11
HEFYD Y TU MEWN DYFODOL HYDERUS 4 MYND YN WYRDD 6 GWERTHU’R BRAND 12 Y DIWYDIANT YN BOSITIF 16-17 Cyhoeddiad Hybu Cig Cymru www.hccmpw.org.uk Ar y llwybr cywir Chwarae plant Pam mae Tsieina a Chanada yn awyddus i gael Cig Oen Cymru o ansawdd – tudalennau 14 a 15. Dywed Geraint Thomas, enillydd Medal Aur yn y Gemau Olympaidd ac un o sêr y Tour de France, fod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn hanfodol i athletwyr sydd ar y brig - tudalen 7. HCC yn gwneud ryseitiau’n hawdd i dros 50,000 o blant – tudalen 18. Ar ben y Byd Cefn Gwlad HYDREF 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22

2011 hydref - HCC / Meat Promotion Wales · 2019. 6. 12. · hydref 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22. Cynnwys 4 dyfodol hyderus 5 Cynllun hyrddod llwyddiannus

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: 2011 hydref - HCC / Meat Promotion Wales · 2019. 6. 12. · hydref 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22. Cynnwys 4 dyfodol hyderus 5 Cynllun hyrddod llwyddiannus

Hefyd y tu mewn dyfodol Hyderus 4 mynd yn wyrdd 6 GwertHu’r brand 12 y diwydiant yn bositif 16-17

Cyhoeddiad Hybu Cig Cymru www.hccmpw.org.uk

ar y llwybr cywir

Chwarae plantPam mae Tsieina a Chanada yn awyddus i gael Cig Oen Cymru o ansawdd – tudalennau 14 a 15.

Dywed Geraint Thomas, enillydd Medal Aur yn y Gemau Olympaidd ac un o sêr y Tour de France, fod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn hanfodol i athletwyr sydd ar y brig - tudalen 7.

HCC yn gwneud ryseitiau’n hawdd i dros 50,000 o blant – tudalen 18.

ar ben y byd

Cefn Gwlad

hydr

ef 2

011

P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22

Page 2: 2011 hydref - HCC / Meat Promotion Wales · 2019. 6. 12. · hydref 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22. Cynnwys 4 dyfodol hyderus 5 Cynllun hyrddod llwyddiannus

Cynnwys

4 dyfodol hyderus5 Cynllun hyrddod llwyddiannus6 mynd yn wyrdd7 enillydd euraid

8 12 14

croesoCroeso i Cefn Gwlad, sef cyhoeddiad newydd gan Hybu Cig Cymru (HCC). os hoffech wybod mwy am y sefydliad, cael gwybodaeth ariannol neu ddarllen am y gwaith a wnawn ar ran y diwydiant, dyma’r union ddeunydd darllen i chi.

Hybu Cig Cymru yw’r corff strategol sy’n gyfrifol am hyrwyddo a datblygu’r diwydiant cig coch yng Nghymru, a’i genhadaeth yw datblygu marchnadoedd proffidiol a chynaladwy er budd yr holl randdeiliaid yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

Mae HCC yn ceisio gwella ansawdd cynnyrch cynradd a’i wneud yn fwy cost effeithiol, cryfhau’r gadwyn cyflenwi cig coch, ychwanegu gwerth, hysbysu a gwneud pobl yn fwy ymwybodol o’n cynhyrchion ardderchog.

Hon yw fy mlwyddyn gyntaf yn Gadeirydd HCC, a hoffwn ddiolch i fy rhagflaenydd, Rees Roberts, a fu’n Gadeirydd rhwng 2003 a 2010.

Roedd cyfraniad Rees at sefydlu a thwf HCC yn aruthrol; dan ei arweiniad, datblygodd yr awdurdod i fod yn esiampl o’r hyn y dylai corff sy’n cefnogi’r diwydiant fod. Mi wn ei fod yn gadael ar ei ôl sefydliad yr oedd yn ymfalchïo’n fawr ynddo ac sydd yn fwy nag addas i’r pwrpas.

Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol â’r diwydiant dros gyfnod o naw wythnos, argymhellwyd y dylai HCC gynyddu cyfraddau Ardoll Cig Coch Cymru am y tro cyntaf mewn degawd.

Mae’r ardoll yn rhan o ddarpariaeth ariannol gyffredinol HCC er mwyn gwasanaethu’r diwydiant yn y flwyddyn sy’n dod, ochr yn ochr â chyfraniadau Llywodraeth Cymru (o dan y Cynllun Datblygu Gwledig 2007 – 2013, gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr, y Cynllun Grant Marchnata a Phrosesu a Chynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi) a mentrau eraill ar gyfer y diwydiant.

Mae fy niolch a gwerthfawrogiad didwyll yn mynd i fy nghyd-aelodau ar Fwrdd HCC, sydd wedi darparu arweiniad amhrisiadwy ar gyfer cefnogi, datblygu a hyrwyddo’r diwydiant, ac i staff HCC, sydd wedi gweithio ar y cyd i gyflawni’r dyheadau.

Cefn Gwlad 32 Cefn Gwlad

Dai Davies, Cadeirydd

8 lansiad brenhinol9 byd Cig oen Cymru10-11 arwain y ffordd12 Gwerthu’r brand13 €4m i hybu marchnata

14-15 ar ben y byd16-17 y diwydiant yn bositif18 ni all 50,000 o blant fod yn anghywir19-20 Crynodeb ariannol

P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 2-3 02/09/2011 15:22

Page 3: 2011 hydref - HCC / Meat Promotion Wales · 2019. 6. 12. · hydref 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22. Cynnwys 4 dyfodol hyderus 5 Cynllun hyrddod llwyddiannus

4 Cefn Gwlad

Gwyn Howellserthygl gan brif weithredwr HCC

Credaf fod gan ffermwyr Cymru bob rheswm dros deimlo’n hyderus yn ystod y deuddeng mis nesaf.

Mae hyn yn seiliedig ar berfformiad cadarn y diwydiant, ansawdd cyson ein cynhyrchion Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru a’r newidiadau sylweddol sydd wedi digwydd ar farchnad y byd mewn perthynas â chig coch.

Fe welodd ein diwydiant newid er gwell yn y cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw mewn amser cymharol fyr. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd ffermwyr Cymru’n derbyn prisiau isel. Ar ôl goroesi’r cyfnod anodd hwnnw, mae’n well bod yn ofalus wrth ystyried yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, ond credaf ein bod mewn oes fasnachol newydd i’n holl randdeiliaid.

Mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu fod y cyfnod o fwyd rhad drosodd a bod ffermwyr Cymru mewn sefyllfa gryfach erbyn hyn am fod llai o gyflenwad yn fyd eang.

Y dyddiau hyn nid y pris yn unig sy’n bwysig i’r prynwr, ond sicrwydd ynglyn â chyflenwad – ac mae hynny o fantais i ffermwyr.

Mae cyflenwad sy’n crebachu, poblogaeth fyd-eang sy’n cynyddu, a mwy o gyfoeth yn y Dwyrain Pell ac ar is-gyfandir India yn golygu her a chyfle i’r diwydiant yng Nghymru.

Drwyddi draw, mae’r darlun yn un ffafriol i ffermwyr ac mae’n annhebygol o newid yn y dyfodol agos – a bydd yn rhoi hyder i’r diwydiant wrth symud ymlaen.

Mae Cig Oen Cymru wedi ennill adnabyddiaeth helaeth yn fyd-eang oherwydd ei fod yn gynnyrch o’r radd flaenaf. Mae wastad wedi bod yn un o flaenoriaethau canolog HCC ac rwyf wrth fy modd â’r llwyddiant hyd yma.

Ar ben hyn, rwy’n ymfalchïo ym mherfformiad y diwydiant cig coch yng Nghymru – a chynhyrchion brandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn enwedig. Pan edrychwn ar ‘fantolen’ diwydiant cig coch Cymru ar gyfer 2010-11, fe welwn fod y cyflenwad yn dynn, y galw’n rymus, allforion ar gynnydd a mewnforion wedi lleihau.

Mae yna gyfleoedd i frandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru mewn rhannau o’r byd sy’n dechrau mynd yn ddylanwadol ac yn fwy cyfoethog. Yn y cyfamser, mae’r farchnad gartref yn rymus o hyd, a’r defnydd o gig eidion yn aros yn debyg o’r naill flwyddyn i’r llall.

Er bod prisiau wyn wedi bod yn galonogol i’r cynhyrchwyr, cafodd llai o gig oen ei fwyta o’r naill flwyddyn i’r llall. Mae sawl ffactor yn gyfrifol am hyn, ond y prif reswm yw bod cyflenwad wedi crebachu a bod dirywiad economaidd wedi digwydd.

Dydyn ni byth yn anghofio pwysigrwydd y farchnad gartref – dyna yw ein bara menyn ac mae’r rhan fwyaf o’r cynnyrch yn cael ei werthu gan y mân-werthwyr cadwyn.

Tua phump y cant o’r cynnyrch sy’n cael ei fwyta yng Nghymru; mae 63 y cant o’r cig defaid ac 89 y cant o’r cig eidion a gynhyrchir yng Nghymru’n cael ei fwyta mewn rhannau eraill o Brydain. Mae yna amrywiadau rhanbarthol o ran arferion defnyddwyr – nid yn gymaint gyda chig eidion – ond yma yng Nghymru, er enghraifft, rydym yn bwyta mwy o borc y pen nag yw pobl mewn rhannau eraill o’r DG.

Mae’r farchnad allforio’n gyfle i unioni’r anghydbwysedd mewn carcasau sydd i’w weld ambell waith yn y farchnad gartref, sef rhywbeth rydym wedi bod yn ei ddatblygu ar y cyd â’n cwmnïau prosesu.

Mae’r cyrchfannau ar gyfer ein hallforion yn mynd yn bellach o hyd. Erbyn hyn mae ein tîm marchnata’n bwrw’u golygon tuag at Tsieina a Chanada. Yn ôl ein hymchwil, mae yna farchnad dda, er enghraifft, i’r pumed chwarter yn Tsieina a bydd hynny’n ychwanegu

gwerth at yr holl gadwyn cyflenwi cig coch.Rydym yn obeithiol ynglyn ag agor y

marchnadoedd newydd hyn oherwydd rydym wedi creu brand o’r radd flaenaf, sef Cig Oen Cymru, sy’n cael ei gydnabod yn arweinydd byd-eang yn y marchnadoedd allforio sy’n cynnwys tir mawr Ewrop, Hong Kong, Singapôr a’r Emiraethau Arabaidd Unedig.

Bydd HCC yn dal i gyfenwi’r diwydiant â gwybodaeth am y farchnad ynglyn â chyflenwad a’r galw

am ein cynhyrchion fel bod y sector mewn sefyllfa dda i wneud penderfyniadau gwybodus er budd ei ddyfodol.

Mae dadansoddiad cyfredol yn dangos er bod ffermwyr yng Nghymru yn ennill mwy o’r farchnad wrth i brisiau ddal yn uchel, mae costau wedi cynyddu’n fawr, yn enwedig costau eitemau hanfodol fel tanwydd, porthiant a gwrtaith.

Yn y cyfamser, mae’r sector hefyd yn wynebu heriau mawr – gan gynnwys y cynnydd arfaethedig yn y taliadau hylendid cig i’r Asiantaeth Safonau Bwyd .

Gallwn ychwanegu at hyn y ffaith fod y sector wedi bod yn ymgodymu â’r her o gyflenwadau sy’n crebachu ynghyd â newidiadau yn yr hyn y mae’r defnyddiwr yn dymuno’i gael. Yn anochel, mae hyn wedi gwthio elw tuag i lawr.

I grynhoi, mae ymdrechion ffermwyr i wella ansawdd eu da byw, ynghyd â’r cydweithio agos rhwng proseswyr a’u prynwyr, newidiadau yn y farchnad fyd-eang a’r ymdrechion marchnata a gwaith brandio llwyddiannus gartref a thramor, gyda’i gilydd, yn dynodi dyfodol disgleiriach i’n diwydiant.

Mae bridwyr pedigri’n cael cynnig 50 y cant o gyfanswm cost cofnodi perfformiad, hyd at uchafswm o £500 ar gyfer Semenu Artiffisial a hyd at uchafswm o £700 ar gyfer Trosglwyddo Embryonau. Mae’r rhaglen yn rhedeg tan 2013

Derbyniodd HCC gyllid o dan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru er mwyn darparu rhaglen gwelliant genetig ar gyfer cynhyrchwyr cig eidion a defaid pedigri.

Mae’r Prosiect Hyrddod Elit yn cynnig cymorth ariannol hyd at uchafswm o £400 i gynhyrchwyr yng Nghymru sy’n prynu hwrdd o’r ansawdd gorau â geneteg uwchraddol. Rhaid i’r hyrddod sy’n cael eu prynu fod yn 25 y cant uchaf eu brid o ran trwch cyhyrau, pwysau sganio neu rinwedd famol.

Sefydlwyd gwefan newydd, www.eliteramproject.org.uk gan HCC â chymorth gwerth £450,000 gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru.

Rhaid i ymgeiswyr gofrestru a chwblhau rhaglen hyfforddi bwrpasol ar-lein a pharatoi cynllun bridio sylfaenol sy’n canolbwyntio ar nodweddion dewis allweddol. Ar ôl cwblhau’r cyfan yn llwyddiannus, bydd ffermwyr yn cael tystysgrif a thaleb gwerth hyd at £400 i’w gwario ar brynu hwrdd cymwys i’w diadell.

Hyd yma, mae 1300 o ffermwyr wedi argraffu taleb, ac mae 500 wedi prynu hwrdd. Mae HCC yn disgwyl y bydd y 500 o dalebau sydd ar ôl yn cael eu defnyddio yn ystod y deuddeng mis nesaf.

Gobaith HCC yw y bydd y prosiect cyffrous yn cymell ffermwyr defaid i wella ansawdd eu da byw ond hefyd yn helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae’r cynllun yn dilyn patrwm tebyg i Brosiect Gwella Ansawdd Cig Eidion Cymru a redwyd gan HCC rai blynyddoedd yn ôl.

“Prosiect Hyrddod Elit yw’r cyntaf o’i fath yn y byd, ac mae’n ddilyniant rhesymegol i’r gwaith a wnaed gennym dros y blynyddoedd diwethaf i wella ansawdd da byw ar ffermydd Cymru,” meddai Siôn Aron Jones, Rheolwr Datblygu’r Diwydiant yn HCC.

Esboniodd: “Bydd prynu hwrdd â geneteg uwchraddol yn gwella cydffurfiad wyn. Dylen nhw dyfu’n gynt a bod yn barod i’w lladd yn gynharach, gan leihau’r gost o’u cynhyrchu. Yn ei dro, mae hyn yn golygu y bydd llai o nwyon ty gwydr yn cael eu cynhyrchu ganddyn nhw, gan helpu amaethyddiaeth Cymru i leihau allyriadau sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

“Nod hirdymor y Prosiect Hyrddod Elit yw cynorthwyo mentrau defaid i ddiwallu gofynion y farchnad am wyn wedi pesgi o ansawdd uchel, a fydd yn rhoi gwell enillion a busnes cynaladwy,” meddai Mr Jones.

Prosiect Hyrddod elitmae cannoedd o ffermwyr yng nghymru eisoes wedi gwneud cais i ymuno â chynllun llwyddiannus dros ben gan HCC sy’n cynnig 50 y cant o’r gost o brynu hwrdd er mwyn gwella ansawdd bridio ar y fferm.

arolwGfferm

Mae cynhyrchwyr wedi cefnogi rhaglen gwelliant genetig bwysig gan HCC i wella da byw yng Nghymru. Dangosodd arolwg o ffermwyr a oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen fod tri chwarter y rhai a ymatebodd yn cytuno fod defnyddio hyrddod mynegrif uchel wedi cael effaith fuddiol ar eu diadell, ac roedd 80 y cant yn cytuno fod yr wybodaeth a gawsant i wella ansawdd eu hanifeiliaid wedi bod yn ddefnyddiol.

Cefn Gwlad 5

Dangosodd yr arolwg:• bod71%yncytunoboddewisarsailcofnodiperfformiadwedigwellaperfformiadyddiadell;

• bod80%yncredubodyrwybodaethagawsantynddefnyddiol;

• bod84%o’rfarneubod,felcanlyniadi’rwybodaethahyfforddiantagawsant,yndeallcofnodiperfformiadaGwerthoeddBridioTybiedig;

• bod74%yncytunoboddefnyddiohyrddodâGwerthoeddBridioTybiediguchelwedicaeleffaithfuddiolareudiadelloedd

• bod73%yncredubodSemenuArtiffisialyneffeithiolorangwella’udiadelloedd;

• bod58%o’rfarnnaallentadennillcostcofnodiperfformiadpenabaicyllidareigyfer.

“Mae Cig Oen Cymru wedi ennill

adnabyddiaeth helaeth yn fyd-eang oherwydd

ei fod yn gynnyrch o’r radd flaenaf”.

SwyddogGweithredolProsiectauH

CC,DewiHughesaMarkJarvisoF

fermGelliGoch,Pen-y-bontar

Ogwr,ynystodlansio’rProsiectHy

rddodElit

P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 4-5 02/09/2011 15:23

Page 4: 2011 hydref - HCC / Meat Promotion Wales · 2019. 6. 12. · hydref 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22. Cynnwys 4 dyfodol hyderus 5 Cynllun hyrddod llwyddiannus

map ffyrdd yn adeiladu ar arferion gorau ffermio

Mae’r ddogfen newydd gan Hybu Cig Cymru, Dyfodol Cynaliadwy - Map Ffyrdd Cig Coch Cymru, yn cynnig gwybodaeth i randdeiliaid ar draws y gadwyn gyflenwi am nwyon ty gwydr a newid yn yr hinsawdd.

Mae’n darparu ffyrdd ymarferol a manwl o wella perfformiad, diwallu’r nodau newydd a chytunedig, tra’n glynu wrth yr hanfodion model busnes o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb.

“Mae rhanddeiliaid ym mhob sector o’r gymuned amaethyddol

mae map ffyrdd amgylcheddol ar gyfer y diwydiant cig coch yng nghymru yn ceisio ymateb i faterion yn ymwneud a newid yn yr hinsawdd a datblygu’r ffordd o fyw gynaliadwy fwyfwy wrth adeiladu ar arferion da ffermydd teuluol traddodiadol.

6 Cefn Gwlad

a phrosesu wedi addasu’n bositif i’r galw ar gyfer y ffordd o fyw newydd gynaliadwy ac maent eisoes yn chwarae rhan amlwg a rhagweithiol wrth ddiogelu’r amgylchedd,” meddai Siôn Aron Jones, Rheolwr Datblygu’r Diwydiant yn HCC.

Mae’r map ffyrdd yn ystyried heriau megis agwedd y diwydiant at nwyon ty gwydr, ôl-troed carbon, ansawdd dwr a’r defnydd ohono, bioamrywiaeth, rheoli cefn gwlad a diogelu carbon a’i ddal a storio, a’r hyn sy’n cael ei ddatrys.

Mae’n rhybuddio y gallai sbardunau ychwanegol effeithio ar bolisïau amgylcheddol, gan gynnwys bygythiadau clefydau (e.e. TB gwartheg); poblogaeth ffermio sy’n heneiddio; prisiau tir ac adolygiad o Ddiwygio’r PAC.

“Mae HCC yn casglu a dadansoddi data er mwyn cyfrifo olion traed carbon ar ffermydd fel bod gan ffermwyr yr arfau cywiraf posibl i feincnodi’n gywir, gwneud asesiad sy’n rhoi cipolwg ar allyriadau nwyon ty gwydr a darparu set o safonau dibynadwy ar gyfer cynaliadwyedd,” meddai Mr Jones.

Mae’r map ffyrdd newydd yn tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd i wella cynaliadwyedd ar y fferm, megis triniaeth glyfar i ddietau anifeiliaid sy’n cnoi cil, gwella da byw trwy ddulliau genetig, bridio ar gyfer y farchnad, rheoli tir glas a phorfwyd a rheoli gwastraff, ynghyd â chyfleoedd mân-werthu a phrosesu.

“Rydym yn dweud wrth ffermwyr, “Dydych chi ddim ar eich pen eich hun yn y broses hon; mae ffermwyr eraill, cyrff sy’n bartneriaid ac, wrth gwrs, staff HCC yma i’ch helpu chi,” meddai Mr Jones.

Mae gwybodaeth a chymorth ar gael wrth gysylltu â HCC ac wrth edrych ar ein gwefan www.hccmpw.org.uk.

Y seiclwr o Gymru yw llysgennad chwaraeon newydd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Enillodd y Fedal Aur yn y gystadleuaeth ymlid i dimau yng Ngemau Olympaidd 2008 yn Beijing – ac mae’n gobeithio y bydd yr un mor llwyddiannus yn Llundain yn 2012, yn dilyn perfformiad gwych yn y Tour de France eleni.

Mae HCC yn gobeithio y bydd llwyddiannau Geraint yn y byd chwaraeon yn ysgogi pobl ifanc Cymru i ddilyn ei esiampl a chymryd gofal â’u diet a ffitrwydd.

“Mae’r math o fwyd y byddwch chi’n ei fwyta ar gyfer unrhyw ymarfer, boed hwnnw’n Tour de France neu gêm gyfeillgar o bêl-droed gyda’ch ffrindiau, yn bwysig dros ben,” meddai Geraint. Mae llu o bobl yn edmygu ei stamina a thechneg – gan gynnwys un o seiclwyr enwocaf Prydain, Chris Boardman.

“Rhaid i chi wneud yn siwr eich bod yn bwyta’r bwydydd cywir i gael y fitaminau hanfodol,” meddai Geraint. “Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ffynonellau gwych o brotein a haearn. Cyfunwch y ddau â chyfrannau o garbohydradau, megis tatws a llysiau. i roi egni i chi a helpu’r corff i adfer ei hun ar ôl ymarfer.”

Lansiodd Geraint gyhoeddiad gan HCC sy’n anelu at helpu athletwyr y dyfodol i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i gael y diet cywir er mwyn llwyddo. Mae’r llyfryn yn cynnwys gwybodaeth am ei reolwaith dyddiol, pam mae’n bwysig bwyta’r bwydydd cywir a chael y cydbwysedd cywir o faetholion, ynghyd â dau o’i hoff ryseitiau Cig Eidion Cymru a Chig Oen Cymru .

“Ar ôl ras hir, rwy’n mwynhau stecen Cig Eidion Cymru flasus; mae’n helpu i adfer egni ac mae wastad yn rhoi hwb i fy morâl. Mi wn fod yr anifeiliaid ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael eu magu’n naturiol, ac felly does dim rhaid i mi bryderu fod y cig yn cynnwys ychwanegion na ddylwn eu bwyta.”

Dywedodd Cadeirydd HCC, Dai Davies: “Rydym wrth ein bodd fod Geraint yn llysgennad ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Mae’n un o athletwyr gorau’r DG ac yn esiampl wych o sut gall bwyta cig coch gyfrannu at lwyddiant.”

Mae Geraint Thomas, a enillodd Fedal Aur yn y Gemau Olympaidd diwethaf, wedi ymuno a HCC i dynnu sylw at bwysigrwydd diet cytbwys wrth fyw yn iach.

Hwb i Gwartheg duon CymreigRhoddwyd hwb gwerth £60,000 i’r ymdrechion i wella brid eiconig y Gwartheg Duon Cymreig gan gynllun newydd wedi’i ariannu gan Hybu Cig Cymru dan nawdd Cynllun Datblygu Gwledig Cymru.

Cafodd y Gymdeithas Gwartheg Duon Cymreig yr arian i gofnodi perfformiad eu hanifeiliaid o ran twf a rhinweddau. “Gall defnyddio tarw â ffigurau perfformiad uwchraddol olygu £47 y llo yn ychwanegol,” meddai Rheolwr Datblygu’r Diwydiant yn HCC, Siôn Aron Jones.

Geraint thomas

Cefn Gwlad 7

GeraintThomas,âbalchder,ynarddang

oseigefnogaethiGigOenCymru

aChigEidionCymruwrthwisgojersise

icloawnaedynarbennig.

P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 6-7 02/09/2011 15:23

Page 5: 2011 hydref - HCC / Meat Promotion Wales · 2019. 6. 12. · hydref 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22. Cynnwys 4 dyfodol hyderus 5 Cynllun hyrddod llwyddiannus

byddwch yn barod

- mae yna Glwb Cig oen Cymru ar ei

ffordd i’ch cymdogaeth!

8 Cefn Gwlad

lansiwyd Clwb Cig oen Cymru mewn steil gan eub tywysog Cymru mewn digwyddiad yn Clarence House yng nghwmni rhai o brif berchnogion tai bwyta, pen-cogyddion a chyflenwyr y ddinas.

Cefn Gwlad 9

Ymhen ychydig fisoedd, roedd 50 o dai bwyta Llundain eisoes wedi ymuno â’r fenter. Ymhlith pen-cogyddion gorau’r byd sy’n hybu Cig Oen Cymru, mae Tom Aitkens, Anthony Demetre, Richard Corrigan, Cyrus Todiwala, Mark Hix a Bryn Williams.

“Erbyn hyn Cig Oen Cymru yw prif frand cig oen yn Llundain a de Lloegr,” meddai Prif Weithredwr HCC, Gwyn Howells. “Mae defnyddwyr yn mynnu’r gorau, a dyna pam rydym wedi llwyddo i gael y fath amlygrwydd i Gig Oen Cymru, nid yn unig yma ond hefyd mewn nifer gynyddol o dai bwyta blaenllaw ar draws y DG ac mor bell â’r Almaen, Barbados a Hong Kong.

“Rwy’n falch dros ben fod cynifer o dai bwyta Llundain eisoes wedi ymuno â’r clwb, ac mae nifer fawr o rai eraill ar fin ymuno. Mae’n brawf o ansawdd cyson Cig Oen Cymru a’r ffaith fod cynifer o ddefnyddwyr bellach yn gofyn am Gig Oen Cymru wrth ei enw.

“Ein bwriad yw creu clybiau ar draws y DG, fel bod modd cael hyd i dy bwyta sy’n gweini Cig Oen Cymru waeth bynnag lle’r ydych yn y DG.”

Mae manylion pellach am dai bwyta sy’n perthyn i Glwb Cig Oen Cymru, gan gynnwys enwau cigyddion, mapiau lleoliad a dolenni gwefan, ar www.eatwelshlamb.co.uk

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys cyfweliadau â phen-cogyddion blaenllaw ym Mhrydain a Chyfandir Ewrop, fideos yn cynnwys ryseitiau, cyngor am faeth a chystadlaethau.

Gwair!Tyfwch e, porwch e, gwnewch arian ohono fe! Dyna oedd prif negesau prosiect gan HCC i helpu ffermwyr i wneud y gorau o un o’u hadnoddau mwyaf gwerthfawr, sef eu glaswellt. Mae’r prosiect, sy’n cael ei redeg ar y cyd â’r Ganolfan Datblygu Tir Glas, yn ystyried sut gall ffermwyr wyn a gwartheg yng Nghymru wneud eu busnes yn fwy effeithlon trwy reoli eu tir glas yn well.

bVdMae HCC wedi recriwtio cant o ffermydd i gymryd rhan mewn menter gwerth £40,000 i godi ymwybyddiaeth o Ysgothi Firol Gwartheg (BVD) a dileu’r firws gwartheg hwn yn y pen draw. Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan Ganolfan Filfeddygol Ranbarthol Cymru ac yn cael ei ariannu trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru.

byd Cig oen Cymru

Cynrychiolwyd rhai o dai bwyta mwyaf poblogaidd Llundain gan Andre Garrett (Galvin at Windows); Joe Gray (Kenza); Sophie Wright (Awdur bwyd - Easy Peasy); Anthony Demetre (Arbutus, Wild Honey a Les Deux Salons); Francesco Mazzei (L’Anima) a Cyrus Todiwala (Cafe Spice Namaste).

Creodd y pen-cogyddion chwe saig, wedi’u hysbrydoli gan flasau byd-eang, ac wedi eu dyfeisio yn unol â’u meysydd arbenigedd trwy ddefnyddio cynhwysion o Brydain, India, yr Eidal, Ffrainc, gwledydd y Môr Canoldir a Moroco.

Roedd modd i Lundeinwyr brynu Cig Oen Cymru gan y Butcher at Leadenhall Market -

lle coginiwyd y seigiau ychydig cyn cael eu gweini i weithwyr newynog a oedd yn eu gwerthfawrogi’n fawr.

Ymunodd Chamberlain’s a Cheese, sydd hefyd y tu mewn i Farchnad Leadenhall, â’r gweithgareddau trwy ychwanegu seigiau Cig Oen Cymru ar eu bwydlenni a helaethu’r profiad o Fyd Cig Oen Cymru.

Roedd modd i weithwyr o’r Ddinas sgwrsio â ffermwr ifanc o Gymru, Myrddin Davies, a fu’n esbonio sut mae gan ddefaid yng Nghymru ryddid i grwydro a phori lle mynnant mewn porfeydd gwelltog o’r eiliad y cânt eu geni.

bu chwech o brif ben-cogyddion llundain yn cymryd rhan mewn digwyddiad byd Cig oen Cymru, wedi’i drefnu gan HCC, ym marchnad leadenhall yng nghanol ardal ariannol y ddinas.

YTywysogCharles,ynystodlansioClw

bCigOenCymru,ynannerchgwahodd

edigionoddiarygrisiauynClarenceH

ouse.

GwynHowells-‘Rwywrthfymoddfodcyniferodaibwytawediymunoâ’rClwbeisoes.’

Unobrifben-cogyddionLlundain,CyrusTodiwala,yngweinirysáitarbennigyncynnwysCigOenCymruiymwelwyrynunoddigwyddiadaupoblogaiddHCCihybuCigOenCymruyngnghanolDinasLlundain.

P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 8-9 02/09/2011 15:23

Page 6: 2011 hydref - HCC / Meat Promotion Wales · 2019. 6. 12. · hydref 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22. Cynnwys 4 dyfodol hyderus 5 Cynllun hyrddod llwyddiannus

10 Cefn Gwlad Cefn Gwlad 11

laura doddsrheolwraig datblygu’r farchnad HCC

Bellach mae Cig Oen Cymru yn cael ei gydnabod yn frand arweiniol rhyngwladol, ac mae’r statws hwn wedi bod o gymorth wrth ehangu’r farchnad yn Ewrop a thu hwnt o’r naill flwyddyn i’r llall.

Felly, er bod yr ateb yn syml, nid yw cyrraedd y nod bob amser mor rhwydd. Mae cyrraedd mor belled â hyn wedi golygu llawer iawn o waith caled dros flynyddoedd lawer - a bydd rhaid parhau â’r gwaith hwn os ydym i gadw Cig Oen Cymru ar y brig yn y DG a thramor.

Er enghraifft, yn ystod y deuddeng mis diwethaf rydym wedi dechrau meithrin cysylltiadau masnachol â Tsieina, ac mae hynny’n rhywbeth rwy’n awyddus dros ben ei datblygu yn 2012. Rydym yn anelu at fynediad llawn i’r farchnad a manteisio ar y ffaith fod pobl Tsieina yn mwynhau cynhyrchion ‘pumed chwarter’ sy’n golygu

bod ffermwyr a phroseswyr yng Nghymru’n gallu arallgyfeirio a chael gwell enillion o bob anifail.”

Ond nid ar Tsieina yn unig y byddwn ni’n canolbwyntio. Rydym hefyd am geisio gwneud argraff yng Nghanada. Byddwn yn ymweld â’r wlad honno, ar y cyd â’n partneriaid prosesu, yn ystod yr hydref er mwyn cael hyd i gwsmeriaid newydd.

Mae’r cyflenwad wedi bod yn crebachu yn fyd eang, sy’n golygu bod yna nifer o gyfleoedd newydd nad oedd yn bodoli o’r blaen. Mae Canada yn un o’r rhain, ac mae’n farchnad arall lle rydym yn gweithio’n galed i ysgogi galw am Gig Oen Cymru.

Hon yw fy mlwyddyn gyntaf yn HCC, a bûm yn ddigon ffodus i etifeddu brand rhyngwladol cryf dros ben. Yn y DG mae’n un sydd wedi dod yn adnabyddus iawn yn dilyn ein gwaith ymgyrchu helaeth, gan gynnwys

Pan fydd pobl yn gofyn beth yw nod ymgyrch farchnata HCC, mae’r ateb yn syml - cadw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ar y brig ymhlith y cynhyrchion gorau.

hysbysebion, erthyglau nodwedd mewn cylchgronau i ddefnyddwyr a hysbysebion ar-lein. Buom yn eithriadol o lwyddiannus yn Llundain ac yn ne ddwyrain Lloegr, lle mae llawer o’n cig oen yn cael ei fwyta.

Mewn gwirionedd, mae 75 y cant o’n cwsmeriaid yn Llundain a de ddwyrain Lloegr yn ystyried Cig Oen Cymru yn frand y gallan nhw ymddiried ynddo, ac mae hyn yn rhywbeth rwy’n bwriadu adeiladu arno yn y dyfodol.

Fy nod yw gwneud yn siwr fod y cysyniad positif o frand Cig Oen Cymru yn parhau – sy’n dasg anodd pan ystyriwn bris uchel cig oen yn ystod y cyfnod hwn o anawsterau economaidd.

Er mwyn cyflawni hyn, bydd ymgyrch hysbysebu newydd HCC yn adeiladu ar sylfeini treftadaeth y cig a manteision amgylcheddol Cymru wrth ymgynefino pobl fwyfwy â’r brand.

Bydd yr hysbysebion newydd a welir ar y teledu eleni yn dangos cyflymder, hwylustod ac ailddefnydd Cig Oen Cymru. Y nod yw dangos i ddefnyddwyr fod Cig Oen Cymru nid yn unig yn gig ar gyfer achlysuron arbennig, ond ei fod yn ddewis rhagorol ar gyfer prydau ganol wythnos pan fo amser yn brin a dydych chi ddim eisiau amharu ar safon y bwyd.

Bydd hysbysebion Cig Oen Cymru yn ymddangos ar y teledu yn ystod yr hydref, a gwelir hysbysebion Cig Eidion Cymru ychydig cyn y Nadolig.

Hefyd, bydd y tîm marchnata yn anelu at gael gwell enillion o bob carcas sy’n cael ei werthu. Er enghraifft, trwy fanteisio ar flaenoriaethau marchnadoedd gwahanol, gallwn gymell cydbwysedd carcasau a cheisio gwneud yn siwr fod pob cynnyrch yn cael ei werthu lle mae galw amdano. Felly gallem anfon cynhyrchion ‘pumed chwarter’ i Tsieina, wyn ysgafn i weledydd sy’n ffinio â’r Môr Canoldir – megis Sbaen a’r Eidal – a gwerthu

ysgwyddau a choesau ar y farchnad gartref.Fel rhan o’r ymdrechion, bûm yn ymweld

â Tsieina yn gynharach eleni yng nghwmni Comisiynydd Amaeth Ewrop, Dacian Ciolos, a’i dîm am fod ymchwil gan HCC wedi dangos fod gan y wlad boblogaeth sy’n gynyddol gefnog ac sy’n mynnu cynhyrchion o’r ansawdd gorau – ac mae Cig Oen Cymru yn un o’r rheini.

Byddwn hefyd yn gwneud ein gorau i adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ein prif farchnadoedd allforio. Mae’r rhain yn cynnwys Ffrainc – lle rydym yn dal i anfon tua 70 y cant o’n hallforion cig oen – yr Eidal, yr Almaen, Gwlad Belg a nawr Sbaen. Yn dilyn ymweliad marchnata yn gynharach eleni â Madrid a Valencia, rydym yn ceisio manteisio ar y diddordeb a ddangoswyd a chreu cyfleoedd newydd i allforio Cig Oen Cymru i Sbaen.

Mae Cig Oen Cymru wedi cyrraedd Dubai lle mae’r prif fân-werthwr, Spinneys, yn cadw’r cig a lle mae yna ddosbarthu dewisol i’r gwestai a thai bwyta gorau drwy gydol y flwyddyn.

Yn Hong Kong a Singapôr, mae mwy a mwy o gig oen yn cael ei fewnforio, diolch i

ymdrechion HCC mewn sioeau masnach.Mae’r sioeau hyn yn rhan hollbwysig

o weithgareddau HCC i hybu’r cig gartref a thramor. Yn ystod y deuddeg mis nesaf bydd brandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, ynghyd â rhanddeiliaid o Gymru, yn bresennol mewn sioeau masnach megis Anuga yn Cologne yn yr hydref ac Alimentaria yn Barcelona yn ystod y gwanwyn nesaf. Byddwn yn bresennol lle bynnag y credwn y gallwn wneud y defnydd gorau o adnoddau gael yr enillion gorau posibl i gynhyrchwyr a rhanddeiliaid eraill.

Yn ystod y deuddeng mis diwethaf, mae Cig Eidion Cymru wedi dal ei dir, ond mae cig oen wedi colli peth tir o ran cyfaint. Y rheswm pennaf am hyn yw bod llai o gyflenwad ar gael, yn hytrach nag oherwydd y prisiau uchel. Fel rhywun sy’n marchnata, fodd bynnag, fy nod yw gwneud yn siwr fod y diwydiant cig coch yng Nghymru yn cael yr enillion gorau posibl, waeth faint o gyflenwad sydd ar gael.

Am fod carcasau’n mynd yn drymach ac am ein bod yn ceisio defnyddio mwy o’r carcas, dydy’r enillion i ffermwyr ddim wedi gostwng cymaint yn ganrannol ag yw canran y gwerthiannau.

Mae HCC yn dal i hybu defnydd trwy gynnal arddangosiadau coginio a chymell mwy o dai bwyta ac arlwywyr i ddefnyddio ein cynhyrchion. Er enghraifft, mae Clwb Cig Oen Cymru yn gwneud yn dda.

Cafodd ei lansio gan Dywysog Cymru yn Clarence House a’i fwriad yw cymell pen-cogyddion i ddefnyddio Cig Oen Cymru a nodi’r ffaith ar eu bwydlenni. Eisoes mae 50 o ben-cogyddion wedi ymuno, gan gynnwys rhai â Sêr Michelin, a gobeithiwn y bydd dros 80 wedi cofrestru yn Llundain a de ddwyrain Lloegr yn unig erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae hyn yn rhan o’n hymgyrch i roi gwybod i’r defnyddiwr lle mae modd prynu Cig Oen Cymru o ansawdd a sut i’w baratoi a’i goginio. Ar ein gwefan newydd – www.eatwelshlamb.co.uk – mae yna wasanaeth cymorth cynhwysfawr i’r defnyddiwr sy’n cynnig amrediad eang o dros 150 o ryseitiau. Hefyd, mae ganddo leoliadau tai bwyta a mân-werthwyr a newyddion bywiog a gwybodaeth am ddigwyddiadau.

HCC yn llundain ar dydd Gwyl dewiRoedd HCC yn Llundain ar Ddydd Gwyl Dewi, yn coginio ryseitiau Cig Oen Cymru blasus ac yn dosbarthu samplau i Lundeinwyr yng nghanol Oxford Street.

ffeithiau am gig gochCafodd mwy na 200 o weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gweithio mewn practisau meddygon teulu ledled Cymru a De-Orllewin Lloegr gyfres o bedwar llyfryn gwybodaeth yn rhoi’r ffeithiau am gig coch a phrotein, maetholion, haearn a braster gan dîm defnyddwyr HCC yn nigwyddiad Nursing in Practice yng Nghaerdydd Mae modd lawrlwytho’r llyfrynnau o wefan HCC: http://www.hccmpw.org.uk/publications/education_and_health/health_and_diet/

nol i’r ysgol!Bu dros 300 o ddisgyblion Blwyddyn 10 mewn digwyddiad deuddydd gan Goleg y Drindod yng Nghaerfyrddin i hyrwyddo diet cytbwys iach lle cawsant gyfle i flasu seigiau blasus yn seiliedig ar ryseitiau yn cynnwys cigoedd oen, eidion a phorc o Gymru wedi’u coginio gan Swyddog Defnyddwyr HCC, Elwen Roberts (llun: dde). Hefyd, bu Elwen yn cynnig awgrymiadau defnyddiol ynglyn â choginio i gannoedd o fyfyrwyr a fu’n ymweld â’r sioe Meddwl, Corff ac Enaid yn ystod menter ‘Campws Iach Prifysgol Cymru, Casnewydd a gynhaliwyd i gymell myfyrwyr i fyw’n iachach.

Roedd y digwyddiadau’n rhan o raglen dreigl o ymweliadau ysgol a choleg sy’n hyrwyddo’r neges am fanteision maethol Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru a’u rhan mewn bwyd cytbwys i filoedd o bobl ifanc bob blwyddyn.

Cafwyd cynnydd pellach o £5 miliwn yng ngwerth Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn 2010.

Cynyddodd gwerth yr allforion i ychydig dros £147 miliwn.

Roedd gwerth Cig Oen Cymru yn £111 miliwn, sef £1 miliwn yn fwy.

Cynyddodd gwerth Cig Eidion Cymru £4.4 miliwn mewn blwyddyn i dros £35 miliwn.

Ffrainc oedd y cwsmer rhyngwladol pwysicaf o hyd, gan fewnforio dros 21,000 tunnell fetrig o Gig Oen Cymru gwerth £78 miliwn.

Y prif fewnforwyr eraill oedd Gwlad Belg, yr Eidal, yr Almaen, Portiwgal a Sbaen, a fewnforiodd werth dros £1 miliwn am y tro cyntaf.

Y cynnydd canrannol mwyaf? Singapôr, lle cafwyd cynnydd o dros 80 y cant ym mewnforion Cig Oen Cymru.

Yr Iseldiroedd unwaith eto oedd prif fewnforiwr cig eidion o Gymru; roedd marchnad yr Iseldiroedd yn werth £10.6 miliwn y llynedd.

Y prif fewnforwyr eraill ar gyfer Cig Eidion Cymru oedd yr Eidal, Ffrainc, Gwlad Belg a’r Almaen; cafwyd cynnydd yng nghyfaint y cig eidion a allforiwyd i’r holl wledydd hyn y llynedd.

sydynffeitHiau

RheolwraigDatblygu’rFarchnadHCC,L

auraDodds.

P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 10-11 02/09/2011 15:23

Page 7: 2011 hydref - HCC / Meat Promotion Wales · 2019. 6. 12. · hydref 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22. Cynnwys 4 dyfodol hyderus 5 Cynllun hyrddod llwyddiannus

€4m i hybu marchnata

12 Cefn Gwlad

Gwerthu’r brand

“Mae’r ymgyrch ar-lein yn ddatblygiad newydd cyffrous, a chredwn y bydd yn dylanwadu ar y bobl hynny sy’n dewis cael eu gwybodaeth trwy gyfrwng gwefannau yn hytrach nag oddi wrth y cyfryngau traddodiadol,” meddai Rheolwraig Marchnata HCC, Laura Dodds.

“Fel rhan o’r strategaeth hon cafodd ein gwefan - www.eatwelshlamb.co.uk - fuddsoddiad sylweddol a golwg ffres a chyfoes. Ymhlith atyniadau eraill, mae’n cynnwys arweiniad i ryseitiau ar ffurf fideo a chyfweliadau â phen-cogyddion amlwg sy’n esbonio pam maen nhw’n dewis Cig Oen Cymru yn hytrach nag unrhyw frand arall.

Yn ogystal, bydd yna hysbysebion tudalen-gyfan mewn nifer o’r cylchgronau cenedlaethol pwysicaf i ddefnyddwyr.

“Mae ein holl hysbysebion yn pwysleisio blas rhagorol Cig Oen Cymru ynghyd â’i darddiad hysbys a’r amgylchedd lle caiff yr wyn eu magu, sydd mor bwysig i ddefnyddwyr gartref a thramor,” meddai Laura.

Mae ymgyrchoedd hysbysebu HCC yn y gorffennol wedi bod yn llwyddiannus dros ben, gan wneud pobl yn fwy ymwybodol o frand Cig Oen Cymru a helpu i’w wneud yn un o’r brandiau mwyaf poblogaidd yn y byd.

Bydd ymgyrch hysbysebu ddiweddaraf Hybu Cig Cymru i’w gweld ar y teledu yn y DG yr hydref hwn a bydd ymgyrch hysbysebu ar-lein yn cyd-fynd a hi, wedi’i hanelu at y nifer gynyddol o ddefnyddwyr sy’n troi at y we am newyddion a gwybodaeth.

Canllaw’r defnyddiwr i Gig Coch

Er enghraifft, nid oedd 17 y cant yn gwybod fod stêcs coes oddi ar yr asgwrn yn dod o goes yr anifail, ac roedd 16 y cant heb wybod fod darn o ysgwydd cig oen yn dod o’r ysgwydd. Bu’r arolwg yn help i hyrwyddo llyfryn canllaw i ddefnyddwyr a sydd yn cynnwys yr holl atebion i’r siopwyr sydd mewn penbleth.

“Mae’n amlwg fod rhaid addysgu cannoedd o siopwyr yng Nghymru,” meddai Cadeirydd HCC, Dai Davies. “Mae cenhedlaeth gyfan wedi tyfu ar fwyd cyflym neu brydau parod sy’n dod mewn bocs o’r archfarchnad leol. Fel canlyniad, mae yna ormod o lawer o bobl heb allu adnabod un darn o gig oddi wrth y llall - sy’n golygu fod llawer o oedolion yn ansicr ynglyn â pha doriadau o gig i’w prynu ar gyfer prydau, a sut i’w coginio.

“Does dim rhaid iddyn nhw anobeithio - mae HCC wedi cynhyrchu Canllaw’r Defnyddiwr i Gig Coch, sef llyfryn sglein deniadol sy’n rhoi esboniad llawn o doriadau cig yn ogystal â chyngor ynglyn â maeth a sut i storio a choginio cig yn ddiogel.”

“Mae’r holl wybodaeth hon, ynghyd â ryseitiau fideo, ar gael hefyd ar wefan HCC i’r defnyddwyr, www.eatwelshlamb.co.uk

Dangosodd arolwg HCC, a wnaed yng nghanolfannau siopa Caerdydd, Abertawe a Chwmbran, fod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod sut i goginio stecs ac yn gwybod o ba ran o’r anifail y daw cig eidion ochr orau’r rownd, ond roedd canlyniadau eraill yn fwy o syndod.

Cyhoeddwyd manylion

yn sioe frenhinol Cymru

eleni am brosiect

gwerth miliynau o

bunnau i hybu Cig oen

Cymru fwyfwy yn ewrop.

Bydd HCC yn gwario E4 miliwn - dros £3.5 miliwn – mewn pedair marchnad Ewropeaidd bwysig dros y tair blynedd nesaf i hyrwyddo rhinweddau unigryw Cig Oen Cymru, sef rhinweddau a fu’n gyfrifol am gyflwyno statws PGI i’r cig.

Bydd HCC yn cyfrannu hanner yr arian i’r prosiect, a daw’r gweddill o gronfa’r Undeb Ewropeaidd i hyrwyddo cynhyrchion amaethyddol.

Dywedodd Cadeirydd HCC, Dai Davies: “Mae hyn yn newyddion rhagorol. Ni all y gwaith hyrwyddo ychwanegol y gallwn ei wneud nawr ar ran Cig Oen Cymru PGI ond dod â manteision i ffermwyr a phroseswyr yma yng Nghymru .

“Trwy greu ymwybyddiaeth ychwanegol o Gig Oen Cymru PGI ymhlith mân-werthwyr a defnyddwyr, gobeithio y bydd galw ychwanegol yn cael ei greu a bydd hyn yn hybu cyfleoedd busnes i gwmnïau prosesu yng Nghymru.”

Dywedodd Laura Dodds, Rheolwraig Datblygu’r Farchnad yn HCC: “Rwy wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i gael yr arian hwn gan yr UE. Bydd hyn yn cyfnerthu ein hymdrechion i hyrwyddo’r rhinweddau sydd wedi peri i Gig Oen Cymru ennill statws gwerthfawr PGI ymhlith miliynau o ddefnyddwyr ar draws Ewrop.”

Dywedodd Gwilym Jones, aelod o gabinet Gweinidog Amaeth Ewrop, Dacian Ciolos: “Rwy’n falch dros ben o allu cadarnhau y bydd bron E4 miliwn o arian yr UE yn cael ei wario ar hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI dros y tair blynedd nesaf. Mae’n gyfle gwych i hyrwyddo cynnyrch gwych, gartref yn y DG ac yn y prif

farchnadoedd Ewropeaidd.”Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros

Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies: “Mae hyn yn newyddion rhagorol i ffermwyr defaid yng Nghymru.

“Ers amser hir cafodd Cig Oen Cymru ei ystyried y cig gorau o’i fath yn y byd ac rwy wrth fy modd y bydd yr arian o’r UE yn helpu Hybu Cig Cymru i ddangos i weddill Ewrop pa mor dda yw Cig Oen Cymru.

“Mae bwyd hefyd yn ffordd ragorol o werthu gwlad i dwristiaid. Felly, bydd masnachu â marchnadoedd tramor nid yn unig o fantais i ffermwyr a phroseswyr, ond gobeithio y bydd hefyd yn cymell pobl i ymweld â Chymru i flasu’r cynnyrch rhagorol sydd gennym i’w gynnig.”

Bydd HCC yn gwario E3,948,000 – sy’n gyfwerth yn ôl y cyfraddau cyfnewid ar hyn o bryd i £3,532,000 – dros y tair blynedd nesaf i hyrwyddo Cig Oen Cymru yn Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen a’r DG.

Caiff y gyllideb ei defnyddio i farchnata Cig Oen Cymru i ddefnyddwyr trwy hysbysebion print a digidol, sefydlu micro-wefannau unigol, deunydd pwynt talu mewn siopau a chardiau ryseitiau. Ochr yn ochr â hyn, bydd yna

ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus yn y pedair gwlad.

Ar yr ochr fasnachu, bydd yr arian yn caniatáu i HCC fynychu sioeau busnes rhyngwladol ac yn helpu i dalu am deithiau masnach gan fân-werthwyr Ewropeaidd i Gymru.

“Y rheswm pam y cafodd y gwledydd hyn eu dewis yn benodol ar gyfer yr ymgyrch farchnata hon yw am fod rhwydwaith yno’n barod i ddosbarthu Cig Oen Cymru ac mae hyn yn gyfle i ni feithrin ein masnach bresennol,” meddai Miss Dodds.

“Er bod cig oen wedi hen ennill ei blwyf yn Ffrainc a’r Eidal ac yn naturiol yn y DG, mae’r Almaen yn farchnad sy’n datblygu. Rydym wedi helpu i sefydlu rhwydwaith dosbarthu ar gyfer y sector gwasanaeth bwyd yn y wlad honno. Y cam nesaf fydd helaethu’r gadwyn gyflenwi honno fwyfwy yn y sector manwerthu.”

Rhan allweddol o’r ymgyrch farchnata fydd rhoi pwyslais ychwanegol ar fanteision PGI.

“Mae ymchwil wedi dangos fod defnyddwyr yn yr Eidal yn fwy ymwybodol na neb o’r hyn y mae PGI yn ei olygu. Yna daw Ffrainc, y DG a’r Almaen,” meddai Miss Dodds.

“Ein nod yw gwella’r sefyllfa trwy farchnata Cig Oen Cymru PGI yn ddwys ym mhob un o’r pedair gwlad yn ystod y pedair blynedd nesaf, a gwella gwybodaeth defnyddwyr am y manteision o ddewis Cig Oen Cymru PGI.”

“ Bydd bron E4 miliwn o arian yr UE yn cael ei wario ar hyrwyddo Cig Oen Cymru PGI dros y tair blynedd nesaf.”

Cefn Gwlad 13

teithio’r bydBu modd i Rob Cumine o Sir Benfro a William Evans o Fachynlleth astudio technegau amaethyddol penodol yn Awstralia a De America ar ôl ennill dwy ysgoloriaeth gwerth £3,500 yr un gan HCC. Mae Rob, 34 oed o Dyddewi, yn gyfarwyddwr gwasanaeth cynghori a sefydlwyd ganddo ar gyfer ffermwyr, ac mae William, 34 oed, yn ffermwr cig eidion ym Machynlleth.

Mae ysgoloriaethau tebyg ar gael ar gyfer 2012, ac mae’r ffurflenni cais ar gael gan HCC.

DirprwyWeinidogLlywodraethCymru,AlunDavies;cynrychiolyddyComisiw

nEwropeaidd,GwilymJones;aChadeirydd

HCC,DaiDaviesynystodlansio’rprosiectEwropeaiddgwerthE4miliwn.

P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 12-13 02/09/2011 15:24

Page 8: 2011 hydref - HCC / Meat Promotion Wales · 2019. 6. 12. · hydref 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22. Cynnwys 4 dyfodol hyderus 5 Cynllun hyrddod llwyddiannus

Cefn Gwlad 15

Pynciau llosgChwiliwch am ‘Pynciau Llosg’, sef gwasanaeth unigryw ac arbenigol HCC ar ein gwefan – www.hccmpw.org.uk – sy’n trafod materion sy’n effeithio ar ffermwyr a ffermio drwy gydol y flwyddyn.

Mae erthyglau ar gael i’w lawrlwytho am ddim oddi ar wefan HCC. Mae’r rhain yn cynnig atebion ymarferol i broblemau’n ymwneud â hwsmonaeth cig eidion a defaid a rheoli tir y bydd ffermwyr yn eu hwynebu ar adegau gwahanol o’r flwyddyn.

Canada

tsieina

sydynffeitHiau

Bu cyflenwad tynnach, ynghyd â hyder cynyddol yn y diwydiant defaid yng Nghymru, yn help i roi hwb i’r prisiau i ffermwyr yn 2010.

Dangosodd ystadegau a gyhoeddwyd gan Defra fod ychydig dros 3.5 miliwn o ddefaid wedi’u lladd yng Nghymru’r llynedd, mewn cymhariaeth â 3.7 miliwn yn 2009 (yn y DG: 12.2 miliwn, sef gostyngiad o bron filiwn o’r naill flwyddyn i’r llall).

Cynhyrchwyd dros 2,000 tunnell fetrig yn llai o gig defaid yng Nghymru’r llynedd.

Ar hyn o bryd, mae yna 4.1 miliwn o famogiaid bridio yng Nghymru.

Roedd y pris wythnosol cyfartalog am gig oen y llynedd yn 10 y cant yn uwch nag yn 2009 fel canlyniad i gyflenwad tynn a marchnad allforio gref.

“Mewn sawl achos mae yna ddrws agored i ni o ran cyfleoedd allforio newydd,” meddai Cadeirydd HCC, Dai Davies. “Mae Cig Oen Cymru’n haeddu’r enw da sydd ganddo fel cynnyrch o’r ansawdd gorau, ac o’r herwydd mae galw mawr amdano mewn nifer gynyddol o wledydd.

“Mae ein hymchwil marchnata wedi dangos y gallai Canada fod yn farchnad newydd ar gyfer Cig Oen Cymru. Felly, ein dyletswydd ni ar cwmnïau prosesu sy’n bartneriaid i ni yw gweithio gyda’n gilydd nawr i wireddu’r freuddwyd hon.”

Yn gynharach eleni gofynnodd HCC i’r awdurdodau yng Nghanada roi’r hawl i unedau prosesu cig yng Nghymru i allforio Cig Oen Cymru i Ganada. Fel canlyniad, mae tystysgrifau iechyd allforio ar gyfer Cig Oen Cymru ar gael erbyn hyn i’r holl gwmnïau a wnaeth gais.

“Mae cig oen yn mynd yn fwyfwy poblogaidd yng Nghanada yn lle cigoedd coch eraill, yn enwedig ymhlith pobl sydd wedi ymfudo o Dde Asia, Affrica a’r Dwyrain Canol,” meddai Rheolwraig Datblygu’r Farchnad yn HCC, Laura Dodds. “Yn ogystal, rhaid ystyried y trigolion sydd wedi byw yng Nghanada gydol eu hoes ac sydd yn draddodiadol yn mwynhau cig oen. Ynghyd â’r newydd-ddyfodiaid, maen nhw wedi helpu i greu galw cynyddol.”

Ar hyn o bryd mae’r farchnad yng Nghanada’n dibynnu ar fewnforion cig oen o Seland Newydd, Awstralia ac UDA. Ond mae’r galw cynyddol am gig oen ledled y byd yn golygu bod Canada yn ei chael ei hun heb ddigon o gig oen gan ei chyflenwyr presennol. Felly, mae yna gyfle i broseswyr Cymru lenwi’r bwlch.

Costau cynhyrchuMae mwy o ffermwyr defaid yng Nghymru yn ennill digon i dalu am eu costau cynhyrchu, yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gan HCC.

Mae enillion wedi gwella hefyd, ac er bod hyn hyn wedi arwain at well sefyllfa ariannol i’r ffermwr cyffredin yng Nghymru, fe gafwyd cynnydd sylweddol mewn costau yn ogystal. Wrth ystyried ffermydd mynydd, tir uchel a thir isel gyda’i gilydd, mae’r fferm gyfartalog yng Nghymru bellach yn adennill 101 y cant o’i chostau.

Gwnaed yr ymchwil gan HCC trwy gyfrwng arian a gafwyd trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13. I gael cyfrifiannell costau, ewch i: http://www.hccmpw.org.uk/farming_and_industry_development/Online_Benchmarking/lamb_production_cost_calculator.aspx

“Mae Cig Oen Cymru yn gynnyrch o safon fyd-eang Ac rydym eisiau i bobl Tsieina gael cyfle i’w ddarganfod,” ychwanegodd Mr Jones. “Gwyddom fod yna alw am Gig Oen Cymru ar draws y byd ac oddi ar 2008 rydym wedi bod yn allforio’n llwyddiannus i Hong Kong. Nawr rydym eisiau adeiladu ar hyn a symud yn nes at y posibilrwydd o allforio Cig Oen Cymru i farchnad a allai fod yn enfawr yn Tsieina.”

Arweiniwyd y ddirprwyaeth o Tsieina gan Mr Xiang Yuzhang, Prif Archwiliwr Goruchwylio Ansawdd, Archwilio a Chwarantin, a oedd wedi hedfan o Beijing yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

Ym mis Mawrth, rhoddwyd hwb i’r ymgyrch pan aeth Rheolwraig Datblygu’r Farchnad, Laura Dodds, i Tsieina yn rhan o ddirprwyaeth o’r Gymuned Ewropeaidd. “Bydd agor y farchnad yn Tsieina ar gyfer cynhyrchion o Gymru yn ychwanegu gwerth ac yn hybu incwm ffermwyr a phroseswyr,” meddai. Bwriad Laura yw dwysau’r ymgyrch yn ystod y deuddeng mis nesaf, ac mae’n ffyddiog y bydd yna lwyddiannau pellach.

Dywedodd Prif Weithredwr HCC, Gwyn Howells, fod ymchwil marchnata gan HCC wedi dangos fod yna alw mawr am Gig Oen Cymru yn Tsieina, yn enwedig ar gyfer pob math o offal defaid.

Roedd awduron yr adroddiad wedi gofyn i sawl mewnforiwr o Tsieina am eu sylwadau pe bai eu llywodraeth yn caniatáu mewnforio cynhyrchion cig oen o Gymru. “Dywedodd un cwmni y byddai’n hoffi mewnforio offal wyn o wledydd tramor oherwydd roedd yn ffyddiog y byddai modd gwerthu’r cyfan ar y farchnad Tsieineaidd am fod mwy o alw na chyflenwad,” meddai Mr Howells.

Dywedodd fod yr adroddiad hefyd yn nodi marchnad fawr ar gyfer crwyn defaid, yn enwedig yn Nhalaith Henan lle mae oddeutu 90 y cant o’r busnes crwyn anifeiliaid yn Tsieina. “Ein tasg ni nawr yw ceisio agor y farchnad ar dir mawr Tsieina i’n cynhyrchwyr a hybu incwm ffermwyr ac allforwyr yng Nghymru,” meddai Mr Howells.

bu Prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn helpu’r ymgyrch i werthu Cig oen Cymru yn tsieina pan gyfarfu a dirprwyaeth bwysig o’r diwydiant a oedd yn ymweld a Chymru.

PrifWeinidogCymru,CarwynJones,aMrXiangYuzhang,PrifArchwiliwrGoruc

hwylio

Ansawdd,ArchwilioaChwarantinLlywodraethTsieina,ynswyddfa’rPrifWein

idogymMae

CaerdyddystodtrafodaethauynglynâchaniatáuallforioCigOenCymruiTsi

eina.

14 Cefn Gwlad

P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 14-15 02/09/2011 15:24

Page 9: 2011 hydref - HCC / Meat Promotion Wales · 2019. 6. 12. · hydref 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22. Cynnwys 4 dyfodol hyderus 5 Cynllun hyrddod llwyddiannus

Mae’r Prosiect Hyrddod Elit wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus ers ei lansio ym mis Gorffennaf 2010 ac mae arwyddion fod diddordeb tebyg yn cael ei fynegi yn y prosiect yn 2011.

Nod y Prosiect yw rhoi dealltwriaeth i ffermwyr yng Nghymru ynglyn â sut i ddewis hyrddod ar sail perfformiad. Trwy ddewis fel hyn a defnyddio’r eneteg orau sydd ar gael, mae modd gwella perfformiad a phroffidioldeb y ddiadell yn sylweddol.

Mae’n cael ei gydnabod yn gyffredinol taw dewis anifeiliaid magu â ffigurau perfformiad uchel yw’r un ffordd fwyaf effeithiol o wneud cynhyrchu da byw yn fwy proffidiol ac effeithlon. Yn y bôn, er mwyn cyflawni hyn rhaid nodi’r anifeiliaid sy’n perfformio orau ar sail cynnydd pwysau, cydffurfiad a nodweddion mamol.

Erbyn haf 2011, roedd y Prosiect wedi cynorthwyo ffermwyr i brynu 500 o hyrddod a oedd yn werth hyd at £400 yr un. Bydd y cynllun yn gallu cyfrannu at brynu 1,000 o hyrddod i gyd.

Mae rhaglen gwelliant genetig HCC hefyd yn darparu cyllid i ffermwyr ar gyfer cofnodi perfformiad, gwella geneteg drwy semenu artiffisial a throsglwyddo embryonau, gwaith marciwr genetig, a chyfrif wyau ysgarthol ar gyfer ymwrthedd i lyngyr.

Mae’r effaith y gall gwelliant genetig ei gael i leihau allyriadau methan wrth gynhyrchu cig oen yng Nghymru hefyd yn cael ei archwilio mewn prosiect newydd.

Mae lleihau allyriadau methan heb amharu ar gynnyrch yn her fawr i’r diwydiant. Ochr yn ochr â’r prosiect hwn, mae HCC wedi datblygu ‘map ffyrdd amgylcheddol’ sy’n ceisio helpu’r diwydiant cig coch i ddiogelu’r amgylchedd yng Nghymru ac i ddatblygu dulliau ffermio cynaliadwy fwyfwy.

Lansiwyd ‘Dyfodol Cynaliadwy – Map Ffyrdd Cig Coch Cymru’ gan HCC ym mis Gorffennaf 2011.

Mae gan Raglen Ymchwil a Datblygu HCC bortffolio hunangynhwysol ar gyfer prosiectau parhaus ac ar hyn o bryd mae sawl prosiect ar y gweill• AstudiaethLleihäwrBiolegol,sy’nceisiodarparufforddddiogelo

gadw anifeiliaid trig ar y fferm;• MesurymwrtheddparasitllyngyryriauidriniaethauTCBZ.• ProsiectProBeef,sy’nceisiogwellagwerthmaetholcigeidioni’r

cwsmer;• Padiaunaddionprenigadwdabywynyrawyragoreddrosy

gaeaf trwy ddulliau cynaliadwy;• Prosiectglaswelltargyferporfwydigymelltirglascynaliadwy,a;• Lleihaugwastraffynygadwyngyflenwiaphrofionialluogioes

silff ddiogel ac estynedig i gynhyrchion cig ffres mewn pecynnau gwactod.

Caiff partneriaid â’r arbenigedd cywir eu recriwtio o ledled y DG er mwyn sbarduno’r chwilio am atebion er budd y gadwyn gyflenwi.

Yn ogystal â’r prosiectau hyn, mae HCC wedi hwyluso prosiectau â chyllid ar wahân i dargedu triniaethau lladd llyngyr, gwella ansawdd silwair, defnyddio meillion i wella ansawdd tir glas a defnyddio da byw â chofnodion perfformiad i wella ansawdd carcasau a phesgi anifeiliaid yn gynt.

Rhwng popeth, mae tîm Datblygu’r Diwydiant yn HCC wedi darparu amryw o brosiectau gwerthfawr. Daw’r arian i dalu am y prosiectau uchod naill ai o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13 neu o’r ardoll.

Mae’r tîm Datblygu’r Diwydiant yn bodoli i wella ansawdd, cynyddu cost effeithiolrwydd ac ychwanegu gwerth at gynhyrchion cig coch ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan yng Nghymru.

Mae yna bedair elfen i weithgareddau Hybu Cig Cymru i Ddatblygu’r Diwydiant:• TrosglwyddoTechnoleg–prosiectauâ’rnodoleihaucost

cynhyrchu’r uned bod yn fwy effeithlon ledled y gadwyn cyflenwi cig coch;• Gwellaiechydageneteg;• Ymchwil,DatblyguaHyfforddiant;• Trosglwyddo’rdiweddarafynglynâthechnegauffermioa

phrisiau’r farchnad.Gweledigaeth Cynllun Gweithredu Strategol Cig Coch Cymru yw

sicrhau diwydiant cig coch yng Nghymru sy’n broffidiol, effeithlon, cynaliadwy ac arloesol ac sy’n ymateb yn gystadleuol i dueddiadau newidiol y farchnad ac sydd o fudd i bobl Cymru. Mae’r adolygiad monitro blynyddol cyntaf yn dangos fod y gwaith ar y rhan fwyaf o ffermydd naill ai wedi ei gwblhau neu’n mynd rhagddo’n dda.

Mae HCC, trwy Raglen Ddatblygu Defaid ac Eidion Cyswllt Ffermio, wedi cefnogi rhwydwaith o ddeg o ffermydd arddangos a grwpiau trafod ar draws Cymru.

16 Cefn Gwlad Cefn Gwlad 17

500 o ffermwyr ar daithBu dros 500 o ffermwyr o Gymru ar 22 o deithiau ymchwil mewn saith gwlad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn dysgu a chael syniadau ynglyn â gwella’r sectorau cig eidion a chig oen yng Nghymru. Mae HCC yn darparu cymorth ariannol o 50 y cant, hyd at uchafswm o £200 y person, i’r sawl sydd am fynd ar daith ymchwil. Mae’r arian yn cael ei ddarparu gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13 a bydd ar gael drwy gydol 2011 ac eto yn 2012.

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn arian, rhaid i deithiau ymchwil ganolbwyntio ar wella bridiau; iechyd a lles anifeiliaid; maeth; ansawdd a diogelwch cynnyrch; olrheinedd; gwella sefyllfa cynhyrchwyr cig oen a chig eidion yng Nghymru yn gymdeithasol ac economaidd; neu faterion yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd/ yr amgylchedd.

Ewch i wefan HCC - www.hccmpw.org.uk – i gael rhagor o fanylion.

Cymorth i reolwyr tir glasMae’r ‘2011 Recommended Grass and Clover Lists’ yn ystyried cryfderau a gwendidau ac mae’n gymorth i reolwyr tir glas wneud porthiant yn fwy effeithlon a gwneud mwy o elw. Mae modd lawrlwytho’r cynnwys o wefan HCC yn y cyfeiriad a ganlyn: http://www.hccmpw.org.uk/medialibrary/publications/RGCL%20brochure%202010%20for%20web.pdf

Gwneud fe’n iawnDangosodd adroddiad fod nifer gynyddol o ffermwyr yn llwyddo i ddiwallu rhagofynion y farchnad; cafwyd carcasau trymach yn 2009 ac roedd dros hanner y carcasau cig eidion ym Mhrydain yn diwallu gofynion y farchnad ar gyfer cydffurfiad a dosbarth braster.

Mae HCC wedi lansio arweiniad ar-lein newydd i gynorthwyo ynglyn â hyn: http://www.hccmpw.org.uk/marketprices/carcaseclassification-beef.aspx

diogelwch bwydDiogelwch cyflenwadau bwyd y genedl yn y dyfodol oedd un o bynciau allweddol Cynhadledd Flynyddol HCC.

Y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones AC, oedd y prif siaradwr. Cafwyd anerchiadau hefyd gan yr arbenigwr ar ddiogelwch bwyd, yr Athro Patrick Wall; Ysgolor HCC 2009, Eurion Thomas; Rheolwraig Datblygu’r Farchnad yn HCC, Laura Dodds; a chyn-ffermwr arddangos HCC, Neil Perkins yn y gynhadledd ym Mhafiliwn Cenedlaethol Cymru, Pontrhydfendigaid, Ceredigion ar 11 Tachwedd.

Mae’r rhwydwaith o ffermydd a ddatblygwyd gan HCC yn cynrychioli amrywiaeth o sectorau ac wedi chwarae rhan bwysig yn arddangos a hyrwyddo egwyddorion datblygu busnes, diogelu’r amgylchedd a chanolbwyntio ar y farchnad wrth ddefnyddio dulliau arloesol i ymgysylltu.

Mae llawer o ffermydd arddangos, yn awr ac yn y gorffennol, trwy newid eu dulliau rheoli a chyflwyno technoleg newydd, wedi cael llwyddiant sylweddol o ran gwella maintioli’r elw gros a chynaladwyedd.

Mae llawer o ffermwyr sydd wedi ymwneud â’r grwpiau trafod wedi elwa’n sylweddol – ac yn wir mae nifer o grwpiau wedi parhau i gyfarfod ar ôl i gyfnod y fferm arddangos ddod i ben.

Ymhlith y cyflawniadau pwysig eraill yn ystod y deuddeng mis diwethaf, mae helpu ffermwyr i ddefnyddio glaswellt yn fwy effeithlon trwy gyfrwng prosiect G4ce, a ddarparwyd drwy’r Rhaglen Datblygu Cig Coch ar ran Cyswllt Ffermio; a chymryd dros 500 o ffermwyr ar deithiau ymchwil i leoliadau ar draws Ewrop â chyllid gan y Cynllun Datblygu Gwledig.

Mae Ysgoloriaeth Da Byw HCC, a enillwyd yn 2010 gan Rob Cumine a Will Evans, yn cael ei dyfarnu bob blwyddyn i ymgeiswyr cymwys o’r diwydiant. Bydd cyfle i wneud cais ar gyfer Ysgoloriaeth y flwyddyn nesaf ddechrau’r haf 2012.

Hefyd, mae HCC yn cynnal nifer o gyrsiau hyfforddi ar draws Cymru bob blwyddyn. Un o’r cyrsiau yw ‘Dewis ar gyfer Lladd’ sy’n trosglwyddo’r wybodaeth ddiweddaraf ac yn pwysleisio pwysigrwydd archwilio’r anifeiliaid

yn fyw cyn eu lladd a’u gweld wedyn ar ôl eu lladd yn y lladd-dy.

Mae hyn yn rhoi adborth hollbwysig i’r ffermwyr ac yn eu galluogi i uwchraddio eu sgiliau graddio yn unol â gofynion cyfredol y farchnad.

Cafodd DVD newydd – ‘Digon Da i’w Fwyta, Paratoi Da Byw ar gyfer y Farchnad’ – ei lansio yn Sioe Frenhinol Cymru 2011. Mae’r DVD, a ddatblygwyd gan HCC a’i ariannu o dan y Cynllun Datblygu Gwledig, yn pwysleisio pwysigrwydd cyflwyno da byw sy’n ateb gofynion y farchnad, yn lleihau’r risg i ddiogelwch bwyd ac yn cael eu cynhyrchu yn unol â safonau gorau iechyd a lles anifeiliaid.

Un o brif amcanion HCC yw gwella iechyd y ddiadell ddefaid a’r fuches wartheg yng Nghymru. Mae HCC yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant i ffermwyr ynglyn â thrin ac atal clefydau anifeiliaid.

Yn ystod y deuddeng mis diwethaf, mae HCC hefyd wedi datblygu a chyhoeddi Cynllun Gweithredu Parasitoleg a fydd yn cael ei roi ar waith gennym yn ystod y flwyddyn sy’n dod er mwyn helpu cynhyrchwyr cig eidion a defaid sy’n dymuno atal a mynd i’r afael â phroblemau parasitoleg yn eu diadelloedd a buchesi.

Mae HCC wedi cynorthwyo dros 20 o ladd-dai a phroseswyr bach a chanolig eu maint yng Nghymru yn ystod y deuddeng mis diwethaf er mwyn diweddaru gweithdrefnau a systemau yn y canolfannau a darparu hyfforddiant pan fo’i angen.

Fel rhan o’r prosiect hwn, sy’n cael ei ariannu’n llawn o dan y Cynllun Datblygu

Gwledig, bydd Canolfannau Cig yn derbyn hyd at 14 diwrnod o hyfforddiant ac ymgynghoriaeth un-i-un ar gyfer gweithredu Gweithdrefnau Rheoli Ansawdd.

Bydd pob canolfan gig yn cael hyfforddwr prosiect a fydd yn darparu arweiniad a chyfarwyddyd un-i-un, fel bod modd gweithredu Llawlyfr Ansawdd yn y gweithle.

Bydd y Llawlyfr Ansawdd yn cael ei greu fesul cam a bydd at ofynion unigol pob busnes. Mae’n ddogfen weithio, ac felly bydd rhaid i ganolfannau cig ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r polisïau a gweithdrefnau a ddewiswyd ganddyn nhw fel rhan o’u Gweithdrefnau Rheoli Ansawdd.

Mae HCC yn cymell canolfannau cig bach a chanolig eu maint i fanteisio ar yr hyfforddiant ac ymgynghoriaeth hyn oherwydd mae yna lu o fanteision i ganolfannau cig yng Nghymru o fod yn rhan o’r prosiect hwn, gan gynnwys cyfle i:• Bodyngwbleffeithlon;• DangoseubodyncydymffurfioâPGI

yng Nghymru;• Dangosymrwymiadybusnesigael

cynnyrch o ansawdd;• Darparucyfleoeddargyferdatblygu

busnesau sy’n bodoli a busnesau newydd;• Datblygu’rsailargyfercaelachrediadi

Safon Ansawdd.Yn ogystal â chyfarwyddyd unigol, mae’r

prosiect hwn hefyd yn rhoi cyfle i ladd-dai a phroseswyr yng Nghymru i dderbyn hyfforddiant mewn Hylendid Bwyd, Iechyd a Diogelwch, HACCP a lles anifeiliaid.

sion aron Jones,rheolwr datblygu’r diwydiant, HCC

mae ffermwyr drwy’r trwch yn ymuno a phrosiect unigryw i fagu wyn ac sy’n cael effaith fuddiol ar y diwydiant.

YsgolorHCC,EurionThomas.

P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 16-17 02/09/2011 15:24

Page 10: 2011 hydref - HCC / Meat Promotion Wales · 2019. 6. 12. · hydref 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22. Cynnwys 4 dyfodol hyderus 5 Cynllun hyrddod llwyddiannus

Crynodeb Ariannol 2010-11

Incwm

Gwariant

Incwm arall1%

Gwasanaethau Corfforaethol13%

Ardoll Wartheg 12%

Datblygu’r Farchnad 37%

Datblygu’r Diwydiant33%

Ardoll Ddefaid51%

Gwasanaethau Llywodraeth Cymru6%

Ariannu’r Rhaglen Datblygu Gwledig 29%

Ardoll Foch 1%

Cyfathrebu17%

Cefn Gwlad 19

ni all 50,000 o blant

ysgol fod yn anghywir

Mae Cwl i Goginio2 yn cynnwys ryseitiau cytbwys a gafodd eu llunio’n ofalus i wneud yn siwr fod plant ledled Cymru’n rhuthro i’r gegin i ffrio, grilio a rhostio!

Bu dau o’r cogyddion ifainc sydd yn y llyfr - Elis Roberts, 11 oed a’i chwaer naw oed, Eurgain, ynghyd â thrigain o blant eraill o Ysgol Penycae yn Wrecsam ac Ysgol Rhostryfan yng Ngwynedd yn helpu i lansio’r llyfr newydd.

“Cafodd HCC ei syfrdanu gan y galw enfawr o’r ysgolion am Mae’n Cwl i Goginio, sef ein hymdrech gyntaf i annog plant i fynd i’r gegin i goginio,” meddai Elwen Roberts, Swyddog Defnyddwyr HCC ac awdur y llyfr.

“Mae ymchwil wedi dangos i ni fod llawer o athrawon yn wynebu penderfyniadau anodd ynglyn ag addysgu am fwyd; nid oes digon o amser yn aml yn y cwricwlwm, neu mae diffyg adnoddau i wneud cyfiawnder â’r pwnc

“Dyna pam y gwnaethom gynhyrchu Mae’n Cwl i Goginio, a nawr y dilyniant, Mae’n Cwl i Goginio2. Mae’r ddau’n llyfrynnau lliwgar o ansawdd uchel sy’n atyniadol i ddisgyblion ysgolion cynradd ac sy’n helpu i drosglwyddo’r neges fod diet cytbwys yn rhan o ffordd iach o fyw,” meddai.

“Mae’n dangos sut i ddewis, paratoi a chyflwyno bwyd a fydd yn creu sylfaen dda i’n plant weddill eu hoes.”

Mae Cwl i Goginio2, a gyhoeddwyd â chymorth Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13, yn cynnwys ryseitiau ar gyfer Pasta Tomatos Cigog; Myffins Moron ac Oren Gludiog; Patis Cig Oen Cymru; Pastai Cig Eidion â Gorchudd o Sglodion; Ffrwythau Wedi’u Ffrio’n Sydyn; Koftas Cig Oen Cymru Sbeislyd; Porc Melys a Sur; Brechdanau Llawn Blas a Hwyl; a Salad Sydyn.

Mae HCC wedi cyhoeddi Cwl i Goginio2, sef arweiniad hanfodol i goginio a pharatoi bwyd i blant. Mae’n olynu’r argraff gwreiddiol poblogaidd y dosbarthwyd 50,000 o gopïau ohono i blant ar draws y DG.

18 Cefn Gwlad

arwerthiant hyrddodGwerthwyd cyfanswm o 97 o hyrddod Texel a Suffolk â chofnodion perfformiad mewn arwerthiant a gynhaliwyd yn IBERS yn Aberystwyth. Y pris uchaf yn yr arwerthiant oedd £1,200 am hwrdd Texel, a’r pris cyfartalog oedd £605, sef £453 yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.

Yn yr arwerthiant, roedd gan ffermwyr a oedd wedi cofrestru ar gyfer Prosiect Hyrddod Elit HCC, dan nawdd Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 07-13,gyfle i brynu hwrdd a oedd yn gymwys ar gyfer cyllid. Mae rhagor o wybodaeth am y Prosiect Hyrddod Elit yn www.eliteramproject.org.uk.

Plantynmyndi’rafaelâryseitiau

blasuso’rllyfrauMae’nCwliGogin

io.

P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 18-19 02/09/2011 15:24

Page 11: 2011 hydref - HCC / Meat Promotion Wales · 2019. 6. 12. · hydref 2011 P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 1 02/09/2011 15:22. Cynnwys 4 dyfodol hyderus 5 Cynllun hyrddod llwyddiannus

Incwm Ardoll £000

Crynodeb Ariannol £000

4,000

2006-7 2007-8 2008-9 2009-10 2010-11

3,750

3,500

3,250

3,000

Daw’r rhan fwyaf o incwm HCC o ardoll Cig Coch Cymru sy’n cael ei chasglu o anifeiliaid sy’n cael eu lladd yng Nghymru.

Mae mwy o fanylion ar wefan HCC – www.hccmpw.org.uk

2006-7 2007-8 2008-9 2009-10 2010-11

Gwartheg 614 588 581 601 598

Defaid 2,897 3,055 2,870 2555 2,469

Moch 28 37 31 34 35

3,539 3,680 3,482 3,190 3,102

2006-7 2007-8 2008-9 2009-10 2010-11

Incwm

Ardoll 3,539 3,680 3,482 3,190 3,102

Grantiau 2,403 2,782 1,239 810 1,418

Gwasanaethau 45 46 100 331 346

Llog 65 87 37 2 2

Incwm arall - 743 - - -

6,052 7,595 4,858 4,333 4,868

Gwariant

Marchnata a Hyrwyddo 3,105 4,111 2,266 1,824 1,695

Datblygu’r Diwydiant 1,945 2,342 1,550 1,062 1,507

Cyfathrebu 440 516 831 703 766

Cyllid a Gweinyddu 628 599 830 839 624

6,028 7,568 5,477 4,428 4,592

Cyfanswm

20 Cefn Gwlad

P15485 HCC Magazine (Welsh).indd 20 02/09/2011 15:24