Gall llid yr ymennydd effeithio ar unrhyw unGall adnabod yr arwyddion a’r symptomau achub bywydau
Gall llid yr ymennydd daro’n gyflym a gall ladd o fewn oriau – gall ei effaith barhau am oes.
Babanod a phlant ifanc sydd mewn perygl fwyaf, gyda thua hanner yr achosion yn digwydd ymysg plant o dan 5 oed.Mae’r perygl yn cynyddu eto ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc a hefyd ymysg pobl dros 55 oed.
Er gwaetha’r ffaith fod brechlynnau ar gael ar gyfer rhai mathau o lid yr ymennydd, mae miloedd o achosion yn y DUbob blwyddyn o hyd.
Mae adnabod yr arwyddion a’r symptomaui edrych amdanynt a’r camau i’w cymryd yn achub bywydau.
Gall llid yr ymennydd effeithio ar unrhyw un
Mae llid yr ymennydd a septisemia yn digwydd gyda’i gilydd yn aml. Byddwch yn ymwybodol o’r holl arwyddion a’r symptomau.
Gall symptomau ymddangos mewn unrhyw drefn.Efallai na fydd rhai yn ymddangos o gwbl.
Gall y symptomau cynnar gynnwys:
Byddwch yn ymwybodolBeth yw llid yr ymennydd?Llid ar y bilen sy’n gorchuddio ac yn amddiffyn yr ymennydd a llinyn y cefn yw llid yr ymennydd. Gall sawl math gwahanol o organeb achosi llid yr ymennydd, ond feirysau a bacteria yw’r rhai mwyaf cyffredin.
Mae llid yr ymennydd feirysol yn gallu gwneud pobl yn sâl iawn ond anaml y mae’n rhoi bywyd yn y fantol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael adferiad da, ond gall y dioddefwyr ddioddef ôl-effeithiau fel cur pen, blinder a cholli cof.
Mae llid yr ymennydd bacterol yn gallu lladd, felly mae sylw meddygol brys yn hanfodol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael adferiad da, ond mae llawer yn dioddef ôl-effeithiau gwanychol fel byddardod, niwed i’r ymennydd a, phan fydd septisemia’n digwydd, colli aelodau’r corff.
Septisemia meningocaiddBacteria meningococaidd yw’r achos mwyaf cyffredin o lid yr ymennydd bacterol yn y DU. Gallant achosi llid yr ymennydd a septisemia (gwenwyno’r gwaed), y mae pobl yn aml yn eu cael gyda’i gilydd. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r holl arwyddion a’r symptomau.
Y frech Gall pobl â septisemia ddatblygu brech o ‘bigiadau pin’ coch bychain a all ddatblygu yn gleisiau porffor.
NID YW’R FRECH HON YN PYLU O DAN BWYSAU. GWNEWCH Y PRAWF GWYDR
• Mae twymyn gyda smotiau/brech nad yw’n pylu o dan bwysau yn ARGYFWNG MEDDYGOL
• PEIDIWCH AROS AM FRECH, os yw rhywun yn sâl ac yn gwaethygu, ewch i gael cymorth meddygol ar unwaith
• AR GROEN TYWYLL gall y smotiau/brech fod yn fwy anodd i’w gweld. Peidiwch aros am frech. Byddwch yn ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau.
Os ydych yn poeni y gallai fod yn lid yr ymennydd neu’n septisemia, gallwch:
Ffonio Galw Iechyd Cymru 0845 4647 neu eich meddyg teulu
Mewn argyfwng gallwch:
• Ddeialu 999 am ambiwlans
• Mynd i’ch adran ddamweiniau ac achosion brys agosaf
Disgrifiwch y symptomau a dywedwch eich bod yn credu y gallai fod yn lid yr ymennydd neu’n septisemia.
Gall fod yn anodd rhoi diagnosis cynnar. Os ydych wedi cael cyngor a’ch bod yn dal yn bryderus, ewch i gael cymorth meddygol eto.
Defnyddiwch eich greddf – ewch i gael cymorth meddygol ar unwaith
Gall rhywun gyda llid yr ymennydd neu septisemia waethygu’n gyflym iawn. Cadwch olwg arnynt.
Pwyswch ochr gwydr clir yn gadarn yn erbyn y croen Gall smotiau/brech bylu i ddechrau
Parhewch i wneud y prawf
twymyn cur pen chwydu
poen yn y cyhyrau
twymyn gyda dwylo a thraed oer
Arwyddion a symptomau cyffredin llid yr ymennydd a septisemiaGall adnabod arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a septisemia achub bywydau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth i chwilio amdano. Lawrlwythwch ein ap am ddim o www.meningitisapp.co.uk
TriniaethOs ydych yn amau llid yr ymennydd, mae’n bwysig cael cymorth cyn gynted â phosibl. Mae angen derbyn rhywun â llid yr ymennydd a septisemia i’r ysbyty yn gyflym a rhoi triniaeth frys gyda gwrthfiotigau iddynt. Os cânt eu canfod a’u trin yn gynnar, maent yn llai tebygol o fod mewn sefyllfa lle mae bywyd yn y fantol neu ddioddef ôl-effeithiau difrifol.
AtaliaethMae brechlynnau ar gael i atal rhai mathau o lid yr ymennydd ac maent wedi lleihau nifer yr achosion yn sylweddol. Mae llawer o’r brechlynnau hyn yn rhan o Raglen Imiwneiddio Plant a chânt eu cynnig i bob babi o 2 fis oed.
Nid oes brechlyn arferol ar gael o hyd i atal clefyd meningococaidd grŵp B (Men B), sef y math mwyaf cyffredin o lid yr ymennydd bacterol yn y DU. Mae brechlyn Men B ar gael yn breifat a dylech ymgynghori â’ch meddygfa eich hun am fanylion. Mae’r brechlyn yma yn cael ei ystyried ar gyfer ei ddefnyddio yn y Rhaglen Imiwneiddio Plant yn y dyfodol.
Nes bod brechlynnau i atal pob math mae’n bwysig adnabod yr arwyddion a’r symptomau a gweithredu’n gyflym.
Ar ôl llid yr ymennydd a septisemiaBydd y rhan fwyaf o bobl sydd â llid yr ymennydd a septisemia yn cael adferiad da, ond bydd rhai yn dioddef ôl-effeithiau.
Mae ôl-effeithiau yn fwy cyffredin ar ôl llid yr ymennydd bacterol neu septisemia. Gall teuluoedd ddioddef profedigaeth a gellir gadael y rheiny sy’n goroesi ag anableddau oes fel byddardod, epilepsi, niwed i’r ymennydd, colli aelodau’r corff, anawsterau dysgu a phroblemau ymddygiad.
Fel arfer, mae llid yr ymennydd feirysol yn llai difrifol ond gall gael effaith fawr o hyd, gan adael pobl â chur pen, blinder a cholli cof.
Beth bynnag yw’r canlyniad, mae bywydau pobl yn newid am byth.
Helen Richardson, a gafodd lid yr ymennydd pan oedd yn y brifysgol.“Dechreuais gael symptomau tebyg i’r ffliw, a waethygodd yn raddol. Dechreuais bryderu felly edrychais ar fy ngherdyn symptomau. Roedd gennyf chwech o’r symptomau. Es i i’r ysbyty yn syth. Rwyf mor ddiolchgar bod y cerdyn gennyf, achubodd fy mywyd.”
Babanod a Phlant Bach
Fever, cold hands and feet
Refusing food and vomiting
Fretful, dislike being handled
Drowsy, floppy, unresponsive
Rapid breathing or grunting
Pale, blotchy skin Spots/rash See Glass Test
Unusual cry, moaning
Tense, bulging fontanelle (soft spot)
Stiff neck, dislike bright lights
Convulsions/seizures
Cysglyd, llipa, ddim yn ymateb
Twymyn, dwylo a thraed oer
Gwrthod bwyd a chwydu
Anniddig, ddim yn hoffi cael eu cyffwrdd
Anadlu’n gyflym neu’n rhochian
Croen gwelw,blotiogSmotiau/brechGweler Prawf Gwydr
Cri anarferol, griddfan
Fontanelle(ardal feddal) tynn,chwyddedig
Gwddf anystwyth, ddim yn hoffi golau llachar
Confylsiynau/trawiadau
Plant ac Oedolion
Fever, cold hands and feet
Vomiting
Drowsy, difficult to wake
Confusion and irritability
Severe muscle pain
Pale, blotchy skinSpots/rash See Glass Test
Severe headache
Stiff neck
Dislike bright lights
Convulsions/seizures
Cysglyd, anodd eu deffro
Croen gwelw,blotiogSmotiau/brechGweler Prawf Gwydr
Twymyn, dwylo a thraed oer
Chwydu
Cymysglyd ac yn anniddig
Cur pen difrifol
Poen difrifol yn y cyhyrau
Gwddf anystwyth
Confylsiynau/trawiadau
Ddim yn hoffi golau llachar
Llinell gymorth llid yr ymennydd 0808 80 10 388 (DU)
www.MeningitisNow.org
Ffôn: 01453 768000Ffacs: 01453 [email protected]
Fern House, Bath Road, Stroud , Gloucestershire GL5 3TJ
© Meningitis Now Gorfennaf 2014 • Adolygiad nesaf Ebrill 2015 Rhif elusen gofrestredig 803016 (Cymru a Lloegr) SC037790 (Yr Alban)
Mae cyfeiriadau ar gyfer cynnwys y daflen hon ar gael ar ein gwefan.
Meningitis Now yw prif elusen llid yr ymennydd yn y DU. Rydym yn achub bywydau ac yn ailadeiladu dyfodol pobl trwy ymwybyddiaeth, ymchwil a chymorth.
Heb eich cymorth gwerthfawr, eich ysbryd penderfynol a’ch ymroddiad chi, ni fyddem yn gallu ariannu ymwybyddiaeth, ymchwil a chymorth. Dyma sut y gallwch helpu:
Gwirfoddoli Os oes gennych rywfaint o amser neu egni dros ben, mae sawl ffordd y gallwch ein helpu i gyrraedd mwy o bobl a chodi ymwybyddiaeth ynghylch llid yr ymennydd.
Rhannu eich profiad Gall rhannu eich profiad o lid yr ymennydd rymuso eraill i ofyn am y wybodaeth a’r cymorth sydd ei angen arnynt ar gyfer eu hadferiad eu hunain.
Codi arian Cymerwch ran yn un o’n heriau eithafol neu gallwch gynnal te prynhawn gyda ffrindiau – mae cymaint o ffyrdd y gallwch godi arian a chael hwyl yn gwneud hynny.
Cyflwyno rhodd Trwy gyflwyno un rhodd, sefydlu debyd uniongyrchol neu adael cymynrodd, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Gall llid yr ymennydd ddistrywio bywydau mewn oriau a gall ei effaith barhau am oes.
Mae Meningitis Now yma i’ch helpu, pan fyddwch ein hangen ni ac am gymaint o amser ag y byddwch ein hangen.
Rydym yn elusen newydd gyda bron 30 o flynyddoedd o brofiad, a ffurfiwyd yn 2013 trwy uno Meningitis UK a Meningitis Trust, sylfaenwyr mudiad llid yr ymennydd yn y DU. Rydym yn credu yn yr hyn yr ydym yn ei wneud ac yn gwybod y gallwn gyflawni cymaint mwy nawr ein bod gyda’n gilydd.
Rydym yn rhoi cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol i’r rheiny sy’n byw gydag effaith y clefyd. Rydym yn cefnogi unigolion a’u teuluoedd, yn cynnwys y rheiny sydd wedi dioddef profedigaeth,gan helpu i ailadeiladu eu bywydau ar ôl llid yr ymennydd a septisemia.
Gallwn:
• Wrando ac ateb eich cwestiynau am lid yr ymennydd a septisemia
• Siarad â chi am eich profiad unigol a’r ffordd y gallwn deilwra eich cymorth ar eich cyfer chi
• Ymweld â chi yn eich cartref eich hun a rhoi cymorth i chi yn lleol
• Eich rhoi mewn cysylltiad ag eraill sydd wedi cael yr un profiad
• Rhoi cymorth ariannol ar gyfer costau annisgwyl ar ôl llid yr ymennydd
• Eich cefnogi chi a’r rheiny sydd agosaf atoch; plant, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion
• Eich gwneud chi yn flaenoriaeth; nid oes gennym unrhyw restrau aros ar gyfer ein gwasanaethau.
Llinell gymorth llid yr ymennydd 0808 80 10 388 (DU)
Os hoffech ganfod mwy ynghylch sut y gallwn helpu, ffoniwch ni a gallwn siarad am y peth gyda chi.
achub bywydau,ailadeiladu dyfodolau