Transcript
Page 1: August 2013 welsh newsletter

Yn darparu Cyfleoedd

Gwirioneddol i Bobl Ifanc wrth iddynt Drawsnewid i fod

yn Oedolion

Newyddlen Prosiect Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol

Awst 2013Yn y rhifyn hwnCyflwyniad Croeso i’n newyddlen ar gyfer Awst

Gwobr Cyflawniad Personol Eithriadol i GerraintPerson ifanc o Gaerffili yn cael ei gydnabod am ei waith caledDewch i Ni Drafod.... Tîm Both Sir Benfro yn cydnabod gwerth cefnogaeth i rieni ar bynciau anodd ynghyd â chefnogaeth cymheiriaid i rieniHawliau GofalwyrBeth Evans o Ofalwyr Cymru yn cynnig cipolwg ar y mudiad a’r effaith y mae wedi’i gael ar ddeddfwriaeth gyfredolHyfforddiant a DigwyddiadauRhestr o hyfforddiant a digwyddiadau’r prosiect sydd ar y gweill

Helo Ddarllenwyr

Gobeithio eich bod chi wedi cael haf mor brysur a llawn hwyl â ninnau yma yn y swyddfa hyfforddiant a gwybodaeth. Mae wedi bod yn wych cael dod i ymweld â rhai ohonoch. Wrth i ni agosáu at ddychwelyd i’r ysgol, cofiwch anfon eich straeon a’ch lluniau atom ni o’ch gwibdeithiau dros yr haf.Roedd yn wych cael clywed gan bobl ifanc oedd yn dathlu eu can-lyniadau arholiadau a chyrsiau dros yr haf ac rydym yn dymuno pob llwyddiant i chi wrth i chi barhau â’ch siwrnai.

I ninnau yn y swyddfa, rydym yn trefnu’r cyrsiau hyfforddiant nesaf ac yn ceisio cadw i fyny â’n tudalennau Twitter a Facebook tan i ni gyflogi rhywun i lenwi swydd Laura.Ganed Callie Nicole Griffiths i Laura ar 29 Gorffennaf. Mae pawb yn gwneud yn dda ac mae Callie yn hyfryd.

Zoe a HannahTîm gwybodaeth a hyfforddiant

Page 2: August 2013 welsh newsletter

Sefydlwyd Dawns Holly gan Holly Salmon a’i mam Jo, i godi ymwybyddiaeth ac arian i elusennau Awtistiaeth allweddol. Lansiwyd y ddawns yn 2010 gan yr Aelod Cynulliad Jeff Cuthbert, ac mae wedi mynd o nerth i nerth, gan dyfu bob blwyddyn. Dyfeisiwyd Gwobrau Arwyr Awtistiaeth yn rhan o’r ddawns eleni, gyda’r bwriad o ddangos peth o’r rhagoriaeth sy’n digwydd ym myd Awtistiaeth yng Nghymru.

2

Fel gweithiwr cefnogi seicoleg both Caerffili, rwy’ wedi bod yn gweithio gyda Gerriant Jones-Griffiths ar ei ddealltwriaeth o Awtistiaeth. Roeddwn yn ymwybodol o holl gyflawniadau Gerraint dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd y Wobr Cyflawniad Personol Eithriadol yn ffordd berffaith i gydnabod ei lwyddiannau. Disgrifiodd fy enwebiad sut roedd Gerraint wedi dod yn aelod gweithgar o Fforwm Ieuenctid Caerffili, gan sefyll mewn etholiad ar gyfer y cynrychiolydd amgylcheddol, a phan gafodd ei ethol yn llwyddiannus, daeth yn arweinydd ar y Mater Blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn - parciau’r cyngor. Trwy ymgyrchu diflino Gerraint, mae Cyngor Caerffili wedi cyflwyno gwaharddiad ar ysmygu yn holl ardaloedd chwarae plant y sir. Mae Gerraint hefyd wedi’i hyfforddi fel Arolygydd Ifanc; gan arolygu darpariaethau ieuenctid i sicrhau bod safonau i bobl ifanc yn cael eu cwrdd. Cafodd ei lwyddiannau eu cydnabod wrth iddo gadeirio Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru ym mis Tachwedd 2012. Mae Gerraint wedi’i hyfforddi hefyd i fentora cyfranogwyr Cyfleoedd Gwirioneddol newydd, ac mae’n parhau i chwarae rôl bositif mewn llawer o’n gweithgareddau.

Cyhoeddwyd enwau’r rheiny a gyrhaeddodd restr fer y gwobrau ar 2 Ebrill – Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, ac roeddem wrth ein bodd i glywed bod Gerraint wedi cyrraedd y rhestr fer o dri yn ei gategori! Ar ddydd Sadwrn 15 Mehefin, aeth Gerraint a’i deulu i Ddawns

Holly yng ngwesty Holland House yng Nghaerdydd. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol, gydag a d l o n i a n t , areithiau, cinio pedwar cwrs a’r seremoni wobrwyo. Roedd Gerraint wrth ei fodd i glywed ei fod wedi dod yn ail, ac aeth i’r llwyfan i dderbyn ei wobr gan Betsan Powys, Golygydd Gwleidyddol BBC Cymru. Dywedodd Betsan fod Gerraint yn seren wleidyddol y dyfodol! Roedd yn noson arbennig a gadawodd Gerraint a’i rieni yn teimlo’n falch iawn o’i gyflawniad gwych. Fe wnaeth Gerraint gymaint o argraff ar drefnwyr y ddawns maent yn awyddus iddo fod yn siaradwr yn nigwyddiad y flwyddyn nesaf. Da iawn Gerraint!

Gwobr Cyflawniad Personol eithriadol i Gerraint

Mae tîm both Sir Benfro wedi cynnal dau gwrs yn ystod y misoedd diwethaf, ac roeddent yn sesiynau anffurfiol gyda’r nod o gael rhieni i ddechrau trafod pryderon ynghylch ymdrin â’r pwnc anodd hwn.

Cafodd y cwrs wyth wythnos ei drefnu mewn ymateb i gais gan rieni, ac roedd cyfle i rieni ennill cymhwyster NOCN lefel 2, yn ogystal â chael cyngor a gwybodaeth. Roedd y cymhwyster yn fonws ond nid yn angenrheidiol – roedd rhai rhieni yn hapus i fynychu a rhannu eu profiadau â phobl eraill

mewn amgylchiadau tebyg. Roedd y gefnogaeth dderbyniodd y grŵp gan ei gilydd yr un mor werthfawr â’r cyfle i gael cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth. Roedd gallu dod ynghyd i rannu profiadau yn un o’r pethau yr oedd y rhieni wedi gwerthfawrogi fwyaf am y cwrs (gweler y dyfyniadau isod).

“Roedd y cwrs yn ddiddorol iawn ac rwy’n credu y bydd yn help wrth i fy mab aeddfedu. Bydd hefyd yn helpu yn fy ngyrfa broffesiynol gan fy mod yn gweithio mewn ysgol uwchradd. Bydd yn sicr yn rhoi hyder

dewCh i ni ....Mae rhieni yn Sir Benfro wedi bod yn cymryd rhan mewn cyrsiau rhieni a gynhelir gan y prosiect i gael gwybodaeth a chyngor am sut i gefnogi eu plant wrth ddeall a siarad am ryw, rhywioldeb a pherthnasoedd.

Page 3: August 2013 welsh newsletter

3

i mi i drafod gyda’m mab pan ddaw’r amser”

“Roedd yn braf cwrdd â rhieni eraill sydd yn yr un sefyllfa ac roedd yr arweinwyr yn wych. Roedd yn anffurfiol ac yn llawn cymorth”

“Roedd y cwrs yn anffurfiol ac roedd yn hawdd siarad ag arweinwyr y cwrs a rhieni a gofalwyr eraill. Mae wedi rhoi’r hyder i mi siarad â’m mab am dyfu i fyny a mynd i’r afael ag unrhyw faterion wrth iddynt godi”

Mrs Teresa Goddard a Mrs Dawn Russell – dwy o’r rheini sydd wedi cymryd rhan yn y cwrs ar ddeall rhyw a pherthnasoedd yn Sir Benfro

Rydym yma i helpu gwell bywydau ein gofalwyr trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth. Rydym hefyd yn ymgyrchu ar eich rhan ar faterion sy’n effeithio arnoch gyda gwneuthurwyr polisi a phenderfyniadau mewn llywodraeth leol a chenedlaethol, yn ogystal â’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel leol.

Dros y 21 mlynedd diwethaf mae Gofalwyr Cymru wedi:

•Cefnogi gofalwyr trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor am ofalu

•Dylanwadu ar bolisi trwy ymchwil rheolaidd yn seiliedig ar brofiadau gwirioneddol gofalwyr ac

•Ymgyrchu i wneud bywyd yn well i ofalwyr

Trwy ein lobïo a’n hymchwil rydym hefyd wedi cael effaith fawr ar ddeddfwriaeth.n Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 Yn rhoi’r hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion. Mae hyn yn ddibynnol ar asesu’r defnyddiwr gwasanaeth.

Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000. Yn rhoi hawl annibynnol i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion waeth a yw’r person anabl yn cael ei asesu ai peidio.

Deddf Cyfle Cyfartal i Ofalwyr 2005

Daeth y Ddeddf hon i rym pan gyflwynodd Dr Hywel Francis, AS Aberafan fesur aelodau preifat. Mae’n gosod dyletswydd ar wasanaethau cymdeithasol ac yn ei wneud yn ofynnol iddynt hysbysu gofalwyr am eu hawliau i gael eu hasesu o dan y ddwy Ddeddf uchod. Mae hefyd

yn gosod dyletswydd ar wasanaethau cymdeithasol i ystyried a yw gofalwr yn gweithio neu’n dymuno gweithio, neu’n ymgymryd ag addysg, hyfforddiant neu weithgarwch hamdden, neu’n dymuno gwneud hynny. Roedd y Deddfau cynharach yn canolbwyntio ar ofalwr yn gallu cynnal y rôl ofalu lle mae’r Ddeddf hon yn sicrhau nad yw gofalwyr yn cael eu hamddifadu rhag cyfleoedd bywyd. Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010

Ymgyrchodd Gofalwyr Cymru i ofalwyr dderbyn gwybodaeth ac yn dilyn ein gwaith gyda Chynghrair Gofalwyr Cymru, cyflwynwyd cyfraith newydd gan Lywodraeth Cymru yn 2010 sydd am y tro cyntaf erioed yn gosod dyletswydd ar y GIG i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu hadnabod ac y rhoddir gwybodaeth iddynt.

Rydym am wneud bywyd yn well i chi ac i gymdeithas gydnabod a gwerthfawrogi’r cyfraniad enfawr yr ydych yn ei wneud i gymdeithas. Yng Nghymru yn unig mae gofalwyr teuluol di-dâl yn darparu 96.8% o’r holl ofal cymunedol yng Nghymru sy’n cyfateb i arbediad o £7.7 biliwn o bunnoedd y flwyddyn pe bai angen i’r gofal hwn gael ei gyflawni gan y gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol. Rydym yn fudiad aelodaeth ac mae lleisiau gofalwyr wrth wraidd pob peth yr ydym yn ei wneud.

Gallwch ymuno â ni er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein hymgyrchoedd trwy ymweld â www.carereswales.org. Mae gennym dudalen ar Facebook hefyd www.facebook.com/carerswales. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Beth yn [email protected]

hawliau GofalwyrDarparwyD gan Beth evans, gofalwyr Cymru

Mae Gofalwyr Cymru yn rhan o Carers UK. Rydym yn elusen genedlaethol a sefydlwyd i gefnogi’r 370,000 o ofalwyr sy’n gofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, yn fregus neu’n anabl.

Page 4: August 2013 welsh newsletter

4

I weld eich stori yn y newyddlen, neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hannah Cox neu Zoe Richards ar 01639 635650 neu [email protected]. Gellir golygu cyflwyniadau. Nid yw’r farn a fynegir yn newyddlen Cyfleoedd Gwirioneddol o reidrwydd yn cael ei chefnogi gan y prosiect. Argraffwyd gan 4 Colour Digital

Hyfforddiant a Digwyddiadau

I archebu lle ar unrhyw rai o’r digwyddiadau neu seminarau hyfforddiant canlynol cysylltwch â’r tîm gwybodaeth a hyfforddiant yn [email protected] neu ar 01639 635650

Rhwydwaith Cynllunio at y DyfodolDydd Iau 12 Medi10:00-1:00Forge Fach, ClydachI Weithwyr PCP, Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd, Gweithwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol

Cyflwyniad i PCPDydd Mawrth 17 Medi10:00 – 4:00 Forge Fach, Clydach

Rhwydwaith CynhwysiadDydd Mercher 25 Medi10:00-1:00Forge Fach, ClydachGweithwyr Cynhwysiad Ieuenctid, Hyfforddwyr Mentoriaid Cymheiriaid, Gweithwyr Cefnogi Seicoleg

Cyflwyniad i PCPDydd Iau 3 Hydref10:00 – 4:00Consortiwm Canolbarth De, NantgarwCwrs yn LLAWN!

Dosbarth Meistr Anhwylderau BwytaDydd Mercher 9 Hydref10:00 – 12:30Canolfan Bywyd Eglwys Bethlehem, Cefn Cribwr2 x Le ar gyfer pob tîm both

Cyflwyniad i PCPDydd Iau 22 Hydref10:00 – 4:00Canolfan Bywyd Eglwys Bethlehem, Cefn Cribwr

Rhwydwaith Cynllunio at y DyfodolDydd Mercher 30 Hydref10:00-1:00Forge Fach, ClydachI Weithwyr PCP, Gweithwyr Cyswllt Teuluoedd, Gweithwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol Rhwydwaith Cyflogaeth a ChyfleoeddDydd Llun 18 Tachwedd10:00-1:00I Weithwyr Allweddol Trawsnewid, Cydlynwyr Mentrau Cymdeithasol, Cynrychiolwyr Asiantaethau Cyflogaeth â Chymorth