Cynhelir etholiadau lleol fis Mai 2017 - Ydych chi'n gwybod digon?

Preview:

Citation preview

Cynhelir etholiadau lleol fis Mai 2017

Ydych chi’n gwybod digon?

Ym mis Mai, bydd gofyn ichi ethol cynghorwyr lleol i’ch cynrychioli yn eich cyngor sir (sydd hefyd yn cael ei alw’n awdurdod lleol).

Bydd gofyn ichi hefyd ethol cynghorwyr i’ch cynrychioli yn eich cyngor tref neu gymuned.

Gallai ein data swyddogol, annibynnol ni eich helpu . . .

Adnodd 1: Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru Gallwch ddefnyddio’r adnodd hwn i gymharu 8 math gwahanol o amddifadedd mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru.

Teipiwch “wimd.wales.gov.uk” yn eich porwr gwe a rhowch eich cod post yn y blwch:

Bydd hyn yn arwain at fap sy’n dangos yr Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is lle’r ydych chi’n byw.Ardal fach yw hon gyda phoblogaeth o tua 1,600.

Mae data ar y lefel hon yn berthnasol ar gyfer yr etholiadau cyngor tref/cymuned.

Fel arall, gallwch ddewis Awdurdod Lleol.

Mae hyn yn gadael ichi weld yr wybodaeth sy’n berthnasol ar gyfer yr etholiadau awdurdod lleol:

Gallwch glicio ar ardaloedd eraill o’r map i gymharu ag awdurdodau eraill.

Gallwch ddewis pa fath o amddifadedd yr hoffech ei ystyried.

Adnodd 2: Perfformiad Gwasanaethau Awdurdod Lleol

Gallwch ddefnyddio’r adnodd hwn i weld sut mae eich awdurdod lleol yn perfformio.

Dewiswch bwnc: Dewiswch ddangosydd:

Ewch i wefan Perfformiad Gwasanaethau Awdurdod Lleol:

• Gweld y data

• Cymharu’r data• Gweld y data dros

amser• Trefnu’r data

Adnodd 3: Fy Ysgol Leol

Gallwch ddefnyddio’r adnodd hwn i weld gwybodaeth am yr ysgolion yn eich ardal leol sydd dan reolaeth yr awdurdod lleol.

Dewiswch y math o ysgol ac yna teipiwch eich cod post:

Gallwch weld data yr ysgolion yn eich ardal leol:

Ewch i wefan Fy Ysgol Leol

Recommended