Upload
others
View
3
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG
Sefydlwyd 1867 Cyfrol 151 Rhif 50 Rhagfyr 13, 2018 50c.
Chwithig o beth ydycofnodi marwolaethAthro aChydlynyddHyfforddiCenedlaetholColeg yrAnnibynwyrCymraeg, yParchedig EurosWyn Jones arddydd Iau 29Tachwedd yn ei gartrefyn Llangefni, Sir Fôn. Roedd Euros wedihyfforddi cenhedlaeth gyfan oweinidogion, arweinyddion a lleygwyr iwasanaethu eglwysi Cymru a thu hwnt.Gwerthfawrogwyd ei gyfraniad nid yn uniggan eglwysi’r Annibynwyr Cymraeg, ondgan nifer helaeth ymhlith yr enwadaueraill.Myfyriwr a gweinidogDerbyniodd Euros ei addysg uwch yngNgholeg Prifysgol Gogledd Cymru,Bangor a Choleg Bala-Bangor, llederbyniodd ei radd BD mewndiwinyddiaeth a’i dystysgrif cwrs ordeinioyng nghanol y 1970au. Cyflawnoddbymtheg mlynedd o weinidogaeth mewndau gylch, yn gyntaf yng ngorllewin SirGaerfyrddin – eglwysi Henllan Amgoed,Capel Mair a Chwm-miles o 1977 hyd at1983, ac yna yn ne Sir Fôn – eglwysiSmyrna, Llangefni; Siloam, Talwrn;Tabernacl, Porthaethwy a Horeb,Penmynydd – o 1983 hyd at 1992.Coleg yr Annibynwyr
Daeth newid cyfeiriad yn ei weinidogaethyn 1992 pan dderbyniodd Euros yr alwad iwasanaethu fel Athro AthrawiaethGristnogol Coleg yr Annibynwyr Cymraega Chyfarwyddwr Addysg Lleyg Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Roedd hefyd wediei achredu i Ysgol Diwinyddiaeth PrifysgolCymru Aberystwyth-Llanbedr Pont Steffannes i’r sefydliad hwnnw ddirwyn i ben yn2010. Cefais y fraint o dderbyn gwersiAthrawiaeth Gristnogol ac AthroniaethCrefydd ganddo, ond amrywiol iawn oeddcwmpawd gwaith Euros yn ystod y cyfnodhir hwn.
Cymru benbaladrBu’n ddiwyd yn ei waith yn dysgu’rmyfyrwyr gradd yn y Coleg ynAberystwyth , yn ogystal ag ymgeiswyr amy weinidogaeth a phregethwyr cynorthwyoldrwy’r cwrs allanol. Roedd ei gyfrifoldebdros addysg lleygwyr yn ei arwain atneuaddau a festrïoedd ar hyd a lled Cymrua Lloegr. Ymddeolodd fel CyfarwyddwrAddysg Lleyg yr Undeb yn 2015, wrthbarhau hyd at ei farwolaeth gyda’igyfrifoldebau Coleg. Euros oedd yngyfrifol am yr ymgeiswyr am yweinidogaeth Gristnogol, ynghyd â sicrhaucysondeb gofal i’r gweinidogion newyddeu hordeinio.DAWNWedi gwerthu adeilad Coleg yrAnnibynwyr yn Aberystwyth, symudoddEuros ei swyddfa i’r Coleg Gwyn ymMangor. Yno bu’n cydweithio’n agosgydag athrawon a hyfforddwyr yBedyddwyr a’r Eglwys Bresbyteraidd.Roedd Euros hefyd ynghlwm wrth y
cyrsiau a drefnwyd gan fudiad DAWN acroedd yn dysgu Groeg y TestamentNewydd a Diwinyddiaeth Cenhadaeth iBrifysgol Bangor. Roedd ystod helaeth eiddiddordebau yn amlwg hefyd yn yrerthyglau a’r llyfrau a gyhoeddodd ynystod ei gyfnod fel athro coleg achydlynydd hyfforddiant.AwdurEuros oedd awdur sawl gwerslyfr iddosbarthiadau Ysgol Sul a dosbarthBeiblaidd i oedolion, ynghyd ag addasiad achyfieithiad o waith y diwygiwr JohnCalfin. Bu’n olygydd y cyfnodolynDiwinyddiaeth er 2007, a bu’n gyfrifoleleni am gyhoeddi addasiad o waith gan R.Tudur Jones ar hanes Cristnogaeth yngNghymru. Roedd yr ymwybyddiaethymneilltuol o natur a hanfod yr eglwysGristnogol yn bwysig i Euros. Fel CorffCrist, roedd deall seiliau gweinidogaeth achenhadaeth yr eglwys yn y byd ac i’r bydyn gosod ystyr i’w waith yn dilyn ôl traedPen yr eglwys.Ergyd dromEleni daeth gwahoddiad iddo addysgugweinidogion yn nhalaith Manipur,gogledd-ddwyrain India a threuliodd dairwythnos yno. Gwelodd Euros y cyfle oddysgu a phregethu yn y rhanbarth hwnnwo India fel braint, yn enwedig gan eu bodnhw yno yn llawn edmygedd bod gennymfel Annibynwyr Cymraeg goleg diwinyddoli hyfforddi ar gyfer y weinidogaethGristnogol. Daeth colli Euros yn ergyddrom i bawb gafodd y fraint o dderbyn eiweinidogaeth, ei arweiniad yn y Gair, a’igyfeillgarwch. Mae coffâd da amdano.
Aled Jones, Cydlynydd Hyfforddi De Cymru
Coleg yr Annibynwyr Cymraeg
Y Parchedig Euros Wyn Jones, BD(1950–2018)
ATEB YR ALWAD IBREGETHU’R EFENGYL
Wrth i fwy a mwy oeglwysi ganfod euhunain heb weinidog,mae galw cynyddol ambregethwyr cynorthwyoli arwain oedfaon ar ySul. Mae gan yrAnnibynwyr gynllunsy’n darparuhyfforddiant i’r sawlsydd am bregethu’rEfengyl Gristnogol ondnad ydynt yn dymuno,am amryw resymau,gymryd gofal o eglwys. Mae gan yr Undeb dros ugain o bregethwyr cynorthwyolcydnabyddedig ar hyn o bryd. Peter Harries o Salem, ger Llandeilo yw’r diweddaraf i gael ei gydnabod yn
swyddogol fel pregethwr cynorthwyol. Yn y llun, fe’i gwelir yn derbyn TystysgrifPregethwr Cynorthwyol gan y Parchg Aled Jones (dde) o Goleg yr Annibynwyr, yngnghwmni’r Parchg Gwyn Elfyn Jones, Cadeirydd Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin aBrycheiniog, mewn Cwrdd Chwarter yn Salem. parhad ar dudalen 2
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 13, 2018Y TYST
Cafodd Peter ei fagu yn eglwysBresbyteraidd Soar, Pontyberem, lle cafoddei wneud yn flaenor yn 20 oed. Ar ôl priodiEryl, merch o Salem, fe ddechreuoddfynychu’r oedfaon yng nghapel yrAnnibynwyr yno a dod yn aelod.Awydd i arwainBu Peter yn gweithio yn y Swyddfa Brisio,gan godi i fod yn rheolwr gwasanaethcwsmeriaid, swydd oedd yn golygu teithioi bob rhan o Gymru. Ym mlwyddyn eiymddeoliad o’r swydd honno yn 2012,cafodd ei neilltuo’n Arweinydd ar eglwysiSalem a Chapel Isaac, dwy eglwysAnnibynnol sy’n addoli ar y cyd. ‘FelArweinydd, doedd dim disgwyl i mi wneudgwaith bugeiliol, ond rwy wedi cael yfraint o fedyddio babanod a chymryd sawlangladd,’ meddai. ‘Roedd y Parchg DyfrigRees yn fy mentora o dan gynllun yRhaglen Datblygu, ac fe wnaeth ef, ynghydâ’r Parchg Wilbur Lloyd Roberts, roi’rhyder i mi gyflawni’r gwaith.’ Ar ôl cael eigymeradwyo gan y Cyfundeb i fod ynbregethwr cynorthwyol cydnabyddedig,ymunodd â chwrs hyfforddiant Coleg yrAnnibynwyr ddwy flynedd yn ôl, ganfynychu’r dosbarth yn Llandysul o dan ofaly Parchg Guto Prys ap Gwynfor. ‘Rwy’nmwynhau’r dysgu a’r ymchwilio wrthbaratoi pregethau,’ meddai Peter. ‘Mae fynyddiadur am 2019 yn llawn yn barod –neu o leia cymaint ag y gallaf wneud, ganfy mod yn rhoi blaenoriaeth i’r gwaith oarwain yn Salem a Chapel Isaac.’Galw eraill etoMae angen mwy o bregethwyrcynorthwyol cydnabyddedig fel PeterHarries. Mae pobl sy’n mynychu’rdosbarthiadau, a gynhelir mewn pumcanolfan yng Nghymru, yn tystio iddyntgael mwynhad mawr wrth ddysgu athrafod. Nid yw’r gwaith yn feichus, ondmae’n rhoi awdurdod a hyder i bersonddringo i bulpud. Os ydych chi âdiddordeb mynnwch air gyda’ch gweinidogneu un o swyddogion eich Cyfundeb.Cewch foddhad a bendith o gyhoeddi’rEfengyl a chwrdd â chyfeillion newyddmewn capeli eraill, fydd yn siŵr owerthfawrogi eich gwasanaeth yn gynnes achydnabod hynny yn ôl argymhelliad yrUndeb.
ATEB YR ALWADI BREGETHU’R
EFENGYL –parhad
MESEIAWele cawsom y Meseia ... meddai DafyddJones o Gaeo (1711–77) yn ei garolboblogaidd. Ond beth yw tarddiad y gairMeseia? Meshiach yw’r ynganiad Hebraeg achyfieithiad ohono i’r Groeg yw Christos –Crist. Felly, ystyr Iesu Grist yw Iesu’r Meseia.Mor aml mae pobl yn credu mai cyfenw Iesuy Crist, Mr Crist! Ystyr gyfyng Meshiach yw‘un wedi ei eneinio’. Eneinio yn yr HenDestament oedd arllwys olew am ben rhywuner mwyn eu neilltuo i gyflawni swyddarbennig. Roedd eneinio yn cael eiddefnyddio i neilltuo pobl i dair swydd sef;Archoffeiriad, Proffwyd a Brenin.ArchoffeiriaidGorchmynnwyd Moses i eneinio ei frawdAaron a’i feibion er mwyn eu cysegru i fod ynoffeiriaid i Dduw:
Yr wyt i’w gwisgo am Aaron dy frawd a’ifeibion, a’u heneinio, eu hordeinio a’ucysegru, er mwyn iddynt fy ngwasanaethufel offeiriaid.’ (Exo. 28:33-41, hefyd 29: 7-9 a 30:25-30)
Gwaith yr archoffeiriad oedd bod yn gyfrwngrhwng Duw a’i bobl a hefyd i offrymuaberthau dros bechodau Israel yn y Tabernacla’r Deml.ProffwydRoedd y proffwydi hefyd yn cael eu heneinioer mwyn eu neilltuo i’w gwaith. Digwyddoddhyn i’r proffwyd Eliseus:
Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Dos ynôl i gyfeiriad anialwch Damascus, a phangyrhaeddi, eneinia Hasael yn frenin ar Syria,a Jehu fab Nimsi yn frenin ar Israel, acEliseus fab Saffat o Abel-mehola ynbroffwyd yn dy le.’ (1Brenhinoedd 19:15-16)
Gwaith y proffwydi oedd cyhoeddi gair Duwgan alw pobl Israel a’i harweinwyr i gyfrifwrth wneud hynny roedd rhai yn cyflawnigwyrthiau.3. BreninRoedd brenhinoedd hefyd yn cael eu heneinio.Eneiniwyd Saul yn frenin gan Samuel:
Cymerodd Samuel ffiol o olew a’i dywalltdros ei ben, a’i gusanu a dweud, ‘Onid yw’rARGLWYDD yn d’eneinio’n dywysog ar eibobl Israel, ac onid ti fydd yn rheoli pobl yrARGLWYDD, ac yn eu gwaredu o law eugelynion oddi amgylch? (1Sam. 10:1 hefyd1Sam. 16:10-13)
Gwaith brenin yw teyrnasu yn gyfiawn acedrych ar ôl buddiannau ei deyrnas.Y Meseia IesuPan anwyd yr Iesu daeth fel Meseia Duw, yrun sydd wedi ei eneinio, wedi ei neilltuo iwaith arbennig. Fe ystyrir hanes yr Iesu yncael ei fedyddio yn afon yr Iorddonen ganIoan Fedyddiwr a’r Ysbryd Glân yn disgynarno, fel hanes ei eneinio. (Marc 1: 9–11) Acfel y Meseia y mae Iesu’n cyfuno’r tairswydd, fel Archoffeiriad, Proffwyd a Brenin.Ar ddechrau ei weinidogaeth aeth Iesu i’r
Synagog. Cymerodd sgrôl y proffwyd Eseiagan ddarllen y geiriau hyn:
Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwyddiddo f’eneinio i bregethu’r newydd da idlodion. Y mae wedi f’anfon i gyhoeddirhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg iddeillion, i beri i’r gorthrymedig gerdded ynrhydd, i gyhoeddi blwyddyn ffafr yrArglwydd. (Luc 4:18-21)
Fel Archoffeiriad – y mae Iesu’r eneiniogwedi rhoi ei hun yn aberth perffaith er mwyncymodi Duw a phobl. Rhan o waith yrArchoffeiriad oedd mynd i mewn i’r cysegrsancteiddiolaf i aberthu aberth cymod rhwngpobl a Duw:
Dyma’r math o archoffeiriad sy’n addas i ni,un sanctaidd, di-fai, dihalog, wedi ei ddidolioddi wrth bechaduriaid, ac wedi eiddyrchafu yn uwch na’r nefoedd; un nad oesrhaid iddo yn feunyddiol, fel yrarchoffeiriaid, offrymu aberthau yn gyntafdros ei bechodau ei hun, ac yna dros rai’rbobl. Oblegid fe wnaeth ef hyn un waith ambyth pan fu iddo’i offrymu ei hun. (Heb.7:25-28)
Fel Proffwyd – Y mae Iesu’r eneiniog yncyhoeddi neges am gariad rhyfeddol Duwtuag at ddynoliaeth ac yn galw pobl iedifeirwch a ffydd. Y mae’n sefyll o blaid ybregus ac yn llym iawn wrth y rhai hynnysy’n anghyfiawn a gormesol. Yn wir Iesu ywneges Duw i ddynolryw:
Mewn llawer dull a llawer modd y llefaroddDuw gynt wrth yr hynafiaid trwy’rproffwydi, ond yn y dyddiau olaf hynllefarodd wrthym ni mewn Mab. (Heb. 1:1)Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd yGair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. (Ioan1:1)
Fel Brenin – Y mae Iesu’r eneiniog, ynllywodraethu dros y cwbl. Y mae’n dod atheyrnas Duw i’r byd sy’n llawn cyfiawnder,cariad a gras, teyrnas sy’n iachau acadnewyddu. Y mae’n cynnal a nerthu ei boblac yn eu galluogi i oresgyn eu gelynion ac arei ddychweliad Ef fydd y Barnwr.
Meddai’r angel wrthi, ‘Paid ag ofni, Mair,oherwydd cefaist ffafr gyda Duw; ac wele,byddi’n beichiogi yn dy groth ac yn esgor arfab, a gelwi ef Iesu. Bydd hwn yn fawr, aMab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yrArglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd eidad, ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, acar ei deyrnas ni bydd diwedd.’ (Luc 1:30-33)
Heddiw dathlwn mai Iesu yw’r Meseia,eneiniog Duw, yr Archoffeiriad, y Proffwyda’r Brenin.
Samuel yn eneinio Dafydd yn frenin.
GolygyddolRhagfyr 13, 2018 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT
Gŵyl yn hau daioni Benthyciad o englyn y diweddarBarchedig Trebor Roberts, Porthmadogyw’r geiriau uchod Ŵyl y Geni. Rydw iwedi dod i’r casgliad, a diolch am hynny,bod yna lawer iawn o garedigrwydd i’wweld dros yr Ŵyl hon yn flynyddol.Dywedodd rhywun wrthyf yn ddiweddarbod ‘pawb yn glên adeg Dolig’. Ac oystyried, mae hynny’n wir. Rydan ni’n fwyparod i fod yn glên a charedig ein geiriaua’n gweithredoedd fel y mae’r Ŵyl ynagosáu.Duw yn hau daioniPan feddyliwn ni am y peth o ddifri, oniddyna wnaeth Duw, sef bod yn garedigtuag atom? Dod atom mewn person –doedd dim rhaid iddo. Uniaethu ei hun a’ncyflwr ni – doedd dim rhaid iddo. Bod âdiddordeb ynom fel dynoliaeth fel ei fod ynIesu Grist yn fodlon dioddef y gosb eithafdrosom – doedd dim rhaid iddo. Ond fewnaeth. Petai rywun yn gofyn i mi am uno’m hoff rannau o’r Testament Newydd,byddwn yn gorfod ateb mai’r prolog iEfengyl Ioan fyddai hynny: ‘A daeth y Gair
yn gnawd a phreswylio yn ein plith ynllawn gras …’ Hold on – gras. Beth ydihwnnw? Rhan o gariad anhaeddiannolDuw tuag atom ni fel pobl ac feldynoliaeth. Yn llawn gras tuag atom ni.Roedd yna bennill yn Y Caniedydd oeddyn agor efo’r geiriau: ‘Mae’n llawn o ras irai heb ddim – rwy’n un o’r cyfryw rai.’
Ymnerthu yn y grasAc fe aiff y pennill hwnnw yn ei flaen‘ymnertha, f’enaid, yn y gras yn Iesu sy’nparhau.’ Ystyr hynny yw ein bod ni yn caelein trwytho yn y gras ein hunain er mwynmedru byw’r gras efo pobl eraill, a dynaddod yn ôl at ran gynta’r hyn a sgrifennais.Rhannu’r gras ydi bod yn garedig wrthbobl nid yn unig ar Ŵyl y Geni ond drwygydol y flwyddyn. Caredig einhymarweddiad efo pobl, caredig eingweithredoedd a charedig ein geiriauoherwydd nid gynnau’n unig sy’n medru
difa ond geiriau hefyd. Does ryfedd bod yTestament Newydd yn rhybuddio y gall ytafod fod fel matsien fechan yn rhoicoedwig fawr ar dân. Mae yna ddigon oeiriau yn y Testament Newydd s’’ncrisialu’r neges bod ymnerthu mewn grasyn rhinwedd fel ag y dywedodd Paul:
Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwydiddo, os ydy o’n sychedig, rhorhywbeth i’w yfed iddo... (Rhufeiniaid12: 20)
Dydi bod yn hyll efo’n gilydd ddim ynrhinwedd, os rhywbeth, fe’m dysgwyd arfy aelwyd, mae’n beth tra gwahanol irinwedd. Ac yn y dyddiau sy’n rhoi cymainto sylw i Brexit, fedra i ddim ond gweld maipopeth croes i rinwedd sydd wedi esgorarno ac a ddaw ohono.
O’m rhan fy hun, mi ddymuna i NadoligLlawen, a Nadolig yn eich hanes chwi aminnau fydd yn hau daioni ... efo pawb.Paul ddwedodd ymhellach:
...bob cyfle gawn ni, gadewch i niwneud daioni i bawb, ac yn arbennigi’r teulu o gredinwyr. (Galatiaid 6: 10)
A ’dan ni’n cael trafferth bod yn glên efo’ncyd-Gristnogion tydan?!
Iwan Llewelyn
Dyma ail ran erthygl Huw TregellesWilliams sydd yn trafod y cynlluniau syddar y gweill i sicrhau dyfodol yr adeiladhynod hwn.Ni fu’r ugain mlynedd ddiwethaf yn segurna heb strategaeth: gyda chymorth ariannolCadw, y gynulleidfa a’r gymuned leol,gwariwyd dros £1.5 ar adfer yr adeilad, ogarreg uchaf ei feindwr i’r pibau draeniodan y capel, o adfer yr organ nodedig a’rnenfwd manwl i’r sustem drydanol aphileri enfawr y brif fynedfa. Sefydlwydpatrwm o archwiliadau pensaernïol manwlbob pum mlynedd er diogelu addolwyr achynulleidfaoedd cyngherddau.Gwahanwyd y gynulleidfa a’r adeilad, a’ucofrestru fel dwy ymddiriedolaeth ar
wahân, y gynulleidfa, dan ddeddfwriaethgymharol newydd, fel Sefydliad ElusennolCorfforedig. Mae’r cyfansoddiad hwn ynsymud baich a chyfrifoldeb am yr adeilad oysgwyddau ymddiriedolwyr unigol; gallantweithredu, hyd y mae eu hadnoddauariannol yn caniatáu, fel corff yn y rôlhanfodol o Ymddiriedolwr Gwarchodol yradeilad, y rôl draddodiadol y bu raid iUndeb yr Annibynwyr ei diosg yngngwyneb cynnydd sylweddol mewnadeiladau segur, dan fygythiad, yn eugofal.Datblygiadau pellachO safbwynt yr adeilad ac agweddaucyfreithiol mae mwy o waith i’w gyflawni:
lifft yn gwasanaethu trillawr yr adeilad,ehangu cyfansoddiadyr adeilad i gynnwyspwrpasau addas heblawaddoli a sefydlu, drwyymgyrch ehangach na’rgymuned leol, bwrdd oymddiriedolwyr âsgiliau addas i reoli’radeilad yn yr hirdymor.Diau bydd bwriadYmddiriedolaethAddoldai Cymru i leoliei chanolfan yn yTabernacl yn ystod
Dyfodol y Tabernacl, Treforys 2019 yn hybu ymwybyddiaeth o’iarwyddocâd, ymhlith y llond dwrn o gapeliGradd 1, fel adeilad nodedig, gwirgenedlaethol.FfyddiogDoedd dim arlliw o amheuaeth am ybwriad hyn yn anerchiadau Huw Edwardsa’r Arglwydd Elis-Thomas. Ond rhybuddcyson hefyd, wedi’i ategu droeon mewnsgyrsiau gyda’n hasiantaethau treftadaeth:heb ddefnydd sy’n cynhyrchu lefelauincwm realistig, heb ddyfodol. Er bod yradeilad yn adnabyddus dros Glawdd Offa,drwy ymddangosiadau cyson yn Songs ofPraise ar rwydwaith BBC1, ar gloria llwchrecordiau’r 60au gan Gôr Orffews Treforysar label ryngwladol EMI, neu’r llynedd, felhoff addoldy Cymru mewn pleidlais ar-leingan Ymddiriedolaeth GenedlaetholEglwysi Prydain, mae’r sialens yn heriol.Rhaid troi tynfa emosiynol tuag at adeiladneu atgofion cynnes am ddigwyddiadaunodedig ynddo yn benderfynolrwydd isicrhau ei ddyfodol.
Dysgais, mewn meysydd eraill, fodllwyddiant prosiectau sylweddol mewngwlad fechan ei hadnoddau yn dibynnu arbartneriaethau. Yn yr achos ymadechreuwyd eu creu ar ffurff gweithgor ifonitro’r strategaeth, yn cynnwys Cadw,Cyngor Abertawe a swyddogion yTabernacl. Ond i wireddu’r strategaeth,bydd angen partneriaethau pellach, yn rhaiseciwlar ac eglwysig.
Huw Tregelles Williams
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.
Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]
Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Tŷ John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe
ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888
E-bost: [email protected]
tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Rhagfyr 13, 2018Y TYST Golygydd
Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,
Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE
Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]
GolygyddAlun Lenny
Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX
Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039
E-bost: [email protected]
Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen
Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.
Golygyddion
Sundays with CWM:Every Step Together 2019Mae cyflenwad o Sundays with CWM:Every Step Together 2019 ar gael ganUndeb yr Annibynwyr Cymraeg i bwybynnag yr hoffai ei dderbyn.Cysylltwch â Thŷ John Penri ar (01792)795888 neu [email protected]
Blas o Fadagascar: Swper MadagascarGobeithio’ch bod chiwrthi’n trefnudigwyddiadau ermwyn dod ynghyd igodi arian ar gyferApêl Madagascar:Bywyd i Bawb agobeithio’ch bodchi’n cael hwyl wrth
wneud yn y broses. Mae’n beth braf dod iadnabod y pedwar prosiect a theimlo’n bodni am wneud gwahaniaeth go iawn ymmywydau pobl allan ym Madagascar.
Er mwyn eich helpu i gael blas o’rYnys Fawr. Mae Undeb yr Annibynwyrwedi gofyn i Rebecca Lalbiaksangi a MiaraRabearisoa o Fadagascar, sy’n byw ymMhen-rhys yn y Rhondda, rannu ryseitiauam brydau â blas Madagascar iddyn nhw.Mae pedair rysáit i gyd, ac mae’r pedair ynhawdd i’w gwneud. Mae’r ryseitiau i’wcael ar wefan yr Undeb, ewch i:annibynwyr.cymru.Dyma’r pedair rysáit o Fadagascar:• bara melys (mofo baolina) • briwgig ffa gwyrdd (totokena sy haricot
vert) a salad tomato (lasary voataby)• cig eidion (henaomby ritra) a salad
moron (lasary karaoty) • porc a ffa gwyn (henakisoa sy kabaro)Yn ogystal â hyn, mae ffilm fer hwyliog ary wefan o griw Pen-rhys wrthi’n creu’rmofo baolina yn y gegin yno, chwiliwcham ‘Cegin Pen-rhys’.
Pam na threfnwch chi SwperMadagascar fel digwyddiad i godi arian?
Fel tamaid i aros pryd, dyma rysáit ymofo baolina blasus:
BYRBRYD MALAGASIMELYS: BARAWEDI’I FFRIO
Cynhwysion• 4 wy• 500g blawd codi • 200g siwgr • 1 pot bach o iogwrt
naturiol • 1 lemwn – llwy
bwdin o’r sudd a’r croen wedi’i gratio • 4 llwy de o bowdr cnau coco (dewisol)• ¼ llwy de o sinamon (dewisol) • 1½ litr o olew coginio (olew cnau yw’r
gorau at hyn)• ½ llwy de o halen Dull• Torrwch yr wyau a gwahanu’r melynwy• Mewn powlen, cymysgwch yr halen a’r
sudd lemwn• Ychwanegwch y gwynnwy a’r siwgr a’u
cymysgu’n dda• Ychwanegwch y cymysgedd melynwy• Mewn powlen arall, cymysgwch y blawd
a’r iogwrt• Ychwanegwch y powdr cnau coco, y
sinamon a’r croen lemwn wedi’i gratio• Cymysgwch yn dda a’i adael am awr• Cynheswch yr olew mewn sosban, pan
fo’r olew yn boeth, gostyngwch y gwres • Er mwyn osgoi sticio, rhowch eich llwy
bwdin mewn i olew oer cyn dechrau.Codwch lond llwy bwdin o’r cymysgedda’i ffrio’n ddwfn yn yr olew. Dylai’r baraedrych fel pelen fach sy’n nofio yn ysosban
• Pan fo’r belen yn frown, cymrwch hiallan o’r olew gan ddefnyddio llwydyllog a’i rhoi i orffwys ar bapur ceginer mwyn draenio’r olew. Gweinwch yngynnes naill ai ar blât neu mewn powlen.