18
Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2012 www.chwaraecymru.org.uk

Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Adroddiad blynyddol Chwarae Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2012

Citation preview

Page 1: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymruar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben

31 Mawrth 2012www.chwaraecymru.org.uk

Page 2: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru; elusen annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Ein nod yw gweithredu fel llysgennad dros chwarae plant; gan gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd allweddol chwarae i iechyd a lles plant.

Mae’r adroddiad hwn yn arddangos cyfraniad Chwarae Cymru i chwarae plant yng Nghymru yn ystod 2011-2012.

Croeso

Page 3: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

Nodau ac amcanionAdroddiad y Cadeirydd

4 6

Adroddiad y Cyfarwyddwr 7Darpariaeth a datblygiad chwarae 8Gwybodaeth, arweiniad a rhwydweithio 10Datbygu’r gweithlu 12Adolygiad ariannol 13IPA 2011Cymru - gwlad chwarae-gyfeillgar Cynlluniau ar gyfer y dyfodolTîm Chwarae CymruManylion cyswllt

14 15 16 17 18

Cynnwys

Page 4: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

4

Nodau ac amcanion

Ein amcanion yw darparu a chynorthwyo â’r ddarpariaeth •argyfercyfleusterauagwasanaethauchwarae,adloniant,addysgachyfleoeddamserhamddeneraillargyferpobplentyn yng Nghymru.

Rydym yn gweithredu fel Hyrwyddwr dros chwarae plant; •gan gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth trwy Gymru gyfan am bwysigrwydd allweddol chwarae i blant a’u lles.

I gynnal a sicrhau cynrychiolaeth ac ymgynghoriaeth •priodol ar faterion sy’n effeithio ar chwarae plant yng Nghymru.

I gyfrannu at a chefnogi hyfforddiant addysg gwaith •chwarae a datblygu’r gweithlu yng Nghymru er mwyn hybu diddordebau chwarae plant trwy eiriolaeth a darpariaeth gwasanaethau chwarae o safon.

Wrthgyflawni’ramcanionhyneinnodywmeithrinymatebgweithredol mwy goddefol, deallus a doeth ymysg oedolion sydd mewn sefyllfa i ateb anghenion chwarae plant, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, a thrwy hynny wella lles a chyfranogaeth plant yn eu cymunedau eu hunain.

Ffocws ein gwaith

Prif weithgaredd Chwarae Cymru yw dylanwadu ar bolisïau, cynllunio strategol ac arfer pob asiantaeth a mudiad sy’n gyfrifol am, ac sydd â diddordeb mewn, chwarae plant. Byddwn yn cyflawnihyntrwyddarparugwybodaeth,cyngoracarweiniadtechnegol sy’n ymwneud â darpariaeth chwarae a datblygu’r gweithlu; gan helpu i ddynodi anghenion a chyfrannu at y gydnabyddiaeth gynyddol a geir i bwysigrwydd sylweddol chwarae fel elfen allweddol o ddatblygiad plant. Mae Chwarae Cymru’n darparu fforwm ar gyfer gwaith chwarae trwy Gymru, ac yn ymgymryd â rôl cynrychiadol cenedlaethol am waith chwarae.

Fel y mudiad cenedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru ein nodaustrategolynystodyflwyddynoeddi:

fod yn gyfaill beirniadol i Lywodraeth Cymru •hyrwyddo chwarae plant sy’n annibynnol ac a ddewisir o •wirfodd eiriol dros blant a’u anghenion chwarae•cynnal eu hawl i chwarae, ar ran pob plentyn yng Nghymru •cynyddu ymwybyddiaeth am anghenion chwarae ar bob lefel, o •Lywodraeth Genedlaethol i gynlluniau chwarae lleol cynrychioli darparwyr chwarae a gweithwyr chwarae gan •gynnigcyngorarbenigol,arweiniad,cefnogaeth,cyfleoeddrhwydweithio a chynadleddau sy’n ymwneud â chwarae, polisi chwarae, darpariaeth chwarae a datblygu’r gweithlu.

Page 5: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

5

Caiffynodaustrategolhyneucyflawnitrwy’rprifweithgareddauisod:

Gwasanaethau Gwybodaeth•

Hyfforddiant a Datblygu’r Gweithlu•

Datblygu Darpariaeth Chwarae•

Pwy wnaeth ddefnyddio ac elwa o’n gwasanaethau?

Mae ein nodau a’n amcanion yn ymwneud â bod o fudd i blant Cymru.

Defnyddiwydeingwasanaethaugan:

rieni a gofalwyr •

aelodauo’rcyhoeddsy’nymgyrchuiwarchodneugyflwynodarpariaethchwarae•

mudiadau sy’n darparu neu’n cefnogi gwasanaethau plant – boed yn wirfoddol neu’n •awdurdodau lleol

mudiadau sy’n darparu gwasanaethau chwarae i blant - boed yn wirfoddol neu’n •awdurdodau lleol, yn ogystal â chynghorau cymuned

gweithwyr chwarae, gweithwyr datblygu chwarae a swyddogion datblygu chwarae •

hyfforddwyr gwaith chwarae a rheolwyr gweithwyr chwarae •

athrawon, penaethiaid a llywodraethwyr.•

Page 6: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

6

Adroddiad y CadeiryddYnanffodus,yflwyddynnesaffyddfyunolaffelCadeiryddBwrddYmddiriedolwyr Chwarae Cymru, a minnau wedi bod yn y swydd yn barhaol ers sefydlu’r elusen ym 1998. Mae Chwarae Cymru wedi datblygullawerynystody12mlynedddiwethafacwedicyflawnicymaint; yn cynnwys cyhoeddi Yr Hawl Cyntaf …, ac yna Yr Hawl Cyntaf – prosesau dymunol, gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r polisi chwarae cenedlaethol cyntaf yn y byd, datblygu cyrsiauachymwysterauGwaithChwarae:RhoiEgwyddorionarWaith (P3) a chefnogi rhaglen Chwarae Plant, a arianwyd gan y Loteri Fawr, ar draws Cymru.

TrwygydolyflwyddynmaeChwaraeCymruwediparhauyneirôlallweddol i ddarparu cefnogaeth arbenigol i grwpiau cymunedol, mudiadau, grwpiau gweinidogion a llywodraeth leol.

Unouchafbwyntiau’rflwyddyni’rmudiad–a’rsectorchwaraeyngNghymru a’r DU – oedd cynhadledd fyd-eang yr IPA, a drefnwyd gan Chwarae Cymru, ac a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ym mis Gorffennaf 2011. Roedd yn gynhadledd drefnus a chyffrous a fynychwyd gan weithwyr chwarae proffesiynol o bob cwr o’r byd. Llwyddodd Chwarae Cymru i drefnu a chynnal y gynhadledd gyda dim ond nifer cyfyngedig o staff ac adnoddau – roedd y tîm wedi ei haneru bron ers inni wneud cais i gynnal y gynhadledd yn ôl yn 2008.

Mae perthynas Chwarae Cymru â Llywodraeth Cymru wedi ei atgyfnerthu’n sylweddol o ganlyniad i’r gweithio partneriaeth parhaus

a’r gefnogaeth y mae’n ei gynnig gyda’r asesiadau a’r dyletswydd digonolrwydd chwarae. Rydym yn edrych ymlaen i weld cychwyn y Dyletswydd fydd yn mynnu bod pob awdurdod lleol yn asesu ac yn darparuargyfercyfleoeddchwaraedigonolyneuhardaloeddfelrhan o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Trwygydolyflwyddynmae’rTîmCyfathrebiadauwediparhaui gynhyrchu gwybodaeth amserol o’r safon uchaf sy’n hygyrch yn ogystal â diddorol, yn ogystal â gweithio i ddatblygu gwefan newydd.

Mae Chwarae Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â’r YMCA, wediparhauidrosglwyddocymwysterauLefel2GwaithChwarae:Rhoi Egwyddorion ar Waith (P3). Er bod yr ariannu’n parhau i fod yn annigonol ar gyfer ateb anghenion y sector, mae Chwarae Cymru’n parhau i wneud popeth yn eu gallu i drosglwyddo’r cymhwyster gwaith chwarae gorau yng Nghymru.

FueleniddimynflwyddynrhwyddiChwaraeCymru;ynllawnuchafbwyntiau ac isafbwyntiau, gyda cholled drist Gill ein RheolwraigCyfathrebiadau.HoffwndaluteyrngedachyfleudiolchBwrdd yr Ymddiriedolwyr i’r staff neilltuol, ymroddedig a brwd am eugwaithcaleda’uhymroddiadparhausiwellacyfleoeddchwaraeyng Nghymru.

Margaret Jervis MBECadeirydd

Page 7: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

7

Adroddiad y Cyfarwyddwr

Dros y genhedlaeth diwethaf gwelwyd newid sylweddol yn ein dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae i blant; y gwahanol ffyrdd y gallwn ni, fel oedolion, wella’r amgylchedd (yn ogystal â diwylliant ein gwlad) er mwyn ei droi’n lle ble fo gan bob plentyn fynediad rhydd i ddetholiad o gyfleoeddchwaraeoansawddyneucymuned.

DrosyflwyddyndiwethafmaeChwaraeCymruwediparhauiweithio’ngaledigyfrannuatnewidiadauynyramgylcheddffisegolacagweddaucymdeithasol. Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ein aelodau a’n cefnogwyr i baratoi’r ffordd ar gyfer Gorchymyn Cychwyn rhan cyntaf y dyletswydd newydd a osodwyd ar awdurdodau lleol gan FesurPlantaTheuluoedd(Cymru)2010iasesudigonolrwyddcyfleoeddchwarae ar gyfer plant.

Arweiniodd y datblygiad hwn at newid parhaus ym mhwyslais gwaith Chwarae Cymru. Treuliodd Chwarae Cymru amser, tra’n parhau i eiriol ac ymgyrchu dros chwarae plant, yn edrych ar y modd gorau y gallem gyfrannu at amrywiol gamau’r broses o droi deddfwriaeth yn realiti ar lawr gwlad a’r modd gorau inni gefnogi awdurdodau lleol i fanteisio’n llawn ar y datblygiad hwn.

I ryw raddau bu hyn yn llai heriol na’r disgwyl gyda swyddogion ar draws holl adrannau awdurdodau lleol yn cydweithio â ni â chryn ewyllys da gan gydnabod, er efallai nad cefnogi chwarae plant yw eu prifswyddogaeth,bodganddyntgyfraniadi’wwneudwrthgyflawni’ramcanion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae datblygu a throsglwyddo cymwysterau gwaith chwarae wedi tyfu’n rhan o waith craidd Chwarae Cymru ac rydym wedi parhau i drosglwyddo cymwysterau Lefel 2, ar sail adennill costau’n llawn, mewn partneriaeth â Choleg Cymunedol YMCA. Yn ogystal, llwyddodd Chwarae Cymru i ennill cytundeb Rhaglen Y Gronfa Blaenoriaethau Sector, a arianwyd gan Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, gan SkillsActive i ddatblygu cymwysterau Lefel 3 P3 a’r deunyddiau dysgu ar gyfer y Wobr, sydd wedi ein galluogi i drosglwyddo cyfres o gymwysterau i ateb disgwyliadau’r gweithlu.

UchafbwyntyflwyddynoeddCynhadleddFyd-eang50ed Pen-blwydd yr International Play Association a gynhaliwyd yng Nghaerdydd; a fynychwyd gan 450 o gyfranogwyr o 37 gwlad. Bu’n llwyddiant ysgubol; a hynny trwy ymroddiad, ymrwymiad ac egni aelodau presennol a chyn-aelodau o staff a ymunodd â ni yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ym mis Gorffennaf.

Un o’r prif resymau dros lwyddiant y gynhadledd oedd ymroddiad ac egni Gill Evans wnaeth ragori yn ei rôl fel Rheolwraig y Gynhadledd. Yn anffodus, collodd Gill ei brwydr yn erbyn cancr yn fuan wedi’r gynhadledd. Gadawodd fwlch enfawr ar ei hôl yn ein mudiad, yr ydym bellach yn raddol ymdrechu i’w lanw.

Rydymynedrychymlaeni’rflwyddynnesafagymdeimladcryfoherwrthinniweithioigefnogicyflwyno’rMesur.

Mike GreenawayCyfarwyddwr

Page 8: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

8

Er mwyn cynnal a sicrhau cynrychiolaeth ac ymgynghoriaeth briodol ar faterion sy’n effeithio chwarae plant. Bu Chwarae Cymru ynghlwm ag amrywiol bwyllgorau gwaith trwy Gymru gyfan, a ariannwyd yn bennaf gan Llywodraeth Cymru er mwynsicrhaubodchwaraeplantynennilleistatwshaeddiannol:

Darpariaeth a datblygiad chwarae

GrŵpCynghori’rGweinidogaryCynllunGweithgarwchCorfforol•

GrŵpCynllunioYmchwilaGwerthusoCreuCymruEgnïol•

GrŵpgorchwylagorffendatblyguASGCreuCymruEgnïol•

Gweithgor Erthygl 42•

GrŵpBlynyddoeddCynnaraGofalPlant•

Fforwm Magu Plant•

ConsortiwmCyfranogaeth–Is-grŵpCyfranogaethplant •0 – 10 oed

GrŵpLlywioArchwiliadMannauAgoredRCTHomes•

Cyfrannu at bennod chwarae, chwaraeon, hamdden a diwylliant •Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc Cymru 2011 Llywodraeth Cymru

Yn ogystal, ymatebodd Chwarae Cymru i ymgynghoriadau cenedlaethol perthnasol:

Mesur Lles Cenedlaethol Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (4/11)•

Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Reoli Tybaco (5/11)•

Strategaeth Ymgysylltu AGGCC (12/11)•

Cydamcanu – Cydymdrechu (3/12)•

Cynigion Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r gofynion ar gyfer •cofrestru’r gweithlu addysg yng Nghymru (3/12)

Page 9: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

9

Mae Chwarae Cymru wedi cefnogi chwarae plant a darpariaeth chwarae ar lefel leol trwy:

sicrhau bod grwpiau cymunedol lleol yn cael eu cyfeirio at, ac •yn cael eu cefnogi’n ddigonol, gan rwydweithiau cefnogaeth lleol. Rydym yn amcangyfrif inni dderbyn ac ymateb i fwy na 1000 o ymholiadau dros y ffôn a thrwy ebost gan rieni, aelodau etholedig,ysgolionamudiadaubychainynystodyflwyddyndiwethaf.

darparu cefnogaeth datblygiad proffesiynol an-rheolaethol i •Swyddogion Datblygu Chwarae trwy Gymru.

darparu cefnogaeth benodol i brosiectau chwarae sector •gwirfoddolyncynnwys:

3 Counties Play Association •

Chwarae Plant •

Dewis Chwarae•

Re-create (Cymdeithas Gwasanaethau Chwarae Caerdydd a • Bro Morgannwg)

Tri-County Play Association•

darparu arbenigedd a chefnogaeth dros dro i fudiadau lleol a •chenedlaethol eraill trwy secondiadau/cytunedebau tymor byr i staff y Tîm Prosiectau; Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy, rhaglen Cyfran Deg ar Ynys Môn, Prosiect Blaenau’r Cymoedd trwy’r Tri-County Play Association, trosglwyddo rhaglen mentora ar gyfer goruchwylwyr amser cinio mewn partneriaeth â Children’s Scrapstore (Bryste), Adolygiad o Strategaeth Chwarae Powys.

cyflwyniadauigrwpiaustrategaethauchwaraelleol.•

Mae Chwarae Cymru wedi cefnogi datblygiad agwedd strategol tuag at chwarae plant trwy:

gyfrannu at ddylunio a throsglwyddo’r Fforwm Gweithwyr •Chwarae mewn partneriaeth â phrosiectau cymdeithasau chwarae rhanbarthol

drosglwyddo dwy seminar ‘Cwtogi Costau Archwilio •Ardaloedd Chwarae’

gynnal a chefnogi Rhwydwaith Chwarae Strategol Cymru •Gyfan

ymchwilio i • Gyflwr Chwarae – arolwg cenedlaethol ar faterion lleol sy’n effeithio ar ddarpariaeth chwarae i blant

Bu Chwarae Cymru’n rhan o amrywiol grwpiau polisi trwy’r DU, er mwyn sicrhau bod cynlluniau trwy’r DU yn adlewyrchu datblygiadau ac arfer gorau yng Nghymru:

GrŵpYmgynghorolGwasanaethGwybodaethChwarae•Plant

Fforwm Diogelwch Chwarae•

Fforwm Polisi Chwarae Plant•

Play England•

GrŵpLlywioCenedlaetholDiwrnodChwarae•

Bwrdd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yr International •Play Association (IPA EWNI)

International Play Association (IPA) World•

Ymgyrch Plant Awyr Iach Sustrans•

Page 10: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

10

Darpariaeth, cynnal a chadw a datblygiad parhaus gwefan gaiff ei diweddaru’n •rheolaidd gydag eitemau o ddiddordeb i aelodau ac i bobl sydd â diddordeb mewn chwarae plant, gwaith chwarae a darpariaeth chwarae. Mae nifer y tudalennau gwybodaeth ar y wefan wedi cynyddu fel y mae nifer yr ymwelwyr sy’n lawrlwytho gwybodaeth. Dylunio a datblygu gwefan newydd i’w lansio yn ystod Haf 2012.

Cyhoeddi • Chwarae dros Gymru,eincylchgrawndwyieithog,deirgwaithyflwyddyn- dosbarthwyd, yn rhad ac am ddim, ar ffurf argraffedig ac electronig i oddeutu 3,350 o bobl all hybu buddiannau chwarae plant yng Nghymru.

Adolygu a chyhoeddi gwe-ddalennau ar amrywiol destunau gan gynnwys ystod •o ddeunyddiau ar eiriol dros a chynaladwyedd darpariaeth chwarae ar gyfer darparwyr chwarae - i’w cynorthwyo i ateb anghenion chwarae plant a llywio eu ffordd trwy ddatblygiadau newydd.

Ehangu llyfrgell Chwarae Cymru, sef y ffynhonnell mwyaf cynhwysfawr o •ddeunyddiau chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru. Mae’r llyfrgell yn agored i ymwelwyr trwy drefniad ac yn bennaf mae’n cynorthwyo ein tîm, yn ogystal â gweithwyr chwarae proffesiynol a myfyrwyr sy’n astudio chwarae a gwaith chwarae.

Golygu,cywiroproflenni,rheolidylunioachynorthwyogydadatblygudeunyddiau•hyfforddiant gwaith chwarae dwyieithog newydd - gan gyfrannu at hyfforddiant safonol ar gyfer gweithwyr chwarae all weithio i ateb anghenion chwarae plant.

Hyrwyddo chwarae trwy’r cyfryngau. Cynrychiolaeth mewn digwyddiadau •cenedlaethol, fel y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol - a thrwy hynny gynyddu ymwybyddiaethynghylchyrhwystrausy’natalplantrhagcaelcyfleoeddchwaraeo safon a phwysleisio pwysigrwydd chwarae plant.

Gwybodaeth, arweiniad a rhwydweithio

Mae Tîm Cyfathrebiadau Chwarae Cymru wedi cynhyrchu a rhaeadru amrywiaeth eang o wybodaeth a gwasanaethau dwyieithog yn ystod y flwyddyn diwethaf, yn cynnwys:

Page 11: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

11

Ar ran yr holl bobl sy’n gweithio i wneud Cymru’n wlad chwarae-•gyfeillgarcyflwynoddChwaraeCymrugaisamWobrHawliChwarae’r International Play Association – Cymru yw’r wlad gyntaf i dderbyn y Wobr. Lansiwyd ymgyrch Cymru – Gwlad Chwarae-gyfeillgarermwynhelpuiffurfiorhwydwaithogefnogaethichwarae ar draws Cymru.

Dosbarthu cyhoeddiadau, 141 copi o • Yr Hawl Cyntaf ac 63 copi o Yr Hawl Cyntaf - Prosesau Dymunol - er mwyn hwyluso darpariaeth gwasanaethau chwarae o safon i blant.

Golygu,cywiroproflenni,rheoli’rgwaithdylunioachyfieithu•achynorthwyogydadatblygutaflennigwybodaethnewydd:Chwarae: iechyd a lles a Mannau chwarae: cwynion cyffredin ac atebion syml.

Golygu,cywiroproflenni,rheoli’rgwaithdylunioachyfieithu•a chynorthwyo gyda datblygu a chyhoeddi’r pecyn cymorth cymunedol Datblygu a Rheoli Mannau Chwarae.

Gan ystyried etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol (Mai 2011) •cyhoeddodd Chwarae Cymru Agenda ar gyfer Chwarae Plant yng Nghymru. Amcanion ar gyfer polisi yw’r rhain i’r Llywodraeth newydd – i helpu i atgoffa llunwyr polisïau am bwysigrwydd chwarae a darpariaeth chwarae i blant a’u teuluoedd.

Darparu seminarau a chynadleddau i hwyluso darpariaeth •gwasanaethau chwarae o safon i blant.

CyfrannuatgrŵpllywioaPhecynGwybodaethDiwrnodChwarae•Cenedlaethol y DU - a thrwy hynny gefnogi gwasanaethau chwarae wrth ddarparu digwyddiadau Diwrnod Chwarae ar gyfer plant, ac ynogystaldarparuCynrychiolaethCymreigachefnogaethigrŵpymgyrchutrwy’rDUsy’namlygurhwystrauibrofiadauchwaraeosafon ac argymell camau gweithredu.

Sefydlu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol dwyieithog Chwarae Cymru •a’udiweddaru’nrheolaidd.Mae93yn‘hoffi’eindalennauFacebookac mae 292 yn ein dilyn ar Twitter.

Cyswllt rheolaidd ag Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad trwy •gylchgronau,digwyddiadau,cyfarfodyddathaflennigwybodaeth- a thrwy hynny gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd chwarae i blant a’r angen i hybu penderfyniadau chwarae-gyfeillgar ymysg cynllunwyr a phobl sy’n llunio penderfyniadau.

Cyfrannu i gynadleddau a digwyddiadau yng Nghymru a thrwy’r DU - •gan hyrwyddo gwaith Chwarae Cymru, sef hybu darpariaeth chwarae o safon ar gyfer plant.

Cydlynu trefniadau cynhadledd 2011 yr International Play Association – •gan hyrwyddo gwaith Chwarae Cymru ar lefel rhyngwladol a hyrwyddo darpariaeth chwarae o safon ar gyfer plant – gyda 450 o gyfranogwyr o 37 gwlad yn bresennol. Marchnata’r digwyddiad hwn yng Nghymru ac yn rhyngwladol; cynnal gwefan y gynhadledd, creu system archebu ar-lein, creu a diweddaru ffrydiau cyfryngau cymdeithasol; croesawu gwirfoddolwyr UNA Exchange; gweithio gyda dau gwmni dylunio i ddatblygu a chynhyrchu deunyddiau’r gynhadledd.

Page 12: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

12

Mae tîm Datblygu’r Gweithlu, Chwarae Cymru, wedi parhau i gefnogi a chyfrannu tuag at hyfforddiant addysg gwaith chwarae a datblygu’r gweithlu yng Nghymru.

Datblygu’r gweithlu

Dros y 12 mis diwethaf bu Chwarae Cymru’n weithredol mewn amrywiol weithgareddau sy’n ymwneud âhyfforddiant a datblygu’r gweithlu er mwyn hybu buddiannau chwarae plant yng Nghymru, gan gynnwys:

Cefnogaeth sylweddol parhaus i SkillsActive, y cyngor sgiliau •sector ar gyfer gwaith chwarae, gan gynnwys trosglwyddo strategaeth y DU, Hyfforddiant o Safon, Chwarae o Safon a datblygu’r strategaeth olynol sef Strategaeth Addysg a Sgiliau Chwarae a Gwaith Chwarae y DU 2011 - 2016, a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru.

Trosglwyddo pedwar cyfarfod Cyngor Addysg a Hyfforddiant •Gwaith Chwarae Cymru ar ran SkillsActive.

Cynorthwyo i ddatblygu Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol •– bellach mae gan waith chwarae godau Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol.

Trosglwyddo prosiect Rhaglen y Gronfa Blaenoriaethau •Sector (SPFP), Cronfa Gymdeithasol Ewrop – achredu cymwysterau newydd Gwobr, Tystysgrif a Diploma Lefel 3 P3 GwaithChwarae:RhoiEgwyddorionarWaith,acysgrifennudeunyddiau newydd ar gyfer y Wobr.

Cynhyrchu deunyddiau hyfforddiant i gefnogi trosglwyddo •Gwobr P3 Lefel 3.

Gweithio i ddatblygu cais SPFP CGE i gynorthwyo gyda •datblygu deunyddiau ar gyfer Tystysgrif a Diploma Lefel 3 P3, a mecanwaith trosglwyddo ar-lein, yn Gymraeg a Saesneg, ar draws cymwysterau Lefel 2 a 3.

TrosglwyddoachefnogiLefel2GwaithChwarae:Rhoi•Egwyddorion ar Waith – 22 carfan.

Carfan beilot gyntaf Lefel 3 P• 3 wedi ei sefydlu ac yn gyrru ymlaen yn llwyddiannus.

Parhau i wella ansawdd ein darpariaeth Canolfannau Scottish •QualificationsAuthority(SQA)ermwynsicrhau’rlefeluchafaddyfernir gan Ddilyswyr Allanol.

Cynllunio trosglwyddo cwrs P• 3 Hyfforddi’r Hyfforddwr. Ennill ariannu ar gyfer dysgwyr yn ardal Caerdydd.

Datblygu partneriaeth/is-gytundeb gyda Coleg Cymunedol YMCA •Cymru er mwyn sicrhau ariannu ar gyfer trosglwyddo cymwysterau mewn gwaith chwarae, hyfforddi ac asesu.

Dechrau’r rôl o brif-ffrydio cymwysterau gwaith chwarae trwy •Gymru gyfan a gweithio gyda nifer o golegau newydd i sefydlu canolfannau SQA.

Page 13: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

13

Adolygiad ariannol

Prif ffynonellau ariannu YnystodyflwyddynderbynioddChwaraeCymrueiincwmynbennafganLywodraethCymru,cynhadleddyrInternationalPlayAssociation(agymroddleygynhadleddYsbrydflynyddolamyflwyddynhon),seminar,ymgynghoriaethachyngor,secondiad,rhaglenYmddiriedolaethCyfranDegCronfa Loteri Fawr, cytunedeb SkillsActive a thâl aelodaeth (daeth i rym 1 Ionawr 2012). Mae’r cyllid craidd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ffynhonnell ariannu o bwys sylweddol, wnaeth sicrhau gweithrediadyrhaglenwaithtrwygyflogistaffa’rcostaugweithredolcysylltiedig.

Datganiad arian wrth gefnMae Chwarae Cymru’n bwriadu cadw lefel arian wrth gefn o o leiaf tri mis o’r gwariant blynyddol, syddarhynobrydoddeutu£132ofiloedd.Caiffyrarianwrthgefneiroio’rneilltuermwynsicrhausefydlogrwydd ariannol ar gyfer y staff a’r aelodau ac er mwyn sicrhau y byddai’r gweithgareddau presennol yn cael eu cynnal pe digwydd cwtogiad sylweddol mewn ariannu.

Ceir cyllid cyfyngedig o -£1,288, ar 31 Mawrth 2012, o ganlyniad i wariant oedd yn fwy na’r incwm trwy grant,achaiffhyneiddileuganincwmynystodyflwyddynganlynol.

Arddiweddyflwyddynmaeganyrelusenddiffygcronediganghyfyngedigo-£101,892(2011:ariandros ben o £5,961). O’r gweddill hwn mae £11,010 ynghlwm mewn asedau sefydlog, mae £105,000 wedieuneilltuomewncronfagyflogbenodedigfelcyfrifcadwcyflogres.Foddbynnag,mae’rgweddilldigyfyngiad wedi ei nodi ar ôl didynnu atebolrwydd pensiwn o £470,000 nad oes gofyn iddo gael ei setlo ar unwaith. Y cyllid digyfyngiad oedd ar gael i’r elusen (ac eithrio asedau sefydlog, y gronfa benodedig a’ratebolrwyddpensiwn)oedd£252,098(2011:£221,999).

Polisi buddsoddiMae’r ymddiriedolwyr yn adolygu’r swm y mae’r mudiad ei angen er mwyn sicrhau ei fod yn ddigonol iddogyflawnieiddyletswyddauparhausynrheolaidd.Arhynobrydmae’relusenynmabwysiaduagwedd ofalus tuag at fuddsoddi, gan ddefnyddio polisi risg isel, tymor byr, cyfrif cadw 14 diwrnod sy’n dwyn llog sy’n derbyn tua 0.38 y cant o elw.

Page 14: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

14

IPA 2011

Chwarae i’r Dyfodol - goroesi a ffynnu

Gweithioddymudiadgydaphartneriaidachydweithwyrisicrhaueifodynddigwyddiadcofiadwy,diddorol,bywiogachyffrous.Roeddyngyflegwychiddodâdarparwyrchwarae,ymarferwyr,damcaniaethwyracymchwilwyr ynghyd ac i roi llwyfan i’r polisïau a’r gwaith ymarferol sy’n cael ei wneud yn y DU. Llwyddom i ddarparu cynhadledd fywiog ac ysgogol dros bedwar diwrnod a arddangosodd y gorau y gall Cymru (a’r DU) ei gynnig i blant sy’n chwarae.

Yn ystod y flwyddyn paratowyd tuag at a chynhaliwyd 18ed Cynhadledd Fyd-eang yr IPA

Marchnata’r gynhadledd trwy Gymru, y DU ac yn rhyngwladol ar ffurf •postio gwybodaeth a thrwy ddulliau electronig arweiniodd at ddenu 450 o gyfranogwyr o 37 o wledydd dros y pedwar diwrnod Croesawu siaradwyr gwadd o’r DU, yr Almaen, India ac UDA. •Cyfranogodd285trwygyflwynogweithdaiaphapurauynygynhadledd•Gŵyl Clochdar dros Chwarae• – darparodd cynrychiolwyr o 20 mudiad a chymdeithas chwarae rhanbarthol o bob cwr o Gymru a’r DU amrywiaethogyfleoeddchwaraeargyfer525oblantysgol(100ostaffa gwirfoddolwyr o fudiadau chwarae o bob cwr o Gymru a’r DU)Recriwtio a chroesawu naw o fyfyrwyr UNA Exchange ar y Prosiect •Gwirfoddolwyr Rhyngwladol Marchnata a gwerthu gofod arddangos a phecynnau noddi i 20 o •fudiadau a chwmnïau Parhau i godi arian a rheoli grant o £10,000 gan y Waterloo Foundation•Rheoli’r system archebu ar-lein; datblygu a diweddaru gwefan y •

Wales Cymru

2011

gynhadledd yn barhaus, gafodd ei droi’n adroddiad ôl-gynhadledd wedi’rdigwyddiadoeddyncynnwysclipiaufideoo’rsiaradwyrgwaddCroesawu Bwrdd IPA World a chyfarfod Cyngor IPA World •Gweithio gyda chwmni dylunio lleol i gynhyrchu deunyddiau’r •gynhadledd; chwilio am ffynonellau ar gyfer bagiau’r gynhadledd a deunyddiau hyrwyddolTrafod â lleoliad y gynhadledd a gweithio gyda chwmni Paul Williams •EventsTrafod â mudiadau yng Nghaerdydd i drefnu ymweliadau i gyfranogwyr •yn ystod y gynhadledd Marchnata teithiau cyn ac ar ôl y gynhadledd a drefnwyd gan fudiadau •eraill TrafodâPhrifysgolGlyndŵridrefnuachynnalyGwersyllGwaith•Chwarae Rhyngwladol (1 – 3 Gorffennaf 2011) – a fynychwyd gan 50 o gyfranogwyr Ar ran yr holl bobl sy’n gweithio i wneud Cymru’n wlad chwarae-•gyfeillgarcyflwynoddChwaraeCymrugais-‘Cymru-GwladChwaraeGyfeillgar’ am Wobr Hawl i Chwarae’r International Play Association.

Page 15: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

15

Mae ‘Cymru - Gwlad Chwarae-Gyfeillgar’ yn ymgyrch gan Chwarae Cymru y gall cymunedau eu defnyddio i sefydlu ymgyrchoedd lleol ar gyfer chwarae plant a bod yn rhan o fudiad cenedlaethol ar yr un pryd.

ChwaraeCymrugyflwynoddycaisamWobrHawliChwarae-‘Cymru-GwladChwarae-Gyfeillgar’ ar ran pawb sy’n gweithio i wneud Cymru yn wlad chwarae-gyfeillgar.

Derbyniodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, y Wobr Hawl i Chwarae yr International Play Association (IPA) pan agorodd 18ed cynhadledd yr IPA yng Nghaerdydd ar4Gorffennaf2011.WrthdderbynyWobrdywedoddyPrifWeinidog:

‘Mae’r ffaith mai dyma’r tro cyntaf i’r wobr ryngwladol arobryn yma gael ei chyflwyno i wlad gyfan yn anrhydedd aruthrol. Hoffwn ddiolch i’r holl fudiadau a’r holl bobl y mae eu hegni a’u hymroddiad wedi cyfrannu at weld Cymru’n ennill y wobr hon.’

Cymru - gwlad chwarae-gyfeillgar

Mae Chwarae Cymru wedi creu tudalen Facebook ar gyfer ‘Cymru – Gwlad Chwarae-Gyfeillgar’ er mwyn helpu i ffurfio rhwydwaith o gefnogaeth ar gyfer chwarae ar draws Cymru.Gallwch ei ddefnyddio i leisio eich barn, i gyhoeddi eich lluniau ac i hysbysebugweithgareddaulleol,acichwilioamysbrydoliaeth.Cofiwchroigwybod inni am yr hyn sy’n digwydd yn eich hardal chi sydd unai’n gwarchod neu’n atal hawl plant a phobl ifainc i chwarae

hthttp://on.fb.me/gwladchwaraegyfeillgar

Page 16: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

16

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae gweithgareddau a gwasanaethau o bwys fydd yn cyfrannu tuag atgyflawni’ramcanionpenodedigyncynnwys:

Adolygiad o strategaethau pum mlynedd a 10 mlynedd Chwarae Cymru•

Datblygiad a throsglwyddiad parhaus deunyddiau hyfforddi a •chymwysterau chwarae o safon

Datblygiad cais am Ariannu Ewropeaidd•

Datblygiad parhaus y wefan a datblygu Gwasanaethau Gwybodaeth•

Cylchgrawnagyhoeddirdairgwaithyflwyddyn•

Trosglwyddo rhaglen o gynadleddau, gweithdai, digwyddiadau a •seminarau

Cynnal aelodaeth awdurdodau lleol Cymru a’r Trydydd Sector a •hwyluso gweithio partneriaeth

Cyfrannu tuag at a chefnogi gweithredu • Chwarae yng Nghymru

Cyfrannu tuag at weithredu Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Gwaith •Chwarae’r DU

Datblygu aelodaeth Chwarae Cymru a chynyddu nifer yr aelodau •newydd 20 y cant

Datblygu presenoldeb cyfryngau cymdeithasu Chwarae Cymru - •cynyddu dilynwyr 20 y cant

Cefnogaeth i rwydweithiau proffesiynol•

Cyfrannu at a chefnogi gweithredu Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) •2010, sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu’n ddigonol ar gyfer chwarae plant

Datblygu cais • BIG Innovations

Parhauigyflwynoceisiadauamgytundebaubychainargyferdatblygu’r•gweithlu

Gweithio gydag ariannu prif ffrwd ar gyfer trosglwyddo cymwysterau •gwaith chwarae a chefnogi datblygiad mwy o ganolfannau SQA o amgylch Cymru.

Sefydlu is-ganolfannau rhyngwladol SQA, wedi eu hariannu’n •annibynnol,argyfertrosglwyddoGwaithChwarae:RhoiEgwyddorionarWaith (P3)

Parhau i gefnogi SkillsActive â’i waith yng Nghymru a darparu •cynrychiolaeth ar lefel y DU.

Cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru ar ofynion y Mesur Plant a •Theuluoedd (Cymru) 2010 sy’n ymwneud â chwarae plant yng nghyd-destun datblygu’r gweithlu ar draws y sectorau.

Parhau â gwaith polisi er mwyn sicrhau bod Mentrau/Mesurau eraill •y Llywodraeth, sy’n effeithio ar fynediad i fannau i chwarae (megis y Bil Trafnidiaeth, Diogelwch Cymunedol, Cynlluniau Gweithredu Gweithgarwch Corfforol) yn ymgorffori dealltwriaeth o hawliau plant i chwarae.

Parhau i weithio â’r HSE, trwy’r Play Safety Forum, er mwyn lleihau •canlyniadau cam-ddefnyddio Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974

Parhau i hyrwyddo • Managing Risk in Play Provision: an Implementation Guide.

Bydd Chwarae Cymru wastad yn gweithio i hyrwyddo chwarae plant ar bob lefel, yn gweithredu fel eiriolwr dros blant a’u anghenion chwarae ac yn sicrhau y ceir ffocws cenedlaetholstrategolarchwaraeardrawsffiniau.

Page 17: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

Michelle Craig - Cynorthwywraig Swyddfa

Gill Evans - Rheolwraig Cyfathrebiadau

Mike Greenaway - Cyfarwyddwr

Jacky Jenkins - Rheolwraig Cyllid

Marianne Mannello - Cyfarwyddwraig Gynorthwyol

Martin King-Sheard - Swyddog Prosiect

Tillie Mobbs - Cyfarwyddwraig Gynorthwyol

Kathy Muse - Rheolwraig Swyddfa

Sarah Southern - Swyddog Prosiect

Richard Trew - Swyddog Datblygu Cymwysterau

Maria Worley - cydlynydd cymwysterau

Angharad Wyn Jones - Swyddog Cyfathrebiadau

Strwythur trefniadol Caiff yr elusen ei gweinyddu gan Y Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mae’r Cyfarwyddwr yn atebol i’r Bwrdd Ymddiriedolwyr am reoli’r mudiad o ddydd i ddydd.

AelodaethMae Chwarae Cymru’n fudiad aelodaeth. Mae aelodaeth yn agored i sefydliadau ac unigolion o sectorau gwirfoddol, statudol ac annibynnol.

Ytâlaelodaethargyfer2012yw:Unigol:£10Sefydliadau–unaelodllawnamserostaffneulai:£25Rhyngwladol:£25Sefydliadau–mwynagunaelodllawnamserostaff:£50Masnachol/preifat:£75AwdurdodLleol:£100

Igofrestruiddodynaelod,ymwelwchâ:www.chwaraecymru.org.uk/cym/aelodaeth

Tîm Chwarae Cymru

17

Page 18: Adroddiad Blynyddol Chwarae Cymru

Chwarae Cymru

Tŷ BaltigSgwâr Mount StuartCaerdyddCF10 5FH

Rhif ffôn: (029) 2048 6050Ebost: [email protected]

Cysylltwch â ni ...

www.chwaraecymru.org.uk

Elusen cofrestredig, rhif. 1068926. Cwmni cyfyngedig drwy warant cofrestrwyd yng Nghymru, rhif. 3507258