Transcript
Page 1: tudalen 8 Pˆˇ ˛ % ˇ ˚ˆ sG( ˇˆ ’ ˇ!˚ Mehefin 1, 2017 - Annibynwyr · 2017. 6. 23. · tudalen 2 Pˆˇ ˛" % ˇ ˚ˆ sG( ˇˆ ’ ˇ!˚ Mehefin 1, 2017 yr ysgrifennwyd Llyfr

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:

Y Parchg Ddr Alun Tudur

39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,

Caerdydd, CF23 9BS

Ffôn: 02920 490582

E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:

Ty John Penri, 5 Axis Court, Parc

Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJ

Ffôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 1, 2017Y TYsT

Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn Jones

Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,

LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138

E-bost: [email protected]

Golygydd

Alun Lenny

Porth Angel, 26 Teras Picton

Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

Ffôn: 01267 232577 /

0781 751 9039

E-bost: [email protected]

Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr

Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â

chynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

Page 2: tudalen 8 Pˆˇ ˛ % ˇ ˚ˆ sG( ˇˆ ’ ˇ!˚ Mehefin 1, 2017 - Annibynwyr · 2017. 6. 23. · tudalen 2 Pˆˇ ˛" % ˇ ˚ˆ sG( ˇˆ ’ ˇ!˚ Mehefin 1, 2017 yr ysgrifennwyd Llyfr

sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 22 Mehefin 1, 2017 50c.

Y TYsTPaPur wythnosol yr annibynwyr Cymraeg

Croeso i Gyfarfodydd Blynyddol yr Undeb Eleni Gofalaeth Gellimanwydd a’rGwynfryn Rhydaman a Moreia, Tycroessy’n estyn croeso i Gyfarfodydd Blynyddolyr Undeb ar Fehefin 15-17, 2017. Dymabedwerydd ymweliad yr Undeb âRhydaman, 1927, 1959, 1987. Mae dengmlynedd ar hugain wedi mynd heibio erspan wahoddwyd yr Undeb o’r blaen. Maeeglwysi Gellimanwydd a’r Gwynfryn,Rhydaman a Moreia, Tycroes yn eichgwahodd yn gynnes iawn. Dyma beth ohanes yr Eglwysi sy’n gwahodd.

Gellimanwydd, Rhydaman

Codwyd y capel cyntaf 235 o flynyddoeddyn ôl a dim ond deg gweinidog fu’ngwasanaethu arni. Y Parchg Dewi Myrddin

Hughes oeddy gweinidogpan yrymwelodd yrUndeb â niddiwethaf.Fe’ihetholwyd ynYsgrifennyddCyffredinolyn 1999.

Roedd hon yn golled fawr i ni fel eglwysa’r Undeb ar ei hennill unwaith eto. Unoddeglwys Moreia, Tycroes â ni a chreugofalaeth newydd ar droad y ganrif a bu’rParchg Dyfrig Rees yn ein gwasanaethu felgweinidog hyd 2014. Unodd eglwys YGwynfryn, Rhydaman â’r ofalaeth yn 2014a chynhaliwyd cwrdd sefydlu’r ParchgRyan Isaac-Thomas yn weinidog arnomym Mai 2015. Roedd hyn yn dro ar fydgyda dwy ferch Gellimanwydd sef Moreia,Tycroes a’r Gwynfryn, Rhydaman yndychwelyd at y fam-eglwys. Eleni rydymwedi gwneud newidiadau o fewn yr adeilad- wedi cael gwared â’r sêt fawr a rhai o’rseddau er mwyn adeiladu llwyfan pwrpasola gosod sustem dechnoleg newydd. Ganfod gennym Ysgol Sul niferus danarweiniad rhieni brwdfrydig mae’r addasuer budd mawr i ni fel aelodau ac addolwyr.Edrychwn ymlaen at groesawucynrychiolwyr ac aelodau’r Undeb atom aci weld y capel ar ei newydd wedd.

Y Gwynfryn, Rhydaman

Lleolir capel y Gwynfryn ar Stryd y Coleg,Rhydaman. Arferai’r heol hon arwain atysgol enwog Watcyn Wyn a agorodd yn1880 ac a gyfrannodd cymaint at ein ffydd

a’ndiwylliant.Gweinidog yrEglwys panymwelodd yrUndeb yn1987 oedd yParchgHowellMudd, yna yn1993sefydlwyd y Parchg W. Raymond Williamsyn fugail arnom, a’r Parchg Emyr GwynEvans yn 2002. Yn 2014 ffurfiwydgofalaeth newydd gyda Gellimanwydd,Moreia, Tycroes gan sicrhau olyniaeth ddi-dor i’r weinidogaeth yn ein mysg a hynnytrwy alw’r Parchg Ryan Thomas i’nbugeilio yn yr Arglwydd.

Rydym wedi gweld lleihad amlwg ynnifer yr aelodau wrth i’r blynyddoedd fyndheibio ac ar ddechrau 2017 mae rhif yraelodau yn 70. Er hynny mae ymagnewyllyn ffyddlon sy’n gweithio’nddiwyd ac sy’n mawrhau’r fraint o berthyni’r Eglwys hon o dan ofal ein gweinidog.

Moreia, Tycroes

Sefydlwyd yr achos Annibynnol ynNhycroes yn 1876 gyda rhodd o £100 oddiwrth y fam-eglwys yng Ngellimanwyddtuag at adeiladu capel Moreia. Adegymweliad yr Undeb â’r ardal ddiwethaf yn1987 roedd yr eglwys mewn sefyllfa

ddieithr iawnoherwyddymddeolodd yParchg D. T.Lewis adyma’r trocyntaf i ni fodheb weinidog

ers 35 mlynedd.Sylweddolwyd nad oedd yr eglwys yn

ddigon cryf yn ariannol i gynnal gweinidogar ei phen ei hun ac fe benderfynwydceisio ffurfio gofalaeth gydag eglwysieraill. Er cysylltu a thrafod â nifer oeglwysi “na” oedd yr ateb bob tro ac ar ôlbron i ddeg mlynedd heb weinidog roeddyr aelodau’n teimlo’n bur ddigalon. Ondyn sydyn daeth haul ar fryn pan fodlonoddy Parchg Guto Prys ap Gwynforychwanegu Moreia i’w ofal. Bu eiweinidogaeth yn gaffaeliad mawr i ni.Roedd yn bregethwr huawdl gyda’r gallu igyflwyno gwirioneddau mawr yr Efengyl

yn ddealladwy. Ond wedi tair blyneddderbyniodd alwad i weinidogaethu yngnghylch Llandysul.

Yn 1999 dychwelodd Moreia at y fam-eglwys yng Ngellimanwydd a hynny am yreildro yn ei hanes. Ffurfiwyd gofalaeth ganestyn galwad i’r Parchg Dyfrig Rees, Dre-fach. Bu yn bregethwr grymus a goleuedigac yn fugail heb ei ail. Ar ôl pymthegmlynedd yn ein plith derbyniodd alwad iweinidogaethu yn y Tabernacl Pen-y-bontar Ogwr.

Yn 2014 unodd Eglwys Y Gwynfryn â’rofalaeth a dyma ni yn gweld y ddwy ferchwedi dychwelyd o dan adain y fam ac fesefydlwyd y Parchg Ryan Thomas ynweinidog arnom ym Mai 2015.

Croesawn chwi yn wresog iawn felcynadleddwyr i’r fro.

Addawodd Iesu droeon i’w ddisgyblion ybyddai Duw yn eu bendithio trwy anfonyr Ysbryd Glân. Pan yn siarad gyda hwyyn yr oruwch ystafell noson cyn iddogael ei groeshoelio dywedodd wrthynt.

Yr wyf fi’n dweud y gwir wrthych: ymae’n fuddiol i chwi fy mod i’n myndymaith. Oherwydd os nad âf, ni ddaw’rEiriolwr atoch chwi. Ond os âf, fe’ihanfonaf ef atoch. (Ioan 16:7)

Amod dyfodiad yr Ysbryd oeddymadawiad yr Iesu. Ac wedi i’r Iesuymadael yn gorfforol ar ddydd IauDyrchafael fe ddaeth yr Ysbryd Glânddeng diwrnod yn ddiweddarach ar Sul yPentecost gan ddod â bywyd newydd ahyder i’r disgyblion. Mae’n werth sylwiar y disgrifiad trawiadol o ddyfodiad yrYsbryd Glân yn llyfr yr Actau,

Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecostroedd pawb gyda’i gilydd eto, ac ynsydyn dyma nhw’n clywed sŵn o’r awyr,fel gwynt cryf yn chwythu drwy’rystafell lle roedden nhw’n cyfarfod. Acwedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg ifflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwysar ben pob un ohonyn nhw. Dyma pawboedd yno yn cael eu llenwi â’r YsbrydGlân ac yn dechrau siarad mewnieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eugalluogi nhw i wneud hynny. (Act 2:1-4)

Ysbryd, Gwynt ac Anadl

Sylwch fod yr Ysbryd yn dod fel gwyntgrymus yn rhuthro. Yn y Groeg (yr iaith

Dyfodiad yr YsbrydSul y Pentecost

parhad ar dudalen 2

Page 3: tudalen 8 Pˆˇ ˛ % ˇ ˚ˆ sG( ˇˆ ’ ˇ!˚ Mehefin 1, 2017 - Annibynwyr · 2017. 6. 23. · tudalen 2 Pˆˇ ˛" % ˇ ˚ˆ sG( ˇˆ ’ ˇ!˚ Mehefin 1, 2017 yr ysgrifennwyd Llyfr

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 1, 2017Y TYsT

yr ysgrifennwyd Llyfr yr Actau ynddi ynwreiddiol) y gair am Ysbryd yw“pneuma” ac mae hwn yn gallu golyguhefyd anadl a gwynt. Yn y Beibl mae’rYsbryd yn cael ei gysylltu yn aml gydabywyd newydd a dechrau newydd. Ynhanes dechrau’r cread yr oedd YsbrydDuw yno yn rhan o’r broses, Gen 1: 2. Pangreodd Duw ddynoliaeth dywedir bodDuw wedi anadlu ac yn yr anadl hwnnwyr oedd cychwyn bywyd dynol. Gen 2: 7.(Y gair Hebraeg am Ysbryd yw “ruach”ac mae hwn hefyd yn cael ei ddefnyddiofel gair am wynt). Er enghraifft ymmhroffwydoliaeth dyffryn yr esgyrnsychion yn Eseciel 37:9 y gair ruach addefnyddir am “gwynt” ac “anadl”. Ymaeto, yr hyn sy’n dod â bywyd i’r esgyrnsychion yw anadl Duw. Gwelwn yr unegwyddor hefyd yn y Testament Newydd.Yn Ioan 20: 22 dywedir am Iesu, “Acwedi dweud hyn, anadlodd arnynt adweud: “Derbyniwch yr Ysbryd Glân. YrIesu mab Duw yn anadlu ac wrth wneudhynny y mae’n rhoi’r Ysbryd Glân i’wbobl. Mynegir y syniad hwn yn yr emyn,

“Anadla, anadl Iôr, llanw fy mywyd i

fel byddo ‘nghariad i a’m gwaith yn un â’r eiddot ti.”

Bywyd yn yr Ysbryd

Nid yw’n rhyfedd felly bod Llyfr yr Actauyn disgrifio dyfodiad yr Ysbryd Glân fel“sŵn gwynt nerthol.” Oherwydd YsbrydDuw yw’r anadl roddodd ddechrau abywyd i’r Eglwys Gristnogol ar Sul yPentecost ac sy’n cynnal Ei waith o hyd.Cadarnheir hyn gan Paul yn fynych panbwysleisia mai bywyd yn yr Ysbryd ywbywyd y Cristion,

“Ond nid ym myd y cnawd yr ydychchwi, ond yn yr Ysbryd, gan fod YsbrydDuw yn cartrefu ynoch chwi. Pwy bynnagsydd heb Ysbryd Crist, nid eiddo Cristydyw. (Rhuf. 8:9)

Rhaid cofio nad rhyw ddylanwad arwahân i Dduw yw’r Ysbryd Glân ondDuw ei hun yn gweithredu ac yncymhwyso gwaith achubol Iesu Grist i’wddisgyblion ac i ddynoliaeth. (Duw’r Tad,Duw’r Mab a Duw’r Ysbryd Glân yn cyd-weithio.) Bendith aruthrol y Pentecost hwnyw sylweddoli fod yr Ysbryd sy’n rhoibywyd yn gweithio heddiw yn ein plith niGristnogion Cymru. Llawenhawn aphydrwn arni er clod i’n Harglwydd IesuGrist.

A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith,eich llenwi â phob llawenydd athangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd,nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân,yn gorlifo â gobaith. (Rhuf 15:13)

Alun Tudur

Dyfodiad yr YsbrydSul y Pentecost - parhad

DAU GWMY mae i’r ddau gwm agosâ at ei gilydd leannwyl iawn yn fy nghalon i:- Cwm Pennanta Chwm Ystradllyn. Anfarwolodd EifionWyn Gwm Pennant a dweud mai ‘cwm tecafy cymoedd yw.’ Mae’n siŵr bod deunydddadl yn y fan yna hefyd! Ond hebamheuaeth y mae iddo’i nodweddion hyfryda’i swyn, a does dim ond rhaid darllen cyfrolDavid Williams ‘Y Cwm Tecaf’ i wybod amy bywyd a fu yng Nghwm Pennant drwygyfrwng ysgol, capel, siop a ffermydd.

Merch Tyddyn Mawr, Cwm Pennant oedd fyNain (mam fy Mam) - Jane Thomas, abriododd fachgen o’r cwm-drws-nesa, ac afagwyd ar aelwyd Cefn Coch Isaf, CwmYstradllyn - David Thomas Llewelyn.Priodi, a dechrau eu bywyd ynghyd ar ffermy Gaerwen ar gwr y Lôn Goed aanfarwolwyd gan R. Williams Parry cynmudo i Roshirwaun ym Mhen Llŷn a maguwyth o blant.

Poeth ac oer

Felly, y mae i’r ddau gwm le cynnes yn fynghalon, ac awn o bryd i’w gilydd i ‘stelcianar lan yr afon yng Nghwm Pennant ac atgyrion llyn Cwm Ystradllyn - llyn, neu i roiiddo’i derm Seisnig - reservoir, sy’n rhoicyflenwad o ddŵr i lawer yn y cwmpasoeddyma. Fel pob cwm arall, medrant fod, ac ynwir y maent yn gyfoeth o brydferthwch bydnatur, a’r tymhorau’n fwy yn eu gogoniant

ynddynt nag odid sawl lle arall. Mae’nchwilboeth pan yn boeth ac yn rhewynt panyn oer! Ond cymoedd ydynt yn y diwedd -lleoedd na ellir mynd ymhellach na hwyntheb droedio dros fryniau a mynyddoedd. Ogrynhoi, cyfyngedig ydynt, a chyfyngedigyw’r golygfeydd.

Hardd ond cyfyng

Onid oes beryg i’r Eglwys yn gyffredinolfod yn debyg i gwm? Yn hardd, ie, ar unwedd, ond yn hynod gyfyng ei gweledigaethmewn mwy nag un ystyr. Mae gennymEfengyl fawr sy’n cynnwys y byd hwn a’rbyd a ddaw, a hynny am y rheswm syml bodgennym Waredwr mawr yn Iesu Grist, sydd,drwy ei farw a’i atgyfodiad wedi agor drws ini i fywyd sy’n para am byth. Hynny yw,mae sbectrwm yr Efengyl mor fawr ac morllydan, ac eto cyfyngu wnawn ni arni. Ac ymae’n Efengyl sy’n cynnwys yr holl fyd, yncynnwys ei wleidyddiaeth a’i ddiwylliant obob math ac yn cynnig newid syfrdanol i’rffordd yr edrychwn ar fywyd. Ein braintfelly yw bod yn eang, ac yn eangfrydig.

Er hynny, ewch am dro i Bennant acYstradllyn!

Iwan Llewelyn

Dyma ran gyntaf ysgrif gan y Parchg CasiJones lle mae’n ystyried arwyddocâd a gwerthyr Hen Destament i ni fel Cristnogion

Un o fwriadau cynllun Y Ffordd yw rhoi cyfle ibobl drafod y ffydd, i ddadlau ac i godicwestiynau. Fel y bydd llawer ohonoch yngwybod o brofiad erbyn hyn, mae’r Beibl, a’nhagwedd ni ato wedi bod yn ganolog yn ystody flwyddyn gyntaf yma o’r cynllun. Rhaicwestiynau gododd yn un o’r grwpiau ynddiweddar oedd: ydy ni angen yr HenDestament fel Cristnogion? Onid pobl yTestament Newydd ydyn ni fel Cristnogion?Pam felly cadw’r Hen Destament? Wrth gwrs,roedd y cwestiynau yma’n hynod o ddiddorol achawsom drafodaeth ddifyr ar y pwnc. Wedimynd adre gosodaisl her i mi fy hun, sef, dod ohyd i 15 rheswm pam fod cadw’r HD ynbwysig i ni fel Cristnogion. Os ydych chi feldarllenwyr yn gallu meddwl am fwy ohonynt,beth am yrru gair i’r Tyst er mwyn ychwaneguat y rhestr?

1. Gair DuwFedrwn ni ddim cael gwared â’r HenDestament gan ei fod yn rhan o’r Beibl sy’ncael ei gyfrif fel ‘Gair Duw’. Er bodawduron dynol wedi bod â rhan yn y casglua’r ysgrifennu, y mae’r Beibl wedi eiysbrydoli gan Dduw ar bob rhan o’r daith.Mae Duw am siarad â ni drwy’r cyfanmewn ffordd arbennig.

2. CanonDros amser, ffurfiwyd yr hyn a elwir yn

Ganon yr Hen Destament ac ynddiweddarach penderfynwyd ar y niferpenodol o lyfrau oedd i’w cynnwys yn yTestament Newydd oedd gyda’i gilydd ynffurfio’r Beibl ac yn cael eu hystyried felGair Duw. Ni allwn wyrdroi penderfyniadauwnaed gan ein rhagflaenwyr yn y ffydd arfympwy.

3. Yr Eglwys ForeRoedd yr Eglwys Fore yn defnyddiofersiwn Roegaidd o’r Hen Destament felrhan o’u bywyd a’u haddoliad. Maegeiriau’r HD felly wedi bod yn rhan ofywyd yr eglwys ers y dechrau.

4. Deall Duw Mae’r HD yn sylfaen i ni ddeall pethaupwysig am Dduw, e.e., sut un yw e, sutmae’n ymwneud â phobl. Wrth gwrs, rydymyn gwybod mai Iesu Grist yw’r datguddiadllawnaf i ni o sut un yw Duw ond mae’r HDyn gosod y sylfaen.

5. Deall ein hunain Mae’r HD yn help i ni ddod i ddeall einhunain a’n pwrpas fel dynoliaeth. Gwelwnar y naill law ein bod wedi ein creu ar lun adelw Duw ac yn stiwardiaid ei fyd, ond ar yllaw arall, gwelwn sut y llygrwyddynoliaeth gan bechod gan ddryllio delwDuw ynom.

6. Deall Cyfeiriadaeth Mae’r TN yn gyforiog o gyfeiriadau at yrHD lle mae addewid am ddyfodiad yMeseia. Fedrwn ni ddim deall awduron yrEfengylau na’r hyn a ddywedir am yrArglwydd Iesu yn y TN heb edrych ar ycefndir yn yr HD

Casi Jones

Diddymu’r Hen Destament?

Page 4: tudalen 8 Pˆˇ ˛ % ˇ ˚ˆ sG( ˇˆ ’ ˇ!˚ Mehefin 1, 2017 - Annibynwyr · 2017. 6. 23. · tudalen 2 Pˆˇ ˛" % ˇ ˚ˆ sG( ˇˆ ’ ˇ!˚ Mehefin 1, 2017 yr ysgrifennwyd Llyfr

Mehefin 1, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT

Barn AnnibynnolTanchwa Manceinion

Ysgrifennaf lai na dau ddiwrnod wedi’rdanchwa erchyll ym Manceinion. Plant,ieuenctid, a’u rhieni a’u teuluoedd, wedidod at ei gilydd am noson o hwyl,mwynhad a dathlu yng nghwmni ArianaGrande. Un o ddigwyddiadau mawr ybywydau ifanc hyn. Yn ôl un o’i chydgantorion, ‘This was meant to be a safe

place’. Dau ddeg dauwedi eu lladd hyd ynhyn, un ohonynt ondyn wyth mlwydd oed;a nifer sylweddol wedieu clwyfo, rhaiohonynt yn ddifrifoliawn; nifer ar goll ohyd; a channoedd oblant a’u rhieni wedieu brawychu’n llwyr.Roedd Salman Abedi,y dyn ifanc 22 mlwydd oed a chwythodd eihunan i fyny i greu’r gyflafan hon, wedi eieni a’i fagu ym Manceinion a bellachroedd yn fyfyriwr. Ond daeth o danddylanwad terfysgwyr yn Libya a, mwy nathebyg, fe luniodd y bom ei hunan. Sut yny byd y mae dyn ifanc fel hwn yn medrueistedd i lawr i gynllunio lladd plant acieuenctid diniwed a lladd ei hunan (gandwyllo’i hunan fod paradwys yn ei aros) yrun pryd? Mae’n debygol bellach bod ynaeraill sy’n rhan o’r un rhwydwaith hon.Felly, ar y noson wedi’r drasiedicyhoeddodd y Prif Weinidog fod ybygythiad wedi ei uwchraddio i’r mwyafdifrifol posibl (‘critical threat’).

Ymateb Rhyfeddol

Sut mae ymateb i drasiedi fel hon? Bullawer o’r ymatebion hyd yn hyn (sef, dauddiwrnod wedi’r digwyddiad) yn rhyfeddol.Gwelwyd caredigrwydd mawr yn unionwedi’r danchwa gan ddieithriaid oedd yndigwydd bod yno ar y pryd; cafwydymateb unionsyth, yn unol â’r cynllunio afu ar gyfer union argyfwng fel hwn, gan ygwasanaethau argyfwng sy’n gorfod delioag erchyllterau enbyd ar ein rhan; maecymunedau wedi closio at ei gilydd ac at yteuluoedd sydd wedi dioddef; maecymunedau ffydd wedi cydweithio â’igilydd i gynnig cysur a chefnogaeth. Maedigwyddiad enbyd fel hwn yn dod â’rgorau yn ein dynoliaeth gyffredin i’r wynebyn aml. Bydd bugeilio’r teuluoedd a’rcymunedau a effeithiwyd yn gorfodparhau am amser hir wedi i’r cyfryngauanghofio a bydd y Llywodraeth, pa liwbynnag fydd arni, yn gorfod adolygustrwythurau diogelwch yn y gwledydd hynunwaith eto, yn enwedig ar gyferdigwyddiadau mawr fel y cyngerdd hwn.

Ymateb Annynol

Mae rhai – fel y gellid disgwyl - wediymateb yn hollol eithafol gan ofyn amgaethiwo miloedd ar filoedd allai fod (‘allaifod’ sylwch!) yn fygythiad, p’un a oes

tystiolaeth yn eu herbyn ai peidio ‘er mwyncadw’n plant yn ddiogel’. Yn wir, galwoddun gohebydd am ‘final solution’ gydagatseiniau o sloganau Natsïaidd yn amlwg(fe newidiodd y geiriad wedyn i ‘truesolution’, ond roedd y drwg wedi eiwneud). Mae pob eithafiaeth yn wrthunmewn cymdeithas wâr. Nid yw creulondebannynol rhai byth yn cyfiawnhau ymatebannynol gan y wladwriaeth nac unigolion odan unrhyw amgylchiadau.

Undod Dynoliaeth

Ond oes yna egwyddorion Cristnogolpenodol ddylai fod yn greiddiol mewncymdeithas wâr? Oes, mae’n siŵr. Yngyntaf oll, y mae dynoliaeth yn un. Oniddyna un o negeseuon grymus araith Paulyn yr Areopagus yn Athen: ‘(Duw) ei hunsy’n rhoi i bawb fywyd ac anadl a’r cwbloll. Gwnaeth ef hefyd o un cyff yr hollgenhedloedd, i breswylio ar holl wyneb yddaear…’ (Actau 17.25-26). Yr ydym ynperthyn i’n gilydd fel pobl o bob cenedl ahil, diwylliant a chrefydd. Fel perthnasau,rhaid i ni arddel ein gilydd, gofalu dros eingilydd, caru’n gilydd, a hynny deued addelo. Adeg yw hon i feithrin cytgord acnid i greu rhaniadau a gelyniaeth. Adeg ywhon i gofio fod tosturi yn un: y mae pawbyn ddiwahân yn haeddu tosturi.

Rhyddid

Yn ail, y mae rhyddid yn un. Os oes gen ihawl i ryddid, mae gan bawb arall hefyd,pwy bynnag ydynt, yr un hawl i ryddid onibai bod yna dystiolaeth glir eu bod wedibradychu eu rhyddid a thrwy hynny gollieu hawl iddo. Ond os digwydd hyn, rhaid ibob carcharu gael ei gyflawni ar sailtystiolaeth glir a thrwy drefn gyfiawn achyfartal y gyfraith. Nid ydym byth ynrhydd i gymryd y gyfraith i’n dwylo’nhunain fel unigolion na chymunedau.

Cyfiawnder

Yn drydydd, y mae cyfiawnder yn un. Niallwn sefyll dros a galw am gyfiawnder i nioni bai ein bod yn barod i sefyll dros agalw am gyfiawnder i bawb. Un rheswmdros rai o’r erchyllterau sy’n digwydd ardraws y byd yw’r anghyfiawnder a’rgorthrwm a brofir gan gynifer o’nchwiorydd a’n brodyr. Ond nid ywanghyfiawnder byth, byth yn medrucyfiawnhau trais a chreulondeb a lladd ydiniwed.

Duw

Yn olaf, i ni fel pobl ffydd, onid oes unegwyddor – neu efallai’n well – un gredsy’n sail a sylfaen i hyn oll? Y mae Duw ynun. Y mae eithafwyr crefyddol – bethbynnag yw eu crefydd – yn ceisio’n cael igredu mai eu dirnadaeth hwy o Dduw ynunig sy’n ddilys ac mae eu tasg ywamddiffyn y ‘Duw’ hwnnw rhag gelynionanghrediniol o grefyddau eraill. Ond niddyma’n ffydd ni fel Cristnogion. Yngngeiriau Paul at yr Effesiaid, oeddent ynbyw mewn cymdeithas aml-ffydd ac aml-grefyddol: ‘un Duw’ sydd ac y mae’n‘(Dad) i bawb, …(y mae) goruwch pawb, athrwy bawb, ac ym mhawb’ (Effesiaid 4.6).

YSGoL HAF Y GWEINIDoGIoN

Mehefin 26-28, 2017Canolfan Halliwell

Coleg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Caerfyrddin

Prif thema: Dathliadau 2017

Cadeirydd: Jill Hailey-Harries

Dydd Llun 264.00 Cyrraedd, cofrestri, coffi5.00 Darlith a thrafodaeth: Densil Morgan

– Martin Luther.6.30 Swper 7.30 Darlith Goffa W. T. Pennar Davies ac

R.Tudur Jones: Eryn White –Wiliams Pantycelyn

9.00 Epilog

Dydd Mawrth 27: 8.00 Brecwast9.00 Defosiwn9.15 Astudiaeth Feiblaidd: R. Alun Evans

10.30 Coffi11.00 Darlith a thrafodaeth: Alun Tudur –

Y Diwygiad Radical12.30 Cinio1.30 Prynhawn rhydd: trip dan ofal Jill a

Guto5.00 Coffi 5.30 Cyfarfod Busnes6.30 Swper7.30 Atgofion: Howell Mudd9.00 Epilog

Dydd Mercher 28:8.00 Brecwast9.00 Defosiwn9.15 Astudiaeth Feiblaidd: R. Alun Evans

10.30 Coffi11.00 Darlith a thrafodaeth ar lyfrau:

Alun Lenny – Llyfrau Dadlennol12.30 Cinio

Credwn ni fod datguddiad Duw yn IesuGrist yn rhoi i ni, mewn modd unigryw,ddirnadaeth lawnach a dyfnach o Dduw.Ond un Duw sydd ac fe’n gelwir, feldeiliaid y crefyddau Abrahamaidd,Iddewiaeth, Mwslemiaeth aChristnogaeth, yn fwyaf arbennig, i arddelein gilydd a chydnabod ein gilydd, drwy’nholl wahaniaethau, fel brodyr a chwioryddi’n gilydd. Oni bai ein bod yn glynu at yffydd greiddiol hon mewn un Duw byddrhai yn mynnu hyrddio’r byd sy’n gartref ibawb ohonom i’r erchylltra ofnadwy anodweddir gan y bomio ym Manceinion.

Glynu’n ddiwyro at lwybr cytgord,cyfiawnder a chymod yw’r unig ffordd, yngngeiriau carol wych Jane Ellis, y bydd ‘eindaear o’r diwedd yn aelwyd gyfannedd ifyw’ heb fod ynddi ‘genfigen na chynnwrfna chynnen’ ac y cawn, ‘drigolion ygwledydd… rodio yn hafddydd y nef.’Boed felly!

Noel Davies(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o

reidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr

Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)Noel A. Davies


Recommended