4
Y TYST PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 45 Tachwedd 9, 2017 50c. Y GWIR AM EISTEDDFOD Y GADAIR DDU Nid peth newydd yw awydd gwleidyddion i wyrdroi newyddion neu ddefnyddio digwyddiadau trasig i’w pwrpas eu hunain. Dyna fu’r hanes yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw (Birkenhead) ar ddydd ‘cadeirio’ Hedd Wyn, fel esbonia’r Parchg Guto Prys ap Gwynfor, Llywydd Rhwydwaith Heddwch yr Annibynwyr. O ddarllen adroddiadau’r wasg o’r hyn ddigwyddodd yn Eisteddfod Birkenhead, fe welir bod cefnogwyr y rhyfel, gan gynnwys David Lloyd George a’r Parchg John Williams Brynsiencyn yn ogystal â threfnwyr yr Eisteddfod, wedi defnyddio marwolaeth Hedd Wyn fel modd i hyrwyddo cefnogaeth i’r rhyfel. Cynhaliwyd ‘Eisteddfod y Gadair Ddu’ ym mis Medi 1917. Oherwydd y rhyfel fe gyfyngwyd yr ŵyl i ddau ddiwrnod yn unig, gyda seremoni’r cadeirio ar yr ail ddiwrnod. Y Dagrau’n Llifo Roedd paratoadau manwl wedi eu gwneud ar gyfer y diwrnod; mae’n amlwg fod cydweithredu parod wedi bod rhwng trefnwyr yr Eisteddfod a’r gwleidyddion yn San Steffan. Yn ystod y bore bu digwyddiad emosiynol iawn pan alwyd ar filwr clwyfedig i esgyn i’r llwyfan ac adrodd ei hanes. Ef oedd arweinydd côr buddugol yn yr eisteddfod ddwy flynedd ynghynt, sef côr o aelodau un o gatrawdau’r fyddin. Cyhoeddwyd bod pob un o’r milwyr wedi eu lladd, ac mae’r arweinydd clwyfedig yn unig oedd ar ôl. Yr oedd y dagrau’n llifo a’r casineb at y gelynion barbaraidd ar gynnydd. Y Parchg Guto Prys ap Gwynfor yn adrodd yr hanes ar achlysur dathlu Diwrnod Rhyngwladol Heddwch yng Nghaerfyrddin. Anerchiad Lloyd George Dilynwyd hynny gan David Lloyd George yn rhoi ei anerchiad blynyddol. Yn Saesneg y traddododd oherwydd, meddai, bod ‘gwŷr pwysig’ wedi dod fyny o Lundain. Cafwyd araith danbaid o blaid trechu’r gelyn yn llwyr, a rôl anrhydeddus y Cymry yn y gwaith hwnnw. Bellach, roedd emosiwn y gynulleidfa wedi ei gynhyrfu’n llwyr gan huodledd tanllyd y Dewin o Ddwyfor. Seremoni’r Cadeirio Dilynwyd hyn gan seremoni’r cadeirio. Dyfed oedd yr archdderwydd ac fe aeth drwy’r rhan gyntaf o’r seremoni fel petai’n gwybod dim am yr hyn oedd i ddigwydd. Traddodwyd y feirniadaeth gan T. Gwynn Jones, na wyddai am y trefniadau. Wedi’r achlysur fe ffromodd am iddo gael ei ddefnyddio yn y fath fodd ysgeler. Wedi’r feirniadaeth gofynnodd yr archdderwydd i Fleur-de-lis godi ar ei draed, ond, wrth gwrs cododd neb. Daeth rhywun o gefn y llwyfan a sibrwd yng nghlust Dyfed. Ymatebodd yn ddramatig i’r newyddion a chyhoeddodd taw Hedd Wyn oedd y bardd buddugol a’i fod wedi ei ladd ychydig wythnosau ynghynt. Gorchuddiwyd y gadair â lliain du gyda’r dagrau’n ffrydio. Defnyddio Hedd Wyn i Hyrwyddo Rhyfel Do, defnyddiwyd y trychineb o golli bardd ifanc disglair i hyrwyddo a chefnogi rhyfel ffiaidd. Diolch i Dduw bod newid aruthrol wedi digwydd yn y modd yr ystyriwn yr anfadwaith hwn. Gyda llaw, celwydd llwyr oedd yr honiad bod aelodau’r côr wedi cael eu lladd yn y rhyfel. Fe gyhoeddwyd llythyr yn y wasg ymhen ychydig amser gan un o gyn aelodau’r côr yn datgan ei fod yn fyw! Hanes Lloegr a Phrydeindod sy’n cael ei ddysgu’n bennaf yn ein hysgolion o hyd. Fe wnaeth Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin, mewn Cwrdd Chwarter yn Seilo, Llangeler, bleidleisio’n unfrydol i gefnogi deiseb sy’n galw am ddysgu hanes Cymru yn ysgolion Cymru. Mae’r ddeiseb yn galw am ‘Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth’ Dyn ifanc o’r enw Elfed Wyn Jones sydd y tu ôl i’r ddeiseb ac mewn neges i Gyfundeb Gorllewin Caerfyrddin anogodd bawb i arwyddo er mwyn ‘gwybod y gwir am ein gwreiddiau, ac i ddysgu pob agwedd o hanes Cymru, y da a’r drwg i’n plant er mwyn dyfodol gwell a llwybr pendant i ddyfodol ein gwlad.’ Mae’r ddeiseb ar agor tan 1 Chwefror, 2018 ac mae Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin yn galw ar Gyfundebau eraill i wneud yr un peth, trwy annog eglwysi ac aelodau i arwyddo’r ddeiseb. Mae ymhell dros 3,000 eisoes wedi gwneud. Gellir dod o hyd i’r ddeiseb trwy ddilyn y ddolen: www.assembly.wales/cy/gethome/e- petitions/Pages/petitiondetail.aspx?PetitionID=1199 Diwrnod Llawn Roedd y ddeiseb ond rhan fechan o ddiwrnod llawn iawn. Yn y prynhawn fe wnaeth Geraint Tudur a Hefin Jones adrodd yn ôl ar Arolwg y Cyfundebau a chafwyd trafodaeth fuddiol ar ganlyniadau’r arolwg. Ac fel yr adroddwyd yn barod yn Y Tyst cafwyd cyflwyniad gwefreiddiol gyda’r hwyr gan Guto Prys ap Gwynfor am ei ewythr Simon Jones a oedd gyda Hedd Wyn pan laddwyd y bardd. Guto Llywelyn (Ysgrifennydd Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin) DYSGWCH HANES CYMRU I’N PLANT!

DYSGWCH HANES CYMRU I’N PLANT! - Annibynwyr · 2018. 1. 12. · Defnyddio Hedd Wyn i Hyrwyddo Rhyfel Do, defnyddiwyd y trychineb o golli bardd ifanc disglair i hyrwyddo a chefnogi

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: DYSGWCH HANES CYMRU I’N PLANT! - Annibynwyr · 2018. 1. 12. · Defnyddio Hedd Wyn i Hyrwyddo Rhyfel Do, defnyddiwyd y trychineb o golli bardd ifanc disglair i hyrwyddo a chefnogi

Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 45 Tachwedd 9, 2017 50c.

Y GWIR AM EISTEDDFOD Y GADAIR DDUNid peth newydd yw awydd gwleidyddion iwyrdroi newyddion neu ddefnyddiodigwyddiadau trasig i’w pwrpas eu hunain. Dynafu’r hanes yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw(Birkenhead) ar ddydd ‘cadeirio’ Hedd Wyn, felesbonia’r Parchg Guto Prys ap Gwynfor, LlywyddRhwydwaith Heddwch yr Annibynwyr.O ddarllen adroddiadau’r wasg o’r hyn ddigwyddoddyn Eisteddfod Birkenhead, fe welir bod cefnogwyr yrhyfel, gan gynnwys David Lloyd George a’r ParchgJohn Williams Brynsiencyn yn ogystal â threfnwyr yrEisteddfod, wedi defnyddio marwolaeth Hedd Wynfel modd i hyrwyddo cefnogaeth i’r rhyfel.Cynhaliwyd ‘Eisteddfod y Gadair Ddu’ ym mis Medi1917. Oherwydd y rhyfel fe gyfyngwyd yr ŵyl iddau ddiwrnod yn unig, gyda seremoni’r cadeirio aryr ail ddiwrnod.Y Dagrau’n LlifoRoedd paratoadau manwl wedi eu gwneud ar gyfer y diwrnod; mae’n amlwg fodcydweithredu parod wedi bod rhwng trefnwyr yr Eisteddfod a’r gwleidyddion yn SanSteffan. Yn ystod y bore bu digwyddiad emosiynol iawn pan alwyd ar filwr clwyfedig iesgyn i’r llwyfan ac adrodd ei hanes. Ef oedd arweinydd côr buddugol yn yr eisteddfodddwy flynedd ynghynt, sef côr o aelodau un o gatrawdau’r fyddin. Cyhoeddwyd bod pob uno’r milwyr wedi eu lladd, ac mae’r arweinydd clwyfedig yn unig oedd ar ôl. Yr oedd ydagrau’n llifo a’r casineb at y gelynion barbaraidd ar gynnydd.

Y Parchg Guto Prys ap Gwynfor ynadrodd yr hanes ar achlysur dathluDiwrnod Rhyngwladol Heddwch yng

Nghaerfyrddin.

Anerchiad Lloyd GeorgeDilynwyd hynny gan David Lloyd Georgeyn rhoi ei anerchiad blynyddol. YnSaesneg y traddododd oherwydd, meddai,bod ‘gwŷr pwysig’ wedi dod fyny oLundain. Cafwyd araith danbaid o blaidtrechu’r gelyn yn llwyr, a rôl anrhydeddusy Cymry yn y gwaith hwnnw. Bellach,roedd emosiwn y gynulleidfa wedi eigynhyrfu’n llwyr gan huodledd tanllyd yDewin o Ddwyfor.Seremoni’r CadeirioDilynwyd hyn gan seremoni’r cadeirio.Dyfed oedd yr archdderwydd ac fe aethdrwy’r rhan gyntaf o’r seremoni fel petai’ngwybod dim am yr hyn oedd i ddigwydd.Traddodwyd y feirniadaeth gan T. GwynnJones, na wyddai am y trefniadau. Wedi’rachlysur fe ffromodd am iddo gael eiddefnyddio yn y fath fodd ysgeler. Wedi’rfeirniadaeth gofynnodd yr archdderwydd iFleur-de-lis godi ar ei draed, ond, wrthgwrs cododd neb. Daeth rhywun o gefn yllwyfan a sibrwd yng nghlust Dyfed.Ymatebodd yn ddramatig i’r newyddion achyhoeddodd taw Hedd Wyn oedd y barddbuddugol a’i fod wedi ei ladd ychydigwythnosau ynghynt. Gorchuddiwyd ygadair â lliain du gyda’r dagrau’n ffrydio.Defnyddio Hedd Wyn i Hyrwyddo RhyfelDo, defnyddiwyd y trychineb o golli barddifanc disglair i hyrwyddo a chefnogi rhyfelffiaidd. Diolch i Dduw bod newid aruthrolwedi digwydd yn y modd yr ystyriwn yranfadwaith hwn. Gyda llaw, celwydd llwyroedd yr honiad bod aelodau’r côr wedi caeleu lladd yn y rhyfel. Fe gyhoeddwydllythyr yn y wasg ymhen ychydig amsergan un o gyn aelodau’r côr yn datgan eifod yn fyw!

Hanes Lloegr a Phrydeindod sy’n cael ei ddysgu’n bennaf ynein hysgolion o hyd. Fe wnaeth Annibynwyr GorllewinCaerfyrddin, mewn Cwrdd Chwarter yn Seilo, Llangeler,bleidleisio’n unfrydol i gefnogi deiseb sy’n galw am ddysguhanes Cymru yn ysgolion Cymru.Mae’r ddeiseb yn galw am ‘Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol adysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn einHysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth’ Dynifanc o’r enw Elfed Wyn Jones sydd y tu ôl i’r ddeiseb ac mewnneges i Gyfundeb Gorllewin Caerfyrddin anogodd bawb i

arwyddo er mwyn ‘gwybod y gwir am ein gwreiddiau, ac i ddysgupob agwedd o hanes Cymru, y da a’r drwg i’n plant er mwyndyfodol gwell a llwybr pendant i ddyfodol ein gwlad.’Mae’r ddeiseb ar agor tan 1 Chwefror, 2018 ac mae CyfundebGorllewin Caerfyrddin yn galw ar Gyfundebau eraill i wneud yrun peth, trwy annog eglwysi ac aelodau i arwyddo’r ddeiseb. Maeymhell dros 3,000 eisoes wedi gwneud. Gellir dod o hyd i’rddeiseb trwy ddilyn y ddolen: www.assembly.wales/cy/gethome/e-petitions/Pages/petitiondetail.aspx?PetitionID=1199

Diwrnod LlawnRoedd y ddeiseb ond rhan fechan o ddiwrnodllawn iawn. Yn y prynhawn fe wnaeth GeraintTudur a Hefin Jones adrodd yn ôl ar Arolwg yCyfundebau a chafwyd trafodaeth fuddiol arganlyniadau’r arolwg. Ac fel yr adroddwyd ynbarod yn Y Tyst cafwyd cyflwyniad gwefreiddiolgyda’r hwyr gan Guto Prys ap Gwynfor am eiewythr Simon Jones a oedd gyda Hedd Wyn panladdwyd y bardd.

Guto Llywelyn(Ysgrifennydd Cyfundeb Gorllewin Caerfyrddin)

DYSGWCH HANES CYMRU I’N PLANT!

Page 2: DYSGWCH HANES CYMRU I’N PLANT! - Annibynwyr · 2018. 1. 12. · Defnyddio Hedd Wyn i Hyrwyddo Rhyfel Do, defnyddiwyd y trychineb o golli bardd ifanc disglair i hyrwyddo a chefnogi

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Tachwedd 9, 2017Y TYST

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Diwrnod Gweinidogion y Gogledd

Festri Capel Coffa,Cyffordd Llandudno

LL31 9HDDydd Iau, 30 Tachwedd 2017

Byddwn yn dechrau am 10.30am gyda phaned a chroeso

‘Diffinio ac Ailddiffinio’Mrs Delyth Wyn Davies

Swyddog Dysgu a Datblygu Cymru,yr Eglwys Fethodistaidd

‘Y Ffordd y Daethom: Oes y Saint’

Y Parchedig J. Lloyd JonesFicer Plwyf Beuno Sant

UwchgwyrfaiBydd y cyfarfod yn gorffen am 1.00pm.

Os am gael cinio,cysyllter â Thŷ John Penri ar

01792-795888neu trwy e-bost at

[email protected] ymlaen at groesawu’r

Gweinidogion i Gyffordd Llandudno

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Diwrnod iWeinidogion y DeFestri Capel Bethania,Tymbl Uchaf SA14 6EDDydd Iau, 9 Tachwedd 2017

11.00am – 3.30pm

‘Paratoi cyflwyniadau argyfer gwasanaethau’

Rhodri DarcySwyddog Hyrwyddo a Chyfathrebu’r Undeb

‘Pam cefnogi Madagascar?’Robin Samuel

Swyddog Cynnal ac Adnoddau De Cymru

Darperir cinio am ddimEdrychwn ymlaen at groesawu’rgweinidogion i’r Tymbl Uchaf

Anfonwch e-bost [email protected]

neu ffoniwchDŷ John Penri (01792-795888)

erbyn 3 Tachwedd i sicrhau eich cinio.

Rhaid i’r eglwys fod yn bontMae’r dywediad ‘A fo ben, bid bont’ yn dod o’r hanes yn y Mabinogion am y cawrBendigeidfran. Dyna oedd thema noson o hyfforddiant mewn cenhadaeth dan arweiniady Parchg Robin Wyn Samuel, Swyddog Cyswllt ac Adnoddau Undeb yr Annibynwyr ynne Cymru, yn Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman dan nawdd Cyfundeb DwyrainCaerfyrddin a Brycheiniog. Dyma adroddiad y Parchg Emyr Gwyn Evans.Trafodwyd gwahanol ffyrdd o sut i bontio â’r gymuned leol yn ystod y cyfarfod. Cawsomarweiniad pwrpasol trwy’r defnydd o BwyntPwer a ‘flip chart’ gyda thrafodaeth agoredymhlith cynrychiolwyr yr eglwysi ddaeth ynghyd. Roedd tair elfen i’r cyflwyniad a’rarweiniad gan Robin. Eglwys Groesawgar?Yn gyntaf, ystyriwyd yr ymadrodd ‘Croeso cynnes iawn i bawb’. Mae pob eglwys achymdeithas yn hoffi meddwl eu bod yn groesawgar, a buom yn ystyried gwahanol ddefnydd oadeiladau’r eglwysi, a sut i ddelio gyda sefyllfaoedd allai godi ar y Sul mewn addoliad. Er

engraifft, beth petai pobl ddieithryn y gynulleidfa, a hwythau’nddi-Gymraeg, neu wedi gwisgo’namheus? Sut fyddem yn croesawupetai aelod oedd wedi cadw drawo’r capel am amser hir, oherwyddrhyw anghydfod a achosodd, ynbresennol un Sul, neu, sut groesoroddem i aelod/au oedd yn

bresennol nad oeddem wedi eu gweld ers amser maith? Sut fyddem yn ymateb i gais merchifanc am gael priodi yn y capel, neu beth fyddai ein hymateb i gais am gael defnyddio’r festrineu’r capel gan gymdeithas leol yn y gymuned neu gôr lleol, neu gan geiswyr lloches neuaelodau o’r gymuned fyddai am le i gyfarfod i weddïo? Dyna’r math o gwestiynau a holwyd.Roedd y cwestiynau a’r sefyllfaoedd allai godi, a’n hymateb iddynt yn ein herio wrth ystyriedpa mor groesawgar ydym yn yr eglwysi mewn gwirionedd, ac a yw aelodau o’r gymuned yn eichael hi’n hawdd dynesu atom. Ond roedd yna unfrydedd barn yn ein plith mai peth da yw bodein hadeiladau yn cael eu defnyddio gymaint â phosibl yn lleol yn y gymuned, yn hytrach nachael eu gweld fel adeiladau segur, a Christnogion ac eglwyi fel rhai ‘negyddol’.Ble mae’r Pontydd?Gyda llun o bont gyfoes ar y sgrin o’n blaenau, yr ail ran i’rcyflwyniad oedd y cwestiwn ‘Ble mae’r pontydd sydd ynbodoli eisioes ym mherthynas yr eglws a’r gymuned?’ gydaRobin yn nodi yr atebion lluosog gafwyd yn y drafodaeth ary ‘flip chart’. Roedd yn galonogol meddwl sut mae’reglwysi, trwy eu gweithgareddau a bywydau unigolion syddynglwm â gwahanol gymdeithasau a mudiadau, yn pontiogyda’r gymuned, ac yn tystio trwy eu bywydau yn ygwahanol gylchoedd y maent yn troi ynddynt. Gydachymaint o gyfleoedd y mae’n drueni ein bod mor swil i siarad am Iesu Grist a newyddion da’rEfengyl, a gofynnwyd, ‘a ydym yng ngweddïau yr eglwys ar y Sul yn eiriol ar ran yraelodau?’ wrth feddwl am eu diddordebau, eu gwaith, eu hymrwymiadau a’r cyfleoedd ddawiddynt yn eu bywydau yn ystod yr wythnos. Dylem feddwl a chofio am y pethau hyn yn eingweddïau cyhoeddus a phreifat. Gwnaed y sylw nad yw llawer o bobl yn darllen y Beibl, ondeu bod yn ein darllen ni wrth ein gweld a’n gwylio yn ein bywydau. Astudio’r BeiblAstudaeth Feiblaidd gafwyd yn nhrydydd rhan cyflwyniad Robin. Darllenodd hanes Iesu ynsiarad â gwraig o Samaria, ac roeddem i dynnu allan o’r stori yr hyn y mae’n ei olygu i fod ynbont. A heb i Robin ymhelaethu dim, cafodd aelodau’r gynulleidfa, trwy ystyried ymddygiadIesu, weld a dirnad trwy eu hatebion, ie, ‘beth y mae’n ei olygu i fod yn bont?’ Ac wrth sylwiar esiampl Iesu yn y stori, roedd yr atebion yn dreiddgar, yn ddadlennol iawn ac yn heriol.Ymlacio dros banedWedi’r cyflwyniad a’r drafodaeth cafodd pawb ymlacio dros baned, a diolch i gyfeillionGellimanwydd am eu lletygarwch. Yr oedd pawb ddaeth ynghyd yn tystio cymaint yr oeddentwedi gwerthfawrogi’r sesiwn ac wedi ymelwa wrth feddwl am oblygiadau ein cenhadaeth felCristnogion ac eglwysi Iesu Grist yn ein cymunedau.

Ni thrafodwyd yr atebion gafwyd yn yr ysgrif hon, er tegwch i Robin, oherwydd pe baieglwys, eglwysi neu gyfundeb yn dymuno cael yr un arweiniad ganddo, y mae’n werth eiwahodd atoch, gan gofio y byddai’r atebion wrth reswm yn gwahaniaethu mewn trafodaethaucylchoedd gwahanol. Mawr yw ein diolch i Robin yn ein Cyfundeb am ddod atom ac am eiarweiniad buddiol ac adeiladol.

Page 3: DYSGWCH HANES CYMRU I’N PLANT! - Annibynwyr · 2018. 1. 12. · Defnyddio Hedd Wyn i Hyrwyddo Rhyfel Do, defnyddiwyd y trychineb o golli bardd ifanc disglair i hyrwyddo a chefnogi

Barn AnnibynnolTachwedd 9, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

Am flwyddyn neu ddwy pan oedden nitua 8 a 10 oed, cafodd fy mrawd aminnau’r dasg o fynd o gwmpas ypentre’n gwerthu’r pabi coch. Does geni ddim syniad sut na pham y cawson ni’rgwaith ond, hyd y cofia i, roedden ni’nmynd yn ddigon bodlon. Mae’n debygbod y syniad o helpu ‘pobol oedd wedicael dolur yn y rhyfel’ yn apelio acroedden ni’n cael croeso ym mhob mana phawb yn prynu pabi. Y peth rwy’ngofio fwyaf am y profiad oedd hen boblar gyrion y pentre’n gofyn ‘A pwy alla iweud ŷch chi?’ Wrth bwy roedden nhwam ddweud?!

Does gen i ddim cof i mi brynu pabi fyhunan erioed. Erbyn i mi gyrraeddoedran prynu pabi, roeddwn i’n gweld ypabi coch fel symbol o Brydeindod amilitariaeth ac felly doeddwn i ddim amwisgo un. Serch hynny, o bryd i’wgilydd, mi fydda i’n rhoi arian yn y bocsyn y gobaith y bydd yn gwneud bywydyn haws i rywun sy’n dioddef, ond hebgymryd y pabi.Mae’n chwithig meddwlbod angen i’r cyhoedd gyfrannu atelusen i gynnig gwasanaethau achymorth meddygol a chymdeithasol iaelodau a chyn-aelodau o’r lluoeddarfog. Onid y Llywodraeth ei hunanddylai fod yn gwneud hynny?

Dros y blynyddoedd diwethaf, maemwy a mwy o bobl wedi bod yn mynegianesmwythyd â’r ffordd y caiff y pabi eidrin gan y sefydliad. Am gyfnodsylweddol cyn Sul y Cofio, mae pobl arraglenni teledu yn gwisgo pabi – go brin

bod pob un o’r rhain wedi cyrraedd ystiwdio â’r pabi ar eu brest. Yn wir, maecyflwynwyr rhaglenni newyddion wedicwyno bod pwysau arnynt i wisgo’r pabicoch er na chaniateir iddynt wisgosymbolau gan elusennau eraill y maentyn eu cefnogi. Mae rhywbeth o’i le panfo pobl dan bwysau i ddangos symbol o‘wladgarwch’ fel hyn. Mae’r arferiad owisgo’r pabi yn colli rhywfaint o’i werthpan fydd gorfodaeth ar rywun i wneudhynny. Dylai fod yn ddewis gwirfoddolond aeth bron yn brotest wleidyddol ibeidio â gwisgo pabi mewn rhaisefyllfaoedd cyhoeddus.

Wrth gwrs, mae angen cofio am y llumawr o bobl sydd wedi’u lladd neu wedidioddef mewn unrhyw ffordd oganlyniad i ryfeloedd ond mae llawer ynpryderu bod y pabi coch wedi’iherwgipio mewn ffordd gan rai sy’ngefnogol i weithredoedd milwrolpresennol, mewn mannau fel Irac aSyria.

Mae pabi arall i’w gael – y pabi gwyn.Wrth wisgo hwn, mae rhywun yndangos eu bod yn cofio pawb sydd wedidioddef ym mhob rhyfel, yn cynnwysrhyfeloedd presennol. Mae’n cynnwyspobl o bob cenedl, sifiliaid ac aelodau’rlluoedd arfog. Mae’r pabi gwyn yn fforddo gofio pawb a wnaed yn sâl neu’nddigartref gan ryfel a’r teuluoedd a’rcymunedau a chwalwyd. Mae hefyd ynarwydd ein bod yn cofio pobl a laddwydneu a garcharwyd am wrthod ymladd.Dyma ffordd o fynegi’r sicrwydd bodgwell ffyrdd o ddatrys anghydfod nathroi at drais.

Hyd yma dydw i ddim wedi gwisgopabi gwyn chwaith. Rwy wedi bod

ychydig bach yn ansicr am ryw reswm –er mod i’n llwyr gefnogi ei arwyddocâd.Efallai fy mod yn bryderus y byddai’nymddangos yn sarhaus i bobl sy’ngwisgo pabi coch am resymau dilys ahollol ddealladwy. Ond yn ddiweddar,ymddangosodd stori yn y wasg yndweud bod y Cyrnol Richard Kemp, cynbennaeth lluoedd arfog Prydain ynAffganistan, yn gwrthwynebu’r bwriad iwerthu’r pabi gwyn, ochr yn ochr â’rpabi coch, mewn rhai ysgolion. Roeddwedi clywed am fwriad y Peace PledgeUnion i gyflwyno pecyn heddwch argyfer ysgolion uwchradd yn cynnwystaflenni, adnoddau i’w trafod a phabïaugwynion i’w gwerthu. Ond, ym marn yCyrnol, ni ddylai athrawon, sy’n cael eutalu o’n trethi ni, ddefnyddio’u safle iwthio syniadau am heddychiaeth arblant. Eto, meddai, ‘The red poppy,Remembrance Sunday and everythingaround it - these are institutions of thestate and that is our tradition. It is rightthat schools should sell red poppies andtake part in this.’

Pabi gwyn i mi eleni, dwi’n meddwl.Sian Roberts

(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol oreidrwydd yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr

Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)

COLEG YR ANNIBYNWYR CYMRAEGCyfarfod Blynyddol y TanysgrifwyrDydd Mercher, 6 Rhagfyr am 2.00

Noddfa Bow St, AberystwythTrefor Jones-Morris

Seion, Porth TywynMae llun mewn ffrâm o un o gyn-weinidogion yr eglwys, y diweddarBarchg Athro Emrys Jones, ar gael irywun a fyddai'n ei werthfawrogi.

Cysyllter ag Owen Thomas:[email protected]

01554 834118

Cyfundeb Llŷn ac Eifionydd

Salem, Y FfôrCynhelir Oedfa Ddatgorffori’r

eglwys uchodNos Fercher

15 Tachwedd, 7.00 p.m.Capel Ebeneser, y Ffôr.

Oedfa o dan arweiniady Parchg Euros Wyn Jones

CYDNABOD CYFRANIAD TRYSORYDDBu Syr Eric Howells yn wynebcyfarwydd ar y teledu fel un ogeffylau blaen y Blaid Geidwadolyng Nghymru am gyfnod hir. Ondmae Syr Eric hefyd wedi rhoi 40mlynedd o wasanaeth fel Trysoryddeglwys Annibynnol Bethel,Llanddewi Efelfre ger Hendygwyn-ar-daf, ac i nodi’r garreg filltir honnofe gyflwynwyd Beibl iddo fel arwyddo ddiolch. Roedd y Beibl wedi eiarwyddo gan aelodau a ffrindiauBethel a hynny heb yn wybod i SyrEric! Roedd aelodau o ddwy eglwysarall yn yr ofalaeth wedi ymuno’n lluyn yr oedfa, gyda Dorothy Morris(Trinity, Llanboidy) yn darllen a MelJenkins (Tabernacl, Hendy-gwyn) yngweddïo. Fe wnaeth teulu Syr Erichefyd gymryd rhan yn yr oedfa.

Diolchwyd i Syr Eric Howells am ei frwdfrydedd bob amser dros yr achos ac am eiweledigaeth yn mentro ar gynlluniau newydd yn gyson. Y trysorydd newydd fydd TudorEynon, sydd eisoes wedi dechrau ar ei waith.

Syr Eric Howells gyda’i wraig Maisie

Page 4: DYSGWCH HANES CYMRU I’N PLANT! - Annibynwyr · 2018. 1. 12. · Defnyddio Hedd Wyn i Hyrwyddo Rhyfel Do, defnyddiwyd y trychineb o golli bardd ifanc disglair i hyrwyddo a chefnogi

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Ty John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Tachwedd 9, 2017Y TYST Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

GolygyddAlun Lenny

Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

E-bost: [email protected]

Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

JOHN CEURWYN EVANS

1929–2017Blin gennym gofnodimarwolaeth un ogyn-lywyddionUndeb yrAnnibynwyrCymraeg, JohnCeurwyn Evans o’rWyddgrug, yn 87 oed.Fe ddaeth Mr Evans, oedd yn athrocerdd wedi ymddeol, i gadair yr Undebyng Nghyfarfodydd Blynyddol Llanelli1999. Ef, felly, oedd y Llywydd drosflwyddyn troad y mileniwm. Traddododdanerchiad ar y testun ‘Holwn einhunain.’ Rydym yn cydymdeimlo’nddwys gyda’i weddw, Mrs Sylvia Evans,a gweddill y teulu yn eu profedigaeth.

Cymanfa Ganu LwyddiannusPontarddulais a’r Hendy

Arweinydd gwadd Cymanfa Ganu undeboleglwysi’r cylch eleni oedd Catrin Hughes,sy’n adnabyddus fel arweinydd uchel eipharch yng Nghymru. Mae’n gyfarwyddwrCerdd Côr Merched Lleisiau’r Cwm addaeth i’r brig yng nghystadleuaeth CôrMerched Cymru yn 2005 a Chôr MerchedCantata fu’n fuddugol yng nghystadleuaethCôr Merched Cymru yn 2009.

Roedd y Gymanfa eleni yn ddathlu 300mlwyddiant geni William WilliamsPantycelyn – gyda nifer dda o ffrindiauwedi troi i fewn i ymuno â ni yn eindathliad arbennig. Braf oedd gweld y capelyn llawn ar gyfer Cymanfa’r Ifanc yn ybore. Cefnogwyd y Gymanfa eleni eto ganYsgolion Cynradd yr Hendy a Bryniago, acYsgolion Cyfun y Strade a Gŵyr. Rydym

fel eglwysi yn ymfalchio yn y bedair ysgolhon ac yn gwerthfawrogi yn fawr eucefnogaeth a’u cyfraniad i’r Gymanfa.Plant yr ysgol Sul fu’n cyflwyno’r emynaua rhaid eu llongyfarch am safon eucyflwyniadau. Cyflwynwyd y rhannauarweiniol yn raenus iawn gan Harri aHeledd o Ysgol Sul Hope-Siloh. Roedd yGymanfa yn llawn hwyl a’r ieuenctid wrtheu bodd yn canu’r emynau i gyfeiliantAled, Christopher, Ian a Luned Mair.

Llywydd yr hwyr oedd Gwyn Jones oGapel y Tabernacl gydag Ian Lewis ynchwarae’r organ. Cyflwynwyd y rhannauarweiniol yn ddefosiynnol iawn gan BerylRencontre a Meriel Davies, hefyd o Gapel

y Tabernacl. Cafwyd canudeallus, cerddorol adisgybledig o dan arweiniadmedrus Catrin Hughes.Cyflwynwyd eitem ganbarti Lleisiau Lliw a diolchiddynt am gyfraniadgwerthfawr iawn. Bu’rGymanfa yn llwyddiantmawr eleni eto, ac fel arferrydym yn ddiolchgar iawn iEric Jones am ei waithcaled a diflino yn hyfforddimynychwyr yr Ysgol Gânyn ystod mis Medi.Edrychwn ymlaen atglywed detholiad o’rGymanfa ar ‘Caniadaeth yCysegr’ yn y dyfodol