16
BRO MORGANNWG RHIFYN 4 | HYDREF 2012 SYLW AR ARDAL Galluogi gwaith, hyfforddiant a phrofiad Ehangu Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ein datblygiadau newydd diweddaraf yn eich ardal chi Paratoi ar gyfer diwygio budd-daliadau

Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Wales & West Housing's Newsletter for the Vale of Glamorgan area

Citation preview

Page 1: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

BRO MORGANNWGRHIFYN 4 | HYDREF 2012

SYLW AR ARDAL

Galluogi gwaith, hyfforddiant a phrofiad

Ehangu GwasanaethauCynnal a Chadw Cambria

Ein datblygiadau newydd diweddaraf yn eich ardal chi

Paratoi ar gyfer diwygiobudd­daliadau

Page 2: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

2 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Mae’r rhifyn hwn – y cyntaf sy’n defnyddio einhunaniaeth brand newydd a gyflwynwyd gennym ym mis Ebrill eleni – yn cynnwyscymysgiad o newyddion ynghylch rhai o’n mentrau sy’n benodol i’r sir, ynghyd â’r diweddaraf am bethau perthnasol sy’n digwydddrwy’r sefydliad cyfan.

Yn ystod y gwanwyn eleni, fe wnaethom groesawu Cadeirydd newydd i’n Bwrdd. Ar ôltair blynedd lwyddiannus yn y gadair, fe wnaethIvor Gittens ymddeol, ond bydd yn parhau i fodyn aelod o Fwrdd WWH. Ei olynydd yw KathySmart, aelod adnabyddus o gymyned fusnesCaerdydd ac un sydd wedi hyrwyddo taicymdeithasol ers tro.

Mae’r newidiadau diweddar eraill wedi gweldShayne Hembrow yn cael ei ddyrchafu o swyddy Cyfarwyddwr Gweithrediadau i swyddnewydd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Masnachol. Yn dilyn hyn, rwy’nfalch o ddweud ein bod newydd benodi StevePorter yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau.

Gyda newidiadau Diwygio Budd­daliadau yncarlamu ymlaen, ar gefndir o ansicrwyddeconomaidd parhaus a chynnydd yn y pwysauar gyllid cyhoeddus, rwy’n siŵr y byddwch yncytuno bod angen i ni wneud llawer iawn obethau.

Er bod yr heriau’n fawr, rydym yn parhau’n ymroddedig i’n gweledigaeth i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedauledled Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd ycylchlythyr briffio hwn yn eich helpu chi i gaelgwybod y diweddaraf am lawer o’n gwaith arlawr gwlad yn eich ardal chi, yn ogystal â chael

gwybod am newyddion perthnasol ynghylch y sefydliad cyfan.

Yn olaf, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi unrhywdro gyda’ch sylwadau, syniadau ac adborth ynghylch unrhyw agwedd ar ein gwaith.

Yn gywir

Anne Hinchey, Prif Weithredwr

Dilynwch ni ar Twitter @wwha

Gwyliwch ni ar ein sianel YouTube wwhahomesforwales

CYFLWYNIADCroeso i rifyn hydref 2012 Sylw ar ardal Bro Morgannwg, sy’n dodâ’r diweddaraf i chi am fentrau Tai Wales & West yn eich ardal chi.

Page 3: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

Drwy weithio mewn partneriaeth â ChyngorBro Morgannwg a Taylor Wimpey, rydymwedi datblygu 20 cartref ar rent fforddiadwyyng Ngolwg y Coed, ac fe wnaeth dros 350 oymgeiswyr fynegi diddordeb mewn byw yny datblygiad newydd a chyffrous hwn panhysbysebwyd ef yn y wasg leol. Mae dyraniadau wedi cael eu gwneud drwyHOMES4U, y system ddyraniadau ar saildewisiadau yn y Fro.

Mae’r cartrefi hyn, sydd o safon uchel ac yndefnyddio ynni’n effeithlon, mewn lleoliad

delfrydol ar gyfer ysgolion lleol, yn medduar gysylltiadau trafnidiaeth cyfleus, ac mae’radborth ar y tai newydd wedi bod yngadarnhaol iawn. Dywedodd Stacey Magrin,un o’r ymgeiswyr llwyddiannus: “Rwy’nllawn cyffro, ac ni allaf aros nes caf symud imewn – ni all yr wythnosau nesaf ddod ynddigon buan.”

Yn gyffredinol, mae ymgeiswyr wedi dweudwrthym fod y ceginau o safon uchel, ygerddi mawr a’r mannau storio da wedi creuargraff fawr arnyn nhw.

TAI FFORDDIADWY NEWYDDYNG NGOLWG Y COED, PENCOEDTRE LANE, Y BARRIMae’r galw wedi bod yn uchel iawn am ein datblygiadnewydd o gartrefi fforddiadwy yn y Fro.

There has been tremendous interest in our new development of affordable home at Golwg y Coed.

3 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Page 4: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

Ym mis Awst, dechreuodd Jan Fox, UwchSwyddog Gorfodi Tenantiaeth WWH, weithiogyda Chyngor Bro Morgannwg, Cymorth iDdioddefwyr, a PCSO o’r Barri, i helpu’r cyngori adolygu’r polisi ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithredu camau ataliol.

Rydym yn siŵr y bydd y dull arloesol hwn oweithio mewn partneriaeth yn sicrhau bod dullmwy cyson yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afaelag ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled yFro. Mae pob ochr yn gytûn mai fel y cam olaf

y dylid ystyried troi pobl allan o’u cartrefi.

Yn hytrach, bydd mesurau ataliol yn cael yflaenoriaeth, gyda chyfryngu, cytundebaustadau, cytundebau magu plant, ymgymeriadau a Chontractau Ymddygiad Derbyniol yn ddewisiadau a ffafrir i ddod o hydi atebion parhaus ac effeithiol.

Dywedodd Jan Fox: “Rydym yn edrych ymlaenyn fawr iawn at barhau â’n gwaith gyda Chyngor y Fro er mwyn helpu i weithredupolisïau a chamau effeithiol i fynd i’r afael agymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.”

RHANNU ARBENIGEDDAR FYND I’R AFAEL AG YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL

Fe wnaethom ymuno â Thai Cymunedol Cymru ar eu stondin yn yr Eisteddfod eleni.

Rhannodd WWH stondin gyda Chartrefi Cymunedol Cymru, Tai Taf a Cr8 Solas, gan

ennyn diddordeb llif cyson o ymwelwyr drwygydol yr wythnos.

EISTEDDFOD 2012Er gwaetha’r cynnwrf ynghylch y Gemau Olympaidd dros yrhaf, daeth nifer dda i binacl calendr cymdeithasol Cymrueleni ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandŵ ym MroMorgannwg.

4 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Page 5: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

TŶ HAFAN

5 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Ian Davies o Solar Windows, gyda Kathy Smart, Cadeirydd WWH, ac Alison Stallard, Codwr Arian Busnesaua’r Gymuned Tŷ Hafan

Roedd yr arian yn rhan o gronfa a oedd yn cynnwys dros £2,500, a godwyd gan dîm llwyddiannus Tri Chopa Cymru GE AviationWales o bartneriaid contraction WWH, SolarWindows Limited.

Fe wnaeth Ian Davies, Mark Anderson, JeffCollins, Gary Seldon, Paul Miller a John Lewis,pob un yn gweithio i Solar Windows Ltd, gwblhau her y tri chopa mewn llai na 15 awrym mis Mehefin.

Ar ôl cyflwyno’r siec, fe wnaeth Kathy Smart,Cadeirydd WWH, ac Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, ymuno â thîm Solar Windows ardaith o amgylch yr hosbis, sy’n cynnig gofallliniarol i blant sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu areu bywyd, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Dywedodd John Lewis, rheolwr contractau ynSolar Windows, sydd wedi gweithio mewnpartneriaeth â Wales & West er 2001: “Roeddy tywydd mor ddrwg fel na welom gopa unrhyw un o’r mynyddoedd y buom yn sefyllarnyn nhw! Ar Gader Idris, roedd cyfnodau a

roddodd fraw o ddifrif i ni, gan ei bod mor wlyba gwyntog. Disgynnais ddwywaith fy hunan,ac nid oes llawer o bethau y gallwch eugwneud i’ch paratoi ar gyfer hynny.

Ychwanegodd: “Ond pan oedd pethau’n myndyn anodd iawn, fe wnaethom gofio pam roeddem yn gwneud hyn, sef dros blant mewnsefyllfa waeth na ni ein hunain – ac fe roddoddhynny hwb i ni ddal ati”.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif WeithredwrWWH: “Roedd yn fraint mynd o amgylch TŷHafan, ac yn brofiad gwylaidd iawn gweld ygwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud.Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi’rcyfleuster hwn, y mae angen mawr amdano,drwy ymdrechion clodwiw Solar Window Ltdyn ymateb i her Tri Chopa Cymru.”

Mae Solar Windows yn gweithio tuag at statwscarbon niwtral yn eu ffatri ym Medwas, acmaen nhw’n parhau i weithio mewn partneri­aeth â Thai Wales & West i’n helpu ni i gadw atein hymrwymiad o adeiladu tai cynaliadwy.

Yn ddiweddar, cafodd cynrychiolwyr Tai Wales & West y pleser ogyflwyno siec am £600 i Dŷ Hafan, hosbis plant Cymru.

Page 6: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

GWOBRAU GWNEUD GWAHANIAETH 2012

Daeth cyfanswm o 159 o breswylwyr, staff aphartneriaid contractio i’r seremoni yng Ngwesty’r Village, Coryton, Caerdydd, nosWener 19 Hydref.

Cyrhaeddodd un o breswylwyr y Fro, JeffJohnston, o Bridgeman Court, Penarth, rowndderfynol Gwobr y Garddwr Gorau (Cynllun erYmddeol), tra enwebwyd dau breswyliwr arallo’r ardal – Leon Balen, a Brian a Verna Dallimore o Gynllun er Ymddeol Oak Court,Penarth.

Cawsom yn agos at 60 o enwebiadau o safonuchel o bob rhan o Gymru eleni ­ swm boddhaus iawn, ac mae’n dangos o ddifrif pamor dda y mae nifer o’n staff yn adnabod einpreswylwyr.

Eleni, cawsom gefnogaeth wych gan ein contractwyr, gydag 11 yn cyfrannu’n fawr iawnat gyllideb y Gwobrau eleni.

Mae Media Wales wrthi’n gwneud ffilm feram y digwyddiad, a fydd yn cael ei llwytho ifyny i’n gwefan ac YouTube yn fuan iawn.

Dywedodd Anne Hinchey, y Prif Weithredwr:“A hwythau’n cael eu dyfarnu am y pumed troeleni, y Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth ywein ffordd ni o gydnabod cryfder, natur anhunanol a synnwyr o gymuned sydd yn amlygu ei hun yn ein preswylwyr. Ein bwriadyw gweld twf cryf a chynaliadwy a fydd yngwneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi achymunedau pobl, ac mae’r gwobrau hyn ynrhoi syniad da i bobl am rai o’r ffyrdd y maehyn yn cael ei gyflawni. Mae hi wedi bod ynnoson hyfryd, ac yn fraint o ddifrif cael clywedhanesion y rhai sy’n cymryd rhan.”

Yn olaf, mae angen sôn am un wobr arall – ytro hwn, un a enillwyd gan ein tîm CysylltiadauCyhoeddus a Marchnata ein hunain, pangydnabuwyd ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth gan Rwydwaith Cysylltiadau Cyhoeddus Cartrefi Cymunedol Cymru fel Digwyddiad Gorau Cymru 2012.

Fe wnaethom gynnal ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol am y pumed tro eleni, ac unwaith eto roedd yn nosonwych.

Jeff Johnson Green Fingers Retirement Finalist (centre) with Sinead O'Neil, Rob Bevan and Steve Lenahan, of sponsors Ian Williams and WWH Chair Kathy Smart

6 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | NEWYDDION LLEOL | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Page 7: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

7 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Rydym wedi edrych eto ar y gwasanaethaurydym yn eu darparu, ac yn sicrhau ein bodni’n gwneud popeth allwn ni i helpu pobl rhagmynd i ddyled ac i geisio talu eu biliau.

Yn neilltuol, rydym yn gweithio gyda phreswylwyr i’w helpu nhw i:

• baratoi ar gyfer cyflwyno’r Credyd Cyffredinol a thaliadau uniongyrchol

• darparu cymorth a chyngor wedi’i deilwra ynghylch cyllidebu

• deall effeithiau cyflwyno’r ‘dreth ystafell wely’, fel y’i gelwir hi, y flwyddyn nesaf, a

• lle bo’n briodol, helpu pobl i symud i gartrefi maen nhw’n gallu eu fforddio, ac sydd o faintpriodol.

Mae ein dau Swyddog Cyngor ar Arian hefydyn gweithio’n agos â Moneyline Cymru(gweler isod) yn ogystal ag Undebau Credydledled Cymru, er mwyn helpu preswylwyr igyllidebu’n effeithiol a chael mynediad atgredyd cost isel, sy’n ddiogel a fforddiadwy.

PARATOI AR GYFER DIWYGIO BUDD-DALIADAUEfallai nad oes yr un mater yn dylanwadu’n fwy ar y sector tai arhyn o bryd na Diwygio Budd­daliadau. Mae ein staff drwy’r sefydliad cyfan yn gweithio’n agos gyda’n holl bartneriaid mewnawdurdodau lleol, swyddogion budd­daliadau tai, Tai CymunedolCymru a phartneriaid eraill i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i’rnewidiadau a ddaw, rhoi gwybod am y canlyniadau hynny i’npreswylwyr, a ffyrdd y gallen nhw helpu eu hunain.

Ar hyn o bryd, mae’r ‘Cyflog Byw’ yn £7.20 yrawr (i weithwyr y tu allan i Lundain), ac maehynny’n sylweddol uwch na’r lleiafswm cyflogcyfreithiol, sy’n £6.08 yr awr ar hyn o bryd.

Gyda mwy na 340 o weithwyr cyflogedig ledled Cymru, mae ein penderfyniad yn golygunad oes unrhyw un yn gweithio i ni am lai na£7.20 yr awr, ac ers mis Awst eleni, mae 40 o’ngweithwyr cyflogedig wedi gweld cynnydd yneu cyflogau o ganlyniad i’r polisi hwn.

Dywedodd Rhys Moore, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyflog Byw:

“Rydym yn falch iawn o ddyfarnu nodcyflogwr Cyflog Byw i Tai Wales & West.Mae hon yn foment arwyddocaol, ganmai dyma’r gymdeithas tai gyntaf yngNghymru i sicrhau’r nod.”

ARWAIN Y SECTOR GYDA’R CYFLOG BYW

Nid yw ein hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi yn gyfyngedig i’npreswylwyr. Fel y gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r‘Cyflog Byw’, rydym yn arwain y sector gyda’r fenter hon.

Page 8: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

8 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Mae rhai enghreifftiau o lle’r ydym wedi caeleffaith yn ddiweddar yn cynnwys:

• De Cymru – Mae Jordan Evans, sy’n 18 oed, newydd gwblhau prentisiaeth gwaith plymwrdros ddwy flynedd gyda’n his­gwmni Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ltd.Fe wnaeth Jordan, sy’n hanu o Ben­y­bont ar Ogwr, gyfuno hyfforddiant wrth weithio â Cambria gydag astudio am ddiwrnod yr wythnos yng Ngholeg Ogwr. “Byddwn yn argymell hyn fel ffordd dda o ennill cyflog ac astudio,” meddai Jordan. “Mae nifer o’m cyfeillion wedi gofyn i mi a yw hyn yn beth dai’w wneud, ac rwyf wedi dweud wrthyn nhw ei fod yn bendant yn syniad da.” Mae Cambria yn bwriadu cyflogi 3 o brentisiaid ychwanegol rhwng eu gwaith yng ngogledd ade Cymru dros y misoedd nesaf.

• De Cymru ­ Fel rhan o’n cynllun Yn ôl i’r Gwaith (menter gan Dîm Llwybrau at Gyflogaeth Pen­y­bont ar Ogwr) rydym yn rhoi lle swyddfa i ddau ymgynghorydd ynni dan hyfforddiant. Wedi’u lleoli ym Mhen­y­bont ar Ogwr, mae Lynn a Howard wedi bod

ar leoliad gennym ni am chwe mis, gan ennill profiad a fydd yn eu helpu nhw i ddod o hyd igyflogaeth barhaol. Fe fyddan nhw’n hyrwyddo’r cynllun Disgownt Cartrefi Cynnesmewn cynlluniau er ymddeol yn ogystal â chynnig cyngor i breswylwyr ar ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon ac arbed arian ar eu biliau.

• Gogledd Cymru ­ Yn y Ffair Swyddi ddiweddar yn Hightown, Wrecsam, cofrestrodd dros 50 o bobl ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am gyflogaeth bosibl, a chyfleoedd hyfforddiant, a fydd yn cael eu hwyluso drwy ein contractwyr, Anwyl. Bydd y cyfleoedd hyn yncodi fel rhan o’n datblygiadau sy’n werth £17 miliwn ar Kingsmills Road a Rivulet Road, a bydd rhagor o fanylion yn dilyn yn rhifynnau In Touch â Sylw ar ardal Bro Morgannwg yn y dyfodol.

Rydym yn gweithio gyda Thwf Swyddi Cymruyn ogystal â sawl asiantaeth arall i gysylltu poblâ chyfleoedd, lle bo hynny’n bosibl ac ynbriodol.

Rydym hefyd yn gallu cynnal nifer o leoliadaumewnol, naill ai fel profiad gwaith tymor byrheb dâl, lleoliadau gwaith (rhai â chyllid) aphrentisiaethau. Mae’r cyfleoedd hyn ynagored i bawb, heb ystyriaeth i oedran,cymwysterau na phrofiad blaenorol.

Mae angen i’r rhai sydd â diddordeb lenwiFfurflen Mynegi Diddordeb yn y Fenter SgiliauGweithle ar ein gwefan www.wwha.co.uk

Y plymwr dan hyfforddiant, Jordan Evans, sy’n 18 oed ac sy’ndod o Ben­y­bont ar Ogwr, gyda Neal O’Leary, aelod o fwrddCambria, a Peter Jackson, Pennaeth Cambria, mewn seremoni gyflwyno y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd inodi ei gymhwyster.

LLEOLIADAUGWAITHAR GAELMae helpu ein preswylwyr ielwa ar gyflogaeth a chyfleoeddhyfforddiant hefyd yn flaenoriaeth allweddol i ni. Drwy’r contractwyr sy’n bartneriaid i ni, rydym yn barodwedi cefnogi 33 o bobl i ddychwelyd i weithio, ac maegennym nifer o brentisiaid yngweithio ar ein prosiectau ledled Cymru.

Page 9: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

9 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

CYNHWYSIANT DIGIDOL

Y gyrwyr allweddol i ni yn ein buddsoddiad oran cynhwysiant digidol yw:

• helpu pobl i fod mewn sefyllfa well i ddelio â Diwygio Budd­daliadau, yn enwedig cyflwyno’r Credyd Cyffredinol

• galluogi pobl i fod mewn cysylltiad gwell â’u cymunedau, a

• helpu ein preswylwyr i gael gwell gwerth amarian drwy gael mynediad at wybodaeth a nwyddau ar­lein

Mae ein cynllun peilot i ddod â mynediadband eang WiFi fforddiadwy i Dŷ Pontrhun ymMerthyr Tudful yn weithredol erbyn hyn.

Ers 5 Gorffennaf, mae preswylwyr Tŷ Pontrhuna’u teuluoedd wedi gallu cysylltu â’r rhyngrwyd o unrhyw ystafell yn yr adeiladdrwy ddyfais sy’n gallu cysylltu’n ddiwifr, ganddefnyddio cyfrinair unigol.

Cwmni Boyns o ogledd Cymru yw’r cyflenwr addewiswyd gennym ar gyfer y cynllun peilothwn, ac maen nhw wedi gosod llinell ffôn ynyr adeilad, sy’n galluogi preswylwyr i gael hydat 2Mb o fand eang Wi­Fi.

Ar hyn o bryd, mae ein preswylwyr yn cael cysylltiad am ddim am 6 mis, ac ar ôl hynny fefyddan nhw’n talu swm fforddiadwy iawn o63c yr wythnos.

Ein nod yw dysgu o’r cynllun peilot hwn ermwyn ehangu WiFi a chysylltiadau band eangeffeithlon a fforddiadwy i gymaint â phosiblo’n preswylwyr ledled Cymru, ac rydym ynawr yn dechrau gweithio ar ail brosiect peilotyn Nant y Môr, ein Cynllun Gofal Ychwanegolym Mhrestatyn, Sir Ddinbych.

http://www.youtube.com/watch?v=QtmoCdwpVz4

Rhywbeth arall allweddol sy’n cael sylw gennym yw ‘cynhwysiantdigidol’ – sy’n galluogi ein preswylwyr i fynd ar­lein: cael mynediadat gyfarpar, meddalwedd a gwasanaethau cymorth priodol, cysylltu â’i gilydd a’u cymunedau drwy’r cyfrwng hwn, a gwneuddewisiadau gwybodus, ynghyd â’r gallu i gael mynediad at nwyddau am brisiau gostyngol.

Y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn ymweld â phreswylwyr yn Nhŷ Pontrhun, a oedd yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau TG igefnogi ein cynllun peilot WiFi band eang

Page 10: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

10 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Rydym yn falch iawn o ddweud bod yr ymatebi’n gwedd newydd wedi bod yn gadarnhaoliawn, ac mae’n helpu i ledaenu’r neges am einstrwythur grŵp newydd, gyda GwasanaethauCynnal a Chadw Cambria Ltd fel ein his­gwmnicyntaf.

Yn ychwanegol at y rhifyn hwn o Sylw ar ardalBro Morgannwg, rydym yn falch o anfon dolenat ein Cynllun Busnes 2012, sy’n amlinellucyfeiriad strategol Grŵp Tai Wales & West argyfer y pum mlynedd nesaf.

Rhan arall o’r broses ail­frandio oedd creu einhis­frand newydd cyntaf, Connect24. Mae hynyn uno ystod gynhwysfawr o wasanaethaurydym yn eu darparu, gan gynnwys ein Larwmmewn Argyfwng, gwasanaethau y tu allan ioriau, a chymorth i weithwyr unigol.

O fod wedi ychwanegu nifer o gwsmeriaid corf­foraethol at ein portffolio yn ystod y misoedddiweddar, rydym nawr yn gofalu am fwy na20,000 o gartrefi ledled Cymru drwy ein canolfan gwasanaethau cwsmeriaid, sydd wedicael ei hachredu gan y GymdeithasGwasanaethau Teleofal, gan ein galluogi iwneud atgyweiriadau a helpu pobl i gael yrhelp maen nhw ei angen mewn argyfwng.

Os hoffech siarad gyda ni am sut gallai einCanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid helpu sefydliadau yn eich ardal chi sydd angen cefnogaeth gan ganolfan alw, cysylltwch â CateDooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi, ar029 20415386.

AIL-FRANDIOOs ydych yn cael In Touch, eincylchgrawn chwarterol ibreswylwyr, fe fyddwch yngwybod yn barod ein bod wediail­frandio ym mis Ebrill eleni.

Mrs Nancy Pilott o Gwrt Anghorfa, Pen­y­bont ar Ogwr, yn dangos ein botwm arddwrn larwm personol gan Connect24.

Page 11: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

Gyda throsiant o £2.8m yn ei flwyddyn gyntaf,yn y blynyddoedd nesaf rydym yn rhagweld ybydd hyn yn treblu.

Gan adeiladu ar lwyddiant sylweddol ei weithrediadau yn ne a chanolbarth Cymru,mae’r paratoadau wedi dechrau’n barod iCambria ymestyn i ogledd Cymru, gyda’r adainhon yn dod yn weithredol tua dechrau 2013.

Bydd y symudiad hwn yn sicrhau dyfodol 40swydd fedrus yng ngogledd Cymru, yn ogystalâ darparu llwyfan diogel arall am ragor ogyfleoedd i gynnig lleoliadau gwaith a phrentisiaethau.

Rhagwelwn y bydd Cambria yn gosod 4,000 ogeginau ac ystafelloedd ymolchi ledled Cymruyn ystod y pum mlynedd nesaf.

CAMBRIA YN YMESTYNI OGLEDD CYMRU

Fe wnaethom sefydlu ein cwmni cynnal a chadw ein hunain yn2011, gan ein harwain ni at strwythur Grŵp. Mae GwasanaethauCynnal a Chadw Cambria wedi cael 20 mis cyntaf llwyddiannusiawn yn masnachu, gan ymgymryd ag atgyweiriadau yn ogystal âgosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd i WWH yn ne achanolbarth Cymru.

Tîm Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria o 40 o weithwyr wedi’u lleoli yn Ne a Chanolbarth Cymru. Mae 40yn rhagor o swyddi medrus yn cael eu diogelu wrth i Cambria ehangu i Ogledd Cymru.

11 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Page 12: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

12 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Er hynny, gyda throsglwyddo’r rhaglengrantiau tai cymdeithasol i bartneriaid yn yrawdurdodau lleol, a’r gostyngiad mewncymhorthdal cyhoeddus sydd ar gael i gartrefinewydd, fe wnaeth aelodau Syniad adolyguswyddogaeth y consortiwm. Y canlyniad oedd

bod y consortiwm wedi dod i ben ar 1Mehefin eleni.

Er gwaethaf diwedd y consortiwm, fe wnawnni barhau i gydweithio lle bo’n briodol iddarparu cartrefi newydd y mae eu hangen ynfawr ledled Cymru.

CONSORTIWM SYNIADYn 2005 fe wnaethom ymuno â Linc Cymru a Thai Clwyd Alyn iffurfio Consortiwm Syniad. Ers hynny, mae aelodau’r consortiwmwedi darparu mwy na 1,500 o unedau tai cymdeithasol, 11 o gynlluniau gofal ychwanegol, a galluogi hyfforddiant a phrentisiaethau i fwy na 150 o bobl, gan wneud y defnydd mwyafposibl o fwy na £100m o grantiau tai cymdeithasol.

Yn y cyfnod economaidd anodd iawn hwn,bydd angen i fwy a mwy o breswylwyr taicymdeithasol gael mynediad at ygwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau felMoneyline Cymru ac undebau credyd lleol.

Rydym yn falch o gefnogi’r naill a’r llall, ac ynawr mae WWH yn gweithio’n agos gydaMoneyline ac Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro iystyried sut y gellir datblygu gwasanaethaunewydd i helpu preswylwyr i ymdopi â’rnewidiadau a ddaw yn sgil cyflwyno’r CredydCyffredinol.

Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyllido ehanguMoneyline dros y 3 blynedd nesaf, ac mae’r

gangen ddiweddaraf wedi agor ym MerthyrTudful yn ddiweddar. Bwriedir agor canghennau yn Abertawe a Wrecsam hefyd.

Mae benthyciadau a roddwyd gan Moneylineyn y 3 blynedd ddiwethaf wedi arwain at arbedion o £2.5m o ran llog mewn cymhariaeth â’r llog sy’n cael ei godi gan yProvident, y darparwr mwyaf cyffredin o fenthyciadau ar garreg y drws.

MONEYLINE CYMRUYN EHANGU Mae Tai Wales & West, un o’r cyrff a sefydlodd MoneylineCymru, yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i’r fenterbwysig hon.

Page 13: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

13 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Rydym yn disgwyl cyflawni cynnydd flwyddynar ôl blwyddyn yn ein gwargedion gweithredudrwy weithredu ein busnes yn effeithiol, hydyn oed ar ôl amsugno’r dyledion drwg rydymyn disgwyl eu cael yn sgil newidiadau i fudd­daliadau lles, yn enwedig cyflwyno’rCredyd Cyffredinol a’r ‘dreth ystafelloeddgwely’.

Dros y pum mlynedd nesaf, rydym yn disgwylbuddsoddi £36m mewn cynnal a chadw agwella ein stoc bresennol.

Ymhellach, mae gennym y gallu ariannol i fuddsoddi mwy na £100m mewn adeiladu achaffael cartrefi newydd. Mae’n debyg maidim ond un rhan o bump o’r buddsoddiadhwn fydd yn cael ei gyllido drwy grant taicymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, gyda£70m yn dod drwy fenthyciadau ychwanegol,a’r gweddill yn dod o arian dros ben a gynhyrchwyd yn fewnol. Am ragor o wybodaeth fanwl am ein sefyllfa ariannol,trowch at dudalennau 28 a 29 o’n CynllunBusnes ar gyfer 2012 i 2017, y dylech fod wediei gael yn ddiweddar, neu gallwch ei weld arein gwefan www.wwha.co.uk

Mae ein sefyllfa gref wedi cael ei hardystio ganLywodraeth Cymru, a ddyfarnodd radd ‘pasio’i’r Gymdeithas yn ei asesiad ariannol blynyddol.

EIN PERFFORMIADARIANNOL

Mae amgylchedd economaidd heriol heddiw yn golygu fodangen i ni fod yn effeithlon a buddsoddi’n ddoeth os ydymeisiau cyrraedd ein nod o dyfu a gwneud gwahaniaeth. Ernad yw bod yn fawr bob amser yn ddelfrydol, mae’n sicrhaucryfder ariannol a’r gallu i ddod drwy’r storm economaiddsydd ohoni yn ogystal â’r modd i arloesi, i fod yn greadigol,ac i gyflwyno syniadau newydd.

Cyfanswm

393

Wrecsam

127

Sir y Fflint

121

Sir Ddinbych

9Conwy

12

Powys

24

Merthyr Tudful

15

Bro Morgannwg

20

Pen-y-bont

39Caerdydd

26

Mae’r ffigyrau hyn yn cynrychioli datblygiadau sydd ar ysafle ar hyn o bryd, ac sydd wedi’u hamserlennu i ddechrauyn y 12 mis nesaf. Er hynny, gyda’i gilydd, rhagwelwnadeiladu a chaffael 450 uned yn ychwanegol yn y pummlynedd nesaf, a fydd yn mynd â chyfanswm einhadeiladau newydd yn ystod y cyfnod hwnnw i 850 uned.

Nifer y cartrefi sy’n cael eu datblygu arhyn o bryd yn ôl ardal Awdurdod Lleol

Page 14: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

14 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

Rydym wedi ffurfio partneriaeth arloesol gydaGwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gan gytuno i weithredu fel partner ‘enghreifftiol’ ermwyn eu helpu nhw i hyrwyddo arferion da oran diogelwch tân yn y sector tai cymdeithasolledled y wlad.

Dywedodd Andy Petersen, Rheolwr Grŵp gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub, “Mae WWHwedi arddangos y pwysigrwydd maen nhw’n ei

roi ar ddiogelwch tân. Bydd ein partneriaeth yndarparu ffordd gadarnhaol o feddwl i’w galluogi i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaethdiogelwch tân.”

Rydym wrthi’n cynnal trafodaethau gydaGwasanaeth Tân y Canolbarth a GwasanaethTân y Gogledd i archwilio’r posibilrwydd oehangu’r bartneriaeth hon ymhellach.

PARTNERIAETHGWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRUMae delio â pheryglon tân yn uchel ar yr agenda ar hyn obryd, ac rydym eisiau sicrhau fod ein holl gartrefi mor ddiogel ag y gallant fod.

Andy Petersen, Rheolwr Grŵp Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Robin Alldred, Rheolwr Masnachol WWH, Jo Burns, Swyddog Iechyd a Diogelwch WWH, Anthony Williams, Swyddog Iechyd a Diogelwch WWH.

Page 15: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

15 | Sylw ar ardal BRO MORGANNWG | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

• Rydym wedi cael y clod uchaf posibl dan system wobrwyo mawr ei bri Buddsoddwyr mewn Pobl, gangael y safon Aur yn ein hasesiad diweddar. “Mae Tai Wales & West yn parhau i arddangos ei fod yn sefydliad sy’n meddwl am y dyfodol ac yn llwyddo fel busnes drwy arddangos ymddygiad arwain sy’n llawngweledigaeth, wedi ei danategu gan werthoedd cryf ac ystyrlon,” meddai’r arbenigwraig ar Fuddsoddwyr mewn Pobl, Mavis Elliott­Smith.

• Mae Rhestr Cwmnïau Gorau'r Sunday Times 2012 wedi nodi mai ni yw sefydliad nid­er­elw gorau Cymru, ac rydym yn yr 8fed safle yn y 100 sefydliad nid­er­elw gorau ledled y Deyrnas Unedig. Ni hefyd yw’r unig gymdeithas tai o Gymru i gael y radd uchaf o 3 seren yn rhestr y Cwmnïau Gorau.

• Mae’r elusen sy’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd hamdden, Working Families, wedi ein rhoi ni ymysg y 30 cwmni gorau sy’n ystyriol o deuluoedd yn y Deyrnas Unedig am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn eu seremoni wobrwyo ddiweddar, fe wnaethom hefyd ennill y Wobr Teuluoedd sy’n Gweithio am Hyrwyddo Gyrfaoedd i Weithwyr

Hyblyg, a chawsom le yn y rownd derfynol yn y categorïau hyn: Y gorau o ran gyrfaoedd a gofal am bobl hŷn, Y gorau o ran ymgysylltu, a Gwobr Orau’r Grid Cenedlaethol am Arloesi. Dywedodd Sarah Jackson OBE, Prif Weithredwr Working Families:

“Mae cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar o’r saith categori Gwobrau Arbennig yn gyflawniad eithriadol.Roedd polisïau arloesol Tai Wales &West i ymgysylltu â’u gweithwyr a’ucefnogi, yn enwedig gofalwyr a gweithwyr hyblyg, wedi creu cryn argraffar y beirniaid.”• Mewn partneriaeth â GKR Maintenance &

Building, rydym wedi cael Canmoliaeth Uchel yng nghategori gwobr Integreiddio a Chydweithio yngngwobrau Constructing Excellence 2012. Dywedodd y beirniaid fod y tîm wedi gweithio’n galed, ‘gydag angerdd ac ymroddiad’, i dorri costau a lleihau gwastraff.

GWNEUD Y PETH IAWN…Ein nod yw gwneud y peth iawn o ran ein preswylwyr a’n staff,ac isod gwelir y gwobrau a’r achrediadau rydym wedi eu cael ynddiweddar, sy’n cydnabod ac yn dathlu ein dull o weithio.

Steve Porter (ar y dde) Cyfarwyddwr Gweithrediadau WWH erbyn hyn, yn cael tlws yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd 2012. Yn y llun fe’i gwelir gyda Jayne Rowland Evans, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynnal aChadw GKR a Phil Lumley, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin

Page 16: Spotlight on Vale of Glamorgan (Welsh) Autumn 2012

Tai Wales & West3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD.

acUned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN.

Ffoniwch ar 0800 052 2526 Minicom: 0800 052 5205E­bost: [email protected] Gwefan: www.wwha.co.uk

@wwhawwhahomesforwales

Cyhoeddwyd Hydref 2012