13
Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available in English Mae'r adroddiad hwn hefyd ar gael yn Saesneg Dyddiad Cwblhau'r Arolygiad 13/02/2020

Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyferThe Green Giraffe Day Nursery

Green Giraffe Day Nursery2 Heol y Gadeirlan

CaerdyddCF11 9LJ

This report is also available in English

Mae'r adroddiad hwn hefyd ar gael yn Saesneg

Dyddiad Cwblhau'r Arolygiad13/02/2020

Page 2: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

Llywodraeth Cymru © Hawlfraint y Goron 2020. Cewch ddefnyddio ac ailddefnyddio’r wybodaeth sydd yn y cyhoeddiad hwn (ac eithrio'r logos) yn ddi-dâl, mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. Gallwch weld y Drwydded Llywodraeth Agored ar wefan yr Archifau Gwladol, neu gallwch ysgrifennu at The Information Policy Team, The National Archives, Kew, London, TW9 4DU, neu anfon e-bost at: [email protected] Rhaid i chi atgynhyrchu ein deunydd yn fanwl gywir a pheidio â’i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.

Page 3: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

Graddau Yr hyn y mae'r graddau yn ei olygu

Rhagorol Dyma wasanaethau sy'n ymrwymedig i welliant parhaus ac sydd â llawer o gryfderau, gan gynnwys enghreifftiau arwyddocaol o ymarfer ac arloesi sy'n arwain y sector. Mae'r gwasanaethau hyn yn darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel a gallant ddangos eu bod yn gwneud cyfraniad cadarn tuag at wella llesiant plant.

Da Dyma wasanaethau sydd â chryfderau a heb unrhyw feysydd pwysig sydd angen eu gwella'n sylweddol. Maent yn rhagori ar y gofynion sylfaenol yn gyson, gan sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant a hybu eu llesiant yn rhagweithiol.

Digonol Dyma wasanaethau lle mae mwy o gryfderau na meysydd i'w gwella. Maent yn ddiogel ac yn bodloni'r gofynion sylfaenol ond mae angen gwelliannau er mwyn hybu llesiant a gwella canlyniadau i blant.

Gwael Dyma wasanaethau lle mae mwy o feysydd pwysig i'w gwella na chryfderau ac mae enghreifftiau arwyddocaol o ddiffyg cydymffurfio sy'n effeithio'n negyddol ar lesiant plant. Lle mae gwasanaethau'n wael, byddwn yn cymryd camau gorfodi ac yn cyflwyno hysbysiad diffyg cydymffurfio.

Page 4: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

Disgrifiad o'r gwasanaethMae'r gwasanaeth wedi'i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddarparu gofal dydd llawn ar gyfer 96 o blant. Mae wedi'i leoli ar gyrion canol dinas Caerdydd ac mae'n cael budd o fod yn agos i Barc Bute. Mae'r feithrinfa ar agor rhwng 7:45 a 6pm bob diwrnod yn ystod yr wythnos ac mae'n darparu gofal i blant rhwng chwe wythnos oed a phum mlwydd oed. Andrea McCormack yw'r person cofrestredig a pherchennog y gwasanaeth, ac mae wedi penodi person â chyfrifoldeb sy'n gymwys a phrofiadol a fydd yn gyfrifol am y gwasanaeth o ddydd i ddydd. Gwasanaeth Saesneg yw'r gwasanaeth hwn sy'n defnyddio'r Gymraeg yn achlysurol gyda'r plant.

CrynodebThema GraddLlesiant Da

Gofal a Datblygiad Da

Yr Amgylchedd Da

Arwain a Rheoli Da

1. Asesiad cyffredinolMae amrywiaeth dda o adnoddau ysgogol ac ystyrlon ar gael i'r plant sy'n hyrwyddo eu datblygiad. Maent yn cael lefel dda o ofal sy'n bersonol i bob plentyn. Mae'r plant wedi setlo'n dda ac maent wedi meithrin cydberthnasau da â'u gofalwyr. Caiff y gwasanaeth ei reoli'n effeithiol gan y person cofrestredig a'r person â chyfrifoldeb sy'n brofiadol ac yn gymwys iawn.

2. GwelliannauMae'r gwasanaeth yn cynnig rhaglen ymweliadau â'r cartref i bob plentyn ar ôl ei sesiwn setlo gyntaf er mwyn cwrdd â'r gweithiwr allweddol dynodedig.

3. Gofynion ac argymhellion Ni wnaethom nodi unrhyw faterion diffyg cydymffurfio yn ystod yr arolygiad hwn. Caiff argymhellion parhaus eu rhestru yn adran 5.2 yr adroddiad hwn.

Page 5: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

1. Llesiant DaCrynodeb

Caiff y plant eu hannog i wneud dewisiadau ac maent yn fodlon yn y gwasanaeth. Maent yn cael eu cefnogi i feithrin cydberthnasau cadarnhaol, ac mae eu sgiliau cymdeithasol yn datblygu'n unol â'u hoedran a'u cam datblygu.

Ein canfyddiadau

Mae gan y plant lais yn y gwasanaeth hwn. Mae cyfleoedd da iddynt benderfynu beth yr hoffent chwarae â nhw, ac mae'r adnoddau sydd ar gael ym mhob ystafell yn addas ar gyfer eu hoedran a'u cam datblygu. Gall plant o bob oedran ddewis eu cyfarpar chwarae ac mae'r staff wrth law i gefnogi os oes angen. Caiff hunanfynegiant y plant ei annog ac mae enghreifftiau o waith celf y plant wedi'u harddangos ym mhob ystafell.

Mae'r plant yn hapus, wedi setlo ac yn ddiogel ac mae cydberthnasau cryf yn datblygu rhwng y staff a'r plant. Mae'r staff yn ofalgar, yn fagwrus ac yn rhoi sylw i anghenion y plant, ac mae nifer o'r plant yn mynd atynt i gael cysur a thawelwch meddwl. Mae rhai o'r plant hŷn yn hapus i rannu eu teimladau ac mae'n glir eu bod yn mwynhau mynd i'r feithrinfa ac yn mwynhau chwarae gyda'i ffrindiau.

Mae'r rhan fwyaf o'r plant yn dangos ymddygiad da a chadarnhaol ac mae'r staff yn canmol hyn yn gyson. Mae'r plant yn dyfalbarhau ac yn aros yn amyneddgar i gymryd eu tro i wneud gweithgareddau gyda'i gilydd ac mae rhai o'r plant yn gofyn i'r oedolion gymryd rhan yn eu chwarae. Mae rhai o'r plant hŷn yn cyfathrebu ac yn trafod eu gweithredoedd wrth chwarae gyda'i gilydd, ac mae rhai o'r plant iau yn hapus i rannu eu blociau adeiladu gyda'u cyfoedion.

Mae'r plant yn cael llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a dysgu priodol, yn ogystal â rhai cyfleoedd i ymlacio a chael amser tawel yn ystod y dydd. Mae rhai o'r plant yn dewis amser tawel ac ymlacio â llyfr ac mae grwpiau bach o blant yn cymryd rhan mewn sesiwn canu digymell gydag aelod o'r staff. Mae'r plant yn gwahodd y staff i chwarae a gwelsom fod hyn yn digwydd yn rheolaidd ym mhob rhan o'r gwasanaeth. Gwnaeth grŵp o blant mewn un prif ystafell wahodd aelod o'r staff i gymryd rhan yn eu gweithgaredd adeiladu blociau a oedd yn galluogi eu chwarae i gael ei ymestyn ymhellach, gydag aelod o'r staff yn ychwanegu iaith briodol.

Mae'r plant yn mwynhau cyfleoedd chwarae a arweinir gan blant, yn ogystal â gweithgareddau a arweinir gan oedolion. Maent yn cael eu hannog i olchi eu dwylo'n annibynnol, ond mae'r staff ar gael i'w cefnogi lle bo angen. Gwelsom fod rhai o'r plant yn gwisgo eu cotiau eu hunain ar gyfer chwarae yn yr awyr agored, a'u bod yn hyderus i ofyn am gymorth i gau sipiau pan fo angen. Caiff annibyniaeth y plant ei annog ym mhob rhan o'r gwasanaeth, ond gellid datblygu hyn ymhellach. Er enghraifft, yn ystod prydau bwyd pan nad yw'r plant yn gweini'r bwyd eu hunain nac yn helpu eu hunain i ddiodydd.

Page 6: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

2. Gofal a Datblygiad Da

Crynodeb

Mae'r tîm o staff yn gweithio'n dda gyda'i gilydd. Mae disgwyliadau cyson o ran ymddygiad, a chaiff y rhyngweithio ei reoli'n dda. Mae system dda ar waith i fonitro ac olrhain datblygiad y plant. Nid oedd llawer o Gymraeg i'w chlywed yn ystod yr arolygiad – mae angen datblygu hyn ymhellach.

Ein canfyddiadau

Mae'r staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o ran cadw'r plant yn ddiogel. Ar y cyfan, mae'r hyfforddiant gorfodol yn gyfredol, ond gwelsom nad oedd nifer o'r staff wedi cael hyfforddiant gloywi na hyfforddiant diweddar ar ddiogelu, na hyfforddiant ar ddiogelwch bwyd. Mae'n rhaid i bob aelod o'r staff gael diweddariadau a hyfforddiant rheolaidd ar amddiffyn plant. Mae dewisiadau bwyd da ar gael i'r plant, ac mae'r bwydlenni yn faethlon ac yn cynnwys ffrwythau a llysiau organig lle y bo'n bosibl, sy'n cael eu paratoi mewn cegin lân a threfnus. Gwelsom aelodau o'r staff ym mhob un o'r prif ystafelloedd yn mynd â grwpiau o blant i olchi eu dwylo yn yr ystafelloedd ymolchi ac yn annog arferion hylendid da. Caiff alegerddau ac anoddefiadau bwyd eu rheoli'n dda iawn ac mae systemau cadarn a thrylwyr ar gyfer y rhain. Caiff ffurflenni damweiniau a digwyddiadau eu cofnodi yn effeithiol ac mae system ar waith lle mae'r person â chyfrifoldeb yn monitro tueddiadau ac amlder damweiniau yn fisol. Mae gweithdrefnau ar waith i fonitro a chofnodi anafiadau presennol. Mae asesiadau risg ar waith ar gyfer chwarae yn yr awyr agored ac mae'r staff yn mynd â bocsys cymorth cyntaf ar daith gerdded i Barc Bute.

Mae pob aelod o'r staff yn gweithio yn unol â'u polisi rheoli ymddygiad. Maent yn ymddwyn fel modelau rôl da a chlywsom“kind hands” a “be gentle” i atgyfnerthu ymddygiad da. Hefyd, clywsom y staff yn canmol ymddygiad da y plant. Mae'r staff yn gyson yn y ffordd maent yn trin y plant, ac mae awyrgylch tawel a magwrus ym mhob rhan o'r feithrinfa.

Penodir gweithiwr allweddol i bob plentyn, sy'n gyfrifol am gydgysylltu â'r rhieni a sicrhau bod cofnodion y plant a'r wybodaeth amdanynt yn gyfredol. Mae'r staff yn ymwybodol iawn o gamau datblygu'r plant ac yn annog y plant sy'n ymarfer mynd i'r toiled drwy eu hatgoffa i ddefnyddio'r toiled yn rheolaidd. Mae'r staff yn gwneud defnydd da o wefan olrhain datblygiad sy'n eu galluogi i gynllunio'n effeithiol ar gyfer anghenion unigol y plant. Caiff y gwaith o gynllunio a gwerthuso ei gwblhau yn wythnosol gan aelod o'r staff ym mhob un o'r prif ystafelloedd a'i oruchwylio gan reolwr ansawdd y blynyddoedd cynnar. Mae'r rhieni yn gwerthfawrogi'r ap digidol y mae'r staff yn ei ddiweddaru yn rheolaidd drwy gydol y dydd gyda gwybodaeth am ofal eu plentyn. Mae pob aelod o'r staff yn annog y plant i ddatblygu chwilfrydedd am eu bywydau a'u credoau gwahanol drwy ddathlu amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol gwahanol. Gwnaethom siarad â nifer o'r rhieni a ddywedodd wrthym eu bod wedi dewis y feithrinfa oherwydd elfen ddwyieithog y gofal. Fodd bynnag, ni chlywsom lawer o Gymraeg yn ystod ein hymweliad.

Page 7: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

3. Yr Amgylchedd Da

Crynodeb

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o dŷ pedwar llawr mawr ar gyrion canol dinas Caerdydd. Mae'r safle yn ddiogel, yn fawr ac yn ddeniadol gyda Pharc Bute y tu ôl iddo, sy’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan y plant a’r staff. Mae pedair prif ystafell ar wahân er mwyn gofalu am y plant yn unol â'u hoedran a'u cam datblyg.

Ein canfyddiadau

Mae'r person â chyfrifoldeb a'i thîm yn sicrhau bod y safle yn ddiogel a chaiff pawb sy'n mynd i mewn i'r adeilad eu monitro’n ofalus. Defnyddir sganwyr olion bysedd i fynd i mewn i bob ardal. Mae'r staff yn goruchwylio'r plant mewn ffordd effeithiol ac yn dilyn polisïau a gweithdrefnau'r gwasanaeth. Mae'r staff yn cyfrif y plant yn rheolaidd wrth iddynt symud o un rhan o'r adeilad i’r llall, neu pan fyddant yn mynd i'r ardal awyr agored. Mae cofrestr yn cofnodi amseroedd cyrraedd a gadael pob plentyn. Mae asesiadau risg ar waith ar gyfer pob gweithgaredd a phob ardal, gan gynnwys yr ardd a chludo plant i'r ysgol a'u casglu oddi yno. Mae rotas glanhau ar waith a rhestrau gwirio sy'n sicrhau bod y safle yn cael ei gynnal a'i gadw yn dda i safon uchel.

Mae cyfleusterau cysgu ar wahân ar gyfer babanod mewn cotiau ar yr ail lawr sy'n cael eu monitro bob amser gan aelod o'r staff. Mae ardaloedd gorffwys ym mhob un o'r prif ystafelloedd hyn. Mae'r staff yn cynnal ymarferion tân bob chwarter ac mae'r cofnodion yn cynnwys gwerthusiad o bob ymarfer. Mae'r rheolwr cofrestredig yn bwriadu cynyddu amlder yr ymarferion tân oherwydd maint a chynllun yr adeilad, a'r angen i bob aelod o'r staff ymarfer a datblygu hyder gyda'r weithdrefn. Caiff y systemau nwy a thrydan eu profi a'i gwirio yn rheolaidd, ac maent yn bodloni'r gofynion diogelwch. Mae'r gegin yn lân ac yn bwrpasol ac mae staff y gegin yn rheoli pa mor aml y mae'r staff yn mynd i mewn i'r ystafell i gasglu bwyd i'w ddosbarthu i'r prif ystafelloedd unigol. Nid yw'r plant yn mynd i'r ardal hon.

Mae'r arweinwyr a'r staff yn darparu amgylchedd cyfoethog ar gyfer dysgu a datblygiad y plant sy'n ddeniadol a chroesawgar ac yn addas ar gyfer oedran a cham datblygu'r plant. Mae'r adnoddau yn amrywiol ac yn ysgogol, a defnyddir deunyddiau naturiol cymaint â phosibl, sy'n hyrwyddo ethos o gynaliadwyedd ac sy'n braf a deniadol. Mae amrywiaeth dda o gyfarpar a phrofiadau ar gael i'r plant sy'n newid i ymateb i'w hanghenion. Caiff cyfleusterau'r plant eu cynnal a'u cadw'n dda, a cheir dodrefn a ffitiadau cadarn o ansawdd uchel. Mae cadeiriau uchel ac isel i fabanod ac ardaloedd gyda llenni a deunyddiau i'r plant ymlacio pan fo angen. Mae'r cyfleusterau newid cewynnau yn lân, yn ffres ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac yn cydymffurfio ag egwyddorion rheoli heintiau.

Mae ardal chwarae ddeniadol yn yr awyr agored yn darparu cyfleoedd diddorol i'r plant gymryd rhan mewn chwarae corfforol a gweithredol. Mae'r ardal hon yn cynnwys cegin fwd, chwarae dŵr a chryndo cyfforddus lle mae'r plant yn darllen a sgwrsio â'u ffrindiau. Roedd y

Page 8: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

staff hefyd yn defnyddio gerddi eang Parc Bute a leolir y tu ôl i'r safle, sy'n darparu cyfleoedd rhagorol i archwilio a chanfod.

Page 9: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

4. Arwain a Rheoli DaCrynodeb

Mae gan y person cofrestredig a'r person â chyfrifoldeb weledigaeth glir sy'n seiliedig ar ddarparu gwasanaeth diogel a dibynadwy i deuluoedd sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Mae rhai systemau effeithiol ar waith i fonitro a gwerthuso ansawdd y gwasanaeth, ac mae'r arweinwyr yn ymrwymedig i wella'r gwasanaeth. Mae angen gwella rhai agweddau ar y broses recriwtio.

Ein canfyddiadau

Mae'r person cofrestredig yn goruchwylio'r gwaith o reoli'r gwasanaeth ac mae yn y broses o sefydlu person â chyfrifoldeb newydd. Mae trosiant yr unigolion sy'n ymgymryd â'r rôl hon yn uchel ac mae'r rheolwr cofrestredig yn awyddus i sefydlogi'r rôl hon i ddarparu parhâd a chymorth effeithiol i'r tîm. Mae rôl newydd y Rheolwr Ansawdd wedi cael ei roi ar waith er mwyn mynd i'r afael â'r broblem o gadw staff. Mae rôl y Swyddog Diogelu bellach wedi'i ddyrannu i'r person â chyfrifoldeb sy'n helpu i ddatblygu ei gwybodaeth a'i harbenigedd yn y maes hwn. Mae'r person cofrestredig yn darparu cymorth a mentora rheolaidd gyda'r broses hon. Mae'r dogfennau recriwtio yn dangos bod y rhan fwyaf o'r cofnodion yn pennu addasrwydd y staff i weithio gyda phlant, megis gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac mae geirdaon ar waith. Mae'n rhaid i'r arweinwyr sicrhau bod yr holl ddogfennau a'r gwybodaeth yn darparu'r dystiolaeth ofynnol cyn i'r staff ddechrau gweithio yn y gwasanaeth. Mae'r gwasanaeth wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac mae'r holl wybodaeth yn ddiogel.

Mae datganiad o ddiben clir sy'n darparu gwybodaeth i'r rieni ac eraill am y ffordd y mae'r gwasanaeth yn gweithredu. Cytunodd y person cofrestredig i ddiweddaru'r ddogfen hon i adlewyrchu ansawdd a darpariaeth y Gymraeg yn gywir. Mae angen adolygu'r adnoddau staffio sydd ar gael i hyrwyddo'r Gymraeg, yn enwedig i blant hŷn yn ystafell y 'Plum Tree' sy'n cymryd rhan mewn sesiwn cylch dyddiol. Mae hyn yn cynnwys ailasesu nifer y plant ym mhob grŵp ac, o ganlyniad, sicrhau nad oes angen i'r plant aros am gyfnodau hir i'r gweithgaredd orffen cyn symud ymlaen.

Mae polisi cwyno ar waith ac mae'r person cofrestredig a'r person â chyfrifoldeb yn delio ag unrhyw bryderon yn briodol drwy drafod a dod o hyd i ymateb sy'n dderbyniol. Mae'r partneriaethau â'r rhieni yn gadarnhaol ac mae nifer o'r rhieni yn gwerthfawrogi elfen Montessori'r gwasanaeth. Mae rhai aelodau o'r staff yn cael hyfforddiant ac ar fin cymhwyso fel ymarferwyr Montessori.

Mae'r staff yn cael cyfarfodydd goruchwylio un i un rheolaidd bob tri mis. At hynny, cynhelir 'sgyrsiau swyddi' rhwng y staff a'u rheolwr ac mae'r broses hon yn effeithiol. Mae'r staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda yn eu rolau ac yn hyderus i drafod unrhyw faterion gyda'r tîm rheoli.

Mae'r tîm rheoli yn ymrwymedig i wneud gwelliannau ac mae'r adroddiad gofynnol ar ansawdd y gofal hefyd yn ystyried barn y plant a'r rhieni. Mae'r rhieni yn gwerthfawrogi'r ymweliadau â chartrefi, y mae gweithiwr allweddol y plentyn a rheolwr y swyddfa yn eu

Page 10: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

cynnal ar ôl i'r plentyn ymweld â'r gwasanaeth unwaith. Mae hyn yn rhoi syniad da i'r staff o arferion y plant ac yn rhoi cyfle i'r rhieni gyfarfod â gofalwyr eu plant.

Page 11: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

Gwelliannau sydd eu hangen ac a argymhellir yn dilyn yr arolygiad hwn

5.1 Meysydd o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd mewn arolygiadau blaenorol

Dim

5.2 Argymhellion ar gyfer gwella

Gwnaethom drafod yr argymhellion canlynol gyda'r person cofrestredig a'r person â chyfrifoldeb:

cofnodi llais y plentyn a'i ddylanwad yn y gwaith o gynllunio a gwerthuso'r gweithgareddau

ystyried sut i hyrwyddo annibyniaeth y plant ymhellach ym mhob rhan o'r feithrinfa

sicrhau bod yr holl staff yn cael hyfforddiant ar ddiogelu er mwyn gwella eu gwybodaeth a'u harbenigedd

datblygu'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob rhan o'r feithrinfa

sicrhau bod yr holl ddogfennau sy'n dangos addasrwydd y staff wrth eu recriwtio yn cael eu gwirio ac ar waith

Page 12: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

5. Sut y gwnaethom gynnal yr arolygiad hwn

Roedd hwn yn arolygiad llawn a drefnwyd a gynhaliwyd ar 12 a 13 Chwefror 2020.

Gwnaeth dau arolygydd gynnal ymweliad dirybudd am saith awr ar y diwrnod cyntaf a chwech awr ar yr ail ddiwrnod:

gwnaethom edrych ar y wybodaeth a ddelir eisoes gan AGC

gwnaethom siarad â nifer o'r plant a phedwar rhiant

gwnaethom ymgynghori â chwe aelod o'r staff, y rheolwr cofrestredig, a'r person â chyfrifoldeb

gwnaethom edrych ar amrywiaeth o gofnodion y gwasanaeth a oedd yn cynnwys y datganiad o ddiben, ffeiliau'r plant, ffeiliau'r staff, rotas y staff, cofrestr presenoldeb y plant, ac amrywiaeth o bolisïau a gweithdrefnau

gwnaethom hefyd gynnal archwiliad gweledol o'r safle, a hynny dan do ac yn yr awyr agored

gwnaethom roi adborth i'r rheolwr cofrestredig a'r person â chyfrifoldeb ar ddiwedd yr ail ddiwrnod

Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud ar ein gwefan: www.arolygiaethgofal.cymru

Page 13: Adroddiad Arolygu Gofal Plant ar gyfer The Green Giraffe ... · The Green Giraffe Day Nursery Green Giraffe Day Nursery 2 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ This report is also available

6. Ynglŷn â'r gwasanaeth

Y math o ofal a ddarperir Gofal Dydd PlantGofal Dydd Llawn

Person Cofrestredig Andrea McCormack

Person â chyfrifoldeb Kirsty Farmery

Uchafswm y lleoedd a gofrestrwyd 96

Ystod oedran y plant 6 mis i 5 oed

Oriau agor 7.45am - 6pm

Iaith weithredol y gwasanaeth Saesneg â rhywfaint o Gymraeg achlysurol

Dyddiad arolygiad blaenorol Arolygiaeth Gofal Cymru

26 Ebrill 2018

Dyddiadau'r ymweliadau arolygu hyn 12 and 13 Chwefror 2020

A yw hwn yn wasanaeth Dechrau’n Deg?

Nac ydy

A yw’r gwasanaeth yn darparu addysg blynyddoedd cynnar ar gyfer plant tair a phedair oed?

Nac ydy

A yw’r gwasanaeth hwn yn darparu’r Cynnig Rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg?

Mae'r gwasanaeth yn gweithio tuag at y Cynnig Rhagweithiol ar gyfer y Gymraeg.

Gwybodaeth Ychwanegol: Dim

Dyddiad Cyhoeddi 30/07/2020