg)

Gogledd Iwerddon:

Cwricwlwm Diwygiedig Gogledd Iwerddon - Cynradd

· Amcanion wedi'u dethol o Gyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2.

Yr Alban

Cwricwlwm er Rhagoriaeth: cyhoeddwyd pob profiad a chanlyniad gan Education Scotland.

RNIB – cefnogi pobl sy'n colli eu golwg

Rhifau elusennol RNIB 226227 a SC039316

Gwisgwch ddotiau... codwch lawer

45

Lloegr

Gweithgareddau Ffilm RNIB

Pwnc

Maes Canolbwyntio

Amcanion Allweddol

ABGI/Dinasyddiaeth

Iechyd a lles

· adlewyrchu ar eu cyflawniadau a'u dathlu, nodi eu cryfderau, meysydd i'w gwella, gosod dyheadau a nodau uchel

Cydberthnasau

· bod gwahaniaethau a thebygrwydd rhwng pobl yn deillio o nifer o ffactorau gan gynnwys anabledd

· gellir niweidio cyrff a theimladau pobl (gan gynnwys yr hyn sy'n gwneud iddynt deimlo'n gyfforddus ac yn anghyfforddus)

· gwrando ac ymateb â pharch i amrywiaeth eang o bobl

Byw yn y Byd Ehangach

· ymchwilio, trafod a chynnal dadl am faterion, problemau a digwyddiadau sy'n ymwneud ag iechyd a lles a chynnig eu hargymhellion i'r bobl briodol

· deall bod gan bawb hawliau

· bod mathau gwahanol o gyfrifoldebau, hawliau a dyletswyddau yn y cartref, yn yr ysgol, yn y gymuned a thuag at yr amgylchedd

· cydnabod rôl grwpiau gwirfoddol, cymunedol a phwyso o ran iechyd a lles

Paratoi i chwarae rôl weithredol fel dinasyddion

· myfyrio ar faterion ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol, gan ddefnyddio dychymyg i ddeall profiadau pobl eraill

Saesneg

Iaith lafar

· gwrando ar oedolion a'u cyfoedion ac ymateb yn briodol iddynt

· gofyn cwestiynau perthnasol er mwyn ehangu eu dealltwriaeth a gwybodaeth

· cyfleu atebion, dadleuon a barn a'u cyfiawnhau

· rhoi disgrifiadau, esboniadau a naratifau ar gyfer cyfleu teimladau sydd wedi'u strwythuro'n dda

· talu sylw i drafodaethau cydweithredol a chymryd rhan weithredol ynddynt

· defnyddio iaith lafar i ddatblygu dealltwriaeth drwy fyfyrio, damcaniaethu, dychmygu ac archwilio syniadau

· cymryd rhan mewn trafodaethau, cyflwyniadau, perfformiadau, dadleuon a chwarae rôl ac addasu

Ysgrifennu

Cyfansoddiad

Gall Gweithgareddau Ffilm RNIB gwmpasu'r rhan fwyaf o amcanion ysgrifennu cyfansoddiad y rhaglen astudio Saesneg ar gyfer cyfnod allweddol 2 is ac uwch.

Er enghraifft:

· Cryfderau/Gwendidau ysgrifennu: trefnu paragraffau o amgylch thema (cyfnod allweddol 2 is)

· Llythyr Darbwyllo: dewis gramadeg a geirfa briodol, deall sut y gall dewisiadau newid a gwella ystyr (cyfnod allweddol 2 uwch)

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Gweithgareddau Braille RNIB

Pwnc

Maes Canolbwyntio

Amcanion Allweddol

Saesneg

Iaith lafar

· cyfleu atebion a barn a'u cyfiawnhau

· rhoi disgrifiadau wedi'u strwythuro'n dda ar gyfer mynegi teimladau

· talu sylw i sgyrsiau a thrafodaethau cydweithredol a chymryd rhan weithredol ynddynt

· defnyddio iaith lafar er mwyn datblygu dealltwriaeth drwy ddychmygu ac archwilio syniadau

Ysgrifennu

Cyfansoddiad

Gall gweithgareddau Braille RNIB gwmpasu'r rhan fwyaf o amcanion ysgrifennu cyfansoddiad y rhaglen astudio Saesneg ar gyfer cyfnod allweddol 2 is ac uwch.

Er enghraifft:

· drafftio ac ysgrifennu drwy gyfansoddi ac ymarfer brawddegau ar lafar, gan ddatblygu geirfa amrywiol a chyfoethog a chynyddu amrywiaeth y strwythurau brawddeg a ddefnyddir yn raddol (cyfnod allweddol 2 is)

· Ysgrifennu bywgraffiad: defnyddio dyfeisiau trefnu a chyflwyno pellach i strwythuro testun ac arwain y darllenydd (cyfnod allweddol 2 uwch)

Dylai athrawon ddefnyddio eu barn broffesiynol i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Darllen

Gall gweithgareddau Braille RNIB gwmpasu'r rhan fwyaf o amcanion darllen y rhaglen astudio Saesneg ar gyfer cyfnod allweddol 2 is ac uwch.

Er enghraifft:

Argymell Llyfr:

· cymryd rhan mewn trafodaeth am lyfrau a ddarllenir iddynt a'r rhai y gallant eu darllen eu hunain (cyfnod allweddol 2 is)

· argymell llyfrau y maent wedi'u darllen i'w cyfoedion, gan roi rhesymau am eu dewis (cyfnod allweddol 2 uwch)

Ymchwil Louis Braille:

· adalw a chofnodi gwybodaeth o waith nad yw'n ffuglen (cyfnod allweddol 2 is)

· adalw, cofnodi a chyflwyno gwybodaeth o waith nad yw'n ffuglen (cyfnod allweddol 2 uwch)

Dylai athrawon ddefnyddio eu barn broffesiynol i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

ABGI/Dinasyddiaeth

Iechyd a lles

· diogelwch yn yr amgylchedd

· gwahaniaethu rhwng y termau 'risg', 'perygl' a 'rhwystr'

· cryfhau eu dealltwriaeth o risg drwy gydnabod, rhagweld ac asesu risgiau mewn gwahanol sefyllfaoedd

Cydberthnasau

· y gwahaniaethau a'r tebygrwydd rhwng pobl sy'n deillio o nifer o ffactorau gan gynnwys anabledd

Byw yn y Byd Ehangach

· ymchwilio i broblemau a digwyddiadau sy'n ymwneud ag iechyd a lles a'u trafod

· deall bod gan bawb hawliau dynol

· cydnabod rôl grwpiau gwirfoddol, cymunedol a phwyso, yn enwedig o ran iechyd a lles

Hanes

· dylai disgyblion barhau i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn gronolegol o hanes Prydain, hanes lleol a hanes y byd.

· dylent lunio ymatebion hyddysg sy'n golygu dethol gwybodaeth hanesyddol berthnasol a rhoi trefn arni mewn ffordd ystyrlon.

· astudiaeth o agwedd neu thema yn hanes Prydain sy'n ymestyn gwybodaeth gronolegol disgyblion y tu hwnt i 1066

Gweithgareddau Archwilio ein synhwyrau

Pwnc

Maes Canolbwyntio

Amcanion Allweddol

ABGI/Dinasyddiaeth

Iechyd a lles

· cryfhau eu dealltwriaeth o deimladau da a rhai nad ydynt cystal, er mwyn ymestyn eu geirfa i'w galluogi i egluro amrywiaeth a dwysedd eu teimladau i eraill

Cydberthnasau

· cydweithio tuag at nodau a rennir

· y gwahaniaethau a'r tebygrwydd rhwng pobl sy'n deillio o nifer o ffactorau gan gynnwys anabledd

Byw yn y Byd Ehangach

· cydnabod rôl grwpiau gwirfoddol, cymunedol a phwyso, yn enwedig o ran iechyd a lles

Saesneg

Iaith lafar

· gwrando ar oedolion a'u cyfoedion ac ymateb yn briodol iddynt

· cyfleu atebion, dadleuon a barn a'u cyfiawnhau

· rhoi disgrifiadau, esboniadau a naratifau wedi'u strwythuro'n dda at ddibenion gwahanol, gan gynnwys mynegi teimladau

· talu sylw i sgyrsiau cydweithredol a chymryd rhan weithredol ynddynt, gan gadw at y pwnc ac annog sylwadau ac ymateb iddynt

· cymryd rhan mewn trafodaethau, cyflwyniadau, perfformiadau, dadleuon a chwarae rôl ac addasu

· dal, cynnal a monitro diddordeb y gwrandawr(gwrandawyr)

· ystyried a gwerthuso barn wahanol, ystyried ac adeiladu ar gyfraniadau eraill

Ysgrifennu Cyfansoddiad

Gall gweithgareddau Archwilio ein synhwyrau RNIB gwmpasu'r rhan fwyaf o amcanion ysgrifennu cyfansoddiad y rhaglen astudio Saesneg ar gyfer cyfnod allweddol 2 is ac uwch.

Er enghraifft:

Gweithgarwch Barddoniaeth:

· cynllunio eu hysgrifennu drwy drafod a chofnodi syniadau (cyfnod allweddol 2 is)

· dewis gramadeg a geirfa briodol, deall sut y gall dewisiadau newid a gwella ystyr (cyfnod allweddol 2 uwch)

Dylai athrawon ddefnyddio eu barn broffesiynol i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Darllen

Gall gweithgareddau Archwilio ein Synhwyrau RNIB gwmpasu'r rhan fwyaf o amcanion darllen y rhaglen astudio Saesneg ar gyfer cyfnod allweddol 2 is ac uwch.

Er enghraifft:

Gweithgarwch Barddoniaeth:

· paratoi cerddi a sgriptiau dramâu i'w darllen yn uchel a'u perfformio, gan ddangos dealltwriaeth drwy ddefnyddio goslef, tôn, uchder sain a gweithrediad (cyfnod allweddol 2 is)

· trafod geiriau ac ymadroddion sy'n cipio diddordeb a dychymyg y darllenwr (cyfnod allweddol 2 is)

· paratoi cerddi a dramâu i'w darllen yn uchel a'u perfformio, gan ddangos dealltwriaeth drwy ddefnyddio goslef, tôn ac uchder sain er mwyn gwneud yr ystyr yn glir i'r gynulleidfa (cyfnod allweddol 2 uwch)

Creu Llyfr Llafar:

· eu hymgyfarwyddo fwyfwy ag amrywiaeth eang o lyfrau, yn cynnwys storïau tylwyth teg, mythau a chwedloniaeth, ac ailadrodd rhai o'r rhain ar lafar (cyfnod allweddol 2 uwch)

· nodi sut y gall iaith, strwythur a chyflwyniad gyfranu at ystyr (cyfnod allweddol 2 uwch)

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Cymru

Gweithgareddau Ffilm RNIB

Pwnc

Maes Canolbwyntio

Amcanion Allweddol

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Datblygu sgiliau meddwl

· llunio barn bersonol a gwneud penderfyniadau hyddysg

Datblygu sgiliau cyfathrebu

· gwrando'n ofalus, holi ac ymateb i eraill

· mynegi eu barn a syniadau yn hyderus

Dinasyddiaeth weithredol

· ennyn parch atynt hwy eu hunain ac eraill

· deall:

· sut mae anghyfiawnder ac anghydraddoldeb yn effeithio ar fywydau pobl

· beth y mae anabledd yn ei olygu

· yr heriau y gall dysgwyr eu hwynebu wrth gael mynediad i gyfleoedd dysgu yn yr ysgol

Cydweithio ag eraill

· ddangos empathi â phrofiadau a theimladau eraill

Gwella eich dysgu eich hun

· myfyrio ar gynnydd, nodi cryfderau a gwendidau a gosod targedau ar gyfer gwella

Saesneg

Llefaredd

· gwrando a gwylio yn astud, ymateb i amrywiaeth eang o ddulliau cyfathrebu

· cyfathrebu yn glir ac yn hyderus, cyfleu barn

· siarad a gwrando yn unigol, mewn grwpiau ac fel aelod o ddosbarth

· ymarfer ar lafar ar gyfer ysgrifennu

· gweld a chlywed pobl wahanol yn siarad, gan gynnwys pobl â gwahanol dafodieithoedd, ac ymateb i'r hyn a gaiff ei weld a'i glywed

· ymateb ar lafar i amrywiaeth o ysgogiadau a syniadau, gan gynnwys testunau ysgrifenedig a dynamig

Ysgrifennu

Gall gweithgareddau Ffilm RNIB gwmpasu'r rhan fwyaf o amcanion maes ysgrifennu Rhaglen Astudio Saesneg Cyfnod Allweddol 2.

Er enghraifft:

· Cryfderau a gwendidau ysgrifennu: ysgrifennu at ddibenion amrywiol, gan gynnwys trafod

· Ysgrifennu Darbwyllol: ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd dilys, gwir neu ddychmygol

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Gweithgareddau Braille RNIB

Pwnc

Maes Canolbwyntio

Amcanion Allweddol

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Datblygu sgiliau meddwl

· llunio barn bersonol a gwneud penderfyniadau hyddysg

Datblygu sgiliau cyfathrebu

· gwrando'n ofalus, holi ac ymateb i eraill, mynegi eu barn a'u syniadau'n hyderus

Dinasyddiaeth weithredol

· ennyn parch atynt hwy eu hunain ac eraill

· deall:

· sut mae anghyfiawnder ac anghydraddoldeb yn effeithio ar fywydau pobl

· beth y mae anabledd yn ei olygu

· yr heriau y gall dysgwyr eu hwynebu wrth gael mynediad i gyfleoedd dysgu yn yr ysgol

Cydweithio ag eraill

· dangos empathi â phrofiadau a theimladau eraill

Saesneg

Llefaredd

· gwrando a gwylio yn astud, ymateb i amrywiaeth eang o ddulliau cyfathrebu

· cyfathrebu yn glir ac yn hyderus, cyfleu barn

· siarad a gwrando yn unigol, mewn grwpiau ac fel dosbarth

· defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyflwyno syniadau, gan gynnwys trafod a dadlau

· cyflwyno, siarad a pherfformio mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol ac ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol gan gynnwys athrawon a chyfoedion

Ysgrifennu

Gall gweithgareddau Braille RNIB gwmpasu'r rhan fwyaf o amcanion maes ysgrifennu Rhaglen Astudio Saesneg Cyfnod Allweddol 2.

Er enghraifft:

· Ysgrifennu bywgraffiad: ysgrifennu at ddibenion amrywiol, gan gynnwys cyflwyno gwybodaeth; ysgrifennu mewn amrywiaeth o destunau parhaus a rhai nad ydynt yn barhaus mewn amryw o ffurfiau

· Ysgrifennu Dyddiadur: ysgrifennu at ddibenion amrywiol, gan gynnwys dangos empathi; ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd dilys, gwir neu ddychmygol

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Darllen

Gall gweithgareddau Braille RNIB gwmpasu'r rhan fwyaf o amcanion maes darllen Rhaglen Astudio Saesneg Cyfnod Allweddol 2.

Er enghraifft:

Argymell Llyfr:

· datblygu geirfa a therminoleg briodol i drafod, ystyried a gwerthuso eu gwaith eu hunain a gwaith eraill, e.e. awduron, beirdd, cyfoedion, mewn testunau ysgrifenedig a dynamig

Ymchwil Louis Braille:

· darllen at ddibenion gwahanol er mwyn adalw, crynhoi a chyfosod gwybodaeth allweddol

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Hanes

Gwybodaeth a dealltwriaeth hanesyddol

· nodi pobl arwyddocaol a deall pam fod pobl wedi gwneud pethau, beth a achosodd ddigwyddiadau penodol a chanlyniadau'r digwyddiadau hynny.

Ymwybyddiaeth gronolegol

· defnyddio llinellau amser er mwyn cyfleu dilyniant digwyddiadau

Gweithgareddau Archwilio ein synhwyrau

Pwnc

Maes Canolbwyntio

Amcanion Allweddol

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Datblygu Sgiliau Meddwl

· llunio barn bersonol a gwneud penderfyniadau hyddysg

· defnyddio technegau priodol ar gyfer myfyrio personol.

Datblygu sgiliau cyfathrebu

· mynegi eu barn a'u syniadau yn hyderus drwy amrywiaeth o ddulliau priodol

· cyfrannu at drafodaethau yn y dosbarth a chymryd rhan mewn trafodaethau.

Dinasyddiaeth Weithredol

· beth y mae anabledd yn ei olygu

· yr heriau y gall dysgwyr eu hwynebu wrth gael mynediad i gyfleoedd dysgu yn yr ysgol.

Saesneg

Llefaredd

· ymarfer ar lafar ar gyfer ysgrifennu

· cyfathrebu at amrywiaeth o ddibenion, e.e adalw a chyflwyno gwybodaeth, cyfeirio, dadlau ag egluro safbwynt, trafod mater, darbwyllo, cwestiynnu ac archwilio dehongliadau, cyfleu teimladau

· siarad a gwrando yn unigol, mewn parau, mewn grwpiau ac aelodau o ddosbarth

· defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyflwyno syniadau, gan gynnwys trafod a dadlau

· cyflwyno, siarad a pherfformio mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol

· gwrando a gwylio yn astud, ymateb i amrywiaeth eang o ddulliau cyfathrebu, e.e. testunau ysgrifenedig a dynamig, perfformiadau theatr a barddoniaeth, siaradwyr gwadd, esboniadau, cyfeiriadau

· siarad yn glir, defnyddio goslef a phwyslais yn briodol, e.e. adrodd, adrodd storiau ar lafar

· defnyddio geirfa briodol sy'n addas ar gyfer y sefyllfa a'r diben

Ysgrifennu

Gall gweithgareddau Archwilio ein Synhwyrau RNIB gwmpasu'r rhan fwyaf o amcanion maes ysgrifennu Rhaglen Astudio Saesneg Cyfnod Allweddol 2.

Er enghraifft:

Gweithgarwch Barddoniaeth:

· creu darnau ysgrifennu barddonol, defnyddio delweddau a dyfeisiau barddonol, e.e. odli a ffurf

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Darllen

Gall gweithgareddau Archwilio ein Synhwyrau RNIB gwmpasu'r rhan fwyaf o amcanion maes darllen Rhaglen Astudio Saesneg Cyfnod Allweddol 2.

Er enghraifft:

Creu Llyfr Llafar:

· darllen yn unigol a gydag eraill, e.e. darllen mewn parau, darllen mewn grŵp dan arweiniad, darllen a rennir

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Gogledd Iwerddon

Gweithgareddau Ffilm RNIB

Maes Dysgu

Maes Canolbwyntio

Amcanion Allweddol

Datblygiad Personol a Dealltwriaeth Gyffredin

Dealltwriaeth ac iechyd personol

Cyfnod Allweddol 1

· teimlo'n bositif am eu hunain, a datblygu dealltwriaeth o'u hunan-barch a'u hyder;

· dod yn ymwybodol o'u cryfderau, galluoedd, rhinweddau a chyflawniadau eu hunain

Cyfnod Allweddol 2

· rheoli ystod o deimladau ac emosiynau a theimladau ac emosiynau pobl eraill

· dewisiadau a nodau personol

· datblygu hunan-ymwybydiaeth, hunan-barch a hunan-hyder

· myfyrio ar eu cynnydd a phennu nodau ar gyfer gwella

Dealltwriaeth gyffredin yn y Gymuned Leol a'r Gymuned Ehangach

Cyfnod Allweddol 1

· gwerthfawrogi'r ffyrdd rydym yn debyg ac yn wahanol, er enghraifft, anabledd

· deall sut y gallant wneud eu hamgylchedd yn lle gwell neu waeth i fyw ynddo a gweld y cyfraniad y gallant ei wneud.

Cyfnod Allweddol 2

· ystyried hawliau a chyfrifoldebau aelodau o'r gymuned gan werthfawrogi'r ffyrdd rydym yn debyg

Iaith a Llythrennedd

Siarad a Gwrando

Cyfnod Allweddol 1

· gwrando ar destunau'r wasg ac ymateb iddynt drwy ddefnyddio adnoddau traddodiadol a digidol

· cymryd tro i siarad a gwrando mewn grŵp ac mewn gweithgareddau mewn parau

· mynegi meddyliau, teimladau a barn mewn ymateb i'r wasg

· dyfeisio a gofyn cwestiynau i gael gwybodaeth am sefyllfaoedd cymdeithasol ac ar draws y cwricwlwm

Cyfnod Allweddol 2

· gwrando ar destunau'r wasg ac ymateb iddynt drwy ddefnyddio adnoddau traddodiadol a digidol

· cymryd rhan mewn trafodaeth grŵp ac ystafell ddosbarth at amrywiaeth o ddibenion cwricwlwm

· gwybod am gonfensiynau trafodaeth grŵp a'u deall a'u defnyddio

· rhannu a gwerthuso syniadau, dadleuon a safbwyntiau ac ymateb iddynt, a defnyddio'r dystiolaeth neu'r rheswm i gyfiawnhau barn, gweithredoedd a chynigion

Ysgrifennu

Gall gweithgareddau Ffilm RNIB gwmpasu amrywiaeth o'r amcanion ysgrifennu ym Maes Iaith a Llythrennedd Dysgu Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2.

Er enghraifft:

Cryfderau/Gwendidau ysgrifennu:

· ysgrifennu heb gymhelliant, gwneud eu penderfyniadau eu hunain am ffurf a chynnwys (Cyfnod Allweddol 1)

· mynegi meddyliau, teimladau a barn mewn gwaith ysgrifennu dychmygol a ffeithiol (Cyfnod Allweddol 2)

Llythyr Darbwyllo:

· ysgrifennu at amrywiaeth o ddibenion a chynulleidfaoedd (Cyfnod Allweddol 1)

ysgrifennu at amrywiaeth o ddibenion a chynulleidfaoedd, dewis, cynllunio a defnyddio arddull a ffurf briodol (Cyfnod Allweddol 2)

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Gweithgareddau Braille RNIB

Maes Dysgu

Maes Canolbwyntio

Amcanion Allweddol

Datblygiad Personol a Dealltwriaeth Gyffredin

Dealltwriaeth ac Iechyd Personol

Cyfnod Allweddol 2

· archwilio a darganfod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a rhai pobl eraill

Iaith a Llythrennedd

Siarad a gwrando

Cyfnod Allweddol 1

· cymryd rhan mewn sesiynau siarad a gwrando ym mhob maes o ddysgu

· cymryd tro i siarad a gwrando mewn grŵp ac mewn gweithgareddau mewn parau

· mynegi meddyliau, teimladau a barn mewn ymateb i'r wasg

Cyfnod Allweddol 2

· cymryd rhan mewn trafodaeth grŵp ac ystafell ddosbarth at amrywiaeth o ddibenion cwricwlwm

· gwybod am gonfensiynau trafodaeth grŵp a'u deall a'u defnyddio

· gwrando ar amrywiaeth o destunau ac ymateb iddynt

· disgrifio a siarad am brofiadau gwirioneddol ac am bobl

· rhannu a gwerthuso syniadau, dadleuon a safbwyntiau ac ymateb iddynt, a defnyddio'r dystiolaeth neu'r rheswm i gyfiawnhau barn, gweithredoedd a chynigion

Ysgrifennu

Gall gweithgareddau Braille RNIB gwmpasu amrywiaeth o'r amcanion ysgrifennu ym Maes Iaith a Llythrenedd Dysgu Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2.

Er enghraifft:

Ysgrifennu Bywgraffiad:

· trefnu, strwythuro a chyflwyno syniadau a gwybodaeth gan ddefnyddio dulliau traddodiadol (Cyfnod Allweddol 1)

· trafod amrywiaeth o nodweddion gosod mewn testunau a'u cymhwyso, fel y bo'n briodol, yn eu gwaith ysgrifennu eu hunain, er enghraifft, penawdau ac is-benawdau a chyflwyno'r testun mewn colofnau i roi pwyslais ar bwyntiau allweddol neu i greu effeithiau penodol (Cyfnod Allweddol 2)

Cofnod Dyddiadur:

· mynegi meddyliau, teimladau a barn mewn ysgrifennu creadigol (Cyfnod Allweddol 1)

· defnyddio amrywiaeth o nodweddion arddull i greu awyrgylch (Cyfnod Allweddol 2)

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Darllen

Gall gweithgareddau Braille RNIB gwmpasu amrywiaeth o'r amcanion ysgrifennu ym Maes Iaith a Llythrenedd Dysgu Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2.

Er enghraifft:

Argymell Llyfr:

· mynegi barn a rhoi rhesymau yn seiliedig ar yr hyn y maent wedi'i ddarllen (Cyfnod Allweddol 1)

· ehangu amrywiaeth eu darllen a datblygu eu dewisiadau eu hunain (Cyfnod Allweddol 2)

Ymchwil Louis Braille:

· ymchwilio gwybodaeth sy'n berthnasol at ddibenion penodol a'i reoli, gan ddefnyddio ffynonellau traddodiadol a digidol, a chyflwyno eu canfyddiadau mewn amryw o ffyrdd (Cyfnod Allweddol 1)

· defnyddio ffynonellau traddodiadol a digidol i ganfod, dewis, gwerthuso a chyfathrebu gwybodaeth sy'n berthnasol i dasg benodol (Cyfnod Allweddol 2)

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Gweithgareddau Archwilio ein synhwyrau

Maes Dysgu

Maes Canolbwyntio

Amcanion Allweddol

Datblygiad Personol a Dealltwriaeth Gyffredin

Dealltwriaeth ac Iechyd Personol

Cyfnod Allweddol 1

· eu teimladau ac emosiynau eu hunain ac rhai pobl eraill

Cyfnod Allweddol 2

· gwybod sut i fynegi eu safbwyntiau a'u barn eu hunain yn hyderus o dan amgylchiadau anghyfarwydd

· archwilio a darganfod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a rhai pobl eraill

Dealltwriaeth gyffredin yn y Gymuned Leol a'r Gymuned Ehangach

Cyfnod Allweddol 1

· gwerthfawrogi'r ffyrdd rydym yn debyg ac yn wahanol, er enghraifft, anabledd,

Cyfnod Allweddol 2

· nodi amrywiaeth grwpiau, y rolau a chyfrifoldebau sy'n bodoli yn y gymuned

Iaith a Llythrennedd

Siarad a gwrando

Cyfnod Allweddol 1

· cymryd rhan mewn sesiynau siarad a gwrando ym mhob maes o ddysgu

· cymryd tro i siarad a gwrando mewn grŵp ac mewn gweithgareddau mewn parau

· gwrando ac archwilio i storïau ac ymateb iddynt, drwy ddefnyddio adnoddau traddodiadol a digidol ac ail-greu rhannau ohonynt mewn amrywiaeth o weithgareddau mynegol

· gwrando, dehongli ac ailadrodd amrywiaeth o destunau ysgrifenedig, gyda rhywfaint o fanylion ategol

· cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau drama er mwyn cefnogi gweithgareddau sy'n seiliedig ar ddysgu ar draws y cwricwlwm

· meddwl am yr hyn y maent yn ei ddweud a sut y maent yn ei ddweud

· siarad yn glywadwy ac yn glir, gan ddefnyddio ansawdd priodol i'r lleferydd a'r llais

· darllen yn uchel o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys eu gwaith eu hunain, gan newid cywair yn briodol er mwyn pwysleisio ystyr

Cyfnod Allweddol 2

· cymryd rhan mewn trafodaeth grŵp ac ystafell ddosbarth at amrywiaeth o ddibenion cwricwlwm

· adrodd, ailadrodd a dehongli storïau yn seiliedig ar atgofion, profiadau personol, llenyddiaeth, y dychymyg a chynnwys y cwricwlwm

· gwybod am gonfensiynau trafodaeth grŵp a'u deall a'u defnyddio

· gwrando ar amrywiaeth o destunau ac ymateb iddynt

· disgrifio a siarad am brofiadau gwirioneddol ac am bobl

· rhannu a gwerthuso syniadau, dadleuon a safbwyntiau ac ymateb iddynt, a defnyddio'r dystiolaeth neu'r rheswm i gyfiawnhau barn, gweithredoedd a chynigion

· cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau drama ar draws y cwricwlwm

· defnyddio ansawdd priodol i'r lleferydd a'r llais, siarad yn glywadwy gan amrywio'r llais, yn unol â'r diben a'r gynulleidfa

· darllen yn uchel, gan newid cywair yn briodol, er mwyn mynegi meddyliau a theimladau a phwysleisio

· ystyr yr hyn y maent wedi'i ddarllen

Ysgrifennu

Gall gweithgareddau Archwilio ein Synhwyrau RNIB gwmpasu'r amrywiaeth o amcanion ysgrifennu ym Maes Iaith a Llythrenedd Dysgu ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2.

Er enghraifft:

Gweithgarwch Barddoniaeth:

· mynegi meddyliau, teimladau a barn mewn gwaith ysgrifennu dychmygol (Cyfnod Allweddol 1 a 2)

· defnyddio amrywiaeth o nodweddion arddull i greu awyrgylch ac effaith (Cyfnod Allweddol 2)

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Darllen

Gall gweithgareddau Archwilio ein Synhwyrau RNIB gwmpasu amrywiaeth o'r amcanion ysgrifennu ym Maes Iaith a Llythrenedd Dysgu ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2.

Er enghraifft:

Creu Llyfr Llafar:

· ailadrodd, ail-ddarllen ac actio amrywiaeth o destunau, gan gynrychioli syniadau drwy ddrama (Cyfnod Allweddol 1)

· cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau drama ar draws y cwricwlwm (Cyfnod Allweddol 2)

· defnyddio ansawdd priodol i'r lleferydd a'r llais, siarad yn glywadwy gan amrywio'r llais, yn unol â'r diben a'r gynulleidfa (Cyfnod Allweddol 2)

· darllen yn uchel, gan newid cywair yn briodol, er mwyn mynegi meddyliau a theimladau a phwysleisio ystyr yr hyn y maent wedi'i ddarllen (Cyfnod Allweddol 2)

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Yr Alban

Gweithgareddau Ffilm RNIB

Pwnc

Maes Canolbwyntio

Amcanion Allweddol

Iechyd a lles

Lles meddyliol, emosiynol, cymdeithasol a chorfforol

Lles Meddyliol ac Emosiynol:

· Rwy'n ymwybodol o fy nheimladau ac rwy'n gallu eu mynegi ac rwy'n datblygu fy ngallu i siarad amdanynt.

· Rwy'n deall y gall pobl deimlo'n unig a gellir eu camddeall ac ni chânt eu cynnwys gan bobl eraill. Rwy'n dysgu sut i roi'r cymorth priodol.

Lles Cymdeithasol:

· Wrth i mi ddarganfod yr hawliau y mae gennyf i ac eraill yr hawl iddynt, gallaf ymarfer yr hawliau hyn yn briodol a derbyn y cyfrifoldeb sy'n mynd law yn llaw â nhw. Rwy'n dangos parch at hawliau pobl eraill.

· Rwy'n gwneud defnydd llawn o gyfleoedd ac yn eu gwerthfawrogi ac rwy'n ymrwymo i wella a rheoli fy nysgu ac, yn ei dro, gallaf helpu i annog dysgu a hyder mewn pobl eraill.

Cynllunio ar gyfer Dewisiadau a Newid

· Mae cyfleoedd i gwblhau gwahanol weithgareddau a rolau mewn amrywiaeth o leoliadau wedi galluogi i mi nodi fy nghyflawniadau, sgiliau a meysydd i'w datblygu. Bydd hyn yn fy helpu i baratoi ar gyfer y cam nesaf yn fy mywyd a dysgu.

Gwyddoniaeth

Systemau biolegol (Systemau a chelloedd y corff)

· Drwy archwilio rhai o systemau'r corff a phroblemau posib y gallent eu datblygu, gallaf wneud penderfyniadau hyddysg er mwyn fy helpu i gynnal fy iechyd a lles.

Llythrennedd a Saesneg

Gwrando a siarad

· Pan fyddaf yn ymgysylltu ag eraill, gallaf ymateb mewn ffyrdd sy'n briodol i'm rôl, dangos fy mod yn gwerthfawrogi cyfraniadau pobl eraill a defnyddio'r rhain i adeiladu ar y broses meddwl.

· Wrth i mi wrando neu wylio, gallaf nodi a thrafod y diben, prif syniadau a manylion ategol sydd wedi'u cynnwys yn y testun, a'u defnyddio at ddibenion gwahanol.

· Gallaf ddewis syniadau a gwybodaeth berthnasol, a threfnu'r rhain mewn ffordd briodol at fy niben a defnyddio geirfa addas ar gyfer fy nghynulleidfa.

· Gallaf ddangos fy nealltwriaeth o'r hyn rwy'n gwrando arno neu wylio drwy ymateb i gwestiynau llythrennol, casgliadol, arfarnol a mathau eraill o gwestiynau, a thrwy ofyn gwahanol fathau o gwestiynau fy hun.

· Wrth wrando a siarad ag eraill at ddibenion gwahanol, gallaf:

· rannu gwybodaeth, profiadau a barn

· egluro prosesau a syniadau

· nodi materion a godwyd a chrynhoi prif bwyntiau neu ganfyddiadau

· esbonio pwyntiau drwy ofyn cwestiynau neu drwy ofyn i eraill ddweud mwy.

· Rwy'n datblygu hyder wrth ymgysylltu ag eraill yn y lleoliad rwy'n dysgu a thu hwnt. Gallaf gyfathrebu yn glir, mewn ffordd mynegol ac rwy'n dysgu i ddewis a threfnu adnoddau yn annibynnol.

Ysgrifennu

Gall Gweithgareddau Ffilm RNIB gwmpasu amrywiaeth o ganlyniadau ysgrifennu ym mhrofiadau a chanlyniadau Llythrenedd a Saesneg ar gyfer disgyblion sy'n gweithio ar lefel 2.

Er enghraifft:

Cryfderau/Gwendidau ysgrifennu:

· Rwy'n mwynhau creu testunau o fy newis ac rwy'n dewis pwnc, diben, fformat ac adnoddau yn rheolaidd i gydfynd ag anghenion fy nghynulleidfa.

Llythyr Darbwyllo:

· Gallaf ddarbwyllo, dadlau, archwilio materion neu fynegi barn gan ddefnyddio manylion ategol a/neu dystiolaeth berthnasol.

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Gwyddorau cymdeithasol

Pobl mewn cymdeithas, yr economi a busnes

· Gallaf egluro sut y caiff anghenion grŵp yn fy nghymuned leol eu cefnogi.

· Gallaf gasglu a defnyddio gwybodaeth am ffurfiau o wahaniaethu yn erbyn pobl mewn cymdeithasau ac ystyried yr effaith y mae hyn yn ei gael ar fywydau pobl.

Gweithgareddau Braille RNIB

Pwnc

Maes Canolbwyntio

Amcanion Allweddol

Iechyd a lles

Lles meddyliol, emosiynol, cymdeithasol a chorfforol

Lles Cymdeithasol:

· Wrth i mi ddarganfod yr hawliau y mae gennyf i ac eraill yr hawl iddynt, gallaf ymarfer yr hawliau hyn yn briodol a derbyn y cyfrifoldeb sy'n mynd law yn llaw â nhw. Rwy'n dangos parch at hawliau pobl eraill.

· Rwy'n cydnabod bod gan bob unigolyn gyfuniad unigryw o alluoedd ac anghenion. Rwy'n cyfrannu at wneud fy nghymuned ysgol yn un sy'n gwerthfawrogi unigolion yn gyfartal ac sy'n lleoliad croesawgar i bawb.

Lles Corfforol:

· Rwy'n dysgu sut i asesu risg a'i reoli, i ddiogelu fy hun ag eraill, ac i leihau'r niwed posibl, lle y bo'n bosibl.

Astudiaethau cymdeithasol

Pobl, digwyddiadau o'r gorffennol a chymdeithasau

· Gallaf ddewis defnyddio ffynonellau cynradd ac eilaidd i ymchwilio i ddigwyddiadau yn y gorffennol.

· Gallaf gymharu a chyferbynu cymdeithas yn y gorffennol gyda fy nghymdeithas fy hun a chyfrannu at drafodaeth am y tebygrwydd a'r gwahaniaethau.

· Gallaf drafod pam fod pobl a digwyddiadau o amser penodol yn y gorffennol yn bwysig, gan eu gosod mewn dilyniant hanesyddol.

Llythrennedd a Saesneg

Gwrando a siarad

· Pan fyddaf yn ymgysylltu ag eraill, gallaf ymateb mewn ffyrdd sy'n briodol i'm rôl, dangos fy mod yn gwerthfawrogi cyfraniadau pobl eraill a defnyddio'r rhain i adeiladu ar y broses meddwl.

· Wrth i mi wrando neu wylio, gallaf nodi a thrafod y diben, prif syniadau a manylion ategol sydd wedi'u cynnwys yn y testun, a'u defnyddio at ddibenion gwahanol.

· Gallaf ddewis syniadau a gwybodaeth berthnasol, a threfnu'r rhain mewn ffordd briodol at fy niben a defnyddio geirfa addas ar gyfer fy nghynulleidfa.

Darllen

Gall Gweithgareddau Braille RNIB gwmpasu amrywiaeth o ganlyniadau darllen ym mhrofiadau a chanlyniadau Llythrenedd a Saesneg ar gyfer disgyblion sy'n gweithio ar lefel 2.

Er enghraifft:

Argymell Llyfr:

· Gallaf ddewis a darllen, gwrando neu wylio testunau rwy'n eu mwynhau neu sy'n ddiddorol yn fy marn i yn rheolaidd, a gallaf egluro pam fod yn well gen i destunau ac awduron penodol.

Ymchwil Louis Braille:

· Gallaf wneud nodiadau, eu trefnu o dan benawdau addas a'u defnyddio i ddeall gwybodaeth, datblygu fy sgiliau meddwl, archwilio problemau a chreu testunau newydd, gan ddefnyddio fy ngeiriau fy hun fel y bo'n briodol.

Dylai athrawon ddefnyddio eu barn broffesiynol i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Ysgrifennu

Gall Gweithgareddau Braille RNIB gwmpasu amrywiaeth o ganlyniadau ysgrifennu ym mhrofiadau a chanlyniadau Llythrenedd a Saesneg ar gyfer disgyblion sy'n gweithio ar lefel 2.

Er enghraifft:

Ysgrifennu dyddiadur:

· Rwy'n dysgu i ddefnyddio iaith ac arddull mewn ffordd sy'n ymgysylltu â fy narllenwr neu sy'n dylanwadu arno.

Bywgraffiad:

· Drwy ystyried y math o destun rwy'n ei greu, gallaf ddewis syniadau a gwybodaeth berthnasol, a threfnu'r rhain mewn ffordd briodol at fy niben a defnyddio geirfa addas ar gyfer fy nghynulleidfa.

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Gweithgareddau Archwilio ein synhwyrau

Pwnc

Maes Canolbwyntio

Amcanion Allweddol

Iechyd a Lles

Lles meddyliol, emosiynol, cymdeithasol a chorfforol

Lles Meddyliol ac Emosiynol:

· Rwy'n ymwybodol o fy nheimladau ac rwy'n gallu eu mynegi ac rwy'n datblygu fy ngallu i siarad amdanynt.

· Rwy'n deall y gall pobl deimlo'n unig a gellir eu camddeall ac ni chânt eu cynnwys gan bobl eraill. Rwy'n dysgu sut i roi'r cymorth priodol.

Lles Cymdeithasol:

· Wrth i mi ddarganfod yr hawliau y mae gennyf i ac eraill yr hawl iddynt, gallaf ymarfer yr hawliau hyn yn briodol a derbyn y cyfrifoldeb sy'n mynd law yn llaw â nhw. Rwy'n dangos parch at hawliau pobl eraill.

Llythrennedd a Saesneg

Gwrando a siarad

· Pan fyddaf yn ymgysylltu ag eraill, gallaf ymateb mewn ffyrdd sy'n briodol i'm rôl, dangos fy mod yn gwerthfawrogi cyfraniadau pobl eraill a defnyddio'r rhain i adeiladu ar y broses meddwl.

· Wrth wrando a siarad ag eraill at ddibenion gwahanol, gallaf:

· rannu gwybodaeth, profiadau a barn

· egluro prosesau a syniadau

· nodi materion a godwyd a chrynhoi prif bwyntiau neu ganfyddiadau

· esbonio pwyntiau drwy ofyn cwestiynau neu drwy ofyn i eraill ddweud mwy.

· Rwy'n datblygu hyder wrth ymgysylltu ag eraill yn y lleoliad rwy'n dysgu a thu hwnt. Gallaf gyfathrebu yn glir, mewn ffordd mynegol ac rwy'n dysgu i ddewis a threfnu adnoddau yn annibynnol.

Darllen

Gall Gweithgareddau Archwilio ein Synhwyrau RNIB gwmpasu amrywiaeth o ganlyniadau darllen ym mhrofiadau a chanlyniadau Llythrenedd a Saesneg ar gyfer disgyblion sy'n gweithio ar lefel 2.

Er enghraifft:

Gwneud Llyfr Llafar:

· Drwy ddatblygu fy ngwybodaeth am allweddau cyd-destun, atalnodi, gramadeg a gosod, gallaf ddarllen testunau anghyfarwydd â rhuglder, dealltwriaeth a mynegiant cynyddol.

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

Ysgrifennu

Gall Gweithgareddau Archwilio ein Synhwyrau RNIB gwmpasu amrywiaeth o ganlyniadau ysgrifennu ym mhrofiadau a chanlyniadau Llythrenedd a Saesneg ar gyfer disgyblion sy'n gweithio ar lefel 2.

Er enghraifft:

Ailadrodd:

· Gallaf gyfleu gwybodaeth, disgrifio digwyddiadau, egluro prosesau neu gyfuno syniadau mewn ffyrdd gwahanol.

Ysgrifennu barddoniaeth:

· Rwy'n dysgu i ddefnyddio iaith ac arddull mewn ffordd sy'n ymgysylltu â fy narllenwr neu sy'n dylanwadu arno.

Bydd athrawon yn defnyddio eu barn eu hunain i ddewis amcanion priodol ar gyfer anghenion eu dosbarth.

© RNIB, Mawrth 2017 Rhif elusen gofrestredig RNIB 226227 (Cymru a Lloegr), SC039316 (yr Alban) a 1109 (Ynys Manaw)