7
D athlu 15 Mlynedd o Ofal yn Hosbis Dewi Sant 19 9 9 - 2 0 1 4 TAFLEN NEWYDDION GWANWYN/HAF 2014 www.stdavidshospice.org.uk HOSBIS DEWI SANT I ddechrau hoffwn ddweud cymaint o anrhydedd a braint yw i mi gael y cyfle i ddod yn Brif Weithredwr Hosbis Dewi Sant. Mae’n adnodd arbennig iawn ac rydw i’n edrych ymlaen at arwain yr Hosbis i chwarae rhan fwy blaenllaw byth ym maes gofal diwedd oes dros Ogledd Orllewin Cymru. Rydw i’n ymgymryd â’r swydd gyda’r bwriad o sicrhau fod cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael y gofal a’r gefnogaeth orau posib ac rydw i’n edrych ymlaen at helpu i adeiladu ar lwyddiannau eithriadol yr holl staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr dros y blynyddoedd diwethaf. Yn fy nyddiau cychwynnol yn y swydd mae’n dod yn amlwg iawn i mi fod yr Hosbis yn cael cefnogaeth aruthrol gan ein cymunedau lleol ac mae hyn yn hanfodol i’n helpu i gynnal safonau uchel ein gwasanaeth. Yn syml iawn, ni allem barhau heb y cyfraniad hwn. Rydym yn byw mewn cyfnod o newid ac mae angen i’r Hosbis ystyried sut y byddwn yn chwarae’n rhan i gyflawni’r gwasanaethau y bydd ar bobl eu hangen yn y dyfodol. Dros y misoedd nesaf byddwn yn datblygu rhai cynlluniau cychwynnol ynghylch sut yr ydym yn meddwl y gallwn ni ymateb i’r heriau. Ond allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pen ein hunain a bydd angen cynnal trafodaeth eang ynglŷn â chyfeiriad yr Hosbis i’r dyfodol a’r gefnogaeth angenrheidiol i’n harwain i’r lefel nesaf. Mae ystod o wahanol feysydd o ofal diwedd oes y gallem ni ymglymu â hwy ond mae’n rhaid i ni benderfynu ble fydd Hosbis Dewi Sant ar ei gorau o ran helpu cymaint â phosib o bobl yn y dyfodol. Amser cyffrous felly ac am y tro hoffwn orffen drwy ddiolch i chi am eich diddordeb cyson yng ngwaith Hosbis Dewi Sant. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu gwasanaeth y dyfodol gyda’ch cefnogaeth. Dymuniadau gorau, Trystan Pritchard Prif Weithredwr Y PRIF WEITHREDWR NEWYDD

St David's Hospice Newsletter Spring Summer 2014 Welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: St David's Hospice Newsletter Spring Summer 2014 Welsh

Dathlu 15 Mlynedd o Ofal yn Hosbis Dewi Sant 1999 - 2014

TAFLEN NEWYDDION GWANWYN/HAF 2014

www.stdavidshospice.org.uk

HOSBIS DEWI SANT

I ddechrau hoffwn ddweud cymaint o anrhydedd a braint yw i mi gael y cyfle i ddod yn Brif Weithredwr Hosbis Dewi Sant.

Mae’n adnodd arbennig iawn ac rydw i’n edrych ymlaen at arwain yr Hosbis i chwarae rhan fwy blaenllaw byth ym maes gofal diwedd oes dros Ogledd Orllewin Cymru. Rydw i’n ymgymryd â’r swydd gyda’r bwriad o sicrhau fod cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael y gofal a’r gefnogaeth orau posib ac rydw i’n edrych ymlaen at helpu i adeiladu ar lwyddiannau eithriadol yr holl staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn fy nyddiau cychwynnol yn y swydd mae’n dod yn amlwg iawn i mi fod yr Hosbis yn cael cefnogaeth aruthrol gan ein cymunedau lleol ac mae hyn yn hanfodol i’n helpu i gynnal safonau uchel ein gwasanaeth. Yn syml iawn, ni allem barhau heb y cyfraniad hwn.

Rydym yn byw mewn cyfnod o newid ac mae angen i’r Hosbis ystyried sut y byddwn yn chwarae’n rhan i gyflawni’r gwasanaethau y bydd ar bobl eu hangen yn y dyfodol. Dros y misoedd nesaf byddwn yn datblygu rhai cynlluniau cychwynnol ynghylch sut yr ydym yn meddwl y gallwn ni ymateb i’r heriau. Ond allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pen ein hunain a bydd angen cynnal trafodaeth eang ynglŷn â chyfeiriad yr Hosbis i’r dyfodol a’r gefnogaeth angenrheidiol i’n harwain i’r lefel nesaf. Mae ystod o wahanol feysydd o ofal diwedd oes y gallem ni ymglymu â hwy ond mae’n rhaid i ni benderfynu ble fydd Hosbis Dewi Sant ar ei gorau o ran helpu cymaint â phosib o bobl yn y dyfodol.

Amser cyffrous felly ac am y tro hoffwn orffen drwy ddiolch i chi am eich diddordeb cyson yng ngwaith Hosbis Dewi Sant. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu gwasanaeth y dyfodol gyda’ch cefnogaeth.

Dymuniadau gorau,

Trystan Pritchard Prif Weithredwr

Y PRIF WEITHREDWR NEWYDD

Page 2: St David's Hospice Newsletter Spring Summer 2014 Welsh

Mae’r Ganolfan Ddosbarthu ar agor i dderbyn rhoddion o bob math ac mae gan y tîm y dasg enfawr o drefnu’r stoc er mwyn ail-gyflenwi pob un o’r deg siop Hosbis

sydd gennym. Maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel ond, fel y siopau, maen nhw’n dibynnu ar wirfoddolwyr, ac ar hyn o bryd maen nhw’n brin iawn o help.

COFIWCH LEDAENU’R NEGES!Ydych chi’n gwybod am rywun efo ychydig o oriau dros ben i’w rhoi i’r Ganolfan Ddosbarthu?

Dim angen profiad, rydym yn rhoi’r holl hyfforddiant a chefnogaeth fydd ei angen.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Janet Magill, Gweinyddwr Hosbis/Cydlynydd Gwirfoddoli ar 01492 879058 neu ebostiwch [email protected]

ANGENGWIRFODDOLWYR!

Mae Hosbis Dewi Sant wedi agor siop elusen newydd ym Miwmares.

Fe agorodd y siop newydd ar Stryd y Castell mewn lleoliad mwy ar ddydd Llun 10 Chwefror, ac mae’n dal ystod eang o ddillad, llyfrau, cerddoriaeth, darnau llai o ddodrefn ac eitemau eraill.

Roedd Aelod y Cynulliad dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, yno i agor y siop. Dywedodd “Rwy’n siŵr y bydd y siop newydd ym Miwmares yn gwneud cyfraniad sylweddol at Hosbis Dewi Sant – gwasanaeth y mae cymaint o bobl yn dibynnu arno am gefnogaeth. Ond ar yr un pryd, gall siop sy’n llawn o stoc dda fel hon fod yn help mawr i deuluoedd lleol gael deupen llinyn ynghyd ar adeg o galedi economaidd.”

Dywedodd Gladys Harrison, Cadeirydd Hosbis Dewi Sant “Incwm o’n siopau yw un o’n prif ffynonellau refeniw ac mae’n hanfodol er mwyn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gofal diwedd oes i oedolion o Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu llawer o gwsmeriaid i’n siop newydd.”

SIOP NEWYDD YN AGOR YM MIWMARES

TAFLEN NEWYDDION HOSBIS DEWI SANT - GWANWYN/HAF 2014

Dathlu 15 Mlynedd o Ofal yn Hosbis Dewi Sant 1999 - 2014

Page 3: St David's Hospice Newsletter Spring Summer 2014 Welsh

1988 Trigolion lleol yn ymgyrchu dros Hosbis.1996 Pwyllgor llywio, dan arweiniad Dr Oliver P Galpin FRCP, yn

asesu ymarferoldeb adeiladu Hosbis.1988-1997 Gweithiodd y Pwyllgor Codi Arian yn ddiflino i godi

£1,900,000 er mwyn ariannu costau adeiladu’r Hosbis.1997 Daeth Darllenydd Newyddion y BBC, Martyn Lewis i “droi’r

dywarchen gyntaf” a dechreuodd y gwaith adeiladu ar Ffordd yr Abaty, Llandudno.

1997 �Mis�Gorffennaf�– Lansiwyd Lotri’r Hosbis.1998 30 Ebrill – Gosododd y Cynghorydd Michael Williams, Maer

Llandudno y garreg sylfaen.1999 27 Mai -Agorodd HRH Tywysog Cymru yr Hosbis yn

swyddogol. 1999 Mis Medi – Agorodd Hosbis Dewi Sant gyfleusterau Gofal

Dydd i’r cleifion cyntaf .2001 Mis Mawrth – Cafodd y claf cyntaf ei dderbyn.2005 Mis Awst – cafodd dau wely arall eu hagor yn yr Uned

Cleifion Mewnol gan ddod â’r cyfanswm i ddeg; cafodd yr unfed ar ddeg ei agor yn 2006.

2008 Agorodd Caffi Dewi yn yr Hosbis. Mae’r caffi, sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, wedi codi dros £200,000 ers iddo agor ac mae wedi dod yn rhan bwysig iawn o’r gymuned.

2011 Mis�Mehefin - lansiwyd yr “Apêl Help Llaw” i ehangu a datblygu gwasanaethau gofal diwedd oes yn yr Hosbis. Cafodd yr Apêl hwb cychwynnol gan incwm cymynrodd, drwy roddion hael ein cefnogwyr. Fodd bynnag, er mwyn gwireddu’r cynlluniau, roedd yn rhaid i’r Hosbis godi oddeutu £1,000,000.

2013 Mis Chwefror - rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid cyfalaf gwerth £250,000 i Hosbis Dewi Sant a oedd yn galluogi i’r “Apêl Help Llaw” gyrraedd ei darged.

2013 Mis Rhagfyr – yr Arglwydd Mostyn yn cael ei enwi yn Llywydd Anrhydeddus Hosbis Dewi Sant.

2014 Hosbis Dewi Sant yn dathlu ei 15fed blwyddyn o ofal.

TAFLEN NEWYDDION HOSBIS DEWI SANT - GWANWYN/HAF 2014

Dathlu 15 Mlynedd o Ofal yn Hosbis Dewi Sant 1999 - 2014

Page 4: St David's Hospice Newsletter Spring Summer 2014 Welsh

DYDD SUL 6ed GORFFENNAF G^wyl Cwch Draig ar Lyn Padarn, Llanberis

(gweler tudalen 7).

DYDD SUL 13eg GORFFENNAFRhowch gynnig ar Zip World Titan yn

Chwarel Llechwedd, Blaenau Ffestiniog.

DYDD SUL 20fed GORFFENNAF Taith gerdded noddedig i chi a’r ci yng

Ngwarchodfa Natur Coed Cyrnol,

Porthaethwy

DYDD SADWRN 26ain GORFFENNAF Ffair Haf Hosbis Dewi Sant, 1pm-4pm

yng ngerddi’r Hosbis ar Ffordd yr Abaty,

Llandudno.

DYDD SUL 3ydd AWST Cerdded Gyda’r Wawr – taith gerdded

noddedig naw milltir – i ferched yn

unig(gweler y tudalennau canol).

DYDD GWENER 26ain MEDIDiwrnod Golff Hosbis Dewi Sant – Bydd

cyfle i dimau o bedwar chwarae ar y cwrs

golff eithriadol 18 twll yng Nghonwy.

Dyddiadur Codi Arian

Argraffwyd y daflen newyddion hon drwy gefnogaeth garedig Clinig Deintyddol West End ym Mae Colwyn. Mae eu cefnogaeth yn sicrhau fod mwy o’r arian rydych chi’n ein helpu ni i’w godi yn mynd at ofal cleifion.

TAFLEN NEWYDDION HOSBIS DEWI SANT - GWANWYN/HAF 2014

Dathlu 15 Mlynedd o Ofal yn Hosbis Dewi Sant 1999 - 2014

Page 5: St David's Hospice Newsletter Spring Summer 2014 Welsh

Wrth edrych yn ôl ar fy nghysylltiadau â’r Hosbis mae’n anhygoel gweld y datblygiadau mawr a gafodd eu cyflawni yn y 15 mlynedd ers i mi sefyll ac edrych ar linell o Feiri efo rhawiau arian yn torri’r tywyrch cyntaf ar gyfer safle’r Hosbis. Yna yn ddiweddarach roeddwn yn bresennol yn agoriad swyddogol yr Hosbis yn 1999 gan HRH Tywysog Cymru.

Fe ymunais â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2004 ar ôl bod yn rhan o’r ymgyrch codi arian yn ystod fy mlynyddoedd yn nyrsio. Cefais fy ethol yn Gadeirydd yn 2006, ac rwyf bob amser wedi ystyried hynny yn fraint. Mae’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu wedi cefnogi gwaith yr Hosbis yn hael dros ben ac rwy’n gwybod fod y gofal a roddir gennym yn cael ei ystyried yn well nag ardderchog.Dichon mai’r pobl yn y cefndir sy’n haeddu eu cydnabod oherwydd hebddynt hwy, yn syml iawn ni fyddem yn gallu dathlu’r penblwydd arbennig hwn. Mae datblygu caffi yn yr Hosbis wedi bod yn llwyddiant enfawr. Mae wedi bod o help i berthnasau i gael lle i ymlacio a’r cyhoedd i ddod i wybod am y gwaith yr ydym yn ei wneud. Gwirfoddolwyr i gyd yw’r criw sy’n gweithio yno a gwên ganddynt i bawb. Byddai’n amhosib rhoi gwerth ar y llu o weithwyr sy’n helpu yn ein siopau, yn cefnogi dyletswyddau ar y wardiau, yn gyrru ein cerbydau, yn danfon nwyddau ac yn helpu i godi arian. Carwn ddweud diolch yn fawr i chi i gyd.Mae fy nghyd-ymddiriedolwyr, a gafodd eu dethol oherwydd eu sgiliau proffesiynol, yn rhoi o’u hamser yn wirfoddol i gynllunio ar gyfer datblygiadau mewn gofal hosbis. Roedd cwblhau’r prosiect preifatrwydd yn ddiweddar gan ddarparu llofftydd sengl a gwell ardaloedd clinigol ac ardaloedd i berthnasau yn ganlyniad y strategaeth ddatblygu ddiweddaraf.Mae’r Hosbis yn llwyddo oherwydd fod pob gweithiwr yn gweithio hyd orau ei allu o ran gofynion clinigol, busnes a domestig yn unol â’r galw yn ein sefydliad. Rydym i gyd yn sylweddoli fod y canlyniad terfynol yn cefnogi’r teuluoedd sy’n ymddiried ynom i ofalu am eu hanwyliaid ar adeg anodd iawn.Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn falch o fod yn rhan o Hosbis Dewi Sant ac hoffwn ddiolch i chi ar eu rhan am eich cyfraniadau chi dros y 15 mlynedd olaf.Mae gennym heriau newydd ar y gorwel ond, gyda Phrif Weithredwr newydd yn ei swydd, rwyf yn sicr y bydd yn arwain yr Hosbis yn rhagorol i’r dyfodol. Gladys Harrison Cadeirydd

Llythyr oddi wrth Gladys ...

TAFLEN NEWYDDION HOSBIS DEWI SANT - GWANWYN/HAF 2014

Dathlu 15 Mlynedd o Ofal yn Hosbis Dewi Sant 1999 - 2014

Page 6: St David's Hospice Newsletter Spring Summer 2014 Welsh

Mae gan chwaraewyr Lotri Hosbis Dewi Sant hyd yn oed fwy o siawns i ennill erbyn hyn – diolch i lu o wobrau newydd ychwanegol a Thyniad Arbennig newydd bob chwarter blwyddyn.

Bydd nifer y gwobrau’n cynyddu gyda chyfle i gipio 40 gwobr wythnosol ychwanegol, gan wella siawns y chwaraewyr i ennill. Erbyn hyn mae’r wobr 1af ar gyfer y tyniad wythnosol yn £1000, a chil-wobrau o £100 ac 80 x£5 a gallwch gynyddu eich siawns drwy brynu tocyn unigol am £1 ychwanegol.

Efallai mai chi fydd un o’r 4000 a mwy o chwaraewyr i ennill rhan o’r pot o wobrau blynyddol sy’n dod i gyfanswm o £90,000!

Dywedodd Julie Hughes, y Rheolwr Lotri:

“£1 yw cost y lotri wythnosol yn dal i fod ac mae’n ffordd hawdd o gefnogi eich Hosbis leol, ac fel bonws ychwanegol mae gennych y posibilrwydd o ennill. Ond yn bwysicach, hyd yn oed os nad ydych yn ennill, fe wyddoch i sicrwydd fod yr holl

elw net yn mynd yn uniongyrchol i Hosbis Dewi Sant.”

“Mae’r Tyniad Arbennig bob chwarter blwyddyn yn gyfle newydd cyffrous i brynu tocyn unigol pryd bynnag y byddwch yn dymuno, gyda gwobr gyntaf o £5000. Po fwyaf o docynnau y byddwch yn eu prynu, mwyaf eich siawns o ennill! Mae’r hwyl yn dechrau yn ein Tyniad Arbennig cyntaf ar ddydd Gwener 29 Awst, a bydd tocynnau ar gael mewn digwyddiadau a sioeau lleol, ac yn ein siopau Hosbis drwy’r holl ardal” ychwanegodd Julie.

Mae pob punt yn mynd yn bell iawn i helpu cleifion lleol, eu teuluoedd a’u ffrindiau, ar adeg pan fo angen help a gofal fwyaf arnynt. Diolch i’n haelodau, mae’r Lotri wedi codi dros £5 miliwn ers 1997 ac mae’n ffynhonnell hollbwysig i’n cyllid, gan dalu bron i 25% o’r costau rhedeg clinigol.

I�ymuno�â’r�Lotri�ffoniwch 0800 9706242 ar y llinell frys 24 awr am ddim neu ewch i www.stdavidshospice.org.uk

I ENNILL!

Hosbis Dewi Sant...

MWY O SIAWNS

TAFLEN NEWYDDION HOSBIS DEWI SANT - GWANWYN/HAF 2014

Dathlu 15 Mlynedd o Ofal yn Hosbis Dewi Sant 1999 - 2014

Page 7: St David's Hospice Newsletter Spring Summer 2014 Welsh

DIWRNOD GWYCH I’R TEULU I GYD! 11am - 5pm

Bwyd, Pabell Gwrw, Castell Neidio, Ffair Fach Ymarferiad adeiladu tîm gwych!

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu arolwgAM DDIM ar y safle gan un o’n ymgynghorwyrtechnegol, ffoniwch ni ar y rhifau ffôn isod:

I gofrestru tîm, ffoniwch yr Adran Codi Arian ar:01492 873664 Ffi’r Tîm: £10.00 yr un

(ar gyfer tîm o 20)

Swyddfa’r GogleddOrllewin

Swyddfa GogleddCymru

Red Hill House Yr Hen Felin Lifio Hope Street Ystâd Bodnant Saltney Ffordd y Felin Chester Tal y Cafn Cheshire Bae Colwyn CH4 8BU LL28 5RP ff. 01244 670 890 ff. 01492 233 233

Mae IEC Connect yn falch iawn o gael gwahoddiad i noddi a chymryd rhan yn yr Ŵyl Cwch Draig.Teulu sy’n berchen IEC Connect ac yn ei weithredu, gyda swyddfeydd ar Ystâd Gerddi Bodnant yn ogystal ag yng Nghaer. Mae IEC Connect wedi tyfu i fod yn un o gyflenwyr mwyaf blaenllaw Systemau Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru.Dywedodd Robin Gifford, Cyfarwyddwr IEC Connect: “ Gan fod Hosbis Dewi Sant yn darparu gwasanaeth mor ardderchog, roeddem wrth ein bodd i gael y cyfle i ddangos ein cefnogaeth. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at fwynhau’r diwrnod arbennig hwn.O Biomas i Solar PV, gallwn gynnig y cyngor gorau i unrhyw un sy’n ystyried sut i gael budd o’r amrywiol gynlluniau cymhelliant sydd ar gael.”

TAFLEN NEWYDDION HOSBIS DEWI SANT - GWANWYN/HAF 2014

Dathlu 15 Mlynedd o Ofal yn Hosbis Dewi Sant 1999 - 2014