View
81
Download
9
Category
Preview:
DESCRIPTION
Risg i iechyd?. Trosolwg. Rydych chi’n byw wrth ymyl ffatri gemegol sy’n gweithgynhyrchu gwrtaith at ddefnydd amaethyddol. Mae’r ffatri wedi bod yn rhedeg ers 10 mlynedd. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae meddygon wedi nodi nifer o achosion o broblemau anadlu hirdymor ymhlith pobl leol. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Risg i iechyd?
Trosolwg
Rydych chi’n byw wrth ymyl ffatri gemegol sy’n gweithgynhyrchu gwrtaith at ddefnydd amaethyddol. Mae’r ffatri wedi bod yn rhedeg ers 10 mlynedd.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae meddygon wedi nodi nifer o achosion o broblemau anadlu hirdymor ymhlith pobl leol.
Beth a ddywedwyd yn y cyfarfod cyhoeddus?
Mae’r ffatri’n gollwng mygdarth gwenwynig.
Dechreuodd fy symptomau ddwy flynedd yn ôl. Rwy’n aml yn brin fy anadl.
Mae’r ffatri’n ein gwneud ni’n sâl!
Rydym wedi astudio natur wenwynig y priddyn yr ardal leol. Does dim tystiolaeth o gemegol gwenwynig yn y samplau a gymerwyd.
Rydym wedi astudio nifer yr achosion o broblemau anadlu hirdymor yn yr ardal leol. Rydym wedi cymharu hyn â nifer yr achosion o’r un problemau mewn ardal 50km i ffwrdd o’r ffatri gemegol. Rydym wedi canfod mwy o achosion yn yr ardal wrth ymyl y ffatri gemegol.
Rwy’n gweithio yn y ffatri ac yn smygu weithiau. Mae fy mheswch yn waeth yn y gwaith.
Nid yw’r mygdarth sy’n gollwng o’r ffatri yn peri risg i iechyd trigolion.
Perchennog y ffatri
Gwyddonwyr sy’n gweithio ar ran y gymuned leol
Gwyddonwyr sy’n gweithio i’r cwmni cemegol
Mr Jones, trigolyn
Lucy Phillips, trigolynGethin Harris, trigolyn
Rhian Jones, trigolyn
Beth yw eich barn chi?
Pa dystiolaeth sydd ar gael i wneud y canlynol:• cefnogi honiadau’r trigolion mai’r ffatri sy’n achosi eu salwch?• gwrthod honiadau’r trigolion mai’r ffatri sy’n achosi eu salwch?
Pa farn rydych chi’n ei chefnogi? Pam?
Pa mor gryf yw’r dystiolaeth i gefnogi hyn? Beth yw sail eich barn?
Beth yw eich barn chi?
Ar wahân i’r datganiad gan y gwyddonwyr sy’n gweithio ar ran y trigolion, am ba reswm arall y byddech chi’n amau’r datganiad a wnaed gan wyddonwyr y cwmni?
A yw datganiad gwyddonwyr y cwmni yn cefnogi datganiad perchennog y ffatri neu’n ei wrth-ddweud? Sut gwyddoch chi hynny?
Beth yw eich barn chi?
Cymharodd y gwyddonwyr sy’n gweithio ar ran y trigolion nifer yr achosion o broblemau anadlu hirdymor wrth ymyl y ffatri gyda’r rhai mewn ardal sy’n bell i ffwrdd o’r ffatri.
Pa wahaniaethau posibl yn y ddwy ardal fyddai’n taflu amheuaeth dros ddilysrwydd y gymhariaeth?
Dod i gasgliad!Rydych chi’n wyddonydd annibynnol a gofynnwyd i chi ddod i gasgliad terfynol.
Pa ymchwiliadau y byddech chi’n eu cynnal drosoch chi eich hun er mwyn dod i gasgliad?
Sut y gallech chi fod yn siŵr bod y canlyniadau yn ddibynadwy a bod y casgliad yn ddilys?
Sut y byddai eich canlyniadau yn dangos:• mai’r ffatri sy’n achosi’r salwch?• nad y ffatri sy’n achosi’r salwch?
Pa wybodaeth arall y gallai fod ei hangen arnoch chi er mwyn dod i gasgliad?
Rwy’n credu…….Sarah
Charlie
Jenny
Bethan Alun
Cyfansoddiad cemegol gwrteithiau amaethyddol
Beth sy’n digwydd i fygdarth gwenwynig a ollyngir i’r atmosffer?
Y clefydau anadlol y gall cemegion eu hachosi
Y cemegion sy’n cael eurhyddhau yn y mygdarth
Cofnodion iechyd cleifion
Rwy’n credu . . .
Recommended