Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
hafaldros adferiadmeddwl difrifol for recoveryfrom serious mental illnesso afiechyd adolygiad blynyddol 2013-14
Hafal was established just
over ten years ago as a
Member-led charity for
people with a mental illness
and their carers in Wales.
Ers hynny, rydym wedi gweithio’n barhaus er
mwyn gwarantu bod ein llais – sef llais
defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr – yn cael
ei glywed ar lefel lleol a chenedlaethol. Er
enghraifft, llais Hafal a fu’n gyfrifol am
ysbrydoli’r gyfraith Gymreig newydd sydd yn
rhoi’r hawl i ddefnyddwyr gwasanaeth i
dderbyn cynllun gofal holistaidd.
Ym 2013-14, cododd ein llais hyd yn oed yn
uwch – ac roedd mwy fyth o bobl yn gwrando.
Roedd ein hymgyrch Golau! Camera! EWCH!
wedi peri i filoedd o ddefnyddwyr gwasanaeth
a gofalwyr ar draws Cymru wneud eu ffilmiau
eu hunain am iechyd meddwl. Roedd mwy na
60 o bobl wedi recordio blogiau personol –
ffilmiau angerddol a bachog am eu hadferiad
a’r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio.
Ac roedd yr effaith yn sylweddol: roedd
miloedd o ddilynwyr newydd wedi dechrau ein
dilyn ar ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol
a darlledwyd y ffilmiau yn y Senedd i
gynulleidfa eang o wneuthurwyr polisi a
gweithwyr iechyd proffesiynol (mae rhai clipiau
wedi eu defnyddio hyd yn oed mewn modiwl
hyfforddiant a ddarperir gan Brifysgol
Abertawe!).
Wrth i ni hyrwyddo ein lleisiau ar y cyfryngau
cymdeithasol, roedd yn hwb i weld bod hyn yn
annog eraill i gynnig sylwadau ar yr hyn a
oedd gennym i’w ddweud. Mae cyfryngau
cymdeithasol yn berffaith o ran ein
cenhadaeth: mae’n ffordd newydd i ni
ddechrau sgyrsiau ac annog pobl eraill i gael
eu clywed.
Ym 2013-14, llwyddom sicrhau bod llais
defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn cael ei
glywed ar lefel mwy ffurfiol hefyd. Yn ystod yr
ymgyrch, roeddem wedi cynnal arolwg i
gofnodi ein profiad o’r broses o gynllunio gofal
a thriniaeth. Ac roedd yna ddatblygiad cyffrous
pellach ym 2014 wrth i ni sefydlu HELP (Hafal
Expert Leadership Panel) sydd yn rhoi’r cyfle i
ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i gael
dweud eu dweud ar faterion iechyd meddwl
cenedlaethol, cyfrannu at ddatblygu ein
deunyddiau hyfforddi a darparu sesiynau ac
anerchiadau hyfforddi.
Byddwn yn parhau i atgyfnerthu llais defnyd-
dwyr gwasanaeth a gofalwyr yn y blynyddoedd
sydd i ddod. Ac mae modd i chi ymuno â’r
sgwrs hefyd: os nad
ydych yn gwneud hyn
eisoes, cofiwch ein
dilyn ni ar Facebook,
Twitter neu YouTube,
neu dewch yn Aelod o
Hafal. Gyda’n gilydd,
mae modd i ni siarad hyd yn oed yn uwch ar
ran defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yng
Nghymru – a mynnu ein bod yn elwa i’r eithaf
o’r gwasanaethau.
Tra’n sôn am wasanaethau, rwyf wrth fy modd
yn adrodd bod yna lawer o ddatblygiadau
diddorol wedi bod o ran ein gwasanaethau yn
y flwyddyn ddiwethaf – a’r mwyaf amlwg o’r
rhain oedd lansiad "Up 4 It", sef prosiect sydd
yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, a fydd yn
darparu Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar i bobl
ifanc yng Ngwent sydd yn profi seicosis. Bydd
y prosiect hwn yn cael effaith sylweddol ar
fywydau pobl ifanc yn yr ardal sydd ag
afiechyd meddwl difrifol ac mae’n golygu bod
Hafal yn helpu i sicrhau bod llais pobl ifanc yn
cael ei glywed hefyd.
Elin Jones
Cadeirydd
2013-14: GWEIDDI O’R UCHELFANNAU
Sefydlwyd Hafal ychydig
dros ddeng mlynedd yn ôl
fel elusen i’w harwain gan
Aelodau ar gyfer pobl ag
afiechyd meddwl a’u
gofalwyr yng Nghymru.
“Mae’r adborth o’r ymgyrch yn dangos er ein bod ni fel defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn teimlo bod yna ddeddfwriaeth a pholisi cadarn yn eu lle erbyn hyn, maenawr yn amser i weithredu a darparu gwasanaethau sy’n ymateb ac ymrymuso.Rydym angen ateb Cymreig sydd yn rhoi rheolaeth o adnoddau i ddefnyddwyrgwasanaeth a gofalwyr. Rydym hefyd angen esblygu polisi a deddfwriaeth newyddyn y 5 i 10 mlynedd nesaf er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ym mhobagwedd o fywyd gan gynnwys hyfforddiant, cyflogaeth, iechyd corfforol, tai ayyb.”
– Panel Defnyddwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Gofalwyr Golau! Camera! EWCH!
Darllenwch yr adroddiad Golau! Camera! EWCH! yma – www.hafal.org
Despite tough economic times
Hafal continued to develop
innovative services for people
with a mental illness and their
carers across Wales in
2013-14.
Up 4 It
Roedd un o’n prosiectau arloesol newydd,
sydd yn darparu gwasanaethau i’n grŵp
cleient iau, “Up 4 It”, ac yn cefnogi rhai o'r bobl
ifanc mwyaf agored i niwed yn ardal Gwent,
wed ei lansio yn Ysbyty Ystrad Fawr gan y
Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn
Nhachwedd 2013.
Bydd "Up 4 It", sef prosiect sydd yn cael ei
ddarparu gan Hafal mewn partneriaeth â
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, yn darparu
Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar ar gyfer pobl
ifanc sydd yn profi seicosis neu mewn peryg o
ddatblygu seicosis. Mae'r prosiect yn anelu i
gefnogi 600 o bobl ifanc rhwng 14 a 25 ar
draws ardal Gwent dros y bum mlynedd nesaf
ac mae wedi derbyn £754,000 o gyllid gan
raglen Dyfodol Disglair y Loteri Fawr.
Dywedodd y defnyddiwr gwasanaeth 23
mlwydd oed, Sarah Jones: "Bydd y prosiect yn
cael effaith anferth ar fywydau pobl ifanc yn yr
ardal sydd ag afiechyd meddwl. Os ydych yn
derbyn triniaeth amserol pan eich bod yn profi
afiechyd meddwl am y tro cyntaf, yna rydych
yn medru derbyn cefnogaeth i aros mewn
addysg a chyflogaeth ac atal yr afiechyd rhag
niweidio gweddill eich bywyd. Nid oes
amheuaeth gennyf na fydd y cyfle sydd gan
gleientiaid i lwyddo yn fwy nag erioed o'r blaen
yn sgil y gwasanaeth newydd hwn."
Bryn Y Wal
Ym 2013, lansiwyd ein prosiect tai â chymorth
unigryw yn Sir Ddinbych, sef Bryn Y Wal.
Mae’r prosiect wedi ei leoli mewn tŷ prydferth
sydd yn mwynhau’r prydferthwch gwledig ond
eto sydd ond ychydig o funudau o’r Rhyl.
Mae’n brosiect tai â chymorth dwyster uchel a
hyblyg sydd yn rhoi llety i bobl ddigartref sydd
ag afiechyd meddwl. Mae’r prosiect unigryw
yn darparu gwasanaeth tri cham i gleientiaid
sydd yn eu cefnogi i sicrhau annibyniaeth:-
1. Llety cymorth dwys am chwe mis ar gyfer
pedwar defnyddiwr gwasanaeth gyda staff
24 awr
2. Pedwar llety symud ymlaen gyda chymorth
fel bo’r angen gan staff
3. Cymorth i gleientiaid i symud i lety parhaol a
byw’n annibynnol.
Tŷ Adferiad
Ym mis Medi 2013, roedd ITV Cymru wedi
darlledu rhaglen arbennig ar ein prosiect
blaengar, Tŷ Adferiad, ym Mhorthmadog sydd
wedi ei ariannu gan y Loteri Fawr. Mae’r
ganolfan adferiad yn cynnig seibiannau
unigryw a deinamig i bobl ag afiechyd meddwl
a'u gofalwyr, gan roi’r cyfle i ymwelwyr i edrych
o’r newydd ar eu cynlluniau gofal – a chymryd
rhan mewn gweithgareddau ysgogiadol megis
hwylio, canŵio, cerdded ceunant a gyrru
beiciau modur pedair olwyn. Am fwy o
wybodaeth, ewch i’n gwefan newydd ar Tŷ
Adferiad: www.tyadferiad.org/cy/
2013-14: TORRI TIR NEWYDD
Roedd Aelodau wedi
rhoi sgôr o 8 allan o
10 am y wybodaeth y
maent yn derbyn
Roedd ein
gwasanaethau lleol
wedi derbyn sgôr o
9.1 allan o 10
Ym 2013, roeddem wedi cynnal arolwg
ymhlith cleientiaid ac Aelodau i ganfod
eu barn am ein gwasanaethau.
Er yr hinsawdd economaidd
anodd, mae Hafal wedi parhau
i ddatblygu gwasanaethau
arloesol i bobl ag afiechyd
meddwl a’u gofalwyr ar draws
Cymru ym 2013-14.
Gwasanaeth newydd i
garcharorion benywaidd:
Ym 2013, roeddem wedi
derbyn grant i ariannu tîm o
Ymarferwyr Adferiad
gwirfoddol am ddwy flynedd i
ymgysylltu gyda merched o
Gymru a oedd yn y carchar
ac yn dioddef afiechyd
meddwl. Mae’r Ymarferwyr
Adferiad yn darparu cymorth
cyn mynd i’r carchar ac ar ôl
iddynt gael eu rhyddhau, a
hynny er mwyn lleihau’r risg
ohonynt yn ail-droseddu.
Bydd y prosiect arloesol hwn
yn elwa merched o Gymru
sydd yng ngharchardai Ei
Mawrhydi ym Mharc
Eastwood a Styal.
Darllenwch mwy yma:
www.hafal.org
In 2013-14 Hafal continued
to campaign for a better deal
for service user and carers.
Uchafbwynt ein blwyddyn oedd ein hymgyrch
Golau! Camera! EWCH! a arweiniwyd gan
ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ac fe’i
cefnogwyd gan Hafal mewn partneriaeth â
Bipolar UK a’r Sefydliad Iechyd Meddwl; roedd
Diverse Cymru wedi ein helpu i ymgysylltu â
chymunedau lleiafrifol.
Yn ystod yr ymgyrch, roedd defnyddwyr
gwasanaeth a gofalwyr ar draws y 22 sir wedi
gwneud prosiectau ffilm eu hunain ac roedd
mwy na 60 o unigolion wedi paratoi blogiau
ffilm a oedd yn cyfeirio gwasanaethau lleol a
gwneuthurwyr polisi cenedlaethol at arferion
da mewn darpariaeth gwasanaeth iechyd
meddwl ar draws Cymru – tra hefyd yn amlygu
unrhyw ddiffygion mewn darpariaeth leol.
Roedd yr ymgyrch wedi galw yn benodol am:-
• Cynlluniau Gofal a Thriniaeth o safon uchel i
bawb sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd
meddwl eilaidd
• dewis a rheolaeth lawn i ddefnyddwyr
gwasanaeth o ran cynnwys y Cynlluniau
Gofal a Thriniaeth
• darparu gwasanaethau iechyd meddwl
safonol yn gyflym mewn ymateb i’r
Cynlluniau hynny ac anghenion pobl ag
afiechyd meddwl difrifol sydd yn defnyddio
gwasanaethau gofal cynradd
• diwygio gwasanaethau ymhellach er mwyn
cynyddu rheolaeth defnyddwyr gwasanaeth a
gofalwyr dros ddewis a chomisiynu
gwasanaethau
• cam tuag at y nod hirdymor o sicrhau
cydraddoldeb llawn yng nghymdeithas
Cymru ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a
gofalwyr gan gynnwys mynediad cyfartal at
iechyd a gofal cymdeithasol, tai, incwm,
addysg a chyflogaeth.
Roedd yr ymgyrch yn llwyddiant ysgubol ac
wedi ymgysylltu â miloedd o bobl ar draws y
22 sir yng Nghymru ym 2013 gan gynnwys:-
• 1500 o Aelodau Hafal
• mwy na 3000 o ddefnyddwyr gwasanaeth a
gofalwyr sydd yn defnyddio gwasanaethau
lleol ac wedi cymryd rhan mewn prosiectau
ffilm lleol neu wedi gwneud blogiau ffilm
unigol
• miloedd o bobl a oedd wedi mynychu’r 22
digwyddiad lleol ym mhob un sir yng
Nghymru, a lansiad yr ymgyrch gan y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Mark Drakeford yn y Cynulliad
• mwy na 5000 o bobl a fu’n dilyn a
rhyngweithio gyda’r ymgyrch drwy gyfrwng
sianeli cyfrwng cymdeithasol ar-lein Hafal
gan gynnwys tudalennau Facebook, Twitter
ac YouTube
• 42,000 o bobl sydd wedi derbyn copi o
ganllaw Cynllunio Gofal a Thriniaeth Hafal
• y 7,000 o ofalwyr sydd wedi derbyn copi o’n
“Cynllun Deg Pwynt” i ofalwyr
• y 60,000 o ymwelwyr unigryw sydd wedi
ymweld â gwefannau Hafal a’r miloedd mwy
sydd wedi gweld hanes ein hymgyrch yn y
cyfryngau lleol a chenedlaethol.
Llwyddiant y cwrs hyfforddi
Rhoddwyd hwb pellach i’r ymgyrch gan ein
cwrs hyfforddi Cynllunio Gofal a Thriniaeth
sydd newydd ei lansio ar gyfer defnyddwyr
gwasanaeth a gofalwyr, a hynny wedi i’r cwrs
ennill gwobr anrhydeddus ‘Care Programme
Approach Association’ am yr hyfforddiant
gorau, a hynny mewn seremoni wobrwyo ar
lefel y DU. Mae mwy o wybodaeth yma –
www.hafal.org
2013-14: CYFATHREBU EIN NEGES Ym 2013-14, roedd Hafal
wedi parhau i ymgyrchu er
mwyn sicrhau mwy o
degwch i ddefnyddwyr
gwasanaeth a gofalwyr.
“Y newyddion da yw bod pobl wedi bod yn bositif ar y cyfan ac yn galonogol am ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae ansawdd ac effaith y Cynlluniau Gofal a Thriniaeth yn amrywio ar draws Cymru ac mae angen gwneud mwynawr er mwyn sicrhau eu bod yn ffocysu ar ganlyniadau, yn cynnwys amcanion byrdymor a hirdymor ac wrth wraidd sut y mae gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yncael eu cynllunio a’u darparu.”
– Panel Defnyddwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Gofalwyr Golau! Camera! EWCH!
DIOLCH I CHIMae Hafal yn ddiolchgar i’r cyllidwyr canlynol
a wnaeth ein cefnogi ni yn ystod 2013/14
■ Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
■ Bwrdd Iechyd Hywel Dda
■ Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
■ Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg
■ Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr
■ Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r
Fro
■ COASTAL – Sir Benfro
■ Comic Relief
■ Cronfa’r Loteri Fawr
■ Cyngor a Dinas Abertawe
■ Cyngor Bro Morgannwg
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau
Gwent
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr
Tudful
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar
Ogwr
■ Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
■ Cyngor Dinas Caerdydd
■ Cyngor Dinas Casnewydd
■ Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
■ Cyngor Sir Benfro
■ Cyngor Sir Ceredigion
■ Cyngor Sir Ddinbych
■ Cyngor Sir Gaerfyrddin
■ Cyngor Sir Gwynedd
■ Cyngor Sir Fynwy
■ Cyngor Sir Fflint
■ Cyngor Sir Powys
■ Cyngor Sir Ynys Môn
■ Cysylltiadau Gwaith Newydd
■ Heddlu De Cymru
■ Janssen
■ Ludlow Street Healthcare
■ Llywodraeth Cymru
■ Partnerships in Care
■ Y Ganolfan Byd Gwaith
■ Ymddiriedolaeth James Tudor
■ Ymddiriedolaeth Waterloo
■ Ysbyty Annibynnol Rushcliffe
...ac i’r holl rai hynny a wnaeth gyfraniadau neu rhoi eu hamser, diolch i chi!
HafalYstafell C2, Tŷ William Knox
Ffordd BritannicLlandarsi
Castell-nedd SA10 6EL
Ffôn: 01792 816600 Ebost: [email protected]
Gwe: www.hafal.org
Mae Hafal yn elusen gofrestredig, rhif 1093747, ac yn gwmni cofrestredig,
rhif 4504443