16
Sut i atal strôc Beth allwch chi ei wneud i atal strôc rhag digwydd Sut i atal strôc

Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

Sut i atal strôcBeth allwch chi ei wneud i atalstrôc rhag digwydd

Sut i atal strôc

Page 2: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

2 Cymdeithas Strôc

Mae’r Gymdeithas Strôc wedi’i chofrestru fel elusen yng Nghymru a Lloegr (rhif 211015) ac yn yr Alban (SC037789). Mae wedi’i chofrestru hefyd yng Ngogledd Iwerddon (XT33805), Ynys Manaw (rhif 945) a Jersey (NPO 369).

Gyda’n gilydd gallwn fynd i’r afael â strôc

Angen siarad? Gallwch gael sgwrs gyfrinachol drwy ffonio'r Llinell Gymorth Strôc ar 0303 3033 100.

Efallai y bydd ein taflenni eraill yn ddefnyddiol i chi hefyd.

• Ni yw'r Gymdeithas Strôc • Beth yw strôc? • Pan fydd strôc yn digwydd • Bywyd ar ôl strôc • Llwybr adferiad

Mae gennym lawer mwy o wybodaeth ddefnyddiol. I archebu taflenni gwybodaeth a thaflenni ffeithiau, neu i gael rhagor o wybodaeth am strôc, ffoniwch 0303 3033 100, e-bostiwch [email protected] neu ewch i’n gwefan yn stroke.org.uk.

Elusen ydym ni. Rydym yn dibynnu ar eich cefnogaeth chi i newid bywydau.

Cynhyrchwyd gan Wasanaeth Gwybodaeth y Gymdeithas Strôc. I weld pa ddeunyddiau cyfeirio rydym wedi'u defnyddio, ewch i stroke.org.uk.

Ffoniwch ni ar 0115 871 3949 neu e-bostio [email protected] os ydych chi'n anhapus â ni mewn unrhyw ffordd. Byddwn yn hapus i drafod unrhyw broblemau a helpu i’w datrys.

Page 3: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

3Sut i atal strôc

Cyflwyniad

Credwn fod modd atal llawer o strociau. Er bod rhai pethau na allwch eu newid – fel eich oed – gall newidiadau syml i’ch ffordd o fyw atal llawer o strociau.

Mae’r daflen hon yn egluro pam y gallai eich ffordd o fyw fod yn eich rhoi mewn perygl a sut y gallwch wneud newidiadau cadarnhaol o heddiw ymlaen.

“Gwnaeth yr ysbyty lawer o brofion a chanfod fy mod i wedi cael cyfres o strociau bach (TIAs). Doeddwn i ddim yn meddwl bod pethau fel hyn yn digwydd i bobl ifanc.”

Roedd Claire yn 23 oed pan gafodd strôc.

Cynnwys

• Beth yw strôc? – tudalen 4 • Rheoli cyflyrau meddygol – tudalen 6

• Rhoi’r gorau i ysmygu – tudalen 8

• Yfed yn gall – tudalen 9

• Bwyta’n iach – tudalen 10

• Cadw’n heini – tudalen 12

• Ffactorau eraill – tudalen 13

• Pethau na allwch eu newid – tudalen 14

• Lleihau eich risg o gael strôc arall – tudalen 15

Page 4: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

4 Cymdeithas Strôc

Amau strôc?Defnyddiwch y Prawf FAST. Ffoniwch 999.

F – (Face) Gwendid yn yr wynebYdy’r unigolyn yn gallu gwenu?

A – (Arm) Gwendid yn y breichiau Ydy’r unigolyn yn gallu codi’r ddwy fraich?

S – (Speech) Problemau gyda’r lleferydd Ydy’r unigolyn yn gallu siarad yn glir?

T – (Time) Amser ffonio 999 os gwelwch unrhyw un o’r arwyddion hyn.

Beth yw strôc?

Ymosodiad ar yr ymennydd yw strôc. Mae’n digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i ran o’ch ymennydd yn cael ei atal. Gall hyn ddigwydd oherwydd:

• rhwystr – (strôc isgemig) • gwaedu – (strôc waedlifol).

Mae gwaed yn cludo maethynnau hanfodol ac ocsigen i'ch ymennydd er mwyn iddo weithio'n iawn. Heb gyflenwad gwaed, gall celloedd eich ymennydd gael eu niweidio neu eu dinistrio ac ni fyddant yn gallu gwneud eu gwaith. Gan fod eich ymennydd yn rheoli popeth rydych yn ei wneud, yn ei deimlo, yn ei feddwl ac yn ei gofio, mae strôc yn gallu effeithio ar y galluoedd hyn.

Beth yw pwl o isgemia dros dro (TIA)?Mae pwl o isgemia dros dro (a elwir yn aml yn strôc fach), yn digwydd pan amherir ar y cyflenwad gwaed i’r ymennydd am gyfnod byr. Mae’r symptomau’n debyg iawn i symptomau strôc, ond dim ond am ychydig funudau neu oriau y maent yn para fel arfer, a byddant yn diflannu’n llwyr o fewn 24 awr. Peidiwch byth ag anwybyddu pwl o isgemia dros dro (strôc fach) – mae’n arwydd bod rhywbeth o’i le. Gofynnwch am gymorth meddygol ar unwaith bob amser.

Page 5: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

5Sut i atal strôc

Pam mae strociau’n digwydd? Mae’r rhan fwyaf o strociau’n digwydd pan fydd clot gwaed yn atal llif y gwaed i’r ymennydd. Fel arfer mae clotiau gwaed yn ffurfio mewn mannau lle mae'r rhydwelïau wedi culhau oherwydd dyddodion brasterog. Yr enw ar y cyflwr hwn ydy atherosglerosis.

Beth sy’n cynyddu’ch risg? Wrth inni heneiddio, mae ein rhydwelïau’n mynd yn fwy caled a chul. Ond, mae rhai cyflyrau meddygol a ffactorau ffordd o fyw yn gallu cyflymu’r broses a chynyddu’ch risg o gael strôc.

Mae problemau meddygol fel pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel, ffibriliad atrïaidd (curiad calon afreolaidd) a diabetes yn gallu cynyddu’ch risg o gael strôc.

Mae ffactorau ffordd o fyw, fel deiet, yfed alcohol, cymryd cyffuriau, ysmygu, a faint o ymarfer corff rydych yn ei wneud, hefyd yn effeithio ar eich risg.

Bydd cymryd camau i newid cynifer o’r ffactorau risg ag sy’n bosibl, yn eich helpu i leihau’ch risg o gael strôc.

"Roeddwn dros fy mhwysau pan gefais strôc. Erbyn hyn, dw i’n bwyta salad a ffrwythau bob dydd, yn cerdded llawer mwy a dwi wedi rhedeg marathon ddwywaith. Dwi wedi colli pum stôn.” David, un sydd wedi goroesi strôc

Page 6: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

6 Cymdeithas Strôc

Rheoli cyflyrau meddygol

Pwysedd gwaed uchel heb ei drin yw’r ffactor risg unigol mwyaf ar gyfer strôc. Gall y feddyginiaeth iawn a newidiadau i ffordd o fyw helpu i leihau’r risg.

Gall nifer o broblemau meddygol gynyddu’ch risg o gael strôc. Gall eich meddyg teulu roi profion ichi ar eu cyfer a rhoi cyngor ichi ar sut i'w rheoli.

• Pwysedd gwaed uchel Gall pwysedd gwaed uchel niweidio’ch rhydwelïau. Efallai na fyddwch yn gwybod bod gennych bwysedd gwaed uchel, felly dylech gael profion pwysedd gwaed rheolaidd. Y pwysedd gwaed delfrydol ar gyfer oedolyn iach yw llai na 120/80mmHg.

• Colesterol uchel Math o fraster sy’n cael ei gynhyrchu gan eich iau yw colesterol. Mae i’w gael mewn bwydydd fel cig a chynnyrch llaeth hefyd. Mae'ch corff angen meintiau bach ohono, ond nid yw gormod yn iach. Gall colesterol sydd dros ben deithio o gwmpas y rhydwelïau yn eich corff, gan eu culhau a chynyddu’ch risg o gael strôc. Gallwch leihau eich colesterol drwy wneud yn siŵr fod eich deiet yn iach ac yn isel mewn brasterau dirlawn. Efallai y bydd eich meddyg yn eich cynghori i gymryd meddyginiaeth hefyd.

Os ydych chi dros 40 oed, dylech chi brofi’ch colesterol yn rheolaidd. Dylai fod yn is na 5mmol/L.

Page 7: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

7Sut i atal strôc

Gall meddygon a gweithwyr proffesiynol meddygol eraill eich helpu chi i leihau’ch risg o gael strôc – bydd archwiliadau rheolaidd yn amlygu unrhyw broblemau sylfaenol.

• Diabetes math 2 Cyflwr ydy diabetes lle mae gormod o siwgr yn eich gwaed. Gall hyn achosi i ddyddodion brasterog gronni yn eich rhydwelïau, sydd yn gallu eu cau yn y pendraw. Mae hyn wedyn yn cynyddu'ch risg o gael strôc, yn enwedig os ydych chi wedi cael diabetes ers amser hir a heb fod yn ei reoli'n dda iawn.

• Ffibriliad atrïaidd (math o guriad calon afreolaidd) Pan fydd y galon yn curo'n afreolaidd, gall clotiau gwaed ffurfio a theithio i'r ymennydd. Gallant gau rhydweli ac achosi strôc. Os oes gennych ffibriliad atrïaidd, mae eich risg o gael strôc hyd at bum gwaith yn fwy. Rydych yn fwy tebygol o ddatblygu’r cyflwr hwn os ydych chi dros 65 oed.

• Clefyd y galon Gall problemau eraill fel clefyd falfiau’r galon a thrawiad ar y galon gynyddu’ch risg o gael strôc. Bydd cael triniaeth ar gyfer eich cyflwr ac archwiliadau rheolaidd yn helpu i gadw eich risg cyn ised ag sy’n bosibl.

Page 8: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

8 Cymdeithas Strôc

Mae ysmygu’n achosi i gen ffurfio yn eich rhydwelïau (atherosglerosis) ac yn gwneud i’r gwaed fod yn fwy tebygol o geulo. Os ydych chi’n ysmygu, rydych ddwywaith yn fwy tebygol o gael strôc, a bydd y risg hon yn cynyddu po fwyaf rydych yn ei ysmygu.

Bydd rhoi’r gorau i ysmygu’n lleihau eich risg o gael strôc (a chyflyrau iechyd eraill) – waeth faint yw eich oed neu pryd y dechreuoch chi ysmygu. Nid yw’n hawdd rhoi’r gorau iddi, ond mae’n werth gwneud yr ymdrech er mwyn gwella eich iechyd.

Pa gymorth sydd ar gael?

• Pecynnau gwybodaeth – ar gael yn eich canolfan feddygol neu’r llyfrgell leol.

• Grwpiau rhoi’r gorau i ysmygu – efallai y gall eich meddyg eich cyfeirio at un.

• Gwasanaeth iechyd - am gymorth a chyngor ymarferol.

• Cwnsela – gan elusennau fel Quit. • Therapi disodli nicotin (NRT) fel gwm cnoi,

chwistrelliadau a phatsys. (Os ydych chi wedi cael strôc yn ddiweddar, siaradwch â’ch meddyg cyn defnyddio NRT.)

Un o’r ffyrdd gorau o osgoi strôc yw peidio ag ysmygu.

“Cafodd fy strôc ei hachosi gan ormod o yfed ac ysmygu. Doedd yna ddim arwyddion rhybudd. Doedd gen i ddim syniad faint o niwed ro’n i’n ei wneud.”

Roedd Robert yn 61 pan gafodd strôc.

Rhoi’r gorau i ysmygu

Page 9: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

9Sut i atal strôc

Yfed yn gall

Os hoffech gael copi o'n taflenni ffeithiau ‘Alcohol and stroke’ a ‘Smoking and the risk of stroke’, cysylltwch â ni. Ynddynt ceir llawer o awgrymiadau a chysylltiadau defnyddiol.

Mae yfed gormod o alcohol yn codi’ch pwysedd gwaed. Mae goryfed mewn pyliau – yfed mwy nag wyth uned (ar gyfer dynion) neu chwe uned (ar gyfer menywod) mewn un sesiwn – yn arbennig o beryglus gan y gall achosi i’ch pwysedd gwaed godi’n sydyn iawn. Ceisiwch ddilyn y canllawiau presennol.

• Ni ddylai menywod yfed mwy na dwy neu dair uned o alcohol y dydd. (Ni ddylai menywod beichiog yfed o gwbl.)

• Ni ddylai dynion yfed mwy na thair neu bedair uned y dydd.

Mae uned o alcohol yn gyfystyr yn fras â hanner gwydraid safonol (175ml) o win, un mesur tafarn o wirodydd neu hanner peint o gwrw neu lager gwan.

Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau yn rheoli faint rydych yn ei yfed, siaradwch â’ch meddyg.

Cyffuriau Mae rhai mathau o gyffuriau’n gallu cynyddu’ch risg o gael strôc drwy niweidio’ch pibellau gwaed a chodi'ch pwysedd gwaed. Maent yn cynnwys cyffuriau adfywiol fel cocên ac amffetaminau, a chyffuriau sy'n gwella perfformiad mewn chwaraeon.

Page 10: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

10 Cymdeithas Strôc

Y prif grwpiau bwyd Dewiswch amrywiaeth o fwydydd o’r prif grwpiau bwyd.

• Ffrwythau a llysiau • Bwydydd startsh, fel bara, reis, pasta a

thatws • Cig, pysgod, wyau a phrotein arall • Cynnyrch llaeth, fel llaeth, caws ac iogwrt • Brasterau a siwgr (ond peidiwch â chael

gormod o’r rhain)

Bwyta’n iach

Bwytewch ffrwythau a llysiau fel byrbrydau Yn hytrach na bwyta bwyd sothach i’ch llenwi, ewch am ddewisiadau iachach fel ffrwyth ffres, llysiau a ffrwythau sych.

Anelwch at gael o leiaf bum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd. Mae un dogn yn pwyso tua 80 gram (tair owns) – er enghraifft, afal neu oren, gwydraid o sudd oren, moronen fawr, dau ddarn o frocoli, llond llaw o rawnwin neu dair llond llwy fwrdd o bys.

Dewiswch broteinau braster isel Peidiwch â bwyta gormod o gig coch – dewiswch bysgod, dofednod (heb y croen), adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch lefelau colesterol a chreu rhwystr yn eich rhydwelïau.

Mae bwyta’n iach yn hanfodol i gael llif gwaed iach.

Gall deiet cytbwys helpu i atal strôc, clefyd y galon a diabetes math 2.

Bwyta’n iach

Page 11: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

11Sut i atal strôc

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am fwyta’n iach a strôc i’ch helpu i gymryd y cam cyntaf. Ffoniwch ni ar 0303 3033 100 neu ewch i stroke.org.uk.

Bwytewch ddigon o ffibr Mae bwydydd sy’n uchel mewn ffibr yn helpu i leihau faint o golesterol sydd gennych yn eich gwaed. Rhowch gynnig ar rawnfwydydd cyflawn, uwd, reis brown, bara a phasta cyflawn, a grawn fel cwscws.

Defnyddiwch lai o halen Mae halen yn codi pwysedd gwaed. Peidiwch â bwyta bwydydd wedi’u prosesu a bwydydd brys sy’n cynnwys llawer o halen. Bwytewch fwydydd ffres pryd bynnag y bo’n bosibl, ac yn lle ychwanegu halen at eich bwyd, defnyddiwch berlysiau a sbeisys i ychwanegu blas. Peidiwch â bwyta cymaint o fraster Os oes gennych ormod o fraster yn eich deiet, gall greu rhwystr yn eich rhydwelïau ac arwain at broblemau pwysau. Rydych angen rhywfaint o fraster yn eich deiet. Ond ceisiwch gyfyngu ar faint rydych yn ei ddefnyddio a dewiswch olew llysiau neu gnau a margarîn llysiau neu olew olewydd.

Cadwch lygad ar eich pwysau Mae bod dros eich pwysau yn ffactor risg ar gyfer pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon a diabetes math 2, ac mae pob un o’r rhain yn cynyddu eich risg o gael strôc. Er mwyn canfod a yw eich pwysau’n addas ar gyfer eich taldra, ewch i weld eich meddyg teulu. Bydd deiet iach ac ymarfer corff rheolaidd yn eich helpu i golli neu reoli eich pwysau.

Page 12: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

12 Cymdeithas Strôc

Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn helpu i leihau eich pwysedd gwaed ac yn lleihau eich risg o gael strôc, diabetes math 2 a chlefyd y galon.

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i roi cychwyn arni.

• Dewiswch weithgarwch rydych yn ei fwynhau. Gallai hyn fod yn rhywbeth fel nofio, dawnsio neu T’ai Chi – does dim ots beth fyddwch chi’n ei wneud dim ond ei fod yn gwneud ichi deimlo’n gynnes ac ychydig yn fyr o anadl.

• Peidiwch â gorwneud pethau – cynyddwch yn raddol i 30 munud y dydd.

• Cynheswch y corff cyn ymarfer a’i oeri’n raddol wedyn.

• Dewch o hyd i rywun i ymarfer ag ef. • Byddwch yn fwy egnïol yn ystod y dydd –

dringwch y grisiau yn lle defnyddio’r lifft a cherddwch i’r siopau yn hytrach na gyrru.

Os nad ydych wedi gwneud ymarfer corff ers peth amser, yn enwedig os ydych dros 40 oed neu os oes gennych gyflwr meddygol, gofynnwch am gyngor gan eich meddyg cyn ichi ddechrau. Os byddwch yn teimlo’n benysgafn, os bydd gennych boen (yn enwedig yn eich brest) neu os cewch anhawster i anadlu, rhowch y gorau i ymarfer ar unwaith a dywedwch wrth eich meddyg.

Gall dim ond 30 munud o ymarfer rheolaidd bum diwrnod yr wythnos haneru'ch risg o gael strôc. Does dim rhaid ichi wneud y cyfan i gyd gyda’i gilydd – mae ymarfer sawl gwaith y dydd mewn cyfnodau o 10 neu 15 munud yr un mor effeithiol.

Cadw'n heini

Page 13: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

13Sut i atal strôc

Straen ac iselder

Gall llawer o bethau mewn bywyd – fel problemau gwaith, colli swydd, problemau teuluol a phrofedigaeth – arwain at straen ac iselder. Mae’r rhain nid yn unig yn dreth ar y corff, gallant hefyd, os na chânt eu trin, arwain at broblemau iechyd hirdymor. Mae’n bwysig eich bod yn cael unrhyw help sydd ei angen arnoch gan eich meddyg a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Ffactorau risg i fenywod

Mae rhai pethau sy’n gallu cynyddu’r risg o gael strôc ymhlith menywod. Mae lefelau uchel o oestrogen, yr hormon benywaidd, yn gallu achosi i’ch gwaed fod yn fwy tebygol o geulo. Mae lefelau’r oestrogen yn y corff yn codi’n naturiol yn ystod beichiogrwydd, ond mae yna hefyd driniaethau hormonau a fydd yn achosi i’r lefel godi, fel dulliau atal cenhedlu sy’n cynnwys oestrogen, a therapi adfer hormonau (HRT).

Trafodwch driniaethau hormonau a dulliau atal cenhedlu gyda’ch meddyg bob amser a gwnewch y penderfyniad sydd orau i chi.

Ffactorau eraill

Page 14: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

14 Cymdeithas Strôc

Mae rhai pobl yn wynebu mwy o risg o gael strôc nag eraill oherwydd pethau na allant eu newid. Gall y rhain gynnwys y canlynol.

• Hanes teuluol – rydych yn wynebu mwy o risg os oes rhywun yn eich teulu wedi cael strôc.

• Oedran – mae rhydwelïau’n caledu a chen yn ffurfio ynddynt gydag oedran, sy’n golygu bod pobl hŷn yn fwy tebygol o gael strôc.

• Rhywedd – ymysg pobl dan 75 oed, mae dynion yn cael mwy o strociau na menywod.

• Cefndir ethnig – os ydych o dras De Asia neu Affricanaidd-Caribïaidd, mae eich risg yn uwch.

Os oes gennych unrhyw rai o’r ffactorau risg uchod, mae gwella’ch ffordd o fyw yn bwysicach byth er mwyn lleihau eich risg o gael strôc. Gellir atal llawer o strociau.

Pethau na allwch eu newid

Page 15: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

15Sut i atal strôc

Cysylltiadau defnyddiol Y Gymdeithas Pwysedd Gwaed www.bpassoc.org.uk 0845 241 0989

Sefydliad Prydeinig y Galon www.bhf.org.uk 0300 330 3311 Diabetes UK www.diabetes.org.uk 0845 120 2960

Drinkaware www.drinkaware.co.uk 020 7766 9900

Quit www.quitline.org.uk 0800 002 200

Lleihau eich risg o gael strôc arall

Er bod eich risg o gael strôc yn uwch os ydych chi eisoes wedi cael strôc neu strociau bach (TIAs) mae yna gamau cadarnhaol y gallwch eu cymryd i leihau’ch risg. Mae’n bwysig eich bod yn:

• cymryd unrhyw feddyginiaeth a roddir i chi gan eich meddyg

• cael archwiliadau iechyd rheolaidd i wneud yn siŵr ei bod yn gweithio i chi, a

• derbyn cyngor eich meddyg ar eich ffordd o fyw.

Efallai hefyd y byddwch wedi cael llawdriniaeth ar ôl eich strôc i leihau eich risg o gael un arall, er enghraifft ar y rhydwelïau yn eich gwddf, neu yn eich ymennydd ar ôl rhai mathau o waedlif. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn eich cyngor gofal dilynol.

Dydy hi byth yn rhy hwyr i newid eich ffordd o fyw a gwella’ch iechyd.

Page 16: Sut i atal strôc Sut i atal - Stroke Association · 2019-04-15 · adar hela neu fwydydd llysieuol. Mae’r rhan fwyaf o gig coch yn uchel mewn braster dirlawn, sy’n gallu codi’ch

© Cymdeithas StrôcTaflen 3, fersiwn 1 Cyhoeddwyd Rhagfyr 2012(adolygiad nesaf – Rhagfyr 2014) Côd yr eitem: A01L3W

Ni yw’r Gymdeithas Strôc Rydym yn credu mewn bywyd ar ôl strôc. Dyna pam rydym yn rhoi cymorth i bobl sydd wedi goroesi strôc er mwyn iddynt wella cymaint ag y gallant. Dyna pam rydym yn ymgyrchu dros well gofal strôc. A dyna pam rydym yn ariannu ymchwil i driniaethau newydd a ffyrdd o atal strôc.

Rydym yma i chi. Cysylltwch â ni os hoffech wybod rhagor.

Llinell Gymorth Strôc: 0303 3033 100 Gwefan: stroke.org.uk E-bost: [email protected] Ffôn testun:18001 0303 3033 100