10

Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Hydref

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Medi – December 2010

Citation preview

Page 1: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Hydref
Page 2: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Hydref

2 Medi - Rhagfyr 2010

Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Medi – December 2010Mae rhaglen hydref Canolfan Dylan Thomas yn cynnwys enwausefydlog ochr yn ochr â lleisiau cyffrous newydd, lle maeawduron dawnus megis Gillian Clarke, Carol Ann Duffy a DonPaterson yn cymysgu â doniau newydd fel Tyler Keevil, WillGritten a Richard Jones. Bydd Siobhan Campbell, Carrie Etter,Ian Gregson, a Rhys Trimble, yn darllen eu gwaith am y tro cyntaf yngNghanolfan Dylan Thomas, a bydd y flwyddyn yn gorffen, yn addas iawn, gydadathliad o waith hudol Dylan Thomas, A Child’s Christmas in Wales. Estynnwnwahoddiad cynnes i chi ymuno â ni am y gyfres hon o ddigwyddiadau a fydd yneich diddanu, eich addysgu a'ch ysbrydoli. Jo Furber, Swyddog Llenyddiaeth

Dydd Sadwrn, 4 Medi, 1pm

Theatr Amser Cinio: Something Unspoken ganTennessee WilliamsMae Fluellen Theatre Company yn cyflwyno Something Unspokengan Tennessee Williams. Mae Cornelia Scott am wiredduuchelgais ei bywyd: i gael ei phenodi'n llywydd y mudiad Daughtersof the Confederacy. Ond yn yr oriau llawn tyndra cyn y cyhoeddiad,mae rhywbeth yn bygwth - rhywbeth cuddiedig. Tennessee Williams yw bardd gorautheatr America yn yr ugeinfed ganrif, a chyn y perfformiad sgript mewn llaw o'rddrama hynod ddiddorol hon, bydd sgwrs am ei fywyd a'i waith. Tocynnau: £5

Nos Fercher, 15 Medi, 7.30pm

Ar yr Ymyl: Talking to Wordsworthgan Gillian Clarke

Bardd Cenedlaethol Cymru mawr ei chlod yw Gillian Clarke acrydym yn falch o lwyfannu darlleniad wedi'i ymarfer o Talking to

Wordsworth, a gaiff ei gyflwyno gan Gillian ei hun. Cyn hyn bydd Highjinx Theatre’sadfywio Wishful Thinking. Tocynnau: £4

Nos Wener, 17 Medi, 7pm

Bright Young ThingsBydd doniau newydd y byd llenyddol TylerKeevil, Will Gritten a Susie Wild yn darllen o'ucasgliadau cyntaf a gyhoeddwyd gan ParthianBooks, ac yn trafod eu gwaith â golygydd ffuglen Parthian, Lucy Llewellyn.www.brightyoungthings.infoTocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Parthian Books

TennesseeWilliams

GillianClarke

Susie Wild Will Gritten Tyler Keevil

Page 3: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Hydref

3Rhaglen Lenyddiaeth

Nos Iau, 23 Medi, 7pm

John Tripp: The Meaning of Apricot SpongeDetholiad o ysgrifau John Tripp (1927-1986) - bardd, awdur storïaubyrion a newyddiadurwr - awdur di-flewyn-ar-dafod ac, yn aml,dadleuol yr oedd ei angerdd a'i fywiogrwydd yn lledaenu'n aml drosy tudalennau a ysgrifennai i'w fywyd go iawn. Mae'r teitl newyddhwn yn cynnwys traethawd gan Peter Finch, a'r golygydd yw TonyCurtis, Athro Barddoniaeth ym Mhrifysgol Morgannwg sydd hefyd yndarparu rhagair beirniadol. Bydd Tony Curtis, enillydd Gwobr John Tripp Mab Jones,a'r awdur o Abertawe ac arbenigwr ynglyn â Tripp, Nigel Jenkins, yn darllen o'r llyfr.Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Parthian Books

Nos Sadwrn, 25 Medi, 7.30pm

Don PatersonMae un o feirdd gorau Prydain yn darllen o'i waith ei hun. Maebarddoniaeth Don Paterson wedi ennill cryn dipyn o wobrau,gan gynnwys Gwobr Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau,Gwobr Barddoniaeth Whitbread, Gwobr Goffa Geoffrey Fabera Gwobr T.S. Eliot ar ddau achlysur. Yn fwyaf diweddar,enillodd Rain Wobr Forward 2009. Mae'n un o Gymrodorion yGymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth, a chafodd OBE yn 2008

a Medel Aur y Frenhines am Farddoniaeth yn 2010. Mae Paterson yn dysgubarddoniaeth ym Mhrifysgol St Andrews, ac ers 1996 mae'n olygydd barddoniaethgyda Picador MacMillan. Tocynnau: Pris Llawn: £6.50 Consesiwn: £4.50 PTL: £2.60

Dydd Sul, 26 Medi, 11am – 1pm

Gweithdy Barddoniaeth gyda Don PatersonBydd Don Paterson yn arwain gweithdy yn null seminar agored ac yn trafod pobagwedd ar grefft y bardd, gan astudio cyfansoddi barddoniaeth fel ymarfertechnegol, ymarferol ac ysbrydol, a chanolbwyntio ar bob cam y broses, o ysbrydolii gyhoeddi. Dewch â phin, papur a dau neu dri chwestiwn da. Tocynnau: £15.Ffoniwch y ganolfan ar 01792 463980 i gadw lle.

Nos Fercher, 29 Medi, 7.30pm

Caffi GwyddoniaethMae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe'n rhoi cyfle i unrhywun ddysgu mwy am feysydd newydd, cyffrous ac amserolym myd gwyddoniaeth. Wedi'i ddylunio i fod yn anffurfiol ac yn ddifyr, cynhelir ycaffi fel arfer ar nos Fercher olaf pob mis. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.sciencecafewales.orgTocynnau: Mynediad am ddim

DonPaterson

Page 4: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Hydref

Nos Iau, 30 Medi, 7.30pm:

Beirdd yn y Siop Lyfrau gyda Siobhan CampbellCafodd trydydd casgliad llawn Siobhan CampbellCross-Talk (Seren,2009), ei ddisgrifio fel “a cunning sideways take on the pastoral”gan yr Irish Times. Mae Siobhan yn un o'r Prif Ddarlithwyr ymMhrifysgol Kingston Llundain. Mae ei gwaith wedi ymddangosmewn cylchgronau megis Poetry, Agenda a Poetry Ireland, acmae wedi ennill gwobrau yn y Gystadleuaeth FarddoniaethGenedlaethol yn ogystal â chystadlaethau'r Troubadour aWigtown. Mae peth o'i gwaith yn ymddangos yn The Field Day Anthology of Irish Writingand Identity Parade, New British and Irish Poets (Bloodaxe). Bydd y noson hefyd yncynnwys sesiwn meic agored lle gall aelodau'r gynulleidfa ddarllen cerdd yn Saesnegneu yn Gymraeg. Tocynnau: Pris Llawn: £4 Consesiwn: £2.80 PTL: £1.60

Dydd Sul, 3 Hydref, 10am – 4pm

Gweithdy DarganfodShakespeare #1: MacbethCyfle i ddarganfod, gyda chryn fanylder, dair drama benigampgan William Shakespeare - sef trasiedi, hanes a chomedi -gan ddechrau gyda Macbeth. Peter Richards (CyfarwyddwrArtistig Fluellen Theatre Company) ac actorion eraill yn

archwilio un testun ym mhob sesiwn er mwyn cael gwell dealltwriaeth hanesyddola theatraidd o'r dramâu, gan arddangos sut caiff y geiriau eu cymryd o'r dudalena'u trosi'n ddarnau theatr byw. Tocynnau: £10 y dydd. Gellir cadw lle i'r dramâu ar wahânFfoniwch Fluellen ar 01792 368269 i gadw lle.

Nos Iau, 7 Hydref, 7.30pm

Digwyddiad Diwrnod BarddoniaethCenedlaethol: Paul Henry a Richard JonesMae Paul Henry ymhlith beirdd mwyaf blaenllaw Cymru aheno bydd yn lansio The Brittle Sea: New and SelectedPoems (Seren). Ac yntau'n awdur pum casgliad, mae wedidarllen mewn gwyliau ar draws y DU ac Ewrop. Ac yntau'nwreiddiol yn gyfansoddwr caneuon, mae Henry wedi bod ynolygydd gwadd Poetry Wales ac mae'n diwtor ysgrifennucreadigol poblogaidd. Yn ddiweddar bu'n cyflwyno'r gyfres oraglenni celf 'Inspired' ar gyfer BBC Radio Wales. Yndarllen gydag ef mae'r bardd ac athro o Abertawe, Richard Jones, sy'n cydweithioâ Paul o dan gynllun mentora'r Academi ar gyfer awduron ifanc talentog. Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Seren Books.

SiobhanCampbell

PaulHenry

PeterRichards

4 Medi - Rhagfyr 2010

Page 5: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Hydref

Dydd Sadwrn, 9 Hydref, 1pm

Theatr Amser Cinio: The Lesson gan Eugene IonescoMae Fluellen Theatre Company yn cyflwyno The Lesson gan Eugène Ionesco. Maecomedi abswrdaidd gwych Ionesco yn adrodd hanes athro sy'n rhoi gwersi preifat iddisgybl sy'n ymddangos fel petai'n hynod ddawnus. Ond nid yw popeth fel y maei'w weld ar y dechrau mewn drama sydd wedi cael ei disgrifio fel “sbring torchog odrais wedi'i gyfangu.” Roedd Eugène Ionesco yn un o leisiau mwyaf blaenllawtheatr yr ugeinfed ganrif yn Ewrop a bydd y perfformiad sgript mewn llaw o'rddrama ddychanol glasurol hon yn dilyn sgwrs am ei fywyd a'i waith. Tocynnau: £5

Dydd Sadwrn 16 a dydd Sul 17 Hydref

Archif Menywod Cymru, 13eg Gynhadledd FlynyddolMae'r gynhadledd yn gyfle unigryw i rwydweithio ymhlith arbenigwyr mewnhanes menywod a'r rhai sydd â diddordeb mewn cadw tystiolaeth ddogfennol ofywydau menywod yng Nghymru ar hyd y canrifoedd. Mae croeso cynnes i'rcyhoedd ddod i ran neu'r cyfan o'r gynhadledd, a fydd yn cynnwys cinio dathlugyda cherddoriaeth gan Jen Wilson o Treftadaeth Jazz Cymru. Tocynnau: Ewch i www.womensarchivewales.org for details, and to bookyour place.

Nos Fercher, 20 Hydref, 7.30pm

Caffi GwyddoniaethAm fwy o wybodaeth, ewch i www.sciencecafewales.orgTocynnau: Mynediad am ddim

Nos Iau, 21 Hydref, 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau gydag Ian GregsonTeitl y llyfr diweddaraf o gerddi gan Ian Gregson ywHow We Met (Salt, 2008). Rhoddwyd Call Centre LoveSong, detholiad o'i gerddi, ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Forward fawr ei bri. Mae wedi cyhoeddi cerddiac adolygiadau yn y London Review of Books, y TLS a'rPoetry Review, ymhlith eraill. Mae ei lyfrau beirniadolyn cynnwys The New Poetry In Wales (Gwasg PrifysgolCymru, 2007). Ers 1977, mae wedi dysgu yn adranSaesneg Prifysgol Bangor lle mae bellach yn Athro.Bydd y noson hefyd yn cynnwys sesiwn meic agored llecaiff aelodau'r gynulleidfa ddarllen cerdd yn Saesnegneu yn Gymraeg.Tocynnau: Pris Llawn: £4 Consesiwn: £2.80 PTL: £1.60

IanGregson

5Rhaglen Lenyddiaeth

Page 6: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Hydref

27 Hydref – 9 Tachwedd

Gwyl Dylan Thomas - “A Home from Home for the Thomases”Thema'r ŵyl eleni – a drefnwyd gan David Woolley gyda Jeff Towns - yw'r nifersylweddol o Thomasiaid sydd wedi cyfrannu'n fawr at lenyddiaeth Cymru a'r tuhwnt. Yn ogystal â Dylan ei hun, bydd digwyddiadau yn canolbwyntio ar R.S.,Edward, Wynford Vaughan, Gwyn a John Ormond Thomas. Bydd y cyfranogwyr yncynnwys awduron cyfoes o safon megis Andrew Motion, Gwyneth Lewis, AlexisLykiard, Mike Jenkins, aa'r fintai farddonol a cherddorol wych o Ganada, TheFugitives. Byddwn yn cynnal y perfformiad llawn cyntaf yn Abertawe o sioe un dynnewydd am David Lloyd Gorge, a bydd Peter Hain yn trafod ei lyfr newydd amNelson Mandela. Bydd arddangosfa'r wyl eleni yn cynnwys arddangosfa am yThomasiaid, a'r cyfle cyntaf i weld dwdlau gan Dylan a'r artist a darlunydd, DodieMasterman. Bydd llyfryn ar wahân ar gael ym mis Medi.

Dydd Sul, 14 Tachwedd, 10am – 4pm

Gweithdy Darganfod Shakespeare #2: Henry VDyma gyfle i ddarganfod mewn peth manylder dair drama benigamp gan WilliamShakespeare - sef trasiedi, hanes a chomedi - yn canolbwyntio'r mis hwn ar Henry V.Bydd Peter Richards (Cyfarwyddwr Artistig Fluellen Theatre Company) ac actorioneraill yn archwilio un testun fesul sesiwn er mwyn cael gwell dealltwriaethhanesyddol a theatraidd o'r dramâu, gan arddangos sut caiff y geiriau eu cymrydo'r dudalen a'u trosi'n ddarnau theatr byw. Tickets: £10 y dydd. Gellir cadw lle i'rdramâu ar wahân. . Ffoniwch Fluellen ar 01792 368269 i gadw lle.

Nos Fercher, 17 Tachwedd, 7.30pm

Lansio Llyfr: Jon Gower - UnchartedDewch i wrando ar ddau ymddiddanwr dawnus sy'n rhannu cariad atlyfrau wrth iddynt sgwrsio am awr. Bydd yr hanesydd ac adroddwrhanesion digyffelyb o Abertawe, Peter Steadyn sgwrsio gyda JonGower am ei nofel ddiweddaraf Uncharted, llyfr a ddisgrifiwyd ganJan Morris fel bod yn "unflaggingly and unfailingly inventive".Tocynnau: Mynediad a gwin am ddim, mewn cydweithrediad â Gomer.

Dydd Sadwrn, 20 Tachwedd am 1pm

Theatr Amser Cinio: Protest gan Vaclav HavelBydd Fluellen Theatre Company yn cyflwyno Protest gan Václav Havel.Mae hunan arall Havel, Vanek, yn ymweld â chartref hen ffrind er mwyn eiddarbwyllo i lofnodi deiseb i wrthwynebu'r gyfundrefn ormesol sy'n rheolibywydau'r ddau ohonynt. Ond mae popeth yn mynd o'i le. Y ddrama bwerushon am gyfrifoldeb yr artist i frwydro yn erbyn problemau cymdeithasol yw rhan olaf triawdgwych Havel o ddramâu am Vanek; roedd y ddwy flaenorol (Audience and The Unveiling) ynboblogaidd tu hwnt pan gawsant eu perfformio yng Nghanolfan Dylan Thomas. Cyn yperfformiad sgript mewn llaw bydd sgwrs am fywyd a gwaith Václav Havel. Tocynnau: £5

VaclavHavel

6 Medi - Rhagfyr 2010

Page 7: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Hydref

Nos Fercer, 24 Tachwedd, 7.30pm

Caffi GwyddoniaethAm fwy o wybodaeth, ewch i www.sciencecafewales.orgTocynnau: Mynediad am ddim

Nos Iau, 25 Tachwedd, 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau gyda Carrie EtterBu'r Times Literary Supplement yn canmol The Tethers (Seren, 2009), sefcasgliad cyntaf Carrie Etter’s sy'n hanu'n wreiddiol o America, fel "uno'r casgliadau cyntaf mwyaf uchelgeisiol a graenus dros y blynyddoedddiwethaf." Mae hefyd wedi golygu blodeugerdd, Infinite Difference: OtherPoetries by UK Women Poets (Shearsman, 2010), ac roedd ei phamffled, The

Son (Oystercatcher, 2009), yn un o Ddewisiadau Pamffled y Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth.Mae hi'n Uwch Ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bath Spa ac mae wedibod yn blogio ers pum mlynedd ynwww.carrieetter.blogspot.com Bydd y noson hefyd yncynnwys sesiwn meic agored lle caiff aelodau'r gynulleidfa ddarllen cerdd yn Saesneg neuyn Gymraeg. Tocynnau: Pris Llawn: £4 Consesiwn: £2.80 PTL: £1.60

Nos Iau, 2 Rhagfyr, 7.30pm

Codi Arian i'r Sefydliad MeddygolDigwyddiad blynyddol i godi arian ar gyfer y Medical Foundation for the Care of Victimsof Torture. Bydd y noson yn cynnwys cerddoriaeth a barddoniaeth, ac mae manylionychwanegol ar gael gan [email protected] Tocynnau:Pris Llawn: £7 Consesiwn: £5

Dydd Sul, 5 Rhagfyr, 10am – 4pm

Gweithdy Darganfod Shakespeare #3 Twelfth NightDyma gyfle i ddarganfod mewn peth manylder dair drama benigamp gan WilliamShakespeare - sef trasiedi, hanes a chomedi - a fydd yn canolbwyntio'r mis hwn arTwelfth Night. Bydd Peter Richards (Cyfarwyddwr Artistig Fluellen TheatreCompany) ac actorion eraill yn archwilio un testun fesul sesiwn er mwyn caelgwell dealltwriaeth hanesyddol a theatraidd o'r dramâu, gan arddangos sut caiff ygeiriau eu cymryd o'r dudalen a'u trosi'n ddarnau theatr byw.Tocynnau: £10 y dydd. Gellir cadw lle i'r dramâu ar wahân. Ffoniwch Fluellen ar 01792 368269 i gadw lle.

Nos Fercher, 8 Rhagfyr, 7.30pm

Ar yr Ymyl: Night Horse gan Catrin ClarkeMae tensiynau'n cynyddu wrth i fam a'i merch aros i filwr ddod

adre o Afghanistan. Dewch i wrando ar ddarlleniad wedi'i ymarfer o Night Horse, afu'n fawr ei glod pan ddarlledwyd yn gyntaf ar Radio 4 yn 2009. Tocynnau: £4

CarrieEtter

7Rhaglen Lenyddiaeth

Page 8: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Hydref

Nos Wener, 10 Rhagfyr, 7.30pm

Carol Ann Duffy a Gillian Clarke:Bardd Cenedlaethol Cymru Ar DaithMewn cydweithrediad ag Bydd Gillian Clarke Bardd Cenedlaethol Cymru,a Carol Ann Duffy y Bardd Llawryfog, yn darllen ac yn trafod eu gwaith. Dyfarnwydi'r ddau fardd hwn y gydnabyddiaeth uchaf: y galw i fyfyrio ynghylch emosiynaucenedl a'u dehongli. Daeth Gillian Clarke yn Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2008. Arôl dwy flynedd lwyddiannus yn y swydd, dyma gyfle i chi glywed gwaith newydd gan yBardd Cenedlaethol, yn ogystal â detholiad o'i chatalog cefn helaeth. Ers dod ynFardd Llawryfog yn 2009, mae Carol Ann Duffy wedi ysgrifennu ar bynciau moramrywiol â'r sgandal dros dreuliau seneddol, y cwmwl llwch llosgfynyddig a sawdlclwyfedig David Beckham. Rydym yn falch o'i chroesawu'n ôl i Ganolfan DylanThomas. Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Daith y Bardd Cenedlaethol ar drawsCymru trwy gydol yr hydref, a drefnwyd gan Academi. Am ddyddiadau eraill y daith,ewch i www.academi.org neu e-bostiwch [email protected] ffoniwch 0292047 2266. Noddir prosiect Bardd Cenedlaethol Cymru gan Gyngor CelfyddydauCymru a'i weinyddu gan Academi. Tocynnau: Pris Llawn: £10 Consesiwn: £7, sy'ncynnwys gostyngiad £1 oddi ar unrhyw lyfr newydd a brynir ar y noson.

Nos Fawrth, 14 Rhagfyr, 7pm

Nadolig yng NghymruDathliad hudol Fluellen Theatre Company, mewn geiriau acherddoriaeth, o Nadoligau'r gorffennol a heddiw, gydapherfformiad cyflawn o'u haddasiad clodwiw o waith DylanThomas A Child’s Christmas In Wales, gyda Delyth Jenkins ar ydelyn. Tocynnau: Pris Llawn: £6.00 Consesiwn: £4.00, sy'ncynnwys gwydraid o win twym neu sudd ffrwyth yn yr egwyl.

Nos Fercher 15 Rhagfyr, 7.30pm

Beirdd yn y Siop Lyfrau gyda Rhys TrimbleBardd, perfformiwr a golygydd dwyieithog yw Rhys Trimble, sy'nbyw yng ngogledd Cymru. Fe'i ganed ym 1977 yn Livingstone,Zambia a'i fagu yng Ngwent a Phontneddfechan. Cyhoeddwyd eiwaith yn Poetry Wales, Tears in the Fence, Seventh Quarry, CoffeeHouse Poetry, Aesthetica, Skald aac amrywiaeth o gylchgronaueraill ac mewn rhaglenni radio. Mae ei waith diweddar yncynnwys 'Dancing', gyda Zoë Skoulding ac Alan Holmes, ar draci'r band, Parking Non-Stop. Bydd y noson hefyd yn cynnwys sesiwn meic agored llecaiff aelodau'r gynulleidfa ddarllen cerdd yn Saesneg neu yn Gymraeg. Tocynnau: Pris Llawn: £4 Consesiwn: £2.80 PTL: £1.60

GillianClarke

Carol Ann Duffy

RhysTrimble

8 Medi - Rhagfyr 2010

Page 9: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Hydref

9Rhaglen Lenyddiaeth

10 Awst – 5 Medi

‘Lluniadau’ - Alan BicknellMae Alan Bicknell yn nodi am yr arddangosfa hon:

“things on stilts, bunkbeds, moths, those props and strutsthat are used to hold up wayward buildings, MorvernCallar's use of words like 'goldish' and 'rampant', lamps- always lamps, people with pipes in their faces, that wallin Penarth where someone's written 'Wolfey 97', ormight be 93, can't remember, the huge pram me and mum pushed to thejumble sale, the clothes I wore later that day, makeshift barns, archways andceilings a little too tall for me to reach…”

7 Medi – 3 Hydref

Lucy Bevan ‘You went toBelarus, so I went to Paris’

“Trefnais ymweliad i’m calonogi am fodfy nghariad wedi mynd i Felarws amddeufis. Datblygodd pob dydd yn storinewydd gan esgor ar y lluniau hyn.Mae’r arddangosfa’n ddetholiad o ffotograffau Polaroid SX-70 acImage/Spectra a dynnwyd ym Mharis a’r cylch.”

5 Hydref – 24 Hydref

‘Taking the LeAP - Moving on to Comp’Prosiect amlgyfrwng tra llwyddiannus yw ‘Taking the LeAP - Moving on toComp’ wedi'i ddylunio i ymdrin â phryderon plant Blwyddyn 6 yn ystod eu tymorolaf yn yr ysgol gynradd. Wedi'i dylunio gyda phant o flynyddoedd 5 - 8, mae'rarddangosfa hon yn dangos ac yn dathlu cyflawniadau'r plant sydd eisoes wedicymryd rhan yn y prosiect.

26 Hydref – 21 Tachwedd

Arddangosfa Gwyl Dylan Thomas Bydd arddangosfa yr ŵyl eleni, yn Oriel y Coridor ac ystafell gefn yrarddangosfa ‘Man and Myth’, yn cynnwys adran am y llu o Thomasiaid syddwedi cyfrannu at lenyddiaeth Cymreig, a'r cyfle cyntaf i weld dwdlau gan Dylana'r artist a darlunydd, Dodie Masterman.

Oriel y CoridorArddangosfeydd

Page 10: Rhaglen Canolfan Dylan Thomas Hydref

10 Medi - Rhagfyr 2010

Ymunwch â Chyfeillion Canolfan Dylan ThomasFel Cyfaill, byddwch yn derbyn y manteision canlynol, a fydd yn para am flwyddyn:

• Prisiau consesiynol ar docynnau ar gyfer pob digwyddiad yn y Rhaglen Lên• 10% oddi ar lyfrau newydd yn ein siop lyfrau• Gwahoddiadau i lansiadau ac arddangosfeydd preifat• Postio â blaenoriaeth ac e-byst atgoffa• Mynediad i Raffl y Cyfeillion.

Ffoniwch ni ar 01792 463980 neu e-bostiwch [email protected] fwy o fanylion am y cynllun cyffrous hwn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yncadw’r hawl i newid unrhyw ran o’r rhaglen hon heb rybudd.

Canolfan Dylan Thomas Somerset Place, Abertawe SA1 1RR

01792 463980 www.dylanthomas.com

[email protected] www.dylan-thomas-books.com

hybu llên literature promotionCYNGOR LLYFRAU CYMRUWELSH BOOKS COUNCIL

Cefnogir gan:

Ù

Ù

ÙNCP

SAINSBURYS

SWANSEAMUSUEM

TESCO

CivicCentre

Marina

Parc Tawe

BUS STATION

Plantasia

Castle

CastleSquare

DylanThomasCentre

DylanThomasTheatre

H.M. PRISON

GrandTheatre

MANSELL ST

A

THE KINGSWAY

O

RCHA

R

STRAND ROW

WATERFRONTMUSUEM

WATERFRONTMUSUEM

VICTORIA ROAD

QUAY

PARADE

H STREET CASTLE ST WIND ST

OXFORD STREET

ST MARY’S ST

WEST WAY

PRINCESS WAY

SOMERSET PLACE

OYSTERMOUTH ROAD

Credydau Lluniau: Paul Henry gan Owen Sheers; Carol Ann Duffy © Academi a John Briggs;

Jon Gower © Emyr Jenkins; Don Paterson © Murdo McLeod