7
Undebau credyd Beth yw undeb credyd? Sut allant eich helpu i reoli eich arian Sut i ymuno

Undebau credyd - mascdn.azureedge.net · cynnwys £53.79 o log). Os benthyciwch swm tebyg gan ddarparwr credyd cartref byddai’r gost 3 i 4 gwaith yn fwy na hynny. Pwyntiau allweddol

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Undebau credyd - mascdn.azureedge.net · cynnwys £53.79 o log). Os benthyciwch swm tebyg gan ddarparwr credyd cartref byddai’r gost 3 i 4 gwaith yn fwy na hynny. Pwyntiau allweddol

Undebau credyd

Beth yw undeb credyd?

Sut allant eich helpu i reoli eich arian

Sut i ymuno

Page 2: Undebau credyd - mascdn.azureedge.net · cynnwys £53.79 o log). Os benthyciwch swm tebyg gan ddarparwr credyd cartref byddai’r gost 3 i 4 gwaith yn fwy na hynny. Pwyntiau allweddol

1moneyadviceservice.org.uk

Yma i'ch helpu chi

Cynnwys

Beth yw undeb credyd? 2

Sut allant eich helpu i reoli eich arian 3

Os aiff pethau o chwith 8

Cysylltiadau defnyddiol 9

Mae’r canllaw hwn i chi os ydych am ddarganfod sut y gall undebau credyd eich helpu i reoli'ch arian. Ar ôl ei ddarllen byddwch yn gwybod:

■ sut maent yn gweithio

■ Sut allwch chi ymuno ag undeb credyd

■ sut allwch chi gynilo (neu fenthyca) gydag un.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, a gafodd ei sefydlu gan y llywodraeth i roi cymorth i bobl wneud y gorau o'u harian drwy roi cyngor diduedd yn rhad ac am ddim. Yn ogystal â chyngor am undebau credyd, rydym yn cynnig gwybodaeth am ystod eang o bynciau eraill.

Ymwelwch â'n gwefan heddiw am gyngor, awgrymiadau ac offer i'ch helpu chi i wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio am ddyfodol gwell.

moneyadviceservice.org.uk

Cyngor diduedd am ddim ar y we ar y ffôn wyneb yn wyneb

Page 3: Undebau credyd - mascdn.azureedge.net · cynnwys £53.79 o log). Os benthyciwch swm tebyg gan ddarparwr credyd cartref byddai’r gost 3 i 4 gwaith yn fwy na hynny. Pwyntiau allweddol

32 moneyadviceservice.org.ukmoneyadviceservice.org.uk

Beth yw undeb credyd? Sut allant eich helpu i reoli eich arian

Mae undebau credyd yn sefydliadau cynilo a benthyca cydweithredol cymunedol, pan fydd aelodau'n cronni'u cynilion er mwyn benthyca i'w gilydd a helpu i redeg yr undeb credyd. Mae cwmni cydweithredol yn sefydliad sy'n eiddo ar y cyd i grwp o bobl ac yn cael ei reoli ganddynt ar gyfer aelodau sy'n defnyddio'i wasanaethau.

Mae undebau credyd wedi dod yn fwy poblogaidd yn yr ychydig o flynyddoedd diwethaf wrth i filoedd o gyflogeion ledled Prydain elwa o ddidyniad cyflogres i undeb credyd sy’n rhoi modd rhwydd a chyfleus iddynt gynilo a benthyca.

AelodaethGallwch ymuno ag undeb credyd os ydych yn rhannu ‘cysylltiad cyffredin’ gyda’r aelodau eraill, fel:

■ byw neu weithio yn yr un ardal

■ gweithio i’r un cyflogwr, neu

■ yn aelod o'r un undeb, eglwys neu gymdeithas arall.

Mae gan bob undeb credyd ei ‘gysylltiad cyffredin’, ond fel arfer bydd yn seiliedig ar un neu ragor o’r enghreifftiau uchod.

Gwasanaethau a gynigir gan undebau credyd

Mae pob undeb credyd yn cynnig cyfrifon cynilo sylfaenol a benthyciadau. Mae nifer ohonynt yn cynnig yswiriant diogelu benthyciadau hefyd, ac mae rhai'n cynnig cynnyrch yswiriant eraill fel yswiriant teithio, moduro a chynnwys. Mae rhai (fel arfer y rhai mwyaf) yn cynnig gwasanaethau ychwanegol fel:

■ ISAs (Cyfrifon Cynilo Unigol)

■ cynlluniau angladd

■ morgeisi

■ cyfrifon cyfredol neu gardiau rhagdaledig

■ cyllidebu a rheoli dyledion.

Pwyntiau allweddol Gall aelodau o undeb credyd rannu unrhyw elw gan nad oes unrhyw gyfranddalwyr allanol.

Ym Mhrydain, mae dros 1 miliwn o bobl yn aelodau o undeb credyd ar hyn o bryd.Ffynhonnell: Awdurdod Rheoleiddio Prudential 2013

Pam dewis undeb credyd?

Gall undeb credyd eich helpu i gael eich cyllid o dan reolaeth.

Er eu bod yn bodoli er mwyn gwasanaethu unrhyw un, mae’n bosib y byddant yn fwy parod i’ch helpu chi na banc stryd fawr neu gymdeithas adeiladu os oes gennych incwm isel, neu os nad oes gennych hanes blaenorol o fenthyca. Maent yn:

■ annog pobl i gynilo’n rheolaidd – yn wythnosol, bob pythefnos neu’n fisol

■ derbyn symiau bach

■ barod i fenthyca symiau bach; ac

■ yn cytuno i fenthyciadau’n seiliedig ar eich gallu i’w had-dalu a faint sydd ei angen arnoch.

Cynilo gydag undeb credyd

Gallwch dalu arian i mewn i’ch cyfrif mewn sawl ffordd:

■ mewn mannau casglu lleol

■ yn uniongyrchol o’ch cyflog drwy ddidyniadau cyflogres (os oes gan eich cyflogwr drefniant gydag undeb credyd lleol i gasglu taliadau o’r fath)

■ drwy archeb sefydlog neu Ddebyd Uniongyrchol, neu

■ os ydych yn derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth, drwy drefnu iddynt gael eu talu i mewn i’ch cyfrif undeb credyd.

Ni fydd pob undeb credyd yn cynnig yr holl ddulliau a restrir yma ar gyfer talu arian i’ch cyfrif.

Gallwch gymryd arian allan:

■ mewn pwyntiau casglu lleol (er enghraifft drwy ddefnyddio siec mewn swyddfa bost leol, neu mewn arian parod mewn swyddfa undeb credyd)

■ drwy drefnu i daliadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc os oes un gennych (gelwir hyn yn Bacs)

■ gyda rhai o’r undebau credyd llai, drwy lyfr pas, a

■ gyda rhai undebau credyd, drwy ddefnyddio cerdyn debyd mewn peiriant codi arian.

Page 4: Undebau credyd - mascdn.azureedge.net · cynnwys £53.79 o log). Os benthyciwch swm tebyg gan ddarparwr credyd cartref byddai’r gost 3 i 4 gwaith yn fwy na hynny. Pwyntiau allweddol

54 moneyadviceservice.org.ukmoneyadviceservice.org.uk

Mae rhai undebau credyd yn cynnig cyfradd sefydlog ar gynilion, ond mae’r mwyafrif yn rhoi taliad blynyddol i chi a elwir yn ‘fuddran’. Y fuddran yw’r ffordd mae’r undeb credyd yn rhannu ei elw gyda’i aelodau a bydd y swm a dderbyniwch, os bydd un, yn amrywio gan ddibynnu ar faint o elw mae’r undeb credyd wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn. Bydd cyfraddau’r adenillion yn amrywio gan ddibynnu ar y math o gyfrif sydd gennych.

Mae rhai undebau credyd yn cynnig cyfrifon cynilo at y Nadolig a bydd yn rhaid i chi roi rhybudd os ydych eisiau cymryd eich arian allan cyn mis Tachwedd bob blwyddyn. Gall hon fod yn ffordd dda o gynilo at y Nadolig gan ei bod yn bosibl y byddai llai o demtasiwn i chi gymryd eich arian allan nag y byddai gyda chyfrif cynilo arferol.

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell cynilo i weld sut all eich cynilion dyfu yn y dyfodol neu i helpu i weld sut allwch chi gyrraedd eich nod cynilo

moneyadviceservice.org.uk/savingscalc

Benthyca o undeb credyd

Mae gan undebau credyd ffyrdd gwahanol o fenthyca arian. Bydd rhai’n rhoi benthyciad i chi cyn gynted ag y dewch yn aelod, er byddant am sicrhau bod gennych ddigon o arian ar ôl talu’ch biliau i fforddio ad-dalu’r benthyciad.

Bydd rhai eraill yn benthyca i chi pan fyddwch wedi dangos eich bod yn gallu cynilo’n rheolaidd. Gall hyn olygu cynilo am ychydig o wythnosau cyn y gallwch wneud cais i fenthyca ganddynt.

Fel arfer mae undebau credyd yn benthyca symiau bach at unrhyw bwrpas, er enghraifft i dalu am nwyddau i'r ty, cost y Nadolig neu atgyweirio car.

Gall y rhan fwyaf o undebau credyd fenthyca arian am hyd at bum mlynedd ar gyfer benthyciad heb ei ddiogelu, a hyd at ddeng mlynedd ar gyfer benthyciad wedi’i ddiogelu. (Mae benthyciad wedi’i ddiogelu ynghlwm ag un o’ch asedau, fel arfer eich car neu’ch cartref. Os na fyddwch yn ad-dalu’r benthyciad, mae gan yr undeb credyd yr hawl i werthu’r ased hwnnw er mwyn cael ei arian yn ôl.)

Gall rhai undebau credyd fenthyca symiau mwy dros gyfnodau hirach, er enghraifft i brynu car neu i dalu am welliannau i’ch cartref, ond gall y rhain fod yn fenthyciadau wedi’u diogelu.

Pan fyddwch yn benthyca o undeb credyd, byddwch fel arfer yn cael yswiriant bywyd am ddim i sicrhau gwerth y benthyciad. Golyga hyn y bydd yr yswiriant yn ad-dalu'r benthyciad os byddwch yn marw cyn ei dalu'n ôl yn llawn. Os nad ydych yn gwneud eich taliadau, gall undebau credyd, os bydd angen, gael unrhyw arian sydd arnoch iddynt yn ôl drwy:

■ ddefnyddio asiantaethau casglu dyledion

■ yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os ydych yn derbyn budd-daliadau’r wladwriaeth, neu

■ drwy Lys Sirol os ydych yn cael eich cyflogi.

Taliadau benthycaAr gyfer benthyciadau llai dros gyfnodau byrrach mae undebau credyd yn codi cyfraddau llog llawer is ar fenthyciadau o’i gymharu â darparwyr benthyciadau stepen drws a diwrnod cyflog; a gall benthyciadau mwy sylweddol fod yn is na 10% APR (yn aml yn is na chyfraddau llog rhai banciau). Bydd y cyfraddau llog a godir yn amrywio yn ddibynnol ar y math o fenthyciad ond ni chaiff fod yn uwch na 3% o log y mis (yn cyfateb i APR o 42.6%).

Gofynnwch i’ch undeb credyd lleol am ei gyfraddau llog ar fenthyciadau. Os penderfynwch ad-dalu benthyciad undeb credyd yn gynnar, ni fyddant yn codi tâl cosb arnoch.

Am ragor o wybodaeth a chyngor ar y gwahanol fathau o fenthyca a sut i sicrhau y gallwch fforddio ei dalu’n ôl

Chwiliwch am ‘Benthyca arian’ ar moneyadviceservice.org.uk

Enghraifft

Os bu i chi fenthyca £500 dros 6 mis gan undeb credyd a thalu’r arian yn ôl yn brydlon bob mis, dylech ddisgwyl ad-dalu £92.31 bob mis am 6 mis a fydd yn costio cyfanswm o £553.79 i chi (yn cynnwys £53.79 o log).

Os benthyciwch swm tebyg gan ddarparwr credyd cartref byddai’r gost 3 i 4 gwaith yn fwy na hynny.

Pwyntiau allweddol

Mae undebau credyd yn ffordd rwydd o gynilo a benthyca

Gall undebau credyd eich helpu i gael eich cyllid dan reolaeth.4579 5321 4789 1331 6791

1010

4579 5321 4789 1331 6791

2020

Page 5: Undebau credyd - mascdn.azureedge.net · cynnwys £53.79 o log). Os benthyciwch swm tebyg gan ddarparwr credyd cartref byddai’r gost 3 i 4 gwaith yn fwy na hynny. Pwyntiau allweddol

76 moneyadviceservice.org.ukmoneyadviceservice.org.uk

Pan fyddwch yn ystyried ymuno ag undeb credyd

Gwiriwch sut allwch chi dalu arian i mewn a’i dynnu allan, a’i fod yn addas ar eich cyfer chi.

Gwiriwch faint o fenthyciad fydd yr undeb credyd yn ei gynnig fel arfer ac am ba hyd. Mae rhai’n cynnig benthyciadau bach dros gyfnodau byr a bydd rhai’n cynnig mwy dros gyfnodau hirach.

Gwiriwch a oes angen i chi fod yn gynilwr cyn iddyn nhw ganiatáu i chi fenthyca, os yw benthyca yn bwysig i chi.

Gwiriwch pa wasanaethau eraill maent yn eu cynnig, er enghraifft cyfrifon cynilo at y Nadolig, cyfrifon cyfredol neu yswiriant.

Defnyddiwch ein Cynllunydd cyllideb ar-lein i’ch helpu i gyfrifo faint allwch chi fforddio ei gynilo – moneyadviceservice.org.uk/budget

Ymunwch â’r undeb credyd os ydych yn hapus â’r gwasanaethau a gynigir.

Dod o hyd i undeb credydMae’n rhaid i bob undeb credyd gynnwys y geiriau 'Credit Union' yn eu teitl, neu yng Nghymru defnyddio 'Undeb Credyd'. Gan nad oes raid i’w teitlau gynnwys enw lle, ni allwch bob amser chwilio am undeb credyd drwy ddefnyddio enw'ch tref neu fwrdeistref.

Dewch o hyd i undeb credyd yn eich ardal yn findyourcreditunion.co.uk

Yng Ngogledd Iwerddon: Cynghrair Undebau Credyd Iwerddon a Ffederasiwn Undebau Credyd Ulster.

Gweler Cysylltiadau defnyddiol– tudalen 9

Gwirio undeb credydRheoleiddir Undebau gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FCA), sy'n golygu bod yn rhaid iddynt lynu at reolau penodol ac, os oes gennych chi gynilion gyda nhw, diogelir eich arian hyd at uchafswm o £85,000 os digwydd i'r undeb credyd fynd i'r wal (yr un uchafswm sydd ar gyfer cyfrifon banciau a chymdeithasau adeiladu). Golyga hyn bod yn rhaid i undebau credyd fodloni rhai safonau ac mae’n rhaid i’r FCA gymeradwyo’r bobl sy'n dal swyddi pwysig ynddynt.

Cynllunydd cyllideb

Defnyddiwch ein Cynllunydd cyllideb i gyfrifo sut y gallwch wneud newidiadau er mwyn i’ch arian bara’n hirach.

Bydd yr offeryn hwn yn rhoi darlun clir i chi o’r hyn sy’n dod i mewn gennych a beth sy’n gorfod mynd allan.

Ewch i moneyadviceservice.org.uk/budget

Golyga hefyd y gall aelodau undeb credyd fynd i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol a’r Gwasanaeth Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) os aiff pethau o chwith.

Page 6: Undebau credyd - mascdn.azureedge.net · cynnwys £53.79 o log). Os benthyciwch swm tebyg gan ddarparwr credyd cartref byddai’r gost 3 i 4 gwaith yn fwy na hynny. Pwyntiau allweddol

98 moneyadviceservice.org.ukmoneyadviceservice.org.uk

Os bydd pethau’n mynd o chwith

CwynionOs bydd pethau’n mynd o chwith, dylech gysylltu â’r undeb credyd yn gyntaf i roi cyfle iddo unioni'r hyn nad ydych yn hapus gydag ef. Mae’n rhaid iddo ddilyn gweithdrefn benodol wrth ddelio â chwynion.

Os nad ydych yn fodlon â sut mae’r undeb credyd wedi datrys eich cwyn, gallwch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol – gweler Cysylltiadau defnyddiol.

IawndalOs nad yw undeb credyd yn medru neu’n annhebygol o dalu hawliadau yn ei erbyn, efallai y gallech gael iawndal gan yr FSCS. Mae'r swm o iawndal y gall yr FSCS ei dalu i bob aelod yn gyfyngedig i £85,000. Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth – gweler fscs.org.uk

Neu, i ddysgu rhagor chwiliwch am ‘Datrys problem ariannol neu gwneud cwyn’ ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Cynghrair Undebau Credyd yr Alban 0141 774 5020 scottishcu.org

Cynghrair Undebau Credyd Iwerddon +353 1 614 6700 creditunion.ie

Ffederasiwn Undebau Credyd Ulster 028 9030 1204 ufcu.co.uk

Ace Credit Union Services 0191 284 7521 acecus.org

UKCreditUnions Ltd (UKCU) 01706 214322 ukcu.coop

Cwynion ac iawndal

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol 0800 023 4567 neu 0300 123 9123 financial-ombudsman.org.uk

Cynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS) 0800 678 1100 neu 020 7741 4100 fscs.org.uk

Cymdeithasau masnach undeb credyd

Cymdeithas Undebau Credyd Prydain (ABCUL)0161 832 3694 abcul.org

Cysylltiadau defnyddiol

Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Mae'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn annibynnol ac wedi'i sefydlu gan y llywodraeth i helpu pobl i wneud y gorau o'u harian trwy roi cyngor ariannol diduedd, am ddim i bawb ar draws y DU - ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Rydym yn rhoi cyngor, awgrymiadau ac offer ar ystod eang o destunau gan gynnwys rheolaeth ariannol o ddydd i ddydd, cynilion, cynllunio'ch ymddeoliad ac i'ch dyfodol, ynghyd â chyngor a chymorth ar gyfer digwyddiadau newid bywyd megis dechrau teulu neu golli swydd.

Am gyngor a mynediad at ein hoffer a’n cynllunwyr ewch i

moneyadviceservice.org.uk

Neu ffoniwch ein Llinell Cyngor Ariannol ar 0300 500 5000*

Typetalk 1800 1 0300 500 5000

Cwynion

Page 7: Undebau credyd - mascdn.azureedge.net · cynnwys £53.79 o log). Os benthyciwch swm tebyg gan ddarparwr credyd cartref byddai’r gost 3 i 4 gwaith yn fwy na hynny. Pwyntiau allweddol

Undebau Credyd yw un o’r canllawiau sydd ar gael gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol. I weld ein hystod lawn o ganllawiau a gwneud cais am gopïau ewch i

moneyadviceservice.org.uk/freeguides

Llinell Cyngor Ariannol 0300 500 5000* Typetalk 1800 1 0300 500 5000

Peidiwch â cholli cyfle ar gyngor ariannol. I gael mwy o werth am eich arian, cofrestrwch i gael ein negeseuon e-bost a chael cyngor a newyddion yn syth i'ch mewnflwch. Tanysgrifiwch ar

moneyadviceservice.org.uk/signup

Awst 2014 © Gwasanaeth Cynghori Ariannol Awst 2014 Cyf: CU0001A

* Mae galwadau i rifau 0300 am ddim os oes gennych funudau

cynhwysol neu am ddim fel rhan o'r cytundeb sydd gennych chi gyda'ch

darparwr llinell dir neu ffôn symudol. Os nad oes gennych funudau galw

cynhwysol neu am ddim yna bydd galwadau i rifau 0300 yn cael eu codi

ar gyfraddau safonol ar gyfer rhifau daearyddol y DU (e.e. rhifau'r DU

sy'n dechrau gyda 01 neu 02). Er mwyn ein helpu i gynnal a gwella ein

gwasanaeth, efallai y byddwn yn recordio neu fonitro galwadau.

Y wybodaeth yn gywir pan gafodd ei hargraffu (Awst 2014).

Os hoffech chi'r canllaw hwn mewn Braille, print mawr neu fformat clywedol cysylltwch â ni ar y rhifau uchod.