16
1 Y GADWYN MEDI 2015 CYNNWYS Cliciwch ar dolennau isod NODION Y GOLYGYDD CYMORTH CRISTNOGOL YN 70 OED EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MALDWYN A’R GORORAU PATAGONIA: CYFLE I DDYSGU AC I FEDDWL MOROEDD O WAHANIAETH ENWAU LLEOEDD CAERDYDD A’R CYFFINIAU - Tir-shet YNYSOEDD GORLLEWINOL YR ALBAN A CHADW’R SUL COFIO A’R DYFODOL ?

Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

1

Y GADWYN MEDI 2015

CYNNWYS

Cliciwch ar dolennau isod

NODION Y GOLYGYDD

CYMORTH CRISTNOGOL YN 70 OED

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MALDWYN A’R GORORAU

PATAGONIA: CYFLE I DDYSGU AC I FEDDWL

MOROEDD O WAHANIAETH

ENWAU LLEOEDD CAERDYDD A’R CYFFINIAU - Tir-shet

YNYSOEDD GORLLEWINOL YR ALBAN A CHADW’R SUL

COFIO – A’R DYFODOL?

Page 2: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

2

NODION Y GOLYGYDD

Wele’r nodion ar gyfer mis Medi a ninnau heb rifyn yn ystod dau fis yr haf. Cymysglyd fu’r tywydd ond

cawsom fel Cymry’r cyfle i fwynhau digwyddiadau fel Tafwyl yn y brifddinas a’r Eisteddfod Genedlaethol

ym Meifod, un o’r mannau hyfrytaf yng Nghymru. Bu’r ddwy ŵyl yn llwyddiannus iawn a’r tebyg yw fod

nifer ohonom wedi manteisio ar y cyfle i ymweld â hwy a’u mwynhau. Erbyn hyn cawsom gyfle i ymlacio rhyw ychydig cyn bwrw ati i ddechrau ar weithgarwch tymor yr hydref a’r gaeaf yn y Crwys. Carwn ddiolch i

bawb o blith ein haelodau a fu’n brysur wrthi’n paratoi rhaglenni ar gyfer y cymdeithasau a gweithgareddau

eraill yr eglwys yn ystod yr wythnosau sydd i ddod. Mae eu cyfraniad yn dangos pa mor werthfawr ydynt a phawb arall sy’n ysgwyddo beichiau’r achos mewn sawl cyfeiriad.

Mae rhai o’n haelodau mewn ysbytai neu wedi bod mewn ysbytai dros y mis diwethaf. Bu Mr Douglas

Griffiths yn yr ysbyty am gyfnod byr yn ddiweddar ond erbyn hyn mae wedi dychwelyd i’w gartref. Bu Mrs

Eirlys Jones, Radyr, hefyd yn Ysbyty’r Brifysgol wedi iddi gael damwain yn ei chartref ac mae hithau hefyd erbyn hyn wedi dod yn ôl i glydwch ei chartref. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â hi o golli ei brawd hynaf

ym Mhrestatyn ym mis Gorffennaf. Gwyddom nad yw Mr Keith Jones yn dda iawn ei iechyd y ddyddiau hyn

ac, yn ôl ei ddymuniad, byddai’n gwerthfawrogi cael cwmni un o ddynion yr eglwys i ymweld ag ef am sgwrs o bryd i’w gilydd (3, The Tudors, Melrose Avenue, Penylan; 20/472054). Rwy’n siwr y bydd yna ymateb

ffafriol i’r cais yma.

Mae gennym newyddion da i’w rannu. Llongyfarchwn Catrin Kemp ar ei phriodas ag Oliver Smith yng Ngwesty Llys Meddyg, Trefdraeth, ar Fehefin 6ed. Maent wedi ymgartrefu yn Llanishen. Priodwyd Lowri

Richards, Rhiwbeina, a Trevor Huelin yng nghapel Bethel fore Gwener Awst 28ain a dymunwn bob bendith

iddynt. Ar ddydd Sadwrn y Pasg eleni priodwyd Elen MacFadyen a Robert Edward Meredith yn Y Crwys a

chan ei bod yn gweithio erbyn hyn yn Llundain, mae’n mynychu oedfaon yng nghapel Clapham Junction. Ymddiheuraf am fod mor ddiweddar yn cyfeirio at yr achlysur hapus. Yr un pryd cydymdeimlaf yn ddwys ag

Elen a’i mam, Mrs Gwen MacFadyen a’r teulu, o golli priod a thad annwyl yn ddiweddar.

Yn ddiweddar hefyd collodd Mrs Ray Ann James ei chwaer Gwyneth yn sydyn. Bu’n byw ar hyd ei hoes yng Nghwmllynfell a chydymdeimlwn yn ddwys â Ray Ann a’r teulu oll yn eu profedigaeth lem o golli un a oedd

yn fawr ei pharch yn ei chymdogaeth.

Hyfrydwch i mi yw cael cofnodi dwy enedigaeth, sef Katy Sian, merch i Gethin a Helen Edwards ac wyres fach i Gwen a Gareth Edwards, y Mynydd Bychan, ar Orffennaf 14eg, a Martha Haf i Rhiannon ac Owain

Evans, wyres fach i Arthur a Diana, Yr Eglwysnewydd, ar Orffennaf 25ain. Llongyfarchiadau calonnog i’r

rhieni balch ac i’r teidiau a’r neiniau sydd wedi gwirioni ar ddyfod y ddwy fach i lonni eu bywydau. Ar

Orffennaf 5ed bedyddiwyd Gwion William, mab Buddug a David Cope, a’r Parch Glyn Tudwal Jones, ein cyn-weinidog, yn gwasanaethu, a llongyfarchwn hwythau hefyd.

Yn dilyn dwy flynedd o wasanaeth mewn Ysbyty Cristnogol yn Bangladesh, a sbel yng Ngholeg Cenhadol

Redcliffe, Caerloyw, mae Dr Rebecca Jones wedi derbyn swydd dros dro fel Ymgynghorwr Anaesthetig yn Ysbyty Brenhinol Bryste. Byddai Rebecca’n gyson iawn yn anfon adroddiadau manwl i’r Gadwyn o’i

phrofiadau yn Bangladesh, a gwerthfawrogwyd bob un ohonynt yn fawr. Llongyfarchwn hi ar dderbyn y

swydd ym Mryste. Llongyfarchiadau hefyd i bobl ifanc yr eglwys sydd wedi llwyddo yr haf hwn mewn

arholiadau TGAU a Lefel A. Dymunwn yn dda iddynt yn y dyfodol. Maent i gyd yn haeddu canmoliaeth am eu llafur.

Cynhelir paned a sgwrs yng nghartref y Parchedig Lona Roberts, 75 Station Road, Llanishen, fore dydd Iau,

Medi 24ain, am 10.30. Bydd Mrs Sarah Morris yn dod i sgwrsio am brosiect sydd o dan ofal elusen Gristnogol ‘Gobaith i Fenywod’ (Hope4Women). Diben y prosiect hwn yw dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd i

gael hwyl a sgwrs ac i ddefnyddio eu sgiliau i wnïo ffrogiau, trowsusau byr a dilladau eraill, gan ddefnyddio

unrhyw ddefnyddiau sbâr ar gyfer eu hanfon allan a’u dosbarthu mewn gwledydd tlawd ledled y byd. Ewch i glywed rhagor am y prosiect yma a chysylltwch â Mrs Nans Couch am fwy o wybodaeth.

Cofiwch am Ffair Fedi y Cylch Cymorth yn y Festri fore Sul Medi 13eg wedi’r oedfa i godi arian i elusennau

lleol. Ceir amrywiaeth o stondinau - llyfrau ail-law i oedolion a phlant, cacennau, tipyn o bopeth (crefftau,

losin, teganau ac ati). Gadewch eich cyfraniadau yn y festri (ystafell feithrin) neu dewch â nhw fore Sul cyn yr oedfa.

Cynhelir ENCIL Chwiorydd y De ddydd Mawrth. Medi 15fed yng Ngholeg Trefeca o dan arweiniad y Parch.

Beti Wyn James, Caerfyrddin. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Mrs Nans Couch.

Page 3: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

3

Nos Wener, Hydref 9fed am 7.30, yn Eglwys Unedig Ddiwygiedig Windsor Place cynhelir Darlith William

Hodgkins flynyddol yn Saesneg gan Mr Huw Edwards, Llundain, ar bwnc y mae ef wedi ymchwilio ynddo ac

wedi cyhoeddi cyfrol swmpus arno, sef City Mission: the Story of London’s Welsh Chapels. Mynediad am ddim ac estynnir croeso cynnes i bawb.

Dyma rai cyhoeddiadau a nodion eraill a fydd o ddiddordeb i chi:

Cymdeithas y Beibl

Nos Fercher 16 Medi am 7 o’r gloch yr hwyr yn Eglwys Dewi Sant, bydd oedfa fer yn cynnwys anerchiad gan Dai Woolridge, un o swyddogion y Gymdeithas, ac i ddilyn, cyfle i gefnogi gwaith y Gymdeithas trwy

brynu o’r stondinau amrywiol y bydd chwiorydd y gwahanol eglwysi wedi’u paratoi. Mynediad yn £1.

Llawer o Ddiolch

Yn ystod gwasanaethau’r Sul ar 19 Gorffennaf â’r Grŵp Merched yn gyfrifol amdanyn nhw, bu casgliad at weithgaredd un o’r llochesi i ferched yn y de yma. Gwnaed casgliad o £350. Daeth cerdyn o ddiolch yn

cydnabod y rhodd gyda gair i ddweud y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio mewn sesiynau cynghori wedi

profiadau o gam-drin.

Taith gerdded i godi arian at Apêl Ysbyty Shillong, bore Sadwrn 19 Medi

Bu hanes yn y Goleuad am aelodau capeli Llundain yn teithio ar feics o gapel i gapel i godi arian at yr apêl.

Ysgogodd hyn ni i feddwl am wneud rhywbeth tebyg yma yng Nghaerdydd ond ar droed. Ymunwch â ni wrth

adeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd. Ymhle roedd Capel Seion te? Wel, yn nes at yr afon, ynghanol y

siopau bellach ac fe alwn heibio yno ar ein ffordd i Gapel Salem. Fe ddown yn ôl i’r Crwys drwy Erddi

Sophia. Gobeithio y daw sawl un ohonoch i ymuno yn y daith, neu ran ohoni. Codir £5 ar oedolion. Dewch â brechdanau ar gyfer cinio yn y Crwys ar derfyn y daith.

Cynnwys

Page 4: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

4

CYMORTH CRISTNOGOL YN 70 OED

Eleni mae Cymorth Cristnogol yn dathlu 70 mlynedd o nawdd a gwasanaeth. Ffurfiwyd yr elusen ym 1945 yn

sgîl yr Ail Ryfel Byd, a'r amcan ydoedd ail godi cymunedau a gwella cyflwr y trueiniaid yn Ewrop a oedd

wedi colli gymaint yn ystod y rhyfel.

Sefydlwyd pwyllgor a enwyd yn wreiddiol 'Ailadeiladu Cristnogol yn Ewrop', a'r nod oedd i sbarduno eglwysi

ym Mhrydain i estyn help llaw i'r niferoedd yn Ewrop a oedd eisoes wedi eu dychwelyd i'w gwledydd eu

hunain, ond a oedd yn byw mewn gwersylloedd fel ffoaduriaid am fod eu cartrefi wedi eu dinistrio.

Yn ôl yr arfer roedd ymateb y Crwys yn hael a noddwyd gennym deulu digartref yn Awstria. Codwyd arian er mwyn gofalu eu bod yn cael bwyd a dillad ac, mewn ychydig o amser, adeiladwyd cartref newydd iddynt.

Mae gen i frith gof i ddwy chwaer o'r teulu ymweld â'r Crwys tua diwedd y 1950au a chael gwyliau yng

Nghaerdydd, gan aros yng nghartrefi rhai o aelodau'r capel.

Dilynwyd y patrwm uchod o fabwysiadu teuluoedd Ewropeaidd gan nifer o eglwysi ym Mhrydain, ac erbyn y

1960au roedd cyflwr trigolion Gorllewin Ewrop wedi gwella'n fawr.

Ym 1964 penderfynwyd y dylai'r enw newid o 'Ailadeiladu Cristnogol yn Ewrop' i 'Cymorth Cristnogol' gan fod anghenion gan bobl ledled y byd. Ehangodd yr elusen ei rhan gan fynd i feysydd eraill. Heddiw mae

Cymorth Cristnogol yn rhoi cymorth mewn argyfwng fel daeargryn neu lifogydd, yn ceisio creu byd mwy

teg drwy alluogi tlodion i gynhyrchu drostynt eu hunain yn adeiladu ysbytai ac ysgolion i’r rheini sydd

hebddynt yn ogystal â chynorthwyo ffoaduriaid - gwaith sydd yn bwysicach nag a fuerioed o'r blaen gan fod chwe-deg miliwn ohonynt yn y byd ar hyn o bryd, a'u bywydau yn druenus.

Ar hyd y blynyddoedd mae aelodau'r Crwys wedi ymateb yn frwdfrydig i'r alwad am gymorth drwy hybu

Masnach Deg, cefnogi ffeiriau a boreau coffi i godi arian, a thrwy wasanaethu ar y pwyllgorau, boed y rheini'n bwyllgorau lleol neu genedlaethol.

Os hoffech gael mwy o fanylion am ddatblygiad Cymorth Cristnogol yma yng Nghymru gallaf gymeradwyo

llyfr gwerthfawr y Parchedig Wynn Vittle, sef Ehangu Gorwelion. Fe welwch nifer o enwau cyfarwydd iawn ynddo. Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni inodi 70 mlynedd o waith, ac

ar ddydd Sadwrn y 26ain o Fedi fe gynhelirgwasanaeth penblwydd Cymorth Cristnogol yn Eglwys Gadeiriol

Aberhonddu am 2.30. Mae gwahoddiad i bawb sydd yn ymddiddori yn yr achos ac fe fyddai'n hyfryd i weld

nifer da o aelodau'r Crwys yn bresennol yno.

Eleri Bines

Cynnwys

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL MALDWYN A’R GORORAU

‘Yma am yr wythnos’? ‘Nag ydw, tridiau’n unig’ Ond yn y tridiau hynny fe ges i wledd. Wrth daflu’r gip olaf

ar raglen yr Eisteddfod cyn ei hanfon i’r sach ailgylchu sylwais ar eiriau’r clawr ‘Yr Ŵyl i Bawb’, a dyna gawsom. O’r cybiau bach yn gweiddi am gael gweld ‘Sioe Cyw’ (am y trydydd tro yn ôl un rhiant) a Gŵyl

Llên Plant a’r Neuadd Ddawns i’r rhai hŷn yn gyfle i ddefnyddio’r dychymyg, a chael gwared â thipyn o

egni, i Faes B ar gyfer yr arddegau, y glaslanciau a’r lodesi. Am y tro cyntaf fe aeth yr hynaf o’n hwyrion i Faes B eleni a dod yn ôl yn gefnogwr brwd o’r bandiau Cymreig. Faint o’r maes arall welodd o? – gwell

peidio â gofyn.

Dechrau’r Eisteddfod i mi oedd Noson Lawen nos Lun (yr unig dro i mi fynychu’r Pafiliwn). Roedd hi’n

noson o ddifyrrwch llwyr. Allwn i ddim llai na rhyfeddu ac ymfalchïo yn y talentau sydd gennym fel Cymry i ddiddanu cynulleidfa. Diolch i’r arlwy mae S4C yn ei baratoi ar ein cyfer – rwy’n gallu mwynhau llawer o

arlwy’r Pafiliwn wrth wylio’r uchelbwyntiau wedi cyrraedd adref.

Ychwanegiad cymharol ddiweddar i’r Eisteddfod yw’r ‘Tŷ Gwerin’, ac fel y cyfeiria’r enw, yr arlwy werinol o’n diwylliant a geir yma ac mae rhyw gynhesrwydd braf yn perthyn i’r babell hon. Yma y ces i’r cyfle i

Page 5: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

5

wrando ar deyrnged hwyliog ac emosiynol i’r ddiweddar Dr Meredydd Evans, un o’r sawl ysgolhaig a

gollasom fel cenedl eleni, ac yn addas iawn bu teyrnged i bob un ohonynt yn yr Eisteddfod.

Fel pob eisteddfotwraig gydwybodol fydda i wedi gwneud fy ngwaith cartref a dynodi pa ddarlithoedd fydda i am eu mynychu ymlaen llaw. Nid bob tro mae rhywun yn gallu cyrraedd y babell arfaethedig gan y bydd

sgwrs â hwn a hwn neu hon a hon, na fyddaf wedi eu gweld ers y Steddfod ddiwethaf, yn mynd yn fwy na

‘dach chi yma am yr wythnos a lle dach chi’n aros?’, ond i mi mae cymdeithasu yn rhan annatod o atyniadau’r

Steddfod.

Ac eleni’n 150 mlwyddiant y Glaniad nid annisgwyl felly oedd cael darlithoedd ar y Cymry’n ymfudo, gan

amlaf o orthrwm tirfeddianwyr ac Eglwys Loegr, a diddorol ac agoriad llygad oedd darlithoedd Elvey

Macdonald ac R. Alun Evans ar y pwnc. Dysgais fod 108 o fethiannau o wladoli wedi bod ar ran ni’r Cymry cyn yr ymfudo i Batagonia hyd yn oed. Roeddwn wedi clywed am fenter Morgan John Rhys, y radical a

wrthwynebai gaethwasiaeth ac a sefydlodd Wladfa Beulah 1795 – 1802 ym Mhensylfania, ond enwau

newydd i mi oedd Samuel Roberts a Thomas Lloyd (y Crynwr a sefydlodd Fanc Lloyd), y ddau hyn eto wedi ceisio gwladychu Pennsylfania, William Vaughan, un o deulu’r Gelli Aur a sefydlodd y Nova Cambria yn

Newfoundland, ac yn 1853 aeth 100 o drigolion de Cymru i geisio gwladychu Brasil! Ym Maldwyn gwelwyd

yn 1795 (70 mlynedd cyn menter y Mimosa!) hanner cant o’r trigolion yn gadael am diroedd brasach yr

Amerig, taith oedd â dechreuad hynod o gythryblus iddi cyn iddi o’r diwedd hwylio ar y llong Maria o Fryste.

Pleser arall oedd cael fy swyno gan ddatganiadau o ganeuon gwerin Y Wladfa a Chymru gan y gitarydd

Rhisiart Arwel a’r delynores Gwenan Gibbard yng nghyntedd y ‘Lle Celf’.Syndod i mi oedd deall mai

geiriau Ceiriog oedd i’r gân dlos ‘Mae Lisa fach yn dair blwydd oed’, a minnau wedi ei chysylltu erioed â Rene Griffiths a Phatagonia!

Â’r Eisteddfod ym Maldwyn yn naturiol roedd sawl darlith ar gymeriadau’r sir.Braf fyddai cael y gallu i’n

cario’n ôl i’r Canol Oesoedd a chyfarfod â’r mynach o Abaty Ystrad Marchell a gofnododd, yn nhyb Dr Sioned Davies, freuddwyd gythryblus a chymhleth Rhonabwy.Roedd Abaty Ystrad Marchell heb fod ymhell

o’r Trallwng ond prin yw gweddillion yr adfail heddiw.

Portread o William Jones Dôl Hywel, Llangadfan, un o gymeriadau lliwgar Maldwyn, ac un arall o

Faldwyn fyddai wedi ymfudo i’r Amerig rhag gormes Eglwys Loegr a Wyniaid Wynstay, oedd William Jones (1726-1795) ond a rwystrwyd oherwydd tlodi a salwch.Cyfeiriwyd ato gan Dr Geraint Jenkins yn ei ddarlith

fywiog fel y ‘Voltaire gwledig’, cefnogwr brwd chwyldroadau Ffrainc a’r Amerig a gwrthwynebydd

caethwasiaeth. Ymgyrchodd o blaid sefydlu Llyfrgell Genedlaethol. Roedd yn llythyrydd cyson a Llywodraeth y dydd yn cwyno am gyflwr truenus ei bobl, a bu’n ddigon o ddraenen yn eu hystlys iddynt gael

ysbïwr i gadw llygad arno hyd ddiwedd ei oes! Nid ‘mwyn’ fyddai’r ansoddair i ddisgrifio William Jones!

Ond diolch amdano.

Breuddwyd nas gwireddwyd yn ystod ei oes oedd un William Jones i gael llyfrgell Genedlaethol, ond breuddwyd wireddwyd oedd un Iorwerth Peate (un arall o feibion Maldwyn) i sefydlu Amgueddfa Werin yn

Sain Ffagan fel y clywsom yn narlith ddifyr Dr Eirwyn Wiliam, un o’n haelodau wrth gwrs. Braf oedd gweld

hefyd enwau Ffion Hague a Dr Manon Antoniazzi. dwy arall o’n haelodau a gymerodd ran yng ngweithgareddau’r Eisteddfod – Ffion yn cynnal sgwrs ag Angharad Mair a Manon yn traddodi darlith ar

‘Cysylltiad y Tuduriaid a Chymru a’i Beirdd’. Yn anffodus collais gyfraniad y ddwy. Amhosibl ei dal hi ym

mhobman ond gobeithio y daw cyfle arall.

Tridiau o gael fy addysgu, fy niddanu a chymdeithasu fu’r Eisteddfod i mi ym mro hyfryd Maldwyn. ‘Yma

am yr wythnos’? Rwy’n gobeithio cael dweud ‘ydw’ pan ddaw’r steddfod i’r Fenni flwyddyn nesaf.

Catherine Jobbins

Cynnwys

Page 6: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

6

PATAGONIA: CYFLE I DDYSGU AC I FEDDWL

Mae eleni’n flwyddyn dathlu can mlynedd a hanner glaniad y Cymry cyntaf ym Mhatagonia. Mae’r sylw yn y

cyfryngau ac yn y wasg yn gymorth mawr i unigolion tebyg i minnau gael bod yn rhan o’r hanes a’r wefr, os

yn anuniongyrchol, gan nad oes gen i, hyd y gwn i, ddim cysylltiad o gwbl â Phatagonia nac â’r Cymry gwrol hynny a ymgartrefodd yno.

Ni allwn lai nag edmygu ymdrech yr ymfudwyr cyntaf hynny nac yn wir ymdrechion rhai eraill a aeth ar eu

hôl gan gofio mai am resymau ‘anrhydedd’ yr aethant yno, yn unol â delfrydau’r dydd yng Nghymru ac nid am resymau ‘ymarferol’ yn unig. Mae eu disgynyddion yng Nghymru ac ym Mhatagonia yn haeddiannol

falch ohonyn nhw am yr ymgais arwrol a fu ac am y parhad a’r mentrau sydd i’w gweld hyd heddiw ym

Mhatagonia i ddiogelu ac i drosglwyddo iaith a diwylliant eu cyndeidiau.

Mae’r hanes yn gyffredinol yn hysbys i bawb erbyn hyn ac mae’n bosib ar hyn o bryd bod y Mimosa yn un o’r

llongau enwocaf, os nad y llong enwocaf, y mae sôn amdani yn Gymraeg.

Adeiladwyd y Mimosa yn 1853 yn Aberdeen. Llong de oedd hi’n wreiddiol a gafodd ei haddasu i gludo’r

teithwyr. Talodd y teithwyr £12 y pen (£6 y pen i’r plant) i gael defnyddio’r llong. Hwyliodd y Mimosa o Lerpwl ar Fai 28 1865 i Batagonia ac roedd dros 150 o ymfudwyr ar ei bwrdd y diwrnod hwnnw. Glaniodd y

cwmni ar Orffennaf 28 1865 yn yr Ariannin gan roi’r enw Porth Madryn ar eu man glanio.

Roedd Edward Cynrig Roberts a Lewis Jones eisoes ym Mhatagonia yn paratoi ar gyfer dyfodiad gweddill yr ymfudwyr. Y nod oedd sefydlu gwladfa Gymreig a fyddai’n diogelu’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig,

a’r bwriad oedd sefydlu’r wladfa honno yn Nyffryn Chubut yn yr Ariannin.

Teuluoedd ifanc yn y bôn oedd nifer o’r teithwyr gwreiddiol i Batagonia - 56 o oedolion priod – yn ddiddorol yn ôl y rhestr, mewn cyfnod o deuluoedd mawr. Nid oedd y teuluoedd hyn yn fawr ac roedd llawer o’r plant

yn fach, sy’n rhoi’r argraff nad parau oedd yn briod ers blynyddoedd oedd y rhan fwyaf o’r rhai a fentrodd, 33

o ddynion sengl a 12 o fenywod sengl a oedd naill ai’n chwiorydd neu’n forynion i rai o’r teuluoedd oedd

gweddill yr oedolion. Ychydig iawn o’r Cymry hyn oedd wedi teithio y tu allan i’w milltir sgwâr. Roedd y mannau ymgynnull ar gyfer y daith yn Aberdâr ac Aberpennar, yn Aberystwyth, Rhosllannerchrugog, Bangor,

Blaenau Ffestiniog, a Lerpwl ei hun, ymhlith mannau eraill. Deuai rhai o’r teuluoedd o gefn gwlad ac eraill o

ardaloedd diwydiannol y De a’r Gogledd, ac yn eu plith hefyd roedd athro ysgol, tri gweinidog, adeiladwr a meddyg. Cyn gadael am y wladfa etholwyd cyngor ganddynt i’w llywodraethu pan gyrhaeddent yno. Roedd y

cyngor yn cynnwys deuddeg aelod, llywydd, ysgrifennydd, trysorydd ac archwilydd.

Ar y dyddiad penodedig, ymgasglodd cannoedd o bobl, gan gynnwys Michael D Jones a’i wraig, yn y dociau

yn Lerpwl i ffarwelio â’r teithwyr. Yn anffodus bu rhaid i’r Mimosa aros ar Afon Merswy am dridiau cyn symud allan dan wynt teg i’r môr. O ran y tywydd, ni fu’r siwrnai yn rhy wael er y bu rhaid wynebu mwy nag

un storm. Roedd y berthynas â chapten y llong yn un digon annifyr. Collwyd pedwar o’r plant yn ystod y

daith, ganwyd dau blentyn a phriododd dau bâr.

Cyrhaeddodd y Mimosa y tir newydd ar Orffennaf 27 ar ôl bron deufis a thaith o 7,000 o filltiroedd cyn dod o

fewn cyrraedd i’r tir mawr. Bu rhaid iddyn nhw aros mwy na diwrnod a chael eu rhwyfo dros bellter cyn

cyrraedd y lan gan gludo offer fferm a chelfi gyda nhw.

Nid oes sicrwydd beth ddigwyddodd i’r Mimosa wedi iddi adael Patagonia. Ar un pryd, yn ei dyddiau gorau,

roedd llun ohoni lle câi ei gweld yn hwylio’n braf y tu allan i Harbwr Sydney yn Awstralia ond, yn anffodus,

diflannodd y llun hwnnw a hyd yma ’does neb yn gwybod i ble yr aeth. Y gobaith yw ei bod ar gael yn

rhywle ac y daw i glawr fel y gellir ei rhoi mewn man anrhydeddus. Eleni dadorchuddiwyd cofeb yn y dociau yn Lerpwl i ddathlu 150 mlwyddiant taith yr ymfudwyr cyntaf i Batagonia.

Mae yna hanes i bob un o’r teuluoedd ac unigolion hynny a fentrodd yn 1865 ac wedi hynny, ac er na wn i

ddim mwy am hyn nag a glywais ar y cyfryngau neu a ddarllenais amdano mae gen i frith syniad am rai agweddau o’r profiad gan i nifer o ’nheulu innau symud o’u cartref yn ardal Abertawe i ‘Merica bell’ tua’r un

adeg. Mae cyfres o lythyrau gen i a ysgrifennwyd o America gan aelodau o’r teulu yn ystod y cyfnod yma nôl

at y teulu yn Abertawe. Does fawr ddim o werth i neb arall ond i’n teulu ni ynddyn nhw ond hwnt ac yma ceir cipolwg ar ambell beth y gellir ei gymharu neu ei gyferbynnu â’r fenter i Batagonia.

Wrth feddwl am hyn i gyd daeth i’m meddwl oedfa fore Sul rai blynyddoedd yn ôl yn y capel yn Abertawe.

Roedd y gynulleidfa yn canu o raglen y Gymanfa Ganu er mwyn paratoi ar gyfer y Gymanfa honno.

‘Milwaukee’ oedd enw tôn yr emyn a ganwyd i ddiweddu’r oedfa a’r enw hwnnw fu’n sbardun i sgwrs a

Page 7: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

7

gododd ymhlith nifer o’r gynulleidfa wedi’r oedfa. Dechreuwyd crybwyll enwau lleoedd megis Roxborough,

Harrisburg, Worthing a Scranton ymhlith eraill, a Montana a San Diego hyd yn oed yn gyrchfannau i aelodau

o’u teuluoedd yn ystod cyfnod yr ymfudo. Un ffaith ddiddorol oedd i nifer o’r rhai hyn a aeth ddychwelyd i Gymru am wahanol resymau ac mai eu disgynyddion hwythau oedd rhai oedd yn y capel y bore Sul hwnnw.

Nid yw’n anodd dychmygu sut y teimlai aelodau o’r teuluoedd hyn a oedd ar ôl yn Abertawe wrth weld y

llong a’u cludai i Lerpwl i ddal y llong fawr i America yn symud ar draws bae eang Abertawe ar ei ffordd o’r

porthladd. Ac mae’n siŵr mai’r un teimlad fyddai gan deuluoedd y teithwyr i Batagonia wrth eu gweld hwythau yn ymadael. Dyna pam roedd y llythyrau a ddeuai nôl o America mor bwysig yn fy nheulu i ac y

cawson eu trysori. Mae ôl traul a darllen ar y rhai sydd gen i a gellir dychmygu pan ddeuai pwl o hiraeth y

byddai tynnu’r llythyrau allan a’u darllen yn dofi rhywfaint ar y briw.

Mae 1865 yn taro sawl tant hyd yn oed i rywun fel fi nad yw’n hanesydd.

1865 – dyddiad y glaniad a’r dyddiad ym Mhatagonia pryd y cafodd menywod bleidleisio yn etholiad y

Cymry yno – y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn y byd mae’n debyg.

1865 wrth gwrs oedd diwedd rhyfel cartref gwaedlyd yr Unol Daleithiau pryd y lladdwyd hyd at 750,000 o

ddynion dan 45 oed heb sôn am y niferoedd a laddwyd yn y boblogaeth gyffredinol. Wedi 1865 gwelwyd

ymdrech fawr yn America i uno’r wlad a’i chadw’n unedig. Felly, yn synhwyrol ddigon, nid dyma fyddai’r

cyfnod gorau o bell ffordd i geisio sefydlu gwladfa o Gymry Cymraeg anghydffurfiol yno. Bu America bell erbyn hynny yn gyrchfan i gymunedau o ddarpar wladfawyr ers canrifoedd. Er enghraifft, o ardal Abertawe ei

hun flynyddoedd lawer ynghynt yr aethai cymuned o dan John Miles i sefydlu Rehoboth, Massachusetts, ac

mae hanes William Penn, Morgan John Rhys a Samuel Roberts a’u cymunedau hwythau ymhlith eraill yn adnabyddus. Ond gwyddom mai ofer fu pob ymgais yn UDA. Mae’n debyg i Michael D Jones ystyried

Oregon a Wisconsin yn ardaloedd posib ar gyfer gwladfa Gymraeg yn UDA yn ogystal â Chanada a

Phalestina, ond yn y pen draw i Batagonia bell yr aeth cymuned Michael D Jones ac nid i UDA nac i unman arall.

Mae’n ymddangos i’r ymfudwyr cyntaf i Batagonia synhwyro y gallai’r fenter hon lwyddo ac roedd sail

ganddyn nhw dros gredu hynny. Roedd Guillermo Ramos, Gweinidog Materion Cartref yr Ariannin, wedi

addo y câi Patagonia ei chydnabod yn dalaith yn yr Ariannin wedi i’w phoblogaeth gyrraedd 20,000. Yn anffodus ni wnaeth y Llywodraeth gadarnhau’r addewid gan ei bod yn ofni y byddai Prydain yn defnyddio

Patagonia yn ffordd i ddod i mewn a goresgyn yr Ariannin. Er hyn, clywn i’r Llywodraeth dalu’r brodorion

lleol i beidio ag ymosod ar y Cymry, yn wir i’r brodorion hynny ddysgu’r Cymry i arfer y sgiliau y byddai eu hangen arnyn nhw i gael goroesi ar baith tiroedd y wlad. Ac mor fuan ag 1875 roedd llywodraeth yr Ariannin

wedi cytuno bod y tiroedd lle roedd y Cymry wedi ymgartrefu yn perthyn i’r Cymry a bu hyn yn sbardun i

gannoedd o bobl eraill ymfudo i Batagonia.

Un peth sy’n anodd i ni ei ddeall heddiw yw nad oedd yr ymsefydlwyr, boed hynny ym Mhatagonia neu yn yr Unol Daleithiau neu yn unman arall ar y pryd, yn amau’r hawliau concwest a oedd ganddynt gan bod yr

hawliau hynny yn cael eu hystyried yn rhai cyfiawn a fyddai’n galluogi cynnydd.Gallwn dybied, felly, fod

unrhyw gyfle i sefydlu gwladfa yn Unol Daleithiau America wedi hen fynd erbyn 1865. Mae’n ddiddorol ac yn adlewyrchu rhai syniadau’r oes yng Nghymru iddi fod yn well gan Michael D Jones a’i ddilynwyr

ymddiried mewn pobl Sbaenaidd / Ewropeaidd Gatholig ym mhellafoedd daear nag mewn pobl Saesneg

Brotestannaidd fel y rhai y gallen nhw ddod ar eu traws mewn mannau eraill. Os mai dewis rhwng y Pab a’r Frenhines oedd hi i fod, y Pab enillodd y tro hwn.

‘The Welsh make great Americans’ meddai George Washington dipyn o amser ynghynt. Ac wrth gofio hefyd

mai’r Albanwyr roddodd yr arian i adeiladu’r rheilffyrdd, y Cymry wnaeth y cledrau a’r Gwyddelod wnaeth

eu gosod nhw er mwyn agor America fawr, nid yw’n anodd synied nad gwaith hawdd fyddai i bobl barhau i ymlynu wrth eu Cymreictod a chymaint o ddylanwadau eraill o’u cwmpas. Yn fy llythyrau i, cafodd y teulu

gartref yn Abertawe glywed am newyddion megis genedigaethau ac am y plant. Un ffaith a allai fod yn

ddiddorol yw i enwau traddodiadol y teulu, megis David a Sarah (Defi a Sera i’r teulu), ar y dechrau droi yn enwau Americanaidd, megis Sophie a Charlotte ar y merched erbyn y diwedd, sy’n awgrymu erbyn y cyfnod

hwn y gallai’r Americaneiddio a’r ymdoddi ddigwydd o fewn un genhedlaeth. Mae’n siŵr gen i nad dyna a

ddigwyddodd ym Mhatagonia bryd hynny.

Ymhlith y llythyrau sydd gen i ceir un rhyfedd iawn. Llythyr ydyw o America at un o fenywod ifanc y teulu

yn ei hannog i ddod yno yn fuan gan fod ei gŵr yn ei disgwyl. Yn y llythyr mae’r awdur, sy’n gyfaill i ŵr y

fenyw ifanc ac nid yn aelod o’r teulu, yn dweud iddo glywed dros y môr iddi fod yn siarad â ffrind iddo yntau

yn ffair Llangyfelach ger Abertawe ac na ddywedodd hi pryd y byddai’n ymuno â’i gŵr. Efallai iddi fynegi ei

Page 8: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

8

hamheuon ynglŷn â’r holl beth. Mae’r dwyn perswâd yma fel petai’n elfen boblogaidd yn stori ymfudiadau a

digon o frolio ar y syniad o ‘man gwyn, man draw’ a’r perswâd emosiynol yn cael ei gyfleu. Gwnaeth

Michael D Jones hyn wrth geisio dylanwadu ar y darpar wladfawyr. Dyna mae’n debyg oedd wrth wraidd geiriau ‘Hen Wlad fy Nhadau’ wrth i Evan James lwyddo i wrthsefyll awydd rhai eraill i’w gael i ymuno â

nhw yn America. Os cofiwn, mae’r ail bennill, er enghraifft, mor gryf yn hyn o beth â’r pennill cyntaf:

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd;

Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si

Ei nentydd, afonydd, i fi.

Un peth, efallai, a fyddai’n taro darllenwr ar unwaith wrth ddarllen fy llythyrau i yw eu bod wedi eu

hysgrifennu yn Saesneg ac, yn gyffredinol, mewn Saesneg ‘parlwr’. Does dim byd Cymreig yn eu cylch. Roedd hyn yn syndod i mi gan fod y teulu yn Gymry glân gloyw a rhai ohonynt yn perthyn i’r Iforiaid yma

yng Nghymru y byddai eu trafodion yn gyfan gwbl yn Gymraeg ar y pryd (cadwai un hen fodryb westy yr

Ivorites yn yr ardal). Mae hyn yn peri i ddyn feddwl y gallai dylanwad Lloegr a’r Ymerodraeth Brydeinig fod yn dal yn gryf ar rai a aeth i America, dylanwad a oedd o bosib yn llai ar drigolion Patagonia – wn i ddim.

Ond rwy’n gwybod bod y llythyrau yn rhai dof a diniwed, yn cael eu hanfon heb amlen o’u cwmpas, dim ond

wedi’u plygu i mewn i’r papur, ac felly yn rhai y byddai’n ddigon posib i eraill eu hagor a’u darllen. Caent eu

cludo gan deithwyr a ddaethai nôl o America, eu gadael yn nhafarn y ‘Dillwyn’ ychydig y tu allan i Abertawe a’u codi oddi yno. Fe wn i hefyd mai am gyfnod yn unig y bu rhai o’r teulu yn America o fwriad – bu un

ohonyn nhw, er enghraifft, yno am tua dwy flynedd yn ymweld â’i blant ac aelodau eraill o’i deulu. Mewn

llythyr at ei wraig a oedd yn Abertawe dywed wrthi y byddai adre cyn bo hir ac iddi gadw rhywfaint o’r pwdin Nadolig iddo!

Nid oes sôn am unrhyw ‘anrhydedd’ yn gefndir i’r penderfyniad i fynd i America gan neb yn y llythyrau -

gwaith a chyflog a’u denai yno ac roedd digon ohono i’r math o weithwyr oedd yn y teulu wedi 1865. Roedd

digon o arbenigedd gan un o’r teulu iddo ddod nôl yn ddyn cefnog a phrynu cartref a rhan o ystâd un o ddiwydianwyr mawr yr ardal. Efallai nad oedd yr un cyfle entrepreneuraidd iddo yng Nghymru ag a gawsai

yn America. Mewn un llythyr ceir cyfeiriad byr at gefnogaeth yr awdur i Grover Cleveland, a fu’n Arlywydd

ddwywaith, sy’n awgrymu bod yr awdur hwnnw yn parchu dyn megis Grover Cleveland a oedd yn adnabyddus am ei unplygrwydd a’i egwyddorion, ac er mai am resymau economaidd yr oedd awdur y llythyr

yno eto i gyd roedd ei egwyddorion a’i werthoedd yn bwysig iddo.

Erbyn heddiw mae Patagonia yn faes ymchwil i nifer o ysgolheigion Cymru ac rydym yn elwa o ffrwyth a thrylwyredd yr ymchwil hwnnw. O ddarllen rhai o’r pethau a groniclwyd gan sawl un dechreuodd fy meddwl

a’m dychymyg newid gêr. Mewn un rhestr o enwau cartrefi a ffermydd ym Mhatagonia, llawer ohonynt yn

dangos milltir sgwâr rhywrai a fu’n byw ynddynt ryw bryd, gwelais yr enw Glandŵr. Mae’n siwr fod digon o

leoedd â’r enw Glandŵr arnyn nhw yng Nghymru ond o Landŵr yn Abertawe yr aeth fy nheulu innau i America, a da o beth pe bai rhywun o’r ardal ymhlith y cwmni arwrol hwnnw a fentrodd i Batagonia, os nad

yn rhan o’r don gyntaf, efallai’n ddiweddarach ond go brin bod hynny’n wir. Roedd yr enw ‘Gower Road’

ymhlith y rhestr honno o enwau hefyd. Ni wn i am un heol arall ar wahân i’r heol hir honno sy’n mynd drwy rannau o Abertawe i ymyl Bro Gŵyr sydd â’r enw ‘Gower Road’ arni.

Yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg rhedai ‘Gower Road’ drwy ardaloedd lle roedd pobl yn amaethu

ac yn gweithio yn y diwydiannau trwm ac yn y pyllau glo hefyd. Roedd Anghydffurfiaeth Gymraeg ar gynnydd yno ac roedden nhw’n ardaloedd y byddai pobl yn symud oddi yno i weithio e.e. i ardaloedd

diwydiannol eraill Sir Forgannwg a Sir Fynwy. Ac wrth gwrs mae’r gair ‘Chile’ i unrhyw un o Abertawe yn

canu cloch! O Chile y deuai peth o’r mwyngopor ar gyfer melinau copor Abertawe yn y cyfnod hwnnw a

byddai diwedd y melinau hyn maes o law ynghlwm wrth y ffaith i Chile ddechrau agor ei melinau ei hunan. Ond, yn anffodus, mae’n annhebygol iawn bod cysylltiad rhwng ardal fy magwraeth i a Chile drwy Batagonia.

Mae i hanes yr ymsefydlu ym Mhatagonia, ei arwriaeth a’i ramant. Mae’r enw Mimosa ei hun, a’r goeden

Acasia sensitif a’i blodau melyn tlws, yn creu darlun dymunol yn y meddwl. Pan laniai aelodau o’m teulu i yn America, yn Efrog Newydd y byddai hynny. Roedd y siwrnai yn un anodd a phan fyddai’r teithwyr yn glanio

un ffaith anffodus wedi’r siwrnai hir honno oedd y bydden nhw’n rhwym ofnadwy! Daliodd un o’r teulu ar ei

gyfle pan sylweddolodd hyn a bu’n gwneud moddion (ac elw iddo’i hunan) o hen rysait y teulu ar eu cyfer!

Mae hanes y Wladfa yn dal i fod yn newyddion yng Nghymru a’r ffaith fod y Gymraeg a’i diwylliant yn dal yn fyw yno yn destun llawenydd i bawb. Un peth trist yw bod y darlun enwog o’r Mimosa ger harbwr Sydney,

Page 9: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

9

pan oedd y llong yn ei bri, wedi mynd ar goll. Hyfryd, mewn blwyddyn o ddathlu, fyddai gweld y darlun yn

dod i glawr unwaith eto. Mae’r hanes a’r darlun yn haeddu lle priodol - gallaf weld y llong wedi’i

throsglwyddo rywsut i fideo yn llawn hwyl o dan awel-wynt teg ar y cefnfor a cherddoriaeth ysblennydd Khachaturian yn gyfeiliant yn y cefndir. Gor-ramanteiddio medd rhywun; na, meddwn i, o ystyried mai’r

fenter hon i Batagonia oedd yr unig un o’i bath a lwyddodd, ac i’r rhai a fu y tu cefn i’r fenter fod yn ddigon

craff i ddysgu gwersi ac i arfer doethineb a gwyliadwriaeth cyn mentro. Fodd bynnag, o gael hyd i’r darlun

hwnnw o’r Mimosa, y cwestiwn wedyn fyddai ym mhle dylai’r darlun gael ei gadw - yn yr Ariannin, neu yma yng Nghymru - ond testun trafodaeth arall fyddai hwnnw.

Nesta Tiplady

Cynnwys

MOROEDD O WAHANIAETH:

ALEGORI AR ARGYFWNG Y MEWNLIFIAD YN DILYN GWELD LLUN O LONG FAWR

YN ANWYBYDDU CWCH BYCHAN LLAWN YMFUDWYR.

Yn y darlun, gwelwn wroldeb. Gwelwn enghraifft o ddyfnder dawn y ddynol ryw i obeithio ac i ddal ati. Ond

mae’r darlun hefyd yn cyfleu difaterwch oer, anghyfiawnder slic, a byd anghyfartal difrifol.

Mae cwch bach bregus yn arnofio fel broc môr ar ehangder eang glaswyrdd Môr Aegea, wrth i ymfudwyr o Iran geisio padlo’u ffordd o Dwrci i Ynys Kos, gwlad Groeg. Wrth iddyn nhw wneud eu gorau yn eu cwch

bach tila, mae yacht fawr, foethus, ddeniadol, llawn offer cyfoes, yn dod i’r golwg a’i maint yn

arglwyddiaethu drostyn nhw. Dyma ddarlun sy’n dweud cymaint – yn alegori ar ein cyfnod ni.

Daw dau fyd wyneb yn wyneb, ac mae un yn mynd heibio i’r llall yn ddirmygus. Mae’n amlwg nad yw cynnig help i’r anturwyr anghenus yn y cwch bach yn taro meddwl y rhai ar y llong fawr fodern. Pam ddylai?

Mae pob adroddiad newyddion trwy wledydd Ewrop yn ychwanegu at y syniad fod ymfudwyr yn boen a

blinder, yn ‘haid’ dieithr. Gwelodd Kos ei hunan ddigwyddiadau creulon ac annynol wrth i’w ‘problem’ ag ymfudwyr ennyn ymatebion llai na diwylliedig. Ond mae angen cyrraedd ar y bobl hyn, rheidrwydd cyrraedd

yno.

Bu yna gyfnod yn hanes Ewrop pan oedd mentro allan yn obeithiol i’r môr mawr ar daith mewn cwch bach yn cael ei gyfrif yn beth arwrol, beiddgar a chlodwiw. Dathlwyd dewrder morwyr am filoedd o flynyddoedd. Pa

bryd newidiodd hyn? Beth ddigwyddodd? Môr Aegea yw lleoliad Odyseia Homer, y stori antur fawr forwrol

gyntaf. Ond does gan yr Ewrop bresennol, yr Ewrop foesol grebachlyd hon, ddim cydymdeimlad â’r Odyseia

fodern hon am ffoaduriaid.

Efallai fod y cwch mawr yn eich taro fel delwedd o’r 1% cyfoethog blysig. Ond nid dyna ydyw. Mae’n

cynrychioli agwedd oerllyd pob un ohonom. Y ni a anwyd yn lwcus, yn byw mewn gwlad ddemocrataidd, a’n

heconomi o hyd ymysg y cyfoethocaf yn y byd, rydym oll yn teithio ar long y gŵr cyfoethog, slic yna. Awn heibio i’r anlwcus ar hast fel pe bai hyn yn naturiol ac anochel. Edrychwn i gyfeiriad arall. Gadawn i’r rhai

sydd heb ddim suddo o’n hôl. Mae’n amser coctel arall.

(Erthygl a gyfieithwyd o bapur newydd 18 Awst 2015)

Lona Roberts

Cynnwys

Page 10: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

10

ENWAU LLEOEDD CAERDYDD A’R CYFFINIAU

Tir-shet

Enw fferm ger Rhyd-y-fro, Rhyndwyglydach, ar gyrion Mynydd Gellionnen yw Tir-shet, ac fe fu cryn

ddyfalu ynghylch ei arwyddocâd ymhlith cyfeillion yn ddiweddar. Y teimlad oedd bod i'w ail elfen rhyw flas

anghymreig, yn wahanol iawn i'r ffermydd oddi amgylch sydd a'u henwau yn hollol Gymraeg mewn ardal sy'n dal i fod yn bur wledig ei naws. Hyd y gwn, nid oes i'r fferm unrhyw hynodrwydd y gellir ei gysylltu ag

unrhyw ddigwyddiad arbennig, ond o sylwi ar yr hen ffurfiau o'r enw sydd ar glawr dichon fod awgrym

ynddynt fod ynddo arwydd o'r amod y daliwyd y tir y galwyd y fferm wrth ei enw ar un adeg. Ni wyddom pa

bryd y bu hynny hyd sicrwydd ond y mae'n amlwg iddo fod a wnelo â chyfnod cyn 1613 gan mai Tir Cheate oedd ffurf yr enw a geir mewn ewyllys yn y flwyddyn honno, ac yna Tir Ziet 1664, Tiryet 1722 (gwall am

Tirsyet, mae'n debyg), Tur Siet 1783, Tir y sliet 1807 (dylid hepgor yr -l-), Ty'r shet 1846.

Ffurf 1613 sy'n hyrwyddo'r ffordd tuag at dderbyn yn bur ffyddiog mai benthyciad llythrennol o'r term cyfreithiol Saesneg escheat yw'r ail elfen, gair a ddaeth i'r Saesneg Canol (es)chete trwy'r Hen Ffrangeg o'r

Lladin escedere 'gadael, symud allan, rhoi i fyny' etc. Collwyd y sillaf gyntaf ddiacen yn gynnar yn y ffurf

Gymraeg (fel y cafwyd stent o'r Saesneg extent 'prisiad stad') ac er bod y llafariad yn hir yn y benthyciad siêd (ceir siêd hefyd), y tebyg yw ei bod wedi cael ei byrhau ar lafar fel bod y ffurf wreiddiol Tir-siêt wedi mynd

yn Tir-siet (Tir-shet).

Y mae'r term escheat yn hen derm ffiwdal ac yn mynd yn ôl i'r Oesau Canol. Ei ystyr wreiddiol oedd y broses

o ddychwelyd tir i frenin neu arglwydd ar farwolaeth perchennog dietifedd, ac y mae tystiolaeth fod tir felly yn dod yn dir cyffredin i'r gymuned leol mewn rhai mannau yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw, ond nid oes

cofnod i nodi bod hynny wedi digwydd yma. Pa un bynnag, mae'n amlwg fod Tir-siêd yng ngolwg y werin yn

dir nad oedd iddo berchennog, ac o gymryd hynny yn drosiadol, yn wag, yn ddiymadferth ac yn ddiamddiffyn. Dyna'r ystyr a rydd un hen fardd i'r gair i ddisgrifio Ynys Môn ar farwolaeth meibion Tudur ap Gronwy –

Môn aeth, ysywaeth, yn siêd.

Y mae'r enw, felly, yn enghraifft o nifer o dermau technegol anghymreig eu tras sy'n ymwneud ag amodau dal

tir ac sydd wedi eu cynnwys hefyd fel elfennau mewn enwau lleoedd, rhai ym Morgannwg. Dyna enw un o

ffermydd allanol mynachlog Castell-nedd (a elwir yn gwrt, cyfystyr â'r Saesneg grange, cymar i Gwrt

Herbert, Cwrtyclafdy a Chwrtrhydhir) sef Cwrt-sart, ger Ynysymaerdy. Yn yr enw hwnnw, talfyriad o'r hen derm cyfreithiol Saesneg assart, a ddaeth yntau drwy'r Ffrangeg o'r Lladin exartium, yw'r ail elfen gyda'r

ystyr 'tir a enillwyd trwy glirio coed'. Ac o sôn am goed, yn hen blwyf Lecwydd ar y gefnen goediog sy'n

disgyn i lannau afon Elái islaw eglwys y plwyf (t? annedd bellach) a'r hyn oedd gynt yn fferm Easton ( Yniston, yn wallus ar y map) ceir Coed-y-stover. Ffurf ar hen derm Saesneg cyfreithiol eto lle'r oedd dal tir yn

y cwestiwn, sef estover, yw ail elfen yr enw hwn yn ogystal. Wrth lunio ffurf Gymraeg yr enw ar lafar gyda

coed yn elfen gyntaf credwyd, yn ôl ei sain, mai'r fannod Gymraeg y- oedd llythyren gyntaf yr ail elfen ac fe

geir Coed Ystofer mewn un man fel ffurf yr enw a honno, mae'n debyg, sy'n cyfrif am y ffurf Coed-y-Stover ar y map. Ystyr y term estover oedd 'hawl tenantiaid i ddefnyddio coed i atgyweirio adeiladau, sietin, ceirt

etc.' i ddibenion cymunedol.

Gwynedd Pierce

Cynnwys

Page 11: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

11

YNYSOEDD GORLLEWINOL YR ALBAN A CHADW’R SUL

Y peth cyntaf ydych chi’n ei sylweddoli am yr ynysoedd hyn a elwid weithiau yn Ynysoedd Heledd neu

Hebrides Allanol yw pa mor bell ydyn nhw o dir mawr yr Alban (pum awr o Oban a chwe awr o Ullapool, ar

y llongau fferi). Y pethau eraill sy’n taro ymwelydd am y tro cyntaf yw eu golygfeydd ysblennydd, cadwyni o fynyddoedd trawiadol, rhostiroedd, llynnoedd, a milltiroedd o draethau a moroedd gwyrddlas. Yn sicr, mae’r

ynysoedd hyn yn fannau o harddwch naturiol heb ei ddifetha. Oherwydd bod y tymheredd yn gyffredinol tua

phum gradd yn is nag yw yma yng Nghaerdydd, weithiau mae angen i berson wisgo un siwmper mwy trwchus na’r arfer!

Os yw eich bryd ar strydoedd, siopau a ffyrdd deuol nid dyma’r man i’w darganfod - mae mwyafrif o’r ffyrdd

yn rai cul gyda llefydd i basio yn reit aml a phob un o’r rheini wedi’i harwyddo.

Dyma ryw ychydig ffeithiau am yr ynysoedd, rhai y

bum i a’m teulu yn ymweld â hwy yn ystod yr haf.

Saif y gadwyn o ynysoedd 130 milltir o un pen i’r llall

cryn bellter o arfordir gogledd-orllewin yr Alban. Er bod cyfanswm o 119 o ynysoedd, 14 ohonynt yn unig

sydd â phobl yn byw arnynt, sef Lewis a Harris (dwy

ran o’r un ynys - y mwyaf o’r gadwyn), Gogledd Uist, Benbecula, De Uist a Barra. Cysylltir nifer o’r

ynysoedd gan ffyrdd a adeiladwyd ar sarnau cerrig

(causeways). Mae eraill wedi’u cysylltu gan bontydd. Ond yn aml, rhaid cymryd llongau fferi fel yn wir

sydd yn rhaid eu cymryd i fynd a dod o’r tir mawr.

Cludir arnynt lorïau mawr a bach, coetsis, ceir a

charafanau, beiciau o bob math a theithwyr eraill sydd ar droed. Mae gwasanaeth y fferïau yn hanfodol

bwysig yn gyffredinol i fywyd yr ynysoedd, i gynnal

ei heconomi ac i hybu twristiaeth. Mae tri maes awyr ar yr ynysoedd, ac un o’r rheiny yn anarferol iawn

gyda glanfa ar draeth, yr unig un yn y byd, ac felly

ond yn bosib ei ddefnyddio pan yw’r môr ar drai.

Mae’r ynysoedd yn dra gwahanol i’w gilydd; rhai yn fynyddig, eraill gydag aceri o dir corsiog. Mae nifer

mawr o lynnoedd caeëdig a chulforoedd (gyda dŵr y

môr ynddynt). Mae rhan o’r boblogaeth yn defnyddio mawn o’r corsydd fel tanwydd. Maent yn ei dorri ar

ddechrau’r haf a’i adael ben i waered am rai misoedd i

sychu ar wyneb y tir. Ceir golygfeydd hyfryd ar hyd yr ynysoedd ac mae traethau glan môr hyfryd iawn gyda thywod melyn neu wyn mân mewn nifer fawr o lefydd. Fodd bynnag, oherwydd y tymheredd mae’r rhain

bron yn wag! Wrth deithio, gwelsom adfeilion hen dai du ym mhob man, a hyfryd oedd gweld ychydig wedi

eu hadnewyddu ac mewn cyflwr da, gyda waliau cerrig trwchus, cornelu crwn a thoeon gwellt wedi eu clymu

lawr gyda cherrig rhag y gwynt. Ac ar Lewis yn arbennig mae nifer o safleoedd cyn-hanes i’w mwynhau.

Ar yr ynysoedd hyn y ceir y ganran uchaf o siaradwyr Gaeleg yn yr Alban, sef 52 y cant, (a 61 y cant gyda

rhyw ddealltwriaeth o’r iaith). Serch hynny, bu lleihad o 10 y cant yn y canran sy’n siarad Gaeleg yn y

ddegawd ddiwethaf. Mae gan Awdurdod Addysg yr ynysoedd ymrwymiad i ddwyieithrwydd Gaeleg a Saesneg. Nod y ddarpariaeth addysg ffurfiol yw galluogi plant o gefndir sy'n siarad Gaeleg i ddod yn

llythrennog ac yn gymwys yn y defnydd o'r Saesneg a Gaeleg. Darperir cyfleusterau digonol ar draws yr ysgol

i blant o gartrefi heb yr Aeleg i’w ddysgu fel ail iaith, a thrwy hynny eu galluogi i integreiddio'n well gyda chymunedau Gaeleg o ran iaith, diwylliant a chymeriad. Fel yn ein gwlad ni, gall y trigolion ysgrifennu at yr

Awdurdodau Lleol yn yr Aeleg a chael ateb yn yr un iaith. Mae dyfodol sicr i’r Aeleg, o leiaf yn yr ynysoedd

hyn.

Er nad oes llawer o eira yn disgyn yn y gaeaf, mae ynysoedd yn lawog, gwyntog ac oer iawn a bu’r gaeaf diwethaf yn un eithriadol o arw. O’r de i’r gogledd ar hyd yr ynysoedd roedd toeon i’w gweld gyda llechi

newydd ar eu hymylon a thrysiadau dros dro i’w gweld ar lawer. Mae’r trigolion yn wydn iawn. Nid oes

unrhyw goed yn tyfu ar fwyafrif yr ynysoedd, felly mae diffyg defnydd coed i adeiladu tai, i wneud handlenni

Ynysoedd Gorllewinol yr Alban

Page 12: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

12

Gweinidog gydag Eglwys yr Alban yn protestio yn erbyn darparu llongau fferi ar y Sul yn 2009.

tŵls, teclynnau ffermio, dodrefn ac eitemau eraill. Yn yr hen ddyddiau, bu’r trigolion yn dibynnu ar froc môr

(jet sam) a choed a fewnforiwyd i geisio cyflawni eu hanghenion. Yn bresennol mae cynhyrchu Harris Tweed

a’r diwydiant olew ill dau yn ddiwydiannau llwyddiannus i’r trigolion.

Yn sicr, bu gwelliant mawr yng nghyfundrefn gwasanaethau ar yr ynysoedd yn dilyn ardrefniant Llywodraeth

Leol yn 1975, pan ffurfiwyd Cyngor Ynysoedd y Gorllewin a phryd y daeth bywiogrwydd newydd i’r

trigolion. Yn sgîl deddf Llywodraeth Leol 1997 (Yr Alban), enw swyddogol Cyngor yr Ynysoedd yw Na h-

Eileanan Siar. Dyma'r unig gyngor lleol yn yr Alban sydd ag enw yn yr iaith Gaeleg yn unig.

Crofftio - Beth yw a phaham ei fod mor werthfawr? Mae’r gair crofftio yn yr Alban yn gyffelyb i gadw

tyddyn yma yng Nghymru ac yn system gymdeithasol unigryw sydd yn seiliedig ar yr egwyddor o ddal, a

gweithio ar dir amaethyddol bach. Fel arfer, mae gan dyddynwyr alwedigaethau eraill sy'n cyfrannu at eu bywoliaeth a'r economi wledig. Yn hanesyddol cadwyd y tenant crofftwyr yn fwriadol is nag yn

hunangynhaliol gan landlordiaid i orfodi’r tenantiaid mewn llafur clwm. Yn ogystal â hyn yr oedd bywyd bob

amser yn ansicr i’r crofftwyr, am fod unrhyw hawliau a ganiatáwyd iddynt yn weithredol o flwyddyn i flwyddyn, felly, ar unrhyw bryd gallai crofftwr nid yn unig golli'r tir ond hefyd colli'r tŷ y bu iddo ei adeiladu

arno.

Yn y dyddiau hyn, amcangyfrifir bod hyd at 65 y cant o gartrefi Ynysoedd y Gorllewin yn aelwydydd Crofftio

(90 y cant yn niwedd yr 19 ganrif). Ond yn y blynyddoedd diweddar mae cymaint o bobl, yn Lewis yn arbennig, yn cymudo i'r brifddinas (yn wir yr unig wir dref ar yr ynysoedd), Stornoway, bob dydd fel bod

llawer o'r pentrefi yn prysur ddod yn bentrefi yn unig i noswylio ynddynt. Mae’r galwedigaethau newydd

diweddar yn anffodus wedi arwain at esgeuluso crofftau, llawer ohonynt yn cael eu defnyddio yn unig ar gyfer pori defaid neu eifr, neu i dyfu ychydig resi o datws bellach. Yn dilyn deddf a basiwyd mor ddiweddar â 2004,

mae gan grofftwyr hawl cyfreithiol i brynu eu tiroedd, ac o’r diwedd diddymwyd y system ffiwdal a greoedd

gymaint o drallod am genedlaethau lawer.

Cliriadau Ucheldir yr Alban (sef ardal eang yng ngogledd-orllewin yr Alban) - Mae’r nifer fawr o adfeilion

mewn ardaloedd diffaith yn dystion mud i un o'r penodau mwyaf creulon a didostur yn hanes yr Alban.

Cafodd degau o filoedd o deuluoedd eu troi allan o'u cartrefi, yn aml mewn ffyrdd treisgar. Y rheswm am hyn

oedd i berchnogion yr ystadau benderfynu newid defnydd amaethyddiaeth ar eu tiroedd o ffermio tir âr (arable) a chymysg, a oedd yn cefnogi poblogaeth tenantiaid mawr, at ffermio defaid a oedd yn fwy

proffidiol. Dechreuodd y broses tua diwedd 1780, a pharhau am dros 70 mlynedd. Dinistriwyd llawer o’r

diwylliant Gaeleg a chymdeithas ‘clan’, gan yrru pobl oddi ar diroedd a fu’n gartref i’w teuluoedd am ganrifoedd. Gwnaed y trigolion yn hollol ddi-obaith gan y tlodi a ddilynodd.

Cynlluniwyd trefi bychan mewn amser byr i gymryd rhai o'r boblogaeth a gliriwyd o’r tir ond gorfodwyd i’r

mwyafrif helaeth i ymfudo dramor i wledydd fel yr America, Nofa Sgotia, Canada, Seland Newydd ac

Awstralia. Rhwng 1845-50 gwaethygodd sefyllfa’r bobl oherwydd y newyn tatws, ac erbyn 1850, gorfodwyd llawer iawn i gael gwared â’u hanifeiliaid i aros yn fyw.

Erbyn hyn, mae cofebion wedi eu hadeiladu mewn sawl ardal i gofio am y trychinebau - cofebion sy’n aml yn

cofnodi enwau’r unigolion a gollodd eu bywydau yn yr ymladd yn erbyn perchnogion ystadau’r Ucheldir a oedd y tu cefn i’r cliriadau.

Crefydd – Cymer crefydd ran flaenllaw a chanolog ym mywyd cyhoeddus a phreifat; gyda chymunedau

Cristnogol a chynulleidfaoedd eglwysig cryf. Mae’r ynysoedd yn gartref i gymunedau traddodiadol a chyfeillgar a’r amgylchedd yn heddychlon, byd sydd ar wahân i fwrlwm tir mawr Ewrop. Mae awdurdod y

gweinidog, a fu am flynyddoedd o'r pwys mwyaf, wedi lleihau

ychydig, ond mae'n dal i fod â chryn ddylanwad ar ei braidd.

Yng Nghyfrifiad 2011 bu i 81.9 y cant o’r bobl yr ynysoedd ddatgan fod ganddynt grefydd; dyma’r ganran uchaf o bobl gyda

chrefydd yn holl siroedd y Deyrnas Unedig. Mae Crefydd ar

Lewis, Harris a Gogledd Uist yn bennaf yn Brotestannaidd tra mae Barra, Benbecula a De Uist yn bennaf yn Gatholig.

Mae’r arfer o gadw Diwrnod Saboth yn Sanctaidd yn parhau ar

yr ynysoedd ac yn bennaf oll yn yr ynysoedd gogleddol Presbyteraidd. O ganlyniad, nid yw siopau, tai tafarndai,

gorsafoedd petrol, ar agor na gwasanaethau cyhoeddus ar gael ar

y Sul yn Lewis, Harris a Gogledd Uist. Mae trigolion Catholig

Rhufeinig yr ynysoedd deheuol ychydig mwy rhyddfrydig

Page 13: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

13

ynghylch eu crefydd. Er bod gwasanaeth bysiau da i’r rhan fwyaf o bentrefi’r ynysoedd ar hyd y wythnos; nid

oes unrhyw wasanaeth ar y Sul. Nid yw rhai darparwyr llety hyd yn oed yn hoffi eu gwestai i gyrraedd nag i

adael ar y Sul. Bu ymgyrchu egnïol gan gymunedau Calfinaidd Protestannaidd gadarn Lewis yn 2009 i gadw’r Sul fel diwrnod o orffwys pan glywyd ganddynt am fwriad y cwmni fferïau i redeg fferi i Stornaway ar y dydd

sanctaidd. Collwyd y frwydr yn y diwedd ar ôl i’r cwmni mawr fynd i Gymuned Ewropeaidd am gefnogaeth.

Roedd adeiladau’r capeli ar draws yr ynysoedd i’w gweld mewn cyflwr da a llawer gyda thoeau llechi

newydd. Nid oedd mynwentydd yr ynysoedd wrth ymyl y capeli ond mewn mannau agored unig. Mewn mynwent eithaf mawr ger un o’n mannau llety diddorol oedd y ffaith fod mwy na hanner o’r cerrig beddi

gyda’r un cyfenw ‘McDonald’, tua thraen gyda’r cyfenw ‘McKenzie’, ac ychydig o amrywiaeth ymysg y

gweddill.

Treuliom ran o’n gwyliau ar ynys Bernera Fawr (poblogaeth o 240) a chael mynychu'r unig gapel, un

Presbyteraidd, yno. Cynhaliwyd yno wasanaethau ar fore a nos Sul a mwy na 40 o oedolion a 7 o blant

(hanner y nifer a fynychai’r ysgol ddyddiol), yn bresennol. Cefais wybod fod ugain yn mynychu’n gyson y cwrdd gweddi wythnosol. Yng ngwasanaethau’r Sul y traddodiad yw canu emynau yn ddigyfeiliant, (nid oedd

offeryn cerdd yno), ac felly yr oedd y codwr canu yn bwysig!

Ychydig flynyddoedd yn ôl ymddangosodd cyfres deledu boblogaidd An Island Parish a ddilynodd hynt a

helynt offeiriaid Catholig a’i gynulleidfaoedd ar ynys Barra. Rhoddodd y gyfres fwynhad ac ychydig flas o fywyd ar yr ynys hon i lawer. Yn sicr ni siomwyd ein teulu ni gyda’r arlwy.

David Jones

Cynnwys

Page 14: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

14

COFIO – A’R DYFODOL?

Mae ‘cofio’ wedi bod yn thema fawr yn ddiweddar. Flwyddyn yn ôl roedden ni’n dadorchuddio’r gofeb yn

Langemark ger Ypres yng Ngwlad Belg i gofio am y miloedd o filwyr o Gymru a gollodd eu bywydau yn y

Rhyfel Mawr ganrif yn ôl. Yn Y Gadwyn buom yn dwyn i gof rai o gerddi’r beirdd a fynegodd erchyllder a thristwch y gyflafan honno. Yn gynharach eleni buom yn cofio diwedd yr Ail Ryfel Byd 70 o flynyddoedd yn

ôl, gyda chymysgedd rhyfedd o ‘ddathlu’ diwedd y brwydro dychrynllyd a thristwch o gofio maint y golled.

Cofio a dathlu, hefyd, fu’r thema yn ystod yr haf yn achos sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia – Cymry’n ffoi rhag caledi ac erledigaeth mewn gobaith am fywyd gwell, ac yn gorfod brwydro’n galed i oroesi. Ond goroesi

wnaethon nhw, ac mae’r hanes yn un diddorol a dweud y lleia!

Nid ‘diddorol’, beth bynnag, yw’r gair i ddisgrifio’r profiad o gofio ges i’n ddiweddar wrth ddarllen y gyfrol Remembering the Armenian Genocide 1915 gan y Parchedig Ganghellor Dr. Patrick Thomas, Ficer Christ

Church Caerfyrddin. Yn y gyfrol hon, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, mae’r awdur wedi crynhoi

tystiolaeth o’r hil-laddiad ‘anghofiedig’ hwn pan oedd Ymerodraeth Ottoman (Twrci) wedi cynnal ymgyrch i

ddileu cenedl leiafrifol yr Armeniaid o’r wlad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd darllen am y creulondeb erchyll a gyflawnwyd yn brofiad ‘ysgytwol’ – profiad a adawodd ei ôl fel craith ar y cof.

Ar 24 Ebrill eleni cynhaliwyd seremoni syml yng ngardd y Deml Heddwch yng Nghaerdydd i gofio am y

miliwn a mwy o Armeniaid a gollodd eu bywydau yn y modd mwyaf erchyll yn yr hil-laddiad hwnnw gan mlynedd union yn ôl. Seremoni syml oedd hon, gydag Armeniaid o Gymru, Manceinion a Llundain yn

bresennol, ynghyd â chyfeillion. Offrymwyd gweddïau yn iaith Armenia, yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Seremoni syml o flaen cofeb syml – ond un ag iddi arwyddocâd arbennig, fel y cawn weld. (Gweler y llun ar y clawr cefn.)

Roedd yr hen Armenia yn wlad enfawr yn y rhan ogleddol o’r hyn a elwir heddiw y Dwyrain Canol. Roedd yn

bont, mewn ffordd, rhwng Asia ac Ewrop ac yn sgîl hynny datblygodd i fod yn wlad ag iddi ddiwylliant

arbennig a chyfoethog. Armenia oedd y wlad gyntaf i dderbyn Cristnogaeth yn grefydd swyddogol pan gafodd y Brenin Trdat ei argyhoeddi gan Sant Gregory yn y flwyddyn 301. Ymhen canrif wedyn roedd ganddyn nhw

gyfieithiad o’r Beibl yn eu hiaith eu hunain. Mae’r Armeniaid yn hynod o deyrngar i’w crefydd, er bod hynny

wedi gwneud bywyd yn anodd iddynt lawer tro, a symbol pwysig iddynt yw’r groes gerrig, y khatchar, a’i cherflunwaith cywrain yn arwydd o fuddugoliaeth bywyd dros ddioddefaint a marwolaeth.

Oherwydd bod yr hen Armenia hefyd yn ardal o bwys strategol fe ddioddefodd ymosodiadau di-ri o bob

cyfeiriad. Fe’i concrwyd a’i darnio a’i rhannu lawer gwaith ar hyd y canrifoedd. Ar ddiwedd y pedwerydd ganrif ar bymtheg roedd Dwyrain Armenia dan reolaeth Rwsia, a Gorllewin Armenia dan reolaeth Twrci.

Erbyn hyn doedd yr Armeniaid yn Nhwrci ond yn lleiafrif yn y wlad a fu’n famwlad iddynt am filoedd o

flynyddoedd – ond lleiafrif sylweddol, serch hynny, ac yn dal i lynu wrth eu ffydd Gristnogol ynghanol y môr

Islamaidd.

Yn 1895-6 ac eto yn 1909 roedd nifer fawr o Armeniaid Twrci wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau – yn

rhannol oherwydd eu crefydd. Bu gwledydd Ewrop ac America yn chwyrn iawn eu beirniadaeth ar hyn, ac yn

1913 cytunodd Twrci a Rwsia i benodi arolygwyr i geisio gofalu am les yr Armeniaid. Ond cyn iddynt ddechrau ar eu gwaith fe ddaeth y Rhyfel Mawr, a dyna ddiwedd ar y cynllun. Roedd ‘ymyrraeth’ gwledydd

Ewrop ar ran yr Armeniaid wedi cythruddo gwleidyddion y ‘Tyrciaid Ifanc’, ac yn y don o genedlaetholdeb a

ddilynodd, fe gynyddodd yr elyniaeth tuag at yr Armeniaid. O hyn fe ddatblygodd yr awydd i waredu’r wlad

o’r ‘niwsans’ hwn a chreu ‘Armenia heb Armeniaid’.

Yn y gyfrol gan Patrick Thomas ceir disgrifiadau manwl o’r erchyllderau a gyflawnwyd gan swyddogion

cenedlaethol a lleol Twrci mewn gwahanol rannau o’r wlad. O’r 24ain o Ebrill 1915, meddai’r awdur,

dechreuodd gweithredu arswydus ledu drwy wlad Twrci Ottoman, gan ddechrau yng nghadarnleoedd yr Armeniaid yn y dwyrain a lledu wedyn i ardaloedd eraill. Diddymwyd cymunedau cyfain – mil o feirw mewn

un pentref, ugain mil yn y dref nesaf, pedwar cant fan hyn, deugain mil fan draw. Byddai’r dynion yn cael eu

gwahanu oddi wrth eu teuluoedd a’u saethu neu eu poenydio i farwolaeth; plant a menywod yn cael eu hel i’r eglwys neu’r ysgol a’u llosgi i farwolaeth. Gwaeth na hyn oedd tynged y rhai gafodd eu gyrru ar deithiau hir

tuag at ganolfan Der Zor yn anialwch Syria – yr hyn a elwid yn deportation – minteioedd o filoedd ar filoedd

o Armeniaid, plant a menywod fwyaf, gan ddioddef pob math o greulondeb ac artaith erchyll cyn marw ar y

ffordd. Ac i’r rhai a gyrhaeddai Der Zor, roedd bywyd yn dal yn uffern. Ym mis Gorffennaf 1916 penderfynwyd cael gwared ar bawb o’r dref ac mae’n debyg bod dros 195 mil o Armeniaid wedi eu llofruddio

Page 15: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

15

o hynny i fis Rhagfyr. Mewn llys barn ym mis Ebrill 1919 fe gafwyd y dyn oedd yn bennaf cyfrifol yn euog o

ddynladdiad, ac yn Ebrill 1920 cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth. Erys yr enw Der Zor fel craith ar gof yr

Armeniaid – ‘Der Zor ... the slaughterhouse of Armenians.’

Ond ychydig iawn o sylw gafodd y gyflafan hon ar draws y byd. Yn wir, mae’n ymddangos bod ymdrechion

bwriadol wedi eu gwneud i anwybyddu’r digwyddiad – yr hyn y mae Patrick Thomas yn ei alw The

Airbrushing of History. Gan fod hyn wedi digwydd yr un pryd â’r Rhyfel Mawr, hwnnw gafodd sylw’r byd.

Ac wrth i’r Rhyfel Mawr ddirwyn i ben roedd yna ymgais gan rai i ‘olchi eu dwylo’ o’r hyn a ddigwyddodd yn Armenia.

Roedd yna amheuaeth bod yr Almaen wedi chwarae rhan yn hil-laddiad yr Armeniaid; yn sicr fe allai fod

wedi ymyrryd a cheisio dylanwadu ar Dwrci i ymatal rhag y weithred, ond ddigwyddodd hynny ddim. Yn ystod y Rhyfel roedd yr Almaen a Thwrci yn gynghreiriaid clòs ac, yn ôl un ffynhonnell, unig nod yr Almaen

oedd cadw Twrci ar ei hochr – beth bynnag fyddai tynged yr Armeniaid. Wrth i’r Rhyfel Mawr ddirwyn i ben

roedd yr Almaen yn awyddus i osgoi cael ei chysylltu â chyflafan Armenia oherwydd gallai hynny ddylanwadu ar y telerau heddwch.

Mor gynnar â mis Mai 1915 roedd Prydain, Ffrainc a Rwsia wedi datgan ar y cyd eu bod yn ymwybodol o’r

‘crimes of Turkey against humanity and civilization’, ac y byddent yn mynnu bod yr euog yn cael eu dwyn i

gyfrif. Ond pan ddaeth y cyfle i wneud hynny ar ddiwedd y Rhyfel, fe welwyd nad oedd unrhyw fframwaith cyfreithiol rhyngwladol ar gael a fyddai’n alluog i gynnal yr achos.

Yr unig arf oedd gan y Cynghreiriaid oedd y bygythiad y byddai methiant gan Dwrci ei hunan i gynnal prawf

a chosbi’r drwgweithredwyr yn sicr o ddylanwadu ar y telerau heddwch. Felly, fe sefydlodd Llywodraeth Ottoman dribiwnlys arbennig i ystyried yr achos yn erbyn rhai o’r prif bobl dan amheuaeth. Roedd hyn

ynddo’i hun yn gyfaddefiad bod gweithredoedd anfad wedi digwydd ond, ar ddiwedd y dydd, dim ond

deunaw gafodd eu dedfrydu i’r gosb eithaf am eu rhan yn y gyflafan. O’r rheiny, roedd pymtheg yn absennol o’r llys a dim ond tri gafodd eu dienyddio. (Cafodd rhai o’r lleill eu hela a’u lladd gan yr Armeniaid yn

ddiweddarach – ond stori arall yw honno.)

Ar ôl hyn bu datblygiadau gwleidyddol cyflym yn Nhwrci. Cododd ton newydd o genedlaetholdeb ac yn 1920

sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol newydd yn Ankara i ddisodli Llywodraeth Ottoman yn Istanbul. Bu anghydweld rhwng y Cynghreiriaid ynghylch sut i ddyrannu rhannau o’r hen ymerodraeth, ac yn y diwedd fe

gafodd yr holl addewidion i gael cyfiawnder i’r Armeniaid eu anghofio. Yn y cytundeb terfynol rhwng y

Cynghreiriaid a Thwrci yng Nghynhadledd Lausanne yn 1923, doedd dim hyd yn oed sôn am Armenia na’r Armeniaid. Yn ôl un memorandwm: ‘Doedd dim modd cydnabod yr hil-laddiad arbennig hwn – nid oherwydd

na ddigwyddodd, ond oherwydd ei bod yn wleidyddol ac yn fasnachol anghyfleus i wneud hynny.’ Fel y

dywed Patrick Thomas, ‘Bu hunan-les yn drech na chyfiawnder na moesoldeb.’

Yn y cyfnod a ddilynodd, cychwynnodd y Tyrciaid ar bolisi o ddileu pob elfen Armenaidd o hanes y wlad – dileu miloedd o flynyddoedd o hanes, crefydd a diwylliant nodedig – dileu cof cenedl. Y bwriad oedd

cwblhau’r dyhead gwreiddiol i greu Armenia heb Armeniaid. Yr unig gymuned Armenaidd sylweddol yn y

Dwrci fodern yw honno yn Istanbul. (Ar ôl bod dan adain Rwsia am gyfnod, fe ailsefydlwyd Armenia yn wlad annibynnol yn 1991. Dyw Gweriniaeth Armenia heddiw ond rhyw ddegfed rhan o’i hen diroedd; cilcyn o dir

ar gyrion dwyreiniol gwlad Twrci – ac mae’r ffin ar gau.)

Y Dwyrain Canol – Armenia heddiw

Mae rhai o’r farn bod y ffaith i’r hil-

laddiad yn Armenia gael ei ‘anghofio’

mor hawdd, wedi rhoi hyder i Adolf Hitler ddatblygu ei syniadau yntau. Ar

22 Awst 1939, ar drothwy’r Ail Ryfel

Byd, mae’n debyg iddo ddweud wrth ei uchel-swyddogion am ei fwriad i gael

gwared ar genedl y Pwyliaid – lladd yn

ddidrugaredd bob dyn, menyw a

phlentyn – er mwyn cael digon o le i fyw. Ac meddai, ‘Pwy, wedi’r cyfan,

sydd heddiw’n cofio am ddifodiad yr

Armeniaid?’ Buan y trodd Hitler ei sylw at yr Iddewon a dwedodd rhai

Page 16: Y GADWYN MEDI 2015 - Eglwys y · PDF fileadeilad Capel Pembroke Terrace am 10.30 fore Sadwrn 19 Medi a chawn fynd oddi yno i safle capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn nhre Caerdydd

16

sylwebyddion fod erchyllderau’r ‘Holocaust’ yn adlewyrchiad o’r hyn a ddigwyddodd i’r Armeniaid yn ystod

y Rhyfel Byd Cyntaf.

Beth, felly, oedd arwyddocâd y seremoni honno yn y Deml Heddwch yn gynharach eleni? Mae Patrick Thomas yn dal mai’r cam cyntaf i atal trychinebau rhyfel yn y dyfodol yw cydnabod yr hyn a ddigwyddodd

yn y gorffennol, ac yna ei gondemnio. Dim ond mor ddiweddar â 1967 y codwyd Cofeb ac Amgueddfa Hil-

laddiad Armenia yn Yerevan, prifddinas Armenia heddiw – yr arwydd swyddogol cyntaf o ‘gydnabod’ yr hyn

ddigwyddodd. Y gofeb yn y Deml Heddwch, a ddadorchuddiwyd yn 1997, oedd y gofeb gyhoeddus gyntaf ym Mhrydain. Mae’n ddyletswydd arnom i gyd, meddai Patrick Thomas, i gydweithio i sicrhau na fydd y

ganrif hon yn dilyn yr un patrwm â’r ganrif ddiwethaf. Mae cofio a chydnabod yn rhan bwysig o’r broses.

Dyna pam roedd y seremoni yn y Deml Heddwch yn 2015 yn bwysig.

Ond beth am y dyfodol? Mae Patrick Thomas yn cyfeirio’n bryderus at weithredoedd yr Islamic State yn y

rhan honno o’r byd y dyddiau hyn. Mae perygl amlwg bod hanes yn ei ailadrodd ei hun. Ond mae un nodyn

gobeithiol. Er gwaetha’r holl ladd a’r dinistrio, ac er creu ‘Armenia heb Armeniaid’, ni lwyddwyd i ladd ysbryd cenedl falch yr Armeniaid. Mae Armeniaid ar draws y byd yn falch o’u tras a’u hetifeddiaeth, eu

diwylliant a’u hiaith – a’u crefydd; y genedl Gristnogol gyntaf yn y byd. A’u harf mwyaf grymus, meddai

awdur y gyfrol hynod bwerus hon, yw y khatchar – Croes y dioddefaint sy’n tyfu’n Groes buddugoliaeth, yn

deilio a dwyn ffrwyth ac yn troi yn Bren y Bywyd.

Bryan James

Cynnwys

Cyhoeddwyd Remembering The Armenian Genocide 1915 gan Wasg Carreg Gwalch yn 2015. Pris: £8.50

ISBN: 978-1-84527-546-4

Llun: Pobl Dewi, cylchgrawn Esgobaeth Tŷ Ddewi, rhifyn Mehefin 2015

Llun lliw ar y clawr (cefn): Aelod o’r gymuned Armenaidd yn gosod blodau wrth y khatchkar yn y Deml Heddwch; Canon Patrick Thomas yn sefyll wrth y gofeb