18
ADRODDIAD GWERTHUSO TAFWYL 2017

ADRODDIAD GWERTHUSO TAFWYL 2017 · 2017. 7. 26. · 1.3 Presenoldeb yn yr ŵyl Mynychodd dros 38,000 o bobl Tafwyl 2017 (Gŵyl 9 ddiwrnod o hyd), o’i gymharu â’r 36,500 o bobl

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • ADRODDIAD GWERTHUSO TAFWYL 2017

  • CYNNWYS

    1. Cyflwyniad 1.1 Hanesyrŵyl 1.2 Nodau’rŵyl 1.3 Presenoldebynyrŵyl 1.3.1 Partneriaid 1.3.2 Noddwyr 1.4 Tafwyl 2017 1.5 Marchnata 1.5.1 Cyfryngau Cymdeithasol a’r wefan 1.5.2 Cyfryngau

    2. Y Gwerthusiad 2.1 Nodau’r gwerthusiad 2.2 Methodoleg 2.3 Canlyniadau 2.3.1 Demograffeg 2.3.2 Lleoliadau’rŵyl 2.3.3 Graddio’rŵyl 2.3.4 Effaith economaidd 2.3.4.1 Gwariant mynychwyr 2.3.4.2 Stondinwyr 2.4 Datblygu Tafwyl 2.5 Lleoliad Tafwyl 2018

    3. Crynodeb o’r ffordd ymlaen

    2

  • 1. CYFLWYNIAD

    1.1Hanesyrŵyl

    Tafwyl yw’r ŵyl flynyddol a sefydlwyd gan MenterCaerdydd yn 2006 i ddathlu’r defnydd o’r Gymraeg yngNghaerdydd.Yn2012symudoddyrŵylo’rMochynDu i Gastell Caerdydd, a ddaeth yn rhan o becyn GŵylCaerdyddyCyngor.MaecynulleidfaTafwylwedityfu yn aruthrol dros y blynyddoedd o 1,500 o bobl yn y Mochyn Du i 36,500 yn 2016. Yn sgil UEFA yn defnyddio Castell Caerdydd am gyfnod hir dros Cynghrair y Pencampwyr nid oedd modd cynnal Tafwyl 2017 yng Nghastell Caerdydd ac felly dewiswyd Caeau Llandafyngartrefdros-droi’rŵyl.Yn2017yprifnod felly oedd sicrhau bod cynulleidfa bresennol yr ŵyl,achynulleidfanewyddyncaeleudenuiGaeauLlandaf, gan roi pwyslais ychwanegol ar farchnata ar draws y ddinas, ynghyd a chynnig amserlen gynhwysfawr ddeniadol.

    1.2Nodau’rŵyl

    Nodau’rŵyl,felynodirganytrefnwyrydy:

    1. Codi proffil y Gymraeg yng Nghaerdydd trwy roi cyfle i blant, pobl ifanc ac oedolion flasu ychydig o’r iaith Gymraeg yn ein prif ddinas.

    2. Cyflwyno syniadau a materion Cymraeg mewn amgylchedd hwyliog a phleserus.

    3. Creu cyfleoedd i’r cyhoedd gael hyder yn y Gymraeg a chael mynediad at yr iaith.

    4. Targedu gwahanol gynulleidfaoedd ar wahân, a’r gweithgareddau yn hygyrch i bob grŵp. Dylaioedolion yn arbennig weld yr ŵyl yn ddigonsoffistigedig iddyn nhw, tra’n hwyl i blant hefyd.

    5. Cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau i blant a phobl ifanc Cymraeg a chynyddu eu hymwybyddiaeth a’u gwerth o’r iaith.

    6. Cryfhau safle’r Gymraeg yn y gymuned.

    7. Cynyddu a gwella gwasanaethau i ddinasyddion Cymraeg.

    8. Caeleihystyriedynŵyloansawdduchel.

    9. Sefydlu proffil cenedlaethol.

    3

  • 1.3Presenoldebynyrŵyl

    Mynychodddros38,000oboblTafwyl2017(Gŵyl9ddiwrnodohyd),o’igymharuâ’r36,500 o bobl a fynychodd yn 2016. Mynychodd 19,000 o bobl Ffair Tafwyl ar y dydd Sadwrn a 17,500 ar y dydd Sul. Daeth dros 1,500 ychwanegol i 35 o ddigwyddiadau ffrinj Tafwyl gan ddod a niferoedd Tafwyl 2017 i dros 38,000

    1.3.1 Presenoldeb Partneriaid

    Mae Tafwyl yn bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac mae’n darparu platfform i’r Gymraeg ym mhrifddinas Cymru.

    Rydym yn ymfalchïo ein bod ni fel corff wedi cael y syniad hwn ac wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth gyda’r holl gyrff sy’n rhannu’r un weledigaeth. Mae’r cyrff a fynychoddTafwylyncynnwys:

    Yn ogystal a’r uchod mae 21 o ysgolion, 8 o Gylchoedd Meithrin a 2 glwb drama cymunedol yn bartneriaid.

    Roedd ymateb positif iawn gan y partneriaid, gyda phawb a holwyd yn datgan eu bod am gymryd rhan flwyddyn nesaf.

    “Roedd y trefnu yn gwbl broffesiynol a heb ffws. Bob tro’n barod i helpu ac ateb cwestiynau. Roedd y staff diogelwch yn groesawgar a’r tim

    digwyddiad yn mynd allan o’u ffordd i helpu wrth osod fyny a gosod i lawr. Diolch am bob cydweithrediad, rydym yn edrych ymlaen at gael cyd-weithio

    flwyddyn nesaf.” - Llenyddiaeth Cymru

    4

  • 1.3.2 Noddwyr

    Llwyddodd Tafwyl i ddenu £29,100 o nawdd eleni, 13.5% yn llai o’i gymharu â £33,650 y llynedd. Roedd nifer o’r noddwyr yn poeni am y lleoliad newydd a ddim mor awyddus i noddi gan boeni byddai’r lleoliad ddim yn denu gymaint o gynulleidfa a phroffil. Roedd yn rhaid dod i gytundeb a derbyn llai o nawdd gan ambell gwmni. Er hynny, y newyddion positif oedd arwyddo cytundeb tair blynedd newydd gyda Prifysgol Caerdydd am nawdd o £30,000 ar gyfer Tafwyl 2017, 2018 a 2019.Dymarestrlawno’rnoddwyr:

    Yn dilyn llwyddiant Tafwyl 2017, mae sawl cwmni wedi bod mewn cysylltiad yn barod gyda diddordeb noddi yn 2018. Mae cyfarfodydd wedi eu trefnu gyda dau gwmni sydd â diddordeb pendant mewn noddi. Yn ogystal â hyn, mae Equinox Communications wedi cadarnhau pecyn nawdd ar gyfer Tafwyl 2018.

    “Fel noddwr mi oedd hi’n bleser gweld gymaint o bobl, yn eu degau o filoedd yn mwynhau’r Ffair! Roedd y trefniadau ar gyfer y digwyddiad yn ardderchog, o drefniadau sefydlu a thynnu lawr y stondin ar ddydd Gwener a dydd Llun, i’r penwythnos, roedd popeth mor hawdd! Mae ‘na rhywbeth i bawb yn y Ffair ac mi oedd hi’n wych gweld gymaint o bobl o bob oed, boed yn Gymry Cymraeg

    neu’n Ddi-Gymraeg yn mwynhau eu hunain dros y penwythnos. Mi fydd Equinox yn ôl yn 2018!” - Equinox Communications

    5

  • 1.4 Tafwyl 2017

    Rhaglen Tafwyl 2017 oedd yr orau eto gyda...

    • 40 o fandiau byw • 35 o ddigwyddiadau ffrinj • 329 o ddigwyddiadau unigol • 120 o wirfoddolwyr • 68 o bartneriaid • 16 o noddwyr

    RoeddniferoddatblygiadaunewyddiŵylTafwyleleni.Uno’ruchafbwyntiauoedddatblygiadau Yurt T - sef ardal ymlacio ac yurt llawn gweithgareddau i bobl ifanc. Rhoddwyd ymdrech fawr i ddatblygu’r arlwy yma ac i ddenu cynulleidfa yn euharddegaui’rŵyl.

    Gyda chefnogaeth Arts & Business a Chronfa’r Loteri Fawr trefnwyd gweithdai mewn 5 ysgol uwchradd ar gyfer disgyblion blwyddyn 9 -13 (Whitcurch High, Fitzalan, Glantaf,PlasmawraBroEdern)gyda’rcerddorMeiGwynedda’rperfformwraigTaraBethan. Yn dilyn y gweithdai roedd cyfle i bob un o’r bandiau newydd berfformio yn Tafwyl a hefyd cyfle i fynd i stiwdio i recordio eu cân newydd. Roedd yn brosiect hynod lwyddiannus oedd wedi denu criw o bobl ifanc i Tafwyl bydda byth wedi ystyried dod o’r blaen.

    “What an ideal opportunity for pupils to improve their musicianship and incidental Welsh hand in hand! It was lovely to see these pupils thrive in such a wonderful way at Tafwyl. If ever there is an example of the once

    exclusive Welsh language traditions reaching out to our bilingual learners, this is it. Please come back and reach more of our pupils next year as

    Fitzalan pupils love to embrace the ‘old language’.” Rachael Morgan-Jones – Fitzalan High

    Datblygiadau eraill oedd y prynhawn gwerin mewn cydweithrediad â Trac a Chwpwrdd Nansi, a’r Rêf Teulu gyda Big Fish Little Fish.

    6

  • 1.5 Marchnata

    Roedd rhaid rhoi ymdrech fawr i farchnata’rŵylelenigansicrhaudenu cynulleidfa arferol Tafwyl a chynulleidfa newydd o’r ardal i fwynhau yng Nghaeau Llandaf. Yn ychwanegol i’r marchnata arferol trefnwyd gyda Jack Arts bod posteri Tafwyl yn cael eu plastro o amgylch y ddinas am gyfnod o 6 wythnos. Roedd 100 o bosteri mawr ar ‘poster posts’ a 200 o bosteri A3 o amgylch y ddinas. Pythefnos cyn yr ŵyltrefnwyd bod 24 o fflagiau mawr yn mynd fyny ar Heol y Gadeirlan - roedd y rhain yn sicr yn denu sylw a chafwyd cryn ganmoliaeth i’r fflagiau yma. Pum diwrnod cyn Tafwyl aeth arwyddion AA i fyny o amgylch y ddinas a thu hwnt yn arwain pobl i feysydd parcio canol y ddinas, a hefyd arwyddion yn arwain pobl ar droed i Tafwyl o’r orsaf drên a chanol y ddinas.

    Gofynnwyd i’r rhai a holwyd sut yr oedden nhw wedi clywed am yr ŵyl,acetoeleniFacebookyw’rffordd fwyaf cyffredin o glywed am yrŵyl–gyda38%o’rraiaholwydwedi cael gwybodaeth am Tafwyl arno. Mae pob dull marchnata arall yn weddol gyfartal, gyda’r wefan, y wasg a chyfryngau a Twitter yn boblogaidd. Roedd y dulliau newydd o farchnata hefyd yn amlwg wedi gweithio gan i 14% o’r rhai a holwyd dweud eu bod wedi clywed am Tafwyl wrth weld y fflagiau ar Heol y Gadeirlan a 13% wedi gweld y posteri ar draws y ddinas.

    7

  • 1.5.1 Cyfryngau Cymdeithasol a’r wefan

    YnymisoeddynarwainatTafwylacynystodGŵylTafwyl,o’r1afoFaii’r3yddoOrffennafroedd28,094ymweliadiwefanTafwyl(www.tafwyl.cymru)i’wgymharuâ15,830 dros yr un cyfnod yn 2016. Roedd 19,854 ymweliad unigryw a 97,339 ymweliad i dudalennau gwahanol ar y wefan. Roedd 69.3% o’r rhain yn ymwelwyr newydd i’r wefan, gyda 30.7% yn ymwelwyr yn dychwelyd.

    Roedd Twitter Tafwyl yn brysurach nag erioed yn ystod y cyfnod hefyd. Dros y mis roedd:

    • 396k Tweet Impressions i gymharu â 169k dros yr un cyfnod yn 2016. (Fyny 536.6% o’rmisblaenorol)

    • 34.6k Ymweliad i gyfrif Twitter Tafwyl i gymharu â 17.9k yn 2016 (Fyny 1,169% o’rmisblaenorol)

    • 1,718 yn son am @tafwyl • 511 o ddilynwyr newydd ym Mehefin

    Dros y flwyddyn yn arwain at Tafwyl, cynyddodd y nifer o ddilynwyr Tafwyl o 4,765 oddilynwyri5,779(cynnyddo21%).

    Roedd nifer dilynwyr Facebook Tafwyl wedi cyrraedd 4,796 erbyn diwedd Tafwyl, i gymharuâ3,587yn2016(cynnyddo34%).

    Penderfynwyd peidio datblygu ap Tafwyl 2017 ac i wario’r gyllideb i ddatblygu’r wefan i’w wneud yn hawdd i’w ddefnyddio ar ffôn. Roedd 59% o ymwelwyr i’r wefan yn defnyddio ffôn neu dabled felly roedd yn ddatblygiad doeth.

    8

  • 1.5.2 Cyfryngau

    Cafoddyrŵylgrynsylwynycyfryngauyncynnwys:

    • 14 eitem ar y teledu cenedlaethol yn cynnwys ITV News, Heno, Made in Cardiff, Prynhawn Da, a Newyddion 9.

    • Daeth criw ffilmio Channel 4 i Tafwyl i ffilmio rhaglen ‘A Year to Fall in Love’ bydd yn cael ei ddarlledu yn y flwyddyn newydd.

    • Darlledwyd uchafbwyntiau Tafwyl ar Made in Cardiff, wnaeth apelio tuag at gynulleidfa Ddi-Gymraeg y ddinas.

    • Darllediad byw o Ffair Tafwyl ar BBC Radio Cymru trwy brynhawn Sadwrn.• 6eitemradioynhyrwyddo’rŵylarBBCRadioCymru,RadioWalesaRadioCardiff.• Dros 12 o eitemau yn y wasg genedlaethol a rhanbarthol a’r wasg leol gan

    gynnwys Buzz Magazine, Cardiff Life, Golwg, Y Cymro, Selar a’r Dinesydd.• Eitemau ar Wales Online, gan gynnwys eitem hynod boblogaidd; ‘Everything you

    need to know about Tafwyl’. • Dwy dudalen lawr yn y Western Mail.• Eitemau ar BBC Cymru Fyw and Golwg 360.• Eitem boblogaidd iawn ar wefan Visit Wales ’12 things we love about Tafwyl’.

    Amytrocyntafeleniroeddcwpwloflogwyrpoblogaiddwediblogioamyrŵylaroedd yn hynod boblogaidd. Roedd un blog ar Visit Cardiff am brofiadau dysgwraig yn Tafwyl ac un blog gan Cardiff Mummy Says yn sôn am ddigwyddiadau i blant yn Tafwyl.

    “Such a great event - thank you to all the organisers. We went as a family on the Saturday and my 16 year old then also spent all the next day there. It was like having a mini Welsh Glastonbury in our own city - a huge treat.”

    9

  • 2. Y GWERTHUSIAD

    2.1 Nodau’r Gwerthusiad

    Nodygwerthusiadydycasglugwybodaethamyragweddaucanlynolo’rŵyl:

    1. Wnaethyrŵylgwrddâ’ihamcanion?

    2. Bethoeddargraffiadaumynychwyro’rŵyl?

    3. Bethydydemograffegcynulleidfa’rŵyl?

    4. Bethoeddeffaithyrŵylarycyfranogwyr?

    5. Bethoeddeffaitheconomaiddyrŵyl?

    2.2 Methodoleg

    Anfonwyd holiadur gwerthuso i’r cyhoedd drwy ein gwefannau cymdeithasol, Facebook a Twitter, a thrwy ein rhwydwaith e-chlysur sy’n cael ei anfon at 5,500 o bobl. Defnyddiwyd y rhaglen Survey Monkey ar gyfer creu a dadansoddi’r holiadur. Yn ogystal,anfonwydholiadurathollstondinwyr,noddwyraphartneriaidyrŵyl,ermwyncasglueubarna’usylwadaunhwo’rŵyl.

    “Llongyfarchiadau mawr i’r tîm am drefnu achlysur mor arbennig. Roedd yn fendigedig gweld cymaint o bobl ifanc yn eu harddegau ar y maes yn cymdeithasu yn y Gymraeg. Mae’n gyfle gwych iddynt weld bod y Gymraeg yn iaith fyw y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth yn enwedig i’r rhai sydd yn dod o deuluoedd Di-Gymraeg.”

    10

  • 2.3 Canlyniadau

    Cynhaliwyd418ogyfweliadaugydamynychwyryrŵyl.Aseswyddemograffegymynychwyryn arsylwadol.

    2.3.1 Demograffeg y Gynulleidfa

    Rhaniad rhyw sampl y tîm prif fynedfa oedd 52% benywod, 48% gwrywod. Yn ôl yr holiadur, roedd 8% o dan 25, 39% rhwng 25-40, 46% rhwng 40-60 a 7% dros 60. Yn arsylwadol, roedd 1/3 o’r mynychwyr o dan 18 (gan gofio nad yw’r plant yn cymrydrhanynygwerthusiadar-lein),acroeddyrhanfwyafofynychwyryrŵylynwyn(88%).

    Roedd nifer o bobl wedi teithio’n bell i fynychu’r ŵyl. Roedd 17% o’r rai aholwyd wedi teithio o du allan i Gaerdydd sydd yn dangos bod Tafwyl yn apelio at gynulleidfa ar draws Cymru.

    Mae canlyniadau’r gwerthusiad yn dangos bod Tafwyl yn apelio nid yn unig i siaradwyr Cymraeg, ond y di-Gymraeg hefyd. 78% o fynychwyr oedd yn siarad Cymraeg.O’rgynulleidfanadoeddynsiaradCymraegdywed97%bodyrŵylyngroesawgaribobl Ddi-Gymraeg.

    2.3.2Lleoliadau’rŵyl

    Y newid mawr eleni oedd symud lleoliad Tafwyl o Gastell Caerdydd i Gaeau Llandaf. Roedd hyn nid yn unig yn llawer o waith ychwanegol ond hefyd yn bryder mawr i ni gan fod y castell yn leoliad mor ganolog. Roedd y cynnydd yn y niferoedd yn dangos nad oedd angen poeni a bod mwy o bobl nag erioed wedi dod i fwynhau Tafwyl. Daeth ynamlwgiawnhefydbodpoblynarosamfwyoamserynyrŵylyngNghaeauLlandaf.Yn y Castell roedd yna lot o fynd a dod a pobl yn piciad mewn oddi ar y stryd ond ddim yn aros. 5,000 yw’r mwyaf oedd ar y maes gyda’u gilydd yn y castell…ond yng Ngaheau Llandaf dros yr awr prysuraf roedd dros 8,000 ar y maes ar yr un pryd.

    Graddiwydlleoliadyrŵyl,CaeauLlandafynwychgan69%a’nddagan26%.Dimond3% oedd yn graddio’r lleoliad yn weddol a dim ond 2% yn wael.

    Am yr wythnos yn arwain i fyny at y Ffair, cynhaliwyd 35 o ddigwyddiadau amrywiol ar draws y ddinas mewn gwahanol leoliadau.

    Roeddniferoleoliadaunewyddblwyddynymagangynnwys:

    • Little Man Coffee • Yr Hen Lyfrgell, Sblot • Ffandangos • Ardal Llandaf • Ardal Pontcanna

    Roedd y lleoliadau i gyd wedi gweithio’n dda iawn ac mae’r lleoliadau yn awyddus i Fenter Caerdydd gynnal digwyddiadau yno eto. Roedd teithiau cerdded o amgylch ardaloedd Llandaf a Pontcanna yn hynod boblogaidd ac mae galw i’r Fenter drefnu teithiau ar hyd y flwyddyn nid yn unig dros wythnos Tafwyl.

    11

  • 2.3.3Graddio’rŵyl

    Roeddymatebwychi’rŵylganfynychwyrarhydeintudalennaucymdeithasolacmewne-byst personol i’r trefnwyr.

    Gofynnwydi’rrhaiaholwydiraddiogwahanolfeysyddo’rŵyl.Dangosircrynodebo’r ymatebion yn y siart isod.

    Lleoliad / Location

    Staff a Stiwardiaid / Stewards

    Bwyd a Diod / Food and Drink

    Adloniant / Entertainment

    Cerddoriaeth Byw / Live Music

    Stondinau / Stalls

    Argraff Gyffredinol / Overall Impression

    0 100 200 300 400

    Roedd y gerddoriaeth byw yn boblogaidd iawn gyda 96% yn graddio’r gerddoriaeth byw yn ‘wych’ neu ‘da’.

    Roedd y stondinau hefyd yn boblogaidd gyda 92% yn graddio’r stondinau yn ‘wych’ neu ‘da’.

    RoeddArgraffGyffredinolymynychwyro’rŵylynhynodbositifgyda93%yndweudei fod yn wych neu’n dda. Dim ond 1.2% oedd yn ei raddio yn wael.

    MaeArdalBwydaDiodTafwylwedidodynrhanboblogaiddiawno’rŵyl.Yn2016graddiodd 93.98% o fynychwyr Tafwyl y Bwyd a Diod yn ‘wych’ neu ‘da’, ond yn anffodus yn 2017 mae’r canran wedi syrthio i 65%. Problem amlwg iawn oedd y ciwiau hir i’r bariau a stondinau bwyd. Roedd y nifer o bobl oedd yn aros ar safle Tafwyl am gyfnodau hirach yn fwy nag erioed ac yn anffodus doedd dim digon o fariau a stondinau bwyd i ymdopi gyda hyn. Yn ychwanegol i hyn gan fod staff diogelwch yn

    12

  • archwilio bagiau yn fwy trylwyr oherwydd lefel diogelwch presennol y wlad roedd llai o lawer o bobl yn gallu dod ag alcohol i mewn gyda nhw - a chafwyd effaith enfawr ar giwiau’r bar. Er hyn, erbyn y dydd Sul roedd llawer mwy o staff ar y 4 bar a mwy o staff ar y stondinau bwyd. Cafwyd canmoliaeth am ddatrys y broblem ciwio erbyn yr ail ddiwrnod ac roedd profiad yr ymwelwyr ar y Sul yn llawer mwy positif. Bydd angen bar arall yn 2018 a 2 stondin bwyd ychwanegol.

    BethydychchiwedieifwynhauorauamTafwyl?“Awyrgylch y dydd Sul ar ôl i giwiau’r dydd Sadwrn gael eu datrys ryw ffordd!”

    Gofynnwyd i’r gynulleidfa ‘Ydych chi’n meddwl bod Tafwyl yn cael effaith bositif aryriaithGymraeg?’-atebwyd99%‘Ydw’.

    Dywedodd98%ybyddennhw’ndebygoliddodi’rŵyletoflwyddynnesaf.

    13

  • Gofynnir‘BethydychchiwedieifwynhauorauamTafwyl?’

    Agweddaumwyafpoblogaiddyrŵyloeddygerddoriaethbyw,ylleoliad,ycyfleigymdeithasu drwy’r Gymraeg a chwrdd â ffrindiau, a’r awyrgylch croesawgar i bawb nid yn unig siaradwyr Cymraeg.

    “Awyrgylch fywiog, groesawgar. Amrywiaeth o adloniant.”

    “The friendly, inclusive atmosphere and been able to use the very little Welsh we know.”

    “Brafgweldpoblnewyddyndarganfodyrŵyl.Abrafgweldsutmae’rŵylwedidatblygu. Ac mae’r cyfan am ddim! Anhygoel.”

    “Bod cymaint o bobl o bob oed a chefndir yn gallu dod at ei gilydd i fwynhau cerddoriaeth, sgyrsiau a chymdeithasu’n hollol naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg.”

    “Gweld y cynnydd aruthrol mewn diddordeb yng ngweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r llu o deuluoedd ifanc oedd yn mynychu ac yn mwynhau pob elfen o ddiwylliant cyfoes Cymraeg yn dyst i’r tyfiant gwyrthiol sy wedi digwydd trwy’r Ddinas, Yn sicr hyn yw dyfodol yr iaith!”

    2.3.4 Effaith Economaidd

    2.3.4.1 Gwariant Mynychwyr

    Er mwyn gwerthuso gwariant mynychwyr Tafwyl, gofynnwyd yn yr holiadur i fynychwyr nodifaintgwarionnhwmewngwahanolfeysydd.Dyma’rcanlyniadau:

    Felly,drwyddadansoddi’rcanlyniadau,adrwyystyriedbod1/3ofynychwyryrŵylyn blant (felly lluosi’r cyfartaledd gyda 2/3 o gynulleidfa penwythnos Tafwyl = 24,333),gallwnweldbodTafwylyndodagoddeutu£1,528,112.40owertheconomaiddi’r brifddinas.

    Mae’r ffigwr yma 4.5% yn fwy na gwerth economaidd Tafwyl 2016, sef £1,462,656.60 Yn ogystal â’r ffigyrau uchod sydd wedi dod o’r holiadur, derbyniwyd y ffigyrau yma gan gwmni Cash on the Move oedd yn darparu ATMs yn Tafwyl…

    Maes

    Bwyd a Diod / Food and DrinkStondinau / StallsTrafnidiaethi’rŵyl/TransporttoandfromthefestivalLlety / AccomodationTafarndai a Bwytai / Bars and RestaurantsCyfanswm gwariant y pen

    Cyfartaledd

    £27.80£14.53£4.54£1.47£14.46£62.80

    14

  • Cafwyd y peiriant ATM ei ddefnyddio 1,163 o weithiau gan ddosbarthu £52,660 mewn i economi Tafwyl.

    Roedd Tafwyl yn bositif iawn i fusnesau lleol yr ardal hefyd. Nodwyd un caffi lleol eu bod wedi cymryd £5,000 yn ychwanegol dros benwythnos Tafwyl i gymharu a penwythnos arferol.

    Roedd un bar lleol wedi cymryd £11,000 yn fwy na phenwythnos arferol dros benwythnos Tafwyl. Eu diwrnod prysuraf ond ail dros y 10 mlynedd diwethaf - Cymru v Lloegr oedd y prysuraf!

    2.3.4.2 Stondinwyr / Arlwywyr

    Eleni roedd 50 o stondinau cynnyrch Cymraeg i’w gymharu a 40 yn 2016 – 40 o stondinau masnachol a 10 o gymdeithasau. Holwyd stondinwyr masnachol Tafwyl mewn holiadurarwahâniweldfaintoariangwnaethpwydarddiwrnodyrŵyl.Cyfartaleddarian y stondinwyr masnachol a holwyd oedd £600, sydd yn amcangyfrif o £24,000 o elw rhwng yr holl stondinwyr masnachol.

    Llwyddodd y bariau a stondinau bwyd i wneud elw o dros £50,000, gyda chanran o’r ffigwr yma yn dod i goffrau Tafwyl. Roedd nifer o’r stondinwyr arlwyo/bariau hefyd wedi gorfod cyflogi nifer o siaradwyr Cymraeg lleol ar gyfer eu stondinau. Cafodd oddeutu150ostafflleoleucyflogiargyferyrŵyl.

    “Very well organised, advertised, designed, branded. Good security team. Fab atmosphere, good quality traders. Perfect trading times. So much for everyone to do, absolutely loved being part of such a great, successful event. We sold thousands of ice cream, thank you so much. These sales are vital to keeping our small, local, Cardiff business going and growing. It also ensures that our employees have plenty of hours to work and our local dairy and fruit suppliers are kept busy. Thank you for putting together a brilliant event and letting us be part of it. It will be one of the best events we do all year, I’m so grateful to you guys for doing it.” Science Cream “THANK YOU for a great event! Of course the weather was with us and made things easier, but Tafwyl would never be as successful without the efforts you guys put in. It was certainly one of the best 2 day events we’ve been to in 8 years and I can not thank you enough for making it that way. It was brilliant, from the layout of the field, to the

    music, the crew on hand or the general atmosphere.” The Welsh Creperie Co.

    15

  • 2.4 Datblygu Tafwyl

    Gofynnwyd yn yr holiadur i bobl ddweud sut hoffant nhw weld Tafwyl yn datblygu. Dymaraio’rargymhellion:

    • Mwy o fariau / stondinau bwyd a llai o giwio • Safle mwy • Mwy o Q&A’s • Mwy o seddi i bobl eistedd lawr • Cysgod rhag y glaw / haul • Mwy o theatr stryd• Comedi • Campio • Mwy o weithgareddau i fabis a plant meithrin• Os yn aros yng Nghaeau Llandaf – bws wennol o ganol y ddinas

    2.5 Lleoliad Tafwyl 2018

    Gofynnir‘BethoeddechynfeddwloGaeauLlandaffellleoliad?’

    “Lleoliad llawer yn fwy groesawgar i bobl na fydde’n mynychu fel arfer. Sawl ffrind nad sy’n siarad Cymraeg wedi bwrw mewn eleni. Proffeil yn uwch oherwydd y lleoliad - mwy o fwrlwm amdano.”

    “The open space that Llandaff Fields offered gave it the feel of a mini festival and was a great all round introduction to fantastic Welsh arts, crafts and produce.”

    “Awyrgylch hwyliog. Teimlo bod awyrgylch mwy agored rhywsut yng Nghaeau Llandaf, braf fyddai gweld Tafwyl yn dychwelyd yno.”

    “Nes i rili fwynhau’r lleoliad eleni - neis i fod tu allan canol y ddinas. Roedd yn teimlo’n relaxed iawn. Hefyd, nes i sylwi lot mwy o bobl di-Gymraeg - ffab!”

    “Lleoliad LOT gwell ym Mhontcanna na’r castell - plîs fedrwch chi aros yna at flwyddyn nesa!”

    “Braf iawn cael yr holl wyrddni o amgylch Tafwyl. Hawdd ei gyrraedd ar y bws a beic. Mwy o botensial i Tafwyl dyfu/ehangu. Mwy agored i bobl syn pasio weld y digwyddiad.Dimcymaintosŵni’wglywedo’rllwyfannau/pebylleraill.”

    Gofynnir“LlehoffechchiweldTafwyl2018?”Atebir62%CaeauLlandaf,25%CastellCaerdydd a 13% wedi nodi ‘Arall’. Yn yr opsiwn ‘Arall’ mae nifer wedi nodi hoffent weld Tafwyl yn symud o amgylch y ddinas gan gynnwys Grangetown, Sblot a’r Rhath.Er y pryderon gwreiddiol mae’n amlwg fod Caeau Llandaf wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn weladwy iawn wrth i’r safle gael ei osod dros yr wythnos gynt, ac roedd nifer yn dweud ei fod yn teimlo’n fwy agored i’r holl gymuned a ddim wedi ei guddio tu ôl i furiau’r castell.

    16

  • Roedd y gofod yng Nghaeau Llandaf yn galluogi cael mwy o stondinau a mwy o le i’r gynulleidfa. Bydde ddim wedi bod yn bosibl cael 8,000 ar y maes ar un adeg yn y Castell ond dyma a fu yng Nghaeau Llandaf. Bydde symud yn ôl i’r castell yn gam yn ôl nawr, gan feddwl bydde’n rhaid cael llai o stondinau a hefyd bydde angen cyfyngu’r nifer o bobl i 5,000.

    Yn anffodus roedd y costau ychwanegol o gynnal Tafwyl ar Gaeau Llandaf yn uchel iawn - tua £50,000 rhwng costau’r trackway, diogelwch, ffens, costau cau’r maes parcio a’r marchnata ychwanegol. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i Gyngor Caerdydd am dalu’r costau ychwanegol eleni. Bydd angen trafodaethau gyda Cyngor Caerydd a chyllidwyr Tafwyl felly cyn gallu dewis le i gynnal Tafwyl 2018.

    3. CRYNODEB A’R FFORDD YMLAEN

    ElenioeddblwyddynfwyafllwyddiannusTafwylgydadros38,000ynmynychu’rŵyl(9diwrnod).

    Erbyn hyn rydym yn denu £180,000 o gyllid i ariannu Tafwyl. Daeth Tafwyl 2017 ag oddeutu £1,528,112.40 o werth economaidd i’r brifddinas.

    Mae98%yndebygoloddodi’rŵyleto’rflwyddynnesa.

    Roedd 99% o’r farn bod Tafwyl yn cael effaith bositif ar yr iaith Gymraeg.

    Er mwyn parhau i gynnal a datblygu Tafwyl, ymateb i argymhellion ein cwsmeriaid, sicrhaueifodynŵylsyddyngynhwysolacsy’napelioi’rgynulleidfaehangach,rhaidystyriedyffactorauislawargyfer2018:

    • Cydweithio gyda Chyngor Caerdydd er mwyn sicrhau lleoliad addas ar gyfer Tafwyl 2018.

    • Cadw’rŵylynfynediaddi-dâlondparhauisicrhauincwmsylweddolermwyncynnalyrŵyl.

    • Creucynnwysnewyddi’rŵylgangadwynamserolacynarloesol.• Cael bar ychwanegol a mwy o stondinau bwyd i leihau’r ciwio. • Mwy o seddi i bobl eistedd, a gwell darpariaeth ar gyfer y glaw / cysgod rhag

    haul.• Datblygu partneriaeth gyda thîm Digwyddiadau’r Llywodraeth a Visit Wales er

    mwyn ehangu brand Tafwyl tu allan i Gaerdydd.• Cydweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau na fydd yn effeithio ar

    naillŵylna’rllalleubodymMaeCaerdyddAwst2018.

    17

  • “I’d just like to say diolch for a fabulous festival this year. It was a wonderful occasion which particularly allowed my children to enjoy and use the Welsh language as a living

    language whilst socialising and taking part in cultural activities and enjoying the music on the stage. I am a Welsh learner & I had a great time too and enjoyed everything there

    was to see and do.”

    18