6
GWANWYN/HAF 2009 TAFLEN NEWYDDION DIEITHRIAID CAREDIG www.stdavidshospice.org.uk Llythyr oddi wrth y Cadeirydd Annwyl bawb Yn 2009 mae Hosbis Dewi Sant yn dathlu 10 mlynedd o ddarparu gofal lliniarol yng nghymuned Gogledd Orllewin Cymru. Rydym yn falch iawn o’r llwyddiant yma a diolchwn i chi yn gynnes iawn am eich cefnogaeth. Rydym yn dechrau ein blwyddyn pen-blwydd fel hosbis arbenigol hirsefydlog drwy benodi meddyg ymgynghorol yn y maes gofal lliniarol a fydd yn arwain ein tîm clinigol amlddisgyblaeth. Gydag ychwanegu ystafell i unigolyn iau a datblygu Fforwm Defnyddwyr/Gofalwyr rydym yn hyderus ein bod yn gwella’r gwasanaethau sydd ar gael gydol yr amser. Fodd bynnag mae codi’r £1.5 miliwn a mwy sydd eu hangen bob blwyddyn i ddarparu’r gwasanaethau yma yn dipyn o her yn yr hinsawdd economaidd ar hyn o bryd, ac os hoffech chi ein helpu i godi arian yn ystod ein blwyddyn pen-blwydd arbennig byddem wrth ein bodd o dderbyn gair gennych chi. Ar nodyn personol – roeddwn yn ffodus i fod yn westai pan dorrwyd y dywarchen gyntaf i ddathlu adeiladu’r hosbis. Felly mae’n fraint i fod yma’n gadeirydd yn ystod blwyddyn mor arbennig, ac edrychaf ymlaen at rannu ein digwyddiadau pen-blwydd gyda chi. Cofion cynnes Gladys Harrison 10 fed PEN-BLWYDD Dathlu 10 mlynedd o ofal lliniarol yn Hosbis Dewi Sant Ar Fai 27 2009 bydd Hosbis Dewi Sant yn 10 oed. Anhygoel! Mae hel atgofion am bopeth sydd wedi ein harwain i’r fan yma wedi dod â sawl atgof gwych yn ôl. Mae gormod i’w cynnwys yn y gofod prin sydd yn y cylchlythyr, felly mi af yn ôl i’r eiliad y gwnes i sylweddoli go iawn y byddai’r freuddwyd yn troi’n ffaith. Dewch yn ôl gyda mi i Fehefin 4 1997 – Mae’n 8.30am ac rwy’n sefyll mewn cae wrth odre’r Gogarth gyda Joe Ashton (ein Prif Weithredwr cyntaf). Rydym wedi ailgartrefu’r naw mul oedd yn arfer byw yn y cae yma, mae’r cyngor yn garedig iawn wedi torri’r ysgall eithriadol o uchel, ac rydym yn disgwyl i’r babell fach gyrraedd, ac ambell gadair ac ugain o rawiau, y cyfan yn hanfodol ar gyfer seremoni torri’r dywarchen a fydd yn digwydd am 3 o’r gloch y prynhawn. Mae’n boeth yn barod, ond mae’r strydoedd yn od o dawel. Dim traffig, dim golwg o enaid byw. Heddiw yw’r cam cyntaf yn y broses adeiladu - penllanw 8 mlynedd o godi arian diflino gan filoedd o bobl o bob oed, ac mae Martyn Lewis (Darlledwr Newyddion y BBC) wedi’i wahodd i dorri’r dywarchen gyntaf. Bydd 20 maer lleol yn ymuno ag ef a bydd pob un yn gwneud ei ran mewn symudiad wedi’i gynllunio’n berffaith. Bydd Martyn yn y canol, y meiri’n gylch o’i gwmpas. Ar yr eiliad benodol y bydd Martyn yn codi ei dywarchen, bydd y meiri, fel un, yn codi eu rhai hwythau a bydd Band y Dref yn dechrau chwarae alaw. Dyna’r cynllun. Mae’r babell ac ati yn cyrraedd ac mae popeth i weld yn iawn. Mae Joe a minnau’n archwilio’r cae ac yn nodi’r lle gorau i baratoi’r tywyrch er mwyn i’r Seremoni fynd yn ei blaen yn ddirwystr. Mae Joe yn codi’r rhaw, yn taro’r ddaear ac yn taro’r hyn sydd yn debyg iawn i goncrit. Mae’r haul yn wirioneddol boeth erbyn hyn, rydym yn chwys laddar, mae’r cloc yn tician, dwy awr wedi mynd heibio ac rydym wedi torri tua phedair tywarchen. Dim ond un ar bymtheg i fynd... Dydi pethau ddim yn edrych yn dda. Yn sydyn, o nunlle, mae dau ^ wr bonheddig h ^ yn yn dod i’r golwg. Mae gan un hances wedi’i chlymu am ei ben ac maen nhw ar eu ffordd i’r traeth, Ond maen nhw’n chwilfrydig ac maen nhw’n holi pam ein bod ni’n palu’n ddigynllun i bob golwg mewn cae lle mae ‘na babell ac ugain o gadeiriau. ‘Ydych chi’n digwydd bod yn arddwyr?’ meddwn i. Mewn eiliadau maen nhw wrth ein hochr, wedi rowlio eu llewys i fyny ac mae pethau’n dechrau siapio. Dwy awr yn ddiweddarach, ac mae’r gwaith wedi’i gwblhau. Fedrwn ni ddim diolch digon i’r ddau ^ wr bonheddig. ‘Mae’n anhygoel beth fedrwch chi ei wneud os wnewch chi ymdrech!’ meddai un, ‘Dw i ar wyliau ar ôl cael tair llawdriniaeth ddargyfeiriol ar fy nghalon ac mi wnes i fwynhau hynny’n arw.’ Yn naturiol mae’r wybodaeth yma’n ein syfrdanu wrth i ni ruthro’n ôl i’r hen swyddfeydd yn Madoc Street er mwyn gwneud ein hunain yn barchus ar gyfer y gwesteion. Mae’r Seremoni’n mynd yn dda. Mae pawb yn chwarae eu rhan yn berffaith ac yna’n picio i Abaty Gogarth am De Hwyr. Pawb ond Joe a minnau; mae’r ddau ohonom wedi blino cymaint rydym yn eistedd yng nghanol y cae a phrin y gallwn ni siarad. Ond rwy’n gwybod bod Joe, fel minnau, yn meddwl am garedigrwydd dieithriaid. Wel, mae hynny’n teimlo fel ddoe ond mae’r 10fed Pen-blwydd ac ambell i flewyn brith yn dweud wrthyf nad felly y mae! Y cyfan sydd ar ôl i’w ddweud yw, os yw un o’r ddau ^ wr bonheddig hyfryd rheiny’n darllen hyn, cysylltwch â ni... fe fyddem wrth ein bodd yn eich gweld. Janet Magill (Gweinyddwr) Mehefin 3 1997 Mehefin 4 1997 1998 Mai 27 1999 Heddiw HANES MEWN LLUNIAU

St David's Hospice Newsletter Autumn/Winter 2008 Welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

St David's Hospice Newsletter Autumn/Winter 2008

Citation preview

Page 1: St David's Hospice Newsletter Autumn/Winter 2008 Welsh

GWANWYN/HAF 2009TAFLEN NEWYDDIONHosbis Dewi Sant

DIEITHRIAID CAREDIG

www.stdavidshospice.org.uk

Llythyr oddi wrth y Cadeirydd

Annwyl bawb

Yn 2009 mae Hosbis Dewi Sant yn dathlu 10 mlynedd o

ddarparu gofal lliniarol yng nghymuned Gogledd Orllewin

Cymru. Rydym yn falch iawn o’r llwyddiant yma a diolchwn

i chi yn gynnes iawn am eich cefnogaeth.

Rydym yn dechrau ein blwyddyn pen-blwydd fel hosbis

arbenigol hirsefydlog drwy benodi meddyg ymgynghorol

yn y maes gofal lliniarol a fydd yn arwain ein tîm clinigol

amlddisgyblaeth. Gydag ychwanegu ystafell i unigolyn iau a

datblygu Fforwm Defnyddwyr/Gofalwyr rydym yn hyderus

ein bod yn gwella’r gwasanaethau sydd ar gael gydol yr

amser.

Fodd bynnag mae codi’r £1.5 miliwn a mwy sydd eu hangen

bob blwyddyn i ddarparu’r gwasanaethau yma yn dipyn o

her yn yr hinsawdd economaidd ar hyn o bryd, ac os hoffech

chi ein helpu i godi arian yn ystod ein blwyddyn pen-blwydd

arbennig byddem wrth ein bodd o dderbyn gair gennych chi.

Ar nodyn personol – roeddwn yn ffodus i fod yn westai

pan dorrwyd y dywarchen gyntaf i ddathlu adeiladu’r

hosbis. Felly mae’n fraint i fod yma’n gadeirydd yn ystod

blwyddyn mor arbennig, ac edrychaf ymlaen at rannu ein

digwyddiadau pen-blwydd gyda chi.

Cofion cynnes

Gladys Harrison

10fed PEN-BLWYDD

Dathlu 10 mlynedd o ofal lliniarol yn

Hosbis Dewi Sant

Ar Fai 27 2009 bydd Hosbis Dewi Sant yn 10 oed. Anhygoel! Mae hel atgofion am bopeth sydd wedi ein harwain i’r fan yma wedi dod â sawl atgof gwych yn ôl. Mae gormod i’w cynnwys yn y gofod prin sydd yn y cylchlythyr, felly mi af yn ôl i’r eiliad y gwnes i sylweddoli go iawn y byddai’r freuddwyd yn troi’n ffaith.

Dewch yn ôl gyda mi i Fehefin 4 1997 –Mae’n 8.30am ac rwy’n sefyll mewn cae wrth odre’r Gogarth gyda Joe Ashton (ein Prif Weithredwr cyntaf). Rydym wedi ailgartrefu’r naw mul oedd yn arfer byw yn y cae yma, mae’r cyngor yn garedig iawn wedi torri’r ysgall eithriadol o uchel, ac rydym yn disgwyl i’r babell fach gyrraedd, ac ambell gadair ac ugain o rawiau, y cyfan yn hanfodol ar gyfer seremoni torri’r dywarchen a fydd yn digwydd am 3 o’r gloch y prynhawn.

Mae’n boeth yn barod, ond mae’r strydoedd yn od o dawel. Dim traffig, dim golwg o enaid byw. Heddiw yw’r cam cyntaf yn y broses adeiladu - penllanw 8 mlynedd o godi arian diflino gan filoedd o bobl o bob oed, ac mae Martyn Lewis (Darlledwr Newyddion y BBC) wedi’i wahodd i dorri’r dywarchen gyntaf. Bydd 20 maer lleol yn ymuno ag ef a bydd pob un yn gwneud ei ran mewn symudiad wedi’i gynllunio’n berffaith. Bydd Martyn yn y canol, y meiri’n gylch o’i gwmpas. Ar yr eiliad benodol y bydd Martyn yn codi ei dywarchen, bydd y meiri, fel un, yn codi eu rhai hwythau a bydd Band y Dref yn dechrau chwarae alaw. Dyna’r cynllun.

Mae’r babell ac ati yn cyrraedd ac mae popeth i weld yn iawn. Mae Joe a minnau’n archwilio’r cae ac yn nodi’r lle gorau i baratoi’r tywyrch er mwyn i’r Seremoni fynd yn ei blaen yn ddirwystr. Mae Joe yn codi’r rhaw, yn taro’r ddaear ac yn taro’r hyn sydd yn debyg iawn i goncrit.

Mae’r haul yn wirioneddol boeth erbyn hyn, rydym yn chwys laddar, mae’r cloc yn tician, dwy awr wedi mynd heibio ac rydym wedi torri tua phedair tywarchen. Dim ond un ar bymtheg i fynd... Dydi pethau ddim yn edrych yn dda.

Yn sydyn, o nunlle, mae dau ^wr bonheddig h^yn yn dod i’r golwg. Mae gan un hances wedi’i chlymu am ei ben ac maen nhw ar eu ffordd i’r traeth, Ond maen nhw’n chwilfrydig ac maen nhw’n holi pam ein bod ni’n palu’n ddigynllun i bob golwg mewn cae lle mae ‘na babell ac ugain o gadeiriau. ‘Ydych chi’n digwydd bod yn arddwyr?’ meddwn i. Mewn eiliadau maen nhw wrth ein hochr, wedi rowlio eu llewys i fyny ac mae pethau’n dechrau siapio.

Dwy awr yn ddiweddarach, ac mae’r gwaith wedi’i gwblhau. Fedrwn ni ddim diolch digon i’r ddau ^wr bonheddig. ‘Mae’n anhygoel beth fedrwch chi ei wneud os wnewch chi ymdrech!’ meddai un, ‘Dw i ar wyliau ar ôl cael tair llawdriniaeth ddargyfeiriol ar fy nghalon ac mi wnes i fwynhau hynny’n arw.’

Yn naturiol mae’r wybodaeth yma’n ein syfrdanu wrth i ni ruthro’n ôl i’r hen swyddfeydd yn Madoc Street er mwyn gwneud ein hunain yn barchus ar gyfer y gwesteion.

Mae’r Seremoni’n mynd yn dda. Mae pawb yn chwarae eu rhan yn berffaith ac yna’n picio i Abaty Gogarth am De Hwyr. Pawb ond Joe a minnau; mae’r ddau ohonom wedi blino cymaint rydym yn eistedd yng nghanol y cae a phrin y gallwn ni siarad. Ond rwy’n gwybod bod Joe, fel minnau, yn meddwl am garedigrwydd dieithriaid.

Wel, mae hynny’n teimlo fel ddoe ond mae’r 10fed Pen-blwydd ac ambell i flewyn brith yn dweud wrthyf nad felly y mae! Y cyfan sydd ar ôl i’w ddweud yw, os yw un o’r ddau ^wr bonheddig hyfryd rheiny’n darllen hyn, cysylltwch â ni... fe fyddem wrth ein bodd yn eich gweld.

Janet Magill (Gweinyddwr)

Mehefin 3 1997 Mehefin 4 1997 1998 Mai 27 1999 Heddiw

HANES MEWN LLUNIAU

Page 2: St David's Hospice Newsletter Autumn/Winter 2008 Welsh

Mae symud, yn ei hanfod, yn broses llawn straen a blinder, ond diolch i frwdfrydedd a phenderfyniad y tîm sy’n cael ei arwain gan Eryl Finch (Rheolwr y Siop) fe aeth y broses o adleoli ein siop yn Llandudno i Lloyd Street yn dda, ac mae pethau’n edrych ar i fyny. Mae gennym ni ddigon o le o’r diwedd! Erbyn hyn rydym yn gwerthu dodrefn, rydym wedi ehangu’r adrannau llyfrau a llestri, ac yn gyffredinol

rydym yn gallu cynnig profiad siopa pleserus i’r cyhoedd. Mae’r holl ffactorau hyn wedi creu clamp o stori lwyddiannus, ac yn ystod misoedd llawn cyntaf y masnachu codwyd y swm anhygoel o £14,370.00.

Wrth gwrs mae hyn hefyd yn adlewyrchu ansawdd yr eitemau a roddwyd inni gan aelodau o’r cyhoedd, ac rydym yn awyddus i hyn barhau. Felly tra mai’r sefyllfa ddelfrydol yw i gyfraniadau gael eu cludo i’n canolfan ddosbarthu yn Builder Street, rydym yn sylweddoli nad yw hyn bob amser yn ymarferol (yn arbennig gydag eitemau mwy), felly fe allwn ni drefnu casgliadau o’ch cartref.

Rydym yn awyddus i ddatblygu ein hadran dillad fin nos hefyd, a’r nod yw casglu’r holl ffrogiau addas, tuxedos, bagiau fin nos

ac ati, i’n siop yn Lloyd Street. Fe wnaethom y penderfyniad hwn gan gofio am Dymor Dawnsfeydd yr Haf (yn arbennig ein dawns ni ar Fehefin 26). Ein gobaith yw y bydd hyn yn gwneud pethau’n haws i unrhyw un sydd â’i fryd ar brynu ffrog grand heb roi straen ar y cerdyn credyd neu ddychryn eu rheolwr banc.

Cysylltwch â Heather Magill ar 01492 878935 ynghylch casglu o’r cartref.

Cysylltwch â Caroline Thomas ar 07795531654 ynghylch ymholiadau’n ymwneud â gwirfoddoli neu galwch heibio un o’n siopau a gofynnwch am gael gair â’r Arweinydd Tîm.

Caroline Thomas(Cydgysylltydd Siopau)

Clamp o Stori Lwyddiannus

s Pat Ball(Gwirfoddolwr Siop)

Llandudno 9 Lloyd St, LL30 2UU (01492 871751)

Craig Y Don 19 Rhodfa Mostyn, LL30 1YS (01492 860504)

Llandrillo-yn-Rhos 31 Rhodfa Penrhyn, LL28 4PS (01492 544569)

Bae Colwyn 34 Ffordd Penrhyn, LL29 8LG (01492 533166)

Conwy 17 Stryd Fawr, LL32 8DE (01492 593719)

Porthmadog 142 Stryd Fawr, LL49 9NU (01766 513155)

Llangefni 12 Stryd Fawr, LL77 7LT (01248 723323)

Llanrwst 3 Stryd Watling, LL26 0LS (01492 641516)Lleo

liada

u’r

Sio

pau

Le “Dewi” Nouveau est arrivé!Am yr wythfed flynedd yn olynol mae aelodau Lotri’r Hosbis wedi croesawu DEWI newydd, Arth Gofalgar Lotri’r Hosbis. Eleni mae Dewi, sydd newydd gyrraedd swyddfa Lotri’r Hosbis, yn barod am ei wely yn ei grys nos a’i gap crand â’r streipiau glas a gwyn. Mae’r bathodynnau ar ei het a’i droed yn ein hatgoffa ei bod yn 10fed pen-blwydd yr Hosbis, a bydd raffl yr haf eleni’n adlewyrchu’r thema honno.

Mae aelodau Lotri’r Hosbis yn chwarae mewn un o dair ffordd - archeb sefydlog, siec/cerdyn drwy’r post, neu arian parod ar y drws. Os ydych chi’n chwarae drwy unrhyw un o’r dulliau yma, ac os ydych chi’n talu £52 mewn un taliad am flwyddyn gyfan, gallwch hawlio eich Dewi eich hun! Mae gennym hefyd gasgliad bychan o Dewi 2008, yn ei gôt melyn crand a’i het law. Mae’r rhain ar werth am bris sy’n fargen, sef £5 yr un. Ffoniwch llinell frys Lotri’r Hosbis ar 0800 9706242, neu anfonwch e-bost atom ar [email protected]. Gallwch ymuno â gêm Lotri’r Hosbis drwy ddefnyddio’r un dulliau - dim ond £1 yr wythnos y mae’n ei gostio i chwarae gêm Lotri’r Hosbis, a rhannu’r cyfle i ennill un o’r 150 gwobr ariannol bob wythnos, cyfanswm o £3000, â phrif wobr o £2000.

Hoffwn ymuno â gêm Lotri’r Hosbis.

m Anfonwch ffurflen Archeb Sefydlog i mi os gwelwch yn dda

m Dyma siec am £ ....................m Rwyf wedi talu £52- anfonwch Dewi i mi.m Hoffwn dalu arian parod ar y drws. Dyma £4.

(rhai ardaloedd yn unig)

Enw ....................................................................

Cyfeiriad .............................................................

.............................. Cod Post ............................

Ffôn ....................................................................

E-bost ................................................................

#

Diolch i haelioni cynifer o drigolion Gogledd Orllewin Cymru, mae Lotri’r Hosbis wedi talu dros £4 miliwn i’r Hosbis ers ei sefydlu yn Nhachwedd 1997. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Lotri wedi cyfrannu £365000 y flwyddyn i’r Hosbis – mae hynny’n £1000 y diwrnod, a chwarter costau cynnal eich Hosbis CHI.

Cyfeillion Hosbis Dewi SantHoffech chi fod yn Gyfaill i Dewi Sant ?

Os felly, fe fydd angen i chi dalu tanysgrifiad blynyddol o £15. Yn gyfnewid am hynny byddwch yn derbyn Cerdyn Aelodaeth sy’n rhoi’r hawl i chi gael disgownt gan wahanol fusnesau yn yr ardal. Byddwch hefyd yn derbyn rhestr o’r holl fusnesau sy’n cymryd rhan, yn ogystal â’r cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn fel y gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ddatblygiadau a’r digwyddiadau yn Dewi Sant. Dyma ffordd syml ac effeithiol o helpu’r hosbis. Mae’n rhoi ffynhonnell incwm i ni y gallwn ei rhagweld, ac mae’n helpu hefyd i atgyfnerthu’r berthynas gadarn sydd gennym ni’n barod â’r gymuned fusnes leol sy’n eithriadol o hael.

Mantais y cynllun yma yw bod pawb ar eu hennill.Os hoffech chi fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Codi Arian ar 01492 879058 est. 264/265

Ailgylchu’n talu’n dda Y llynedd codwyd £2,250.44 drwy ailgylchu hen ffonau symudol (yn gweithio neu beidio), darnau arian tramor a hen, a stampiau wedi’u defnyddio. Efallai mai dim ond dafn yn y môr yw hyn o’i gymharu â chostau cynnal blynyddol yr Hosbis ond mae llawer o ddafnau’n creu pwll eithaf sylweddol yn y pen draw! Nid yn unig hynny ond mae’n dda gallu ailgylchu pethau a fyddai fel arall yn hel llwch neu’n ychwanegu at y broblem tirlenwi. Er hynny, peidiwch â gadael i neb ddweud wrthych chi ein bod ni’n rhai hawdd ein plesio (rhai sy’n codi arian ydym ni wedi’r cwbl), felly os gwelwch yn dda helpwch ni i ddyblu’r cyfanswm yma yn 2009.

Gallwch ddod â’r holl eitemau a enwyd uchod i’r dderbynfa yma yn Hosbis Dewi Sant ar Ffordd yr Abaty, Llandudno neu i unrhyw un o siopau’r Hosbis (darllenwch yr erthygl ar y siopau am restr o leoliadau).

Taflen Newyddion Hosbis Dewi Sant - Gwanwyn/Haf 2009

Page 3: St David's Hospice Newsletter Autumn/Winter 2008 Welsh

Mae’r dyddiau’n ymestyn o’r diwedd, ac arwyddion o’r gwanwyn o’n cwmpas ni ym mhob man, a nifer ohonom ni’n edrych ymlaen at stwna yn yr ardd, neu’n well byth, stwna yng ngerddi pobl eraill. Beth allai fod yn fwy gwaraidd na phaned o de, tamaid o gacen a bwrw golwg fanwl ar ffrwyth llafur rhywun arall? Ac os yw’r arian ar y giât a’r arian am y gacen yn mynd i ambell achos da, yna fe allwn ni fwyta â chydwybod glir, a mwynhau’r harddwch o’n cwmpas ni heb feddwl ddwywaith bron am y chwyn all fod yn tyfu yn ein hiardiau cefn ein hunain! Wedi’r cyfan rydym yn cael ein hysbrydoli yma ac fe all y lawnt ddisgwyl tan yfory.

Ers rhai blynyddoedd bellach fe fu Christopher a Janey McLaren yn rhoi cyfle o’r fath inni. Maen nhw’n agor y giatiau i’w gerddi hyfryd yn Maenan Hall am un diwrnod bob gwanwyn a haf. Drwy

wneud hyn maen nhw wedi codi swm sylweddol i Hosbis Dewi Sant a’r Groes Goch, dau achos sy’n agos at eu calon.

Arferai tad Christopher, yr 2ail Arglwydd Aberconwy a’r un a greodd y gerddi ym Modnant, ddweud nad oedd gardd yn gyflawn heb bobl. ‘Ac rwy’n cytuno…’ meddai Christopher ‘…mae bob amser yn bleser i agor y gerddi i’r cyhoedd a gweld cymaint y maen nhw’n gwerthfawrogi eu harddwch. Ac mae’n bleser hyd yn oed yn fwy pan fo Hosbis Dewi Sant a’r gwaith gwych yno’n cael budd o’r canlyniad.’

Edrychwch ar Golofn Codi Arian yr Hosbis yn y North Wales Weekly News i gael manylion y dyddiad agor nesaf.

Y Gerddi yn Maenan Hall

Darlun Buddugol ElizaY llynedd, fel pob blwyddyn arall, cysylltodd gweithwyr mewn swyddfeydd, ysgolion, ysbytai, awdurdodau lleol ac ati â ni, oherwydd eu bod nhw eisiau cyfrannu i Hosbis Dewi Sant yn lle anfon cardiau Nadolig i’w cydweithwyr. Felly mewn ymateb i’r galw yma fe wnaethom ni drefnu Cynllun Rhannu Cerdyn am y 4edd flwyddyn yn olynol. Ond y tro yma fe wnaethom ni ofyn i ddisgyblion Ysgol San Siôr anadlu bywyd newydd i mewn i’r ymgyrch, ac fe ofynnwyd iddyn nhw wneud llun o’r Geni. Daeth 200 o luniau gwych i law. Roedd hi’n wirioneddol anodd dewis y gorau. Nid yn unig roedd y rhain yn ein hatgoffa o wir ystyr y Nadolig, ond roedden nhw hefyd yn ein hatgoffa pa mor arbennig yw plant. Ond yn y diwedd roedd yn rhaid i ni ddod i benderfyniad, ac ar ôl llawer o bendroni a phwyso a mesur fe wnaethom ni daro ar enillydd pendant – darlun bendigedig Eliza May Kyffin o’r Teulu Sanctaidd.

Y cyfanswm a godwyd: £ 2,653.96s Eliza Mae Kyffin (10 oed)o Ysgol San Siôr, Llandudno a’i darlun buddugol o’r Geni.

Pan gofrestrodd Vicky Arundel i wneud y Daith i Costa Rica er mwyn codi nawdd i Dewi Sant roedd hi’n gwybod y byddai’n her. Dyna chi’r nawdd i ddechrau. Roedd angen iddi godi lleiafswm o £2,950.00 a gafaelodd Vicky ynddi’n egniol. Cynhaliwyd

sêl cist car, raffl, cynhyrchwyd pryd o fwyd i dri deg o bobl ym Mwyty Candles a chafwyd casgliadau tuniau di-ri. Fe wnaeth ei brwdfrydedd a’i hegni ein syfrdanu.

Yna fe ddaeth y daith! Nid rhyw daith gerdded ysgafn yn amlwg. A dim diogi ar draethau trofannol i Vicky.

Rydym wedi gweld y lluniau! Roedd ‘na fwd, glaw, pontydd simsan, mwy o fwd, galwyni o chwys, pryfed cop blewog a chrocodeilod. Ac ar ddiwedd diwrnod caled o gerdded, doedd dim golwg o westy bwtîc, dim ond pabell, neu lawr caled mewn cwt pren ar stiltiau, a phlatiaid o ffa wedi eu hail-ffrïo.

‘Roedd yn magu cymeriad ac mi wnes i ffrindiau da iawn,’ meddai Vicky, sydd i’w gweld mewn hwyliau da ar ôl ei hantur.

Croesawyd Vicky yn ôl yn swyddogol ar Chwefror 13 gyda Chinio Gala a drefnwyd yn hael gan reolwyr Gwesty San Siôr yn Llandudno. Mwynhaodd pawb y noson, a doedd dim golwg o ffa wedi eu hail-ffrïo yn unlle!

Y cyfanswm a gasglwyd i’r Hosbis: £4,300.00

Cyfri’r Ceiniogau‘O geiniog i geiniog yr â’r swllt yn bunt.’ Mae’n si^wr ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â’r dywediad hwnnw! Ond mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi ei bod yn ymddangos fod hyn yn wir gan fod ein tuniau casglu (y rhai gwyrdd â logo’r Hosbis arnynt, sydd i’w gweld mewn busnesau a chanolfannau adwerthu yn Llandudno a’r ardal gyfagos) wedi hel £9,734.39 mewn arian mân yn ystod 2008, sy’n swm i’w groesawu’n fawr.

Felly dyna sy’n digwydd i’r holl hen geiniogau rheiny pan fyddwch chi’n dweud - ‘rhowch y newid yn y blwch elusen ’ - maen nhw’n bridio! Dyma ddiolch o waelod calon felly i’r holl siopau lle mae ein tuniau i’w gweld, i’n gwirfoddolwyr sy’n eu gosod ac yn eu casglu nhw, ac i bawb sy’n ein helpu i gyfrif y ceiniogau.

Rydym yn edrych am fwy o bobl i ddosbarthu tuniau fel y gallwn ni ymestyn ein cwmpas.

Os hoffech chi helpu, cysylltwch â Beth neu Marie ar 01492 879058.

I gael manylion am hyn a Sialensiau Tramor eraill, cysylltwch â Beth neu Marie ar 01492 879058

NEWYDDION CODI ARIAN Bethan Bithell & Marie Bugler (Cyd-drefyddion Codi Arian)

Mwd a Phryfed Cop Blewog (Antur 10 niwrnod Vicky yn y jyngl)

s George Williams(Gwirfoddolwr)

Taflen Newyddion Hosbis Dewi Sant - Gwanwyn/Haf 2009

Page 4: St David's Hospice Newsletter Autumn/Winter 2008 Welsh

Kuala Lumpur i Phuket

Achos DathluCawsom goblyn o sioc (mewn ffordd bleserus) pan wnaethom ni ofyn i’n cyfrifiadur gynhyrchu’r ffigurau ar gyfer Rhoddion Dathlu yn 2008. ‘Beth ydy Rhoddion Dathlu?’ meddech chi. Wel, mae Rhoddion Dathlu’n digwydd pan fyddwch chi bobl hael yn penderfynu fod gennych chi hen ddigon o bethau, ac ar achlysur eich pen-blwydd, pen-blwydd priodas ac ati, y byddai’n well gennych chi pe bai eich ffrindiau a’ch teulu yn rhoi cyfraniad i achos sy’n agos at eich calon. Ac wrth lwc mae’n ymddangos fod Dewi Sant yn agos at lawer iawn o galonnau a chodwyd £11,300.07 yn y modd yma.

Café Dewi(yn yr Hosbis yn Ffordd yr Abaty)

AR AGOR ODdydd Llun i Ddydd Gwener, 10am – 4pm

Galwch heibio a mwynhewch goffi, te, cacennau cartref a byrbrydau ysgafn o’r radd flaenaf.

Mae gennym hefyd siop anrhegiona dewis da o lyfrau ail law ar werth.

Cariad a ChwerthinBron i 10 mlynedd yn y Ganolfan Gofal Dydd a 10 mlynedd yn h^yn! Wrth edrych yn ôl ar ein gwasanaeth gofal dydd ers iddo ddechrau yn 1999 mi wnes i sylweddoli pa mor galed y mae’r gymuned wedi gweithio i gyflawni eu breuddwyd o gael hosbis. Roedd ar gael ddwywaith yr wythnos ar y dechrau ac erbyn hyn mae’n cael ei gynnal am 5 diwrnod yr wythnos. Pedwar diwrnod ar gyfer cleifion ac un diwrnod ar gyfer cynorthwyo gofalwyr a’r rhai sydd wedi cael profedigaeth. Ar y dechrau doedd dim cyfleusterau ar gyfer cleifion preswyl ac erbyn hyn rydym wedi agor ein 11eg gwely. Ers y llynedd rydym wedi gallu cynnig gwely seibiant gofal lliniarol, sy’n profi i fod o fudd mawr i ofalwyr.

Rwy’n credu fod Gofal Dydd yn lle hapus iawn lle bydd cleifion yn cael eu hasesu gan nyrsys wedi eu hyfforddi sy’n gweithio gyda thîm o feddygon, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion cyflenwol, iachawr therapiwtig, trinwyr traed gwirfoddol, trinwyr gwallt a gofalwyr. Ein nod yw trin problemau meddygol a nyrsio ein cleifion mewn modd holistig, ac mae’n bwysig bod eu diwrnod yn un cadarnhaol a phleserus.

Pan ddaw claf i mewn i Gofal Dydd am y tro cyntaf fe all fod yn bryderus ac yn ansicr am yr hyn sydd o’i flaen. Bydd y pryder yn diflannu’n fuan wrth i’r tîm eu croesawu. Mae ein meddygon a’n nyrsys wrth law bob amser i asesu anghenion cleifion ac i siarad am unrhyw broblemau all fod yn eu poeni, ac mae ein ffisiotherapydd ar gael hefyd i helpu ag unrhyw broblemau symudedd.

Mae gennym ystafell ymlaciol iawn ar gyfer triniaethau aromatherapi ac adweitheg. Mae dewis o brydau amser cinio, a bydd ein prif gogydd yn ateb gofynion o ran deiet. Mae’r prynhawniau’n amser i ymlacio neu i gymryd rhan mewn cwis neu weithgaredd arall. Ein prif nod yw diwallu anghenion yr unigolyn, fel bod ein cleifion yn edrych ymlaen at ddod yn ôl. Mae ein lolfa a’n hystafell fwyta/therapi dargyfeiriol newydd gael eu hailwampio, a gwireddwyd fy mreuddwyd o gael lle tân yn y lolfa, diolch i rodd garedig arall eto.

Ffurfiwyd sawl cyfeillgarwch agos yn y Ganolfan Gofal Dydd. Mi wnes i gyfarfod fy nghlaf Gofal Dydd cyntaf erioed yn mwynhau paned o goffi yng Nghaffi Dewi rai misoedd yn ôl, ac fe fydda’i’n meddwl yn aml y gallwn ysgrifennu llyfr am y bobl wych yr wyf wedi eu cyfarfod. Rwy’n ei hystyried yn fraint fy mod wedi cael bod yn rhan o’u bywyd.

Rwy’n si^wr y byddai pob un ohonom sydd wedi cael profiad o Ofal Dydd fel staff, cleifion, gofalwyr neu wirfoddolwyr yn cytuno fod y pwyslais ar fyw bob dydd drwy urddas, parch, cariad a chwerthin er bod sawl deigryn wedi’i golli hefyd. Ymlaen â’r gwaith.

Y Brif Weinyddes Gwen Thomas

s Prif Weinyddes Nyrsio Gwen Thomas ac Stephen Foster

Bu John Harvey yn cymryd rhan mewn Taith Feicio

Noddedig dros Wyth Niwrnod o Kuala Lumpur i Phuket, a

chododd £2,000 i’r Hosbis. Dyma ychydig eiriau gan y dyn ei hun …

Fy hoff ran oedd teithio drwy’r Ucheldiroedd Cameron, lle’r oedd y tymheredd yn amrywio dros 15 gradd o gopa’r dringfeydd i’w

gwaelod . Roedd y dirwedd yn fynyddig iawn, a hyd yn oed ar y dyddiau gorau roedd yn bantiog. Ddwywaith bu bron i ni fynd dros nadroedd gwyrdd llachar ar y ffordd (dywedwyd wrthyf mai gwiberod oedden nhw) ac roedd genau goegiaid i’w cael ym mhob un o’r ystafelloedd gwesty y buom ni’n aros ynddyn nhw.

Yn ystod y dyddiau cyntaf mi wnes i ddelio’n eithaf da â’r gwres gan ein bod yn cychwyn yn fuan er mwyn gorffen ganol y prynhawn, a’r unig beth oedd yn fy mhoeni oedd pen-ôl poenus! Ond doedd y bwyd sbeislyd iawn ddim yn dygymod â mi. Reis â rhywbeth sbeislyd oedd popeth! Ar ben hyn i gyd, ar y pedwerydd diwrnod, doedd dim modd dod o hyd i unrhyw le i ail-lenwi’n poteli d^wr ac roedd y gwres mor uchel â 41 gradd. Erbyn i mi gyrraedd y gwesty roedd gen i dymheredd dychrynllyd, roeddwn i’n crynu, roedd gen i ddolur rhydd drwg ac roeddwn i’n ffwndrus. Yn ffodus roedd un o’r bechgyn yn ffisiolegydd a’i ddiagnosis ef oedd blinder eithriadol oherwydd y gwres, a diffyg d^wr, a chan nad oedd fawr o drefn ar fy stumog doedd hi ddim yn argoeli’n dda ar gyfer gweddill y daith. Dyma ddechrau meddwl y byddai’n rhaid i mi gael tacsi 400 milltir yn ôl i Kuala Lumpur, ond mi wnes i benderfynu peidio â mynd ar y beic y diwrnod canlynol a gweld sut y byddwn yn teimlo. Felly, gyda beiciwr arall oedd ag anhwylder ar ei stumog, mi wnes i gael tacsi at ffin gwlad Thai, lle gwnaethom gyfarfod â phawb arall.

Y diwrnod canlynol roeddwn i’n teimlo’n well, er yn wan braidd, ac mi wnes i lwyddo i ddod i ben â’r daith 100 milltir. O hynny ymlaen fe wellodd pethau ac ar yr wythfed dydd, dyma gyrraedd Phuket.

Roedd yn brofiad gwych. Mi wnes i ddarganfod pa mor addfwyn a hael yw pobl gwlad Thai. Mi wnes i sylweddoli hefyd teimlad mor unig yw bod yn sâl ac ymhell oddi cartref, a pha mor freintiedig yw’r bywyd rwy’n ei fyw. Ond y peth gorau un yw y bydd Hosbis Dewi Sant yn cael budd o bob milltir y gwnes i eu beicio.

John Harvey

Taflen Newyddion Hosbis Dewi Sant - Gwanwyn/Haf 2009

Page 5: St David's Hospice Newsletter Autumn/Winter 2008 Welsh

Fforwm Defnyddwyr-GofalwyrYn ystod y misoedd diwethaf mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr wedi penderfynu sefydlu Fforwm Defnyddwyr-Gofalwyr, ac mae’r corff newydd yma wedi dechrau ar yr hyn y mae’r Bwrdd yn ei ragweld fydd yn broses barhaol o ganfod barn defnyddwyr gwasanaeth Hosbis Dewi Sant. Fel cam cychwynnol fe ofynnodd y Bwrdd i gynrychiolydd y defnyddwyr-

gofalwyr ar Grwp Rheolaeth Glinigol Dewi Sant - Mr. J. K. Blomeley – gadeirio cyfarfod o’r Fforwm Defnyddwyr-Gofalwyr newydd. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf hwnnw yn Ystafell y Bwrdd yn yr Hosbis ar Ionawr 8 2009.

Drwy benderfynu sefydlu’r Fforwm Defnyddwyr-Gofalwyr mae’r Ymddiriedolwyr yn dangos eu bod nhw’n cydnabod ffaith sylfaenol am y berthynas rhwng yr Hosbis, ei gleifion a’u gofalwyr. Y “..ffaith sylfaenol...” honno yw bod gan unrhyw un a fu’n glaf dydd neu’n glaf preswyl yn Hosbis Dewi Sant, neu sydd â chyfrifoldeb, neu a fu â chyfrifoldeb, am ofalu am rywun annwyl sy’n defnyddio gwasanaethau clinigol yr Hosbis neu a’u defnyddiodd yn y gorffennol, yn rhywun sydd â phrofiad uniongyrchol. Mae’r profiad hwnnw yn gwbl wahanol i eiddo unrhyw un arall.

Mae’n hollol amlwg mai’r gweithwyr proffesiynol yn Hosbis Dewi Sant: y staff meddygol, y gweinyddwyr, y gweithwyr ategol gwerthfawr, ynghyd â’r gwirfoddolwyr sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio ‘Tîm yr Hosbis’. Rhyngddynt mae’r tîm yn creu gwasanaeth heb ei ail ar gyfer cleifion yr Hosbis a’u gofalwyr. Yr ymdrech yma ar y cyd wrth gwrs yw’r gwahaniaeth rhwng gofal yn Dewi Sant a’r hyn

fyddai’r sefyllfa’n sicr mewn model gofal hosbis wedi’i reoli gan y GIG a’i ariannu’n gyfan gwbl ganddo.

Barn yr Ymddiriedolwyr yw bod modd defnyddio profiadau defnyddwyr-gofalwyr yr Hosbis i fod yn well sail i’r gweithwyr proffesiynol sy’n cynnal gwasanaethau Dewi Sant o ddydd i ddydd. Yn sicr fe fydd rhannu profiad o fudd i bawb.

Os ydych chi’n teimlo y gallai eich gwybodaeth chi fod o fudd i gleifion a gofalwyr, yna mae croeso i chi ddod i gyfarfodydd y Fforwm Defnyddwyr-Gofalwyr. Byddwn yn falch iawn o’ch gweld. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw ffonio’r Hosbis i gael gwybod y dyddiad a’r amser – ac yna dod draw, a dweud wrthym beth yw eich barn chi.

Kevan Blomeley

Mynd o nerth i nerthUnwaith eto, yr incwm o gymynroddion oedd i gyfrif am y canran mwyaf o incwm i’r hosbis yn ystod y flwyddyn. Ar drothwy ein pen-blwydd yn 10 oed mae’n anhygoel meddwl fod £3.5 miliwn wedi’i roi i’r hosbis ers 1996 yn y modd yma. Heb y rhoddion yma ni fyddai’r hosbis yr hyn y mae heddiw.

Tra ein bod wedi bod yn ffodus i dderbyn ambell swm mawr, mae’r rhan fwyaf o’r cymynroddion unigol yn llai. Ond buan iawn y mae’r rhain yn tyfu ac y maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mawr i’r hosbis.

Mae’n ffaith fod canran sylweddol ohonom yn y DU yn marw heb wneud Ewyllys. Efallai bod hyn oherwydd ein bod yn teimlo nad oes gennym ni ddigon o arian neu eiddo i wneud hynny’n werth chweil, neu oherwydd nad yw’n rhywbeth yr ydym yn awyddus i feddwl amdano. Fodd bynnag mae’r camau ymarferol o wneud Ewyllys yn gymharol hawdd, yn gyflym ac yn rhad, a gall wneud pethau’n haws i anwyliaid na fydd eisiau delio â materion cyfreithiol ac ariannol cymhleth ar adeg pan fydd ganddynt fwy na digon i ddelio ag ef.

Yma yn Dewi Sant rydym yn deall fod darparu ar gyfer teulu a ffrindiau’n flaenoriaeth; fodd bynnag, pe baech chi eisiau cyfrannu rhodd (mawr neu fach) i Dewi Sant gallwch fod yn sicr y byddwch yn helpu i ddiogelu dyfodol gofal hosbis yn eich cymuned.

Os ydych chi’n ystyried gadael rhodd mewn ewyllys i’r hosbis cysylltwch â’ch cyfreithiwr eich hun os gwelwch yn dda a sylwch y bydd unrhyw rodd yn rhydd o dreth, nid yn unig i’ch teulu ond i’r Hosbis hefyd.

Andrew Humphreys (Swyddog Ariannol)

Ar hyn o bryd mae costau clinigol cynnal Hosbis Dewi Sant tua £1.5 miliwn y flwyddyn, ac mae’r rhan fwyaf yn cael ei ddarparu drwy gyfraniad gwirfoddol, gyda chyfran fechan yn cael ei ddarparu gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Oherwydd hynny rydym yn dibynnu ar gefnogaeth y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, fel y gallwn barhau i ddarparu gofal lliniarol yn rhad ac am ddim i bobl Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Hosbis Dewi SantINCWM - Ionawr i Rhagfyr 2008 - £2,146,927

Hosbis Dewi SantTREULIAU - Ionawr i Rhagfyr 2008 - £2,007,879

YmddiriedolwrMae Hosbis Dewi Sant yn cael ei reoli gan fwrdd o 9 Ymddiriedolwr sy’n rhoi eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod bob mis ac eithrio Awst a Rhagfyr. Tymor arferol swydd yw lleiafswm o 3 blynedd cyn ail-ethol.

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Mrs. G. Harrison (Cadeirydd)Mr. B. Goldsmith (Is-gadeirydd)Mr. J. Jones (Ysgrifennydd Anrhydeddus)Mr. A. Thomas (Trysorydd)Miss D. Atkinson

Mr. C. DaviesMr. A. NevilleDr. N. WilliamsMr. H. Thomas

Gair gan yr ymddiriedolwr Anthony Neville(Fferyllydd wedi ymddeol) :

Fe fûm yn ymddiriedolwr ers ychydig dros 5 mlynedd erbyn hyn, Ar wahân i’r cyfarfodydd misol rwy’n gwasanaethau ar ddau is-bwyllgor (Rheolaeth Glinigol a Chynnal a Chadw Adeiladau/Siop).

Gan i mi fod yn Fferyllydd yn Llandudno am bedwar deg dau o flynyddoedd, rwy’n gallu dod â’m profiad yn y maes gofal iechyd i’r Bwrdd.

Rwy’n mwynhau fy ngwaith yn fawr iawn, a chyda cymorth pobl o’r un anian rwy’n gallu gwneud yn si^wr fod yr Hosbis yn cael ei reoli’n effeithiol.

Ar hyn o bryd rydym yn brin o rai â sgiliau yn y maes marchnata a’r cyfryngau. Os hoffech chi ymuno â ni a defnyddio eich profiad er budd yr Hosbis, cysylltwch â’r Cadeirydd (01492 879058) a fydd yn falch iawn o glywed gennych.

Hosbis Dewi Sant - Incwm Ionawr i Rhagfyr 2008

£ %

Lotri'r Hosbis 365,148 17.0

Gwerthiant y siopau 375,365 17.5

Rhoddion mewn ewyllys 526,974 24.5

Achlysuron trefnwyd gan yr Hospis neu'r Gymuned246,143 11.5

GIG 129,170 6.0

Amrywiol 76,689 3.6

Er Cof 100,600 4.7

Rhoddion 88,849 4.1

Llog 67,135 3.1

Cynulliad Cymru 159,800 7.4

Grantiau 11,052 0.5

2,146,927 100.0

HOSBIS DEWI SANT

INCWM Ionawr i Rhagfyr 2008 - £2,146,927

Lotri'r Hosbis

17%

Gwerthiant y siopau

17%

Rhoddion mewn

ewyllys

25%

Achlysuron trefnwyd

gan yr Hospis neu'r

Gymuned

11%

GIG

6%

Amrywiol

4%

Er Cof

5%

Rhoddion

4%

Llog

3%

Cynulliad Cymru

7%

Grantiau

1%

Hosbis Dewi Sant Treuliau - Ionawr I Rhagfyr 2008

£ %

Gofal cleifion 1,185,806 59.1

Cyflogau gweinyddol 208,801 10.4

Treuliau y siopau 255,640 12.7Treuliau codi arian 101,390 5.0

Treuliau adeiladau 50,463 2.5Trwsio a cynhalu 69,825 3.5Costau ychwanegol 135,954 6.8

2,007,879 100

HOSBIS DEWI SANT TREULIAU

Ionawr i Rhagfyr 2008

£2,007,879

Cyflogau gweinyddol

10%

Treuliau y siopau

13%

Treuliau codi arian

5%

Treuliau adeiladau

3%

Trwsio a cynhalu

3%

Costau ychwanegol

7% Gofal cleifion

59%

Achlysuron trefnwydgan yr Hosbis neu’r

Gymyned11%

Taflen Newyddion Hosbis Dewi Sant - Gwanwyn/Haf 2009

Page 6: St David's Hospice Newsletter Autumn/Winter 2008 Welsh

POLISI GWARCHOD DATAMae Hosbis Dewi Sant a’i gwmni lotri St. David’s Promotions Ltd. wedi’u cofrestru dan Ddeddf Gwarchod Data 1998. Ni fydd yr Hosbis

yn cyflwyno data personol i unrhyw sefydliad arall ond efallai y bydd yn dymuno eich hysbysu am newyddion a gweithgareddau’r Hosbis. Os nad ydych chi’n dymuno derbyn yr wybodaeth hon, cysylltwch â: Hosbis Dewi Sant. Ffordd yr Abaty, Llandudno, Conwy LL30 2EN.

E-bost: [email protected] www.stdavidshospice.org.uk Ffôn: 01492 879058 Ffacs: 01492 872081

Des

igne

d an

d pr

inte

d by

CYD

Prin

ting.

ww

w.c

ydpr

intin

g.co

m

Addasu’r Gronfa DdataErbyn hyn mae gennym ni gronfa ddata â’r adnoddau diweddaraf un. Cyfrwng defnyddiol a dweud y lleiaf. Fodd bynnag mae’n dal i fod yn ddyddiau cynnar ac mae angen ei haddasu’n gyson. A fyddech chi’n gallu ein helpu ni i’w gwneud yn fwy effeithiol os gwelwch yn dda drwy ymateb i’r canlynol –

* Os ydych chi wedi derbyn cylchlythyr ac nad ydych chi eisiau derbyn un bellach cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

* Os na wnaethoch chi dderbyn un yn y post, a fyddech chi’n hoffi hynny? * A fyddai’n well gennych chi ei dderbyn yn electronig ?* A wnaethoch chi dderbyn mwy nag un?

Cysylltwch â Marie Bugler ar 01492 879058 est. 264 neu e-bostiwch hi ar [email protected]

Oeddech chi’n gwybod eich bod yn gallu cyfrannu ar-lein @www.stdavidshospice.co.uk?

DIG

WY

DD

IAD

AU

AR

Y G

WE

ILL Dydd Sul, Ebrill 26

Troedio’r Byrddau. Taith gerdded bum milltir ar Bier Llandudno

Cofrestru: 11.30 - 12.30. Mae Gwisg Ffansi’n ddewisol ond efallai y byddai’n hwyl dod wedi eich gwisgo fel cymeriad o bantomeim, sioe o’r West End neu Broadway! Taith gerdded noddedig yw hon ond fel arfer mae gan y rhai sy’n cymryd rhan y dewis o dalu ffi cofrestru o £10 yn lle hynny (£10 oedolion/£5 plant). Does dim isafswm lefel nawdd.

Dydd Llun, Mai 4

Greensome Stableford Elusennol

Yng Nghlwb Golff Llandrillo-yn-Rhos. Costau Mynediad: Aelodau llawn £15 y pâr. Ymwelwyr £20 y pâr. Pariad: Merched, Dynion, neu gymysg. Am ragor o fanylion neu gais am ffurflen gais cysylltwch â Joan Leach ar 01492 540516 os gwelwch yn dda.

Dydd Sadwrn, Mai 9

Diwrnod Agored Coleg Llandrillo

Ar gampws y coleg yn Llandrillo-Yn-Rhos. Drysau’n agor: 10am – 3pm.Gwybodaeth am gyrsiau; digwyddiadau hwyl; pampro dan ofal myfyrwyr Trin Gwallt a Harddwch; danteithion blasus o’r Adran Lletygarwch; gwybodaeth am faterion amgylcheddol a chynaladwyedd. Yr holl elw i Hosbis Dewi Sant. Am ragor o fanylion cysylltwch â Nick Hill ar 01492 546666 est. 484

Dydd Sul, Mehefin 7

Taith Noddedig y Ddwy Raeadr

Yn daith gerdded gymedrol sy’n cynnwys Rhaeadr Aber drawiadol a’r golygfeydd bendigedig o lwybr Gogledd Cymru. Gallwch gofrestru yng Nghanolfan Gymunedol Aber (uwchben Caffi’r Hen Felin) rhwng 10am a 11am. Taith gerdded noddedig yw hon ond fel arfer mae gan y rhai sy’n cymryd rhan y dewis o dalu ffi cofrestru o £10 yn lle hynny (£10 oedolion/£5 plant). Does dim isafswm lefel nawdd.

Dydd Gwener, Mehefin 26

Y Ddawns Haf Flynyddol

Gyda siampaen, cerddoriaeth a phryd 4 cwrs. Mae’n cael ei chynnal mewn pabell fawr ar dir Fugro Robertson, Llanrhos, ac erbyn hyn mae wedi ennill lle haeddiannol fel un o uchafbwyntiau cymdeithasol y flwyddyn. Eleni rydym yn cyflwyno thema Du, Gwyn a Bling, felly ewch i roi sglein ar eich gemwaith a phenderfynwch …ai’r ffrog fach ddu fydd eich dewis, neu ydych chi am fentro gwisgo gwyn! Mae tocynnau’n £60 yr un neu £600 am fwrdd o 10. Fel rheol bydd y galw’n llawer mwy na nifer y tocynnau sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad yma felly y cyntaf i’r felin yw hi os am wneud yn sicr o’ch lle.

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 25

Yr Arddwest Haf Flynyddol

Digwydd ar dir yr Hosbis yn Ffordd yr Abaty, Llandudno. Bydd y giatiau’n agor i bawb o 1pm hyd 4pm. Yr holl hwyl y byddech yn ei ddisgwyl mewn garddwest haf draddodiadol! Mynediad: £1 i oedolion/ 50c i blant.

Dydd Gwener, Awst 14

Diwrnod Golff Elusennol a Swper yng Nghlwb Golff Gogledd Cymru

Cysylltwch â Gwyn Williams (Capten) ar 01492 534115 am ragor o fanylion.

Dydd Sadwrn, Awst 15

Y Ras Hwyaid

Y Ras Hwyaid fydd diweddglo gwych G^wyl Afon Conwy.

Os am ragor o fanylion neu i ofyn am becynnau gwybodaeth am unrhyw un o’r digwyddiadau

uchod cysylltwch â Beth neu Marie ar 01492 879058 neu

edrychwch yn y papurau newydd lleol am fwy o fanylion.

Dydd Sul, Awst 23

Y Daith gyda’r Wawr

Tua 10 milltir, Conwy - Llandudno ac yn ôl. Yn cychwyn yn Ysgol Aberconwy am 4.45am yn y bore. Dyma’r ail flwyddyn i ni gynnal y daith gerdded noddedig yma i ferched yn unig. Y llynedd codwyd y swm anhygoel o £16,000 ar gyfer cronfeydd yr Hosbis, a’n gobaith yw gwneud cystal os nad yn well eleni. Felly ewch ati i rannu’r newyddion! Mae’n daith hyfryd, sy’n fwy gwych byth yng ngolau cyntaf y bore ac oherwydd ysbryd y cerddwyr. Fe all rhai ddewis cerdded er cof am rywun annwyl; bydd rhai yn cerdded er mwyn dangos eu bod yn cefnogi eu hosbis leol; bydd rhai eraill wedyn yn cymryd rhan o ran y mwynhad yn unig. Beth bynnag sy’n eich ysbrydoli, ymunwch â ni os gwelwch yn dda, a’i wneud yn ddiwrnod i’w gofio. Efallai bod y daith yn hir ond mae’r llwybr yn wastad ac yn rhwydd!Fe fydd pawb a gymerodd rhan y llynedd yn derbyn pecyn gwybodaeth fel mater o drefn, ond os na wnaethoch chi gymryd rhan ac os hoffech chi becyn, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ychwanegu eich enw at y rhestr.

Dydd Iau, Medi 24

Noson i’r Dynion

(Swper a Siaradwr Gwadd) yng Nghlwb Golff Gogledd Cymru Cysylltwch â Gwyn Williams (Capten) ar 01492 534115 am ragor o fanylion.

Dydd Sul, Medi 27

Taith Y Gogarth

Dechrau ac yn gorffen yn yr Hosbis yn Ffordd yr Abaty.

Dydd Sadwrn, Hydref 10

Lleisiau’r Hosbisau – Cyngerdd yn Eglwys Fethodistaidd

Sant Ioan, Llandudno

Ein ffordd ni o ddathlu’r Diwrnod Gofal Lliniarol Byd-eang. Dyma ddigwyddiad mewn partneriaeth â Th^y Gobaith, Hosbis y Plant. Dan gyfarwyddyd cerddorol Trystan Lewis, mae’n addo bod yn noson i’w chofio.

Taflen Newyddion Hosbis Dewi Sant - Gwanwyn/Haf 2009