Upload
dixon
View
48
Download
5
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. Sectorau a Grwpiau. YR AIL RYFEL BYD 1939 -1945. AMDDIFFYN Y GENEDL. Delweddau gyda chaniatâd caredig Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain. Grwpiau a Sectorau. Brwydr Prydain – Yr Arweinwyr. Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
AMDDIFFYN Y GENEDLDelweddau gyda chaniatâd caredig Cymdeithas Hanesyddol Brwydr
Prydain
YR AIL RYFEL BYD
1939 -1945
Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.
Grwpiau a Sectorau
Brwydr Prydain – Yr Arweinwyr
Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.
Darparwyd y map gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain
Roedd Awdurdod Rheoli Awyrennau Ymladd wedi rhannu Prydain yn grwpiau
gwahanol. Roedd gan bob grŵp ei sectorau ei hun
i’w hamddiffyn, yn ogystal â phencadlys oedd yn gyfrifol am y
meysydd awyr yn yr ardal honno.
Byddai Pencadlys y Grŵp yn cyfeirio sgwadronau o awyrennau
ymladd tuag at awyrennau’r gelyn wrth iddyn nhw agosáu at
ffiniau’r ardal roedden nhw’n gyfrifol am ei hamddiffyn.
Caerdydd
Cliciwch ar y seinydd i glywed
sgwrs ddychmygol rhwng peilot a rheolwr grŵp.
Delweddau gyda chaniatâd caredig Cymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain
Llundain
Y map gyda chaniatâd caredig Promethean
Delweddau gyda chaniatâd caredig Promethean a Chymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain.
Yng Nghymru dim ond un maes awyr oedd wedi’i benodi i gyfrannu at
y system amddiffyn awyrennau ymladd yn ystod Brwydr Prydain.
Roedd y maes awyr hwn ym Mhenbre yn ne-orllewin Cymru. Yno, fel
rhan o grŵp 10 roedd sgwadron o awyrennau Spitfire yn cael eu
cadw.
Maes awyr Penbre
Map gyda chaniatâd caredig Promethum
Grŵp 10
Grŵp 12
Grŵp 11
Yn ystod Brwydr Prydain, cafodd Prydain ei rhannu’n bedwar grŵp. Sgwadronau awyrennau ymladd y Llu Awyr Prydeinig (RAF) oedd
amddiffyn y grwpiau hyn.
Delwedd gyda chaniatâd caredig yr Amgueddfa Ryfel Ymerodorol, Llundain (Cyf. HU3093)
Grŵp Rhif 12 – 1 Gorffennaf 1940
Duxford 19
264
Spitfire
Defiant
8
11
Coltishall 66
242
Spitfire
Hurricane
12
10
Wittering 23
229
266
Blenheim
Hurricane
Spitfire
10
14
8
Digby 29
46
611
Blenheim
Hurricane
Spitfire
10
15
3
Kirton-in-Lindsey
222 Spitfire 12
Maes awyr Rhif
sgwadron AwyrennauYn barod ar
gyfer ymladd
Enghraifft o sut cafodd y grwpiau eu trefnu cyn Brwydr Prydain.
Syr Hugh Dowding oedd Cadbennaeth Awdurdod Rheoli Awyrennau Ymladd yn ystod Brwydr Prydain. Roedd yn 58 mlwydd oed pan ddechreuodd y frwydr, ac roedd ei beilotiaid yn cyfeirio’n annwyl ato fel ‘Stuffy’. Fe gefnogodd Dowding ddatblygiad radar a hefyd datblygiad yr awyrennau ymladd newydd a fyddai’n gallu herio awyrennau’r Luftwaffe.
Keith Park oedd y Swyddog Awyr oedd yn rheoli Grŵp 11 yn ystod Brwydr Prydain. Un o Seland Newydd ydoedd, ac roedd yn 48 mlwydd oed pan ddechreuodd y frwydr. Bu Park yn beilot yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ystod Brwydr Prydain. Yn aml byddai’n hedfan i’r meysydd awyr oedd dan ei awdurdod yn ei awyren ymladd Hurricane bersonol. Roedd yn arweinydd poblogaidd ar Grŵp 11 – sef yr ardal oedd yn cael ei hystyried fel yr un bwysicaf ei hamddiffyn.
Roedd Leigh-Mallory, Is-farsial yr Awyrlu, wedi bod yn gyfrifol am Grŵp 12 ers sefydlu Awdurdod Rheoli
Awyrennau Ymladd yn 1936. Doedd e ddim bob amser yn cytuno â Syr Hugh Dowding yn ystod brwydr Prydain ac roedd o’r farn y dylai mwy o sgwadronau awyrennau
ymladd ymuno â’i gilydd i ffurfio ‘Esgyll Mawr’.
Syr Christopher Quintin Brand oedd yn gyfrifol am Grŵp 10.
Richard Saul, Is-farsial yr Awyrlu oedd yn gyfrifol am Grŵp 13.
Roedd Leigh Mallory o’r farn y byddai hyn yn rhoi gwell cyfle i’r peilotiaid dreiddio drwy’r awyrennau ymladd hebrwng Almaenig, er
mwyn ymosod ar yr awyrennau bomio. Ar y llaw arall, mynnai Dowding a Park na ellid peryglu awyrennau ymladd mewn niferoedd
o’r fath. Roedden nhw hefyd yn dadlau y byddai defnyddio polisi ‘Esgyll Mawr’ yn ystod Brwydr Prydain yn golygu na fyddai’n bosib
ymosod ar gynifer o rengoedd awyrennau bomio yr Almaen yn gyffredinol.
Grŵp10
Grŵp11
Grŵp12
Grŵp13
Yn y blychau isod rhowch enw’r Swyddog oedd yn gyfrifol am y Grŵp tua diwedd 1940.
Syr Christopher Quintin Brand
Richard SaulTrafford
Leigh-MalloryKeith Park
Syr Hugh Dowding, Cadbennaeth Awdurdod Rheoli’r Awyrennau Ymladd.