Upload
yradranddaearyddiaeth
View
628
Download
4
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Citation preview
Dyma sydd angen i chi eu hadolygu:
Syniad Allweddol 1 Newid naturiol mewn poblogaeth:
Y Model Trawsnewid demograffig – cofiwch bod Cam 5 wedi ei ychwanegu yn fwy diweddar fel mae newidiadau mewn poblogaeth yn addasu.
Syniad allweddol 2Mae’r ffactorau sy’n
dylanwadu ar amrywiadau mewn
ffrwythlondeb a marwoldeb yn rhai:
(a) demograffig; (b) economaidd; (c) cymdeithasol a
diwylliannol; (ch) gwleidyddol; (d) amgylcheddol.
(a) Strwythur oedran a rhyw.
(b) Fforddiadwyedd iechyd ac addysg.
(c) Traddodiadau a chrefydd.
(ch) Rhyfel, polisïau poblogaeth, gan gynnwys mudo.
(d) Peryglon naturiol. Adeiledig (trefol v gwledig)
Syniad allweddol 3 Mae strwythur poblogaeth gwledydd yn
amrywio o ran lle maent yng nghamau y model trawsnewid demograffig. Mae eu pyramidiau poblogaeth (strwythur oed a rhyw) a chymharebau dibynniaeth yn amrywio (angen dysgu’r rhain, a ffigyrau a ffeithiau am eu poblogaethau):
Poblogaeth sy’n ehangu – Kenya, India Poblogaeth sy’n sefydlogi – y Deyrnas Unedig Poblogaeth sy’n gostwng – yr Eidal
Syniad allweddol 4 Mae nodweddion demograffig gwledydd yn
cyflwyno sialensau a chyfleoedd:(a)gweithlu sy’n lleihau a dibyniaeth yr
oedrannus – yr Eidal;(b)gweithlu sy’n ehangu a dibyniaeth yr ifanc
– India, Kenya.
Syniad allweddol 1(a) Mae’r broses o wrth-drefoli yn symudiad
rhanbarthol o bobl a chyflogaeth o ardaloedd trefol i ardaloedd gwledig
(b) Canlyniad gwrth-drefoli sef bod y gwahaniaeth rhwng nodweddion ardaloedd trefol a gwledig yn mynd yn gynyddol aneglur.
Gwrthdrefoli – Penrhyn Gwyr, De-Swydd Amwythig, Meisgyn.
Syniad allweddol 2Gellir esbonio achosion twf poblogaeth a
chyflogaeth mewn un rhanbarth gwledig trwy:
(a) datblygiadau technolegol mewn cludiant a chyfathrebu
(b) dirnadaethau newidiol o ansawdd berthnasol bywyd mewn ardaloedd trefol a gwledig
(c) atyniad cynyddol ardaloedd gwledig ar gyfer busnesau.
De Swydd Amwythig, Meisgyn, Pentref tele-gymudo Crughywel.
Syniad allweddol 3O fewn un ardal wledig, gall natur a maint y
newidiadau mewn poblogaeth a chyflogaeth amrywio mewn perthynas â:
(a) agosrwydd a hygyrchedd canolfan drefol;Penrhyn Gwyr, De Swydd Amwythig. (b) ansawdd golygfaol yr amgylchedd;Penrhyn Gwyr, De Swydd Amwythig, Eryri, Ardal
y Llynoedd. (c) penderfyniadau cynllunio;Penrhyn Gwyr, De Swydd Amwythig, Eryri, Ardal
y Llynoedd.
Syniad allweddol 4Mae canlyniadau pwysig i’r newidiadau sy’n digwydd mewn
ardaloedd gwledig.(a)Gall newidiadau mewn aneddiadau mewn un ardal wledig fod
wedi arwain at wrthdaro rhwng newydd-ddyfodiaid a thrigolion sefydledig.Llanuwchllyn
(a)Mae gan y galw cynyddol am le yn y wlad ar gyfer adloniant a hamdden mewn un ardal wledig, effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol; mae’r rhain yn aml yn arwain at wrthdaro.De Swydd Amwythig, Ardal y Llynoedd
(a)Mae astudiaeth o un polisi cynllunio i leihau gwrthdaro yn dangos yr angen am gydbwyso gofynion defnyddwyr tir gwahanol mewn ardaloedd gwledig.Ardal o Harddwch Naturiol De Swydd Amwythig,
Parc Cenedlaethol Ardal y Llynoedd
Syniad allweddol 1 Mae symudiad poblogaeth o fewn un ardal
drefol yn anochel yn arwain at batrymau gofodol o amddifadiad ac arwahanu.
Paris – llinfap anodedig o batrymau mudo o fewn y ddinas, a llinfap anodedig o batrymau amddifadedd ac arwahanu.
Syniad allweddol 2Mae’r rhesymau dros amddifadiad ac
arwahanu yn rhai: (a) demograffig; (b) economaidd; (c) diwylliannol; (ch) gwleidyddol.Mae’n bosibl adnabod rhesymau gwirfoddol a
rhai a orfodwyd.Paris, Le Marais, Belleville, St Denis, La Defense,
Arrodissement 16 ac ati (llinfapiau anodedig mudo ac arwahanu/amddifadedd).
Syniad allweddol 3Mae dirywiad yn y craidd a maestrefoli yng
nghyrion trefol gwledig un ardal drefol GMEDd yn adlewyrchu newid o ran lleoliad:
(a) y boblogaeth – Creteil, La Defense, St Denis;
(b) manwerthu – La Defense;(c) gweithgynhyrchu – cyrion Paris.
Syniad allweddol 4Mae gwneuthurwyr penderfyniadau trefol mewn un
ardal drefol wedi gweithredu nifer o bolisïau i fynd i’r afael â phroblemau amddifadiad a dirywiad.
Mae’r polisïau hyn yn anelu at wneud dinasoedd yn amgylcheddau deniadol i weithio a byw ynddynt ac maent ynghlwm â gwelliannau i’r:
(a) amgylchedd economaidd; (b) amgylchedd ffisegol; (c) amgylchedd dynol.Mae barn am lwyddiant polisïau o’r fath sy’n mynd i’r
afael â phroblemau mewn un ardal drefol, yn amrywio yn ôl gwahanol ddiddordebau a blaenoriaethau.
Les Halles, Fronts de Seine, (Le Marais, La Villette).