Upload
city-and-county-of-swansea
View
238
Download
2
Embed Size (px)
DESCRIPTION
welsh version of the guidance for choosing quality childcare
Citation preview
<#
Sut ydych chi’n dewis Gofal Plant o ansawdd da?
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 1
2
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 2
3
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn wasanaeth gwybodaeth rhad ac amddim i BOB rhiant a gofalwr sydd â phlant rhwng 0 a 19 oed.
Gwasanaethau Gwybodaethi Deuluoedd (GGD)
Maent yno i roi gwybodaeth a chyngor i chi i’ch helpu
i ganfod a dewis gofal plant. Gallent hefyd eich helpu
i ganfod rhagor am yr ystod o wasanaethau i blant,
teuluoedd a phobl ifainc sydd ar gael yn eich ardal.
Gallwch naill ai ffonio neu ymweld â’ch Gwasanaeth
Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i siarad gyda phobl
sy’n gallu esbonio pa wasanaethau plant a gofal plant
sydd ar gael yn eich ardal a’ch cynghori am unrhyw
gefnogaeth ariannol y mae hawl gennych i’w derbyn
i’ch helpu i dalu cost eich gofal plant.
Nhw yw eich man cychwyn delfrydol os oes gennych
unrhyw gwestiynau am unrhyw beth yn ymwneud
â’ch teulu. Felly ffoniwch nhw’n gyntaf.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i’w gael
ymhob awdurdod lleol. Ffoniwch 0300 123 7777 i
ganfod yr un sydd agosaf atoch chi. Neu, ewch i’r
adran ‘Cysylltiadau Defnyddiol’ ar wefan
www.ChwaraeDysguTyfuCymru.gov.uk
*sef Gwasanaethau Gwybodaeth
Plant (GGP) gynt
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 3
4
Yn gyntaf, ewch i ymweld â chymaint o ddarparwyr gofal plant ag sy’n bosibl cynpenderfynu pa un yw’r gorau i chi a’ch plentyn, a gwnewch yn siwr eu bod wedi’ucofrestru. Yn ail, i’ch helpu i benderfynu, rydym wedi paratoi’r rhestr ddilynol ogwestiynau. Dyma’r cwestiynau y mae pobl eraill wedi’i chael hi’n ddefnyddiol i’wgofyn wrth chwilio am wasanaeth gofal plant.
Sut i ddewis gwasanaethgofal plant
Cwestiynau i’w gofyn wrth chwilio am wasanaethgofal plantA oes awyrgylch groesawgar?• Oeddwn i’n teimlo bod croeso i mi?
• Faint o sylw gaiff fy mhlentyn?
– Ydyn nhw’n gwneud iddo/iddi deimlo’n arbennig?
• Ydy’r gofalwyr/staff yn barod i helpu?
A yw hwn yn lle sy’n ysbrydoli plentyn?• A oes arwyddion amlwg bod y plant yn cael hwyl
a’u bod yn cael eu hysbrydoli, er enghraifft lluniau
ar y wal, wynebau hapus, ac ati?
• Pa raglen o weithgareddau sy’n cael ei chynnig?
– A oes amrywiaeth ac ysgogiad?
– Ydy’r gweithgareddau’n heriol ac yn ddiddorol?
• Ydy’r merched a’r bechgyn yn cael eu hannog i
gymryd rhan ymhob gweithgaredd ac i
ddefnyddio’r offer i gyd?
• A fydd fy mhlentyn yn cael straeon? Oes llyfrau
i edrych arnynt?
Pa gyfleusterau sydd yno?• A oes llawer o deganau ac offer chwarae addas?
• A oes lle iddynt chwarae tu allan?
• Sut maent yn defnyddio’r teledu neu gemau cyfrifiadur?
• Beth am y prydau bwyd?
– Os oes gan fy mhlentyn anghenion dietegol
arbennig, ydyn nhw’n gallu darparu ar gyfer y rhain?
• A all y gwasanaeth ddarparu darpariaeth drwy
gyfrwng y Gymraeg?
• A oes darpariaeth ar gyfer anghenion arbennig?
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 4
5
Ydyn nhw’n ofalgar?
• Ydy’r lle’n hyblyg ynghylch y cyfnod ymgartrefu ar
gyfer fy mhlentyn?
– Allwn i aros gyda’m plentyn i’w helpu i
ymgartrefu?
• A gaf i’r cyfle i ganfod sut mae fy mhlentyn yn
ymgartrefu ac yn mynd yn ei f / blaen?
– A oes unrhyw ffyrdd systematig o wneud hyn?
• A fydd fy mhlentyn yn cael amser distaw ar ei
ben/phen ei hun os bydd ei angen?
• A oes cyfnodau gorffwys hyblyg?
• Pa systemau sydd yno ar gyfer triniaeth feddygol
mewn argyfwng a chymorth cyntaf?
• Beth am hyfforddi i fynd i’r toiled a beth sy’n
digwydd os bydd fy mhlentyn yn cael damwain?
Beth am y staff?
• Pa gymwysterau sydd gan y gofalwyr / staff?
(Mewn mannau sydd wedi’u cofrestru gydag
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cymru (AGGCC) mae gofynion penodol ynglyn â
lefel y cymwysterau y dylai’r staff eu cael.)
• A oes cyfle i’r gofalwyr/staff gael hyfforddiant
parhaus?
• A yw’r gofalwyr/staff yn cyfranogi yng
ngweithgareddau’r plant?
• Faint o ofalwyr a faint o blant sydd yn y lle?
• Sut mae’r staff yn siarad gyda’r plant e.e. ydyn
nhw’n amyneddgar ac yn ystyriol?
• Sut mae staff yn annog ymddygiad da?
• Wrth ystyried gwarchodwyr plant, gofynnwch i
gael gweld eu portffolio a’u tystlythyrau.
Yn gyfreithiol, dyma’r gymhareb ofynnol o staff i
blant:
Oedran Nifer Nifer
y Plant yr oedolion y plant
Dan 2 oed 1 3
2 – 3 1 4
3- 8 1 8
Cwestiynau eraill
• Beth yw strwythur y diwrnod?
• A oes tripiau a theithiau allan?
• Beth yw’r trefniadau ar gyfer bwcio?
• A gaiff fy mhlentyn ddod â phethau o adref i’w
helpu i ymgartrefu?
• Sut gyfleusterau mynediad a pharcio sydd yno?
• Faint fydd cost y gofal plant? Am beth fydd y ffi’n
talu e.e. tripiau, bwyd, gofal yn ystod y gwyliau ac ati?
Yn olaf, unwaith y byddwch wedi dod o hyd i
wasanaeth gofal plant yr ydych yn hapus ag o,
ceisiwch gael cyfnod o ymgartrefu drwy ymweld am
gyfnodau byr gyda’ch plentyn. Bydd hyn yn helpu’r
ddau/ddwy ohonoch i deimlo’n fwy hyderus a
chyfforddus.
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 5
6
Rhaid i unrhyw un sy’n darparu gofal plant i blant dan 8 oed am fwy na 2 awr ydiwrnod ac sy’n cael eu gwobrwyo am hynny, fod yn gofrestredig gydag ArolygiaethGofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).
Mathau o ofal plant Cofrestredig
Mae’r gwasanaethau cofrestredig yncynnwys:
• gwarchodwyr plant
• meithrinfeydd dydd
• gofal cofleidiol (cyfeirir atynt yn aml fel cylchoedd
chwarae mwy / Meithrin Mwy)
• cylchoedd chwarae mwy / cylchoedd meithrin mwy
• addysg ran amser i blant 3 a 4 oed
• clybiau gofal plant tu allan i oriau ysgol
• cynlluniau chwarae mynediad agored
Ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i
gael y rhestr ddiweddaraf o’r darparwyr gofal plant
cofrestredig yn eich ardal. Ffoniwch 0300 123 7777.
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 6
7
1. Gwarchodwyr plantMae gwarchodwyr plant yn ddarparwyr gofal dydd sy’n gweithio yn eu cartrefi euhunain yn gofalu am blant. Maent wedi eu lleoli yn y gymuned, sy’n golygu y gall plantfynd i gylchoedd chwarae / cylchoedd meithrin, grwpiau rhieni a phlant bach, clybiauneu ymweld â ffrindiau.
Cyfrifoldebau a Chofrestru
Mae gwarchodwyr plant yn gyfrifol am ddiogelwch
eich plentyn yn ogystal â’u datblygiad emosiynol a
chorfforol. Dylent ddarparu cymysgedd o brofiadau
dysgu a chwarae y tu mewn a’r tu allan i’r cartref.
Mae’n rhaid i bob gwarchodwr plant fod yn
gofrestredig ac wedi’u harchwilio gan Arolygiaeth
Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC),
a fydd yn gwirio pa mor addas ydyn nhw, eu cartref a
phawb dros 16 oed sy’n byw yn y ty.
Mae’n rhaid i warchodwyr plant gael:
• tystysgrif cofrestriad wedi'i ddyfarnu gan AGGCC
• tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
Ffioedd a Hyblygrwydd
Mae gwarchodwyr plant yn hunangyflogedig ac yn
gosod eu ffi eu hunain. Gallent gynnig gofal plant
hyblyg, drwy’r flwyddyn gron, yn llawn amser neu’n
rhan amser a’r tu allan i oriau’r ysgol. Gallent edrych
ar ôl hyd at 6 o blant o wahanol oedrannau ar yr un
pryd a gallent felly ofalu am frodyr a chwiorydd gyda’i
gilydd.
Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC): 01443 848450
[email protected] www.aggcc.org.uk
Cymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant (NCMA): 0800 169 4486 [email protected] www.ncma.org.uk
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 7
8
2. Meithrinfeydd dyddMae meithrinfeydd dydd yn darparu gofal plant ac addysg gynnar gofrestredig i blantifanc o’u genedigaeth hyd 5 oed. Fel arfer maent yn agor yn gynnar yn y bore hydoriau hwyr y prynhawn, o ddydd Llun i ddydd Gwener, drwy’r flwyddyn gron. Maentyn cynnig amgylchedd ysgogol, diogel a gofalgar naill ai fel gofal diwrnod llawn neuran amser i fabanod a phlant cyn-ysgol. Mae rhai hefyd yn darparu gofal cyn ac ar ôlysgol ac yn y gwyliau i blant hyn hefyd.
Mae’n rhaid i feithrinfeydd dydd:• fod yn gofrestredig gydag Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a
chael eu harolygu ganddynt
• ddal tystysgrif cofrestru wedi’i chyhoeddi gan AGGCC
• ddal tystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
• ddal tystysgrif hylendid bwyd briodol
Mae Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yn
darparu cyngor rhad ac am ddim i rieni ynghylch dewis
meithrinfa a thalu am ofal plant, drwy adran arbennig i
rieni ar ei gwefan www.ndna.org.uk. Mae meithrinfeydd
dydd wedi’u cefnogi a’u cynrychioli gan y Gymdeithas
Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd. Mae llawer iawn o
feithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg yn aelodau o ac
yn cael eu cefnogi gan Mudiad Ysgolion Meithrin.
Ffioedd
Mae’r mwyafrif o feithrinfeydd yn cael eu rhedeg gan
sefydliadau preifat neu wirfoddol a bydd y ffioedd yn
amrywio ar draws y wlad. Mae modd cael cefnogaeth
gyda chostau gan Gredydau Treth, Talebau Gofal
Plant a lleoedd rhan amser rhad ac am ddim i bob
plentyn 3 oed.
Bwyd a byrbrydau
Mae gan y mwyafrif o feithrinfeydd dydd
gyfleusterau i baratoi bwyd a byrbrydau i’r plant sydd
dan eu gofal. Dylent gynhyrchu bwydlen 3 wythnos o
leiaf o fwyd o safon a darparu byrbrydau sy’n cyfateb
â hyd y diwrnod y mae’r plentyn yn ei fynychu.
Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777
Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA): 01824 707 823 www.ndna.org.uk
Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM): 01970 639639 www.mym.co.uk
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 8
9
Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777
Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru: [email protected] www.walesppa.org 01686 624 573
Mudiad Ysgolion Meithrin: 01970 639639 [email protected] www.mym.co.uk
3. Cylchoedd chwarae / Cylchoedd MeithrinMae Cylchoedd chwarae’n darparu’n bennaf i blant 2½ i 5 oed, am 2 i 3 awr fel arfer yn y bore neu’r prynhawn ac yn ystod y tymor gan fwyaf.
Maent yn cynnig amgylchedd diogel a chyffrous lle
mae plant yn chwarae, dysgu a chymdeithasu â’i
gilydd. Caiff cylchoedd chwarae eu datblygu a’u
cefnogi gan Gymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru,
sy’n elusen gofrestredig. Mae llawer o Gylchoedd
Chwarae’n cynnig cyflwyniad i blant ifanc i’r iaith
Gymraeg. Mae staff a gwirfoddolwyr yn cael eu
hannog yn frwd i ddatblygu a rhannu eu sgiliau iaith
Gymraeg. Mae rhieni a gofalwyr yn ymroi’n egnïol i
redeg cylchoedd chwarae ac yn aml yn ymuno â’u
pwyllgorau rheoli. Mae Cylchoedd Meithrin yn
gylchoedd chwarae cyfrwng Cymraeg sy'n rhoi cyfle
i blant ddysgu trwy chwarae. Mae croeso i blant o
gartrefi di-Gymraeg fynychu'r Cylchoedd Meithrin ac
mae modd iddynt elwa trwy ddod yn ddwyieithog.
Cefnogir y Cylchoedd Meithrin gan Mudiad Ysgolion
Meithrin (MYM), sy'n fudiad gwirfoddol cenedlaethol.
Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd
Mae’r Gymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru (Cymru
PPA) a Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM) yn cynnig
gwybodaeth, cefnogaeth a hyfforddiant yn ogystal â
chynlluniau cyfeirio i integreiddio plant sydd ag
anghenion addysgol arbennig ac anabledd mewn
cylchoedd chwarae lleol.
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 9
10
Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777
Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru: [email protected] www.walesppa.org 01686 624 573
Mudiad Ysgolion Meithrin: 01970 639639 [email protected] www.mym.co.uk
4. Gofal Cofleidiol (cyfeirir ato yn aml fel Cylchoedd Chwarae Mwy /Meithrin Mwy)
Cynigir Gofal Cofleidiol mewn mannau o Gymru fel estyniad i'r Cylch Chwarae/CylchMeithrin a Darpariaeth Addysg Feithrin yr Awdurdod Lleol.
Cynigir y gwasanaeth yma mewn cydweithrediad â
phartner arall, fel rheol gyda'r ysgol gynradd leol. Gall
grwpiau weithredu am hyd at 4 awr y diwrnod, ond
gall rhieni gael estyniad i'r ddarpariaeth yn yr ysgol
gynradd leol. Cynhelir y sesiynau yn yr ysgol yn y bore
neu yn y prynhawn. Cefnogir y grwpiau hyn gan
Cymru PPA neu Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM)
yn yr un modd ag y cefnogir Cylchoedd Chwarae /
Cylchoedd Meithrin. Fel y Cylchoedd Chwarae
/Cylchoedd Meithrin eraill, gellir cynnal y gwasanaeth
mewn neuaddau cymunedol neu eglwysi/capeli neu
yn yr ysgolion. Mae Meithrin Mwy yn gylchoedd
meithrin estynedig sy'n darparu addysg a gofal
blynyddoedd cynnar o safon trwy gyfrwng y
Gymraeg. Maent yn cael eu cefnogi gan Mudiad
Ysgolion Meithrin (MYM).
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 10
11
5. Addysg ran amser i blant 3 a 4 oedMae gan bob plentyn yr hawl i le mewn addysg gynnar o ansawdd da, yn rhan amserac yn rhad ac am ddim mewn safle cymeradwy yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dairoed. Mae rhan amser yn golygu o leiaf 10 awr yr wythnos, am oddeutu’r un nifer owythnosau â’r flwyddyn ysgol arferol. Gall safle cymeradwy fod yn ysgol, cylch meithrin,cylch chwarae, meithrinfa ddydd neu warchodwr plant sy’n rhan o rwydwaithgwarchod plant y mae ei ansawdd wedi’i sicrhau.
Costau
Nid oes disgwyl i chi gyfrannu tuag at gost y lleoedd
yma. Os yw eich plentyn yn mynychu safle addysg
gynnar gymeradwy yn barod pan ddaw’n 3 oed, caiff
y ffi ei ostwng. Ond, efallai y bydd raid i chi dalu am
unrhyw wasanaethau neu ofal plant ar ben y lle rhan
amser rhad ac am ddim mewn addysg.
Cofrestru
Caiff bob safle cymeradwy eu harchwilio gan Estyn
sef y corff sy’n gyfrifol am hyfforddi a chofrestru
arolygwyr addysg feithrin. I gael rhagor o wybodaeth
am safleoedd sy’n cynnig lleoedd rhan amser yn rhad
ac am ddim, cysylltwch â’ch GGD lleol.
Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 11
12
6. Clybiau gofal plant tu allan i oriau ysgolMae clybiau gofal plant tu allan i oriau ysgol yn helpu rhieni neu ofalwyr sy’n gweithioneu’n hyfforddi. Maent yn darparu clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, clybiaugwyliau a gofal chwarae cofleidiol i blant oedran ysgol.
CofrestruMae gan lawer o ysgolion glybiau gofal plant tu allan i oriau ysgol, tra bo clybiau eraill wedi’u seilio mewnneuaddau pentref, canolfannau cymunedol neufeithrinfeydd dydd. Caiff presenoldeb y plant eigofrestru ac maent yn derbyn byrbryd a diod. Lle bo’nbriodol, caiff clybiau eu cofrestru a’u harolygu ganArolygiaeth Gofal a Gwasanaethau CymdeithasolCymru (AGGCC) ac mae staff chwarae hyfforddedigneu gymwysedig yn goruchwylio’r gweithgareddau
(un aelod o staff i bob 8 o blant dan 8 oed). Dylai’ramgylchedd chwarae fod yn gyffrous ac amrywiol,gan gynnig gweithgareddau amrywiol megis celf /crefftau, gemau a chwarae corfforol i’r plant ddewisohonynt. Efallai bod lle distaw ar gyfer darllen a gwaithcartref ar gael hefyd. Caiff plant eu goruchwylio nes dawrhiant neu ofalwr i’w casglu. Weithiau mae gwasanaethcasglu plant ar gael i gymryd plant i’r ysgol o’r clwb a’u casglu o’r ysgol ar ddiwedd eu diwrnod.
7. Cynlluniau chwarae mynediad agoredMae cynlluniau chwarae mynediad agored yn fannau lle mae rhyddid i blant fynd a dod.Mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cofrestru gydag AGGCC os ydynt yn darparu ar gyfer plantdan 8 oed am fwy na 2 awr y diwrnod.Yn ystod gwyliau’r ysgol, mae llawer o awdurdodaulleol yn trefnu neu’n cefnogi cynlluniau chwarae allaifod yn rhai mynediad agored. Mae rhai awdurdodaulleol hefyd yn cynnig clybiau bore Sadwrn a
diwrnodau gweithgareddau arbennig. I gael manylioncynlluniau chwarae yn eich ardal, cysylltwch â’chGwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.
Mwy o wybodaeth: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs: www.clybiauplantcymru.org 029 2074 1000
Chwarae Cymru: [email protected] www.chwaraecymru.org.uk 029 2048 6050
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 12
13
Nid oes yn rhaid i’r opsiynau gofal plant dilynol gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal aGwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC):
(Nodwch os gwelwch yn dda, os byddwch yn defnyddio gofal plant sydd heb ei gofrestru neu eigymeradwyo, ni fyddwch yn gallu hawlio elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith.)
Mathau o ofal plant Heb ei gofrestru
Gallent fod heb eu cofrestru
1. Grwpiau rhieni a phlant bach /Cylchoedd Ti a Fi
2. Au pairs
3. Gwarchodwyr
4. Cyfeillion ac aelodau’r teulu
Gwelwch dudalen 14.
Nid yw’r opsiynau gofal plant dilynol wedi’u cofrestrugyda AGGCC fel arfer, ond mae’n rhaid iddynt gofrestrudan amgylchiadau arbennig:
1. Nanis 2. Crèches
Gwelwch dudalen 15.
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 13
14
Mathau o ofal plant Heb eu cofrestru1. Grwpiau rhieni a phlant bach /
Cylchoedd Ti a Fi
Mae Grwpiau Rhieni a Phlant Bach yn darparu ar gyferplant dan 2½ oed fel arfer. Mae’n rhaid i rieni /gofalwyr aros gyda’u plant, a bod yn gyfrifol amdanynt,felly nid oes raid i grwpiau gofrestru gydag ArolygiaethGofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).Mae’r sesiynau’n caniatáu i rieni a phlant gymysgugydag eraill a mwynhau amrywiaeth o weithgareddaugwahanol. Mae Cylchoedd Ti a Fi yn galluogi i rieni a gofalwyr chwarae ochr yn ochr â’u plant achymdeithasu mewn awyrgylch Cymraeg anffurfiol.Croesewir rhieni di-Gymraeg i ddod i'r Cylchoedd Ti a Fi ac maent yn cael eu hannog i ddysgu Cymraeggyda'u plant gan fwynhau straeon syml, caneuon ahwiangerddi Cymraeg yn ogystal â dysgubrawddegau syml i'w defnyddio gartref.
2. Au pairs
Fel arfer mae Au Pairs yn fyfyrwyr 17-27 oed o wladdramor. Does ganddyn nhw ddim cymwysterau gofalplant fel arfer, felly dydy hi ddim yn syniad da gadaelplant sy’n iau nag oedran ysgol dan eu gofal nhw ar eu pennau eu hunain. Mae Au Pairs yn byw felaelodau o’r teulu er mwyn dysgu Saesneg. Gallentweithio yn y cartref am hyd at 5 awr y dydd ac amhynny cânt ystafell wely, tâl bychan a 2 ddiwrnodllawn yn rhydd bob wythnos.
3. Gwarchodwyr
Fel arfer mae gwarchodwyr yn edrych ar ôl y plant trabo’r rhieni’n mynd allan am y prynhawn neu gyda’rnos. Does dim rhaid i’r gwarchodwr fod yn hyn nagoedran penodol yn ôl y gyfraith, ond mae’r NSPCC o’r farn y dylent fod yn hyn na 16. Os byddwch yndefnyddio gwarchodwr sy’n iau nag 16 ac mae’rplentyn yn cael anaf, efallai mai chi fydd wedi’ch dalyn gyfrifol. Felly, dewiswch warchodwyr yn ofalus agofynnwch am dystlythyr gan rywun arall os nadydych yn nabod y person yn dda. Mae’r daflen ‘Home Alone’ yn rhoi cyngor i rieni sy’n chwilio amwarchodwyr. Mae hon wedi’i chyhoeddi gan yrNSPCC ac mae ar gael gan eich GwasanaethGwybodaeth i Deuluoedd (GGD) lleol. Os oesgennych gylch gwarchod lleol gerllaw, gallwch rannudyletswyddau gwarchod gyda rhieni eraill.
4. Cyfeillion ac aelodau’r teulu
Gall rhai rhieni ofyn i neiniau a theidiau a pherthnasaueraill neu ffrindiau edrych ar ôl eu plant. Yn aml iawn,mae hyn yn gweithio’n dda iawn, ond dylech feddwlyr un mor ofalus am y math yma o ofal plant ag ybyddech am gyfleuster cofrestredig. Os oes rhywunarall heblaw aelod o’ch teulu agos yn edrych ar ôleich plant yn rheolaidd yn eu cartref eu hunain ac yncael taliad neu wobr am wneud hynny, mae’n rhaididdynt gofrestru fel gwarchodwr plant gyda AGGCC.
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 14
1. Crèches
Mae crèches yn darparu gofal plant achlysurol i blant
tra bo’u rhieni’n siopa, yn mwynhau chwaraeon neu’n
astudio ar gwrs, er enghraifft. Disgwylir i rieni aros ar
yr un safle, er nad ydynt o anghenraid yn yr un
ystafell. Mae’n rhaid i crèche gael eu cofrestru gan
AGGCC os yw’n gofalu am blant dan 8 oed am fwy
na 2 awr y dydd ac am 6 neu fwy o ddyddiau bob
blwyddyn ar yr un safle (hyd yn oed os yw’r plentyn
yn mynychu am gyfnodau byrrach).
2. Nanis
Mae nanis yn edrych ar ôl plant yng nghartref y teulu.
Ar hyn o bryd ni chânt eu rheoleiddio ac nid oes raid
iddynt gofrestru gydag AGGCC heblaw eu bod yn
gweithio i fwy na 2 deulu. Gall nanis hefyd gofrestru
dan y Cynllun Cymeradwy Gofal Plant yng Nghymru i
ddod yn weithwyr gofal plant cymeradwy, gan adael
i’r teuluoedd y maent yn gweithio iddynt hawlio
Elfen Gofal Plant y Credyd Treth Gwaith neu Dalebau
Gofal Plant.
I gymryd mwy o ofal fyth, gallwch wirio a yw eich
nani’n gymeradwy gan y Cynllun Cymeradwy Gofal
Plant yng Nghymru. I gael eu derbyn ar y cynllun,
mae’n rhaid i bob nani fod yn gwbl gymwysedig
mewn gofal plant a’u hyfforddi mewn cymorth
cyntaf. Yn ffodus, byddent hefyd wedi cael eu gwirio
gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) i ganfod
a ydynt yn addas ar gyfer gweithio gyda phlant.
www.childcareapprovalschemewales.co.uk
0844 736 0260
Dyletswyddau
Caiff nanis eu cyflogi gan y rhieni a gall eu
dyletswyddau amrywio yn ddibynnol ar negodi
gyda’r rhieni. Mae’n bwysig trafod yr hyn a
ddisgwyliwch gan nani cyn cyflogi un. Fel arfer bydd
nanis yn edrych ar ôl pob agwedd o les plentyn. Efallai
y byddent yn gwarchod yn rheolaidd ond nid ydynt
yn debygol o wneud gwaith ty. Gallent fyw yng
nghartref y plentyn neu ddod i’r cartref bob dydd.
15
Mathau o ofal plant Gallent fod heb eu cofrestru
Cynllun Cymeradwy Gofal Plant yng Nghymru: 0844 736 0260
www.childcareapprovalschemewales.co.uk.
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 15
16
Caiff Safonau Gofal Plant eu rheoli gan 2 gorff yng Nghymru:
1. Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn gyfrifolam reoli gofal dydd yng Nghymru.
2. Mae Estyn yn gyfrifol am reoleiddio darpariaeth addysgol mewn gofal dydd yng Nghymru.
Gwirio Safonau acAnsawdd Gofal Plant
Mae’r gwasanaethau cofrestredig yncynnwys:• gwarchodwyr plant
• meithrinfeydd dydd
• cylchoedd chwarae / cylchoedd meithrin
• gofal cofleidiol
• addysg ran amser i blant 3 – 4 oed (heblaw addysg
mewn ysgol)
• clybiau gofal plant tu allan i oriau ysgol
• cynlluniau chwarae mynediad agored
Caiff unrhyw un, heblaw perthynas agos,sy’n darparu gofal plant yng nghartref yplentyn wneud cais i fod yn weithiwr gofalplant cymeradwy. I gael eu cymeradwyo dany cynllun yma, rhaid i weithwyr gofal plant:• fod yn 18 oed neu’n hyn
• feddu ar gymhwyster Lefel 2 yn y blynyddoedd
cynnar a gofal plant
• gael tystysgrif cymorth cyntaf
• fod wedi derbyn cliriad y Swyddfa Cofnodion
Troseddol (CRB)
• o fis Hydref 2009 mae gofyn iddynt gofrestru
gyda’r Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA).
Ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i
gael y rhestr ddiweddaraf o’r darparwyr gofal plant
cofrestredig yn eich ardal.
Ffoniwch 0300 123 7777.
Llinell Gymorth Cynllun Cymeradwy Gofal Plant:
0844 736 0260 neu ymwelwch â
www.childcareapprovalschemewales.co.uk.
Llinell Gymorth yr Awdurdod Diogelu Annibynnol (ISA)
0300 123 1111 www.isa-gov.org.uk
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 16
17
1. Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n darparu gwasanaeth gofal plant am fwy na 2 awr y dydd i blant dan 8 oed gofrestru gyda AGGCC.
Safonau gofynnolcenedlaethol
Mae’n rhaid i wasanaethau cofrestredig gyrraedd y
safonau gofynnol cenedlaethol sydd wedi’u nodi gan
reoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r safonau
gofynnol sydd wedi’u gosod ar gyfer pob math o
wasanaeth gofal plant. Mae’r Rheoliadau a’r Safonau
ar gael gan AGGCC a gallwch gael gafael arnynt drwy
wefan AGGCC..
www.AGGCC.org.uk
I gofrestru gyda AGGCC, mae’n rhaid iwasanaeth gofal plant sicrhau bod:
• safleoedd yn ddiogel ac yn addas
• gan y staff y cymwysterau priodol
• y staff wedi derbyn cliriad iechyd a chliriad gan
y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a bod
tystlythyrau eraill wedi’u gwirio
• offer a gweithgareddau yn briodol ar gyfer nifer ac
oedran y plant
• mae’r gwasanaethau cofrestredig yn cael eu gwirio
unwaith bob dwy flynedd i sicrhau eu bod yn
cydymffurfio â rheoliadau a safonau (yn flynyddol
ar gyfer safleoedd gofal dydd llawn) drwy
archwiliad gan AGGCC a bod adroddiad o’r
canfyddiadau ar gael.
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 17
18
2. EstynMae Estyn yn archwilio ysgolion, meithrinfeydd a chanolfannau hyfforddi yngNghymru. Mae’n annibynnol ar, ond wedi’i gyllido gan, Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn rhan o’i swydd, mae Estyn yn gyfrifol am:
• hyfforddi a chofrestru arolygwyr addysg feithrin
• fonitro ansawdd arolygon ac adroddiadau arolygon
• edrych eilwaith ar unrhyw safle y mae rhywun arall
wedi dweud ei fod yn llawer is na’r safon addysgol
ofynnol
www.estyn.gov.uk
Mae’n rhaid i Brif Arolygydd Estyn hysbysuLlywodraeth Cynulliad Cymru yn rheolaidd am:
• ansawdd a safon addysg feithrin
• ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a
diwylliannol plant sydd mewn addysg feithrin
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 18
19
Help wrth lawDylai eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) fod â manylion darpariaeth gofalplant addas i blant anabl a phlant sydd ag anghenion addysgol arbennig yn eich ardal.
Anghenion addysgolarbennig ac anabledd
Bydd ganddynt hefyd wybodaeth ynglyn â chael
gafael ar gymorth i dalu costau gofal plant. Mae
cynlluniau cyfeirio ymhob rhan o Gymru’n helpu
plant gydag anghenion addysgol arbennig i fynychu
cylchoedd chwarae / cylchoedd meithrin gyda phlant
eraill o'r un oedran.
Hygyrchedd a’r Comisiwn Hawliau Anabledd
Mae’n rhaid i’r holl ddarparwyr gofal plant gyflawni
gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd
1995 (DDA) a gwneud ‘addasiadau rhesymol’ i
gynnwys plant anabl. Ni chânt drin plant anabl yn
‘llai ffafriol’ oherwydd eu hanabledd. Gallwch ffonio’r
Comisiwn Hawliau Anabledd (DRC) ar 08457 622 633
i gael arweiniad ar ofynion cyfreithiol yn ymwneud â
darparwyr gofal plant.
Cymorth ariannol ychwanegol
Gall Credyd Treth Plant gynnwys arian ychwanegol ar
gyfer plant anabl. Gall Credyd Treth Gwaith gynnwys
cymorth gyda chostau gofal plant. I ganfod yr hyn y
mae gennych hawl iddo, cysylltwch â’r llinell gymorth
ar 0845 300 3900.
Gallwch hawlio Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer plentyn
sydd â salwch neu anabledd corfforol neu feddwl
difrifol os ydynt angen llawer mwy o gymorth neu
ofal, oherwydd eu salwch, na phlant eraill o’r un
oedran. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Llinell
Gymorth Ymholiadau Budd-daliadau ar 0800 88 22 00.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: 0300 123 7777
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 19
CMK-22-07-459 19096 Choosing Childcare Booklets 978 0 7504 5549 7
Choosing Childcare Folder & 4 booklets Steve2 WELSH.:Choosing Childcare Quality Childcare (1) 200x200 04/05/2010 09:59 Page 20