28
Ysgol Meddygaeth Rhaglenni Gradd Israddedig Mynediad 2020 www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

YsgolMeddygaeth RhaglenniGradd Israddedig...ac y ng lei hf r otm p d osb d eian g rc h.D p m t a rg yf emt io nwp s d gw as nethc ym r if d . M a h yn drp ucmot i’ s âp hr deo ns

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Ysgol MeddygaethRhaglenni GraddIsraddedigMynediad 2020 www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

  • � Mae gan Brifysgol Caerdydd gwrsmodern a gwych, cyfleusteraurhagorol a chyswllt â chleifion o’chblwyddyn gyntaf

    � Bydd popeth a ddysgwch yn eichparatoi i wynebu’r heriau sydd o’chblaen. Yr ydym yn arbennig o falcho’n Dysgu ar sail Achosion, einCwricwlwm Dyrchafol-Droellog a’nBlwyddyn Harmoneiddio

    � Bydd ein hathrawon gwobrwyedigyn eich addysgu i safon uchelmewn partneriaeth ag Ysgolion yBiowyddorau, Seicoleg a’r GwyddorauCymdeithasol ac yn defnyddio’rcyfleusterau a’r technegaudiweddaraf un

    � Mae lleoliadau clinigol ledled Cymrumewn ysbytai, canolfannau meddygolcymunedol a meddygfeydd teulu.Cewch ddysgu drosoch chi’ch hun amfeddygaeth mewn pentrefi bach bach,mewn ardaloedd o amddifadedd yngnghanol dinasoedd, a phob sefyllfarhwng y ddau begwn hynny

    � Cewch ddigon o gyfleoedd iaddasu’ch cwrs i gyd-fynd â’chdiddordebau eich hun

    � Byddwn ni’n eich annog chi i deithiodramor fel rhan o’ch astudiaethau(er nad yw hynny’n orfodol)

    � Cynnig nodweddiadol:AAA Safon Uwch

    � Cynhelir Diwrnodau Agored ynrheolaidd drwy gydol y flwyddyn

    Yn ogystal â Diwrnodau Agored mynychy Brifysgol, mae gennym ni DiwrnodauBlas ar Feddygaeth yn benodol. Cynigiwnraglen helaeth i fyfyrwyr a’u rhieni oran cyfarfod â’n staff derbyn, sgwrsio âmyfyrwyr cyfredol a gweld drosoch eichhun yr hyn sydd gan Gaerdydd i’w gynnig.

    Mae mynd i Ddiwrnod Agored ymMhrifysgol Caerdydd yn gyfle i weldy Brifysgol (e.e. y preswylfeydd,Undeb y Myfyrwyr) yn ogystal â’r YsgolMeddygaeth. Mae Diwrnodau Blas arFeddygaeth yn eich galluogii roi cynnig ar sgiliau clinigol o danoruchwyliaeth ac edrych yn fanylachar ein cyfleusterau a’n gradd.

    Cadwch lygad ar www.caerdydd.ac.uki weld dyddiadau Diwrnodau Agored yBrifysgol ac ar www.medicine.cf.ac.uk/medicaleducation/undergraduate/admissions i weld dyddiadau Diwrnodau Blasar Feddygaeth.

    Hoffech chi wybod rhagor am fod yn fyfyriwr yngNghaerdydd? Dewch i’n gweld . . .

    Ein Rhaglen MBBCh Bum-mlynedd

    Mae ysbryd cymunedol unigryw yng Nghymru ac mae hyn yn dod i’ramlwg pan ydych ar leoliad.Rachel Price, myfyriwr meddygol

    I gael gwybod rhagor, ewch i: www.caerdydd.ac.uk/medicine/undergraduate

    Methu dod o hyd i’ch ateb yn y llyfryn hwn? Ebostiwch: [email protected]

    Cadwch lygad ar:www.caerdydd.ac.uk

  • Croeso

    1Croeso

    Cynnwys� Caerdydd: y Brifysgol 3

    � Caerdydd: y Ddinas 5

    � Ysgol Meddygaeth PrifysgolCaerdydd 6

    � Rhaglen yr MBBCh 7

    � Beth fyddaf yn ei ddysgu? 8

    � Rhwydwaith Cymorth 9

    � Dulliau Dysgu ac Addysgu 10

    � Ein cyfleusterau 11

    � Dewisol 12

    � Sgiliau Dwyieithog 14

    � Cwricwlwm hyblyg 15

    � Derbyn i’r MBBCh 16

    � Cwestiynau Cyffredin 18

    � Barn ein myfyrwyr . . . 19

    � Ffarmacoleg Feddygol 20

    � Dyma’r . . . 21

    � Bywyd y tu allan i Feddygaeth 22

    � Ymchwil 25

    � Rhagor o wybodaeth 25

    Gwybodaeth bwysig.Darllenwch yn ofalus.Mae’r Brifysgol yn cynnig yr wybodaeth syddyn y llyfryn hwn fel canllaw yn unig. Nid yw’ngontract ac nid yw’n rhwymo darpar fyfyrwyr,myfyrwyr na’r Brifysgol. Er y gwna’r Brifysgolei gorau glas i sicrhau bod y cynnwysffeithiol, adeg ei gyhoeddi, yn gywir, mae’nanochel y bydd rhai newidiadau’n digwyddrhwng y cyhoeddi a’r flwyddyn academaidd ygwnewch chi’ch cais ynddi. Bydd rhaglennigradd dda’n newid yng ngoleuni gofynioncyrff proffesiynol a galwadau’r myfyrwyr, ynogystal â datblygiadau ym maes ymchwil.Wrth ystyried gwneud cais i ddod i’r Brifysgol,felly, ddylech chi ddim dibynnu’n llwyr ar yllyfryn hwn. Dylech fynd i wefan yr YsgolMeddygaeth (www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth) i gael y wybodaeth ddiweddarafam gynnwys y cyrsiau, am achredu ac am ygofynion mynediad ar gyfer y flwyddynacademaidd berthnasol. Byddwn ni’n barodiawn i ateb unrhyw gwestiwn y gallwch eiofyn drwy’r post, dros y ffôn neu drwy ebost,neu pan ddewch chi i Ddiwrnod Agored yngNghaerdydd.

    Os na allwch gael gafael ar wybodaethar-lein, cysylltwch â ni:

    Ebost: [email protected]

    Ffôn: 029 2087 4455

    Eich gradd: Mae myfyrwyr sy’n cael eu derbyni Brifysgol Caerdydd yn astudio am raddPrifysgol Caerdydd.

    MEDIC/1018/1500

    Croeso i Ysgol MeddygaethPrifysgol CaerdyddMae ein myfyrwyr o’r farn bod ein cwrs yncynnig yr hyn sydd ei angen arnoch mewnysgol meddygaeth:

    � Rydych yn dod i gysylltiad cynnar âchleifion ac yn gweithio gyda nhw oFlwyddyn 1.

    � Byddwch yn dysgu am yr heriau a’rprofiadau gwerth chweil sy’n gysylltiedig agymarfer meddygaeth mewn cymunedautrefol a gwledig. Bydd ein hystod ddigymaro gyfleoedd clinigol a lleoliadau yn eichhelpu i wneud y dewis gorau wrth gyflwynocais am eich swydd gyntaf fel meddyg iau.

    � Gallwch addasu hyd at 15% o’ch cwrs igyd-fynd â’ch diddordebau.

    � Mae eich blwyddyn (harmoneiddio) olaf yneich paratoi ar gyfer symud ymlaen ynddiffwdan i fod yn feddyg iau, ac mae eingraddedigion yn teimlo eu bod wedi’uparatoi’n dda ar gyfer bod yn feddyg.

    Mae Cymru yn cynnig cydbwysedd prin rhwngyr hwyl o fyw mewn dinas fywiog, a’r cefngwlad hardd gerllaw. Mae'n lle gwych iastudio ynddo ac mae popeth sydd ganBrifysgol Caerdydd i’w gynnig yn golygu ygallwch fyw eich bywyd i’r eithaf.

    Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn uno’n Diwrnodau Agored cyn bo hir.

    Yr Athro Stephen RileyDeon Addysg Feddygol

    Yr Athro Stephen Riley

    Ymholiadau ynghylch Derbyn MyfyrwyrYsgol MeddygaethPrifysgol CaerdyddNeuadd MeirionyddCaerdydd CF14 4YSY DU

    Ffôn: +44 (0)29 2068 8113+44 (0)29 2068 8073

    Ebost: [email protected]

  • 2

  • Caerdydd: y Brifysgol

    3

    Mae gan Brifysgol Caerdydd enw da yn rhyngwladol amragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, wedi ei adeiladuar hanes o wasanaethu a chyflawni er 1883, ac mae einhaelodaeth o Grŵp Russell o brifysgolion blaenllaw aarweinir gan ymchwil yn brawf o hynny.

    Er ein bod ni’n mawrygu’n treftadaeth,at y dyfodol y byddwn ni’n edrych. Mae’rcyfleusterau diweddaraf sydd gennym yncynnwys buddsoddi £200 miliwn ledled yBrifysgol, gan gynnwys gwario ar ein campwsni ym Mharc Cathays, campws Parc MynyddBychan a champws y Maendy, ailwampio’rllyfrgelloedd ac adnewyddu adeiladau Undeby Myfyrwyr. Mae gennym ni gampws canologhardd, cyfleusterau modern ar draws yddinas, preswylfeydd rhagorol, llyfrgelloeddâ Wifi, ac un o’r Undebau Myfyrwyr gorauyn y DU.

    A ninnau’n gartref i fwy na 30,000 o fyfyrwyr– dros 5,000 ohonynt o’r tu allan i’r UE – yrydym yn brifysgol gynhwysol sydd â recorddda o ehangu mynediad, cynyddu cyfranogiada chroesawu ceisiadau o ba gefndir bynnag ydaw’r ymgeiswyr.

    Am fod gan Gaerdydd gyfoeth trawiadol oadnoddau, amgylchedd cynhalgar i’wmyfyrwyr, traddodiad o ragoriaethacademaidd a detholiad helaeth oraglenni gradd, fe gydnabyddir gan lawermai hi yw prifysgol fwyaf blaenllaw Cymru.

    Mae Caerdydd yn ddinashyfryd gyda naws hamddenol.Mae’r Ysgol Meddygaeth ynrhoi cyfleoedd gwych i fyfyrwyrrhyngwladol.Giuseppe Masciopinto, myfyriwrmeddygol, Università Cattolica delSacro Cuore, Sede di Roma.

    Caerdydd: y Brifysgol

    Rhagor o wybodaeth ar-lein yn:www.caerdydd.ac.uk

  • 4

  • Caerdydd: y Ddinas 5

    Caerdydd: y DdinasRhagor o wybodaeth ar-lein yn:

    www.caerdydd.ac.ukwww.welsh.visitcardiff.com

    Caerdydd yw ail ddinas fwyaffforddiadwy i fyfyrwyr yn y DU.

    O blith y 35 o ddinasoedd aarolygwyd, mae'r gost o fyw arei isaf yng Nghaerdydd argyfartaledd.

    Ffynhonnell:Mynegai NatWest am GostauByw i Fyfyrwyr 2018

    Am fod Caerdydd yn lle mor glos a deniadol,gall ei myfyrwyr, sy’n 10% o’i phoblogaeth,fwynhau ei hatyniadau unigryw, ei hadloniantgwych a’i siopau hyfryd, a’r cyfan o fewnpellter cerdded byr i’w gilydd. Fel myfyriwryng Nghaerdydd, bydd cyfleusterauchwaraeon ac adloniant gwych i fodloni pobchwaeth o fewn pellter cerdded i chi - ogriced rhyngwladol yng Ngerddi Sophia arygbi yn Stadiwm Principality i berfformiadauCwmni Opera Cenedlaethol Cymru, gwrandoar fandiau lleol yn Heol Eglwys Fair neufwynhau noson allan yn Undeb y Myfyrwyr.

    Mae i Gaerdydd fwrlwm ac ynni prifddinasac mae ganddi leoliad gwych.

    Lle cyffrous i fyw ac astudio ynddo yw dinas fywiog a chyfeillgarCaerdydd, ac mae’n un o brifddinasoedd ifancaf Ewrop.

    Yr hyn rwy’n ei werthfawrogifwyaf am ddinas Caerdydd, o’ichymharu â dinasoedd eraillmyfyrwyr, yw pa mor fforddiadwyydyw. Mae yna dai gwych ynagos at y campysau, yn ogystal âchanol y ddinas. Mae cael y cyflei fyw mewn ardaloedd i fyfyrwyryn bennaf yn golygu bod gennymgyfle i fwyta allan mewn taibwyta â phrisiau myfyrwyr amynd i fariau gyda phrisiau teg!Bernice Cunningham-Walker,myfyriwr meddygol

    Wrth gerdded ar hyd AfonTaf, yn aml rwy’n anghofio fymod i mewn dinas.Tom Liddell-Lowe, myfyriwr meddygol

    “Dinas ifanc a bywiog yw Caerdydd. Mae’n gyfuniad ohen bensaernïaeth hardd a’r datblygiadau diweddarafun. Cosmopolitaidd a llond y lle o fyfyrwyr.”Daily Telegraph Guide to UK Universities

    Caerdydd yw un o ganolfannau manwerthu mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig

    Mae canol y ddinas yn enwogam ei bywyd nos ac ni all unrhywbeth guro’r yr awyrgylch pan fyddCymru yn chwarae rygbi gartrefyn Stadiwm y Principality. Foddbynnag, o fewn ychydig mwy nagawr gallech fod yn heicio ymMannau Brycheiniog, ‘neu’n’cyfarfod ffrindiau mewndinasoedd eraill fel Bryste neuAbertawe.Dr Simon Thebault,un o raddedigion Caerdydd

  • Ysgol MeddygaethPrifysgol Caerdydd

    6 Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd

    Yr ydym yn falch o draddodiad hir Caerdydd o addysg feddygol. Yrydym wedi hyfforddi’r meddygon gorau un oddi ar 1893 a heddiwfe ganolbwyntiwn ar roi addysg o’r 21ain ganrif i’n myfyrwyr.

    Cyfunwn addysg flaengar mewn gofal iechyda gofalu am gleifion ag ymchwil o safonfyd-eang a chyfleusterau addysgu nodedigi’ch helpu i fod y meddyg gorau posibl.

    Mae llawer o adnoddau ar gampws Parc yMynydd Bychan, yn Ysbyty Athrofaol Cymru,

    a llawer i'w gynnig i fyfyrwyr. Byddwch chi’ndysgu yn ein cyfleusterau addysgu pwrpasola’n Canolfannau Efelychu a Sgiliau Clinigoldiweddaraf un, yn astudio yn ein llyfrgellryngbroffesiynol helaeth ac yn cymdeithasuyng Nghanolbwynt Undeb y Myfyrwyr(yr ‘IV Lounge’, yn ôl ein myfyrwyr).

    Mae gan y cwrs elfenymarferol fawr fel eich bod yndysgu’r pethau cŵl iawn o’rdechrau. Mae hefyd yn caniatáui chi berffeithio eich sgiliau drwygydol y cwrs a bod yn hyderus yny gwaith unwaith y byddwch wedigraddio fel meddyg.Dr Julimar Abreu,un o raddedigion Caerdydd

    Mae Undeb y Myfyrwyr argampws Parc y Mynydd Bychanyma i ymgysylltu â chi a’ch cefnogiyn ystod eich amser yn y brifysgol.Maent yn darparu GwasanaethauCynghori Myfyrwyr yn cynnwysunrhyw beth o ymholiadau am daii faterion academaidd; maent yncynnig dros 250 o gymdeithasaua chlybiau chwaraeon yn ogystalag ystod eang o ddigwyddiadaucymdeithasol trwy gydol yflwyddyn. Ceir cymdeithasaugofal iechyd a thimau chwaraeonpenodol sy’n addas ar gyferffordd brysur o fyw Myfyriwr Iechydyn ogystal â’r holl weithgareddau achyfleoedd ar gyfer pob myfyriwr.Bydd gennych atgofion am eichamser yng Nghaerdydd a’r MynyddBychan am flynyddoedd ar ôl i chiadael y Brifysgol, felly gadewch ini wneud yn siŵr eich bod ynmwynhau mas draw!Jennifer Kent – Is-LywyddParc y Mynydd Bychan 2018-19,Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

  • 7Rhaglen yr MBBChRhagor o wybodaeth ar-lein yn:

    www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

    Rhaglen yr MBBCh

    � Rhaglen israddedig 5 mlyneddUCAS A100, sy’n gofyn am ycanlyniadau Safon Uwch priodol, neuganlyniadau cyfatebol, yn y gwyddorau.Mae yma ryw 270 o leoedd i fyfyrwyrCartref a rhai o’r UE, a rhyw 25 oleoedd i fyfyrwyr tramor.

    � Y rhaglen 6 blyneddUCAS A104, hyd at 16 o leoedd iymgeiswyr sydd â chefndir cyfyngedigneu ddim cefndir o gwbl yn ygwyddorau. Cewch chi ddilyn cwrsBlwyddyn Rhagarweiniol i ddal i fyny.

    � Rhaglen mynediad 4 blynedd iraddedigion UCAS A101, ar gyferhyd at 10 o raddedigion o bob un o'ncyrsiau bwydo cydnabyddedig yn unig:BSc mewn Ffarmacoleg Feddygol;Gwyddor Fiofeddygol (PrifysgolCaerdydd) a’r Gwyddorau Meddygol(Prifysgol De Cymru a PhrifysgolBangor). Gallwch wneud cais i ymunoâ Blwyddyn 2 y rhaglen A100.

    Beth fydda’ i’n ei ddysgu?Blwyddyn y RhaglenRhagarweiniol (UCAS A104)Yn eich blwyddyn ragarweiniol fe ddysgwchchi mewn amgylchedd prifysgol a chewchymuno â llawer o’r gweithgareddau a gynhelirgan gymdeithasau’r myfyrwyr meddygol.

    Bydd pob myfyriwr yn cymryd modiwlaucraidd cemeg a biowyddorau ac, yn ogystal,modiwl Cyflwyniad i'r Gwyddorau Meddygol ihelpu eich cyflwyno i'r byd meddygaeth.Hefyd bydd yn ofynnol i chi gymryd modiwlaumathemateg os nad oes gennych y pwnchwn ar Safon Uwch. Bydd y modiwlau hyn ynsicrhau y gallwch ymuno â Blwyddyn 1 arsail gyfartal â myfyrwyr meddygol eraill.Bydd gennych hefyd rai opsiynau dewisol agallwch ddewis o amrywiaeth o fodiwlauiaith, gwyddoniaeth a dyniaethau.

    Beth yw Dysgu ar SailAchosion (CBL)?Y peth cyntaf y mae angen i chi ei wybod ywbod CBL yn ddull llawer mwy strwythurediga chynhalgar o ddysgu na Dysgu ar SailProblemau. Y bwriad yw iddo roi’r uncyfleoedd dysgu i bob myfyriwr, ynghyd â’raddysgu gorau un. Bydd popeth a ddysgwchyn ddefnyddiol a pherthnasol, a chaiff eiaddysgu ar yr adegau mwyaf priodol yneich rhaglen, gan ddefnyddio’r cyfleusteraumwyaf priodol. Addysgu mewn grwpiaubach yw'r ffordd orau o hwyluso'r math hwno ddysgu. Cyflwynir achos i chi, ac oamgylch hwnnw y seilir yr addysgu ar gyferyr wythnos ganlynol neu ragor. Er enghraifft,os yw’r achos yn un lle mae claf wedianafu ei ben-glin wrth wneud chwaraeon,fe ddysgwch chi yn y darlithoedd amfecanweithiau llid a meddyginiaethaugwrth-lid; yn y ganolfan anatomeg, byddwchchi’n archwilio'r man perthnasol; ar leoliad,efallai y byddwch chi mewn clinig ffisiotherapisy’n delio ag anafiadau chwaraeon, ac yny labordai sgiliau clinigol byddwch yn dysgusut mae archwilio pen-glin.

    Beth yw cwricwlwmdyrchafol-droellog?Ystyr cwricwlwm dyrchafol-droellog yw ybyddwch chi’n ailymweld bob blwyddyn âphroblemau clinigol cyffredin ac yn adeiladuar yr hyn y byddwch wedi’i ddysgu’n barod.Bob blwyddyn â phroblemau clinigolcyffredin Bydd y wybodaeth newydd, felly,yn haws ei chofio a’i chymhwyso at ycyd-destun clinigol pan welwch chi gleifion.

    Pa raglenni sydd yno i astudio Meddygaeth?

  • Beth wna i ei Ddysgu ar yCwricwlwm MBBCh 5 Mlynedd?

    8 Beth fyddaf yn ei ddysgu?

    CYFNOD 1: Gwyddoniaeth Greiddiol ac Ymarfer Clinigol – Blynyddoedd 1 a 2

    Beth wna i ei ddysgu?Mae eich semester cyntaf ym Mlwyddyn 1,llwyfan ar gyfer gwyddorau clinigol, yn eichhelpu i ymgyfarwyddo â’r gwyddorausylfaenol ac yn helpu wrtrh symud i AddysgUwch. Yn dilyn hyn, ym Mlynyddoedd 1a 2 byddwch yn dysgu chi wyddoniaethsylfaenol a chlinigol drwy astudio’r thema‘Cwrs Cronolegol Bywyd’. Fe ymchwiliwch i’rffordd y bydd y corff dynol yn gweithio ac feddechreuwch adnabod clefydau a chyfuno’rhyn a ddysgwch yn ein sesiynau addysgumanwl ar wyddoniaeth sylfaenol â’r hyn awelwch chi ar eich lleoliadau clinigol.Byddwch yn defnyddio achosion a gaiff eutrafod mewn grwpiau bach (‘Dysgu ar SailAchosion’ - gweler Tudalen 7) er mwynastudio cyflyrau clinigol sy’n effeithio argleifion o wahanol oedrannau.

    Beth fydda i’n ei wneud?� Mae gwyddorau clinigol sylfaenol felanatomeg, biocemeg, ffisioleg acimiwnoleg yn cael eu haddysgu mewnamrywiaeth o fformatau, gan gynnwysmewn gweithdai, darlithoedd, sesiynauymarferol ac ymarferion dyrannucelaneddol.

    � Sgiliau cyfathrebu, dysgu sut i edrychar grynodebau penodol o hanes cleifionac egluro clefydau a thriniaethau

    � Dysgu sgiliau clinigol, gan gynnwysamrywiaeth o archwiliadau corfforol,cymorth sylfaenol i fywyd, a sgiliauymarferol

    � Mae’r gwyddorau cymdeithasolac ymddygiadol, fel seicoleg achymdeithaseg, yn cael euhaddysgu drwy ddulliau cyfunolym mhob rhan o’r rhaglen

    � Gweithdai Proffesiynoldeb a DatblygiadPersonol - mae gan feddygon rôl bwysigfel arweinwyr ac fel aelodau ucheleu parch o gymdeithas, a byddwnni’n eich helpu chi i ddysgu ambroffesiynoldeb wrth ymarfer asut i ddatblygu fel unigolyn.

    Ble fydda i’n dysgu?� Byddwch yn astudio yn y cyfleustermwyaf priodol ar gyfer y math o ddysgusy’n ofynnol. Golyga hynny y byddwch ynrhannu eich amser rhwng Campws yMynydd Bychan sy'n canolbwyntio ar yrelfennau clinigol, a champws Cathayssy'n canolbwyntio ar biowyddorau

    � Byddwch hefyd yn ymgymryd âlleoliadau rheolaidd yn y GIG. Bydd ydiwrnodau hyn o brofiad clinigol yn eichgalluogi i weld cleifion sydd â’r cyflyrauyr ydych chi’n eu hastudio yn eichgrwpiau Dysgu ar Sail Achosion ynogystal â chwrdd â staff mewnamgylchedd amlddisgyblaethol.

    CYFNOD 2: Dysgu Gofalu – Blynyddoedd 3 a 4

    Beth wna i ei ddysgu?Bydd y rhan hon o’ch cwrs yn hoelio’chsylw ar brofiadau’r cleifion o salwch a gofaliechyd. Ei diben yw rhoi profiad dysgurhagorol i chi mewn sefyllfaoedd clinigol,er mwyn i chi fod y meddyg gorau posibl.

    Beth fydda i’n ei wneud?� Fe ddysgwch chi hanfodion gofal clinigolrhagorol, fel asesu’n glinigol, rhoidiagnosis a rheoli a thrin clefydaucyffredin

    � Bydd Blwyddyn 3 yn canolbwyntio arglefydau cyffredin mewn sefyllfaoeddacíwt a chronig

    � Gan mai ar arbenigeddau y byddpwyslais Blwyddyn 4, fe dreuliwchamser gydag amrywiaeth o arbenigwyr,fel obstetregwyr, paediatregwyr,geriatregwyr a seiciatryddion

    � Yn y blociau addysgu a gewch ochryn ochr â'ch lleoliadau clinigol, caiffhanfodion ymarfer meddygol da eutrafod yn ogystal â’r batholeg, ytherapiwteg, y gwyddorau cymdeithasola’r foeseg sy’n berthnasol i’ch lleoliad

    � Fel rhan o’r rhaglen o ddewisiadaumyfyrwyr, cewch hefyd fanylu ar faessydd y tu allan i’r craidd ond sydd oddiddordeb i chi.

    Ble y fydda i’n dysgu?� Fe dreuliwch chi’r rhan fwyaf o’ch amserar leoliadau clinigol yn y GIG neu gydameddyg teulu ar hyd a lled Cymru

    � Byddwch chi mewn ysbytai,meddygfeydd a chlinigau cymunedol

    � Fe dreuliwch chi’ch wythnosau o flociauaddysgu yn y Brifysgol i’ch paratoi chi argyfer eich lleoliad clinigol ar y cychwynac i gyfnerthu’ch addysg ar y diwedd

    � Ym mlwyddyn 3, mae'r opsiwno ddilyn Llwybr Addysg Wledig ynbennaf mewn gofal sylfaenol yngngogledd a gorllewin Cymru

    � Drwy gynllun Erasmus, bydd rhaimyfyrwyr Blwyddyn 4 yn treulio amserar leoliad clinigol yn un o’n partner-sefydliadau yn Ewrop lleoliad yn uno’n partner-sefydliadau

    Fe wnaeth Cymorth Medicgadw popeth yn gyfrinachol atheilwra'r gefnogaeth i gyd fyndâ fy anghenion.Dr Jamie Plumb,un o raddedigion Caerdydd

  • Be fyddaf yn ei ddysguCymorth

    Rhagor o wybodaeth ar-lein yn:www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

    9

    HARMONEIDDIO: Paratoi ar gyfer Ymarfer – Blwyddyn 5

    Beth wna i ei ddysgu?Nod eich blwyddyn olaf fel myfyriwrmeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd yw’chhelpu chi i symud ymlaen yn ddidrafferthi’ch rôl fel Meddyg Sylfaenol (F1). Mae’rbroses Harmoneiddio yn cynnwys tri lleoliadclinigol o 7-8 wythnos a phedwar blocastudio byrrach rhyngddynt, a’r cyfan wedi’igynllunio i feithrin eich hyder, caniatáu i chiymarfer sgiliau ymarfer clinigol a rhoipresgripsiynau a gwella eich gallu i weithiofel rhan o dîm. Yn ystod y cyfnod hwnbyddwch yn defnyddio ePortffolio MyProgress i gofnodi eich dysgu.

    Wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen byddwchyn dysgu sut i ysgwyddo mwy o gyfrifoldebam ofal cleifion.

    Beth fydda i’n ei wneud?� Mae Paratoi i Ymarfer yn rhoi sylw i’ragweddau ymarferol ar feddygaeth ymae angen eu dysgu i chi fod yn feddyggwych, e.e. cyfathrebu, dogfennaethfeddygol a rheoli cleifion mewn argyfwng

    Byddwch hefyd yn gwneud y canlynol:

    � Cynorthwy-ydd Iau dan hyfforddiant(lleoliad clinigol gydag Ymgynghorydd)

    � Ymlyniad Gofal Sylfaenol(lleoliad clinigol gyda Meddyg Teulu)

    � Mae eich maes dewisol yn gadael i chibrofi meddygaeth mewn gwahanolsefyllfaoedd diwylliannol o amgylch y byd

    � Yn eich modiwl Gwyddoniaeth acYmarfer byddwch yn astudio'rwyddoniaeth sylfaenol sy'n sail ifeddygaeth glinigol unwaith eto.

    � Byddwch yn ymchwilio i’r elfennau ansicrmewn meddygaeth, yn dysgu sut iymdopi gyda phwysau gwaith a straen,a dysgu mwy ynglŷn â swyddogaethMeddyg Sylfaenol. Mae eich lleoliadswydd cynorthwy-ydd myfyriwr uwch eichcysgodi'r F1 eu hesgidiau Bydd llenwi arôl graddio, os byddwch yn dewis arosyng Nghymru am eich swydd gyntaf.

    � Mae hyn yn eich helpu i ddod yngyfforddus â’r bobl a’r amgylcheddhyd yn oed cyn i chi ddechrau ar eichdiwrnod cyntaf fel Meddyg Sylfaen ymayng Nghymru. Bydd hyn yn helpu iwneud y cyfnod pontio anodd hwnnwo fyfyrwyr i feddyg yn fwy diogel ac ynfwy pleserus.

    Ble fydda i’n dysgu?� Yng Nghymru y bydd eich lleoliadau felCynorthwy-ydd Myfyriwr Iau a’chYmgysylltiad Gofal Cychwynnol

    � Cewch chi astudio’ch maes dewisol yn yDU neu mewn gwlad dramor – chi fyddyn penderfynu

    � Fel rheol, bydd eich lleoliad fel Uwch-gynorthwyydd o Fyfyriwr yn yr ysbyty llebyddwch chi’n cychwyn ar eich gyrfa felmeddyg. Os yw hyn y tu allan i Gymru,byddwn yn eich ffitio i mewn i leoliadaddas yng Nghymru ac yn eich annog idreulio amser yn cysgodi’r F1 sy’nymadael dros yr haf

    � Fe dreuliwch chi’ch blociau astudioar gampws Parc Mynydd Bychan,yng Nghaerdydd.

    Roedd bod yn Uwch-gynorthwy-ydd Myfyrwyr ynlleddfu llawer o’r pryderon acofnau sy’n wynebu graddedigionnewydd. Nid ein gwybodaethfeddygol sy’n bwysig bob amserond yn hytrach ‘gwybodaeth’ amy ward sy’n bwysig.Dr Yousef Ibrahim,un o raddedigion Caerdydd

    Rwy’n mwynhau mas draw felF1. Mae’n brysur iawn ond rwy’nmwynhau'r hyn rydw i wedi eisiauei wneud erioed.Mustafa Abdimalik,un o raddedigion Caerdydd

    Rhwydwaith CymorthWeithiau gall meddygaeth fod yn anoddyn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynola bydd arnom eisiau bod yn gefn i chibryd hynny. Byddwn yn eich cefnogi ynacademaidd ac yn fugeiliol drwy gydoleich hyfforddiant yng Nghaerdydd.

    Fel myfyriwr meddygol cewch nid yn unigdroi at Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr y Brifysgolond cewch gymorth penodol hefyd drwy’r

    Ysgol Meddygaeth. Dyrennir mentorpersonol i chi a fydd yn ffynhonnell wych owybodaeth a chymorth i’ch helpu gyda’chdysgu. Byddant yn cwrdd â chi’n rheolaiddac yn gallu eich cyfeirio at gymorth penodolos bydd ei angen arnoch. Darperir gymorthar gyfer materion mwy personol drwy eingwasanaeth cymorth i feddygon.

    Mae hyn yn darparu cymorth i’r rheiny syddâ phryderon personol ac iechyd ynghyd âchysylltiadau â gwasanaethau cymorth

    ehangach y brifysgol. Rydym hefyd ynsicrhau eich bod yn cael gofal da panfyddwch i ffwrdd ar leoliad, gyda staffcymorth ym mhob ysbyty cyffredinoldosbarth yng Nghymru. Rydym yn ceisiosicrhau bod gennych fynediad at gefnogaetha chyngor pryd bynnag y byddwch yn teimloy gallai fod angen hyn arnoch chi.

    Lleoliadau ledled Cymru:Coch – YsbytaiGwyrdd – Meddygfeydd

  • 10 Dulliau Dysgu ac Addysgu

    Anogir myfyrwyr Caerdydd i ryngweithio, cyfranogi, holi amyfyrio am ein bod ni’n credu mai’r meddygon ymholgar sy’nawyddus i ddatrys problemau yw’r rhai sy’n rhoi’r safon uchafo ofal i’w cleifion.

    Dulliau Dysgu ac Addysgu

    Bydd ein ffordd ni o ddysgu drwy astudioachosion yn cadw’r claf yn ganolbwynt i’chastudiaethau. Drwy ddysgu mewn grwpiaubach, mynd i ddarlithoedd cydgysylltiedig,mynd ar leoliadau clinigol, cael hyfforddiantmewn sgiliau clinigol ac astudio’nhunangyfeiriedig, byddwn ni’n cyfunoamrywiaeth o ddisgyblaethau i integreiddiogwyddoniaeth, y gwyddorau cymdeithasol acymarfer clinigol. Chi a’ch addysg fydd eincanolbwynt ni: cewch chi gymorth i gymrydmwy a mwy o gyfrifoldeb dros eich addysgeich hun, ac wrth i chi ddefnyddio’ch mentereich hun fe’ch anogwn chi i fanteisio ar ycyfleoedd a’r profiadau a fydd ar gael i chi felmyfyriwr ac, yn ddiweddarach, fel meddyg.

    Mae sgiliau cyfathrebu wrth wraidd ymarfermeddygol da ac yn un o’r pethau cyntaf ybydd cleifion yn sylwi arnynt. Bydd eingweithdai, sy’n uchel eu parch, yn eich helpuchi i gasglu gwybodaeth, esbonio clefydau athriniaethau, rhoi cymorth i gleifion gofidus adelio â sgiliau mwy cymhleth, fel torrinewyddion drwg. Byddwch chi’n dod iweithdai drwy gydol y cwrs, yn ymgynghoriag actorion sydd wedi’u hyfforddi i ymddwynfel cleifion, yn cael adborth ac, weithiau, yncael eich ffilmio er mwyn i chi allu adolygu’chperfformiad eich hun. Byddwn ni hefyd ynannog cleifion i fod yn athrawon arnoch chi.

    Menter hynod lwyddiannus yw PAL (Dysgugyda Chymorth Cyd-fyfyriwr) sy’n hyfforddimyfyrwyr meddygol Bl. 5 i diwtora myfyrwyriau yn sgiliau’r triniaethau clinigol. MaeCynllun PAL wedi bod yn llwyddiant mawr amei fod yn helpu myfyrwyr hŷn i fagu profiado addysgu tra bo myfyrwyr iau’n datblygu eusgiliau a’u gwybodaeth drwy wrando argydweithwyr mwy profiadol sy’n dal i gofiosut deimlad yw taclo sgiliau newydd.

    I ble y bydda i’n mynd abeth fydda i’n ei wneud?Mae Cymru’n cynnig i chi amrywiaethrhyfeddol o brofiadau clinigol a wnaiffychwanegu gwerth at eich gyrfa feddygol.Byddwch chi ar leoliad clinigol mewn ysbytai,meddygfeydd a chlinigau cymunedol o’chblwyddyn gyntaf ymlaen gan fynd, yn raddol,ymhellach oddi yno am gyfnodau hwy achynyddu’ch cyfrifoldeb fel aelod o dîmmeddygol. Erbyn eich blwyddyn olaf, byddwchchi’n treulio mwy o amser gyda’ch cleifionna gyda’ch llyfrau ac wedi magu profiadymarferol o ystyr darparu gofal meddygol ardraws y sbectrwm - o feddygfeydd mewncymunedau amaethyddol i ysbytai bachmewn trefi glan-môr poblogaidd a threfiôl-ddiwydiannol, ymlaen i arbenigeddautrydyddol mewn ysbytai addysgu trefol mawr.

    LLAWMae'r Llwybr Addysg Wledig (LLAW) yn rhoicyfle i rai myfyrwyr Blwyddyn 3 dreulioblwyddyn gyfan mewn cymuned fwy gwledigyn Aberystwyth neu Fangor. Bydd hyn ynhwyluso dysgu mewn tîm clinigol tra’n derbyncefnogaeth lawn gan Brifysgol Caerdydd agoruchwyliwr addysgol clinigol lleol. Hefyd,byddwn yn ceisio lleoli rhai myfyrwyr amflwyddyn gyfan yng ngogledd Cymru ymMlwyddyn 3, 4, neu 5. Mae myfyrwyr sy’nastudio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol BetsiCadwaladr yng ngogledd Cymru bob amser ynadrodd yn ôl am brofiad myfyrwyr rhagorol abydd y rhaglen hon yn ceisio adeiladu ar hyn.

    Sut y caf fy asesu?Mae’r asesiadau yng Nghaerdydd wedi’ucynllunio i fod yn deg ac i’ch helpu wrth i chiddysgu. Byddwn ni’n defnyddio enghreifftiauclinigol go-iawn i’ch asesu chi ar yr adegfwyaf priodol ac yn y man mwyaf perthnasol.Bydd ein papurau cwestiwn amlddewis ‘unateb gorau’ yn rhoi prawf ar eich gwybodaethac fe wnaiff ein Harholiadau ClinigolStrwythuredig Integredig (ISCEs) roi prawfar eich sgiliau clinigol. Defnyddiwn gleifiongo-iawn ac arwyddion corfforol go-iawn, ynogystal â chwaraewyr rôl, i asesu’ch gallu igyfathrebu â chleifion.

    Drwy gydol eich cwrs, byddwn ni’n dyfarnugwobrau a Thystysgrifau Rhagoriaeth am yperfformiad academaidd gorau, ac ar ydiwedd cewch chi radd derfynol MBBCh(gydag Anrhydedd neu Ganmoliaeth osbyddwch yn gwneud yn arbennig o dda).

    Diwrnod Iechyd yngNghefn GwladMae’r diwrnod Iechyd yng Nghefn Gwladyn rhoi’r cyfle i bob myfyriwr ym Mlwyddyn2 fwynhau’r cyffro a’r heriau unigryw y maeymarferwyr yng nghefn gwlad yn eu hwynebubob dydd. Mae Gwasanaeth AmbiwlansCymru yn creu sefyllfa ffug lle mae damwaincar difrifol wedi digwydd mewn mananghysbell. Mae hyn yn rhoi profiadgwerth chweil i fyfyrwyr o’r heriau y mae’rgwasanaethau brys yn eu hwynebu mewncymunedau gwledig. Mae amrywiaeth osgiliau clinigol a chyfathrebu yn cael euhymarfer yn ystod diwrnod hynod ddiddorol.Mae hwn yn cynnig cipolwg gwerthfawrar opsiwn arall sydd ar gael ar eich cyfermewn ymarfer clinigol.

  • 11Ein Cyfleusterau

    Ein Cyfleusterau

    Mae’r Ganolfan Efelychu a Sgiliau Clinigolyn llawn o’r modelau ac offer arbenigoldiweddaraf ac yn gyfleuster sy’n lle diogel ichi ddysgu sgiliau ymarferol a magu profiadgwerthfawr ynddo.

    Canolbwynt ein haddysgu yw meistroli’r 32 osgiliau ymarferol allweddol sydd wedi’u pennugan y GMC, ynghyd ag amrywiaeth o sgiliauarchwilio corfforol, i’ch paratoi ar gyfer eichdiwrnod cyntaf fel meddyg iau.

    � Mae gennym ni amrywiaeth o ystafelloeddaddysgu hyblyg ac mae’r cyfleusterauclyweledol a chyfrifiadurol ynddynt yn foddi ni gyflwyno popeth – o sgiliau cyfathrebuymlaen i gymorth sylfaenol i fywyd.Defnyddiwn fodelau realistig acanatomegol-gywir sy’n fodd i chi ddysguac ymarfer amrywiaeth mawr o sgiliauclinigol triniaethau

    � Mae’n staff ni wedi datblygu modiwlaue-ddysgu i roi gwybodaethddamcaniaethol fuddiol i chi cyn ichi gael sesiwn ar sgiliau clinigol

    � Ar ôl y sesiynau wedi’u hamserlennu,gallwch ymarfer y sgiliau yn ein manDysgu Hunangyfeiriedig, lle cewch chibob math o offer, a chewch ddefnyddioamgylchedd cwbl ddiogel i fagu profiada ffydd yn eich galluoedd.

    � Ar y rhan fwyaf o ddyddiau Mercher, ynystod y tymor, mae un o’r tîm AddysguSgiliau Clinigol ar gael yn yr Ystod DysguHunangyfeiriedig. Maen nhw yno i’chhelpu gyda’r sgiliau gweithdrefnol a allaigymryd ychydig yn hirach i’w meistroli.

    Bydd asesu claf sy’n ddifrifol wael, monitro’rarwyddion hanfodol a gwneud a gweithredupenderfyniadau rheoli i gyd yn rhan o’chbywyd fel meddyg iau. Yn y Ganolfan Efelychucewch amgylchedd diogel lle cewch chi’chhelpu i weithredu sefyllfaoedd clinigol. Hefyd,mae safleoedd ysbyty ledled Cymru yncynnwys cyfleusterau efelychu sy'n galluogiaddysgu efelychu lle bynnag y byddwch chiar gyfer lleoliadau clinigol eich blwyddyn olaf.Hoffem i chi deimlo’n barod i wynebu’chdiwrnod cyntaf fel meddyg iau gan wybod sutmae ymdrin yn ddiogel ac yn ddigynnwrf â’rsefyllfaoedd sy’n codi.

    Mae’n cyfleusterau yn cynnwys pedair ystafellefelychu a phedair ystafell addysgu. Yn yrystafelloedd efelychu mae doliau o gleifion

    mewn amgylchedd sy’n edrych ac yn teimlofel sefyllfa glinigol go iawn. Bydd y camerâumewn mannau strategol yn fodd i chwaraefideos yn fyw ac yn ôl ac i chi a’ch cyd-fyfyrwyr ddysgu ohonynt fel cyfranogwyr ac felarsylwyr. Agwedd allweddol ar yr addysgu argrwpiau bach yn y Ganolfan yw’ch bod chi’ndysgu oddi wrth eich cyd-fyfyrwyr. Byddcyfranogwyr ac arsylwyr yn dod ynghyd arddiwedd sefyllfa a bydd Tiwtor yn hwylusosesiwn ôl-drafod. Mae gennym ni ymagweddstrwythuredig sy’n amlygu ymarfer clinigol dapob perfformiwr unigol. Byddwn ni’n cymrydamser i drafod sut y gall unigolion wella’uperfformiad y tro nesaf ac ymagweddauposibl eraill. Bydd hyn i gyd yn eich helpu ifod yn well meddyg.

    Y Ganolfan Efelychu

    BiowyddorauMae Ysgol y Biowyddorau, sydd ger Undeby Myfyrwyr a chanol y ddinas, yn cynnigamgylchedd croesawgar i fyfyrwyr. Yn yradeilad modern, gyda’i du blaen gwydrchwe-ochrog â lliw unigryw, mae buddsoddiadmawr wedi bod i adnewyddu cyfleusterau.Mae’r adnewyddu hyn yn cynnwys nifero ardaloedd dysgu, yn ogystal ag offerffisioleg ac offer AV. Hefyd, mae digono ofod astudio a chaffi.

    Y Ganolfan AnatomegOs holwch chi, cewch chi weld bod anatomegyn bwnc go boblogaidd ymysg ein myfyrwyr ac,yn aml, yn un o uchafbwyntiau eu gyrfa yn yrysgol feddygol. I osod sylfaen i chi gael dyfodolcyffrous a llwyddiannus ym myd Meddygaeth,fe fyddwch chi, fel myfyriwr yng Nghaerdydd,yn astudio anatomeg yn ein CanolfanAnatomeg drawiadol ar Gampws Cathays.Mae anatomeg yn rhan allweddol o gwricwlwmmeddygol ein Cam 1 ac fe arbenigwn araddysgu grwpiau bach dan arweiniadanatomegwyr clinigol, academyddion acarddangoswyr clinigol o Ysgol y Biowyddorau.Diben ein hystod o ddulliau addysgu, sy’ncynnwys dyrannu, difynio, peintio’r corff,e-ddysgu a sesiynau tiwtorial drwy fideo, ywsicrhau bod eich addysg ynghylch anatomegyn cyd-fynd â phob achos neu system wrth ichi ymchwilio iddo/iddi yn eich darlithoedda’ch sesiynau tiwtorial a lleoliadau.

    Y Ganolfan Sgiliau Clinigol

    Rhagor o wybodaeth ar-lein yn:www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

  • Meysydd Dewisol

    12 Meysydd Dewisol

    Yn aml, astudio maes dewisol yn y flwyddyn olaf fydduchafbwynt amser myfyriwr meddygol yn y brifysgol. Rydychchi’n dylunio profiad sy’n canolbwyntio ar faes testun sydd oddiddordeb i chi mewn lleoliad yn unrhyw le bron o Awstralia iFietnam. Mae gennym gysylltiadau gyda phrifysgolion yn Asiasy’n gallu helpu i sicrhau profiad unigryw. Byddwch yn ariannueich trip eich hun ond mae gennym staff i helpu, rhaglenniwedi’u trefnu’n dda a bwrsariaethau ariannol.

    Dyna un o’r cwestiynau cyntaf ges i ar ôlcyrraedd Ysbyty Addysgu Juba yn Ne Sud

    an.

    Cafodd fy ysgwyd pen ei gyfarch â nodiaubrwdfrydig. “Iawn”, oedd yr ateb brwd,

    “dim problem. Fe ddangosa i hwn i chi achewch chi wneud yr un nesa’.” Drwy lwc

    ,

    wnaeth yr un nesaf ddim cyrraedd tan i mi adael tîm y llawfeddygon.

    Doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth i’w ddisgwyl wrth astudio maes dewisol yng

    ngwlad fwyaf newydd y byd, a honno newydd ei chreu ar ôl blynyddoedd o newyn

    a rhyfel. Go brin fod angen dweud i’r amodau fod yn heriol ac i mi gael fy ngorfodi

    i ddefnyddio’r holl sgiliau a gwybodaeth addysgais yng Nghaerdydd i drin amrywiae

    th

    mawr o gleifion.

    Cefais amser pleserus, diddorol a heriol yn Juba a chael cipolwg unigryw ar ofal

    iechyd mewn cenedl lle mae’r gwrthdaronewydd ddod i ben. Rwy’n siŵr y bydd

    y profiad a ges i yno’n amhrisiadwy wrthi mi weithio’n ôl ym Mhrydain.

    “Allwch chi dynnu ’pendics?”

    Dr Richard Thomas, un o raddedigion Caerdydd

  • 13Meysydd Dewisol

    Mae gan Gaerdydd raglen bartneriaeth ragorol â Phrifysgol Tsieineaidd

    Hong Kong. Am fod gen i berthnasau yno, gallwn arbed cost bwyd a llety

    ac ar ben hynny i gyd fe gynigiodd y Brifysgol fwrsariaeth i mi i fynd yno.

    Beth ddysgais i am system gofal iechyd Tsieina? Rhaid i gleifion dalu am

    eu gofal iechyd ac mae’r system wedi’i rhannu rhwng y llywodraeth a

    gofal iechyd preifat. “Siop feddygon” y cleifion sy'n achosi anghysondeb

    yn eu gofal. Roedd mewn gwirionedd yn gwneud i mi sylweddoli pa mor

    ffodus yr ydym i gael y GIG.

    Bu’r lleoliad yn wych, a ches i ddim trafferth am fod y staff yn gyfeillgar

    iawn ac yn barod i gyfieithu i mi. Oherwydd hynny fe ddechreuais fyw

    bywyd fel myfyriwr o feddyg yno a ches imo ’ngadael yn y cefndir yn

    gwneud dim byd o bwys. Dydy astudio unrhyw faes dewisol ddim yn

    gyflawn heb gael blas ar y diwylliant: maeHong Kong yn ddinas fywiog

    sy’n gyforiog o ddiwylliant Tsieineaidd - oymweld â themlau i fynd i

    Ŵyl y Byns, gweld y golygfeydd a blasu’rbwydydd lleol, ges i’r cyfle i

    brofi’r cwbl. Gweithio’n galed a chwarae’ngaled!

    Pam mynd i Tsieina i astudio maes dewisol?

    Dr Jess Law, un o raddedigion Caerdydd

    . . . a phob amser wedi dyheu am gael mynd i Awstralia. Roedd astudio maesdewisol yn Sydney felly’n ddelfrydol i mi. Rhoddodd fy mhrofiad yn ysbyty’r plantgyfle i mi fagu hyder wrth ymdrin â chyflwyniadau paediatreg cyffredin. Helpoddhynny fi i baratoi ar gyfer fy nghylchdro F1 mewn paediatreg a chadarnhau fynghred y byddai gyrfa ym maes paediatreg yn werthfawr a buddiol. Roeddwn ihefyd yn ddigon ffodus i gael profiadau rhyfeddol yn Awstralia, fel dringo PontHarbwr Sydney a phlymio o’r awyr yn Cairns. Profiad cwbl wefreiddiol.

    Roedd gen i bob amser ddiddordebmewn paediatreg …

    Dr Rachel Debono, un o raddedigion Caerdydd

    Rhagor o wybodaeth ar-lein yn:www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

  • 14

    Sgiliau DwyieithogGan fod pwyslais mawr ar ddarparu gwasanaethau iechyddwyieithog yng Nghymru, mae mwy o angen nag erioed amfeddygon dwyieithog.Mae dysgu’r sgiliau angenrheidiol ar gyferymdopi â chleifion amlieithog yn hollbwysigwrth feithrin perthynas effeithiol â chleifion achydweithwyr, a chynnig y gofal gorau posibl.

    Mae datblygu ac ehangu cyfleoedd i fyfyrwyrddysgu ac ymarfer cyrsiau iechyd drwygyfrwng y Gymraeg yn rhan annatod o wellaansawdd gofal iechyd yng Nghymru, ac iGymry Cymraeg eu hiaith yn benodol.

    Mae’r Ysgol Meddygaeth yn awyddus i helpumeddygon y dyfodol i baratoi’n drylwyr argyfer wynebu’r her o weithio yn y gwasanaethiechyd amlieithog yma yng Nghymru ac arhyd a lled y byd.

    Beth yw’r cyfleoedd i ddefnyddio fyNghymraeg?

    � Gweithio mewn grwpiau bach gydasiaradwyr Cymraeg eraill

    � Cael tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg

    � Ymarfer sgiliau clinigol yn y Gymraeg

    � Dysgu ar leoliadau dwyieithog

    � Datblygu prosiectau ymchwil yn y Gymraeg

    � Datblygu sgiliau cyfathrebu proffesiynoler mwyn bod yn hyderus i weithio ynddwyieithog

    � Derbyn rhai asesiadau yn y Gymraeg

    Sgiliau Dwyieithog

    Proffil myfyriwr:

    ManonFflurThomasPam dewis astudio meddygaeth?Roeddwn eisiau gyrfa lle mae cyfle ibarhau i ddysgu drwy’r amser. Rwyfwastad wedi bod yn un i roi her i fi fyhun, ac felly mae’r cwrs Meddygaethyn sialens yr wyf yn ei mwynhau’n fawr.

    Pam dewis astudio yn y Gymraeg?Rwy’n benderfynol o barhau â’m gyrfayng Nghymru ar ôl graddio, ac felly rwy’nsicr o fod yn delio â chleifion Cymraegeu hiaith yn gyson. Mae’n braf caeladlewyrchu ar fy mhrofiadau drwygyfrwng y Gymraeg, a chael trafod gwaithcymhleth drwy gyfrwng fy mamiaith.Rwy’n grediniol fod bod yn ddwyieithogyn hynod fanteisiol, ac mae’n bwysigcael ymarfer y ddwy iaith yn gyson.

    Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyram astudio drwy'r Gymraeg?Nid oes rhaid astudio popeth drwygyfrwng y Gymraeg, felly nid oes angenpryderu am gael eich ynysu oddi wrthweddill y myfyrwyr ar eich cwrs. Ynbendant, byddwch yn siarad â llawero bobl uniaith Saesneg, ac felly nidoes perygl i chi golli gafael ar eichSaesneg ychwaith. Ni fydd astudio drwygyfrwng y Gymraeg o reidrwydd yn creumwy o waith i chi, ac mae’n wych eichbod yn cael y cyfle i drafod pethaucymhleth drwy gyfrwng eich mamiaith– mae’n gwneud pethau’n llawer haws,ac mae’n ffordd wych o godi eich hyderar gwrs caled a chystadleuol. Maedigonedd o fentoriaid a thiwtoriaidCymraeg i’ch cefnogi ar unrhyw adeg.

    Ysgoloriaeth Coleg CymraegI’r rhai sydd yn awyddus i gwblhaucanran o’r cwrs yn y Gymraeg, maemodd ymgeisio hefyd am YsgoloriaethCymhelliant y Coleg Cymraeg sydd werth£1,500 dros 3 mlynedd. Ewch i wefanwww.colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyram fwy o wybodaeth.

  • Gyda phwyslais cynnar arbrofiadau clinigol, mae C21 yngosod y claf wrth wraidd einhaddysg feddygol.Gwenllian Rhys, myfyriwr meddygol

    15

    Cwricwlwm HyblygEhangwch eich rhagolygon gyrfa ac ymchwiliwch i faes sy’ncyffroi’ch chwilfrydedd . . . .

    Graddau ymsang� Fe dreuliwch chi flwyddyn ar gwrsacademaidd cyn dychwelyd at Feddygaeth

    � Cewch astudio rhywbeth ychydig ynwahanol mewn maes yr ydych chi’n eifwynhau ac sy’n gysylltiedig â meddygaeth

    � Ehangwch eich rhagolygon gyrfa drwyennill cymwysterau ychwanegol

    � Dewiswch o blith amrywiaeth o raddau

    � Dyma’n union a wnaiff rhyw 100 o fyfyrwyry flwyddyn hon rhwng blynyddoedd 3 a 4neu 4 a 5, yn amodol ar berfformiadacademaidd

    � Ystod eang o raddau BSc a gynigir ymMhrifysgol Caerdydd (Ffarmacoleg/ GofalBrys, Cyn yr Ysbyty a Gofal arUnwaith/Seicoleg/Addysg Feddygol allawer mwy)

    � Cewch ddewis trosglwyddo i brifysgolioneraill yn y DU i wneud gradd gynhwysol

    � Dyma gyfle i ymchwilio’n fanwl i faes adatblygu’r arfau deallusol ac ymarferol ymae eu hangen ar bob ymchwilyddllwyddiannus

    � Bydd yn cyfoethogi’ch sgiliau mewnymarfer ar sail tystiolaeth.

    I ddysgu mwy am gymhwysedd a beth ygallwch chi ei wneud, cysylltwch ag:[email protected]

    ErasmusSefydlwyd rhaglen Socrates Erasmus i annogmyfyrwyr i ddysgu mewn gwledydd gwahanol amwynhau diwylliannau ac ieithoedd gwahanol.Ar hyn o bryd, mae gennym ni gytundebauErasmus ag ysgolion meddygol ledled Ewrop,sy’n golygu y cewch chi ddewis gwneudlleoliad fel rhan o’ch astudiaethau craidd a’chtrwytho’ch hun yn niwylliant y wlad honno’r unpryd. Gobeithiwn y byddwn yn gallu parhau â’rtrefniadau Erasmus wedi Brexit.

    Mae'r holl fyfyrwyr sy'n cymryd rhan ynRhaglen Erasmus+ yn gymwys i gael grantErasmus+. Y Cyngor Prydeinig sy’n cynnig ygrant, a’i nod yw gwrthbwyso'r costauychwanegol sy’n gysylltiedig â byw neuastudio dramor. Nid oes rhaid i iaith fod ynrhwystr gan ein bod yn trefnu cyrsiau dwys acymgynghorwyr iaith sy’n gallu eich helpu iddysgu neu wella ar ieithoedd presennol.Mae’r Ganolfan Cyfleoedd Byd-eang yndarparu cyfleoedd i chi astudio, gweithioa gwirfoddoli dramor.

    Mae’r lleoliadau tymor byr hyn yn para oleiaf Tair wythnos ac yn cael eu cynnal mewnamrywiaeth o leoliadau o amgylch y byd.Darperir bwrsariaethau i fyfyrwyr i helpugyda thalu costau mynd dramor.

    Cydrannau o Ddewis yMyfyriwr (SSCs)Mae SSCs yn cyfrif am 15% o’r cwricwlwmmeddygol ac yn cynnig amrywiaeth ogyfleoedd prosiect sy’n eich galluogi iarchwilio maes o feddygaeth yn fanwl.Rydym yn cynnig SSCs ar draws bob un obum mlynedd y MBBCh ac mae amrywiaetho brosiectau, o ymchwil glinigol drwywyddoniaeth sylfaenol yn ogystal â’rcysylltiadau rhwng y celfyddydau ac iechyd.Bydd gennych gyfle i ddewis o SSCs wedi’ucynnig gan diwtor neu ddylunio eich prosiectpwrpasol eich hun - dyma eich cyfle i fod ynarbennig o greadigol neu â ffocws ar eichastudiaethau eich hun, gan deilwra eich graddi’ch diddordebau a dyheadau gyrfa eich hun.

    Roedd blwyddyn ymsangmewn ffisioleg yn llawer o hwylac roeddwn wrth fy modd â’r herychwanegol.David Goulding, myfyriwr meddygol Yn sicr, bydd y cyfle i gael

    hyfforddiant ac ymarfer ynfeddygol yn Ffrainc yn un ouchafbwyntiau fy amser i yngNghaerdydd. Mewn byd sy’ncrebachu’n gyson mae profiamrywiol arferion ac ymagweddauar draws gwahanol wledydd ynhanfodol ac yn hynod werthfawrwrth wella a chyfoethogi’nhymarfer gyda’n cleifion einhunain gartref. A hyn oll heb sônam y llu o cyfleoedd amrywiol ifwynhau’r diwylliant, yr iaith agwin Muscadet rhad!Vive la France!Rhiannon Watson,myfyriwr meddygol, Nantes

    Amser cofiadwy dros benoedd fy 3 mis yn Lisbon. Cawsomgipolwg hynod ddifyr ar fod ynfyfyriwr meddygol ym Mhortiwgal.Cewch chi weld llawer mwy yno,ond dydy e ddim mor ymarferol.Cewch chi nid yn unig estyn eichsgiliau ieithyddol (rhaid wrth bethgwybodaeth o Bortiwgaleg neulawer o Sbaeneg) ond hefyd flasupob math o fwyd a mwynhaullawer o deithiau i’r traeth poetham y dydd. Os cewch chi’r cyfle,manteisiwch ar y profiad! Até já!”Thomas Gupta Jessopmyfyriwr meddygol, Lisbon

    Cwricwlwm Hyblyg

    Rhagor o wybodaeth ar-lein yn:www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

  • 16

    Derbyn i’r MBBCh

    Derbyn i’r MBBCh

    Cymwysiadau

    I ni ystyried eich derbyn i’r cwrs, dylech chiddefnyddio’r cyfleuster ‘UCAS Apply’ i wneudcais ar-lein ar wefan UCAS. I wneud hynny,bydd angen i chi fewngofnodi i:www.ucas.ac.uk/apply.

    Gan y wefan honno y cewch chi wybodaetham ymgeisio ac esboniad o drefn UCAS.

    Y dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau bobblwyddyn yw 15 Hydref.

    Nod ein proses ddewis yw dod o hyd i’rmyfyrwyr mwyaf addas i ddilyn ein rhaglenfeddygol yn llwyddiannus ac sydd â’r gallu igychwyn ar yrfa gynhyrchiol yn y proffesiwnmeddygol. Byddwn yn eich asesu ar sail daufaes eang: eich gallu a’ch potensialacademaidd; a nodweddion personol priodol iddilyn gyrfa mewn meddygaeth.

    Mae’r Ysgol Meddygaeth wedi ymrwymo isicrhau fod y broses ddethol yn agored, yngyflawn ac yn deg i bob ymgeisydd. Maegennym Bolisi Derbyn manwl sydd i’w weld arein gwefan www.caerdydd.ac.uk/medicine/courses/undergraduate.

    Gofynion MynediadAcademaiddI bennu eich potensial i ymdopi â gofynionacademaidd ein rhaglen, mae’r asesiadcychwynnol yn cynnwys sgorio perfformiadmewn amrywiaeth o bynciau.

    Dyma’r graddau TGAU sy’n ofynnol:Saesneg Iaith 6 (B), Mathemateg 6 (B),naill ai Gwyddoniaeth Dyfarniad Dwbl 66(BB) neu Gemeg a Bioleg 66 (BB).

    Mae ymgeiswyr yn cael sgôr yn seiliedig ar eunaw canlyniad TGAU gorau (neu lefelgyfwerth). Bydd y sgôr hon yn cynnwys ypynciau a grybwyllir uchod. Mae ymgeiswyr arôl Safon Uwch yn cael credyd ychwanegol amgyflawni Safon Uwch.

    Mae ymgeiswyr o Gymru wedi eutangynrychioli, a gyda’r gwaith o ddiwygiocymwysterau, cydnabyddir y gallai’r brosesroi ymgeiswyr o ysgolion uwchradd yngNghymru dan anfantais, felly rhoddirystyriaeth ychwanegol i’r ymgeiswyr hyn.

    I gael rhagor o wybodaeth am ein prosessgorio TGAU ewch i'n gwefan:www.caerdydd.ac.uk/study/undergraduate/courses/2019/medicine-mbbch

    Safon UwchY cynnig Safon Uwch arferol ar gyfer y cwrsA100 yw graddau AAA a ddylai gynnwysCemeg a Bioleg. Rydym hefyd yn derbyncymhwyster Bagloriaeth Cymru yn lle trydyddcymhwyster Safon Uwch. Ni dderbynnirAstudiaethau Cyffredinol, Meddwl ynFeirniadol na Mathemateg Bellach. Os nadyw eich cymwysterau’n cynnwys Cemeg aBioleg gallwch wneud cais ar gyfer y cwrsA104. Y gofynion ar gyfer A104 yw AAAmewn Safon Uwch.

    GraddedigionOs ydych chi’n gwneud cais am y rhaglenA100 gyda gradd bydd angen i chi fodwedi cyflawni'r gofynion lleiafswm TGAU aamlinellir uchod. Bydd angen i chi hefydgael y cymwysterau gwyddoniaeth priodolar lefel Safon Uwch gyda graddau BBB/ABC.Bydd y cynigion yn amodol ar gyflawni oleiaf radd anrhydedd dosbarth cyntaf neuadran uchaf yr ail ddosbarth. Efallai ybydd graddedigion nad ydynt yn cynnig ycymwysterau gwyddoniaeth priodol ar lefelSafon Uwch neu tu hwnt yn gymwys iymgeisio am y rhaglen A104.

    Y Fagloriaeth RyngwladolBydd disgwyl i chi gael 36 o bwyntiau (aceithrio Theori Gwybodaeth a’r TraethawdEstynedig). Rhaid cael o leiaf 19 pwyntyn y pynciau Lefel Uwch, sy’n cynnwys sgôro 7, 6, 6 pwynt. Rhaid cynnig dau bwncgwyddonol (Cemeg, Bioleg, Ffiseg, a naill aiMathemateg neu Ystadegau, ond nidAstudiaethau Mathemategol) ar Lefel Uwch,gyda sgôr o 6 phwynt yn cael ei gyflawni naillai mewn Cemeg neu Fioleg. Rhaid cynnigCemeg neu Fioleg ar lefel safonol gyda sgôro 7, os nad ar Lefel Uwch.

    ArallBydd croeso i geisiadau gan y rhai sy’n cynnigcymwysterau cyfatebol/tramor. Gellir canfodgwybodaeth ynghylch gofynion o’r fath ar eingwefan www.cardiff.ac.uk/study/undergraduate/applying/admissions-criteria/medicine

    Codau UCAS

    MBBCh Meddygaeth(rhaglen 5 mlynedd) A100

    MBBCh Meddygaeth(gyda blwyddyn ragarweiniol) A104

    MBBCh Meddygaeth(Cynllun Mynediad GraddedigPedair Blynedd drwy ffrwdfwydo) A101

  • 17

    Cynllun Pedair Blynedd iRaddedigion A101 drwyffrydiau bwydoMae rhaglen bedair blynedd benodol (A101)ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi ymrestru arhyn o bryd ar gwrs Ffrwd Fwydo swyddogolyn un o’r rhaglenni canlynol:

    � Gradd BSc (Anrh) FfarmacolegFeddygol Ysgol Meddygaeth PrifysgolCaerdydd (B210)

    � Gradd BSc (Anrh) yn y GwyddorauBiofeddygol, Ysgol y Biowyddorau,Prifysgol Caerdydd (BC97)

    � Gradd BSc (Anrh) yn y GwyddorauMeddygol, Prifysgol De Cymru (B901)

    � Gradd BMedSci yn y GwyddorauMeddygol, Prifysgol Bangor (B100)

    Dylai ymgeiswyr ar gyfer cynllun mynediad iraddedigion A101 fod wedi cyflawni'r gofynionTGAU a amlinellir uchod, BBB neu ABC arlefel Safon Uwch a bod ar y trywydd iawn igael gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neuadran uchaf yr ail ddosbarth.

    Gwybodaeth am Geisiadau

    Rydym fel arfer yn cael tua 10 cais argyfer pob lle

    Prawf Tueddfryd Clinigol yDU (UKCAT)Ar gyfer y rhaglen A100 a A104, bydd gofyni chi sefyll Prawf Tueddfryd Clinigol y DU(UKCAT) rhwng mis Gorffennaf a mis Hydrefyn yr un flwyddyn ag y byddwch chi’n gwneudcais oni bai eich bod wedi cwblhau graddneu wedi ymrwymo i radd. Mae rhaigwledydd wedi'u heithrio a dylech siaradag UKCAT ynglŷn â hyn. Gallwch ddysgumwy am yr UKCAT drwy ymweld â’r wefanwww.ukcat.ac.uk. Rhaid i ymgeiswyrgraddedig i'r rhaglen A104 sefyll y prawfUKCAT.

    Nid oes gennym sgôr trothwy isaf ar gyferyr UKCAT, fodd bynnag gellir defnyddio’r sgôrfel rhan o’r broses asesu.

    Prawf Derbyn Graddedigioni Ysgolion MeddygolAwstraliaOs ydych chi wedi cyflawni neu wedi ymrwymoi radd mae’n rhaid i chi sefyll y Prawf DerbynGraddedigion i Ysgolion Meddygol Awstralia(GAMSAT) ar gyfer ceisiadau i A100 ac A101ac mae’n rhaid i’ch sgôr fod ar gael cyn caelcynnig cyfweliad. Bydd eich sgôr GAMSAT yncyfrannu at y penderfyniad i’ch rhoi ar y rhestrfer am gyfweliad ai peidio.

    Gofynion MynediadAnacademaiddOs ydych chi’n llwyddo yn y cam sgorio cyntafyna bydd eich datganiad personol a’chgeirda yn cael eu hasesu. Dylid arddangos ypriodoleddau canlynol:

    � Cipolwg ar yrfa mewn Meddygaeth� Tystiolaeth o brofiad a myfyrio mewnamgylchedd gofal

    � Tystiolaeth a myfyrio ar gyfrifoldebpersonol

    � Tystiolaeth o agwedd gytbwys at fywyd� Tystiolaeth o ddysgu hunangyfeiriedig.

    CyfweliadauOs byddwch yn llwyddiannus yn yr asesiadacademaidd ac anacademaidd, cewch eichgwahodd i gyfres o gyfweliadau bychain. Byddhyn yn cynnwys cylchdroi o amgylch tua 9gorsaf yn eu tro lle bydd pob gorsaf yn para 8munud. Mae’r cyfweliadau’n canolbwyntio ararchwilio nodweddion a phriodoleddaupersonol pwysig wrth ddatblygu meddygonda. Cynhelir y cyfweliadau dros gyfnod o dairwythnos yn ystod Rhagfyr/Ionawr. Ni wneircynnig heb gyfweliad. Os cewch wahoddiad igyfweliad, gall ymgeiswyr Cymraeg eu hiaithofyn am gyfweliad dwyieithog.

    Gofynion ychwanegolOs byddwch yn llwyddo i gael cynnig byddgofyn i chi gwblhau holiadur iechyd achwblhau proses y Gwasanaeth Datgelu aGwahardd ar y lefel ‘fanwl’.

    Defnyddio DataCyd-destunolGan fod Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdyddwedi ymrwymo i ehangu mynediad, bydd hi’ncroesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bobcefndir. Caiff cyrhaeddiad academaidd acanacademaidd ymgeisydd ei adolygu yn erbyny data cenedlaethol am ei berfformiad/eipherfformiad addysgol a’i gefndir/a’i chefndireconomaidd-gymdeithasol i roi trosolwg mwycyflawn i’r tiwtoriaid derbyn o gyrhaeddiada photensial yr ymgeisydd. Gallai’r Ysgolgynnwys cymwysterau Diwylliant Cymru,Cymdeithas Cymru a’r Iaith Gymraeg fel rhano’r meini prawf asesu. Bydd yr Ysgol ynystyried y wybodaeth honno wrth benderfynugalw ymgeisydd i gyfweliad. Wnaiff hi mo’idefnyddio i wneud cynigion is neu wahanol iunrhyw grŵp penodol o fyfyrwyr. I gaelgwybod rhagor am ddata cyd-destunol a’rdefnyddio arnynt, ewch i’n gwe-dudalennau:www.cardiff.ac.uk/study/undergraduate/applying/contextual-data

    Mae’r Ysgol Meddygaeth yn croesawuceisiadau o’r cynllun Camu i Fyny i’r Brifysgol.Mae gofyn i ymgeiswyr roi gwybod i gydlynwyry cynllun y byddant yn gwneud cais i astudioMeddygaeth. Mae’n rhaid iddynt fodloni’rgofynion mynediad safonol i gael sicrwydd ogyfweliad. Mae’r gofynion hyn wedi’u rhestruar ein gwefan:www.cardiff.ac.uk/study/undergraduate/applying/admissions-criteria

    Ni fydd ymgeiswyr ar y cynllun Camu i Fynyyn cael cynigion is neu wahaniaethol.

    Cysylltiadau DerbynAm wybodaeth ar wneud cais cysylltwchag aelod o’r Tîm Derbyn:

    Ffôn: 029 2068 8113

    Ebost: [email protected]/meddygaeth

    Bydd Caerdydd yn fy nghalonbob amser. Gwnaeth yr ysgol agorei drysau i mi ac yr wyf yn falch ofod yn un o gynfyfyrwyr yr ysgolfawreddog hon.Dr Agamemnon Pericleous,Un o raddedigion Caerdydd

    Mae staff a chyfadran yBrifysgol a staff yn ddeinamig,yn ymgysylltu ac yn frwdfrydigynghylch eu rolau bugeiliol acaddysgol.Dr Ronak Ved,un o raddedigion Caerdydd

    Derbyn i’r MBBCh

    Rhagor o wybodaeth ar-lein yn:www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

  • 18

    Cwestiynau Cyffredin

    Wnewch chi dderbyn canlyniadauarholiadau a ail-gymerwyd?

    Ar gyfer Meddygaeth, byddwn yn ystyriedcanlyniadau TGAU sydd wedi eu hailsefyll onddim ond os byddwch yn eu cwblhau o fewn12 mis i'r arholiad cyntaf. Dim ond mewnamgylchiadau eithriadol y bydd arholiadauail-sefyll yn cael eu hystyried ar gyfer y rhaihynny sydd wedi cwblhau eu Safon Uwchac wedi derbyn eu graddau. Edrychir ar yrholl amgylchiadau esgusodol fesul achosgan y Grŵp Derbyn Myfyrwyr.

    Ydy Ysgol Meddygaeth Caerdydd ynderbyn ceisiadau ar gyfer mynediadwedi’i ohirio?

    Ydy, a dylech wneud hyn yn glir ar eich ffurflengais pan fyddwch yn ei chyflwyno. Ni allwnwarantu y byddwn yn derbyn penderfyniadauhwyrach i ohirio unwaith y bydd cynnig wedi’iwneud.

    Beth yw barn Ysgol Meddygaeth PrifysgolCaerdydd am flwyddyn i ffwrdd?

    Rydym yn croesawu blwyddyn adeiladol iffwrdd gan ei fod yn rhoi cyfle i chi deithio,meithrin profiad gwaith a chyflawni gwaithelusennol ac ati. Rydym yn cydnabod y gallblwyddyn i ffwrdd ehangu eich sgiliau a’chprofiad. Nid yw blwyddyn i ffwrdd yn orfodol.

    Ni allaf ddod o hyd i’r atebion i fynghwestiynau yn y llyfryn hwn, lle ddylwni edrych nawr?

    Mae ein Polisi Derbyn yn fan da i ddechraugan ei fod yn llawer manylach na’r llyfrynhwn mewn perthynas â’r polisïau a’rgweithdrefnau sy’n ymwneud â gwneud cais.Mae’n hawdd dod o hyd i’n Polisi Derbyn arein gwefan: www.cardiff.ac.uk/medicine/courses/undergraduate

    Ydy Caerdydd yn derbyn trosglwyddiadaui’r cwrs?

    Gellir ystyried trosglwyddiadau ar gyferFfarmacoleg Meddygol. Cysylltwch â’rTiwtor Derbyn, Dr Derek Lang([email protected]) am gyngor.

    Ni fydd trosglwyddiadau o du allan i’r DUyn cael eu hystyried. Bydd trosglwyddiadauyn y DU yn cael eu hystyried fesul achos.

    Beth yw isafswm y sgôr sy’n ofynnolmewn arholiad IELTS?

    Rhaid wrth sgôr o 7.0 neu well, ar gyfer pobrhaglen feddygol (o leiaf 7.0 mewn siarad,6.5 mewn gwrando, 6.5 mewn darllen a6.5 mewn ysgrifennu).

    Fe wnes gais i wneud Meddygaethyng Nghaerdydd y llynedd, a methu.Ga i wneud cais eto eleni?

    Cewch. Cewch ailgyflwyno cais cyhyd â’chbod chi’n bodloni isafswm y gofynionmynediad ar gyfer y flwyddyn rydych chi’ngwneud cais i gael dod yma.

    Byddwch angen sgôr UKCAT/GAMSATcyfredol. Ni fydd eich cais blaenorol yndylanwadu ar ein penderfyniad ar eichcais presennol.

    Darllenwch y Polisi Derbyn ar ein gwefanam ragor o fanylion.www.cardiff.ac.uk/medicine/courses/undergraduate

    Hyfforddiant sylfaenol ôl-raddediga thu hwntAr ddiwedd y cwrs israddedig byddwch ynderbyn eich gradd MBBCh (neu gyfwerth),sy'n gymhwyster meddygol sylfaenol (PMQ).Mae meddu ar PMQ yn rhoi’r hawl i chigofrestru dros dro gyda'r Cyngor MeddygolCyffredinol, yn amodol yn unig ar dderbynnad oes unrhyw bryderon Addasrwydd iYmarfer i'w hystyried.

    Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol wedipenderfynu cyflwyno Asesiad TrwyddeduMeddygol o 2022 ymlaen i ddangos bod yrhai sy'n cael cofrestriad gyda thrwydded iymarfer meddygaeth yn y DU yn cyrraeddtrothwy cyffredin i ymarfer yn ddiogel.Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y byddangen i fyfyrwyr meddygaeth lwyddo ynnwy ran yr Asesiad, llwyddo yn arholiadauterfynol y Brifysgol, a dangos eu bod ynaddas i ymarfer i gael cofrestriad âthrwydded i ymarfer.

    Bydd gan yr Asesiad ddwy ran: bydd prawfgwybodaeth, fydd yn cael ei bennu a'i gynnalgan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, acasesiad, a gynhelir gan ysgolionmeddygaeth, fydd yn asesu sgiliauclinigol a phroffesiynol myfyrwyr.

    Mae cofrestru dros dro yn gyfyngedig o ranamser i uchafswm o dair blynedd a 30diwrnod (1125 diwrnod i gyd). Dim ondswyddi Blwyddyn Sylfaen 1 cymeradwy aroddir i feddygon sydd wedi'u cofrestru drosdro: nid yw’r gyfraith yn caniatáu i feddygoncofrestredig dros dro ymgymryd ag unrhywfath arall o waith. I gael swydd BlwyddynSylfaen 1 bydd angen i chi wneud cais ynystod blwyddyn olaf eich cwrs israddedigdrwy gynllun dethol Swyddfa RhaglenSylfaen y DU, sy'n dyrannu’r swyddi hyn iraddedigion ar sail gystadleuol. Mae pobmyfyriwr graddedig o’r Deyrnas Unedig syddâ chymwysterau addas wedi cael lle arRaglen Sylfaen Blwyddyn 1, ond ni allwnwarantu hyn e.e. pe byddai nifer y ceisiadaucystadleuol o raddedigion nad ydynt yn dodo’r DU yn cynyddu.

    Fel arfer bydd rhaglen Blwyddyn Sylfaen1 yn cael ei chwblhau’n llwyddiannus ymhen12 mis a chaiff ei marcio gan ddyfarniadTystysgrif o Brofiad. Byddwch wedyn yngymwys i wneud cais i gofrestru’n llawngyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

    Mae angen cofrestriad llawn gydathrwydded i ymarfer ar gyfer ymarfermeddygol heb oruchwyliaeth yn y GIGneu ymarfer preifat yn y DU.

    Er bod y wybodaeth hon yn gywir arhyn o bryd, mae angen i fyfyrwyr fodyn ymwybodol y gallai rheoliadau yn ymaes hwn newid o bryd i’w gilydd.

    Mae rhywfaint o drafodaeth ynghylch addylid dileu cofrestriad dros dro ar gyfermeddygon sydd newydd gymhwyso.Os bydd hyn yn digwydd, byddgraddedigion o'r Deyrnas Unedig yncofrestru'n llawn cyn gynted ag y byddantwedi cwblhau gradd MBBCh (neu gyfwerth)yn llwyddiannus. Yn ôl pob tebyg, byddangen i raddedigion o'r Deyrnas Unedigwneud cais ar gyfer rhaglen hyfforddiantsy’n debyg i'r Rhaglen Sylfaen bresennolac ni ellir gwarantu lleoedd ar y rhaglenhon ar gyfer holl raddedigion y DU.

    Yn ogystal, mae’r Cyngor MeddygolCyffredinol yn ystyried ar hyn o bryd addylid cyflwyno asesiad ffurfiol y bydd angeni bob meddyg ei basio i allu cofrestru’nllawn. Er nad oes penderfyniad cadarnwedi’i wneud ynghylch p’un a fydd arholiado’r fath yn cael ei gyflwyno, a phryd, dylaiymgeiswyr fod yn ymwybodol bod y GMC ynrhagweld y bydd angen i garfanau o fyfyrwyrmeddygol yn y dyfodol lwyddo ar rannau oAsesiad Trwyddedig Meddygol newydd y DUcyn y bydd y GMC yn rhoi Cofrestriad iddyntgyda Thrwydded i Ymarfer.

    Cwestiynau Cyffredin

  • Rucira OoiMyfyriwr meddygol Blwyddyn 5Beth yw eich barn am C21?Yr wyf yn wirioneddol falch i mi ddod yma.Mae gan C21 ddull cyfannol, ymarferol, gydaCBL yn rhoi sylw i anatomeg, ffisioleg, cynllun rheoli, cymdeithasega thriniaeth eich claf. Cawsom hefyd brofiad o agweddau clinigol oddechrau’r Flwyddyn 1af gyda digon o amser i ymarfer, fel nadoeddem yn cael ein taflu i’r pen dwfn yn ein blynyddoedddiweddarach.

    A oes gennych chi unrhyw gyngor ar gyfer myfyrwyr meddygoly dyfodol?Byddwch yn eofn ac yn hyderus. Gyda chefnogaeth ragorol yr ysgolfeddygol, cyfleoedd diddiwedd a staff cyfeillgar, gallaf eich sicrhauy bydd gennych chi’r cyfan sydd ei angen i gyflawni eich potensialmwyaf. Ar y dechrau byddwn yn dawel yn y cefndir, ond yn fy 3eddflwyddyn yn unig, fe wnes i gyflawni archwiliad caeedig a thriarchwiliad, cyflwyno mewn pedair cynhadledd ac arwainCynhadledd Cyfnewid Lawfeddygol Israddedig Dwyflynyddol yGymdeithas Lawfeddygol, gyda chymorth aelodau fymhwyllgor.Cynhadledd, gyda chymorth aelodau fy mhwyllgor.Roeddwn hefyd yn rhan o MedDay 2016/17, gan godi arian iBobath, elusen sy’n helpu plant gyda pharlys yr ymennydd.

    Beth yw’r peth gorau am fyw yma?Mae diwylliant Cymru mor groesawgar - mae pobl yma morgyfeillgar a bob amser yn gwenu. Mae Caerdydd yn un o’rdinasoedd mwyaf ystyriol i fyfyrwyr a gellir dod o hyd i letyda am lai na £300 y mis.

    Tilly EllisMyfyriwr meddygol Blwyddyn 5Beth yw'r peth gorau am fyw yma?Rwyf wrth fy modd fod Caerdydd ynbrifddinas fach. Mae popeth y gallech fod eiangen yma, cymaint o amrywiaeth ac maepopeth o fewn pellter cerdded. Mae parciau hardd yn rhoi esgusperffaith i ddianc i ganol byd natur. Ychydig ymhellach i ffwrddmae traethau hardd, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog allawer mwy. Ni allaf ddychmygu mynd i brifysgol yn unman aralla gobeithiaf aros yng Nghymru wedi i mi raddio.

    Pa mor fuddiol yw cwricwlwm troellog?Mae cofio popeth yn amhosibl felly mae ail-ystyried testun sawlgwaith yn ystod eich astudiaethau yn amhrisiadwy. Yn ogystal agatgyfnerthu eich cof, gallwch adeiladu ar eich gwybodaeth yn ymaes hwnnw, gan ychwanegu manylion nad oeddech wedi’u deallcyn hynny o bosibl.

    Ydy CBL yn ddull dysgu cefnogol ac effeithiol?Yn sicr, ni fyddwn i’n gwybod cymaint ag yr wyf yn ei wybod nawrpe byddwn wedi treulio fy amser mewn darlithoedd 9-5. Ni allafganmol CBL ddigon ac rwyf wrth fy modd gyda’r dull hwn o ddysgu.Mae sesiynau ymarferol, grwpiau bach, darlithoedd a lleoliadau’ncefnogi’r achosion yn berffaith, ac mae gymaint o brofiad clinigol,mor fuan, yn anhygoel.o ddysgu. Nid wyf yn meddwl fod ffordd welli gofio ac atgyfnerthu gwybodaeth na dysgu rhywun arall am yr hynrydych chi wedi’i ddysgu - mae CBL yn berffaith ar gyfer hyn.

    Luke MorganMyfyriwr meddygol Blwyddyn 3Ydy CBL yn ddull dysgu cefnogol ac effeithiol?Mae’r CBL yn cynnwys cydbwysedd perffaith oddysgu wedi’i hwyluso a chael cyfrifoldeb iddysgu am feysydd manwl sydd o ddiddordeb personolarbennig i chi. Mae cael amgylchedd diogel i feithrin amrywiaetho safbwyntiau ar achos a gallu cwestiynu rhagdybiaethau ynhynod fuddiol i greu meddyg â sgiliau eang. Mae dod â theoriyn ôl at glaf yn sicrhau fod dysgu wedi’i wreiddio mewn dull sy’ncanolbwyntio ar y claf, a dull integredig o feddygaeth.

    Beth yw’r peth gorau am fyw yng Nghaerdydd?Mae Caerdydd yn ddelfrydol! Mae nifer o fanteision i brifddinas,fel cyfleusterau diwylliannol gwych a chyfleusterau chwaraeon o’rradd flaenaf, tra ei bod yn ddigon bach i gerdded i bobman bron.Mae cael Parc Bute mor agor i’r brifysgol ac i ganol y ddinas ynberffaith ar gyfer barbeciws a chwaraeon ar ddyddiau cynnes yrhaf neu frwydrau peli eira enfawr yn ystod y gaeaf!

    Beth yw’r manteision o gael teulu MedSoc Caerdydd?Mae teuluoedd MedSoc yn gyfle gwych i ddod i adnabodmyfyrwyr o flynyddoedd eraill a chymryd rhan mewn amrywiaetho brosiectau. Yn ogystal â bod yno ar gyfer noson allan dda,mae teuluoedd yn cefnogi ei gilydd pan fydd pethau’n anodd acmaen nhw’n hawdd iawn i siarad â nhw ac yn gallu rhoi rhai o’rawgrymiadau gorau.

    Thomas GrotherMyfyriwr meddygol Blwyddyn 4Pam dewis Gradd Ymsang?Mae Caerdydd yn darparu nifer o opsiynauYmsang ar gyfer myfyrwyr yn y drydedd a’rbedwaredd flwyddyn, mae’n rhoi’r cyfle i chi astudio testun sydd oddiddordeb i chi, yn fwy manwl.o ddiddordeb i chi, yn fwy manwl.Fe wnes i ymgeisio am y cwrs Addysg Feddygol oherwydd roedd ymodiwlau yn berthnasol i fy uchelgeisiau yn y dyfodol. Roedd fynghais yn llwyddiannus, ac rwyf yn edrych ymlaen at ddechrau ynyr hydref.

    Beth yw eich barn am CBL?Teimlaf fod y CBL yn gyfuniad perffaith o PBL a dysgu traddodiadol.Pob pythefnos, mae grŵp achos o tua 12 yn trafod ‘claf’ ac ynarchwilio’r testunau o amgylch yr achos. Mae hwylusydd achos yncefnogi’r grŵp ac yn helpu i’ch cadw ar y trywydd iawn i gyflawni’rholl ganlyniadau dysgu o fewn pythefnos. Mae’r blociau pythefnoshyn hefyd yn cynnwys cyfarfodydd llawn, sesiynau yn y ganolfananatomeg a lleoliadau. Mae nifer o grwpiau’n ail-enwi’r CBL iddysgu’n seiliedig ar ‘gacennau’, gan fod ganddynt rota i rywunddod â chacen i bob sesiwn.

    Beth yw’r manteision o gael teulu MedSoc Caerdydd?Pan fyddwch yn cyrraedd Caerdydd i ddechrau, byddwch yn caeleich paru gyda myfyriwr meddygol arall yn y flwyddyn gyntaf, a daufyfyriwr meddygol yn yr ail flwyddyn i ffurfio ‘Teulu Meddygol’. Ynystod eich wythnos astudio gyntaf, bydd eich rhieni yn mynd â chiar daith o’r Brifysgol ac yn cynnig cyfle gwych i ateb unrhywgwestiynau sydd gennych. Mae nifer o deuluoedd Meddygol ynaros mewn cysylltiad yn ystod eu hamser yng Nghaerdydd, rwyf ynedrych ymlaen at gyfarfod fy ngor-wyrion ac wyresau ym mis Medi!

    Barn ein myfyrwyr . . .

    19Barn ein myfyrwyr . . .Rhagor o wybodaeth ar-lein yn:

    www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

  • 20 Y Rhaglen BSc Ffarmacoleg Feddygol

    Y Rhaglen BSc FfarmacolegFeddygol (UCAS B210)Cwrs israddedig 3 blynedd (neu 4 blynedd, i gynnwys y Lleoliad Proffesiynol)

    Meddyginiaethau: Sut y cânt eu darganfod a’u datblygu?Pam y mae arnom eu hangen? Beth maen nhw’n ei wneuda sut maen nhw’n gweithio?Gan fod meddyginiaethau mor bwysig ym myd gofal iechyd, nod ein rhaglen BSc yw hybu adatblygu’ch chwilfrydedd naturiol ynglyn â’u ffordd o weithio. Fel myfyriwr, byddwch chi’ncychwyn ar ymchwiliad manwl ac o safon i Ffarmacoleg Feddygol fodern a chewch eichhyfforddiant arbenigol mewn labordai ymchwil o fri rhyngwladol. Cewch chi’ch addysgu ganarbenigwyr o dîm o ffarmacolegwyr a ffarmacolegwyr clinigol. Drwy gydol y cwrs, rhoddirpwyslais ar ddysgu sgiliau trosglwyddadwy i chi, fel dadansoddi data, trefnu a datrys problemau,i wneud eich gradd chi’n un hynod atyniadol i ddarpar gyflogwyr.

    Bob blwyddyn, mae 10 lle ar gael ar y rhaglen Meddygaeth 4-blynedd i Raddedigion(UCAS: A101) i alluogi graddedigion o’r radd BSc i hyfforddi i fod yn feddygon.

    Mae gradd BSc mewn Ffarmacoleg Feddygol o Brifysgol Caerdydd yn werthfawr. Fel un â graddo sefydliad ymchwil blaenllaw yng Ngrŵp Russell, bydd eich sgiliau a’ch profiad yn golygu’chbod chi mewn sefyllfa dda i ddilyn gyrfa fuddiol a heriol yn y diwydiant fferyllol, yn y bydacademaidd (ymchwilio ac addysgu), cyrff rheoleiddio llywodraethau, y sector gofal iechyd acmewn amrywiaeth o lwybrau proffesiynol eraill e.e. cyfraith patentau.

    Mae astudio ffarmacoleg wedi bod yn brofiad gwych. Mae’r addysgua’r gefnogaeth y tu hwnt i’m hastudiaethau wedi bod yn wych ac mae’rcwrs wedi rhoi imi’r holl sgiliau angenrheidiol i ddilyn gyrfa mewn ymchwilneu yn y byd meddygol. Mae’r cwrs yn gymysgedd o wersi ymarferol,darlithoedd a seminarau gwaith grŵp, sy'n creu awyrgylch arbennig argyfer dysgu. Rydw i wedi mwynhau fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd ynarw, ac fe fyddwn yn sicr yn argymell y cwrs!'Zoe Boreham, un o raddedigion Ffarmacoleg feddygol

    Roedd FfarmacolegFeddygol yn 10fed yny DU yn the CompleteUniversity Guide 2019gyda sgôr cyffredinolo 97.

    Rhaglen B210Y Gofynion MynediadSafon Uwch: Cynnig nodweddiadol:AAB i gynnwys Cemeg ac o leiaf unpwnc gwyddonol arall (Bioleg, o ddewis,ond mae Ffiseg, Mathemateg neuYstadegaeth hefyd yn briodol). Nidderbynnir Astudiaethau Cyffredinol naMeddwl yn Feirniadol. Dim ond un pwncMathemateg neu Ystadegau y gellir eucynnwys i fodloni amodau’r cynnig. Byddangen i ymgeiswyr sy’n cyflawni SafonUwch mewn gwyddoniaeth basio’r elfenhon lle nodir asesiad ymarferol ar wahân.

    WBA: Cynnig nodweddiadol: AAB igynnwys Cemeg Safon Uwch yn ogystal âphwnc Gwyddoniaeth arall* a ThystysgrifHer Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru(WBA).* Bioleg, Ffiseg, Mathemateg neu Ystadegau.

    Y Fagloriaeth Ryngwladol: Cewch ymanylion ar ein gwefan.

    Arall: Bydd croeso i geisiadau gan yrhai sy’n cynnig cymwysterau amgenond cyfatebol.

    Rhaid bod wedi cael gradd B mewnTGAU Iaith Saesneg a Mathemateg osna chynigir mohonynt yn Safon Uwch.

    I gael gwybod rhagor, cysylltwch â:Dr Derek Lang, Tiwtor Derbynebost: [email protected]

    BLWYDDYN UNMae modiwlau sylfaenol yn gyffredin gydagYsgol y Biowyddorau, lle byddwch yntreulio’r rhan fwyaf o'ch amser, yn darparugwybodaeth o ffisioleg, anatomeg abiocemeg. Mae modiwl blaenllaw yn rhoigwybodaeth benodol am:

    � Egwyddorion a Sylfeini Ffarmacoleg.

    BLWYDDYN DAUYmdriniaeth sylfaenol a chlinigol o gyffuriaua’u gweithredoedd mewn ystod eang ogyd-destunau, a hefyd:

    � Sgiliau cymhwysol ymarferol sydd ynbenodol i Ffarmacoleg

    � Technegau ymchwil Ffarmacoleg� Anatomeg Clinigol

    Byddwch yn gweithio bron yn gyfan gwbl argampws y Mynydd Bychan.

    BLWYDDYN TRI – BlwyddynOpsiynol ar Leoliad Proffesiynol (PPY)Cyfnod estynedig mewn amgylchedd gwaithacademaidd/diwydiannol yn meithrin sgiliaucyflogadwyedd gwerthfawr. Cynigir mynediadi’r PPY unwaith y byddwch ar y cwrs BSc acnid yn uniongyrchol drwy UCAS.

    BLWYDDYN OLAFPynciau arbenigol dan arweiniad ymchwilmewn ffarmacoleg, gan gynnwys:

    � Ffarmacogeneteg� Ffarmacoleg gardiofasgwlaidd� Imiwnoffarmacoleg� Niwroffarmacoleg� Bioleg canser� Datblygu Cyffuriau a Therapiwteg� Ynghyd â phrosiect ymchwil dwys mewnlabordy i faes meddygol

    Byddwch chi’n gweithio’n gyfan gwbl argampws Parc Mynydd Bychan ac yngwneud hynny gydag ymchwilwyr gweithgar.

    Strwythur a chynnwys y rhaglen

    ˆ

  • Addysgwr:

    Dr Jeff AllenYr wyf yn Gyfarwyddwr blwyddyn 1 acyn ddarlithydd yn y Ganolfan ar gyferAddysg feddygol.

    Pam rydych chi’n addysgu israddedigion?Yn aml rydym yn defnyddio’r term ‘addysgu’ fel darparugwybodaeth, ond credaf y dyddiau hyn ei bod yn ymwneud mwy âhwyluso profiad dysgu. Mae’r pwyslais ar ymdrochi myfyrwyr mewnamgylchedd dysgu sy’n annog dysgu gweithredol, datblygu sgiliauac yn eu helpu i ddod yn ddysgwyr gydol oes. Mae hyn ynwerthfawr iawn yn fy marn i.

    Beth all eich myfyrwyr ddisgwyl gennych chi?Fel athro rwy’n helpu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o ffisioleg:sut mae pethau byw yn gweithio – eu strwythur a’u swyddogaeth ilawr i’r lefel foleciwlaidd. Heriaf fyfyrwyr drwy ofyn 'sut ydych chi’ndysgu?’ Rwyf am iddynt ganfod beth sydd orau ar eu cyfer. I ddeallcysyniadau byddaf yn ceisio helpu myfyrwyr i ddefnyddio syniadaua dysgu yn weithredol drwy gyfathrebu’r rhain i’w cyfoedion. Rwyfhefyd yn Gyfarwyddwr Blwyddyn 1 MBBCh, sy’n golygu fy mod yncymryd rhan wrth gynllunio'r cwricwlwm, ei ddarparu a’i asesu.Rwyf yn uniongyrchol yn cymryd rhan mewn cymorth bugeiliol acacademaidd i fyfyrwyr.

    Pam mae Caerdydd mor arbennig?Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig y cyfle i ddysgu meddygaethmewn prifddinas, gyda gallu ychwanegol i astudio mewn cymunedaugwledig ac arfordirol. Mae gan Brifysgol Caerdydd amcan clir oddarparu profiad ysbrydoledig sy’n cyfoethogi bywydau myfyrwyr.

    Addysgwr:

    Dr Zarabeth NewtonRwyf yn ddarlithydd yn y rhaglen MBBCh.

    Beth rydych chi’n ei fwynhau fwyaf amaddysgu yma?Rwyf yn mwynhau addysgu ein myfyrwyr. Mae ein myfyrwyrmeddygon yn set ddeinamig, chwilfrydig sy’n gwthio eu hunain acyn gwneud y mwyaf o bob profiad. Edrychaf ymlaen at eich caelchi fel un ohonynt. Rwyf wrth fy modd yn eich gwylio chi’n dysguac archwilio'r wybodaeth a'r sgiliau rydych yn ei chaffael. Fy hoffagwedd yw eich gweld yn deall y wybodaeth.

    Beth all eich myfyrwyr ddisgwyl gennych chi?Gallwch ddisgwyl addysgu brwdfrydig, arloesol a’r wybodaeth fyddyn eich galluogi i ddeall rhai o'r cysyniadau mwyaf cymhleth. Rwyfwrth fy modd â’r wyddoniaeth a'i hegluro i chi a pham mae popethyn digwydd. Gallwch ddisgwyl llawer o gwestiynau “Ond pam?”oddi wrthyf. Byddwn yn archwilio gwahanol elfennau o’r claf gyda'ngilydd fel y byddwch yn datblygu i fod y meddyg gorau posibl.

    Pam mae Caerdydd mor arbennig?Mae’r cwricwlwm wedi'i strwythuro o’ch cwmpas chi ac mae’nymwneud â’ch hyfforddiant i ddarparu'r gofal gorau i gleifion.Rydych yn gysylltiedig â meddygaeth gymunedol o’ch blwyddyngyntaf. Yng Nghaerdydd, rydych yn Feddygon dan Hyfforddiant o'rdechrau. Yn y prosiectau o ddewis y myfyriwr, gallwch ddewis eichprosiect neu bwnc eich hun yn ôl eich diddordebau.

    Addysgwr:

    Miss Awen IorwerthRwyf yn Uwch-ddarlithydd Clinigol.

    Pam rydych chi’n addysgu israddedigion?Fe wnaeth yr Athro Lewis yn YsgolLawfeddygol Cymru yn Neoniaeth Cymru fyhelpu i ddatblygu fy niddordeb mewnhyfforddi meddygon ifanc a’m hannog i gymryd swydd yCyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant Llawfeddygol craidd yngNghymru. Yn dilyn trefnu nifer o Gynadleddau CymdeithasFeddygol Cymru, cefais fy ysbrydoli gan frwdfrydedd myfyrwyrmeddygol israddedig Caerdydd ac roedd gallu datblygu addysgfeddygol gyda’r Coleg Cymraeg yn gyfle rhy dda i’w golli!

    Pam y mae Caerdydd mor arbennig?Mae’n ddigon bach i ddod i adnabod pobl, ond yn ddigon mawr iddatblygu clinigwyr o safon ryngwladol.

    Beth rydych chi’n ei fwynhau am addysgu?Gweld y geiniog yn disgyn! A gweld y myfyrwyr yn gwneud ycysylltiad rhwng gwyddoniaeth a’r claf o’u blaenau.

    Beth all eich myfyrwyr ddisgwyl gennych chi?Rhywun sy’n esbonio’r cysyniad yn glir ac yn ceisio arddangos pameu bod yn dysgu pwnc eithriadol.

    Myfyriwr graddedig:

    Dr Mike AtkinsonGwnes i raddio o Brifysgol Caerdydd yn2014. Ar hyn o bryd rwyf yn HyfforddaiMeddygol Craidd mewn Gastroenteroleg.

    Sut le oedd yr Ysgol Meddygaeth mewn gwirionedd?Mae'n amgylchedd gwych i hyfforddi ynddo. Mae'r staff yngyfeillgar ac yn gefnogol ac mae’n cael ei harwain ganacademyddion ysbrydoledig ac enwog. Yn gyffredinol, maemeddygon yng Nghymru yn gyfeillgar a diffwdan ac mae’r ystod obrofiad a gewch yn enfawr - o leoliadau mewn canolfan drydyddolfawr (Ysbyty Athrofaol Cymru) i ysbytai bwthyn bach ameddygfeydd teulu canol dinas i bractisau gwledig ag un meddyg.

    Lleoliadau ledled Cymru?Yn wirioneddol wych - heb amheuaeth un o'r agweddau gorau oastudio meddygaeth yng Nghaerdydd. Cefais leoliad 8 wythnos ynYsbyty Bronglais yn Aberystwyth. Yr oedd yn wych. Cefais flas o'rradd flaenaf ar fywyd fel meddyg iau, a dysgais lawer o rangwybodaeth feddygol, sgiliau clinigol a sgiliau yn y gweithle. Yruchafbwynt oedd cael cyfle i brofi rhan newydd o Gymru; mae’rgolygfeydd o amgylch Aberystwyth yn hardd.

    Beth ewch chi ag ef i’ch bywyd gwaith?Roedd y flwyddyn Harmoneiddio yn gwbl amhrisiadwy wrth i mibaratoi ar gyfer fy swydd FY1. Mewn gwirionedd, er bod agweddauda a drwg byddwn i’n dweud bod cychwyn gweithio fel meddyg iauyn hynod bleserus ac o gwbl mor ansefydlog ag yr oeddwn i wedi eiddychmygu.

    Mae gan Gymru gyfoeth o feddygon ac athrawon clinigol rhagorol aheb amheuaeth mae eu haddysgu a'u cyngor wedi fy mharatoi arhoi brwdfrydedd i mi i wneud gwaith sydd wrth fy modd.

    21Dyma’r . . .

    Dyma’r . . .Rhagor o wybodaeth ar-lein yn:

    www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

  • Teddy Bear HospitalNod cymdeithas y Teddy Bear Hospital yngNghaerdydd yw defnyddio chwarae i leddfuofnau plant ynghylch ysbytai. Cynigiwn gyflegwych i fyfyrwyr meddygol ddatblygu eusgiliau cyfathrebu a rhyngweithio â phlant3-11 oed – a helpu pawb i weld yr ochrgysurlon ar feddygaeth. Nod arall syddgennym yw gweithio gydag ysgolion lleol,clybiau ar ôl ysgol a grwpiau eraill i addysguplant am y corff a’u hiechyd drwy ddefnyddiocyfryngau hwyliog fel teganau, rhwymynnaubach, dillad meddygol a llwyth o ‘glitter’.Bydd yr ysbyty hefyd yn cefnogi elusen leol,Elusen Ysbyty Arch Noa i Blant, ac yn codiarian iddi drwy gynnal digwyddiadau felgwerthu teisennau a chynnal cwisiau tafarna phicnic tedis.

    22 Bywyd y tu allan i Feddygaeth

    Bywyd y tu allan i Feddygaeth

    The Wilderness andExpedition Society (WEMS)Hoffech chi dipyn o antur? Mentro i’r bydmawr? Neu a hoffech chi fynd â meddygaethun cam ymlaen?

    Dyna ethos WEMS. Ein nod yw caelmyfyrwyr meddygol hyn̂, meddygon asiaradwyr gwadd i addysgu’n haelodau idrin argyfyngau meddygol mewn mannauanghysbell. Oherwydd WEMS, mae eisteddmewn darlithfa’n llawer mwy diddorol!A chofiwch ein bod ni’n mynd ar deithiaucerdded hir yn gyson.

    Mae’r MedSoc yn dyrannu‘Mam’ a ‘Dad’ o’r 2il flwyddyni Las-fyfyrwyr sydd yno i’ch helpui setlo i mewn i fywyd myfyriwrmeddygol.

    Mae ein ‘teulu’ meddygolwedi tyfu i 6 chenhedlaeth sy’ndal i fod mewn cysylltiad.Dr Antony Wilby, un o raddedigionCaerdydd

    Ymatebwyr CyntafBydd Ymatebwyr Cyntaf Myfyrwyr MeddygolCaerdydd yn recriwtio myfyrwyr meddygol areu 3edd Flwyddyn neu wedi hynny i gael euhyfforddi’n Ymatebwyr Cyntaf GwasanaethAmbiwlans Cymru ac ymateb i alwadau 999‘Categori A’. Ein nod wrth weithio fel rhan oWasanaeth Ambiwlans Cymru yw darparugwasanaeth o safon i’n cymunedau lleol arhoi profiad amhrisiadwy o Feddygaeth Frys i’nhaelodau. Fel Ymatebydd Cyntaf, fe ewch chii’r argyfyngau mwyaf tyngedfennol – o gleifionsydd wedi llewygu ar y stryd i’r rhai sy’n caeltrawiad ar eu calon gartref. Gan ddefnyddio’chhyfforddiant, byddwch yn darparu’r gofal cyn-ysbyty hollbwysig a allai arbed bywyd rhywun.

  • 23Bywyd y tu allan i Feddygaeth

    Ysgol Agored y SefydliadGwella Gofal IechydMae myfyrwyr meddygol Caerdydd yn gwneudgwahaniaeth go iawn i’r GIG oherwydd mentersyml o’r enw “Gofynnwch Un Cwestiwn”. Maemyfyrwyr yn gofyn i gleifion “Beth alla i eiwneud i wella’ch diwrnod chi?” a gweithreduar sail eu hymatebion. Canfuwyd problemaua amrywiai o adweithiau gwael i gyffuriau ifethiant meddyg a chlaf i gyfathrebu.

    Mae’r syniad wedi bod mor llwyddiannusfel bod ein myfyrwyr wedi cyflwyno mewncynhadledd ryngwladol ac wedi ennill gwobr.

    Bellach mae’n rhan o gwricwlwm Caerdyddac wedi’i fabwysiadu yn rhyngwladol. Bellachmae’n rhan o gwricwlwm Caerdydd ac wedi’ifabwysiadu yn rhyngwladol.

    MedSocMedSoc yw’r gymdeithas feddygol danarweiniad myfyrwyr Caerdydd. O gefnogimyfyrwyr a gwerthuso cwricwlwm y cwrs igynllunio’r digwyddiadau cymdeithasolgorau i fyfyrwyr meddygaeth, nod MedSocyw rhoi i chi’r profiad gorau o brifysgol,a hwnnw wedi’i addasu i gyd-fynd â’changhenion wrth iddynt esblygu.

    Mae MedSoc yn cynrychioli myfyrwyr ardraws holl flynyddoedd y cwrs, yn gweithio’nagos gyda’r Ysgol Meddygaeth ac yn trefnugweithgareddau i’ch helpu chi i wneud rhaio’r penderfyniadau pwysig hynny sy’n eichwynebu chi fel darpar feddyg.

    I gael gwybod rhagor, hoffwch“Cardiff MedSoc” ar Facebook.

    Cynllun EhanguMynediad iFeddygaethWAMMS

    Menter dan arweiniad myfyrwyr yw WAMMS sy’n ceisio codi dyheadau.

    Mae WAMMS yn annog myfyrwyr o ardaloedd difreintiedig ledledCymru, ac mewn ysgolion lle nad oes llawer o fyfyrwyr wedi cyflwynocais yn draddodiadol, i ystyried gyrfa ym maes Meddygaeth. Gydachymorth myfyrwyr meddygol sydd ar leoliadau gwaith ledled Cymru,rydym wedi gallu cael mynediad at ysgolion ym mhob sir. Mae einmentoriaid yn rhoi cymorth ac arweiniad i ddisgyblion Blynyddoedd11-13 sydd â diddordeb mewn meddygaeth, ac maent yn cynnigcyngor ar bynciau fel datganiadau personol, cyfweliadau a phrofiadgwaith. Mae hefyd yn gyfle gwych i rannu eu profiadau o’r brifysgol.

    Rydym am gysylltu â hyd yn oed mwy o ysgolion; ar ôl ymuno âPhrifysgol Caerdydd, ‘gobeithiwn y byddwch yn cysylltu a ni i gaelgwybod sut gallwch gyfrannu: [email protected]

    Cymdeithas YmchwilPrifysgol CaerdyddCymdeithas dan arweiniad y myfyrwyr yw CUReSa’i nod yw meithrin a datblygu awydd i ymchwilioymhlith myfyrwyr meddygol Caerdydd. Bydd

    CUReS, a rhaglen INSPIRE Academi’r Gwyddorau Meddygol,ynghyd â rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedigion Caerdydd(CUROP), yn cydlynu amrywiaeth o ddigwyddiadau a chynlluniau ihelpu myfyrwyr ym mhob blwyddyn i ddatblygu a chyflawni prosiectymchwil estynedig mewn maes sydd o ddiddordeb iddynt. Mae ifyfyrwyr Caerdydd fri am eu campau ym myd ymchwil, a chaiffllawer ohonynt weld cyhoeddi eu gwaith ac ennill gwobraucenedlaethol i gydnabod eu gwaith cyn iddynt raddio. Efallai yteimlwch nad ymchwil yw’r maes i chi, ond gall hynny newid wrthi’ch profiad ehangu ac i chi ganfod problemau yr hoffech chi eudatrys wrth astudio neu ar leoliadau clinigol. Fel myfyriwr yngNghaerdydd, gallwch fod yn sicr y bydd cymorth CUReS yn eichhelpu i gael hyd i’r ateb.

    Am ragor o wybodaeth, hoffwch ‘Cymdeithas Ymchwil PrifysgolCaerdydd - CUReS’ ar Facebook.

    Chwaraeon i FyfyrwyrMeddygaethMae chwaraeon ar gael i holl fyfyrwyrCaerdydd drwy dimau’r Brifysgol neu’r‘Medics’. Mae hyn yn ei gwneud yn haws ichwarae campau yn y Brifysgol drwy blethusesiynau hyfforddi a gemau i’w hamserlenheriol a bod yn fwy maddeugar pan fyddgwaith y cyrsiau’n gwrthdaro. Bydd timau’r‘Medics’ hefyd yn fodd i fyfyrwyr sy’n astudiopynciau gofal iechyd rwydweithio â’i gilydd adarparu rôl fugeiliol sefydlog am fod myfyrwyrhŷn wedi bod yn y sefyllfa honno o’u blaen.

    Ond peidiwch â chael eich twyllo – rydynni’n grŵp cystadleuol wrth natur ac fewnawn ni’n siŵr bod hynny i’w weld ar yllain, y cwrt a’r maes!

    Dim ond blas o’n cymdeithasau i fyfyrwyr yw’r rhain. Am fwy ewch i: www.cardiffstudents.com/activities

    Rhagor o wybodaeth ar-lein yn:www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

  • 24

  • Yr Ysgol Meddygaeth yw’r ysgol feddygolhynaf yng Nghymru ac rydym yn un o'r rhaimwyaf yn y DU. Mae gennym hanes balch oymchwil o'r radd flaenaf a chawsom eingraddio’n 8fed yn y DU yn FframwaithRhagoriaeth Ymchwil 2014. Rydym ynedrych ymlaen at yr heriau a wynebir ganweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac maeein hailstrwythuro diweddar yn golygu ygallwch chi deimlo'n fwy hyderus wrth fynd i'rafael â’r heriau hyn – bydd ein harbenigedda chymorth ar gyfer eich diddordebauymchwil yn helpu i ddatblygu amrywiaetho sgiliau y byddwch yn eu defnyddio drwygydol eich gyrfa.

    Mae ein gwaith ymchwil yn cael eithrefnu’n bedair adran ac, fel myfyriwrmeddygol, gallwch ddewis i ddatblygueich diddordebau personol, dysgu oddiwrth arweinwyr yn eu maes, yn unrhywun o'r meysydd hyn:

    Canser a GenetegRydym yn ceisio deall sail genetig clefydgyda ffocws ar ganser, gan ddatgelumecanweithiau cychwyn tiwmor a’i ddilyniant,diffinio sail genetig ar gyfer amrywiadaumewn ymatebion therapiwtig a datblygudiagnosteg newydd a dulliau therapiwtigsydd o fudd i gleifion.

    Haint ac ImiwneddMae ein gwaith ymchwil yn ymestyn ofecanweithiau sylfaenol haint ac imiwnoleg iweithgareddau sy'n gwneud gwahaniaethgwirioneddol i feddygon wrth wneuddiagnosis, rheoli ac atal clefydau. Ein nodyw trosi darganfyddiadau sylfaenol ynwelliannau o ran arferion clinigol a gofalcleifion ar draws amrywiaeth o wahanolddisgyblaethau. Ein prif feysydd ymchwilyw llid, haint ac imiwnoleg.

    Meddygaeth BoblogaethMae Meddygaeth Boblogaeth yn edrych nidyn unig ar yr unigolyn, ond ar yr amgylcheddcyfan lle darperir gofal iechyd. Ein nod ywgwella iechyd cleifion unigol drwy ymchwil acarloesi sy’n edrych ar grwpiau a chymunedaumwy yn ogystal ag ar sut y mae eu systemauiechyd yn effeithio ar eu gofal. Rydym yndeall pa mor bwysig yw hi bod y rheini sy’nawyddus i ddatblygu polisi iechyd effeithiolag effaith wirioneddol, yn cael cyngorarbenigol, ac rydym yn gweithio mewnpartneriaeth gyda grwpiau eraill ar draws ygymdeithas i ddarparu'r cymorth hwn.

    Meddygaeth Seicolegol a’rNiwrowyddorau ClinigolMae ein gwaith yn canolbwyntio ar ddeall ymecanweithiau sylfaenol sydd wrth wraidd prifanhwylderau seiciatrig a niwrolegol. Ceirrhaglenni gwaith ar sgitsoffrenia, anhwylderdeubegwn, iselder mewn plant a phobl ifanc,ADHD, clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson,clefyd Huntington ac epilepsi ymhlith eraill.Mae ffocws mawr ar eneteg a genomeg ondhefyd ddiddordeb mewn delweddu’rymennydd, epidemioleg, modelau yn vivo abioleg celloedd. Rydym hefyd yn gweithio araddysg seicolegol, gwasanaethau iechyd,ymchwil ac ymgysylltu cyhoeddus. Cynhelir yrhan fwyaf o'n gwaith ymchwil yng NghanolfanMRC ar gyfer Geneteg a GenomegNiwroseiciatrig (MRC CNGG).

    Yn ychwanegol at y pedair Adran Ymchwil,mae'r Ysgol Meddygaeth hefyd yn cynnaldau Sefydliad Ymchwil y Brifysgol:

    Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorauac Iechyd MeddwlYn cymryd darganfyddiadau newydd a’utrosi i fwy o ddealltwriaeth a diagnosis osalwch meddwl.

    Sefydliad Ymchwil Imiwnedd SystemauYn darparu dull cynhwysfawr ar sail systemauo ymdrin ag ymchwil imiwnedd ac yn darparugwedd holistaidd ar hynt clefydau cronig,rheoli heintiau a mecanweithiau sy'n arwainat ymateb imiwnedd effeithiol.

    Rhagor o WybodaethCyfle cyfartalMae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo ihyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ynei holl arferion a gweithgareddau, gangynnwys y rhai sy’n ymwneud â recriwtio,dewis a derbyn myfyrwyr. Nod y Brifysgol ywsefydlu diwylliant cynhwysol sy’n croesawuymgeiswyr o bob oed, ethnigrwydd, anabledd,patrwm teuluol, rhywedd, cenedligrwydd,cyfeiriadedd rhywiol, hil, credoau crefyddolneu gredoau eraill, a chefndiroeddeconomaidd cymdeithasol, a sicrhau bodcyfle cyfartal iddynt. Mae’r ymrwymiadhwnnw’n rhan o’r Polisi Cydraddoldebac Amrywiaeth sydd i’w weld yn:www.cardiff.ac.uk/public-information/equality-and-diversity

    Ymchwil

    Mae Prifysgol Caerdydd yn elusen gofrestredig,rhif 1136855

    Mae Caerdydd yn aelod o Grŵp Russell o brifysgolionymchwil-ddwys mwyaf blaenllaw Prydain.

    Mae’r llyfryn hwn wedi’i argraffu ar bapur agafwyd o ffynonellau a reolir yn dda, adefnyddiwyd inciau a gafwyd o lysiau. Mae’rpapur a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu’r llyfrynhwn, a’r broses weithgynhyrchu, ill dau wedi’utystysgrifo gan yr FSC®. Mae’r argraffwyr hefydwedi eu hachredu i ISO14001, sef y safonamgylcheddol a gydnabyddir yn rhyngwladol.Ar ôl i chi orffen â’r llyfryn hwn, gall gael eiailgylchu. Ond ystyriwch ei drosglwyddo i gyfaillneu ei adael yn eich llyfrgell yrfaoedd i eraill eiddefnyddio. Diolch yn fawr.

    Ymchwil, Rhagor o Wybodaeth

    Rhagor o wybodaeth ar-lein yn:www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

    25

  • I gael gwybod rhagor am yr Ysgol Meddygaeth, ewch i’n gwefan:www.caerdydd.ac.uk/meddygaeth

    Gallwch gael gwybod rhagor am yr Ysgol Meddygaeth ar-lein yn:virtualtour.cardiff.ac.uk/cy/medicine

    Ymholiadau ynghylch Derbyn MyfyrwyrFfôn: +44 (0)29 2068 8113

    +44 (0)29 2068 8073Ebost: [email protected]

    [email protected]

    Prifysgol CaerdyddYsgol MeddygaethAdeilad CochraneParc y Mynydd BychanCaerdydd CF14 4YUY DU

    Cadwch mewn Cysylltiad

    facebook.com/CardiffC21facebook.com/cardiffuniug

    @CardiffMBBCh21

    Dewch o hyd i ni:

    Dilynwch ni:

    Mae Prifysgol Caerdydd wedi dringo 1 lle a chael ei henwi’n Brifysgoly Flwyddyn yng Nghymru yn The Complete University Guide 2019.

    Myfyrwyr sy’n BlogioO awgrymiadau astudio i ble i fwyta, i gymdeithasau, teithiaupenwythnos a ble i gael eich llyfrau, mae ein myfyrwyr sy’n blogioyn fyfyrwyr go iawn sy’n siarad am brofiad gwirioneddol myfyriwryng Nghaerdydd. Peidiwch â cholli eu blogiau diweddaraf i gaeldysgu mwy am sut beth yw byw ac astudio yng Nghaerdydd.www.caerdydd.ac.uk/blogwyrmyfyrwyr

    Mae Prifysgol Caerdydd (Meddygaeth Glinigol) yn falch o fod ymhlith y 75 gorauyn ôl Tabl Cynghrair o Brifysgolion y Byd (2018)

    MEDIC-W-10-18-1500