12
D a gweld y dasg o adnewyddu 35 o dai yn strydoedd Cymraeg Toxteth wedi cychwyn. Roedd cyngor Lerpwl a chymdeithas tai yn y lle cyntaf eisiau cael gwared a 271 o gartrefi yn y Strydoedd Cymreig ac adeiladau 154 o dai newydd. Mae’r cyngor yn gobeithio yn awr y bydd cyfran sylweddol o’r 300 o dai yn medru cael eu hadnewyddu, gyda rhai tai yn cael ei huno gyda eraill i’w gwneud yn fwy a fydd yn apelio at deuluoedd y dosbarth canol. CYF. 38. RHIF 12 MAI 2017 50c YN Y RHIFYN HWN ––––––– Noson Ffilm Hedd Wyn. Cofio David Hugh Morris a Clifford Evans. Newyddion Seion, Penbedw; Bethania, Bethel, Cymry Lerpwl, Cymry Manceinion. Cronfa Arbennig. Dathlu G ˆ wyl Ddewi ym Manceinion. Cystadleuaeth Myfyrwyr Prifysgolion Lerpwl yn barod i berfformio Y Welsh Streets Y Dyfodol Ymarfer Côr y Myfyrwyr Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Llongyferchir Cymdeithas Gymraeg Myfyrwyr Cymry Lerpwl Gweler tudalen 5 i gael yr hanes yn llawn.

Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

Da gweld y dasg o adnewyddu 35 odai yn strydoedd CymraegToxteth wedi cychwyn. Roedd

cyngor Lerpwl a chymdeithas tai yn y llecyntaf eisiau cael gwared a 271 o gartrefiyn y Strydoedd Cymreig ac adeiladau 154o dai newydd. Mae’r cyngor yn gobeithioyn awr y bydd cyfran sylweddol o’r 300 odai yn medru cael eu hadnewyddu, gydarhai tai yn cael ei huno gyda eraill i’wgwneud yn fwy a fydd yn apelio atdeuluoedd y dosbarth canol.

CYF. 38. RHIF 12 MAI 2017 50c

YN Y RHIFYN HWN–––––––

Noson Ffilm Hedd Wyn.Cofio David Hugh Morris

a Clifford Evans. Newyddion Seion,Penbedw; Bethania, Bethel,

Cymry Lerpwl, Cymry Manceinion. Cronfa Arbennig.

Dathlu Gwyl Ddewi ym Manceinion.Cystadleuaeth

Myfyrwyr Prifysgolion Lerpwl yn barod i berfformio

Y Welsh Streets

Y Dyfodol

Ymarfer Côr y Myfyrwyr

Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL

Llongyferchir Cymdeithas Gymraeg MyfyrwyrCymry LerpwlGweler tudalen 5 i gael yr hanes yn llawn.

Page 2: Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

2

Rwy’n meddwl mae dim ond dau o arweinwyr yCenhedloedd Unedig sydd hyd yn hyn wedi derbyn GwobrHeddwch Nobel sef Dag Hammarksjold a Kofi Annan. Cyn iKofi Annan gael ei apwyntio yn Ysgrifennydd Cyffredinol yCenhedloedd Unedig ef oedd un o brif swyddogion yn AdranMudiad Gwarchod Heddwch. Cymeriad annwyl a chadarn ywKofi Annan a bellach wedi cilio o lwyfan y byd i fwynhauymddeoliad. Ond yn ystod ei gyfnod gyda’r CenhedloeddUnedig bu yn ddiplomat pwysig, yn gadarn ar un llaw, ac ynddi-dramgwydd ar y llaw arall yn ei ymwneud ag arweinwyr ybyd. Ei holl fryd oedd dwyn pobloedd a chenhedloedd igymod ond ni lwyddodd am fod y cenhedloedd mawr yngosod pob rhwystr yn ei erbyn ac yn gorfoleddu yn yr ymladda’r rhyfela fel y gwna Rwsia yn Syria.

Un o heddychwyr Uruguay, Perez Aqueirene a ddiffinioddcymod fel hyn:

Yr hyn yr wyf yn ei olygu wrth gymod yw torri cylchdrygioni sy’n cynnwys dial a thalu drwg am ddrwg.Golygai cymod roi terfyn ar y ‘rhesymoleg’ymddangosiadol hwn. Yn syml, yr hyn ydyw, yw’r gallui fod yn feidrol, ac i faddau i’r gelyn. Y mae cymod ynfwy na chyfiawnder sy’n sicrhau cyfartaledd i’r ddwyochr, y gallu i oresgyn gwewyr a dangos y medr bodaudynol wrthsefyll drygioni ydyw.

Ond yr hyn a ddywed Perez Aqueirene mewn gwirioneddydyw hyn, fod heddwch yn fater y mae’n rhaid i’r unigolynweithio amdano. Dynion drwg sy’n creu uffern ar y ddaear, tramae dynion da sydd yn gofalu fod yna eraill ohonom ynmwynhau nefoedd ar y ddaear. G wr gwirioneddol ddrwg oeddKhalid Masood o Birmingham pan yrrodd y car modur drosbont Westminster ar bnawn Mercher, 21 Mawrth 2017 a lladdpedwar o bob ddiniwed a gyrru ymlaen am San Steffan lle yllwyddodd i osod cyllell yng nghorff heddwas cyfeillgar oeddyn amddiffyn y Ty Cyffredin a’r Aelodau Seneddol, yrheddwas Keith Palmer. Bu Masood fyw am flynyddoedd ynmynnu niweidio a cwffio a thorri’r gyfraith ac fe’i carcharwydo leiaf ddwywaith am ei weithredoedd creulon ac ysgeler.

Ac eto yn ei lecyndod pan yr adnabyddid ef fel Adrian Ajaoyn Tunbridge Wells, plentyn o’r dosbarth canol ydoedd, ac ynfedrus ar gae chwarae ac yn boblogaidd ym mhlith ei gyd-ddisgyblion. Beth ddigwyddodd iddo? Ai’r carchar a’icaledodd neu ei ddroedigaeth i grefydd Islam? Ni allwn atebhyd yn hyn, ac yn ôl yr heddlu nid oes ateb. Dywedir ydyddiau hyn fod modd radicaleiddio pobl sydd yn greulon ifod yn filwyr Isis ar ôl treulio cyfnod mewn carchar, agwyddom fod cyfnod ar faes y gad yn Afghanistan neu Irac ynmedru aflonyddu ar fechgyn cymedrol i fod yn ffiaidd athreisiol. Ac eto nid yw hynny yn golygu na ddylemanwybyddu y rhai a fu yn rhyfela. Nid ymladd er mwyn caelbuddugoliaeth i ni fel Prydeinwyr ei ddathlu a wnaethpwyd. Yroedd y rhai a frwydrodd yn y rhyfeloedd gwaedlyd oddiar1914 yn gwybod yn ddigon da eu bod yn brwydro dros eugwlad – Cymru a gweddill Prydain – dros eu teuluoedd; ynbrwydro er mwyn cael heddwch fel y medrai eu plant fwynhaubyd di-ryfel.

Bob bore yr ydym yn diolch am wasanaeth y lluoedd arfog,yn cofio Hedd Wyn a phob milwr arall na ddaeth adref iDrawsfynydd a Lerpwl a Manceinion a phob man arall o’rbrwydro hyd angau, ac yn cydnabod er hyn i gyd na chawsom

ein boddhau am fod y gwrthdaro a’r tywallt gwaed yn dal iddigwydd dydd ar ôl dydd yn Syria, Yemen, De Sudan,Nigeria, Irac a strydoedd dinasoedd cyfandiroedd y byd.

Ychydig o ddaioni mewn bywyd sydd yn dod heb ymdrechbobl ddewr a daionus. Nid yw heddwch erioed wedi dod hebweithredu a heb fudiadau yn gweithio i greu amodau gwell.Mae yn fy ideoleg i esboniad pellach. Rhodd werthfawr ywbywyd pob un ohonom. Rhodd yw heddwch sydd yn dangosyn eglur ddigon y ffordd y medrwn adnewyddu y greadigaetha’r ddynoliaeth, ein gwareiddiad a’n byw o ddydd i ddydd. Bufy Ngwaredwr, Iesu o Nasareth, fyw a dioddef waradwydd amarw ar bren garw’r Groes er mwyn dod a heddwch i ni aphawb sydd yn dilyn ei lwybrau fel plant i Dduw. Ni welais ynumman fod arweinwyr pob crefydd yn debyg iddo yn hynny obeth. Nid rhyfelwr oedd yr Iesu ond tangnefeddwr. Plant iDduw yw’r tangnfeddwyr o George M. Ll. Davies i WaldoWilliams. Ni nodaf rhagor oherwydd gellir pentyrruenghreifftiau di-ri. Mae’r elfen ddwyfol yn dwyn heddwch igalonnau pobl sydd yn sychedu am gyfiawnder ac yn arwain nii ddyheu am hynny ein hunain. Mae pob un ohonom sydd ofewn teulu Duw yn dyheu am i efengyl y cariad gofleidio yranghenus ac yn ein hatgoffa mai braint aruthrol ydyw cael bodyn wneuthurwyr y cymod. Fe’n galwyd i fod yndangnefeddwyr ond fe’n gyflyrir gan amgylchiadau, y wasg,a’n cyfoedion i fod yn rhyfelwyr. Dyna iaith pobl sydd heb eiargyhoeddi o gyfraniad cymod.

Fel Cristnogion fe dreuliwn lawer iawn o’n hamser yn trafodheddwch. Bu yn rhan ohonof ar hyd fy oes, mewncynadleddau a phwyllgorau, a phrotestiadau a deisebu, llythyra llunio cenadwrïau i’r Prif Weinidogion a’r Wladwriaethdrwm ei chlyw. Gwyddom am gymaint o wledydd lle nad oesgobaith am heddwch am ddegawdau fel y sefyllfa dorcalonnusyn Israel a Phalestina. Ac nid oes neb yn edifarhau yno ar ysgrin deledu, ond yn ei bywydau personol clywn oddiwrthyntyn reit aml ei bod wedi hen syrffedu ar ddicter a thrais.

Mae Heddwch yn golygu cymaint o newid i’r ddynolryw,mae’n ofynnol i gael urddas o fewn cymunedau, hawliaudynol, ie cyfiawnder o fewn llysoedd a rhyddid i fynegi barn, iaddoli, a gwrthwynebu drygioni fel bo’r galw.

Hyd yn hyn, nid yw pawb o’n hamgylch yn byw mewncymod â’i gilydd, ac yn sicr nid gyda’i Duw. Mae gyda niwareiddiad ond y mae methu a dod a’r ffrwyth pennaf i’ncymunedau. Gall pob un ohonom ddyheu a dyfynnu o ddydd iddydd frawddegau o eiddo Henry Richard, Gandhi, NelsonMandela. Dywedodd un heddychwr: “The peace sown bypeaemakers brings a harvest of justice.” A yw hynny’n wir?Mae cymaint yn dioddef, yn sâl a neb â diddordeb (hyd yn oedy Gwasanaeth Iechyd yn cwyno am adnoddau) eraill hebgartref, y rhai a gam-drinir, ac sydd yn byw mewn ofn nos adydd. Y mae gennym ddigon i’w ddweud fel y Golygyddolhwn, a lluniwyd llu o gerddi, ac o emynau, a homiliau sydd aryr un trywydd. Gweddïwn gyda’r diweddar Barchedig D. E.Williams, Abertawe (Pontyberem gynt):

‘Tywys ni i ffordd tangnefedd fel y delo’r teulu’r un;doed dy gariadi gymodi gwledydd byd’.

Dyna’n dyhead ond ofnaf fod cymhlethdodau di-ri ar fforddy Cymod yn ein canrif ni.

CYMhLethDoD Y CYMoDgan D. Ben Rees

Golygyddol

Page 3: Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

Gwerinwr diwylliedig oedd david H.Morris o ddyffryn Clwyd ond aymserchodd fel cymaint o Gymry eraillyn ninas Lerpwl a’i phobl. Ganwyd efyn arfryn, rhuallt, i Hugh a MaryMorris a hynny ar 5 ionawr 1938.Mynychodd yr Ysgol leol a Ysgolramadeg Llanelwy, a gadael ysgol i fodyn brentis o drydanwr. Yn eiflynyddoedd cynnar yr oedd yn bêl-droediwr o fri, a bu’n aelod o dîm plantysgol sir y Fflint, dipyn o gamp. Hoffaiei fodur a’i fywyd a’i ymlyniad wrthenwad eglwys Bresbyteraidd Cymru.deuai o deulu o flaenoriaid – ei dad yngnghapel rhuallt, ewythr arall yngnghapel Tremeirchion, a’r trydyddbrawd yng nghapel Hamersmith,Llundain. edrychai ymlaen i dreulio eiwyliau gyda’i deulu yn Llundain. Bu efar hyd ei oes yn gapelwr, yng nghapelrhuallt, yna yng nghapelwaengoleugoed, ac yn olaf yng nghapelBethel, Heathfield road.

ar ôl priodi a Gloria fe aeth y ddau o1973 i 1977 am bron bum mlynedd iawstralia gan ymweld â selandnewydd, unol daleithiau a Canada.darllenodd fy hunangofiant, Di-ben-draw (2015) a’r rhan oedd yngyfareddol iddo ef oedd fy nheithiaua’r pererindodau. Teimlai eiddigedd fymod wedi gweld cymaint o wledydd!

Bu yn ofalus o’i fam, ac yn gofalumynd â hi blwyddyn ar ôl blwyddyn i’ralban. ei hoff fan yn y wlad brydferthhonno oedd oban. Yr oedd yn meddwly byd hefyd o’i frawd ellis a’i briodanne, a’r bechgyn stephen a andrewsydd yn byw yn Llanelwy.

Yr oedd ganddo deulu yn Lerpwl athrwy y cysylltiadau hynny y daeth iadnabod pauline a fu yn ffrind ac ynbartner iddo am ddeugain mlynedd. arôl ymddeol o weithio fel trydanwr ynFfatri Laeth Llandyrnog medraidreulio mwy o amser yn Lerpwl. roeddganddo dy ym mhentref Bodelwyddana chartrefai yn Kirby. ar un oymweliadau â Chapel waengoleugoed y

deuthum i’w gyfarfod, a’i wahodd iymuno â ni yng nghapel Heathfieldroad, ac fe ddaeth yn gyson, ac yn ydiwedd pwysais arno i ddod yn aelod.Yr oedd tynerwch ac addfwynder yn eibersonoliaeth a byddai wrth ei fodd ynhelpu eraill. Llawer tro byddai’nhebrwng teuluoedd o fro ei febyd a’rcyffiniau i ddod i ddinas Lerpwl i’rYsbytai gan fod y traffig yn fwganiddynt. dyn yr ail filltir oedd deiMorris. Yn Bethel daeth yn grynffrindiau â’r athro david alan priceevans, a phan fu’n rhaid i’r gwrathrylithgar hwnnw fynd i GartrefGofal, galwodd d. H. Morris arno fwynag unwaith yn woolton. roeddganddo gryn bellter i ddod i Bethel,ond fe ddeuai o Kirby, ac yn reit amlgyda wyres pauline, sef Jasmin. Byddaiyn gofalu fod pauline ac yntau ynbresennol yn ein dathliadau Gwylddewi.

dyn gostyngedig o galon, parchusohonoch, caredig ei ysbryd, ac ynbarod i gario baich. Fel y dywedodd eibartner bu yn gymorth iddi wynebu ar

brofiadau mawr y daith, colli mab ardrothwy canol oed, a’i hiechyd hithauyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweldcymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwla Manceinion yn yr arwyl. Bu’n ddyniach ar hyd ei oes, cafodd sumptomauyr afiechyd a’i llethodd ryw bymthegmlynedd yn ôl, ond daeth drosto, ondcyn nadolig cawsom ein syfrdanu ei fodyn gorfod gwynebu ar ysbyty. daethadref, ond o fewn ychydig amser yroedd yn gorfod derbyn gofal hosbiswoodland o fewn campws Ysbytyaintree.

derbyniodd ofal nodedig. Cefais yfraint o weinnyddu y sacrament oswper yr arglwydd iddo. Holodd fi ynfanwl gan ei fod yn cyfaddef nad oeddyn gwella, am y daith anorfod i’r bydtu hwnt i’r bedd. Ceisiais ateb yn onestond yn niwedd y sgwrs cydnabod fod ydaith honno yn ddirgelwch i gyd. Felnad ydym yn cofio ein geni o groth einmamau, ni fyddwn yn wahanol i hynnyar ddechrau y bererindod o’rpererindodau. Gadawodd ni yn dawelar ddydd olaf Chwefror a bu’rgwasanaeth, o dan fy ngofal yngnghapel waengoleugoed lle ycroesawyd ni yn gynnes gan yr athroMari Lloyd williams a fu yn ymwelyddcyson ag ef, fel dr. John G. williams ogapel Bethel. Llanwyd Capel y waen arddydd Mercher, 5 Mawrth a thaloddandrew Morris deyrnged a minnau,darn o farddoniaeth o eiddo Jasmin yncael ei ddarllen gan berthynas iddi, acoddi yno i eglwys Corff Crist a’rfynwent yn nhremeirchion lle gorweddei anwyliaid a’i gyfoeswyr. Mangredelfrydol, a chynrychiolwyd eglwysBethel gan y blaenor w. Meirionevans. Cafodd ei ddymuniad.Gwasanaeth dwyieithog, Cymreig aninnau yn canu ‘o fryniau Caersalemceir gweled’ ar lan y bedd a haul ygwanwyn yn taflu ei wres lletholarnom. Yr oedd y nefoedd yn agos i nioll.

D. Ben Rees

3

CorneL Y TrYsorYddMai 2017

Mrs Doris Thomas, Llangefni .......................................£25.00Mrs Mair Nadolig Jones, Y Bala .....................................£5.00Di-enw, Lerpwl..............................................................£40.00Er cof am Walter Rees Jones, Penbedw ........................£25.00Rhodd Cymdeithas Gymraeg Penbedw.......................£100.00

Cyfanswm £195.00

roderick owen (Trysorydd)

Ysgrif Coffa

david HuGH Morris (1938-2017), Kirby a Bodelwyddan

Cystadleuaeth

sCrabl(Gweler Angor Mawrth 2017, t. 11).

Dyddiau cau: Nos Lun, Mawrth 27 -

(estynwyd y dyddiad cau gan na

chafwyd ateb hyd yn hyn).

GWoBR: UGAIN PUNT (£20).Ni chafwyd un ymgais.

Mae’n amlwg nad oes neb o’r

Cymry yn ymhyfrydu mewn scrabl

Page 4: Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

eglwys seion, Laird street,penbedw

Mae Liz chwaer hynaf ein organyddMr. Goronwy Humphreys, Wallasey ynbur wael yn ei chartref yn Nottingham.Roedd Liz yn un o blant Capel RakeLane. Anfonwn ein cofion ati hi a hefydat Mrs Dilys Askew. Mae Dilys yn awr odan ofal meddygon yn Ysbyty ArrowePark ar ôl cael damwain tra yn galw iweld ffrind iddi.

Pnawn Sul, 26 Mawrth daeth GolygyddBlwyddlyfr yr Henaduriaeth Mrs ShianMorris, Llanelwy i’n gwasanaethu.Cawsom oedfa fendithiol o dan eiharweiniad. Braf oedd medru diolch iddiam olygu y Blwyddlyfr 2016. Nid gwaithhawdd. Anfonwn ein cofion at aelodausydd yn methu cyd-addoli â ni a chofiwnamdanynt yn ein gweddïau.

eglwys Bethania, Crosby road south, waterlooCroesawyd Mrs Siân Morris o

Llanelwy i gymryd yr oedfa ar y Sul olafo Fawrth a daeth a’r Blwyddlyfr yrHenaduriaeth gyda hi. Ar ddiwedd yroedfa cafwyd y Cyfarfod Blynyddol aderbyn yr adroddiadau a thrafod eindyfodol. Teimlwn fod hi’n fraint tystioyng Ngogledd Lerpwl a gwahoddwyd einGweinidog i drefnu Suliau am 2018.Rhydd ef fel y gwyddom mwy na’rdisgwyl o oedfaon i ni a theimlid y gallwnalw hefyd ar cyfeillion o blith yr

Anglicaniaid i’n cynorthwyo yn ôl y galw.Sylweddolwn yn y Blwyddiadur bod ynaddisgwyl arnom i drefnu Seiat Ymweliadcyn diwedd 2017 a bwriadwn ystyriedhyn yn y dyfodol agos. Anfonwn eincofion at bawb o’n anwyliaid, a diolchwni’n swyddogion am yr arweiniad o oedfa ioedfa.

Cymdeithas Cymry Birkenhead

Cawsom ginio Gwyl Ddewi hyfryd odan lywyddiaeth Mrs Mair Rees Jonesyng ngwesty Grove House Wallasey arnos Wener Mawrth 3ydd. Daeth bron i

hanner cant ohonom ynghyd i ddathludydd ein nawddsant, i sgwrsio gydachyfeillion, cael bwyd tymhorol amwynhau adloniant difyr. Traddodwyd yfendith gan y Barch Glenys Wilkinson,gwnaed y trefniadau gan Iola a Phyllis, aIola oedd yn gyfrifol am y fwydlenunigryw a chelfydd.

Daeth parti “Edern” o Fodedern i’nswyno gyda’i caneuon hen a newydd,unawadau ar y delyn, a chanu cerdd dant.Tair o ferched ifanc talentog yw’r parti,dwy chwaer Elain a Glesni a chyfaill,Annest gyda mam y ddwy chwaer, MrsAnn Peters Jones yn cyfeilio a hyfforddi.Maent fel parti ac fel unigolion wediennill gwobrau yn Eisteddfod yr Urdd acyn lleol, wedi cynhyrchu cryno ddisgllwyddianus iawn ac wedi ymddangos arNoson Lawen S4C. Rhwng y caneuoncawsom straeon doniol gan dad y ddwychwaer. Dymunwn pob llwyddiant i’r dairtalentog a dymunol yn eu haddysgbellach. Diolchodd Mrs Eirwen Sargent ibawb am noson arbennig o bleserus allwyddiannus unwaith eto.

Ar y nos Sul canlynol, cynhaliwyd eingwasanaeth arbennig i cofio Dewi, y sant,pregethwr ac efengylydd. Mae bob amseryn bleser cael rhannu ein cyfarfod gydachyfeillion Lerpwl, a heno Mrs NanHughes Parry oedd ein gwestai. Ganddi hiclywsom sylwadau a myfyrdod ar fywyda gwaith Dewi, drwy lenyddiaeth Cymrudrwy’r oesoedd. Roedd prawf owybodaeth eang o lenyddiaeth abarddoniaeth ein gwlad i weld yn eidewisiad o ddarlleniadau. O’r cyfarwyddfel yng ngwaith T. H. Parry Williams, i’rnewydd yng ngwaith prifeirdd cynnar hydat awduron cyfoes clywsom deyrngedau

4

Newyddion o

Lannau Mersi a ManCeinion

Parti edern

• Tanysgrifiadau/rhoddion - Llawer o ddiolch am haelioni i’r papur bro hwn,papur unigryw iawn yn hanes Newyddiaduriaeth Cymraeg 2017. Daliwch i’wgynnal trwy anfon at ein Trysorydd, Roderick Owen, Maeshir, 21 DrennanRoad, Allerton, Lerpwl/ Liverpool L19 4UA, a chaiff eich cyfraniad eigydnabod yng Nghornel y Trysorydd yn rhifyn nesaf Yr Angor.

• Pris Yr Angor yw £11.00 trwy’r post bob mis o Mehefin ymlaen. Anfoner eichsiec i Bwyllgor Yr Angor. Hysbyseb – £60 y tudalen; £30 hanner tudalen.

• rHiFYnnau nesaF Yr anGori) rhifyn Mehefin 2017 – erbyn bore Mawrth, 2 Mai, 2017, – neu ar y we i

[email protected]

ii) rhifyn Gorffennaf 2017 erbyn bore Iau, 1 Mehefin, 2017 – lluniau,adroddiadau, llythyron, etc.

iii) rhifyn awst/Medi 2017 – erbyn bore Sadwrn, 1 Gorffennaf i 32 Garth Drive,Allerton, Lerpwl L18 6HW er mwyn ei bostio i Llanuwchllyn am 11.00 o’rgloch y bore hwnnw.

• Cofier y wefan – Liverpool-welsh.co.uk (ewch yno bob mis) a Cymry-Lerpwl.co.uk

Gair Byr i’r Darllenwyr, Cyfranwyr, Dosbarthwyr atheulu’r Angor

Page 5: Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

eang a diffuant i’n sant a’n gwlad.Hawdd oedd inni uniaethu a

chydymdeimlo a’r cariad at wlad ac atDduw a fynegwyd yn newisiadmeddylgar ac addas, Mrs Hughes Parry.Llywydd y noson oedd y Barch GlenysWilkinson a Terry O’Neil oedd wrth yrorgan, a gwanaed casgliad at Gapel Seion,Laird Street, ein cartref fel cymdeithas.

Yn ystod yr wythnos clywsom newyddtrist am farwolaeth frawychus o sydyn,Mrs Wendy Vaughan. Estynnwn eincydymdeimlad â Megan, ei mam yngnghyfraith a’r teulu oll yn eu colled.

“Hanes Glynllifon” oedd darlith J.Dilwyn Williams ar nos Lun Mawrth 27,pan ddaeth atom o Benygroes. Brodor oardal Pwllheli yw J.W. fel y gelwir ef gangyfeillion; yn athro, archifydd a hanesydd- yn arbenigo mewn hanes stadau apherchogaeth tir. Addysgwyd ef ymMwllheli a Bangor lle graddiodd yn yGymraeg ac yna ennill cymhwyster felArchifydd. Mae ei wybodaeth helaeth a’ihoffder o’r hen stadau yn amlwg yn eisgwrs ddiddorol a gafaelgar. Gydadarluniau, hen ddogfennau a mapiauarweiniodd ni o ddyddiau cynnar y plasdyger Caernarfon yn y nawfed ganrif, hyd atolygon gobeithiol am y blynyddoeddnesaf.

Yn nyddiau cynnar y plas roeddawyrgylch hollol Gymreig yno gydateuluoedd yn noddi beirdd a chantorionteithiol i’r plasdy cerrig yn 1618. Codwydyr adeilad sylweddol o frics coch gan SyrJohn Wyn yn 1749 a thrwy briodasauffafriol enillwyd mwy a mwy o dir astadau, gan gynnwys rhannau helaeth oLyn, ac ynys Enlli.

Drwy’r blynyddoedd canlynol roeddffyniant yn hanes y teulu, a’r plas, gydallawer o ymwelwyr blaenllaw ynmwynhau lletygarwch hael. Dyma amseradeiladu Caer Belan ym Morfa Dinlle a

chaer Williamsburg sy’n dal yn y parc.Daeth Syr Thomas Wyn yn aelodseneddol dros Gaernarfon yn 1761, ac yn1776 cafodd ei anrhydeddu fel ArglwyddNewborough. Diddorol yw deall mai teitlGwyddelig oedd yr anrhydedd ac felly nichafodd eistedd yn nhy’r Arglwyddi. Bufarw ei wraig yn ifanc, ac aeth SyrThomas (Arglwydd bellach) i’r Eidal acanwybyddu’r stad am amser. Ynopriododd ferch ifanc iawn, o’r enw MariaStella Petronilla. Ceir ei hanes yn ei llyfr‘The Memoirs of Maria Stella’ ac maecofeb iddi yn eglwys Llandwrog. Panddaeth y cwpl yn ôl i Gymru, fe swynwydy ferch ifanc gan y plasdy a’r tir, adechreuwyd ysbaid lliwgar a bywiog ynhanes y stad. Ganwyd dau fab iddynt a buun ohonynt yn gyfrifol am ddodrefnu’rplasdy yn foethus iawn, a chwalutyddynod er mwyn ehangu’r parc a chodirsaith milltir o wal o’i amgylch yn 1824.

Dinistrwyd y plasdy drwy dân yn 1836gan adael “a mere shell of lofty walls” achollwyd llawer o drysorau. Adeiladwydy plasdy presennol yn 1851 ar gynllunEdward Haycock, pensaer o Amwythig.Bellach roedd ansawdd y cartref a’r teuluyn hollol Saesneg ond roedd y Arglwyddicanlynol yn garedig a hael i’w tenantiaid.

Daeth newid ar fyd a ffawd y plasdaimawr, drud i’w cadw, a gwerthwyd y stadyn 1948 a symudodd y seithfed ArglwyddNewborough i stad Rhug, Corwen llemae’r teulu yn dal i ffermio a chynnal tir.Mae rhan helaeth o’r adeiladau a’r parcyn eiddo i Gyngor Gwynedd fel ColegMeirion Dwyfor. Cyn bo hir fe welwn ail-gyfodi Glynllifon fel gwesty hyfryd.Efallai cawn fynd yno am ben wythnos!

Mrs Iola Edwards oedd llywydd ynoson, Terry O’Neill oedd yn cyfeilio aBetti a Llwynwen oedd yng ngofal ylluniaeth pleserus.

eglwys Bethel, Heathfield road, Lerpwl

Roedd hi’n ddydd Gweddi Chwioryddy Byd ar y 3ydd o Fawrth ac aethcynrychiolaeth o Chwiorydd Bethel ieglwys Elm Hall Drive. Trefnwyd rhaglenarbennig gan chwiorydd y Philipines, acaelodau o Eglwysi Unedig Mossley Hillyn portreadu bywyd caled y chwiorydd achyflwr y wlad honno. Braf oedd caelcyfle i sgwrsio ar y diwedd uwchbenpaned o de a theisen.

Ar y Sul cyntaf o’r mis cafwydgwasanaeth Undebol Gwyl Dewi o danarweiniad ein gweinidog y Parchedig Ddr.D. Ben Rees gyda chyfraniad gan aelodauBethel a Bethania. Rhoddwyd braslun i nio gefndir ein nawddsant, er mai prin yw’rwybodaeth amdano, ond mae ei neges yrun mor addas i ni heddiw ag yr oedd yn ychweched ganrif; i ni gadw ein ffydd a’ncred a gwneud y pethau bychain er budd abendith i eraill.

Aeth y Gymdeithas Lenyddol i’rpictiwrs ar nos Lun, Mawrth y 6ed ac ynein derbyn yn y cyntedd ‘pecyn opopcorn’. Sara a gyflwynodd y noson ganroi rhaglen i’r ffilm Gymraeg ‘Hedd Wyn’ac addas oedd hyn gan y byddwn eleni yndathlu can mlynedd ei farw. Ffilm yw amfywyd y bardd Hedd Wyn, fe’i scriptiwydgan Alan Llwyd a Huw Garmon oedd yprif gymeriad. Cawn ddarluniau hyfrydyn y rhan gyntaf o ardal wledig o gwmpasTrawsfynydd a’r cartref yn Yr Ysgwrn, yplant ar yr aelwyd ac yn helpu ar y fferm.Yna ei fywyd drwy ei arddegau nwydusa’i ymdrechion barddol. Daeth pwyslaisarno ef a’i gyfoedion i gyflwyno euhunain i’r fyddin er i hyn fod yn gwblgroes i’r graen i’w natur. Dengys y ffilmgyferbyniaeth rhwng bywyd ei ardalwledig a’r golygfeydd o erchyllteraurhyfel ar ei waethaf yn ffosydd y RhyfelByd Cyntaf. Yma y bu farw a hynny tuabythefnos cyn yr Eisteddfod Genedlaetholym Mhenbedw. Er iddo ennill y gadairnid eisteddodd arni, fe’i gorchuddiwyd âlliain du. Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu.Diolch Sara am roi cyfle i ni weld y ffilm,i’w mam Beryl am wneud teisennaugyda’r baned ar y diwedd ac i’w thad Dr.John am rwydd rediad y ffilm.

Ar Sul, Mawrth 12 cynhaliwyd cyfarfodblynyddol yr Eglwys. Mae hyn yn un oofynion y Comisiwn Eusennol. Rhydd yngyfle i’r aelodau dderbyn y wybodaetham weithgareddau y flwyddyn flaenorol achael cyfle ar ddiwedd y cyfarfod i fynegibarn ac i ofyn cwestiynau i’r swyddogion.Dr. Pat Williams gyflwynodd yradroddiad ar waith yr eglwys a Dr. JohnWilliams amlinelodd y wedd ariannol.Diolch iddynt am eu holl waith yn ystod yflwyddyn, a’u gofal yn sicrhau i lyfrau’reglwys ymateb â’r gofyn, ac i MeirionEvans, Roderick Owen a Nan HughesParry am y defosiwn dechreuol.

Noson o weld lluniau o’r papur bro YrAngor a ymddangosodd yn y flwyddyn

5

LLonGYFarCHiadau i FYFYrwYrGYM GYM LerpwLgan ein Gohebydd ArbennigMae’n braf cael llongyfarchCymdeithas Gymraeg FyfyrwyrCymry Lerpwl am eu llwyddiant yn yrEisteddfod Rhyng-golegol agynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor arddechrau mis Mawrth. Dyma oedd ytro cyntaf i’r myfyrwyr cymeryd rhanyn yr Eisteddfod ac maent wedigwneud cryn argraff. Daethant yndrydydd y tu ôl i Brifysgolion Bangorac Aberystwyth ond o flaen PrifysgolCaerdydd. Roeddynt yn medru ymarfer yng Nghanolfan Cymry Lerpwl – dyma’rfath o weithgaredd hoffem weld mwy ohono yn y Ganolfan. Nid oedd yn syndodi’r gohebydd bod y myfyrwyr wedi llwyddo mor dda **!!! Rydym yn edrychymlaen at glywed am eu llwyddiant yn yr Eisteddfod Ryng-Golegol y flwyddynnesaf a gynhelir ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant.

Canlyniad eisteddfod Ryng-Golegol

Page 6: Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

1998 hyd 2001 oedd yn y GymdeithasLenyddol ar yr ugeinfed o Fawrth gan Dr.John Williams wrth y llyw.

Roderick Owen oedd llywydd y noson achyflwynodd Dr. John fel person cwblddibynnol yng ngwaith yr eglwys ymMethel ac mae ar hyd y blynyddoeddwedi cofnodi ein hanes ar gamera. Ni aiffun amgylchiad ymlaen heb John a’igamera!

Gwelsom nifer helaeth iawn o luniau,dyma ddetholiad o rai ohonynt –Dathliadau Gwyl Dewi, cydnabodgwasanaeth pobl fel R. Alun Roberts, Dr.J. Howell Hughes, Miss Elsie Parry yngant oed, dathliad priodas arian Dr. Reesa Meinwen, rhai o ymweliadau mawrionein cenedl, a chôr meibion Llanelliynghyd â llawer o dripiau o Gymru i’rddinas. Rhoddwyd plac ar gartrefSaunders Lewis gan BwyllgorEtifeddiaeth, Dr. Pat a chriw o bobl ifancar daith yn derbyn hyfforddiant tuag atArholiadau Cymraeg Lefel A, ac yn olafRhys yn derbyn medal aur Duc Caeredingan Jackie Charlton, y pêl-droediwr yn ygadeirlan.

Y syndod ar ddiwedd y noson oedd fodcymaint wedi cael ei gyflawni yn ein plitha’r ysgogydd yn ddigwestiwn yw Dr. D.Ben Rees. Mae ein dyled yn fawr iddo aci Dr. John am roi ar gof a chadw hynt ahelynt y Cymry ar droed y ganrif yn ninasLerpwl a phob darlun yn dod a’i stori eihun.

‘Cyfoeswyr Pantycelyn fel emynwyr’oedd testun ein gweinidog yn y seiat nos

Lun 1af mis Mawrth. Cawsom gefndir achyfraniad Dafydd Jones o Gaio (1711-77) porthmon ydoedd o ran eialwedigaeth ac yn berchennog ar ddwyfferm. Â’i yn rheolaidd i’r ffeiriau ynLlundain, ffon onnen yn ei law, dau gidefaid wrth ei sodla a gyrr o wartheg iofalu amdanynt. Tra’n cerdded adref unnos Sul ac wedi colli ei ffordd clywoddganu soniarus yn dod o gapelTroedrhiwdalar. Aeth i mewn ac aros, acyno y clywodd yr alwad ar gân, a dod iadnabyddiaeth o’i Waredwr. Ni chafoddaddysg ffurfiol erioed ar wahân i wersigan ficer y plwyf, ond mae eigyfieithiadau o emynau Isaac Watts yndangos gallu a deallusrwydd mawr. Cyd-ddarllenwyd rhai o’i emynau hynny oCaneuon Ffydd a chanu rhai eraill.

Morgan Rhys (1716-79) oedd y llall ogyfoedion Pantycelyn a drafodwyd. Bu’nathro ysgol medrus gyda Gruffydd Jones,Llanddowror a theithiau o un ysgol i’rllall. Ysgrifennodd un ar ddeg o gyfrolau,ac yn fwy poblogaidd cyn yr Ail RyfelByd na’r un emynydd arall. Ceir llawero’i emynau yntau yn Caneuon Ffydd a’run sydd a mwyaf o ganu arni adeg yNadolig yw ‘Peraidd ganodd Sêr y bore’.Diolch i Dr. D. Ben Rees am baratoi etoar ein cyfer a’n dysgu am rai agyfrannodd gymaint i’n haddoliad a’nhetifeddiaeth.

Derbyniodd Mr. Ted Clement-Evans,Aigburth driniaeth lawfeddygol yn ysbytyBroadgreen – mae’n teimlo’n dda erbynhyn ac yn codi allan. Dymunwn y gorau

iddo a hefyd i Mrs Enid Pierce Hughes addaeth adref o’r Ysbyty Frenhinol.

Bu farw un o’n haelodau anwylaf Mr.David Morris, West Vale, Kirby, gwrhynaws a siriol bob amser. Bu ei arwylyng nghapel Waengoleugoed ar Mawrth15 o dan ofal ein gweinidog.Cydymdeimlwn â Mr. R. Ifor Griffith argolli ei chwaer yn Nhrawsfynydd.Anfonwn ein cofion cynnes at hollaelodau’r eglwys a Phasg dedwydd i chi igyd.

Ôl-nodiad y Golygydd: Da clywed amlwyddiant Miss Hanah Thompson,Woolton wedi cael swydd bwysig ynLlundain a’i chefnder Dafydd Wrennel,Llanddoged (ac un a fu yn ein plith) amgwblhau traethawd MA PrifysgolCaerdydd a chael marciau uchel am eiddarpariaeth. Y ddau yn wyr a wyres NanHughes Parry, a phlant Mrs MairThompson a Nia Wrennell.Llongyfarchiadau cywir o Bethel.

6

pearson CoLLinsontReFNWYR ANGLADDAU LeRPWL

GWASANAETH EFFEITHIOL -

CAPELI PREIFAT, CEIR MODUR HARDD, ATEB NOS A DYDD

prif swyddfa87-91 Allerton Road, Liverpool L18 2DDFfôn: 0151 722 1514. Ffacs: 0151 737 1997

swyddfa arall255 Speke Road, Liverpool L25 0NNFfôn: 0151 448 0808

Os ydych ar ôl cysylltu gyda un o’r swyddfeydd am gael gair personol yna canolbwyntiwch ar 0151 722 1514

CystadleuaethRhai Bobl Bwysig(Cyfrol 38, Rhif 11, Ebrill 2017, t.11)

Enillydd:Mrs Enfys Hughes, Brynteg, Môn

Dyma’r atebion:1. Lloyd George; 2. Harold Wilson;3. Nigel Farage; 4. Gordon Brown;

5. Nicola Sturgeon.

Page 7: Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

Cyfarfod cyntaf mis Mawrth oeddnoson boblogaidd yng nghartref Dr. PatWilliams i fwyta crempogau. Mwynhaoddpawb y danteithion a chawsom ddigon oamser i sgwrsio. Gwnaed elw tuag at ApêlGŵyl Hedd Wyn.

Yn y cyfarfod nesaf daeth y Parch. Ddr.Athro D. Ben Rees atom i sôn am ddynmawr Môn a’r dyn enwocaf a fu’n bywyng Nghaergybi sef yr ArglwyddCledwyn o Benrhos. Mae Ben Rees ynysgrifennu cofiant iddo ac yn gobeithio ycaiff y gyfrol ei chyhoeddi yn yr haf cynEisteddfod Genedlaethol Môn. GanwydCledwyn Hughes ar Fedi 14eg 1916 ynfab i’r Parch. H.D. Hughes a’i wraigEmily. Cyn iddo fynd i’r weinidogaeth adod yn Weinidog ar Eglwys Disgwylfa,London Road, Caergybi roedd H.D.Hughes yn chwarelwr yn chwarelDinorwig. Bu ei dad yn ddylanwad arCledwyn. Roedd H.D. Hughes ynffrindiau mawr gyda theulu David LloydGeorge a bu’n gefnogol i’w ferch Megangael ei hethol yn Aelod Seneddol Môn yn1929. Aeth Cledwyn i BrifysgolAberystwyth i astudio’r gyfraith asefydlodd gangen o’r blaid Ryddfrydol

yno. Wedi graddio cafodd swydd gydachwmni cyfreithwyr T. R. Evans Hughes& Co yng Nghaergybi. Cyfarfu â JeanBeatrice Hughes yn 1947 o GapelArmenia, Caergybi a bu iddynt briodi yngNghapel St. John Street, Caer yn 1949.Ond uchelgais Cledwyn oedd bod ynwleidydd ac felly penderfynodd adael yBlaid Ryddfrydol ac ymaelodi gyda’rBlaid Lafur. Ymgeisiodd i fod yn AelodSeneddol dros Fôn yn erbyn MeganLloyd George deirgwaith cyn llwyddo yn1951 gyda mwyafrif o 595 pleidlais.

Cafodd Cledwyn Hughes yrfa ddisglairfel gwleidydd.

Apwyntiwyd ef yn Weinidog ynSwyddfa’r Gymanwlad ac wedi etholiad1966 fe oedd yr Ysgrifennydd Gwladoldros Gymru. Ef oedd yn gyfrifol ambaratoadau yr arwisgo yng Nghaernarfonyn 1969. Nid oedd yn boblogaidd gyda’irhai o’i gyd wleidyddion – efallai ei fodyn ormod o Gymro a chafodd ei symud ifod yn Weinidog dros Amaethyddiaeth.Symudodd i Dŷ’r Arglwyddi yn 1979wedi ei ymddeoliad fel Aelod Seneddol acef a fu’n gyfrifol am berswadio’r Tŷ’rArglwyddi i ddarlledu eu gweithgareddau.Etholwyd yr Arglwydd Cledwyn ynArweinydd y Blaid Lafur yn Nhŷ’rArglwyddi yn 1982 ac arhosodd yn yswydd nes iddo ymddeol yn 1992.Bufarw yn 84 oed ar Chwefror 22ain 2001.Dywed ei fab ei fod yn ‘ŵr annwyl a dynffeind’. Edrychwn ymlaen i ddarllen ycofiant amdano.

Noson y llywydd oedd y noson nesaf arFawrth 21ain gyda Roderick Owen ynholi ei westai arbennig sef OlwenForeman. Mae Olwen yn byw yn Lerpwlers dwy flynedd ond roedd ganddigysylltiad a’r ddinas cyn hyn. Maecerflun o’i hen hen daid, Hugh StowellBrown (1823-1886) a oedd yn pregethwr,gweinidog a diwygiwr cymdeithasol ynLerpwl yn y pedwaredd ganrif a byntheg,i’w weld ar Stryd Gobaith gyferbyn aThafarn y Ffilharmonic. Ganwyd Olwenym Mhenuchaf, Caerwys. Mae’r tŷ wedibod yn meddiant y teulu am bedwar canto flynyddoedd. Roedd ei thad yn dod oBenclawdd, ger Abertawe a dyrchafodd ifod yn Athro ym MhrifysgolAberystwyth. Tad ei mam oedd SyrHerbert Lloyd Lewis. Bu'n aelod seneddoldros fwrdeisdrefi Fflint, 1892-1906; drosy sir, 1906-18; a thros Brifysgol Cymru,

1918-22 — sedd newydd a gafwyd iGymru trwy ei ymdrechion ef. Roedd ynffrind mawr i David Lloyd George aThomas Ellis. Ei nain oedd y FonesigRuth Lewis a anwyd yn Lerpwl ac awnaeth lawer o waith yn crwydro’r wlad igasglu alawon gwerin ar y ffonogram.Aeth ei mam yn genhades i Lushai, Indiayn 24 mlwydd oed. Pan yn byw ynAberystwyth roedd Olwen yn ddisgybl ynyr ysgol Gymraeg sef yr ysgol Gymraeggyntaf yng Nghymru ond pob gwyliauroedd yn mynd i aros i Benuchaf asymudodd yno i fyw wedi marwolaeth einain. Yn 11 oed aeth Olwen yn ddisgybl iYsgol Howells, Dinbych. Wedi priodibu’n byw yn Llundain ac yna yngNghaergrawnt. Roedd ei gŵr yn gweithiogyda’r tîm a ddatblygodd y cyfrifiadurcyntaf ac a enwyd ar ôl cyfaill mawr eigŵr sef Clive Sinclair. Ganwyd iddi 4 oblant – dwy ferch a dau fab.Wedimarwolaeth ei gŵr symudodd i fyw iLangower am 10 mlynedd lle bu’nweithgar iawn yn y gymuned. Symudoddwedyn i Ynys Môn ar lan y Fenai cyndod i Lerpwl i fod yn nes at un o’i

7

Cledwyn hughes

olwen Foreman a Rod owen

Noson Crempoga yn Awelon

CYMDEITHAS CYMRY LERPWL

Page 8: Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

merched. Braf oedd cael clywed am eibywyd diddorol a hanes ei theulu.

Daeth Dr. Owen Morris atom yngnghyfarfod olaf mis Mawrth i sôn am‘Hanes Iwerddon ac yn benodol hanesArthur Joseph Griffith, sylfaenydd SinnFéin. Dechreuodd diddordeb Dr. Morris

yn hanes Iwerddon yn 1966 pan oedd ynNulyn yn nathliadau pum deg mlynedd‘Gwrthryfel y Pasg’. Dyma’r adeg cafoddcofgolofn Nelson yn Nulyn ei fomio a’ifalu gan Fyddin Weriniaethol Iwerddon.Yn y blynyddoedd wedyn bu ynNgogledd a De Iwerddon sawl gwaith.Cyfarfu â Gerry Adams, Martin

McGuinness ac Ian Paisley. Wedynsoniodd am Arthur Joseph Griffith aanwyd yn Nulyn ar Fawrth 21, 1872 yn61 Upper Dominick Street i rieni o drasCymreig o Sir Fflint. Protestaniaid oedd yteulu. Ni chafodd Arthur Griffithgydnabyddiaeth deilwng am ei waith drosIwerddon. Gadawodd yr ysgol yn 15 oedac aeth yn brentis mewn argraffdy bleroedd ei dad yn gweithio. Yr oedd ynwael ei iechyd oherwydd y dicau Yn1910 priododd Arthur a Maud Sheehan15 mlynedd ar ôl dyweddio a ganwydiddynt un mab ac un ferch. Roedd ynddyn cydwybodol, yn ysgrifennu llawer,yn heddychwr a sylfaenodd gyda eraill ypapur ‘Gwyddel Unedig’ (‘UnitedIrishman’). Credai y byddai Iwerddon ynwlad rydd rhyw ddydd ac roedd yn daerdros annibyniaeth economaidd i’r wlad.Unwyd sawl cymdeithas gyda daliadaugweriniaethol i ffurfio Sinn Féin arddechrau y ganrif ddiwethaf ac roeddArthur Griffith yn flaenllaw yn y prosesyma.Ymunodd cannoedd â phlaid SinnFéin ac fe’i etholwyd Arthur yn AelodSeneddol Dwyrain Cavan ym 1918 asedd Gogledd Tyrone. Cafodd ei garcharusawl gwaith am ei ddaliadau. Yn ystodetholiad Mai 1921 roedd Arthur Griffithyn y carchar ond er hynny enillodd sedd

Fermanagh a Tyrone a sedd DwyrainCavan. Yn Awst 1921 cafodd yn benodiyn Weinidog dros Faterion Tramor yngNghabinet y llywodraeth newydd. Yn1921 Arthur Griffith oedd Cadeirydd yddirprwyiaeth a aeth i Lundain i gyfarfodDavid Lloyd George ac arwyddo ycytundeb Eingl-Wyddelig. Fe oeddLlywydd Llywodraeth GweriniaethIwerddon sef y Dáil Éireann o Ionawr1922 nes iddo farw ym mis Awst o’r unflwyddyn yn 50 oed. Fe’i claddwyd ynMynwent Glasnevin, Dulyn. Cawsom ganDr. Owen Morris beth o hanes cymlethIwerddon.

8

Alun Davies, eryl Jones a Dr. owen Morris

Arthur Griffith

Cystadleuaeth Mis Mai(anfoner yr atebion i’r Golygydd cyn 1 Mai)

CANEUoN CYMREIG

1. “Gwn, er maent” yn siarad am ei diniweidrwydd – ‘mae llawer o sônamdani’ (6-4)

2. Tôn sy’n “barod tua” y diwedd i ddweud yn bendant fod cariad ‘fel y dur’ (3 2 3)

3. “Da yr hyn, os” ddawn tôn i arddangos gwir brydferthwch (2.3.1.3)4. “Achwyn fel y” gwna pobl cyn clywed a gwrando

‘ar ei beraidd lais’ (1-8)5. “Ag i ddangos, ble’r” oedd ‘Maes y Gad’ Hwn ‘mil gwell yn marw’n

fachgen dewr na byw yn fachgen llwfr (1-4-8)

Ble yn y byd?Erbyn hyn mae tua 120 o

Eisteddfodau lIeol yn cael eu cynnalyng Nghymru. Yn ogystal, maeEisteddfod Genedlaethol Cymru,Eisteddfodau Cylch, Sir aChenedlaethol yr Urdd, EisteddfodauSir a Chenedlaethol y FfermwyrIfanc, Eisteddfod RyngwladolLlangollen ac hefyd yr Wyl CerddDant - ond ble arall yn y byd mae ynadraddodiad eisteddfodol? Wrthchwilota drwy amryw wefannau,diddorol yw darganfod yr hollwledydd lle cynhelir eisteddfodauerbyn hyn! Mae pawb o gefndireisteddfodol yn gwybod am y nifersy'n cael eu cynnal yn y Wladfa(Eisteddfod Trevelin, EisteddfodChubut yn Nhrelew, EisteddfodMimosa ym Mhorth Madryn, acEisteddfod yr Andes), Awstralia,Seland Newydd a’r Unol Daleithiau.

Cynhelir gwyliau tebyg yngNghernyw (Esethvos Kemow), YrAlban (Scottish Gaelic Mod), Llydaw(Breton Kan ar Bobl) ac hyd yn oedar un o Ynysoedd y Sianel, Jersey.OND ble arall dwedwch?

Beth am ail gyfodi EisteddfodGlannau Mersi yn 2018 a’i chynnalym Mhenbedw?

Rhifyn olaf Cyfrol38 o’r Angor

Sylwer mai hwn yw rhifyn olafCyfrol 38 (Mehefin 2016 i Mai

2017). Bydd Cyfrol 39 yn dechraugyda rhifyn Mehefin. A wnaiff ein

darllenwyr anfon fel arfer eucyfraniadau a’ch cefnogaeth i’r

Angor fel arfer i’r Trysorydd.Diolch

Swyddogion y papur bro.

Page 9: Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

CYnGerdd BLYnYddoL: Ar 25ain o Chwefror cawsomein cyngerdd blynyddol yn y Royal Northern College of Music.Â’r Neuadd yn gyfforddus lawn o Gymry ac o eraill sy’nmwynhau gwrando ar gerddoriaeth, ni’m siomwyd. Yn hytrach,dyma gyngerdd i’w gofio. Roedd dau gôr wedi’u gwahodd: Côrmeibion Caernarfon dan arweiniad Delyth Humphries a ChôrRhuthun a’u harweinydd Robat Arwyn. Hyfryd oedd gwrando areu rhaglen amrywiol - o’r hen ffefrynau i ddarnau mwy moderna’r cyfan yn toddi i mewn mor effeithiol. Ac yna yr artistiaidieuainc – fe’n cyfareddwyd gan John Ieuan Jones, baritôn ifanco Landrillo-yn-Rhos, Iwan Owen, pianydd o Ynys Môn a Chloe

Roberts, o Greenfield, Sir Fflint, yn chwarae’r delyn. Heb os naconibai, mae dyfodol disglair iawn i’r tri ohonynt a dymunwn yndda iddynt yn eu gyrfaoedd. Dyma un o’r cyngherddau goraueleni! Mae pob cyngerdd yn y gorffennol wedi cyrraedd safonuchel ond rywfodd ʼroedd rhywbeth arbennig iawn i’n swyno ytro hwn. A sut meddech, mae cyngerdd mor llwyddiannus yncymeryd lle? Nid heb lawer o waith paratoi a gweld fod popethyn rhedeg yn rhwydd. Ac i Elwyn Evans mae’r diolch, amdrefnu noson mor effeithiol a chofiadwy, eleni ac yn ygorffennol. Gwerthfawrogwn ei waith a’i baratoadau yn fawr.Hebddo, ni byddem yn dathlu gŵyl ein nawddsant yn y fathfodd.

Cinio GŴYL ddewi: Yn Noddfa Oaker Avenue y bu’rdathliad nesaf. Nos Sadwrn, Mawrth 4ydd, daeth aelodauNoddfa Oaker Avenue, Altrincham a rhai ffrindiau at ei gilydd ifwynhau gwledd o ‘hot-pot’ a theisen afal yn ôl yr arfer. ʼRoeddy byrddau yn werth eu gweld – y cennin pedr melyn yn goleuo’rystafell ac yn arwydd fod y gwanwyn ar y gorwel. Wedi’r prydblasus, llwnc destun iDdewi a galw’rsiroedd, ein pleseroedd cael croesawu ygŵr gwadd eleni, MrCefyn Burgess ynwreiddiol o Fethesdaond yn byw ynRhuthun erbyn hyn.Mae llawer ohonomyn cofio Cefyn ynfyfyriwr ymManceinion ac ynmynychu capelOaker Avenue ynystod ei amser yma.

9

Cefyn yn dangos esiampl o'i waith ar ôl bod yn y Wladfa.

Y gŵr gwadd, Mr Cefyn Burgess, rhwng Mrs eflyn evans a'rBarch eleri edwards

Y cantorion trefor Davies a Glynn Morris.

(John Garrett y troi y tudalenau)

Y tri unawdydd: John Ieuan Jones, Chloe Roberts ac Iwan owen

Y ddau arweinydd a'r cyfeilyddion: Mair Jones, Robat Arwyn,

Delyth humphreys a Mona Meirion Richards

Iwan owen

GweiTHGareddau GŴYL ddewi 2017 YM ManCeinion

Page 10: Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

10

Ar ôl graddio, bu Cefyn yn gweithio yn Llundain ac ym melinTrefriw. Mae wedi bod yn y wladfa ym Mhatagonia lawergwaith a diddorol oedd gwrando ar ei hanesion yno ac fel y’ihysbrydolwyd gan elfennau natur a’u defnyddio’n fel ypatrymau i’r cwrlidau mae’n ei nyddu. Diolchwn yn fawr iCefyn am ddod atom - da oedd cael ei gwmni unwaith eto. Felarfer, dilynwyd yr anerchiad gan gyngerdd amrywiol ogerddoriaeth, adroddiadau, caneuon a chyd ganu addas i’ramgylchiad. Noson arall hynod o lwyddiannus i gofio dydd einnawddsant. Mae’n diolch i Mrs Eflyn Evans am drefnu’radloniant unwaith eto eleni.

preGeTH GŴYL ddewi: Digwyddiad arall adeg yma o’rflwyddyn yw’r bregeth Gŵyl Ddewi ac roedd yn bleser igroesawu atom unwaith eto y Parch Nesta Davies ar Fawrth y5ed. Felly, ar y Sul cyntaf o’r Grawys, rhoddodd Nesta agweddarall o fywyd Dewi inni, sef ei ymprydio. Roedd ei chyflwyniadyn ddiddorol ac yn heriol i ni. Diolch yn fawr am wasanaetharbennig Nesta.

daTHLu dYdd Gweddi CHwiorYdd Y BYd: Maemerched Manceinion yn hoff o ddathlu Dydd Gwener cyntaf misMawrth gyda chwiorydd y byd. Er nad ydym yn niferus, cawndeimlad o berthyn i Eglwys Fawr Dduw ar hyd a lled y byd trwyddefnyddio’r oedfa yn Gymraeg. Eleni merched y Philipinasoedd wedi paratoi’r gwasanaeth ac roedd yn ddiddorol atheimladwy iawn. Mewn cylch cartrefol roedd yna amser inniystyried a gweddïo ar y thema pwysig o degwch Duw, hynnyydi ffordd Dduw o edrych ar bethau sydd yn gallu bod braiddyn wahanol i’n ffordd ni o weld pethau.

YMweLiad arBenniG: Sul arall ym mis Mawrth,cawsom ymweliad gan y Parch Ddr Sanghuma o Gaerdydd ibregethu ym Manceinion. Clywsom ganddo fel oedd ysbytynewydd wedi ei hadeiladu yn ei wlad yng Ngogledd Ddwyrain

yr India, gydag enw John Williams arni, Cymro oedd wedi bodyn genhadwr yno yn ystod y ganrif ddiwethaf, Roedd JohnWilliams yn dad i un oedd wedi bod yn flaenor yn Altrinchamam gyfnod hir ond bu farw ychydig o flynyddoedd yn ôl sef DrFraser Williams. Daeth un o feibion Fraser, Adrian, i’rgwasanaeth a chyfarfod y pregethwr a rhai o’i deulu, ac roeddyn gyfarfod hanesyddol a llawen gyda diolch diffuant ganSanghuma i’r Cymry am ddod â’r Efengyl i’w wlad ac am yperthynas parhaol sy’n dal mor bwysig i’r ddwy genedl. Fe fyddpawb yn cofio ei destun allan o Lythyr Paul i’r Rhufeiniaid:12:12 ‘Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn danorthrymder. Daliwch ati i weddïo.’

CoLLed Mawr i’n CapeLi: Gyda thristwch a syndod yderbyniwyd y newydd am farwolaeth Mr Clifford Evans, Bury.Yn hannu o dref Caernarfon, daeth Cliff yma i ardal Manceinioni weithio flynyddoedd maith yn ôl. Bu’n flaenor diwyd yngnghapeli Cheetham Hill, Monton ac yna yn Noddfa OakerAvenue. Byddai’n trafaelio’n ddi-feth ar brynhawn Sul ifynychu’r gwasanaeth – taith o hanner can milltir i gyd. Gŵrtawel, diymhongar oedd Cliff ond ni fethodd â chyflawni yr hyna ofynnid iddo erioed. Bu amryw ohonom yn siarad ag ef ar yffôn ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth. Anodd yw dygymodiddo gael ei alw adref mor ddisymwth. Ond mae’r atgofionamdano yn llu ac yn felys. Gwelwn ei golli’n fawr – da was, daa ffyddlon.

Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach bu farw ei wraig Edith.Roedd wedi bod mewn cartref ers peth amser a Cliff yn ymweldâ hi yn ddyddiol. ʼRoedd cyflwr Edith wedi gwaethygu yn ystodyr wythnosau diwethaf a bu farw ar Chwefror 25ain. Byddem yncael ei chwmni yn y gwasanaeth ar aml i brynhawn Sul ac ynfalch o’i chroesawu. Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf iArwel, Nia, Andrea a’u teuluoedd yn eu galar. Bu’r angladd arFawrth 14eg yn Eglwys Sant Stephen, Bury, gyda’r Parch EleriEdwards a’r Parch Steven Openshaw yn gwasanaethu. Daethcynulleidfa deilwng ynghyd i dalu’r deyrnged olaf iddynt.

Y gweinidog Parch Dr. Sanghuma, Mrs Burton nesaf ato,cyfaill arall sy’n briod â Chymro, Mrs Rini Sanghuma a’r

ddwy ferch Ruth a Sarah

Parch Sanghuma ac eleri yn y pulpud a’r teulu yn sefyll yn ysêt fawr - Mawrth 2017

CADAIR GŴYL HEDD WYNPENBEDW 2017

Daeth y cyfle gan mlynedd yn ddiweddarach i ddiolch achofio Eisteddfod y Gadair Ddu a champ anghyffredin ymilwr-fugail o fardd o Drawsfynydd, Hedd Wyn a lunioddawdl ar yr Arwr a ddaeth a chlod a bri i’w ddawn a’i fedr.Gwnaed Cadair unigryw hardd ei gwneuthuriad, arhoddedig gan Gymdeithas Hedd Wyn Flanders er cofamdano i’r bardd buddugol eleni. Teitl y Gerdd neu’rCerddi yw Hedd Wyn. Gofynnwyd i Archdderwydd Cymrui lywyddu’r ddefod ym Mhenbedw am 2 o’r gloch pnawnSadwrn 9 Medi 2017 a gwahoddir y Prifardd SionAled,Wrecsam a Dr Robin Gwyndaf, Caerdydd ynFeirniad y Gystadleuaeth. Gofynnir felly am Gerdd neuGerddi, ddim mwy na chan llinell ar Fywyd a Gwaith HeddWyn a dylid anfon dau gopi mor fuan ag y bo modd, ondman pellaf erbyn bore Sadwrn 19 Gorffennaf 2017 trwy’rpost i 32 Garth Drive, Allerton, Lerpwl / Liverpool L186HW neu dros y we i [email protected] [email protected] . Edrychwn ymlaen i drysoriy gerdd neu’r cerddi gorau, ac os ydych am ragor owybodaeth gohebwch â chysyllwch gyda CymdeithasEtifeddiaeth Cymry Glannau Mersi.

Cydnabod caredigrwyddHoffwn ddiolch i fy holl gyfeillion yng nghapel Bethel ac yny gymdeithas Gymraeg sydd wedi anfon cardiau, neges e-bost ac wedi ffonio i ddymuno’n ddai mi yn ystod fyarhosiad yn yr ysbyty ac ar ôl dychwelyd adref i Aigburth

Ted Clement-Evans

Page 11: Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

11

CronFa arBenniG GwYL Hedd wYn 2017Cymdeithas etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi

Cronfa Gwyl i gofio eisteddfod y Gadair ddu penbedw a champ y bardd filwra gollodd ei fywyd yn pilkem ridge (31-7-1917) sef ellis

Humphrey evans (Hedd wyn) o drawsfynydd a enillodd yGadair, ac yr ydym am fewnforio carreg o’r india bell i’w

goffau ar waelod y Gofeb a gaiff ei lanhau. Cynhelir yr wyl ar sadwrn, 9 Medi a sul, 10 Medi 2017

ym Mhenbedw.

rhestr 5 (hyd 31 Mawrth 2017)

–Ymateb gwych gan y canlynol1) Mrs Gwen Rigby, Mossley Hill, Lerpwl .....................................£202) Dr. Pat Williams, Allerton, Lerpwl (aelod gweithgar o’r

Pwyllgor Gwaith Cymdeithas Etifeddiaeth)................................£503) Miss Carys Williams, Llundain a Lerpwl....................................£254) Dr. Lowri Williams, Penarth, Caerdydd ......................................£255) Mrs Devida Broadbent, Roby, Huyton........................................£206) Mrs Nan Hughes Parry, Woolton (aelod gwerthfawr o

Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Etifeddiaeth) ...............................£507) Parch T. R. Wright a Mrs Catherine Wright, Wrecsam ...............£258) John a Jennifer Williams, Rainhill, L35 (a Phenbedw gynt).......£409) Haelioni mynychwyr ffilm Hedd Wyn yn Lerpwl (6 Mawrth

2017) trwy law y gyflwynwraig Ms Sara Williams, Lerpwl .....£10010) Haelioni mynychwyr Noson y Crempog yng nghartref

Dr. Pat Williams a drefnwyd gan Gymdeithas CymryLerpwl ar 7 Mawrth 2017 ..........................................................£80

11) Ben Hughes, Childwall, Lerpwl ................................................£2012) Miss Mair Powell, Marlfield Road, West Derby.......................£5013) Idris a Mair Roberts, Mayville Road, Allerton.........................£5014) Gareth, Alun, Dewi a Elin Roberts, Mayville Road, Allerton...£4015) Clwb Rotari Dinas Lerpwl (Rotary Club of City of Liverpool)£5016) Elwyn Jones, Nant Peris, Gwynedd ..........................................£2017) Mrs Sarah E. Davies, Trefebin, Cilgwri ....................................£2518) Terry a Phyllis O’Neill, Oxton, Cheshire ..................................£2519) Cymdeithas Cymry Birkenhead (trwy law y Trysorydd

Phyllis O’Neill)...................................................................... £20020) Keith Houseley (aelod o Glwb Rotari Dinas Lerpwl)...............£1021) Dr. Vanessa J. Martlew (aelod o Glwb Rotari Dinas Lerpwl) ...£1022) Miss Carys Jones, Wavertree, Lerpwl .......................................£2523) Cymrodyr Catrawd Frenhinol Cymreig

Royal Welsh Regiment Comrades Association .....................£1,00024) Mrs Edna Roberts a Mr. Trefor Roberts, Trefebin,

(Bebington) ...............................................................................£25Cyfanswm..................................£1,995.00

rhestr Haelionirhestr 1 (hyd 31 Hydref 2016) ...................................£715.00rhestr 2 (hyd 31 rhagfyr 2016) .................................£540.00rhestr 3 (hyd 31 ionawr 2017) ...................................£443.00rhestr 4 (hyd 28 Chwefror 2017) ...............................£850.00rhestr 5 (hyd 31 Mawrth 2017)...............................£1,995.00

Cyfanswm............................................£4,443.00

Cawsom fis da, y gorau eto, ac yr ydym yn sicr o gyrraedd ynod er fod y costau yn cynyddu ac yn uchel. Mae arnom angeno leiaf dwy fil o bunnoedd arall y misoedd nesaf o leiaf cynMedi 2017. Ceir y chweched rhestr yn rhifyn nesaf o’r Angor a dylidanfon y cyfraniadau i’r Cadeirydd: dr. d. Ben rees, 32Garth drive, allerton, Lerpwl, Liverpool L18 6Hw panmae’n gyfleus. Y sieciau i’w llenwi i ‘Gymdeithasetifeddiaeth Cymry Glannau Mersi’ neu ‘Merseysidewelsh Heritage society’.diolch am eich caredigrwydd, cydweithrediad a’chcefnogaeth calonogol darllenwyr Yr angor.

Clifford ac Edith EvansBachgen o Gaernarfon oedd Clifford

Evans, yr hynaf o chwech o blant,ac yn aelod yng nghapelEbeneser gyda’r Wesleaid.Cafodd ei addysg yn ysgoliony dre, aeth i’r Ysgol Ramadeg(Ysgol Syr Hugh Owen ynawr) ac wedi amser yn yfyddin daeth i weithio feldraftsman yng nghwmniA.V.Roe yn Chadderton,rhwng Manceinion ac Oldham.Dros y blynyddoedd, tra bodAVRO yn dod yn rhan o gwmniBritish Aerospace, gweithioddClifford i fyny i fod yn arolygwr, ynteithio o gwmpas y gwahanol weithfeydd oedd yn perthyn iBritish Aerospace ar draws y wlad. Dyma dyst o’r gwaithcywrain a’r gonestrwydd cydwybodol oedd mor nodweddiadolo’i gymeriad.

Fel llawer i Gymry ifanc a ddaethant i Fanceinion yn ypumdegau, ymunodd Clifford ym mywyd Cymdeithas y DdraigGoch (neu’r ‘Clwb’ fel y gelwid) ac yno cafodd gyfle igymdeithasu ag eraill o alltudion yr hen wlad, i ddilyn pêl droedneu ymuno a grwp dawnsio gwerin. Yno y cyfarfu a Mair, merchifanc o Glyn Ceiriog, bu iddynt briodi yn 1957 ac fe gawsantddau o blant, Arwel a Nia.

Bu’r teulu yn aelodau o gapel Cymraeg Heywood Street nesym 1976, drwy uniad gyda chapel Pendleton, daeth eglwysnewydd Cheetham i fodolaeth a’r Parch. Richard J. Evans ynweinidog arni. Etholwyd Clifford yn flaenor ym 1982, daeth ynYsgrifennydd a chyn bo hir yn Drysorydd y capel hefyd.

Colled drom oedd marwolaeth Mair yn 1987 a hithau ddimond 58 oed, ond fe gariodd Clifford ymlaen yn ei ffordd ddistawddigwyno ei hun. Ymhen amser daeth yn ffrindiau ac Edith,hithau wedi colli ei gwr, a bu i’r ddau briodi a chael ail afael arhapusrwydd yng nghwmni eu gilydd.

Wrth i nifer aelodau y capeli Cymraeg yng ngogleddManceinion leihau, cau ac uno oedd yr hanes, ac ar ysgwyddauClifford y disgynnodd y baich gweinyddol. Yn gyntaf eglwysBolton yn uno hefo Cheetham, wedyn Cheetham yn uno hefoOaker Avenue, y ddau ddigwyddiad yn golygu gwerthu yradeilad a’i gynnwys. Dim ond yn ddiweddar yr wyf wedi caelgolwg ar y nodiadau manwl a gadwodd Clifford o’r symudiadauyma ac yn rhyfeddu pa mor drefnus fod popeth wedi ei gofnodi.Y cwbl yn wrthrych o’r gofal a’r cywirdeb yn ei waithbeunyddiol mae’n sicr. Dywedodd wrthyf un tro ei fod yn cyfrifei hun yn ddipyn o arbenigwr ar gau capeli!

Tra bu Henaduriaeth Manchester yn bod, bu Clifford ynLlywydd ym 1986 ac ym 1997, ac am y ddeng mlynedddiwethaf bu yn flaenor yn Noddfa Oaker Avenue, yn gofalu amy Cyhoeddiadau. Byddai Edith ac yntau yn selog yn ygwasanaeth ar brynhawn Sul er fod presenoldeb yn golygu taithgron o hanner can milltir iddynt bob tro. Os oedd Sul ganddomheb bregethwr, byddai Clifford yn barod bob amser i baratoigwasanaeth ac yn gwneud hynny gydag arddeliad. Mewncyfarfodydd, un pwyllog oedd Clifford, yn ofalus gyda’i eiriauac yn hollol siwr o’i bethau. Byddwn yn gweld ei golli yn fawr.

Ers i Edith gael ei chymeryd yn wael dros ddwy flynedd yn ôl,anodd oedd i Cliff deithio i’r cyfarfodydd. Mawr oedd ei ofalamdani, gan ymweld â hi yn ddyddiol yn y cartref yn Bury. Wrthi gyflwr Edith waethygu, yr oedd yn amlwg mai ychydig oamser oedd iddi yn y byd hwn a sioc o’r mwyaf oedd y newyddfod Clifford wedi mynd o’i blaen. Cafwyd gwasanaeth angladdy ddau gyda’i gilydd ar ddydd Mawrth, 14fed o Fawrth 2017 yneglwys St Stephen, Bury o dan arweiniad y Barch EleriEdwards. Aethpwyd a Clifford i’r Amlosgfa yn Radcliffe acEdith i’r fynwent yn Bury. Coffa da am y ddau ohonynt.

elwyn evans

Page 12: Yr Hen a’r newYdd Yn LerpwL Dliverpool-welsh.co.uk/angor/May 2017.pdfyn fregus. Teyrnged iddo oedd gweld cymaint o’r teulu o dref Kirby, Lerpwl a Manceinion yn yr arwyl. Bu’n

12

Ariennir Yr Angor yn rhannol

gan Lywodraeth Cymru

Ymunodd aelodau o Ddosbarth y Dysgwyr gyda selogion Cymdeithas Lenyddol Bethel.

Kath Norton yn arddangos y rhodd

a ddaeth o ffordd Gwydrin

Megan Jones (Y Cadeirydd)

a bwndel o bapurau broCinio yn y Neuadd sydd yn edrych allan am bentref Llanbadarn Fawr

Sara Williams, yn cyflwyno’r noson

Y mae gobaith da cael rhaglenwych ym mis Medi (9 a 10) ymMhenbedw ond fel rhagflas o hynnycawsom noson gofiadwy ar 6 Mawrthyng nghanolfan y Cymry, Penny Lanei ddangos ffilm ar Hedd Wyn.Trefnwyd y cyfan gan Ms SaraWilliams ac yr oedd hi fel sinema gany rhoddwyd rhodd i bob un i gnoi cilyn ystod y ddwy awr am fywyd ymilwr o Drawsfynydd.

Gwnaed swm sylweddol tuag at yGronfa (gweler tudalen 11)

NOSON FFILM HEDD WYN

CYFARFoD CeNeDLAethoL PAPURAU

BRo CYMRU gan Dr. John G. Williams (Cadeirydd Yr Angor)

Roedd yn bleser cael cynrychioli ‘Yr Angor’ yng nghyfarfod blynyddol Papurau BroCymru a gynhaliwyd yn Llety’r Parc, Aberystwyth. Roedd dros 50 o bobl yn bresennolyn cynrychioli dros 34 o bapurau bro. Roedd amrywiaeth o bynciau yn cael eu trafodyn ystod y cyfarfod gan gynnwys cyllid y papurau, effaith datblygiadau technolegdigidol a rhannu hefyd brofiadau da a drwg. Roeddem i gyd yn ddiolchgar i MeganJones, Cadeirydd ‘Yr Angor ‘ (Aberystwyth) am drefnu a chadeirio’r cyfarfod anoddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gan Bwyllgor yr Angor,Heathfield Road, Lerpwl 15.Cysodwyd ac argraffwyd gan

Aeron Jones, Ty’n y Cefn, Llanuwchllyn 07729 960484