View
2
Download
0
Category
Preview:
Citation preview
Penaethiaid, athrawon ac ymarferwyr mewnlleoliadau Cyfnod Sylfaena ariennir, ysgolion cynradd, ysgolion arbennig, a staff awdurdodau lleol aGwasanaethau Plant
Agweddau cymdeithasol acemosiynol ar ddysgu – Cymru
Thema 1 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
Cynradd
Dyddiad cyhoeddi: 09-2010
Cyf: 1323-2010-CYMRU
Ymwadiad
Dymuna’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ddatgan yn glir nad yw’r Adran
a’i hasiantiaid yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am union gynnwys unrhyw ddeunyddiau a gaiff
eu hawgrymu’n ffynonellau gwybodaeth yn y cyhoeddiad hwn, boed y deunyddiau hynny ar
ffurf cyhoeddiadau print neu ar wefan.
Yn y deunyddiau hyn caiff eiconau, logos, meddalwedd a gwefannau eu defnyddio am
resymau cyd-destunol ac ymarferol. Nid yw’r ffaith eu bod nhw’n cael eu defnyddio’n
golygu bod cwmnïau penodol na’u cynnyrch yn cael eu cymeradwyo.
Roedd y gwefannau y cyfeirir atynt yn y deunyddiau hyn yn bodoli pan gafodd y
deunyddiau eu cyhoeddi. Dylech wirio pob cyfeiriad at wefan yn ofalus er mwyn gweld
a ydynt wedi newid, a dylech eu cyfnewid am gyfeiriadau eraill lle bo hynny’n briodol.
Set Las – y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3 i 7 oed
Cyflwyniad
Mae’r set Las wedi’i rhannu’n bedair elfen, wedi’u gosod yn nhrefn datblygiad o 1 i 4. Mae’r
rhain yn cyfeirio at Feysydd Dysgu tebyg y Cyfnod Sylfaen. Bydd ymarferwyr yn ymwybodol
o’r gwahanol gamau datblygu bydd plant yn y lleoliad/ysgol wedi’u cyrraedd o ran eu dysgu
a bydd yn rhaid iddyn nhw bwyso a mesur pa elfen sy’n briodol iddyn nhw. Mae’n bosib
hefyd y byddan nhw am ddefnyddio rhai rhannau o’r set Felen (sydd wedi’i hanelu at
Flynyddoedd 3 a 4).
Mae’r thema hon, Dechrau newydd, yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, gwybodaeth adealltwriaeth plant mewn pedair prif agwedd gymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu:
• empathi
• hunanymwybyddiaeth
• sgiliau cymdeithasol
• cymhelliant.
Mae’r thema’n rhoi cyfle i blant weld eu hunain fel unigolion a werthfawrogir o fewn cymuned,
ac i gyfrannu at siapio cymuned ddysgu sy’n groesawgar, yn deg ac yn ddiogel i bawb. Drwy
gydol y thema, bydd y plant yn archwilio teimladau o hapusrwydd, cyffro, tristwch, pryder ac
ofn, wrth ddysgu (a gweithredu) modelau a rennir ar gyfer ‘ymdawelu’ a ‘datrys problemau’.
Disgrifir y deilliannau dysgu bwriedig ar gyfer y Cyfnod Sylfaen isod a thros y dudalen.
Deilliannau dysgu bwriedig
Elfennau 1 a 2
1
Caiff plant sawl cyfle i werthfawrogi a dathlugwahaniaethau ac i ddeall sut beth yw perthyn igrŵp a pha mor bwysig ydyw. Byddan nhw’nystyried sut gall pawb gael cymorth i deimlo’nddiogel ac yn hapus yn y lleoliad, ac i ddeall y drefna’r disgwyliadau yno.
Byddan nhw’n cael cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliaucymdeithasol angenrheidiol ar gyfer gweithio mewngrŵp.
Perthyn Dwi’n gwybod fy mod yn perthyn i fy ngrŵp/dosbarth.Dwi’n adnabod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth. Dwi’n hoffi fy mod yn perthyn i fyngrŵp/dosbarth/lleoliad/ysgol. Dwi’n gwybod bod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth yn fy hoffi. Dwi’n hoffi sut mae pob un ohonom yn wahanol.
Hunanymwybyddiaeth Dwi’n gallu dweud rhywbeth arbennig amdanaf i.
Deall fy nheimladau Dwi’n gallu dweud os wyf yn hapus neu’n drist. Dwi’n gallu rhoi gwybod i chi os wyf yn teimlo’nhapus, yn llawn cyffro, yn drist neu’n ofnus. Dwi’n gwybod ei bod yn iawn i ni gael teimladau ondnad yw’n iawn ymddwyn mewn unrhyw ffordd yrhoffwn (os yw’n brifo pobl eraill).
Disgrifiad Deilliannau dysgu bwriedig
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
2
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
Byddan nhw’n edrych ar y teimladau craidd sefhapusrwydd, cyffro, tristwch ac ofn ac yn dysguffyrdd o adnabod a labelu’r teimladau hyn, ganwahaniaethu rhwng teimladau cysurus acanghysurus. Byddan nhw’n gwybod bod pawb yngallu teimlo’r un emosiynau, ond nid yn yr unsefyllfaoedd bob tro. Byddan nhw’n cael cyfleoedd i ddatblygu empathi a cheisio gweld beth ywteimladau pobl eraill.
Byddan nhw’n gwybod sut gall ein gweithredoeddeffeithio ar deimladau pobl a bod pob teimlad yniawn ond nid yw pob gweithred yn iawn. Byddannhw’n cael cyfleoedd i ddysgu ymdawelu a dysgustrategaethau syml ar gyfer rheoli ofn a gofid.
Rheoli fy nheimladau Dwi’n gwybod am rai ffyrdd o ymdawelu pan dwi’nteimlo’n ofnus neu’n ofidus.
Deall teimladau pobl eraill Dwi’n gwybod bod gan bawb yn y byd deimladau.
Sgiliau cymdeithasol Dwi’n gallu rhannu mewn grŵp/dosbarth. Dwi’n gallu cymryd tro mewn grŵp/dosbarth. Dwi’n gallu ymuno â phlant eraill wrth chwarae gêm. Dwi’n gwybod sut mae bod yn garedig wrth bobl sy’nnewydd neu sy’n ymweld â’r lleoliad/ystafell ddosbarth.
Deall hawliau a chyfrifoldebau Dwi’n gwybod beth i’w wneud yn fyngrŵp/dosbarth/lleoliad/ysgol.
Disgrifiad Deilliannau dysgu bwriedig
Caiff plant gyfleoedd i werthfawrogi a dathlugwahaniaethau a thebygrwydd rhyngddyn nhw ac ibrofi cymaint o gefn yw perthyn i grŵp/dosbarth achael eich gwerthfawrogi gan y grŵp/dosbarthhwnnw.
Caiff y plant gyfleoedd i fod yn rhan o siapioamgylchedd y lleoliad/ystafell ddosbarth, gan helpupawb i gyd-dynnu a dysgu, helpu i wneud ygymuned yn un groesawus a deall hawliau achyfrifoldebau yn y lleoliad/ystafell ddosbarth.
Bydd plant yn canolbwyntio ar y teimladau cysurus ofod yn perthyn i grŵp/dosbarth, gan ddathlugwahaniaethau ac edrych mwy ar hapusrwydd achyffro, tristwch ac ofn. Byddan nhw’n caelcyfleoedd i ddatblygu empathi at blant sy’n newyddneu sy’n teimlo’n drist neu’n ofnus, a meddwl amffyrdd o’u cefnogi.
Byddan nhw’n defnyddio sgiliau datrys problemau igreu atebion, penderfynu ar gamau gweithredu, eurhoi ar waith a’u hadolygu, ac edrych ar ffyrdd o reolieu teimladau drwy ymdawelu.
Perthyn Dwi’n gwybod fy mod yn perthyn i gymuned.
Dwi’n teimlo’n ddiogel ac yn fodlon yn fyngrŵp/dosbarth.
Dwi’n teimlo’n dda am y ffyrdd rydym yn debyg yn ygrŵp/dosbarth a’r ffyrdd yr ydw i’n wahanol.
Dwi’n gwybod sut mae gwneud i rywun deimlo bodcroeso iddyn nhw.
Hunanymwybyddiaeth Dwi’n gallu dweud wrthych chi pa mor debyg i’mffrindiau ydw i a pha mor wahanol.
Dwi’n teimlo’n dda ynghylch fy nghryfderau.
Rheoli fy nheimladau Rydw i’n gwybod am rai ffyrdd o ymdawelu pan rwyfyn teimlo’n ofnus neu’n ofidus.
Deall teimladau pobl eraill Dwi’n gallu dweud weithiau os yw pobl eraill ynteimlo’n drist neu’n ofnus a dwi’n gwybod sut maegwneud i bobl deimlo’n well.
Gwneud dewisiadau Dwi’n gwybod am rai ffyrdd o ddatrys problem.
Deall hawliau a chyfrifoldebau Dwi’n gwybod beth mae’n rhaid i mi ei wneud ermwyn gwneud y dosbarth/lleoliad/ysgol yn lle diogel a theg i bawb, ac nad yw’n iawn i bobl eraill ei wneudyn anniogel neu’n annheg.
Dwi’n gallu helpu i wneud fy ngrŵp/dosbarth yn lle da i ddysgu.
Disgrifiad Deilliannau dysgu bwriedig
Elfennau 3 a 4
3
Deilliannau dysgu: canllawiau cwricwlwm ar gyfer y Cyfnod Sylfaen
Ceir cyfleoedd i ddatblygu’r agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu (ACEDd) ym
mhob un o Feysydd Dysgu’r Cyfnod Sylfaen. Dylid nodi deilliannau dysgu drwy arsylwi
ymddygiad dysgu o fewn darpariaeth barhaus y Cyfnod Sylfaen.
Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
Dyma’r cysylltiadau penodol gyda Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac
Amrywiaeth Ddiwylliannol.
Sylwer: Rhaid pwysleisio er bod gan ACEDd y potensial i gyfrannu at y Maes Dysgu hwn,ceir elfennau eraill o fewn Sgiliau ac Ystod mae angen rhoi sylw iddyn nhw hefyd o fewn y
rhaglen a gynlluniwyd ar gyfer y lleoliad/ysgol.
Sgiliau
Datblygiad personol
Dylid rhoi cyfleoedd i blant:
• fynegi a chyfleu gwahanol deimladau ac emosiynau – rhai eu hunain yn ogystal â rhaipobl eraill
• dangos chwilfrydedd a datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu a phrofiadau newydd
• mentro a thyfu’n chwilotwyr hyderus yn eu hamgylchedd dan do ac yn yr awyr agored
• dod yn feddylwyr ac yn ddysgwyr annibynnol
• datblygu ymwybyddiaeth o’r hyn y maent yn ei wneud yn dda, a deall sut y gallant wellaeu dysgu a defnyddio adborth i wella eu gwaith
• gwerthfawrogi eu gwaith dysgu, eu llwyddiant a’u cyraeddiadau eu hunain yn ogystal ârhai pobl eraill.
Datblygiad cymdeithasol
Dylid rhoi cyfleoedd i blant:
• fod yn ymwybodol o anghenion pobl eraill a’u parchu
• cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain
• ystyried goblygiadau geiriau a gweithredoedd iddynt hwy eu hunain ac eraill
• datblygu dealltwriaeth o ddisgwyliadau’r lleoliad/ysgol o ran ymddygiad, a deall bodrheolau’n hanfodol mewn cymuned drefnus
• datblygu dealltwriaeth o’r hyn sy’n deg ac yn annheg, a bod yn barod i gyfaddawdu
• ffurfio perthnasoedd a theimlo’n ddigon hyderus i gyd-chwarae a chydweithio ag eraill
• gwerthfawrogi ffrindiau a theuluoedd, a dangos gofal a bod yn ystyriol
• deall yr hyn sy’n gwneud ffrind da
• datblygu hunanddelwedd gadarnhaol ac ymdeimlad o berthyn fel aelod o wahanolgymunedau, a deall eu Cymreictod eu hunain
• datblygu ymwybyddiaeth o ddiwylliannau gwahanol ac anghenion, safbwyntiau achredoau amrywiol pobl eraill sy’n perthyn i’w diwylliant hwy a diwylliannau eraill
• trin pobl o bob cefndir diwylliannol mewn modd sy’n dangos parch a goddefgarwch.© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
Datblygiad moesol ac ysbrydol
Dylid rhoi cyfleoedd i blant:
• ymateb i syniadau a chwestiynau’n frwdfrydig, yn sensitif, yn greadigol ac yn reddfol
• siarad am yr hyn sy’n dda ac yn ddrwg, yn gywir ac yn anghywir, yn deg ac yn annheg,yn ofalgar ac yn anystyriol
• siarad am y penderfyniadau a wneir mewn storïau neu sefyllfaoedd, neu benderfyniadaupersonol, a myfyrio yn eu cylch gan awgrymu ymatebion eraill
• ymateb yn bersonol i sefyllfaoedd moesol dychmygol syml gan roi rhesymau dros ypenderfyniadau a wneir
• defnyddio storïau neu sefyllfaoedd i godi cwestiynau ynghylch pam y mae rhai pethau’narbennig
• mynegi syniadau a theimladau yn greadigol, gan esbonio pam eu bod yn arwyddocaol
• siarad am y dewisiadau sydd ar gael i unigolion, a thrafod p’un a yw’r dewisiadauhynny’n golygu bod gwneud penderfyniad yn haws neu’n fwy cymhleth
• gofyn cwestiynau ynghylch sut a pham y dylid trin pethau arbennig â pharch ac ymatebyn bersonol
• gofyn cwestiynau ynghylch beth sy’n bwysig mewn bywyd o safbwynt personol ac osafbwynt pobl eraill.
Lles
Dylid rhoi cyfleoedd i blant:
• werthfawrogi eu lles eu hunain a lles pobl eraill, a chyfrannu ato
• bod yn ymwybodol o’u teimladau eu hunain a datblygu’r gallu i’w mynegi mewn fforddbriodol
• deall y berthynas rhwng teimladau a gweithredoedd, a deall bod gan bobl eraill deimladau
• dangos gofal, parch a hoffter at blant eraill, oedolion a’u hamgylchedd
• datblygu diddordeb cynyddol yn y byd o’u cwmpas a deall yr hyn sydd gan euhamgylchedd i’w gynnig iddynt pan fyddant yn chwarae ar eu pen eu hunain a gydag eraill
• gofyn am gymorth pan fo’i angen.
Ystod
Trwy gydol y Cyfnod Sylfaen, dylid rhoi cyfleoedd i blant ddatblygu eu sgiliau, eu
gwybodaeth a’u dealltwriaeth trwy gymryd rhan mewn ystod o brofiadau, gan gynnwys:
• gweithgareddau mewn amgylcheddau dysgu a geir dan do ac yn yr awyr agored
• gwahanol fathau o weithgareddau chwarae ac ystod o weithgareddau a gaiff eucynllunio, gan gynnwys y rheiny a gychwynnir gan y plant
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt fabwysiadu ystod o rolau, gan gynnwys rôlarweinydd mewn grŵp bach, gwaith dysgu mewn pâr neu waith a wneir mewn tîm
• gwahanol adnoddau megis adnoddau printiedig a rhyngweithiol
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt dyfu’n ddysgwyr annibynnol
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt ddefnyddio eu synhwyrau a bod yn greadigol adychmygus4
5
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt gyfleu eu syniadau, eu gwerthoedd a’u credoaumewn perthynas â hwy eu hunain, pobl eraill a’r byd
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt ddatrys problemau a thrafod canlyniadau
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt deimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eugwerthfawrogi
• gweithgareddau sy’n cyfrannu at eu diogelwch eu hunain
• gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt wneud dewisiadau iach, a datblygu a deall eu cyrffeu hunain a sut y gallant eu cadw’n ddiogel ac yn iach.
Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru
Mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i blant ddatblygu’r sgiliau meddwl a
chyfathrebu a amlinellwyd yn y Fframwaith sgiliau ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yngNghymru. Dyma’r cysylltiadau penodol yn y set hon.
Datblygu meddwl ar draws y cwricwlwm
Cynllunio Gofyn cwestiynau
Datblygu Meddwl am syniadau a’u datblygu.
Meddwl am achos ac effaith, a dod i gasgliad
Llunio barn a gwneud penderfyniadau
Myfyrio Gwerthuso eu dysgu a’u meddwl eu hunain
Datblygu cyfathrebu ar draws y cwricwlwm
Llafaredd Datblygu gwybodaeth a syniadau
Darllen Ymateb i’r hyn a ddarllenwyd
Sgiliau cyfathrebu ehangach Cyfleu syniadau ac emosiynau
Cynllunio
Er mwyn helpu gyda’r gwaith cynllunio, mae’r math o ddysgu ac addysgu sy’n gysylltiedig â
phob cyfle dysgu yn cael ei ddangos gan eiconau ar ochr chwith y llyfr hwn.
Ar gyfer Elfennau 1 a 2
Dan arweiniad oedolyn – lle caiff iaith a syniadau eu cyflwyno a’u datblygu’n benodol gan yr
ymarferydd.
Dan arweiniad plentyn – lle bydd plant yn ysgogi’r dysgu, gyda chymorth addasiadau i’r
amgylchedd dysgu a rhyngweithio cymdeithasol sy’n hyrwyddo llwybrau penodol o
archwilio a thrafod.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
6
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
Ar gyfer Elfennau 3 a 4
Nodir syniadau gan ymarferwyr ar ochr dde’r llyfr hwn. Mae’r syniadau’n cynnwys ffyrdd y
cynlluniodd ymarferwyr ar gyfer amrywiaeth yn eu dosbarth neu grŵp, er enghraifft, er
mwyn cefnogi dysgu plant ag anghenion caffael iaith neu anghenion dysgu ychwanegol.
Geirfa allweddol (i’w chyflwyno o fewn y thema ac ar draws y cwricwlwm)
Ar gyfer Elfennau 1 a 2
teimladau hapus dig
cysurus ofnus/pryderus teg
anghysurus ymdawelu perthyn
Ar gyfer Elfennau 3 a 4
hapus nerfus/pryderus gosod nod trist
cysurus ymdawelu ofnus anghysurus
croeso llawn cyffro datrys problem perthyn teg
Adnoddau
Dyma restr o’r adnoddau y gellir eu defnyddio i ategu’r gwaith yn y llyfr hwn. Mae’r rhain ar
gael yn y Ffeil adnoddau ysgol gyfan.
Adnoddau
Elfennau 1 a 2 Identikit teimladauPoster ditectif teimladauGwyntyll teimladau Cardiau llun – hapus, trist, ofnus, llawn cyffro
Elfennau 3 a 4 Poster datrys problemauSut i ymdaweluPoster ditectif teimladauBaromedr emosiynauCardiau llun – hapus, trist, llawn cyffro, ofnusPoster Ydyn ni’n barod am amser cylch?
Dosbarth cyfan Parau
Unigolyn Grŵp bach
Pwyntiau allweddol o storïau’r gwasanaeth
Stori gwasanaeth 1
1. Mae Polly a Digory yn ymweld â byd newydd lle nad oes dim byd yno ac mae’n hollol dywyll.
2. Maen nhw’n clywed llais yn canu.
3. Daw’r awyr yn oleuach a ffurfir y bryniau a’r mynyddoedd.
4. Cerdda lew tuag atyn nhw dros y tir. Y llew sy’n canu.
5. Daw’r llew â’r coed yn fyw, yna cerdda ymlaen dan ganu.
Stori gwasanaeth 2
1. Yn Awstralia, mae dau blentyn yn cerdded am filltiroedd gyda’u taid.
2. Maen nhw’n dod o hyd i bwll dŵr ac yn edrych i mewn i’r adeg cyn y ‘freuddwyd’. Does
dim byd yno.
3. Maen nhw’n gweld y cyndadau’n deffro ac yn dod o’r ddaear.
4. Daw Djanggawul a’i ddwy chwaer. Maen nhw wedi dilyn yr haul yr holl ffordd o Ynys y Meirw.
5. Mae Djanggawul a’i ddwy chwaer yn gwneud tyllau gyda ffyn cloddio ac mae planhigion,
anifeiliaid, coed a phobl yn ymddangos.
Stori gwasanaeth 3
1. Mewn dinas yn Tsieina, mae dau blentyn yn eistedd ger ffownten mewn dinas ac maen
nhw’n gweld wy. Maen nhw’n dymuno bod yr holl sŵn a dwndwr yn y ddinas yn diflannu.
2. Caiff y ddinas ei chipio ymaith a does dim byd ar ôl heblaw’r wy anferth. Mae’r plant yn
clywed ochenaid o’r wy – ochenaid Ch’i – yr hyn sy’n dechrau popeth.
3. Caiff y duw Pan Gu ei greu a daw allan o’r wy.
4. Mae Pan Gu’n gwneud bwlch rhwng yr awyr a’r ddaear ac yn naddu’r mynyddoedd a’r
dyffrynnoedd.
5. Mae Pan Gu’n marw. Ei gorff yw gogledd, de, dwyrain a gorllewin y byd cyfan. Ei waed
yw’r afonydd a’r moroedd a’i gnawd yw’r pridd.
Nodweddion yr awgrymir i’r lleoliad/ysgol gyfan ganolbwyntio arnyn nhw ermwyn sylwi ar gyflawniad a’i ddathlu
Defnyddiwch ffordd arferol y lleoliad/ysgol o ddathlu (canmol, nodiadau i’r plentyn a’r
rhieni/warcheidwaid, tystysgrifau, enwebiadau gan gyfoedion, ac ati) i sylwi ar blant (neu
oedolion) a welwyd yn cyflawni’r canlynol a’u dathlu:
• gwneud i rywun deimlo bod croeso iddyn nhw
• gwneud rhywbeth dewr – goresgyn teimladau o ofn
• datrys problem/cofio defnyddio’r broses datrys problemau
• ymdawelu/helpu rhywun i ymdawelu.
Bydd angen penderfynu ar yr amserlen ar gyfer pob nodwedd gan ystyried y lleoliad/ysgol
gyfan. 7
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
Set Las: Elfen 1 y Cyfnod Sylfaen
Gemau cylch a rowndiau
Gemau cylch
Cyflwynwch gemau cylch yn y ffordd o’ch dewis, ond gwnewch yn siŵr eich bod
yn siarad am y sgiliau bydd y plant yn eu defnyddio bob tro y byddan nhw’n
cymryd rhan mewn gweithgaredd cylch:
• llygaid (i weld)
• clustiau (i glywed)
• ceg (i siarad)
• pen (i feddwl)
• dwylo yn eu col (i ganolbwyntio).
Gallwch lunio cân ar gyfer hyn neu bwyntio at y rhannau hynny o’r corff.
Caneuon enwau a gweithgareddau
‘Beth am ddweud helo wrth ... , beth am ddweud helo wrth ... , beth am ddweud
helo wrth ... , mae croeso i chi yma heddiw.’
Mae hyn yn cael ei ailadrodd dro ar ôl tro nes bod enw pawb wedi’i gynnwys. Os
ydyn nhw’n dymuno, gall plant sefyll pan fyddan nhw’n cael eu cyfarch. Mae
modd canu’r gân hon fel cân ffarwelio ar ddiwedd y dydd hefyd.
Drwy ddweud helo a ffarwel, rydych chi’n dangos pa mor bwysig yw’r plentyn
a’ch bod yn falch o’u gweld neu eich bod am weld eu heisiau nes daw yfory.
Sefwch mewn cylch a gofynnwch i bob plentyn yn ei dro i ddweud ‘Fy enw i
yw ... ’ ac yna curo ei droed deirgwaith.
Mae’r gweithgaredd cylch hwn yn well mewn grŵp llai, efallai hanner y grŵp cyfan
os yw’n fawr. Rholiwch bêl at rywun ar draws y cylch, wrth i chi eistedd ar y llawr.
Allwch chi enwi’r person hwnnw? Os na allwch, yna bydd y plentyn hwnnw’n
helpu drwy ddweud ei enw. Gwnewch yn siŵr fod y bêl yn rholio at bawb yn
ystod yr amser cylch.
Canu: ‘Gwna fel dwi’n ei wneud, dilyn, dilyn fi, gwna fel dwi’n ei wneud, dilyn,
dilyn fi.’
Gwnewch rywbeth mae’n rhaid i bawb ei ddilyn, ac yna pasio hyn o amgylch y
cylch, gan roi enw’r plentyn yn lle ‘fi’ wrth iddyn nhw ddewis y weithred. Byddwch
yn barod i helpu plant sy’n ei chael yn anodd meddwl am weithred. Eto, mae hyn
yn fwy llwyddiannus gyda hanner y grŵp, os yw’r grŵp yn fawr.
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod bod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth yn fy hoffi.
Dwi’n hoffi’r ffordd mae pob un ohonom yn wahanol a dwi’n gallu dweud
rhywbeth arbennig amdanaf i.
Mae ein lleoliad yn
gosod plant mewn
grwpiau teulu o tua
deg plentyn gyda
gweithiwr allweddol
sy’n darllen storïau
ac yn gwneud
gwaith amser cylch
a charped gyda
nhw. Dwi’n meddwl
bod hyn yn helpu’r
plant i ddatblygu
hunaniaeth grŵp
yn gyflym iawn.
Aethom ati i
ddefnyddio ‘Albwm
lluniau llafar’ gyda
phlentyn yn ein
dosbarth oedd â
nam ar y golwg
(lluniau mawr o
wyneb pob plentyn
a recordiad byr
ohonyn nhw’n
dweud helo a’u
henw).
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
8
Gemau cylch ar gyfer datblygu hunaniaeth grŵp ac ymdeimlad ogymuned
Clapio’ch dwylo
Mae ‘Clapio’ch dwylo ac ysgwyd eich bysedd’ yn gân arall y gellir ei haddasu, gan
ddefnyddio awgrymiadau’r plant (er enghraifft, ‘Clapio’ch dwylo a churo’ch traed’).
‘Clapiwch eich dwylo ac ysgwyd eich bysedd, clapiwch eich dwylo ac ysgwyd
eich bysedd, clapiwch eich dwylo ac ysgwyd eich bysedd, yn awr rydyn ni wedi
gwneud patrwm.’
Gêm ‘Rydyn ni’n arbennig’
Mae’r dosbarth cyfan yn sefyll mewn cylch ac yn dal dwylo. Mae pob plentyn yn
siglo eu dwylo’n ysgafn yn ôl ac ymlaen ac yn canu neu’n dweud ‘Rydyn ni’n
arbennig, rydyn ni’n glyfar, ni yw plant lleoliad/ysgol ... ’.
Fe gewch eich synnu gan effaith hyn ar y plant a’r oedolion!
Rowndiau
Pasiwch y tedi o gwmpas. Dylai pob plentyn gymryd ei dro i roi mwythau i’r tedi
yn dyner a dweud helo.
Gallai’r ymarferydd fynd o amgylch y cylch a chael y plant i ddweud eu henw wrth
y tedi, mor aml ag sy’n bosib. Y diwrnod nesaf, mae’r tedi yn dangos ‘bod ei gof
yn wael’ a bydd angen i’r plant eraill yn y grŵp ei atgoffa o’r enwau wrth iddo
fynd o gwmpas. Gellid ymestyn hyn i gynnwys rhywbeth mae’r plentyn wedi’i
fwynhau neu rywun maen nhw wedi chwarae gyda nhw yn y lleoliad/ysgol.
Cyfleoedd dysgu: perthyn
Cyn i’r plant ddechrau
Mewn ymweliad cyflwyno, ewch â thegan meddal (ag enw iddo) gyda chi a’i roi i’r
plentyn i chwarae ac esboniwch y bydd yn aros am y plentyn yn y lleoliad/ysgol.
Gwnewch yn siŵr ei fod yno i ‘gyfarch’ y plentyn pan fyddan nhw’n cyrraedd y tro
cyntaf. Gallech hefyd ddarparu llyfr neu bos i’r plentyn ei ddarllen/chwarae gartref
a’i ddychwelyd ar ei ddiwrnod cyntaf.
Rhowch restr o rai o enwau’r plant a fydd yn ymuno (efallai’r rheini a fydd yng
ngrŵp teulu’r plentyn) er mwyn i’r rhiant neu warcheidwad allu siarad amdanyn
nhw gan ddefnyddio eu henwau.
Ysgrifennwch lythyr i’r plentyn yn ei wahodd i’r lleoliad/ysgol ar ei ddiwrnod
cyntaf. Cyfeiriwch y llythyr at y plentyn.
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod fy mod yn perthyn i fy ngrŵp/dosbarth.
Dwi’n adnabod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth.
Dwi’n hoffi fy mod yn perthyn i fy ngrŵp/dosbarth/lleoliad/ysgol.
Yn fy nosbarth mae
gen i un bachgen
bach sy’n dysgu’r
iaith. Mewn gemau
cylch, yr hyn a
welais i’n fuddiol
oedd sicrhau ei fod
yn cael llawer o gyfle
i glywed plant eraill
cyn iddo ‘gael tro’.
Wrth sicrhau ei fod
gyda’r olaf i gael tro,
cafodd gyfle i wrando
a sylwi ar gyfraniadau
plant eraill.
Mae plant yn ein
hysgol yn siarad
gwahanol ieithoedd.
Gwnaethom
ymdrech i sicrhau
bod ein llythyrau
wedi’u hysgrifennu
mewn cynifer o
wahanol ieithoedd
ag y gallem ...
Defnyddiwyd y
llythyrau croesawu i
wneud arddangosfa
gyda labeli ieithoedd
y gellid eu tynnu i
ffwrdd. Cafodd y
plant (a’r rhieni)
hwyl wrth geisio
paru pob iaith gyda
label. Enw’r
arddangosfa oedd
‘Un llythyr, sawl
iaith; pob un yr un
fath a phob un yn
wahanol’.
9
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
Dod i adnabod ein gilydd
Hunan-gofrestru: Gofynnwch i rieni/warcheidwaid a phlant gofrestru eu hunaindrwy lynu enwau ar fwrdd clipiau ffabrig bachyn-a-dolen. Gellir glynu ffotograffau
gyda’r enwau er mwyn helpu plant a rhieni i ddod i wybod ‘pwy di pwy’ yn y
lleoliad/ysgol. Defnyddiwch hwn i weld pwy sydd yno yn y grŵp bach. Dylai staff
gofrestru eu hunain hefyd fel bod plant yn gallu gweld eu henwau a’u lluniau.
Gellir defnyddio ffotograffau hefyd gydag enwau sydd ar begiau cotiau. Gellir
tynnu’r ffotograffau wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, fel sy’n briodol. Mae modd
defnyddio gwyddor â chlipiau ffabrig bachyn-a-dolen er mwyn storio enwau a
lluniau.
Lluniau magnetig: Tynnwch ffotograff o bob plentyn, ei dorri allan, ei lamineiddioa rhoi tâp magnetig ar y cefn. Mae’r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer dod i adnabod
enwau ac ar gyfer siarad am debygrwydd a gwahaniaethau.
Defnyddiwch y ffotograffau wrth ganu caneuon – er enghraifft, ‘Pum plentyn yn
lleoliad/ysgol ... ’.
Defnyddiwch nhw wrth adrodd storïau. Adroddwch storïau cadarnhaol am fod yn
ffrindiau, bod yn garedig, ac ati, gan ganolbwyntio ar y rheolau a gytunwyd ar
gyfer y lleoliad/ysgol.
Gadewch nhw allan i’r plant gael chwarae gyda nhw ar fwrdd magnet. Gallan
nhw feddwl am y syniad o wneud ffrindiau gydag unrhyw un sydd yn y llun maen
nhw’n ei ddewis.
Gêm disgrifio: Ceisiwch annog y plant i dynnu lluniau digidol o bobl yn gwneudgwahanol bethau yn y lleoliad/ysgol. Gallai’r rhain gael eu defnyddio i gefnogi
gweithgaredd lle disgrifir y prif briodoleddau – er enghraifft, ‘Dwi’n edrych ar
rywun sydd â gwallt brown, ffrog goch a ... Pwy yw’r person hwn?’.
Dylai plant (gyda chymorth os oes angen) enwi’r person ar sail y disgrifiad. Dylen
nhw wneud yn siŵr eu bod yn gywir drwy edrych ar y ffotograff.
Gêm parau: Gan ddefnyddio’r ffotograffau a dynnwyd, gwnewch ddwy set achwarae snap neu barau gyda nhw.
Gallech chwarae gêm disgrifio yma hefyd, lle rydych yn disgrifio rhywun a lliw eu
gwallt, dillad ac ati, ac mae’r grŵp yn ceisio darganfod y cerdyn hwnnw. Dyma
ffordd dda arall o dynnu sylw at yr hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhyngom.
Trefnwch y cardiau mewn grwpiau. Pwy sy’n gwisgo rhywbeth coch? Pwy sy’n
fachgen/merch? Pwy sy’n gwenu?
Arddangos: Gofynnwch i rieni ddod â ffotograffau o’u plant yn eu cartref, neugyda pherson arbennig, er mwyn eu harddangos (neu defnyddiwch ffotograff a
dynnwyd adeg yr ymweliad â’r cartref). Siaradwch am y ffotograffau gyda’r plant.
Gofynnwch i’r plant gymryd eu tro i ddweud rhywbeth am y llun wrth y grŵp.
Gofynnwch i rieni neu warcheidwaid ymuno â’r cylch a chyflwyno eu hunain a’u
plant i’r grŵp.
Cardiau croeso: Gofynnwch i’r plant wneud cerdyn croeso i rywun arall yn yrystafell, ar ôl tynnu eu henw o dwba. Gallen nhw roi’r cerdyn a diolch i’w gilydd
yn bersonol fel bod pawb yn cael cyswllt cadarnhaol yn y dosbarth neu’r grŵp.
Gwelsom fod
defnyddio’r
ffotograffau yn ffordd
wych o annog
datblygiad iaith
ymysg dysgwyr.
Roedd y plant yn
hoffi grwpio’r
ffotograffau mewn
gwahanol ffyrdd.
Bu un o’r plant yn
grwpio’r lluniau yn
ôl lluniau o oedolion
a lluniau o blant.
Dywedodd hi
wrthym eu bod
nhw’n ‘fawr’ ac yn
‘fach’, ac ymunodd
plant eraill drwy
ddweud ‘maen
nhw’n oedolion ac
maen nhw’n blant’.
Grwpiodd rhywun
arall y lluniau yn ôl
dynion a menywod.
Aeth y plant ymlaen
i elfennau eraill llai
amlwg yn ymwneud
â thebygrwydd a
gwahaniaethau,
ac roedden ni’n
gallu datblygu
brawddegau megis
‘Mae ganddyn nhw
wallt du, a does gan
y rhain ddim.’
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
10
Cyfleoedd dysgu: deall hawliau a chyfrifoldebau
Archwilio’r lleoliad/ysgol
Pan mae plant yn newydd i’r lleoliad/ysgol, byddwch yn eu hannog i archwilio’r gwahanol
fannau gyda chi wrth iddyn nhw chwarae, gan edrych ar silffoedd ac mewn droriau er
mwyn iddyn nhw allu dod i adnabod popeth sydd yno.
Rhowch le arbennig i bob plentyn neu grŵp bach gadw eu pethau eu hunain. Labelwch
rhain gyda’u henw a’u llun neu enw eu grŵp a llun o’r grŵp.
Rhowch wahoddiad i rieni/warcheidwaid i’r lleoliad/ysgol i glywed am yr hyn mae’r plant
wedi bod yn ei wneud.
Codwch fwrdd gwybodaeth ar gyfer rhieni neu warcheidwaid. Rhowch wybodaeth am
yr hyn mae’r plant wedi’i wneud yn y lleoliad/ysgol a cheisiwch eu hannog i siarad am
ddiwrnod y plentyn gyda nhw.
Efallai hoffech chi chwarae gêm debyg i ‘Cuddio’r tedi’, i helpu’r plant i ddod i adnabod y
lleoliad/ysgol. Cuddiwch dedi neu degan meddal arall rywle yn y lleoliad/ysgol a rhowch
gliwiau i’r plant ynghylch lle mae’r tedi, megis:
Mae tedi yn y blwch tywod.
Mae tedi’n cuddio mewn man arbennig – mae yna ddŵr a phaent yma.
Mae tedi’n cuddio yn y man lle cedwir y beiciau.
Mae tedi’n cuddio dan fat y car.
Mae tedi’n cuddio yn y blwch gwisg ffansi.
Mae un plentyn yn mynd i chwilio am y tedi ac yn cael cymorth gan y plant eraill.
Gallai plant dynnu ffotograffau o’r tedi yn ei wahanol fannau cuddio.
Tynnwch ffotograffau o blant yn chwarae. Rhowch rhain i’r plant a gofyn iddyn nhw eu glynu
wrth ymyl y man byddai’r gweithgaredd hwnnw yn cael ei gynnal.
Gosodwch lwybrau drwy’r lleoliad/ysgol i’r plant eu dilyn (er enghraifft, ‘Dilynwch yr olion
traed’); yna gofynnwch iddyn nhw ddweud yr hyn a welon nhw ar eu taith.
Ymgyfarwyddo â’r drefn
Amserlen luniau: Byddwch yn glir ynghylch y drefn yr hoffech ei chyflwyno pan fydd plantyn newydd i’r lleoliad/ysgol. Tynnwch ffotograffau o rannau penodol o’r diwrnod (amser
rhannu, amser cylch, amser cinio, amser grŵp, ac ati) a’u lamineiddio fel eu bod yn para
am y flwyddyn. Mae modd rhoi clipiau bachyn-a-dolen ffabrig ar gefn y ffotograffau.
Rhowch stribyn o glipiau bachyn-a-dolen ffabrig ar gerdyn wedi’i osod mewn man sy’n
gyfleus i’r plant yn eich dosbarth. Gallwch chi, neu’r plant, osod y ffotograffau mewn trefn,
a bydd hyn yn rhoi sicrwydd i’r plant sy’n llai hyderus ynghylch beth fydd yn digwydd y
diwrnod hwnnw. Mae modd defnyddio’r gweithgaredd hwn hefyd i siarad yn rheolaidd am
y drefn a chynnwys y plant wrth geisio cofio beth sy’n dod nesaf. Gellir tynnu ffotograffau
unigol i ffwrdd pan fydd y rhan honno o’r sesiwn wedi dod i ben.
Deilliant dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod beth i’w wneud yn fy ngrŵp/dosbarth/lleoliad/ysgol.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
11
Sbarduno: Siaradwch am yr hyn sy’n dod nesaf drwy gydol y dydd. Mae hyn ynarbennig o bwysig yn yr wythnosau cyntaf. Po fwyaf y gwnewch chi hyn, y mwyaf
diogel bydd eich plant yn teimlo. Gallech roi rhybudd 5 munud cyn yr hyn a fydd
yn digwydd nesaf, gan ganolbwyntio’n benodol ar y plant hynny nad ydyn nhw’n
hoffi newid neu sy’n ei chael yn anodd gorffen pethau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad am y drefn yn y lleoliad/ysgol yn rheolaidd,
fel bod pob plentyn yn cael cyfle i ddeall ac i deimlo’n sicr yn ei chylch. Sicrhewch
fod eich trefn yn gyson a cheisiwch beidio â’i newid gormod yn y dechrau.
Cyflwynwch bethau newydd yn araf, gan roi rhybuddion ac esboniadau ynghylch
pryd, ble a sut.
Canu: Canwch am ddigwyddiadau’r dydd ar alaw boblogaidd bydd y rhan fwyafo’r plant yn ei hadnabod.
Llyfr igam-ogam: Gwnewch lyfr igam-ogam am y drefn gan ddefnyddio’r unffotograffau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr amserlen luniau. Treuliwch amser gyda’r
plant, yn edrych ar y llyfr ac yn siarad am y drefn.
Meim: Meimiwch ddigwyddiadau’r dydd ar ddiwedd y sesiwn am hwyl.
Gallwch ddefnyddio caneuon cyfarwydd hefyd megis ‘Llwynog coch yn cysgu,
Mae’r ffermwr eisiau gwraig, Mewn a mas drwy’r blodau glas’, ac ati, a gellir
cynnwys symudiadau ynddi.
Siarad am y diwrnod: Defnyddiwch y ffotograffau o’r drefn ddyddiol a dynnwydar gyfer eich amserlen luniau. Gwasgarwch nhw dros y bwrdd ac awgrymwch fod
y plant yn cymryd tro i ddweud beth maen nhw’n ei hoffi am yr amser hwnnw o’r
dydd, neu ddim yn ei hoffi. Mae hyn yn rhoi adborth gwerthfawr i chi am yr hyn
sy’n gweithio a’r hyn mae angen ei addasu yn eich trefn. Un ffordd o amrywio
hyn yw gwneud dwy set o ffotograffau (syniad da rhag ofn yr aiff un ar goll) a
chwarae gêm parau. Bydd hyn yn atgyfnerthu’r enwau a roddwch i wahanol
rannau’r dydd.
Defnyddiwch stori: Darllenwch stori Rhian yn y feithrinfa o’r taflenni adnoddau i helpu’r plant i feddwl am y sgiliau mae eu hangen arnyn nhw i gydweithio a
chyd-chwarae.
Cyfleoedd dysgu: hunanymwybyddiaeth
Pasiwch dedi o amgylch y cylch a gofynnwch i bob plentyn ddweud rhywbeth
arbennig amdanyn nhw eu hunain wrth y tedi. Gwnewch yn siŵr fod gennych o
leiaf un neu ddau beth arbennig yr ydych yn ei wybod am bob plentyn rhag ofn
na fyddan nhw’n gallu meddwl am un.
Ailadroddwch yr uchod, ond tro hwn gofynnwch i’r plentyn ddweud rhywbeth
arbennig am y plentyn sy’n eistedd wrth ei ymyl.
Gwnewch ‘lyfr arbennig’ o rywbeth mae pob plentyn yn dda yn ei wneud, gan
ddefnyddio eu hawgrymiadau yn ystod amser trafod.
Deilliant dysgu bwriedig
Dwi’n hoffi’r ffordd mae pob un ohonom yn wahanol a dwi’n gallu dweud
rhywbeth arbennig amdanaf i.
Gwnaethom
amserlen luniau
bersonol ar gyfer
un plentyn gan
ddefnyddio
arwyddion a
chlipiau bachyn-a-
dolen ffabrig.
Cafodd gymorth
gennym i dynnu’r
arwyddion pan
oedd wedi gorffen
gweithgaredd a’u
postio mewn blwch
arbennig.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
12
Fe wnaethon ni
wynebau cyffyrddol
o does halen ac
ambell symbol
gweledol gan
ddefnyddio
botymau wedi’u
glynu ar gerdyn ar
siâp gwên neu wg.
Fe gawson nhw eu
defnyddio gan un
o’r grŵp â nam ar
y golwg – a gan
lawer o’r plant eraill
hefyd.
Cyfleoedd dysgu: deall fy nheimladau
Atgoffwch y plant o stori Rhian yn y feithrinfa. Gofynnwch iddyn nhw geisio cofiosut roedd Rhian yn teimlo, gan gymell yn ôl yr angen. Dyma’r pedwar teimlad i
ganolbwyntio arnyn nhw:
• hapus
• trist
• ofnus/wedi dychryn
• llawn cyffro.
Mae’n bwysig ein bod yn helpu plant i sylweddoli bod rhai teimladau yn ‘gysurus’
a rhai yn ‘anghysurus’, a pheidio â chyfleu’r neges bod cael rhai teimladau yn
‘ddrwg’ – mae pob teimlad yn dderbyniol (er nad yw pob ymddygiad yn
dderbyniol). Mae’n well felly peidio â defnyddio’r geiriau teimladau ‘drwg’ a ‘da’.
Defnyddiwch y gweithgareddau grŵp bach a awgrymir isod er mwyn edrych ar y
teimladau hyn. Efallai yr hoffech ddefnyddio’r Identikit teimladau o’r Ffeiladnoddau ysgol gyfan i helpu’r plant i ganolbwyntio ar sut mae ein hwynebau’n
mynegi pob teimlad. Bydd angen i chi benderfynu pa elfennau, os o gwbl, o’r
Poster ditectif teimladau (o’r Ffeil adnoddau ysgol gyfan) sy’n briodol i’wdefnyddio yn y Cyfnod Sylfaen. Efallai yr hoffech ddysgu’r plant hefyd sut mae
defnyddio’r Gwyntyll teimladau (o’r Ffeil adnoddau ysgol gyfan) a gofyn iddyn nhwddewis yr wyneb priodol ar gyfer pob teimlad yr edrychir arno isod.
Hapus
Trefnwch fod gennych ddetholiad o luniau neu ffotograffau o blant yn gwneud
pethau ac yn edrych yn hapus. Mae rhai ar gael yn y Ffeil adnoddau ysgol
gyfan, neu efallai yr hoffech chi ddefnyddio lluniau eich hunain.
Dangoswch lun i’r grŵp a gweld a oes unrhyw un yn gwybod sut mae’r
person yn teimlo.
Gofynnwch i’r plant sut maen nhw’n gwybod hynny.
All y plant ddangos i chi sut olwg sydd ar eu hwynebau pan fyddan nhw’n
hapus?
Rhowch ddetholiad o luniau yng nghanol y cylch a gofyn i’r plant ddweud, yn
eu tro, ‘Dwi’n teimlo’n hapus pan ... ’.
Rhywbeth i helpu yw’r lluniau. Os nad yw plant swil yn gwybod beth i’w
ddweud, gallan nhw bwyntio. Efallai bydd plant mwy hyderus yn meddwl am
eu syniadau eu hunain.
Gorffennwch gyda’r gân ‘Mr Hapus ydw i, ydw i’.
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gallu dweud os wyf yn hapus, yn drist, yn llawn cyffro neu’n ofnus.
Dwi’n gallu rhoi gwybod i chi os wyf yn teimlo’n hapus, yn drist, yn llawn
cyffro neu’n ofnus.
Fe wnaethon ni
ddefnyddio’r
termau ‘cynnes’
a ‘clyd’ ac ‘oer’
a ‘pigog’.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
13
Trist
Trefnwch fod gennych ddetholiad o luniau o blant yn edrych yn drist (ffotograffau
rydych wedi’u tynnu gyda grwpiau blaenorol lle maen nhw’n smalio bod yn
drist am rywbeth, neu gardiau lluniau o’r Ffeil adnoddau ysgol gyfan).
Dewiswch lun a gofynnwch a oes unrhyw un yn gwybod sut mae’r plentyn
hwnnw’n teimlo.
Sut maen nhw’n gwybod?
All y grŵp ddangos i chi sut olwg sydd ar eu hwynebau a’u cyrff pan fyddan
nhw’n drist?
Disgrifiwch beth rydych chi’n ei weld: ‘O dwi’n gallu gweld dy fod yn edrych yn
drist oherwydd bod gen ti geg gam, mae dy lygaid yn edrych yn ddwl, ac mae
dy ben yn isel.’
Gofynnwch i’r plant basio brawddeg o amgylch y grŵp: ‘Dwi’n teimlo’n drist pan ... ’.
Eto, defnyddiwch y lluniau sydd gennych i helpu unrhyw un sy’n cael trafferth.
Os yw plant yn cael trafferth gyda’r dasg hon, siaradwch yn lle hynny, ond
gwnewch yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i ddweud rhywbeth.
Gorffennwch gyda chân neu pasiwch y wên i godi calonnau pawb.
Ailadroddwch y patrwm hwn ar gyfer teimladau allweddol eraill – llawn cyffro ac
ofnus/wedi dychryn. Mae’n bwysig cadw cydbwysedd rhwng teimladau ‘cysurus’
ac ‘anghysurus’ bob amser er mwyn i blant ddechrau sylweddoli ei bod yn
dderbyniol ac yn iawn dangos eu teimladau i bobl, pwy bynnag ydyn nhw.
Ar ôl gweithgareddau cylch ar deimladau allweddol, gallech ofyn i’r plant edrych
yn y drych a gwneud wyneb hapus/trist/ofnus/llawn cyffro. Tynnwch lun o’r
wyneb. Beth sy’n gwneud i chi deimlo fel hyn yn y lleoliad/ysgol?
Bydd oedolion yn ysgrifennu hyn ac yna yn ei deipio mewn swigen siarad i fynd
gyda’r llun. Rhowch rhain i gyd ar boster grŵp i’w arddangos yn y lleoliad/ysgol
neu i gynulleidfa ehangach mewn neuadd neu goridor.
Er mwyn helpu plant i adnabod eu teimladau, gallech gael lein ddillad gyda
gwahanol ‘wynebau teimladau’ arni. Gallai plant baru eu llun/enw eu hunain
â’r wyneb teimlad sy’n dangos orau sut maen nhw’n teimlo. Gallech hefyd
ddefnyddio cardiau symbolau ar gyfer hapus, trist ac ofnus i annog plant i
ddangos sut maen nhw’n teimlo.
Cyfle dysgu: rheoli fy nheimladau
Atgoffwch y plant o stori Rhian yn y feithrinfa. Yn y stori, rhedodd Rhian ar drawsyr ystafell ddosbarth am ei bod wedi dychryn, ar ôl iddi a Semera daro pennau ei
gilydd. Cymerodd cryn dipyn o amser iddi ymdawelu digon i allu dweud wrth Miss
Deilliant dysgu bwriedig
Rydw i’n gwybod am rai ffyrdd o ymdawelu pan rwyf yn teimlo’n ofnus
neu’n ofidus.
Aethom ati i lunio
blwch teimladau
yn llawn gwahanol
siapiau a gwead,
a gofyn i’r plant
ddweud pa rai
oedd yn cynrychioli
‘hapus’, ‘trist’,
‘dig’, ac ati.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
14
Roberts beth oedd wedi digwydd. Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n ei
wneud pan fyddan nhw’n teimlo’n ‘anghysurus’. Beth fydden nhw’n cynghori
Rhian i’w wneud? Os yn bosib, gofynnwch i’r plant ddangos (er enghraifft,
gwneud rhywbeth maen nhw’n hoffi ei wneud/anadlu’n ddwfn tair gwaith).
Sicrhewch fod pob un o’r plant yn gallu anadlu’n ddwfn. Gwnewch arddangosfa,
‘Pan dwi’n teimlo’n anghysurus, dwi’n gallu ... ’ drwy dynnu lluniau â chamera o
blant yn dangos eu strategaethau.
Atgyfnerthwch y strategaethau ymdawelu lle bo’n bosibl mewn sefyllfaoedd go
iawn. Ewch ati i ymarfer ac annog y plant i ddefnyddio’r dechneg anadlu’n dawel
ar gyfer ymdawelu.
Defnyddiwch y stori Rhian yn y feithrinfa, neu stori addas arall rydych chi’n eich darlleni’r plant, i’w hatgoffa i ‘stopio a meddwl’ neu ‘stopio a dweud’ os oes problem.
Cyfle dysgu: deall teimladau pobl eraill
Esboniwch fod Dewi Draenog (neu degan meddal o’ch dewis) wedi dod o bell i
ymweld â’r lleoliad/ysgol. Mae’n teimlo’n drist. Gofynnwch i’r plant nodi’r holl
bethau da yn y lleoliad/ysgol. Mae’r rhain yn gwneud iddo deimlo tipyn bach yn
well, ond mae dal yn teimlo’n drist.
Gofynnwch i’r plant feddwl am resymau pam mae Dewi’n teimlo’n drist. Ceisiwch
annog y plant i feddwl pam y gallan nhw deimlo’n drist yn y lleoliad/ysgol.
Ysgrifennwch rhain ar y bwrdd gwyn i’ch atgoffa. Dewiswch un o’r rhesymau hyn
a chael Dewi i nodio’i ben i esbonio mai dyna pam mae’n teimlo’n drist.
Dylai’r plant weithio mewn grwpiau bach gyda chymorth oedolyn i feddwl am
syniadau a allai wneud Dewi’n hapus yn y lleoliad/ysgol. Efallai yr hoffen nhw
dynnu llun o’u syniadau neu eu gwneud neu roi cynnig arnyn nhw – er enghraifft,
drwy gofleidio Dewi (efallai byddai modd tynnu ffotograff o hyn).
Cyfleoedd dysgu: sgiliau cymdeithasol
Ymhelaethwch ar stori Rhian yn y feithrinfa (gan bwyso a mesur, efallai, y pethausydd wedi digwydd yn y lleoliad/ysgol, neu bethau a allai ddigwydd) er mwyn rhoi
cyd-destun ar gyfer addysgu sgiliau cymdeithasol. Adroddwch storïau am bethau
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod sut mae bod yn garedig wrth bobl sy’n newydd neu sy’n
ymweld â’r lleoliad/ystafell ddosbarth.
Dwi’n gwybod bod pawb yn y byd yn gallu teimlo’r un teimladau.
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gallu rhannu mewn grŵp/dosbarth.
Dwi’n gallu cymryd tro mewn grŵp/dosbarth.
Dwi’n gallu ymuno â phlant eraill wrth chwarae gêm.
Mae gen i sawl
plentyn yn fy
nosbarth sy’n
newydd i’r wlad
hon. Esboniais fod
Dewi’n siarad iaith
wahanol, a’i fod
wedi’i defnyddio i
gyfarch y dosbarth.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
15
a welwch yn mynd o le yn y grŵp, a drwy’r storïau, dysgwch y pethau cywir, gan
roi ymadroddion posibl a all fod yn fuddiol i blant. Lluniwch rigwm neu gân i helpu
Rhian a’i ffrindiau.
Trefnwch weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i annog cymryd tro a rhannu, gyda
chymorth oedolyn. Nodwch gwestiynau allweddol i helpu gyda hyn a’u dangos yn
y lleoliad/ysgol – er enghraifft, ‘Tro pwy ydy hi’n awr?’, ‘Ydy hyn yn deg?’, ‘Ydy
hynny’r un fath?’, ‘Beth fyddai’n gwneud hynny’n well?’.
Daliwch ati i greu awyrgylch lle caiff ymddygiad cadarnhaol ei annog (er enghraifft,
rhoi cymaint o groeso ag sy’n bosib a chanolbwyntio drwy’r amser ar yr hyn mae’r
plant yn ei gael yn gywir yn hytrach na’r hyn sydd ganddyn nhw i’w ddysgu eto).
Daliwch blant yn ‘ymddwyn yn dda’. Gan ddefnyddio enw’r plentyn, rhowch
ganmoliaeth benodol i blant a welwch yn gwneud y peth cywir. Mae’n bwysig rhoi
gwybod i’r plentyn yn union beth rydych chi wedi’i hoffi am yr hyn a wnaeth – er
enghraifft, ‘Owain, mi wnes i hoffi’n fawr iawn y ffordd y gwnest ti godi’r brics o’r
llawr a’u cadw yn y man cywir. Diolch am ofalu am ein teganau.’
Tynnwch ffotograffau o’r plant yn gwneud y pethau cywir yn gymdeithasol,
dangoswch nhw a chyfeirio atyn nhw’n aml.
Gweithgareddau parhaus
Mae strategaethau effeithiol i ddatblygu amgylchedd sy’n ategu’r sgiliau a
nodwyd yn y thema hon yn cynnwys y canlynol.
Trefnu’r diwrnod
• Trefnu cyfleoedd i gyflwyno iaith teimladau – er enghraifft, drwy chwarae rôl acamser cylch.
• Sicrhau cydbwysedd rhwng gweithgareddau, deunyddiau ac offer newydd,ysgogol a heriol a gweithgareddau, deunyddiau ac offer cyfarwydd.
• Darparu amser i chwarae’n unigol gyda chymorth oedolyn pan fydd angen.
• Amser dewis rhydd, gyda chydbwysedd rhwng gweithgareddau.
• Cyfleoedd i blant ysgwyddo cyfrifoldeb o fewn y lleoliad/ysgol – er enghraifft,bod yn rhan o drefn lleoliad/ysgol.
• Deilliannau mae’r plant yn penderfynu arnyn nhw.
• Systemau sefydliadol sy’n annog plant i fod yn rhan o gynllunio beth maennhw’n mynd i’w wneud – er enghraifft, bwrdd cynllunio.
• Cyfleoedd drwy gydol y dydd er mwyn i’r plant ddangos neu ddweud wrtheraill am yr hyn maen nhw’n ei wneud.
• Cynnwys rhieni yn y lleoliad/ysgol a darparu gwybodaeth er mwyn iddyn nhwallu siarad gyda’r plentyn am yr hyn maen nhw’n ei wneud yn dda a’u helpu i
ddefnyddio iaith teimladau.
Yr amgylchedd
• Darparu amgylchedd sy’n annog annibyniaeth.
• Darparu ardaloedd ar gyfer gwahanol weithgareddau a dewisiadau personol(er enghraifft, ardaloedd tawel i orffwys, ardaloedd â drychau).
Roedd gan Siân,
plentyn a chanddi
anabledd iaith a
lleferydd, gerdyn
eisoes i ddynodi
‘stop’ a ‘help’.
Ychwanegwyd at y
rhain drwy gynllunio
cardiau a oedd yn
dweud ‘Dydw i
ddim yn ei hoffi’,
‘Ga’ i chwarae?’,
a ‘Fy nhro i’.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
16
• Sicrhau amgylchedd cynhwysol lle caiff pob plentyn ei gynnwys yn llawn yn ylleoliad/ysgol, gyda chymorth i’w helpu i fanteisio ar gyfleoedd pan fo’n briodol.
• Darparu amgylchedd aml-ddiwylliant lle caiff yr amrywiaeth ddiwylliannol o fewn ylleoliad/ysgol ei chydnabod a’i dathlu.
• Defnyddio arddangosfeydd rhyngweithiol.
• Darparu adnoddau i annog chwarae ar y cyd.
• Arddangos gwaith y plant yn ofalus, gan ddangos y parch sydd gennych iddyn nhw a’udysg. Cynnwys llawer o eiriau’r plant yn eich arddangosfeydd gan fod hyn yn dangos
iddyn nhw eich bod yn rhoi gwerth ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud.
Rôl oedolion
• Amgylchedd sy’n cwestiynu a lle rhoddir tasgau datrys problemau penagored i blant.
• Awyrgylch anfeirniadol lle ystyrir ei bod yn iawn i wneud camgymeriadau a dysgu oddiwrthyn nhw.
• Oedolion sy’n cefnogi syniadau plant ac yn defnyddio technegau cwestiynu i annog creusyniadau newydd.
• Oedolion sy’n defnyddio arddull rheoli tawel a bwriedig.
• Oedolion sy’n defnyddio llawer o ganmoliaeth benodol.
• Cyfleoedd i blant siarad ag oedolion ar eu pen eu hunain neu mewn grwpiau.
• Strategaethau rheoli ymddygiad cadarnhaol yn gysylltiedig â disgwyliadau ac ymyriadaupriodol.
• Oedolion sy’n cefnogi plant i ddatrys gwrthdaro os bydd angen.
• Modelau rôl da o gonfensiynau a rhyngweithio cymdeithasol.
• Oedolion sy’n cymryd rhan yng ngweithgareddau chwarae plant, gan gynnwys chwaraellawn dychymyg.
• Oedolion sy’n cefnogi pob plentyn i adnabod ei ddoniau a’i dalentau ac i fyfyrio yn eucylch.
• Cyfleoedd ar gyfer adborth, ffurfiannol a chadarnhaol, ac i blant adolygu eu cyflawniadaua rhoi sylwadau arnyn nhw.
Cwestiynau ar gyfer myfyrio ac ymholi
Mae’r cwestiynau hyn yn cynnig cyfle i feithrin teimladau plant o hunanwerth a rhoi gwybod
iddyn nhw eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel unigolion unigryw, yn ogystal â datblygu eu
gallu cymdeithasol a’u gallu gwybyddol. Rhowch wybod i’r plant pan fyddwch chi wedi
dysgu rhywbeth newydd amdanyn nhw. Dangoswch eich bod yn trin pob unigolyn gyda
pharch. Rhowch le i’r plant ddysgu amdanyn nhw eu hunain. Rhowch amser iddyn nhw
siarad am yr hyn sydd wedi digwydd a sut gallai fod yn wahanol y tro nesaf.
• Beth ddigwyddodd yn y lleoliad/ysgol heddiw?
• Tybed beth oedd eich hoff beth? Pam oedd hynny?
• Sut mae hynny’n gwneud i chi deimlo?
• Tybed pam wnaeth … hynny? Beth yw eich barn chi?
• Pe bai chi’n ... beth ydych chi’n meddwl byddai’n digwydd?
• Beth ddigwyddodd pan wnaeth ... hynny ddoe?
• Beth yn eich barn chi fydd yn digwydd nesaf? Sut ydych chi’n gwybod?
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
17
Adolygu
• Dewch â dol fawr neu byped i’r lleoliad/ysgol. Dywedwch eu bod wedi dod i weld y lleoliad/ysgol er mwyn dysgu popeth am y lle. Gofynnwch i’r plant esbonio popeth
maen nhw’n ei wybod am y lleoliad/ysgol.
• Gallai’r plant gymryd eu tro i ddangos y lleoliad/ysgol i’r pyped ac esbonio beth sy’ndigwydd ble a phryd.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
18
Gofynnwch i’r plant a ydyn nhw’n gwybod beth yw ystyr ‘ofnus’. Trafodwch eu syniadau ac
ychwanegwch atyn nhw os oes angen. Gallech fynd ymlaen i ofyn a oes unrhyw un wedi
teimlo fel hyn o’r blaen.
‘Pam, yn eich barn chi, mae Rhian yn teimlo’n ofnus pan mae hi’n edrych ar y plant yn y
gornel tŷ bach?’
Rhowch gydnabyddiaeth i’w syniadau yn ogystal ag ychwanegu rhai eich hun os bydd
angen gwneud hynny. Trafodwch y syniad bod peidio â gwybod beth i’w wneud a beth
allai ddigwydd fod yn ofnus.
Gofynnwch i’r plant a ydyn nhw’n gwybod beth allai hi wneud nesaf. Helpwch y plant i
feddwl am syniadau, gan gynnwys cael cymorth drwy ofyn amdano gan yr oedolyn.
‘Beth am i ni weld beth fydd Rhian yn ei wneud nesaf?’
‘Pam yn eich barn chi ei bod hi wedi rhedeg i ffwrdd?’ (Atgoffwch y plant o’r geiriau trist
ac ofnus/wedi dychryn.)
‘Pam yn eich barn chi ei bod hi’n ofnus/wedi dychryn?’
Roedd Rhian yn hapus dros ben. Roedd hi newydd ddechrau mynd i’r feithrinfa.
Roedd hi’n hoffi Miss Roberts. Roedd hi wrth ei bodd yn chwarae gyda’r holl deganau.
Roedd hi’n hoffi ffrwythau amser byrbrydau.
Pan oedd Rhian yn cyrraedd y feithrinfa, roedd hi eisiau chwarae yn y gornel tŷ bach.
Gallai weld bod yna bobl eraill yno’n barod. Gwyliodd am funud neu ddau, gan
deimlo bach yn ofnus.
Cerddodd Rhian ychydig bach yn nes at y gornel tŷ bach gan ddal i edrych ar y plant
eraill. Trodd Tom ac edrych arni. Ni wenodd, a doedd ddim yn edrych yn gyfeillgar.
Teimlai Rhian yn drist a thipyn bach yn ofnus hefyd. Teimlai’n boeth ac yn
anghyfforddus, doedd hi ddim yn hoffi’r teimlad hwn o gwbl.
Rhedodd i ochr arall y feithrinfa gan daro yn erbyn merch arall o’r enw Semera.
Tarodd y ddwy eu pennau yn erbyn ei gilydd a dechreuodd y ddwy grio.
‘O diar’, dywedodd Miss Roberts. ‘Beth ddigwyddodd yma?’ Pwyntiodd Semera at
Rhian a chuddiodd Rhian ei phen yn ei dwylo. Teimlai’n drist iawn erbyn hyn a
daliodd i grio, nes i Miss Roberts ei chofleidio a gofyn iddi a allai ddweud beth oedd
wedi digwydd. Pan oedd Rhian wedi ymdawelu, llwyddodd i ddweud wrth Miss
Roberts pam ei bod wedi rhedeg i ochr arall y feithrinfa.
Esboniodd Miss Roberts wrth Rhian y gallai fod wedi bod yn syniad da pe bai wedi
ceisio siarad gyda Tom a’r plant eraill yn y gornel tŷ bach.
Taflen adnoddau set Las: Elfen 1 y Cyfnod Sylfaen
Rhian yn y feithrinfa
Defnyddiwch luniau magnetig o bobl neu bypedau i adrodd y stori.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
19
‘A allai rywun helpu Rhian drwy ddweud wrthi beth i’w ddweud wrth y plant os yw hi am
chwarae?’
Yn dibynnu ar yr ymatebion a gewch, dyma rai o’r ymadroddion gallai’r plant ymarfer eu
dweud gyda’i gilydd:
Os gwelwch yn dda, ga’ i ddod i chwarae yma hefyd?
Oes ’na le i mi ddod i chwarae hefyd?
Fe hoffwn i chwarae hefyd. Ydy hynny’n iawn?
‘Dwi’n meddwl bydd Rhian yn gwybod yn awr beth i’w wneud pan fydd hi am chwarae
hefyd. Gallai hyn ei helpu i wneud ffrindiau hefyd. Gadewch i ni weld beth ddigwyddodd y
diwrnod nesaf.’
(Yn dibynnu ar rychwant canolbwyntio’r plant, gallech orffen y stori yn y pwynt hwn a
pharhau’r diwrnod canlynol. Gallwch wastad eu hatgoffa o’r stori cyn i chi fwrw ymlaen
â hi wedyn.)
‘Yn eich barn chi, sut bydd Rhian yn teimlo am ddod i’r feithrinfa eto yn awr?’
‘Dwi’n meddwl bydd Rhian a Semera’n chwarae gyda’i gilydd eto ac yn cael hwyl. Beth
ydych chi’n meddwl bydd Rhian a Semera yn ei wneud y tro nesaf byddan nhw yn y
feithrinfa?’
Doedd Rhian ddim mor hapus pan ddaeth i’r feithrinfa’r diwrnod canlynol, am ei bod
yn cofio pa mor ofnadwy yr oedd wedi teimlo’r diwrnod blaenorol.
Pan gyrhaeddodd, gwelodd bethau cyffrous ar y bwrdd peintio. Roedd rhai plant eisoes
yn gwneud siapiau paent mawr ar ddarn mawr o bapur. Cofiodd Rhian fod angen
ffedog arni i beintio. Aeth at y bachau, ond doedd dim ffedogau ar ôl. Dechreuodd
deimlo’n drist unwaith eto. Edrychodd o’i chwmpas a gwelodd Miss Roberts. Aeth ati a
dywedodd, ‘Os gwelwch yn dda, ga’ i chwarae yma hefyd?, Dywedodd Miss Roberts,
‘aros yma gyda fi nes i Tom orffen, yna fe gei di gyfle.’
Teimlai Rhian yn falch iawn ei bod wedi cofio beth i’w ddweud fel bod Miss Roberts yn
gwybod beth oedd arni ei heisiau. Roedd Miss Roberts yn falch iawn o Rhian am ofyn
fel hyn.
Cafodd amser braf yn peintio ac roedd Semera yno hefyd. Rhoddodd Rhian a Semera
eu dwylo yn y paent i wneud patrymau. Bu’r ddwy yn chwerthin ac yn giglan.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
20
Set Las: Elfen 2 y Cyfnod Sylfaen
Gemau cylch a rowndiau
Gemau cylch
Cyflwynwch gemau cylch yn y ffordd o’ch dewis, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad
am y sgiliau bydd y plant yn eu defnyddio bob tro byddan nhw’n cymryd rhan mewn
gweithgaredd cylch:
• llygaid (i weld)
• clustiau (i glywed)
• ceg (i siarad)
• pen (i feddwl)
• dwylo yn eu col (i ganolbwyntio). Gallwch lunio cân ar gyfer hyn neu bwyntio at y rhannau hynny o’r corff.
Gemau am deimladau
Rhoddir cerdyn i bob plentyn sy’n dangos wyneb teimlad, ond nid ydyn nhw’n edrych ar
y cerdyn hwn. Mae’r ymarferydd yn gofyn i’r plant, yn eu tro, i droi’r cerdyn a dynwared yr
wyneb ar y cerdyn: ‘Wyneb hapus/trist/llawn cyffro/ofnus sydd ar fy ngherdyn i’. Gallech
ddefnyddio’r Identikit teimladau sydd yn y Ffeil adnoddau ysgol gyfan sy’n cyd-fynd â’rdeunyddiau hyn i greu’r cardiau. Os yw’r plant wedi’u cyflwyno i’r Gwyntyll teimladau (o’rFfeil adnoddau ysgol gyfan), gallan nhw ddal rhain yn yr awyr i ddangos beth yn eu barn
nhw mae’r plentyn yn ei ddynwared.
Canwch y gân ‘Mr Hapus ydw i, ydw i ... ’ ac ychwanegu penillion a symudiadau ar gyfer
teimladau eraill. Er enghraifft, trist/dig/llawn cyffro:
Mr Trist ydw i, ydw i (Bw! Hw!), Mr Trist ydw i, ydw i (Bw! Hw!), Mr Trist ydw i, ydw i,
Mr Trist ydw i, Mr Trist ydw i, ydw i (Bw! Hw!)
Mr Dig ydw i, ydw i (Gr! Gr), Mr Dig ydw i, ydw i (Gr! Gr), Mr Dig ydw i, Mr Dig ydw i,
Mr Dig ydw i, ydw i (Gr! Gr)
Mr Balch ydw i, ydw i (Da iawn!), Mr Balch ydw i, ydw i (Da iawn!), Mr Balch ydw i,
Mr Balch ydw i, Mr Balch ydw i, ydw i (Daw iawn!)
Mr Cyffrous ydw i, ydw i (Hwrê!), Mr Cyffrous ydw i, ydw i (Hwrê!), Mr Cyffrous ydw i,
Mr Cyffrous ydw i, Mr Cyffrous ydw i, ydw i (Hwrê!)
Caneuon enwau a gweithgareddau
‘Beth am ddweud helo wrth ... , beth am ddweud helo wrth ... , beth am ddweud helo
wrth ... , mae croeso i chi yma heddiw.’
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod bod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth yn fy hoffi.
Dwi’n hoffi’r ffordd mae pob un ohonom yn wahanol a dwi’n gallu dweud rhywbeth
arbennig amdanaf i.
Dwi’n gallu dweud os wyf yn hapus neu’n drist.
Dwi’n gallu rhoi gwybod i chi os wyf yn teimlo’n hapus, yn drist, yn llawn cyffro neu’n ofnus.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
21
Mae hyn yn cael ei ailadrodd dro ar ôl tro nes bod enw pawb wedi’i gynnwys.
Os ydyn nhw’n dymuno, gall plant sefyll pan fyddan nhw’n cael eu cyfarch.
Mae modd canu’r gân hon fel cân ffarwelio ar ddiwedd y dydd hefyd.
Drwy ddweud helo a ffarwel, rydych chi’n dangos pa mor bwysig yw’r plentyn
a’ch bod yn falch o’u gweld neu eich bod am weld eu heisiau nes daw yfory.
Sefwch mewn cylch a gofynnwch i bob plentyn yn ei dro ddweud ‘Fy enw i yw ... ’
ac yna curo eu traed dair gwaith.
Mae’r gweithgaredd cylch hwn yn well mewn grŵp llai, efallai hanner y grŵp cyfan
os yw’n fawr. Rholiwch bêl at rywun ar draws y cylch, wrth i chi eistedd ar y llawr.
Allwch chi enwi’r person hwnnw? Os na allwch, yna bydd y plentyn hwnnw’n
helpu drwy ddweud ei enw. Gwnewch yn siŵr fod y bêl yn rholio at bawb yn
ystod yr amser cylch.
Canu: ‘Gwna fel dwi’n ei wneud, dilyn dilyn fi, gwna fel dwi’n ei wneud, dilyn dilyn fi.’
Gwnewch rywbeth mae’n rhaid i bawb ei ddilyn, ac yna pasio hyn o amgylch y
cylch, gan roi enw’r plentyn yn lle ‘fi’ wrth iddyn nhw ddewis y weithred. Byddwch
yn barod i helpu plant sy’n ei chael yn anodd meddwl am weithred. Eto, mae hyn
yn fwy llwyddiannus gyda hanner y grŵp, os yw’r grŵp yn fawr.
Ewch o amgylch y cylch, gyda phob plentyn yn dweud ei enw a rhywbeth maen
nhw’n hoffi ei wneud. Yna maen nhw’n pasio sach ffa neu degan meddal o
gwmpas. Mae’r oedolyn yn chwarae cerddoriaeth neu’n creu cerddoriaeth, gan
ddefnyddio tambwrîn neu offeryn taro arall. Y plentyn a fydd yn dal y bag ffa neu
degan meddal pan fydd y gerddoriaeth yn stopio, neu pan ddaw’r sŵn a gytunwyd,
yw’r ‘un’ a dylai’r plant eraill geisio cofio ei enw a’r hyn mae’n hoffi ei wneud.
Gemau cylch ar gyfer datblygu hunaniaeth grŵp a chymuned
Clapio’ch dwylo
Mae ‘Clapio’ch dwylo ac ysgwyd eich bysedd’ yn gân arall y gellir ei haddasu, gan
ddefnyddio awgrymiadau’r plant (er enghraifft, ‘Clapio’ch dwylo a churo’ch traed’).
‘Clapiwch eich dwylo ac ysgwyd eich bysedd, clapiwch eich dwylo ac ysgwyd
eich bysedd, clapiwch eich dwylo ac ysgwyd eich bysedd, yn awr rydyn ni wedi
gwneud patrwm.’
Gêm ‘Rydyn ni’n arbennig’
Mae’r dosbarth cyfan yn sefyll mewn cylch ac yn dal dwylo. Mae pob plentyn yn
siglo ei ddwylo’n ysgafn yn ôl ac ymlaen ac yn canu neu’n dweud ‘Rydyn ni’n
arbennig, rydyn ni’n glyfar, ni yw plant derbyn lleoliad/ysgol ... ’.
Fe gewch eich synnu gan effaith hyn ar y plant a’r oedolion!
Cyfnewid llefydd
Dylai’r plant sefyll. Dylen nhw gyfnewid llefydd os gofynnir iddyn nhw. Neu gallan
nhw ddal gwrthrych neu arwydd yn yr awyr os yw’r datganiad yn wir amdanyn
nhw. Dylai’r ymarferydd ddweud:
‘Newidiwch le os ydych chi’n hoffi bwyta ffa’
‘Newidiwch le os ydych chi’n hoffi chwarae yn y tywod’
‘Newidiwch le os ydych chi’n hoffi mynd i’r parc’
ac ati.
Mae ein
lleoliadau/ysgolion
yn gosod plant
mewn grwpiau teulu
o tua deg plentyn
gyda gweithiwr
allweddol sy’n
darllen storïau ac
yn gwneud gwaith
amser cylch a
charped gyda’r
plant. Dwi’n meddwl
bod hyn yn eu helpu
i ddatblygu
hunaniaeth grŵp
yn gyflym iawn.
Fe wnaethon ni
addasu’r gêm
‘cyfnewid llefydd’
er mwyn i blentyn
a chanddo
anawsterau symud
allu ymuno. ‘Codi
bawd’ neu ‘codi
llaw yn yr awyr’
wnaethon ni ei
ddefnyddio.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
22
Pasio’r wên o gwmpas y cylch ar ddiwedd yr amser cylch neu ar ddiwedd y dydd.
Pasio’r gwasgiad, sy’n golygu bod pawb yn dal dwylo ac yn gwasgu’n ysgafn o amgylchy cylch.
Mae Pasio’r cwtsh yn gêm dda ar gyfer helpu pobl i deimlo’n rhan o’r grŵp. Gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio bod yn rhaid i hyn fod yn dyner. Byddwch yn sensitif i
wahaniaethau diwylliannol o ran pa mor gyfforddus yw’r plant gyda’r math hwn o gysylltiad.
Rowndiau
Pasiwch y tedi o gwmpas. Dylai pob plentyn gymryd ei dro i roi mwythau i’r tedi yn dyner a
dweud helo.
Gallai’r ymarferydd fynd o amgylch y cylch a chael y plant i ddweud eu henw wrth y tedi,
mor aml ag sy’n bosib. Y diwrnod nesaf, mae’r tedi yn dangos ‘bod ei gof yn wael’ a bydd
angen i’r plant eraill yn y grŵp ei atgoffa o’r enwau wrth iddo fynd o gwmpas. Gellid
ymestyn hyn i gynnwys rhywbeth mae’r plentyn wedi’i fwynhau neu rywun maen nhw wedi
chwarae gyda nhw yn y lleoliad/ysgol.
Fy hoff liw yw ...
Rydw i eisiau ... yn yr ysgol heddiw.
Rydw i eisiau gwybod ...
Dwi’n teimlo’n drist/llawn cyffro/ofnus/hapus pan ...
Cyfleoedd dysgu: perthyn
Cyn i’r plant ddechrau
Mewn ymweliad cyflwyno, ewch â thegan meddal (ag enw iddo) gyda chi a’i roi i’r plentyn i
chwarae ac esboniwch y bydd yn aros amdano yn y lleoliad/ysgol. Gwnewch yn siŵr ei fod
yno i ‘gyfarch’ y plentyn pan fyddan nhw’n cyrraedd y tro cyntaf. Gallech hefyd adael llyfr
neu bos i’r plentyn ei ddarllen/chwarae gartref a’i ddychwelyd ar ei ddiwrnod cyntaf.
Rhowch restr o rai o enwau’r plant a fydd yn ymuno (efallai’r rheini a fydd yng ngrŵp teulu’r
plentyn) er mwyn i’r rhiant neu warcheidwad allu siarad amdanyn nhw gan ddefnyddio eu
henwau.
Ysgrifennwch lythyr i’r plentyn yn ei wahodd i’r lleoliad/ysgol ar ei ddiwrnod cyntaf.
Cyfeiriwch y llythyr at y plentyn.
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod fy mod yn perthyn i fy ngrŵp/dosbarth.
Dwi’n adnabod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth.
Dwi’n hoffi fy mod yn perthyn i fy ngrŵp/dosbarth/lleoliad/ysgol.
Dwi’n gwybod bod y bobl yn fy ngrŵp/dosbarth yn fy hoffi.
Dwi’n hoffi’r ffordd mae pob un ohonom yn wahanol a dwi’n gallu dweud rhywbeth
arbennig amdanaf i.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
23
Dod i adnabod ein gilydd
Hunan-gofrestru: Gofynnwch i rieni/warcheidwaid a phlant gofrestru eu hunain drwy lynuenwau ar fwrdd clipiau ffabrig bachyn-a-dolen. Gellir glynu ffotograffau gyda’r enwau er
mwyn helpu plant a rhieni i ddod i wybod ‘pwy di pwy’ yn y lleoliad/ysgol. Defnyddiwch
hwn i weld pwy sydd yno yn y grŵp bach. Dylai staff gofrestru eu hunain hefyd fel bod plant
yn gallu gweld eu henwau a’u lluniau.
Hefyd, gellir defnyddio ffotograffau gydag enwau a’u hongian ar begiau cotiau. Gellir tynnu’r
ffotograffau hyn wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, fel sy’n briodol.
Mae modd defnyddio gwyddor â chlipiau ffabrig bachyn-a-dolen er mwyn storio enwau a
lluniau.
Ffotograffau magnetig: Tynnwch ffotograff o bob plentyn, ei dorri allan, ei lamineiddio arhoi tâp magnetig ar y cefn. Mae’r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer dod i adnabod enwau ac ar
gyfer siarad am debygrwydd a gwahaniaethau. Defnyddiwch nhw wrth ganu caneuon – er
enghraifft, ‘Pum plentyn yn lleoliad/ysgol ... ’. Defnyddiwch nhw wrth adrodd storïau.
Adroddwch storïau cadarnhaol am fod yn ffrindiau, bod yn garedig, ac ati, gan
ganolbwyntio ar reolau a gytunwyd ar gyfer y lleoliad/ysgol. Gadewch nhw allan i’r plant
gael chwarae gyda nhw ar fwrdd magnet. Gallan nhw feddwl am y syniad o wneud ffrindiau
gydag unrhyw un sydd yn y llun maen nhw’n ei ddewis.
Y gymuned ysgol ehangach: Dros y flwyddyn, dechreuwch godi ymwybyddiaeth o’rgymuned ysgol ehangach y gall eich lleoliad/ysgol fod yn rhan ohoni. Un syniad yw cael
dosbarth partner o blant hŷn a’u bod yn cwrdd unwaith yr wythnos i ddarllen llyfr, chwarae
gêm parasiwt, sgwrsio neu ddatblygu diddordebau eraill cyffredin. Gallai’r dosbarth hŷn
wneud llyfrau ar gyfer eu partneriaid. Gallai’r dosbarth iau wneud cardiau a llythyrau ar gyfer
eu partneriaid, neu wahodd y plant hŷn i’w dosbarth i weld rhywbeth maen nhw wedi’i
wneud gyda’i gilydd fel dosbarth.
Pan fydd y plant iau yn mynd i’w gwasanaeth ysgol gyfan cyntaf, parwch nhw gyda
phlentyn hŷn, a gadewch i’r plant hŷn esbonio beth sy’n digwydd. Gwnewch yr un peth
wrth fynd i’r neuadd fwyta am ginio.
Gemau cylch: Mae’r plant yn eistedd mewn cylch a’u llygaid ar gau. Mae’r ymarferydd yn dweud un enw, ac mae’r person a enwir yn enwi person arall wedyn ac yn y blaen.
Gofynnwch i rieni neu warcheidwaid ymuno â’r cylch a chyflwyno eu hunain a’u plant i’r
grŵp.
Gêm disgrifio: Ceisiwch annog y plant i dynnu lluniau digidol o bobl yn gwneud gwahanolbethau yn y lleoliad/ysgol. Gallai’r rhain gael eu defnyddio i gefnogi gweithgaredd lle disgrifir
y prif briodoleddau – er enghraifft, ‘Dwi’n edrych ar rywun sydd â gwallt brown, ffrog goch
a ... Pwy yw hwn?’. Dylai plant (gyda chymorth os oes angen) enwi’r person ar sail y
disgrifiad. Dylen nhw wneud yn siŵr eu bod yn gywir drwy edrych ar y llun.
Arddangos: Gofynnwch i rieni ddod â ffotograffau o’u plant yn eu cartref, neu gydapherson arbennig, er mwyn eu harddangos (neu defnyddiwch y ffotograff a dynnwyd adeg
yr ymweliad â’r cartref). Siaradwch am y ffotograffau gyda’r plant. Gofynnwch i’r plant
gymryd eu tro i ddweud rhywbeth am y llun wrth y grŵp.
Snap/parau: Gan ddefnyddio’r ffotograffau a dynnwyd gennych yn yr ymweliad â’r cartref,gwnewch ddwy set a chwarae snap neu barau gyda nhw.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
24
Gallech chwarae gêm disgrifio yma hefyd, lle rydych yn disgrifio rhywun a lliw eu gwallt,
dillad ac ati, ac mae’r grŵp yn ceisio darganfod y cerdyn hwnnw. Dyma ffordd dda arall
o dynnu sylw at yr hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhyngom. Trefnwch y cardiau mewn
grwpiau. Pwy sy’n gwisgo rhywbeth coch? Pwy sy’n fachgen/merch? Pwy sy’n gwenu?
Tynnu llun: Defnyddiwch ddull ar gyfer paru plant ar hap (er enghraifft, rhoi hanner llunanifeiliaid neu wynebau teimladau – mae’n rhaid i bob plentyn ddod o hyd i’r plentyn sydd
â’r hanner arall sy’n cyfateb). Efallai hoffai’r plant dynnu llun o’u partner. Helpwch nhw i
edrych ar liw eu gwallt a’u llygaid, siâp eu hwyneb, a’u dillad.
Cardiau croeso: Gofynnwch i’r plant wneud cerdyn croeso i rywun arall yn yr ystafell, ar ôl tynnu eu henw o dwba. Gallen nhw roi’r cerdyn a diolch i’w gilydd yn bersonol fel bod
pawb yn cael cyswllt cadarnhaol yn y dosbarth neu’r grŵp.
Enw dosbarth/grŵp cyfan
Os oes gan eich lleoliad/ysgol grwpiau teulu neu gartref bach gyda gweithiwr allweddol,
gallech osod her i bob grŵp greu enw grŵp eu hunain a baner neu arfbais. Dylai’r faner
neu’r arfbais gynnwys elfen unigol ar gyfer pawb a gynrychiolir. Gallai hyn gynnwys eu
diddordeb, eu hanifeiliaid anwes, eu hoff degan, rhywbeth am lle maen nhw’n byw, ac
yn y blaen. Byddai hyn yn cael ei gopïo neu byddai rhywun yn tynnu ffotograff ohono,
a byddai’n cael ei ddefnyddio mewn arddangosfa ac ar gyfer nifer wahanol o ddibenion.
Dylid gadael cylch bach yn wag yn y canol.
Gellir lleihau’r faner neu’r arfbais er mwyn iddi fod yn rhan o label enw personol pob
plentyn. Gellid tynnu llun neu ysgrifennu eu henw neu symbol arbennig yn y canol. Gallai
hyn labelu eu man gwag personol – er enghraifft, blwch a/neu beg. Dylai’r dosbarth neu’r
grŵp cyfan ddewis enw dosbarth/grŵp cyfan. Dylai hyn ddangos sut mae’r dosbarth yn
dymuno bod, neu gynrychioli rhywbeth am eu dosbarth. Gellid gwneud baner dosbarth
o faneri neu arfbeisiau’r grŵp teulu i gynrychioli hunaniaethau’r plant o fewn y grŵp – fel
unigolyn o fewn grŵp bach o fewn grŵp mawr neu ddosbarth.
Hanfod cymuned y dosbarth/grŵp cyfan yw cydbwyso anghenion y grŵp cyfan, y grŵp llai
a’r unigolyn. Rydyn ni’n annog plant i deimlo’n ddiogel o fewn y gymuned hon. Mae’r darn
hwn o waith yn ymwneud â helpu’r plant i deimlo eu bod yn perthyn o fewn y tair elfen hyn
yng nghymuned y dosbarth.
Cyfleoedd dysgu: hunanymwybyddiaeth
Pasiwch dedi o amgylch y cylch a gofynnwch i bob plentyn ddweud rhywbeth arbennig
amdanyn nhw eu hunain wrth y tedi. Byddwch yn barod i gynnig awgrym ar gyfer pob
plentyn, neu i ofyn cwestiwn symlach.
Ailadroddwch y gweithgaredd uchod, ond tro hwn gofynnwch i’r plentyn ddweud rhywbeth
arbennig am y plentyn sy’n eistedd wrth ei ymyl.
Gwnewch ‘lyfr arbennig’ o rywbeth mae pob plentyn yn dda yn ei wneud, gan ddefnyddio
eu hawgrymiadau yn ystod amser trafod.
Deilliant dysgu bwriedig
Dwi’n gallu dweud rhywbeth arbennig amdanaf i.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
25
Gofynnwch i’r plant ddod â rhywbeth arbennig o’u cartref i siarad amdano neu
i’w arddangos ar fwrdd arbennig.
Cyfleoedd dysgu: deall hawliau a chyfrifoldebau
Archwilio’r lleoliad/ysgol
Mewn parau neu drioedd, ewch â’r plant ar daith o amgylch y lleoliad/ysgol.
‘Beth, yn eich barn chi, rydyn ni’n ei wneud yma?’, ‘Pam eich bod yn meddwl
hynny?’, ‘Ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n hoffi hynny?’, ‘Ydych chi wedi
chwarae hyn o’r blaen?’.
Rhowch lun i’r plant o rywbeth nad yw’n cael ei arddangos yn y lleoliad/ysgol.
Gofynnwch iddyn nhw fynd i chwilio lle caiff y gwrthrych ei gadw. Dylai’r plant
ddod yn ôl i ddweud lle maen nhw wedi dod o hyd iddo. Byddai gofyn iddyn nhw
esbonio hyn i bâr arall o blant yn gwneud y dasg hon yn anoddach.
Chwaraewch ‘Dwi’n gweld â’m llygad bach i’ gan roi priodoleddau yn hytrach na
sŵn llythyren – er enghraifft, ‘Dwi’n gweld â’m llygad bach i rywbeth sy’n fawr ac
wedi’i wneud o bren, a gall plant ddringo drosto’.
Ewch â phlant o amgylch rhannau o’r lleoliad/ysgol mae angen iddyn nhw wybod
amdanyn nhw gyntaf. Dangoswch dirnodau iddyn nhw, pethau hawdd er mwyn
eu helpu i gofio lle maen nhw’n mynd. Cofiwch drafod llawer wrth i chi fynd o
gwmpas. Rhowch sicrwydd, a cheisiwch sylwi ar fynegiant a sylwadau’r plant er
mwyn gallu adnabod unrhyw ofnau neu bryderon.
Gosodwch lwybrau drwy’r lleoliad/ysgol i’r plant eu dilyn – er enghraifft, ‘Dilynwch
yr olion traed’. Yna gofynnwch iddyn nhw ddweud yr hyn a welon nhw ar eu taith.
Ymgyfarwyddo â’r drefn
Creu llyfrau: Gwnewch lyfr grŵp/dosbarth am gyfnodau allweddol yn y dydd, ganddangos beth sy’n digwydd yn y cyfnod hwnnw. Cofiwch gynnwys y plant drwy
ofyn iddyn nhw ‘Beth fyddai’n rhaid i berson newydd ei wybod am amser cinio?’.
Tynnwch ffotograffau; lle bo’n bosibl, gadewch i’r plant dynnu’r lluniau hefyd.
Gellid gwneud llyfrau am amser cylch, amser grŵp, amser cinio, amser mynd
adref, ac yn y blaen. Gallech helpu’r plant i wneud llyfr igam-ogam mawr sy’n
dangos rhythm y gweithgareddau ar ddiwrnod arferol. Dyma ffordd dda o
gynnwys y plant sydd wedi arfer â’r lleoliad/ysgol i helpu unrhyw blant newydd i
deimlo’n hyderus ac yn ddiogel.
Canu: Canwch am ddigwyddiadau’r dydd ar alaw boblogaidd bydd y rhan fwyafo’r plant yn ei hadnabod.
Meim: Meimiwch ddigwyddiadau’r dydd ar ddiwedd y sesiwn am hwyl.
Gallwch ddefnyddio caneuon cyfarwydd hefyd, a gellir cynnwys symudiadau ynddi.
Deilliant dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod beth i’w wneud yn fy ngrŵp/dosbarth/lleoliad/ysgol.
Pan fyddai plentyn
newydd yn ymuno
â’m dosbarth,
byddai un o’r plant
a oedd wedi arfer
â’r lleoliad/ysgol
yn cael ei baru â’r
plentyn newydd.
Un o’r tasgau cyntaf
fyddai dangos ein
llyfr dosbarth i’r
plentyn newydd,
ac roedden nhw’n
cael cadw’r llyfr
hwn wrth iddyn
nhw ymgyfarwyddo.
Bob tro byddai
un o’n plant newydd
yn cyflwyno
ymholiad neu bryder
newydd (chwarae
gwlyb, er
enghraifft), roedden
ni’n ychwanegu
tudalen arall. Yn
y diwedd, fe
wnaethon ni ‘lyfr
llafar’ ar y cyfrifiadur
a bu’r holl blant
yn recordio eu
hesboniadau eu
hunain. Buon
nhw’n gwneud
fersiynau mewn
gwahanol ieithoedd
hyd yn oed.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
26
Siarad am y diwrnod: Defnyddiwch y ffotograffau o’r drefn ddyddiol a dynnwydar gyfer eich amserlen luniau (gweler isod). Gwasgarwch nhw dros y bwrdd ac
awgrymwch fod y plant yn cymryd tro i ddweud beth maen nhw’n ei hoffi am yr
amser hwnnw o’r dydd, neu ddim yn ei hoffi. Mae hyn yn rhoi adborth gwerthfawr
i chi am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn mae angen ei addasu yn eich trefn. Un ffordd
o amrywio hyn yw gwneud dwy set o ffotograffau (syniad da rhag ofn yr aiff un ar
goll) a chwarae gêm parau. Bydd hyn yn atgyfnerthu’r enwau a roddwch i
wahanol rannau’r dydd.
Labelu mannau chwarae: Trafodwch rai gweithgareddau allweddol aphenderfynwch sawl plentyn fyddai’n gallu defnyddio’r offer neu fan chwarae
(megis man chwarae rôl) ar unrhyw un adeg. Labelwch rhain ag wynebau llawen
fel bod nifer yr wynebau’n cyfateb i nifer y bobl a all fod yn y man chwarae’r un
pryd. Os oes gormod o bobl, gofynnwch iddyn nhw weld faint sydd yno o’i
gymharu â nifer yr wynebau llawen.
Amserlen luniau: Byddwch yn glir ynghylch y drefn yr hoffech ei chyflwyno panfydd plant yn newydd i’r lleoliad/ysgol. Tynnwch ffotograffau o rannau penodol o’r
diwrnod (amser rhannu, amser cylch, amser cinio, amser grŵp, ac ati)
a’u lamineiddio fel eu bod yn para am y flwyddyn. Mae modd rhoi clipiau
bachyn-a-dolen ffabrig ar gefn y ffotograffau. Rhowch stribyn o glipiau
bachyn-a-dolen ffabrig ar gerdyn wedi’i osod mewn man sy’n gyfleus i’r plant
yn eich dosbarth. Gallwch chi, neu’r plant, osod y ffotograffau mewn trefn,
a bydd hyn yn rhoi sicrwydd i’r plant sy’n llai hyderus ynghylch beth fydd yn
digwydd y diwrnod hwnnw. Mae modd defnyddio’r gweithgaredd hwn hefyd i
siarad yn rheolaidd am y drefn a chynnwys y plant wrth geisio cofio beth sy’n dod
nesaf. Gellir tynnu ffotograffau unigol i ffwrdd pan fydd y rhan honno o’r sesiwn
wedi dod i ben. Gofynnwch i blentyn ddod i ddweud wrth bawb arall beth fydd yn
digwydd heddiw, gan ddefnyddio’r amserlen luniau i’w helpu. Gellid gwneud hyn
ar sail rota fel bod pawb yn cael cyfle.
Sbarduno: Siaradwch am yr hyn sy’n dod nesaf drwy gydol y dydd. Mae hyn ynarbennig o bwysig yn yr wythnosau cyntaf. Po fwyaf y gwnewch chi hyn, y mwyaf
diogel bydd eich plant yn teimlo. Rhowch rybudd 5 munud cyn yr hyn a fydd yn
digwydd nesaf, gan ganolbwyntio’n benodol ar y plant hynny nad ydyn nhw’n
hoffi newid neu sy’n ei chael yn anodd gorffen pethau.
Gellir defnyddio grwpiau cartref neu deulu i helpu’r plant i ddeall y drefn yn y
lleoliad/ysgol. Gellid symud y faner neu’r arfbais mae’r grŵp wedi’i gwneud i ran
o’r ystafell ddosbarth bydd y grŵp yn chwarae ac yn dysgu ynddi. Gellid annog y
plant i ddefnyddio’r grwpiau hyn fel ffynhonnell gymorth. Er enghraifft, os yw
plentyn yn cael trafferth, gellid ei annog i ofyn am gymorth gan rywun yn ei grŵp
cartref. Os ydyn nhw’n teimlo’n unig ar yr iard chwarae, gellid annog aelod o’r
grŵp cartref neu deulu i’w helpu.
Trafodwch yn rheolaidd yr hyn mae plant yn ei hoffi a ddim yn ei hoffi am y diwrnod.
Ceisiwch annog y rhieni i wneud yr un peth gartref (gan ddefnyddio gweithgareddau’r
set Aur) ac i roi gwybod i chi a oes pethau y dylid delio â nhw yn yr ysgol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad am y drefn yn y lleoliad/ysgol yn rheolaidd,
fel bod pob plentyn yn cael cyfle i ddeall ac i deimlo’n sicr yn ei chylch. Sicrhewch
fod eich trefn yn gyson a cheisiwch beidio â’i newid gormod yn y dechrau.
Cyflwynwch bethau newydd yn araf, gan roi rhybuddion ac esboniadau ynghylch
pryd, ble a sut.
Yn ein hysgol, mae
gennym lyfr
nodiadau cartref-
ysgol ar gyfer plant
sy’n ei chael yn
anodd cofio beth
maen nhw wedi’i
wneud – rydym yn
ysgrifennu un neu
ddau o nodiadau
cymell ar gyfer
rhieni/warcheidwaid.
Fe wnaethon ni
ychwanegu
gwrthrychau
cyfeirio at y
ffotograffau yn y prif
fannau (e.e. rhaw
ar gyfer y lle tywod,
creon ar gyfer y
lle celf). Roedd
gennym flwch
wedi’i addurno, ac
ynddo roedd yr un
set o wrthrychau
fel bod merch a
chanddi anawsterau
dysgu’n gallu
dweud wrthon ni
beth oedd ei
hangen arni drwy
ddewis o’r blwch.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
27
Cyfleoedd dysgu: deall fy nheimladau
Trefnwch fod gennych ddetholiad o luniau neu ffotograffau sy’n dangos teimladau,
gan gynnwys hapus, trist, ofnus a llawn cyffro. Gallech ddefnyddio’r taflenni
Identikit teimladau neu’r Gwyntyll teimladau sydd yn y Ffeil adnoddau ysgolgyfan. Os ydych yn defnyddio ffotograffau, byddwch yn sensitif i wahaniaethau
diwylliannol o ran y modd y mynegir emosiynau a chofiwch gynnwys ystod o
wahanol ethnigion. Gallech ddefnyddio’r cardiau llun o’r Ffeil adnoddau ysgol
gyfan, neu gallech dynnu lluniau’ch hun.
Darllenwch stori Y bachgen newydd o’r taflenni adnoddau (gweler tudalennau34–36) neu defnyddiwch stori arall debyg rydych chi wedi’i darllen i’r plant.
Atgoffwch y plant o rai o’r pethau a ddigwyddodd yn y stori a gofyn iddyn nhw
bwyntio at yr wyneb sy’n dangos orau sut yr oedd Atiq yn teimlo ar y pwynt
hwnnw yn y stori.
Rhowch gyfle i bawb yn ei dro ddweud rhywbeth am yr wyneb wrth y grŵp.
Ceisiwch eu hannog i sgwrsio’n helaeth am yr wynebau, safle’r llygaid, y geg a’r
aeliau. Efallai byddai rhai elfennau o’r Poster ditectif teimladau o’r Ffeil adnoddauysgol gyfan yn ddefnyddiol yma.
Gofynnwch i’r plant ddangos i chi sut siâp fyddai ar eu cyrff pe bydden nhw’n
teimlo fel hyn. Disgrifiwch beth rydych chi’n ei weld: ‘O, dwi’n gallu gweld dy fod
yn edrych yn drist oherwydd bod gen ti geg gam, mae dy lygaid yn edrych yn
ddwl, ac mae dy ben yn isel.’
Gofynnwch a fyddai rhywun yn hoffi dweud am adeg pan oedden nhw’n teimlo fel hyn.
Gallech ddatblygu ymwybyddiaeth plant o fynegiant wyneb drwy wneud cardiau o
aeliau, cegau, trwynau, ac ati, wedi’u torri allan o gylchgronau. Rhowch un
nodwedd wyneb ar bob cerdyn. Chwaraewch gêm, gan ddewis y nodweddion
mae eu hangen arnoch i wneud wyneb. Gofynnwch i’r plant edrych ar yr wyneb
maen nhw wedi’i wneud a dweud beth mae eu person yn ei deimlo.
Defnyddiwch ffotograffau neu luniau o’r plant yn cymryd rhan mewn
gweithgareddau ac yn edrych yn hapus, yn drist, yn ofnus neu’n llawn cyffro.
Gwasgarwch nhw fel bod y plant yn gallu gweld pob un ohonyn nhw.
Chwaraewch ‘Pasio’r frawddeg’. Mewn cylch, bydd y plant yn dweud, yn eu tro,
‘Dwi’n teimlo’n hapus (neu’n drist neu’n ofnus neu’n llawn cyffro) pan ... ’. Os nad
ydyn nhw’n siŵr beth i’w ddweud, gallan nhw ddefnyddio’r lluniau i’w helpu.
Mae’n bwysig cadw cydbwysedd rhwng emosiynau cysurus ac anghysurus bob
amser er mwyn i blant ddechrau sylweddoli ei bod yn dderbyniol ac yn iawn
dangos eu hemosiynau i bobl, pwy bynnag ydyn nhw. Dywedwch wrth y plant ei
bod yn iawn profi pob teimlad, hyd yn oed os nad yw rhai’n teimlo’n gysurus iawn
y tu mewn. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi bwysleisio nad yw’n iawn ymddwyn
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gwybod ei bod yn iawn i ni gael teimladau ond nad yw’n iawn
ymddwyn mewn unrhyw ffordd yr hoffwn (os yw’n brifo pobl eraill).
Dwi’n gallu dweud os wyf yn hapus neu’n drist.
Dwi’n gallu rhoi gwybod i chi os wyf yn teimlo’n hapus, yn llawn cyffro, yn
drist neu’n ofnus.
Rydym yn
defnyddio ein
‘cardiau teimladau’
cyffyrddadwy
wedi’u gwneud â
botymau, fel bod
plentyn â nam ar
y golwg yn gallu
cymryd rhan yn y
gweithgaredd hwn.
Fe ddefnyddiais
weithgaredd gefn
wrth gefn yma.
Rhoddwyd llun o
wyneb i un plentyn
yn dangos teimlad
ac roedd y plentyn
hwnnw wedyn yn
disgrifio’r wyneb i’w
bartner a oedd yn
gorfod tynnu llun
o’r wyneb ar sail y
disgrifiad.
Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen © Hawlfraint y Goron 2010
1323-2010-CYMRU
28
mewn ffyrdd sy’n brifo pobl eraill, hyd yn oed os ydym yn teimlo’n anghysurus neu’n ddigalon.
Siaradwch gyda’r plant am ymddygiad y plant yn y stori ac a oedd eu hymddygiad yn iawn
neu beidio.
Ar ôl amser cylch ar brif teimladau, gallech ofyn i’r plant edrych yn y drych a gwneud wyneb
hapus/trist/ofnus/llawn cyffro ac yna tynnu llun o’r wyneb. Gofynnwch: ‘Beth sy’n gwneud i
chi deimlo fel hyn yn y lleoliad?’ Bydd oedolion yn ysgrifennu hyn ac wedyn yn ei deipio
mewn swigen siarad i fynd gyda’r llun. Rhowch rhain i gyd ar boster grŵp i’w arddangos yn
yr ystafell neu i gynulleidfa ehangach mewn neuadd neu goridor.
Er mwyn helpu plant i adnabod eu teimladau, gallech gael lein ddillad gyda gwahanol ‘wynebau
teimladau’ arni. Yn ystod y diwrnod, gallai plant baru eu ffotograff/enw eu hunain â’r wyneb
teimlad sy’n dangos orau sut maen nhw’n teimlo. Neu defnyddiwch gardiau symbolau ar
gyfer hapus, ofnus, trist a llawn cyffro i annog plant i ddangos sut maen nhw’n teimlo.
Cyfleoedd dysgu: rheoli fy nheimladau
Atgoffwch y plant o’r stori Y bachgen newydd (gweler tudalennau 34–36). Yn y stori, roeddKaltuun yn teimlo’n ofidus ac yn ddig am ei bod am i Sam chwarae gyda hi, ac nid gydag
Aled. Mi gymerodd cryn amser iddi ymdawelu. Gofynnwch i’r plant beth maen nhw’n ei
wneud pan fyddan nhw’n teimlo’n ‘anghysurus’ – beth fyddai eu cyngor i Kaltuun? Os yn
bosib, gofynnwch i’r plant ddangos (er enghraifft, gwneud rhywbeth maen nhw’n hoffi ei
wneud/anadlu’n ddwfn bum gwaith). Sicrhewch fod pob un o’r plant yn gallu anadlu’n
ddwfn. Wrth iddyn nhw ymarfer hyn, byddai o gymorth pe bydden nhw’n chwythu’n ysgafn
ar gefn eu llaw wrth iddyn nhw anadlu allan. Gwnewch arddangosfa, ‘Pan dwi’n teimlo’n
anghysurus, galla i ... ’ drwy dynnu lluniau â chamera o blant yn dangos eu strategaethau.
Atgyfnerthwch y strategaethau hyn lle bo’n bosibl mewn sefyllfaoedd go iawn.
Rhowch gydnabyddiaeth i deimladau plant bob tro, hyd yn oed os oes angen i chi weithio
ar y ffordd maen nhw’n delio â nhw. Mae pob teimlad yn ddilys.
Cyfleoedd dysgu: sgiliau cymdeithasol
Ymhelaethwch ar stori Aled, gan bwyso a mesur, efallai, y pethau sydd wedi digwydd,
neu a allai ddigwydd yn y lleoliad/ysgol, er mwyn rhoi cyd-destun ar gyfer addysgu sgiliau
cymdeithasol fel sy’n briodol, ac atgyfnerthu’r drefn. Adroddwch storïau am bethau a
welwch yn mynd o le yn y dosbarth a drwy’r storïau, dysgwch y pethau cywir, gan roi
ymadroddion posibl a all fod yn fuddiol i blant er mwyn iddyn nhw ymuno mewn gêm – er
enghraifft, dweud ‘mae’n ddrwg gen i’, gofyn am gael benthyg rhywbeth ac ati.
Deilliannau dysgu bwriedig
Dwi’n gallu rhannu mewn grŵp/dosbarth.
Dwi’n gallu cymryd tro mewn grŵp/dosbarth.
Dwi’n gallu ymuno â phlant eraill wrth chwarae gêm.
Dwi’n gwybod sut mae bod yn garedig wrth bobl sy’n newydd neu sy’n ymweld â’r
lleoliad/ystafell ddosbarth.
Deilliant dysgu bwriedig
Rydw i’n gwybod am rai ffyrdd o ymdawelu pan rwyf yn teimlo’n ofnus neu’n ofidus.
© Hawlfraint y Goron 2010 Dechrau newydd Y Cyfnod Sylfaen
1323-2010-CYMRU
29
Cynhaliwch brynhawn chwaraeon, a’r nod fydd cael y timau cymysg i orffen gan fod mor
garedig ag sy’n bosibl wrth ei gilydd. Rhowch wobrau am hyn yn hytrach nag am ennill.
Daliwch ati i greu’r awyrgylch lle gellir annog ymddygiad cadarnhaol – er enghraifft, rhoi
cymaint o groeso ag sy’n bosib a chanolbwyntio drwy’r amser ar yr hyn mae’r plant yn ei
gael yn gywir yn hytrach na’r hyn sydd ganddyn nhw i’w ddysgu eto.
Daliwch blant yn ‘ymddwyn yn dda’. Gan ddefnyddio enw’r plentyn, rhowch ganmoliaeth
benodol i blant
Recommended