2
SWEENEY TODD ANGHARAD LEE G anwyd Angharad Lee yn y Porth, y Rhondda. Mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr theatr, opera a ffilm ers 2009 yn ogystal ag astudio ar gyfer MA yn y Coleg Cerdd a Drama. Fe’i hyfforddwyd fel actores yn y Coleg Cerdd a Drama ac yna fel cantores yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. Mae Angharad hefyd yn hyfforddwr llais Shakespeare ar gyfer y Cwrs BA perfformio yn y Drindod Dewi Sant, ac yn gweithio fel darlithydd mewn ysgrifennu newydd ym Mhrifysgol De Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ei chyfweliad eglura Angharad mai arddull y ddrama Sweeney Todd yw melodrama a’i bod hi fel cyfarwyddwr yn awyddus i roi cynhyrchiad symbolaidd o’r sioe gerdd dywyll yma. Eglura bod Sondheim yn glyfar iawn ac wedi creu motif cerddorol ar gyfer pob cymeriad a bod y motifs rheiny yn cael eu hailadrodd yn gyson drwy’r sioe fel ein bod yn adnabod y cymeriadau drwy eu motif cerddorol. Er mwyn sicrhau bod y cynhyrchiad yn gwbl symbolaidd yr hyn wnaeth hi fel cyfarwyddwr benderfynu arno oedd personoli’r propiau i gyd. Elfen gryfaf y sioe i Angharad yw’r defnydd o’r ensemble - nhw sy’n creu’r naws angenrheidiol, a nhw hefyd sy’n gyfrifol am ddangos y lleoliad yn y cynhyrchiad. Yr ensemble oedd yn symud y set, yn personoli’r propiau i gyd ac yn creu’r delweddau theatrig ar y llwyfan. Mae Sweeney ei hun yn y gân Ffrindiau yn personoli’r raseli ac yn sôn amdanynt fel ei ffrindiau personol. Daeth y syniad wedyn o bersonoli pob prop a’u defnyddio i ddweud y stori yn hytrach na chael set. Dechreuodd y cynhyrchiad gyda phob aelod o’r ensemble yn eistedd ar gadair a defnyddiwyd y cadeiriau wedyn i greu gofodau diddorol ar y llwyfan. Roedd yr ensemble felly yn bresennol trwy gydol y cynhyrchiad ac yn gwylio’r digwydd i gyd gan ymateb yn eu tro i’r digwyddiadau gwahanol. Gan nad oedd cyllid mawr greu set penderfynodd Angharad i greu’r ffwrn drwy gael Mrs Lovett yn dal peiriant mwg tuag at gornel o’r llwyfan lle’r oedd lamp goch yn cynrychioli’r ffwrn ac wrth i Mrs Lovett danio’r peiriant mwg cafwyd delwedd o ffwrn boeth yng nghornel yr ystafell. Yn yr olygfa lle’r oedd gwerthwr adar ar y stryd a Johanna yn canu am y fronfraith, defnyddiodd Angharad yr ensemble i gyd yn cario cawell ac aderyn ynddo i greu marchnad brysur. Yng nghân y llythyr daeth y syniad o bersonoli’r lamp ar y ddesg ac felly defnyddiwyd lampau bychain gyda golau batri ynddynt a rhoddodd yr ensemble y rhain ar eu pennau fel hetiau. Eglura Angharad fod modd defnyddio’r broblem o ddiffyg cyllid i greu set ddrudfawr wrth feddwl yn artistig a meddwl beth oedd yn bosib creu delweddau diddorol ar lwyfan. Ac felly, daeth y syniad o ddefnyddio’r ensemble a chreu cynhyrchiad cwbl symbolaidd. GWEITHGAREDD Yn ei chyfweliad fe ddywedodd Angharad Lee ei bod wedi cyfarwyddo Sweeney Todd yn gwbl symbolaidd. Sut fyddech chi’n mynd ati i lwyfannu nifer o’r golygfeydd yn symbolaidd? Edrychwch ar glipiau o berfformiad BA Perfformio y Drindod Dewi Sant er mwyn gweld sut wnaeth Angharad Lee gyfarwyddo nifer o’r golygfeydd yn symbolaidd. Sut fath o syniadau fyddai gennych chi? Efallai yr hoffech drafod y golygfeydd canlynol: golygfa lle mae Todd yn derbyn y llafnau gan Mrs Lovett (Tud 14-17) golygfa Johanna â’r gwerthwr adar (tud 17-19) y golygfeydd lle mae Todd yn tagu ei gwsmeriaid gweld y becws am y tro cyntaf (tud 80 a thud 83)

SWEENEY TODD ANGHARAD LEE 2... · 2019. 9. 3. · SWEENEY TODD . ANGHARAD LEE. GWEITHGAREDD. Un o’r golygfeydd mwyaf erchyll yw Seilam Fogg. (tud 85-87) Ewch ati i lwyfannu’r

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: SWEENEY TODD ANGHARAD LEE 2... · 2019. 9. 3. · SWEENEY TODD . ANGHARAD LEE. GWEITHGAREDD. Un o’r golygfeydd mwyaf erchyll yw Seilam Fogg. (tud 85-87) Ewch ati i lwyfannu’r

SWEENEY TODD ANGHARAD LEE

Ganwyd Angharad Lee yn y Porth, y Rhondda. Mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr theatr, opera a ffilm ers 2009 yn ogystal ag astudio ar gyfer MA yn y Coleg Cerdd a Drama.

Fe’i hyfforddwyd fel actores yn y Coleg Cerdd a Drama ac yna fel cantores yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. Mae Angharad hefyd yn hyfforddwr llais Shakespeare ar gyfer y Cwrs BA perfformio yn y Drindod Dewi Sant, ac yn gweithio fel darlithydd mewn ysgrifennu newydd ym Mhrifysgol De Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn ei chyfweliad eglura Angharad mai arddull y ddrama Sweeney Todd yw melodrama a’i bod hi fel cyfarwyddwr yn awyddus i roi cynhyrchiad symbolaidd o’r sioe gerdd dywyll yma.Eglura bod Sondheim yn glyfar iawn ac wedi creu motif cerddorol ar gyfer pob cymeriad a bod y motifs rheiny yn cael eu hailadrodd yn gyson drwy’r sioe fel ein bod yn adnabod y cymeriadau drwy eu motif cerddorol.

Er mwyn sicrhau bod y cynhyrchiad yn gwbl symbolaidd yr hyn wnaeth hi fel cyfarwyddwr benderfynu arno oedd personoli’r propiau i gyd. Elfen gryfaf y sioe i Angharad yw’r defnydd o’r ensemble - nhw sy’n creu’r naws angenrheidiol, a nhw hefyd sy’n gyfrifol am ddangos y lleoliad yn y cynhyrchiad. Yr ensemble oedd yn symud y set, yn personoli’r propiau i gyd ac yn creu’r delweddau theatrig ar y llwyfan.

Mae Sweeney ei hun yn y gân Ffrindiau yn personoli’r raseli ac yn sôn amdanynt fel ei ffrindiau personol. Daeth y syniad wedyn o bersonoli pob prop a’u defnyddio i ddweud y stori yn hytrach na chael set.

Dechreuodd y cynhyrchiad gyda phob aelod o’r ensemble yn eistedd ar gadair a defnyddiwyd y cadeiriau wedyn i greu gofodau diddorol ar y llwyfan. Roedd yr ensemble felly yn bresennol trwy gydol y cynhyrchiad ac yn gwylio’r digwydd i gyd gan ymateb yn eu tro i’r digwyddiadau gwahanol.

Gan nad oedd cyllid mawr greu set penderfynodd Angharad i greu’r ffwrn drwy gael Mrs Lovett yn dal peiriant mwg tuag at gornel o’r llwyfan lle’r oedd lamp goch yn cynrychioli’r ffwrn ac wrth i Mrs Lovett danio’r peiriant mwg cafwyd delwedd o ffwrn boeth yng nghornel yr ystafell.

Yn yr olygfa lle’r oedd gwerthwr adar ar y stryd a Johanna yn canu am y fronfraith, defnyddiodd Angharad yr ensemble i gyd yn cario cawell ac aderyn ynddo i greu marchnad brysur.

Yng nghân y llythyr daeth y syniad o bersonoli’r lamp ar y ddesg ac felly defnyddiwyd lampau bychain gyda golau batri ynddynt a rhoddodd yr ensemble y rhain ar eu pennau fel hetiau.

Eglura Angharad fod modd defnyddio’r broblem o ddiffyg cyllid i greu set ddrudfawr wrth feddwl yn artistig a meddwl beth oedd yn bosib creu delweddau diddorol ar lwyfan. Ac felly, daeth y syniad o ddefnyddio’r ensemble a chreu cynhyrchiad cwbl symbolaidd.

GWEITHGAREDDYn ei chyfweliad fe ddywedodd Angharad Lee ei bod wedi cyfarwyddo Sweeney Todd yn gwbl symbolaidd. Sut fyddech chi’n mynd ati i lwyfannu nifer o’r golygfeydd yn symbolaidd? Edrychwch ar glipiau o berfformiad BA Perfformio y Drindod Dewi Sant er mwyn gweld sut wnaeth Angharad Lee gyfarwyddo nifer o’r golygfeydd yn symbolaidd. Sut fath o syniadau fyddai gennych chi? Efallai yr hoffech drafod y golygfeydd canlynol:

• golygfa lle mae Todd yn derbyn y llafnau gan Mrs Lovett (Tud 14-17)

• golygfa Johanna â’r gwerthwr adar (tud 17-19)

• y golygfeydd lle mae Todd yn tagu ei gwsmeriaid

• gweld y becws am y tro cyntaf (tud 80 a thud 83)

Page 2: SWEENEY TODD ANGHARAD LEE 2... · 2019. 9. 3. · SWEENEY TODD . ANGHARAD LEE. GWEITHGAREDD. Un o’r golygfeydd mwyaf erchyll yw Seilam Fogg. (tud 85-87) Ewch ati i lwyfannu’r

SWEENEY TODD ANGHARAD LEE

GWEITHGAREDDUn o’r golygfeydd mwyaf erchyll yw Seilam Fogg. (tud 85-87) Ewch ati i lwyfannu’r olygfa hon gan ganolbwyntio ar greu erchyllterau seilam. Trafodwch y gwaith corfforol y gallai’r cleifion ei wneud, pa fath o synau allai’r cleifion eu gwneud. Sut fath o wisgoedd fyddai ganddyn nhw? Beth am y golau a’r sain, sut allai’r rheiny ychwanegu at yr olygfa?

Ewch ati i lwyfannu’r olygfa yn gwbl naturiolaidd ac yna ceisiwch feddwl am syniadau o sut i wneud yr olygfa yn symbolaidd.

GWEITHGAREDDYn 2017 fe lwyfannwyd Sweeney Todd mewn caffi yn Llundain. Dyma gynhyrchiad safle penodol. Cafodd y gynulleidfa eu gwahodd am bryd o fwyd cyn y perfformiad, ac yna roedd y gynulleidfa yn eistedd o amgylch byrddau fel peataen nhw mewn caffi tra oedd y sioe yn digwydd o’u cwmpas.

Trafodwch sut fydde chi’n mynd ati i gyflwyno Sweeney Todd fel cynhyrchiad safle penodol. Sut fyddech chi’n sicrhau bod y gynulleidfa yn cael profiad theatrig wrth eistedd mor agos at y digwyddiadau? Beth fyddai manteision ac anfanteision cynhyrchiad o’r math yma?

Ewch ati i greu set debyg i gaffi a llwyfannwch rai o’r golygfeydd er mwyn arbrofi gyda syniadau o berfformiad safle penodol.

GWEITHGAREDDDisgrifir Sweeney Todd fel ‘a Musical thriller’, ‘a horror movie’ ond hefyd fel ‘a comical musical.’

Sut fyddech chi fel cyfarwyddwr yn sicrhau fod yr elfennau comedi yn dod drosodd yn y sioe? Pa gymeriadau a allai roi’r elfennau comig i’r gynulleidfa? Chwiliwch am y golygfeydd hynny ac ewch ati i’w llwyfannu ar lwyfan gwth ac mewn arddull naturiolaidd.

GWEITHGAREDDTrafodwch eich syniadau ar gyfer creu set naturiolaidd ar gyfer Sweeney Todd. Pa elfennau / set fyddai’n bwysig i’w cynnwys er mwyn creu profiad ‘bywyd go iawn’ i’r gynulleidfa? Meddyliwch am y dodrefn, lliw’r set, y sain a’r golau a’r gwisgoedd.