32
www.hccmpw.org.uk Iechyd Defaid Cael y gorau o’ch diadell trwy wella iechyd y defaid Hybu Cig Cymru Meat Promotion Wales

Iechyd Defaid - Home | HCC / Meat Promotion Wales...Introduction | Contents 1 Iechyd Defaid Cael y gorau o’ch diadell trwy wella iechyd y defaid Hybu Cig Cymru Meat Promotion Wales

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Introduction | Contents 1

    www.hccmpw.org.uk

    Iechyd DefaidCael y gorau o’ch diadell trwy wella iechyd y defaid

    Hybu Cig CymruMeat Promotion Wales

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 1

  • Introduction | Contents 2

    Ynglŷn â HCCHybu Cig Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig cocho Gymru. Rydym yn gweithio gyda pob sector o'r diwydiant cig coch yng Nghymru -o'r ffermwyr i'r archfarchnadoedd, i ddatblygu'r diwydiant ac i ddatblygumarchnadoedd proffidiol i Gig Oen Cymru, Chig Eidion Cymru a porc o Gymru.

    Mae’r llyfryn hwn yn rhan o gyfres o gyhoeddiadau wedi’u cynhyrchu gan dîmDatblygu’r Diwydiant yn HCC.

    Mae’r Tîm Datblygu’r Diwydiant yn delio a gweithgareddau sy’n cynnwys:

    • Trosglwyddo Technoleg• Ymchwil a Datblygu• Gwybodaeth am y farchnad• Hyfforddiant• Meincnodi

    Hybu Cig CymruTŷ RheidolParc MerlinAberystwythCeredigionSY23 3FF

    Ffôn: 01970 625050 Fax: 01970 615148Ebost: [email protected]

    www.hccmpw.org.uk

    Ni ellir atgynhyrchu na throsglwyddo unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn mewn unrhywfodd heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y cwmni. Er y cymerwyd pob gofalrhesymol wrth ei baratoi, ni warentir ei gywirdeb, ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldebam unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ddibynnu ar unrhyw ddatganiad neuanwaith mewn perthynas â’r cyhoeddiad hwn.

    Mae HCC yn ddiolchgar i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol ameu mewnbwn technegol wrth lunio'r llyfryn hwn.

    Dyluniad: Hybu Cig Cymru 2013Lluniau a diagramau trwy garedigrwydd HCC a NADIS

    Gorffennaf 2013

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 2

  • Foreword / Contents 3

    Rhagair 3

    Cynllunio Iechyd Diadell 4Cyflwyniad 4

    Adeiladu’r cynllun 5

    Camau allweddol tuag at gynllunio iechyd

    y ddiadell 6

    Diogelwch y Ddiadell (bioddiogelwch) 7

    Cynllunio ar gyfer defaid iach 9Clefydau Clostridiol 9

    Orff 9

    Niwmonia - Pasteurelosis 10

    Llyngyr Main Parasitig 10

    Llyngyr yr Iau 12

    Cocsidiosis 13

    Parasitiaid allanol 14

    Mastitis 16

    Clefydau Metabolig 17

    Clefyd y Crafu 18

    Firysau cludol 20

    CynnwysMaedi visna 21

    Clefyd y Gororau 21

    Firysau cludol 22

    Problemau sy’n benodol i’r fferm 23

    Mae defaid cloff yn bwysig! 24Pam mae cloffni’n bwysig? 24

    Sut mae adnabod y gwahanol fathau

    o gloffni traed 25

    Defaid cloff - triniaeth 27

    Defaid cloff - atal 28

    Camau allweddol tuag at reoli cloffni 28

    Erthylu mewn defaid 29Pam mae erthylu’n bwysig? 29

    Erthyliad Ensöotig (EAE) 30

    Tocsoplasmosis 31

    Campylobacteriosis 31

    Camau allweddol tuag at reoli erthylu 31

    Crynodeb 32

    RhagairMae cael y perfformiad gorau gan eich defaid yn hanfodol igynhyrchwyr masnachol yn ogystal â bridwyr pedigri ermwyn cadw diadell broffidiol. I gael y perfformiad gorau,mae iechyd a lles y ddiadell yn hollbwysig. Mae caeldiadell sy’n cael ei bwydo’n gywir, ei rheoli’n dda ac sydd âdiogelwch iechyd da yn gam pwysig tuag at gaelproffidioldeb da. Nod y llyfryn hwn yw rhoi gwybodaeth achyngor i gynhyrchwyr ynglŷn â’r prif fygythiadau i iechyda lles eu diadelloedd. Mae hefyd yn nodi’r rheidrwydd ogael cynllun iechyd diadell y dylid ei ddiweddaru’nrheolaidd gyda’ch milfeddyg.

    Cyhoeddwyd y llyfryn Iechyd Defaid gwreiddiol yn 2009.Mae’r fersiwn hwn sydd wedi’i ddiweddaru yn cynnwys ycyngor diweddaraf yn seiliedig ar ymchwil gwyddonol acmae hefyd yn cynnwys clefydau newydd ac eraill nad oeddyn bresennol yn 2009. Mae’r erthyglau wedi eu hysgrifennuâ phwyslais ymarferol ar adnabod clefyd yn gynnar ond ynbennaf oll, ar sut i atal cyflwyno clefydau ac amodau a fyddyn arwain at waeth berfformiad a diffyg proffidioldeb o’rherwydd. Mae’r erthyglau’n berthnasol i fridwyr pedigri llemae defaid unigol yn bwysig yn ogystal â’r cynhyrchwyrllai dwys mwyaf a ddylai fod yn poeni am unigolion ondyng nghyd-destun y ddiadell.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 3

  • 4 Cynllunio Iechyd Diadell

    Cynllunio Iechyd DiadellCyflwyniadMae cynllun iechyd diadell yn ddefnyddiol ar gyfer galluogiffermwyr i gynllunio triniaethau rheolaidd yn eu diadell.Gellir ei ddefnyddio i bennu targedu a monitro perfformiad yddiadell mewn perthynas ag iechyd. Yn ddelfrydol, dylid eibaratoi gyda’ch milfeddyg ac mae’n rhyngweithiadamhrisiadwy rhwng y ffermwr a’r milfeddyg.

    Er y gall paratoi cynlluniau gyda’ch milfeddyg ymddangos ynddrud, mae’n gost-effeithiol.

    Cofiwch nad yw rhaglenni iechyd yn canolbwyntio arglefydau ac iechyd yn unig, ond eu bod hefyd yn cynnwysmaethiad a rheoli tiroedd pori. Mae gan ddiadell sy’n cael eibwydo’n dda fantais dros ddiadelloedd eraill.

    Mae’n wir fod defaid iach yn ddefaid proffidiol. Nod cynllunioiechyd diadell yw atal clefydau yn ogystal â gwneud y fentermor broffidiol â phosibl.

    Y gofynion sylfaenol ar gyfer cynllun llwyddiannus yw

    • cofnodion• asesiad cryno o broblemau diweddar • set glir o amcanion cyraeddadwy.

    Dechrau arniMae’n well cychwyn cynllun iechyd diadell rhwng wyth achwe wythnos cyn troi’r hyrddodd at y mamogiaid. Byddunion amser y flwyddyn yn dibynnu ar y dyddiad wyna addewisir ar gyfer y ddiadell. Er ei bod yn well cychwyncynllun ar ddechrau’r flwyddyn ddefaid, gellir gwneud hynnyyn ystod y chwe wythnos o ddiwedd wyna.

    Cofnodion DiadellMae cofnodion yn allweddol ar gyfer cynllun llwyddiannus afydd yn cynyddu proffidioldeb y ddiadell o flwyddyn iflwyddyn. Nid oes raid i’r rhain fod yn gymhleth na gofynllawer o amser. Y gofynion sylfaenol yw:

    • nifer yr ŵyn a ragwelir adeg sganio a’r ŵyn a werthir yn ypen draw.

    • colledion ymhlith mamogiaid beichiog, mamogiaid hysb(gwahaniaethwch rhwng mamogiaid gwirioneddol hysb a’rrhai sydd wedi wyna ond a gafodd eu troi allan heb oen)

    • colledion ŵyn adeg eu geni ac yn ystod y saith diwrnodnesaf, colledion o saith diwrnod oed tan ddiwedd ycyfnod gwerthu.

    Er bod wyna bob amser yn gyfnod prysur, mae llyfr nodiadaua phensel i gofnodi colledion yn amhrisiadwy ar gyfer gwellawyna yn y dyfodol.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 4

  • Cynllunio Iechyd Diadell 5

    Adeiladu’r cynllun Nid oes raid i gynllun iechyd y ddiadell fod yn ddogfenfaith. Mae rhai o’r goreuon yn seiliedig ar systemddyddiadur lle caiff y gweithrediadau arfaethedig eucofnodi mewn pensel a’u ticio ar ôl eu cwblhau.

    Mae’r pynciau a ganlyn yn enghreifftiau o’r hyn y dylid eigynnwys yn eich cynllun iechyd. Trafodwch reolaethgyffredinol gyda’ch ymgynghorydd, yn ogystal âmeddyginiaeth ataliol a'r defnydd o frechlynnau.

    Cyn hwrddaHyrddod:• Sgôr ffrwythlondeb a chyflwr• A gaiff radlau eu defnyddio? • Y gymhareb mamog:hwrdd• Statws elfennau hybrin

    Mamogiaid:• Archwiliad olaf o’u dannedd, cadeiriau a chegau, os

    oes amheuaeth am unrhyw agwedd, dylech eu difa• Sgôr cyflwr a statws elfennau hybrin• Brechu rhag erthylu. Os penderfynir bod angen

    gwneud hyn, rhaid ei gwblhau tair wythnos cyn troi’rhyrddod at y mamogiaid

    • Penderfynwch sawl cylchred a ganiateir i’r hyrddodMae cyfnod wyna byr yn fanteisiol i les y ddiadell a’rbugail.

    Ar ôl hwrddaTynnu’r hyrddod: • Ar ôl hwrdda, cadwch yr hyrddod mewn cyflwr da er

    mwyn lleihau costau amnewid yn y dyfodol

    Mamogiaid yn nhrydydd mis beichiogrwydd:• Sganio er mwyn penderfynu sut dylid bwydo’r

    mamogiaid• Gwirio’r statws copr

    Yn y rhan fwyaf o ddiadelloedd yng Nghymru bydd ynhanfodol dosio rhag llyngyr yr iau ym misoedd Hydref acIonawr, a gall y bydd angen rhagor o driniaethau os oesllawer o achosion. Dylid cael cyngor cywir gan ymilfeddyg ynglŷn â strategaethau priodol.

    Cyn wyna:• Penderfynu ynglŷn â phorthiant atodol • Argymhellir dadansoddi porthiant cartref• Sgorio cyflwr y mamogiaid yn rheolaidd • Cymhwyso’r bwydo yn ôl grwpiau naill ai yn ôl oedran

    neu, yn ddelfrydol, yn ôl y sgôr cyflwr • Brechu - dylai brechiad atgyfnerthol rhag clefydau

    clostridiol fod yn orfodol cyn wyna a dylid asesu risg ybygythiad o basteurela a dylid defnyddio brechlynnaupriodol

    • Dylid cwblhau brechu cyn-wyna rhag orff (osdefnyddio brechlyn) o leiaf saith wythnos cyn dechrauwyna neu o leiaf saith wythnos cyn rhoi defaid dan do

    • Mewn diadelloedd mwy, gwnewch drefniadau cynnar igael cymorth adeg wyna.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 5

  • 6 Cynllunio Iechyd Diadell

    Wyna• Cofnodwch farwolaethau ac erthyliadau • Dilynwch y gweithdrefnau rheolaidd megis trin bogeiliau • Os yw’n briodol, brechwch ŵyn rhag orff • Os ydych yn wyna dan do, trowch niferoedd bychain o

    famogiaid allan i badogau cysgodol er mwyn lleihau’rrisg o gam-faethu

    • Penderfynwch ynglŷn â’r polisi ysbaddu a thociocynffonnau.

    Yn union ar ôl wyna• Dylid ynysu mamogiaid a erthylodd a mamogiaid hysb• Cymerwch gyngor gan y milfeddyg ynglŷn â

    dilyngyru’r holl famogiaid bryd hynny • Cynlluniwch eich camau i geisio atal Nematodirusbattus, trwy beidio â defnyddio caeau lle bu ŵyn – amddwy flynedd yn ddelfrydol

    Ŵyn 2-6 wythnos oed• Os yw cocsidiosis yn broblem, dylid ystyried dosio

    ŵyn cyn y cyfnod risg, fel arfer pan fydd yr ŵyn rhwng4 ac 8 wythnos oed

    Ŵyn chwech i wyth wythnos oed• Bryd hyn mae angen rhoi'r ddos gyntaf o frechlyn

    clostridiol gyda neu heb gydran pasteurela i ŵyn;bydd yr olaf yn dibynnu ar asesiad risg

    • Ystyriwch risg clefyd oherwydd Nematodirus battus arhowch driniaeth os oes angen, gan gofio nad oesunrhyw driniaeth barhaus rhag y parasit hwn

    Diwedd y gwanwyn - haf:• Mae angen mynd i’r afael â chloffni a rheoli llyngyr a

    pharasitiaid • Adolygu’r polisi amnewid a phenderfynu ynglŷn â’r

    nifer sydd ei angen ac o ble y dylid eu cael

    Hanes o broblemau ar y ffermYchwanegwch i'r cynllun hwn unrhyw driniaethau ataliolpenodol sydd eu hangen ar sail problemau'r gorffennolmegis ychwanegu elfennau hybrin mewn diadelloeddsy’n dioddef o bwd y cyhyrau neu ddiffyg cobalt.

    Mae’r uchod yn amlinelliad bras o'r pynciau y mae angeneu trafod wrth lunio Cynllun Iechyd Diadell. Mae angencynllun penodol ar gyfer pob diadell unigol er mwyncaniatáu ar gyfer amrywiadau o ran rheolaeth, tir, statwsorganig neu beidio, clefydau yn y ddiadell ac amcanion bridio.

    Rhaid diweddaru'r cynllun o leiaf bob blwyddyn er mwynrhoi ystyriaeth i fygythiadau clefyd a nodwyd yn ystod ydeuddeng mis blaenorol.

    Camau allweddol tuag at gynllunioiechyd y ddiadellMae cynllunio iechyd diadell yn gallu cael, ac yn cael,effaith enfawr ar broffidioldeb y ddiadell yn ogystal â lles a bodlonrwydd y perchennog/bugail

    • Profwyd bod cynllunio iechyd diadell yn gwellaproffidioldeb

    • Mae'n ddogfen fyw y mae angen ei hadolygu'nrheolaidd

    • Rhaid ei seilio ar ofynion unigol pob diadell

    • Rhaid iddi ymdrin â chlefyd, maeth a rheoli porfeydd

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 6

  • Diogelwch y Ddiadell (bioddiogelwch) 7

    Diogelwch y Ddiadell (bioddiogelwch)Mae bioddiogelwch y ddiadell yn agwedd bwysig argynnal neu wella proffidioldeb diadell. Ar dir isel,mae ffensio er mwyn atal eich defaid chi a rhai eichcymdogion rhag crwydro i dir eich gilydd yn bwysig.Yn ddelfrydol, dylid rhoi ffensys dwbl lle mae tirffermwyr defaid yn ffinio. Dylid rhoi cloeon ar glwydiallanol er mwyn atal lladrad, a hefyd er mwyn ataldieithriaid caredig rhag dod o hyd i ddefaid cymydogar y ffordd a’u cymysgu â’ch defaid chi.

    Ar ddarnau o dir mynydd agored a thir comin, gallfod yn anodd rheoli statws iechyd y diadelloedd sy’npori yno ac mae angen cydweithrediad da rhwng yporwyr.

    Daw’r risg fwyaf i’r ddiadell o anifeiliaid bridioamnewid, gan gynnwys hyrddod, sy’n cael eu prynu’nbreifat neu mewn marchnad.

    Gallai’r anifeiliaid gorau eu golwg fod yn cario clefydnad yw’n amlwg adeg eu prynu ond a ddaw i’r amlwgyn y diwrnodau a’r wythnosau ar ôl i’r defaid ymunoâ’r ddiadell newydd.

    Mae enghreifftiau costus o glefydau a all gael eucyflwyno i ddiadell fel hyn yn cynnwys:

    • y clafr• llyngyr main a llyngyr yr afu ymwrthol• clwy’r traed• dermatitis carnol defeidiog heintus (CODD)• erthylu ensöotig

    Yn ogystal, mae adenocarsinoma yr ysgyfaintdefeidiog (Jaagsiekte) a chlefyd Johne yn bresennolmewn diadelloedd yng Nghymru a’r unig ffordd o’urheoli yw trwy ddifa anifeiliaid heintiedig.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 7

  • Rhaid cadw unrhyw ddefaid sy’n cyrraedd y fferm, boedyn hwrdd unigol neu’n grŵp o ddefaid amnewid, mewncwarantîn am o leiaf 21 diwrnod. Bydd arferion cwarantinda yn helpu i atal llawer o’r clefydau hyn rhag cyrraeddeich diadell.

    1) Gall unrhyw ddefaid sy’n cyrraedd y fferm fod yn carioparasitiaid mewnol (llyngyr) a llyngyr yr iau sy’nymwrthol i un neu ragor o’r triniaethau cyffredin. Nodtriniaeth gwarantin yw cael gwared ar lyngyrymwrthol trwy ddefnyddi’r triniaethau sy’n annhebygolo beri ymwrthedd Mae mathau newydd o foddiongwrthlyngyrol ar gael erbyn hyn. Ceisiwch gyngor ganeich milfeddyg neu gynghorydd. Mae manylion ar gaelhefyd ar wefan SCOPS. www.scops.org.uk.

    2) Gall defaid sy’n cyrraedd daliad o ba ffynhonnellbynnag fod wedi’u heintio â gwiddon y clafr. Dipiwchy defaid hyn â dip OP (ond nid o fewn 14 diwrnod iddosio â lefamisol) neu os ydych chi’n rhoi pigiadaumocsidectin, mae modd brechu’n ddilyniannol fel rhano’r driniaeth lladd llyngyr mewn cyfnod cwarantin(gweler www.scops.org.uk).

    3) Cadwch y defaid mewn iard am 24-48 awr cyn eu rhoiar dir pori sydd â llyngyr er mwyn teneuo unrhywwyau llyngyr sydd wedi goroesi ac sy’n cael eugollwng gan y defaid sy’n cyrraedd.

    4) Ceisiwch gyngor am weithdrefnau cwarantin ar gyferllyngyr yr iau ac ystyriwch y posibilrwydd o lyngyr yriau sy’n ymwrthol i llyngyrleiddiaid. Hefyd, byddtriniaeth yn dibynnu ar y sefyllfa o ran llyngyr yr iauar eich fferm eich hun.

    5) Er eu bod yn holliach adeg eu prynu, gall defaid gario’rbacteria sy’n achosi clwy'r traed a CODD. Bydd eu rhoimewn baddon traed yn cynnwys 2.5-3% fformalin neu10% sylffad sinc yn lleihau’r bacteria sy’n achosiheintiad ond ni fydd yn cael gwared ar y bacteria odraed heintiedig. Felly, dylid ceisio archwilio’r holldraed. Dewis arall yw defnyddio gwrthfiotigau ar gyferbacteria penodol, ond milfeddyg yn unig sy’n gallu rhoigwrthfiotigau sy’n effeithiol rhag CODD.

    6) Gellir cyflwyno erthyliad ensöotig (EAE) gan famogiaidsy’n gludwyr cudd, a hefyd gan famogiaid sydd wedierthylu o’r blaen oherwydd EAE. Bydd mamogiaid sy'ngludwyr cudd yn erthylu yn ystod yr wyna nesaf; gall ybydd mamogiaid a gafodd eu heintio o’r blaen yn caelwyna ‘normal’ ond eto i gyd yn ymledu heintiad yn ybrych a’r rhedlifau. Bydd brechu mewnddyfodiaid ynlleihau ond nid yn atal heintiad gan famogiaid sy'ngludwyr cudd rhag ymledu.

    7) Chwliwch yn ofalus am unrhyw chwarennauchwyddedig o amgylch y pen neu’r gwddf a allai fodwedi’u hachosi gan lymffadenitis crawnllyd (CLA).Gallai straen mewn arwerthiant hefyd beri arwyddionclinigol o orff. Felly, cadwch lygad agos ar anifeiliaidyn ystod y cyfnod o 21 diwrnod mewn cwarantin.

    8) Os oes unrhyw anifeiliaid yn ymddangos yn sâl, neu’ncolli cyflwr yn ystod y cyfnod cwarantin, dylid euharchwilio gan filfeddyg, cyn eu cyflwyno i’r ddiadellgartref.

    Os ydych chi’n defnyddio unrhyw frechlynnau eraill yneich diadell, mynnwch air â’ch milfeddyg i weld a yw’namser priodol i’w rhoi i’r anifeiliaid sy’n cyrraedd y fferm,fel bod gan yr holl ddefaid yr un statws brechu.

    Mae diogelwch y ddiadell yn rhan annatod o gynllunioiechyd y ddiadell a rhaid cynnwys y dewisiadau aamlinellir uchod yn y cynllun.

    Cofiwch nad defaid sy’n cyrraedd y fferm yw’r unigfygythiad i ddiogelwch y ddiadell. Gall gwiddon y clafrfyw oddi ar yr anifail lletyol am fwy nag 16 diwrnod.Rhaid i unrhyw un sy’n dod i gysylltiad â defaidheintiedig (cneifwyr, contractwyr eraill, milfeddygon)ddiheintio eu dillad amddiffynnol a golchi croen heb eiorchuddio â dŵr (cyn boethed ag y gellir ei oddef) cyngadael y fferm.

    Argymhellir hylendid llym a diheintio cerbydau achyfarpar, yn enwedig cyfarpar cneifio, er mwyn atalcyflwyno heintiadau fel Lymffadenitis Crawnllyd.

    8 Diogelwch y Ddiadell (bioddiogelwch)

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 8

  • Cynllunio ar gyfer defaid iach 9

    Cynllunio ar gyfer defaid iach Clefydau ClostridiolMae clefydau clostridiol yn angheuol

    Gall deg clefyd clostridiol effeithio ar ddefaid. Y mwyafcyffredin yng Nghymru yw pydredd arennol, dysenteri ŵyn,a chlefyd du’r afu. Mae'r saith arall yn fwy achlysurol ondyn lladd nifer sylweddol o ddefaid bob blwyddyn.

    Gall bacteria clostridiol naill ai fodoli mewn niferoeddbach yng ngwahanol organau'r ddafad neu ffurfio sborausy'n goroesi yn y pridd am lawer blwyddyn. Mae ffactorausbarduno, sy'n amrywio o rywogaeth i rywogaeth, ynachosi lluosiad cyflym.

    Yn ystod y lluosi hwn, rhyddheir tocsinau pwerus sy’ncyflym ddinistrio organau mewnol y ddafad. Marwolaethgyflym yw'r canlyniad.

    Erbyn i'r symptomau ddod i'r amlwg, mae gormod oddifrod wedi'i wneud ac er gwaethaf unrhyw driniaethmae marwolaeth yn anochel. Yn ffodus, mae brechlynnaueffeithiol iawn ar gael i atal unrhyw ddafad rhag marw ohaint clostridiol, ond mae angen defnyddio’r brechlynnauhyn yn gywir i gael amddiffyniad da.

    Mae angen dau bigiad rhwng pedair wythnos a chwewythnos ar wahân fel cwrs cychwynnol. Yna bydd angenrhoi brechlyn atgyfnerthu blynyddol, fel arfer 4-6 wythnoscyn wyna. Yna bydd y famog yn trosglwyddo gwrthgyrff i’whŵyn trwy’r colostrwm a thrwy hynny’n rhoi amddiffyniadi’r ŵyn am gyfnod byr ar ddechrau eu bywydau.

    Dylai ŵyn benyw sy’n cael eu cadw ar gyfer bridio ac afydd yn cael hwrdd yn hesbinod gael eu cwrs cyntaf oddau frechiad cyn cael eu diddyfnu. Wedyn dylid eucynnwys gyda gweddill y mamogiaid i dderbyn eupigiadau atgyfnerthu blynyddol. Yn aml, bydd hesbinod yncael eu diystyru ac yn colli eu pigiad atgyfnerthu cyntaf -ac o'r herwydd yn agored i heintiad.

    Gall y bydd angen trin ŵyn i’w lladd rhag clefydauclostridiol â dwy ddos, y gyntaf tua 8-10 wythnos oed a’rail tua 4-6 wythnos yn ddiweddarach.

    Cofiwch gynnwys hyrddod ac ŵyn hwrdd yn yr hollraglenni brechu.

    OrfMae orff yn enigma: mae’n achosi problemau difrifol ar raiffermydd ond nid ar eraill.

    Achosir orff gan firws parapox ac mae angen sgriffiadbach, bach arno i heintio’r meinwe yn union o dan y croen.Gwelir y clefyd mewn ŵyn ifainc iawn, ŵyn wedi’udiddyfnu sy’n pori, mewn mamogiaid ac ar dethaumamogiaid. Yn aml caiff y briwiau haint eilaidd gyda

    bacteria staffylococal. Bydd rhai ffermydd yn caelachosion o orff ond yn gwneud dim byd ac nid yw’r haintyn ailymddangos, ond bydd ffermydd eraill yn dioddefproblemau bob blwyddyn.

    Mae brechiad byw a ddatblygwyd o rywogaethau gwan o’rfirws ar gael. Y nod yw rhoi dos ysgafn o’r clefyd i’r anifail ermwyn iddo ddatblygu ymwrthedd. Os nad yw orff ynbresennol ar eich fferm, peidiwch â defnyddio’r brechlyn hwn.

    Gan ddibynnu ar ba ddosbarth o ddefaid sy’n dioddef, maeangen datblygu amserlenni brechu priodol.

    • Ni ddylid brechu mamogiaid yn hwyrach na saithwythnos cyn wyna neu eu rhoi o dan do

    • Mae modd brechu ŵyn o un diwrnod oed• Brechwch famogiaid ac ŵyn; nid oes unrhyw

    amddiffyniad mewn colostrwm• Dylid rhoi’r brechlyn o dan goes flaen anifail, ac nid

    yng nghesail y forddwyd oherwydd gall yr oen lyfu’rman hwnnw a heintio’i geg

    Gall brechu pan fo achosion o orff yn digwydd mewn ŵynsy’n pori leihau’r difrifoldeb a nifer yr ŵyn sy’n dioddef.Ffactorau eraill wrth reoli orff:

    • Y ffordd orau o reoli heintiau bacterol eilaidd ywdefnyddio gwrthfiotigau

    • Gall y firws oroesi am flwyddyn a mwy mewn crachsydd wedi cwympo mewn mannau sych, ond heb fodmor hir mewn gwlybaniaeth. Felly, os cafwyd achosionmewn defaid dan do, dylid golchi’r sied a’r hollgyfarpar yn drylwyr â digon o ddŵr a diheintydd

    • Mae porfeydd sy’n llawn ysgall neu eithin yn beryglgwirioneddol am eu bod yn difrodi’r gwefusau ac yncaniatáu i’r firws fynd i mewn i’r corff. Felly dylai rheoliysgall fod yn rhan o gynllun rheoli eich fferm

    Mae orff yn gymaint o enigma fel ei bod yn bwysig i chigysylltu â’ch milfeddyg ynglŷn â’r ffordd orau o’i reoli yn eichsefyllfa chi.

    Orff mewn ŵyn

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 9

  • 10 Cynllunio ar gyfer defaid iach

    Niwmonia - PasteurelosisMae pasteurelosis yn achosi niwmonia mewn defaidllawn-dwf ac ŵyn.

    Gall hefyd wenwyno’r gwaed, yn enwedig yn yr hydrefmewn ŵyn wedi’u diddyfnu sy’n pesgi.

    Mae’r mwyafrif helaeth o ddefaid yn cario’r bacteriwmpasteurela yn eu tonsiliau. Yn ddiweddar, newidiwydenwau’r bacteria. Enw’r rhai sy’n achosi niwmonia erbynhyn yw rhywogaeth Mannheimia, fel arfer Mannheimiahaemolytica ac enw’r rhai sy’n achosi gwenwyniad gwaedyw Bibersteinia trehalosi.

    Gall y clefyd ymddangos oherwydd straen sy’n gysylltiedigâ rheoli neu straen amgylcheddol - er enghraifft dipio neunewid porfa’n ddisymwth. Ond gall pasteurelosis achosimarwolaeth pan fydd cyfryngau niwmonig eraill ynbresennol, er enghraifft rhywogaethau Mycoplasma,Adenocarsinoma yr Ysgyfaint Defeidiog neu’r firwsparainffliwensa. Yn yr achosion hynny, caiff yr ysgyfaint eiddifrodi a bydd y bacteria pasteurela, sy’n bresennol yn ytonsiliau ac yn heintio ar bob cyfle, yn symud i lawr ybibell wynt i achosi niwmonia angheuol.

    Mae rhoi diagnosis o niwmonia fel y cyfryw yn syml, ondmae’n bwysig gwahaniaethu rhwng pasteurelosis cynradda chlefyd y mae cyfryngau eraill hefyd yn cyfrannu ato.

    Mae brechlynnau ar gael rhag pasteurela ac maent yneffeithlon wrth amddiffyn rhag heintiadau cynradd; gall ybyddant yn llai effeithiol rhag clefyd eilaidd.

    Mae’r brechlynnau, fel y rhai ar gyfer clefydau clostridiol,wedi eu hanactifadu ac mae angen dwy ddos i sefydluimiwnedd. Efallai na fydd pasteurela yn broblem mewndiadell a gellir seilio penderfyniad ynglŷn â’r angen amfrechu ar asesiad risg wrth gynllunio iechyd y ddiadell.

    Caiff yr oen ei ddiogelu i ryw raddau gan y colostrwm, fel ynachos y clefydau clostridiol, ond dim ond am ryw dair ibedair wythnos y bydd hyn yn para. Mae amseriad y brechu’ndibynnu ar y cyfnod risg a hanes brechlynnau blaenorol.

    Mae brechlynnau cyfun clostridiol / pasteurela ar gael acwedi ennill eu plwyf. Dylid cynllunio’u defnydd a thrafodhyn â’ch cynghorydd milfeddygol wrth gynllunio iechyd yddiadell.

    Llyngyr Main ParasitigGall llyngyr main achosi colledion cynhyrchu sylweddol ahyd yn oed farwolaeth mewn defaid

    Canfuwyd ymwrthedd i dri grŵp gwrthlyngyrol yngNghymru, sy’n golygu y byddai dosio â rhai cynhyrchionyn aneffeithiol

    Dylid dilyn canllawiau SCOPS (Rheolaeth Gynaladwy oBarasitiaid Mewn Defaid) www.scops.org.uk

    Ers bron 40 mlynedd, rydym wedi gallu rheoli llyngyr ynllwyddiannus iawn gan ddefnyddio triniaethau rheolaiddgyda moddion gwrthlyngyrol effeithiol dros ben. Mae llyngyryn mynd yn fwyfwy ymwrthol i’r cynhyrchion hyn. Nid yw’nrhy hwyr i’r rhan fwyaf o gynhyrchwyr weithredu ac arafuymwrthedd gwrthlyngyrol. Mae datblygiad ymwrthedd ynbroses raddol a pho gynted y byddwch yn gweithredu yrhwyaf y gallwch gadw gwrthlyngyryddion yn effeithiol.

    Mae’r diagram isod yn dangos perfformiad ŵyn yn ôlcanran y llyngyr ymwrthol ar y fferm. Pan fyddwn yn profiam ymwrthedd, er enghraifft trwy ddefnyddio CyfrifiadWyau Ysgarthol ar adeg benodol ar ôl drensio, rydym yndisgwyl i’r gwrthlyngyrydd fod wedi lladd o leiaf 95% o’rllyngyr. Yn y diagram, dyma’r man lle mae’r parthau gwyrddac ambr yn cwrdd. Y neges bwysig yw na fyddech mewngwirionedd, heb brawf, yn sylwi ar waethygiad ymmherfformiad y defaid oni bai bod 80% neu lai o’r llyngyrwedi eu lladd. Erbyn hynny byddwch wedi mynd i’r parthcoch ac nid oes modd troi yn ôl o’r fan honno.

    Cadwch allan o’r coch!

    Gweithredwch NawrMabwysiadwch ganllawiau SCOPS er mwyn cynnal

    gwrthlyngyryddion effeithiol

    Ymwrtheddheb ei

    ddarganfod

    Ymwrtheddheb ei

    ddarganfod

    YmwrtheddAmlwg

    PerfformiadGorau

    PerfformiadDerbyniol

    PerfformiadGwael

    Perf

    form

    iad

    defa

    id

    % Llyngyr ymwrthol

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 10

  • Cynllunio ar gyfer defaid iach 11

    Nod rheoli llyngyr cynaliadwy yw gweithio i gadw eichfferm yn y parth gwyrdd/ambr am gyhyd â phosibl. Y nodyw ceisio cydbwyso rheoli llyngyr effeithiol a fydd ynsicrhau perfformiad a lles y defaid, ac a fydd ar yr un pryd,yn golygu llai o ddewis ar gyfer ymwrthedd i’r moddiongwrthlyngyrol ymysg y llyngyr.

    Beth Allwn Ni ei Wneud?Mae angen ichi wybod a oes unrhyw rai o’r llyngyr ar eichfferm wedi datblygu ymwrthedd i unrhyw rai o’r grwpiaugwrthlyngyrol. Bydd prawf Cyfrifiad Wyau Ysgarthol symlcyn ac ar ôl drensio yn eich rhoi ar ben ffordd. Yna galleich milfeddyg neu'ch cynghorydd roi cyngor i chi am suti ddefnyddio’r wybodaeth hon er mwyn i chi fod mewnsefyllfa dda i wneud penderfyniadau ynglŷn â pholisïaudilyngyru yn y dyfodol.

    Camau allweddol tuag at reoliparasitiaid mewnol Peidiwch â dod â llyngyr ymwrthol i’r fferm - defnyddiwchdriniaethau cwarantin.

    Gwnewch brofion ymwrthedd i wrthlyngyryddion ar eichfferm.

    Defnyddiwch y ddos gywir o’r gwrthlyngyrydd cywir ar yradeg gywir. (Peidiwch â dyfalu pwysau’r anifeiliaid).

    Peidiwch â defnyddio gwrthlyngyryddion oni bai fodhynny'n angenrheidiol - defnyddiwch gyfrifiadau wyauysgarthol i wybod pryd mae angen drensio mamogiaid acŵyn.

    Peidiwch â dosio mamogiaid heb reswm cyn hwrdda.Canolbwyntiwch ar famogiaid sy’n denau, heb dyfu’n iawnneu wedi’u heintio.

    Gall y bydd angen dosio mamogiaid ar ôl wyna ond maeangen cynllunio strategol – ceisiwch gyngor gan eichmilfeddyg neu gynghorydd da byw.

    Cadwch lyngyr ymatebol ar y fferm a lleihewch y dewis argyfer ymwrthedd i wrthlyngyryddion.

    Defnyddiwch bori cymysg gyda gwartheg (ond nid geifr).

    Symudwch ŵyn wedi eu diddyfnu i fannau â llai ohalogiad o ddiwedd Mehefin ymlaen.

    Lluniwch strategaeth reoli gyda’ch milfeddyg neugynghorydd da byw.

    I gael rhagor o wybodaeth mynnwch air â’ch milfeddyg a chyfeiriwch at y cyngor ganSCOPS sydd ar gael yn www.scops.org.uk

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 11

  • 12 Cynllunio ar gyfer defaid iach

    Llyngyr yr Iau Mae llyngyr yr iau yn achosi colledion economaiddsylweddol trwy farwolaeth, diffyg ffyniant ac afuau yncael eu condemnio mewn lladd-dai .

    Mae llyngyr yr iau yn rhagdueddu at glefydau eraillmegis clefyd du'r afu.

    Mae nifer yr achosion o lyngyr yr iau wedi cynyddu’nsylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac wedi digwyddmewn ardaloedd y credwyd o’r blaen eu bod yn ‘rhyddrhag llyngyr yr iau’. Rhan hanfodol o’r lledu hwn a’rdifrifoldeb cynyddol yw hafau gwlyb.

    Bydd defaid a gwartheg yn gollwng wyau i’r borfa. Ar yborfa bydd y llyngyr yn datblygu ac yn chwilio amfalwoden y llaid, Galba truncatula, lle bydd lluosi’ndigwydd a’r cylchred bywyd yn parhau. Yn y pen drawbydd llaweroedd mewn ffurf heintiol yn dianc o’r falweni’r borfa ac yn troi’n codennau ar lystyfiant.

    Pan gânt eu bwyta gan wartheg a defaid byddant ynteithio i’r afu ac yn cyrraedd eu llawn dwf. Ni fyddant yndechrau dodwy wyau nes eu bod tua deng neuddeuddeng wythnos oed. Bydd y cylchred bywyd fel arferyn cymryd rhwng pedwar a phum mis. Mewn defaid, byddllyngyr yr iau yn achosi tri math o afiechyd, ond â chrynorgyffyrddiad rhwng y gwahanol fathau.

    Ffliwc acíwt Bydd ffliwc acíwt yn digwydd pan fo nifer fawr yn eu ffurfheintiol yn cael eu hamlyncu ar yr un pryd, gan arwain atddifrod enfawr i’r afu gyda gwaedlifoedd a difrod i feinwe.Yn yr achosion hyn, yn aml bydd anifeiliaid sydd wedi euheffeithio’n wael yn marw. Bydd archwilio gweddill yddiadell yn dangos llawer o unigolion gwan ac anaemig.

    Ffliwc is-acíwt Bydd ffliwc is-acíwt yn digwydd yn bennaf rhwng diweddyr hydref a’r gwanwyn. Bydd defaid yn anaemig ac yncolli cyflwr yn gyflym ond yn goroesi am tua dwy neudair wythnos ar ôl ymddangosiad y symptomau. Brydhynny bydd yr afu’n cynnwys oedrannau cymysg o ffliwcond nid yn y niferoedd a gysylltir â chlefyd acíwt.

    Ffliwc gronig Bydd ffliwc gronig yn digwydd eto yn y gaeaf a’rgwanwyn, yn deillio o heintiadau ysgafnach sydd wediymgartrefu yn nwythellau’r bustl. Bydd y rhain yndinistrio celloedd coch y gwaed gan achosi anaemia.Ffliwc gronig sy’n achosi’r “gên-botel” glasurol.

    Gan ei bod yn cymryd hyd at ddeuddeng wythnos cyn iwyau ffliwc ymddangos yn yr ysgarthion, nid ywarchwiliadau o’r fath o unrhyw werth ar gyfer darganfodffliwc acíwt neu is-acíwt yn yr hydref. Yn anffodus, yr arwyddgyntaf o ffliwc acíwt yn aml iawn yw marwolaeth sydyn, ynenwedig ar ffermydd nad oeddynt wedi eu heintio o’r blaen.

    Gellir rhoi diagnosis o ffliwc acíwt trwy archwilio’rysgarthion ac mae presenoldeb un wy yn ddigon igadarnhau ffliwc. Diagnosis clinigol ac archwiliadaupost-mortem yw’r ffyrdd mwyaf dibynadwy o gadarnhauffliwc acíwt ac is-acíwt. Mae adborth lladd-dai ar ddifrodi’r afu yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth a dylaiffermwyr ofyn am yr adborth hwn pan fyddant yngwerthu eu hŵyn yn syth i ladd.

    Mae cynllunio iechyd y ddiadell yn chwarae rhanallweddol wrth atal a rheoli heigiad ffliwc. Bydd eichmilfeddyg yn ymwybodol o ddosbarthiad ehangach ffliwcyn eich ardal a hefyd a yw’n werth symud i fan oedd hebei heintio o’r blaen.

    Dosio strategol yw’r rheolaeth orau. Mae’n amhosibl caelgwared â’r holl falwod, er bod draenio da a ffensiomannau gwlyb yn help i leihau’r broblem.

    Ar gyfer triniaeth ddiwedd yr haf ac yn ystod yr hydref,argymhellir llyngyrleiddiad ar gyfer llyngyr yr iau sydd hebgyrraedd llawn dwf. Gall y bydd angen rhoi triniaeth sawlgwaith yn ystod yr hydref a’r gaeaf, os oes problem ddifrifol.Os oes angen triniaeth yn y gwanwyn (Ebrill-Mehefin) ynagellir defnyddio llyngyrleiddiad ar gyfer llyngyr llawn-dwfyn unig er mwyn ysgafnhau’r pwysau dewis ar y rhai syddar gyfer llyngyr ifainc. Mae amrywiaeth o lyngyrleiddiaid argael. Mae’n bwysig dewis y cynnyrch cywir.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 12

  • Cynllunio ar gyfer defaid iach 13

    Peidiwch â defnyddio cyfuniad o gynhyrchion ffliwc allyngyr os nad oes raid dilyngyru eich anifeiliaidoherwydd gall y rhain gynyddu ymwrthedd mewnllyngyr main. Defnyddiwch lyngyrleiddiad yn unig. Hefyd,nid oes pwrpas defnyddio cynnyrch sydd ond yn lladdoedolion yn yr hydref; y llyngyr ifainc yw’r gwir fygythiadyr adeg hon o’r flwyddyn. Mynnwch air â’ch cynghoryddmilfeddygol ynglŷn â’r cynnyrch gorau i’w ddefnyddio achynhwyswch yr amserau gorau i ddefnyddio’rcynhyrchion hyn yng nghynllun iechyd eich diadell.

    Canfuwyd ymwrthedd i gynhyrchion yn cynnwystriclabendasol ar rai ffermydd. Dylid cofio hyn os yw’rcanlyniadau dosio yn wael. Fodd bynnag, gall diffyggwelliant ddeillio o ailheintiad o borfa heigiog iawn; felly,mae’n bwysig ymchwilio i driniaethau sy’n ymddangos ynaneffeithiol. Monitrwch lefelau llyngyr yr iau yn eich ŵynwrth ofyn am adborth os ydych chi’n gwerthu’ch ŵyn yn sythi’r lladd-dy. Bydd hyn yn gymorth ichi ddeall lefel yr heintiada darganfod a yw’r rhaglenni rheoli cyfredol yn effeithiol.

    Fel arfer bydd gwartheg yn dioddef o ffliwc gronig acfelly maent yn ffynhonnell bwysig o halogiad ar borfa. Osnad oes llyngyr yr iau ar eich fferm, mae angen triniaethffliwc fel rhan o’ch rhaglen gwarantin er mwyn gwneudyn siŵr nad oes llyngyr yr iau yn cyrraedd eich fferm.

    Cocsidiosis Achosir cocsidiosis gan heintiad â’r protosoan Eimeriaspp sy’n mynd i mewn i leinin y coluddion. Achosirheintiad wrth i’r ddafad amlyncu oocystau (wyau) yparasit. Bydd y rhain yn deor yn y coluddyn bach ac yngoresgyn y celloedd yma ac yn y coluddyn mawr. Yn ycelloedd hyn byddant yn newid sawl gwaith cyn cyrraeddy ffurf lle caiff oocystau eu gollwng yn yr ysgarthion.

    Gall yr heintiad gwreiddiol gael ei achosi gan oocystausydd wedi goroesi ar y borfa ers y flwyddyn flaenorol neugan niferoedd bychain a ollyngwyd gan y famog ac sy’nhalogi’r amgylchedd.

    Nid yw heintiad ysgafn yn achosi unrhyw niwed parhaola bydd ŵyn yn fuan yn datblygu imiwnedd ac yn cael euhamddiffyn rhag unrhyw glefyd pellach.

    Mae achosion difrifol o ysgothi ac afiechyd yngysylltiedig ag amlyncu niferoedd mawr o oocystau.Ymhlith y ffactorau risg ar gyfer achosion difrifol mae:

    • hylendid gwael ac ysgarthion yn halogi cadeiriaumamogiaid

    • troi allan drwy’r amser i’r un tir pori cysgodol sydd wediei halogi’n wael o'r blynyddoedd blaenorol neu’rflwyddyn gyfredol os yw’r cyfnod wyna’n hwy na’r bwriad.

    Mae’r ŵyn heintiedig yn ysgothi ac mae’n bosibl fodmodd gweld brychni gwaed a llysnafedd. Gall y byddarchwilio’r ysgarthion yn datgelu hyd at filiwn o oocystaui bob gram. Fodd bynnag, gan fod yna naw rhywogaethond dim ond dwy rywogaeth bathogenaidd, gall fod ynalawer llai o’r rhywogaethau sy’n gwbl bathogenaidd. Maecyfrifiadau uchel iawn heb arwyddion clinigol ynannibynadwy am y rheswm hwn, ac nid ydynt yn golygubod gennych broblem cocsidiosis.

    Gall amseriad triniaeth amrywio a dylid ceisio cyngor ganeich milfeddyg.

    Ymhlith y camau i leihau cyfraddau heintio mae: • Hylendid da • Cadw mamogiaid yn lân• Gwasgaru calch hydradol o amgylch cafnau yfed a

    phorthiant • Cyfnod wyna byr gyda sawl padog ar gyfer troi allan• Peidiwch â gadael i ŵyn ifainc ddilyn ŵyn hŷn ar dir

    pori, oherwydd mae’r ŵyn hŷn yn gwaethygu’rheintiad ac mae’r ŵyn iau dan fygythiad oherwyddniferoedd mawr o oocystau.

    © Nadis

    Oen efo cocsidiosis

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 13

  • 14 Cynllunio ar gyfer defaid iach

    Parasitiaid allanol Mae pob heigiad parasitig o’r croen a’r cnu yn gostus oran colli cyflwr, triniaeth a lles

    Mae rheoli effeithiol yn dibynnu ar adnabod yparasit(iaid) sy’n bresennol

    Mae trogod a gwybed yn trosglwyddo clefydau difrifol eraill.

    Mae ectoparasitiaid parhaol (h.y. y rhai sy’n treulio’ucylchred bywyd cyfan ar y ddafad) yn cynnwys gwiddon yclafr a llau cnoi. Ymhlith y rhai llai cyffredin maegwiddon y glust, gwiddon crach, llau sugno a hislau.

    Mae ectoparasitiaid lled-barhaol (h.y. y rhai sydd ag oleiaf un ffurf yn byw’n annibynnol) yn cynnwys clêrchwythu a throgod. Ymhlith y rhai llai cyffredin mae clêrllwyd trwynol.

    Diagnosis o Heigiadau EctoparasitiaidOs ydych yn amau problem ectoparasitiaid yn eichdiadell, mae’n bwysig cael milfeddyg i gadarnhau acadnabod y broblem. Cofiwch y gall defaid gario mwy nagun ectoparasit (e.e. clafr a llau) ar yr un pryd. Gall nifer oglefydau croen amharasitig hefyd effeithio ar ddefaid.

    Y ClafrDermatitis alergol sy’n cael ei achosi gan widdonPsoroptes ovis yw’r clafr. Daw’r niwed i’r croen yn bennaf oganlyniad i grafu gan y ddafad ond hefyd trwywaedlifoedd bach sy’n cael eu hachosi gan ên-rannau’rgwiddonyn. Mae difrod i’r croen yn golygu bod mwy oserwm yn gollwng, a daw hyn â chrach a chroen sy’ntewychu. Mae nifer fach o widdon a briwiau bach iawnyn nodweddiadol o glefyd is-glinigol cynnar. Gall defaid âchlafr is-glinigol ymddangos yn berffaith normal a gellireu cyflwyno’n ddiymwybod i ddiadell.

    Nodweddir camau diweddarach yr haint gan gynnyddcyflym yn nifer y gwiddon a gorchudd crach. Mae’r rhwbio athaflu pen yn mynd yn fwy eithafol; gall y gwlân ddiflannuo rannau o’r corff, a gall clwyfau agored, gwaedlyd,ymddangos. Mae’r defaid yn colli cyflwr yn gyflym.

    TrosglwyddiadGellir dal y clafr trwy gyswllt â gwiddon byw mewncudynnau o wlân neu grach sydd ynghlwm wrth waliau,mieri a llwyni.

    Daw’r rhan fwyaf o achosion o’r clafr o;

    a) ffermydd cyfagos, trwy ffensys gwael a defaid syddwedi crwydro neu wrth bori ar dir comin

    b) cyswllt dafad-i-ddafad anorfod yn y farchnad neumewn lorïau da byw

    LlaMae llau cnoi (Bovicola ovis) yn bryfed bach, gwelw igoch/brown sy’n bwydo ar gennau ar yr epitheliwm,ffibrau gwlân a gweddillion croen. Mae heigiadau o lauyn achosi dermatitis cronig, a nodweddir gan lid, cosi,rhwbio a chnoi’r cnu. Mae llau cnoi yn lledu’n araf ymysgdefaid. Mae’r rhan fwyaf o achosion, ond nid y cyfan, yndigwydd yn y gaeaf. Mae’n ymddangos bod difrifoldeb yrheintiad yn dibynnu ar y brid, hyd y cnu ac iechydcyffredinol y ddafad, ynghyd â’r hinsawdd o’i hamgylch.

    Mae llid a achosir gan heigiadau cymedrol yn ddigon i berii’r ddafad grafu a rhwbio gan ddifrodi’r cnu a’r croen. Gallymateb imiwnyddol i B. ovis arwain at nam cnepynnaidd ary croen, sy’n effeithio ar werth y croen hwnnw.

    Clêr chwythuMae pryfedu yn ganlyniad i heigio meinweoedd byw ganlarfau (cynrhon) clêr dwyadeiniog (Diptera). Ymhlithsymptomau o bryfedu mae cynhyrfu a digalondid. Panfydd y pen-ôl wedi ei bryfedu, bydd y defaid heigiedig yntaro’u traed ôl, yn ysgwyd eu cynffonau’n egnïol neu’ncnoi a rhwbio’r pen-ôl. Wrth i friwiau ddatblygu, dawarogl nodweddiadol yn amlwg a bydd y gwlân yn myndyn glymog ac yn afliwiedig. Heb driniaeth, bydd yrarwynebedd sy’n dioddef yn cynyddu a chollir gwlân o’rcanol, a cheir arwyddion o anghysur parhaol.

    Os bydd y corff wedi ei bryfedu, caiff y clêr eu denu i’rdefaid gan aroglau “chwysu” gormodol a/neu ddeunyddorganig yn pydru yn y cnu, fel arfer dros y lwynau, yrysgwyddau, ystlysau, gwddf, cefn, gwddw neu’r abdomen.Yn achos pryfedu’r pen-ôl neu’r cynffon, caiff y clêr eu denui gnu sydd wedi ei halogi ag wrin a/neu ysgarthion ac fellyanifeiliaid sy’n ysgothi sydd mewn mwyaf o berygl. Maemynychder pryfedu yn dibynnu ar y tywydd, gyda’r rhan

    Y Clafr

    © Nadis

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 14

  • Cynllunio ar gyfer defaid iach 15

    fwyaf o achosion o bryfedu’r corff yn digwydd yn ystodcyfnodau llaith neu dywydd twym ar ôl glaw trwm. Maepryfedu’r pen-ôl yn llai dibynnol ar y tywydd am fodlleithder yr wrin a/neu’r ysgothi yn ddigon i ddenu clêr.

    Gellir lleihau’r risg o bryfedu trwy gneifio, cneifio'r afl neuddi-gaglu bob 4 i 6 wythnos o ddechrau mis Ebrill. Maeyna beth tystiolaeth y gall ymatebolrwydd i bryfedu fodyn etifeddol, ac felly dylid difa mamogiaid a hyrddodmagu sy’n pryfedu’n gyson.

    TrogodMae trogod yn eu holl ffurfiau gweithredol yn bwydo arwaed defaid. Gall trogod fod yn gludwyr nifer o glefydaupwysig sy’n effeithio ar ddefaid, da byw eraill a phobl, megis:

    • Twymyn trogod• Enceffalitis trogod• Y breid• Pyemia ŵyn• Clefyd Lyme

    Oddi ar yr anifail lletyol, mae angen amgylchedd llaith ardrogod i oroesi, a cheir hyn fel arfer wrth fôn llystyfianttrwchus, yn enwedig mewn porfeydd garw, gweundir,rhostir neu goetir.

    Triniaethau CemegolMae’n bwysig gwybod pa barasit sydd dan sylw cynpenderfynu ar y driniaeth fwyaf effeithiol. Dylid dilyncyfarwyddiadau’r gwneuthurwr i’r llythyren ar gyfer pobtriniaeth rhag ectoparasitiaid. Gall camddefnyddiotriniaeth fod yn aneffeithiol ac yn niweidiol i’ramgylchedd. Dewiswch ar sail ymwrthedd yn yrectoparasitiaid neu lyngyr main (a dibynnu ar y driniaeth).Os ydych yn defnyddio pigiadau neu arllwysyddion, dylidpwyso’r defaid.

    Rhaid cael trwydded i ddefnyddio a gwaredu dipiau OP.Dylid graddnodi baddonau dipio’n gywir. Caniatewch iddefaid sydd wedi eu dipio sefyll yn y lloc draenio am oleiaf 10 munud i ddiferu a dychwelwch y diferion i’rbaddon dipio. Peidiwch â dychwelyd defaid newydd eudipio i’r tir pori arferol. Rhowch nhw mewn cae dal (hebgwrs dŵr naturiol) sy’n ffinio â’r man dipio gyda chafn oddŵr glân am o leiaf 24 awr. Os oes cyrsiau dŵr naturiolyn y cae dal, ffensiwch nhw fel na all da byw eu cyrraedd. `

    Camau allweddol tuag at reoli parasitiaidallanol Rhaid rhoi archwiliad trylwyr i ddefaid sy’n cosi a rhaidcael diagnosis cywir o’r achos.

    Gwnewch yn siŵr fod y driniaeth a ddewiswch yn rheoli’rcyflwr dan sylw.

    Os cewch hyd i ectoparasitiaid parhaol ar un anifail, dylidystyried bod y grŵp cyfan wedi ei heintio a dylid trin yrholl anifeiliaid yn y grŵp ar yr un pryd.

    Gallai un ddafad a gollwyd ail-heintio’r ddiadell gyfan.

    Diogelwch y gweithredwr a’r amgylchedd trwy drafod adefnyddio triniaethau’n ofalus.

    Rhowch bolisi cwarantin ar waith ar gyfer anifeiliaid sy’ncyrraedd y fferm.

    Triniaethau Cemegol

    Trogod

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 15

  • 16 Cynllunio ar gyfer defaid iach

    MastitisGall mastitis acíwt ladd o fewn 24 awr.

    • Chwliwch am fastitis cronig adeg diddyfnu.

    Mae mastitis yn amrywio llawer o ddiadell i ddiadell ac odymor i dymor. Ceir dwy brif ffurf, ffurf acíwt iawn a ffurfgronig.

    Dangoswyd taw dau grŵp o facteria sy’n gyfrifol am yrhan fwyaf o’r achosion, sef Staphylococcus aureus aMannheimia haemolytica. Mae’r bacteria hyn yn bresennoldrwy’r amser ar groen ac yng nghegau mamogiaid ac yncael eu trosglwyddo i flaen y tethau gan yr ŵyn. GallEschericia coli hefyd achosi mastitis, sy’n cael ei godi o’ramgylchedd. Bydd cadw gwasarn yn lân ac osgoipadogau lleidiog yn help i osgoi heintiad.

    Mewn heintiadau acíwt a welir gan amlaf rhwng 10niwrnod a thair wythnos ar ôl wyna, yr arwydd cyntaf ynaml yw mamog sy’n gloff mewn coes ôl ac sydd ag ŵynnewynog yn ei dilyn. Heb ei thrin, mae’n debygol y bydd yfamog yn marw o fewn pedair awr ar hugain. Os amlwyddo, mae angen triniaeth wrthfiotig rymus dros ben.

    Mae hyn yn cynnwys pigiadau o wrthfiotigau sy’ntreiddio meinweoedd y gadair yn gyflym. Os yw mastitisacíwt wedi bod yn broblem, dyma agwedd ar gynlluniechyd y ddiadell sydd angen ei thrafod yn drylwyr abydd eich ymgynghorydd milfeddygol yn gallu rhoicyngor ynglŷn â’r cynhyrchion mwyaf addas. Er taw’nanaml y mae modd achub hanner y gadair sy’n dioddef, feddylai’r famog oroesi. Fel arfer, adeg diddyfnu neu yn yrhydref wrth archwilio mamogiaid i weld a ydyn nhw’naddas ar gyfer magu y daw mastitis cronig i’r golwg. Yn yrachosion hyn, bydd y gadair yn galed neu’n cynnwys nifersylweddol o gnapiau. Gall na fydd ŵyn y mamogiaid hynwedi gwneud cystal ag ŵyn o famogiaid iach.

    Mae mamogiaid sydd wedi magu tri oen yn dueddol oddioddef oherwydd cleisio gan ŵyn gor-frwdfrydig. Bydd

    llai o laeth gan famogiaid na chawsant eu bwydo’n dda,bydd ganddynt ŵyn newynog o’r herwydd, a byddant ynfwy tueddol o gael mastitis. Bydd hylendid gwael ynghydâ halogiad y gadair yn caniatáu mynediad i facteria syddyn achosi adwaith cronig yn hytrach na mastitis acíwt.

    Mae peth tystiolaeth hefyd fod rhai bridiau, a rhaiteuluoedd o fewn brid, yn fwy agored i fastitis. Mae’ngwneud synnwyr i beidio â chadw unrhyw ŵyn benyw ofamog wedi ei heintio. Awgrymwyd taw achos arall ywcneifio'r afl yn ormodol cyn wyna gan adael y gadair ynagored i’r elfennau.

    Mastitis mewn defaid

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 16

  • Cynllunio ar gyfer defaid iach 17

    Clefydau MetaboligClwy'r eira (tocsemia beichiogrwydd)Gwelir clwy'r eira mewn mamogiaid tenau, yn aml mewnmamogiaid hŷn sy'n cario mwy nag un oen. Mae’r clwy’nganlyniad i ddiffyg egni oherwydd llai o faeth yn ystodcyfnodau hwyr beichiogrwydd pan fo 70% o dwf y ffetwsyn digwydd.

    Bydd y mamogiaid sy’n dioddef yn ymddangos fel pebaent wedi drysu a byddant yn cadw ar wahân i weddill yddiadell. Maent yn ddiegni, heb archwaeth a byddant yncolli eu golwg yn y diwedd. Yn aml, bydd triniaeth ynaflwyddiannus a gall yr anifail farw. Dylid rhoi’r famog arwahân i weddill y defaid a chynnig bwyd blasus a dŵriddi. Mae triniaeth â phropylen glycol, pigiad glwcosmewnwythiennol a phigiad glwcocorticoid ynllwyddiannus ambell waith os yw’r ddafad yn dal i allucerdded pan fo’r driniaeth yn dechrau.

    Mae angen archwilio’r mamogiaid yn rheolaidd ar gyferarwyddion o wyna neu erthylu oherwydd gall y byddantyn rhy wan i fwrw oen heb gymorth.

    Y dwymyn laethMae’r dwymyn laeth yn cael ei hachosi gan ddiffygcalsiwm yn y gwaed ac mae’n digwydd fel arfer yn ystodcyfnodau hwyr beichiogrwydd a chyfnodau cynnar llaethapan fo fwyaf o angen calsiwm. Bydd y famog sy’n dioddefyn wan ac yn methu sefyll. Bydd y rwmen yn rhoi’r gorau iweithio ac yn aml bydd y trwyn yn rhedeg. Heb driniaeth,gall y famog syrthio i goma a marw o fewn 24 awr.

    Bydd mamogiaid sy’n dioddef yn ymateb yn dda idriniaeth a ddylai, yn ddelfrydol, fod yn 20-40 ml ohydoddiant 40% o foroglwconad calsiwm yn cael ei roi’naraf yn fewnwythiennol dros 30-60 eiliad. Bydd y famogyn torri gwynt rhwng munud a dwy funud ar ôl y pigiadac yn aml bydd yn codi’n gyflym ar ei thraed ac yncerdded i ffwrdd o fewn pum munud. Dewis arall yw rhoipigiad isgroenol o 60-80 ml o hydoddiant 40% oforoglwconad calsiwm mewn dau neu dri man dros ybilen thorasig y tu ôl i’r ysgwydd; gall gymryd hyd atbedair awr cyn iddi ymateb.

    Y dderaBydd y ddera neu ddera'r borfa yn digwydd yn ygwanwyn. Mae’n cael ei achosi pan nad oes digon ofagnesiwm yn y porthiant i ddiwallu gofynion yr anifail.Yn aml, caiff ei gysylltu â chyfnod o dywydd oer a gwlybac os yw’r anifeiliaid ar borfa fras.

    Bydd y ddera yn digwydd mewn mamogiaid yn ystod ymis cyn neu ar ôl wyna, yn enwedig ar ôl wyna. Yn aml,bydd defaid yn dioddef o’r dwymyn laeth yn ogystal, adylid eu trin ar gyfer y ddau gyflwr.

    Yn fynych, bydd y famog yn marw yn ddirybudd, ondambell waith bydd yn ymddangos yn aflonydd ac yncerdded yn ansad. Bydd wedyn yn mynd i orwedd a byddei choesau’n symud yn ddigymell a bydd ewyn yn dod o’icheg.

    Y driniaeth yw pigiad isgroenol o sylffad magnesiwm aphigiad mewnwythiennol o gymysgeddcalsiwm/magnesiwm.

    Rheoli clefydau metaboligMae’r holl glefydau metabolig a drafodir yma yngysylltiedig â’r famog feichiog pan mae ar fin wyna. Maesgorio cyflwr corff y famog drwy gydol ei beichiogrwydda gwneud cywiriadau i’w diet yn seiliedig ar ei gofynionmaethol yn allweddol. Mewn diadelloedd mawr byddrhannu mamogiaid yn grwpiau ar sail nifer yr ŵyn y maepob un yn eu cario yn caniatáu bwydo ymborth priodol.Unwaith eto, mae cynllunio a bod yn ymwybodol o werthmaethol ymborth yn bwysig wrth atal y cyflwr hwn.Hefyd, dylid ystyried porthiant atodol â mwynau defaidsafonol mewn cyfnodau pan fo’r risg yn uchel.

    © Nadis

    Clwy’r eira

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 17

  • 18 Cynllunio ar gyfer defaid iach

    Clefyd y Crafu Mae clefyd y crafu yn glefyd angheuol mewn defaid a geifr.

    Mae’n glefyd hysbysadwy.

    Mae geneteg y ddafad yn dylanwadu ar ddatblygiadclefyd clinigol.

    Bydd y rhan fwyaf o achosion o glefyd y crafu yn digwyddmewn defaid rhwng dwyflwydd a phum mlwydd oed, abydd yr anifeiliaid yn dangos cyfuniad o symptomauamhenodol. Dylid ystyried clefyd y crafu mewn unrhywddafad neu afr dros 12 mis oed sy’n dangos newidiadaunerfol neu ymddygiadol. Os nad oes diagnosis amlwgarall, rhaid hysbysu Swyddfa Gwasanaethau Maes eichAHVLA lleol am yr achos er mwyn cael ymchwiliad pellach.

    Os yw clefyd y crafu yn cael ei gadarnhau, bydd camau’ncael eu cymryd i symud a difa’r anifeiliaid sy’n dioddef, athelir iawndal am yr anifeiliaid hyn. Yna bydd yr AsiantaethIechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol (AHVLA) ynystyried cofrestru’r ddiadell yng Nghynllun GorfodolDiadelloedd Clefyd y Crafu. Mae’r cynllun naill ai’n gorfodilladd yr holl anifeiliaid cnoi cil ar y daliad, neu enoteipio’rddiadell ddefaid gyfan. Mae yna randdirymiadau ar gyferbridiau prin er mwyn osgoi mewnfridio.

    Pan wneir genoteipio, cedwir yr anifeiliaid mwyafymwrthol ar gyfer bridio. Bydd yr anifeiliaid lleiafymwrthol yn cael eu lladd i’w bwyta gan bobl a bydd yrhai sy’n arddangos yr ymwrthedd lleiaf yn cael eu symudo’r daliad ac yn cael eu difa ar sail Deunydd RisgPenodedig (SRM). Telir iawndal am anifeiliaid sy’n cael eudifa fel hyn.

    Unwaith y bydd gan yr anifeiliaid ar eich daliad ddigon oymwrthedd i glefyd y crafu, bydd yna gyfyngiadau ar werthu,prynu a bridio ar y daliad am gyfnod o ddwy flynedd.

    Ym mhob achos, bydd yna gyfnod o ddwy flynedd obrofion TSE , a rhaid cael canlyniadau negatif cyn boddiadell yn rhydd o gyfyngiadau ar symud.

    SymptomauYn y rhan fwyaf o ddefaid, bydd yr arwyddion clinigol yndatblygu’n raddol dros gyfnod o wythnosau neu hyd yn oedfisoedd, ond dan rai amgylchiadau, e.e. straen, gall y cyflwrwaethygu’n gyflym. Gall yr arwyddion clinigol gynnwys:

    Llid• Rhwbio’r ystlysau a’r coesau ôl yn erbyn gwrthrychau • Crafu’r ystlysau’n fynych • Llifanu dannedd wrth rwbio’u hunain neu pan gânt eu

    rhwbio’n galed ar y cefn.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 18

  • Cynllunio ar gyfer defaid iach 19

    • Crafu ysgwydd neu glust drwy’r amser â throed ôl• Brathu’r traed, coesau neu rannau eraill o’r corff mewn

    ffordd anarferol neu gynhyrfus• Colli gwlân yn eithafol neu ddifrod i’r croen

    Newidiadau mewn ymddygiad• Cynhyrfedd• Clustiau’n hongian • Yn fwy nerfus neu’n ofnus • Llusgo’r tu ôl i weddill y ddiadell wrth symud • Ymddwyn yn ymosodgar• Iselder neu lygadrythiad

    Newidiadau i osgo a symudiad• Trotian a chodi’r traed yn eithriadol o uchel • Diffyg cydlyniad difrifol• Baglu • Sefyll yn lletchwith • Coesau ôl gwan • Methu sefyll

    Symptomau diweddarach• Colli pwysau’n gyflym a marw

    Yr unig ffordd sicr o ddarganfod a yw anifail wedi’iheintio yw archwilio meinwe’r ymennydd dan ficrosgopar ôl i’r anifail farw neu gael ei ladd.

    Clefyd Y Crafu AnnodweddiadolMae achosion o glefyd y crafu annodweddiadol yndueddol o ddigwydd mewn anifeiliaid dros bum mlwyddoed â genoteipiau a ystyrir yn fwy ymwrthol i glefyd ycrafu clasurol a phrin y ceir mwy nag un achos mewndiadell.

    Sut ydw i’n atal f’anifeiliaid rhag cael clefyd y crafu??Mae’n debygol fod hylifau genedigaeth, pilenni a brychauheintiedig yn lledu’r cyfrwng heintus yn y tiroedd porineu’r adeilad adeg wyna. Gall glanhau adeiladau addefnyddir ar gyfer wyna yn rheolaidd a gwaredubrychau’n brydlon olygu bod y defaid yn llai tebygol oddod i gysylltiad â’r cyfrwng. Mae hefyd yn werth peidioâ rhoi defaid ar dir pori a gafodd ei ddefnyddio’nddiweddar gan famogiaid yn wyna.

    Mae ymatebolrwydd i glefyd y crafu’n cael ei reoli’nenetig, a phrofi gwaed a dewis anifeiliaid bridio amymwrthedd yw sail rheoli clefyd y crafu clasurol. Byddbridio oddi wrth anifeiliaid sy’n ymwrthol i glefyd y crafuclasurol yn lleihau nifer yr achosion o’r clefyd a gallarwain at ei ddileu’n gyfan gwbl.

    Cynllun Monitro Clefyd y Crafu Mae aelodaeth o’r cynllun hwn yn fodd i berchnogiondiadelloedd ddangos cydymffurfiad â Rheoliadau’r UE sy’nymdrin ag allforio defaid bridio, geifr, semen neuembryonau i wledydd eraill yr UE a thu hwnt. Yn ogystal âglynu wrth set o reolau, rhaid profi stoc trig. I gael rhagoro wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â CynlluniadauIechyd Defaid a Geifr Premiwm (Ffôn 01463 226995).

    Camau allweddol tuag at reoli clefyd y crafu Mae clefyd y crafu yn glefyd hysbysadwy - dylid rhoigwybod am achosion a ddrwgdybir i’r SwyddfaGwasanaethau Maes AHVLA agosaf.

    Mae’r elfen enetig yn caniatáu bridio defaid sy’n glinigolymwrthol – dylai dewis hyrddod am ymwrthedd fod ynsylfaenol.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 19

  • 20 Cynllunio ar gyfer defaid iach

    Lymffadenitis Crawnllyd (CLA) Mae CLA yn glefyd heintus cronig sy’n achosi crawniad yny nodau lymff ac organau mewnol

    Mae briwiau sydd gan amlaf yn edrych fel cnapiau allanolyn grawniadau fel arfer yn y nodau lymff

    Ceir colledion trwy ddifa anifeiliaid heintus ac am fodpeth neu’r cyfan o'r carcas yn cael ei gondemnio

    Gall CLA effeithio ar gyflwr yr anifail, yn ogystal ag argynnyrch llaeth ac atgenhedlu

    Mae’n cael ei achosi gan facteria tra heintus a all oroesiyn yr amgylchedd am sawl mis

    Mae’n bresennol ledled y DG ac yn dechrau ymddangoserbyn hyn yn y sector masnachol

    Prif gost CLA yng Nghymru yw nad oes modd gwerthuanifeiliaid magu heintiedig

    Achosir Lymffadenitis Crawnllyd (CLA) gan Corynebacteriumpseudotuberculosis. Fel arfer bydd yn cael mynediad trwyfriwiau a chrafiadau ond mae modd hefyd ei anadlu imewn. Mae’r cyflwr yn achosi crawniadau yn chwarennaulymff ac organau mewnol yr anifail, yn bennaf yr ysgyfaint.

    Ym Mhrydain, mae CLA i’w weld gan amlaf yn y bridiauhyrddod terfynol. Yn y rhan fwyaf o achosion mewndiadelloedd, yr anifeiliaid cyntaf i ddangos y clefyd ywhyrddod.

    Mewn un ddiadell ym Mhrydain â dros 3,000 o ddefaid,amcangyfrifwyd bod holl golledion y busnes felcanlyniad uniongyrchol i CLA o gwmpas £15,000: gangynnwys colledion difa, costau brechlynnau, a threuliaumilfeddygol cysylltiedig.

    TProfionMae yna brawf gwaed sy’n canfod gwrthgorffyn i C.pseudotuberculosis. Mae’r prawf hwn yn sail i’r CynllunMonitro, sy’n cael ei weithredu gan Drefniadau IechydDefaid a Geifr Premiwm, pan fo anifeiliaid magu’n cael eusgrinio am dystiolaeth o heintiad cyn eu gwerthu.Defnyddiwyd y prawf gwaed yn llwyddiannus i reoli ahyd yn oed i ddileu’r clefyd trwy gynnal profion rheolaiddar yr holl anifeiliaid llawn-dwf yn y ddiadell.

    Brechu Mewn gwirionedd nid oes modd trin CLA yn effeithiolmewn defaid oherwydd mae defnyddio gwrthfiotigaudros gyfnod maith fel arfer yn methu cael gwared ar yrholl organebau heintus o’r corff. Hyd yma nid oes unrhywfrechlyn trwyddedig ar gael yng Nghymru – er bod moddcael brechlynnau trwy gyfrwng trwydded frys gan yGyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol. Mae moddhefyd cael brechlyn hunangenedledig wedi’i baratoi’nbenodol i’w ddefnyddio mewn diadell heintiedig.

    Rheoli ymlediadGwelwyd bod gwahanu stoc ifanc oddi wrth ddefaid hŷnar ôl eu diddyfnu yn golygu bod heintiad yn ymledu’narafach o lawer ymhlith y grwpiau iau. Os nad oesunrhyw dystiolaeth o heintiad ymhlith yr anifeiliaid ifaincar ôl cryn amser, gellir eu paratoi ar gyfer eu gwerthu gandeimlo’n eithaf hyderus na fydd y clefyd yn cael eidrosglwyddo i ddarpar brynwyr. Yna bydd ychwaneguprofion gwaed â chanlyniadau negatif yn caniatáu iberchnogion diadelloedd heintiedig werthu stoc maguifanc gan deimlo’n fwy hyderus nad yw CLA yn cael eidrosglwyddo.

    Camau allweddol tuag at reoli CLA Peidiwch â phrynu na benthyca anifeiliaid heintiedig

    Rhowch anifeiliaid sy’n cyrraedd y fferm, mewn cwarantin

    Dylech ddifa anifeiliaid heintiedig

    Rhaid rhoi sylw manwl i hylendid a diheintio, ynenwedig cyfarpar cneifio

    Dylid sgrinio anifeiliaid â phrofion gwaed

    Mae brechlynnau ar gael yn y DG trwy gyfrwngtrwydded frys

    CLA

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 20

  • Cynllunio ar gyfer defaid iach 21

    Maedi Visna Mae maedi visna (MV) yn glefyd firol a ddaeth i Brydaindros 30 mlynedd yn ôl. Gall defaid o unrhyw oed gael euheintio, ond am fod yna gyfnod deor hir, ni welir arwyddionhyd nes bod anifeiliaid dros ddwy flwydd oed. Nid oeswellhad na brechlyn ar gael ac mae MV yn angheuolunwaith y mae’r arwyddion clinigol wedi datblygu.

    Gall yr arwyddion clinigol gynnwys:

    • niwmonia • parlysu cynyddol • nychdod • arthritis • mastitis cronig

    Mae MV yn glefyd heintus dros ben ac erbyn canfod yclefyd mewn diadell, mae’n debygol y bydd cyfran uchelo’r anifeiliaid yn cael canlyniadau positif. Dangosoddymchwil diweddar fod nifer y diadelloedd heintiedig yn yDG ar gynnydd. Mae’r clefyd yn gostus am fod nifergynyddol o famogiaid yn cael eu difa oherwydd nychdod,afiechyd cyffredinol, mastitis cronig a ffrwythlondebgwael. Hefyd, mae'r ddiadell yn llai cynhyrchiol, gyda llaio ŵyn yn cael eu geni, mwy o ŵyn yn marw a chyfraddautwf yr ŵyn yn wael.

    Mae cynllun achredu gwirfoddol ar gael trwy’r CynlluniauIechyd Defaid a Geifr Premiwm, sy’n ymofyn bod defaidachrededig yn cael eu cadw ar wahân i’r defaid na chafoddeu hachredu. Gall aelodaeth o’r cynllun hwn ychwanegugwerth at y stoc bridio sy’n cael eu gwerthu a gall fod ynstrategaeth bwysig ym mioddiogelwch y ddiadell.

    Clefyd y Gororau Mae gan glefyd y gororau enwau eraill yn Saesneg, megis‘hairy shaker disease’ neu ‘fuzzy lamb disease’. Achosir yclefyd pan fydd y ffetws yn cael ei heintio yn y cyfnodbeichiogrwydd cynnar. Mae’r firws BDV yn perthyn ynagos i Ysgothi Firol Gwartheg (BVD).

    Pan fo mamogiaid ymatebol yn cael eu heintio yngnghyfnod cynnar beichiogrwydd, bydd y firws yn croesi’rbrych ac yn meddiannu’r ffetws. Nid yw’r famog ynarddangos unrhyw glefyd, ond mae’r ffetws wedi’i heintioa gall farw neu gael ei erthylu neu fod yn farw-anedig.Bydd rhai ffetysau heintiedig yn cael eu geni’n fyw ac ynymddangos yn normal, ond byddant yn barhaol heintusac yn heintio’r ddiadell yn barhaus.

    Ar hyn o bryd nid oes unrhyw frechlyn ar gael a dylidcanolbwyntio ar beidio â chaniatáu i’r clefyd gyrraeddeich diadell. Y ffordd fwyaf cyffredin o heintio diadell ywpan fydd anifeiliaid amnewid sydd yn barhaol heintus yncael eu prynu yn yr hydref. Bydd y rhain yn heintio’rddiadell a daw’r clefyd i’r amlwg yn ystod wyna yflwyddyn ganlynol pan geir erthylu ac ŵyn marw-anedig.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 21

  • 22 Cynllunio ar gyfer defaid iach

    Firysau cludol Yn ystod y blynyddoedd diwethaf daeth ffermwyr ynymwybodol o ddau glefyd firol a oedd cyn hynny ynanhysbys yn y DG. Y naill yw’r firws Tafod Glas (BTV) a’rllall yw’r firws Schmallenberg. Mae’r ddau’n cael eu cludogan wybed a bydd yr heintio’n digwydd pan fo defaid yncael eu brathu gan wybed heintiedig.

    Firws Tafod GlasMae’r firws Tafod Glas yn cael ei drosglwyddo gan wybedCulicoides spp a chafodd ei ganfod am y tro cyntaf yn yDG yn 2007, ond roedd ffermwyr yn ymwybodol ohonocyn hynny am fod nifer gynyddol o achosion yn cael eucanfod ledled cyfandir Ewrop.

    Arwyddion clinigol mewn defaid• Y llygaid a’r trwyn yn rhedeg ac yn mynd yn

    grofennog• Glafoerio am fod y geg yn chwyddo neu'n cynnwys

    wlserau• Tymheredd y corff yn uwch nag y dylai fod• Y gwddf a/neu 'r wyneb yn chwyddo, yn enwedig o

    amgylch y llygaid a’r ffroen• Cloffni difrifol – y defaid sy’n dioddef yn amharod i

    godi• Gwaedlifau i mewn i’r croen neu oddi tano• Llid a phoen llew mae’r croen a charnau’r traed yn

    cyffwrdd - bywyn y carn• Problemau resbiradol – anodd anadlu• Yn anaml y bydd ‘Tafod Glas’ yn arwydd o heintiad• Mae’r defaid yn ymddangos yn sâl, yn flinedig a diegni• Gall y bydd colledion cynhyrchedd yn hirfaith ac yn

    cynnwys anffrwythlondeb (yn enwedig yn yranifeiliaid gwryw) a chanrannau wyna is

    • Gall y ganran farwolaeth mewn diadelloedd fod moruchel â 70 y cant a gall y bydd y rhai sy’n goroesi yncolli cyflwr ac yn cynhyrchu llai o wlân a chig

    Cynhyrchwyd brechlynnau a bu’r rhain yn effeithiol dros benyn dod â’r clefyd dan reolaeth a rheoli ymlediad y clefyd, ondcafwyd colledion sylweddol ar rai ffermydd. Daeth Prydainyn rhydd yn swyddogol o Dafod Glas ar 5 Gorffennaf 2011.Y prif oblygiadau erbyn hyn i ffermwyr defaid yw:

    • Nid oes unrhyw gyfyngiadau pellach yn ymwneud â’rfirws Tafod Glas ar gyfer allforio defaid a gwartheg oBrydain.

    • Mae'r rheolau mewnforio cyfredol yn ymwneud â dabyw ymatebol sydd yn cyrraedd Prydain o barthau âchyfyngiadau Tafod Glas ledled Ewrop.

    I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ynglŷn âThafod Glas ac unrhyw gyfyngiadau mewnforio ac allforio,ewch i wefannau Llywodraeth Cymru, AHVLA a Defra.

    Er y dylai ffermwyr ddal i fod ar eu gwyliadwriaeth rhagofn i'r clefyd hwn ailymddangos yng Nghymru, nid oesraid i driniaethau na brechlynnau penodol fod yn rhan ogynllun iechyd diadell.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 22

  • Cynllunio ar gyfer defaid iach 23

    Firws SchmallenbergCanfuwyd firws Schmallenberg yng ngogledd Ewrop ynystod hydref 2011 yn dilyn clefyd mewn gwartheg aoedd yn cynnwys gwres, dim chwant bwyd, cyflwr corffgwael a’r dolur rhydd. O fis Rhagfyr 2011 cafodd ffetysauâ nam corfforol eu geni i anifeiliaid yn y rhanbarthau â'rclefyd. Canfuwyd yr achos cyntaf o Schmallenberg yn yDG yn gynnar yn 2012 ac oddi ar hynny mae wedi ymleduar draws y DG, gan achosi colledion difrodus mewn rhaidiadelloedd.

    Caiff y clefyd ei drosglwyddo gan wybed Culicoides spp -a chludwyr eraill o bosibl – ac os yw anifail yn cael eiheintio yn ystod beichiogrwydd gall y bydd y ffetws yncael ei eni ag abnormaleddau difrifol, gan ddibynnu ar bagyfnod o’r beichiogrwydd y digwyddodd yr heintiad. Gallffetysau ag abnormaleddau arwain at wyna anodd a dylidceisio cyngor milfeddygol i sicrhau diogelwch a lles yfamog.

    Nid yw’n glefyd hysbysadwy. Rhoddwyd awdurdodiadmarchnata amodol i frechlyn yn 2013.

    Mae hwn yn glefyd hollol newydd a hyd yma ni wyddysllawer am y clefyd a’i oblygiadau i dda byw sy’n cael euffermio. Bydd gan wefannau Llywodraeth Cymru a’rAHVLA yr wybodaeth ddiweddaraf i gynhyrchwyr sy’nceisio gwybodaeth bellach.

    Dylai ffermydd gynllunio yn un unol â hyn yn eucynlluniau iechyd diadell. Bydd angen iddyntgydweithredu’n agos â’r milfeddyg er mwyn gwneud ynsiŵr fod ganddynt y cyngor diweddaraf a’u bod yngwybod pa gamau i’w cymryd.

    Problemau sy’n benodol i’r ffermMae yna sawl cyflwr arall megis cegleithedd, cloffniymhlith ŵyn ifainc, listeriosis, Jaagsiekte mewnmamogiaid. Mae’r rhain i gyd ag angen ymagwedd unigolyn ystod y camau cynllunio iechyd diadell ac maent ynseiliedig ar hanes colledion blaenorol.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 23

  • 24 Mae defaid cloff yn cyfrif!

    Mae defaid cloff yn cyfrif! Pam mae cloffni’n bwysig?

    Mae defaid cloff yn achosi colledion ariannol

    Mae defaid cloff yn broblem fawr o ran lles anifeiliaid

    Mae cloffni’n golygu bod y defaid mewn poen

    Mae cloffni’n arwain at golledion cynhyrchu

    Hyrddod • Gwaeth ffrwythlondeb

    • Yn methu serfio mamogiaid

    Mamogiaid • Gostyngiad yn y ganran wyna

    • Clwy’r eira yn fwy tebygol

    ˆ• Wyn ysgafnach adeg eu geni

    • Llai o laeth

    • Llai o wlân

    Ŵyn• Rhagor o farwolaethau

    • Cyfraddau twf is© Nadis

    © Nadis

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 24

  • Mae defaid cloff yn cyfrif! 25

    Beth yw achosion cyffredin cloffni?Llid y traed a chlwy'r traed yw’r prif achosion a gallanteffeithio ar sawl anifail mewn diadell. Mewn ŵyn ifainc,heintiadau yn y cymalau yw’r prif broblemau, a chânt euhachosi’n aml gan facteria yn yr amgylchedd

    Ond mae yna ffactorau pwysig eraill sy’n achosi cloffniym mhob grŵp oedran. Felly, mae gwneud diagnosiscywir yn bwysig iawn oherwydd dim ond wedyn maemodd dewis y driniaeth gywir a phenderfynu ar y camaucywir i'w cymryd i atal problemau yn y dyfodol.

    Sut mae adnabod y gwahanol fathau o gloffnitraed

    • Llid y traed - mae’r croen yn yr hollt rhwng yr ewineddyn llidus, yn llaith ac wedi chwyddo, ond mae’r corn yndal yn gyfan. Mae pob grŵp oedran yn agored i niwed,ac yn aml bydd llawer o anifeiliaid yn dioddef o fewncyfnod byr.

    • Clwy’r traed - mae hwn yn dechrau fel llid y traedrhwng yr ewinedd, ac yn ymledu i ymrannu’r corn gery sawdl, gan ymledu ar hyd y wadn a hyd yn oed ifyny’r bilen mewn achosion difrifol. Mae ynaddrewdod nodweddiadol yn perthyn i glwy'r traed,wrth i weddillion cawslyd tywyll gasglu o dan y cornrhydd. Mae’r bacteriwm Dichelobacter nodosus i’w gaelyn llid y traed a chlwy'r traed, ac mae’n gysylltiedig felarfer â Fusobacterium necrophorum. Mae clwy'r traedyn glefyd heintus, D.nodosus, sy’n goroesi yn nhraeddefaid heintiedig, ond dim ond am oddeutu pythefnosy gall F. necrophorum barhau ar borfa. Am bob achosamlwg bydd sawl achos llai amlwg, ac ni fydd moddei reoli’n effeithiol oni bai ei fod yn cael ei drin felproblem ddiadell.

    • Dermatitis carnol defeidiog heintus (CODD) - nid oesneb yn deall yn iawn beth yw achos y clefyd difrifolhwn, ond yn fwy na thebyg mae’n gysylltiedig â’rorganebau sy’n achosi dermatitis carnol mewngwartheg. Yn wahanol i glwy'r traed, sy’n dechrau yn ygwadn ac yn ymledu tuag allan ac i fyny, mae’ndechrau â darn dolurus ym mywyn y carn ac ynymledu i lawr yr ewin ac yn mynd yn gyflym o dan ycorn. Mewn achosion difrifol mae holl gwpan y cornyn dod yn rhydd ac yn datguddio ewinedd noeth. Gallhyn arwain at ddifrod parhaol i’r droed. Nid oes moddtrin a rheoli CODD yn effeithiol. Ymgynghorwch â’chmilfeddyg er mwyn llunio cynllun addas, sy’n debygolo ymwneud â defnyddio baddonau traed a phigiadaugwrthfiotig . Bydd eich milfeddyg yn eich cynghoriynglŷn â’r rhai mwyaf effeithiol.

    Llid y traed

    Clwy’r traed yn y cyfnod cynnar, sy’n ei ddangos yn rhedeg dan ysawdl

    Clwy’r traed difrifol

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 25

  • 26 Mae defaid cloff yn cyfrif!

    • Carnau cregynnog - mae hwn yn gyflwr cyffredin panfo pilen allanol yr ewin yn dod yn rhydd ac yn ffurfiopoced sy’n llenwi â phridd. Nid yw’r ddafad yndechrau cloffi hyd nes i’r pridd gael ei wthio’n bell odan bilen y carn. Mae crawniad yn ffurfio ac yn ydiwedd mae hwnnw’n byrstio ar dop y carn. Mae’rddafad yn gwella’n raddol wedyn, ond gall cloffniailddigwydd os nad yw’r corn rhydd yn cael ei naddu iffwrdd.

    • Crawniadau byw y carn (blaen y carn) - mae’r rhain yndatblygu ar hyd llwybr o dan gorn y bilen gan achosicloffni acíwt. Yn y diwedd mae’r crawn yn byrstio ardop y carn ac wedyn mae’r ddafad yn gwella’n raddol,er gall y bydd y corn yn rhydd ac wedi cracio.

    • Crawniad cymalau asgwrn y carn - mae'r math difrifolhwn o heintiad yn fwy cyffredin mewn hyrddod trwm.Mae’r anifail yn gloff iawn ac mae ganddo ewinpoenus a chwyddedig. Mae crawn yn byrstio mewnsawl man o amgylch blaen y carn, gan gynnwys rhwngyr ewinedd, ac yn aml bydd yr hwrdd yn colli’r blewuwchben y carn. Mae’r cymal y tu mewn i'r carn yncael ei niweidio’n barhaol ac mae’r anifail yn parhau’ngronig gloff. Mae angen triniaeth filfeddygol; yn amlyr unig ateb yw torri’r ewin i ffwrdd.

    • Granwloma (Meinwe gordwf) - yn aml bydd yn deillioo or-naddu ond gall hefyd gael ei achosi gan glwy'rtraed difrifol neu glwyfau tyllu. Mae tyfiant tebyg ifefus yn datblygu a gall hwn gael ei orchuddio âchorn rhydd, ond ni fydd byth yn gwella’n iawn a byddyn gwaedu wrth gael ei gyffwrdd. Mae angen sylwgan filfeddyg.

    Mae mathau eraill o gloffni traed yn cynnwys pelennipridd, clwyfau tyllu a chroen yn tyfu rhwng yr ewineddgan achosi haint poenus.

    Carnau cregynnog

    Granwloma fel canlyniad i or-naddu

    Crawniad cymalau asgwrn y carn

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 26

  • Mae defaid cloff yn cyfrif! 27

    Defaid cloff - triniaeth

    Trin cloffniMae ar gloffni mewn defaid angen diagnosis cywir o’rhyn sy’n achosi’r broblem cyn penderfynu ynglŷn â’rcamau i’w cymryd. Mae angen trin llid y traed, clwy'rtraed a CODD fel problemau diadell gyfan, oherwyddmae’n annhebygol y bydd cymryd allan anifeiliaid cloffunigol yn caniatáu rheolaeth foddhaol oni wneir hynny arunwaith ac yn rheolaidd. Mae amryw o driniaethau argael a dylid dewis y rhain ar sail amgylchiadau penodol yddiadell. Pan fo dafad unigol neu ddiadell yn gloff ac ynmethu ymateb i’r triniaethau arferol, dylid ceisio cyngormilfeddygol.

    Defnyddio baddon traed mae hyn yn ffordd effeithiol o drin llid y traed a chlwy'rtraed ysgafn ar gyfer diadell gyfan os oes cyfleusterauaddas ar y fferm. Rhaid i’r defaid fod â thraed glân a sychcyn mynd i’r baddon a dylent sefyll ar wyneb sych achaled am o leiaf 20 munud wedyn. Mae’n well defnyddiollociau sefyll, sy’n gallu dal nifer o ddefaid, na gadael iddefaid gerdded trwy faddonau; mae’n sicrhau fod yr holldraed yn cael eu trin ac yn caniatáu i ddefaid gael ydriniaeth am yr amser gofynnol. Bydd rhoi defaid mewnllociau trafod llaith neu frwnt yn peri i glwy’r traedymledu.

    Mae sawl cemegyn gwahanol ar gael. Y rhai mwyafadnabyddus yw:

    • Sylffad sinc - (10%). Mae angen i ddefaid sefyll ynhwn am oddeutu 5 munud, ambell waith yn hirach(darllenwch y cyfarwyddiadau).

    • Fformalin - (mae 2-3% fel arfer yn ddigonol, byth yngryfach na 5%). Bydd defaid yn cerdded trwy’r baddon,ond mae’n annymunol a phoenus i’w ddefnyddio;hefyd, gall galedu’r corn yn ormodol os yw’n cael eiddefnyddio’n rhy aml. Fodd bynnag, gall mai fformalin(2%) yw’r ffordd fwyaf effeithiol o drin llid y traed.Dylai baddonau traed â fformalin fod yn ffres bob trooherwydd maent yn dirywio pan fyddant yn lleidiog.

    Mae triniaethau eraill ar gyfer cloffni yn cynnwys:

    • Chwistrellau gwrthfiotig - yn effeithiol rhag llid y traed achlwy'r traed ysgafn, yn enwedig ar gyfer defaid unigolneu niferoedd bychain. Peidiwch byth â’u defnyddioynghyd â baddon traed oherwydd mae’r driniaeth yngolchi i ffwrdd ac yn golygu gwastraff arian!

    • Pigiadau gwrthfiotig - gall y rhain fod yn effeithiol argyfer clwy'r traed a mamogiaid yn eu beichiogrwyddhwyr oherwydd nid oes gormod o drafod. Hefyd, gall ybydd eu hangen ar gyfer crawniadau traed pan nadyw’n hawdd gollwng y crawn. Mynnwch air â’rmilfeddyg am gyngor ynglŷn â defnyddio gwrthfiotig.

    • Baddonau traed gwrthfiotig - gall y bydd angendefnyddio’r rhain i drin CODD, ond dylech gael cyngormilfeddygol ynglŷn â’u defnyddio.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 27

  • 28 Mae defaid cloff yn cyfrif!

    Defaid cloff - atalCofiwch, os nad yw’n amlwg beth sy’n achosi cloffni, osnad yw’r triniaethau arferol yn gweithio neu os yw defaidyn ddifrifol gloff, dylech geisio cymorth gan filfeddyg erlles yr anifeiliaid.

    Atal cloffniNi fydd byth yn bosibl atal cloffni’n gyfan gwbl, ond dylidceisio cael cyn lleied â phosibl o achosion o lid y traed achlwy'r traed, a CODD, os yw hwnnw eisoes yn eich diadell.Wrth gadw’r rhain dan reolaeth a pheidio â chaniatáu iachosion difrifol neu gronig ddatblygu (clwy'r traed a CODD),bydd angen gwario llai o amser o lawer ar drin unigolion.

    Y ffyrdd gorau o atal yw:

    • Defnyddio baddon traed yn rheolaidd - yn arbennig olesol mewn tywydd cynnes, a hefyd cyn rhoianifeiliaid dan do ac wedyn, i’w diogelu rhag llid ytraed ac i atal clwy'r traed rhag ymledu. Ond rhaidbod y cyfleusterau’n addas.

    • Brechu - yn benodol rhag clwy'r traed, gall helpu eireoli, ond mae angen i hyn fod yn rhan o gynllungofal traed cyffredinol. Nid yw’n diogelu am yn hiriawn, ac felly mae angen bod yn ofalus o ran amseru.Mynnwch gyngor gan filfeddyg.

    • Cadwch bopeth yn lân - bydd llociau â digon o wasarnsych mewn tai defaid a mannau wedi'u draenio’n ddalle mae defaid yn ymgynnull o gwmpas cafnau bwydneu ddŵr yn helpu i atal clwy'r traed rhag lledu ahefyd yn atal heintiadau’r cymalau mewn ŵyn ifainc.

    • Difa defaid sydd wedi’u heintio’n gronig - bydd defaideraill yn cael eu heintio drwy’r amser gan y rhain.

    • Naddu traed - nid yw naddu traed yn rheolaidd yncael ei argymell bellach. Peidiwch â naddu’r carnausydd wedi gordyfu’n ofnadwy ond os ydynt yn amharuar gerddediad yr anifail. Cymerwch ofal rhag peri i’rdroed waedu. Peidiwch â naddu traed os oes heintiad.

    Gwellwch yr heintiad yn gyntaf ac os nad yw’rcarnau’n treulio wrth i’r ddafad ailddechrau rhoi eiphwysau ar y droed honno, efallai y bydd yn werthgwneud ychydig o naddu gofalus. Mae astudiaethauwedi dangos fod defaid cloff sy’n cael dim ond pigiadgwrthfiotig yn gwella’n well na’r rhai sy’n cael pigiadgwrthfiotig a’u traed yn cael eu naddu.

    Mae modd rheoli clwy'r traed ym mhob diadell a’i ddileuo ddiadelloedd caeedig, ond mae'n hawdd iawnailgyflwyno'r clefyd trwy esgeulustod neu ddiffygmeddwl. Mae yna ddeg math o’r bacteriwm B. nodosus arffermydd yn y DG, ac mae rhai’n fwy ffyrnig (yn achosiclefydau difrifol) nag eraill. Felly, mae’n bwysig peidio âchyflwyno mathau newydd i’ch diadell.

    Dylai’r holl ddefaid sy’n cyrraedd y fferm gael eu cadw arwahân i’r ddiadell breswyl hyd nes iddynt gael euharchwilio, eu trin yn ôl y gofyn a'u harchwilio’r eildro cyncymysgu â’i gilydd.

    Os nad yw CODD ar eich fferm, does dimmo’i angen arnoch chi.Peidiwch â’i brynu i mewn. Peidiwch â phrynu defaid cloff.

    Baddon traed lle mae’r defaid yn sefyll ynddo

    Gwaedu diangen oherwydd naddu'n rhy fyr

    Camau allweddol tuag at reoli cloffni Mae diagnosis cywir o'r achos yn hanfodol.

    Mae clwy'r traed go iawn yn broblem heintus mewn diadell.

    Peidiwch ag aros nes bod cloffni’n broblem. Defnyddiwchgwarantin i’w gadw allan a chymerwch gamaurhagweithiol i’w atal.

    Os oes amheuaeth ynglŷn â’r achos, ceisiwch gyngor ganfilfeddyg.

    Wrth ddefnyddio baddon traed, rhaid defnyddio’r cryfdercywir o’r cemegyn priodol.

    Dylech ddifa defaid â heintiad cronig.

    Peidiwch â phrynu anifeiliaid a allai heintio gweddill eichdiadell.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 28

  • Erthylu mewn defaid 29

    Erthylu mewn defaidMae erthylu’n achosi colledion o £100 y famog o leiaf.

    Tri achos mwyaf cyffredin erthyliad mewn mamogiaid yngNghymru yw Erthyliad Ensöotig (EAE), tocsoplasmosis a’rerthyliadau a achosir gan campylobacter.

    Mae EAE a tocsoplasma yn berygl i ferched beichiog.

    Pam mae erthylu’n bwysig?Bob blwyddyn mae erthylu mewn defaid yn achosicolledion ariannol enfawr i ffermwyr unigol ac i economidefaid Cymru. Mae’r rhan fwyaf o erthyliadau yn digwyddyng nghyfnodau olaf beichiogrwydd, ac felly mae’r golledyn cynnwys nid yn unig gwerth posibl yr ŵyn ond hefyd ygost o gynnal mamogiaid anghynhyrchiol trwy gyfnod â

    llawer o fewnbynnau. Gwnaed sawl amcangyfrif o wir gosterthyliad ac mae’r rhan fwyaf o astudiaethau’n awgrymuisafswm o £100 y famog.

    Mae yna sawl rheswm pam mae mamogiaid yn erthylu -rhai’n heintus a rhai heb fod yn heintus. Ond mae tri phrifachos sy’n gyfrifol am fwy na 75% o’r holl achosion sy’ncael diagnosis. Os bydd mamogiaid yn dechrau erthylu,mae’n hanfodol cael diagnosis cywir a chyflym o’r achos.Mae hyn yn golygu cyflwyno’r ffetws marw a’r brych ilabordy. Heb y ddau, mae’n annhebygol y bydd moddgwneud diagnosis. Os bydd y cyflwyniad cyntaf yn profi’nnegyddol o ran achos, mae’n bwysig ailgyflwyno os bydderthyliadau’n parhau. Beth bynnag yw achos yrerthyliadau, mae’n hanfodol ymgynghori â’ch milfeddygynglŷn â’r ffordd orau o drin ac atal yn y dyfodol.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 29

  • 30 Erthylu mewn defaid

    Erthyliad Ensöotig (EAE)Achos mwyaf cyffredin erthyliad yng Nghymru ywerthyliad ensöotig mamogiaid (EAE) sy’n achosi tua 50%o’r holl achosion sy’n cael diagnosis. Yr organeb sy’ngyfrifol yw Chlamydophila abortus. Mae’r cylchred bywydyn gymhleth, ac mae hyn yn ei gwneud yn anodd ei rheoli.

    Caiff mamogiaid sy’n agored i’r haint, naill ai rhai beichiogneu’r rhai sydd newydd wyna, eu heintio adeg wyna. Nidyw’r heintiad yn achosi erthyliad y flwyddyn honno(heblaw am rai achosion eithriadol lle caiff y famog eiheintio cyn 120 niwrnod o feichiogrwydd). Mae’r organebyn aros yn y famog mewn cyflwr diddigwydd. Ar ôl tua 120niwrnod o’r beichiogrwydd nesaf, bydd yr organeb yncynhyrchu heintiad acíwt o’r brych gan achosi erthyliad.Mae’r brych a’r diferlifoedd o’r famog yn heintus iawn.

    Bydd erthyliadau EAE yn digwydd yn nhair wythnos olaf ybeichiogrwydd a chynhyrchion erthyliad yw ffynhonnell yrheintiad. Ond nid yw’r stori mor syml â hynny. Yn eubeichiogrwydd nesaf, bydd mamogiaid sydd wedi erthyluyn cynhyrchu ŵyn byw a hyfyw, ond gall yr heintiad fod ynbresennol o hyd yn y brych ac mewn diferlifoedd.Dangoswyd y bydd ŵyn benyw yn erthylu yn eubeichiogrwydd cyntaf os ydynt yn dod o ddiadell syddwedi ei heintio’n wael. Mae hyrddod yn annhebygol o fodâ rhan i’w chwarae yn ymlediad EAE.

    Gall EAE gyrraedd diadell mewn sawl ffordd. Y fforddfwyaf cyffredin yw trwy brynu mamogiaid amnewid sydd âhaint diddigwydd neu ŵyn benyw o ddiadelloeddheintiedig. Bydd y rhain yn erthylu y tro nesaf y byddantyn wyna. Y ffordd gyffredin arall y bydd heintiad yncyrraedd yw trwy brynu mamogiaid sydd wedi erthylu acsy’n cael eu gwerthu fel mamogiaid bridio. Bydd y rhain ynrhoi genedigaeth i ŵyn normal a hyfyw, ond am eu bodwedi eu heintio, byddant yn cyflwyno’r haint i’r ddiadell acfelly bydd erthyliadau’n digwydd yn yr ail flwyddyn ar ôleu prynu. Ffordd arall o heintio yw i greaduriaidysglyfaethus (brain a chadnoid) gario brych heintiedig offerm cymydog.

    Gall colledion cychwynnol fod yn drychinebus, gydachyfradd erthylu o hyd at 30% mewn diadelloedd newyddeu heintio. Bydd diadelloedd sydd wedi eu heintio’ngronig yn colli rhwng 5 a 12 y cant bob blwyddyn. Galltriniaeth a rheolaeth fod yn effeithiol, ond dylid trafod achynllunio hyn ar y cyd â’ch milfeddyg. Os ceir achosion,gall triniaeth wrthfiotig â dosau o ocsitetrasyclin leihau’rgyfradd erthylu ond nid yw’n lleihau nac yn atalgollyngiad C. abortus naill ai yn y brych neu mewndiferlifoedd.

    Rheoli EAERheolir EAE trwy ddefnyddio brechlynnau byw. Maeastudiaethau wedi dangos bod defnyddio brechlyn mewndiadelloedd sydd eisoes wedi eu heintio yn lleihaucolledion i tua 1% a gellir dileu’r heintiad yn gyfan gwbldros gyfnod o flynyddoedd.

    Nid yw’n dderbyniol nac yn synhwyrol i ddefnyddio pigiadgwrthfiotig fel strategaeth ataliol; rhaid cadwgwrthfiotigau ar gyfer trin achosion.

    Mae yna gynlluniau achredu ar gyfer erthyliad ensöotig abydd rhai bridwyr yn manteisio ar hyn er mwynychwanegu gwerth at y stoc bridio a werthir ganddynt.Mae hyn yn rhoi hyder i brynwyr eu bod yn prynuanifeiliaid glân. Ac i gynhyrchwyr a allai fod wedi caelproblemau gyda’r clefyd, gallai strategaeth o’r fath fod ynrhan bwysig o fioddiogelwch y ddiadell.

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 30

  • Erthylu mewn defaid 31

    TocsoplasmosisYr achos ail fwyaf cyffredin o erthylu mewn diadelloeddyng Nghymru yw tocsoplasmosis. Yn wahanol i EAE, maetocsoplasmosis yn glefyd amgylcheddol. Cathod yw’r prifanifeiliaid lletyol. Bydd cathod ifainc yn gollwng hyd atfiliwn o oocystau (wyau) ym mhob gram o faw, ond maecyn lleied â 200 o wyau yn ddigon i heintio dafad. Daw’rheintiad o dir pori neu fwydydd sydd wedi eu heintio âbaw cathod. Mewn diadelloedd mynydd a thir uchel, byddhyn yn digwydd yn aml pan fydd ffermwyr yn dechrau rhoiporthiant atodol yn y gaeaf a chyn wyna.

    Mae pedwar cyfnod amlwg o golli ŵyn yn gysylltiedig âheintiad tocsoplasma.

    Bydd heintio cyn diwrnod 70 o’r beichiogrwydd yn arwainat farwolaeth ac adamsugniad y ffoetws gan adael y famogyn wag. Bydd heintio rhwng diwrnod 70 a diwrnod 110 ynperi i’r ffetws farw a mymïo. Yn achos gefeilliaid, gall unoroesi er i’r llall farw. O ddiwrnod 110 ymlaen, byddheintiad yn achosi erthyliad ŵyn wedi eu cario ymron i'wcyfnod llawn. Mewn rhai diadelloedd, bydd heintiad hwyriawn yn achosi geni ŵyn gwanllyd sydd, er gwaethaf pobsylw, yn marw yn dri neu bedwar diwrnod oed.

    Nid oes unrhyw driniaeth bosibl os ceir heintiad. Ondunwaith y bydd mamog wedi ei heintio, bydd ganddiymwrthedd oes a bydd yn rhoi genedigaeth i ŵyn hyfywyn y dyfodol.

    Rheoli TocsoplasmosisRheolir tocsoplasmosis trwy frechu. Mae brechlyn byw argael.

    Cofiwch fod gan ddefaid sydd wedi eu heintio ymwrtheddoes, ac felly er mwyn lleihau’r gost, mewn rhai diadelloedddim ond yr anifeiliaid amnewid fydd yn cael eu brechu,wrth iddynt ymuno â’r ddiadell. Fel hyn, caiff y ddiadellgyfan ei brechu o dipyn i beth, a gellir rhannu’r gost drosnifer o flynyddoedd.

    Mae modd adnabod defaid a fu mewn cysylltiad âtocsoplasmosis a’r rhai sydd wedi erthylu trwy brofiongwaed.

    CampylobacteriosisHwn yw’r achos trydydd mwyaf cyffredin o erthylu. Fe’ihachosir gan ddau facteriwm sy’n perthyn yn agos,Campylobacter fetus isrywogaeth fetus a Campylobacterjejuni.

    Bydd erthyliadau fel arfer yn digwydd yn y chwe wythnosolaf neu ambell waith caiff ŵyn gwan eu geni. Yn wahanoli EAE neu tocsoplasmosis, nid oes anafiadaunodweddiadol yn y brych. Mae achosion ocampylobacteriosis yn ysbeidiol ond gallant fod ynddinistriol gyda cholledion o 30% i 40%. Mae cafnaubwydo sy’n cael eu halogi gan dom adar yn ffynhonnellgydnabyddedig, ond hefyd gall mamogiaid sy’n gludwyrheintio diadell. Mae’n ymddangos fod gorstociomamogiaid, boed y tu allan neu dan do, yn gwneudachosion yn fwy difrifol.

    Mae mamogiaid sydd wedi eu heintio yn ymwrthol amoes, a hyn sy’n esbonio natur ysbeidiol yr achosion. Nidoes unrhyw driniaeth effeithiol ar gael.

    Mae hylendid da adeg wyna, a symud unrhyw famog syddwedi erthylu i loc unigol neu loc anifeiliaid claf yn syth, ynlleihau’r tebygolrwydd y bydd yr haint yn lledu i’rmamogiaid eraill, ni waeth a ydynt y tu allan neu dan do.

    Camau allweddol tuag at reoli erthylu Mewn achosion o erthylu, mae’n hollbwysig caeldiagnosis cyflym gan labordy a gall y bydd angen mwynag un sampl i gael diagnosis cywir

    Mae modd rheoli EAE a tocsoplasmosis yn dda trwyfrechu

    Ni ddylech ddefnyddio gwrthfiotigau oni bai fod ynaachosion o EAE, a byth fel triniaeth ataliol flynyddol

    Mynnwch air â’ch milfeddyg ynglŷn â’r ffordd orau amwyaf effeithiol o atal erthyliadau yn y dyfodol

    Byddwch yn ofalus wrth brynu anifeiliaid amnewid,rhag ofn eu bod wedi’u heintio ag EAE diddigwydd

    Arddelwch hylendid da adeg wyna a symudwch unrhywfamog sydd wedi erthylu yn syth er mwyn lleihau’rperygl o’r haint yn lledu

    Gall EAE a tocsoplasma heintio pobl ac ni ddylaimerched beichiog a’r rhai sydd o oedran beichiogiymwneud â defaid adeg wyna ac ni ddylent gyffwrdd agoferôls brwnt heintiedig

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 31

  • 32 Crynodeb

    CrynodebMae brechu rhag clefydau clostridiol yn hanfodol

    Dylid gwneud asesiadau risg o glefydau eraill

    Mae angen asesiad arbennig ar orff

    Dilynwch ganllawiau SCOPS i reoli parasitiaid mewndefaid

    Mae ffliwc / llyngyr yr iau yn achosi colledionariannol sylweddol ac mae angen strategaeth ffermunigol i’w atal

    Mae modd lleihau cocsidiosis trwy gyfrwngrheolaeth dda

    Os cewch hyd i ectoparasitiaid parhaol ar un anifail,dylid ystyried bod y grŵp cyfan wedi ei heintio adylid trin yr holl anifeiliaid yn y grŵp ar yr un pryd

    Mae modd rheoli clefydau metabolig â maeth da,sgorio cyflwr yn rheolaidd a rheoli’r borfa adeg y troiallan

    Dewiswch stoc bridio ar gyfer ymwrthedd i glefyd ycrafu clasurol

    Rhowch bolisi cwarantin ar waith ar gyfer anifeiliaidsy’n cyrraedd y fferm

    Gwybodaeth bellach

    Byddwch cystal â chysylltu â Thîm Datblygu’rDiwydiant yn HCC Ffôn: 01970 625050 neu e-bost: [email protected]

    Mae rhagor o wybodaeth am y llyfryn hwn ac amwaith HCC ar gael yn www.hccmpw.org.uk

    HCC Sheep Health A4 CYM_Layout 1 12/07/2013 17:48 Page 32