View
6
Download
0
Category
Preview:
Citation preview
Datblygu sgiliau iaith, llythrennedd a
chyfathrebu yn y Cyfnod Sylfaen
Pwrpas y canllaw yma yw eich helpu wrth gynllunio gweithgareddau iaith,
llythrennedd a chyfathrebu yn eich cylch drwy ddefnyddio’r pecyn Basgedi Trysor
Diolch am gymorth parod Vanessa Bowen a Nicola Edwards wrth gynhyrchu’r pecyn
Mae addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn dweud y dylai plant gael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth drwy: gwricwlwm priodol lle mae’r chwech (saith mewn lleoliadau
Cyfrwng Saesneg) Maes Dysgu yn cyd-fynd a chydweithio â’i gilydd
darpariaeth barhaus a gwell, a gweithgareddau mewn
amgylcheddau dysgu a geir dan do ac yn yr awyr agored gwahanol fathau o weithgareddau chwarae ac ystod o
weithgareddau a gaiff eu cynllunio, gan gynnwys rhai a ysgogir gan y plant
profiadau sy’n caniatáu iddynt fabwysiadu ystod o rolau, gan
gynnwys arwain mewn grŵp bach, dysgu fesul pâr neu weithio mewn tîm
gwahanol adnoddau, gan gynnwys TGCh cyfleoedd dysgu ymarferol sy’n caniatáu iddynt dyfu’n ddysgwyr
annibynnol gweithgareddau sy’n caniatáu iddynt ddefnyddio eu synhwyrau
a bod yn greadigol a dychmygus. Tasgau a heriau sy’n eu hannog i ddatrys problemau a thrafod.
Cyflwyniad
Datblygu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu ar draws y ddarpariaeth
Er mwyn sicrhau bod y plant yn cael profiad o amgylchedd iaith gyfoethog, mae angen sicrhau bod cyfleoedd ar gael i’r plant datblygu sgiliau iaith ar draws y ddarpariaeth. Bydd y ddarpariaeth barhaus yn cynnig cyfleoedd i’r plant i ymarfer, datblygu a mireinio eu sgiliau a thrwy ei gyfoethogi yn rheolaidd gyda gweithgareddau strwythuredig caiff y plant cyfleoedd eang i ddwysau eu dysgu.
Mae modelu’r iaith lafar yn hanfodol i ddatblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu. Mae datblygu’r iaith lafar yn her sylweddol yn ein cylchoedd ond yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn medru cael mynediad i weddill y cwricwlwm.
Mae angen sicrhau cyflenwad digonol o offer ac adnoddau i ddatblygu sgiliau’r plant. Mae angen cyfnewid rhain yn rheolaidd er mwyn cadw’r profiadau yn gyffrous. Mae modd defnyddio deunyddiau ail gylchu (e.e. boteli plastig a chardfwrdd) a deunyddiau naturiol i gefnogi’r dysgu.
Mae cyfleoedd hefyd i ddatblygu sgiliau iaith drwy ddefnyddio offer TGCh. Mae’n hanfodol bod plant yn cael cyfleoedd i ddefnyddio technoleg ar gyfer ymarfer eu sgiliau e.e. microffonau, gemau ar y we ayyb sy’n addas i blant meithrin. Mae teganau a rheolir (e.e. Bee Bot) yn cynnig cyfleoedd hefyd. Mae’r defnydd o gamera neu lechen electronig yn cynorthwyo wrth gofnodi gweithgareddau a llwyddiannau’r plant ac wrth asesu ar gyfer cynllunio gweithgareddau pellach.
Rôl yr Oedolion
Mae gan bob oedolyn rôl allweddol i chwarae wrth ddatblygu sgiliau iaith. Mae’n bwysig cymryd pob cyfle i fodelu iaith wrth chwarae gyda’r plant ac i’w cwestiynu a’u herio wrth ymgymryd â gweithgareddau amrywiol yn ystod pob sesiwn.
Y Pecyn Basgedi Trysor
Trwy ddefnyddio’r pecyn yma yn ei gyfanrwydd ar gyfer eich sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu'r Cyfnod Sylfaen o fewn eich cylch byddwch yn cyflwyno pob sgil llafar ynghyd â rhai sgiliau darllen ac ysgrifennu. Mae hyn yn cynnwys y diweddariadau i’r maes yn y Cyfnod Sylfaen. Hefyd, mae pob un o’r themâu yn cynnig syniadau i chi gyfoethogi eich ardaloedd dysgu. Mae nifer ohonynt yn cynnwys eich ardaloedd allanol yn ogystal â’ch ardaloedd mewnol. Rhaid cofio hefyd bod pob thema yn cynnwys ystod eang ar gyfer datblygu sgiliau rhifedd a mathemateg gan fod iaith fathemategol yn allweddol o ran datblygiad iaith. Mae’r themâu isod yn cynnwys gweithgareddau ar gyfer nifer o ardaloedd fydd yn eich darpariaeth barhaus
Themâu Ardaloedd Dysgu
Pethau disglair Ardal darganfod
Hwyl yn y Cylch Ardal gelf, ardal gerdd
Clywed Ardal gerdd, Ardal grefft, ardal berfformio
Magnedau Ardal darganfod
Brwshis Ardal chware rôl, ardal beintio
Pethau naturiol Ardal darganfod, ardal grefft, ardal ddŵr
Y Postmon Ardal chwarae rôl, ardal grefft, ardal marcio
Dathlu Ardal chwarae rôl , ardal darganfod, ardal mathemateg, ardal grefft
Stori (Ffrind newydd Elfed)
Ardal beintio, Ardal fathemateg
Gwlad arall Ardal darganfod, ardal byd bach, ardal ddarllen
Pethau Disglair
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Iaith Estynedig
Trafod gwrthrych mewn termau syml
Defnyddio geirfa sydd newydd ei dysgu
Deall a defnyddio cwestiynau syml i sefydlu pam mae pethau’n digwydd
Cymryd rhan mewn trafodaeth gyda phlant eraill/ oedolion
Mynegi beth yw eu hoff / cas bethau
Ardal darganfod
Amrywiaeth o lwyau, drychau (plastig sy’n plygu) chwyddwydrau, camera/ llechen
Cymharu llwyau o ran maint, siâp a hyd
Disgrifio beth maent yn gweld wrth gymharu adlewyrchiad y ddwy ochr i’r llwy
Cyflwyno ansoddeiriau i ddisgrifio e.e. Tenau, hir, llydan, cul, rhyfedd, gwahanol
Pryd maent yn defnyddio llwyau adre a thrafod hoff fwydydd
1
Defnyddio geirfa sydd newydd ei dysgu oddi mewn a thrwy gweithgareddau chwarae
Ail adrodd digwyddiad neu brofiad mewn termau syml
Adnoddau/ arteffactau i gyd fynd a’r dathliad
Enwi a thrafod y gwrthrychau
Defnyddio geirfa i ddisgrifio ac i gymharu
Ble maent wedi gweld rhywbeth tebyg o’r blaen?
Trafod a deall bod pobl yn dathlu’n wahanol.
Trafod storïau’n fanylach e.e. Y Nadolig, Guto Ffowc, Diwali
Defnyddio ardal byd bach i ail ddweud y stori
2
Defnyddio geirfa sydd newydd ei dysgu oddi mewn a thrwy gweithgareddau chwarae
Ardal darganfod
chwyddwydr, camera / llechen
Dysgu’r plant sut i ddal y chwyddwydr yn gywir
Darganfod pethau disglair o amgylch y cylch a modelu ,“rydw i wedi darganfod.....”
Defnyddio camera / llechen i gofnodi pethau disglair yn y Cylch.
Eraill i ddyfalu ble oedd y pethau disglair wrth edrych ar y ffotograffau o’r camera / llechen
3
Trafod llun, modelau a gweithrediadau mewn termau syml
Dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol mawr, bach (caled / meddal)
Ardal darganfod / Bocs teimlo
Disgrifio teimlad yr adnodd yn y bocs heb weld y gwrthrych
Dyfalu beth yw’r gwrthrych
Cymharu'r gwrthrych e.e. “Mae hwn yn fyr, pigog a meddal fel...”
Troi’r gêm o amgylch wrth wrando ar y disgrifiad a wedyn dod o hyd iddo
4
Ymateb mewn ffordd syml i ysgogiadau creadigol
Siarad am bethau o’u profiadau a rhannu gwybodaeth
Ardal darganfod
E.e. Ffrwythau i gyd fynd a stori e.e. Sypreis Handa / gwrthrychau blwyddyn newydd Tsieineaidd
Trafod beth sy’n debyg a beth sy’n wahanol o ran diwylliant
Edrych ar glôb i edrych ar gwledydd eraill
Creu map meddwl o nodweddion y diwylliant
5
Hwyl yn y Cylch
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Iaith Estynedig
Amser Cofrestru
Adnabod geiriau cyfarwydd
Adnabod a gwahaniaethu rhwng print a lluniau
Sgiliau rhifedd posib
Cyfri yn ddibynadwy
Cofrestr yn cyd fynd gyda’r thema
Enwau’r plant yn yr ardal marcio
Plant i hunan gofrestru wrth gyrraedd
Plant i chwilio am eu henwau yn ystod sesiwn gofrestru
Cyfri nifer o blant sydd yn bresennol, sawl bachgen / merch? Sawl un sy’n absennol?
Adnabod enwau eraill
Adnabod llythyren gyntaf enw
Cymharu enw eu hunain gydag enwau eraill
Creu cofrestr ar ffurf grid
1
Ardal Gelf
Defnyddio geirfa sydd wedi ei dysgu trwy weithgareddau chwarae
Trafod model mewn termau syml
Sgiliau geirfa mathemategol posib
Cyflwyno hir, hiraf, byr, byrraf, cul, llydan, mawr, bach, canolig,
Cyflwyno geirfa siâp 2D a 3D
Ychwanegu cynhwysion amrywiol i’r clai e.e. tywod, glitter, blawd llif er mwyn cyflwyno geirfa
Cyflwyno geirfa wrth chwarae gyda’r clai e.e. Dewch i greu siapiau pigog, cyrliog, syth
Cyflwyno a defnyddio geirfa siapiau 3D wrth chwarae a chreu modelau yn y clai e.e. Sffêr, ciwb, silindr, ciwboid
2
Ardal Gerddoriaeth
Siarad yn ddigon clir i gael eu deall gan oedolyn a chyfoedion
Dilyn geiriau gweithredol
Cymryd rhan wrth chwarae a synau a geiriau
Gadael y sach ganu yn yr ardal gerdd er mwyn i’r plant ail ymweld â chaneuon
Gadael llyfr canu / posteri canu yn yr ardal gerdd
Cyflwyno a defnyddio sach ganu gydag amrywiaeth o wrthrychau perthnasol i gysylltu â chaneuon adnabyddus.
Amrywio’r gwrthrychau i herio gwybodaeth y plant o eiriau’r caneuon
3
Ardal allanol
Gwrando ar a dilyn cyfarwyddid
Creu gemau corfforol annibynnol i’r ardal allanol e.e. gêm targed at gymeriad o’r thema.
Gwrando ar orchmynion symud penodol wrth gemau parasiwt, gêm rhwystr, Mr Blaidd, gemau targed, dilyn symudiadau corfforol
Dilyn cyfarwyddyd dau gam e.e. Sym-ud drwy’r hwp a dros y rhaff
Dilyn cyfarwyddyd 3 cam e.e. “Cewch o dan y rhaff, drwy’r cylch a dros y mat”
4
Clywed
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Iaith Estynedig
Sylwi ar rhythm ac odl mewn geiriau ar lafar ac ymuno mewn gweithgareddau rhythmig
Sylwi ar rhythm mewn geiriau ar lafar
Ardal Gerdd
Gwrthrychau / offerynnau
Llyfryn/posteri canu
Taro offerynnau i gyd fynd â rhythm
Taro offerynnau i gyd fynd â rhigymau a chaneuon cyfarwydd
Dilyn rhythm, ymuno mewn rhythm, creu rhythm i gyd fynd â sawl sill yn eu henwau
1
Cysylltu cardiau lluniau â synau
Adnabod lluniau a dehongli eu hystyr
Deall bod testun yn dweud rhywbeth a dylid darllen o’r chwith i’r dde, top i’r gwaelod
Arwydd llygoden i ddynodi sŵn tawel ac arwydd eliffant i ddynodi sŵn cryf
Copïo rhythm, ychwanegu synau cryf/tawl, cyflym/araf
Dilyn taflen rhythm o’r dde i’r chwith
2
Clywed gwahaniaeth rhwng synau cyffredin-ol, synau llafar a synau yn yr amgylchedd
Dwyn i gof a siarad am ddarluniadau a gwrthrychau gweledol
CD’s, apps, Gêm loto sŵn, meicroffon
Clustiau i wrando (Het)
Gwrando ar recordiad o synau o’r am-gylchedd yn dilyn taith synau. Gellir recordio’r synau ar meicroffon
Cyfateb y sŵn i lun o’r gwrthrych
Gan ddefnyddio symbolau o’r synau a glywyd, gosod y synau mewn trefn a glywyd ar y daith sŵn
3
Gwrando / ymateb a chanolbwyntio cynyddol
Dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol e.e. Cyflym, araf, tawel, swnllyd
Amrywiaeth o gerddoriaeth
Lluniau/ symbolau emosiwn
Cyfateb symbol emosiwn wrth wrando ar gerddoriaeth
Pa ddarnau maent yn hoffi/ddim yn hoffi a pham?
Creu cerddoriaeth hapus/ trist/ofnus crac (blin) gan ddefnyddio offerynnau neu’r offerynnau a grëwyd.
4
Clywed a gwahaniaethu rhwng synau cyffredinol, synau llafar a synau yn yr amgylchedd
Adnoddau amrywiol wrth y bwrdd darganfod neu’r ardal grefft / creu
Dod o hyd i ddefnyddiau i greu synau gwahanol a’u cofnodi ar lechen neu meicroffon a chamera.
Defnyddio’r lluniau a synau i greu gêm cyfateb
Copïo rhythm offeryn, neu gopïo trefn taro / ysgwyd offeryn. Gellir ychwanegu un sŵn ar y tro
5
Sylwi ar rhythm mewn geiriau llafar ac ymuno mewn gweithgareddau rhythmig
Ardal greu/crefft
Amrywiaeth o adnoddau
Plant i greu offerynnau gan ystyried taro, ysgwyd, chwythu ayb
Defnyddio’r offerynnau i greu cerdd-oriaeth i gyd fynd a rhigwm/cân
Dilyn taflen symbolau i ddynodi pa offeryn i’w chwarae fel grŵp
6
Gwrando ac ymuno a chaneuon a rhigymau
Ymateb mewn ffordd syml i ysgogiad creadigol
Ardal berfformio
Dillad / gwallt gosod meicroffon, Paddles (Sgôr berfformio)
Recordio perfformiadau
Adnabod lleisiau eraill
Mynegi barn yn bositif am eraill
Plant i wylio eraill yn berfformio a dynodi sgôr 1-5 ar y perfformiad
Plant i gyfansoddi caneuon ar thema/ diddordebau
7
Magnedau
Darpariaeth barhaus a chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Iaith Estynedig
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
1
Ardal darganfod
Gwrthrychau metelaidd ac anfetelaidd, magnedau
Arsylwi ar y plant
Ar ôl i’r plant arbrofi gellir holi’r plant beth sy’n digwydd i rhai o’r gwrthrychau
Cyflwyno’r termau magned, magnetig , gwrthyrru, metal, anfetalaidd
Siarad digon clir i gael eu deall
Mynegi mwynhad neu diddordeb
2 Bocsys/potiau er mwyn rhannu’r adnoddau i grwpiau.
Rhannu’r adnoddau yn ôl grŵp magnetig / gwrthyrru
Mynd am daith o gwmpas y cylch yn darganfod pethau magnetig
Cofnodi gwaith gan ddefnyddio lluniau / ffotograffau o’r gwrthrychau
Defnyddio geirfa sydd newydd ei dysgu
Cymryd rhan gydag eraill mewn gweithgareddau
3 amrywiaeth o
adnoddau
Gwaith dyfalu a yw gwrthrych yn fagnetig, cyfri, enwi’r gwrthrych, cymharu gwrthrychau
Plant i greu casgliad i blant ddarganfod eitemau magnetig / gwrthyrru
Ateb cwestiynau syml
Ymateb mewn ffordd syml
Cymryd rhan mewn trafodaeth gyda phlant eraill/oedolion
4
Wedi’r weithgaredd ffocws gellir ei adael allan i’r plant ail ymweld a’r dasg ac efallai creu adnoddau eu hunain i’w bysgota
Chwarae’r gêm bysgod
Rhifo, disgrifio’r pysgod
Addasu’r gêm i gyd-fynd a thema e.e. Pysgota penbyliaid Bili Broga
Newid y pysgod i wrthrychau eraill er mwyn ymestyn geirfa e.e. Siapiau, dail, blodau, dinosoriaid
Trafod gweithrediadau mewn termau syml
Cymryd rhan gydag eraill mewn gweithgareddau
5 Teganau magnetig e.e. Brio, siapiau 3D magnetig
Chwarae gyda’r teganau magnetig Chwarae gyda llythrennau magnetig, adnabod prif lythyren eu henwau / ysgrifennu enw mewn llythrennau magnetig.
Defnyddio geirfa sydd newydd ei dysgu oddi mewn a thrwy weithgareddau chwarae
Siarad am bethau o’u profiad a rhannu gwybodaeth
Brwshys
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Iaith Estynedig
Trafod gwrthrychau mewn termau syml
Defnyddio geirfa sydd newydd ei dysgu
Siarad yn ddigon clir i gael eu deall gan oedolion a chyfoedion
Gadael y brwshys amrywiol yn yr ardal darganfod er mwyn i blant ail ymweld a’r dasg ffocws yn annibynnol
Trafod a rhannu’r brwsys. Gellir gosod y brwshys mewn bocsys gyda’r lluniau arnynt.
Trafod pwy sy’n defnyddio’r brwsh yma, pwy maent wedi gweld yn defnyddio’r brwsh, beth fyddai’n digwydd wrth ddefnyddio’r brwsh anghywir?
1
Mynegi mwynhad neu diddordeb
Ail-adrodd digwyddiad neu brofiad mewn termau syml
Dynwared bywyd go iawn a phrofiad-au dychmygol o fewn gweithgaredd chwarae rôl
Ardal chwarae rôl– Salon Trin Gwallt
Cylchgronau gwallt, sychwr gwallt, sythwr, chwistrellwr dŵr, drych, amrywiaeth o frwshys, llyfr apwyntiadau, til, cerdyn credyd
Person trin gwallt i ymweld â’r cylch neu cynnal ymweliad i salon.
Modelu’r broses sef trefnu apwyntiad, trafod steil, golchi gwallt, torri a steilio, mynegi barn a talu
Modelu brawddegau creu apwyntiad, gosod cost, disgrifio steil (hir, byr, cyrliog, syth)
Modelu cwestiynau e.e. Pa liw gwallt, pa hyd gwallt, ydych chi eisiau gel?
2
Arbrofi ag ystod o ddefnyddiau ac offer gwneud marciau
Ardal baentio / Peintio Allanol
Cyflwyno offer raddfa fawr i beintio e.e. mopiau, rollers, brwshys mawr
Plant i arbrofi yn hytrach na chreu llun gorffenedig
Trafod geirfa patrwm e.e. Igam ogam, chwyrlio, troellog, syth, tonnog, pigog
Tynnu cerdyn allan o het a chopïo’r patrwm ar raddfa fawr
3
Siarad yn ddigon clir i gael eu deall gan oedolion a chyfoedion
Dynwared bywyd go iawn a phrofiadau dychmygol o fewn gweithgaredd chwarae rôl
Ardal Chwarae rôl-
Tŷ Bach Twt
Modelu’r defnydd o brwshys amrywiol yn yr ardal
Cyflwyno can i gyd fynd gyda’r gweithgareddau e.e. Dyma’r ffordd i frwsho’r llawr (x3) yn y Cylch Meithrin (Tôn Here we go round the Mulberry Bush)
4
Pethau Naturiol
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Iaith Estynedig
Siarad yn ddigon clir i gael eu deall gan oedolion a chyfoedion
Trafod llun, modelau a gweithrediadau mewn termau syml
Ardal Darganfod
Chwyddwydrau, llyfr yn ymwneud a’r gwrthrychau e.e. Llyfr natur, bocs teimlo
Sesiwn ddarganfod fel tasg ffocws ac wedyn gadael y gwrthrychau yn y ddarpariaeth barhaus yn yr ardal darganfod
Cyflwyno geirfa yn ôl y thema e.e. Dail, gwrthrychau’r Hydref. Gellir amrywio’r gwrthrychau yn ôl safon iaith y grŵp.
1
Ail adrodd digwyddiad neu brofiad mewn termau syml
Defnyddio geirfa sydd newydd ei dysgu
Amrywiaeth o adnoddau naturiol o blanhigion, o’r môr ac o’r ddaear.
Trafod wrth chwarae ac mewn tasg ffocws bach gwrthrychau naturiol, o ble maent wedi dod? A ydynt wedi gweld rhain o’r blaen? Ac ym mhle?
Cymharu a grwpio gwrthrychau naturiol ac annaturiol
Mynd ar daith natur o gwmpas yr ardal allanol / tir y Cylch gan dynnu sylw at wrthrychau naturiol
2
Defnyddio geirfa sydd newydd ei dysgu
Trafod llun, modelau a gweithrediadau mewn termau syml
Ardal Grefft / Creu
Amrywiaeth o adnoddau naturiol
Camera i gofnodi gwaith
Lluniau o enghreifftiau i sbarduno a chopïo
Creu collage
Defnyddio ac ymestyn geirfa’r thema a’r gwrthrychau wrth greu’r gwaith crefft
3
Mynegi mwynhad neu diddordeb
Defnyddio geirfa sydd newydd ei dysgu
Dynwared bywyd o iawn a phrofiadau dychmygol o fewn gweithgaredd chwarae rôl
Ardal ddŵr allanol
Offer amrywiol
Lle i storio’r offer ar wahân i’r dŵr
Geirfa i gefnogi’r staff
Plant i chwarae ac arbrofi
Oedolyn i gefnogi yn enwedig wrth ddisgrifio gweithredoedd y plant
Oedolion i fodelu iaith wrth wylio’r plant e.e. “Rwyt ti’n llanw’r bwced / mae’r botel yn wag / rwyt ti wedi arllwys yn ofalus iawn”.
4
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Iaith Estynedig
Mynegi mwynhad neu ddiddordeb
Defnyddio geirfa newydd oddi mewn a thrwy weithgareddau chwarae
Sgiliau rhifedd posib
Adnabod y rhifau o 0 i 5
Dangos ymwybyddiaeth o bwrpas arian drwy chwarae rôl
Casgliad o wrthrychau addas yn yr ardal chwarae rôl e.e. Til, arian ffug (Swyddfa Bost)
Amrywiaeth o gardiau cyfarch yn yr ardal chwarae rôl (siop cardiau)
Casgliad o focsys gwag, papur brown i’w lapio a labeli yn yr ardal celf
Trin a thrafod pethau amrywiol sydd yn cael eu postio-ffocws ar ddysgu geirfa
Cyfateb amrywiaeth o gardiau gyda achlysuron amrywiol e.e. Pen-blwydd, priodas, babi newydd ayyb
Ymweld â’r Swyddfa Bost a thrafod ‘daith llythyr/parsel’
1
Siarad yn ddigon glir i gael eu deall gan oedolion a chyfoedion
Gofyn cwestiwn priodol
Sgiliau rhifedd posib
Defnyddio’r cysyniad o amser
Canu/llafarganu dyddiau’r wythnos
Het, gwisg a sach postmon yn yr ardal chwarae rôl
Blwch postio
Enwau’r plant ar amlenni ar gyfer hunan gofrestru/ sesiwn gofrestru
Gwahodd postmon i ddod i siarad â’r plant am ei waith
2
Cymryd rhan mewn trafodaeth
Dynwared y broses o ysgrifennu wrth chwarae rôl
Enwau’r plant, enwau cartrefi’r plant (gyda llun o’u cartref) ac amlenni gwag yn yr ardal marcio
Trafod ystyr cyfeiriad y cartref Trafod cyfeiriadau aelodau eraill o’r teulu e.e. Mam-gu a Dad-cu
3
Trafod llun mewn termau syml
Gwrando ac ymateb â sylw a chanolbwyntio cynyddol
Amrywiaeth o gardiau cyfarch yn yr ardal chwarae rôl (siop cardiau)
Enwau’r plant yn yr ardal marcio
Trafod dathliadau gan ddefnyddio amrywiaeth o gardiau cyfarch fel sbardun
4
Cymryd rhan mewn trafodaeth
Cyfathrebu drwy defnyddio symbolau a lluniau
Dal llyfrau y ffordd iawn a throi’r tudalennau
Cardiau post gwag yn yr ardal marcio
Atlas yn yr ardal ddarllen
Oedolyn i fodelu ysgrifennu cerdyn post
Trafod atlas 5
Dynwared bywyd go iawn a phrofiadau dychmygol o fewn gweithgaredd chwarae rôl
Sgiliau rhifedd posib
Cymharu, didoli a rhoi trefn ar sail maint neu pwysau drwy arsylwi’n uniongyrchol
Ardal chwarae rôl (Swyddfa Bost) i gynnwys
- casgliad o wrthrychau addas
- het , gwisg a sach postmon, blwch postio
- amlenni, parseli, cardiau, stampiau ayyb
Oedolyn i fodelu chwarae yn y Swyddfa Bost
Didoli a threfnu amlenni a pharseli yn ôl maint
Didoli parseli yn ôl pwysau
6
Y Postmon
Enw’r plentyn
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Iaith Estynedig
Dangos diddordeb mewn llyfrau a mwynhau eu cynnwys
Trafod mewn termau syml
Gwrando ac ymateb â sylw a chanolbwyntio cynyddol
Dynwared bywyd go iawn a phrofiadau dychmygol o fewn gweithgaredd chwarae rôl
Sgiliau mathemateg posib
Didoli a chyfateb gwrthrychau drwy adnabod elfennau tebyg
Dillad ac adnoddau ar gyfer dathlu di-wrnod arbennig yn yr ardal chwarae rôl
Llyfrau yn ymwneud a dathliadau amrywiol yn yr ardal darllen
Gadael y fasged drysor a’r gwrthrychau yn yr ardal ddarganfod
Darllen stori am ddathliad arbennig e.e. babi newydd
Trafod cynnwys y fasged drysor e.e. casgliad o wrthrychau yn ymwneud â babi newydd
Didoli amrywiaeth o wrthrychau yn unol a’r dathliad. Dysgu geirfa newydd.
1
Siarad yn digon clir i gael eu deall gan oedolion a chyfoedion
Cymryd rhan mewn trafodaeth gyda phlant eraill ac oedolion
Priodoli ystyr i farciau
Sgiliau mathemategol posib
Misoedd y flwyddyn
Cyfrif yn ddibynadwy
Cofnodi casgliadau drwy ddefnyddio lluniau
Canu misoedd y flwyddyn yn ystod sesiwn cofrestr
Casgliad o gardiau pen-blwydd â rhifau arnynt (e.e. 1 i 5) . Plant i osod y cardiau yn y drefn cywir neu i ddarganfod nifer o ganhwyllau i gyfateb a’r rhif sydd ar y garden yn yr ardal mathemateg
Cardiau pen-blwydd ac amlenni gwag yn yr ardal marcio
Trafod pen-blwydd pob plentyn yn y grŵp.
Trafod misoedd y flwyddyn a nodwch pen-blwydd pob plentyn ar arddangosfa o fisoedd y flwyddyn.
Trafod oedran pob plentyn nawr a beth byddan nhw ar eu pen-blwydd nesaf . Dewis carden pen-blwydd priodol.
Cyfrif y nifer o blant sy’n cael eu pen-blwydd ym mhob mis a chreu graff lluniau
2
Siarad yn ddigon clir i gael eu deall gan oedolyn a chyfoedion
Dilyn geiriau gweithredol
Cymryd rhan gydag eraill mewn gweithgareddau
Casgliad o wrthrychau yn ymwneud â pharti pen-blwydd—hetiau, platiau, cardiau (rhai parod a/neu rhai wedi’u creu )yn y siôp
Deunyddiau addas i’r plant i greu gwrthrychau parti yn yr ardal grefft
Trafod parti pen-blwydd
Creu gwrthrychau parti - card-iau, hetiau, gwahoddiad ayyb
Trafod bwydydd parti. ‘Ysgrifennu’ rhestr siopa i brynu bwydydd parti
Creu rhestr siopa ar gyfer prynu cynhwysion i wneud cacen ddathlu
Coginio cacen pen-blwydd-dilyn cyfarwyddiadau (rysait)
3
Trafod llun a gweithrediadau mewn termau syml
Cardiau cyfarch amrywiol i annog trafodaeth yn yr ardal darganfod
Edrych ar gasgliad o luniau yn dangos dathliadau amrywiol yn y wlad yma a thramor.
Coginio bwydydd sy’n cyd-fynd â dathliad arbennig e.e. Bara-Diolchgarwch
4
Dathlu
Mawrth Ionawr Chwefror Ebrill Mai
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Iaith Estynedig
Mynegi mwynhad neu diddordeb
Siarad yn digon glir i gael eu deall gan oedolion a chyfoedion
Sgiliau mathemategol posib
Copïo patrymau gweledol syml
Cymysgu paent i wneud rhai o liw-iau Elfed—ardal celf
Argraffu e.e. gyda thatws neu sbwng i greu patrwm clytwaith
Torri papur lliw i greu collage amryliw
Trafod Elfed—ei maint a’i liwiau.
Trafod ffrindiau. Pwy yw eu ffrindiau?
Trafod beth maent yn hoffi gwneud gyda ffrind.
Defnyddio sgwariau i gwblhau patrwm ( 2 liw ac yna 3 lliw)
Creu patrymau gan ddefnyddio sgwariau lliwgar
1
Gwrando ar ac ymuno â storiâu
Ailadrodd stori y maent wedi’i glywed mewn termau syml
Dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol fel mawr, bach, hir, tal ayyb
Sgiliau geirfa mathemategol posib
Trafod yr anifeiliaid yn y stori gan ddefnyddio iaith fathemategol briodol
3 llun o bob anifail o’r stori. Plant i’w didoli—mawr, bach, canolig
Cymysgu paent du a gwyn i greu llwyd—ardal baentio
Trafod nodweddion eliffant gan ddefnyddio tegan eliffant (neu llun) fel sbardun ac annog y plant i beintio llun o eliffant
Darllen stori ‘Ffrind Newydd Elfed’ gan ddefnyddio pypedau neu lluniau wrth gyflwyno’r stori.
Cyflwyno geirfa newydd i’r plant gan ddefnyddio lluniau neu deganau meddal.
Disgrifio’r anifeiliaid gan ddefnyddio geirfa fathemategol briodol e.e. Jiraff tal, neidr hir, eliffant mawr ayyb.
Cyfateb teganau meddal o’r cymeriadau o’r stori gyda chartref (bocs gwag wedi ei baentio) o’r maint cywir.
2
Siarad yn ddigon clir i gael eu deall gan oedolyn a chyfoedion
Dechrau ateb cwestiynau gan ddefnyddio ffurfio cywir
Ardal gelf—mygydau anifeiliaid a deunyddiau collage
Gadael yr anifeiliaid a’r bocs yn yr ardal ddarllen
Actio’r stori ar lefel syml gan annog y plant i ofyn ‘Oes ffrind gen ti?’ ac ymateb ‘Oes, ........ yw fy ffrind i.’
Creu cefndir i’r stori drwy baentio’r olygfa ar focs mawr (gyda’r plant). Defnyddio teganau meddal/pypedau i greu’r stori
3
Gwrando ar a dilyn cyfarwyddid
Defnyddio brawddegau sy’n cynnwys pump gair neu fwy
Chwaraewr CD a thegan meddal i’r plant i drefnu gweithgaredd tebyg eu hunain
Eistedd mewn cylch a phasio Elfed o gwmpas tra bod cerddoriaeth yn chwarae. Pan mae’r gerddoriaeth yn stopio’r annog y plentyn i ddweud ‘Enw fy ffrind yw .......’. Rwy’n hoffi ....... gyda ...........’
Trafod bod yn ffrind da 4
Stori
Cwricwlwm Cymru:
Fframwaith Cyfnod Sylfaen
Darpariaeth barhaus a
chyfoethogi
Ffocws Gweithgareddau
Iaith Estynedig
1 Deall a defnyddio cwestiynau syml
Mynegi mwynhad neu diddordeb
Siarad yn digon clir i gael eu deall
Gwrando ac ymateb â sylw a chanolbwyntio cynyddol
Glôb, map lluniau o’r pentref / ardal
Lluniau o wahanol sefyllfaoedd-traeth, gwlad, tref, dinas, pentref yn yr ardal darganfod
Trafod ble mae’r plant yn byw a dysgu geirfa disgrifiadol newydd e.e. ar lan y môr, yn y wlad, dinas, pentref ayyb
Trafod ble mae aelodau eraill o’r teulu yn byw? E.e. Mamgu / Taid a sut mae cyrraedd yno?
2 Trafod llun mewn termau syml
Defnyddio geirfa newydd
Deall a defnyddio cwestiynau syml
Gwrando ac ymateb â sylw a chanolbwyntio cynyddol
Dangos dealltwriaeth o egwydd-orion sylfaenol
Gwrando ar a dilyn cyfarwyddyd
Defnyddio tegan sy’n medru ei reoli i deithio at leoliadau gwahanol e.e. Bee Bot
Edrych ar gasgliad o luniau o wa-hanol wledydd a thrafod beth sy’n tebyg/gwahanol
Gofyn cwestiynau syml , e.e. ’Ble mae’r mynydd?’ a gofyn i’r plant i ffeindio’r llun iawn
Chwarae gêm ‘Snap’ - bydd angen 2 gopi o bob llun
Defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau i greu model neu llun collage . Trafod y nodweddion a labeli’r model/llun ar y cyd
Chwarae gêm parau gyda’r gêm Snap
3
a
4
Gwrando ar ac ymuno â storiâu
Siarad yn ddigon clir i gael eu deall gan oedolyn a chyfoedion
Dilyn geiriau gweithredol
Cymryd rhan wrth chwarae â synau a geiriau
Gwrando ar a dilyn cyfarwyddid
Sgiliau mathemategol posib
Cyfri yn ddibynadwy
Anifeiliaid (neu lluniau) o’r stori i’r plant i osod yn y drefn cywir yn yr ardal darllen. Defnyddio camera/llechen/tabled electronig i gofnodi’r dasg
StorÏau sydd wedi ei ysgrifennu gan y plant (ac oedolyn) yn yr ardal ddarllen
Darllen stori ‘Sypreis Handa’ a thrafod y ffrwythau. Trafod trefn y stori.
Teimlo, arogli a blasu’r ffrwythau.
Creu salad ffrwythau gan ddefnyddio’r ffrwythau sydd yn y stori.
Chwarae ‘gêm Kim’ wrth gosod y ffrwythau ar 2 hamfwrdd, eu cuddio a mynd ag un. Plant i ddweud pa un sydd wedi mynd.
Creu stori eu hunain gan ddef-nyddio anifeiliaid a ffrwythau (neu lysiau) gwahanol. Oedolyn i ysgrifennu’r stori a’i roi yn yr ardal darllen.
Creu ‘kebabs’ ffrwythau gan ddefnyddio ffrwythau amrywiol a gwellt tenau. Cyfri y darnau o ffrwyth ar bob kebab
Gwlad arall
www.meithrin.cymru @MudiadMeithrin
Facebook.com/MudiadMeithrin
Tudalen wag.pdfBasgedi Trysor - pecyn cyfan 2Basgedi Trysor - pecyn cyfan.pdfBasgedi Trysor- rhan cyntaf y pecyn.pdfBasgedi Trysor- ail rhan y pecyn
Pages from Basgedi Trysor - pecyn cyfanPages from Basgedi Trysor - pecyn cyfan
Tudalen wagTudalen wagTudalen wag
Recommended