8
Cyf 5258 Pris 50c Gwener, Ebrill 3ydd 2020 Wythnosolyn y Bedyddwyr SEREN CYMRU Golygyddion: Aled Davies, Denzil John, Judith Morris, John Treharne Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston, Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Ffôn: 01267 245660 Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost. Deunydd / erthyglau i’w gyrru at Aled Davies, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SH [email protected] Nid yw erthyglau na darnau golygyddol o reidrwydd yn adlewyrchu barn aelodau unigol Bwrdd Golygyddol Seren Cymru, a chyfrifoldeb pob awdur unigol yw’r safbwynt a fynegir ganddynt. parhad ar dud. 8 Iesu Grist a Barack Obama myfyrdod ar gyfer Sul y Blodau gan Gwilym Tudur Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i’r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem. Dyma nhw’n torri canghennau o’r coed palmwydd a mynd allan i’w gyfarfod gan weiddi,“Clod iddo! Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi ei fendithio’n fawr! Ie, dyma Frenin Israel!” Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd, “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem. Edrych! dy frenin sy’n dod, ar gefn ebol asen.” (Ioan 12: 12-19) Barack Obama Ym mis Medi 2014 cefais i’r fraint anhygoel o weld Barack Obama yn cyrraedd castell Caerdydd. Roedd heolydd canol Caerdydd yn ffair. Roedd bobl o bobman yn pentyrru ar strydoedd y brifddinas. Amgylchynwyd y castell gan ffens uchel ac roedd swyddogion heddlu ym mhobman; roedd plismyn yn sefyll ar y stryd; plismyn ar doeau’r adeiladau; plismyn ar geffylau ac roedd hyd yn oed plismyn yn nhŵr y castell. Roedd hofrenyddion milwrol yn taranu heibio gan grynu’r ddinas. Roedd llu o fysiau lliwgar yn cludo cynrychiolwyr o bob gwlad i’r castell godidog. Ond, yr oeddwn i yno i weld Arlywydd America ei hun: Barack Obama. Wedi dwy awr o aros, gwibiodd bwystfil o gar enfawr heibio gyda baner Cymru a baner America yn cyhwfan ar ei fonet. Hwn oedd car Barack Obama. Wrth i un o ddynion pwysicaf, mwyaf dylanwadol a mwyaf cŵl y byd fynd heibio, bloeddiodd cannoedd o bobl i’w gyfarch. Nid oes llawer o bobl Cymru yn medru brolio eu bod wedi gweld Barack Obama- neu gar Barack Obama. Ond, gallaf finnau. Hyd nes i mi edrych ar wefan BBC Cymru a chlywed fod Obama wedi cyrraedd mewn hofrennydd ond roedd wedi cael rhywun arall i yrru ei gar. Am siom eithriadol. Mae’r Beibl yn adrodd hanes tebyg ond hanes gwahanol iawn i daith Barack Obama trwy Gaerdydd. Dyma daith Iesu Grist trwy Jerwsalem. Yn debyg i achos Barack Obama, roedd torfeydd enfawr yn Jerwsalem y diwrnod hwnnw: roedd cannoedd o bobl wedi casglu at ei gilydd yno ar gyfer gŵyl arbennig. Roedd y bobl yma’n disgwyl i rywun pwysig gyrraedd. Wrth i’r dorf weiddi, mae’r person yma’n cyrraedd: Iesu Grist. Nid oes ganddo gar bulletproof ; nid oes ganddo ffens enfawr o’i amgylch na miloedd o swyddogion heddlu yn ei warchod. Mae’n marchogaeth i fewn i Jerwsalem ar gefn asyn. Wrth iddo farchogaeth trwy strydoedd Jerwsalem, mae pobl y dorf yn taflu canghennau o goed palmwydd ac yn tynnu eu cotiau i’w rhoi ar y llawr. Pam? Oherwydd dyn pwysig yw’r dyn hwn. Trwy orchuddio’r llawr maent yn atal traed ei asyn rhag cyffwrdd llwch budr y llwybr. Nid dim ond dyn pwysig oedd y gŵr hwn; roedd yn frenin. Wrth i Iesu Grist fynd yn ei flaen, mae’r dorf yn dechrau gweiddi: “Clod iddo!” “Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi ei fendithio’n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!” Maent yn cyhoeddi mai brenin oedd Iesu Grist. Y cwestiwn pwysig i ni yn 2020 ydy: oedd Iesu Grist yn frenin? Os oedd yn frenin yna sut fath o frenin oedd Ef? Oes gan y brenin hwn unrhyw beth i’w wneud gyda fi? Edrychwn ar dri phwynt penodol: 1) Iesu’r Brenin, 2) Iesu’r Brenin Gwahanol ac 3) Iesu’r Brenin Personol. 1. Iesu’r Brenin Ydych chi erioed wedi meddwl am beth sy’n gwneud rhywun yn frenin? Pan oeddwn i’n fachgen ifanc, un o’r swyddi yr oeddwn eisiau eu cael wedi i mi dyfu oedd cael bod yn dywysog Cymru! Nid ‘tywysog’ fel Charles, ond tywysog fel hen dywysogion Cymru: Llywelyn Fawr. Dyma bobl oedd yn rheoli Cymru, yn concro gelynion a chasglu cyfoeth. Ond, un diwrnod rwy’n cofio sylweddoli na fyddaf fyth yn dywysog ar Gymru. Pam? Nid oes gennyf linach na theulu brenhinol. Nid oes gennyf gyfoeth a phŵer brenin. Pan edrychwn ar Iesu Grist, mae pethau yn wahanol iawn. Mae gan Iesu Grist bopeth sy’n gwneud brenin yn frenin. Mae pennod gyntaf Efengyl Ioan yn agor trwy ddweud: “Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Roedd gyda Duw o’r dechrau cyntaf un. Trwyddo

SEREN CYMRU - ReachingFel roedd yr oen yn ddi-nam, roedd Iesu Grist yn gwbl ddi-fai a sanctaidd hefyd. Fel roedd rhaidd lladd yr oen, roedd rhaid aberthu Oen Duw, er mwyn ein hachub

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Cyf 5258 Pris 50cGwener, Ebrill 3ydd 2020

    Wythnosolyn y BedyddwyrSEREN CYMRU

    Golygyddion: Aled Davies, Denzil John, Judith Morris, John Treharne Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston, Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ.

    Ffôn: 01267 245660 Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.Deunydd / erthyglau i’w gyrru at Aled Davies, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SH [email protected]

    Nid yw erthyglau na darnau golygyddol o reidrwydd yn adlewyrchu barn aelodau unigol Bwrdd Golygyddol Seren Cymru, a chyfrifoldeb pob awdur unigol yw’r safbwynt a fynegir ganddynt.

    parhad ar dud. 8

    Iesu Grist a Barack Obamamyfyrdod ar gyfer Sul y Blodau

    gan Gwilym Tudur

    Y diwrnod wedyn clywodd y dyrfa fawr oedd wedi dod i’r Ŵyl fod Iesu ar ei ffordd i Jerwsalem. Dyma nhw’n torri canghennau o’r coed palmwydd a mynd allan i’w gyfarfod gan weiddi,“Clod iddo! Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi ei fendithio’n fawr! Ie, dyma Frenin Israel!” Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae’n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd, “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem. Edrych! dy frenin sy’n dod, ar gefn ebol asen.”(Ioan 12: 12-19)

    Barack ObamaYm mis Medi 2014 cefais i’r fraint anhygoel o weld Barack Obama yn cyrraedd castell Caerdydd. Roedd heolydd canol Caerdydd yn ffair. Roedd bobl o bobman yn pentyrru ar strydoedd y brifddinas. Amgylchynwyd y castell gan ffens uchel ac roedd swyddogion heddlu ym mhobman; roedd plismyn yn sefyll ar y stryd; plismyn ar doeau’r adeiladau;

    plismyn ar geffylau ac roedd hyd yn oed plismyn yn nhŵr y castell. Roedd hofrenyddion milwrol yn taranu heibio gan grynu’r ddinas. Roedd llu o fysiau lliwgar yn cludo cynrychiolwyr o bob gwlad i’r castell godidog. Ond, yr oeddwn i yno i weld Arlywydd America ei hun: Barack Obama. Wedi dwy awr o aros, gwibiodd bwystfil o gar enfawr heibio gyda baner Cymru a baner America yn cyhwfan ar ei fonet. Hwn oedd car Barack Obama. Wrth i un o ddynion pwysicaf, mwyaf dylanwadol a mwyaf cŵl y byd fynd heibio, bloeddiodd cannoedd o bobl i’w gyfarch. Nid oes llawer o bobl Cymru yn medru brolio eu bod wedi gweld Barack Obama- neu gar Barack Obama. Ond, gallaf finnau. Hyd nes i mi edrych ar wefan BBC Cymru a chlywed fod Obama wedi cyrraedd mewn hofrennydd ond roedd wedi cael rhywun arall i yrru ei gar. Am siom eithriadol.

    Mae’r Beibl yn adrodd hanes tebyg ond hanes gwahanol iawn i daith Barack Obama trwy Gaerdydd. Dyma daith Iesu Grist trwy Jerwsalem. Yn debyg i achos Barack Obama, roedd torfeydd enfawr yn Jerwsalem y diwrnod hwnnw: roedd cannoedd o bobl wedi casglu at ei gilydd yno ar gyfer gŵyl arbennig. Roedd y bobl yma’n disgwyl i rywun pwysig gyrraedd. Wrth i’r dorf weiddi, mae’r person yma’n cyrraedd: Iesu Grist. Nid oes ganddo gar bulletproof ; nid oes ganddo ffens enfawr o’i amgylch na miloedd o swyddogion heddlu yn ei warchod. Mae’n marchogaeth i fewn i Jerwsalem ar gefn asyn. Wrth iddo farchogaeth trwy

    strydoedd Jerwsalem, mae pobl y dorf yn taflu canghennau o goed palmwydd ac yn tynnu eu cotiau i’w rhoi ar y llawr. Pam? Oherwydd dyn pwysig yw’r dyn hwn. Trwy orchuddio’r llawr maent yn atal traed ei asyn rhag cyffwrdd llwch budr y llwybr. Nid dim ond dyn pwysig oedd y gŵr hwn; roedd yn frenin.

    Wrth i Iesu Grist fynd yn ei flaen, mae’r dorf yn dechrau gweiddi: “Clod iddo!” “Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi ei fendithio’n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!”Maent yn cyhoeddi mai brenin oedd Iesu Grist. Y cwestiwn pwysig i ni yn 2020 ydy: oedd Iesu Grist yn frenin? Os oedd yn frenin yna sut fath o frenin oedd Ef? Oes gan y brenin hwn unrhyw beth i’w wneud gyda fi? Edrychwn ar dri phwynt penodol: 1) Iesu’r Brenin, 2) Iesu’r Brenin Gwahanol ac 3) Iesu’r Brenin Personol.

    1. Iesu’r BreninYdych chi erioed wedi meddwl am beth sy’n gwneud rhywun yn frenin? Pan oeddwn i’n fachgen ifanc, un o’r swyddi yr oeddwn eisiau eu cael wedi i mi dyfu oedd cael bod yn dywysog Cymru! Nid ‘tywysog’ fel Charles, ond tywysog fel hen dywysogion Cymru: Llywelyn Fawr. Dyma bobl oedd yn rheoli Cymru, yn concro gelynion a chasglu cyfoeth. Ond, un diwrnod rwy’n cofio sylweddoli na fyddaf fyth yn dywysog ar Gymru. Pam? Nid oes gennyf linach na theulu brenhinol. Nid oes gennyf gyfoeth a phŵer brenin. Pan edrychwn ar Iesu Grist, mae pethau yn wahanol iawn. Mae gan Iesu Grist bopeth sy’n gwneud brenin yn frenin. Mae pennod gyntaf Efengyl Ioan yn agor trwy ddweud: “Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf. Roedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Roedd gyda Duw o’r dechrau cyntaf un. Trwyddo

  • 2Seren Cymru Gwener, Ebrill 3ydd 2020

    O Gadairy GolygyddJohn P Treharne

    Seren Cymru a’r Coronafeirws

    Fe fydd llawer wedi newid yn ein ffordd o fyw yn ystod yr wythnosau diwethaf, wrth i ni gyfyngu ar ein symudiadau. Daeth oedfaon a chyfarfodydd eglwysig i ben dros dro, ac rwyn siwr y byddwn yn gweld eu colli. Golyga hyn wrth gwrs y bydd gennym lai o newyddion i’w rannu gyda chi o blith ein heglwysi.

    Mewn cyfnod heriol o hunan-ynysu gobeithiwn y bydd y copi wythnosol o’r Seren a fydd yn glanio drwy’ch drws yn dod a neges o gysur a gobaith i chi. Bydd llawer yn derbyn copi yn uniongyrchol yn y post, ac eraill yn derbyn trwy eu siop bapur newydd lleol.

    Ond bydd rhai yn cael eu dosbarthu gan ddosbarthwr lleol yn yr eglwysi, ac yn y cyfnod yma o hunan-ynysu, rydym yn pwyso ar y dosbarthwyr hynny i beidio â cheisio mynd o ddrws i ddrws yn danfon copïau o’r Seren. Y peth gorau ar hyn o bryd yw i gadw’r rhifynnau hynny yn ddiogel hyd nes y daw cyfnod o lacio ar ein symudiadau.

    Mae’n fwriad gan yr Undeb, er mwyn cefnogi aelodau ein heglwysi yn y cyfnod dyrys hyn, i roi copi o’r Seren ar wefan yr Undeb yn wythnosol tra pery y cyfyngiadau llym hyn, a bydd modd ei lawr-lwytho oddi yno yn rhad ac am ddim. Bydd y cynnwys dros y misoedd nesaf yn wahanol - mwy o erthyglau ac eitemau defosiynol. Yn hynny o beth buasem yn ddiolchgar iawn o dderbyn unrhyw gyfraniadau gan ein darllenwyr - ambell lythyr, gair o anogaeth, gweddi, myfyrdod, erthygl. Gyrrwch eich deunydd at [email protected] Diolch!

    Tan glo i atal twymyn

    Wrth i mi ysgrifennu hyn heddiw, mae’r Prif Weinidog newydd gyhoeddi mesurau tipyn mwy llym er mwyn ceisio atal lledaeniad yr haint Corona. Dyma nhw yn fras:* Siopa am bethau angenrheidiol yn unig. * Un math o ymarfer corff y dydd, ar ein pen ein hunan neu gydag aelod o’r teulu. * Cawn fynd allan i gael moddion neu i ofalu am rywun bregus. * Cawn deithio i’r gwaith, os yw’n gwbl hanfodol.

    Cafodd y mesurau eu cyhoeddi er mwyn ceisio arafu lledaeniad y feirws a lleihau y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd. Gwnaeth hyn i mi feddwl am rywbeth tebyg yn hanes pobl Israel yn yr Aifft. Roedd Duw wedi cyhoeddi pla ofnadwy i ddilyn y naw pla cyntaf – sef lladd pob mab hynaf yn y wlad. Ar noson arbennig byddai angel dinistriol yn dod i weithredu’r pla olaf.Ond roedd yr Arglwydd wedi darparu ffordd i blant Israel gael eu diogelu rhag y pla. Roedd hyn yn cynnwys cloi eu hunain yn eu tai o amser y machlud hyd y bore. “nid oes neb ohonoch i fynd allan trwy ddrws ei dŷ hyd y bore.” Yn ogystal â hynny, roedd rhaid lladd oen blwydd, a phaentio rhywfaint o waed yr oen o gwmpas y drws. Pan fyddai’r angel yn gweld y gwaed o amgylch drws y tŷ byddai’n pasio heibio (Passover). Ac mae hyn yn gysgod clir iawn o Efengyl Iesu Grist. Ef yw “Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd.”

    Fel roedd yr oen yn ddi-nam, roedd Iesu Grist yn gwbl ddi-fai a sanctaidd hefyd. Fel roedd rhaidd lladd yr oen, roedd rhaid aberthu Oen Duw, er mwyn ein hachub ni. Fel roedd rhaid paentio’r gwaed o gwmpas drws y tŷ, mae’n rhaid i ni gredu’n bersonol yn aberth Crist Iesu yn ein lle. Rhaid rhoi gwaed Crist rhwng fy mhechod i a digofaint Duw. Yna cawn brofi maddeuant a rhyddhad, wrth i gondemniad Duw basio heibio i ni. Gadewch i ni wneud yn siwr ein bod wedi’n cloi i mewn yng Nghrist!

    Ymateb Undeb Bedyddwyr Cymru i’r Coronafeirws

    Mae swyddfa Undeb Bedyddwyr Cymru bellach ynghau a’r holl staff yn gweithio o adref. Mae galwadau ffôn i’r swyddfa yn cael eu hailgyfeirio at aelodau staff yr Undeb. Mae staff yr Undeb ar gael trwy e-bost neu alwad ffôn ac maent yn hapus i gynnig cefnogaeth a chyngor i’r Eglwysi lle bo modd. Os yn bosib, bydd cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal trwy ddefnyddio cynadledda ar-lein. Dylai’r capeli aros ynghau a dylai’r holl weithgareddau ddod i ben nes clywir yn wahanol. Er mwyn eglurder ni ddylid cynnal unrhyw ffrydio ar-lein o adeilad y capel, gan y byddai hynny’n golygu teithio diangen, yn ogystal â chyfarfod ag eraill. Mae yna bellach ddigonedd o adnoddau ar-lein ar gael wrth i eglwysi ymateb i’r sefyllfa. Gweler y dudalen sydd ar gael ar ein gwefan i gael rhestr o’r adnoddau ar-lein. Bydd pob diweddariad ar wefan

    www.buw.org.uk

  • Seren Cymru Gwener, Ebrill 3ydd 20203

    Cofio Vivian Williams

    (rhan o ddatganiad Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru)

    Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Vivian Williams, Llanelli. Rydym yn cydymdeimlo yn gywir iawn â Janet, ei briod oes, a’i ddau fab. Roedd yn hannu o ardal Caerfyrddin ac roedd ganddo feddwl y byd o’i fam eglwys, Bethania Talog. Dechreuodd fel swyddog gyda’r TSB cyn cael ei dderbyn fel plismon. Roedd wedi ei ddyrchafu i fod yn Arolygydd cyn iddo ymddeol yn gynnar. Yn dilyn hynny, oherwydd afechyd, dim ond blwyddyn a gyflawnodd fel swyddog gweinyddol gydag Undeb Bedyddwyr Cymru. G w a s a n a e t h o d d y b y d Cristnogol a nifer o fudiadau elusennol eraill yn ddiflino. Bu’n Drysorydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru am flynyddoedd yn ogystal ag Adran Y De. Bu’n Drysorydd Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin a Cheredigion. Bu’n weithiwr diwyd a dyfal ym Methel Llaneli, yn ysgrifennydd a diacon a chadwodd ef a’i briod Janet ddrws agored i weinidogion o bob enwad. Bu hefyd yn Lywydd Undeb Bedyddwyr Cymru ac roedd yn bregethwr lleyg cymeradwy. Dywedodd y Parch Irfon Roberts amdano: “Brwydrodd yn ddewr yn erbyn ei afiechyd olaf. Er yn orweddog ar wely ni chollodd un adeg ddiddordeb yn hanes yr eglwysi a’r enwadau. Bu ei briod yn hynod ofalus ohono ac yn gefnogol iddo ym mhob ymgymeriad o’i eiddo. Bu’n hedd geidwad, ond, yn bwysicach, bu’n geidwad hedd. Roedd ei frwdfrydedd yn heintus a chafodd wir fwynhad o baratoi’r medalau i’w cyflwyno i ffyddloniaid yr Ysgol Sul. Cristion o’r iawn ryw oedd Vivian, didwyll a hawddgar. Rwyf yn sicr ein bod i gyd yn gallu uno i ddweud - Diolch i Dduw am roi Vivian i ni a choffa da amdano”.

    Gweddi o ganol arswyd gan y Tad Richard Henrick

    Cyfieithiwyd y weddi gan Denzil I John

    Mae’r Brawd Richard yn offeiriad Fransiscaidd yn yr Iwerddon. Bydd ymweld â YouTube yn cynnig cyfweliad rhyngddo â Brooke Taylor. Gwerthfawr.

    Oes, mae ’na ofn.Oes mae ’na ynysu.Oes mae ’na brynu gorffwyll,Oes mae ’na salwch.Oes mae ’na hyd yn oed farwolaeth.Ond, dywedir eu bod yn Wuhan, hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o sŵnyn medru clywed yr adar eto.Dywedir ar ôl ond ychydig wythnosau o lonyddwch,nad yw’r awyr yn llawn o fwg trwchus,ond yn llwydlas glir.Dywedir bod yn strydoedd Assisibobl yn canu i’w gilydd ar draws sgwariau gwagyn cadw eu ffenestri ar agor fel bod y sawl sydd yn unigyn medru clywed y teuluoedd o’u cwmpas.Dywedir bod gwesty yng Ngorllewin Iwerddonyn cynnig prydau am ddim a’u cludo i gartrefi’r sawl sy’n gaeth i’w tai. Heddiw mae gwraig ifanc rwy’n ei hadnabodYn brysur yn dosbarthu taflen fechan gyda’i rhif ffônar draws ei chymdogaeth,fel bod yr oedrannus yn medru galw ar rhywun.Heddiw mae Eglwysi, Synagogau, Mosgiau a Themlauyn paratoi i groesawu a chysgodi’r digartref, y claf a’r blinedig;Ar draws y byd mae pobl yn arafu ac yn myfyrio,ar draws y byd bydd pobl yn edrych ar eu cymdogion mewn ffyrdd newydd,ar draws y byd mae pobl yn deffro i realiti newydd,at ba mor fawr ydym mewn gwirionedd,at ba mor wan ydym o ddifrif,at ddiffyg rheolaeth sydd genymi’r hyn sydd wir o ddifrif y modd i garu.

    Felly cofiwn a gweddiwn,oes mae yna ofn, ond nid oes rhaid meithrin casineb,oes mae yna ynysu, ond nid oes rhaid i ni ganiatau unigrwydd.oes mae yna brynu gorffwyll, ond nid oes rhaid cael cybydd-dod,oes, mae yna salwch, ond nid oes rhaid cael clefyd ysbrydoloes mae yna farwolaeth, ond gellir o hyd gael adnewyddiad o gariad.Deffrowch i’r dewis sydd gennych o sut mae byw.Heddiw, anadlwch,gwrandewch tu hwnt i grochlefain y panigar yr adar yn canu eto.Mae’r awyr yn clirio, y gwanwyn yn doda byddwn o hyd yn cael ein cwmpasu gan gariad.Agorwch ffenestri eich enaid ac er na fyddwch yn medru cyffwrdd ar draws y sgwar gwagCanwch.Gwthiwn tu hwnt i ofn a darganfod gobaith eto. Amen

  • Duw gyda ni

    Darlleniad:Josua 1: 10-18

    Y mae lledaeiniad carlamus haint y Coronafeirws bellach yn achos pryder a dychryn i gynifer ac ymhlith ymdrechion y Llywodraeth i geisio lleihau ei effeithiau andwyol cyflwynwyd nifer o fesuriadau canllaw. Yn eu plith mae cyfyngiad ar ein symud a’r anghenraid i ymgadw rhag cyfarfod mewn niferoedd lluosog er ceisio llesteirio trosglwyddo’r haint i eraill. Yn sgil hynny derbyniwyd cyfarwyddyd gan y llysoedd enwadol y dylem roi heibio oedfaon y Sul am gyfnod amhenodol ac er bod hynny wedi bod yn benderfyniad anodd y mae’n benderfyniad doeth yn wyneb sefyllfa enbydus.

    Er na fedrwn gyfarfod mewn oedfa, nid yw hynny yn ein gwahardd rhag rhannu â’n gilydd o gylch y Gair mewn defosiwn a myfyrdod wythnosol trwy gyfrwng y we. Ar hyd coridorau amser daw acenion y llais a glywyd gan bobl Dduw dro ar ôl tro. Llais ydyw sy’n llefaru i ganol ein hamseroedd cythryblus, yn llais i greu hyder ynom ac i gadarnhau’n ffydd. Y llais sy’n mynegi’r neges oesol: ‘Yr wyf fi gyda chwi.’ Pan fydd cymaint o bethau mewn bywyd yn ein herio a’n hanesmwytho, pan ddaw siom i fwrw’n hechel a gofid i’n hamgylchynu, os gwnawn wrando’n ddigon astud fe glywn acenion yr addewid sy’n treiddio i ganol ein sefyllfaoedd a’n hamgylchiadau: ‘Yr wyf fi gyda chwi.’ Pan fydd ein cynlluniau yn methu cyflawni’r disgwyl a’n trefniadau arferol heb gwrdd â’r gofyn. Pan fydd ofn mewn calon a chyfyngiadau bywyd yn llesteirio’n byw, os gwnawn wrando’n ddigon astud

    cawn glywed y llais sy’n cyhoeddi: ‘Yr wyf fi gyda chwi.’ Bu acenion y llais hwnnw’n ddigon i ddwyn hyder ac argyhoeddiad i rhai o gymeriadau’r Beibl. Rhoes i Isaac ymgeledd rhag dychryn: ‘Myfi yw Duw Abraham dy dad; paid ag ofni, oherwydd yr wyf fi gyda thi.’ (Genesis 26:24). Yn ddigon i gysuro Jacob yn ei wewyr: ‘Wele yr wyf gyda thi, a chadwaf di pa le bynnag yr ei, ac ni’th adawaf nes imi wneud yr hyn a ddywedais.’ (Josua 1:5) Yn ddigon i Jeremeia yng nghanol ei ansicrwydd a’i gaethiwed: ‘Paid ag ofni o’u hachos, oherwydd yr wyf fi gyda thi i’th waredu,’ medd yr Arglwydd. (Jeremeia 1:8) I ddisgyblion dyddiau’i oes, ac yn yr un modd i’w ddisgyblion ym mhob oes, fe erys addewid Iesu Grist: ‘Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.’ (Mathew 28:20) Y mae’r dweud hwnnw’n sefyll, yn addewid y medrwn ymddiried ynddo yn awr ac i bob yfory newydd a ddaw i’n rhan. Sut bynnag y mae arnom heddiw, mi fydd ein ffydd a’n hymddiriedaeth yn Nuw ac yn addewidion ei Air yn fodd i’n cynnal.

    Trwy bob storm a thywydd garw,Trwy bob gwynfyd pur a ddawMi fydd Ef yn siwr o gynnalA’n cysgodi rhag pob braw;Ac wrth gerdded ‘mlân i’r ‘forySydd â’i lwybrau eto’n ddu –Fe rydd oleuni, fe rydd oleuniFy Arglwydd cu. (P.M.T.)

    Bendith Duw a’i ymgeledd a fyddo i’n rhan.

    myfyrdod gan y Parch Peter M Thomas mewn cyfnod o ofid ac ansicrwydd

    Cofiwch yrru unrhyw ddeunydd ar gyfer Seren Cymru at:

    [email protected]

    PWYSIG:

    NODERGOHIRIO

    CYFARFOD Y SENANA

    Bellach ni chynhelir Cyfarfodydd Blynyddol

    Adran Y Chwiorydd (Senana) Cymru

    yn Eglwys y Bedyddwyr Caersalem

    Cilgwyn, Trefdraeth SA42 0QS

    ar Mai 6ed, 2020oherwydd y cyfyngu

    yn dilyn y Coronafeirws

    Ffrindiau’r Cwlwm!

    Daeth yr adeg honno o’r flwyddyn rownd eto ac rydwi’n cywain stwff ar gyfer Cwlwm Mai nawr. Unrhyw beth diddorol sy’n digwydd yn eich cymanfa, ardal neu gapel, cerdd, rysait, erthygl ar eich dewis bwnc, fe fyddwn yn falch iawn o’i derbyn a’i chyhoeddi yn rhifyn Mai.

    Os oes gennych lun i’w anfon hefyd gorau oll. Mae’r cyfeiriad yn hen rifynnau’r Cwlwm ond dyma fe eto:

    Carn Ingli, 97 Ffordd y Coleg, Rhydaman, Sir Gâr. SA18 2BTneu [email protected]

    Diolch ymlaen llaw ac mewn llawn hyder ffydd. Einir.

    Cyfeillion y Seren£25.00 – Mr Clive Jackson,

    Abergwaun, Sir Benfro

    4Seren Cymru Gwener, Ebrill 3ydd 2020

  • DUW CARIAD YW

    Dyma adnod y bu sawl un ohonom yn adrodd pan yn blant. Fe’i ceir yn 1 Ioan 4:8 & 16. Er yn fach eto mae’n fawr! Cred rhai bod y geiriau’n dweud mai enw arall ar gariad yw Duw. Ond nid dyna eu hystyr. Yn hytrach dweud y mae’r geiriau bod cariad yn rhan hanfodol o natur Duw. Ni all Duw fod ond yn gariadlon oherwydd mae cariad yn llosgi’n Ei galon. Ef felly yw ffynhonnell cariad. Ac mae Ei gariad Ef yn rhagori ar bob math o gariad. Mae cariad Duw yn llifo ymhlith Personau Dwyfol y Drindod Sanctaidd. Nid felly duw’r Mwslim nac unrhyw dduw arall. Yn wir cymaint cariad y Duwdod fel ei fod yn gorlifo i greu bodau dynol i’w caru ac iddynt ei garu Ef yn eu tro! Er i Dduw fwriadu i’w greaduriaid ei garu Ef eto gwrthryfela’n Ei erbyn fu eu hanes. Ond cymaint cariad Duw at ddyn fel bod y cariad hwnnw wedi trefnu ffordd i’w achub o’i bechod yn erbyn ei Greawdwr. Halodd Duw Ei Fab Ei Hun i’r byd i alw ar ddynion i ddychwelyd ato Ef (Ioan 3:16). Ar ben hyn o ddod yn ôl at Dduw caiff dyn ei garu’n angerddol ac yn anfeidrol ganddo Ef. Agape yw’r gair Groeg i ddisgrifio natur cariad Duw at ddyn. Â’r un cariad y carodd y Tad y Mab y mae’r Mab yn caru Ei bobl (Ioan 15:9). Rhyfeddol meddwl bod Duw yn caru dyn pechadurus. Mae Ei sancteiddrwydd yn condemnio dyn am ei bechod ond mae Ei gariad am ei achub ohono. A dyna gymhelliad mawr Duw dros weithio o blaid dyn. Rhaid oedd Calfaria oherwydd sancteiddrwydd Duw; posibl oedd Calfaria oherwydd cariad Duw. Ydych chi’n ymwybodol o gariad Duw tuag atoch? Ystyrioch chi erioed gymaint mae Duw yn eich caru? Ac a ddiolchwch iddo Ef am eich caru’n rhydd a rhad?

    Dyma gariad fel y moroedd,tosturiaethau fel y lli:T’wysog bywyd pur yn marw,marw i brynu’n bywyd ni.Pwy all beidio â chofio amdano?Pwy all beidio â thraethu’i glod?Dyma gariad nad â’n angoftra bo nefoedd wen yn bod.

    Gwilym Hiraethog

    Peter Harries Davies

    Seren Cymru Gwener, Ebrill 3ydd 20205

    Gobaith Newydd yn Iesu

    Mae Capel Gomer yn eglwys ifanc yn ninas Abertawe, a sefydlwyd gan Gymanfa Gorllewin Morgannwg ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Dan ofal y Parch J Derek Rees, mae’r eglwys wedi gweld nifer o bobl ifainc yn dod i adnabod yr Arglwydd Iesu a thyfu yn eu ffydd.

    Dyma stori Mia …Fe wnes i glywed am Iesu y tro cyntaf fel plentyn bach yn yr Ysgol Sul. Ond, er i imi fynychu’r Ysgol Sul doeddwn i ddim yn teimlo unrhyw gysylltiad â Duw a doeddwn i ddim rili yn credu ynddo. Felly, ar ôl dechrau yn yr Ysgol Gyfun, gwnes i stopio mynychu’r capel yn llwyr.

    Ond, ar ôl i mi droi’n 17 mlwydd oed, dechreuais gwestiynnu a oedd yna Dduw. Ar ôl ychydig fisoedd o ystyried a chwilio, teimlais fy mod yn credu yn Nuw a dechreuais deimlo cysylltiad gydag Ef. Tua’r un amser, cefais wahoddiad i fynd i gyfarfod cinio Capel Gomer, Abertawe ar bnawn Sul. Yno, clywais bregeth ar sut wnaeth Iesu farw gan gymryd arno’r gosb am ein pechod, a’n bod ni felly yn gallu cael perthynas gyda Duw a byw gydag Ef. Am wythnos a hanner dyna’r cwbl roeddwn yn gallu meddwl amdano. Dechreuais ymchwilio i mewn i’r Iesu a’r Beibl ac ailfeddwl fy mywyd fel pechadur. Roedd yn dechrau dod yn amlwg i mi bod Duw ar waith yn fy mywyd. Roeddwn i’n gwybod yn fy nghalon bod angen Duw yn fy mywyd, felly gwnes i weddïo am faddeuant a gofyn iddo ddod i’m calon.

    Ers dod yn Gristion, rwyf wedi bod yn mynd i Gapel Gomer bob wythnos. Mae perthynas ag Iesu wedi newid fy mywyd, rwyf yn gallu gweld hynny ac mae pobl o’m cwmpas hefyd wedi sylwi. Rwy’n fwy hapus, rwy’n pryderu llai ac rwy’n fwy hyderus. Nawr, bron i flwyddyn ar ôl dod yn Gristion, rwy’n edrych ymlaen at gael fy medyddio.Mia Anderson, Abertawe

  • SGYTHIA

    Eleni rydym yn dathlu ac yn diolch am Feibl Cymraeg 1620, sef campwaith y rheithor John Davies o Mallwyd. Cynhaliwyd oedfa yn y Tabernacl Caerdydd yn ddiwedar i ddiolch am y campwaith hwn. Rhai blynyddoedd yn ôl cyhoeddwyd nofel gan y diweddar Gwynn ap Gwilym yn adrodd hanes y gwaith arbennig hwn. Yma cawn adolygiad o’r nofel, gyda diolch i wefan Mudiad Efengylaidd Cymru am gael ei gyhoeddi.

    Cymharol brin yw ein gwybodaeth am y cyfnod modern cynnar heddiw. Yn gyffredinol mae’r cyfnod rhwng y Diwygiad Protestannaidd a ddechreuodd yn 1517 a’r Chwyldro Ffrengig yn 1789 yn amhoblogaidd, eithriad yw’r diddordeb Cristnogol. Wedi dweud hynny, mae’n gyfnod ffurfiannol yn hanes Cymru, ac yn hanes Ewrop. Felly, mae’n braf gweld nofelau cyfoes yn ymgodymu â chyfnod mor bwysig. Eleni yng Nghaerdydd, enillodd Mari Williams Wobr Goffa Daniel Owen am Ysbryd yr Oes. Un o brif gymeriadau’r nofel honno yw John Penry, y Piwritan cynnar. Nofel a gyhoeddwyd sy’n ymwneud â’r cyfnod hwn yw Sgythia gan Gwynn ap Gwilym. Yn y nofel cawn gipolwg ar Dr John Davies, Rheithor Mallwyd, swydd y gwasanaethodd yr awdur yntau ynddi ganrifoedd yn ddiweddarach. Dyn amryddawn ac aml ei ddiddordebau oedd John Davies: Cymro brwd, ysgolhaig o’r radd flaenaf, ffigwr pwysig yn ei gymdeithas, diwinydd, hanesydd, hynafiaethydd, ieithydd a mwy; dyneiddwyr o’r iawn ryw, yn wir. Un a yfodd yn helaeth o ffynhonnau amrywiol y Dadeni Dysg, y mudiad hwnnw a bwysleisiodd ymhlith nifer o bethau eraill yr angen i ddychwelyd at glasuron Groeg a Rhufain – a’r Hebraeg ar y naill law, a’r Diwygiad Protestannaidd a fynnai mai’r Beibl, a’r Beibl yn unig, yw sylfaen y grefydd Gristnogol ar y llall. Gwelwn y ddwy elfen hon yn uno wrth i John Davies ysgrifennu ar berthynas y Gymraeg a’r Hebraeg, a golygu Beibl William Morgan ymhlith cyhoeddiadau eraill. Mae’r diweddar Gwynn ap Gwilym yn amlygu ei ddealltwriaeth o’r cyfnod i’r dim, yn ddi-os mae’n manteisio

    ar ei wybodaeth fanwl am y cyfnod ac am John Davies. Dyma i ni ddarlun o hanes mewn nofel. Yn wir, mae’r nofel yn ddrych creadigol a thriw i fywyd ac oes John Davies Mallwyd. Efallai y gwna’r awdur hyn yn anymwybodol, ond fe ddengys nad yw’r ffin yn glir rhwng hanes – sef y gorffennol wedi’i gofnodi mewn naratif – a nofelau hanesyddol – sef naratif o ffuglen wedi’i wreiddio yn y gorffennol. Rhaid peidio ag anghofio fod yna broses greadigol i ysgrifennu hanes. Llyfr hanes yw Sgythia, a’r prif gymeriad yw’r dyn hanesyddol Dr John Davies Mallwyd. Does dim angen amau dibynadwyedd y nofel. Mae’r golwg dynol hwn ar John Davies, ei deulu a’i fyd yn mynd â’r awdur y tu hwnt i ffiniau hanes yn unig. Down i adnabod John Davies yn berson o gig a gwaed. Cawn hanes y gwrthrych yn ddidwyll a chywir, ond hefyd yn greadigol, gyda’r awdur yn ymwybodol o ddynolrwydd ei gymeriad. Mae’r wybodaeth gefndirol mor amlwg, gelwir y llyfr yn nofel heb wneud anghyfiawnder â’r astudiaeth fanwl a wnaethpwyd. Ar yr un pryd gelwir y llyfr yn hanes heb wneud anghyfiawnder â’r broses greadigol a’i lluniodd. Caiff John Davies ei osod yng nghanol datblygiadau mwyaf ei oes, yn llenyddol, yn ddiwinyddol ac yn gymdeithasol. Cawn bortread o’r gŵr hynod yn Gristion diwygiedig a chadarn ei ddiwinyddiaeth, ond hefyd yn un a chanddo galon dyner sy’n agor i bawb o’i gwmpas. Darlunnir un oedd â diddordeb brwd a deallusol yn llenyddiaeth ei wlad oherwydd ynddi y gwelir Cymru ar lawr y canrifoedd. Fe’i gwelir hefyd fel un a geisiai wella byd ei blwyfolion wrth wella’r ffyrdd, codi pontydd a sefydlu elusen ar gyfer rhai mewn angen. Dywedwyd eisoes mai un dan ddylanwad y Diwygiad Protestannaidd oedd John Davies.Yn y cyswllt hwn dilyna Jean Calvin, y diwinydd enwog o Genefa ac un o feddylwyr amlycaf Cristnogaeth. Wrth i’r nofel ddilyn patrwm cronolegol, gwelwn bryder John Davies wrth i’r Eglwys Anglicanaidd fynd yn fwyfwy Arminaidd ac agosáu’n ddiwinyddol at yr Eglwys Babyddol dan ddylanwad Archesgob Laud yn yr ail ganrif ar bymtheg. Wrth weld hyn o safbwynt John Davies gwneir dau beth. Manteisir ar allu’r nofel fel cyfrwng I fynegi safbwynt goddrychol unigolion o ddigwyddiadau mawr. Wrth wneud

    hyn, cawn ddehongliad o ymateb John Davies yr unigolyn yn profi ac yn pryderu am effeithiau ansefydlogrwydd crefyddol a gwleidyddol y cyfnod. Nid yn un â golwg cyfundrefnol, fodd bynnag, ond un yn poeni am y bobl yn ystod y cythrwfl a chyflwr ysbrydol y bobl hynny. Fel un a chanddo berthynas ddiddorol â Phiwritaniaeth, dymunodd weld pregethu yn cael lle canolog yn y gwasanaethau ac i’r Eglwys fynd yn llai seremonïol. Yn wir, trwy gyfrwng y nofel, cynigir cipolwg go iawn ar y cyfnod o safbwynt person a oedd yn union yn llygad y storm. Beth sydd a wnelo hyn â ni heddiw yn yr unfed ganrif ar hugain? Bellach, mae damcaniaethau llenyddol yn anghyfforddus o feddwl fod llenyddiaeth yn gallu cynnig arweiniad moesol. Efallai fod hynny’n wir ar adegau; ond a yw hynny’n deg am y nofel hon? A oes ganddi neges i Gymru heddiw? Gwlad sydd wedi cefnu i bob pwrpas ar ei hetifeddiaeth Gristnogol. Nid yw Cymru’n wlad Gristnogol bellach, waeth i ni beidio â thwyllo ein hunain. Yn y nofel, gwelwn ddyn a oedd yn Gristion o argyhoeddiad ac yn dymuno i eraill dderbyn yr un ffydd ag ef. Doedd y bobl o’i gwmpas ddim yn credu, a gweithiodd yn ddiwyd i’w cyrraedd. Ar ôl derbyn ei alwad, aeth i alw eraill. Ar ôl dod yn un o ddefaid Crist, daeth John Davies yn fugail. Codir cwestiynau hefyd am ymwneud y Cymro o Gristion â diwylliant brodorol ei wlad. Rhaid cyfaddef y gallai Cymru a’r Gymraeg fod wedi diflannu heb weithgarwch pobl fel Dr John Davies Mallwyd. Ni fyddem yn canu yn yr anthem ‘gwlad beirdd a chantorion’, os byddem yn canu’r anthem o gwbl! Un ag angerdd dros gofnodi hanes ei wlad, a chadw ei chyfoeth diwylliannol yn fyw oedd ef. Deilliai o’i gred fod plwraliaeth ddiwylliannol ar y ddaear yn rhywbeth bendithiol. Cefnogir hyn gan nifer o gyfeiriadau yn Genesis, ac yn hanes y Pentecost yn Actau 2, wrth i bawb ddeall y Gair yn eu hiaith eu hunain. Tybed a oes rhai ar dân am gyrraedd pobl ag uniongrededd diwinyddol ynghyd â bod yn frwd dros amddiffyn y diwylliant Cymraeg? Mae Gwynn ap Gwilym wedi gofyn cwestiwn, ac yn sicr mae bywyd John Davies a’i debyg yn codi’r cwestiwn drwy gyfrwng y nofel hon.

    6Seren Cymru Gwener, Ebrill 3ydd 2020

  • Mae llawer o weddïau i’w cael er mwynein helpu i weddïo yn wybodus ar hyn obryd dros ynghanol y pandemig a’ieffeithiau. Cefais hyd i’r rhestr weddi ymaar y we a oedd yn amlwg wedi ei llunio ganberson oedd yn agos at y rhai sydd ar waithyn gofalu ac yn lleddfu effeithiau’r haintyma. Nid yw’r rhestr hon yn hollolgynhwysfawr, wrth gwrs, ond mae’n lle dai ddechrau. Fel credinwyr, credwn fod yDuw sy’n plygu ei glust i wrando ynclywed ein gweddïau i gyd, ac fellygweddïwn:

    1. Dros y rhai sy’n sâl a’r heintiedig:Dduw, iachâ a helpa hwy. Cynnal hwymewn corff ac ysbryd. Atal ymlediad yrhaint.

    2. Dros ein poblogaethau bregus: Dduw,amddiffyn ein henoed a’r rhai sy’n dioddefo glefydau cronig. Cofia’r tlawd a’rdiamddiffyn ym mhob gwlad.

    3. Dros yr ifanc a’r cryf: Dduw, gad iddynnhw ystyried y rhybuddion angenrheidioli’w cadw rhag lledaenu’r afiechyd hwn ynddiarwybod. Wnei di eu hysbrydoli ihelpu?

    4. Dros ein llywodraethau lleol, ac ar boblefel: Dduw, helpa ein swyddogionetholedig wrth iddynt ddyrannu’radnoddau angenrheidiol ar gyfer brwydroyn erbyn y pandemig hwn. Helpa nhw yn ygwaith o ddarparu mwy o brofion.

    5. Dros ein cymuned wyddonol, amarweiniad yn yr ymchwil i ddeall y clefyda chyfleu ei ddifrifoldeb: Dduw, rhowybodaeth, doethineb a llais perswadioliddynt.

    6. Dros y cyfryngau, sydd wedi ymrwymoi ddarparu gwybodaeth gyfoes: Dduw,helpa nhw i gyfathrebu â difrifoldebpriodol heb achosi panig.

    7. Dros ddefnyddwyr y cyfryngau, sy’nceisio gwybodaeth: Dduw, helpa ni i ddodo hyd i’r wybodaeth leol fwyaf defnyddioli’n harfogi i fod yn gymdogion da. Cadwni rhag pryder a phanig, a’n galluogi iweithredu’r strategaethau a argymhellir,hyd yn oed os yw’n costio i ni’n hunain.

    8. Dros y rhai sydd â heriau iechydmeddwl sy’n teimlo’n ynysig, yn bryderusac yn ddiymadferth: Dduw, gad iddyn nhwdderbyn pob cefnogaeth angenrheidioliddynt.

    9. Dros y digartref, sy’n methu ymarferprotocolau pellhau cymdeithasol yn ysystem lloches: y byddi’n eu hamddiffynrhag afiechyd, ac y bydd yna ddarparullochesi ynysu iddyn nhw.

    10. Dros wledydd ar draws y byd sy’ndatblygu, sydd â chymaint o heriau gofaliechyd eisoes: Dduw, tyn ni yn nes at eingilydd yn ein cyfrifoldeb dros wledyddsydd heb yr un adnoddau gofal iechyd âninnau.

    11. Dros genhadon Cristnogol ledled ybyd, yn enwedig mewn ardaloedd sydd âchyfraddau uchel o’r haint: Dduw, rhoeiriau o obaith iddynt, a’u harfogi i garu agwasanaethu’r rhai o’u cwmpas.

    12. Dros weithwyr mewn amrywiaeth oddiwydiannau sy’n wynebu diswyddo achaledi ariannol: Dduw, cadw nhw rhagpanig, ac ysbrydola dy eglwys i’wcefnogi’n hael.

    13. Dros deuluoedd â phlant ifanc gartrefhyd y gellir rhag-weld: Dduw, helpa famaua thadau i bartneru gyda’i gilydd yngreadigol i ofalu bod eu plant yn ffynnu.Dros famau a thadau sengl, y bydd eurhwydweithiau cymorth yn tyfu.

    14. Dros y rhieni na allant aros adref o’rgwaith ond sy’n gorfod dod o hyd i ofal

    i’w plant: Dduw, cyflwyna atebioncreadigol iddynt.

    15. Dros y rhai sydd angen therapïau athriniaethau rheolaidd y mae’n rhaid eugohirio nawr: Dduw, helpa nhw i aros ynamyneddgar ac yn bositif.

    16. Dros arweinwyr busnes sy’n gwneudpenderfyniadau anodd sy’n effeithio arfywydau eu gweithwyr: Dduw, rhoddoethineb i’r menywod a’r dynion hyn,a’u helpu i arwain yn aberthol a thosturiol.

    17. Dros fugeiliaid ac arweinwyr eglwysigsy’n wynebu heriau pellter cymdeithasol:Dduw, helpa nhw i ddychmygu ffyrddcreadigol sut i fugeilio eu cynulleidfaoedda charu eu dinasoedd a’u hardaloedd yndda.

    18. Dros fyfyrwyr coleg a phrifysgol, ymae eu cyrsiau astudio yn newid, y mae eudarlithoedd wedi’u canslo a’u symud, ymae eu graddio yn ansicr: Dduw, dangosiddynt, er bod bywyd yn ansicr, bod moddiddynt ymddiried ynot ti.

    19. Dros Gristnogion ym mhobcymdogaeth, cymuned a dinas: Boed i’thYsbryd Glân ein hysbrydoli i weddïo, i roi,i garu, i wasanaethu, ac i gyhoeddi’refengyl, er mwyn i enw Iesu Grist gael eiogoneddu ledled y byd.

    20. Dros weithwyr gofal iechyd sydd yn yrheng flaen, rydym yn diolch i ti am eugalwad i’n gwasanaethu. Gweddïwnhefyd:

    Dduw, cadw nhw’n ddiogel ac yn iach.Cadw eu teuluoedd yn ddiogel ac yn iach.

    Dduw, helpa nhw i wybod yr hyn allannhw am ddiagnosis a thriniaeth y clefydhwn, yn ogystal â’r protocolau newidiol.

    Dduw, helpa nhw i gadw meddwl clir yngnghanol y panig o’u cwmpas.

    Dduw, gwared hwy rhag pryder.

    Y cyfan yn Enw mawr ein Gwaredwr IesuGrist, Amen.

    Ebrill 3,2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ebrill 3, 2020Y TUDALENNAU CYDENWADOLy4t y4t

    Daliwch i weddïo

    Bydd patrwm bywyd wedi newid ynddirfawr i’r rhelyw ohonom ynddiweddar, wrth i ni hunanynysu ar einhaelwydydd. Bydd hyn yn achosianghyfleustra i lawer, gyda gofid nafedrwn gyflawni ein tasgau arferol.

    Yn y cyfnod rhyfedd yma mae cyfle i nii gyd gymryd cam yn ôl o brysurdebbywyd bob dydd, ac efallai gyflawniambell dasg sydd wedi bod ar ein rhestr‘i’w wneud rhyw ddiwrnod’ ersblynyddoedd: darllen ambell lyfr abrynwyd ond heb ei agor, gwylio ambellffilm na chafwyd cyfle i’w gwylio panymddangosodd am y tro cyntaf,ailgysylltu ag ambell ffrind neu aelod o’rteulu, ymchwilio i hanes teulu, neugofnodi hanes teuluol a rhoi trefn ar henluniau.

    Dros y blynyddoedd rwyf wedi cysylltu

    ag amryw o bobl gan ofyn tybed oesamser ganddynt i baratoi neu addasu neugyfieithu ambell fyfyrdod neu weddi, neufynd ati i gasglu deunyddiau a all fod ofantais a gwerth i eraill. Tybed a fyddentyn barod i gyfieithu neu addasu ambellgyfrol drawiadol sydd gennym yma ynSaesneg y byddai’n dda wrth fersiwnCymraeg ohoni? Yr ateb a gafwyd droeonoedd y bydden nhw wrth eu boddau yngwneud, ond nad oedd amser yn caniatáuhynny o gwbl ynghanol bwrlwmgofalaeth a bywyd bob dydd!

    Wel, efallai mai rfian hyn yw’r amsersy’n cynnig y cyfle hwnnw. Mewn cyfnodpan nad ydym yn medru cyflawni cymainto’n gwaith arferol, tybed a oes yna rywraia fyddai’n barod i ystyried ein helpu iddatblygu deunyddiau y gellir eudefnyddio gan eraill? Gall hyn fod yn

    gyfle i ysgrifennu ambell oedfa neufyfyrdod y gellid eu rhannu yn y cyfnodyma, neu baratoi deunyddiau defosiynoli’w rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol:ffilmiau byr, memes Cristnogol, cerddineu ddywediadau bachog.

    Mae gennym adnoddau hefyd ymasydd wedi eu paratoi yn Saesneg ybyddai’n dda cael eu cyfieithu i’rGymraeg er mwyn eu rhannu ag eraill.Beth am adnoddau i blant ac ieuenctid?Oes gennych chi ddawn i baratoimyfyrdodau byr a bachog, neu daflennigweithgaredd? A oes gennych chisyniadau, neu efallai eich bod yn teimlobod angen rhyw adnodd arbennig?Byddem wrth ein bodd yn clywedgennych os ydych yn gallu ein helpumewn unrhyw fodd.

    Beth am gysylltu gydag Aled Davies:01766 819120 neu [email protected]

    Aled Davies,Cyngor yr Ysgolion Sul

    Gwneud yn fawr o’n hamser

  • 8Seren Cymru Gwener, Ebrill 3ydd 2020

    y crëwyd popeth sy’n bod. Does dim yn bodoli ond beth greodd e.” (Ioan 1: 1-2)Am adnodau rhyfeddol. Pwy yw’r ‘Gair’ yma? Iesu Grist yw’r Gair. Beth mae’r darn yn ddweud am y Gair? Roedd y ‘Gair gyda Duw’. Roedd Iesu Grist wedi bod hefo Duw’r Tad ers cyn cychwyn y bydysawd- ers erioed. Ond nid yn unig roedd y Gair gyda Duw, ‘y Gair oedd Duw’. Iesu Grist ydy Duw: Ef ydy Mab Duw. Yn Iesu Grist mae Duw ei hun wedi dod yn ddyn o gig a gwaed. Y person yma sy’n marchogaeth ar asyn trwy Jerwsalem ydy Mab Duw. Mae gan Iesu’r llinach i fod yn frenin.

    Oes yna unrhyw un yn y bydysawd sydd â mwy o hawl i fod yn frenin na Duw ei hun? Nag oes siŵr iawn. Iesu Grist, Mab Duw, yw’r Brenin. Felly, mae’r Iesu yma sy’n marchogaeth trwy Jerwsalem yn frenin- mae’n frenin oherwydd ei fod yn Fab Duw ac mae’n frenin oherwydd ei fod wedi bod yn gyfrifol am greu popeth.

    2. Iesu’r Brenin GwahanolNid dim ond brenin yw Iesu Grist; mae’n frenin gwahanol. Gwrandewch ar eiriau’r dorf yn Jerwsalem: “Clod iddo! Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi ei fendithio’n fawr! Ie, dyma Frenin Israel! (13)

    Ydych chi erioed wedi disgwyl i rywun edrych yn wahanol i’r ffordd maent yn edrych go iawn? Cymerwch y radio fel enghraifft. Ydych chi erioed wedi dychmygu sut mae rhywun sy’n siarad ar y radio yn edrych? Yna, ymhen ychydig o amser rydych yn cyfarfod â’r person hwnnw wyneb yn wyneb. Nid ydynt yn edrych yn debyg i’r wyneb yr oeddech chi wedi ei roi i’r llais. Mae hyn yn debyg yn achos Iesu Grist. Roedd y dorf o Iddewon oedd yn gweiddi arno yn ei weld fel brenin gwleidyddol: brenin oedd yn mynd i ddefnyddio ei bwerau anhygoel i yrru’r Rhufeiniaid o’u gwlad a rhyddhau Israel. Ond, doedd Iesu Grist ddim wedi dod i’r byd i wneud hynny. Roedd yn frenin gwahanol iawn. Roedd Iesu wedi dod i’r byd i farw.Ar ddiwedd y darlleniad, mae’r Phariseaid yn gwylio Iesu. Dyma beth maen nhw’n ddweud amdano: “Edrychwch, nid ydych yn llwyddo o gwbl. Aeth y byd i gyd ar ei ôl ef.” (19)

    Roedd y Phariseaid yma eisiau tawelu Iesu. Eisiau cau ei geg oherwydd doedden nhw ddim yn hoffi beth roedd yn ei ddweud. Ond methiant fu eu hymdrech. Roedd llawer o bobl yn ei ddilyn gan wrando ar ei neges. Felly, aethant ati i gynllunio i’w ladd. Llwyddiant fu eu hymdrech. O fewn wythnos, roedd Iesu yn sefyll o flaen Pontius Peilat yn Jerwsalem. Gofynnodd ef i’r Iddewon: “Dych chi am i mi groeshoelio eich brenin chi?’ Dyma’r dorf yn gweiddi: ‘Croeshoeliwch ef! Croeshoeliwch ef!’ Dyma nhw’n gwrthod Iesu Grist, Mab Duw, fel Brenin ac yn ei hoelio ar y groes. Ar y groes bu farw Iesu. Ond pam wnaeth Iesu farw?

    Mae’r Beibl yn dysgu fod pawb ohonom wedi gwrthod Duw fel brenin ar ein bywydau. Rydym wedi rhoi ein hunain yn lle Duw ar orsedd ar ein bywydau. Rydym wedi troi at Dduw a dweud: “Dwi ddim eisiau ti. Dwi ddim eisiau gwneud unrhyw

    beth hefo ti. Dwi ddim eisiau ti’n frenin ar fy mywyd i.” Dyma beth yw pechod: ein bod ni wedi gwrthryfela yn erbyn Duw a gwneud ein hunain yn frenhinoedd yn Ei le. Mae pawb ohonom yn gyfrifol am wneud hyn. Rydym yn haeddu cosb Duw am ein gwrthryfel. Rydym wedi gwrthod y Brenin gan goroni ein hunain. Gwrthryfelwyr ydym ni oll.

    Ond nid camgymeriad oedd marwolaeth Iesu Grist ar groes. Nid oedd Iesu yn cael ei goncro gan bŵer oedd yn fwy na Ef. Cynllun Duw oedd hwn; dyma oedd bwriad Duw’r Tad. Dyma beth ddywedodd Iesu ei hun am arwyddocâd ei farwolaeth:Wnes i ddim disgwyl i bobl eraill fy ngwasanaethu i, er mai fi ydy Mab y Dyn; des i fel gwas i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.” (Marc 10:45)

    Ydyn ni’n deall arwyddocâd y geiriau yma? Trwy farw ar y groes mae Iesu Grist yn dangos pam mae Ef yn frenin gwahanol iawn. Mae’n frenin sydd wedi dod i wynebu’r gosb yr oeddem yn haeddu am wrthryfela yn erbyn Duw. Mae’n talu’r pris am ein pechod ac am ein gwrthryfel. Ein lle ni oedd croesbren Calfaria, ond mae Iesu Grist yn wynebu’r groes yn ein lle. Bu farw yn ein lle. Lle chi a fi. Am gariad trawiadol o ryfeddol.

    Mae’n darlleniad ni o Efengyl Ioan yn digwydd wythnos cyn Sul y Pasg. Tri diwrnod ar ôl i Iesu Grist farw ar y groesbren Calfaria, atgyfododd. Beth mae ei atgyfodiad yn ei brofi? Wel, mae’n dangos fod Iesu Grist wedi llwyddo i goncro’r hyn sy’n gwahanu’r bod dynol rhag Duw- ein pechod, ein gwrthryfel a marwolaeth ei hun.

    3. Iesu’r Brenin PersonolMae Iesu yn frenin personol. Mae popeth wnaeth Iesu ennill ar y groes a thrwy ei atgyfodiad ar gael i chi a fi heddiw. Gallwch chi gael maddeuant am y pethau da chi wedi gwneud yn anghywir, perthynas iawn a pherthynas newydd gyda Duw.

    Ond mae Iesu eisiau i ni ymddiried ynddo ef fel brenin personol. Mae Ef eisiau i ni droi i ffwrdd oddi wrth ein pechod ac ymddiried ynddo ef; ymddiried yn ei groes sy’n delio gyda’n pechod; ymddiried yn ei atgyfodiad sy’n dangos ei fod yn fuddugol dros bopeth. Mae Rhufeiniaid 10:9 yn dweud: ‘Os wnei di gyffesu ‘â’th wefusau’, “Iesu ydy’r Arglwydd”, a chredu ‘yn dy galon’ fod Duw wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub.’ (Rhufeiniaid 10:9).

    Felly, mae’r person yma sy’n marchogaeth ar asyn i mewn i Jerwsalem yn fwy na Barack Obama. Mae’n fwy nag unrhyw berson arall sydd ar y ddaear heddiw. Mae Iesu yn frenin. Mae’n frenin gwahanol. Ydy Iesu yn frenin personol i ti?Felly, ar Sul y Blodau, fedrwn ni ddathlu oherwydd mae Duw ei hun yn frenin- ac mae’n frenin byw. Mae wedi dod i’r byd yn Iesu. Mae wedi talu am ein beiau ar groes. Mae’n addo bywyd newydd wrth iddo atgyfodi. Wrth i Iesu ddod mewn i Jerwsalem mae’r bobl yn gweiddi: “Clod iddo!” “Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi ei fendithio’n fawr!” “Ie, dyma Frenin Israel!”

    Ydy ni’n mynd floeddio’r geiriau hyn heddiw a chydnabod mai Iesu Grist yw’r Brenin?

    Iesu Grist a Barack Obamaparhad o dud. 1