10
Siarter Cwsmeriaid Ionawr 2017 Ein hymrwymiad i chi

Siarter Cwsmeriaid - First Bus...• Polisi ysmygu • Polisi alcohol a chyffuriau • Beiciau • Byrddau syrffio • Cŵn • Eiddo coll • Ymateb i'ch sylwadau • Cyrff annibynnol

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • SiarterCwsmeriaid

    Ionawr 2017

    Ein hymrwymiad i chi

  • Hwlordd Caerfyrddin

    Aberystwyth

    Abertawe

    Caerdydd

    Aberdaugleddau

    Penfro

    Dinbych-y-pysgod

    Porth Tywyn

    Llanelli

    Rhydaman

    Llandeilo

    Aberaeron

    Llanbedr Pont Stean

    Pontardawe

    Castell-nedd

    Maesteg

    Porthcawl

    Pen-y-bont ar Ogwr

    Y Bont-faen

    CasnewyddPort Talbot

    Cyflwyniad

    Ein gweledigaeth yn First Cymru yw bod yn ddewis cyntaf oran trafnidiaeth gyhoeddus, yn darparu ffordd o deithiodiogel, dibynadwy a chost effeithiol ar fysiau.

    Er mwyn dangos ein hymrwymiad i chi, rydym wedi llunio'rSiarter Cwsmeriaid hon, sy'n nodi ein haddewidiongwasanaeth i'n cwsmeriaid. Croesawn sylwadau ar y SiarterCwsmeriaid hon. Byddwn yn ei hadolygu'n rheolaidd ermwyn sicrhau ei bod yn diwallu anghenion ein cwsmeriaida'i bod yn adlewyrchiad teg o lefel y gwasanaeth rydym ynanelu at ei ddarparu. Dros y tudalennau nesaf, cewchwybodaeth am y safonau gwasanaeth y gallwch eu disgwylgennym a sut rydym wedi ymrwymo i wneud eich taith morhawdd â phosibl.

    Mae'r Siarter Cwsmeriaid hon yn berthnasol i bobgwasanaeth bws a weithredir gan First Cymru.

    32

    • Cyflwyniad• Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi• Prynu tocyn• Cwsmeriaid ag anghenion ychwanegol• Safonau a chyfleusterau'r gwasanaeth bws• Sut y gallwch CHI ein helpu ni• Materion yn ymwneud â diogelwch a'r amgylchedd• Polisi ysmygu• Polisi alcohol a chyffuriau• Beiciau• Byrddau syrffio• Cŵn• Eiddo coll• Ymateb i'ch sylwadau• Cyrff annibynnol• Dweud eich dweud• Ymrwymiad First Cymru• Beth yw ymrwymiad First Cymru?• Pryd y gallaf wneud hawliad?• Pryd y bydd First ar fai?• Sut i wneud hawliad?• Cysylltu â ni• Sut i ddal bws

    Page

    367810111213131313141515161617171717181920

    Cynnwys

    Ardal weithredu gwasanaethau bws First Cymru

  • Rydym wedi ymrwymo i ofaluam fuddiannau ein cwsmeriaid abyddwn yn mynd ati'n barhaus iadolygu'r hyn sydd angen i ni eiwneud er mwyn sicrhau ein bodyn cyflawni'r nod hwnnw.

    Yn fwy penodol, byddwn yn sicrhau safonau cyson ar gyferpob gwasanaeth bws fel a ganlyn:

    • Darparu gwybodaeth glir wedi'i hargraffu am yramserlen (lle nad yw'r Awdurdod Lleol yn gwneud hyn).

    • Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar ochr y ffordd neumewn gorsafoedd bysiau (lle nad yw'r Awdurdod Lleolyn gyfrifol am hyn).

    • Darparu gwasanaethau gwybodaeth hawdd eudefnyddio ar y we.

    • Darparu gwybodaeth gywir a chymorth pan fyddproblemau'n amharu ar ein gwasanaethau.

    Yn fwy penodol, byddwn yn gwneud y canlynol:

    • Sicrhau eich bod yn gallu teithio'n ddiogel ac mewnamodau glân a chyfforddus.

    • Gwneud popeth o fewn ein gallu i redeg eingwasanaethau yn unol â'r ffordd y cânt eu hysbysebu.

    • Trin pawb yn deg ac yn gyfartal ni waeth p'un a oesganddynt anabledd ai peidio na beth yw eu rhyw,oedran, hil neu dras ethnig, crefydd, cred neugyfeiriadedd rhywiol.

    • Eich trin chi â chwrteisi a pharch.

    • Ymateb yn brydlon i'ch ymholiadau.

    • Ymchwilio'n fanwl i unrhyw faterion a gaiff eu dwyn i'nsylw, gyda'r bwriad o fynd i'r afael ag unrhyw bryderonsy'n codi.

    • Rhoi gwybod i chi am y safon gwasanaeth y gallwch eidisgwyl gennym.

    Os byddwn yn methu â chyflawni unrhyw rai o'rymrwymiadau hyn, rhowch wybod i ni.

    4 5

  • 6 7

    Prynu tocyn

    • Gallwch brynu ystod lawn o docynnauDiwrnod, Wythnos a Mis ar fws.Gallwch brynu tocynnau 3 Mis, 6 Mis aBlwyddyn ar-lein o'n gwefan ynwww.firstgroup.com/etickets

    • Mae First Cymru yn cymryd rhan yn ycynlluniau teithio rhatach lleol.

    • Mae rhai tocynnau aml-deithiau athocynnau myfyrwyr ar gael trwy ein ap, m-ticket. Mae manylion llawn arwww.firstgroup.com/buy-ticket/mtickets-faqs

    Os cewch anhawster, cysylltwch â llinell gymorth m-ticket ar 01282 688179 (dydd Llun i ddydd Gwener, 09:00 - 17:00) neu anfonwch neges e-bost at [email protected]

    • Byddwn yn ceisio eich gwasanaethu mewn fforddbroffesiynol ac effeithlon.

    • Gwnewch yn siŵr bod gennych docyn / pás bws dilysbob amser wrth deithio ar ein gwasanaethau. Mae ganFirst Cymru bolisi lle y gellir rhoi tocyn safonol (ynamodol ar delerau ac amodau cludo) yn ôl disgresiwnein Tîm Archwilio am y troseddau canlynol:

    • Tocyn / pás wedi dod i ben• Teithio yn y Parth anghywir• Teithio'n rhy bell• Tocyn / pás wedi'i sganio a'i ddifwyno• Tocyn / pás heb ei gyflwyno ar gais• Unrhyw afreoleidd-dra arall yn ymwneud â thocynnau, fel y nodir gan y Tîm Archwilio.

    • Efallai y caiff cardiau teithio eu tynnu’n ôl os cânt eu defnyddio trwy dwyll

    • Cadwch eich tocyn drwy gydol eich taith, ac ar ôl hynnyhefyd. Os bydd gennych unrhyw broblemau, bydd hynyn galluogi ein staff i'w archwilio ac, os bydd angen, ynein helpu i olrhain unrhyw broblem a all godi ar ôl eichtaith.

    Rhoi'r wybodaethddiweddaraf i chi

    Gwyddom ei bod yn bwysig i chi gaelgwybodaeth am ein gwasanaethau, cyn i chigychwyn ar eich taith, ac ar y diwrnodrydych am deithio.

    Ein nod yw darparu'r pethau canlynol i chi:

    • Gwybodaeth gynhwysfawr, gywir acamserol am yr amserlen, gan gynnwys rhify gwasanaeth, amser gadael ac arosfannau,a fydd yn cael ei dangos ar bob un o'n prifarosfannau. Bydd gwybodaeth hefyd ar gaelmewn mannau cyfnewid mawr.

    • Gwybodaeth i gwsmeriaid sy'n cael ei pharatoimewn fformat clir a hawdd ei ddeall.

    • Amserlenni a deunydd gwybodaeth arallmewn gorsafoedd bysiau a mannaucyhoeddus eraill.

    • Byddwn yn darparu gwybodaeth yn Gymraeg ac ynSaesneg, lle y bo’n ymarferol. Rydym yn ymdrechu i sicrhaubod ein holl wybodaeth yn ddwyieithog mewn pryd.

    • Gwybodaeth ymlaen llaw sy'n rhoi gwybod i gwsmeriaidam newidiadau i wasanaethau yn sgil Gwyliau Cyhoeddus,gwaith hysbys ar y ffordd neu ddigwyddiadau arbennig, agaiff ei pharatoi o leiaf bythefnos ymlaen llaw (lle bydd ycorff perthnasol hefyd yn rhoi gwybod i ni mewn da bryd).Lle bynnag y bo modd, bydd gwybodaeth o'r fath i'w gweldmewn arosfannau a gorsafoedd bysiau perthnasol, ac ar eingwefan.

    • Cymaint o rybudd â phosibl os bydd gwasanaethau'n newidyn annisgwyl neu ar frys. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bodhyn yn amharu cyn lleied â phosibl ar ein gwasanaethau.

    • Taflenni amserlen newydd o leiaf bythefnos cyn i'r drefnnewydd gael ei rhoi ar waith.

    • Llwybr a phen taith bysiau wedi'u nodi'n glir. Bydd rhif aphen y daith yn cael eu harddangos yn gywir ar bob bwspan fyddant yn rhedeg, a bydd yr arwydd “Sorry, out ofservice”/ “Dim gwasanaeth” i'w weld pan na fyddant ynrhedeg.

    • Mae gwybodaeth am ein gwasanaethau ar ein gwefan,www.firstgroup.com, ac mae fersiwn testun ffôn clyfar hefydar gael.

    • Mae Traveline Cymru yn darparu gwybodaeth gynhwysfawram ein holl wasanaethau bws yn Gymraeg ac yn Saesneg.Bydd First Cymru yn parhau i hyrwyddo a chefnogi'rgwasanaeth cenedlaethol hwn sy'n rhoi gwybodaeth amfysiau. Gallwch gysylltu â Traveline Cymru ar 0800 464 0000neu drwy fynd i'r wefan yn www.traveline-cymru.info.

  • Cwsmeriaid ag anghenion ychwanegol

    Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wellagwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid sydd ag anawsterausymudedd ac yn dymuno teithio ar fws.

    • Byddwn yn ceisio darparu cymaint o le ag sy'n ymarferolbosibl yn ein cerbydau i gwsmeriaid sy'n defnyddiocadeiriau olwyn safonol neu gadeiriau olwyn modur hydat 67cm o led a 120cm o hyd.

    • Yn anffodus, nid oes modd cludo sgwteri symudedd acherbydau symudedd modur eraill bob amser. Oshoffech i ni gynnal asesiad o'ch cerbyd symudedd ermwyn ei awdurdodi ar gyfer teithio, cysylltwch â'n tîmGwasanaethau Cwsmeriaid (gweler Cysylltu â Ni ar ydudalen gefn). Bydd y tîm yn gwneud y trefniadauangenrheidiol i chi. Wedyn byddwch yn cael “Pasbort iDeithio” a fydd yn dangos bod eich cerbyd symudedd yndderbyniol i'w gludo yn ein cerbydau.

    • Bydd ein gyrwyr bob amser yn ymdrechu i stopio moragos â phosibl at ymyl y palmant a defnyddio'r ramp llebo un wedi'i osod. Byddem yn disgwyl i'n gyrwyr wneudhyn fel mater o drefn, ond holwch os na fydd hyn yndigwydd.

    • Mae First Cymru yn falch o gefnogi'r Siarter Teithio argyfer Cŵn Tywys. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwche-bost i [email protected]

    • Rydym yn gweithio'n agos gyda grwpiau anabledd lleoler mwyn meithrin cysylltiadau cynhyrchiol.

    • Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau lleol ihyrwyddo cynllun Mannau Diogel, sydd wedi'i sefydlu ermwyn cynnig rhywle i bobl sydd ag anawsterau dysgufynd os byddant yn dod ar draws problem. Mae FirstCymru wedi cytuno y bydd ein staff yn gwneud popeth ofewn eu gallu i helpu rhywun sydd mewn trallod.Gallwch lawrlwytho eich cerdyn Taith Ddiogel a'chcerdyn Taith Well personol o'n gwefan ynhttp://www.firstgroup.com/ukbus/cymru/bus_access/safe_journey_card/

    8 9

    Mae pob un o’n gwasanaethau bysiau lleol yn defnyddiobysiau mynediad hawdd â llawr isel, wedi’u dylunio i gludocadeiriau olwyn a bygis. Ar hyn o bryd, gallwn gludo cadeiriauolwyn ar goetsis gwasanaeth X10 yn unig, os cânt eu plygu a’urhoi yn y loceri o dan y llawr.

    Ar y cerbydau hyn, mae lle pwrpasol ar gyfer un defnyddiwrcadair olwyn. Os bydd rhywun nad yw'n defnyddio cadairolwyn yn y lle hwn, bydd y gyrrwr yn gofyn iddo symud i ranarall o'r cerbyd.

    Mae rhywfaint o le ar gyfer bygis ar ein cerbydau, a bydd hynyn amrywio yn dibynnu ar gynllun mewnol y cerbyd. Os byddpobl eisoes yn defnyddio'r lleoedd hyn, mae'n bosibl ygofynnir i gwsmeriaid blygu'r goetsh gadair neu fygi er mwynteithio. Mae gan ddefnyddwyr cadair olwyn flaenoriaeth drosfygis nad ydynt wedi'u plygu ar y cerbyd, felly peidiwch â digioos bydd y gyrrwr yn gofyn i chi blygu eich bygi a symud i ranarall o'r cerbyd.

  • Sut y gallwch CHI ein helpu ni

    Gallwch ein helpu i ddarparu gwasanaeth bws diogel osafon uchel drwy sicrhau eich bod yn cofio'r pethaucanlynol bob amser:

    • Peidiwch â siarad â'r gyrrwr tra bo'r cerbyd yn symud (aceithrio mewn argyfwng).

    • Rhowch arwydd mewn da bryd i'r gyrrwr eich bod yndymuno mynd ar y bws neu oddi arno.

    • Gadewch i bobl adael y bws cyn mynd arno.

    • Dywedwch wrth y gyrrwr i ble yn union rydych yn mynda, lle bo modd, rhowch yr arian cywir iddo.

    • Byddwch yn barod i ddangos eich pás neu docyn wrthfynd ar y cerbyd, gan gynnwys Cardiau Teithio Rhatach.

    • Gafaelwch yn y canllawiau wrth sefyll neu gerdded ar ycerbyd. Eisteddwch pan fydd seddi ar gael ac arhoswchyn eich sedd nes bydd y bws wedi stopio'n llwyr ar beneich taith.

    • Sicrhewch fod lefel y sain mor isel â phosibl ar stereospersonol, chwaraewyr MP3 a dyfeisiau eraill o'r fath.

    • Defnyddiwch raciau bagiau bob amser, lle bo rhai argael, a cheisiwch osgoi gadael bagiau i lawr canol y bws.

    • Codwch o'ch sedd a'i chynnig i deithwyr anabl pan fyddangen gwneud hynny.

    • Er lles y teithwyr eraill, peidiwch â rhoi eich traed ar yseddau.

    • A wnewch chi beidio â bwyta nac yfed pethau a fydd yngwneud yr amgylchedd yn amhleserus i gwsmeriaideraill neu a allai ddigio rhywun. Rhaid i ddiodydd poethfod mewn cynhwysydd â chlawr. Ewch â’ch sbwriel gydachi pan fyddwch yn gadael y bws.

    • Mae gan fam hawl i fwydo ei babi ar y fron yngyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys gwneud hynny arunrhyw rai o'n bysiau. Parchwch y ffaith bod angenbwydo babanod pan fyddant yn llwglyd er mwyn osgoigofid diangen. Mae First Cymru yn cefnogi'r hawl hon ynllawn.

    Safonau a chyfleusterau'r gwasanaeth bws

    • Ein nod yw rhedeg ein holl wasanaethau yn unol â'ramserlen a gyhoeddir a gwneud ein gorau glas i sicrhau eubod yn rhedeg ar amser. Byddwn yn monitro pa morddibynadwy yw ein gwasanaethau ac yn gwneudnewidiadau i'w gwella.

    • Byddwn yn parhau i anelu at wella safonau prydlondeb adibynadwyedd.

    • Bydd pob un o'n gyrwyr wedi'u hyfforddi'n ddigonol o ranllwybrau'r bysiau, ac yn gyfarwydd â'r gwasanaeth aweithredir ganddynt.

    • Lle bynnag y bo modd, bydd ein bysiau wedi'u gwresogi'nbriodol mewn tywydd oer. Byddwn yn ceisio sicrhau bod einbysiau'n cael eu hawyru'n ddigonol mewn tywydd poeth.

    • Byddwn yn bwrw golwg dros ein bysiau bob dydd cyn eurhedeg er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a'ucadw'n dda.

    • Bydd ein bysiau'n cael eu harchwilio'n llawn yn rheolaidd.

    • Byddwn yn edrych ar y gwasanaeth bws a gynigir gennymyn rheolaidd ac yn gwrando ar sylwadau ein cwsmeriaidwrth wneud unrhyw newidiadau. Bydd y pwyslais ar wellagwasanaethau lle bynnag y bo modd, yn unol â'r defnydd awneir ohonynt gan ein cwsmeriaid.

    • Bydd pob un o yrwyr ein cerbydau yn hawdd i'w hadnabod,yn cyflwyno delwedd dda ac yn gwisgo gwisg lawn.

    • Weithiau ceir oedi am resymau y tu hwnt i reolaeth ydiwydiant bysiau. Mae'r rhain yn cynnwys tagfeydd traffig,fandaliaeth, rhybuddion diogelwch, damweiniau ar y ffordda thywydd garw sy'n effeithio ar ddulliau trafnidiaeth eraillyn yr un modd, ond gall fod rhesymau eraill hefyd. Pan fydddigwyddiadau o'r fath yn amharu ar ein gwasanaeth,byddwn bob amser yn ymdrechu i roi'r wybodaethddiweddaraf i'n cwsmeriaid ac yn darparu gwasanaethaueraill lle bynnag y bo modd.

    10 11

  • Polisi Ysmygu• Mae yn erbyn y gyfraith i unrhyw un ysmygu ar

    drafnidiaeth gyhoeddus, ac felly mae gennym bolisi dimysmygu llym ar bob gwasanaeth a weithredir gan First.

    • Ni chaniateir i yrwyr ysmygu ar fysiau ar unrhyw adeg.

    • Ni chaniateir sigaréts electronig.

    Polisi Alcohol a Chyffuriau• Ni chaniateir i gwsmeriaid yfed alcohol na bod â

    chynhwysydd alcohol ar agor yn eu meddiant ar unrhywun o'n gwasanaethau.

    • Gall y gyrrwr wrthod cludo unrhyw deithiwr sydd o danddylanwad alcohol a/neu gyffuriau anghyfreithlon.

    Beiciau• Gallwn gludo beiciau ar ein gwasanaeth cyflym

    Abertawe i Gaerdydd, X10. Bydd beiciau’n cael eu cludoyn y loceri o dan y llawr.

    Nid ydym yn gallu cludo beiciau ar wasanaethau eraill.Fodd bynnag, gallwch gario beiciau wedi’u plygu, osbydd lle addas ar gael.

    Byrddau syrffio• Ni allwn gludo byrddau syrffio ar ein cerbydau safonol

    arferol, er y gellir cludo corff-fyrddau yn ôl disgresiwn ygyrrwr. Mae lles ein cwsmeriaid yn bwysig iawn i ni, acfelly dim ond os bydd y gyrrwr yn teimlo na fydddiogelwch ein teithwyr yn cael ei beryglu y bydd yncaniatáu i eitemau mawr gael eu cludo.

    Materion yn ymwneud â diogelwch a'ramgylchedd

    • Mae diogelwch ein teithwyr o'r pwys mwyaf i ni.

    • Bydd pob aelod o staff a gyflogir gan First Cymru yn caelhyfforddiant iechyd a diogelwch fel rhan o'uhyfforddiant sefydlu.

    • Caiff pob un o'n gyrwyr eu profi'n rheolaidd amddefnydd o alcohol a chyffuriau.

    • Byddwn bob amser yn sicrhau bod pob agwedd ar ybusnes yn canolbwyntio ar faterion diogelwch.

    • Awn ati'n rheolaidd i adolygu materion iechyd adiogelwch a nodi meysydd ar gyfer gwella parhaus, ganleihau'r risg i'n staff a'n cwsmeriaid.

    • Rydym wedi sefydlu systemau cyfathrebu mewnol ermwyn sicrhau bod pob aelod o'n staff yn ymwybodol onewidiadau i safonau ac er mwyn gwneud yn siŵr bodcysur a diogelwch ein cwsmeriaid yn cael blaenoriaeth.

    • Mae First Cymru wedi ymrwymo i weithio mewnpartneriaeth â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol,cyflogwyr ac asiantaethau eraill i hyrwyddo teithiogwyrdd yn y rhanbarth.

    • Rydym yn parchu ystyriaethau amgylcheddol ymhobagwedd ar ein gwaith.

    • Mae systemau teledu cylch cyfyng llawn wedi'u gosod arnifer o'n cerbydau er diogelwch cwsmeriaid a gyrwyr.

    • Darparwn hyfforddiant i'n gyrwyr ar dechnegau gyrruuwch er mwyn sicrhau eich bod bob amser yn ddiogelwrth deithio ar ein bysiau.

    • Mae'r amgylchedd yn hynod bwysig i ni. Rydym bobamser yn ceisio defnyddio llai o ynni a gweithio'n fwyeffeithlon. Mae pob un o'n cerbydau'n defnyddio dieselsylffwr isel iawn er mwyn gostwng allyriadau carbon.

    • Mae unedau “DriveGreen” wedi'u gosod ar bob un o'ncerbydau, sy'n rhoi adborth ar unwaith i'n gyrwyr ar yffordd y maent yn gyrru, ac yn galluogi gyrwyr i wneudpenderfyniadau mwy doeth a diogel wrth yrru ar yffordd.

    • Mae gan bob un o'n safleoedd dargedau i leihau acailgylchu gwastraff.

    12 13

  • C^wn

    • Mae'n bosibl y bydd angen talu ffi am docyn diwrnod i gi.

    • Y gyrrwr fydd yn penderfynu a gaiff y ci ei dderbyn aipeidio.

    • Lle caiff cŵn eu cludo ar ein gwasanaethau, gofynnir igwsmeriaid beidio â gadael iddynt fynd ar y seddi nacaros yng nghanol y bws.

    • Lle ceir mwy nag un ci, sylwer mai'r gyrrwr fydd ynpenderfynu a gaiff mwy nag un ci ei gludo.

    • Bydd anifeiliaid cymorth cydnabyddedig yn teithio amddim.

    Eiddo coll

    Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn ag eiddo collar wasanaethau bws First yng Nghymru, cysylltwch â'r tîmGwasanaethau Cwsmeriaid - mae'r manylion ar dudalengefn y llyfryn hwn.

    I hawlio eich eiddo, bydd angen i chi ddangos prawf o bwyydych chi. Ni chedwir nwyddau darfodus am fwy na 24 awr.Cedwir pob eiddo arall am fis.

    Yn unol ag Atodlen 2 Rheoliadau Cerbydau GwasanaethCyhoeddus (Eiddo coll) 1978, bydd First Cymru yn codi ffi o£2.40 ar bobl sy'n hawlio eiddo coll.

    Os na allwch gasglu eich eiddo o un o'n depos, gallwndderbyn amlen â chyfeiriad a stamp arni neu gallwchdrefnu bod gwasanaeth cludo yn ei gasglu, ar eichcyfrifoldeb a'ch cost eich hun, er mwyn ei anfon atoch.

    Ymateb i'ch sylwadau

    Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau yn fawr. Rydym ynaddo ymchwilio'n ddiffuant ac yn onest i bob cwyn a gawn.

    Cewch gydnabyddiaeth gychwynnol o fewn 5 diwrnodgwaith ac ymateb ysgrifenedig llawn o fewn 12 diwrnodgwaith (oni bai eich bod wedi gofyn am alwad ffôn). Osbydd angen mwy na 12 diwrnod gwaith i gynnal einhymchwiliad, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi'n gyson.

    Rydym yn monitro'r adborth a gawn yn gyson. Caiff ywybodaeth hon ei defnyddio i wella ein gwasanaethau.

    Rydym yn cydnabod gwasanaeth da trwy ein cynllungwobrwyo ‘Extra Mile’. Rydym yn annog ein cwsmeriaid ienwebu aelodau o staff yr hoffent i ni eu hystyried ar gyfer ywobr hon, trwy fynd i www.firstgroup.com/extra-mile-awards

    Bikew

    orldtrav

    el/Shutterstock.com

    14 15

  • Ymrwymiad First Cymru

    Rydym yn falch o'n gwasanaeth. Fodd bynnag, ar adegau,gall pethau fynd o chwith ac mae'n bosibl y byddwn ynmethu â darparu gwasanaeth sy'n cyrraedd ein safon ucheli chi, y cwsmer.

    Er mwyn cydnabod hyn, mae First Cymru yn falch ogyhoeddi Ymrwymiad newydd First Cymru.

    Beth yw Ymrwymiad First Cymru?Ein Hymrwymiad i chi yw y byddwn yn gwneud iawn i chiam unrhyw anghyfleuster, pan fydd pethau'n mynd ochwith o bryd i'w gilydd, drwy adael i chi deithio am ddim.

    Pryd y gallaf wneud hawliad?Mae Ymrwymiad First Cymru yn rhoi hawl i chi wneudhawliad yn erbyn methiant lle bo First Cymru yn gyfrifol amyr oedi ar eich taith. Byddai hyn yn golygu achosion lle bobws neu gerbyd Greyhound wedi methu â gweithio, wedigadael fwy na munud yn gynnar neu fwy na 20 munud ynhwyr o bwynt amseru cofrestredig.

    Pryd y bydd First ar fai?

    Byddwn yn cynnig tocyn diwrnod am ddim os mai einmethiant ni, naill ai drwy dorri i lawr neu wall ar ein rhan, aachosodd y broblem.

    Mae'r enghreifftiau o sefyllfaoedd lle na fyddem yn gyfrifolam fethiannau yn cynnwys oedi oherwydd tywydd garw,ffyrdd ar gau, fandaliaeth i gerbyd neu weithredudiwydiannol.

    Nid yw First yn atebol am unrhyw golled (gan gynnwyscolled ganlyniadol) neu gostau ychwanegol a achosir oganlyniad i oedi i fws neu gerbyd neu ganslo gwasanaeth.Os byddwch yn teithio i gyrraedd cysylltiad â gwasanaetharall, byddem yn gofyn i chi ganiatáu digon o amser.

    Cyrff annibynnol

    Bus Users UKGrŵp annibynnol yw BUS USERS Cymru, sy'n rhan o BUSUSERS UK, sef yr enw newydd ar y FfederasiwnCenedlaethol Defnyddwyr Bysiau, ac fe'i ffurfiwyd i roi llais ideithwyr bysiau. Os ydych yn teimlo nad ydym wedi ymdrinâ'ch cwyn mewn modd boddhaol, cysylltwch â'r corffcyfryngu annibynnol hwn.

    Bus Users Cymru,Heol Sloper, Caerdydd CF11 8TB

    Ffôn: 02920 221370E-bost: [email protected]

    I gael manylion am eich cynrychiolydd lleol,

    ewch i: www.bususers.org

    Dweud eich dweud

    Rydym yn gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth bwssy'n ddiogel, yn ddibynadwy ac yn cael ei lywio ganwasanaeth, ond yma yn First Cymru, nid yw hynny'n ddigon.Rydym hefyd yn awyddus i glywed eich barn a chaelgwybod pa gynnyrch rydych yn ei hoffi, beth yr hoffech eigael a beth yr hoffech weld mwy ohono. Byddwn yngwahodd cwsmeriaid yn rheolaidd i ymuno â'rdigwyddiadau adborth amrywiol a gynhelir gennym ledledy rhanbarth ac i ddweud eich dweud ar ystod eang ofaterion, gan gynnwys: datblygu cynnyrch, gwellagwasanaethau, dibynadwyedd, cyfathrebu â chwsmeriaid, allawer mwy.

    Os hoffech gael eich gwahodd i ddigwyddiadau igwsmeriaid, gallwch wneud cais drwy anfon eich manylioncyswllt a'ch cyfeiriad drwy e-bost i'r Tîm [email protected]

    16 17

  • Persona

    l details

    Surname

    Initial

    Title

    Address

    Postcode

    Daytime

    tel

    Evening

    tel

    Email

    address

    Journey

    details

    Service

    number

    Date of

    travel

    Advertis

    ed depar

    ture

    time (if k

    nown)

    Actual de

    parture

    time

    Journey

    from

    Journey

    to

    Travel clai

    m / comm

    ent form

    Please u

    se the sp

    ace belo

    w for

    your com

    ments or

    suggest

    ions

    about F

    irst bus se

    rvices

    Signed

    Date

    Please tick if

    you wish

    to receiv

    e further

    commun

    ications

    about

    our p

    roducts, s

    ervices an

    d oers

    For more i

    nformati

    on visit

    www.!rs

    tgroup.c

    om/sout

    h-west-w

    ales

    or contac

    t Custom

    er Service

    s on 0

    1792 57

    2255

    p

    rovide t

    he best

    ossible

    , but de

    spite ou

    r

    endeavo

    urs, occa

    sionally

    bel

    ow the

    high stan

    dards

    t ours

    elves.

    ese c

    ases, we

    apologi

    se for

    delays,

    disrupt

    ion or

    conven

    ience to

    our cus

    tomers.

    The Cym

    ru Comm

    itment o

    ffers cus

    tomers w

    ho hold

    a valid

    travel ti

    cket or p

    ass, the

    opportu

    nity to m

    ake a tr

    avel clai

    m

    for free

    travel in

    the foll

    owing i

    nstance

    s*:

    1. A se

    rvice de

    parts fro

    m a tim

    ing poin

    t more th

    an 20

    minutes

    late.

    2. We

    fail to o

    perate a

    n advert

    ised ser

    vice for

    reasons

    within o

    ur contr

    ol.

    To claim

    , simply c

    omplete

    the form

    opposite

    (enclosin

    g

    your tic

    kets, or c

    opies wh

    ere availa

    ble) and

    send to

    the

    Freepost

    address

    shown o

    verleaf w

    ithin 28 d

    ays of the

    expiry o

    f the tick

    et.

    We aim

    to resp

    ond wit

    hin 10 w

    orking d

    ays of re

    ceipt of

    your cla

    im form

    .

    Complet

    ion of th

    is form d

    oes not

    guarant

    ee comp

    ensatio

    n. This le

    aflet do

    es

    not crea

    te any n

    ew lega

    l relatio

    nship w

    ith you a

    s a resul

    t of wha

    t we say

    we

    will do, n

    or does

    it affect

    your leg

    al rights

    . These a

    re set ou

    t in our

    Conditio

    ns

    of Carria

    ge.

    *The ar

    rangeme

    nts for c

    ompens

    ation ar

    e only av

    ailable fo

    r First C

    ymru

    services

    and do

    not app

    ly to cer

    tain del

    ays that

    are out

    side our

    control

    for

    example

    vandali

    sm, secu

    rity aler

    ts, indus

    trial act

    ion, sev

    ere wea

    ther, hea

    vy

    traffic co

    nditions

    , road w

    orks and

    road cl

    osures.

    Travel

    claim form

    for First

    Cymru b

    us servi

    ces

    www.$rst

    group.co

    m/south-

    west-wa

    les

    Cysylltu â ni

    Os bydd gennych unrhyw gwynion, awgrymiadau neusylwadau am ein gwasanaethau, neu ymholiadau ynglŷn âffioedd neu docynnau, cysylltwch â ni drwy un o'r dulliaucanlynol.

    Ysgrifennwch atom yn:

    First CymruHeol GwyrosyddPen-lanAbertaweSA5 7BN

    Anfonwch e-bost atom i: [email protected]

    Ffoniwch ni ar: 01792 572255

    Sylwer bod ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar gaelrhwng 07:00 a 19:00 o ddydd Llun i ddydd Sul.

    I gael gwybodaeth am ein hamserlen, ewch iwww.firstgroup.com neu ffoniwch Traveline ar 0800 464 800 (rhad ac am ddim).

    Ar gyfer Eiddo Coll, cysylltwch â'n hadran GwasanaethauCwsmeriaid ar 01792 572255.

    Sut mae gwneud hawliad?Os ydych o’r farn ein bod ni wedi’ch siomi chi a’ch bod chi’ndymuno hawlio yn erbyn taith benodol, cadwch eich tocynneu gerdyn, a llenwch ffurflen hawlio Ymrwymiad First Cymru.

    Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefanhttp://www.firstgroup.com/ukbus/south_west_wales/help_contact/customer_care/ – neu gallwch gasglu un o’rgorsafoedd bysiau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Port Talbot acAbertawe, yn ogystal ag amrywiaeth o allfeydd eraill.

    Rhowch fanylion beth ddigwyddodd ac atodwch, lle y bo’nbosibl, tocyn y daith dan sylw, yn ogystal â gwybodaethallweddol, yn benodol, amser eich taith, rhif llwybr y bws, ac oble i ble yr oeddech yn teithio.

    Ar ôl ei llenwi, seliwch y ffurflen gyda'ch tocyn y tu mewn iddi,a'i phostio'n ôl atom yn y cyfeiriad sydd ar y ffurflen.

    Wedyn, bydd ein tîm yn ymchwilio i'ch hawliad ac yn ymateb ichi o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl iddynt gael eich ffurflen.

    I gael rhagor o fanylion am y cynllun, cysylltwch â thîmGwasanaethau Cwsmeriaid First (ar y dudalen gyferbyn).

    1918