8
Cyf 5262 Pris 50c Gwener, Mai 1af 2020 Wythnosolyn y Bedyddwyr SEREN CYMRU Golygyddion: Aled Davies, Denzil John, Judith Morris, John Treharne Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston, Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Ffôn: 01267 245660 Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost. Deunydd / erthyglau i’w gyrru at Aled Davies, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SH [email protected] Nid yw erthyglau na darnau golygyddol o reidrwydd yn adlewyrchu barn aelodau unigol Bwrdd Golygyddol Seren Cymru, a chyfrifoldeb pob awdur unigol yw’r safbwynt a fynegir ganddynt. Un stori sydd wedi gwneud argraff arna i wrth ddarllen a thrafod y Beibl yn y Dosbarth Beiblaidd yw Dameg y Mab Afradlon. Mae Iesu’n adrodd y stori am ddau fab a Tad sy’n byw ar ystâd. Mae’r mab ifanca yn gofyn i’r Tad un diwrnod i roi ei siâr e o’r ystâd iddo, er mwyn iddo allu symud i ffwrdd. Cytunodd y Tad ac aeth y mab i fyw bywyd newydd. Mae’r mab yn gwastraffu’r arian a cyn pen dim mae’n dod nôl i’r cartref teuluol gyda’r bwriad o weithio dan ei Dad i wneud i fyny am ei gamgymeriad. Ond pan welodd y Tad ei fab ifanca yn dod o bell, mae’n mynnu cynnal parti i’w groesawu yn ôl, ac yn gorchymyn ei weithwyr i nôl y dillad a’r sandalau gorau i’w fab, yn ogystal ag aberthu oen oedd wedi’i besgi i wledda gyda’r mab oedd wedi dychwelyd. Roedd y mab hyna wedi bod yn driw i’w dad a gweithio’n galed iddo tra buodd y mab ifanca yn gwastraffu arian, a phan roedd ar ei ffordd nôl o weithio ar y caeau a chlywed bod ei frawd bach wedi ddychwelyd mae’r brawd hŷn yn digio a gwrthod ymuno â’r parti. Mae’r ddameg yn enghraifft o stori sy’n ymdrin a phroblemau a themau sydd dal yn berthnasol hyd heddi, fel ffrae deulol ac arian. Wrth ddarllen drwy straeon arall yn y Beibl, daeth yn amlwg i mi fod un ohonynt yn debyg i iawn i Ddameg y Mab Afradlon, ac wrth gwrs stori Joseff yw’r stori honno. Yn ogystal â’r tebygrwydd amlwg o frawd neu frodyr yn troi ar frawd arall, mae cariad y Tadau yn y ddwy stori yn debyg iawn. Yn stori Joseff mae cariad y Tad at Joseff mor amlwg nes bod y brodyr arall yn mynd yn ddig yn enwedig wrth i Joseff adrodd ei freuddwydion. Tra yn Nameg y Mab Afradlon, mae’r Tad yn dangos cariad at y ddau frawd, gan groesawu’r mab ifanca yn ôl gan gynnal gwledd, a sicrhau’r mab hŷn fod gweddill Cymharu hanes gwerthu Joseff â Dameg y Mab Afradlon Dyma fyfyrdod a rannwyd gan Noa Evans, un o bobl ifanc y Tabernacl, Caerdydd, tra ar ymweliad ag Eglwys Gymraeg Canol Llundain yr eiddo yn mynd iddo ef. Er cariad y Tadau atynt, mae ymgais y brodyr hŷn yn y ddwy stori i gefnu ar y brawd iau yn amlwg wrth eu darllen. Yn Nameg y Mab Afradlon wrth i’r brawd hŷn siarad â’i Dad mae’n cyfeirio at ei frawd fel ‘Dy Fab’ yn hytrach na ‘fy mrawd’. Gwelir yr un peth yn stori Joseff pan ddaw’r brodyr yn ôl â chot Joseff i’r Tad, gan ddweud ‘A’i cot dy fab ydy hi neu ddim?’ Yn y ddau achos, mae dicter neu genfigen y brodyr hŷn yn eu harwain i geisio anghofio fod ganddynt frawd iau. Yn Nameg y Mab Afradlon, mae’r Tad yn dweud ‘Roedd fy mab wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw.’ Er mai mynd i ffwrdd wnaeth y mab ac nid marw, dengys hyn fod y Tad ddim yn disgwyl gweld ei fab byth eto sy’n esbonio’r wledd a’r dathliad enfawr drefnodd wedi iddo ddychwelyd. Mae modd dweud fod hyn braidd yn anheg ar y brawd arall, yn enwedig gan iddo weithio mor galed i’w Dad pan oedd ei frawd allan yn gwastraffu arian. Mae hyn yn codi’r cwestiwn: a yw cariad y Tad tuag at y Mab iau yn ormodol o ystyried beth wnaeth e, a bod diffyg cariad yn cael ei ddangos at ei fab arall, sydd wedi aros gyda’i dad a gweithio’n galed? Gellir dweud yr un peth am stori Joseff. Gallwn weld mai cenfigen sy’n arwain at frodyr Joseff yn ei erlid; roeddent yn genfigennus o gariad eu Tad tuag at Joseff. Wrth gwrs roedd brodyr Joseff yn hynod anfoesol ac anheg yn ei werthu i’r Ismaeliaid, ond ai’r Tad achosodd y gynnen yn y teulu efallai? Amherthnasol efallai yw’r tebygrwydd yn y stori, sy’n dangos traddodiadau ac arferion y cyfnod o aberthu anifeiliaid yn y streon. Mae brodyr Joseff yn lladd gafr er mwyn trochi cot Joseff â gwaed i wneud iddi hi edrych fel petai wedi’i ladd. Heddiw, wrth gwrs, bydd y syniad o ladd gafr mewn sefyllfa mor ddiangen yn anghyffredin iawn. Ond gwelir hefyd yn Nameg y Mab Afradlon fod anifail yn cael ei aberthu, er mae aberth wahanol yw hi. Mynnodd y Tad ladd oen wedi’i besgi, sef oen wedi’i dewhau er mwyn cael gymaint o gig a phosib o’r anifail, er mwyn dathlu dychweliad ei fab. Roedd aberth o’r fath yn un gyffredin, a hyd heddiw rydym yn dal i ‘aberthu’ anifeiliaid er mwyn mwynhau cig, er nad yw’r aberth mor amlwg i ni wrth i ni brynu’r cig mewn siop. Dwi’n credu mai beth sy’n denu fi at hoffi’r ddwy stori yma yw’r fath o driongl: ‘pwy sydd ar fai’, a welir yma? Yn Nameg y Mab Afradlon gellir dadlau fod pob unigolyn yn y ddameg ‘ar fai’ mewn rhyw ffordd. Mae’n dangos cymhlethdod bywyd a bod ymddygiad gwahanol pawb yn cael ei effaith ar rywun neu rhywbeth arall. Efallai ei fod yn enghraifft fod gormod o gariad neu cariad dethol ddim bob amser yn achosi daioni. Er hynafiaith hanes y Beibl, mae’n bwysig cofio ei fod yn dal yn berthnasol heddiw. Roedd pregeth gan gyn-weinidog Castle Street, y Parchedig Walter P. John, sy’n crynhoi dameg y Mab Afradlon: Y mab oedd yn gwrthod bod yn fab Y brawd oedd yn gwrthod bod yn frawd Y tad oedd yn mynnu bod yn dad.

SEREN CYMRU - Reaching · Yn ogystal â’r tebygrwydd amlwg o frawd neu frodyr yn troi ar frawd arall, mae cariad y Tadau yn y ddwy stori yn debyg iawn. Yn stori Joseff mae cariad

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Cyf 5262 Pris 50cGwener, Mai 1af 2020

    Wythnosolyn y BedyddwyrSEREN CYMRU

    Golygyddion: Aled Davies, Denzil John, Judith Morris, John Treharne Cyhoeddwyd gan Wasg Ilston, Undeb Bedyddwyr Cymru, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ.

    Ffôn: 01267 245660 Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.Deunydd / erthyglau i’w gyrru at Aled Davies, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6SH [email protected]

    Nid yw erthyglau na darnau golygyddol o reidrwydd yn adlewyrchu barn aelodau unigol Bwrdd Golygyddol Seren Cymru, a chyfrifoldeb pob awdur unigol yw’r safbwynt a fynegir ganddynt.

    Un stori sydd wedi gwneud argraff arna i wrth ddarllen a thrafod y Beibl yn y Dosbarth Beiblaidd yw Dameg y Mab Afradlon. Mae Iesu’n adrodd y stori am ddau fab a Tad sy’n byw ar ystâd. Mae’r mab ifanca yn gofyn i’r Tad un diwrnod i roi ei siâr e o’r ystâd iddo, er mwyn iddo allu symud i ffwrdd. Cytunodd y Tad ac aeth y mab i fyw bywyd newydd. Mae’r mab yn gwastraffu’r arian a cyn pen dim mae’n dod nôl i’r cartref teuluol gyda’r bwriad o weithio dan ei Dad i wneud i fyny am ei gamgymeriad. Ond pan welodd y Tad ei fab ifanca yn dod o bell, mae’n mynnu cynnal parti i’w groesawu yn ôl, ac yn gorchymyn ei weithwyr i nôl y dillad a’r sandalau gorau i’w fab, yn ogystal ag aberthu oen oedd wedi’i besgi i wledda gyda’r mab oedd wedi dychwelyd. Roedd y mab hyna wedi bod yn driw i’w dad a gweithio’n galed iddo tra buodd y mab ifanca yn gwastraffu arian, a phan roedd ar ei ffordd nôl o weithio ar y caeau a chlywed bod ei frawd bach wedi ddychwelyd mae’r brawd hŷn yn digio a gwrthod ymuno â’r parti. Mae’r ddameg yn enghraifft o stori sy’n ymdrin a phroblemau a themau sydd dal yn berthnasol hyd heddi, fel ffrae deulol ac arian. Wrth ddarllen drwy straeon arall yn y Beibl, daeth yn amlwg i mi fod un ohonynt yn debyg i iawn i Ddameg y Mab Afradlon, ac wrth gwrs stori Joseff yw’r stori honno. Yn ogystal â’r tebygrwydd amlwg o frawd neu frodyr yn troi ar frawd arall, mae cariad y Tadau yn y ddwy stori yn debyg iawn. Yn stori Joseff mae cariad y Tad at Joseff mor amlwg nes bod y brodyr arall yn mynd yn ddig yn enwedig wrth i Joseff adrodd ei freuddwydion. Tra yn Nameg y Mab Afradlon, mae’r Tad yn dangos cariad at y ddau frawd, gan groesawu’r mab ifanca yn ôl gan gynnal gwledd, a sicrhau’r mab hŷn fod gweddill

    Cymharu hanes gwerthu Joseff â Dameg y Mab Afradlon

    Dyma fyfyrdod a rannwyd gan Noa Evans, un o bobl ifanc y Tabernacl, Caerdydd, tra ar ymweliad ag Eglwys Gymraeg Canol Llundain

    yr eiddo yn mynd iddo ef. Er cariad y Tadau atynt, mae ymgais y brodyr hŷn yn y ddwy stori i gefnu ar y brawd iau yn amlwg wrth eu darllen. Yn Nameg y Mab Afradlon wrth i’r brawd hŷn siarad â’i Dad mae’n cyfeirio at ei frawd fel ‘Dy Fab’ yn hytrach na ‘fy mrawd’. Gwelir yr un peth yn stori Joseff pan ddaw’r brodyr yn ôl â chot Joseff i’r Tad, gan ddweud ‘A’i cot dy fab ydy hi neu ddim?’ Yn y ddau achos, mae dicter neu genfigen y brodyr hŷn yn eu harwain i geisio anghofio fod ganddynt frawd iau. Yn Nameg y Mab Afradlon, mae’r Tad yn dweud ‘Roedd fy mab wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw.’ Er mai mynd i ffwrdd wnaeth y mab ac nid marw, dengys hyn fod y Tad ddim yn disgwyl gweld ei fab byth eto sy’n esbonio’r wledd a’r dathliad enfawr drefnodd wedi iddo ddychwelyd. Mae modd dweud fod hyn braidd yn anheg ar y brawd arall, yn enwedig gan iddo weithio mor galed i’w Dad pan oedd ei frawd allan yn gwastraffu arian. Mae hyn yn codi’r cwestiwn: a yw cariad y Tad tuag at y Mab iau yn ormodol o ystyried beth wnaeth e, a bod diffyg cariad yn cael ei ddangos at ei fab arall, sydd wedi aros gyda’i dad a gweithio’n galed? Gellir dweud yr un peth am stori Joseff. Gallwn weld mai cenfigen sy’n arwain at frodyr Joseff yn ei erlid; roeddent yn genfigennus o gariad eu Tad tuag at Joseff. Wrth gwrs roedd brodyr Joseff yn hynod anfoesol ac anheg yn ei werthu i’r Ismaeliaid, ond ai’r Tad achosodd y gynnen yn y teulu efallai? Amherthnasol efallai yw’r tebygrwydd yn y stori, sy’n dangos traddodiadau ac arferion y cyfnod o aberthu anifeiliaid yn y streon. Mae brodyr Joseff yn lladd gafr er mwyn trochi cot Joseff â gwaed i wneud iddi hi edrych

    fel petai wedi’i ladd. Heddiw, wrth gwrs, bydd y syniad o ladd gafr mewn sefyllfa mor ddiangen yn anghyffredin iawn. Ond gwelir hefyd yn Nameg y Mab Afradlon fod anifail yn cael ei aberthu, er mae aberth wahanol yw hi. Mynnodd y Tad ladd oen wedi’i besgi, sef oen wedi’i dewhau er mwyn cael gymaint o gig a phosib o’r anifail, er mwyn dathlu dychweliad ei fab. Roedd aberth o’r fath yn un gyffredin, a hyd heddiw rydym yn dal i ‘aberthu’ anifeiliaid er mwyn mwynhau cig, er nad yw’r aberth mor amlwg i ni wrth i ni brynu’r cig mewn siop. Dwi’n credu mai beth sy’n denu fi at hoffi’r ddwy stori yma yw’r fath o driongl: ‘pwy sydd ar fai’, a welir yma? Yn Nameg y Mab Afradlon gellir dadlau fod pob unigolyn yn y ddameg ‘ar fai’ mewn rhyw ffordd. Mae’n dangos cymhlethdod bywyd a bod ymddygiad gwahanol pawb yn cael ei effaith ar rywun neu rhywbeth arall. Efallai ei fod yn enghraifft fod gormod o gariad neu cariad dethol ddim bob amser yn achosi daioni. Er hynafiaith hanes y Beibl, mae’n bwysig cofio ei fod yn dal yn berthnasol heddiw.Roedd pregeth gan gyn-weinidog Castle Street, y Parchedig Walter P. John, sy’n crynhoi dameg y Mab Afradlon:Y mab oedd yn gwrthod bod yn fabY brawd oedd yn gwrthod bod yn frawdY tad oedd yn mynnu bod yn dad.

  • 2Seren Cymru Gwener, Mai 1af 2020

    Cofiwch yrru unrhyw ddeunydd ar gyfer Seren Cymru at:

    [email protected]

    Arfau Niwclear, neu Achub Bywyd?

    Robin Gwyndaf

    Gair o ddiolch ac apêl garedigYn y cyfnod pryderus hwn, haint y Feirws Corona, diolch o waelod calon i bob un sydd mor barod i estyn cymorth.

    A gair yn awr am yr apêl. Fel aelod o CND Cymru (Ymgyrch Diarfogi Niwclear) a Chymdeithas y Cymod, bu inni dderbyn y wybodaeth sobreiddiol a ganlyn: y mae cost adnewyddu Trident i’r Deyrnas Unedig - ac felly yn rhannol i Gymru, dros 200 biliwn o bunnoedd. Ie, nid miliwn, ond biliwn. Y fath wastraff. Y fath farbareiddiwch. Y fath wallgofrwydd. A’r angen mor fawr am arian i hyrwyddo myrdd o achosion da er lles dynoliaeth.

    Yna rai dyddiau yn ôl daeth y nodyn hwn i’n sobreiddio fwyfwy. Cost blynyddol cynnal arfau niwclear Prydain yw £7.2 biliwn. Byddai’r arian hwn yn ddigon i dalu am: 100,000 o welyau mewn gofal dwys; 30,000 o awyryddion, neu beiriannau anadlu;50,000 o weinyddesau; 40.000 o feddygon.

    A dyma’r apêl garedig: Y mae gan bob un ohonom ran er mwyn gweld gwireddu gweddi ddwys yr Iesu: ‘Deled dy Deyrnas’ – Teyrnas Nefoedd ar y ddaear.

    Anfonwn, felly, bawb nodyn at Boris Johnson (gyda chopi at Mark Drakeford) yn taer erfyn arno i roi’r flaenoriaeth ar unwaith, nid i gynnal arfau niwclear diangen a pheryglus, ond i gynnal ein Gwasanaeth Iechyd ac achub bywydau.

    Canmil diolch, gyda phob bendith, iechyd a dymuniad da i chwi’r darllenwyr a’ch teuluoedd.

    Y FEIRWS CORONA

    gan Peter Harries Davies

    Mae llawer ohonom yn cofio’r hen ddiodydd meddal Corona erstalwm. Yn anffodus mae’r gair Corona nawr yn golygu rhywbeth dra gwahanol. Mae’r holl fyd bellach yng ngafael y feirws Corona ac mae hyd yn oed cyfarfodydd eglwysig wedi eu canslo tan rywbryd yn y dyfodol.

    Er bod hyn heb gynsail yn ein hoes ni eto mae cenedlaethau blaenorol wedi profi trychinebau tebyg. Difrodwyd y byd gan y Spanish Flu ym 1918 pan fu farw miliynau o bobl. Cyn hynny chwalwyd gwledydd gan donnau o blâu ar draws cyfandiroedd mawrion.

    Ym 1637 tarwyd yr Almaen gan bla marwol a laddodd miloedd o bobl. Yn eu plith roedd Cristnogion a rhai nad oeddent Gristnogion fel ei gilydd. Ymysg y rhai fu farw oedd gweinidogion eglwysig.

    Un gweinidog a oroesodd yr haint oedd Martin Rinkart. Arhosodd yn nhref Eilenburg i helpu’r bobl yno yn wyneb y pla hwn. Yn y man ysgrifennodd yr emyn:

    Diolchwn oll i Dduw â llaw a llais a chalon, cans rhyfeddodau mawr a wnaeth i ni blant dynion: er dyddiau’n mebyd ni a’n cynnar gamre gwan, di-rif yw’r doniau hael a ddaw’n ddi-baid i’n rhan.

    Eironig meddwl bod Rinkart yn gallu ysgrifennu’r emyn hwn ar ôl pla mor ofnadwy. Ond efallai gwnaeth y digwyddiad achosi iddo gyfrif ei fendithion ac i gofio am ofal Duw ohono. Felly yw cryfder ffydd a chaiff ei phrofi ar adegau felly i’r fath raddau anychmygol.

    ‘Wn i ddim a ddefnyddiwyd termau fel hunan-ynysu a phellhau-cymdeithaol yn yr Almaen yr adeg honno. Rym ni’n gyfarwydd iawn â’r termau hyn trwy’r cyfryngau. Er mor anodd ydynt i’w dilyn eto mae eu hangen er mwyn dod

    â’r pandemic hwn i ben.

    Dros gyfnod y Pasg eleni eto rydym wedi bod yn cofio am farwolaeth achubol yr Arglwydd Iesu Grist ac yn dathlu Ei atgyfodiad buddugoliaethus. Mae’n rhyfedd peidio a’i foli E’n y capel gyda’n gilydd fel yr arferwn ei wneud. Ond gallwn dal ei addoli Ef hyd yn oed ynghanol yr argyfwng iechyd hwn yn ein cartrefi ein hunain.

    Yn y Beibl ystyriwyd plâu fel barn Duw am bechod y bobl. P’un ai y gellid dweud yr un peth am y feirws Corona sy’n agored i’w drafod. Mae’n achosi pobl beth bynnag i feddwl am freuder bywyd a’u perthynas â Duw.

    Gwir dweud bod Iesu wedi dioddef cosb Duw am ein pechodau ar Groes Calfaria. Dyma neges ganolog y Beibl. Mae hefyd yn wir dweud ei fod Ef wedi codi’n orchfygol dros farwolaeth a’i fod yn fyw heddiw!

    Felly wrth edifarhau am ein pechodau a chredu yng Nghrist am ein maddeuant cawn ein cymodi â Duw. Mae’r Ysbryd Glân yn ein helpu i ddeall a derbyn neges y Groes. A gallwn ni adnabod Iesu fel ein Harglwydd a Cheidwad personol a’n cadwa’n dragwyddol ddiogel.

    Mae Salm 91:1-3 yn addas iawn yr amser hwn:Y mae’r sawl sy’n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog, yn dweud wrth yr Arglwydd, “Fy noddfa a’m caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.” Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr, ac oddi wrth bla difaol.

  • Gwers 32 – Sul, 3 Mai

    AMOS

    ‘nid oes ond gwae a nos o’th wrthod di’ (Caneuon Ffydd, 760)

    ‘Gwae y rhai sydd mewn esmwythyd ynSeion, y rhai sy’n teimlo’n ddiogel arFynydd Samaria’ (Amos 6:1)

    Darllen: Amos 5:18–6:8; Salm 14;Rhufeiniaid 3:10–26.

    GweddiMaddau inni oll am gredu

    mai nyni sy’n cynnal byda bod gwaith ein dawn a’n clyfrwch

    dan dy fendith di o hyd:�gwelwn ffrwyth ein byw rhyfygus �

    wrth in heddiw syllu’n ôl; �argyhoedda ni o’n pechod, �

    tyn ni’n rhydd o’n balchder ffôl. Amen.

    (Caneuon Ffydd, 100)

    Mor wahanol yw darllen yr adnodrybuddiol hon a ninnau ynghanol plaangheuol lle nad oes prin neb ynesmwyth neu’n teimlo’n ddiogel. Er body sefyllfa’n ein sobri, nid drwg o bethyw rhoi sylw i un o rybuddion y Beibl.Mae cyhoeddi rhybuddion Duw wedimynd allan o ffasiwn ers peth amser, ondmae ein sefyllfa bresennol yn wers i nibod lle i rybudd, a lle hefyd i wrando arrybuddion ac ymateb yn briodol.

    Rhybuddio oedd priod neges y bugailo Tecoa, gan ddechrau â’r gwledyddcyfagos ym mhennod 1 cyn troi at Jwdaac Israel, teyrnas y gogledd.Cyferbynnwch yr adnodau ar ddiweddpennod 5 â dechrau pennod 6. Fe welirbod yr hunangyfiawn crefyddol yn eichael hi yn gyntaf, ac yna’r rhaiesmwyth yn Seion a Samaria – gwersbwysig i’r rhai sydd am briodoli’r feirwsyma i farn Duw yn erbyn rhyw garfan, ahefyd i’r ‘ffyliaid’ diystyriol o Dduw‘sy’n ceisio pellhau’r dydd drwg’ ac ‘yngorwedd ar welyau ifori’.

    Pam ‘ffyliaid’, meddech chi? Dymasut mae’r Salmydd yn diffinio fffil:‘Dywed yr ynfyd yn ei galon, “Nid oesDuw.” Gwnânt weithredoedd llygredig affiaidd; nid oes un a wna ddaioni.’(Salm 14:1 a 53:1). Nid anffyddiwrathronyddol yw’r fffil yn gymaint â’ifod yn anffyddiwr ymarferol, yn byw fel

    pe na bai Duw yn bod, ac nad oescanlyniad i’w fywyd a’i weithredoedd.Dyma’r salm y mae Paul yn ei dyfynnuwrth ddadlennu cyfiawnhad drwy ffyddyn Rhufeiniaid 3:10–26, gan ddatgan:

    “Ie, pawb yn ddiwahaniaeth,oherwydd y maent oll wedi pechu, acyn amddifad o ogoniant Duw. Ganras Duw, ac am ddim, y maent yncael eu cyfiawnhau, trwy’rprynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu,yr hwn a osododd Duw gerbron ybyd, yn ei waed, yn aberth cymodtrwy ffydd. Gwnaeth Duw hyn iddangos ei gyfiawnder ynddiymwad, yn wyneb yr anwybyddua fu ar bechodau’r gorffennol ynamser ymatal Duw.”

    (Rhufeiniaid 3:23–5)

    Sylwch sut y mae Paul yn gorffen ymadrwy ddweud bod Duw wedi ymatalrhag dwyn ei farn ar bechod. Gyda’rmoddion i’n cyfiawnhau oddi wrth einpechod yn yr Iawn ar Galfaria trwy waedIesu, nid yw Duw bellach am edrychheibio i’n pechod gan ei fod wedidelio’n derfynol a chostus ag ef yn Iesu,ei Fab. Cofiwch mai bod yn hirymarhousyn ei drugaredd tuag atom y mae Duw ohyd, gan roi cyfle inni edifarhau acymddiried yn y pris a dalwyd a’rprynedigaeth a ddaeth i’n rhan yn IesuGrist, ond does dim mynd heibio iDdydd y Farn.

    Mae rhybuddion Amos felly’n rhaiamserol, a gobeithio bod gan fwyohonom glustiau i wrando a gras ganDduw i droi, gan gofio ein bod yn ycyfnod yma dan gysgod y Groes a’rBedd Gwag yn disgwyl am y Sulgwyn.

    Trafod ac ymateb:

    1. ‘Ond llifed barn fel dyfroedd achyfiawnder fel afon gref’ (Amos5:24). Onid yw’n rhyfedd mai’r rhaiuchaf eu cloch nad Duw y farn syddgennym, ond Duw cariad, yw’r rhaisy’n galw am gyfiawnder a barn?Trafodwch y berthynas rhwng gwirgariad, cyfiawnder a barn. (CaneuonFfydd, 527)

    2. A ydych chi’n ‘anffyddiwrymarferol’ – yn byw fel pe na baiDuw yn bod?

    3. Beth sydd gan y sefyllfa bresennol yrydym ynddi i’n dysgu am nesáu atDduw?

    Mai 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    AR DAITH DRWY’R HEN DESTAMENTCanllaw ar gyfer astudiaeth a thrafodaeth mewn grfip bychan, gan gynnwys

    gwers oedolion yr ysgol Sul neu fel deunydd myfyrdod personol(Seiliedig ar y gyfrol Geiriau Ffydd 3 gan y Parch. John Treharne,

    sef gwerslyfr ysgol Sul yr oedolion am 2019/20)

    Paratowyd gan y Parch. Hywel Rh. Edwards

    Gair o WeddiFfydd yng nghymorthDuw a’i gefnogaeth

    Yn ein hofnau, Dduw,bydd yn hyder i ni;yn ein gwendid,bydd yn gryfder i ni.Yn ein braw,bydd yn llonyddwch i ni.Yn ein gwaeledd,bydd yn iachâd i ni.Yn ein dryswch,bydd yn angor i ni.Yn ein hansicrwydd,bydd yn graig i ni.Yn ein tywyllwch,bydd yn oleuni i ni.Yn ein galar,bydd yn noddfa i ni.Yn ein hanobaith,bydd yn obaith i ni.Yn ein storm,bydd yn heulwen i ni.Yn ein nos,bydd yn ddydd i ni. Amen.

    Nick FawcettAddasiad Cymraeg Ioan ac OwennaHughes (oddi ar y dudalen Facebook:Gair o Weddi)

    ATEBION POS EMYNAU’R PASG(o’r wythnos ddiwethaf)

    AR DRAWS1 CYDLAWENHAWN; 2 FYW;3 CAERSALEM; 9 HOSANNA; 10 PREN;11 GODODD; 13 GWAED; 18 DDRAIN;21 DDRYLLIO; 22 FETHANIA; 26 PASG;27 HOELION; 28 EBOL; 29 PALMWYDD;30 CALFARÎ; 31 GETHSEMANE;33 GWRAGEDD; 34 BICELL.

    I LAWR1 CWPAN; 4 ATGYFODODD;5 GORFOLEDDWN; 6 HALELWIA;7 PECHADURUS; 8 BRUDD; 12 ABERTH;14 BALM; 15 BERAROGLAU;16 MHRYNWR; 17 GALARWYR;18 DIODDEF; 19 NEF; 20 EDEN;23 ANGAU; 24 ANOBAITH;25 GONCRWYD; 32 MAEN.

    Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

    Huw Powell-Davies

    neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

    Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

    Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yn cael eucynnwys yn rhan o bapurau wythnosol tri

    enwad, sef Y Goleuad (Eglwys BresbyteraiddCymru), Seren Cymru (Undeb BedyddwyrCymru) a’r Tyst (Undeb yr Annibynwyr

    Cymraeg).

    [email protected]

  • Mai 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Yn wyneb cynnwrf o brotestiadau,gwrthododd y ficer ganiatáu gwasanaethcladdu Anghydffurfiol ym mynwentLlanfrothen, Gwynedd, a hynny ym 1886yn rhoi hwb i gyfreithiwr ifanc, DavidLloyd George, ennill sedd Caernarfon o18 pleidlais ym 1890.

    Yn yr un cyfnod anafwyd dros 80 (gangynnwys 35 o blismyn) ym Mochdre, SirDdinbych, wrth brotestio yn erbyn talu’rDegwm, protest a gefnogwyd gan LloydGeorge. T. E. Ellis a Thomas Gee a’ibapur Baner ac Amserau Cymru.

    Cododd Deddf Degwm 1836 ddicterffermwyr Anghydffurfiol yn NyffrynTywi, Sir Benfro, Ceredigion ac yn ygogledd at gael eu gorfodi i gynnal yrEglwys (‘Yr Hen Estrones’) tra oedddisgwyl iddynt gynnal eu henwadaudewisol o’u pocedi eu hunain. Roeddhynny’n golygu cynnal aml arwerthiantgorfodol o’u heiddo – mewn cyfnod oddirwasgiad, fel yn Iwerddon. Ateb yCeidwadwyr yn y Senedd oeddpwysleisio dioddefaint yr offeiriaid yngNghymru, gan fod llawer o’r arian a oeddyn ddyledus i’r Eglwys yn ffeindio’iffordd i goffrau lleygwyr pwerus ac roeddtalu cynnyrch amaethyddol i’r Eglwys i’wgael yn y Beibl ac yn arfer ers canrifoedd.

    Ond wrth i Ryddfrydwyr Cymrudderbyn ‘nad oedd fawr obaith ydatgysylltid yr Eglwys yn Lloegr’canolbwyntiwyd ‘ar ddatgysylltu’rEglwys yng Nghymru ... [a] gwthiwyd yCeidwadwyr – nad oeddynt yn eugwraidd yn fwy anghymreig na’rRhyddfrydwyr i sefyllfa lle’r oedd moddeu portreadu fel plaid wrth-Gymreig,datblygiad a fyddai’n taflu cysgod hirdros wleidyddiaeth Cymru’ (JohnDavies).

    Ynghlwm â’r Degwm yr oedd Pwnc y

    Tir, y berthynas rhwng y tenant(Anghydffurfiol yn bennaf) a’r landlord(Anglicanaidd yn aml). Erbyn y 1880auroedd bron 90% o’r tir yn ffermyddtenantiaid, ac anghydfod wedi dwysáugyda chau tir comin dros ddwy ganrif.

    Roedd ansicrwydd daliadaeth tir a‘throi allan’ yn bynciau lloerig ynetholiadau 1859 ac 1868 yn ymgyrchoeddT. E. Ellis a Lloyd George. ‘Wales was anation of non-Conformists,’ honnodd yPrif Weinidog Rhyddfrydol Gladstone yny 1880au, er yng nghyfrifiad 1851dynodwyd fod llai na 50% yn mynychuunrhyw addoldy (K. O. Morgan) aphapurau’r enwadau’n pardduo dirywiadamlwg yn wyneb y diwydiannu, yseciwlareiddio a’r syniadau newydd amesblygiad.

    Yr ‘Hen Gorff’ – y Methodistiaid –oedd gryfaf yn y gogledd a’r gorllewin; ynail yr Annibynwyr, yn Sir Gâr aMorgannwg, a’r Bedyddwyr yn drydyddond yn cryfhau.

    Adfywio oedd hanes Anglicaniaeth yny cyfnod hwn. Codwyd tua 350 o eglwysirhwng 1851 ac 1910, dyblodd nifer ycymunwyr, sefydlwyd dros 1000 oysgolion eglwysig gan y GymdeithasGenedlaethol erbyn 1870 (300 gan yrAnghydffurfwyr) a chynydodd nifer yroffeiriaid i dros 1,500. Wedi cyfnod oSeisnigo, ni chafodd unrhyw glerigwr di-Gymraeg ei ddyrchafu’n esgob rhwng1870 ac 1920.

    Gyda thwf yn y galwadau drosddatgysylltu wedi’r chwyldroadau ynAmerica (1776) a Ffrainc (1789), dyrysfu’r ceisiadau ym Mhrydain a Chymru.Methiant fu ymgais Aelod SeneddolDinbych, Watkin Williams, ym 1869 aLloyd George a’i ffrindiau ym 1894–5,pan wrthwynebwyd y Mesur gan yrArglwyddi.

    Hyd yn oed wedi llwyddiant ysgubol yRhyddfrydwyr yn Etholiad 1905 adylanwad Diwygiad 1904/5 yngNghymru, ni fu fawr o sylw i’r pwnc.Ysgafnhaodd Deddf 1891 ychydig ardenantiaid wrth sicrhau mai’r landlordoedd i dalu’r degwm, a throdd y sylw atsosialaeth a seciwlariaeth, a hynny cyndylanwadau’r rhyfel ym 1914.

    Llwyddwyd erbyn Medi 1914 iddedfrydu, wedi hir ymgyrchu agwrthwynebu, ond gyda’r rhyfel yn torripenderfynwyd gohirio gweithredu’rDdeddf Datgysylltu tan 1920. Trefnwydi’r plwyfi ar hyd y Gororau ddewis aros ynEglwys Loegr, neu, fel plwyf Llansilin(cynefin y Canon Patrick Thomas),ymuno â’r Eglwys yng Nghymru.

    Sicrhau fod pob enwad yn gyfartal

    oedd nod datgysylltu, gan ddileu unrhywddylanwadau gwleidyddol ar eglwys. Ondegwyddor arall ynghlwm â hyn oedddadwaddoli, sef dileu statws ac unrhywwaddolion – arian neu eiddo a adewir ynincwm parhaol. Collodd esgobionCymru’r seddau yn Nhª’r Arglwyddi.

    Sicrhaodd deddf 1919, sef y WelshChurch Temporalities Act (oherwydd ychwyddiant yn ystod y Rhyfel Mawr)filiwn o bunnoedd i Gomisiynwyr yrEglwys, gan leddfu llach y Datgysylltu.Amddifadwyd yr Eglwys yng Nghymru o£48,000 y flwyddyn, a thros amser(oherwydd y cymhlethdodau) tros -glwyddwyd dwy filiwn a hanner obunnoedd, bron, i’r Cynghorau Sir a bronfiliwn i Brifysgol Cymru.

    Sefydlwyd Corff Cynrychioliadol iweinyddu eiddo’r Eglwys a ChorffLlywodraethol i reoli polisïau a chredo.Cysegrwyd A. G. Edwards yn Archesgobyn Llanelwy ar 1 Mehefin 1920, ganwireddu breuddwyd Gerallt Gymro arhyddhau esgobion Cymru o’r llw iArchesgob Caergaint. Maes o law,sefydlwyd y chwe esgobaeth bresennolyng Nghymru. Erbyn heddiw, y dalaithGymreig yw un o’r rhai hynaf o drosugain o daleithiau hunanlywodraetholCymuned Anglicanaidd y Byd – ac syddwedi profi arweiniad gan un o gyn-archesgobion Cymru.

    Agorwyd y drws i ailgydio ac ehangu,os dymunir, weledigaeth ac etifeddiaethcrefyddwyr o Gymru fel William Morgan,William Salesbury, y Ficer Prichard,Griffith Jones, Pantycelyn, y DiwygwyrMethodistaidd ac Ann Griffiths.

    Fel y dyfarnodd John Davies,gwireddwyd, efallai, ddyhead un fel W. J.Gruffydd am gytundeb yn lle meithrin‘chwerwedd enwadol ... ar draul ...canolbwynto ar gydymwybyddiaeth odreftadaeth genedlaethol’. Gallwn fyfyrioar gyfraniadau tri o gyfoeswyr a ffrindiauagos, sef yr Archesgob George Noakes, yCanghellor a’r Armeniad AnrhydeddusPatrick Thomas ac Archesgob Caergaint,Rowan Williams.

    Malcolm M. Jones(allan o ‘Bapur y Priordy’,

    mis Mawrth 2020)

    DATGYSYLLTU EGLWYS LOEGRYNG NGHYMRU, 31 Mawrth 1920

    DDOE A HEDDIW

  • Unwaith y flwyddyn y bydd WythnosCymorth Cristnogol yn digwydd – ondmae effeithiau newid hinsawdd ar rai obobl dlotaf y byd yn barhaus. Tydi’rheriau hyn ddim wedi eu canslooherwydd y Coronafirws chwaith, ac fellymae gwaith Cymorth Cristnogol ynparhau. Eleni, bydd Wythnos CymorthCristnogol yn edrych yn wahanoloherwydd yr addasu y mae’n rhaid inni igyd ei wneud oherwydd COVID-19.Os gwelwch yn dda, ewch i’n gwefani weld y cyngor diweddaraf:h t t p s : / /www.ch r i s t i ana id .o rg .uk /about-us/christian-aid-week/ coronavirus-guidance neu cysylltwch â’n swyddfeyddi siarad ag aelod o staff. Nid yw WythnosCymorth Cristnogol wedi ei chanslo –ond bydd yn rhaid inni weithio’n wahanoliawn.

    ‘Rydym yn dioddef’

    Un wraig sy’n profi’r gwaethaf o’rargyfwng hinsawdd ydi Rose, sy’n 67.Mae Rose yn nain ac yn arweinyddprofiadol yn ei phentref. Bu farw ei gfirddegawd yn ôl. Mae’n byw gyda’ihwyrion ac yn talu am eu haddysg drwyweithio fel labrwr.

    Yn y sychder difrifol hwn, ni all Rosedyfu’r llysiau sydd eu hangen arni, acmae’n llwglyd yn aml. Bob bore, heb fawrddim bwyd, mae’n cychwyn ar ei thaithhir a pheryglus, gan gerdded chwe awr igasglu dfir. Wrth iddi gerdded, mae eichorff yn gwegian. Teimla’n lluddedig ynyr haul poeth, ac mae’r caniau dfir yndrwm iawn. Dal i fynd a wna, er bod eichoesau’n brifo. Byddai ei hwyrion ynmarw heb ddfir a bwyd.

    ‘Mae’r sychder yn ddrwg iawn,’meddai. ‘Rydym wedi cael tri mis hir hebddfir, a bellach rhaid cerdded pelltermaith. Rydym yn dioddef.’

    ‘Mae gen i gryfder a nerth’

    Be sy’n digwydd pan nad yw’r chwilioam ddfir yn llenwi pob eiliad o fywyd?Gallwn ganfod yr ateb yn Florence:gwraig sydd wedi trawsnewid ei bywydyn sgil cael argae yn llawn o ddfir yn eihymyl. Rai blynyddoedd yn ôl, bu farwgfir Florence, a’i gadael yn weddw. Ar ypryd, doedd dim dfir ar gael i dyfucnydau. Roedd raid iddi hithau gerddedam oriau i gasglu dfir. ‘Roedd bywyd yndruenus,’ meddai.

    Newidiodd pethau i Florence panweithiodd un o bartneriaid CymorthCristnogol, Anglican DevelopmentServices – Eastern (ADSE), sydd â seiliauffydd, gyda’i chymuned i adeiladu argae,dim ond 30 munud i ffwrdd o gartrefFlorence.

    Trwy ddefnyddio dfir o’r argae, maeFlorence yn tyfu tomatos, nionod a tsilisar ei fferm. Mae ei phlant yn bwyta llysiauiach a maethlon, ac mae digon ar ôl i’wgwerthu.

    Gyda gwên hyfryd, dywed, ‘Rwyf yncael fy nghynnal gan yr argae. Mae fymywyd wedi ei newid. Rwy’n hapusiawn. Gallwch weld hynny yn fy wyneb:mae fy wyneb yn disgleirio. Mae gen igryfder a nerth.’

    Os gwelwch yn dda, cyfrannwch yrWythnos Cymorth Cristnogol hon(10–16 Mai). Pob punt a godir, pobgweddi a offrymir, pob gweithred a wneir:maent i gyd yn fynegiant o’n cariad a’ntrugaredd Cristnogol, a’n cred fod pobbywyd yn gyfartal ac yn werthfawr yngngolwg Duw.

    Gyda’n gilydd, gallwn roi stop ar yrargyfwng hinsawdd hwn, a rhoi cyfle iferched dewr fel Rose i ffynnu.

    Ymunwch â ni yn Wythnos CymorthCristnogol. Cyfrannwch yn caweek.org

    Mai 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    Rhywbeth arall y mae’r Ysbryd yn eiwneud yw ein trawsffurfio i fod yndebyg i Grist. Mae’n ein helpu i fod ynddibynnol ac yn weddigar, ac wrth eindwyn i mewn i berthynas y Tad a’r Mabmae’n dod â ni i rannu bywyd Duw a’ibwrpas. Dechreua ein dyheadauadleisio rhai Duw; daw ei angerdd yneiddo i ni, ac felly dechreuwn rannu eigariad a’i drugaredd tuag at ei bobl a’ifyd. Yn sgil hyn fe ddown yn rhai syddyn eiriol dros eraill ac felly’n offeiriaid,fel ein harchoffeiriad mawr, Iesu, sy’nbyw bob amser i eiriol drosom

    (Hebreaid 7:21–5). Fe weithia’r Ysbrydynom i’n gwneud yn fwy tebyg i Gristyn hyn o beth.

    Ceir adeg fach diddorol yn Mathew 9sydd wedi fy nharo’n ddiweddar: ‘Aphan welodd ef y tyrfaoedd tosturioddwrthynt am eu bod yn flinderus adiymadferth fel defaid heb fugail. Ynameddai wrth ei ddisgyblion, “Y mae’rcynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr ynbrin; deisyfwch felly ar Arglwydd ycynhaeaf anfon gweithwyr i’wgynhaeaf.” ’ (Mathew 9:36–8)

    Pam tybed y bu i Iesu ofyn i’w

    ddisgyblion weddïo hyn? Oni fedraiwneud hynny ei hun? Ond mae amiddyn nhw ymuno efo fo, i fod yn gyd-weithwyr a chyfranogwyr yn y bywyddwyfol, trugarog, gwasanaethgar,cenhadol y mae’n ei rannu â’i Dad yn yrYsbryd.

    Gad imi fyw, ynghanol pob rhyw bla,Dan gysgod clyd adenydd Iesu da;A’m tegwch gwir fel olewydden wiwO blaniad teg daionus Ysbryd Duw.

    (Caneuon Ffydd, 756;anad. [Ann Griffiths, efallai])

    Yn y gyfres hon byddwn yn cyflwyno rhai penodau o lyfr Michael Reeves, Enjoying your prayerlife (10ofthose publishing) er mwyn ein hybu a’n helpu yn ein bywyd o weddi

    Mwynhau ein Bywyd Gweddi – 9YR YSBRYD YN EIN GWNEUD YN GRIST-DEBYG WRTH INNI WEDDÏO

    Wythnos Cymorth Cristnogol10–16 Mai 2020 – yn wahanol, ond heb ei chanslo!

    Ar 16 Ebrill fe gyhoeddodd Amanda Mukwashi, Prif Weithredwraig CymorthCristnogol, wrth holl gefnogwyr Cymorth Cristnogol y bydd wythnos CymorthCristnogol eleni yn cael ei chynnal ar-lein ac na fydd cyfarfodydd wyneb yn wynebna chasglu amlenni o ddrws i ddrws yn digwydd. 

    Fe fydd Cymorth Cristnogol yn canolbwyntio ar baratoi cymunedau er mwyncyfyngu ar effeithiau COVID-19 ar rai o gymunedau tlotaf ein byd. Rydym yn caelein hannog ganddi i weddïo dros y gwaith hanfodol hwn ac i gefnogi drwygyfrannu’n ariannol. (Gol.)

  • Mewn sylwadau ar raglen Bwrw Golwg,Radio Cymru, dywedodd Aled JonesWilliams fod yr eglwys wedi colli pobcyfle i fagu a meithrin anian ac ysbrydCymreig.

    Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwysyng Nghymru eu bod yn cefnogi bywydyng Nghymru mewn ffordd real asylweddol.

    Mae Aled Jones Williams yn gofyn: “Aoes angen i eglwys yng Nghymru weddïodros y Frenhiniaeth o hyd?”

    Wrth gyflwyno’i sylwadau, dywedoddAled Jones Williams: “Yn fy ieuenctid yneglwys Llanwnda, ger Caernarfon, fynhad yno’n berson, Cymraeg oedd iaithpethau, prydferthwch y Llyfr GweddiGyffredin a Beibl William Morgan aglywyd.

    “Ond rhith oedd hynny. Pan euthum iGoleg Mihangel yn Llandaf,

    darganfyddais mai Eglwys Loegr oeddyma o hyd.

    “A dyna fel y bu a hyd y gwelaf fel ymae. Yr oedd enghreifftiau o Gymreictod,enghreifftiau llachar iawn ambell un, ondenghreifftiau oeddynt.

    “Ac enghreifftiau oeddynt, nidoherwydd yr Eglwys, ond er gwaethaf yrEglwys.”

    ‘Angen gweddïo dros y Frenhiniaeth?’

    Ychwanegodd: “Newid côt ddigwydd odd,nid newid calon. Meddylfryd Prydeinig aSeisnig oedd – ac sydd – ganddi.

    “A oes angen i eglwys yng Nghymruweddïo dros y Frenhiniaeth o hyd? O!enghraifft bach ydy hwnna, dywedir. Ynyr enghreifftiau bach y dywedir y gwir.

    “Efallai nad yw sefyllfa’r Eglwys ynwahanol i nifer o sefydliadau Prydeinigeraill yn y wlad. Ond rhoddwyd iddi gyflei fagu a meithrin anian ac ysbrydCymreig. Collodd y cyfle yn racs.”

    Tra’n dymuno’n dda i’r Eglwys ar eichanfed pen blwydd, dywedodd AledJones Williams hefyd nad oes yn rhaid i’rEglwys yng Nghymru fynd i Loegr ichwilio am esgobion – mae yna ddigon orai abl yng Nghymru, meddai.

    ‘Cefnogi mewn ffordd real’

    Wrth ymateb i’w sylwadau, dywedoddllefarydd ran yr Eglwys yng Nghymru eibod yn “cefnogi ac yn cyfranogi ym

    mywyd ein gwlad mewn ffordd real asylweddol mewn pob ffordd bosib”.

    “Yr ydym yn mynegi ein hunaniaethym mywyd eglwys y plwyf, ond hefyd ynmynegi ein hunaniaeth Anglicanaidd –hunaniaeth sydd wedi ei rhannu gyda’rteulu byd-eang,” meddai.

    Wrth ymateb ar Bwrw Golwg,dywedodd Enid Morgan, a oedd ymhlith ymerched cyntaf i gael eu hordeinio gan yrEglwys yng Nghymru: “Roedd ysefydliad uwchben yn dal yn Seisnig iawn… ac eto mi ddaeth G. O. Williams ynesgob arni, a rhywsut fe lywiodd a newidansawdd, a fuodd yna res o esgobion awnaeth eu gorau glas i newid y sefydliadfel y mae Cymru a chymdeithas wedinewid.

    “Y bywyd Cymraeg lleol sydd ynbwysig ac wrth gwrs mae’r gymdeithasGymreig wedi dirywio.

    “Dwi’n tueddu i gytuno nad ydi mynnuesgobion o Loegr ddim yn help er bodgweld esgobion yn ferched yn llawenyddmawr.”

    Dywedodd Aled Edwards, PrifWeithredwr Cytûn: Eglwysi Ynghyd yngNghymru: “Yr hyn sy’n ein gwneud yngenedl gyfoes ffres, fyw ydi ein bod ni’nfwy nag un peth, a’r hyn sy’n ein gwneudni yn eglwys sydd yn cynrychioli’r genedlydi ein bod ni’n adlewyrchu mwy na’r unpeth hwnnw.

    “Oni bai am eglwyswyr mawrElisabethaidd, fyddai yna ddim iaithGymraeg heddiw.”

    (Gyda diolch i BBC Cymru Fyw amganiatâd i ailgyhoeddi’r erthygl hon oddiar eu gwefan, 12.4.20)

    Mai 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mai 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

    ‘Meddylfryd yr Eglwys yng Nghymru yn Seisnig o hyd’Ganrif union ers datgysylltu’r Eglwys mae un cyn-ficer yn dweud nad yw’rEglwys yng Nghymru wedi manteisio ar ei hannibyniaeth ac “maimeddylfryd Prydeinig a Seisnig sydd ganddi”.

    Llanw yn y CartrefGyda chymaint o ddigwyddiadau agwyliau Cristnogol wedi eu canslo dros yPasg ac am fisoedd i ddod oherwydd yrymateb i’r feirws COVID-19, mae GfiylSpring Harvest sydd yn cynnal wythnos owyliau Cristnogol yn Skegness a thairwythnos ym Minehead bob blwyddynwedi gwneud apêl am gymorth ariannol igeisio adfer peth o’r £1.5 miliwn o golleda fydd yn cael ei hwynebu oherwydd

    canslo’r digwyddiadau. Nid yw colledGfiyl Llanw – Dathlu’r Atgyfodiad i’wgymharu â’r swm hwnnw, eto i gyd mae’nsylweddol oherwydd y blaendaliadauoedd wedi eu talu am y gwersylla ynNinbych-y-pysgod.

    Nodyn cadarnhaol yw fod Llanw a SpringHarvest wedi cynnal digwyddiadau bywar lein sydd ar gael i’w gwylio eto arFacebook ac Youtube. Yn nigwyddiadLlanw yn y Cartref nos Fawrth, 14 Ebrill,fe gafwyd rhannu stori gan DelythDempsey, gweddïo gan Anna Hughes,moliant a chyflwyniad i gân y Pasg ganMeilyr Geraint a neges o lyfr y Salmaugan Derek Rees. Hyn i gyd cyn cynnalcwis yn hwyrach yn y nos ar gyfer y rhaia fyddai wedi arfer bod yno yng nghwmniei gilydd. Ond fe gafodd llawer mwy obobl o bob cwr gyfle i ymuno nag a fyddaiyn teithio i Ddinbych-y-pysgod ynarferol. Dymunwn fendith ar y gwyliauhyn wrth iddynt orfod rhoi popeth i oediam flwyddyn ac y bydd mwy fyth oddiddordeb y flwyddyn nesaf. (Gol.)

    Oedfa deledu – gwerthfawrogiadOs ydych wedi gwerthfawrogi caelgwasanaeth Cymraeg ar y teledu ar foreSul (a Gwener y Groglith), yna beth amanfon gair o werthfawrogiad at S4C iddweud hynny ac i ofyn iddynt ystyriedparhau â’r ddarpariaeth yma ar ôl i’rcyfwng presennol fynd heibio? Gellirysgrifennu at y cwmni, anfon negesebost at: [email protected] neuadael neges ar eu gwefan o dan ypennawd ‘cysylltwch â ni’. (Gol.)

    Dechrau CanuDechrau Canmol

    Sul, 26 EbrillYr wythnos yma, Lisa Gwilym fydd yncyflwyno emynau o bob rhan o Gymru achawn fwynhau perfformiad unigryw o’remyn-dôn Bryn Myrddin.

    Cofiwch hefyd am oedfa Dechrau CanuDechrau Canmol am 11 fore Sul ar S4C.

  • Seren Cymru Gwener, Mai 1af 20207

    Iachawdwriaeth

    Gair hyfryd yn y Beibl Cymraeg yw’r gair iachawdwriaeth. Y mae’n ymddangos 49 o weithiau yn yr Hen Destament ac yn y Testament Newydd 42 o weithiau (σωτήρiα = Soteria – yn y Groeg). Yn ôl pob tebyg William Salesbury fathodd y gair iachawdwriaeth gan ei fod yn ymddangos yn ysgrifenedig am y tro cyntaf, ar y ffurf iechydwriaeth yn Nhestament Newydd 1567. Mae dwy ffordd o gyfieithu’r gair Groeg soteria (dyma wraidd y gair Saesneg soteriology). Yn gyntaf, gellir ei gyfieithu i olygu achub rhywun o sefyllfa beryglus ac yn ail, gall olygu gwella rhywun o salwch. Yn ddiddorol aeth y cyfieithwyr Saesneg ar ôl yr ystyr cyntaf trwy ddefnyddio’r gair salvation ac fe aeth y cyfieithwyr Cymraeg ar ôl yr ail ystyr gan ddefnyddio’r gair iachawdwriaeth. Dyma i chi ddwy enghraifft lle defnyddir y gair iachawdwriaeth. Ar ddiwedd hanes Iesu a Sacheus fe geir yr adnodau hyn. ‘Heddiw,’ meddai Iesu wrtho, ‘daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, oherwydd mab i Abraham yw’r gŵr hwn yntau. Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y colledig.’ (Luc 19:9–10) Ac yna yn hanes Pedr yn siarad gerbron y Cyngor dywedir, ‘Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i’r ddynolryw, y mae’n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.’ (Act 4:12) Rwy’n hoff o’r gair hwn oherwydd ei fod yn agor drysau arbennig i’n dealltwriaeth o’r hyn gyflawnodd Iesu trwy ei fywyd perffaith, ei farw aberthol ar y Groes a’i atgyfodiad buddugoliaethus.Dyma rai pethau trawiadol:

    Y Meddyg DaMae’r gair iachawdwriaeth yn ein harwain i feddwl am Iesu fel Meddyg Da sydd wedi dod i wella pobl, cymdeithas a’r greadigaeth o salwch. Dywedodd Iesu un tro, ‘Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion, y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.’ (Marc 2:17) Fe ddaeth i iachau pobl o’u pechodau – ein gwrthryfel yn erbyn Duw – sydd â sgil effeithiau andwyol o bob math ar ddynoliaeth ac unigolion. Dyma

    pam fod yr Iesu yn iachau cleifion, yn uniaethu gyda’r tlawd a’r anghenus ac yn gwrthwynebu anghyfiawnder cymdeithasol a chrefyddol. Oherwydd y mae Ef yn iachawdwr cyflawn. Y pechod hwnnw sydd fel gwahanglwyf yn ein hynysu oddi wrth Dduw.

    SalwchTrwy ddefnyddio’r gair iachawdwriaeth cyffelybir pechod i salwch y mae pawb ohonom yn ddiwahân yn dioddef ohono nad oes gennym foddion i’w wella. Y mae hyn o gymorth inni beidio â meddwl am bechod fel cyfres o weithredoedd drwg. Nid dyna ydyw pechod ond ein cyflwr, rydym yn sâl ac angen iachawdwriaeth. Ac mae Iesu trwy gariad a gras Duw yn cynnig moddion i’n gwella a dileu effeithiau’r aflwydd. Yn wir Iesu yw’r Meddyg a’r moddion.

    Y Groes a’r AtgyfodiadA dyma arwyddocâd syfrdanol digwyddiadau’r Pasg. Trwyddynt y mae Duw wedi trefnu ffordd i ddod ac iachawdwriaeth i’r clefyd blin trwy ei annwyl Fab Iesu. Ar y groes fe gymerodd ein pechodau arno ef ei hun gan ddioddef canlyniadau hynny yn ein lle. Trwy inni gredu ynddo fe gawn faddeuant ac iachawdwriaeth. Ar y trydydd dydd fe atgyfododd a dengys hyn fod ei waith yn gyflawn. Canlyniad ein gwrthryfel yn erbyn Duw yw marwolaeth – ein pechod – ond roedd Iesu yn ddibechod ac nid oedd gan farwolaeth hawl arno. Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. (Rhuf. 6:23) Dathlwn a gorfoleddwn yn ddiarbed ar Sul y Pasg. Mae’r moddion ar ein cyfer wedi ei ddarparu yn Iesu, moddion sy’n dod ag iachawdwriaeth.

    Yr Iesu atgyfododd, nid ofnwn angau mwy, daeth bywyd annherfynol o’i ddwyfol, farwol glwy’; datganwch iachawdwriaeth yn enw Iesu gwiw;mae’r ffordd yn rhydd i’r nefoedd,a’r Iesu eto’n fyw.

    THOMAS LEVI, 1825–1916

    Didwyll, Gweddigar, Gweithgar, Doniol. Dyna rai geiriau i ddisgrifio Joan. Ond, wrth gwrs, bydd unrhyw un sy’n nabod Joan yn gwybod y byddai hi’n pwysleisio mai y peth arbennig amdani hi oedd ei bod wedi dod i nabod Arglwydd arbennig yn Iesu Grist. Bydd colled enfawr ar ei hôl. Roedd y blynyddoedd olaf yn anodd wrth iddi wanio yn ei chorff a’i meddwl ond mae ‘na ddau hanes diweddar yn haeddu cael eu adrodd. Rhai misoedd yn ôl, â niwl dementia wedi disgyn yn drwm arni, galwodd Rhys, ei gweinidog, i’w gweld yn Nghartref Foelas a chael ar ddeall gan y staff, er mawr syndod iddyn nhw, ei bod wedi gofyn am bapur a beiro rhai dyddiau ynghynt. Dyma’r geiriau a sgwennodd: “Diolch i’r Arglwydd am wasanaeth yr ifanc i’r Arglwydd a diolch am ei gwasanaeth gwerthfawr, llawer heb ofyn na chwennych canmoliaeth. Bendith yr Arglwydd arnynt; maent yn dangos cyfiawnder i’r Arglwydd, mor dawel a hefyd yn gadarn” – geiriau oedd yn adlewyrchu ei chariad a’i chonsyrn dros waith Duw a’r ifanc hyd yn oed yn ei gwendid. Yn olaf, roedd yn ofid i lawer ohonom na welsom ddim ohonni yn ei wythnosau diwethaf gan na allai’r cartref dderbyn ymwelwyr oherwydd pryderon am ledaenu’r feirws. Felly yr unig ffordd y gallem ei chefnogi oedd mewn gweddi. Ar y noson y bu farw, roedd gennym gyfarfod Grwp Cymuned dros y We ac, ar derfyn y cyfarfod, buom yn gweddio dros Joan. Roedd yn rhyfeddol deall wedyn gan y cartref mai o gwmpas yr adeg hynny y bu Joan farw. Er ein bod wedi ein gwahanu yn gorfforol, cawsom y fraint o’i hebrwng mewn gweddi i freichiau ei Harglwydd, yr Un y bu yn ei garu a’i wasanaethu am 73 o flynyddoedd. Dyna anrhydedd; braint oedd cael ‘nabod, cyd-weithio a chyd-addoli gydag un yr oedd yr Arglwydd mor annwyl iddi, yr Arglwydd y mae yn awr yn ddiogel yn ei gwmni.

    Cofio Joan Hughes:parhad o dud. 8

  • 8Seren Cymru Gwener, Mai 1af 2020

    COFIO JOAN ALICE HUGHES

    (1927-2020)

    Teyrnged gan Arwel Ellis Jones

    Wrth osod y cyhoeddiad am farwolaeth Joan yn y papur newydd, roedd yn fy nharo ei fod yn syml a moel iawn, yn ôl ei chyfarwyddyd hi, ac yn rhoi’r argraff bod dim byd arbennig amdani. Ond ni allai hynny fod yn llai gwir! Roedd yn ddynes arbennig iawn mewn gymaint o ffyrdd. Gyda diolchiadau mawr i Megan Williams am wybodaeth a rannodd yn nathliad penblwydd Joan yn 90 oed, dyma ‘chydig o’i hanes. Ganwyd Joan yn Angorfa, Trefor ar Ebrill 22ain 1927, yn ferch i Henry Hughes (oedd yn chwarelwr) a Margaret Mary Hughes. Symudodd Joan gyda’r teulu i’r Groeslon a wedyn oddi yno i Lanfaglan, pan aethant i fyw i Dŷ Capel, Penygraig. Yn y cyfnod hynny, daeth i ‘nabod Megan a hefyd Mair (Y Parch Mair Bowen) a bu’r dair yn ffrindiau mynwesol, yn Ysgol Gynradd Bontnewydd, Ysgol Ramadeg, Caernarfon ac yn cyd-fynychu’r capel a’r seiat. Collodd ei thad yn ddyn ifanc yn 1944 a’i mham wedyn ym 1963, pan oedd Joan yn 36 oed. Bu’n byw yn Llwyn Beuno, Bontnewydd a wedyn symud i Gaernarfon, yn gyntaf i Cae Bold a wedyn i Stryd Wesle nes

    iddi symud oddi yno i Gartref Foelas, Llanrug.

    Mae Megan yn cofio Joan (yn 17 oed) yn sôn yn y seiat ei bod wedi derbyn Iesu Grist i’w bywyd ar ôl mynychu cyfarfodydd arbennig yng Nghaernarfon. Clywsom dystiolaeth Joan o’r profiad hynny droeon yng Nghaersalem. Am gyfnod hir cyn hynny bu’n ymgodymu â’r ffaith ei bod yn bell oddi wrth Dduw ac yn chwilio am y gobaith a sicrwydd o gariad Iesu yr oedd wedi ei weld yn fwyaf amlwg ym mywyd ei nhain, Jane Roberts. Dyma eiriau Joan ei hun am y noson yng nghyfrol goffa’r Parch Elwyn Davies:“

    Roedd Elwyn yn arwain ymgyrch yng Nghaernarfon gyda’r Mudiad, a’r Parch. Emyr Roberts yn pregethu. Cefais brofiad o’r Arglwydd y noson honno, a chefais fy arwain i weddïo. Cerddodd Elwyn gyda mi at y bws i fynd adref ….. yr hyn a gofiaf yw nad oedd yn tynnu sylw ato’i hun ond yn cyfeirio sylw at yr Arglwydd. Ei frawddeg olaf i mi oedd, ‘Cofiwch ofyn i’r Arglwydd am adnod i sylfaenu eich profiad arni.’ Dyna a wnes, a bu’r Arglwydd yn drugarog yn ateb y bore wedyn.”

    Ers y dyddiau hynny, bu Joan yn cyfeirio’n rheolaidd at yr adnod – “Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oedd gynt ymhell a wnaethpwyd yn agos trwy waed Iesu Grist.” (Effesiaid 2, 13)

    DidwyllDyna’r peth cyntaf arbennig am Joan. Gwrthododd fodloni ar grefydda arwynebol a mynnodd “adnabod y Gair” a nid dim ond “gwybod y geiriau”. Ni phylodd ar hyd y blynyddoedd. Doedd dim ffalsio yn perthyn i unrhyw ran o’i bywyd! Roedd hynny yn amlwg yn ei gyrfa lwyddiannus yn y Gwasanaeth Sifil; cafodd ei gwobrwyo am hyn ym 1987 pan dderbyniodd OBE am ei gwasanaeth gyda Megan yn mynd gyda hi i Balas Buckingham i dderbyn y wobr!

    GweddigarMae ansawdd perthynas rhywun â’r Arglwydd yn dod yn amlwg yn eu gweddiau; nid ym mha mor huawdl na pa eiriau hir a ddefnyddir ond yr ymdeimlad

    yna o gariad a pherthynas. Gan ei bod yn byw ar ei phen ei hun, byddai Joan yn dweud bod siarad â’r Arglwydd yn rhan naturiol o batrwm ei bywyd bob dydd. Roedd hynny’n amlwg. Pan fyddai Joan yn gweddio, roedd yn siarad efo Arglwydd oedd hefyd yn ffrind yr oedd yn ei garu a wedi llwyr ymgolli ynddo. Yn y blynyddoedd diwethaf, pan oedd yn heneddio ac yn doredig yn ei chorff, byddai ei gwedd yn newid pan oedd yn gweddio. Yng nghwmni Iesu, roedd hi’r ferch 17 mlwydd oed a roddodd ei bywyd iddo yng Nghaernarfon unwaith eto.

    Gweithgar Lle mae dechrau? Rhoddodd flynyddoedd o waith di-flino i eglwys Iesu Grist, i’r Mudiad Efengylaidd yn gwneud gwaith gweinyddol a hefyd yn cyfieithu a pharatoi deunydd plant, bu’n Flaenor ac Ysgrifennydd yng Nghapel Siloam, Bontnewydd am flynyddoedd lawer, yn gweithio efo Sister Emily yn Noddfa, Caernarfon, mynychu’r Ganolfan Iachau yng Nghaernarfon, ac Ysgol Haf y Weinidogaeth Iachau a hefyd yn weithgar gyda Senana a Mudiad Chwiorydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon. I ni yng Nghaersalem, Caernarfon, roedd yn gyd-aelod ffyddlon, yn Ddiacon, Trysorydd a wedyn yn Ysgrifennydd diwyd ac effeithiol o dan weinidogaeth y Parchedigion Ioan Davies, John Treharne a Rhys Llwyd.

    Doniol Nid person sych-dduwiol oedd Joan. Roedd yn gymeriad a hanner. “Wariar o ddynes!” fel sgwennodd un o’i chyn gyd-weithwyr yn y Weinyddiaeth Amaeth ar ôl darllen y cyhoeddiad am ei marwolaeth. Roedd gwrando ar Joan yn gwneud y cyhoeddiadau yn adloniant pur a, fel teulu, cawsom oriau o hwyl yn chwerthin gyda hi pan oedd yn ffonio gyda’r nos gyda cwestiynau nad oedd yn medru ateb yng nghroeseiriau “Take a Break”! Fe ddysgodd lot am fyd adloniant, cerddoriaeth a ffilm a roedd ei chlywed yn ceisio deall ac ynganu pethau anghyfarwydd yn ddifyrwch mawr – “Dwi ddim yn dallt y cliw yma – The blank of the Jedi (wedi ei ynganu mewn ffordd cwbl ryfeddol) – Pwy ‘di rheini dwad?”

    parhad ar dud. 7