132

Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

  • Upload
    dangdan

  • View
    233

  • Download
    3

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr
Page 2: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 3 (GORCHMYNION)

1. Defnyddiwch ymadroddion o’r bocsys i greu gorchmynion ar gyfer Amser Tacluso.

2

Rhowch y

pensil(iau)

pensil(iau) lliw

creon(au)

papur(au)

llyfr(au)

pin(nau) ffelt

naddwr/naddwyr

rwber(i)

glud

siswrn/sisyrnau

brws(ys) paent

pren(nau) mesur

cerdyn/cardiau

gêm (gemau)

tegan(au)

jig-sô(s)

gwaith

yn y

ar y

wrth/ar bwys y

ar ben y

(o) dan y

tu ôl i’r

o flaen y

yng nghanol y

mewn pentwr ar y

bwrdd/ford

gadair

silff

cwpwrdd

ddesg

llawr

sinc

drôr/drâr

wal

drws

ffenest

fasged

bocs

bin

os gwelwch yn dda.

Page 3: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 3 (GORCHMYNION)

2. Gorffennwch y gorchmynion hyn a defnyddiwch nhw ar iard eich ysgol chi.

Mae’r gloch wedi canu!

1. Casglwch …………………………………………………………………………

2. Rhowch ………………………………………………………………………….

3. Dewch ……………………………………………………………………. nawr!

4. Gwnewch linell …………………………………………………………………

5. Sefwch mewn …………………………………………………………………….

6. Dim siarad ……………………………………………………………………….

7. Dilynwch ………………………………………………………………………….

8. Cerddwch i mewn ……………………………………………………………..

3

yn dawel

y teganau

llinell daclus

y beiciau

os gwelwch yn dda

i mewn yn y sied

i gadwy cylchoedd yn y bocsys

yn glou/yn gyflym

i’r llinell y peli heb siarady rhaffau sgipio

tu ôl i Sara wrth y drws llinell syth fi

heb siarad y batiau Gareth

Page 4: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 5 (DIDDORDEBAU, MEDDIANT A DERBYN)

Cyfieithwch.

1. I have a lovely salad in the fridge.

2. We’re having a lovely salad for supper tonight.

3. Are you (sing.) having new clothes for the wedding?

4. Have you (sing.) got new clothes for the wedding?

5. She’s having two new computers for the classroom.

6. She has two new computers in the classroom.

7. I’ll have twenty children in my class next year.

8. I’ll be having four new children in my class next year.

9. She had too much work to go out.

10. Have you (pl.) had permission to go on holiday?

4

Page 5: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 6 (EISIAU)

1. Dyma’r atebion. Fedrwch chi ysgrifennu’r cwestiynau?

1. Rydw i eisiau grawnwin gwyrdd.

2. Roedd Tudur eisiau pysgod a sglodion.

3. Mae’r gath eisiau llaeth.

4. Bydd hi eisiau cwpaned o de.

5. Rydyn ni eisiau hufen iâ fanila.

6. Bydda i eisiau brechdan gaws a salad.

7. Roedden nhw eisiau ffa pob ar dost.

8. Mae e eisiau cinio cyw iâr a sudd oren.

9. Roedden ni eisiau coffi cryf a bisgedi.

10. Maen nhw eisiau siocled poeth.

5

Page 6: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 6 (EISIAU)

2. Cysylltwch y ddau hanner i wneud cymaint o frawddegau â phosib. Yna darllenwch nhw yn uchel.

Rydw i eisiau i ti groesi’r ffordd yn ofalus.

Mae’r pennaeth eisiau i’r dosbarth hwn liwio’r llun yn daclus.

Roeddwn i eisiau i chi flasu ei rysáit newydd.

Bydd y fenyw lolipop eisiau i bawb ddysgu geiriau’r gân.

Mae’r gofalwr eisiau i’r bechgyn olchi dy ddwylo.

Bydda i eisiau i blant Blwyddyn 3 gymryd rhan yn y sioe Nadolig.

Roedd Mr Thomas eisiau i chi dynnu eu hesgidiau rygbi tu allan i’r drws.

Mae’r gogyddes eisiau i bawb redeg yn y ras draws gwlad.

Roeddwn i eisiau i ti ddod i’r neuadd amser cinio.

Rydyn ni eisiau i bawb ofalu am y pysgod aur.

Geirfayn uchel - aloudgofalwr - caretakercogyddes - cook (fem.)rysáit - recipe

Nawr, meddyliwch am frawddegau y gallwch chi ddefnyddio gyda’ch dosbarth chi e.e.Rydw i eisiau i chi wneud grwpiau o dri.Rydw i eisiau i chi ddewis lliw.Rydw i eisiau i bawb weithio gyda phartner.

6

Page 7: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 7 (DYDDIADAU)

Ysgrifennwch y dyddiadau yma mewn geiriau.

1. 23/03/1949

2. 28/05/2013

3. 20/08/1289

4. 01/01/2001

5. 17/07/1989

6. 12/02/1902

7. 15/12/1851

8. 18/11/1763

9. 19/4/2020

10. 11/06/1999

7

Page 8: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 9 (Y DYFODOL)

1. Chi ydy athro/athrawes Blwyddyn 5. Mae hi’n fore dydd Llun. Eglurwch weithgareddau’r wythnos wrth eich cynorthwyydd dysgu.

Wythnos: Mai 15fed-19eg

Dydd LlunBore: Gwasanaeth ysgol, gwersi Cymraeg a mathemategPrynhawn: Gwers nofio, darllen grŵp

Dydd MawrthBore: Gwasanaeth ysgol, gwersi Saesneg a mathemategPrynhawn: Gwersi gwyddoniaeth a hanes

Dydd MercherBore: Mr Jones (sesiwn tyfu llysiau), gwersi Cymraeg a mathemategPrynhawn: Prawf sillafu Saesneg, addysg gorfforol – rownderi neu gymnasteg

Dydd IauBore: Gwersi Saesneg a mathemateg, darllen grŵpPrynhawn: Addysg grefyddol, cyfrifiaduron, gwaith prosiect unigol

Dydd GwenerBore: Gwasanaeth ysgol, gwersi mathemateg (prawf efallai) a SaesnegPrynhawn: Chwaraeon yn Ysgol y Mynydd. Bechgyn – criced, merched – tennis

Cofiwch ddefnyddio ffurfiau’r amser dyfodol: Bydda i, byddi di, bydd e/hi, byddwn ni, byddwch chi, byddan nhw.

Ymestynnwch eich brawddegau drwy ddweud wrth eich cynorthwyydd gyda phwy bydd e’n/hi’n gweithio, a ble.

8

Page 9: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 9 (Y DYFODOL)

2. Rydych chi newydd ddangos cynllun yr wythnos i’ch disgyblion ac maen nhw wedi gofyn nifer o gwestiynau. Ydych chi’n gallu meddwl am atebion posibl?

1. Ble bydd y wers nofio?

2. Sut byddwn ni’n mynd yno?

3. Faint o wersi byddwn ni’n cael?

4. Beth fydd enw prosiect y tymor yma?

5. Am faint o’r gloch bydd Mr Jones yn cyrraedd?

6. Am beth fydd Mr Jones yn siarad?

7. Pa grwpiau fydd yn gwneud gymnasteg?

8. Pryd bydd y bechgyn yn chwarae criced?

9. Pwy fydd yn dod gyda ni i Ysgol y Mynydd?

10. Fyddwch chi’n dod ar y bws hefyd?

9

Page 10: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 9 (Y DYFODOL)

3. Darllenwch am gynlluniau Gwawr a’i ffrindiau ar gyfer gwyliau’r haf.

Ar ddechrau’r gwyliau ysgol, bydda i’n mynd i Gaerdydd gyda fy ffrindiau.

Byddwn ni’n mynd ar y trên achos mae parcio yng Nghaerdydd yn hunllef!

Byddwn ni’n siopa ac wedyn yn cael bwyd bendigedig mewn tŷ bwyta Eidalaidd

cyn dod adre.

Ym mis Awst, bydda i’n mynd i’r Eisteddfod gyda fy ngŵr a Cadi’r ci a byddwn ni’n aros yno mewn carafán. Bydd hi’n wythnos gyffrous achos byddwn ni’n

cwrdd â llawer o ffrindiau yno.

Wedyn, byddwn ni’n mynd i Sir Benfro ac yn cael gwyliau ar lan y môr. Bydda i wrth fy modd yn cerdded ar y traeth yn gynnar bob bore gyda Cadi, ac yna’n

ymlacio gyda llyfr da!

Nawr, trowch y paragraff i’r trydydd person.Bydd Gwawr yn … Bydd hi’n … Byddan nhw’n …

Beth amdanoch chi? Beth fyddwch chi’n wneud dros yr haf? Ysgrifennwch ddarn byr i’w ddefnyddio gyda’ch dosbarth.Bydda i’n … Byddwn ni’n …

10

Page 11: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 9 (Y DYFODOL)

4. Ymarfer holi ac ateb am gynlluniau yn y dyfodol

Gofynnwch y cwestiynau yma i bartner.

1. Ble byddi di’n mynd?

2. Gyda phwy fyddi di’n mynd?

3. Pryd byddi di’n mynd?

4. Sut byddi di’n mynd?

5. Pam fyddi di’n mynd?

6. Beth fyddi di’n wneud/weld yno?

7. Pa fath o fwydydd/adeiladau/atyniadau fydd yno?

8. Beth fyddi di’n fwyta/yfed?

9. Sut bydd y tywydd?

10. Fyddi di’n ………?

Geirfaadeiladau - buildingsatyniadau - attractions

Bydda i’n … Bydd … Bydda, bydda i’n … / Na fydda, fydda i ddim yn …

Cofiwch ymarfer y ffurfiau lluosog hefyd:Ble byddwch chi’n mynd? Pwy fydd gyda chi? Fyddwch chi’n …? Byddwn ni’n … Bydd … Byddwn, byddwn ni’n … / Na fyddwn, fyddwn ni ddim yn …

11

Page 12: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 9 (Y DYFODOL)

5. Darllenwch y darn yma i’ch partner.

Ddoe, es i i gyfweliad yn Ysgol y Cwm. Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi

dillad achos roeddwn i’n nerfus iawn. Gofynnodd y panel nifer o gwestiynau i fi.

Roedden nhw’n ddigon neis ond doeddwn i ddim yn gallu ymlacio o gwbl. Yr aros

ar y diwedd i glywed pwy gafodd y swydd oedd un o’r pethau gwaethaf. Erbyn

amser te, roedd y cyfan drosodd ac roeddwn i’n gallu ymlacio a mwynhau

gwydraid o win yn y dafarn.

Yna, trowch y darn i’r dyfodol. Dechreuwch fel hyn:

Fory, ...

12

Page 13: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 12 (YR AMSER)

Ysgrifennwch yr amserau mewn geiriau.

1. am 10.30

2. tua 3.00

3. cyn 4.45

4. am 11.40

5. tua 2.00

6. cyn 9.35

7. tua 2.55

8. am 4.25

9. cyn 10.00

10. am 7.05

13

Page 14: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)

1. Atebwch y cwestiynau canlynol yn y cadarnhaol (affirmative).

1. Ddest ti i’r ysgol ar y bws y bore ’ma Lowri?

2. Gollaist ti dy gap coch ddoe, Gruff?

3. Wnest ti dy waith cartref i gyd, Ben?

4. Adawaist ti dy fag yn yr ysgol neithiwr, Sali?

5. Gofiaist ti ddod â brechdanau heddiw, Mari?

6. Welaist ti Miss Davies yn y swyddfa, Jac?

7. Ddarllenaist ti dy lyfr darllen neithiwr, Beca?

8. Fwytaist ti dy ginio heddiw, Elin?

9. Yfaist ti dy laeth i gyd, Elis?

10. Feddyliaist ti cyn rhoi’r ateb, Dewi?

14

Page 15: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)

2. Dyma hanes gwyliau Tom. Darllenwch y darn yn ofalus.

Wel, dyna wyliau hanner tymor bendigedig! Aethon ni am wyliau bach i lan y

môr. Arhoson ni mewn fflat gysurus iawn yn Ninbych-y-pysgod. Roedd y fflat

bron ar y traeth! Codon ni’n gynnar bob bore er mwyn cael chwarae gyda’r ci ar

y tywod a chawson ni lawer o hwyl. Er bod y tywydd yn braf, roedd y môr yn oer

ac felly nofion ni ddim.

Ymwelon ni â sawl lle diddorol yn yr ardal. Gwelon ni Gastell Penfro a dringon ni i ben y tŵr. Aethon ni i Dyddewi ac i’r eglwys gadeiriol. Yna, cerddon ni ar

hyd yr arfordir i weld capel Non. Teithion ni i Ynys Bŷr mewn cwch modur bach

glas a bwyton ni hufen iâ melys yng nghaffi’r mynachod.

Daethon ni adre nos Wener yn flinedig ond wedi ymlacio’n llwyr. Gwyliau gwych!

Nawr, ailysgrifennwch y darn gan ddefnyddio berfau yn y person cyntaf unigol, e.e. es i …, gwelais i …

Beth am ddefnyddio’r darnau gyda dysgwyr Cyfnod Allweddol 2 (KS2)? Gallech chi ddefnyddio’r darnau:

fel darnau i ymarfer darllen yn uchel fel darnau darllen a deall fel darnau i’w dysgu a pherfformio yn null Pie Corbett fel model ar gyfer tasg ysgrifennu.

15

Page 16: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)

3. Atebwch y cwestiynau yn y negyddol (negative).

1. Gest ti hufen iâ mefus?

2. Welaist ti dân gwyllt nos Sadwrn?

3. Fwytaist ti gyri neithiwr?

4. Redaist ti yn y ras fawr eleni?

5. Glywaist ti am y sioe Nadolig?

6. Ddarllenaist ti stori i’r dosbarth Meithrin?

7. Dalaist ti am y tocyn raffl?

8. Brynaist ti lyfr yn y ffair lyfrau?

9. Yrraist ti i’r ysgol y bore ’ma?

10. Wisgaist ti wisg ffansi dydd Gwener diwetha?

16

Page 17: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)

4. Trowch y brawddegau yma i’r amser gorffennol.

1. Tyfiff y llysiau yng ngardd yr ysgol yn dda.

2. Caiff y llysiau ddigon o fwyd a dŵr gan y plant.

3. Dilynan nhw’r cyngor hwn yn ofalus.

4. Llwyddan nhw i dyfu llysiau da.

5. Cewch chi lwyddiant a siom wrth arddio.

6. Bwytiff y plant lysiau ffres o’r ardd heb ffys.

7. Gwelwch chi fod gan y plant fwy o ddiddordeb yn yr ardd ar ôl iddyn nhw

flasu’r llysiau.

8. Talwn ni gostau’r ardd drwy werthu’r llysiau yn y siop.

9. Gwerthiff y llysiau’n dda yn siop yr ysgol.

10. Pryna i lysiau yn y siop bob wythnos.

17

Page 18: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 18 (WEDI ac WEDI BOD)

1. Beth mae pawb wedi bod yn ei wneud? Dewiswch eitem o bob colofn ac ysgrifennwch frawddegau.

Aled darllen nofel yn yr archfarchnad

Siôn tynnu lluniau yn y caffi

Non gweithio ar y trên

Lowri yfed coffi yn y parc

Owain gwerthu cacennau yn nhŷ ffrind

Henri sgwrsio yn y ffair haf

Beca cael picnic yn y dosbarth nos

Haf gwneud bisgedi ar bwys yr afon

Dilynwch y patrwm yma:

Mae Dafydd wedi bod yn gwylio drama yn y theatr.

1.________________________________________________________________

2________________________________________________________________

3.________________________________________________________________

4.________________________________________________________________

5.________________________________________________________________

6.________________________________________________________________

7.________________________________________________________________

8.________________________________________________________________

18

Page 19: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 18 (WEDI ac WEDI BOD)

2. Beth mae pawb wedi ei wneud heddiw? Darllenwch y manylion ac yna atebwch y cwestiynau. Defnyddiwch ragenwau yn lle enwau os gallwch chi, e.e. Maen nhw yn lle Mae Ann a Megan.

Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod prysur iawn. Y peth cyntaf y bore yma, aeth

plant Blwyddyn 6 i nofio. Ar ôl amser chwarae, roedd rhaid i Marc a Steffan

wneud mathemateg ac roedd rhaid i Ann a Megan wylio ffilm am ddiogelwch ar y

ffordd ar y teledu. Amser cinio, roedd Sara yn brysur yn garddio ac roedd Sioned

yn ymarfer canu’r piano ar gyfer y cyngerdd wythnos nesa. Ar ôl mynd adre o’r

ysgol, roedd rhaid i Llew baratoi cyri i swper tra oeddwn i yn fy ngwers jiwdo.

1. Beth rydw i wedi ei wneud heddiw?

2. Beth mae Ann a Megan wedi bod yn ei wneud?

3. Beth mae plant Blwyddyn 6 wedi ei wneud?

4. Beth mae Sioned wedi ei wneud?

5. Beth mae Marc a Steffan wedi bod yn ei wneud?

6. Beth mae Sara wedi bod yn ei wneud?

7. Beth mae Llew wedi bod yn ei wneud?

Beth rydych chi wedi bod yn ei wneud heddiw? Gwnewch restr.

19

Page 20: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 20 (GOFYN CWESTIYNAU)

1. Atebwch y cwestiynau canlynol am eich ystafell ddosbarth.

1. Oes ystafell ddosbarth fawr gyda ti?

2. Pa liw ydy’r drws?

3. Beth sy ar y drws?

4. Ydy’r ystafell yn olau?

5. Pa siâp ydy’r ystafell?

6. Ble mae’r bwrdd gwyn rhyngweithiol?

7. Pa blant sy yn dy ddosbarth?

8. Oes piano yn yr ystafell?

9. Pa mor fawr ydy’r ffenestri?

10. Pa fath o fyrddau sy gyda ti?

11. Oes ffôn yn dy ystafell ddosbarth?

12. Ble mae’r cornel darllen?

13. Pwy sy’n eistedd yng nghefn yr ystafell?

14. Pa mor lliwgar ydy’r ystafell?

15. Wyt ti’n hapus gyda’r ystafell ddosbarth? Pam?

20

Page 21: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 20 (GOFYN CWESTIYNAU)

2. Rydyn ni’n defnyddio llawer o gwestiynau yn ein dosbarthiadau bob dydd. Darllenwch yr enghreifftiau hyn a meddyliwch am ragor.

Ble mae ...?

dy got dy fag dy focs cinio

dy waith cartref dy lyfr Saesneg dy siwmper

eich llyfrau prosiect

Beth sy yn ...?

dy law dy lyfr

dy boced dy ddrôr

Ble mae’r ...?

prennau

mesurllyfrau mathemateg

brwsys paent pensiliau lliw

Wyt ti’n ...?/ Ydych chi’n ...?

barod deall gwrando

cytuno meddwl siarad

21

Page 22: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

Pa fath o ddyn/fenyw oedd ...?

Harri’r wythfed Caradog Dewi Sant

Owain Glyndŵr Gwenllian Ann Frank

Sut le oedd ...?

Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Cymru yn Oes y Celtiaid

Ble roedd ...?

y castell

y frwydr (the battle)

y pentref

22

Page 23: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 20 (GOFYN CWESTIYNAU)

3. Atebwch y cwestiynau yma.

1. Wyt ti’n gwybod beth ydy enw fy mrawd i?

2. Oedd annwyd arnat ti dydd Llun diwetha?

3. Weloch chi ysgol newydd y pentref?

4. Wnei di ofalu am Flwyddyn Pump fory?

5. Oes rhaid i fi wneud y gwaith yma heno?

6. Est ti i weld dy deulu di ddoe?

7. Faint gostiodd dy got di?

8. Bryni di losin drosto i?

9. Glywoch chi am y lleidr dorrodd i mewn i fy nhŷ i?

10. Pryd rwyt ti’n bwriadu fy nhalu i?

23

Page 24: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 21 (DARLLEN A THRAFOD LLYFR)

1. Mae’r dosbarth wedi bod yn darllen casgliad o gerddi e.e. Sgram! (Atebol). Darllenwch y sgwrs a llenwch y bylchau.

Athro: Ydych chi wedi mwynhau’r llyfr, blant?

Plant: Ydyn, syr. Rydyn ni wedi mwynhau’r llyfr yn fawr iawn.

Athro: Meddyliwch am eich hoff gerdd. Sam, p’un ydy dy hoff gerdd di?

Sam: Fy hoff gerdd i ydy __________ gan __________ achos mae’n ddiddorol.

Athro: Jac, wyt ti’n cytuno gyda Sam?

Jac: Ydw, syr. Rydw i’n dwlu ar __________ hefyd.

Athro: Pam?

Jac: Achos rydw i’n hoffi darllen y geiriau sy’n odli.

Athro: Beth amdanat ti, Lowri?

Lowri: Dw i ddim yn cytuno gyda’r bechgyn. Yn fy marn i, mae __________ yn rhy

araf. __________ ydy fy hoff gerdd i.

Athro: Pam, Lowri?

Lowri: Achos fy wncwl i ydy’r bardd!

24

Page 25: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 21 (DARLLEN A THRAFOD LLYFR)

2. Darllenwch hwiangerdd neu gerdd gyda’ch dosbarth. Yna, trafodwch y gerdd.

Beth ydy teitl y gerdd? Teitl y gerdd ydy _____________________________.

Beth ydy enw’r bardd? _______________ ydy enw’r bardd./Enw’r bardd ydy

______________.

Ydy’r gerdd yn hir neu yn fyr? Mae’r gerdd yn _____.

Oes odl yn y gerdd? Oes, mae odl yn y gerdd./Nac oes, does dim odl yn y

gerdd.

Chwiliwch am yr odl. Beth sy’n odli gyda _____? Mae _____ yn odli gyda

_____.

Sawl pennill sy yn y gerdd? _____ pennill sy yn y gerdd.

Sawl llinell sy mewn pennill? _____ llinell sy mewn pennill.

Am beth mae’r bardd yn ysgrifennu? Mae’r bardd yn ysgrifennu am

____________.

Wyt ti’n hoffi’r gerdd? Ydw, rydw i’n hoffi’r gerdd./Nac ydw, dydw i ddim yn

hoffi’r gerdd.

Pam? Achos rydw i’n hoffi’r _____. /Achos dydw i ddim yn hoffi’r _____.

Beth ydy dy hoff air di? _____ ydy fy hoff air i./Fy hoff air i ydy _____.

Pa ran o’r gerdd wyt ti’n hoffi orau? Rydw i’n hoffi’r dechrau/canol/diwedd

orau.

Geirfacerdd/i - poem/s yn ddiddorol - interestinghwiangerdd/i - nursery rhyme/s yn ddoniol - funnycasgliad - a collection yn gyffrous - excitinggair/geiriau - word/s yn hir - longllinell/au - line/s yn fyr - shortpennill/penillion - verse/s yn ddiflas - boring, miserableodl/au - rhyme/s yn drist - sadodli - to rhyme yn araf - slowgeiriau sy’n odli - words that rhyme yn anodd - difficultgan - by yn rhy anodd - too difficult bardd/beirdd - poet/s yn rhy ddiflas - too boring, too miserable

25

Page 26: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 24 (DISGRIFIO POBL)

Gwaith pâr – bwlch gwybodaeth

Gofynnwch gwestiynau i’ch partner er mwyn llenwi’r bylchau.

Partner 1

Enw Oed Gwallt Lliw llygaid Corff Gwybodaeth arall

Gwyn 3 glas tenau

cyrliog

Manon tywyll brown

12 gwyrdd tal doniol

Gwilym moel bywiog

20 byr siapus

Partner 2

Enw Oed Gwallt Lliw llygaid Corff Gwybodaeth arall

syth hapus

Twm 15 tywyll cryf caredig

50 byr rhamantus

Elinor hir

1 gwyrddlas tew

Mair brown golau pert

26

Page 27: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 26 (IDIOMAU)

Idiomau: ‘gyda’ Atebwch y cwestiynau hyn.

1. Beth sy’n well gyda ti – brechdan gaws neu frechdan wy?

2. Beth sy’n well gyda Dafydd – cawl neu gyri?

3. Beth sy’n well gydag Elen – cig neu bysgod?

4. Beth sy’n well gyda’r merched – canu neu ddawnsio?

5. Beth sy’n well gyda’r bechgyn – rygbi neu bêl-droed?

6. Beth sy’n well gyda’r gath – dŵr neu laeth?

7. Beth sy’n well gyda fi – garddio neu waith tŷ?

8. Beth sy’n well gyda chi – gwyddoniaeth neu fathemateg?

27

Page 28: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 29 (GOFYN CWESTIYNAU)

1. Dyma atebion Huw ond beth oedd cwestiynau Mrs Jones?

1. Fy mag gwyliau i ydy hwnna.

2. Dillad tywydd poeth sy yn y bag.

3. Oes, mae digon o eli haul gyda fi, diolch.

4. Fy nghariad fydd yn mynd gyda fi.

5. Byddwn ni’n mynd fory.

6. Byddwn ni’n mynd ar fordaith i Fôr y Canoldir.

7. Byddwn ni’n teithio mor bell â Groeg.

8. Bydd hi’n boeth iawn, gobeithio.

9. Byddwn ni’n dod adre mewn pythefnos.

10. Ydw, rydw i’n gyffrous iawn!

28

Page 29: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 29 (GOFYN CWESTIYNAU)

2. Atebwch y cwestiynau yma.

1. Pryd anfoni di’r cerdyn ata i?

2. Oedd hi’n meddwl dy fod ti’n iawn?

3. Pam hoffech chi gael y swydd yma?

4. Sawl plentyn oedd yn dy ddosbarth di cyn y Pasg?

5. Ddylwn i ofyn iddo fe am dystlythyr?

6. Oeddet ti’n gwybod fy mod i wedi cael cynnig swydd dirprwy?

7. Hoffech chi weld ein hystafell ddosbarth newydd ni?

8. Est ti i Lundain yn dy gar bach coch?

9. Ble gwelaist ti fy mrawd-yng-nghyfraith?

10. Beth fydd yn dy hosan di bore Nadolig?

29

Page 30: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 30 (HOFFWN)

1. Darllenwch y negeseuon e-bost hyn yn ofalus.

30

Dafydd a Harri,Hoffech chi ddod i’r ganolfan hamdden nos fory? Hoffwn i godi pwysau yn y gampfa newydd a bydd sesiwn hyfforddi yn dechrau am 7.15y.h. Beth amdani?Guto

Bore da, Siôn,Hoffet ti ddod i’r traeth dydd Sadwrn nesa? Hoffwn i ymarfer rhedeg ar gyfer y marathon. Mae dyn y tywydd yn addo tywydd bendigedig. Hoffwn i fynd i Ben-bre neu Bentywyn achos bod y traethau’n hir. Hwyl,Deian

Haia, Ffion,Sut wyt ti? Hoffet ti ddod i Gaerdydd i siopa rywbryd yr wythnos yma? Hoffwn i brynu ffrog haf newydd. Hoffet ti fynd ar y trên neu yn y car? Hoffwn i ddim mynd ar y bws achos mae’n gwneud i fi deimlo’n dost.Cariad, Siwan

Helo, Lowri,Hoffet ti ddod i fy mharti pen-blwydd yn y ganolfan bowlio deg? Bydda i’n dri deg oed ar y degfed o Fai a hoffwn i ddathlu gyda fy ffrindiau. Hwyl,Marged

Page 31: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

Geirfasesiwn hyfforddi - training sessionyn ôl - according torhagolygon y tywydd - the weather forecast

Nawr, atebwch y cwestiynau hyn.

1. Pwy hoffai fynd i Bentywyn neu Ben-bre? Pam?

2. Ble hoffai Betsan a Gwyn fynd? Beth hoffen nhw wneud yno?

3. Pam hoffai Guto fynd i’r ganolfan hamdden? Pryd hoffai e fynd?

4. Ble hoffai Siwan fynd? Beth hoffai hi brynu yno?

5. Pwy hoffai ddathlu gyda’i ffrindiau? Faint fydd ei hoed hi ar y degfed o Fai?

31

Helo, Alys a Rhys,Hoffech chi ddod am dro gyda Gwyn a fi fory? Hoffen ni gerdded i Lyn y Fan Fach i dynnu lluniau ar gyfer prosiect Blwyddyn 4 ar Chwedlau. Bydd y tywydd yn braf yn ôl y rhagolygon.Hwyl am y tro,Betsan

Page 32: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 30 (HOFFWN)

2. Ysgrifennwch ymateb i un o’r negeseuon e-bost. Defnyddiwch rai o’r ymadroddion hyn:

Diolch yn fawr am dy neges …

Diolch am y gwahoddiad i/i’r …

Hoffwn i ddod …

Syniad ardderchog ydy …

Mae’n ddrwg gyda fi …

Yn anffodus …

Fedra i ddim dod i/i’r …

… achos …

32

…………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………

Page 33: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 30 (HOFFWN)

3. Gwnewch frawddegau gan ddefnyddio’r wybodaeth yn y tabl. Dilynwch batrwm rhif 1.

Person Cadarnhaol Negyddol

1. Gareth mynd i’r gampfa defnyddio’r peiriant rhwyfo

2. fi bwyta allan cael bwyd Tsieineaidd

3. Mari cael gwyliau ym Mharis teithio ar y fferi

4. Dewi pysgota yn y môr mynd ar ei ben ei hun

5. Henri medru canu’r piano gorfod ymarfer bob dydd

6. ni gweld y gêm rygbi fawr talu gormod am docynnau

7. Disgyblion Blwyddyn 9 dringo’r Wyddfa cerdded yn y glaw

8. chi cystadlu yn yr eisteddfod dawnsio

9. ni prynu tŷ newydd gadael y pentref

1. Hoffai Gareth fynd i’r gampfa ond hoffai e ddim defnyddio’r peiriant rhwyfo.

2.

3.

4.

5.

6.

7.

8.

9.

33

Page 34: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 30 (HOFFWN)

4. Meddyliwch am frawddegau y gallech chi ddefnyddio gyda’ch dosbarth. e.e.

1. Hoffwn i weld dy waith di.

2. Hoffwn i ddweud stori wrthoch chi.

3. Hoffwn i glywed y gân unwaith eto.

4. Hoffwn i weithio gyda’r Grŵp Coch nawr.

5.

6.

7.

8.

34

Page 35: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 30 (HOFFWN)

5. Gorffennwch y cwestiynau hyn gan ddefnyddio’r geiriau yn y grid.Cofiwch y treiglad meddal!

1. Hoffet ti fynd i’r ____________________ ?

2. Hoffet ti ddewis ____________________ ?

3. Hoffet ti fod yn ____________________ ?

4. Hoffet ti gael ____________________ ?

5. Ble hoffet ti ____________________ ?

6. Beth hoffet ti ____________________ ?

7. Beth hoffech chi ____________________ ?

8. Hoffech chi ____________________ nawr ?

llyfr darllen stori cân gêm ffrwyth

capten Helpwr y Dydd swyddog tywysoges môr-leidr

afal llaeth help eistedd chwarae

darllen gwneud mynd allan tacluso lliwio

llyfrgell tŷ bach bwrdd crefft cornel darllen twba tywod

35

Page 36: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 33 (CYN ac AR ÔL)

1. Gorffennwch y gorchmynion hyn, gan ddefnyddio’r geiriau yn y grid isod i greu nifer o frawddegau. Yna, defnyddiwch nhw gyda’ch dosbarth.

1. Gwisgwch ffedog

2. Golchwch eich dwylo

3. Tynnwch eich welis/esgidiau rygbi

4. Rhowch eich pensiliau i lawr

5. Darllenwch y cwestiwn

6. Casglwch eich bagiau

7. Darllenwch yn dawel

8. Trafodwch gyda’ch grŵp

9. Tacluswch eich bwrdd

10. Gwisgwch eich cotiau

cyn dod i mewn i’r dosbarth ar ôl gorffen eich gwaith

cyn mynd adre ar ôl chwarae yn y tywod

cyn penderfynu ar yr ateb ar ôl ysgrifennu’r dyddiad

cyn bwyta ffrwyth ar ôl dewis llyfr newydd

cyn mynd i nofio ar ôl darllen y gerdd

cyn mynd allan yn y glaw ar ôl tacluso eich bwrdd

cyn chwarae yn y dŵr ar ôl gorffen peintio

cyn ysgrifennu’r ateb ar ôl cerdded drwy’r mwd

cyn mynd allan i chwarae ar ôl gwylio’r ffilm

cyn trafod gyda’ch partner ar ôl bwyta eich cinio

36

Page 37: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 33 (CYN ac AR ÔL)

2. Llenwch y bylchau isod. Cofiwch y treiglad meddal.

1. Cyn i fi ____________ fy mrechdanau. (bwyta)

2. Ar ôl i ti ____________ dy got. (gwisgo)

3. Wrth i ni ____________ ar y thema. (penderfynu)

4. Cyn iddyn nhw ____________ am y tocyn. (talu)

5. Rhag ofn i chi ____________ ar y rhew. (llithro)

6. Erbyn iddo fe ____________ ’r gwaith. (dechrau)

7. Rhag ofn i ti ____________’r bws. (colli)

8. Ar ôl iddi hi ____________ adre. (rhuthro)

9. Cyn i’r bechgyn ____________ i chwarae rygbi. (mynd)

10. Erbyn i Mr Jones ____________ ’nôl. (dod)

Geirfarhuthro - to rush

37

Page 38: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 35 (ANSODDEIRIAU AFREOLAIDD)

Cywirwch y brawddegau yma.

1. Doeddwn i ddim mor dda â fe.

2. Roedd y bachgen yn fwy bach na’r ferch.

3. Mae gwyliau ym Mhrydain yn costio mor gymaint â gwyliau yn Ffrainc.

4. Mae e’n fyrach na fi.

5. Hi ydy’r gorau yn y dosbarth.

6. Mae Everest yn fwy uchel na’r Wyddfa.

7. Mae hi’n rhedeg yn cyflymach na fi.

8. Mae dawnsio yn fwy o hwyl na cerdded.

9. Oedd y tŷ yma yn drutach na’r hen dŷ?

10. Fe oedd y bachgen gryfaf.

38

Page 39: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 39 (ARDDODIAID CYFANSAWDD)

1. Ailysgrifennwch y brawddegau gan roi’r rhagenw yn lle’r enw bob tro.

1. Gwnewch hyn er mwyn Marged.

2. Bydd rhaid i chi chwarae criced yn erbyn y merched.

3. Wnewch chi eistedd ar bwys Mrs Jones?

4. Glou! Rhedwch ar ôl y papurau!

5. Peidiwch chwerthin am ben Dafydd.

6. Ddylech chi ddim torri ar draws y ficer.

7. Beth am ddod ar ôl Mari a fi?

8. Cadi fydd yn cystadlu yn erbyn Sara.

39

Page 40: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 39 (ARDDODIAID CYFANSAWDD)

2. Cysylltwch y ddau hanner i wneud brawddegau synhwyrol.

Roedd y plant bach am fy mhen pan gwympais i.

Fyddi di’n aros gartre ar ei hyd hi am bum milltir.

Chwarddon nhw ar ei ôl e.

Bydd rhaid i chi deithio yn fy lle i heno?

Chwaraeoch chi’n dda iawn wrth eu bodd gyda’r losin.

Mae coeden fawr yng nghanol y lawnt yn eu herbyn nhw dydd Sadwrn.

Wyt ti’n gallu mynd i’r cyfarfod ar dy ben dy hun heno?

Dywedodd pawb y geiriau a blodau’n tyfu o’i chwmpas.

40

Page 41: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 43 (Y CYMAL ENWOL)

Cyfieithwch.

1. I heard that ten new children started in the school last Monday.

2. She knows that I’m going out tonight.

3. Did you (sing.) know that the head teacher is leaving?

4. I believe that she will be going to London next week.

5. I know that you (sing.) would prefer to leave early.

6. She thinks they’ll be very good.

7. They would always think she was right.

8. He knew I was ill.

9. I didn’t say that she was in the accident.

10. They didn’t know we were married.

41

Page 42: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 44 (PWYSLEISIO)

Newidiwch y brawddegau yma i bwysleisio’r geiriau sy mewn print bras.

1. Mae Gwyn yn byw ym Mangor.

2. Mae Non yn byw yng Nghaerdydd.

3. Gwelodd y plant ‘Cyw’ ar y teledu.

4. Gwelodd yr athrawon y rhaglen ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol.5. Gwelais i ‘Pobol y Cwm’ ar y teledu.

6. Gweloch chi’r ffilm newydd yn y sinema.

7. Y rhedwr gorau yn yr ysgol ydy Dafydd.

8. Cafodd Siân sglodion i de.

9. Cafodd Siân sglodion i de.

10. Cafodd Siân sglodion i de.

42

Page 43: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 49 (DWEUD BLE MAE PETHAU)

1. Darllenwch y disgrifiad hwn o lun ‘Yr Ysgol’ yn Y Geiriadur Lliwgar (Y Dref Wen).

Mae’r ystafell yn fawr ac yn llawn. Ar y waliau mae lluniau lliwgar a map o’r byd.

Dan y map mae silffoedd ac ar y silffoedd mae llawer o lyfrau diddorol. Mae tri

bwrdd mawr ac un ddesg yn yr ystafell ddosbarth. Ar y ddesg mae glôb mawr,

lamp goch, llyfr nodiadau Mrs Owen, yr athrawes, a phensiliau. Tu ôl i ’r ddesg

mae bwrdd gwyn, a rhwng y bwrdd gwyn a’r ffenest mae tanc pysgod. Mae

llawer o bysgod bach yn nofio yn y dŵr. Uwchben y tanc pysgod mae siart abiéc

ar y wal ac ar bwys y tanc mae planhigyn. O flaen y ffenest mae cyfrifiadur ac

îsl. Mae’r drws yn y cornel gyferbyn â’r ffenest ac mae e’n goch. Mae’r llawr a’r

nenfwd yn wyn ac mae’r waliau yn felyn.

Nawr, ysgrifennwch baragraff yn disgrifio eich ystafell ddosbarth chi. Defnyddiwch ymadroddion o’r grid i’ch helpu chi.

yn y ... wrth y ... uwchben y …

dan y ... rhwng y … a’r …

o flaen y …

ar y ... wrth ochr y …

mewn ... ar sil y ffenest

gyferbyn â’r …

tu ôl i’r …

43

Fy ystafell ddosbarth………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………………

Page 44: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

BERFAU

1a. Newidiwch y ffurfiau cadarnhaol i’r negyddol.

1. Roedden nhw wedi mynd i’r neuadd.

2. Byddwn ni’n gadael yr ysgol am ddeg o’r gloch.

3. Rwyt ti’n hwyr heddiw, Marc.

4. Dylwn i fynd â’r plant allan o’r ysgol yn aml.

5. Gwelais i fochyn ar yr iard.

1b. Newidiwch y ffurfiau negyddol i’r cadarnhaol.

1. Ddylen ni ddim bod wedi gofyn am yr arian.

2. Fydda i ddim yn cael cinio ysgol bob dydd.

3. Doeddech chi ddim wedi gadael y drws ar agor.

4. Wnaethoch chi ddim llawer o sŵn.

5. Dydy hi ddim wedi prynu’r anrheg.

44

Page 45: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

1. Dyma ran o adroddiad plentyn. Mae gwallau ynddo fe ac mae’r pennaeth wedi gofyn i chi ei gywiro fe.

Mae John yn bachgen hapus iawn yn yr ysgol. Mae en cymysgu’n dda gyda plant

arall y dosbarth ac mae e wrth ei bodd yn chwarae pêl-droed amser chwarae. Yn

anffodus, mae e ddim yn gwrando i’r staff bob amser ac mae e’n siarad rhy

gormod yn y wersi. Nesa blwyddyn, bydd rhaid i fe canolbwyntio mewn pob

gwers.

45

Page 46: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

2. Gwaith pâr – chwarae rôl person sy’n ffonio’r ysgol ac athrawes/athro sy’n cymryd neges

Mae person yn ffonio’r ysgol. Mae’n rhaid i’r athro/athrawes lenwi’r ffurflen

negeseuon.

Sefyllfa 1Partner 1 – Y person sy’n ffonioChi ydy Tom Huws, tad Meleri o Ddosbarth 3. Rydych chi eisiau siarad ag athro

dosbarth Meleri. Rydych chi eisiau dod i’r ysgol i siarad â fe amser cinio dydd

Mawrth. Rydych chi eisiau i’r athro dosbarth anfon neges destun atoch chi ar

07883093554 i ddweud ydy hyn yn gyfleus.

Partner 2 – Athro/athrawesLlenwch y ffurflen.

Ysgol Maesllan Ffurflen negeseuonNeges oddi wrth: (Rôl/Swydd):

Neges i:

Y neges:

Llofnod:

46

Page 47: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

Sefyllfa 2

Partner 2 – Y person sy’n ffonioChi ydy John Lloyd. Gweithiwr cymdeithasol ydych chi. Rydych chi’n gweithio

gyda theulu sy newydd symud i’r ardal. Mae’r rhieni eisiau i’r plant fynd i Ysgol

Maesllan ond mae problemau. Rydych chi eisiau siarad â’r pennaeth am y mater.

Rydych chi eisiau i’r pennaeth eich ffonio chi ar 01776 359842 am 3.30 i weld beth

sy’n bosibl.

Partner 1 – Athro/athrawesLlenwch y ffurflen.

Ysgol Maesllan Ffurflen negeseuonNeges oddi wrth: (Rôl/Swydd):

Neges i:

Y neges:

Llofnod:

47

Page 48: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

3. Gweithgaredd darllen

Darllenwch lythyr Alys ac atebwch y cwestiynau.

Llythyr Alys

13 Stryd y Bont

Llanwrtyd

20 Ebrill

Annwyl Elin,

Rydw i’n ysgrifennu i ddweud diolch yn fawr am helpu fy merch fach i wythnos

diwetha. Roedd Mali wedi cael ofn ofnadwy pan welodd hi’r ceffyl yn neidio i fyny

wrth y car. Roedd y sŵn yn y car yn ofnadwy – y ceffyl yn gweryru ac yn taro yn

erbyn drws a ffenest y car a Mali yn sgrechian nerth ei phen. Doedd hi ddim yn

gwrando arna i o gwbl. Ond roeddech chi’n wych gyda’r ceffyl. Doedd dim panig

yn eich llais wrth i chi gerdded ymlaen ato fe’n araf ac yn dawel.

Unwaith eto, diolch yn fawr. Bydd Mali a fi’n ddiolchgar am byth.

Yn gywir

Alys Thompson

Geirfagweryru - to neighyn sgrechian nerth ei phen - screaming at the top of her voice

1. Ym mha fis roedd y ddamwain?

2. Beth ydy enw merch Alys?

3. Pwy oedd wedi cael ofn?

4. Pam roedd y sŵn yn ofnadwy?

5. Sut cerddodd Elin ymlaen at y ceffyl?

48

Page 49: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

4. Gweithgaredd darllen

Darllenwch stori Tom Williams ac atebwch y cwestiynau isod.

Geirfatraed ôl – hind feet

1. Am faint o’r gloch roedd Tom yn marchogaeth?

2. Beth ydy enw ceffyl Tom?

3. Faint o geir oedd ar y ffordd?

4. Pam cafodd Aur ofn?

5. Ble roedd Tom pan ddihunodd e?

49

Stori Tom Williams

Tua deg o’r gloch y bore, roeddwn i’n marchogaeth fy ngheffyl, Aur. Roedd y tywydd yn fendigedig ac roedd y wlad yn bert iawn. Doedd dim llawer o geir ar y ffordd, dim ond un car bach coch. Yna, yn sydyn, clywais i sŵn ofnadwy. Cafodd Aur a fi ofn. Cododd Aur ar ei draed ôl a syrthiais i i’r llawr. Dydw i ddim yn cofio dim byd wedyn nes i fi ddihuno yn yr ambiwlans.

Page 50: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

5. Gweithgaredd darllen

Darllenwch adroddiad PC John ac atebwch y cwestiynau isod.

Adroddiad PC John

Am bum munud wedi deg y bore, cawson ni alwad 999 i ddweud bod damwain

rhwng car a cheffyl wedi digwydd ar y ffordd rhwng y Sugar Loaf a Beulah.

Cyrhaeddon ni yno am chwarter wedi deg. Roedd dyn yn gorwedd ar ochr y

ffordd yn anymwybodol. Roedd car coch wedi stopio ac roedd mam a merch fach

yn y car. Roedd car llwyd, fan a lori hefyd wedi stopio. Roedd y ceffyl yn wyllt ac

roedd e’n neidio ac yn cicio’r car drwy’r amser. Roedd y ffrwyn wedi mynd yn

sownd yn y car, felly doedd e ddim yn gallu rhedeg i ffwrdd.

Es i ymlaen at y ceffyl i dynnu’r ffrwyn yn rhydd ond ciciodd e fi. Torrais i fy

nghoes ac roedd rhaid i fi fynd i’r ysbyty.

Geirfaanymwybodol - unconsciousgwyllt - wildffrwyn - bridleyn sownd - attached

1. Am faint o’r gloch cafodd PC John yr alwad 999?

2. Ble roedd y ddamwain wedi digwydd?

3. Am faint o’r gloch cyrhaeddodd PC John y ddamwain?

4. Pwy oedd yn y car?

5. Beth roedd y ceffyl yn wneud?

Gwaith pârGallai partner 1 chwarae rôl PC John a defnyddio’r wybodaeth yn yr adroddiad i ateb cwestiynau partner 2, sef y sarsiant, e.e. Beth oedd lliw’r ceir?

50

Page 51: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

6. Gweithgaredd darllen

Darllenwch ddyddiadur Elin ac atebwch y cwestiynau isod.

Dyddiadur Elin

Dydd Mercher 19 Ebrill

Diwrnod rhyfedd heddiw. Roeddwn i ar fy ffordd i Lanymddyfri i siopa y bore ’ma.

Gadawais i Beulah am ddeg munud wedi deg. Doeddwn i ddim wedi mynd yn bell

pan welais i fod y ffordd ar gau. Roedd y gwasanaethau brys i gyd yno – yr

ambiwlans, yr heddlu a’r frigâd dân. Roedd y paramedics yn gofalu am y plismon

a’r dyn oedd wedi brifo. Roedd ceffyl yn gweryru, yn neidio ac yn cicio yn erbyn

car coch. Roedd pobl ar ochr y ffordd yn siarad – doedden nhw ddim yn gwybod

beth i’w wneud – roedd ofn arnyn nhw. Ond, mae anifeiliaid yn fy hoffi i, felly es i i

ddal y ceffyl. Mewn pum munud roedd y ceffyl gwyllt, y fam a’r plentyn yn ddiogel.

Geirfagofalu am - to look afterwedi brifo - hurt/injured

1. Pa ddiwrnod oedd hi?

2. O ble roedd Elin yn teithio?

3. Am faint o’r gloch gadawodd hi i fynd i Lanymddyfri?

4. Pa wasanaethau brys welodd Elin?

5. Sut roedd y bobl ar ochr y ffordd yn teimlo?

Gwaith pârGallai partner 1 ddarllen y darn i bartner 2. Tasg partner 2 fyddai ateb y cwestiynau.

51

Page 52: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

7. Gweithgaredd darllen

Darllenwch ddarnau CYFFREDINOL 3-6 uchod. Dewiswch yr ateb cywir o’r golofn ar y dde i orffen y brawddegau isod.

1. Mali oedd merch ... Elin/PC John/Alys/Tom Williams.

2. Enw’r ceffyl oedd ... Elin/Aur/Tom/Alys.

3. Roedd Alys yn teithio yn y ... fan/lori/car llwyd/car coch.

4. Doedd dim ofn ar ... Mali/gyrrwr y car llwyd/Elin/gyrrwr y lori.

5. Roedd Tom yn marchogaeth ...

tua deg o’r gloch/am bum munud wedi deg/ddeg munud wedi deg/am chwarter wedi deg.

6. Mae Alys yn byw yn ... Llanwrtyd/Beulah/Llanymddyfri/Sugar Loaf.

7. Roedd damwain rhwng ... car a cheffyl/ceffyl a lori/car a lori/ceffyl a fan.

52

Page 53: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

8. Gweithgaredd darllen

Darllenwch ddarnau CYFFREDINOL 3-6 uchod. Wedyn, rhowch y brawddegau isod yn y drefn gywir.

1. Helpodd y paramedics PC John.

2. Clywodd Aur sŵn.

3. Roedd Tom yn marchogaeth.

4. Ysgrifennodd Alys lythyr.

5. Cafodd PC John neges 999.

6. Cyrhaeddodd Elin y ddamwain.

7. Aeth PC John at y ceffyl.

53

Page 54: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

9. Gweithgaredd darllen

Darllenwch ddarnau CYFFREDINOL 3-6 uchod ac atebwch y cwestiynau isod.

1. Pwy oedd yn y car coch?

2. Sut roedd y tywydd ar Ebrill 19?

3. Pam syrthiodd Tom?

4. Pam doedd y ceffyl ddim yn rhedeg i ffwrdd?

5. Pam roedd rhaid i PC John fynd i’r ysbyty?

6. I ble roedd Elin yn mynd? Pam roedd hi’n mynd yno?

7. Beth roedd y paramedics yn wneud pan gyrhaeddodd Elin?

8. Beth roedd Mali’n wneud?

9. Sut clywodd PC John am y ddamwain?

10. Sawl fan oedd wedi stopio wrth y ddamwain?

54

Page 55: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

10. Gweithgaredd llafar mewn grŵp

Darllenwch ddarnau CYFFREDINOL 3-6. Wedyn, trafodwch y cwestiynau yma yn eich grŵp. Cofiwch roi digon o resymau dros eich barn bob tro.

1. Pa fath o bobl oedd ...?

PC John

Elin

Alys

2. Aeth PC John ac Elin ymlaen at y ceffyl gwyllt. Oedden nhw’n ffôl neu’n

ddewr? Cofiwch roi rhesymau dros eich barn a chofiwch geisio perswadio

aelodau eraill eich grŵp mai chi sy’n iawn.

3. Dywedodd gyrrwr y lori ‘Bai Tom oedd y ddamwain.’ Ydych chi’n cytuno?

4. Beth ydych chi’n meddwl oedd y sŵn glywodd Aur a Tom?

5. Ydy marchogaeth ar y ffordd fawr yn beryglus?

6. Oes arwr yn y stori hon? Pam rydych chi’n dweud hyn?

55

Page 56: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

11. Gweithgaredd ysgrifennu

Rydych chi wedi darllen stori Alys, Tom, PC John ac Elin. Nawr, mae rhaid i chi ysgrifennu adroddiad i ddweud beth ddigwyddodd yn y ddamwain. Dewiswch ffurf yr adroddiad ond dyma rai syniadau i chi feddwl amdanyn nhw cyn dechrau ar y gwaith:

Adroddiad papur newydd, teledu, radio neu wefan? Oes angen lluniau, dyfyniad, map ac ati?

56

Page 57: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

12. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu

Darllenwch y darn yma i’ch partner.

Paratowch gwestiynau ar y darn i’w gofyn i’ch partner.

Trowch y darn yma i’r lluosog.

Penderfynais i adael fy ngwaith marcio am dipyn a chanolbwyntio ar y rhaglen

deledu. Roedd drama dda yn cael ei dangos o wyth o’r gloch ymlaen ac yna

roedd perfformiad gan blant ysgol gynradd leol. Baswn i wrth fy modd tasai plant

fy nosbarth i yn gallu perfformio fel hyn.

57

Page 58: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

13. Gweithgaredd ysgrifennu/trafod

Dyma waith plentyn. Cywirwch y darn. Yna, siaradwch gyda’ch partner i benderfynu pa adborth byddwch chi’n ei roi i’r plentyn.

16 College Road

New Village

Swansea

26th Mawrth

Anwyl Bob

Rydw in bwy yn argos i’r Coleg. Rydw in mynd i Ysgol Gynradd Pentre

Newydd. Rydw in hoffi ysgol achos mea’r athros yn wych. Es i mynd i’r

cinema gyda frinddiau dydd Sadwrn. Rydw in hoffi gwneud chwarae peldroed.

Mean wych.

Tom

58

Page 59: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

14. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu

Darllenwch y darn yma i’ch partner. Paratowch gwestiynau ar y darn i’w gofyn i’ch partner. Trowch y darn yma i’r benywaidd. Byddwch chi’n siarad am Ms Jones a Siân.

Cerddodd Mr Jones yn araf at ei gar. Roedd e wedi blino’n lân ar ôl diwrnod

anodd yn yr ysgol. Roedd bachgen wedi dweud ei fod e wedi gweiddi arno fe yn y

wers hanes. Roedd hyn yn wir ond roedd Jac wedi bod yn fachgen drwg iawn

drwy’r wers. Taflodd e a’i bartner awyrennau papur ar draws yr ystafell ddosbarth

a chreu annibendod. Roedd e wedi cael llond bol ar y ddau ohonyn nhw, felly

doedd dim rhyfedd iddo weiddi ar y bechgyn.

59

Page 60: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

15. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu

Darllenwch y darn yma i’ch partner. Paratowch gwestiynau ar y darn i’w gofyn i’ch partner. Trowch y darn yma i’r gwrywaidd. Byddwch chi’n siarad am Mr Jones.

Roedd tair merch yn chwarae ar iard yr ysgol. Daeth ci i mewn i’r iard ac roedd

dwy o’r merched yn ofnus iawn. Rhedon nhw i’r ystafell athrawon i ddweud wrth

eu hathrawes ar unwaith. Yn anffodus, doedd hi ddim yno. Roedd Ms Jones wedi

mynd i siopa yn ystod ei hawr ginio. Roedd hi’n mynd i fynydda gyda’i chariad

dros y penwythnos ac roedd angen trowsus dringo newydd arni hi.

60

Page 61: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

16. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu

Darllenwch y darn yma i’ch partner. Paratowch gwestiynau ar y darn i’w gofyn i’ch partner. Trowch y darn yma i’r unigol.

Clywon ni eich bod chi wedi ennill y cwpanau yn yr eisteddfodau eleni.

Llongyfarchiadau mawr i chi ac i’r dysgwyr roeddech chi wedi eu paratoi. Rydych

chi wrth eich bodd ac yn edrych ymlaen at y cyngherddau, mae’n siwr.

61

Page 62: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

17. Gwaith pâr – bwlch gwybodaeth

Gofynnwch gwestiynau i’ch partner er mwyn llenwi’r bylchau.

Partner 1

Enw Byw – ble? Sut dŷ? Ble’n union mae’r tŷ?

Pwy arall sy’n byw

yno?

Byw yno – sawl

blwyddyn?

Gwyn Llangollen yn ymyl y parc

gwraig, tad a mam-yng-nghyfraith

tŷ semi

Manon tŷ terasgyferbyn â swyddfa’r

postRhosgadfa

nyng nghanol

y wladpartner a 2

o blant 20

Gwilym tŷ ar wahân 5

Abertawe fflat neb

Partner 2

Enw Byw – ble? Sut dŷ? Ble’n union

mae’r tŷ?Pwy arall sy’n byw

yno?

Byw yno – sawl

blwyddyn?

byngalo 12

Twm Llundain tu ôl i’r orsaf gwraig a 2 ferch 3

Trimsaran partner 4

Elinor bwthyn

Caeredin rownd y gornel i’r ysgol

gwraig a 2 fachgen

Mair uwchben siop sglodion 1

62

Page 63: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

18a. Gwaith pâr – dod o hyd i wahaniaethau

Bydd un partner yn gweld sgript Wil yn unig a’r llall yn gweld sgript Gwen. Mae ambell beth yn wahanol yn y ddau adroddiad.

Darllenwch y darnau yma i’ch partner. Siaradwch â’ch gilydd i ddod o hyd i’r pethau sy’n wahanol. Paratowch gwestiynau ar y darnau i ofyn i’ch partner.

Partner 1

Roedd Wil a Gwen yn cerdded adre o’r ysgol pan welon nhw ddamwain ffordd. Mae’r plismon yn gofyn iddyn nhw beth ddigwyddodd. Dyma beth maen nhw’n ei ddweud.

Wil

Roeddwn i’n cerdded adre o’r ysgol prynhawn ddoe. Roedd hi’n bwrw glaw yn drwm, felly doedd dim llawer o bobl o gwmpas. Pan oeddwn i wrth y siop esgidiau, clywais i sgrech ofnadwy. Codais i fy mhen a gwelais i’r ci mawr brown yn gorwedd yn llonydd ar ganol y ffordd. Roedd merch tua deg oed yn plygu drosto fe ac yn crio’n uchel. Doedd y ci ddim yn symud o gwbl. Daeth dyn ifanc allan o’r car oedd wedi taro’r ci a cherdded tuag atyn nhw. Daeth mam y ferch o rywle hefyd. Ffoniodd hi’r heddlu cyn mynd i siarad â’r dyn. Arhosais i ddim i weld beth ddigwyddodd wedyn achos roeddwn i mor oer a gwlyb.

63

Page 64: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

18b. Gwaith pâr – dod o hyd i wahaniaethau

Bydd un partner yn gweld sgript Wil yn unig a’r llall yn gweld sgript Gwen. Yn anffodus, mae ambell beth yn wahanol yn y ddau adroddiad.

Darllenwch y darnau yma i’ch partner. Siaradwch â’ch gilydd i ddod o hyd i’r pethau sy’n wahanol. Paratowch gwestiynau ar y darnau i ofyn i’ch partner.

Partner 2

Roedd Wil a Gwen yn cerdded adre o’r ysgol pan welon nhw ddamwain ffordd. Mae’r plismon yn gofyn iddyn nhw beth ddigwyddodd. Dyma beth maen nhw’n ei ddweud.

Gwen

Tua hanner awr wedi tri ddoe, roeddwn i’n cerdded ar hyd y Stryd Fawr. Roedd hi’n arllwys y glaw, felly roeddwn i wedi agor f’ymbarél, er ei bod hi’n wyntog iawn. Doeddwn i ddim yn gallu gweld llawer achos roedd rhaid i fi gadw’r ymbarél yn isel. Roeddwn i newydd fynd heibio’r siop esgidiau pan glywais i sŵn corn car a bang bach. Pan edrychais i, gwelais i fod y car wedi taro ci bach brown a gwyn ac roedd merch fach a’i mam yn rhedeg ato fe. Ar yr un pryd, daeth dyn canol oed allan o’r car. Aethon nhw at y ci a, diolch byth, gwelon nhw ei fod e’n anadlu. Ffoniodd y dyn yr heddlu. Arhosais i ddim i weld beth ddigwyddodd wedyn achos roeddwn i mor oer a gwlyb.

64

Page 65: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

19. Ad-drefnwch y brawddegau i wneud sgwrs synhwyrol.

1. Llun Siôn Corn ar y sled.

1. Fi, Miss, rydw i eisiau dewis llyfr.

2. Diolch, Gwen. Nawr ’te, llun beth sy ar y clawr?

3. Pwy sy eisiau dewis llyfr stori heddiw?

4. Oes, mae dau garw yn y llun.

5. Dyma’r llyfr, Miss.

6. Gadewch i ni agor y llyfr i weld beth sy’n digwydd.

7. Ie, llun Siôn Corn. Oes carw yn y llun hefyd?

8. Iawn, Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant.

65

Page 66: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

20. Rhowch ffurf gywir y gair mewn cromfachau.

1. Roedd y pensiliau ar goll. Chwiliodd y plant (am) nhw ym mhob man.

2. (Hoffi) i fynd i Sbaen ar fy ngwyliau.

3. Mae Jon yn (da) na fi mewn mathemateg.

4. Bydd hi’n (3) oed fory.

5. (Roedd) nhw’n ddrwg iawn Amser Cylch.

6. (Bydd) ni’n cael cawl i ginio dydd Iau.

7. (Cael) nhw wisg ysgol newydd y llynedd.

8. Roedd llawer o (plentyn) yn absennol ddoe.

9. (Dod) â’r lluniau yma os gwelwch yn dda.

10.Bydd hi’n mynd i’r pwll nofio (heb) ti.

66

Page 67: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

21. Cysylltwch y ddau hanner i wneud brawddegau.

1. Wyt ti’n meddwl â’r plentyn i’r ysbyty.

2. Hoffwn i cysgu yn y dosbarth.

3. Bydda i’n bod Ben ar Lefel pedwar?

4. Rydw i’n siwr bydd yn y gwasanaeth.

5. Clywais i i’r ysgol.

6. Ddylen nhw ddim gael swydd yn Llundain.

7. Es i at y prif weinidog.

8. Ysgrifennon ni fod pawb wedi talu am y trip.

9. Cerddodd hi pawb yn yr ysgol fory.

10.Ddarllenais i ddim mynd i’r dre fory.

67

Page 68: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

22. Ad-drefnwch yr ymadroddion i greu brawddegau. Cofiwch atalnodi ar y diwedd.

1. prynu Clywais i fy anrheg i amdanoch chi’n

2. gwybod arni hi bod ofn cathod Oeddet ti’n

3. talu am y gwyliau dechrau Bydd hi’n ym mis Mai

4. roedd hi’n arfer Yn yr ysgol gyfun cyn dod yma gweithio

5. os bydd hi’n byddan nhw’n byw cael y swydd Ble

68

Page 69: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

23. Llenwch y bylchau gyda’r gair cywir. Mae mwy o eiriau nag o fylchau ac mae’n bosib defnyddio’r un gair fwy nag unwaith.

at blwydd amdanyn ar mewn

am amdano ag i blwyddyn

â llythyr blynedd yn llythyrau

1. Gofynnwch …… bennaeth yr ysgol …… ganiatâd i adael yn gynnar.

2. Roedd hi wedi bod yn yr ysgol am dair .......

3. Peidiwch …… anghofio dod …… chot law a phecyn bwyd gyda chi.

4. Mae Rhys wedi ysgrifennu sawl …… at y Pennaeth.

5. Wyt ti wedi clywed ....... nhw’n mynd i weld y pantomeim?

6. Bydd y bws yn gadael ....... hanner awr.

7. Mae hi wedi mynd ....... llyfrau Blwyddyn 6 i’r storfa.

8. Maen nhw wedi bod ....... y dosbarth drwy’r dydd.

69

Page 70: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

ATEBION

70

Page 71: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 5 (DIDDORDEBAU, MEDDIANT A DERBYN)

Cyfieithwch.

Atebion enghreifftiol

1. Mae salad hyfryd gyda fi yn yr oergell.

2. Rydyn ni’n cael salad hyfryd i swper heno.

3. Wyt ti’n cael dillad newydd i’r briodas?

4. Oes dillad newydd gyda ti i’r briodas?

5. Mae hi’n cael dau gyfrifiadur newydd i’r ystafell ddosbarth.

6. Mae dau gyfrifiadur newydd gyda hi yn yr ystafell ddosbarth.

7. Bydd dau ddeg o blant gyda fi yn fy nosbarth y flwyddyn nesa.

8. Bydda i’n cael pedwar plentyn newydd yn fy nosbarth y flwyddyn nesa.

9. Roedd gormod o waith gyda hi i fynd allan.

10. Ydych chi wedi cael caniatâd i fynd ar wyliau?

71

Page 72: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 6 (EISIAU)

1. Dyma’r atebion. Fedrwch chi ysgrifennu’r cwestiynau?

Atebion enghreifftiol

1. Beth rwyt ti eisiau?

2. Beth roedd Tudur eisiau?

3. Beth mae’r gath eisiau?

4. Beth fydd hi/ Mrs Jones eisiau?

5. Beth rydych chi eisiau?

6. Beth fyddi di eisiau?

7. Beth roedden nhw/roedd y plant eisiau?

8. Beth mae e/mae’r pennaeth eisiau?

9. Beth roeddech chi eisiau?

10. Beth maen nhw/mae’r merched eisiau?

72

Page 73: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 7 (DYDDIADAU)

Ysgrifennwch y dyddiadau mewn geiriau.

1. Y trydydd ar hugain o Fawrth un naw pedwar naw

2. Yr wythfed ar hugain o Fai dwy fil ac un deg tri

3. Yr ugeinfed o Awst un dau wyth naw

4. Y cyntaf o Ionawr dwy fil ac un

5. Yr ail ar bymtheg o Orffennaf un naw wyth naw

6. Y deuddegfed o Chwefror un naw dim dau

7. Y pymthegfed o Ragfyr un wyth pump un

8. Y deunawfed o Dachwedd un saith chwech tri

9. Y pedwerydd ar bymtheg o Ebrill dwy fil a dau ddeg/dwy fil ac ugain

10. Yr unfed ar ddeg o Fehefin un naw naw naw

73

Page 74: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 9 (Y DYFODOL)

2. Rydych chi newydd ddangos cynllun yr wythnos i’ch disgyblion ac maen nhw wedi gofyn nifer o gwestiynau. Ydych chi’n gallu meddwl am atebion posibl?

Atebion enghreifftiol

1. Bydd y wers nofio yn y pwll nofio yn y dref.

2. Byddwn ni’n cerdded draw.

3. Byddwch chi’n cael [14] gwers.

4. Bwyd, bwyd, bwyd! fydd enw prosiect y tymor yma.

5. Bydd Mr Jones yn cyrraedd erbyn 9.15y.b.

6. Bydd e’n siarad am dyfu llysiau.

7. Y grwpiau coch a melyn fydd yn gwneud gymnasteg yr wythnos hon.

8. Bydd y bechgyn yn chwarae criced dydd Gwener nesa’.

9. Mr Jenkins a phlant Blwyddyn 6 fydd yn dod gyda ni.

10. Bydda, bydda i’n dod ar y bws.

74

Page 75: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 9 (Y DYFODOL)

3. Darllenwch am gynlluniau Gwawr a’i ffrindiau ar gyfer gwyliau’r haf. Trowch y paragraff i’r trydydd person.

Ar ddechrau’r gwyliau ysgol, bydd hi’n mynd i Gaerdydd gyda’i ffrindiau. Byddan nhw’n mynd ar y trên achos mae parcio yng Nghaerdydd yn hunllef! Byddan nhw’n siopa ac wedyn yn cael bwyd bendigedig mewn tŷ bwyta Eidalaidd cyn dod

adre.

Ym mis Awst, bydd hi’n mynd i’r Eisteddfod gyda’i gŵr a Cadi’r ci a byddan nhw’n aros yno mewn carafán. Bydd hi’n wythnos gyffrous achos byddan nhw’n

cwrdd â llawer o ffrindiau yno.

Wedyn, byddan nhw’n mynd i Sir Benfro ac yn cael gwyliau ar lan y môr. Bydd hi wrth ei bodd yn cerdded ar y traeth yn gynnar bob bore gyda Cadi, ac yna’n

ymlacio gyda llyfr da!

75

Page 76: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 9 (Y DYFODOL)

5. Trowch y darn i’r dyfodol.

Fory, bydda i’n mynd i gyfweliad yn Ysgol y Cwm. Bydd fy stumog i’n troi fel

peiriant golchi dillad achos bydda i’n nerfus iawn. Bydd y panel yn gofyn nifer o

gwestiynau i fi. Byddan nhw’n ddigon neis ond fydda i ddim yn gallu ymlacio o

gwbl. Yr aros ar y diwedd i glywed pwy fydd yn cael y swydd fydd un o’r pethau

gwaethaf. Erbyn amser te, bydd y cyfan drosodd a bydda i’n gallu ymlacio a

mwynhau gwydraid o win yn y dafarn.

76

Page 77: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 12 (YR AMSER)

1. Ysgrifennwch yr amserau mewn geiriau.

1. am hanner awr wedi deg

2. tua thri o’r gloch

3. cyn chwarter i bump

4. am ugain munud i ddeuddeg

5. tua dau o’r gloch

6. cyn pum munud ar hugain i ddeg

7. tua phum munud i dri

8. am bum munud ar hugain wedi pedwar

9. cyn deg o’r gloch

10. am bum munud wedi saith

77

Page 78: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)

1. Atebwch y cwestiynau yn y cadarnhaol (affirmative).

Atebion enghreifftiol

1. Do, des i ar y bws y bore ’ma.

2. Do, collais i fy nghap coch ddoe.

3. Do, gwnes i fy ngwaith cartref i gyd.

4. Do, gadawais i fy mag yn yr ystafell gotiau.

5. Do, cofiais i ddod â brechdanau./ Do, des i â brechdanau ham a saws

coch.

6. Do, gwelais i Miss Davies.

7. Do, darllenais i wyth tudalen neithiwr.

8. Do, bwytais i’r cinio a’r pwdin.

9. Do, yfais i fy llaeth i gyd heddiw.

10. Do, meddyliais i cyn rhoi’r ateb.

78

Page 79: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)

2. Ailysgrifennwch y darn gan ddefnyddio berfau yn y person cyntaf unigol.

Wel, dyna wyliau hanner tymor bendigedig! Es i am wyliau bach i lan y môr.

Arhosais i mewn fflat gysurus iawn yn Ninbych-y-pysgod. Roedd y fflat bron ar y

traeth! Codais i’n gynnar bob bore er mwyn cael chwarae gyda’r ci ar y tywod a

ches i lawer o hwyl. Er bod y tywydd yn braf, roedd y môr yn oer ac felly nofiais i ddim.

Ymwelais i â sawl lle diddorol yn yr ardal. Gwelais i Gastell Penfro a dringais i i ben y tŵr. Es i i Dyddewi ac i’r eglwys gadeiriol. Yna, cerddais i ar hyd yr arfordir

i weld capel Non. Teithiais i i Ynys Bŷr mewn cwch modur bach glas a bwytais i hufen iâ melys yng nghaffi’r mynachod.

Des i adre nos Wener yn flinedig ond wedi ymlacio’n llwyr. Gwyliau gwych!

79

Page 80: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)

3. Atebwch y cwestiynau yn y negyddol (negative).

Atebion enghreifftiol

1. Naddo, ches i ddim hufen iâ mefus.

2. Naddo, welais i ddim tân gwyllt nos Sadwrn.

3. Naddo, fwytais i ddim cyri neithiwr.

4. Naddo, redais i ddim yn y ras fawr eleni.

5. Naddo, chlywais i ddim am y sioe Nadolig.

6. Naddo, ddarllenais i ddim stori i’r dosbarth Meithrin.

7. Naddo, thalais i ddim am y tocyn raffl.

8. Naddo, phrynais i ddim llyfr yn y ffair lyfrau.

9. Naddo, yrrais i ddim i’r ysgol y bore ’ma.

10. Naddo, wisgais i ddim gwisg ffansi dydd Gwener diwetha.

80

Page 81: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNEDAU 13-17 (Y GORFFENNOL)

4. Trowch y brawddegau i’r amser gorffennol.

Atebion enghreifftiol

1. Tyfodd y llysiau yng ngardd yr ysgol yn dda.

2. Cafodd y llysiau ddigon o fwyd a dŵr gan y plant.

3. Dilynon nhw’r cyngor hwn yn ofalus.

4. Llwyddon nhw i dyfu llysiau da.

5. Cawsoch chi lwyddiant a siom wrth arddio.

6. Bwytodd y plant lysiau ffres o’r ardd heb ffys.

7. Gweloch chi fod gan y plant fwy o ddiddordeb yn yr ardd ar ôl iddyn nhw

flasu’r llysiau.

8. Talon ni gostau’r ardd drwy werthu’r llysiau yn y siop.

9. Gwerthodd y llysiau’n dda yn siop yr ysgol.

10. Prynais i lysiau yn y siop bob wythnos.

81

Page 82: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 18 (WEDI ac WEDI BOD)

2. Darllenwch y manylion ac yna atebwch y cwestiynau. Defnyddiwch ragenwau yn lle enwau os gallwch chi, e.e. Maen nhw yn lle Mae Ann a Megan.

Atebion enghreifftiol

1. Dw i/Rwyt ti/Rydych chi wedi gwneud jiwdo.

2. Mae Ann a Megan/Maen nhw wedi bod yn gwylio ffilm ar y teledu.

3. Maen nhw wedi nofio.

4. Mae hi wedi ymarfer canu’r piano.

5. Maen nhw wedi bod yn gwneud mathemateg.

6. Mae hi wedi bod yn garddio.

7. Mae e wedi bod yn paratoi cyri poeth.

82

Page 83: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 20 (GOFYN CWESTIYNAU)

1. Atebwch y cwestiynau am eich ystafell ddosbarth.

Atebion enghreifftiol

1. Oes, mae ystafell ddosbarth eitha mawr gyda fi.

2. Mae’r drws yn borffor.

3. Mae arwydd sy’n dweud ‘Croeso. Dewch i mewn’ ar y drws.

4. Ydy, mae’r ystafell yn olau braf achos mae’n wynebu’r de.

5. Mae’r ystafell yn sgwâr.

6. Mae e ar y wal sy’n wynebu’r drws.

7. Plant Blwyddyn Dau sy yn fy nosbarth/sy gyda fi.

8. Oes, mae hen biano gyda fi ond mae’n gweithio’n dda.

9. Mae’r ffenestri’n fawr./Mae dwy ffenest fawr gyda fi.

10. Byrddau coch siâp octagon sy gyda fi.

11. Nac oes, yn anffodus, does dim ffôn gyda fi.

12. Mae e yn y cornel pellaf, rhwng yr ardal adeiladu a’r cwpwrdd.

13. Y Grŵp Coch sy’n eistedd yng nghefn yr ystafell.

14. Mae’r ystafell yn lliwgar iawn./Mae’n ystafell liwgar dros ben.

15. Ydw, rydw i wrth fy modd gyda’r ystafell achos mae’n fawr ac yn olau.

83

Page 84: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 20 (GOFYN CWESTIYNAU)

3. Atebwch y cwestiynau yma.

Atebion enghreifftiol

1. Ydw, rydw i’n/Nac ydw, dydw i ddim yn gwybod beth ydy enw dy frawd

di.

2. Oedd, roedd/Nac oedd, doedd dim annwyd arna i dydd Llun diwetha.

3. Do, gwelais i/gwelon ni/Naddo, welais i ddim/welon ni ddim ysgol

newydd y pentref.

4. Gwnaf, gofala i/Na wnaf, ofala i ddim am Flwyddyn Pump fory.

5. Oes, mae/Nac oes, does dim rhaid i ti/chi wneud y gwaith yma heno.

6. Do, es i/ Naddo es i ddim i weld fy nheulu i ddoe.7. Costiodd fy nghot i ...8. Gwnaf, pryna i/Na wnaf, phryna i ddim losin drosot ti.9. Do, clywais i/Do, clywon ni/Naddo, chlywais i ddim/Naddo, chlywon ni

ddim am y lleidr dorrodd i mewn i dy dŷ di/i’ch tŷ chi.10. Rydw i’n bwriadu dy dalu di/eich talu chi wythnos nesa.

84

Page 85: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 26 (IDIOMAU)

Idiomau: ‘gyda’

Atebwch y cwestiynau hyn.

Atebion enghreifftiol

1. Mae’n well gyda fi frechdan wy na brechdan gaws.

2. Mae’n well gyda Dafydd gyri na chawl.

3. Mae’n well gydag Elen gig na physgod.

4. Mae’n well gyda’r merched ddawnsio na chanu.

5. Mae’n well gyda’r bechgyn bêl-droed na rygbi.

6. Mae’n well gyda’r gath ddŵr na llaeth.

7. Mae’n well gyda ti arddio na gwaith tŷ.

8. Mae’n well gyda ni wyddoniaeth na mathemateg.

85

Page 86: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 29 (GOFYN CWESTIYNAU)

1. Dyma atebion Huw ond beth oedd cwestiynau Mrs Jones?

Atebion enghreifftiol

1. Bag gwyliau pwy ydy hwnna?

2. Beth sy yn y bag?

3. Oes digon o eli haul gyda ti?

4. Pwy fydd yn mynd gyda ti?

5. Pryd byddwch chi’n mynd?

6. I ble byddwch chi’n mynd?

7. Pa mor bell byddwch chi’n teithio?

8. Sut bydd y tywydd yno?

9. Pryd byddwch chi’n dod adre?

10. Wyt ti’n edrych ymlaen?

86

Page 87: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 29 (GOFYN CWESTIYNAU)

2. Atebwch y cwestiynau.

Atebion enghreifftiol

1. Anfona i’r cerdyn atat ti fory/wythnos nesa.

2. Oedd, roedd hi’n/Nac oedd, doedd hi ddim yn meddwl fy mod i’n iawn.3. Hoffwn i gael y swydd yma achos rydw i eisiau her newydd.

4. Roedd ugain o blant yn fy nosbarth i cyn y Pasg.

5. Dylet, dylet ti ofyn/Dylech, dylech chi ofyn/Na ddylet, ddylet ti ddim gofyn/Na ddylech, ddylech chi ddim gofyn iddo fo am dystlythyr.

6. Oeddwn, roeddwn i’n/Nac oeddwn, doeddwn i ddim yn gwybod dy fod ti wedi cael cynnig swydd dirprwy.

7. Hoffwn, hoffwn i weld/Hoffen, hoffen ni weld/Na hoffwn, hoffwn i ddim gweld/Na hoffen, hoffen ni ddim gweld eich ystafell ddosbarth newydd

chi.

8. Do, es i/Naddo, es i ddim i Lundain yn fy nghar bach coch.

9. Gwelais i dy frawd-yng-nghyfraith yn y dre.

10. Bydd llawer o anrhegion yn fy hosan i bore Nadolig.

87

Page 88: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 30 (HOFFWN)

1. Atebwch y cwestiynau hyn.

Atebion enghreifftiol

1. Deian hoffai fynd i Bentywyn neu Ben-bre achos bod y traethau’n hir.

2. Hoffai Betsan a Gwyn fynd i Lyn y Fan Fach. Hoffen nhw dynnu lluniau ar

gyfer prosiect Blwyddyn 4 ar Chwedlau.

3. Hoffai Guto fynd i’r ganolfan hamdden achos mae e eisiau codi pwysau

yno. Hoffai e fynd am chwarter wedi saith yr hwyr.

4. Hoffai Siwan fynd i Gaerdydd. Hoffai hi brynu ffrog haf newydd.

5. Marged hoffai ddathlu gyda’i ffrindiau. Bydd hi’n dri deg oed ar y degfed o

Fai.

88

Page 89: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 30 (HOFFWN)

3. Gwnewch frawddegau gan ddefnyddio’r wybodaeth yn y tabl.

1. Hoffwn i fwyta allan ond hoffwn i ddim cael bwyd Tsieineaidd.

2. Hoffai Mari gael gwyliau ym Mharis ond hoffai hi ddim teithio ar y fferi.

3. Hoffai Dewi bysgota yn y môr ond hoffai e ddim mynd ar ei ben ei hun.

4. Hoffai Henri fedru canu’r piano ond hoffai e ddim gorfod ymarfer bob dydd.

5. Hoffen ni weld y gêm rygbi fawr ond hoffen ni ddim talu gormod am

docynnau.

6. Hoffai disgyblion Blwyddyn 9 ddringo’r Wyddfa ond hoffen nhw ddim

cerdded yn y glaw.

7. Hoffech chi gystadlu yn yr eisteddfod ond hoffech chi ddim dawnsio.

8. Hoffen ni brynu tŷ newydd ond hoffen ni ddim gadael y pentref.

89

Page 90: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 33 (CYN ac AR ÔL)

2. Llenwch y bylchau. Cofiwch y treiglad meddal.

1. Cyn i fi fwyta fy mrechdanau.

2. Ar ôl i ti wisgo dy got.

3. Wrth i ni benderfynu ar y thema.

4. Cyn iddyn nhw dalu am y tocyn.

5. Rhag ofn i chi lithro ar y rhew.

6. Erbyn iddo fe ddechrau’r gwaith.

7. Rhag ofn i ti golli’r bws.

8. Ar ôl iddi hi ruthro adre.

9. Cyn i’r bechgyn fynd i chwarae rygbi.

10. Erbyn i Mr Jones ddod ’nôl.

90

Page 91: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 35 (ANSODDEIRIAU AFREOLAIDD)

Cywirwch y brawddegau yma.

1. Doeddwn i ddim cystal â fe.

2. Roedd y bachgen yn llai na’r ferch.

3. Mae gwyliau ym Mhrydain yn costio cymaint â gwyliau yn Ffrainc.

4. Mae e’n fyrrach na fi.

5. Hi ydy’r orau yn y dosbarth.

6. Mae Everest yn uwch na’r Wyddfa.

7. Mae hi’n rhedeg yn gyflymach na fi.

8. Mae dawnsio yn fwy o hwyl na cherdded.

9. Oedd y tŷ yma yn ddrutach na’r hen dŷ?

10. Fe oedd y bachgen cryfaf.

91

Page 92: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 39 (ARDDODIAID CYFANSAWDD)

1. Ailysgrifennwch y brawddegau gan roi’r rhagenw yn lle’r enw bob tro.

Atebion enghreifftiol

1. Gwnewch hyn er ei mwyn hi.2. Bydd rhaid i chi chwarae criced yn eu herbyn nhw.3. Wnewch chi eistedd ar ei phwys hi?4. Glou! Rhedwch ar eu hôl nhw!

5. Peidiwch chwerthin am ei ben e.

6. Ddylech chi ddim torri ar ei draws e.

7. Beth am ddod ar ein hôl ni?8. Cadi fydd yn cystadlu yn ei herbyn hi.

92

Page 93: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 39 (ARDDODIAID CYFANSAWDD)

2. Cysylltwch y ddau hanner i wneud brawddegau synhwyrol.

Roedd y plant bach wrth eu bodd gyda’r losin.

Fyddi di’n aros gartre ar dy ben dy hun heno?

Chwarddon nhw ar fy mhen pan gwympais i.

Bydd rhaid i chi deithio ar ei hyd hi am bum milltir.

Chwaraeoch chi’n dda iawn yn eu herbyn nhw dydd Sadwrn.

Mae coeden fawr yng nghanol y lawnt a blodau’n tyfu o’i chwmpas.

Wyt ti’n gallu mynd i’r cyfarfod yn fy lle i heno?

Dywedodd pawb y geiriau ar ei ôl e.

93

Page 94: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 43 (Y CYMAL ENWOL)

Cyfieithwch.

Atebion enghreifftiol

1. Clywais i fod deg plentyn newydd wedi dechrau yn yr ysgol dydd Llun

diwetha.

2. Mae hi’n gwybod fy mod i’n mynd allan heno.

3. Oeddet ti’n gwybod bod y pennaeth yn gadael?

4. Rydw i’n credu bydd hi’n mynd i Lundain wythnos nesa.

5. Rydw i’n gwybod basai’n well gyda ti adael yn gynnar.

6. Mae hi’n meddwl byddan nhw’n dda iawn.

7. Basen nhw bob amser yn meddwl ei bod hi’n iawn.

8. Roedd e’n gwybod fy mod i’n dost.

9. Ddywedais i ddim ei bod hi yn y ddamwain.

10. Doedden nhw ddim yn gwybod ein bod ni’n briod.

94

Page 95: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

UNED 44 (PWYSLEISIO)

Newidiwch y brawddegau yma i bwysleisio’r geiriau sy mewn print bras.

1. Gwyn sy’n byw ym Mangor.

2. Yng Nghaerdydd mae Non yn byw.

3. Y plant welodd ‘Cyw’ ar y teledu.

4. Ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol gwelodd yr athrawon y rhaglen.

5. Fi welodd ‘Pobol y Cwm’ ar y teledu.

6. Y ffilm newydd weloch chi yn y sinema.

7. Dafydd ydy’r rhedwr gorau yn yr ysgol.

8. Sglodion gafodd Siân i de.

9. I de cafodd Siân sglodion.

10. Siân gafodd sglodion i de.

95

Page 96: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

BERFAU

1a. Newidiwch y ffurfiau cadarnhaol i’r negyddol.

1. Doedden nhw ddim wedi mynd i’r neuadd.

2. Fyddwn ni ddim yn gadael yr ysgol am ddeg o’r gloch.

3. Dwyt ti ddim yn hwyr heddiw, Marc.

4. Ddylwn i ddim mynd â’r plant allan o’r ysgol yn aml.

5. Welais i ddim mochyn ar yr iard.

1b. Newidiwch y ffurfiau negyddol i’r cadarnhaol.

6. Dylen ni fod wedi gofyn am yr arian.

7. Bydda i’n cael cinio ysgol bob dydd.

8. Roeddech chi wedi gadael y drws ar agor.

9. Gwnaethoch chi lawer o sŵn.

10. Mae hi wedi prynu’r anrheg.

96

Page 97: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

1. Dyma ran o adroddiad plentyn. Mae gwallau ynddo fe ac mae’r pennaeth wedi gofyn i chi ei gywiro fe.

Mae John yn fachgen hapus iawn yn yr ysgol. Mae e’n cymysgu’n dda gyda

phlant eraill y dosbarth ac mae e wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed amser

chwarae. Yn anffodus, dydy e ddim yn gwrando ar y staff bob amser ac mae e’n

siarad gormod yn y gwersi. Y flwyddyn nesa, bydd rhaid iddo fe ganolbwyntio ym mhob gwers.

97

Page 98: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

3. Llenwi’r ffurflen negeseuon

Atebion enghreifftiol

Sefyllfa 1

Ysgol Maesllan Ffurflen negeseuonNeges oddi wrth: Tom Huws (Rôl/Swydd): Tad Meleri, Dosbarth 3Neges i: Athro dosbarth MeleriY neges: Mae Mr Huws eisiau dod i’r ysgol i siarad â chi amser cinio dydd Mawrth. Mae e eisiau i chi anfon neges destun ato fe ar 07883093554 i ddweud ydy hyn yn gyfleus.Llofnod:

Sefyllfa 2

Ysgol Maesllan Ffurflen negeseuonNeges oddi wrth: John Lloyd (Rôl/Swydd): Gweithiwr cymdeithasolNeges i: Y pennaethY neges: Mae teulu wedi symud i’r ardal ac mae’r rhieni eisiau i’r plant fynd i’r ysgol. Mae problemau felly hoffai Mr Lloyd siarad â chi. Ffoniwch e ar 01776 359842 am hanner awr wedi tri i weld beth sy’n bosibl os gwelwch yn dda.Llofnod:

98

Page 99: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

3. Gweithgaredd darllen

Darllenwch lythyr Alys ac atebwch y cwestiynau.

Atebion enghreifftiol

1. Roedd y ddamwain ym mis Ebrill.2. Mali ydy enw merch Alys.

3. Mali oedd wedi cael ofn.

4. Roedd y sŵn yn ofnadwy achos roedd Mali’n sgrechian ac roedd y ceffyl yn gweryru ac yn taro yn erbyn y car.

5. Cerddodd Elin ymlaen at y ceffyl yn araf ac yn dawel.

99

Page 100: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

4. Gweithgaredd darllen

Darllenwch stori Tom Williams ac atebwch y cwestiynau.

Atebion enghreifftiol

1. Roedd Tom yn marchogaeth tua deg o’r gloch y bore.2. Aur ydy enw ceffyl Tom.

3. Dim ond un car oedd ar y ffordd.

4. Cafodd Aur ofn achos clywodd e sŵn ofnadwy.5. Roedd Tom yn yr ambiwlans pan ddihunodd e.

100

Page 101: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

5. Gweithgaredd darllen

Darllenwch adroddiad PC John ac atebwch y cwestiynau.

Atebion enghreifftiol

1. Cafodd PC John yr alwad 999 am bum munud wedi deg.2. Roedd y ddamwain wedi digwydd ar y ffordd rhwng y Sugar Loaf a

Beulah.3. Cyrhaeddodd PC John y ddamwain am chwarter wedi deg.4. Roedd mam a merch fach yn y car.

5. Roedd y ceffyl yn neidio ac yn cicio’r car.

101

Page 102: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

6. Gweithgaredd darllen

Darllenwch ddyddiadur Elin ac atebwch y cwestiynau.

Atebion enghreifftiol

1. Dydd Mercher oedd hi.

2. Roedd Elin yn teithio o Beulah.3. Gadawodd hi am ddeg/ddeng munud wedi deg.4. Gwelodd Elin yr ambiwlans, yr heddlu a’r frigâd dân.5. Roedd ofn ar y bobl ar ochr y ffordd.

102

Page 103: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

7. Gweithgaredd darllen

Dewiswch yr ateb cywir o’r golofn ar y dde i orffen y brawddegau.

1. Mali oedd merch ... Alys.

2. Enw’r ceffyl oedd ... Aur.

3. Roedd Alys yn teithio yn y ... car coch.

4. Doedd dim ofn ar ... Elin.

5. Roedd Tom yn marchogaeth ... tua deg o’r gloch.

6. Mae Alys yn byw yn ... Llanwrtyd.

7. Roedd damwain rhwng ... car a cheffyl.

103

Page 104: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

8. Gweithgaredd darllen

Rhowch y brawddegau yn y drefn gywir.

1. Roedd Tom yn marchogaeth.

2. Clywodd Aur sŵn.

3. Cafodd PC John neges 999.

4. Aeth PC John at y ceffyl.

5. Helpodd y paramedics PC John.

6. Cyrhaeddodd Elin y ddamwain.

7. Ysgrifennodd Alys lythyr.

104

Page 105: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

9. Gweithgaredd darllen

Atebwch y cwestiynau.

Atebion enghreifftiol

1. Alys a Mali oedd yn y car coch.

2. Roedd y tywydd yn fendigedig.3. Syrthiodd Tom achos cafodd Aur ofn.

4. Doedd y ceffyl ddim yn rhedeg i ffwrdd achos roedd y ffrwyn yn sownd yn y car.

5. Roedd rhaid i PC John fynd i’r ysbyty achos roedd e wedi torri ei goes.6. Roedd Elin yn mynd i Lanymddyfri i siopa.7. Roedd y paramedics yn gofalu am y plismon a Tom pan gyrhaeddodd

Elin.

8. Roedd Mali’n sgrechian.

9. Cafodd PC John alwad ffôn.

10. Un fan oedd wedi stopio wrth y ddamwain.

105

Page 106: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

12. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu

Trowch y darn i’r lluosog.

Penderfynon ni adael ein gwaith marcio am dipyn a chanolbwyntio ar y

rhaglenni teledu. Roedd dramâu da yn cael eu dangos o wyth o’r gloch ymlaen

ac yna roedd perfformiadau gan blant ysgolion cynradd lleol. Basen ni wrth

ein bodd tasai plant ein dosbarthiadau ni yn gallu perfformio fel hyn.

106

Page 107: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

13. Gweithgaredd ysgrifennu/trafod

Cywirwch y darn.

16 Heol y ColegPentre Newydd

Abertawe26ain Mawrth

Annwyl Bob

Rydw i’n byw yn agos i’r Coleg. Rydw i’n mynd i Ysgol Gynradd Pentre

Newydd. Rydw i’n hoffi’r ysgol achos mae’r athrawon yn wych. Es i i’r sinema gyda ffrindiau dydd Sadwrn. Rydw i’n hoffi chwarae pêl-droed. Mae’n wych.

Tom

107

Page 108: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

14. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu

Trowch y darn i’r benywaidd. Byddwch chi’n siarad am Ms Jones a Siân.

Cerddodd Ms Jones yn araf at ei char. Roedd hi wedi blino’n lân ar ôl diwrnod

anodd yn yr ysgol. Roedd merch wedi dweud ei bod hi wedi gweiddi arni hi yn y

wers hanes. Roedd hyn yn wir ond roedd Siân wedi bod yn ferch ddrwg iawn

drwy’r wers. Taflodd hi a’i phartner awyrennau papur ar draws yr ystafell

ddosbarth a chreu annibendod. Roedd hi wedi cael llond bol ar y ddwy ohonyn

nhw, felly doedd dim rhyfedd iddi weiddi ar y merched.

108

Page 109: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

15. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu

Trowch y darn i’r gwrywaidd. Byddwch chi’n siarad am Mr Jones.

Roedd tri bachgen yn chwarae ar iard yr ysgol. Daeth ci i mewn i’r iard ac roedd

dau o’r bechgyn yn ofnus iawn. Rhedon nhw i’r ystafell athrawon i ddweud wrth

eu hathro ar unwaith. Yn anffodus, doedd e ddim yno. Roedd Mr Jones wedi

mynd i siopa yn ystod ei awr ginio. Roedd e’n mynd i fynydda gyda’i gariad dros

y penwythnos ac roedd angen trowsus dringo newydd arno fe.

109

Page 110: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

16. Gweithgaredd darllen/ysgrifennu

Trowch y darn i’r unigol.

Clywais i dy fod ti wedi ennill y cwpan yn yr eisteddfod eleni. Llongyfarchiadau

mawr i ti ac i’r dysgwr roeddet ti wedi ei baratoi. Rwyt ti wrth dy fodd ac yn

edrych ymlaen at y cyngerdd, mae’n siwr.

110

Page 111: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

18. Dod o hyd i wahaniaethau

Wil Gwen

bwrw glaw bwrw glaw a gwyntog

wrth y siop esgidiau newydd fynd heibio’r siop esgidiau

clywed sgrech ofnadwy clywed sŵn corn car a bang bach

ci mawr brown ci bach brown a gwyn

merch yn plygu dros y ci merch a’i mam yn rhedeg at y ci

dyn ifanc yn dod allan o’r car dyn canol oed yn dod allan o’r car

ffoniodd mam y ferch yr heddlu ffoniodd y dyn yr heddlu

y ci’n gorwedd yn llonydd y ci’n anadlu

111

Page 112: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

19. Ad-drefnwch y brawddegau i wneud sgwrs synhwyrol.

1. Pwy sy eisiau dewis llyfr stori heddiw?

2. Fi, Miss, rydw i eisiau dewis llyfr.

3. Iawn, Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant.

4. Dyma’r llyfr, Miss.

5. Diolch, Gwen. Nawr ’te, llun beth sy ar y clawr?

6. Llun Siôn Corn ar y sled.

7. Ie, llun Siôn Corn. Oes carw yn y llun hefyd?

8. Oes, mae dau garw yn y llun.

9. Gadewch i ni agor y llyfr i weld beth sy’n digwydd.

112

Page 113: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

20. Rhowch ffurf gywir y gair mewn cromfachau.

1. Roedd y pensiliau ar goll. Chwiliodd y plant amdanyn nhw ym mhob man.

2. Hoffwn i fynd i Sbaen ar fy ngwyliau.

3. Mae Jon yn well na fi mewn mathemateg.

4. Bydd hi’n dair oed fory.

5. Roedden nhw’n ddrwg iawn Amser Cylch.

6. Byddwn ni’n cael cawl i ginio dydd Iau.

7. Cawson nhw wisg ysgol newydd y llynedd.

8. Roedd llawer o blant yn absennol ddoe.

9. Dewch â’r lluniau yma os gwelwch yn dda.

10. Bydd hi’n mynd i’r pwll nofio hebddot ti.

113

Page 114: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

21. Cysylltwch y ddau hanner i wneud brawddegau.

1. Wyt ti’n meddwl bod Ben ar Lefel pedwar?

2. Hoffwn i gael swydd yn Llundain.

3. Bydda i’n mynd i’r dre fory.

4. Rydw i’n siwr bydd pawb yn yr ysgol fory.

5. Clywais i fod pawb wedi talu am y trip.

6. Ddylen nhw ddim cysgu yn y dosbarth.

7. Es i â’r plentyn i’r ysbyty.

8. Ysgrifennon ni at y prif weinidog.

9. Cerddodd hi i’r ysgol.

10.Ddarllenais i ddim yn y gwasanaeth.

114

Page 115: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

22. Ad-drefnwch yr ymadroddion i greu brawddegau. Cofiwch atalnodi ar y diwedd.

1. Clywais i amdanoch chi’n prynu fy anrheg i.

2. Oeddet ti’n gwybod bod ofn cathod arni hi?

3. Bydd hi’n dechrau talu am y gwyliau ym mis Mai.

4. Yn yr ysgol gyfun roedd hi’n arfer gweithio cyn dod yma.

5. Ble byddan nhw’n byw os bydd hi’n cael y swydd?

115

Page 116: Web viewpin(nau) ffelt. naddwr ... Roedd fy stumog i’n troi fel peiriant golchi dillad achos ... Gwen, dewisa di lyfr. Dewch chi i eistedd ar y mat, blant. Dyma’r llyfr

CYFFREDINOL

23. Llenwch y bylchau gyda’r gair cywir. Mae mwy o eiriau nag o fylchau ac

mae’n bosib defnyddio’r un gair fwy nag unwaith.

1. Gofynnwch i bennaeth yr ysgol am ganiatâd i adael yn gynnar.

2. Roedd hi wedi bod yn yr ysgol am dair blynedd.

3. Peidiwch ag anghofio dod â chot law a phecyn bwyd gyda chi.

4. Mae Rhys wedi ysgrifennu sawl llythyr at y Pennaeth.

5. Wyt ti wedi clywed amdanyn nhw’n mynd i weld y pantomeim?

6. Bydd y bws yn gadael mewn hanner awr.

7. Mae hi wedi mynd â llyfrau Blwyddyn 6 i’r storfa.

8. Maen nhw wedi bod yn y dosbarth drwy’r dydd.

116