8
Mae cynllun y ‘Troeon Trên’ a lansiwyd gan Jane Davidson AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, yn gadael i bobl fwynhau cerdded heb y straen o ddefnyddio’r car, a mwynhau teithio cynaliadwy sy’n creu llai o lygredd. Mae’r trên hefyd yn rhoi mwy o gyfle i fwynhau agwedd wahanol ar gefn gwlad o gysur sedd yn y trên – yn ogystal â chyfle i eistedd yn ôl ac ymlacio ar y ffordd adref! Sefydlwyd Troeon Trên ym 1987, a deilliodd o gr ˆ wp craidd oedd yn darparu teithiau cerdded yng Nghanolbarth Cymru a’r Gororau. Bellach mae Troeon Trên wedi ehangu ac o fis Ionawr 2008 cyhoeddwyd rhaglen ar gyfer Cymru gyfan drwy gydweithrediad ag Arriva Trains Wales. Mae’r rhaglen yn cynnig dros 100 o droeon ar draws Cymru. Fel gyda throeon eraill a gynigir gan Gerddwyr Cymru, maent am ddim a chynigir amrywiaeth o bellterau – o droeon hanner diwrnod i anturiaethau diwrnod o hyd. Mae llawer ohonynt yn deithiau cylchol, ond mae Troeon Trên yn rhoi cyfleoedd newydd i gerdded o un orsaf i’r llall. Meddai Beverley Penney, Cyfarwyddydd Cerddwyr Cymru, “Dyluniwyd y teithiau hyn yn arbennig ar gyfer pobl a hoffai fynd am dro ond nad ydynt eisiau poeni am ddefnyddio eu car. Byddant yn eich helpu i fynd yn ffit ac yn rhoi cyfle i chi wneud ffrindiau cerdded newydd.” Meddai Ben Davies, Rheolwr Cyswllt â Rhanddeiliaid Arriva Trains Wales, “Rydym yn TUDALEN 1 YR ELUSEN SY’N GWEITHIO AR RAN CERDDWYR RHIFYN 68 hynod o falch o fod yn cymryd rhan ym mhrosiect ‘Troeon Trên’ am yr wythfed flynedd yn olynol. Mae’r prosiect hwn yn dangos pa mor hawdd yw hi i fynd am dro ymhellach i ffwrdd ond heb y costau ychwanegol o dalu am betrol neu barcio.” Meddai Jane Davidson AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, “Mae gan Gymru rwydwaith rheilffordd wledig ardderchog sy’n hygyrch o drefi a phentrefi ar draws y wlad. O linell Dyffryn Conwy yn y gogledd, i linellau’r Cambrian a Chalon Cymru (sydd gyda’i gilydd yn gwasanaethu Powys, Ceredigion, Gwynedd a Sir Gaerfyrddin) ac i Linell Rheilffordd y De Orllewin allan i Sir Benfro; a heb anghofio llinellau’r Cymoedd – maent i gyd yn rhoi mynediad gwych i wlad ardderchog i gerdded ynddi.” Meddai Gwyn Lewis, gwirfoddolwr lleol gyda’r Cerddwyr, “Mae mynd am dro gan ddefnyddio’r trên yn ffordd wych i bobl grwydro ymhellach i ffwrdd heb orfod gyrru. Bonws ychwanegol o beidio defnyddio car yw gallu cerdded o un orsaf i’r llall a pheidio gorfod meddwl am gasglu’r car.” Cedwir rhaglenni Arriva Trains sydd wedi eu hargraffu yn yr holl orsafoedd rheilffordd yng Nghymru ac yn y canolfannau croeso lleol. Gellir lawrlwytho rhaglen o www.ramblers.org.uk/wales/railrambles. Y Gweinidog Jane Davidson AC gyda Cherddwyr Caerdydd yng Ngorsaf Ffynnon Taf. ‘Troeon Trên’ Caerdydd yn mynd heibio adeilad Pierhead Cerddwyr Cymru yn gadael i’r trên gymryd y straen A eth cerddwyr allan yn y glaw yn ddiweddar i fynd am dro gwahanol – defnyddio’r trên i gyrraedd a dod adref o’r tro yn hytrach na chymryd y car. Mae Cerddwyr Cymru mewn partneriaeth gydag Arriva Trains Wales wedi cynhyrchu cyfres o deithiau tywys wythnosol yn dechrau ac yn diweddu o orsafoedd rheilffordd ar draws Cymru. Y

Welsh Rambler 68 - Cymraeg

Embed Size (px)

DESCRIPTION

The Newsletter of the Ramblers Society in Wales. Printed "work and turn" English and Welsh

Citation preview

Page 1: Welsh Rambler 68 - Cymraeg

Mae cynllun y ‘Troeon Trên’ a lansiwyd ganJane Davidson AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd,Cynaliadwyedd a Thai, yn gadael i bobl fwynhaucerdded heb y straen o ddefnyddio’r car, amwynhau teithio cynaliadwy sy’n creu llai olygredd. Mae’r trên hefyd yn rhoi mwy o gyfle ifwynhau agwedd wahanol ar gefn gwlad o gysursedd yn y trên – yn ogystal â chyfle i eistedd yn ôlac ymlacio ar y ffordd adref!

Sefydlwyd Troeon Trên ym 1987, a deillioddo grwp craidd oedd yn darparu teithiaucerdded yng Nghanolbarth Cymru a’rGororau. Bellach mae Troeon Trên wediehangu ac o fis Ionawr 2008 cyhoeddwydrhaglen ar gyfer Cymru gyfan drwygydweithrediad ag Arriva Trains Wales.Mae’r rhaglen yn cynnig dros 100 odroeon ar draws Cymru.

Fel gyda throeon eraill a gynigir ganGerddwyr Cymru, maent am ddim achynigir amrywiaeth o bellterau – odroeon hanner diwrnod i anturiaethaudiwrnod o hyd. Mae llawer ohonynt yndeithiau cylchol, ond mae Troeon Trênyn rhoi cyfleoedd newydd i gerdded o unorsaf i’r llall.

Meddai Beverley Penney, CyfarwyddyddCerddwyr Cymru, “Dyluniwyd y teithiau hyn ynarbennig ar gyfer pobl a hoffai fynd am dro ond nad

ydynt eisiau poeni am ddefnyddio eu car. Byddantyn eich helpu i fynd yn ffit ac yn rhoi cyfle i chiwneud ffrindiau cerdded newydd.”

Meddai Ben Davies, Rheolwr Cyswllt âRhanddeiliaid Arriva Trains Wales, “Rydym yn

TUDALEN 1

YR ELUSEN SY’N GWEITHIO AR RAN CERDDWYR

RHIFYN 68

hynod o falch o fod yn cymryd rhan ym mhrosiect‘Troeon Trên’ am yr wythfed flynedd yn olynol.Mae’r prosiect hwn yn dangos pa mor hawdd yw hii fynd am dro ymhellach i ffwrdd ond heb y costauychwanegol o dalu am betrol neu barcio.”

Meddai Jane Davidson AC, Gweinidog dros yrAmgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, “Mae ganGymru rwydwaith rheilffordd wledig ardderchogsy’n hygyrch o drefi a phentrefi ar draws y wlad. Olinell Dyffryn Conwy yn y gogledd, i linellau’rCambrian a Chalon Cymru (sydd gyda’i gilydd yngwasanaethu Powys, Ceredigion, Gwynedd a SirGaerfyrddin) ac i Linell Rheilffordd y De Orllewinallan i Sir Benfro; a heb anghofio llinellau’rCymoedd – maent i gyd yn rhoi mynediad gwych iwlad ardderchog i gerdded ynddi.”

Meddai Gwyn Lewis, gwirfoddolwr lleol gyda’rCerddwyr, “Mae mynd am dro gan ddefnyddio’rtrên yn ffordd wych i bobl grwydro ymhellach iffwrdd heb orfod gyrru. Bonws ychwanegol obeidio defnyddio car yw gallu cerdded o un orsaf i’rllall a pheidio gorfod meddwl am gasglu’r car.”

Cedwir rhaglenni Arriva Trains sydd wedieu hargraffu yn yr holl orsafoedd rheilfforddyng Nghymru ac yn y canolfannau croeso lleol. Gellir lawrlwytho rhaglen owww.ramblers.org.uk/wales/railrambles.

Y Gweinidog Jane Davidson AC gyda CherddwyrCaerdydd yng Ngorsaf Ffynnon Taf.

‘Troeon Trên’ Caerdydd yn myndheibio adeilad Pierhead

Cerddwyr Cymru yn gadaeli’r trên gymryd y straen

Aeth cerddwyr allan yn y glaw yn ddiweddar i fynd am dro gwahanol –defnyddio’r trên i gyrraedd a dod adref o’r tro yn hytrach na chymryd y car.Mae Cerddwyr Cymru mewn partneriaeth gydag Arriva Trains Wales wedi

cynhyrchu cyfres o deithiau tywys wythnosol yn dechrau ac yn diweddu oorsafoedd rheilffordd ar draws Cymru.

Y

rambler_68_CYMRU_b 12/3/08 12:49 PM Page 1

Page 2: Welsh Rambler 68 - Cymraeg

Enillydd y gystadleuaethffotograffau Mr Alan Spiller ynderbyn ei rycsac Cotswold oddiwrth Gadeirydd Cerddwyr Cymru, Ron Williams.

GWANWYN 2008

TUDALEN 2

Y

Helo Eto …Diolch i bawb a ymatebodd i’r holiadur yn rhifyn diwethaf Y

Cerddwr/Welsh Rambler – roeddech yn dweud wrthym fod ycylchlythyr yn ddigon agos i’w le. Rydym bob amser yn awyddus iglywed oddi wrthych felly cofiwch ddweud wrthym beth yr hoffech eiweld ynddo.

Yn y rhifyn hwn byddwn yn sôn wrthych am y rhaglennewydd wych o Droeon Trên – troeon o’r trên ledled Cymru.Diolch i’r gwirfoddolwyr, a gofalwch eich bod yn cael eich tocyn

ac yn eu cefnogi. Mae hyn yn datblygu ar waith mawr AlanHoward a Richard a Barbara Addyman ar linell y Cambrian a thrwy Ganolbarth

Cymru ers 1989. ‘Awyr iach tir cadarn’ fydd strategaeth y Cerddwyr am y pum mlynedd nesaf. Mae’r

Prif Weithredwr newydd Tom Franklin yn arwain y gwaith hwn gyda’rymddiriedolwyr ac mae wedi trefnu ymgynghoriad helaeth o fewn a thu hwnt i’rCerddwyr. Yn dilyn o hyn bydd strategaeth debyg ar gyfer Cerddwyr Cymru. Bu Tomgyda ni yng Nghyngor Cymru, felly dewch draw a dweud wrtho beth yw eich barn.

Bydd Cyngor Cymru 2008 yn Aberystwyth eleni gydag ymweliadau â safleoedd yngnghefn gwlad Ceredigion. Bydd gennym le i chi, felly cysylltwch â ni.

Y tu hwnt i Gerddwyr Cymru mae llawer ohonoch yn ystyried bod teyrngedau i SyrEdmund Hilary wedi eich effeithio’n ddwfn. Mae ei gysylltiadau â Chymru ynadnabyddus – Gwesty Pen y Gwryd oedd y fan ble y lleolodd tîm Hilary eu hunain argyfer hyfforddiant ar yr Wyddfa cyn mynd i Everest. Cyfrannodd hyn at daithlwyddiannus pan gyrhaeddodd Hilary aTenzing Norgay gopa Everest ar 29 Mai1953. Aeth Jan Morris, y newyddiadurwro ogledd Cymru, gyda’r daith ar gyfer TheTimes. Meddai yn ddiweddar “Mae’nddiwedd cyfnod. Roedd yn gwblannhebyg i unrhyw un o sêr ycyfryngau.” Roedd llawer yn sylweddolifod ei gariad at fynyddoedd wedi arwainat ei gariad at bobl ledled y byd, ac ynarbennig pobl Nepal.

Mwynhewch gerdded!Beverley Cyfarwyddydd Cymru

Shwmae…Shwmae! Richard Jones ydw i, y dyn newyddyn Swyddfa Cymru a hoffwn gymryd y cyflehwn i gyflwyno fy hun i aelodau’r Cerddwyryng Nghymru.

Dechreuais weithio i GerddwyrCymru ar 14 Ionawr a bydd fyswydd fel Swyddog Prosiectauac Ariannu yn un ag iddiswyddogaeth eang ar draws einholl meysydd gwaith:hyrwyddo cerdded, hawliautramwy, materion ynymwneud â mynediad a chefngwlad. Prif ffocws fy ngwaithyw datblygu a rheoli prosiectaunewydd. Fel enghraifftbenodol, byddaf yn gweithiogyda grwpiau lleol i wthio einhymgyrch ar gyfer mynediadi’r arfordir yn ei blaen.

Ychydig amdanaf fi. Rwyf wedi gweithio ersllawer o flynyddoedd yn y sector gwirfoddol yngNghymru. Rwyf wedi dod o RNIB Cymru lleroeddwn yn Rheolwr Codi Arian a chyn hynnyroeddwn yn gweithio i Hafal, yr elusen iechydmeddwl, Nacro (yr elusen cwtogi ar drosedd) a’rGroes Goch. Rwy’n dod yn wreiddiol oAberhonddu (roedd fy nhad yn gweithio i’r ParcCenedlaethol) ac rwyf wedi bod â diddordeb hirac angerddol mewn cerdded a mynydda.

MERFYN WILLIAMS.Trist yw cofnodi y bu farw Merfyn Williams,cyn-Gyfarwyddwr YDCW ar 31 Rhagfyr 2007.Roedd y modd yr oedd wedi cefnogi’ramgylchedd yn ysbrydoliaeth i lawer boedhynny drwy ei waith yn arwain teithiaucerdded, yn addysgu, yn ymgyrchu neu yngweithio gyda chyrff ag amcanion tebyg.Roedd yn poeni’n ddwfn am y materion sy’nannwyl i’r Cerddwyr a chofiwn am lawer odrafodaethau a gafwyd gyda Merfyn amgerdded a’r tirlun. Roeddem yn falch panddaeth Merfyn, ar awgrym Y Cerddwyr ynrhannol, yn un o aelodau cyntaf BwrddCyngor Cefn Gwlad Cymru.

Swydd wag i WirfoddolwrCerddwyr Cymru

Swydd wag i Is GadeiryddMae’r swydd bwysig hon yn golygu helpu Y

Cerddwyr yng Nghymru drwy gyfrannu’nstrategol a chynrychioli’r Gymdeithas.

Gobeithir y bydd yr Is-Gadeirydd yn barod isefyll fel Cadeirydd yn 2009.

Cysylltwch â’r swyddfa os oes gennych ddiddordeba siaradwch â Ron Williams 01352 715723

Teyrnged

Cymdeithas y Cerddwyr, 3 Iard y Cowper,Ffordd Curran, CAERDYDD. CF10 5NB

Ffon: 029 2064 4308 • Ffacs: 029 2064 5187Ar y we: www.ramblers.org.uk

e bost: [email protected]

Mae Cymdeithas y Cerddwyr yn elusen gofrestredig (rhif 1093577)ac yn gwmni a gyfyngir gan warant yng Nghymru a Lloegr (rhif

4458492).Swyddfa gofrestredig: Camelford House, 87-89 Albert Embankment,

Llundain, SE1 7TW.

Beverley Penney

2008MAWRTH29 – DiwrnodHyfforddiantynglyn â Llwybrau,Llandudno

EBRILL12-13 – Cyngor Cymru, Aberystwyth15th – Cyfarfod Cyffredinol Ceredigion

MAI31 – Lansiad Gogledd Cymru Troeon Trên30 – Diwrnod Ewch i Gerdded

MEHEFIN7 – Diwrnod Hyfforddiant ynglyn â

Llwybrau, De Gymru

GORFFENNAF5 – Diwrnod Hyfforddiant ynglyn â Llwybrau,

(Canolradd) Canolbarth Cymru

Mae’r staff bob amser yn barod i’ch helpu ynSwyddfa Caerdydd. O’r chwith i’r dde: Mike,Beverley, Celia, Anwen, Clare a Richard.

Ffoto buddugol – ‘Golau’r Gaeaf – Gwlyptiroedd Casnewydd’

rambler_68_CYMRU_b 12/3/08 12:49 PM Page 2

Page 3: Welsh Rambler 68 - Cymraeg

Sut y daethoch chi i gymryd rhanmewn cerdded a pham ei fod ynarbennig yn awr?Dywedir wrthyf fy mod wedi dechrau cerdded yn10 mis oed. Dydw i ddim wedi stopio. Rydw iwrth fy modd yn mynd allan i’r awyr agored. Ersi mi ymddeol mae wedi bod yn holl bwysig i mifynd allan yn ystod dyddiau byr y gaeaf.

Pam wnaethoch chi ymuno â’rCerddwyr?Rwy’n hoffi mynd am dro sy’n rhydd o rwystrau.Cymdeithas y Cerddwyr yw’r unig gorff sy’nymgyrchu dros hawliau cerddwyr. Mae hefyd ynbarod i gymryd camau cyfreithiol i orfodi irwystrau gael eu symud. Chwaraeodd rôl hollbwysig mewn deddfwriaeth oedd yn effeithio arhawliau tramwy, ac yn arbennig Deddf ParciauCenedlaethol 1949 a Deddf Cefn Gwlad aHawliau Tramwy 2000.

Beth yw eich hoff le cerdded?Bryniau Clwyd a Gogledd Ddwyrain Cymru yngyffredinol.

Pwy yw cydymaith cerdded eichbreuddwydion?Rhywun sy’n gwybod pryd i siarad a phryd i gauei geg!

A oes gennych hoff ddarn o gitcerdded?Rwyf wedi bod yn trio prynu siaced ersblynyddoedd sydd yn fy nghadw’n sych yn yglaw. Y llynedd prynais siaced North Face,gymharol rad. Dyma’r un orau rwyf erioed wediei chael.

Beth yr hoffech ei gyflawnigyda’r Cerddwyr?I Gymru gael ei chydnabod fel gwlad sy’ngyfeillgar i gerddwyr.

Y digwyddiad doniolaf wrthgerdded?Roeddem yn cerdded ger llinell reilffordd acroedd hi’n bwrw glaw. Croesodd yr arweinydd acun neu ddau o rai eraill yn ymyl arosfa yn unioncyn i drên ddod heibio. Stopiodd gweddill y grwpo ryw wyth o bobl y trên a neidio arno. Nid oeddyr arweinydd yn coelio ei lygaid wrth ein gweldyn chwifio arno o’r trên wrth i’r trên ddechrau arei daith unwaith eto!

Sut y daethoch chi i gymryd rhanyn y grwp?Dydw i erioed wedi bod yn wirioneddol weithredolo fewn Grwp. Y rheswm am ymuno â’r Cerddwyroedd gwaith gyda llwybrau a dyna’r rheswm ohyd. Rwy’n ystyried bod y tri amcan arall ynbwysig gyda’n gwaith cefn gwlad fel rhywbethsy’n holl bwysig. Rwyf wedi cael cymaint ofwynhad allan o gerdded fel fy mod am i gymaintâ phosibl ei brofi. Nid dim ond yr ardaloedd gwylltac uchel ond hefyd y llwybrau sy’n hygyrch i’rrhai sy’n cael mwy o anhawster gyda symud. Oran gwarchod cefn gwlad, mae yn holl bwysig fod

hyn yn digwydd. Credaf fod gan Y Cerddwyr rôlbwysig i’w chwarae. Dylid gwrthwynebudatblygiad niweidiol gan bawb a dylai Cymdeithasy Cerddwyr chwarae ei rhan. Mae llawer oddatblygiad y mae rhai grwpiau ymgyrchu yncanolbwyntio arno yn ddibwys ac yn weddolfychan yn y cynllun mawr. Dylem er enghraifftfod yn ymgyrchu yn erbyn ymestyn chwarel onda ddylem ni fod yn poeni am estyniadau i dai?Dylem hefyd fod yn ymgyrchu yn erbyndatblygiadau twristaidd ar raddfa fawr ond addylem ni fod yn poeni am ffarmwr sy’n dymunocael ychydig o gabanau neu garafannau?

Deuthum i i fod yn ymwneud â gwaith gyda

llwybrau drwy gael fy ngwahodd i fynd i gyfarfodo’r Pwyllgor Llwybrau gan ffrind “i weld bethoedd yn digwydd yno!” Doeddwn i ddim ynsylweddoli ei fod ef ac ysgrifennydd y pwyllgoreisoes wedi nodi rhai cymunedau i mi fod yngyfrifol amdanynt. Roeddent hefyd wedipenderfynu y byddwn yn helpu gydag ArolwgCyngor Cefn Gwlad Cymru a oedd yn cael eiwneud ar y pryd.

Pam fod cerdded yn arbennig ichi?Does dim byd arall yn gwneud i mi deimlocystal. Nid yw o bwys pa mor oer, gwlyb a diflasyw’r tywydd - fel arfer dw i’n mwynhau'r profiad.

ASTUDIAETH ACHOSRwy’n ymwneud â’r cais gan bentref Pentrefoelas i ddod yn bentref ‘Croeso i Gerddwyr’.

Gwnes arolwg ar y llwybrau yn y gymuned. Canfûm fod y rhan fwyaf o’r llwybrau ar agor ac ynrhai y gellid eu defnyddio gyda graddau amrywiol o anhawster ond bod yna brinder arwyddion achyfeirbwyntiau. Golygai hyn nad oedd llawer o’r llwybrau yn hawdd i’w defnyddio oherwydd hyn.Rhoddwyd adroddiad am 47 o broblemau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, roedd chwechohonynt yn ymwneud â gwaith cynnal – gydag arwynebau gwael yn broblem arbennig. Roedd ygweddill yn rhwystrau. Roedd y rhan fwyaf o’r rhwystrau yn boenus yn hytrach nag yn rhwystraullwyr – nid oedd gatiau yn agor neu doedd dim stepiau ar rai o’r camfeydd.

Roedd un o’r rhwystrau ar lwybr march. Crybwyllais hyn a chafodd y rhwystr ei ddileu a gosodwydgiât newydd. Mae’r ffotograff yn dangos y giât newydd – nodwch y ddau bostyn giât newydd. Maeagor y llwybr hwn yn golygu bod llwybr cylchol o ryw 15 milltir gyda chysylltiadau â llwybrau eraillbellach ar gael i gerddwyr a merlotwyr.

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

TUDALEN 3

Y

PROFFIL >>>

Ron – yn ymdrechu i sicrhau gwladsy’n gyfeillgar i gerddwyr Cerddwyr Cymru yn rhoi sylw i Mr Ron

Williams, Cadeirydd Cerddwyr Cymru

Ron Williams gyda giât newydd a gymerodd le rwystr ar lwybr 15milltir o amgylch Pentrefoelas, a agorwyd gan gerddwyr yn ddiweddar.

rambler_68_CYMRU_b 12/3/08 12:49 PM Page 3

Page 4: Welsh Rambler 68 - Cymraeg

GWANWYN 2008

TUDALEN 4

Y

Yn fuan byddwch yn gallu cerdded o amgylchBae Caerdydd. Mae’r llwybr 5 milltir (8 km) yn

cynnig amrywiaeth mawr gyda golygfeydd gwycho’r Bae rhyfeddol hwn. Mae dau fwlch pwysig yn yllwybr yn cael eu pontio, diolch i raddau helaeth iymdrechion Y Cerddwyr.

Mae’r bwlch cyntaf rhwng Morglawdd BaeCaerdydd a’r Eglwys Norwyaidd. Gallwch ddal ytrên tir drwy ddociau Caerdydd o ben Morglawddtrawiadol Bae Caerdydd ond ni allwch gerddeddrwodd, a byddai’n dal yn rhaid i chi neidio drosFasn y Rhâth i gyrraedd yr Eglwys Norwyaidd.Bydd y broblem hon yn cael ei datrys yngngwanwyn 2008.

Diolch i’r ffaith fod Cerddwyr Caerdydd wedigwneud achos i’r dociau fod ar agor a’r ffaith fodCerddwyr Cymru wedi lobïo am fynediad arfordirol aarweiniodd at grantiau i’r holl awdurdodau lleolarfordirol, mae pont Basn y Rhâth a llwybr y dociauyn cael eu creu gydag arian Llywodraeth CynulliadCymru a brwdfrydedd gan Ddinas Caerdydd ac

Awdurdod Harbwr Caerdydd. Addewir y bydd llwybry dociau a’r bont ar agor yn y gwanwyn yn ystodoriau gwaith arferol. Bydd hyn yn galluogi pobl iddefnyddio’r llwybr ar droed ac ar gefn beic er mwynpleser ac i gymudo. Mae Cerddwyr Caerdydd wedibod yn ceisio datrys y broblem hon ers i’rmorglawdd gael ei ddatblygu.

Bydd ail bont o fudd i lwybr Bae Caerdydd ar yrochr Orllewinol ger Cogan. Hwn oedd un o’r 79 obrosiectau Cyswllt2 SUSTRANS ar draws y DU aenillodd bleidlais Miliynau’r Bobl i ennill £50miliwn. Mae’n rhaid i’r bont 140 metr i gerdded aseiclo drosti dros Afon Elai oleddfu i ganiatáu igychod fynd drwodd. Mae’r bont a alwyd yn Bont yWerin gan grwp Gwerin y Coed Penarth yn gwneudi ffwrdd â gorfod mentro ar bont drafnidiaethberyglus Cogan Spur. Roedd yr hen lwybr yngwahardd seiclo a cherdded, er bod pobl yn eidefnyddio ar droed ac ar feic oherwydd bod angeniddynt groesi Afon Elai i gysylltu Penarth a gorllewinCaerdydd â’r Bae. Bydd Pont y Werin yn cysylltu â’rpentref chwaraeon newydd ac yn cael ei defnyddioyn aml. Mae’n brosiect drud a bydd angen mwy oarian y bydd angen i’r cynghorau lleol ei godi.

Meddai Gwyn Lewis o Gerddwyr Caerdydd,“Bydd y ddau ddatblygiad yn creu Llwybr CylcholBae Caerdydd a fydd yn llwyddiant ar unwaithgyda’n haelodau ac yn cael sylw rheolaidd yn einrhaglenni o Deithiau Cerdded Byr.”

Mae Llwybr Cylchol Bae Caerdydd yn parhau igael ei wella – gyda gwell hygyrchedd yn bwyntallweddol, ac mae wedi ei gysylltu’n weddol dda ganfysiau, trenau a hyd yn oed tacsi dwr. Dewch i roicynnig arno a sicrhau bod y cysylltiadau yn cael eucynnal. Mae cau’r bylchau yn rhoi hawl i nifwynhau’r llwybr ardderchog hwn; y gwaith cynnalgorau yw defnyddio’r cyfle.

LLWYBRAU >>>

Llwybr Cylchol Bae Caerdydd– Gwyliwch y Bwlch

Pobl yn cerdded ac yn seiclo i gefnogi Pont y Werin

Mynediad Arfordirol, a Help!gan Paul Brown

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn llwybr cylchol125 milltir o amgylch perimedr Ynys Môn. Mae’n

daith wych ond nid yw eto’n berffaith, helpwch ni i’wwella. Edrychir ar ôl y rhan fwyaf o Drwyn y Gader(Carmel Head), yng nghornel Ogledd Orllewinol yrynys gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’rllanw yn llifo heibio’r ynysoedd alltraeth lle gellir ynaml gael cipolwg ar y morloi a’r dolffiniaid. Dyma llegwelir y brain coesgoch a’r cigfrain, mae blodau gwylltyn addurno’r silffoedd lle mae’r gwylanod coesddu i’wgweld yn yr hydref sy’n sgrechian ac yn trwsio euhadenydd wrth roi sylw i’w cywion. Fe geir mynediadgyda’r addewid o statws Hawl Tramwy Cyhoeddus i’rrhan fwyaf o’r ardal hon ond mae llain o dir 400 metry mae gan ffermwr lleol gytundeb arno gyda’rYmddiriedolaeth Genedlaethol i’w gau ar gyfer saethu.Caeir y llwybr hwn o 15 Medi i 1 Chwefror a gredwnsy’n ormodol, oherwydd gall y dargyfeiriad sy’n deillioo hyn fod yn 7 cilometr. Bwriada’r Swyddog LlwybrauArfordirol ymgeisio am statws Hawl TramwyCyhoeddus ac mae wedi dweud wrthym fod arni angentystiolaeth o angen. Gall hyn fod ar ffurf llythyrau oddiwrth aelodau’r cyhoedd. Felly a fyddech cystal agysgrifennu i nodi yr hoffech allu cerdded yr arforlinhardd hwn fel hawl drwy gydol y flwyddyn? Gobeithioy gwelwn ni chi ar y llwybr ryw ddydd.

Ysgrifennwch at: Mr. A. Evans. Swyddog HawliauTramwy Cyhoeddus, Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni,Ynys Môn. LL77 7TW.

Prosiectau ‘cyswllt2’ yng NghymruNodwch fod deg o brosiectau “cyswllt2” yngNghymru, ac fe’u rhestrir isod – rhowch wybod i nisut mae Y Cerddwyr yn cyfrannu.

Cyswllt glanafon CaerfyrddinPont Clydach – Afon TawePenrhyn Gwyr – Penclawdd – CroftyMerthyr Tudful (Llwybr Tramiau Penydarren),Port Talbot – CwmafonCasnewydd - CaerllionTrefynwy – cysylltiadau lleolTyndern – Cymru i Loegr dros Afon GwyTrefforest – cysylltiadau’r BrifysgolRhyl, Pont wrth Harbwr y Foryd

Mae’r uchod i gyd yn brosiectau gweithredol ac yn rhano’r 79 ar draws y DU - cewch fwy o fanylion ar-lein yn:www.sustransconnect2.org.uk/schemes

Y giât sy’n atal mynediad ar hyd ochr y dociaui’r Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd

Cyfyngir mynediad i lwybr Trwyn y Gader gyda’rarwydd sy’n darllen: “TIR PREIFAT. Caniateirmynediad i’r darn yma o’r arfordir o Chwefror 1af iFedi 14sg yn unig. Gofynnir yn garedig i’r cyhoeddgadw i’r llwybr arfordir bob amser a chadw cwn ardennyn. Diolch yn fawr.”

Yr olgyfa o Fae Caerdydd o Lwybr y Dociau addylai fod ar agor yng ngwanwyn 2008

rambler_68_CYMRU_b 12/3/08 12:49 PM Page 4

Page 5: Welsh Rambler 68 - Cymraeg

Cynghorau Cymuned a Thref yn ymuno ag aelodau CerddwyrCymru am hyfforddiant yn ymwneud â Llwybrau ym Mhowys

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

TUDALEN 5

Y

Mae Cynghorau Cymuned wedi ymunogyda Chymdeithas y Cerddwyr yngnghanolbarth Cymru mewn ymdrech i

wella llwybrau yn y Sir. Daeth 46 o aelodauCerddwyr Cymru, gwirfoddolwyr achynrychiolwyr o’r cynghorau tref a chymunedlleol ym Mhowys ynghyd ddydd Sadwrn,

Rhagfyr 1af 2007 ym Mhlas Dolerw yn yDrenewydd, Powys i ddatblygu eu sgiliau iwarchod llwybrau ym Mhowys. Agorodd MickBates, AC, Cadeirydd ac aelod sylfaenol o’rPwyllgor Trawsbleidiol ar Gynaliadwyedd, yrAmgylchedd a Thai weithgareddau’r dydd acmeddai, “Mae’n destament gwych i’r gwaith a

wnaed gan Gymdeithas y Cerddwyr i gynnigdiwrnod hyfforddi fel hyn i sir fel Powys. Powyssydd â’r rhwydwaith fwyaf o hawliau tramwyyng Nghymru ac fel gweddill y wlad, maeganddi lawer o broblemau sydd angen eudatrys. Mae’n arbennig o dda gweld cymaint obartneriaethau newydd yn cael eu ffurfio ymagydag aelodau Cerddwyr Cymru, cynghorau trefa chymuned yn ymuno gyda’i gilydd i ymdrin âphroblemau sy’n ymwneud â’r llwybrau achyfleoedd ar y lefel leol.”

Cynllunnir gweithdai hyfforddiant pellach argyfer yn ddiweddarach eleni (gweler y dyddiadurdigwyddiadau ar dudalen 2) ac os yw llwyddianty digwyddiad diweddaraf hwn yn arwydd ounrhyw beth, dylech yn sicr archebu lle yngynnar.

Galwch Mike Mills ar 029 2064 4308 neu e-bostiwch [email protected] amwybodaeth am ddigwyddiadau yn y dyfodol.

Bydd gwaith gyda chynghorau cymuned athref yn parhau i ffurfio rhan bwysig o waithMike wrth iddo ddechrau ar ymgyrch newydd ynSir Gaerfyrddin yn nes ymlaen eleni.

Mike Mills (chwith) yn arwain gweithgareddau’r dydd wrth i 46 o aelodau Cerddwyr Cymru ymuno âChynghorau Tref a Chymuned mewn gweithdy yn ymwneud â llwybrau yn y Drenewydd, Powys.

Mick Bates AC ynagor digwyddiadau’rdydd ac yn derbyncopi cyfarch o‘Hawliau Tramwy,Canllaw i’r Ddeddfac Ymarfer’ oddiwrth SwyddogLlwybrau ArdalPowys, BobSeabrook.

Aelodau’r Cerddwyr o Geredigion yn derbyn eu tlwsoddi wrth Mike Mills fel enillwyr grwp teitl y cwishyfforddi tra roedd grwpiau eraill yn wylo’n agoredmewn siomedigaeth!

Y Ffordd Ymlaen gyda ChynghorauTref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin.

Blwyddyn Newydd… Ymgyrch Newydd!Mae prosiect newydd yn cael ei gynllunio argyfer y flwyddyn i ddod a fydd yn gweld YCerddwyr yn cyflwyno gwaith peilot gydachynghorau tref a chymuned yn SirGaerfyrddin i wella llwybrau. Gobeithiwnweithio gyda chynghorau tref a chymuned i’whelpu i gyflawni statws ‘Mae Croeso iGerddwyr’ mewn cymunedau detholedig.

Rydym yn awyddus i glywed oddi wrthwirfoddolwyr ac aelodau lleol a hoffai gymrydrhan yn y prosiect hwn.

Dull ‘Dim Nonsens’ Conwy

Mae dull ‘Dim Nonsens’ Cyngor Sir Conwy at orfodi ynglyn â chlirio rhwystrau ar hawliautramwy cyhoeddus yn dod â manteision mawr i gerddwyr wrth i’w Swyddog Gorfodi newydd,

Roger Hughes, fynd i’r afael â rhwystrau yn y Sir. Mae Roger wedi bod gyda’r Tîm Hawliau Tramwyam 18 mis ac yn fwy diweddar gyda chymorth Jason Clemence, maent gyda’i gilydd wedi datrys mwyna 250 o rwystrau.

Tan yn ddiweddar iawn, roedd Conwy wedi tanberfformio yn rheolaidd o ran cadw eu llwybrau aragor ac yn addas i’w defnyddio, gyda gwaith diweddar wrth baratoi eu cynllun gwella hawliautramwy yn dangos bod mwy na 80% o’u rhwydwaith llwybrau naill ai yn anodd neu yn amhosibl eu

defnyddio. Mae Cerddwyr Cymru wedi pwysleisio pa mor bwysigyw gwaith gorfodi yn gyson yn yr ymgyrch i ddod â llwybrau ifyny i’r safon. Mae defnydd effeithiol o swydd y SwyddogGorfodi wedi bod yn un o amcanion allweddol yr ymgyrch syddar y gweill ar hyn o bryd yn y Sir. Meddai Mike Mills, SwyddogHawliau Tramwy, “Rydw i’n canmol Roger a’r Tîm HawliauTramwy yng Nghonwy am gymryd y cam hwn ac ail-drefnu eublaenoriaethau a chaniatáu i’r swydd gorfodi hon gael ei chreu.Gyda mwy na 250 o rwystrau wedi eu clirio’n barod dros ymisoedd diwethaf, mae’n siarad cyfrolau am beth y gellir eigyflawni gydag ychydig o waith gorfodi proactif… byddawdurdodau lleol eraill bellach yn cymryd sylw o’r gwaith hwnyng Nghonwy.”

Mae gwirfoddolwyr Y Cerddwyr yng Nghonwy wedi bod ynpwyso am y math yma o weithredu ers blynyddoedd a gallgweithgor yr ymgyrch ymfalchïo yn ei rôl i helpu Conwy isymud ymlaen i warchod ei llwybrau.

CANOLBWYNTIO AR ORFODI

Swyddog Gorfodaeth Cyngor SirConwy, Roger Hughes

rambler_68_CYMRU_b 12/3/08 12:49 PM Page 5

Page 6: Welsh Rambler 68 - Cymraeg

Troeon gyda Thema – hwb oran cyhoeddusrwydd yn 2008Ayw eich grwp chi yn cynllunio ei raglen o deithiau cerdded am y

flwyddyn i ddod? Ydych chi wedi meddwl am gynnwys rhai troeongyda thema ar ddyddiadau allweddol a allai ein helpu ni i gynhyrchu

mwy o gyhoeddusrwydd a sylw yn y cyfryngau i Gymdeithas y Cerddwyr?Troeon gyda Thema yw’r ffordd orau sydd gennym o hyrwyddo

grwpiau i’r cyhoedd; maent yn ddiddorol, yn dda i bobl ac mae’r cyfryngauyn hoffi rhoi sylw iddynt. Drwy gydol 2008 mae’r calendr yn llawn oddyddiadau y gellir cynnal troeon gyda thema o’u hamgylch. Beth am droCofleidio Coeden (darganfod coed hynafol) ym mis Mehefin neucynlluniwch dro o amgylch y Diwrnod Afalau Cenedlaethol ym mis Hydref.Cofiwch am droeon y gwyliau y gallwch eu trefnu yn ogystal.

Rhowch wybod i ni am y troeon gyda thema yr ydych yn eu cynllunionaill ai drwy e-bost at [email protected] neu drwy lenwi’r ffurflena oedd yn cyd-fynd â chylchlythyr rhif 07/113.

Rydym yn dechrau ar brosiect newydd cyffrous a fydd yn disodliBlwyddlyfr cyfredol y Cerddwyr. Bydd cyfres o bump o ganllawiaunewydd i deithiau cerdded, a gyhoeddir dros y pum mlynedd nesaf, yn

canolbwyntio ar y llwybrau cerdded gorau y gall Cymdeithas y Cerddwyr eucynnig.

Rydym yn arbennig o awyddus i ardaloedd lleol chwarae eu rhan drwygyflwyno o leiaf un llwybr sydd wedi ei ddyfeisio gan wirfoddolwyr profiadol agweithredol. (Yn anffodus ni allwn gyhoeddi tro ar gyfer pob Grwp oherwyddnad oes digon o le, ond mae modd cynnwys un ar gyfer pob ardal).

Byddwn yn darparu rhestr fer o’r holl droeon a gyflwynir fel y gall pob Ardalystyried ar lefel leol pa dro y maent yn teimlo sy’n cynrychioli eu hardal oraua chyhoeddi hynny yn y rhifyn sydd ar fin ymddangos.

Y thema ar gyfer rhifyn 2009 yw Golygfeydd Gwych. Er mwyn dechrau’rbroses, rydym wedi creu ffurflen gais ar-lein syml ynwww.ramblers.org.uk/routes lle gallwch lwytho disgrifiad o’r llwybr adarganfod mwy am y prosiect. Os byddai’n well gennych ddefnyddio’r postcysylltwch â’r Tîm Cyhoeddiadau yn gyntaf ar 020 7339 8527 i gael manylionam beth sydd angen ei gynnwys.

Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno gwybodaeth yw 30 Mehefin 2008.

Llyfr Aelodau Newydd

Gweithdai CyhoeddusrwyddRydym yn cynnal cyfres o weithdai Cyhoeddusrwydd a Recriwtio yn

2008. Mae’r rhain yn agored i unrhyw wirfoddolwyr sy’n cynnalgweithgareddau cyhoeddusrwydd a recriwtio ar gyfer eu grwp. Mae’n gyflegwych i wella eich sgiliau cyhoeddusrwydd, rhannu gwybodaeth gydagrwpiau eraill a mynd â rhai syniadau i ffwrdd gyda chi. Rhowch wybod osbyddai gennych ddiddordeb mewn mynychu gweithdy yng Nghymru.

Bryste: 12 Mai 2008 The Create CentreBirmingham: 4 Mehefin 2008 Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol

BirminghamLlundain: 14 Mehefin 2008 Swyddog Ganolog y CerddwyrCaer Efrog: 24 Mehefin 2008 Canolfan Gynadledda Priory Street

GWANWYN 2008

TUDALEN 6

Y

HYRWYDDO CERDDED >>>

Galwch 01778 392084 gyda’ch cerdyn credyd wrthlaw i gael y pedwar rhifyn nesaf am £12.95 neuanfonwch siec gyda’ch enw a’ch cyfeiriad at:

Cylchgrawn Cerdded Cymru,Warners Subscription Services,FREEPOST PE211, Bourne, Lincs PE10 9BR. (nid oes angen stamp)

TANYSGRIFIWCH YN AWRCerdded Cymru yw’r unig gylchgrawn yng Nghymru sydd wedi ei

neilltuo yn gyfan gwbl i gerdded yng Nghymru. Mae’n llawn o erthyglau

diddorol a ffotograffau gwych. Fe’i cyhoeddir yn chwarterol ac mae’n

cynnwys newyddion, tudalennau o lythyrau bywiog, erthyglau nodwedd

gan Chris Barber MBE a Roger

Redfern, ffotograff o wylfan,

adolygiadau, erthyglau ar hanes

naturiol a’r amgylchedd, adolygiadau

llyfrau, materion cefn gwlad,

tudalen Y Cerddwyr a phroffil

personoliaeth. Mae pob rhifyn

hefyd yn cynnwys atodiad am

deithiau cerdded i chi ei dynnu

allan i’w defnyddio a’u casglu.

Cymerwch danysgrifiad yn

awr i gadw mewn

cysylltiad â’r cyfan sy’n

digwydd i gerddwyr yng

Nghymru!

Dydd Ewch i Gerdded/Get Walking DayMae Cymdeithas y Cerddwyr yn cynnal Diwrnod Ymwybyddiaeth newydd sbon eleni –y Dydd Ewch i Gerdded ar 30 Mai i gymryd lle’r Wythnos Croeso i Gerdded agynhaliwyd ym mis Medi bob blwyddyn. Cynhelir hwn eleni ar 30 Mai i dynnu sylw atyr uchafswm o 30 munud o weithgaredd corfforol o leiaf 5 gwaith yr wythnos aargymhellir gan yr Adran Iechyd. Mae’r Dydd Ewch i Gerdded yn anelu at godiymwybyddiaeth ymysg pobl o bob cefndir, oed a gallu am fanteision cerdded.

Fel y bydd aelodau Cymdeithas y Cerddwyr yn gwybod, mae cerdded yn rheolaidd nidyn unig yn helpu i ymladd yn erbyn gordewdra ond gall warchod unigolion hefyd rhagclefyd y galon a strôc, pwysedd gwaed uchel, osteoarthritis, iselder a chanser y colon.

Fel rhan o’r Dydd Ewch i Gerdded, bydd pecynnau gwybodaeth am ddim gangynnwys canllaw DIY i helpu pobl i ddechrau cynnwys cerdded yn rheolaidd o fewn eubywydau ar gael i’w lawrlwytho o www.getwalking.org.uk

Efallai eich bod chi yn adnabod rhywun – ffrind, perthynas, cymydog neugydweithiwr efallai a allai elwa o gerdded mwy. Os felly, beth am grybwyll y Dydd Ewchi Gerdded a’r pecyn cerdded DIY am ddim?

Cynhelir y Dydd Ewch i Gerdded ar 30 Mai2008 – felly lledaenwch y neges!

I gael mwy o wybodaeth am y pynciau ar ytudalennau hyn cysylltwch ag

Anwen Parker ar 029 2064 4308 neu e-bostiwch [email protected]

rambler_68_CYMRU_b 12/3/08 12:49 PM Page 6

Page 7: Welsh Rambler 68 - Cymraeg

Dechreuwch y tro hawdd 3 milltir hwnym maes parcio’r Eglwys Gadeiriol, TyDdewi (tâl rhesymol) SM 749253. I gael

gwybodaeth am gludiant cyhoedduscysylltwch â Traveline ar 0870 6082608,www.traveline-cymru.org.uk.

1. O’r maes parcio dychwelwch i’r ffordd a throwch i’r DDE, gan fynd heibio’r EglwysGadeiriol ar eich chwith. Ewch i lawr Goat Street hyd nes y cyrhaeddwch Stephen’sLane ar y dde. Cerddwch i lawr Stephen’s Lane a throwch i’r CHWITH ar y pen.Cymerwch y tro cyntaf i’r DDE wrth arwydd Bryn y Garn ac ewch ymlaen i’r pen.Trowch i’r DDE i gerdded ar hyd trac am bellter byr yna trowch i’r CHWITH ar hydllwybr wedi ei arwyddo ar gyfer St Nons.

2. Croeswch gamfa ac ewch ymlaen gydag ymyl cae ar eich chwith. Trowch i’r DDEwrth gornel y cae, yna yn fuan trowch i’r CHWITH drwy fwlch a cherdded gydagymyl y cae ar eich chwith i gyrraedd camfa. Croeswch hi, trowch i’r DDE achroeswch gamfa arall (mae ffens drydan ar y cae hwn weithiau – byddwch ynofalus), yna trwoch i’r CHWITH dros y gamfa nesaf. Ewch YMLAEN i groesi camfaac yna dilynwch y llwybr wrth iddo fynd i lawr ac igam ogamu i gyfarfod y llwybrarfordirol.

3. Trowch i’r DDE a chymerwch ochr llaw chwith dau lwybr i fynd heibio St Non’sRetreat a New Chapel of Our Lady & St Non. Adeiladwyd y capel hwn ym 1934.Ewch drwy giât i gyrraedd ffynnon y Santes Non.Dyma un o ffynhonnau mwyaf cysegredig Cymru.Ewch drwy giât mochyn i gyrraedd gweddillion Capely Santes Non. Y Santes Non oedd mam Dewi Sant.Ewch YMLAEN ar y llwybr glaswelltog, croeswchgamfa ac ymunwch â Llwybr Cenedlaethol ArfordirSir Benfro. Trowch i’r DDE. Yn awr ewch ymlaen ar

hyd y llwybr arfordirol i fynd heibio Porth Ffynnon cyn cyrraedd Porth Clais, a oeddar un adeg yn brif borthladd i Dy Ddewi. Rydych yn pasio uwchlaw morglawdd yrharbwr a maes o law mae’r llwybr yn ymrannu. Ewch i’r CHWITH i gyrraedd yrodynnau calch, y toiledau a chiosg te defnyddiol iawn yn yr haf.

4. Yn awr, gyda’r môr ar eich ochr dde, ewch heibio’r giatiau pren a chymerwch yllwybr wedi ei arwyddo sy’n gadael y ffordd ac yn dringo. Ewch drwy giât i groesicae sydd hefyd yn safle gwersylla. Trowch i’r CHWITH ychydig cyn y ty, ac ynatrowch i’r DDE drwy giât i ddilyn llwybr gyda ffens ar ei hyd. Ewch drwy bedair giâtarall, ac yna mae’r llwybr yn mynd i’r dde i gyrraedd ffordd.

5. Croeswch y ffordd ac ewch ar hyd y trac gyferbyn am ryw 15 llath, yna trowch i’rCHWITH. Pam gyrhaeddwch Mitre Lane ewch YMLAEN. Yna byddwch yn ymunoâ’r llwybr a gymeroch chi i ddechrau ble byddwch yn troi i’r CHWITH i ddychwelydi’r maes parcio. Ond mae tafarn y Farmer’s Arms yn werth ymweld â hi, ac oscerddwch i lawr y llwybr yn ei hymyl byddwch yn cyrraedd yr Eglwys Gadeiriol aPhlas yr Esgob.

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

TUDALEN 7

Y

HYRWYDDO CERDDED >>>

Ty Ddewi ac Arfordir Sir Benfro

Porth Clais

Ffynnon Santes Non

Cyfeiriwch at fap AO AnquetOL35 neu Landranger taflen 157

Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi

rambler_68_CYMRU_b 12/3/08 12:49 PM Page 7

Page 8: Welsh Rambler 68 - Cymraeg

GWANWYN 2008

TUDALEN 8

Y

LLYFRAU >>>

The Book Of The BivvyGan Ronald TurnbullAdolygwyd gan Richard JonesLlyfr bach iawn am bopeth sydd angen i chi wybodam fagiau ‘bivvy’ a ‘bivouacs’ – wedi eu cynllunio aheb eu cynllunio. Mae’r llyfr hwn a werthir i’rdarllenydd fel “y gorau o nosweithiau… a’rgwaethaf o nosweithiau” yn ymdrin â llawer obynciau mewn dull diddan ond llawn gwybodaeth.Mae’r awdur, sy’n adrodd ei brofiadau personol amnosweithiau mewn ‘bivvybag’ yn adrodd chwedlaudiddan hefyd am ‘bivouacs’ ar yr Eiger a’rAnnapurna. Mae’r llyfr hefyd yn llawn oawgrymiadau defnyddiol ynglyn â dewis a defnyddio‘bivvybag’, tra’n annog teithio’n ysgafn. Ni elliddisgrifio hwn fel llyfr taith rhesymegol. Gall hyd ynoed beri i chi deimlo’n rhwystredig os mai’r cyfansydd arnoch ei eisiau yw ffeithiau a chyngor syml,ond o glawr i glawr y mae’n cynnig darllen cofiadwy.Cyhoeddwyd gan Cicerone, 2007, £9.99

Mountain weather: Apractical guide forhillwalkers and climbersGan David PedgleyAdolygwyd gan Richard JonesCanllaw defnyddiol, yn arbennig iarweinwyr grwp a’r rhai hynny sy’n mentroi’r mynyddoedd. Rhennir y llyfr yn dairadran. Mae’r gyntaf yn edrych yn fyr iawnar ffynonellau rhagolygon y tywydd yn yDU. Mae’r ail adran yn helpu’r darllenydd iddeall patrymau prin drwy ddadansoddimapiau tywydd. Mae adran 3 yn edrych ynbenodol ar dywydd y mynydd - ar y copaonac yn y dyffrynnoedd. Roeddwn i yn canfodfy hun yn neidio drwy’r llyfr i’r adran olafhon, sy’n sicr yn ddefnyddiol iawn igerddwyr ac i grwydrwyr. Gall y canllawhwn ynghyd â’ch profiad personol chi eichhun eich helpu i nodi a deall y tywydd sy’nbosibl yn y mynyddoedd yn seiliedig aramodau yn yr iseldir a rhagolygon tywyddcyffredinol.Cyhoeddwyd gan Cicerone, 2006, £12

Navigation Techniques andSkills for WalkersGan Pete HawkinsAdolygwyd gan Beverley PenneyBwriad y llyfr hwn yw datblygu gwybodaetha hyder mewn darllen mapiau. Mae’n llyfrbach wedi ei gyflwyno’n dda gyda llawer oddarluniau. Mae ymarferion wrth i chi fynddrwy’r adrannau yn helpu i gadarnhaugwybodaeth. Bydd hwn yn llyfr defnyddiol acymarferol i gerddwyr.Cyhoeddwyd gan Cicerone 2007

All Around AngleseyYsgrifennwyd a darluniwyd ganTerry BeggsAdolygwyd gan Colin Yarwood, Ynys MonMae hwn yn llyfr hardd. Mae’r ffotograffau ynunig yn ddigon i’ch ysbrydoli i roi cynnig argerdded y llwybr arfordirol. Mae’r disgrifiadau o’r llwybr yn gywir, gan roiun neu ddau o ddewisiadau i chi mewn llawer oachosion yn dibynnu ar y llanw a hoffteraupersonol. Caiff pytiau o hanes diddorol eucynnwys hefyd.Mae’r 125 milltir wedi eu rhannu yn ddeuddegadran a’r ffordd orau i ddefnyddio’r llyfr fyddaidarllen pennod ac yna cerdded yr adran o’r llwybra ddisgrifir.Mae’r llyfr yn gyffredinol yn werth da am arian am £19.99.Cyhoeddwyd gan Gwasg Gomer

Y Llyfr Enwau, Enwau’r Wlad – Achecklist of Welsh Place-namesGan D.Geraint LewisAdolygwyd gan Celia Wyn ParriOs ydych chi erioed wedi meddwl beth ydy ystyr lleCymraeg, bydd y llyfr hwn yn apelio i chi. Mae’r awdurwedi casglu’r gwaith a wnaed dros y blynyddoedd ganbobl sydd â diddordeb mewn enwau lleoeddac wedi llunio esboniadau i filoedd o enwaulleoedd o Wynedd i Went. Mae’r mapiau, ymynegai a’r cyflwyniad dwyieithog yngwneud hwn yn llyfr hawdd i’w ddefnyddio.Cyhoeddwyd gan Gwasg Gomer, 2007, £17.99

Yn ein rhifyn diwethaf cynhwyswyd holiadurbyr. Llawer o ddiolch i bawb ohonoch agymerodd drafferth i ymateb ac i wneudawgrymiadau adeiladol. Cawsom einrhyfeddu gyda nifer yr atebion agobeithiwn gynnwys cymaint owelliannau â phosibl. Mae’n ymddangosfod newyddion am grwpiau adigwyddiadau yn cael derbyniad da. Dyma raiawgrymiadau: gwybodaeth am deithiau cerddedbyrrach/hawdd, troeon i gwn a’u perchnogion, nodweddionarbennig e.e. natur ysbrydol cerdded, storïau llwyddiant yngl ynâ gwella llwybrau a thro manwl ar gyfer pob rhifyn. Mae llawerohonoch yn rhannu eich copïau o Y Cerddwr/Welsh Rambler ac yn lledaenu’rgair ac mae hynny’n galonogol.

Holiadur Cerddwyr Cymru

rambler_68_CYMRU_b 12/3/08 12:49 PM Page 8